2 minute read
LIFE OF PI (PG AS LIVE TBC)
Nos Iau, 30 Mawrth | Thursday 30 March 7.00pm £12.50 (£11.50) by Yann Martel, adapted by Lolita Chakrabarti. Directed by Max Webster. Puppetry, magic and storytelling combine in a unique, Olivier Award-winning stage adaptation of the best-selling novel. After a cargo ship sinks in the middle of the vast Pacific Ocean, a 16-year-old boy named Pi is stranded on a lifeboat with four other survivors –a hyena, a zebra, an orangutan and a Royal Bengal tiger. Time is against them, nature is harsh, who will survive?
Gan Yann Martel, wedi’i addasu gan Lolita Chakrabarti. Cyfarwyddwyd gan Max Webster. Mae pypedwaith, hud ac adrodd straeon yn cyfuno mewn addasiad llwyfan unigryw sydd wedi ennill Gwobr Olivier, o’r nofel lwyddiannus. Ar ôl i long gargo suddo yng nghanol ehangder y Môr Tawel, mae bachgen 16 oed o’r enw Pi yn sownd ar fad achub gyda phedwar o oroeswyr eraill – udfil, sebra, orangwtan a theigr Royal Bengal. Mae amser yn eu herbyn, mae natur yn greulon, pwy fydd yn goroesi? Wedi’i ffilmio’n fyw yn West End Llundain ac yn cynnwys delweddau o’r radd flaenaf, mae’r daith epig o ddygnwch a gobaith yn dod yn fyw mewn ffordd newydd syfrdanol ar gyfer sgriniau sinemâu.
Advertisement
Filmed live in London’s West End and featuring state-of-the-art visuals, the epic journey of endurance and hope is bought to life in a breath-taking new way for cinemas screens.
CINDERELLA (12A AS LIVE)
Nos Sul 16 Ebrill | Sunday 16 April 2.00pm £17 (£16)
Mae bale Cinderella gan Frederick Ashton, Coreograffydd Sefydlu’r Royal Ballet, yn dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed y tymor hwn. Cafodd noson agoriadol y bale ym 1948, gyda Moira Shearer a Michael Somes yn y prif rannau, groeso brwd. Ar ôl dros ddegawd i ffwrdd o lwyfan y Ty Opera Brenhinol, mae ailwampiad bythol Ashton o stori carpiau-i-gyfoeth enwog Charles Perrault yn dychwelyd, gan arddangos dawn gerddorol y coreograffydd a harddwch sgôr ragorol Prokofiev. Mae tîm creadigol sy’n hen gyfarwydd â hud theatr, ffilm, dawns ac opera yn dod ag awyrgylch newydd i fyd etheraidd Cinderella sy’n cynnwys dewines garedig, a cherbyd pwmpen, tywysogion golygus a dod o hyd i wir gariad.
Royal Ballet Founder Choreographer Frederick Ashton’s Cinderella celebrates its 75th anniversary this season. The ballet’s opening night in 1948, featuring Moira Shearer and Michael Somes in the lead roles, was received rapturously. After over a decade away from the Royal Opera House stage, Ashton’s timeless reworking of Charles Perrault’s famous rags-to-riches story returns, showcasing the choreographer’s deft musicality and the beauty of Prokofiev’s transcendent score. A creative team steeped in the magic of theatre, film, dance and opera brings new atmosphere to Cinderella’s ethereal world of fairy godmothers and pumpkin carriages, handsome princes and finding true love.
GOOD (15 AS LIVE TBC)
Nos Fercher 26 Ebrill | Wednesday 26 April 7.00pm
£12.50 ( £11.50)
Bu disgwyl mawr i David Tennant (Doctor Who) ddychwelyd i’r West End, ac mae’n ymddangos yma mewn ail-ddychmygiad syfrdanol o un o ddramâu gwleidyddol mwyaf pwerus Prydain. Wrth i’r byd wynebu ei Ail Ryfel Byd, mae John Halder, athro Almaeneg da, deallus, yn cael ei dynnu i mewn i fudiad gyda chanlyniadau annychmygol. Yr enillydd Gwobr Olivier, Dominic Cooke (Follies) sy’n cyfarwyddo stori amserol C.P.Taylor, gyda chast sydd hefyd yn cynnwys Elliot Levey (Coriolanus) a Sharon Small (The Bay). Wedi’i ffilmio’n fyw yn Theatr Harold Pinter yn Llundain.
David Tennant (Doctor Who) makes a much-anticipated return to the West End in a blistering reimagining of one of Britain’s most powerful, political plays.
As the world faces its Second World War, John Halder, a good, intelligent German professor, finds himself pulled into a movement with unthinkable consequences.
Olivier Award-winner Dominic Cooke (Follies) directs C.P. Taylor’s timely tale, with a cast that also features Elliot Levey (Coriolanus) and Sharon Small (The Bay). Filmed live at the Harold Pinter Theatre in London.