Cynllun Busnes 2017 – 2022
#cartrefigwell #dyfodoldisglair • www.taiceredigion.org.uk
Crynodeb Gweithredol #cartrefigwell #dyfodoldisglair
•
www.taiceredigion.org.uk
Croeso i gynllun busnes corfforaethol diweddaraf Tai Ceredigion, sy’n cyflwyno prif flaenoriaethau’r Gymdeithas am y pum mlynedd nesaf. Wrth graidd ein busnes o hyd mae’n gweledigaeth wreiddiol ni i fod yn “Landlord ac yn gyflogwr dwyieithog o’r math gorau un sy’n rhoi tenantiaid yn gyntaf, sy’n darparu cartrefi o safon ac sydd o fudd i gymunedau a’r economi leol” Steve Jones Prif Weithredwr
Derek Lassetter Cadeirydd
Wrth inni ddynesu at ddechrau’n nawfed flwyddyn ariannol o weithredu, 2017/18, mae’r Bwrdd Rheoli unwaith eto wedi ymgymryd ag adolygiad blynyddol o’n prif flaenoriaethau busnes i gyflawni’r datganiad gweledigaeth uchod. Y mae’n ymrwymiad gennym roi blaenoriaeth i gefnogi’n tenantiaid ar adeg gythryblus iawn â thoriadau diwygiad lles y Llywodraeth. Yr ydym wedi ymrwymo i God Llywodraethiant Cartrefi Cymunedol Cymru ar gyfer cymdeithasau tai a byddwn yn dal ati i ymdrechu i fod yn ddewis gyflogwr, gan ddarparu lleoliadau hyfforddiant a gwaith yng ngorllewin Cymru.
Y mae’r cynllun busnes newydd hwn yn cyflwyno’n blaenoriaethau ni am y pum mlynedd nesaf, ac y mae wedi’i ategu gan gynllun gweithredol blynyddol mwy manwl a chyllideb. Fe adolygir y cynllun gan y Bwrdd Rheoli mewn digwyddiad cynllunio busnes blynyddol, a’n Grwp ˆ Monitro Tenantiaid Annibynnol yn bresennol. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau darllen ein cynllun newydd ac mae croeso ichi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau amdano. Cofion cynnes, Steve Jones Prif Weithredwr Derek Lassetter Cadeirydd
2
Trosolwg – Y Gymdeithas: #cartrefigwell #dyfodoldisglair
Gorffennol
•
www.taiceredigion.org.uk
Y 171 o addewidion a wnaed adeg trosglwyddo’r stoc wedi’u cyflawni i gyd Cyfranogiad gan denantiaid Cwblhau Safon Ansawdd Tai Cymru Wedi datblygu cartrefi newydd Wedi sefydlu mentr gymdeithasol – MEDRA Wedi cwblhau adolygiad llwyddiannus o lywodraethiant
Presennol
Adolygiadau Gwerth am Arian Canlyniadau gwych o ran ôl-ddyledion rhent Gwaith partneriaeth Staff Llafur Uniongyrchol wedi’u hailfrandio fel MEDRA Datblygu cartrefi newydd Cyfranogiad tenantiaid yn flaenllaw
Dyfodol
Datblygiadau cymysg, rhanberchenogaeth Gwelliant parhaus Cynhwysiant Digidol Cydweithio/gwasanaethau cyffredin Cynyddu swyddi a phrentisiaid lleol Gwerthu gwasanaethau’n allanol
3
Blaenoriaethau Strategol Yn Ddewis Gyflogwr
Yn Landlord Rhagorol
Blaenoriaethau Strategol Yn Ariannol Hyfyw
Cartrefi o Safon Uchel 4
Blaenoriaethau Strategol ar gyfer 2017/18 1) Bod yn landlord dwyieithog rhagorol sy’n cynnwys ei denantiaid a’i gwsmeriaid ar bob lefel â phwyslais ar gynnal tenantiaethau a gwelliant parhaus.
Gweithrediadau
Pob cyfathrebu allanol yn unol â Safonau’r Gymraeg Gwell cyfranogiad gan denantiaid Adolygu prosesau a pherfformiad Gwefan newydd
Canlyniadau
Bodlonrwydd tenantiaid a hybu’r Gymraeg Gwell effeithlonrwydd a Gwerth am Arian Ein hyrwyddo ni’n hunain Cyfathrebu ac atborth da a gwell gwasanaethau
Adnoddau
Cyllideb – pob polisi allanol i’w gyfieithu Gwaith partneriaeth Amser staff TG – porth tenantiaid, meddalwedd rheoli perfformiad
5
Blaenoriaethau Strategol ar gyfer 2017/18 2) Cynnal y cartrefi o ansawdd uchel sydd eisoes yn bodoli o fewn cymunedau cynaliadwy a chynyddu’r nifer ohonynt.
Gweithrediadau
Buddsoddi yn y stoc sydd eisoes yn bodoli Datblygiadau newydd o ddeiliadaeth gymysg Rhagor o systemau gwresogi cynaliadwy Lleihau nifer y methiannau derbyniol
Canlyniadau
Parhau i gydymffurfio â SATC Cynnal tenantiaethau Helpu i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi
Adnoddau
Staff â gwybodaeth ddatblygu Cyllid cyfalaf Grant tai cymdeithasol Data cywir, diweddar am y stoc
6
Blaenoriaethau Strategol ar gyfer 2017/18 3) Bod yn fusnes ariannol iach a hyfyw, sy’n mynd ynglˆ yn â’i waith ag onestrwydd, uniondeb a llywodraethiant cryf.
Gweithrediadau
Cyllideb 5 mlynedd a chynllun busnes ariannol 30 mlynedd cyflawn Cydymffurfio â’r Cod Llywodraethiant Bwrdd cynaliadwy ag amrywiaeth a sgiliau da Gwerth am arian ar draws y gymdeithas
Canlyniadau
Tystiolaeth o fusnes gweithredol i randdeiliaid Cydymffurfio â Rheoleiddio Cydraddoldeb ac Amrywiaeth sy’n adlewyrchu’r gymuned leol Gwelliant Parhaus
Adnoddau
Staff a chanddynt gymwysterau a sgiliau Polisïau a gweithdrefnau Proses hunanarfarnu Proses dda ar gyfer recriwtio aelodau o’r bwrdd
7
Blaenoriaethau Strategol ar gyfer 2017/18 4) Bod yn ddewis gyflogwr sy’n darparu cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a lleoliadau gwaith yn yr ardal.
Gweithrediadau
Cyflogi mwy o brentisiaid Datblygu’r staff presennol Polisïau a gweithdrefnau dwyieithog eglur Cynnydd yn iechyd a lles y staff Mentrau newydd o ran y Gymraeg
Canlyniadau
Cyfleoedd lleol o gyflogaeth Gweithlu dwyieithog Gweithlu iach a llai o absenoldeb salwch Amgylchedd gwaith saff Cynyddu’r lleoedd i brentisiaid a’r lleoliadau gwaith
Adnoddau
Gwersi Cymraeg Hyfforddiant i’r Staff a’r Bwrdd Cyllidebau penodol Amser staff/mentora ac anogaeth
8
Rheoli Risg #cartrefigwell #dyfodoldisglair
•
www.taiceredigion.org.uk
Mae Tai Ceredigion yn cydnabod bod risg i lawer o’i weithgareddau ac yn derbyn, er na ellir diddymu risg yn gyfan gwbl, ei bod yn rhaid gweithredu i sicrhau ei bod yn cael ei rheoli’n briodol a bod cyfrifoldebau wedi’u sefydlu’n glir. Fel cymdeithas dai gymhleth, mae Tai Ceredigion yn cydnabod ei fod yn wynebu risgiau o amrywiaeth eang o ffynonellau, gan gynnwys:
Deddfwriaeth/polisi’r llywodraeth Yr amgylchedd economaidd/ariannol Newid demograffig Grymoedd y farchnad Rhaglenni gwaith/datblygiadau ar raddfa fawr Peryglon naturiol Twyll a gwallau Technoleg Gwybodaeth
CLORIANNU
LLEIHAU
NODI
RHEOLI RISGIAU TROSGLWYDDO
DADANSODDI
RHEOLI
Mae’r holl risgiau’n cael eu categoreiddio’n risgiau ariannol, llywodraethiant a gwasanaeth. Uwchben y rhain mae dwy risg strategol: Methu â dangos gwelliant parhaus a gyrru pwrpas craidd y Gymdeithas yn ei flaen Methiant gan y Gymdeithas i gael ei llywodraethu’n dda a bod yn ariannol hyfyw
9
Adnoddau #cartrefigwell #dyfodoldisglair
•
www.taiceredigion.org.uk
Mae’r gyllideb bum mlynedd wedi’i nodweddu gan wariant cyfalaf i gynnal Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer y stoc bresennol, ynghyd â’n rhaglen ddatblygiad fwyaf uchelgeisiol hyd yn hyn o ryw ychydig dros 100 o eiddo. Caiff y gwariant cyfalaf hwn ei ariannu gan y cyfleuster £35m sydd gennym ar hyn o bryd wedi’i ddarparu gan fanc Barclays ynghyd â grant tai cymdeithasol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.
Rhagdybiaethau’r gyllideb
Mae incwm rhent wedi cynyddu yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru i fod o fewn y rhent targed. Rhagdybir eiddo gwag a drwgddyledion fel 2% ac 1.5% o incwm rhent tan 2019/20 pan gynyddir drwgddyledion i 3% yn unol â’r disgwyliadau o ran canlyniadau’r Diwygiad Lles.
Mae costau cyflog wedi cael eu cynyddu fel a argymhellwyd gan bwyllgor tâl y Gymdeithas (1.2%).
Mae costau gweithredu wedi cael eu hadolygu a’u costio’n llawn. Rhagdybiwyd cyfraddau llog ar gyfleusterau LIBOR presennol yn 1.5% ar gyfer 2017/18 gan godi i 5% ar gyfer blwyddyn pump. Mae Tai Ceredigion wedi rhagdybio na fydd dim gwerthiannau eiddo.
Ymgorfforir y gyllideb bum mlynedd yng nghynllun busnes ariannol 30 mlynedd y Gymdeithas ac fe wneir prawf straen arni o ran newidiadau yn y rhagdybiaethau neu effeithiau ac ardrawiadau risgiau.
10
Adnoddau #cartrefigwell #dyfodoldisglair
•
www.taiceredigion.org.uk
Datganiad o Incwm Cynhwysfawr 2017/18 Cyllideb £’000
2018/19 Rhagolwg £’000
2019/20 Rhagolwg £’000
2020/21 Rhagolwg £’000
2021/22 Rhagolwg £’000
Trosiant Rhent net a Thaliadau gwasanaeth
11,131
11,410
11,796
11,940
12,321
Gweithgareddau gweithredu Costau gweithredu Atgyweirio a Chynnal a chadw Gwariant arall
3,653 2,945 2,766
3,695 3,019 2,882
3,768 3,096 3,146
3,843 3,175 3,264
3,919 3,256 3,358
Gwarged/diffyg gweithredu
1,767
1,814
1,786
1,658
1,788
Llog i’w dderbyn ac incwm arall
609
434
476
496
516
Llog i’w dalu a thaliadau tebyg
1,460
1,723
1,884
1,987
2,132
Gwarged y flwyddyn
916
525
378
167
172
11
Adnoddau #cartrefigwell #dyfodoldisglair
•
www.taiceredigion.org.uk
Datganiad o’r sefyllfa ariannol 2017/18 Cyllideb £’000
2018/19 Rhagolwg £’000
2019/20 Rhagolwg £’000
2020/21 Rhagolwg £’000
2021/22 Rhagolwg £’000
Asedau Sefydlog Meddiannau tai llai dibrisiant Asedau sefydlog eraill
54,153 671
63,068 641
65,062 617
66,921 599
68,714 587
Asedau cyfredol Dyledwyr Credydwyr: Yn ddyledus o fewn un flwyddyn Asedau cyfredol net
16,479 3,296 3,183
12,666 3,053 9,613
9,175 3,273 5,504
4,912 2,977 1,935
1,028 2,589 (1,561)
Credydwyr: Yn ddyledus ar ôl un flwyddyn Cyfanswm
58,500 9,507
63,290 10,032
61,170 10,411
58,877 10,578
56,990 10,750
Cronfeydd wrth gefn
9,507
10,032
10,411
10,578
10,750
12
Adnoddau #cartrefigwell #dyfodoldisglair
•
www.taiceredigion.org.uk
Rhagolwg llif arian 2017/18 Cyllideb £’000
2018/19 Rhagolwg £’000
2019/20 Rhagolwg £’000
2020/21 Rhagolwg £’000
2021/22 Rhagolwg £’000
Llif arian gweithredu Gwarged Ychwanegu dibrisiant yn ôl Ychwanegu amorteiddiad yn ôl Cyfanswm
916 2,472 218 3,170
525 2,593 240 2,878
378 2,888 279 2,987
167 3,014 294 2,887
172 3,118 311 2,979
Gwariant Cyfalaf Rhaglen gwaith cyfalaf Costau datblygu Costau cyfalaf eraill Cyfanswm
(4,555) (6,182) (113) (10,850)
(4,663) (6,720) (98) (11,481)
(4,762) 0 (101) (4,863)
(4,758) 0 (103) (4,861)
(4,800) 0 (105) (4,905)
Incwm a gwariant arall Gwaddol LlC Grantiau eraill
1,600 500
1,600 500
1,600 500
1,600 398
1,600 0
Gofyn am Gyllido
(5,580)
(6,504)
225
24
(325)
Mantolen y cyfrif benthyciad ar y dechrau
(21,200)
(26,780)
(33,284)
(33,059)
(33,035)
Mantolen y cyfrif benthyciad ar y diwedd
(26,780)
(33,284)
(33,059)
(33,035)
(33,360) 13
Dangosyddion Perfformiad Allweddol #cartrefigwell #dyfodoldisglair
•
www.taiceredigion.org.uk
I fynd ynghyd â’n blaenoriaethau strategol, mae gan Tai Ceredigion gyfres o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol i fonitro perfformiad. Mae rhai o’r prif Ddangosyddion Perfformiad Allweddol a’r targedau ar gyfer 2017/18 wedi’u rhestru isod: DPA
Targed
Ôl-ddyledion Rhent Cyfredol
1.3%
Trosiant meddiannau gwag
10%
Atgyweiriadau ymatebol wedi’u cwblhau o fewn y targed 97.5% Dyddiau ailosod ar gyfartaledd
14 diwrnod
Effeithlonrwydd ynni’r stoc ar gyfartaledd (SAP) Canran y galwadau ffôn a atebwyd Salwch staff
69 98% 4%
Canran y gwasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg 100% Mae’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol hyn yn cael eu monitro gan y Bwrdd a’r Tîm Rheioli ac mae dangosyddion perfformiad gweithredu i’w hategu, a’r rheini’n cael eu rheoli gan ein Tîm Gweithredol. 14
Y Bwrdd #cartrefigwell #dyfodoldisglair
•
www.taiceredigion.org.uk
Derek Lassetter Cadeirydd (Annibynnol)
John Jenkins (Annibynnol)
Peter Deakin (Tenant)
Karen Oliver (Cyfetholedig)
Peter Saunders (Annibynnol)
Cadwgan Thomas (Annibynnol)
Catherine Shaw (Tenant)
Stephen Cripps (Cyfetholedig)
Chris Mackenzie-Grieve (Cyfetholedig)
15
Y Bwrdd #cartrefigwell #dyfodoldisglair
•
www.taiceredigion.org.uk
Enwebeion Cyngor
Y Cyng. Dafydd Edwards
Y Cyng. Lynford Thomas
Y Cyng. Lorrae Jones-Southgate
Y Cyng. Catrin Miles
16
Swyddogion Gweithredol #cartrefigwell #dyfodoldisglair
•
www.taiceredigion.org.uk
Tîm Gweithredol
Steve Jones Prif Weithredwr
Eleri Jenkins Cyfarwyddwr Tai a Chefnogaeth
Gyrfa o 30+ mlynedd ym maes tai Penodwyd yn Brif Swyddog Gweithredol cyntaf Tai Ceredigion yn 2008 Arweiniodd TC drwy’r trosglwyddiad stoc o Gyngor Sir Ceredigion Cyn-Gyfarwyddwr Grwp ˆ Gwasanaethau Cymunedol yng Ngrwp ˆ Tai Pennaf Aelod gwirfoddol o Fwrdd Ymgynghorol Ardal Twf Cyflogaeth Dyffryn Teifi a Digartref Ynys Môn Yn rhugl yn y Gymraeg 35 mlynedd o brofiad ym mhob agwedd ar reoli tai Profiad blaenorol mewn awdurdod lleol a chyda Chymdeithas Tai Cantref Yn ei swydd ers y trosglwyddiad stoc yn 2009 Yn weithiwr proffesiynol uchel ei pharch ym maes tai yng ngorllewin Cymru ac yn Gymrawd o’r CIH Yn arwain cyfranogiad a chymryd rhan gan denantiaid Yn rhugl yn y Gymraeg
Dros 20 mlynedd o brofiad ym maes tai Gradd mewn Technoleg a Rheolaeth Adeiladu Yn ei swydd ers y trosglwyddiad stoc yn 2009 Cynlluniodd, rheolodd a goruchwyliodd gwblhau’r gwaith SATC yn llwyddiannus Ar hyn o bryd yn arwain cynlluniau datblygu TC Yn rhugl yn y Gymraeg
ˆ Edwards Llyr Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo
Kate Curran Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol
10 mlynedd o brofiad o Gyllid yn y Sector Gyhoeddus Yn Gyfrifydd Siartredig Trosglwyddodd o Gyngor Sir Ceredigion i Tai Ceredigion Penodwyd yn gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol ym mis Mawrth 2016 Yn Ymddiriedolwr i Age Cymru Ceredigion Wrthi’n dysgu’r Gymraeg
17