ADRODDIAD GWERTHUSO TAFWYL 2018
CYNNWYS
2
Hanes yr ŵyl
3
Nod Tafwyl
4
Presenoldeb yn yr ŵyl
4
Presenoldeb Partneriaid
4
Noddwyr
5
Marchnata
7
Cyfryngau Cymdeithasol a’r wefan
9
Cyfryngau
11
Y Gwerthusiad
12
Nodau’r gwerthusiad
12
Methodoleg
12
Canlyniadau
13
Graddio’r ŵyl
15
Mynychwyr di-Gymraeg Tafwyl
16
Effaith Economaidd
17
Gwendidau
18
Crynodeb a’r ffordd ymlaen
21
u dyda lfyd e c , h ae iait 6. M 0 r 0 ’ 2 u l yn ig dath nôl chyd did y l d y y o ŵ d d bl Caer d yr doed o bo nter dlwy ynyd e y l 0 M f b 0 e 0 n S y , e rau i 38 yl. elus dros gwob ar, Tafw l yr rol N n o h n w d t g y y d u n c y r is eig ig y iau yn a flyn ym m Cymr r br dydd yfu ’ ’ Gŵyl t t i d i n d e i 7 a y 1 i n ed aerd l 20 wyll Du y yl w au C afwy hyn r Tafw a di T c O a o h f M l d Daet ‘Gŵy yn y llei yn itl edd. cynu e n bobl t y iol l o w r l y ’ l r u f i m h a f fac au a rif land dros gan diad ’r p au L d d a e y d d a w y y h g d g i Ng Caer da d ffen yng aeth ; gy n or i d a r y g o g d nos, d i Cerd edd wyth wrno 018. i 2 m d a h i ro w t s n a r a e n w n l i d Ma - e yaf y dd ddia olaf d. u mw lch d a igwy y s y w d g o d n d m n r e a n yth Cae yd â’r l o Mae’ penw yngh dod tell ynna y s ; c n a d r y h d u a g y e l N erd ŵyl r ŵy yng cael i Ga Mae’ d yr g iad a i d . i e d d d r y m w yd yd n Cy ddig aerd digw dwr raeo ll C a if d e w r t h p iara s c s a r C a i n d el – y iant y’n yfry Cynh bawb wyll bl s di h i o d i d h r p e d u, ng gore Mae yr a dyda yng ’n a ig. ysgw . lfyd y e d s e s r d u h m s g y i n bla ddim ein ych nt C yng diod gos d gw c am llia n a a y a a i w d d i d d d a y a d e’n igwy d rh â bw c ma aith n dd ddia a i ’ y e w r g a g ’ e M i ymra af o io. n dd cynt th G beid Mae’ i a s u i a e l n o’r aeg eu b Cymr fryd gael y h i dus liad awyd dath d n rau. yl y ei o r Tafw a nt llia diwy
L Y W F S TA
HANE
3
NOD
TAFWYL
fanc pobl i blant,
on
oli ac oed
fle i roi cy . y . w . r w t y d ŵyl dyd Nghaer odau’r dinas. g yng Prif n e a r prif d m y n G i e y n l y fi aeg i prof h Gymr 1. Cod r iait ’ o ydd. g i ol new muned. ychyd a holl n y gy flasu f y d i g s. e e l a l Gymr leseru gynu g a ph eig i afle’r o r s i m l y u y C a w h h t f iaith. hedd llian 2. Cry at yr amgylc a diwy d a n h i w t d e i e m a ŵp. myn r i aeg chael bob gr lwyno’ n Cymr 3. Cyf rch i raeg a aterio y m m g y y G a h y u a yl i au yn er yn syniad a’n hw garedd el hyd lwyno hw, tr n gweith edd ga o n r 4. Cyf h y ’ y d a c r n, g id edd i’ r wahâ tigedi cyfleo oedd a soffis u a e f n r d o C i g e i l 5. dd ul du eu ŵyl yn ol gyn chynyd gwahan eld yr w a u d g e g i g e n r a mr rben 6. Ta anc Cy n yn a obl if edolio h o p i a a l t Dy lan au i b garedd hefyd. h t t i n e a w l b o riaeth ith. ddarpa r ’ . u d o’r ia yd ymraeg gwerth 7. Cyn u ’ dion C a d y h s t a e n a yddi i ddi hymwyb ethau wasana g a l l uchel. gwe nsawdd yddu a a n y o C l . y 8 yn ŵ yried i hyst e . l e a aethol 9. C cenedl l i f f o r ydlu p 10. Sef
PRESENOLDEB YN YR WYL Mynychodd dros 40,000 o bobl Tafwyl 2018 (Gŵyl 9 ddiwrnod o hyd), o’i gymharu â’r 38,000 o bobl a fynychodd yn 2017. Mynychodd 21,000 o bobl Ffair Tafwyl ar y dydd Sadwrn a 16,500 ar y dydd Sul. Daeth dros 2,500 ychwanegol i 33 o ddigwyddiadau ffrinj Tafwyl gan ddod â niferoedd Tafwyl 2018 i dros 40,000 am y tro cyntaf.
PRESENOLDEB PARTNERIAID Mae Tafwyl yn bartneriaeth rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ac mae’n darparu platfform i’r Gymraeg ym mhrifddinas Cymru. Rydym yn ymfalchïo ein bod ni fel corff wedi cael y syniad hwn ac wedi ei ddatblygu mewn partneriaeth gyda chyrff lleol a chenedlaethol sy’n rhannu’r un weledigaeth. Mae’r cyrff a fynychodd Tafwyl yn cynnwys:
Roedd ymateb positif iawn gan y partneriaid, gyda phawb a holwyd yn datgan eu bod am gymryd rhan flwyddyn nesaf.
4
NODDWYR Llwyddodd Tafwyl i ddenu £37,100 o nawdd eleni, o’i gymharu â £29,100 y llynedd, cynnydd o 28%. Roedd naw o’r noddwyr yn bartneriaid newydd ar gyfer 2018 ac yn enwau gyda phroffil cenedlaethol mawr: Virgin Money, Wriggle, Brains, Thatchers, Orchard Media, For Cardiff, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Cymraeg Byd Busnes, Effectus HR. Dyma restr lawn o’r noddwyr:
Roedd y bartneriaeth newydd gyda Orchard Media yn un hynod gyffrous. 2018
Partner Cyfryngau
oedd blwyddyn gyntaf partneriaeth tair blynedd gyda’r cwmni cyfryngau o Gaerdydd. Roedd Orchard yn cydweithio i ffilmio’r ŵyl, creu fideos o’r bandiau, creu fideo byw o’r Prif Lwyfan i ddarlledu ar sgrîn fawr, a chael clipiau ffilm a lluniau o’r awyr o’r ŵyl. Byddwn yn datblygu’r berthynas ymhellach ar gyfer Tafwyl 2019.
Gofynnir Beth yw cryfderau Tafwyl i chi fel noddwr?
Gofynnir mewn holiadur gwerthuso i’r noddwyr ‘Ydych chi’n debygol o noddi Tafwyl 2019’
Ydw - 100%
“Mae Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe yn falch iawn o noddi Pabell Lenyddiaeth Tafwyl ac o fod yn rhan o’r ŵyl arbennig hon sy’n amlygu cyfoeth a bywiogrwydd y diwylliant Cymraeg. Rydym yn mwynhau
cydweithio gyda Llenyddiaeth Cymru a Menter Caerdydd i sicrhau llwyfan i holl weithgarwch ein llenorion, beirdd ac ysgolheigion i gynullei dfa o bob oed.”
Mae’n ŵyl yn ein dinas ni ac mae’n gyfle gwych i gefnogi diwylliant Cymreig a’r iaith.” Prifysgol Caerdydd
“Codi proffil y cwmni a chefnogi gŵyl ardderchog yng nghanol y ddinas.” Equinox Communication
“Cyfle gwych i fod yn gysylltiedig gyda gŵyl boblogaidd gydag amcanion sy’n cyd fynd â rhai Clwb Ifor Bach.” 5
RHAGLEN TAFWYL 2018 OEDD YR ORAU ETO GYDA. . . 48 O FANDIAU BYW 33 O DDIGWYDDIADAU FFRINJ 376 O DDIGWYDDIADAU UNIGOL 80 O WIRFODDOLWYR 58 O BARTNERIAID 23 O NODDWYR
6
MARCHNATA Rhoddwyd ymdrech fawr i farchnata’r ŵyl eleni – yng Nghymru a thu hwnt, diolch i gefnogaeth For Cardiff. Yn dilyn trafodaethau gyda Croeso Cymru rhoddwyd ymdrech arbennig eleni i farchnata tu hwnt i’r ffin. Ymysg yr ymdrechion marchnata ar gyfer Tafwyl 2018 oedd: • Ymgyrch Google Ads
• Posteri mawr o amgylch y ddinas am 4 wythnos
• Hysbysebion ar Wales Online
• Billboard mawr ar Churchill Way am bythefnos
• Hysbysebion
ar
Bristol
/
Somerset
/
Birmingham Live • Ymgyrch Facebook a Twitter Media Wales • Billboard digidol ar Stryd y Frenhines • ‘Vinyls’ mewn gorsafoedd bys o amgylch y ddinas
• Poster anferth ar Womanby Street am bythefnos • Hysbysebion yn Golwg • Arwyddion AA • Baneri tu allan i Gastell Caerdydd • Printio rhaglenni Tafwyl a’u dosbarthu trwy Pear Communication
SOMERSET / BIRMINGHAM / BRISTOL LIVE
WOMANBY ST.
7
ISSUU
MEDIA WALES
Rhoddwyd ymdrech fawr i hyrwyddo yn ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg y ddinas eleni hefyd, gan drefnu diwrnod di-gwisg ysgol i ddathlu cyhoeddi line up Tafwyl. Gofynnwyd i’r rhai a holwyd sut yr oedden nhw wedi clywed am yr ŵyl, ac eto eleni
Facebook yw’r
ffordd fwyaf cyffredin o glywed am yr ŵyl – gyda 44% o’r rhai a holwyd wedi cael gwybodaeth am Tafwyl arno. Roedd 23% wedi clywed am Tafwyl trwy Google a’r wefan sydd yn dangos bod hysbysebu ar Google a thalu i hyrwyddo www.tafwyl.cymru wedi gweithio’n dda. 8
CYFRYNGAU CYMDEITHASOL A’R WEFAN TAFWYL.CYMRU
O’r 1af o Fai i’r 3ydd o
Roedd y nifer o ymwelwyr i
Roedd 34% o ymwelwyr
Orffennaf roedd 26,835
fersiwn Saesneg o’r wefan
i’r wefan o Gaerdydd,
ymweliad i wefan Tafwyl
wedi cynyddu’n eithriadol.
18% o Lundain, 7% o
www.tafwyl.cymru, gyda
Am y tri mis yn arwain fyny
Fryste a’r gweddill
18,544 yn ymweliadau
at Tafwyl dim ond 8.5%
o ardaloedd eraill
unigryw. Roedd 79.3% o’r
oedd yn darllen y wefan
o Gymru (e.e.
rhain yn ymwelwyr newydd
yn Gymraeg gyda 91.5% yn
Llanelli, Caerfyrddin,
i’r wefan, gyda 20.7% yn
darllen y wefan yn Saesneg.
Caernarfon...)
ymwelwyr yn dychwelyd.
Roedd 66% o ymwelwyr
Roedd 62% o ymwelwyr i’r
Roedd 73% o
i’r wefan o Gymru, 33%
wefan rhwng 18-34 oed, 15%
ymwelwyr i’r wefan
o Loegr ac 1% o du
rhwng 35-44, 12% rhwng 45-
yn defnyddio ffôn
allan i’r DU.
54 a 11% dros 55.
neu dabled.
9
TWITTER Roedd Twitter Tafwyl yn brysurach nag erioed yn ystod y cyfnod hefyd. Dros y mis roedd:
Dros y flwyddyn yn arwain at Tafwyl, cynyddodd y nifer o ddilynwyr Tafwyl o 5,779 o ddilynwyr i 6,793, cynnydd o 17.5%
FACEBOOK Facebook Tafwyl oedd yr arf marchnata fwyaf llwyddiannus eto eleni. Roedd bob un o negeseuon Facebook Tafwyl yn cyrraedd dros 10,000 o bobl yn organig heb orfod talu. Roedd nifer dilynwyr Facebook Tafwyl wedi cyrraedd 5,437 erbyn diwedd Tafwyl, i gymharu â 4,796 yn 2017.
10
SNAPCHAT
CYFRYNGAU Cafodd yr ŵyl gryn sylw yn y cyfryngau yn cynnwys: • 14
o
eitemau
yn
y
wasg
genedlaethol
a
rhanbarthol a’r wasg leol gan gynnwys BBC Cymru Fyw, Buzz Magazine, Cardiff Life, Golwg, Y Cymro a’r Selar. • 8 eitem ar y teledu cenedlaethol yn cynnwys BBC News, Heno, Made in Cardiff, Prynhawn Da, a Newyddion 9. • Darllediad byw o Ffair Tafwyl ar BBC Radio Cymru trwy brynhawn Sadwrn. • Nifer o eitemau radio yn hyrwyddo’r ŵyl ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales. • Eitem boblogaidd ar wefan Visit Wales ’12 things we love about Tafwyl’.
11
Y GWERTHUSIAD NODAU’R GWERTHUSIAD Nod y gwerthusiad ydy casglu gwybodaeth am yr agweddau canlynol o’r ŵyl: 1. Wnaeth yr ŵyl gwrdd â’i hamcanion? 2. Beth oedd argraffiadau mynychwyr o’r ŵyl? 3. Beth ydy demograffeg cynulleidfa’r ŵyl? 4. Beth oedd effaith yr ŵyl ar y cyfranogwyr? 5. Beth oedd effaith economaidd yr ŵyl?
METHODOLEG Eleni am y tro cyntaf cyflogwyd tîm gwerthuso ar gyfer Tafwyl. Yn dilyn cyfarfod gydag Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd a Thîm Gwerthuso Gwyliau Prifysgol Caerdydd cyflogwyd dau o fyfyrwyr yr Ysgol Fusnes i werthuso ar y maes. Roedd hyn yn sicrhau ein bod yn casglu adborth gan bobl oedd yn taro ar draws yr ŵyl. Ar ôl Tafwyl anfonwyd holiadur gwerthuso i’r cyhoedd trwy ein rhwydweithiau cymdeithasol, a thrwy ein rhwydwaith e-chlysur sy’n cael ei anfon at 5,500 o bobl. Defnyddiwyd y rhaglen Survey Monkey ar gyfer creu a dadansoddi’r holiadur. Yn ogystal, anfonwyd holiadur at holl stondinwyr, noddwyr a phartneriaid yr ŵyl, er mwyn casglu eu barn a’u sylwadau nhw am yr ŵyl. Derbyniwyd 514 o ymatebion gan fynychwyr yr ŵyl, ynghyd ag ymatebion gan noddwyr, partneriaid a gwirfoddolwyr.
12
CANLYNIADAU Oed
Rhyw
Dros / Over 65 55 - 64
Dynion 47%
45 - 54 35 - 44 25 - 34
Merched 53%
20 - 24 16 - 19 Dan / Under 16
Ydych chi’n byw yng Nghaerdydd?
Ydych chi’n siarad Cymraeg?
Nac Ydw 9%
Nac ydw 26% Yn Dysgu 17%
Ydw 74%
Ydw 74%
O’r gynulleidfa nad oedd yn siarad Cymraeg dywed
Os ydych chi’n byw yng Nghaerdydd ym
94% bod yr ŵyl yn
mha ardal ydych chi’n byw...
groesawgar i bobl ddi-Gymraeg.
05
%
10%
15%
20%
25% 13
Os ydych chi wedi teithio o du allan
Sut gyrhaeddoch chi Tafwyl?
i Gaerdydd o ble ydych chi wedi dod? Car 27% Seiclo / Cycle 6%
Tu allan i’r DU 2%
Tren / Train 12%
Gweddill DU 7%
Bws / Bus 24.5%
Gweddill Cymru 91%
Cerdded / Walk 30.5%
Pa mor bell ydych chi wedi teithio i gyrraedd Tafwyl?
Ai hwn yw’ch tro cyntaf yn Tafwyl?
200 + milltr / 200 + miles 1% 100 - 200 milltir / 100 - 200 miles 6% Na / No 80%
30 - 100 milltir / 30 - 100 miles 6% Ie / Yes 20%
10 - 30 milltir / 10 - 30 miles 12% Llai na 10 milltir / Less than 10 miles 75%
Ydych chi wedi bod i un o
Pryd oeddech chi wedi trefnu dod i Tafwyl?
ddigwyddiadau Wythnos Tafwyl? Mwy na 3 mis o flaen llaw / More than 3 months 36% 1-3 mis o flaen llaw / 1-3 months before 18%
Na / No 81%
Mis o flaen llaw / 1 month before 19%
Do / Yes 19%
Wythnos o flaen llaw / 1 week before 19% Ar y dydd / Decided on the day 8%
14
Gyda phwy ydych chi wedi
Faint o wyliau eraill ydych chi’n
dod i Tafwyl?
mynd iddynt / iddyn nhw yn 2018?
Fy hun / Alone 4.5%
5+ 3%
Partner 11%
3-4 19%
Teulu / Family 49.5%
1-2 51%
Ffrindiau / Friends 35%
0 27%
GRADDIO’R WYL Gofynnwyd i’r rhai a holwyd i raddio gwahanol feysydd o’r ŵyl. Dangosir crynodeb o’r ymatebion yn y siart isod.
Gwybodaeth am yr ŵyl o flaen llaw / Information about Tafwyl before coming Lleoliad Location Staff a Stiwardiaid Stewards Bwyd a Diod Food and Drink Adloniant Entertainment Cerddoriaeth Byw Live Music Stondinau Stalls Awyrgylch Atmosphere Argraff Gyffredinol The whole experience
0% Gwych / Excellent
20%
40%
Da / Good
60%
80%
Gweddol / Fair
100% Gwael / Poor
Gofynnir Beth ydych chi wedi ei fwynhau orau am Tafwyl? “I love Tafwyl. As a Welsh learner I feel more confident using my Welsh and even my non Welsh speaking husband gave it a go and I was so proud of him! We love Welsh music and to have all of the best bands in one place and all for free is so special.”
“Gŵyl wych sy’n denu pobl i Gaerdydd. I fi mae’n rhan o galendr y flwyddyn, a byddai’n edrych mlaen at y penwythnos bob tro. Mae’n gyfle gwych i gymdeithasu, ymlacio a joio, a rhannu a dathlu’r Gymraeg.” “Just to say that this is a really good development within Cardiff. Feel if it was here when I was growing up I would have started to learn the language a lot sooner.”
“It’s great to bring the children to a Welsh speaking event so the language they are learning has both practical application and so they can see it alive and being used rather than just for school.”
“Diolch i chi am greu gŵyl sydd erbyn hyn nid yn unig i bobl Caerdydd ond i Gymru gyfan! Mae’n ŵyl fodern, liwgar, gartrefol sy’n agored i bawb ac yn hollol fyrlymus! Diolch am eich holl waith caled!” 15
MYNYCHWYR DI-GYMRAEG TAFWYL Am y tro cyntaf eleni rhoddwyd ymdrech i werthuso profiad yr ymwelwyr di-Gymraeg i Tafwyl. Dyma gasgliad o’r gwerthusiad.
Tafwyl has made me view the Welsh language more positively Tafwyl has shown me that there is a good range of Welsh things to do in Cardiff I feel encouraged to learn Welsh after visiting Tafwyl Tafwyl has increased my knowledge of Welsh culture Tafwyl is a festival for everyone - no matter what language you speak
0% Strongly Agree
20% Agree
40% Neither
Ydych chi’n meddwl bod Tafwyl yn cael effaith bositif ar yr iaith Gymraeg yng Nghaerdydd?
Na
/ No 1%
Ydw / Yes 99%
16
60% Disagree
80%
100%
Strongly Disagree
Ydych chi’n gweld Tafwyl fel Gŵyl i
A fyddech yn defnyddio Maes
Gaerdydd neu Gŵyl Genedlaethol?
gwersylla yn Tafwyl 2019?
Na / No 85% Byddwn / Yes 15%
EFFAITH ECONOMAIDD Isod ceir grynodeb o ganlyniadau’r Effaith Economaidd gan ddefnyddio’r fethodoleg eventIMPACTS.com
Effaith
Amcangyfrif
Economaidd Tafwyl
o wariant
2018 ar y Brifddinas
yr ymwelwyr
£2,435,873
£871,953
Siopa 28% Teithio 21% Llety 8% Bwyd a Diod 43%
Cafodd oddeutu 320 o staff lleol eu cyflogi ar gyfer yr ŵyl, ar gyfer y stondinau, bariau, criwiau cynhyrchu a’r stiwardiaid. Isod ceir grynodeb o wariant mynychwyr o fewn yr ŵyl ei hun.
Cyfartaledd Bwyd a Diod
£32.85
Stondinau
£19.55
Gweithgareddau
£3.64
Cyfanswm gwariant y pen yn Tafwyl
£56.04
Felly, drwy ddadansoddi’r canlyniadau, a drwy ystyried bod 1/3 o fynychwyr yr ŵyl yn blant (felly lluosi’r cyfartaledd gyda 2/3 o gynulleidfa Tafwyl yng Nghastell Caerdydd), gallwn weld bod oddeutu £1,419,679 o werth economaidd i’r ŵyl o fewn yr ŵyl.
17
GWENDIDAU Wrth reswm, nid oedd popeth wedi gweithio cystal â dymunwn. Dyma ambell beth fydd angen gwerthuso ymhellach a datblygu ar gyfer Tafwyl 2019. Bariau Er i ail far mawr gael ei ychwanegu i safle’r ŵyl yn dilyn problemau 2017 roedd dal yn anodd iawn delio gyda’r galw yn ystod cyfnodau prysuraf yr ŵyl e.e. nos Sadwrn. Roedd dau far bws (yn hytrach nag un), un bar coctel ac un bar prosecco – felly 4 bar ar y safle, ond roedd dal problem ciwio, gyda rhai yn nodi eu bod wedi ciwio am 45 munud i gael diod. Rhan o’r broblem oedd y tywydd – roedd y tywydd crasboeth yn arafu’r broses oeri lager ac felly roedd problemau wrth dynnu peint. Wrth reswm, roedd pawb yn sychedig yn y tywydd poeth hefyd ac roedd galw mawr am ddiod. Bydd yn rhaid asesu’r sefyllfa ar gyfer Tafwyl 2019 a sicrhau bod mwy o fariau, a gwasanaeth cyflymach yn y bariau. Mae trafodaethau yn barod ar y gweill gyda cwmni Stedman Brothers, cyflenwyr y bariau i weld sut allwn ni gyd-wethio i wella’r safon.
Dŵr Yn garedig iawn roedd Brecon Water wedi cyfrannu 8,000 o boteli dŵr i’w roi allan am ddim i ymwelwyr. Trefnwyd hyn funud olaf ar ôl gweld rhagolygon y tywydd poeth. Yn ddelfrydol, byddai darparu tapiau dŵr yn gweithio’n well ond oherwydd diffyg cyllideb ac amser roedd rhaid rhoi poteli plastig allan. Er bod biniau ail-gylchu plastic wrth bob pwynt dŵr am ddim nid oedd yn eco-gyfeillgar. Bydd ymdrech fawr i dorri lawr ar blastic flwyddyn nesaf ac yn sicr mae angen cyd-weithio gyda Dŵr Cymru neu ffeindio nawdd i ariannu tapiau dŵr o amgylch y safle.
Gweithgareddau i blant Roedd ambell un wedi nodi yn y gwerthusiad nad oedd digon o weithgareddau i blant oedran cynradd. Oherwydd diffyg lle yn y castell roedd yr Ardal Chwaraeon yn llai na’r arfer ac yn sicr roedd rhai plant yn gweld colli’r ardal yma a’r gwagle mawr i redeg o gwmpas. Bydd rhaid sicrhau bod mwy o weithgareddau i blant 6-11 oed. Mae ymdrech fawr wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf i ddenu pobl ifanc yn eu harddegau, ond efallai bod angen mynd yn ôl i wreiddiau Tafwyl a sicrhau bod amrywiaeth o weithgareddau penodol i’r plant ysgol sy’n dod i berfformio yn Tafwyl – tra’n parhau i ddenu cynulleidfa o bobl ifanc hefyd.
Toiledau Bydd angen mwy o doiledau ar gyfer Tafwyl 2019. 18
Y ciw mewn i’r ŵyl Roedd rhaid gweithredu system un mewn un allan am dair awr prynhawn Sadwrn. Yn amlwg nid oedd hyn yn ddelfrydol, yn enwedig gyda’r tywydd crasboeth, ond roedd canmoliaeth mawr i’r ffordd cafodd hyn ei stiwardio a’i reoli. Yr hiraf bu’n rhaid aros oedd 15 munud. Roedd stiwardiaid yn cynnig poteli dŵr am ddim, ac roedd fan goffi / bwyd wrth y ciw i bobl ddefnyddio hefyd. Roedd yr adloniant ar Lwyfan y Porth yn help mawr hefyd ac yn diddanu’r dorf - roedd canmoliaeth mawr i’r bandiau ar y llwyfan.
Y lleoliad Un o brif sialensiau Tafwyl 2018 oedd maint Castell Caerdydd. Ydy Tafwyl wedi tyfu’n rhy fawr i Gastell Caerdydd? Mae’n drafodaeth sydd yn parhau ac mae manteision ac anfanteision i’r castell. Mae’r castell yn leoliad hyfryd, eiconig, yng nghanol ein prifddinas - ond mae’r waliau yn cyfyngu’r ŵyl ar adegau, a’n ei gwneud hi’n sialens i barhau i dyfu a datblygu. Mae’n rhaid asesu costau symud Tafwyl o’r castell. Heb furiau’r castell, mae costau yswiriant, trackway, ffensio a diogelwch Tafwyl yn cynyddu’n fawr. Mae nifer wedi galw ar Tafwyl i symud lawr i’r Bae yn dilyn llwyddiant Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, felly bydd angen trafod y Bae fel opsiwn hefyd – er un pwynt sy’n codi droeon yn y gwerthusiad yw bod angen cadw Tafwyl yng nghanol y ddinas lle mae’n hygyrch i bawb ar drafnidiaeth gyhoeddus, a lle mae nifer fawr o ymwelwyr canol y ddinas yn taro ar draws yr ŵyl ar hap. Bydd rhaid pwyso a mesur pob un o’r opsiynau ymhellach gyda Rheolwr Safle’r ŵyl, 2Can Productions, ystyried cyllideb pob lleoliad, a chydweithio’n agos gyda Chyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau lleoliad addas ar gyfer Tafwyl 2019.
Gofynnir yn yr holiadur Lle hoffech chi weld Tafwyl 2019?
Rhowch fanylion pam neu unrhyw syniadau am leoliadau eraill / Please specify why or also add any other location ideas... 25.5% Parc Biwt / Bute Park 11.5% Castell Caerdydd / Cardiff Castle 50% Caeau Llandaf / Llandaff Fields 13%
19
Gofynnir am unrhyw sylwadau am y lleoliad neu unrhyw syniadau am leoliad eraill a dyma ambell beth a nodwyd...
“Cardiff Castle is wonderful and central but have you outgrown it!?” “Meddwl bod Caeau Llandaf yn wych y llynedd - teimlo’n fwy a mwy o le. Ond mae’r castell yn fwy cyfleus felly efallai byddai parc biwt yn gymysgedd o’r ddau.” “Castell yn leoliad arbennig. Canol y ddinas, hawdd cyrraedd, yn adnabyddus, denu pobol ir ddinas.” “Parc Biwt- yn fawr, gyda cysgod, dal yn hawdd i gyrraedd, dal yng nghanol y ddinas.” “Braf ei chael yn ôl yng nghanol y ddinas er mwyn denu ystod ehangach o bobl. Yn gyfleus i’r rhai oedd yn teithio ar drên i’r ddinas.” “Roedd caeau Llandaf yn 2017 yn braf, ond mae cael yr wyl wedi ei hamgáu o fewn waliau’r castell yn rhoi awyrgylch unigryw.” “Mae hyn yn un galed ofnadwy - mae’r castell yn ddelfrydol achos lleoliad i ddal cyhoedd sy’n pasio ac mae yng nghanol y dref...ond oherwydd bod yr ŵyl MOR boblogaidd fi’n teimlo bod y Castell yn mynd bach rhy fach erbyn hyn. Ond dwi wedi clywed lot o adborth negatif am leoliad Caeau Llandaf (a dwi’n cytuno). Efallai’n werth trial Bute? Neu oes modd ehangu ein lleoliad yn y Castell...? E.e. llai o stondinau a mwy o le ar gyfer y dorf?” “Achos fod y castell yn ‘setting’ gwych gyda’r hen gastell yn y canol a’r muriau yn ffiniau naturiol. Hefyd, ac yn bwysig iawn, mae yng nghanol y ddinas a felly yn perchnogi’r dre am ddau ddiwrnod. Mae’r castell yn safle unigryw am wyl fel hon.” “The castle site is fantastic in that it is so central and no doubt attracts casual visitors; the very thing we need to get more learning Welsh. However, it did feel a little restricted on Saturday, particularly with the long queue for bag searches to start with. A bigger site would have to be as central as possible, ensuring that visitors do not have to use their cars.” “Bit torn really, the Castle is a great place to both advertise it is happening, encourages walk up and is very central so visitors to the city will see it and take home with them a better reflection of Welsh culture. However, it is starting to feel a bit cramped in the Castle. Bute Park might be worth looking at but with perhaps a Queen Street/St Mary Street/The Hayes/Castle stage with welsh language performances taking place there or possibly utilising the advertising boards in central Cardiff to show live feeds of the event?” “Bute Park - as much as I liked it being in Cardiff Castle, the main stage area felt cramped at times and kind of spoilt my enjoyment of it. Staging the festival at Bute Park would give a lot more room.”
20
CRYNODEB A’R FFORDD YMLAEN Eleni oedd blwyddyn fwyaf llwyddiannus Tafwyl, diolch i waith diflino tîm o staff profiadol sydd yn barod o hyd i wthio ffiniau a newid agweddau. Mae ystadegau yn yr adroddiad hwn yn profi nifer o ffactorau, ond un peth sydd yn amhosib ei fesur yw’r awyrgylch unigryw mae’r ŵyl yn ei chyfleu – yr ysbryd heintus o hapus sy’n ganolog i’r ŵyl. Erbyn hyn rydym yn denu cyllid o dros £200,000 i ariannu Tafwyl. Cafodd Tafwyl 2018 effaith economaidd o oddeutu £2,435,873 ar Gaerdydd, gan ddod ag oddeutu £1,419,679 o werth economaidd i’r ŵyl ei hun. Mae 99% yn debygol o ddod i’r ŵyl eto’r flwyddyn nesa. Roedd 99% o’r farn bod Tafwyl yn cael effaith bositif ar yr iaith Gymraeg. Er mwyn parhau i gynnal a datblygu Tafwyl, ymateb i argymhellion ein cwsmeriaid, sicrhau ei fod yn ŵyl sydd yn gynhwysol ac sy’n apelio i’r gynulleidfa ehangach, rhaid ystyried y ffactorau islaw ar gyfer y dyfodol:
• Gweithio gyda 2Can Productions, Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru i ddewis lleoliad addas ar gyfer Tafwyl 2019. • Cadw’r ŵyl yn fynediad di-dâl ond parhau i sicrhau incwm sylweddol er mwyn cynnal yr ŵyl. • Parhau gyda’r ymdrech i farchnata Tafwyl tu allan i Gaerdydd a thu allan i Gymru i ddenu cynulleidfa newydd i’r iaith Gymraeg. • Creu cynnwys newydd i’r ŵyl gan gadw yn amserol ac yn arloesol. • Denu partneriaid a noddwyr newydd i gydweithio gyda’r ŵyl.
21
22