2 minute read
DIGWYDDIADAU DARLLEDU BROADCAST EVENTS
OTHELLO (12A AS LIVE TBC)
Nos Iau 23 Chwefror | Thursday 23 February 7.00pm £12.50 (£11.50)
Advertisement
Cynhyrchiad newydd rhyfeddol o drasiedi fwyaf oesol Shakespeare, wedi’i gyfarwyddo gan Clint Dyer gyda chast sy’n cynnwys Giles Terera (Hamilton), Rosy McEwan (The Alienist) a Paul Hilton (The Inheritance). A hithau’n ferch i seneddwr, mae’n ddisglair ac yn benstiff. Mae ei statws yn ei dyrchafu, ond mae’r disgwyliadau sy’n gysylltiedig yn ei mygu. Mae Othello yn ffoadur rhag caethwasiaeth; ar ôl codi i frig byd sy’n groenwyn, mae’n gweld bod cost ynghlwm â chariad sy’n mentro ar draws llinellau hiliol. Ffilmiwyd Othello yn fyw ar lwyfan Lyttleton y National Theatre. Mae Desdemona ac Othello yn priodi’n dawel bach ac yn dyheu am fywyd newydd gyda’i gilydd. Ond wrth i luoedd anweledig gynllwynio yn eu herbyn, maen nhw’n darganfod mai nad eu penderfyniad nhw yw’r hyn sy’n digwydd yn eu dyfodol.
An extraordinary new production of Shakespeare’s most enduring tragedy, directed by Clint Dyer with a cast that includes Giles Terera (Hamilton), Rosy McEwan (The Alienist) and Paul Hilton (The Inheritance). She’s a bright, headstrong daughter of a senator; elevated by her status but stifled by its expectations. He’s refugee of slavery; having risen to the top of a white world, he finds love across racial lines has a cost. Wed in secret, Desdemona and Othello crave a new life together. But as unseen forces conspire against them, they find their future is not theirs to decide. Othello is filmed live on the Lyttleton stage of the National Theatre.
ANYTHING GOES: THE MUSICAL (PG AS LIVE)
NOS FERCHER 15 MAWRTH | WEDNESDAY 15 MARCH 7.00pm
DYDD SUL 19 MAWRTH | SUNDAY 19 MARCH 2.00pm £17 (£16)
Mae’r cynhyrchiad mawr 5-seren hwn o’r gomedi gerddorol glasurol wedi’i ffilmio’n fyw yn ystod ei gyfres o berfformiadau yn 2021 a werthodd bob tocyn yn y Barbican yn Llundain. Mae’n cynnwys cast llawn sêr dan arweiniad Sutton Foster, un o enwau mawr Broadway, sy’n ail-gydio yn ei pherfformiad fel Reno Sweeney a enillodd Gwobr Tony, ochr yn ochr â Robert Lindsay (My Family), sydd wedi ennill Gwobr Olivier tair gwaith yn ogystal â Gwobr Tony, enillydd Gwobr Theatr Evening Standard Felicity Kendal (The Good Life) ac un o enwogion mwyaf hoffus y West End, Gary Wilmot (Chicago). Rhamant dwymgalon, gyda dawnsiau ysblennydd a rhai o ganeuon mwyaf cofiadwy’r theatr, ‘a joyously shipshape revival’ (The Observer) yw Anything Goes.
Filmed live during its sold-out 2021 run at the Barbican in London, this major 5-star production of the classic musical comedy features an allstar cast led by renowned Broadway royalty Sutton Foster reprising her Tony Award-winning performance as Reno Sweeney, alongside threetime Olivier Award and Tony Award winner Robert Lindsay (My Family), Evening Standard Theatre Award winner Felicity Kendal (The Good Life) and beloved West End Legend Gary Wilmot (Chicago). A heart-warming romance, spectacular dance routines and some of theatre’s most memorable songs, Anything Goes is ‘a joyously shipshape revival’ (The Observer).
TURANDOT (12A AS LIVE)
Nos Fercher 22 Mawrth | Wednesday 22 March 7.15pm £17 (£16)
Yn llys y Dywysoges Turandot, mae cariadfeibion sy’n methu â datrys ei phosau hi yn cael eu lladd yn greulon. Ond pan mae Tywysog dirgel yn ateb un yn gywir, yn sydyn fe sy’n dal yr holl rym - a chyfrinach wych. Pan mae bywyd yn y fantol, a all cariad trechu’r cyfan? Mae sgôr Puccini yn llawn rhyfeddodau cerddorol (yn cynnwys yr aria enwog ‘Nessun dorma’), tra bod cynhyrchiad Andrei Serban yn tynnu ar draddodiadau theatrig Tsieineaidd i greu tableau ffantasi lliwgar o Peking hynafol. Antonio Pappano sy’n arwain Anna Pirozzi yn y brif ran ac Yonghoon Lee fel Calaf.
In the court of Princess Turandot, suitors who fail to solve her riddles are brutally killed. But when a mysterious Prince answers one correctly, suddenly he holds all the power – and a glorious secret. When life hangs in the balance, can love conquer all?
Puccini’s score is rich in musical marvels (featuring the famous aria ‘Nessun dorma’), while Andrei Serban’s production draws on Chinese theatrical traditions to evoke a colourful fantasy tableau of ancient Peking. Antonio Pappano conducts Anna Pirozzi in the title role and Yonghoon Lee as Calaf.