4 minute read
THE MARRIAGE OF FIGARO
Nos Iau 27 Ebrill | Thursday 27 April 6.45pm £17 (£16)
Mae’r gweision Figaro a Susanna yn llawn cyffro ar ddiwrnod eu priodas, ond mae ‘na broblem: mae gan eu cyflogwr, yr Iarll Almaviva, ei fwriadau gwarthus ei hun tuag at y ddarpar briodferch. Yn llawn dop o droeon trwstan, bydd stori opera gomig Mozart yn eich synnu a’ch swyno ar bob cam. Dewch am y gerddoriaeth ac arhoswch am y doniolwch y croeswisgo, gyda’ cyfan yn datblygu dros un diwrnod gwyllt ar yr aelwyd Almaviva. Mae Cyfarwyddwr Cerdd y Royal Opera, Antonio Pappano, yn arwain cast gwirioneddol ryngwladol yng nghynhyrchiad bythol David McVicar.
Advertisement
Servants Figaro and Susanna are filled with excitement on their wedding day, but there’s a hitch: their employer, the Count Almaviva, has dishonourable intentions of his own towards the bride-to-be. With more twists than a page boy’s stockings, the story of Mozart’s comic opera will surprise and delight you at every turn. Come for the music and stay for the cross-dressing hilarity, all unfolding over the course of one crazy, topsy-turvy day in the Almaviva household. Royal Opera Music Director Antonio Pappano conducts a truly international cast in David McVicar’s timeless production.
BEST OF ENEMIES (15 AS LIVE TBC)
Nos Iau 18 Mai | Thursday 18 May 7.00pm
£12.50 (£11.50)
Gan James Graham. Cyfarwyddwyd gan Jeremy Herrin. Ysbrydolwyd gan y rhaglen ddogfen gan Morgan Neville a Robert Gordon. Mae David Harewood (Homeland) a Zachary Quinto (Star Trek) yn chwarae rhan wrthwynebwyr gwleidyddol yn nrama newydd James Graham (Sherwood) sydd wedi ennill llu o wobrau. Ym 1968 yn America, wrth i ddau ddyn frwydro i ddod yn arlywydd nesaf, mae pob llygad ar y frwydr rhwng dau arall: y ceidwadwr cyfrwys William F. Buckley Jr., a’r rhyddfrydwr gwyllt, Gore Vidal. Yn ystod fformat teledu nosweithiol newydd, maen nhw’n dadlau ynghylch tirwedd foesol cenedl sydd wedi chwalu. Wrth i gredoau gael eu herio a sylwadau sarhaus cael eu gwneud, mae ffin newydd yng ngwleidyddiaeth America yn agor ac mae newyddion teledu ar fin cael ei drawsnewid am byth.
By James Graham. Directed by Jeremy Herrin. Inspired by the documentary by Morgan Neville and Robert Gordon. David Harewood (Homeland) and Zachary Quinto (Star Trek) play feuding political rivals in James Graham’s (Sherwood) multiple award-winning new drama. In 1968 America, as two men fight to become the next president, all eyes are on the battle between two others: the cunningly conservative William F. Buckley Jr., and the unruly liberal Gore Vidal. During a new nightly television format, they debate the moral landscape of a shattered nation. As beliefs are challenged and slurs slung, a new frontier in American politics is opening and television news is about to be transformed forever.
SLEEPING BEAUTY (12A AS LIVE)
Nos Fercher 24 Mai | Wednesday 24 May 7.15pm £17 (£16)
Mae gan The Sleeping Beauty le arbennig iawn yng nghalon a hanes y Royal Ballet. Hwn oedd y perfformiad cyntaf a roddwyd gan y Cwmni pan ail-agorodd y Ty Opera Brenhinol yn Covent Garden ym 1946 yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Yn 2006, adfywiwyd y llwyfaniad gwreiddiol hwn ac mae wedi bod yn swyno cynulleidfaoedd ers hynny. Ceir cyfeiriad enwog gan Frederick Ashton at glasuriaeth bur bale Marius Petipa o’r 19eg ganrif fel gwers breifat mewn celf a chrefft coreograffi. Gadewch i gerddoriaeth wych Tchaikovsky a dyluniadau tylwyth teg moethus Oliver Messel eich cludo i ffwrdd gyda’r trysor hwn o’r repertoire bale clasurol.
The Sleeping Beauty holds a very special place in The Royal Ballet’s heart and history. It was the first performance given by the Company when the Royal Opera House reopened at Covent Garden in 1946 after World War II. In 2006, this original staging was revived and has been delighting audiences ever since. Frederick Ashton famously cited the pure classicism of Marius Petipa’s 19th-century ballet as a private lesson in the atmospheric art and craft of choreography. Be swept away by Tchaikovsky’s ravishing music and Oliver Messel’s sumptuous fairytale designs with this true gem from the classical ballet repertory.
Mae’r Mwldan a Chastell Aberteifi yn edrych ymlaen at gyflwyno rhaglen fywiog arall o gerddoriaeth fyw ar safle godidog Castell Aberteifi ar gyfer haf 2023. Mwldan and Cardigan Castle look forward to presenting another vibrant programme of live music in the glorious grounds of Cardigan Castle for summer 2023.
GWYBODAETH TOCYNNAU:
Ni roddir ad-daliadau ar docynnau ar gyfer digwyddiadau a hyrwyddir ar y cyd gan Gastell Aberteifi | Y Mwldan. Y Mwldan yw’r unig werthwr tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
Cewch fwy o wybodaeth hanfodol drwy e-bost cyn y digwyddiad.
Siaradwch â’n swyddfa docynnau os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd a gwnawn ein gorau i ddarparu ar gyfer hynny. Neilltuir ardal eistedd uwch ar gyfer cadeiriau olwyn a’r rheiny sydd ag anawsterau o ran symudedd. Os hoffech ddefnyddio’r cyfleuster hwn, rhowch wybod i ni wrth i chi archebu tocynnau gan ddefnyddio’r blwch sylwadau ar-lein, neu drwy ein swyddfa docynnau os ydych yn archebu dros y ffôn. Cewch ddod ag un cydymaith gyda chi i’r platfform eistedd.
Argymhellir archebu tocynnau ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi. Ni allwn sicrhau y bydd tocynnau ar gael wrth y drws.
Peidiwch â dod ag unrhyw alcohol neu wydr i’r safle.
Bydd bar llawn ac arlwyo ar gael ar y safle.
TICKET INFORMATION:
Tickets for Cardigan Castle | Mwldan co-promoted events are non-refundable. Mwldan is the sole ticket outlet for this event.
Further essential information will be issued to you prior to the event via email.
Please speak to our box office should you have any accessibility requirements and we will do our best to accommodate. A designated raised seating area will be provided for wheelchairs and those with mobility issues. Please let us know on booking using the comments box online, or via our box office if booking by phone, if you would like to make use of this facility. You will be able to bring one companion onto the seating platform.
Pre-booking is advised to avoid disappointment. We cannot guarantee that tickets will be available on the door.
Please do not bring any alcohol or glass onto the site.
A full bar and catering will be available on site.