Gwerthusiad Tafwyl 2019

Page 1

GWERTHUSIAD TAFWYL 2019


CYNNWYS

2

Ein Stori

3

Nod Tafwyl

4

Partneriaid

5

Niferoedd

5

Noddwyr

6

Rhaglen Tafwyl 2019

6

Uchafbwyntiau

7

Marchnata

8

Digidol

12

Nwyddau

14

Y Gwerthusiad

15

Canlyniadau

16

Graddio’r Ŵyl

18

Y Di-Gymraeg

19

Gwerth Economaidd

20

Y Ffordd Ymlaen

21

Be Nesa?

23


EIN STORI… Gŵyl

flynyddol

i

ddathlu’r

iaith,

Penllanw’r gweithgarwch yw’r digwyddiad

yw

yng Nghastell Caerdydd. Eleni, am y tro

Fe’i sefydlwyd yn 2006 fel

cyntaf, agorwyd drysau’r castell ar y

rhan o waith craidd Menter Caerdydd,

nos Wener i seiniau rhai o artistiaid

elusen

ehangu’r

mwyaf cyfoes Cymru; arbrawf llwyddiannus

defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg yng

a dderbyniodd ymateb cadarnhaol gan ein

Nghaerdydd,

cynulleidfa a’n partneriaid.

celfyddydau Tafwyl.

a

sy’n

diwylliant

hyrwyddo gyda’r

Cymreig

ac

uchelgais

fod

y

Gymraeg yn dod yn rhan ganolog o fywyd yn y brifddinas. Mae

Mae’r

effaith

ar

y

Gymraeg

yn

un

pendant, gyda chyfle i bawb flasu a

cynulleidfa

Tafwyl

wedi

tyfu’n

chlywed

yr

iaith

wrth

iddi

gael

ei

aruthrol dros y blynyddoedd o’r ychydig

defnyddio’n gwbl naturiol mewn awyrgylch

dros fil o bobl yn y Mochyn Du yn 2006,

anffurfiol, hwyliog a chynhwysol; a’r

i’r

Ŵyl yn ddathliad balch a hyderus o’n

37,000

fynychodd

yr

Ŵyl

eleni.

Mae’n ddigwyddiad rhad ac am ddim sy’n agored i bawb - yn siaradwyr Cymraeg neu beidio gydag apêl arbennig i deuluoedd a phobl o bob oed.

diwylliant ar ei orau. Yng

ngeiriau

Gweinidog

y

Eluned

Gymraeg

a

Morgan,

AC,

Chysylltiadau

Rhyngwladol a groesawodd bron i 1,500 a

Daeth Gŵyl 2017 i’r brig yng Ngwobrau

orymdeithiodd i Tafwyl wrth ddathlu 70

Cerddoriaeth Caerdydd gan fachu’r teitl

mlynedd o addysg Gymraeg yng Nghaerdydd:

‘Gŵyl Orau Caerdydd’ ym mis Mawrth 2018. Ym mis Gorffennaf eleni cipiodd Tafwyl a’n

prif

noddwr,

Prifysgol

Caerdydd

mewn cydweithrediad a Choleg Caerdydd a’r Fro y brif wobr yn y categori Celf, Busnes a’r Gymuned yn seremoni Wobrwyo Celfyddydau & Busnes Cymru.

Roedd hyn

yn gydnabyddiaeth i’r cynllun arloesol o greu bandiau newydd roc, pop ac indi mewn ysgolion uwchradd yng Nghaerdydd. Mae

Tafwyl

yn

para

9

diwrnod

gyda

digwyddiadau cymunedol o bob math yn cael

eu

cynnal

ar

draws

y

ddinas.

“MAE DIGWYDDIADAU DIWYLLIANNOL FEL TAFWYL YN HANFODOL I DDENU CYNULLEIDFA NEWYDD AC MAENT YN ALLWEDDOL WRTH DYFU’R GYMRAEG ERBYN 2050.” Eluned Morgan, AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol 3


YL W F A T NOD

c l ifan t, pob n a l b i cyfle

on

oli ac oed

wy roi yw... ydd tr d l r y e Ŵ a h r g g N odau’ . aeg yn Prif n ddinas y Gymr l i f f n prif o i r e . p n i y d newydd mraeg 1. Co hollol ed. ith Gy n d a u d i m e y o r g a ’ f u eid yn y serus. ddathl gynull a phle ymraeg i G g g o r i i ’ e l e r y hw afl Cym o. fhau s rgylch lliant ai fnyddi wn awy 2. Cry a diwy e m h t g i e a’i de p. Dyl a a i r , m g r y e ’ C a o r ob grŵ n n m b y o y w i G i l r f e y y t h at yrc a ma 3. C nediad efyd. yn hyg iadau ael my lant h eddau no syn g b r y a w d i g l d h f e l t y o y ei hw th cyh 4. C a’r gw tra’n yddiae dd i’r hymwyb n nhw, aoedd, yfleoe y f u c d d e d i u u i e d e l d r g l yny edi ynu 5. C c, a ch fistig anol g on sof bl ifan u gwah g o d i h e d p g d r a a n t yl y 6. T blan d yr Ŵ ddau i on wel thgare i e w o oedoli aeth arpari aeg. du’r dd d y n y n Cymr C 7. syddio iaith. a n r i ’ d o d erth hau i a’u gw sanaet l. la gwa l e d uche w g ansawd du a d o y n l y y C Ŵ yn 8. tyried . ei hys l e a aethol C 9. cenedl l i f f o r ydlu p 10. Sef

“Yr awyrgylch a’r wefr o fod ynghanol gymaint o bobl sy’n gwerthfawrogi ac yn mwynhau cerddoriaeth Gymreig a’r dalent aruthrol ar gyfer pob cenhedlaeth sydd gennym yng Nghymru” “Y ffaith ei fod am ddim ac yn gwneud ymdrech i fod yn gynhwysol! Mae amrywiaeth dda o ddigwyddiadau hefyd a cherddoriaeth ddi-fai pob tro.” “Y profiad cyfan. Mae fy mhlant yn cymryd rhan gyda’u hysgol a gallaf wylio cerddoriaeth fyw ac ymarfer siarad Cymraeg. Mae’r awyrgylch bob amser yn gyfeillgar, ac mae’r penwythnos cyfan yn ddathliad hamddenol o bopeth cadarnhaol am iaith a diwylliant Cymru.”

4


NIFEROEDD Daeth 37,000 o bobl i Tafwyl 2019 o’i gymharu â 40,000 yn 2018.

Y prif ffactor am y gostyngiad

eleni oedd y glaw a gafodd effaith ar niferoedd dydd Sul (lawr dros 6,000). Serch hynny denodd arbrawf nos Wener, a drefnwyd mewn cydweithrediad â PYST, yr asiantaeth hyrwyddo a dosbarthu cerddoriaeth Gymraeg, gynulleidfa o bron i 4,500 trwy gatiau’r Castell, gyda’r mwyafrif ohonynt yn oedolion ifanc. Gwelwyd yn agos at 21,000 yn mynychu ar y Sadwrn, gyda bron i 4,000 o’r rheiny ar y safle o fewn hanner awr i’r gatiau agor.

PARTNERIAID Mae Tafwyl yn bartneriaeth gref rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol sy’n ein galluogi drwy grantiau a nawdd ariannol i greu digwyddiad Cymraeg a Chymreig hyderus am ddim ynghanol Prifddinas Cymru. Mae Tafwyl wedi tyfu i fod yn Ŵyl, sydd yn llwyddo i ddenu nawdd o gronfeydd lleol a chenedlaethol. Llwyddodd Tafwyl eleni i ddenu £38,700 o nawdd, sy’n gynnydd o 3.5% ar 2018, gyda phedwar o’r noddwyr, Cronfa Gari, Hodge Foundation, Undeb Rygbi Cymru a Darwin Gray yn bartneriaid newydd. Rydym yn ymfalchïo fod nifer o’n partneriaid eisoes wedi ymrwymo i gefnogi Tafwyl am y 2 flynedd nesaf.

“Roeddem am sicrhau y gallai pobl yng nghanol y ddinas fanteisio ar ddigwyddiad mor wych, yn ogystal â chynnig rheswm arall i bobl ddod i Gaerdydd.” Adrian Field, Cyfarwyddwr Gweithredol, Caerdydd Am Byth

5


Yn ogystal â nawdd ariannol, bu nifer o’n partneriaid yn cynnig cefnogaeth ymarferol wrth gyfrannu syniadau, a chydlynu rhai o’r sesiynau yn ystod Tafwyl. Rydym yn hynod ddiolchgar i’r 40 o gyrff, elusennau, cymdeithasau, ac unigolion fu’n cydweithio gyda ni i sicrhau bod Tafwyl 2019 yn un llwyddiannus.

RHAGLEN TAFWYL 2019 DROS 60 O FANDIAU BYW DROS 60 O BARTNERIAID A NODDWYR 30 O BERFFORMIADAU AR LWYFAN YR YSGOLION 30 O DDIGWYDDIADAU FFRINJ DROS 9 DIWRNOD DROS 130 O WIRFODDOLWYR A STAFF 30 O STONDINWYR A CHREFFTAU 15 O STONDINAU BWYD STRYD 6


RHAI O’R UCHAFBWYNTIAU • 4 llwyfan llawn dop o gerddoriaeth gyda pherfformiadau gan Gwenno, Band Pres Llareggub, Caryl Parry Jones, Mr a DJ Huw Stephens ymhlith yr uchafbwyntiau. • Sesiynau comedi newydd yng nghwmni Hywel Pitts, Cabarela, Carys Eleri a Connie Orff yn Is-Grofft Castell Caerdydd. • Pabell y Dysgwyr; Pabell Lenyddiaeth; Llwyfan Berfformio Ysgolion; Ioga Ymlaciol; Sesiynau Holi ac Ateb ar bynciau yn amrywio o LHDT, i sesiynau gan Academi Hywel Teifi; Ardal Bwrlwm yn cynnig gweithgareddau o bob math i blant o bob oed gan gynnwys crefft a garddio ecogyfeillgar; cyfle i dynnu llun gyda chwaraewyr rygbi rhyngwladol a thlws Pencampwriaeth Chwe Gwlad yn yr Ardal Chwaraeon; Bingo Bandiau; Yurt-T i ieuenctid yr Ŵyl gael ymlacio gyda ffrindiau a gwrando ar fandiau ifanc newydd sbon; heb anghofio’r disgo distaw yn Y Sgubor, gyda Beti George yn troelli’r disgiau.

7


MARCHNATA Diolch i gefnogaeth arbennig Caerdydd Am Byth a thrafodaethau gyda Croeso Cymru cyflwynwyd dulliau newydd o farchnata, hyrwyddo, ymestyn enw da a chodi ymwybyddiaeth brand Tafwyl mewn digwyddiadau eraill, rhai y tu hwnt i Gymru. Yn 2018 cytunwyd ar bartneriaeth gyffrous, tair blynedd gydag Orchard, fel Partner Cyfryngau’r Ŵyl, yn bennaf yn cynnig gwasanaethau ffilmio uchafbwyntiau’r Ŵyl.

Yn 2019, datblygodd y berthynas

ymhellach wrth fanteisio ar arbenigedd Orchard yn y maes cynlluniau cyfathrebu, hysbysebu a chysylltiadau cyhoeddus. Byddwn yn parhau i drafod ymhellach gydag Orchard wrth edrych ar gyfleoedd newydd i ymestyn brand Tafwyl ymhellach, tu hwnt i ffiniau’r Ŵyl. Sefydlwyd dau bwynt gweithredu clir ar gyfer 2019 - y naill i hyrwyddo digwyddiad newydd nos Wener a’r llall i ymestyn cyrhaeddiad y penwythnos cyfan, yng Nghymru a thu hwnt.

Yn seiliedig

ar werthusiad 2018, cynlluniwyd ymgyrch yn targedu: trigolion dinas Caerdydd, ymwelwyr i Gaerdydd dros benwythnos Tafwyl, trigolion dinas Bryste ac unigolion sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth.

DYDD MIWSIG CYMRU / CYNLLUN YSGOLION Bu ymdrech fawr i hyrwyddo o fewn ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg y Brifddinas, ac eleni i gyd-fynd â Dydd Miwsig Cymru gwahoddwyd yr ysgolion i gynnal diwrnod “gwisg eich hunain” i godi ymwybyddiaeth. Roedd hwn yn gyfle euraidd i un ysgol ennill gig egscliwsif gyda Candelas ar ddydd Gwener cyntaf Tafwyl. Roedd yr ymateb gan bennaeth, staff a disgyblion yr ysgol lwyddiannus, Ysgol Glan Ceubal yn amhrisiadwy, gyda’r ysgol wedi bod yn brysur yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg, ac ymarfer eu dawnsio, wrth baratoi at y gig. Ar ddiwrnod y gig gwahoddwyd disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Gynradd Gabalfa, sef ysgol cyfrwng Saesneg sy’n rhannu’r un campws, i ymuno â nhw. Wedi hwyl y gig, fe fynnodd nifer o’r disgyblion bod eu rhieni (di-gymraeg) yn mynd â nhw i weld Candelas yn chwarae eto ar brif lwyfan Tafwyl ar y nos Sadwrn.

8


Dechrau

mis

Mai

llwyddiannus

cynhaliwyd

mewn

gig

cydweithrediad

â

Clwb Ifor Bach yn y Lexington Llundain gyda’r bandiau Gwilym, Ynys a Melin Melyn.

Diwedd

mis

chylchgrawn

Mai Y

berfformiadau

cydweithiwyd

Selar

i

arbennig

guradu gan

gyda 10

rai

o

o’n

artistiaid amlycaf ar Lwyfan y Lanfa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru dros 5 niwrnod

Eisteddfod

Genedlaethol

yr

Urdd ym Mae Caerdydd.

EISTEDDFOD YR URDD CAERDYDD A’R FRO 2019 CANOLFAN MILENIWM CYMRU / WALES MILLENNIUM CENTRE

26 - 30 MAI / MAY AM DDIM! / FREE EVENT!

AL LEWIS GWILYM GLAIN RHYS PATROBAS ELIDYR GLYN SERA RHYS GWYNFOR KIZZY CRAWFORD OMALOMA PLU

Clustnodwyd

2019

yn

flwyddyn

Ieithoedd

Rhyngwladol Lleiafrifol UNESCO, a gwelwyd penllanw’r cydweithio rhwng Gouel Broadel Ar Brezhoneg yn Llydaw a Tafwyl.

Trefnwyd

trwy gefnogaeth y British Council Cymru i’r band Chroma gynrychioli Cymru mewn gŵyl yn Llydaw; ac fel rhan o’r cyfnewid daeth y grŵp UKAN yn eu tro i berfformio a chymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb yn Tafwyl.

“Yma yn Llydaw cafodd Chroma ymateb brwd iawn gan y gynulleidfa. Yr union fath o grŵp cyfoes rydym yn awyddus i’w gweld ochr yn ochr â cherddoriaeth draddodiadol Fest-Noz” Anais Scornet. Un o drefnwyr Gouel Briadel Ar Bezhoneg.

9


CRYNODEB O’R GWAITH CYSYLLTIADAU CYHOEDDUS • Gwesteion byw yn stiwdio Heno ar S4C, a’r rhaglen yn darlledu’n fyw o’r Ŵyl. • Sylw ar Newyddion BBC Cymru a BBC Cymru Fyw. • Sylw cyson ar BBC Radio Cymru yn arwain at y digwyddiad, gan gynnwys cyhoeddi rhestr artistiaid yn fyw ar BBC Radio Cymru 2; darlledu byw yn ystod prynhawn Sadwrn Tafwyl, a recordio rhifyn arbennig o Talwrn y Beirdd ym Mhabell Lenyddiaeth Tafwyl. • Roedd yr Ŵyl yn gefnlen i raglen arbennig ar BBC Radio 4 gyda Huw Stephens yn olrhain y diddordeb cynyddol mewn canu cyfoes Cymraeg. • Cyhoeddwyd ar safle Croeso Cymru erthygl pam fod Tafwyl 2019 yn fwy ac yn well nag erioed. • Hysbyseb ar gyfer ‘mailer’ Trafnidiaeth Cymru. • Sylw yn y wasg gan gynnwys wales247.co.uk, walesonline.co.uk, Cardiff Life a’r Dinesydd.

BRAND GWELEDOL/ALLANOL: • Sgriniau digidol ynghanol Caerdydd (700 spot ar sgrin Capitol Screen rhwng Ebrill a Mehefin a sylw ar sgrin Gleision Caerdydd yn y tridiau’n arwain at yr Ŵyl). • Baner a sylw ar y sgrin yng nghyngerdd Noel Gallagher yng Nghastell Caerdydd a sylw ar y sgrin yn y “Bath Festival” (fis Mai). • Hysbysebion ar 10 bws Caerdydd am 4 wythnos o ganol Mai i ddechrau Mehefin. • Posteri amrywiol o amgylch Caerdydd gan gynnwys yr Orsaf Ganolog (cyrraedd 173,577 o filoedd); a phosteri Celfyddydau ger MotorPoint, Womanby Street, Cowbridge Road East, Westgate Street a Queen Street (yn cael eu cylchdroi rhwng canol Mai hyd at yr Ŵyl). • 1 poster celfyddydau a 5 poster mawr dros gyfnod o 4 wythnos ym Mryste. • Baneri tu allan i Gastell Caerdydd am bythefnos yn arwain at yr Ŵyl.

10


PRINT • 2 stribed ar dudalen blaen y Western Mail a 2 stribed yn y South Wales Echo wedi eu gosod o ganol Mai hyd at yr Ŵyl. • Hysbyseb hanner tudalen a sylw golygyddol yn y South Wales Metro a’r Bristol Metro (fis Mai). • Taflenni wedi eu dosbarthu mewn mannau poblogaidd o amgylch y ddinas gan gynnwys siopau a chanolfannau celfyddydol ee Chapter, Spillers Records, Siopau Bodlon ayb. • Argraffwyd fersiwn A5 o raglen Tafwyl, ac am y tro cyntaf codwyd £1 am y copïau caled ar y dybiaeth y byddai mwyafrif ein cynulleidfa yn pori drwy’r fersiynau digidol.

11


DIGIDOL Talwyd

am

5

ymgyrch

penodol

ar

Facebook,

Instagram,

Audience Network a Messenger

TROSOLWG YR YMGYRCHOEDD: CYRHAEDDIAD

386,355

CLICIO I’R WEFAN

ARGRAFFIADAU

669,721

1,858

60 Milltir

Neges hyrwyddo penwythnos Tafwyl o fewn dalgylch 60 milltir o Gaerdydd. 38,000

Cyrraeddiad:

59,343

Neges hyrwyddo gwefan Tafwyl o fewn dalgylch 60 milltir o Gaerdydd.

18,000

1,671

1,671

CYRRAEDD 37,792 O BOBL 90,788 O ARGRAFFIADAU 662 YN CLICIO I’R WEFAN

Neges Nos Wener o fewn dalgylch 30 milltir o Gaerdydd.

170,911 Argraffiadau: 266,203 Cyrraeddiad:

150,000 5,000

7,955

7,955

30 Milltir

Neges hyrwyddo ym Mryste yn annog pobl i ymweld â’r Ŵyl.

170,911 Argraffiadau: 203.233 Cyrraeddiad:

12

70,000

60,000 19,955 17,955


YMGYRCHOEDD DIGIDOL ERAILL • Wales Online – ymgyrch am wythnos gyfan yn arwain at Tafwyl • Spotify yn hyrwyddo’r Nos Wener yn ardal Bryste; a Spotify yn hyrwyddo Penwythnos Tafwyl yng Nghaerdydd yn y pythefnos yn arwain at Tafwyl.

Yr hysbysebion wedi

cyrraedd 68,000 yn y 2 ardal.

GWEITHGARWCH DIGIDOL ARALL Mae gwefan a chyfryngau cymdeithasol Tafwyl (Facebook, Twitter, Instagram a Snapchat) yn cael eu defnyddio’n rheolaidd i gyfathrebu negeseuon tactegol ac amserol. Defnyddiwyd

y

cyfryngau

yma

i

hyrwyddo

amserlen yr Ŵyl, sesiynau penodol, cynlluniau amgylcheddol ac

ail

yn

cynnwys

ddefnyddio

cynllun

cwpanau,

dŵr

yfed

digwyddiadau

ffrinj wythnos Tafwyl, galw am stiwardiaid / gwirfoddolwyr ayb. Gwelwyd cynnydd flwyddyn ar flwyddyn yn nifer ein dilynwyr. Mae gan ein cyfrif Instagram 3,062 o ddilynwyr; a byddwn yn edrych ar gyfleoedd i gynyddu’r defnydd o Snapchat ar gyfer 2020. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd ymateb yn sydyn i sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol, ac eleni eto cyflogwyd swyddog i fod yng ngofal hyn dros benwythnos yr Ŵyl.

13


NWYDDAU Mae ein gwirfoddolwyr yn derbyn crys-t Tafwyl am ddim fel arwydd o’n gwerthfawrogiad o’u hymroddiad yn ystod penwythnos Tafwyl.

Eleni, wrth geisio ymestyn a chodi proffil brand Tafwyl penderfynwyd

cynhyrchu nifer cyfyng o grysau-t yn defnyddio rhai o gynlluniau nodedig Efa Lois, enillydd Ysgoloriaeth Geraint George Eisteddfod yr Urdd eleni. Yn ogystal â gwerthu’r crysau yn ystod yr Ŵyl, fe’u dosbarthwyd 3 wythnos cyn y digwyddiad i amryw o siopau o gwmpas y ddinas gan gynnwys Bodlon, Caban, Shop Rygbi, Spillers Records a Siop y Castell; ac fe’u gwerthwyd ar stondin Menter Caerdydd yn Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd.

Eleni eto bragwyd cwrw arbennig Tafwyl yn lleol gan Tomos Lilford. Dosbarthwyd y poteli gyda labeli lliwgar brand Tafwyl mewn sawl siop yng Nghaerdydd gan gynnwys St Canna’s Ale House, The Bottle Shop yn y Rhath a Phenarth, Canna Deli, Bant a la Cart, Bodlon a Gŵyl Fwyd Sain Ffagan.

14


Y GWERTHUSIAD NODAU’R GWERTHUSIAD Pwrpas unrhyw werthusiad yw casglu barn eang er mwyn ein galluogi i adolygu’r holl elfennau cadarnhaol a’r rhai i’w datblygu.

Mae’r canlyniadau hefyd yn ffynhonnell amhrisiadwy wrth drafod

syniadau Tafwyl 2020 gyda rhanddeiliaid.

METHODOLEG Am yr ail flwyddyn bu cydweithio gydag Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd a chyflogwyd myfyrwyr i gasglu adborth ar safle’r Ŵyl

yn ystod y penwythnos. Defnyddiwyd arolwg arlein Survey Monkey hefyd

a’i hyrwyddo drwy rwydwaith cylchlythyr digidol Menter Caerdydd sy’n cynnwys cronfa o dros 5,500 o bobl.

Anogwyd ymateb pellach drwy ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol ac fel abwyd ychwanegol eleni

cynigiwyd taleb i’w wario yn Spillers Records yn wobr.

Teilwriwyd holiadur pwrpasol at berchnogion

y stondinau crefft, arlwywyr, noddwyr, gwirfoddolwyr a staff; a chynhaliwyd nifer o gyfarfodydd unigol gyda rhanddeiliaid a phartneriaid.

CANLYNIADAU Ydych chi’n siarad Cymraeg? O’r gynulleidfa nad oedd yn siarad Cymraeg dywed 97.5% bod yr Ŵyl yn groesawgar i bobl ddi-gymraeg (cynnydd o 3.5% ar 2018).

Na Dysgu Ydw

Ydych chi’n byw yng Nghaerdydd?

% Nac Ydw % Ydw

15


Os ydych chi’n byw yng Nghaerdydd ym mha ardal ydych chi’n byw... Caerau 1.09 Cathays 2.19 Cyncoed 1.64 Gabalfa 3.84 Glan yr Afon / Riverside 5.49 Grangetown 14.28 Llaneirwg / St Mellons 1.09 Llandaf 7.69 Llanedeyrn 0.54 Llanisien 3.29 Llanrhymni 0.54 Llysfaen / Lisvane 1.09 Mynydd Bychan / Heath 1.09 Penylan 1.59 Pentwyn 0.05 Pentyrch 0.54 Plasnewydd 0.01 Pontcanna 1.09 Pontprennau 1.63 Radur a Phentre-Poeth 1.64 Rhath 3.29 Rhiwbeina 3.29 Sain Ffagan 0.3 Sblot 0.8 Trebiwt/Butetown 0.54 Tredelerch/Rumney 1.09 Treganna 23.6 Trelai / Ely 1.09 Tongwynlais 0.03 Trowbridge 0.5 Waun Adda / Adamsdown 1.09 Waun Ddyfal / Cathays 0.8 Ystum Taf / Llandaf North 2.19 Yr Eglwys Newydd 10.98 Y Tyllgoed 1.09 0%

Mae’r ffigurau yma’n adlewyrchu’r ganran uchel o Gymry sy’n byw yn ardaloedd Treganna a Grangetown; ond yn awgrymu ffordd ymlaen wrth dargedu ac ymestyn ein gwaith marchnata o fewn Caerdydd ar gyfer 2020.

16

5%

10%

15%

20%

25%


Os ydych chi wedi teithio o du allan i Gaerdydd o ble ydych chi wedi dod?

Gweddill Cymru 90% Gweddill DU 4% Tu allan i’r DU 6%

Pa mor bell ydych chi wedi teithio i gyrraedd Tafwyl?

200+ milltir 100-200 milltir 30-100 milltir 2018

2019

10-30 milltir Llai na 10 milltir mae’r canlyniad yma’n gyson gyda’r canfyddiad bod mwy wedi teithio o du allan i Gaerdydd eleni

Sut gyrhaeddoch chi Tafwyl?

Cerdded 28% Bws 24% Trên 15% Seiclo 5% Car 28%

Pryd oeddech chi wedi trefnu dod i Tafwyl?

Ar y diwrnod 10% Wythnos o flaen llaw 32% Mis o flaen llaw 14% 1-3 mis o flaen llaw 17% Mwy na 3 mis o flaen llaw 27%

17


GRADDIO’R ŴYL Gwybodaeth o flaen llaw

Lleoliad

Staff a Stiwardiaid

Bwyd a Diod

Adloniant

Cerddoriaeth Byw

Stondinau

Awyrgylch

Argraff Gyffredinol

0%

20% Gwych

40%

60% Da

80% Gweddol

100% Gwael

“Roedd Staff yn hyfryd o’r staff bar i’r staff diogelwch, yn enwedig o ystyried mor brysur a dwym oedd hi! Roedd y nos Wener yn ychwanegiad gwych, roedd yr awyrgylch yn hyfryd.”

“Pobl yn ymuno i ddathlu’r iaith a diwylliant Cymru. Rhywbeth yno i bob oedran. Lleoliad gwych”

“Y ffaith ei fod am ddim ac yn gwneud ymdrech i fod yn gynhwysol! Mae amrywiaeth dda o ddigwyddiadau hefyd a cherddoriaeth ddi-fai pob tro.”

18


Y DI-GYMRAEG Mae dros 98% o gynulleidfa Tafwyl yn credu bod yr Ŵyl yn cael effaith bositif ar yr iaith Gymraeg yng Nghaerdydd. Mae 15% o’r ymwelwyr yn ddysgwyr a 10% pellach yn ddi-gymraeg, a gyda chanran uchel yn dod i gefnogi perfformiadau eu plant yn y babell ysgolion.

wedi fy annog i weld y Gymraeg yn fwy positif yn dangos fod ystod eang o bethau Cymraeg yng Nghaerdydd wedi fy ysbrydoli i ddysgu Cymraeg wedi cynyddu fy nealltwriaeth am ddiwylliant Cymru Mae Tafwyl yn Ŵyl i bawb

0%

20%

Cytuno’n gryf

40%

Cytuno

60%

Dim barn

80%

100%

Anghytuno

Ydych chi’n gweld Tafwyl fel Gŵyl i Gaerdydd neu Gŵyl Genedlaethol?

Gŵyl i Gaerdydd 61% Gŵyl Genedlaethol 39%

MAE 95% YN DEBYGOL O DDOD I TAFWYL ETO

19


GWERTH ECONOMAIDD Defnyddiwyd methodoleg events IMPACTS.com i amcangyfrif gwariant ymwelwyr yng Nghaerdydd.

Siopa

Amcangyfrif o wariant

28%

Teithio 21%

yr ymwelwyr

Llety 8%

£1,090,682

Bwyd a Diod 43%

O FEWN YR ŴYL Cyfartaledd Bwyd a Diod

£36.82

Stondinau

£29.07

Gweithgareddau

£3.42

Cyfanswm gwariant y pen yn Tafwyl

£69.31

Trwy ddadansoddi’r canlyniadau, gan ystyried bod 1/3 o fynychwyr yr Ŵyl yn blant (lluosi’r cyfartaledd gyda 2/3 o gynulleidfa Tafwyl yng Nghastell Caerdydd), gallwn weld bod oddeutu £1,709,646 o werth economaidd i’r Ŵyl o fewn yr Ŵyl, sy’n gynnydd o dros 18% mewn cymhariaeth â 2018.

20


Y FFORDD YMLAEN • Arwydd o lwyddiant a phoblogrwydd yr Ŵyl oedd y ffaith i’r Castell ar y prynhawn Sadwrn gyrraedd ei chapasati erbyn 2pm. Cyflwynwyd system un mewn un allan am gyfnod o 4 awr gyda blaenoriaeth i bobl ag anabledd yn ogystal â theuluoedd oedd a’u plant yn perfformio yn y Babell Ysgolion. Oherwydd y tywydd poeth, cynigiwyd poteli dŵr yn rhad ac am ddim. • Canol Caerdydd yw cartref naturiol Tafwyl; gyda’r mwyafrif yn ffafrio’r Castell neu leoliad canolog arall yn yr holiadur. Byddwn yn cydweithio gyda Chyngor Caerdydd wrth ymateb i rywfaint o’r pryderon a fynegwyd a’r gwelliannau y cynigiwyd. • Eleni eto cyflwynwyd amrywiaeth o weithgareddau i blant o bob oed yn cynnwys sioeau Cyw S4C, ardal chwarae Bwrlwm, Cwtsh Babis, sesiynau dathlu Sali Mali yn 50, gweithdai celf a chyfle i ymuno mewn sesiynau chwaraeon yn ardal yr Urdd ac Undeb Rygbi Cymru. Bu ambell sylw y gellir ehangu eto

ar y ddarpariaeth.

Fe fyddwn yn edrych i ehangu’r rhaglen ar gyfer 2020.

• Am y tro cyntaf cyflwynwyd dŵr rhad ac am ddim mewn cydweithrediad a Refil Caerdydd, adnodd a brofodd yn boblogaidd. I’r dyfodol edrychwn ar ffurf o hyrwyddo cyn Tafwyl gan

annog ein

cynulleidfa i ddod a’u cwpanau eu hunain er mwyn parhau i adeiladu ar y llwyddiant. • Archebwyd mwy o doiledau eleni, a’u lleoli mewn 2 brif ardal, ond byddwn yn

adolygu’r

ddarpariaeth ac yn cynyddu’r cyfleusterau unwaith eto ar gyfer 2020. • Rydym yn parchu’r amgylchedd ac mae 65% o wastraff Tafwyl yn cael ei ail gylchu.

Roedd cyflwyno

dŵr tap a gwydrau plastig aml-ddefnydd wedi gostwng y defnydd o blastig yn sylweddol eleni a byddwn drwy gydweithrediad a’n contractwyr gwaredu gwastraff yn edrych ar ddulliau o leihau ein heffaith carbon eto ar gyfer 2020 gan gynnwys annog ein darparwyr arlwyo i ddefnyddio pecynnau pydradwy (biodegradable). • Darparwyd peiriannau codi arian, (ATM) er mwyn hwyluso’r nifer fyddai’n gorfod mynd mewn ac allan o’r Castell.

Defnyddiodd 500 o bobl yr adnodd i dynnu £15,180 o arian. Mae’r ffigwr

fymryn yn llai na’r amcangyfrif gwreiddiol, felly byddwn yn adolygu hyn i’r dyfodol.

21


Dyfyniadau/Ymateb Yr awyrgylch a’r wefr o fod ynghanol gymaint o bobl sy’n gwerthfawrogi ac yn mwynhau cerddoriaeth Gymreig a’r talent aruthrol ar gyfer pob cenhedlaeth sydd gennym yng Nghymru. Awyrgylch gwych, bwyd a stondinau da, cymryd camau da i leihau plastig. Line-up gorau eto! Gwych! Using my Welsh around others. The whole experience, my children take part with their school, I can watch live music and practice speaking Welsh. The atmosphere is always friendly and the whole weekend is a laid back celebration of everything positive about Welsh Language and Culture. Y lleoliad, y gerddoriaeth, y comedi, y bwyd, yr ysgolion yn canu. Yr awyrgylch yn wych! Y ffaith ei fod am ddim ac yn gwneud ymdrech i fod yn gynhwysol! Mae amrywiaeth dda o ddigwyddiadau hefyd a cherddoriaeth di-fai pob tro. The fact that is welcoming to all, it’s free and it doesn’t matter what level of Welsh you have it’s for everybody. Mae’r Castell yn wych! Peidiwch symud! Ond dwi’n gweld fod ‘na broblem capasiti yn mynd i fod mewn cwpl o flynyddoedd (rhaid canmol y ciw management tro hyn!). Neshi fwynhau’r syniad o ddefnyddio’r Is-Grofft… a pha mor llawn oedd pob perfformiad yn edrych. Mae’r ŵyl yn teimlo’n bersonol iawn ar hyn o bryd efallai does dim rhaid i newid unrhyw beth. Unig agwedd negyddol Tafwyl eleni oedd y ciwiau diflas i ddod mewn. Well done for this amazing event. Can’t wait for next year. Penwythnos Ffab!! Diolch yn fawr iawn!! Mi fyddaf yn dychwelyd eto! Please keep doing what you’re doing. I discovered Tafwyl through my children attending Ysgol Cymraeg. Its an experience I would have relished as a child and want them to share together for a long time to come. You are amazing, Diolch...

22


BE NESA? Roedd 2019 yn flwyddyn arbennig iawn - agor am y tro cyntaf ar nos Wener a phob noson ar agor am awr yn hwyrach. Mae’r

adroddiad

hwn

yn

nodi’r

cydweithio

anhygoel

rhwng

partneriaid,

noddwyr,

artistiaid,

gwirfoddolwyr, stondinwyr a chontractwyr a gwaith tîm diflino sy’n cael ei werthfawrogi yn yr ymatebion positif gan ein cynulleidfa. Byddwn yn adeiladu ar brofiadau ein cynulleidfa ac yn parhau i adolygu ein dulliau o gyfathrebu wrth gynllunio anghenion 2020, yn bennaf • Gweithio gyda 2Can Productions, Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru i ddewis lleoliad addas ar gyfer Tafwyl 2020. • Cadw’r Ŵyl yn fynediad am ddim a sicrhau parhad a chynnydd yn yr incwm

o ffynonellau cyhoeddus

a masnachol er mwyn cynnal yr Ŵyl a chwrdd disgwyliadau ein cynulleidfa. • Parhau i farchnata Tafwyl ar hyd a lled y ddinas, y tu allan i Gaerdydd a thu allan i Gymru i ddenu cynulleidfa newydd i brofi’r iaith. • Creu cynnwys newydd amserol ac arloesol i’r Ŵyl. Mae canlyniadau gwaith ymchwil yn gymorth i ddangos gwerth am arian, tystiolaethu effaith a chyfleu ystadegau pwysig, ac mae fideo a lluniau yn gyfryngau gwerthfawr i gofnodi eiliadau cofiadwy, ond mae’n amhosib mesur yr awyrgylch unigryw, yr ysbryd cyfeillgar, cynhwysol a hapus sy’n ganolog i’r Ŵyl arbennig hon.

MAE 98% O’N CYNULLEIDFA YN CREDU BOD YR ŴYL YN CAEL EFFAITH BOSITIF AR GYMRAEG 95% Y MEDDWL BOD YR ADLONIANT YN RHAGOROL 95% YN DWEUD Y BYDDAN NHW’N DYCHWELYD I TAFWYL ETO.

TYBED FYDDWCH CHI YNO YN 2020?

23


24


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.