Theatr Clwyd, Ysgolion a Cholegau Cylchlythyr

Page 1

Ysgolion a Cholegau

Cylchlythyr yr Haf


croeso Helo a chroeso i’n cylchlythyr newydd i ysgolion! Gwennan Mair ydw i, Cyfarwyddwr y tîm Ymgysylltu Creadigol yma yn Theatr Clwyd. Rydyn ni’n gweithio gyda chi, ein hysgolion a’n colegau ni, i’ch cefnogi ac i wneud yn siŵr bod dysgu drwy’r celfyddydau’n hygyrch, gan wneud y theatr yma’n theatr sy’n perthyn i chi. Mae’r cylchlythyr yma’n newydd hefyd, felly os oes unrhyw beth ar goll neu unrhyw beth fyddai’n ei wneud yn fwy defnyddiol, cofiwch anfon e-bost ataf i. Mae wedi’i rannu’n wahanol adrannau gyda gwybodaeth am rai sioeau sydd i ddod yn Theatr Clwyd, a hefyd gwybodaeth am yr holl gyfleoedd sydd i gydweithio! Mae croeso i chi gysylltu â mi oherwydd byddwn wrth fy modd yn clywed eich syniadau ynghylch sut gallwn ni i gyd gydweithio. Byddai’n bleser cael dod i’ch ysgol i’ch cyfarfod chi a’ch disgyblion ... felly cofiwch fy ngwahodd, oherwydd byddai hynny’n wych! Gobeithio’ch gweld chi’n fuan! Gwennan Mair – Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol - gwennan.mair@theatrclwyd.com Nerys Edwards - Cydlynydd Ymgysylltu Creadigol - nerys.edwards@theatrclwyd.com Emyr John - Cyswllt Ymgysylltu Creadigol - emyr.john@theatrclwyd.com

Cynigion Roedden ni’n meddwl y byddai’n neis anfon cynnig neu ddau i’ch staff ar gyfer rhai o gynyrchiadau’r tymor yma – i roi cyfle i chi gael seibiant o’r ystafell ddosbarth (a’r gwaith marcio!), a chael noson allan hwyliog i’r staff efallai, gweld perfformiadau theatrig gwych ac efallai cael eich ysbrydoli gan yr hyn welwch chi hyd yn oed!

20% i ffwrdd o docynnau... ...i The Importance Of Being Earnest, Black Mountain, Out Of Love, Meet Fred, The Rise And Fall Of Little Voice ac Uncle Vanya. Defnyddiwch y côd “SCHOOLSTAFF” pan yn archebu. *Mae pob cynnig yn dibynnu ar argaeledd. Ni roddir unrhyw ad-daliad o ganlyniad i’r cynnig hwn neu gynigion dilynol. Mae Theatr Clwyd yn cadw’r hawl i dynnu’r cynigion hyn yn ôl ar unrhyw adeg. Argymhellir archebu’n gynnar ac mae’r cynigion hyn ar gael ar gyfer eu harchebu ar-lein. Mae’r cynigion yn ddilys tan 1af Awst 2017.

2 | 01352 701521


sioeau

How To Be A Kid gan Sarah McDonald-Hughes Beth mae’n ei gynnwys: Dyma stori hyfryd am ferch fach (Molly) sy’n graig i’w theulu. Mae’n coginio, yn golchi’r llestri ac yn gwneud yn siŵr bod ei brawd bach yn barod i fynd i’r ysgol. Ond dim ond 12 oed ydi hi a dydi hi ddim yn teimlo fel plentyn! Pryd: 24 Mehefin - 22 Gorffennaf
 Oedran: 7+

Cost: £6 Ysgolion (un athro am ddim am bob deg) Cyfnod Allweddol: CA2, CA3

Gweithdy: Mae ein profiadau theatr “diwrnod llawn” yn cynnwys gwylio’r sioe a gweithdy sy’n cael ei gynnal gan dîm Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd. Mae’n gyfle i ddatblygu sgiliau siarad, gwaith tîm, meddwl yn greadigol, symudiad a defnyddio eu dychymyg i greu straeon. Cyfoethogi eich gwersi: Dyma sioe berffaith i’w defnyddio fel conglfaen i ddatblygu dealltwriaeth, siarad, llythrennedd, gweithio gydag eraill, ymateb a dadansoddi, ysgrifennu creadigol a meddwl! Cwricwlwm Newydd Cymru ar gyfer 2018: Mae hon yn ffordd wych o ryngblethu testun gyda gweithdy ymarferol. Beth am greu pobl ifanc sy’n llawn menter ac yn gyfranwyr creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith. Syniadau ar gyfer cynlluniau gwersi: Ysgrifennu adolygiadau i fynegi barn am bynciau (llythrennedd), gwaith byrfyfyr a dyfeisio (drama), trafodaethau grŵp am y sioe a’r gweithdy (llafaredd).

theatrclwyd.com | 3


Oes Rhaid i Mi Ddeffro? Do I Have To Wake Up? Beth mae’n ei gynnwys: Sioe ryngweithiol am fyd hudol gyda cherddoriaeth, dawns, hedfan a breuddwydion. Dau ddangosiad yn y Gymraeg ac 1 yn Saesneg. Pryd: 21 Mehefin Cost: £6 Ysgolion Oedran: 2 – 8 Cyfnod Allweddol: Sylfaen, CA1 Defnyddiol ar gyfer: Datblygu sgiliau iaith, siarad, gwrando a deall yn y Gymraeg neu yn Saesneg!

Sleeping Beauty: The Rock ‘n’ Roll Panto Beth mae’n ei gynnwys: Mae ein panto enwog yn glo perffaith i’r flwyddyn gyda chaneuon, dawnsio, jôcs eithriadol ddoniol a digon o hwyl! Pryd: 24 Tach - 20 Ion Cost: O £10
 Oedran: 6+ Defnyddiol ar gyfer: Rhannu profiad o’r theatr, llythrennedd, celf a dylunio, ac anrheg Nadolig berffaith i chi’ch hun hefyd!

The Importance Of Being Earnest Beth mae’n ei gynnwys: Comedi glasurol am gamddeall pwy yw rhywun. Mae’n sioe glyfar, draddodiadol sy’n dangos crefft y theatr ar ei gorau, gyda setiau syfrdanol, gwisgoedd gwych, cyfarwyddo clyfar ac actio anhygoel! Gyda’r actores yn Gavin & Stacey, Melanie Walters. Pryd: 4 - 27 Mai Oedran: 13+

Cost: O £5 Cyfnod Allweddol: CA3 - 5

Cwricwlwm: AQA TGAU: Drama a awgrymir Edexcel TGAU a SAFON UWCH: Gwerthuso Theatr Fyw Edexcel SAFON UWCH: O’r Dudalen i’r Llwyfan AQA SAFON UWCH: Agweddau ar gomedi (modiwlaidd ar lefel AS) sy’n berffaith i Fyfyrwyr Drama 4 | 01352 701521


National Theatre: My Country Beth mae’n ei gynnwys: Sioe newydd wedi’i chreu’n seiliedig ar gyfweliadau gyda phobl ledled y DU ac wedyn wedi’u rhoi at ei gilydd gan Carol Ann Duffy a’u cyfarwyddo gan gyfarwyddwr y National Theatre, Rufus Norris. Perffaith ar gyfer myfyrwyr drama. Pryd: 30 Mai - 3 Mehefin Cost: O £10
 Oedran: Oedran 14+ Cwricwlwm: Edexcel TGAU a SAFON UWCH: Gwerthuso Theatr Fyw Gwleidyddiaeth Bagloriaeth Cymru: Byddai hon yn sioe wych i gael eich myfyrwyr i feddwl am Wleidyddiaeth mewn ffordd wahanol.

Kneehigh: Tristan & Yseult Beth mae’n ei gynnwys: Dyma stori am frenin sy’n syrthio dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â chwaer ei elyn. Daw cwmni theatr enwog Kneehigh Theatre â’r sioe hon yma gyda chomedi a cherddoriaeth fyw. Pryd: 27 Mehefin - 1 Gorffennaf Cost: O £10
 Oedran: 14+ Cwricwlwm: CA 3 a 4 – Delfrydol i ddisgyblion ysgol a gellir ei defnyddio i arwain at waith creadigol a chynlluniau llythrennedd yn yr ystafell ddosbarth. Edexcel SAFON UWCH: Ymarferwyr theatr dylanwadol AQA TGAU: Drama a awgrymir AQA Cwrs Astudiaethau Theatr – myfyrwyr safon uwch – mae Kneehigh yn un o’r ymarferwyr a argymhellir Diwrnod o ddatblygiad proffesiynol i athrawon ar gael trwy EDAU!

Meet Fred Beth mae’n ei gynnwys: Dyma stori am byped y mae ei fywyd yn mynd allan o reolaeth. Gyda gwaith pyped anhygoel, mae’n sgript ddoniol, gelfydd ac yn stori sy’n berthnasol, yn gyfoes ac yn torri calon. Pryd: 11 - 13 Mai
 Cost: £10 Oedran: 15+ (yn cynnwys iaith gref a phypedau noeth) Defnyddiol ar gyfer: Myfyrwyr Drama, dewch i weld sut mae defnyddio pypedau’n gweithio’n eithriadol dda i ddweud stori.

theatrclwyd.com | 5


Y Tŵr Beth mae’n ei gynnwys: Opera am serch a bywyd sy’n astudio’r eithafion emosiwn a brofir gan ddau gariad. Yn seiliedig ar waith Gwenlyn Parry. Pryd: 5 Meh Cost: O £10 Oedran: 15+ Cwricwlwm: TGAU/SAFON UWCH Cymraeg (dramâu a awgrymir): mae Gwenlyn Parry yn enwog fel un o ddramodwyr gorau Cymru

The Woman In Black Beth mae’n ei gynnwys: Stori ysbryd enwog a llwyddiannus Susan Hill sy’n llawn awyrgylch iasoer, lledrith ac erchylltra dan reolaeth. Yn syth o’r West End. Pryd: 30 Mai - 3 Meh Cost: £25 - £10 Oedran: TGAU Cwricwlwm: Y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Saesneg a Drama EDEXCEL TGAU: (Rhyddiaith testun modern) EDUQAS TGAU: (ÔL 1914 Rhyddiaith/Drama)

Uncle Vanya Beth mae’n ei gynnwys: Comedi ingol Chekhov am bobl gwrtais yn mynd yn wallgof yng nghanol nunlle. Fersiwn newydd gan y dramodydd Peter Gill ac wedi’i chyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd, Tamara Harvey. Pryd: 21 Medi – 14 Hyd Cost: O £5 Oedran: 14+ Cyfnod Allweddol: CA3 - CA5 Cwricwlwm: TGAU: Cwricwlwm Llenyddiaeth Saesneg: (dramâu a awgrymir) Edexcel TGAU a Safon Uwch: Gwerthuso Theatr Fyw

The Rise and Fall of Little Voice Beth mae’n ei gynnwys: Merch ifanc swil sy’n gallu canu fel y mawrion – ond wnaiff hi? Comedi Jim Cartwright sydd wedi sicrhau gwobr Olivier iddo. Pryd: 5 - 28 Hyd (argymhellir archebu’n gynnar) Cost: O £5
 Oedran: TGAU

6 | 01352 701521

Cwricwlwm: AQA Safon Uwch: Agweddau ar gomedi (modiwlaidd ar lefel AS) sy’n berffaith i Fyfyrwyr Drama TGAU: Cwricwlwm Llenyddiaeth Saesneg: (dramâu a awgrymir) Edexcel TGAU A SAFON UWCH: Gwerthuso Theatr Fyw


cyfleoedd

Ewch i Weld / Go&See (I Ysgolion yng Nghymru yn unig) Beth ydi hwn: Mae Ewch i Weld yn gynllun y mae posib ei ddefnyddio i gyllido ymweliadau â digwyddiadau celf o ansawdd uchel mewn orielau, theatrau, canolfannau celfyddydau a lleoliadau eraill. Gall y digwyddiadau gynnwys ymweliadau â pherfformiadau ac arddangosfeydd neu ymweliadau i brofi gweithwyr celf proffesiynol yn datblygu ac yn creu eu gwaith. Beth nesaf: Gall ysgolion wneud cais am hyd at £1,000 o gyllid ar unrhyw adeg o’r flwyddyn a byddant yn derbyn penderfyniad o fewn chwech i wyth wythnos. Gallant ddyfarnu hyd at 90% o gostau’r profiad. Does dim dyddiad cau ar gyfer Ewch i Weld, sy’n golygu y gallwch chi wneud cais ar unrhyw adeg, ond rhaid gwneud hynny o leiaf 8 wythnos cyn y digwyddiad rydych yn dymuno mynd iddo. Mae’n hawdd gwneud cais – am fwy o wybodaeth, ewch i: http://bit.ly/GoAndSeeACW Cysylltwch â Nerys os hoffech gael help personol gyda’r grant yma: nerys.edwards@theatrclwyd.com / 01352 701575

Cyfleoedd Ariannol i Ysgolion: Mae Edau yn cynnig cyfleoedd datblygiad proffesiynol am ddim i athrawon, artistiaid a sefydliadau diwylliannol. Mae Edau hefyd yn cynnig cyfrannu tuag at gostau athrawon llanw er mwyn galluogi’r ysgol i ryddhau ei hathrawon i fynd i gael hyfforddiant. Gwybodaeth Bellach: creative.learning@arts.wales
 http://www.arts.wales/what-we-do/creative-learning/?diablo.lang=cym theatrclwyd.com | 7


Ysgrifennu adolygiad theatr  oes gan eich myfyrwyr ddiddordeb mewn theatr, dawns, celfyddydau gweledol, gigs, barddoniaeth, ffilm a mwy? Eisiau cael mynd i weithdy am ddim a fydd yn rhoi gwybodaeth i chi am rôl beirniad? Os felly, mae hwn i chi! Bydd cefnogaeth Iaith Arwyddion Prydain ar gael ar gyfer y gweithdy. Bydd yn addas i bobl fyddar, trwm eu clyw a gyda nam ar y golwg. Bydd pob cyfranogwr yn gallu dod i’r gweithdy AM DDIM a gweld The Importance of Being Earnest AM DDIM. Gweithdy dwyieithog. Dim ond 12 lle. Dyddiad: 20/05/17

Diddordeb? Cysylltwch â: gwennan.mair@theatrclwyd.com

Gwobr Daniel Owen Oes gennych chi fyfyrwyr sy’n hoff iawn o ysgrifennu? Ydi eich ysgol eisiau hybu ysgrifennu creadigol? Fis Medi, byddem yn cynnig gweithdai gyda awdur profesiynol yn eich ysgol! 3 chategori: dan 11 | dan 17 | dan 25 Thema’r flwyddyn hon: Heddwch - beth mae’r gair yn ei olygu i chi? | Gall y gwaith fod yng Nghymraeg neu’n Saesneg Gwobr: Dod yn un o awduron ifanc y flwyddyn yma yn Theatr Clwyd: cyfle i gyd-ysgrifennu gyda ni ar gyfer Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, diwrnod y plant! Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â: nerys.edwards@theatrclwyd.com

Cystadleuaeth Agored Gogledd Cymru ar gyfer Artistiaid Ifanc

Rydym yn cynnal yr arddangosfa fawreddog Agored Gogledd Cymru ar gyfer Artistiaid Ifanc, cystadleuaeth ar gyfer artistiaid ianc o dan 16 oed. Dyddiad derbyn: Gorff 8fed 10yb – 3yp Gwobr: £50 Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: nerys.edwards@theatrclwyd.com

Oriel Mae ein oriel addysg ar gael i arddangos gwaith celf eich myfyrwyr! Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: nerys.edwards@theatrclwyd.com

Ysgolion Haf Rydym yn cynnal ysgolion haf ar gyfer oedran 6 - 18 trwy gydol fis Awst gan ganolbwyntio ar sgiliau drama, byrfyfyr a chrefft theatr. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: nerys.edwards@theatrclwyd.com


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.