NTENTS
/ CO CYNNWYS
Croeso ................................................................ 3 Wythnos Tafwyl / Tafwyl Fringe Festival ............................... 5 Ffair Tafwyl / Tafwyl Fair - o dudalen / From page ................... 19 Bwyd a Diod / Street Food & Bars ..................................... 20 Prif Lwyfan / Main Stage ............................................. 22 Y ‘Sgubor ............................................................ 29 Llwyfan y Porth ....................................................... 34 Byw yn y Ddinas / Cardiff Life ....................................... 36 Y Lolfa Lên .......................................................... 40 Yurt Canolfan Mileniwm Cymru / Wales Millennium Centre Yurt .......... 44 Pabell Lles / Wellbeing Yurt ......................................... 44 Yurt T ............................................................... 45 Ardal Chwarae Bwrlwm / Bwrlwm Play Area .............................. 45 Cwtsh Babis a Mudiad Meithrin / Baby Yurt & Mudiad Meithrin .......... 46 Chwaraeon / Sports .................................................... 47 Popty (Arddangosfeydd Bwyd a Diod / Food & Drink Demos) .............. 47 Dysgwyr / Welsh Learners .............................................. 48 Y Llwyfan (Ysgolion / Schools) ....................................... 49 Pabell Llyfrgelloedd Caerdydd / Cardiff Libraries Tent ............... 49 Prifysgol Caerdydd / Cardiff University .............................. 49 Stondinwyr / Stalls .................................................. 50 Cyrraedd Tafwyl / Getting to Tafwyl ................................... 51 Cyffredinol / General ................................................ 54 Noddwyr / Sponsors ................................................... 55 Partneriaid / Partners ................................................ 55 Amserlen / Schedule ................................................... 56
2
CROESO Gŵyl flynyddol Menter Caerdydd i ddathlu celfyddydau a diwylliant Cymreig yw Tafwyl. Parti mawr Cymraeg â gwahoddiad i bawb! Sefydlwyd yr ŵyl nôl yn 2006. Mae cynulleidfa Tafwyl wedi tyfu yn aruthrol dros y blynyddoedd, o ychydig dros fil o bobl yn y Mochyn Du yn ei ddyddiau cynnar, i 38,000 o bobl yng Nghaeau Llandaf llynedd. Daeth Tafwyl i’r brig yng nghategori Gŵyl Orau Caerdydd yng Ngwobrau Cerddoriaeth Caerdydd fis Mawrth eleni. Mae’n ddigwyddiad naw diwrnod i gyd; gyda digwyddiadau amrywiol yn cael eu cynnal o amgylch y ddinas am wythnos, gan orffen gyda’r prif ddigwyddiad yng Nghastell Caerdydd.
Cynhelir prif ddigwyddiad yr ŵyl ar ddydd Sadwrn 30ain o Fehefin a Dydd Sul 1af o Orffennaf, yng ngerddi hyfryd Castell Caerdydd. Unwaith eto bydd yr ŵyl yn dod â’r enwau mwyaf yng nghelfyddydau, diwylliant a chwaraeon Cymreig i Gaerdydd; ynghyd â bwyd a diod blasus. Mae’n ddigwyddiad rhad ac am ddim sy’n agored i bawb – yn siaradwr Cymraeg neu beidio. Mae’n ddigwyddiad gwych i ddysgwyr a phobl sy’n awyddus i gael eu blas cyntaf o’r iaith a diwylliant Cymreig. Mae Tafwyl yn ddathliad hyfryd o’r iaith Gymraeg, ac mae’n dangos ein diwylliant ar ei orau. Felly, peidiwch â cholli allan - bydd croeso mawr i bawb ddod i ymuno â ni a phrofi’r ŵyl unigryw hon.
WELCOME Tafwyl is Menter Caerdydd’s home grown Welsh arts & culture festival – a huge Welsh party! The festival was established in 2006 to celebrate the use of the Welsh language in Cardiff. In 2012 Tafwyl moved from the Mochyn Du and was held at Cardiff Castle for the first time. Tafwyl’s footfall has grown incredibly over the last few years, from just over 1,000 in the Mochyn Du to over 38,000 at last year’s event at Llandaf Fields. Tafwyl was recently named ‘Cardiff’s Best Festival’ at Cardiff Music Awards. Tafwyl is a family friendly festival, and is a lively mix of music,
literature, drama, comedy, art, sports, food & drink. The event is nine days in total: a fringe event held all around the city for seven days, ending with the main event at Cardiff Castle on June 30 and July 1. Entry to Tafwyl is free & open to all – Welsh speaker or not. It’s a great event for families, Welsh learners & people experiencing Welsh language & culture for the very first time. Tafwyl is a showcase for the Welsh language and demonstrates our culture at its best, so don’t miss out. Join us and experience the uniqueness of Tafwyl – there’s a warm Welsh ‘croeso’ to everyone!
3
Here Are So me Handy Ph rases To He You Out At T lp he Event If Y o u Don’t Speak Welsh And W ant To Give It A Try!
Bore Da – Good Morning Prynhawn Da – Good Afternoon Nos Da – Good Night Hwyl fawr – Goodbye Os gwelwch yn dda / Plis – Please Diolch – Thank you Sut wyt ti? – How are you? Ti’n iawn? – You ok? Rwy’n dysgu Cymraeg – I’m learning Welsh Rydw i eisiau dysgu Cymraeg – I want to learn Welsh Ble mae Castell Caerdydd – Where are Cardiff Castle? Dwi’n hoffi (insert band name) – I like (insert band name) Ble mae’r tai bach? – Where are the toilets? Mae’r bwyd yn flasus iawn! – The food is very tasty! Faint yw hwn? – How much is this? Ga i beint o Gwrw Tafwyl plis? - Can I have a pint of Tafwyl beer please? Mae’n boeth! – It’s hot! Beth wyt ti’n yfed? – What are you drinking? Beth yw dy rif? – What’s your number? Ti’n mynd ymlaen i Clwb Ifor Bach? – Are you going on to Clwb Ifor Bach?
4
S O N H T Y W FWYL TA L Y W F TA INGE FR IVAL T S FE – 01.07.18 8
.1 6 0 . 23
LLEOLIAD / LOCATION AMSER / TIME PRIS / COST 5
DOSBARTH MEISTR CWRW BEER MASTERCLASS O dan arweiniad un o arbenigwyr cwrw Bragdy a Chegin cewch drio wyth cwrw gwahanol, rhai wedi eu bragu yno gan y Prif Fragwr. Bydd ychydig o fwyd i fynd gyda’r cwrw, gyda’r opsiwn o gael bwyd o’r fwydlen Academi i orffen am £10 yn ychwanegol.
Under the guidance of one of Brewhouse and Kitchen’s resident beer experts, sample eight different beers, some of which have been brewed right on-site in the microbrewery by the Head Brewer! Nibbles are included, with the option to add a meal from the Academy menu to finish for an additional £10.
Bragdy a Chegin, Gerddi Sophia / Brewhouse and Kitchen, Sophia Gardens Dydd Mawrth, Dydd Mercher a Dydd Iau am 18:00 Tuesday, Wednesday & Thursday at 18:00 £20 – i archebu / to book: www.brewhouseandkitchen.com/venue/caerdydd/
DYDD SADWRN / SATURDAY 23.06.18 WICI POP Ymunwch gyda chriw Wici Caerdydd i greu erthyglau am fandiau a Sîn Gerddoriaeth y ddinas ar Wicipedia. Dewch a’ch laptop ag unrhyw recordiau gyda chi i chwarae ar y dydd!
I’w gadarnhau / TBC
6
A ‘Wici Caerdydd’ meet-up to create articles about Welsh bands and Cardiff’s music scence on Wicipedia, the Welsh Wikipedia. Bring your laptop & records with you to play on the day! All articles will be written in Welsh.
13.00 - 17.00
Am Ddim | Free
BARDDAS YN CYFLWYNO GWYL GERALLT Diwrnod o sesiynau amrywiol yn dathlu barddoniaeth: 11.30 13.00 14.00 15.00 16.00
-
Parti’r Bardd Plant / Children’s Poetry Party, Casia Wiliam Cofio Tony Bianchi / Remembering Tony Bianchi – T James Jones a Jon Gower Pigion Cylchgrawn Barddas / Barddas Magazine’s Best Bits, Twm Morys Dathlu cyfrol Bragdy’r Beirdd yng nghwmni un o’r golygyddion, Llŷr Gwyn Lewis, a rhai o feirdd y Bragdy / Bragdy’r Beirdd Book Launch. A session with one of the editors, Llŷr Gwyn Lewis, and other poets from Bragdy’r Beirdd - Y To Iau
Yr Hen Lyfrgell, Yr Ais / The Hayes
11.30 - 17.00
Tocyn Dydd / Full Day - £6 (Mynediad am ddim i aelodau Barddas / Free entry for members) *Sesiwn y Bardd Plant yn unig / – Tocyn teulu - £2
barddas.com
DYDD SUL / SUNDAY 24.06.18 DIRTY PROTEST THEATRE YN CYFLWYNO. . . PROTEST FUDR Noson o sgwennu newydd.
A night of new writing
6 drama fer chwareus newydd gan ddramodwyr cyffrous a chyfredol Cymru.
6 brand new plays by contemporary Welsh writers.
Dyma’r seithfed tro i griw Dirty Protest drefnu noson Gymraeg fel rhan o Tafwyl ac rydym wrth ein bodd bod nôl.
This is the 7th time for the Dirty Protest gang to arrange a Welsh evening as part of Tafwyl and we are very happy to be back.
Ers ei sefydlu yn 2007, mae Dirty Protest Theatre wedi gweithio gyda dros 200 o ysgrifennwyr o Gymru gan berfformio dramâu newydd i gynulleidfaoedd mewn lleoliadau fel tafarndai, clybiau, siop kebabs, siop trin gwallt a choedwig!
Since launching in 2007 the award-winning Dirty Protest Theatre has worked with more than a 200 Welsh writers, staging new sellout plays in alternative venues, from pubs and clubs, to kebab shops, hairdressers and a forest!
The Castle Emporium, Womanby Street, Caerdydd, CF10 1BS
7.30pm (Drysau’n agor am 7.00pm / Doors open at 7.00pm)
exciting
and
£6 (wrth y drws / on the door)
www.dirtyprotesttheatre.co.uk
7
DYDD LLUN / MONDAY 25.06.18 AMSER STORI TRELAI A’R WAUN DDYFAL ELY & CATHAYS STORY TIME Dewch i ymuno mewn sesiwn hwyliog llawn stori a chân! Addas i blant 0-4 oed.
Come join in the fun story time and song session! Suitable for children 0-4 years old.
Hyb Trelai / Ely Hub
10.15
Llyfrgell Y Waun Ddyfal / Cathays Library
14.15
Am Ddim / Free
PARTI YN Y PARC GYDA RSPB PARTY IN THE PARK WITH RSPB Noddir y digwyddiad gan Miri Mawr / Event sponsored by Miri Mawr Dewch i fwynhau bore o fywyd gwyllt gyda RSPB Cymru! Cyfle i blant ddarganfod adar, blodau a choed enfawr y parc. Bydd tystysgrif a sticer i’r plant fynd adre gyda nhw i gofio’u amser fel ditectifs bywyd gwyllt ym Mharc y Rhath. Addas i blant 0-4 oed.
Enjoy a wildlife safari with RSPB Cymru. Discover birds, textures, colours and trees and explore natural treasures at Roath Park! Take home a certificate and sticker too to celebrate your wild time with nature! Suitable for 0-4 year olds.
Parc y Rhath / Roath Park Cwrdd wrth y caffi / Meet by the café
11.00
Am Ddim / Free
ARDDANGOSFA ARLOESWYR POP CYMRAEG PIONEERS OF WELSH POP Lansiad casgliad newydd o luniau gan Tony Charles, yn portreadu rhai o arloeswyr Pop, Roc ac Adloniant Cymru o’r 60au a’r 70au. Bydd y noson yn cynnwys perfformiad gan Heather Jones a chyfeillion.
Llaeth a Siwgr, Yr Hen Lyfrgell, Yr Ais / The Hayes
8
Launch of a new fine art collection by Tony Charles, featuring portraits of some pioneers of the 60’s & 70’s Welsh Pop, Rock & Entertainment scene. The evening will include a live performance by Heather Jones and friends.
18.00 – 19.30
Am Ddim / Free
CLONC YN Y CWTSH: CHAPTER Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch yn sesiwn wythnosol Chapter ar gyfer dysgwyr Cymraeg o bob lefel - Clonc yn y Cwtsh. Cyfle gwych i gwrdd â dysgwyr eraill ac ymarfer eich Cymraeg dros baned neu beint.
Chapter, Heol y Farchnad, Treganna Chapter, Market Road, Canton
Are you learning Welsh? Join Chapter’s weekly Welsh learners club - Clonc yn y Cwtsh. A great opportunity to practise your Welsh with other learners over a cuppa or pint.
19.00 - 20.30
Am Ddim / Free
PENDRONI Noson lle bydd ymchwilwyr yn rhoi cyflwyniadau byr am ymchwil cyffrous ar amryw o bynciau gwahanol drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd lein-yp y noson yn cael ei ddatgelu yn agosach at yr amser. Croeso i bawb! Yr Hen Lyfrgell, Yr Ais / The Hayes
An evening where researchers will give short presentations about exciting research on a range of different topics through the medium of Welsh. The line-up for the evening will be anounced nearer to the date.
19.00
Am Ddim / Free
CWIS TAFARN BRAGDY A CHEGIN BREWHOUSE & KITCHEN PUB QUIZ Cwis tafarn arbennig ar gyfer wythnos Tafwyl gyda ein hoff gwis feistr, Dewi Chips!
Join Brewhouse & Kitchen’s weekly pub quiz with our favouite Tafwyl quizmaster Dewi Chips! A fun way for Welsh learners to practise their Welsh!
Bragdy a Chegin, Gerddi Sophia Brewhouse & Kitchen, Sophia Gardens
20.00
£1
9
DYDD MAWRTH / TUESDAY 26.06.18 AMSER STORI GRANGETOWN A’R EGLWYS NEWYDD GRANGETOWN AND WHITCHURCH STORY TIME Dewch i ymuno mewn sesiwn hwyliog llawn stori a chân! Addas i blant 0-4 oed.
Come and join in the fun story time and songs session! Suitable for children 0-4 years old.
Llyfrgell Grangetown Library
11.30
Llyfrgell Yr Eglwys Newydd / Whitchurch Library
14.15
Am Ddim / Free
BORE COFFI I DDYSGWYR WELSH LEARNERS’ COFFEE MORNING Ashok Ahir o gwmni Mela, a chadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, fydd yn ymuno â’r Bore Coffi eleni. Ymunwch am sgwrs ddifyr a phaned.
Ashok Ahir, owner of Mela PR, chairman of the National Eisteddfod committee, and a Welsh learner himself will be joining the Welsh Learners’ Coffee Morning for a cuppa and a friendly chat!
Yr Hen Lyfrgell, Yr Ais / The Hayes
11.00 - 12.30
Am Ddim / Free
HELFA DRYSOR CARNHUANAWC TREASURE HUNT Helfa drysor ddifyr ac addysgiadol ar droed o amgylch Treganna gyda’r arweinydd Keith Bush, o dan nawdd Cymdeithas Carnhuanawc. Croeso cynnes i bawb!
An interesting and educational treasure hunt on foot around Canton (all clues in Welsh) organised by Carnhuanawc Society, led by Keith Bush. A warm welcome to everyone!
Ymgynnull yn nhafarn y Plum Tree ar Heol y Bontfaen, Treganna / Meet at the Plum Tree on Cowbridge Road, Canton
10
18:30
Am Ddim / Free
TWMPATH DAWNS AC OCSIWN ADDEWIDION TWMPATH & AUCTION EVENING Noson gymdeithasol o ddawnsio’n y ffordd Gymreig, gyda Tudur Phillips yn galw Twmpath, a chyfle i gyfrannu at Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 drwy gynnig am eitemau ac addewidion unigryw yn yr Ocsiwn. Dewch yn llu!
Yr Hen Lyfrgell, Yr Ais / The Hayes
A social evening of Welsh dancing with Tudur Phillips, with an opportunity to contribute to the Cardiff 2018 National Eisteddfod by taking part in an unique auction. Come join in the fun!
19.00
£5 wrth y drws £5 at the door
DYDD MERCHER / WEDNESDAY 27.06.18 AMSER STORI RADUR A PHENYLAN RADYR AND PENYLAN STORY TIME Dewch i ymuno mewn sesiwn hwyliog llawn stori a chân! Addas i blant 0-4 oed.
Come and join in the fun story time and songs session! Suitable for children 0-4 years old.
Llyfrgell Radur / Radyr Library
10.30
Llyfrgell Penylan Library
14.15
Am Ddim / Free
CWIS MAWR PWYLLGORAU APÊL YR EISTEDDFOD THE EISTEDDFODS’ BIG QUIZ Pump cwisfeistr o fri - Ieuan Rhys, Lisa Angharad, Dewi Chips, Tom a Dyl. Un noson hwyliog o gwestiynau a gwobr hael i’r tîm buddugol! Dewch â thîm neu dewch fel unigolyn. Croeso i bawb! Llaeth & Siwgr, Yr Hen Lyfrgell, Yr Ais / The Hayes
Five top quiz masters – Ieuan Rhys, Lisa Angharad, Dewi Chips, Tom & Dyl. One entertaining evening of trivia & a prize for the winning team! Bring a team or just come by yourself. Everyone welcome!
19.30
£3
11
GWEITHDY CELF 3D / 3D ART WORKSHOP ‘I Lawr yn y Ddinas’ - celf gyda dwy artist leol Sarah a Medi. Ble hoffech chi fyw? Dewch i greu ein dinas berffaith gyda’n gilydd! Digwyddiad i blant 4 – 12 oed.
Ysgol Gymraeg Pwll Coch, Lawrenny Avenue
‘Down in the City’ - art workshop with local artists Sarah and Medi. Where would you like to live? Come and create our perfect city together! Workshop for 4 – 12 year olds.
16.00 – 18.00
£10 y plentyn / £10 per child - Lleoedd cyfyngedig / Limited spaces available
I archebu cysylltwch â / To book contact: artwithsarah@icloud.com
12
DYDD IAU / THURSDAY 28.06.18 NOSON CLONC A CHOCTÊLS CWLWM BUSNES CAERDYDD / COCKTAILS & BUSINESS NETWORKING EVENING Ymunwch â ni am wydriad (neu dri!) o Pimms neu Margarita fach ar noson hafaidd. Mae’n gyfle am sgwrs hamddenol, mwynhau a chwrdd ag eraill sy’n gweithio yn y brifddinas. Croeso i holl aelodau a chefnogwyr y Cwlwm, ynghyd â’u gwestai.
The Dead Canary, Barrack Lane
Join us for a relaxed summer evening of networking with some Pimms or Margaritas in the city centre. A great chance to meet like minded people who work in the city. Warm welcome to all members and friends.
17:30
Am Ddim / Free
GWEITHDY BRODWAITH GYDA BUDDUG EMBROIDERY WORKSHOP WITH BUDDUG Mae Buddug yn cael ei hadnabod am ei gwaith gemwaith, ond mae hi wrth ei bodd yn creu crefftau o bob math. ‘Brodwaith’ bydd thema y gweithdy eleni, gan ganolbwyntio ar ddysgu pwythau gwahanol i greu llun neu ysgrifen ar ddefnydd neu ddilledyn. Noson anffurfiol i gymdeithasu ac ymlacio. Croeso mawr i ddechreuwyr. Bydd pawb yn mynd adref gyda rhywbeth arbennig! Bydd defnyddiau yn cael eu cynnwys yn y pris ond os hoffech ddod â rhywbeth penodol i bwytho mewn i’r defnydd yna croeso i chi ddod â pethau gyda chi.
Lufkin, 183A Kings Rd
Buddug is known for her enamel work, but she loves crafts of all kinds. During Tafwyl week this year ‘embroidery’ will be the theme for her creative evening event. You will learn all about different stitches, and create a picture or a written piece to take home with you. An informal evening to socialise and learn a new skill with like mided people. No experience needed! Materials are included in the price but if you would like to bring something specific to embroider, then please do!
18:00
£20
Lle ar gyfer 15 o bobl, felly archebwch eich tocyn cyn gynted â phosib drwy ebostio: buddugwyn@hotmail.com / Room for 15 people, so order your tickets as soon as possible by emailing: buddugwyn@hotmail.com
13
GIG IEUENCTID ER COF AM MANON CLWB IFOR BACH GIG,IN MEMORY OF MANON Mae Tafwyl a Twrw yn dod at eu gilydd i godi arian at elusen Mind Cymru yn enw Manon Jones. Mi fydd CHROMA, Ffug a Cpt. Smith yn chwarae ar y noson gyda DJ Garmon wrthi hefyd. 16+
Clwb Ifor Bach, Womanby Street
Tafwyl and Twrw are coming together to raise money for Mind Cymru in memory of Manon Jones. CHROMA, Ffug and Cpt.Smith will be playing alongside DJ Garmon. 16+
19:00
£5
DYDD GWENER / FRIDAY 29.06.18 AMSER STORI TREGANNA / CANTON STORY TIME Dewch i ymuno mewn sesiwn hwyliog llawn stori a chân! Addas i blant 0-4 oed.
Llyfrgell Treganna / Canton Library
14
Come and join in the fun story time and songs session! Suitable for children 0-4 years old.
10.30
Am Ddim / Free
TAITH MERCHED Y WAWR MERCHED Y WAWR WALK Taith hamddenol gyda thaith cwch i’r Bae a cherdded i Insole Court gan gychwyn yn Pettigrew Tearooms am 10.30. Bydd cyfle am banad a chinio yn Insole Court. Byddwn yn cerdded 2 i 3 milltir, ar hyd llwybrau gwastad.
A leisurely stroll starting with a boat trip from the Bay and walking to Insole Court, meeting at Pettigrew Tearooms at 10.30. We will stop for a coffee and lunch in Insole Court. The walk will be 2/3 miles along flat paths.
Pettigrew Tearooms, Parc Bute Park
Pris y taith gwch / price of the boat
10.30
CLWB GIN CAERDYDD CARDIFF GIN CLUB Noson hwyliog o jin a recordiau Cymraeg! Pris i gynnwys jinsan mawr, 4 jin i flasu gyda thonic a chyfle i greu eich jin eich hun. Dewch a‘ch recordiau Cymraeg gyda chi...be well, na jinsan mewn cwpan Tsiena a Tony ac Aloma yn canu yn y cefndir! Bar jin ar agor tan hwyr, gyda dros 40 o jins gorau y byd.
Ty Coffi Brooks, Parc Fictoria / Victoria Park
Gin and Welsh records evening with Cardiff Gin Club! Price to include a large gin, 4 gin tasters and a chance to create your own gin. Bring your Welsh records with you... and enjoy gin in a teacup whilst listening to Tony ac Aloma! Bar open until late, with over 40 of the worlds best gins.
£20 - Tocynnau / Tickets www.cardiffgin.club
19:30
BRAGDY’R BEIRDD YN CYFLWYNO. . . BRAGDY’R BEIRDD PRESENTS. . .… Parti lansio cyfrol Bragdy’r Beirdd
The Bragdy’r Beirdd book launch party
Cerddi a chaneuon yng nghwmni Beirdd y Bragdy Aron Pritchard, Anni Llŷn, Casia Wiliam, Catrin Dafydd, Gwennan Evans, Gruffudd Owen, Llŷr Gwyn Lewis, Osian Rhys Jones a mwy.
Poems and songs in the company of resident poets Aron Pritchard, Anni Llŷn, Casia Wiliam, Catrin Dafydd, Gwennan Evans, Gruffudd Owen, Llŷr Gwyn Lewis, Osian Rhys Jones and more.
Bydd cerddoriaeth a chystadleuaeth enwog limrig y Bragdy hefyd, a chyfle i ennill copi arbennig wedi’i arwyddo gan gyfranwyr y gyfrol.
There will also be live music and the infamous Bragdy limerick competition - with a chance to win a signed copy of the book by the poets and contributors themselves.
Columba Club Treganna / Canton
20.00
Am Ddim / Free 15
Y PARLWR YN CYFLWYNO. . . Y PARLWR PRESENTS. . . Lle i fwynhau cerddoriaeth acwstig mewn awyrgylch anffurfiol, cysurus a chartrefol yw Y Parlwr. Yn perfformio bydd triawd newydd, Vrï sydd wedi dod ynghyd i gynrychioli Cymru a’i cherddoriaeth ar lwyfan y sîn ‘gwerin-siambr’ sydd yn ymddangos bob ochr i’r Iwerydd ar hyn o bryd. Hefyd, mi fydd Gwilym Bowen Rhys canwr gwerin Cymraeg yn eu plith. Roedd e’n aelod o’r band Bandana ac yn perfformio gyda’i chwiorydd yn Plu. Mae Gwilym yn perfformio fel unawdydd hefyd gyda’i albwm unigol gyntaf ‘O Groth y Ddaear’. Yr Hen Lyfrgell Sblot, Heol Singleton, Sblot / Splott Old Library, Singleton Road
16
‘Y Parlwr’ (The Parlour) is the place to enjoy acoustic music in an informal, cosy and homely environment. Performing in Y Parlwr are Vrï, a brand new trio who represent Wales and its music in the fastevolving world of ‘chamber-folk’. Gwilym Rhys Bowen will also perform, a Welsh folk singer who was a member of the band Bandana and performs with his sisters in Plu.
Am rhagor o wybodaeth / For more information: www.facebook.com/yparlwr Drysau yn agor am 19.30 / Doors open at 19.30
£10 (£7 consesiynau / £7 consessions)
DYDD SADWRN / SATURDAY 30.06.18 CLWB IFOR BACH YN CYFLWYNO / PRESENTS: SWNAMI, OSHH, FFRACAS Ni’n edrych ‘mlaen at groesawu Sŵnami ar gyfer eu hunig gig yn ystod yr Haf eleni, yn ogystal ag Oshh a Ffracas i Clwb Ifor Bach. Unwaith i’r haul fynd lawr, ac i’r gerddoriaeth stopio yng Nghastell Caerdydd, ymlwybrwch lawr Stryd Womanby a dewch i ddawnsio gyda ni. Mi fydd DJ Garmon & DJ Gruff yn troelli tiwns! 18+ Clwb Ifor Bach, Womanby Street
Clwb Ifor are excited to welcome Sŵnami for their only gig this summer, along side Oshh and Fasas. Once the sun goes down, and the music stops at Cardiff Castle, stroll down Womanby Street and come have a dance with us, DJ Garmon & DJ Gruff! 18+
£8 o flaen llaw / pre-book online www.clwb.net
21.00
DYDD SUL / SUNDAY 01.07.18 PARTI DIWEDD TAFWYL GYDA. . . / TAFWYL AFTERPARTY WITH . . . DJ GARETH POTTER Peidiwch digalonni bod penwythnos Tafwyl wedi gorffen, dewch draw i Glwb Ifor Bach ac mi fydd DJ Potter yn chwarae tiwns tan oriau mân y bore. 18+
Clwb Ifor Bach, Womanby Street
Don’t be disheartened that Tafwyl has ended for another year… Clwb Ifor Bach and DJ Potter will be playing some amazing tunes to keep you dancing until the early hours of the morning. 18+
21.00
£3
17
Tafwyl
#MC20
menter caerdydd Hyrwyddo’r Gymraeg yng Nghaerdydd ers 20 mlynedd! 20 years of promoting the Welsh language in Cardiff!
Clybiau Plant / Kids Clubs
Oedolion / Adults
Teulu / Family
Gofal Plant / Child Care
www.mentercaerdydd.cymru @mentercaerdydd
Gweithgareddau Gwyliau / Holiday Activities
R I A F F FWYL TA L Y W F TA IR M I D D M DA FA A Y I D E NTR N Y E M E FRE
Hoffai Menter Caerdydd gydnabod cefnogaeth hael Prif Noddwr Tafwyl, Prifysgol Caerdydd. Menter Caerdydd gratefully acknowledges the generous support of Tafwyl’s Main Sponsor, Cardiff University.
SADWRN / SATURDAY: 30.06.18 / 11.00 - 21.00 SUL / SUNDAY: 01.07.18 / 11.00 - 21.00 CASTELL CAERDYDD CARDIFF CASTLE 19
Noddir yr ardal fwyd gan Wriggle Street Food Sponsored by Wriggle Noddir ardal y bar gan Brains Bar Area Sponsored by Brains
BWYD A DIOD / STREET FOOD Mae ardal fwyd Tafwyl yn ŵyl yn ei hun, gyda mwy o stondinau bwyd stryd nag erioed o’r blaen a digonedd o fariau. O fwyd stryd Thai, Indiaidd a Groegaidd, i brydau llysieuol a fîgan maethlon, a digon o opsiynau o bwdinau blasus… mae rhywbeth at ddant pawb!
The Street Food Area is a festival within a festival! A foodie’s paradise with more street food stalls than ever before and plenty of bars. From authentic Thai, Mexican and Greek street food to wholesome vegetarian and vegan dishes, and plenty of delicious desert options… there’s something to tempt everyone at this year’s event.
BWYD / FOOD •
Grazing Shed – Byrgyrs wedi eu creu o gynhwysion Cymreig lleol / Gourmet burgers made from quality locally sourced Welsh ingredients
•
Tukka Tuk – Bwyd stryd Indiaidd arbennig gan Purple Poppadom / Cardiff’s Purple Poppadom restaurant will be creating mouth watering Indian dishes in their Tuk Tuk inspired van.
•
•
20
Meat and Greek – Bwyd stryd Groegaidd wedi ei weini’n boeth, yn syth oddi ar y siarcol / Authentic Greek street food served hot off the charcoals Brother Thai – Stondin Thai o strydoedd Bangkok Cymru / Thai street food the streets of Bangkok to South Wales
fwyd stryd i ganol De pop-up from the heart of
•
Ffwrnes – Pizzas Neopolitanaidd tân coed wedi eu hysbrydoli gan Gymru a’r Eidal / Wood-fired Neopolitan style pizzas with Welsh-Italian inspired toppings
•
Bodlon – Salad lliwgar a brechdanau ffres / Innovative salads and freshlymade sandwiches
•
Fritter Shack – Bwyd fîgan a llysieuol maethlon sy’n defnyddio’r cynhwysion gorau o Gymru / Wholesome vegan and veggie food using the finest and freshest ingredients from Wales
•
Welsh Creperie Co. – Crèpes melys a sawrus blasus, gan gynnwys opsiynau llysieuol / Gourmet sweet and savoury crepes, including vegetarian options
•
Kitchy - Prydau plant a thatws pôb / Jacket potatoes, wraps & kids meals
•
Fablas – Hufen Ia a sorbet a dwsinau o wahanol flasau anhygoel / Artisan ice cream and sorbets in dozens of delicious flavours
•
Hard Lines Coffee – Coffi ffres a chacennau cartref / Delicious freshly ground coffee and home-baked cakes
•
Science Cream – Amrywiaethau o bwdinau blasus gan gynnwys brechdanau cwcis, Alasga pôb, conau candi-fflos a bomiau browni / Delicious dessert variations including cookie sandwiches, baked Alaskas, candy floss cones and brownie bombs
BARIAU
BARS
•
Prif Far – Bydd gan y prif far amrywiaeth eang o gwrw, lager, gwinoedd, gwirodydd a diodydd ysgafn i dorri syched yr ymwelwyr. Bydd amrywiaeth o gynnyrch Cymreig yn cael ei werthu gan gynnwys Cwrw Tafwyl (Tomos & Lilford) sy’n cael ei fragu’n arbennig, Brains, Cwrw Llŷn, Gower Brewery a Wrexham Lager.
•
Main Bar – The main bar will keep visitors hydrated with a large range of ales, lagers, wines, spirits and soft drinks. The bar will be selling a range of Welsh produce including Tafwyl’s exclusively brewed Cwrw Tafwyl (Tomos & Lilford), Brains, Cwrw Llŷn, Gower Brewery and Wrexham Lager.
•
Bar Coctel Milgi – Coctels creadigol gyda ffocws cadarn ar flas naturiol
•
•
Cavavan – Mae’r garafán seicadelig hon o’r 70au wedi cael ei thrawsnewid i greu bar sy’n gwerthu Cava, Prosecco a Champagne
Milgi Cocktail Bar – Milgi’s distinctive style keeps things simple yet creative with a firm focus on natural flavours.
•
Cavavan – This psychedelic 70’s caravan has been lovingly converted into a pop up bar selling Cava, Prosecco and Champagne
21
PRIF LWYFAN / MAIN STAGE Noddir gan BBC Radio Cymru / Sponsored by BBC Radio Cymru
SADWRN / SATURDAY 30.06.18 EDEN Mae’r dair ffrind o Glwyd; Non, Rachael ac Emma wedi bod yn canu gyda’i gilydd ers dyddiau’r ysgol. Dros ugain mlynedd ers i Eden ffrwydro ar y sîn bop Gymraeg gada’r glasur ‘Paid a Bod Ofn’, mae nhw’n ymuno gyda ni yn Tafwyl eleni eto!
Eden stormed onto the Welsh pop scene in 1996 with their huge hit ‘Paid a Bod Ofn’. The three friends from Clwyd, Non, Rachael and Emma have been signing together since school, and now, over 20 years since Eden formed – they are coming back to Tafwyl for another epic performance!
BAND PRES LLAREGGUB Band Pres Llareggub, o fynyddoedd bytholwyrdd Eryri, yw’r band pres cyntaf i ddwyn safle ar siart C2 y BBC. Ni welwyd y fath beth o’r blaen yn hanes cerddoriaeth fodern Gymreig – dyma grwp sydd yn cyfuno’r hen a newydd mewn ffordd gwbl wahanol!
Emulating to the age-old tradition of brass bands from the slate mining villages of North Wales, Llareggub Brass Band arise from the ashes of the past and bring with them an immense dose of heavy brass!
LLEDEN Wedi’u hysbrydoli gan ‘Late Night Pop Dungeon’ Charlotte Church, bydd Lleden yn chwistrelliad o glitter a hwyl ar y Brif Lwyfan unwaith eto eleni!
Inspired by ‘Charlotte Church’s Late Night Pop Dungeon’, Lleden will bring an injection of glitter, fun and fantastic music to the Main Stage again this year!
MEIC STEVENS Does dim angen cyflwyniad i’r canwr enwog o Solfach – Meic Stevens yw un o ffigyrau mwyaf eiconig y byd canu cyfoes Cymraeg. Mae Meic Stevens yn parhau i’n diddanu ni ac yma yn Tafwyl a cewch gyfle i brofi talent yr athrylith a’i fwynhau unwaith eto.
22
This Welsh hero from Solva needs no introduction; he is one of the most iconic figures of the world of contemporary Welsh music. Meic Stevens continues to entertain, charm and captivate; and at Tafwyl you will get the opportunity to experience and enjoy the talent of the genius once again.
CHROMA Triawd ‘Alt Rock’ o Bontypridd yw Chroma, sydd wedi cael ei hysbrydoli gan fandiau fel Marmozets, Biffy Clyro a Reuben. Mae’r band wedi chwarae mewn sawl gŵyl fawr gan gynnwys Gŵyl Rhif 6 a Llwyfan BBC Introducing yn Reading a Leeds.
Chroma are an ‘Alt Rock’ Trio from Pontypridd. Fresh from BBC’s Biggest Weekend, don’t miss their lively performance at Tafwyl. Inspired by bands like Marmozets, Biffy Clyro and Reuben, Chroma have played at large festivals including Festival No. 6 & the BBC Introducing Stage at Reading and Leeds.
OMALOMA Pop hypnotig, arallfydol o Eryri. Omaloma yw Siôr Amor, Llyr Pari, Dafydd Owain, Gruff Ab Arwel ac Alex Morrison.
Hypnotic, otherworldly pop music from Snowdonia. Omaloma are Siôr Amor, Llyr Pari, Dafydd Owain, Gruff Ab Arwel & Alex Morrison. 23
ADWAITH Band ôl-roc, ôl-pync o Gaerfyrddin yw Adwaith, sef Gwenllian, Hollie a Heledd. Mae holl ganeuon Adwaith yn creu perthynas uniongyrchol â’r gwrandawr. Pŵer merched!
Adwaith is a post rock, post-punk girl band from Carmarthen. Gwenllian, Hollie and Heledd. As with all Adwaith’s songs, they instinctively forge a direct emotional connection with the listener. Girl Power!
ALUN GAFFEY Ar ôl i Alun Gaffey ryddhau ei albwm gyntaf fel artist unigol nôl yn 2016, fe aeth ati i roi grŵp o gerddorion profiadol at ei gilydd er mwyn perfformio’r caneuon yn fyw. Enw’r band yw Ultra Dope, a mae nhw nol eleni i chwarae cyfres o gigs. Mae Alun yn gweithio ar ei ail albym ar hyn o bryd.
After Alun Gaffey released his first solo album back in 2016, he put together a group of seasoned musicians to play the songs live. The band is called Ultra Dope, and they’re back this year to play a series of gigs. Alun is currently working on his second album.
FLEUR DE LYS Yn ôl Fleur De Lys, band o Fôn, eu hathroniaeth nhw yw gwneud i “bob noson o’r wythnos deimlo fel nos Sadwrn”. Nid o ran crwydro’n igam-ogam o gwmpas clwb nos orlawn, ond o ran bod gan eu cerddoriaeth deimlad o ryddid, o bosibiliadau ac o lawenydd, fel y gerddoriaeth roc a rôl orau.
Anglesey’s Fleur De Lys say that their philosophy is to make “Saturday night every night of the week”. Not in the sense of hedonistic stumbling around a heaving nightclub, but in the sense that their music has a real sense of freedom, possibilities and joy to it, in the spirit of the best rock ’n’ roll.
Y GERDDORFA UKULELE GYMREIG Gyda dros 40 o aelodau erbyn hyn, mae’r Gerddorfa Ukulele yn mynd o nerth i nerth. Sefydlwyd y gerddorfa yn 2013 tra’n cyfarfod yn wythnosol yng Nghaerdydd dan arweiniad Mei Gwynedd a Menter Caerdydd. Maent yn perfformio yn fyw pob hyn a hyn yng Nghaerdydd a’r cyffiniau. Dyma’r pedwerydd tro i’r gerddorfa berfformio yng Ngŵyl Tafwyl. Da ni’n lwcus iawn!
24
With over 40 members, the Ukulele Orchestra is going from strength to strength. The orchestra was formed in 2013 with weekly meetings in Cardiff led by Mei Gwynedd and Menter Caerdydd. They have been performing as an orchestra around Cardiff on a regular basis. This is the fourth year the orchestra will be performing at Tafwyl and we are super excited to see them on the main stage!
DJ DILYS O lethrau Cwm Gynfelyn i strydoedd Grangetown, mae casgliad eclectic Dilys yn siwr o lenwi unrhyw barti â thonic i draed diflas a moddion dawnsio, o hip hop a soul, i funk a disco. Ar ôl ymddangos yng Ngŵyl Sŵn a Gŵyl Cam eleni, yn ogystal â chlybiau o amgylch Caerdydd, mae’n amlwg erbyn hyn os yw parti’n un da, mae’n un Dilys.
From the Valleys of Cynfelyn to the streets of Grangetown, DJ Dilys’s collection of tunes are a tonic for bored feet. He promises to fill any party with all kinds of dance moves from hip-hop and soul, to funk and disco. After appearing at ‘Sŵn’ and ‘Cam’ Festival last year, and DJ’ing at clubs around Cardiff, it is clear that if the party’s good, it’s Dilys’ party!
IAN COTTRELL Un o DJs preswyl Clwb Ifor Bach sydd hefyd yn un o sylfaenwyr ‘Dirty Pop’ - parti nos Sadwrn gorau Caerdydd!
Ian Cottrell is a resident DJ at Clwb Ifor Bach and also one of the founders of ‘Dirty Pop’ – the best Saturday night party in Cardiff!
25
DYDD SUL / SUNDAY 01.07.18 BRYN FÔN Mae Bryn Fôn yn un o gewri’r byd adloniant Cymraeg, a’i dalent fel perfformiwr ac actiwr yn ategu ei ddoniau lleisiol. Daeth i amlygrwydd yn gyntaf fel canwr Crysbas, ac yna’n ddiweddarach fel prif ganwr Sobin a’r Smaeliaid. Erbyn hyn, mae’n ymddangos yn rheolaidd ar lwyfannau Cymru gyda’i fand ei hun. Rydym yn edrych ymlaen i’w groesawu ‘nôl eto eleni!
No history of the Welsh rock scene would be complete without Bryn Fôn. As frontman of Crysbas and Sobin a’r Smaeliaid, he helped make the scene popular for the masses, with his talents as an actor and showman complementing his considerable vocal talents.
CANDELAS Mae un o fandiau amlycaf y sîn roc Gymraeg yn dychwelyd i Brif Lwyfan Tafwyl gyda’u cerddoriaeth indi roc bywiog. Mae dilyniant Candelas wedi tyfu yn aruthrol wedi rhyddhau eu hail albwm ‘Bodoli’n Ddistaw’.
One of the most prominent bands of the Welsh rock scene return to Tafwyl, bringing magical indie rock melodies with a touch of the blues to the main stage.
DANIEL LLOYD A MR PINC Fe wnaeth Daniel Lloyd a Mr Pinc ail-ffurfio yn 2017! Daeth y band nôl at ei gilydd, ychydig yn hŷn ac aeddfetach – ond gyda sŵn ac egni ffres wedi 7 mlynedd o seibiant. Rhyddhawyd y sengl ‘Mesur y Dyn’ cyn cael haf prysur arall o gigio blwyddyn diwethaf, efo mwy i ddilyn yn 2018 a thu hwnt.
Daniel Lloyd a Mr Pinc re-formed in 2017. With a fresh sound and new found energy the band released the single ‘Mesur y Dyn’ before having a busy summer of gigging last year, with much more to come in 2018.
COWBOIS RHOS BOTWNNOG Rydym yn edrych ‘mlaen at gael ein hudo gan y tri brawd o Ben Llŷn ar Brif Lwyfan Tafwyl eto eleni. Yn ogystal a’u deunydd eu hunain, mae’r band yn aml yn perfformio addasiadau hyfryd o alawon traddodiadol.
26
This hugely talented band play a blend of magical folk, country and rock music. As well as their own material, the band often perform enchanting covers of traditional Welsh Songs.
JAMIE SMITH’S MABON Un o fandiau gwerin mwyaf blaenllaw Cymru yn recordio ar gyfer albwm fyw newydd – dewch i fod yn rhan o’r gynulleidfa ar yr albwm!
If there’s one event you mustn’t miss this year, it’s the bubbly, dynamic, joyous Jamie Smith’s MABON!
NOGOOD BOYO Grŵp gwerin llawn egni gydag un neges i’r gynulleidfa; ‘Go loud or go home boyo!’
Folk band full of adrenaline and excitement with one message for all; ‘Go loud or go home boyo!’
27
VRÏ Triawd newydd yw Vrï sydd wedi dod ynghyd i gynrychioli Cymru a’i cherddoriaeth ar lwyfan y sîn ‘gwerin-siambr’ sydd yn ymddangos bob ochr i’r Iwerydd ar hyn o’r bryd. Maent yn cyfuno profiad Jordan Price Williams (Elfen) Patrick Rimes (Calan) ac Aneirin Jones, ac mae’r tri yn cyflwyno caneuon ac alawon o’r gwledydd Celtaidd a thu hwnt, tra’n ceisio gweddu egni sesiwn dafarn swnllyd efo ystryw a threfniannau cain pedwarawd llinynnol Fiennaidd.
Vrï are a brand new trio to represent Wales and its music in the fast-evolving world of ‘chamber-folk’. Bringing together the experience of Jordan Price Williams (cello) Patrick Rimes (violin, viola) and Aneirin Jones (violin) they play tunes and songs from the Celtic nations and beyond, attempting to combine the energy of a rowdy pub session with the style and finesse of the Viennese string quartet.
CADNO Band ifanc o Gaerdydd yw Cadno, sydd wedi bod gyda’i gilydd am dros dair blynedd nawr. Yn 2016, rhyddhawyd eu sengl gyntaf “Ludagretz’ ar label JigCal, ac ar ôl yr ymateb gwych, recordwyd tair cân newydd ‘Camau Gwag’, ‘Cyfeillion Agos, Cariadon Pell’ a ‘Haf’ fel sesiwn Radio Cymru.
Cadno are a local band from Cardiff, who have been together for just over three years. In 2016 the band released their first single “Ludagretz” with record label JigCal. The track had such a great response they set out to record 3 new songs; ‘Camau Gwag’, ‘Cyfeillion Agos, Cariadon Pell’ & ‘Haf’, released on Radio Wales.
Y CLEDRAU Ffurfiwyd Y Cledrau yn 2012 yn Ysgol y Berwyn. Rhyddhawyd eu albwm gyntaf – ‘Peiriant Ateb’ yn 2017, a chafodd ymateb anhygoel gan y cyhoedd. Mae eu calendr yn brysur lenwi â llwythi o gigs ar gyfer 2018.
Y Cledrau formed in 2012 in Ysgol y Berwyn with their first album being released in 2017. The young band’s calendar is filling by the minute with plenty of gigs for the rest of 2018.
DJ ELAN EVANS Cyfle i ddawnsio’n wirion i’r tiwns gorau yng Nghymru!
Elan will be playing the best songs from Wales’ music scene. Come dance and be silly!
DJ PYDEW / GARMON Cyfle i ddawnsio i gasgliad amryw o gerddoriaeth! O guriadau ffync i glasuron y SRG.
28
A chance to dance to a variety of music! From funky classics to SRG.
Y ‘SGUBOR
Noddir gan Clwb Ifor Bach Sponsored by Clwb Ifor Bach
SADWRN / SATURDAY 30.06.18 ALYS WILLIAMS A’R BAND Mae ‘na rai pethau sy’n mynnu glynu yn y côf. Mae clywed unrhyw gân sy’n cael ei chyffwrdd gan lais eneidiol Alys Williams yn un o’r rheini. Rydym yn edrych ‘mlaen i’w chael yn Tafwyl eleni.
There are some things that will stay in your memory forever. To hear any song that is touched by Alys Williams’ soulful voice is one of those. Alys has now established herself as a solo artist with a small group of musicians behind her. We are excited to see what she brings to Tafwyl.
ALED RHEON Yn hanu o Gaerdydd, trwy Gaerfyrddin a Llundain, mae caneuon Aled Rheon yn tynnu ar blentyndod yng nghefn gwlad Cymru yn gymysg â chariad a bywyd yn y ddinas. Fe osodir ei gerddoriaeth ar wahân gan urddas tawel ac unig; gyda’i lais atgofus, geiriau o’r galon ac arddull plycio unigryw yn ysgogi cymariaethau gyda cherddorion fel Nick Drake a Meic Stevens.
Hailing from Cardiff via Carmarthen and London, singer-songwriter Aled Rheon draws from a childhood spent in rural Wales combined with love and life in the city. Performing in both English and his native Welsh, a quiet, lonesome grandeur sets his music apart; with haunting vocals, heartfelt lyrics and a unique finger-picking style sparking comparisons to the likes of Nick Drake.
29
PATROBAS Patrobas yw Wil Chidley, Iestyn Tyne, Carwyn Williams a Gruffydd Davies, ac mae’r pedwar yn frodorion o ardal Pen Llŷn, Gogledd Cymru. Cafodd y band ei ffurfio dros dair blynedd yn ôl, ac yn dilyn rhyddhau eu EP cyntaf; ‘Dwyn y Dail’ yn 2015, mae’r band wedi mynd o nerth i nerth.
Patrobas are Wil Chidley, Iestyn Tyne, Carwyn Williams and Gruffydd Davies, and all four are natives to the Llyn Peninsula, North Wales. The band was formed three years ago, and following the release of their first EP, Dwyn y Dail in 2015, the group have gone from strength to strength.
LLEUWEN Mae cerddoriaeth yng ngwaed Lleuwen Steffan. Cafodd ei hyfforddi mewn cerddoriaeth glasurol gyda’i dylanwadau cynnar yn cynnwys Billie Holiday ac Ella Fitzgerald. Rydym yn falch iawn ei bod hi am berfformio yn Y ‘Sgubor eleni!
Singer/songwriter Lleuwen Steffan is forging a unique fusion of jazz and Welsh folk. We are thrilled to welcome hero to Tafwyl this year at Y ‘Sgubor!
PALENCO Palenco yw Llŷr Pari a Dafydd Owain. Mae Gruff ab Arwel, George Amor ac Osian Williams yn ymuno â nhw ar lwyfan. Dyma lein-yp sydd wedi perfformio a chyfansoddi i nifer o fandiau eraill gan gynnwys Jen Jeniro, Sen Segur, Y Niwl, Candelas, Eitha Tal Ffranco a Cowbois Rhos Botwnnog.
Palenco are Llŷr Pari and Dafydd Owain. They are joined on stage by Gruff ab Arwel, George Amor and Osian Williams, all of whom have performed and composed for numerous other acts including Jen Jeniro, Sen Segur, Y Niwl, Candelas, Eitha Tal Ffranco and Cowbois Rhos Botwnnog.
MABLI TUDUR Mae Mabli a’r band wedi bod gyda’i gilydd ers dros flwyddyn nawr ac wedi joio’r holl gyfleoedd y mae nhw wedi eu cael i berfformio ynghyd o amgylch Cymru.
Mabli and the band have been together for over a year now and have enjoyed and embraced every opportunity they’ve had to perform all over Wales.
DANIELLE LEWIS “Mae cerddoriaeth unigryw Danielle yn gwneud rhywbeth prin iawn yn y byd cyfansoddi - mae hi’n hyderus, hapus a llawen, mae ei chaneuon yn ysgafn, a’i gwên yn llenwi ‘stafell. Mae ganddi gynhesrwydd naturiol ac organig sy’n disgleirio trwy ei cherddoriaeth.”- Bethan Elfyn, BBC Radio Wales
30
”Danielle’s unique music does something very rare in the singer-songwriter world – she exudes happiness and joy, her songs are light, her smile fills the room. She has a rare and organic natural warmth that shines through the music. Where most wallow, she soars.” – Bethan Elfyn, BBC Radio Wales
DYDD SUL / SUNDAY 01.07.18 TECWYN IFAN Yn wreiddiol o Dde Orllewin Cymru, bu Tecwyn Ifan yn aelod o’r grŵp Perlau Taf yn y 60au, ac yn nechrau’r 70au roedd yn un o aelodau gwreiddiol Ac Eraill. Dechreuodd ganu ar ei ben ei hun 1975, ac mae’n dal i greu a pherfformio hyd heddiw. Mae’n bleser croesawu’r arwr i Tafwyl am y tro cyntaf erioed.
Originally from South West Wales, Tecwyn Ifan first started recording with the group Perlau Taf in the 60s, then in the early 70s he was o founding member of Ac Eraill. He started singing solo in 1975 and he still composes and performs to this day. We can’t wait to welcome Tecwyn Ifan to Tafwyl for the first time.
THE GENTLE GOOD Enw llwyfan Gareth Bonello, y canwr o Gaerdydd yw The Gentle Good. Mae Gareth wedi ei ddylanwadu gan gerddoriaeth a thraddodiadau gwerin Cymru, ac yn eu defnyddio gyda syniadau o hyd a lled y byd i greu cerddoriaeth newydd yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Gareth Bonello, the singer from Cardiff is mostly known by his stage name: The Gentle Good. Gareth has been influenced by traditional Welsh folk music, and combines these influences with other sounds from across the world to create new music in Welsh and English.
31
WELSH WHISPERER A HYWEL PITTS Arglwydd canu gwlad Cymru, Welsh Whisperer ac Hywel Pitts y digrifwr cerddorol sy’n perfformio ei frand unigryw o ganeuon amserol a phryfoclyd.
Country folk pop legend the Welsh Whisperer is joined by Hywel Pitts, a musical comedian who performs his unique brand of topical and provocative songs.
GAI TOMS Gai Toms, canwr-gyfansoddwr o Fro Ffestiniog, Eryri. Mae ei albwm ddiweddarf ‘Gwalia’ (Sbensh 2017) yn gasgliad o ganeuon sy’n herio’r enaid yn ogystal a’r drefn! Dewch i’r ‘Sgubor am groestoriad cyfoethog o’i ganeuon, hen a newydd, a hynny gyda’r band.
Gai Toms, singer-songwriter from Bro Ffestiniog, North Wales. His latest album ‘Gwalia’ (Sbensh 2017) challenges the soul as well as the system! Join Gai Toms on a journey of old and new songs played played effortlessly with his band.
GLAIN RHYS Mae Glain wedi bod yn canu ers yn ifanc, ond ffurfiodd y band ar gyfer Brwydr y Bandiau yn Eisteddfod Genedlaethol 2016, ac ers hynny mae wedi mynd o nerth i nerth. Ar ôl rhyddhau ambell drac dros y flwyddyn ddiwethaf, mae albwm gyntaf Glain allan yn yr haf.
32
Glain Rhys formed her band in 2016 for the National Eisteddfod’s ‘Brwydr y Bandiau’, and she hasn’t looked back since. After releasing several tracks over the past year, her first album will be released over the summer.
PRYNHAWN GWERIN TAFWYL CWPWRDD NANSI Dyma’r ail flwyddyn i trac a Tafwyl gydweithio i gyflwyno goreuon gwerin newydd fel rhan o raglen yr ŵyl. Ar ôl sesiwn clocsio gyda Tudur Philips cewch wrando ar ddau fand, un newydd ac un hen yn ‘Sgubor Tafwyl. Yn gyntaf daw Alaw i’r llwyfan yn hyrwyddo eu hail albwm Dead Man’s Dance. Triawd newydd o Gymru gydag aelodau o Jamie Smith’s Mabon a Celtic Guitar Journeys sydd yn adeiladu cynulleidfaoedd mawr led led y byd trwy berfformiadau hudol, cyffrous ac herfeiddiol yw Alaw. Am ragor amdanynt, cerwch i www.alaw-band.com
We finish our feature with the welcome return of Yr Hwntws. Specialising in tribannau, songs of our industrial past, and sung in Gwentian, the true dialect of Industrial South Wales, Gregg Lynn has built a formidable group of musicians who turn their six piece line up into an orchestra.
Yna bydd yr Hwntws yn cyflwyno hen alawon De Cymru, tribannau serch a sarhad, storiau marwolaeth, cariad a mwy, i gyd yn yr hen Wenhwyseg sef tafodiaeth y Glowyr. Mae Gregg Lynn yn dod â chriw o gerddorion sydd yn troi’r chwechawd i gerddorfa werin. ------------------------------------This is the second year that trac and Tafwyl have brought the best of contemporary folk music to the festival. After Tudur Philips’ workshop where you can have a go at traditional Welsh clog dancing, you can listen to two bands at Y ‘Sgubor. Onstage first are Alaw promoting their new album Dead Man’s Dance. A new trio, featuring members of Jamie Smith’s Mabon and the Celtic Guitar Journeys, Alaw are building a massive following around the world by delivering outstanding performances of our traditional songs and tunes. You can find out more about them at www.alaw-band.com
33
LLWYFAN Y PORTH
Noddir gan For Cardiff Sponsored by For Cardiff
Llwyfan perfformio tu allan i furiau Castell Caerdydd. Ymysg y perfformwyr bydd:
A performance space outside Cardiff Castle. Amongst the performers are:
BASS 12 Band pres ‘Riot Jazz’ bywiog wyth darn sy’n dod â blas o New Orleans i Gaerdydd!
A lively eight piece ‘Riot Jazz’ brass covers band; full of beans, straight outta New Orleans!
NANTGARW Band ifanc bywiog o gerddorion talentog sy’n mwynhau perfformio alawon traddodiadol Cymreig mewn ffordd gyfoes ynghyd â chlocsio cyffrous a chanu.
A lively young band of talented musicians who enjoy performing traditional Welsh melodies in a contemporary manner, together with exciting clog dancing and singing.
BAND PRES LLAREGGUB Band pres o lechweddi llwyd a llychlyd gogledd Cymru sydd yn perfformio cymysgedd lliwgar o Hip Hop a dawns electronaidd â sain unigryw’r band pres traddodiadol.
34
Llareggub Brass Band hail from a small town in North Wales and present a ferocious but flavoursome mix of Jazz and Hip Hop combined with a dash of Welsh Pop channeled by way of the age-old marching band tradition.
BARRACWDA Grŵp carnifal lliwgar, hapus, llawn bywyd yw Barracwda gyda dylanwadau o Frasil ac Affrica. Band llawn egni, sy’n siwr o’ch cael chi i ddawnsio.
The carnival never stops for this Brazilian afro-percussion group. The band encapsulates the carnival spirit, taking all the colour, energy and rhythms of Brazil wherever they go. Perfect for dancing in the sunshine like you just don’t care!
WONDERBRASS Mae band pres mwyaf swnllyd Caerdydd yn dathlu 25 mlynedd o wneud cerddoriaeth yn Ne Cymru a thu hwnt eleni! Mae Wonderbrass yn ‘ffrwydrad sain’ sy’n dod â chymysgedd o jazz, ska, funk a hwyl New Orleans i Tafwyl eleni.
This year, Wonderbrass, Cardiff’s biggest, boldest, brassiest band, celebrate 25 years of making music in South Wales and beyond! Wonderbrass are an ‘explosion of sound’ bringing a mixture of New Orleans jazz, ska, funk and fun to this year’s Tafwyl.
SESIWN WERIN Sesiwn jamio gyda cherddorion ifanc cyffrous y sîn werin, gan gynnwys aelodau Calan, Vrï a Pendevig.
Folk jamming session with some of Wales’ most exciting folk artists, including Calan, Vrï & Pendevig band members.
RT DIXIEBAND Band jazz traddodiadol sydd yn cyfuno caneuon traddodiadol, poblogaidd a gwerin Cymreig gyda rhythmau traddodiadol jazz Dixieland New Orleans.
A jazz band that combine traditional Welsh pop and folk songs with Dixieland jazz rhythms from New Orleans.
35
BYW YN Y DDINAS / CARDIFF LIFE Yurt llawn trafodaethau panel, sesiynau holi ac ateb, straeon a chomedi. Ymysg y sesiynau bydd:
A Yurt full of Q & A sessions, discussion panels, stories and comedy.
BETI GEORGE YN HOLI ELFED EISTEDDFOD Sgwrs rhwng Beti George a Phrif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol ers 1993, Elfed Roberts. Cyn hynny bu’n drefnydd y Brifwyl yn y Gogledd rhwng 1986 a 1993 - cawn glywed sut mae’r Eisteddfod wedi datblygu dros y tri degawd diwethaf. Diwedd mis Awst bydd yn ymddeol, gobeithio gwella fel golffiwr a rhoi mwy o sylw i Eirian ei wraig! Hanesion a straeon bydd yn sicr weth eu clywed!
Beti George chats to Elfed Roberts, Chief Executive of the National Eisteddfod since 1993. Elfed started his career at the Eisteddfod over 30 years ago – here’s an opportunity to hear how the Eisteddfod has developed over the last three decades. At the end of August he will retire, spend more time on the golf course, and spend some quality time with his wife Eirian! A Q&A session full of anecdotes and stories that will certainly be worth hearing!
OES YNA LE I GELF GWELEDOL YNG NGHYMRU? DOES PERFORMANCE ART HAVE A PLACE IN WALES? Ydy’r math yma o gelf gweledol wastad am fod ar y cyrion? Yn mynd yn anghof rhywle ar y ffordd rhwng y Cwt Drama a’r Lle Celf ac yn gelf i’r Cymry di-Gymraeg yn y Brifddinas yn unig? Drwy drafod y sîn gelf gweledol yng Nghaerdydd fel ac y ma’ hi heddiw, gobeithiwn ddethol a oes modd sefydlu llwyfan iddi yn y Gymraeg yn y Brifddinas? Ynteu ar y cyrion y mae ei lle hi? Trefnir y sesiwn gan Elin Meredydd
Will performance art always be the runt of the litter of contemporary art in Wales? Is there room for it in the mainstream? Will it continue to get lost somewhere on the way from the ‘Cwt Drama’ to the ‘Lle Celf’ and only mostly seen by non-Welsh speaking audiences in the Capital? By discussing the art scene in Cardiff as it stands today, what possibilities are there of establishing a Welsh language platform for performance art in Cardff? Is it even necessary, or does it belong on the outskirts, forever in the shadows? Organised by Welsh artist, Elin Meredydd
AR Y RECORD / ON THE RECORD Beth yw’r gwahaniaeth yn y gerddoriaeth mae Cymry yn dewis ar gyfer Beti a’i Phobol a Desert Island Discs? Beti George sy’n trafod hyn gyda Dr Sarah Hill o Brifysgol Caerdydd. 36
What’s the difference between the music people choose when they appear on Beti a’i Phobol and its equivalent in English Desert Island Discs? Beti George discusses with Dr Sarah Hill from Cardiff University.
CONNIE ORFF Wedi’i hyfforddiant yn y Royal Vauxhall Tavern - Ysgol Glanaethwy y byd Drag - daw Connie Orff i Tafwyl gyda llond ei phwrs o gomedi a chaneuon am sesiwn wych o cabaret dwyieithog... a mwy! Beth bynnag fo’ch mamiaith, chi’n sicr o joio hiwmor unigryw Connie, gyda chaneuon cyfarwydd ar eu newydd wedd. “Wylit wylit Lywelyn... Wylit waed pe gwelit hon...” Clecs y Cwm, 1999
Having trained at London’s Royal Vauxhall Tavern - the RADA of Drag - Welsh Drag LL-ensation Connie Orff brings you a brilliantly bilingual musical comedy session in two languages... Perhaps more! Whatever your native tongue, you’ll love Connie’s Orff-the-cuff brand of humour, stories and songs.
LASYS ENFYS / RAINBOW LACES Faint o broblem yw homoffobia, deuffobia a thrawsffobia yn y byd chwaraeon heddiw? Dewch i glywed am ymgyrch Lasys Enfys Stonewall Cymru. Dyma’r ymgyrch sydd yn ceisio gwneud chwaraeon yn gêm i bawb. Sgwrs ddifyr yng nghwmni rhai o gefnogwyr a chyfranogwyr ym myd chwaraeon Cymru er mwyn trafod a yw cynrychiolaeth lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws ym maes chwaraeon yn parhau i fod yn broblem hyd heddiw. Trefnir gan Stonewall Cymru.
How much of a problem is homophobia, biphobia and transphobia in today’s sports? Come and find out about Stonewall Cymru’s Rainbow Laces campaign. This campaign aims to make sport a game for everyone with interesting talks from some of Wales’s supporters and sports players to discuss whether lesbian, gay, bisexual and trans sporting representation continues to be a problem today. Organised by Stonewall Cymru.
PRIFDDINAS BLE? Y GYMRAEG A CHYNLLUNIO YNG NGHAERDYDD / THE WELSH LANGUAGE AND PLANNING IN CARDIFF Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig, a’r Cyngor wedi datgan ei fwriad i ddatblygu’r ddinas ymhellach. Ond pa le sydd i’r Gymraeg a chymunedau’r ddinas yn y cynlluniau hyn? Dewch i drafod sut gallwn greu prifddinas gall Cymru oll fod yn falch ohoni. Trefnir gan Cymdeithas yr Iaith.
Cardiff is one of the fastest growing cities in the UK, and the Council has stated its intention to further develop the city. But where does the Welsh language and the city’s communities sit in these plans? A discussion on how we can create a capital that the whole of Wales can be proud of. Organised by Cymdeithas yr Iaith.
GEIRIAU TYWYLL / DARK WORDS Lansiad Y Düwch (Y Lolfa), nofel noir gan Jon Gower wedi ei leoli yn Ne Cymru sy’n llawn llofruddiaethau tywyll, gangiau o Albania a chynnwrf gwleidyddol.
The launch of Jon Gower’s new noir novel Y Düwch (The Darkness) set in South Wales. An edgy tale of Albanian gangsters, serial killings and political upheaval. 37
SUT GALL DYSGU CYMRAEG DDWBLU ELW EICH BUSNES! / HOW LEARNING WELSH CAN DOUBLE YOUR BUSINESS PROFIT! Mewn cyfnod byr o ddwy flynedd mae doopoll wedi dennu rhestr amlwg o gwsmeriaid bydeang, ond yn agosach at adref defnydd doopoll o’r iaith Gymraeg sy’n sicrhau llwyddiant lleol. Bydd Steve Dimmick yn siarad drwy’r heriau a’r penderfyniadau mae ei fusnes wedi eu gwynebu i ganiatáu denu defnyddwyr. Sesiwn bydd yn rhoi gwerth i unrhyw un sy’n rhedeg busnes eu hunain, yn enwedig os yw’r cwmni’n un gweddol newydd.
A Welsh Learner himself, Steve Dimmick presents a session that will hopefully provide value for anyone who runs their own business, especially if that company is a start-up. In their first 2 years doopoll have brought in an enviable list of global clients, but closer to home the use of the Welsh language has been the cornerstone of their local success. Steve will talk through the challenges and decisions his business has faced and taken to allow them to bring onboard significant clients.
‘Y WAWR’ DATHLIAD O NEWYDDIADURIAETH YN Y GYMRAEG / ‘Y WAWR’ A CELEBRATION OF WELSH JOURNALISM. Yn dilyn cyhoeddiad 200fed rhifyn ‘Y Wawr’, dyma gyfle i drafod gohebu a newyddiaduriaeth gan ac i fenywod yn Gymraeg yng Nghymru heddiw. Ceir panel o fenywod sydd â phrofiad helaeth yn y maes, gan gynnwys Golygydd newydd y Wawr. Trefnir gan Merched y Wawr.
Following the publication of the 200th edition of the ‘Y Wawr’, this is an opportunity to discuss correspondence and journalism by and for women in Welsh in present day Wales. There will be a panel of women with extensive experience in this field, including the new Editor of ‘Y Wawr’. Organised by Mercher y Wawr.
Y BARDD HIP HOP / THE HIP HOP POET Bydd y bardd a’r rapiwr poblogaidd Aneirin Karadog yn trafod pêl droed, hip-hop a chariad brwd at eiriau gyda Jon Gower.
The popular poet and energetic rapper Aneirin Karadog talks football, hip-hop and his fierce love of words with Jon Gower.
HEDDWCH YN Y DDINAS / PEACE IN THE CITY Mae gan Gaerdydd hanes hir a pharchus o hybu heddychiaeth. R. Alun Ifans sy’n trafod yr hanes gyda Jon Gower wrth i lyfr newydd ymddangos ar y pwnc.
38
Cardiff has a long and honourable tradition of promoting pacifism. R. Alun Ifans discusses this history with Jon Gower ahead of the publication of a new book on the subject.
A OES ANGHYFARTALEDD? CAN MLYNEDD ERS I RAI MENYWOD GAEL Y BLEIDLAIS? / IS THERE INEQUALITY? A HUNDRED YEARS SINCE SOME WOMEN GOT THE VOTE? Cyfle i holi, herio, rhannu, adlewyrchu a cwestiynu syniadau am fenywod dros y ganrif ddiwethaf gan fenywod o Gymru heddiw. Bydd panel o fenywod yn rhoi eu barn a dehongli hanes ac yn ceisio rhoi awgrymiadau am y ffordd ymlaen i’r ganrif nesa’. Trefnir gan Merched y Wawr
An opportunity to question, challenge, share, reflect and question ideas about women during the last century from women in Wales today. A panel of women will give their views, interpret history and try to give suggestions for the next century. Organised by Merched y Wawr.
VAUGHAN RODERICK Bydd y Vaughan blogio, William
gohebydd a’r sylwebydd gwleidyddol Roderick yn trafod testunau megis dilyn helyntion y Senedd ac emynau Williams Pantycelyn.
The doyen of Welsh political journalists, Vaughan Roderick will be discussing everything from blogging, keeping tabs on the politics of Cardiff Bay to the hymns of William Williams Pantycelyn.
CWIS POP BACH MISTER POTTER! MISTER POTTER’S MINI POP QUIZ! Rownd lluniau, rownd sain, rownd gyffredinol ac un rownd bingo = CWIS POP BACH MISTER POTTER! Dewch i ffurfio tîm neu i gystadlu ar eich pen eich hun er mwyn profi’ch gwybodaeth o bop Cymraeg dros yr hanner canrif ddiwethaf! Cyfle i ennill anrhegion a gwobrau ANHYGOEL!
One picture round, music round, general knowledge round & bingo round = MISTER POTTER’S MINI POP QUIZ! Test your Welsh pop knowledge on your own or as a team, for a chance to win some amazing prizes!
39
Y LOLFA LÊN
Noddir gan Academi Hywel Teifi Sponsored by Academi Hywel Teifi
Mae Y Lolfa Lên yn cael ei threfnu gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe
Y Lolfa Lên is run by Literature Wales with support from Academi Hywel Teifi, Swansea University
TRWY’R PENWYTHNOS MURLUN MAWREDDOG TAFWYL Galwch heibio dros y penwythnos i ysgrifennu cerdd fach gyda ni a’i gweld yn dod yn fyw o flaen eich llygaid! Bydd yr awdur, cyflwynydd teledu a’r cartwnydd o’r Rhondda, Siôn Tomos Owen, yn defnyddio eich cerddi fel ysbrydoliaeth ar gyfer creu murlun
mawreddog dros y deuddydd. Bydd Casia Wiliam Bardd Plant Cymru yno ar y dydd Sadwrn, a’r bardd Eurig Salisbury wrth law i helpu chi greu cerddi drwy’r dydd Sul. Canllaw oed 5+. Trefnwyd ar y cyd gan Llenyddiaeth Cymru a’r Urdd.
ALL WEEKEND – TAFWYL’S MAGNIFICENT MURAL Drop in over the weekend to write a little poem with us and watch it come alive in front of your eyes! The author, television presenter and cartoonist from the Rhondda, Siôn Tomos Owen, will use your poems as inspiration for the creation of a magnificent mural
40
over the two days. Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru, will be on hand to help you create poems throughout Saturday, and Eurig Salisbury on the Sunday. 5+ age guide. Co-ordinated by Literature Wales and the Urdd.
SADWRN / SATURDAY 30.06.18 AWEN ABERTAWE Cyfle i glywed y Prifardd Tudur Hallam, y Prifardd Aneirin Karadog, Grug Muse a beirdd ifanc Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe yn cyflwyno eu cerddi ac yn trafod sut mae dysgu’r grefft.
An opportunity to hear Tudur Hallam, Aneirin Karadog, Grug Muse and the young poets of Swansea University’s Department of Welsh present their poems, and discuss how to learn the craft.
Trefnwyd gan Academi Hywel Teifi / Organised by Academi Hywel Teifi
Y TALWRN Bydd rhaglen arbennig o Y Talwrn (BBC Radio Cymru) yn cael ei recordio yn y Lolfa Lên. Dewch i weld eich hoff feirdd yn mynd benben â’i gilydd a cheisio swyno’r Meuryn Ceri Wyn Jones.
A special edition of Y Talwrn (BBC Radio Cymru) will be recorded at Y Lolfa Lên. Come and see your favorite poets competing against each other under the watchful eye of judge Ceri Wyn Jones.
CODI LLAIS Bydd Menna Machreth, golygydd y gyfrol ffeministaidd newydd Codi Llais (Y Lolfa), yn cadeirio sesiwn ar brofiadau merched yng Nghymru heddiw. Bydd nifer o’r cyfranwyr i’r gyfrol yn ymuno â Menna.
Menna Machreth, editor of new feminist publication Codi Llais (Y Lolfa), will chair a session on the experiences of women in Wales today. Many of Codi Llais’s contributors will also be joining Menna. Mewn cydweithrediad â gwasg Y Lolfa / In association with the Y Lolfa
RHYFEL TEULU CYMREIG Dr Gethin Matthews o Adran Hanes Prifysgol Abertawe yn trafod ei lyfr newydd sy’n casglu ynghyd lythyrau tri brawd o Abertawe a fu’n filwyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a’r hyn mae’r llythyrau’n eu datgelu am agwedd cymdeithas at hunaniaeth cenedlaethol, rhyfel, gwrywdod a chariad teuluol.
Dr Gethin Matthews of Swansea University’s History Department discusses his new book that brings together the letters of three brothers from Swansea who were First World War soldiers. Dr Matthews shares an insight into what the letters disclose about the attitude of society to national identity, war, masculinity and family love.
Trefnwyd gan Academi Hywel Teifi / Organised by Academi Hywel Teifi
41
DATBLYGU DRAMA NEWYDD Wyn Mason, enillydd y Fedal Ddrama a myfyriwr PhD yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, yn trafod crefft y dramodydd.
Wyn Mason, winner of the National Eisteddfod’s Drama Medal and PhD student in the Department of Welsh, Swansea University, discusses the craft of writing.
Trefnwyd gan Academi Hywel Teifi / Organised by Academi Hywel Teifi
DYDD SUL / SUNDAY 01.07.18 TU ÔL I’R GÔL Dr Simon Brooks o Academi Morgan Prifysgol Abertawe yn trafod ei lyfr newydd am bêldroed, cymdeithas a Chymru.
Dr Simon Brooks from Swansea University’s Morgan Academy discusses his new book about football, society and Wales.
Trefnwyd gan Academi Hywel Teifi / Organised by Academi Hywel Teifi
RHYDDHAU’R CRANC Bydd Malan Wilkinson yn trafod ei chyfrol newydd, Rhyddhau’r Cranc (Y Lolfa), ac yn sôn am ei phrofiadau gydag iselder, iechyd meddwl ac ymdopi â digwyddiadau anodd yn ei bywyd.
Malan Wilkinson discusses her new book, Rhyddhau’r Cranc (Y Lolfa), and talks about her experiences with depression, mental health and coping with difficult events in her life.
Mewn cydweithrediad â gwasg Y Lolfa / In association with the Y Lolfa
BEIRDD // BEATS Dangosiad o ffilmiau byrion Beirdd // Beats, a sgwrs gyda’r cynhyrchydd-gyfarwyddwr Griff Lynch. Mae Beirdd // Beats yn gyfres o ffilmiau byrion yn seiliedig ar gerddi cyfoes Cymraeg a gynhyrchwyd ar gyfer y platfform digidol Hansh.
Showing of Beirdd // Beats and conversation with producer and director Griff Lynch. Beirdd // Beats is a series of short films based on contemporary Welsh poems produced for S4C’s Hansh digital platform.
Mewn cydweithrediad ag S4C / In association with S4C
42
LLAIS Y LLUN Cywaith creadigol unigryw yn plethu gwaith celf y diweddar Aneurin Jones ac ysgrifennu Caryl Lewis. Trwy gyfres o 12 darlun a thrac sain, cewch eich cludo ar daith o gwmpas cefn gwlad gorllewin Cymru, a phrofi pobol y tir yn eu gogoniant a’u gwendid. Lleisiau pobl dalgylch Aberteifi sydd i’w clywed yn yr ymsonau, sgetsys a straeon byrion. Bydd rhai ohonynt yn ddarlleniadau byw o’r llwyfan. Bydd sgwrs yn dilyn y cyflwyniad, gyda mab Aneurin, Meirion Jones yn ymuno. Cafodd y prosiect ei gomisiynu’n wreiddiol gan Gŵyl y Cynhaeaf, Aberteifi, a dyma’r eilwaith yn unig iddo gael ei gyflwyno’n fyw. Cynhyrchwyd y traciau sain gan Wyn Jones a Lee Mason o Recordiau Fflach.
An unique creative project encompassing the artwork of the late Aneurin Jones and the writing of Caryl Lewis. Through a series of 12 drawings and a soundtrack, you will be transported on a tour of West Wales’ countryside. Voices of the people of Cardigan will be heard in a series of sketches and short stories - some of them live readings. A conversation will follow, with Meirion Jones, Aneurin’s son. The project was originally commissioned by Gŵyl y Cynhaeaf, and this is just the second time it has been introduced live. The sound tracks were produced by Wyn Jones and Lee Mason of Flash Recordings.
Mewn cydweithrediad â Gŵyl y Cynhaeaf / In association with Gŵyl y Cynheuaf
ENILLWYR LLYFR Y FLWYDDYN 2018 Yn dilyn seremoni fawreddog Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn y Tramshed, Caerdydd ar 26 Mehefin, bydd rhai o’r beirniaid a’r enillwyr yn cymryd rhan mewn trafodaeth a sesiwn cwestiwn ac ateb am eu gweithiau buddugol a’r broses o ddewis yr enillwyr.
Following the Book of the Year Award Ceremony at the Tramshed, Cardiff on June 26, some of the judges and winners will take part in a discussion and Q&A session on the selection process of the winners, as well as discussing the winning work.
43
YURT CANOLFAN MILENIWM CYMRU / WALES MILLENNIUM CENTRE YURT Dawnsiwch draw i yurt hudolus Canolfan y Mileniwm blwyddyn yma i gymryd rhan mewn sesiynau celf a chrefft i bawb o bob oed! Dewch am hoe fach sydyn o firi’r ŵyl neu am glonc canol prynhawn!
Dance on over to Wales Millennium Centre’s magical yurt at this year’s Tafwyl! Take part in craft sessions for all the family or take a little break from the hustle and bustle of the festival or pop in for a chat!
PABELL LLES / WELLBEING YURT Noddir gan Effectus HR / Sponsored by Effectus HR
Pabell newydd i’r maes eleni llawn sgyrsiau, demos a dosbarthiadau amrywiol i’w gwneud â lles meddyliol a chorfforol, a sut i fyw bywyd iach yn y ddinas. • • • • • • • • • • • • •
44
A new yurt to Tafwyl this year, filled with talks, demos and taster sessions from various health and wellbeing individuals and businesses from Cardiff. Immerse yourself in yoga & therapy and learn how to live a healthier life in the city.
Meddwlgarwch i blant gyda Shoo Reynolds / Mindfulness for children with Shoo Reynolds Gweithdy balans gyda Alecs Donovan / Balance workshop with Alecs Donovan Bwyta hapus ar gyfer oedolion a phlant gyda Rebecca Storch / Happy eating for children and adults with Rebecca Storch Meddyginiaethau naturiol gyda Angharad Evans / Natural remedies with Angharad Evans Byw bywyd iach gyda Cadi Fôn / Healthy living with Cadi Fon Lles yn y gweithle gyda Andrew Tamplin / Wellbeing at work with Andrew Tamplin Bwyta hapus i fyfyrwyr gyda Rebecca Storch / Happy eating for students with Rebecca Storch Yoga pen-tost gyda Tara Bethan / Hangover Yoga with Tara Bethan Emmett Technique gyda / with Bernie Wilson Corff lunio gyda Nia Ceidiog / Body building with Nia Ceidiog Tyfu’r dyfodol (Gerddi Cymru) gyda Steffan John / Growing the future (Garden of Wales) with Steffan John Cadwch Cymru’n Daclus / Keep Wales Tidy Darganfod Therapi Gestalt gyda Damian George / Discover Gestalt Psychotherapy with Damian George - what can it do for you?
YURT T Noddir gan Coleg Caerdydd a’r Fro Sponsored by Cardiff & Vale College
Ardal ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau. Ardal ymlacio a yurt llawn gweithgareddau a gweithdai, gan gynnwys:
An area designated for teenagers. A chill out area and a yurt full of fun activities and workshops including:
• • • • •
•
• • •
Salon Mirela – Salon Glitter a Cholur Criw Brwd – Gweithdy Drama Bŵth Lluniau Guest Who Gweithdai a clwb Ukulele Hyll | Los Blancos | Bethany Celyn | Eady Crawford Ffracas | Serol Serol | Sybs | Wigwam Gweithdai Hula Hoop gyda Sparkles Hoop Troupe Bandiau Prosiect Ysgolion
• • • • • • • •
Salon Mirela – Glitter Parlour specialising in festival makeovers Criw Brwd – Drama Workshop Guest Who Photobooth Ukulele Music Workshop Hyll | Los Blancos | Bethany Celyn | Eady Crawford Ffracas | Serol Serol | Sybs | Wigwam Cardiff & Vale College Competitions and Demos Hula Hoop workshops with Sparkles Hoop Troupe School Bands Project
ARDAL CHWARAE BWRLWM! / BWRLWM! PLAY ZONE Dewch draw i greu, chwarae a mwynhau! • Sesiynau Garddio • Gweithdai Printio • Creu Pen-Wisg • Gweithdai RSPB • Creu Draig Bybls • Adeiladu Den • Gweithdai Creu Tîpis Brigau • Gweithdai Celf a Chrefft Sgrap • Celf Celtaidd Cyfoes Gyda Sarah a Medi
Come on over to create, play and get messy! • Bubble Dragon Making Workshop • RSPB Workshops • Head Dress Workshop • Den Building • Gardening Sessions • Tipi Twig Workshop • Scrap Material Arts & Crafts • Art with Sarah and Medi – Who are our modern Welsh warriors?
45
CWTSH BABIS / BABY YURT Noddir gan Feithrinfa Jiraff Gwyrdd Sponsored by Green Giraffe Nursery I’r plant meithrin bydd gweithgareddau trwy gydol y penwythnos wedi eu cydlynu gan Feithrinfa’r Jiraff Gwyrdd, meithrinfa organig dwyieithog yng Nghaerdydd i blant 0-5 oed. Dewch i fwynhau sesiynau creadigol, sesiynau stori, a gweithdai amrywiol. Cyfle i’r plant fwynhau mewn sesiynau paentio creadigol a chreu gloop. Bydd gweithdai creu byrbrydau iachus a blasus ac amser stori a chân. Bydd cyfle hefyd i ddianc o fwrlwm yr ŵyl yn y gornel ymlacio – lle bydd modd bwydo a newid mewn man tawel.
The Baby Yurt will be run by The Green Giraffe Nursery which is a bilingual, organic nursery for 0-5 year olds. There will be lots of fun and interesting activities for young children to take part in throughout the weekend with scheduled group sessions as well as open activities to pop in and take part in whenever you want. Let your child get messy with Body Painting, Gloop Making and Squirt Gun Painting sessions! Join in healthy snack making workshops, and storytime & song sessions. Get away from the hustle and bustle of the festival in the cosy chill out area, where a feeding station and baby changing unit are provided.
CWTSH MUDIAD MEITHRIN
46
Cewch groeso cynnes draw yng nghwtsh Mudiad Meithrin. Bydd cyfle i rieni a babis bach i gymryd rhan mewn sesiynau Arwyddo a Stori a Chân gyda swyddogion Cymraeg i Blant, felly byddwch yn barod i ganu rhigymau ac arwyddo yr un pryd!
You’ll find a warm welcome at our Mudiad Meithrin Cwtsh. Parents and babies can join us for Baby Sign and Story Sessions with our Cymraeg i Blant officers, please be prepared for plenty of singing and signing at the same time!
Bydd hefyd sesiynau Amser Cylch ar gyfer y plant meithrin fydd yn rhoi blas o’r gweithgareddau amrywiol y bydd eich plentyn yn ei wneud mewn darpariaeth Cylch Meithrin. Bydd ein swyddogion cefnogi hefyd ar gael i rannu gwybodaeth bellach gyda chi ar sut a phryd i gofrestru eich plentyn mewn Cylch Meithrin lleol.
We will also run ‘Amser Cylch Time’ sessions, which will demonstrate the different activities your child will be doing while being immersed in the Welsh language at a Cylch Meithrin setting. Our support officers will also be on hand to share information on how and when to register your child at a local Cylch Meithrin.
CHWARAEON / SPORTS Chwaraeon yr Urdd sydd yn cydlynu amserlen llawn dop o sesiynau pêl-droed, rygbi, golff, tenis athletau a hoci. Dewch i roi tro ar un o’r campau gyda:
• • •
Cymdeithas Bêl-droed Cymru / FAW Cardiff City Foundation Rygbi – Taro’r Targed / Rugby Target with the Urdd
The Urdd Sports Department are coordinating a full timetable of football, rugby, golf, tennis, athletics and hockey sessions. Coming along to say hello and run a few workshops are: • •
Golff Cymru Hoci Cymru
POPTY Noddir gan Equinox Communications Sponsored by Equinox Communications Dewch i flasu’r cynnyrch gorau o Gaerdydd a Chymru ym Mhabell Bwyd a Diod Tafwyl. Ymysg y sesiynau bydd: • • • • • • • •
Dusty Knuckle Pizza Wrights Wines Pant Du Cocorico Patisserie Imran Nathoo: Kitchen Clonc Dead Canary Cocktails Blogwyr Bwyd Caerdydd / Cardiff Food Bloggers Sarah Philpott ‘The Occasional Vegan’
Come and taste a selection of the finest Welsh produce in Tafwyl’s Food & Drink Marquee. Amongst the demonstrators are: • • • • • • •
Coctels Hufen Iâ Fablas / Ice Cream Cocktails Bragdy Harbwr Clwb Gin Caerdydd Tast Natur Veganish Mum Morflasus Llaeth a Siwgr
47
DYSGWYR / WELSH LEARNERS Ydych chi’n dysgu Cymraeg neu â diddordeb mewn gwella’ch Cymraeg? Os felly, dewch i Babell y Dysgwyr. Mae Dysgu Cymraeg, Prifysgol Caerdydd wedi trefnu amserlen arbennig ar gyfer dysgwyr o bob lefel.
Are you learning Welsh or would you like to find out more about it? If so, come to the Learners’ Tent. Learn Welsh, Cardiff University have organised a full timetable for learners of all levels.
Bydd Pabell y Dysgwyr yn llawn cyffro eto eleni gyda gwesteion arbennig ar y llwyfan, celf a chrefft i’r plant, stondin llyfrau Cant a Mil Vintage, a chaffi ar agor drwy’r dydd. Bydd llawer o gyfleoedd i ymarfer eich Cymraeg a chwrdd â dysgwyr eraill.
The Learners’ Tent will be full of excitement again this year with special guests on the stage, art and craft for the children, the Cant a Mil Vintage book stall, and a cafe open all day. There will be many opportunities to practise your Welsh and meet other learners.
Ar y dydd Sadwrn, cewch fwynhau gyda’ch plant yn ystod sesiwn Stori a Chân, clywed am gyfres o lyfrau newydd sbon i ddysgwyr a chwrdd â’r canwr Aled Rheon. Bydd cyfle i ddysgu am Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 a hefyd sesiwn am dafodieithoedd Cymraeg gyda darlithydd Prifysgol Caerdydd, Dr Iwan Rees. Dewch i holi cwestiynau i actorion Pobol y Cwm, ymuno â’r canu gyda Chôr Dysgwyr Caerdydd a mwynhewch sesiwn hwyl i ymarfer eich Cymraeg ar ddiwedd y dydd.
On the Saturday, you will be able to have fun with your children at the Welsh Rhymetime session, hear about a brand new series of books for Welsh learners and meet the singer Aled Rheon. There will be an opportunity to learn about the Cardiff National Eisteddfod in 2018, and also a session about Welsh dialects with the Cardiff University lecturer, Dr Iwan Rees. Come and listen to a question and answer session with the Pobol y Cwm actors and join us at the end of the day for some activities to practise your Welsh.
Ar y dydd Sul, cewch ddysgu mwy am yr awdur D. Geraint Lewis a’i lyfr newydd, DIY Welsh. Dewch i fwynhau drama ysbrydoledig am hanes yr iaith Gymraeg gyda’r cwmni, Mewn Cymeriad, a holwch gwestiynau i banel o ddysgwyr Cymraeg Caerdydd. Bydd cyfle hefyd i ymuno â sesiwn ar Sut i Ddysgu Geirfa gyda thiwtor Cymraeg i oedolion.
48
On the Sunday, you will be able to learn more about the author D. Geraint Lewis and his new book, DIY Welsh. Come and enjoy an inspirational play about the history of the Welsh language with the drama company, Mewn Cymeriad. Get some tips from a panel of Welsh learners from Cardiff, and join a session on how to remember vocabulary with a Welsh for adults tutor.
Y LLWYFAN Noddir gan Virgin Money / Sponsored by Virgin Money Ymunwch yn hwyl Y Llwyfan! Cewch eich diddanu gan gerddoriaeth, dramâu a dawns! Yn ogystal â pherfformiadau gan ysgolion cynradd y ddinas, bydd criwiau Plasmawr, Glantaf, Bro Edern ac Academi Berfformio Caerdydd yn perfformio. Bydd plant bach y Cylchoedd Meithrin hefyd yn camu i’r llwyfan – yn sicr, perfformwyr ieuengaf Tafwyl! Bydd cyfle i gwrdd a chyflwynwr Cyw ar y dydd Sul!
Come and join in the fun at ‘Y Llwyfan’! A jam packed day of music, drama and dance! As well as performances by the city’s primary schools, crews from Plasmawr, Glantaf, Bro Edern and Academi Berfformio Caerdydd will be performing. Children from the Cylchoedd Meithrin will also take to the stage – certainly, Tafwyl’s youngest and cutest performers! On the Sunday you can come over to meet S4C’s Cyw presenters.
PABELL LLYFRGELLOEDD CAERDYDD CARDIFF LIBRARIES TENT Ymunwch â Llyfrgelloedd Caerdydd ar gyfer amser stori a chrefft, i bori trwy a thrafod llyfrau a darganfod mwy am Her Ddarllen yr Haf a beth sydd ar gael yn eu llyfrgelloedd a’n hybiau.
Join Cardiff Libraries for storytime and craft, to browse through the bookshelf, and to find out more about the Summer Reading Challenge and all that is on offer in their libraries and hubs.
PRIFYSGOL CAERDYDD CARDIFF UNIVERSITY Bydd pabell Prifysgol Caerdydd yn fwrlwm o wybodaeth a gweithgareddau ymarferol am eu hymchwil a’u cyrsiau rhagorol. Gallwch astudio’r gorffennol wrth gamu mewn i Olion Traed Mewn Amser, mwynhau Gemau Ymennydd Gwefreiddiol, cymryd rhan mewn ymchwil cyffrous a hyd yn oed ymarfer eich sgiliau llawdriniaeth!
The Cardiff University tent will be a hub of information and hands-on activity based around its world-leading research and courses. A range of fun activities will allow you to explore the mysteries of the past, gaze into the wonders of the future, and maybe even practise your skills as a surgeon!
49
STONDINWYR / STALLS Bydd nifer o stondinau amrywiol eto eleni - o stondinau bwyd a diod, i stondinau celf a chrefft. Dyma restr o’r stondinau:
• • • • • • • • • • • • • • • • • • • •
50
Bacws Haf Blodau Tlws Buddug Bodlon Brybeque Saws Cant a Mil Vintage Calon Mam Cartref Carw Piws Cyfarchion Cymruti Draenog Dyfal Donc Dyma Fi Eleri Haf Designs Ewemoo Fair Do’s Grey September Hannah Davies Illustrations Katie Victoria Textiles
• • • • • • • • • • • • • • • • • • • • •
There will be various Tafwyl Fair this year drink stalls, to arts Here’s a full list of stallholders:
Katherine Jones Katie Mai Webster Katie Barret Photography Melys Miriam Jones Oh Susannah Olwen Thomas Ceramics OLEW Tanya Whitebits Pen y lan Preserves Cheese Pantry Rhiannon Art Rhian Kate Makes Ruth Jen Evans Rig Out Sara Lois Jewellery Silibili Seascape Curiosities Rubyann Stiwdio Mwclai Crefftau Nia
• • • • • • • • • • • • • • • • • •
stallholders at - from food and and crafts stalls. this year’s
Siop y Pethau Seren Willow Ty Bach Twt Tast Natur Liquorice Felts Driftwood Designs Welsh Girl Problems Zac & Bella Teithiau Tango Cymdeithas yr iaith Gymraeg Y Dinesydd Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd Clwb Ifor Bach CAVC Castell Caerdydd Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd Urdd Gobaith Cymru Cardiff People First
CYRRAEDD TAFWYL / GETTING TO TAFWYL Rydym yn annog ymwelwyr i gerdded, seiclo neu ddefnyddio trafnidiaeth cyhoeddus i gyrraedd Tafwyl os yn bosib.
We encourage everyone to walk, cycle or use public transport to visit Tafwyl if possible.
Taith Taf: Llwybr Beicio Cenedlaethol Rhif 8
The Taff Trail: Route No. 8
Os ydych chi’n teithio o Dde neu Gogledd Caerdydd gallwch ymuno â Taith Taf, llwybr sy’n ddelfrydol oherwydd ei fod yn eich cymryd chi ar lwybyr sydd ar y cyfan yn ddi-draffig.
If you are traveling from South or North Cardiff you can join the Taff Trail, an ideal route that is mainly free of traffic.
O’r Gogledd byddwch yn ymuno â Pharc Bute [Coopers Field] ac yn gallu dod allan o’r parc a chael mynediad i’r castell trwy Heol y Castell [A4161]. O’r De gallwch deithio o Fae Caerdydd. Gallwch ymuno a’r Taith Taf o’r A4119 [Clarence Road Bridge] a byddwch ar ffordd tawel [Taff Embankment] ac yna llwybr di-draffig ar hyd Taffs Mead Embankment a Fitzhamon Embankment cyn cyrraedd Heol y Castell.
From the North you will get access out of Bute Park [Coopers Field] and on to Castle Street [A4161]. From the South you can travel from Cardiff Bay. You can join the Taff Trail from the A4119 [Clarence Road Bridge] ride along a quiet road [Taff Embankment] and then a non-traffic route along Taffs Mead Embankment and Fitzhamon Embankment to reach Castle Street.
51
Llwybr Bae Caerdydd Os ydych chi’n teithio o Benarth gallwch ddod ar draws Barrage Bae Caerdydd neu Pont y Werin ac yna dilyn llwybr y Bae i ymuno â’r Taith Taf wrth Clarence Road Bridge [A4119]. Cofiwch os ydych chi’n dod o gyfeiriad De Grangetown gallwch hefyd ymuno â’r llwybr yma. Cardiff Bay Route If you are traveling from Penarth you can come across the Barrage or Pont y Werin Bridge and follow the Bay Route to join the Taff Trail at Clarence Road Bridge [A4119]. If you are coming from South Grangetown you can also join this path.
Llwybr Elái Os ydych chi’n teithio o ardal Drelái neu Parc Fictoria gallwch ymuno â llwybr Elái. Mae rhannau o’r llwybr hwn ar ffyrdd a rhannau yn ddi-draffig. Ely Route If you are traveling from Ely or Victoria Park you can join the Ely Route. Parts of this route are on roads and parts are traffic-free.
Am fwy o wybodaeth ewch i: www.sustrans.org.uk For more information, go to: www.sustrans.org.uk
52
BWS / BUS Mae safle bws wrth fynedfa’r stopio yn y safle yma mae:
ŵyl.
Yn
There is a bus stop directly outside the entrance to the festival. The buses stopping here are:
Castle Stop KA – Cardiff Bus 21, 23, 24, 25, 26, 27 Castle Stop 1 – Stagecoach 122, 124 Am amserlen a mwy o wybodaeth ewch i: www.traveline.cymru
For a bus timetable and more information visit: www.traveline.cymru
CAR Os ydych yn dod â char defnyddiwch feysydd parcio canol y ddinas neu fannau parcio talu ar y stryd. Nid oes maes parcio arbennig ar gyfer Tafwyl. Ar gyfer SatNav: Cod Post Castell Caerdydd yw CF10 3RB.
If you do bring a car, please note there is no specific car park for Tafwyl. Please use the city centre car parks or on-street meter parking. For Sat Nav: Cardiff Castle postcode is CF10 3RB.
53
CYFFREDINOL
GENERAL
Cost: Mae mynediad i Tafwyl am ddim. Bydd rhai
Cost: Entry to Tafwyl is free. Some activities
gweithgareddau yn codi ffi bach, ond mae’r rhan
will incur a small fee but most activities are
fwyaf o’r digwyddiadau am ddim. Os ydych am
free. If you want to visit the Castle itself,
grwydro o amgylch y castell ei hun oddi ar faes
away from the Tafwyl site, you will have to pay
Tafwyl bydd angen talu am docyn mynediad neu
an entrance fee or make an application for a
wneud cais am ‘Allwedd Castell Caerdydd’.
Cardiff Castle Key Card (see below).
Allwedd Castell Caerdydd: Os ydych yn byw neu’n
Cardiff Castle Key Card: If you live or work
gweithio yng Nghaerdydd gallwch wneud cais am
in Cardiff you can apply for a Castle Key Card
Allwedd y Castell am un taliad o £6.50 yn unig
for a one off payment of £6.50 – which then
sydd yn caniatáu mynediad am ddim i’r castell
gives you free entry to the castle for 3 years.
am dair blynedd. Y cyfan sydd angen i chi ei
All you need is to show evidence at the Ticket
wneud yw holi yn Swyddfa Docynnau’r Castell
Office that you live or work in Cardiff. You
gyda thystiolaeth eich bod yn byw neu’n gweithio
will receive your Castle Key Card with photo
yng Nghaerdydd. Byddwch yn derbyn eich cerdyn
ID
Allwedd y Castell yn y fan a’r lle. Does dim
photograph with you.
angen i chi ddod â ffotograff gyda chi.
You
don’t
need
to
bring
a
Alcohol: Tafwyl has licensed certain areas of
Alcohol: Mae Tafwyl wedi trwyddedu ardaloedd
Cardiff Castle, and we have four bars this
penodol o Gastell Caerdydd ac mae gennym bedwar
year with lots of locally-sourced beer, ales,
bar eleni gyda llawer o gwrw, seidr, coctels,
cocktails, ciders, wines and spirits that will
gwinoedd
rhoi
leave you spoilt for choice! But please take
digonedd o ddewis i chi, ond ni fyddwch yn gallu
note – you will not be able to bring your own
dod â’ch alcohol eich hun ar y safle. Nid ydym
alcohol on to the site.
wedi’n trwyddedu ar gyfer hyn, a bydd unrhyw un
this and anyone trying to sneak their own alcohol
sy’n ceisio sleifio eu halcohol eu hunain heibio
past our friendly stewards will be searched and
ein stiwardiaid cyfeillgar yn cael eu chwilio
may be asked to leave the site. Customers who
ac efallai bydd gofyn iddynt adael y safle.
are under 18 years old will be asked to leave the
Bydd rhaid i gwsmeriaid sydd o dan 18 oed adael
festival site if found in possession of alcohol.
a
gwirodydd
lleol,
fydd
yn
safle’r ŵyl os canfyddir eu bod ag alcohol yn eu meddiant. Gwydr: Ni chaniateir gwydr ar unrhyw ran o’r safle. Eitemau wedi eu gwahardd: Ceir rhestr llawn ar y wefan. Amseroedd: Bydd maes Tafwyl yn agor am 11.00 ac yn cau am 21.00. Hygyrchedd: Mae safle Tafwyl ei hun yn gwbl hygyrch i bawb. Ceir toiledau anabl ar faes yr ŵyl a chyflysterau newid cewyn. Ymweld gyda Chŵn: Ni all cŵn fod ar y safle heblaw am gŵn tywys.
54
immediately.
We are not licensed for
Glass: No glass will be allowed to be taken onto any part of the site. Prohibited Items: A list of prohibited items will be on the website. Times: Tafwyl Fair will open at 11.00 and close at 21.00. Accessibility: The site is completely accessible to everyone. Disabled toilets and Baby Changing Facilities are located on site. Visiting with Dogs: Please note dogs are not allowed on site unless they are assistance dogs.
NODDWYR / SPONSORS
PARTNER CYFRYNGAU MEDIA PARTNER PARTNERIAID / PARTNERS
55
AMSERLEN / TIMETABLE: SADWRN / SATURDAY
56
57
AMSERLEN / TIMETABLE: SUL / SUNDAY
58
59
PROUD MAIN SPON SO
TAFWYL
R OF
PR IF N O D D W YR BA LC H
Gweledigaeth fyd-eang, calon Gymreig Our outlook is worldwide, our lifeblood is Wales www.caerdydd.ac.uk
www.cardiff.ac.uk