Canllaw DigwyDDiaDau Ionawr - Mai 2018 theatrclwyd.com 01352 701521
Croeso I ddechrau – DIOLCH YN FAWR! Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn gyfnod anhygoel o sioeau gwych, ymweliad Brenhinol, Baton y Gymanwlad, ffeiriau crefftau, dyddiau agored, gwyliau teuluol a llawer mwy – a’r cyfan yn cael eu cefnogi gennych chi. Rydyn ni’n falch o fod yn creu theatr o safon byd yma yng Ngogledd Cymru. Ond dim ond rhan o’r darlun yw beth sydd ar ein llwyfannau ni. Mae gennym ni gwmnïau newydd ar gyfer pobl o bob oed, hen ac ifanc (edrychwch ar dudalen 28), corau ar gyfer y rhai sy’n wynebu heriau iechyd amrywiol, ein prosiect llwyddiannus yn creu atgofion newydd ar gyfer y rhai sydd â dementia, prentisiaethau gyda’n tîm technegol a llawer mwy. Sut bynnag rydych chi’n hoffi treulio eich amser, gobeithio y dewch chi i dreulio rhywfaint ohono gyda ni. Tamara Harvey, Cyfarwyddwr Artistig; Liam Evans-Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol
2
Caffi
llogi ystafell
Dod o Hyd i ni
Mae ein caffi’n gwerthu bwyd a diod hyfryd o ffynonellau lleol drwy gydol y dydd yn ogystal â phrydau bwyd cyn sioeau. I archebu bwrdd ffoniwch 01352 701533 neu archebwch ar-lein.
Perffaith ar gyfer unrhyw beth o gyfweliadau a chyfarfodydd i briodasau, ffeiriau a lansiadau. Cysylltwch â: nathan.stewart@ theatrclwyd.com
Tu allan i dref marchnad Yr Wyddgrug, a dim ond 20 munud o Gaer a 25 munud o Wrecsam. Ein cyfeiriad: Lôn Raikes, Yr Wyddgrug, CH7 1YA.
Siop
Sinema
Oriel
Mae ein siop yn gwerthu anrhegion, cardiau cyfarch Cymraeg a Saesneg, llyfrau a llawer mwy. Ar agor Llun i Sadwrn o 9am.
Mae ein tair oriel yn dangos y Mae ein sinema hyfryd yn gorau mewn celf broffesiynol a gwbl wahanol i’r profiad gewch chi mewn adeilad aml- chymunedol. Edrychwch ar dudalen 29. sgrin gyda’r tocynnau’n cychwyn o £6*. Edrychwch ar dudalen 26. *Ac eithrio rhai digwyddiadau arbennig a sgrinio byw
gweld mwy am lai gyda Thocyn Tymor
% 5 1 d e b ar c a e o i s 3 % 0 2 d e rb a c a e o llaw i mlaen y 5+ s u b e h rc drwy a u isaf
sia d arian m y pri tr Clwy a a e • arbed u h a T r o u ig da • Y sedd ynyrchia g i ddim d a i yng au am t n s n o y g c i o bu enn au t yddiad y arche • Rhagl d w r id d l w o e eg • Cyfn fyr! ychwan % 5 d 8 Rhag e r e n • ar b e d gw cyn dyd
Sioeau Mae tocyn tymor yn berthnasol i’r sioeau canlynol: A Streetcar Named Desire; The Great Gatsby; The Assassination of Katie Hopkins; Home, I’m Darling; The Little Matchgirl; The Weir; Rita, Sue and Bob Too; Great Expectations; A Midsummer Night’s Dream; Brighton Rock; Turn of the Screw; The Play That Goes Wrong. “Y print mân” Mae’r cynnig yma’n dibynnu ar argaeledd | Ni roddir ad-daliadau o ganlyniad i’r cynnig hwn nac unrhyw gynnig dilynol Y cynnig yn berthnasol i sioeau penodol yn unig | Ni ellir ei ddefnyddio mewn Ymarferion Gwisg. 3
nadolig
Mae’r panto roc a rôl enwog yn ei ôl gyda chaneuon roc a soul yn cael eu chwarae’n fyw gan actor-gerddorion. Gyda chlasuron fel Superstition, Celebration, Every Breath You Take, Hey Baby, Sex Bomb, a llawer mwy! Jôcs gwallgo, ffrogiau ffrils, setiau hardd, digon o slapstic a dychweliad y pypedau panto – prynwch eich tocynnau nawr am banto cwbl effro! Cynhyrchiad gan Theatr Clwyd Cyfarwyddwyd gan Zoë Waterman
gwe 24 Tach – Sad 20 ion £25 - £20 gostyngiadau ar gael ysgolion o £10 Theatr anthony Hopkins
Hyd at 11 oed
16 Rhag 2pm
13 ion 2pm
6 ion 2pm
16 ion 6pm
Rinc iâ
Pan ddaw drych dirgel i’r golwg yn waliau Theatr Clwyd, mae’n agor porth i fyd tylwyth delfrydol. Ond wrth i graciau ddechrau ymddangos yng ngwynfyd y Nadolig, a fyddwch chi’n mentro ar yr iâ i helpu Brenhines yr Eira i ddatrys y pos amhosib?
Yn 2016 daeth mwy na 9,000 o bobl i sglefrio yn Theatr Clwyd. Nawr mae ein rinc iâ dan do yn edrych dros fryniau Clwyd yn ôl am yr ail flwyddyn!
Gyda phosau, gemau a lledrith, mae’r stori yma am gyfeillgarwch yn berffaith ar gyfer plant iau nag 11 oed a’u teuluoedd.
Gydag iâ go iawn, amgylchedd trawiadol, bwyd a diod grêt, digwyddiadau arbennig a llawer mwy – archebwch yn gynnar rhag colli’r cyfle i sglefrio cyn neu ar ôl y panto!
Cynhyrchiad ar y cyd gan Theatr Clwyd a Paperfinch Cyfarwyddwyd gan Joe Bunce | Yn seiliedig ar lyfr H.C. Anderson
8 Rhag – 7 ion
gwe 15 Rhag – Sad 6 ion
£8 - £5 | Drws nesaf i Theatr Clwyd
£12 - £8
Sesiynau 45 munud | Pob tocyn yn cynnwys llogi esgidiau sglefrio | Cymhorthion sglefrio ar gael am £4
Theatr Emlyn williams 4
Noddir gan
GAN F SCOTT FITZGERALD
HHHHH British Theatre Guide HHHH The Guardian Mae’r dauddegau yn eu hanterth – degawd o wirodydd anghyfreithlon a jazz cynhyrfus. Mae Jay Gatsby wedi eich gwahodd chi i un o’i bartïon enwog a dydi hwnnw ddim yn wahoddiad rydych chi eisiau ei wrthod. Mae coctels yn llifo, cerddoriaeth yn chwarae ac mae’r parti’n llawn bwrlwm. Camwch i fyd y nofel yma o’r oes jazz sy’n eich gosod chi wrth galon y digwydd. Sioe i ymgolli ynddi yn Nhafarn y Dolphin yn Yr Wyddgrug. Cewch wisgo i fyny ar gyfer y sioe a dawnsio (os ydych chi eisiau!) neu ddim ond eistedd wrth y bar ac ymgolli ym myd Gatsby! Rydym yn eich annog i wisgo dillad y 1920au ac argymhellir esgidiau dawnsio! The Great Gatsby gan F Scott Fitzgerald Addaswyd a chyfarwyddwyd gan Alexander Wright Crëwyd gan The Original Company Cynhyrchiad gan Theatr Clwyd
iau 22 Chwef – Sul 25 Maw O £10 archebwch yn gynnar i gael y seddi gorau am y prisiau gorau. amseroedd amrywiol Tafarn y Dolphin, yr wyddgrug Oed 14+ Mer 7 Maw Mer 7 Maw
“Fe welais i’r sioe yma yn Llundain, mae fel mynd yn ôl i’r parti gorau erioed yn y 1920au.” Crayg Ward, Theatr Clwyd 5
Geiriau gan Chris Bush | Cerddoriaeth gan Matt Winkworth
Première Byd Mae trosedd erchyll yn rhannu’r genedl. Mae bysedd yn cael eu pwyntio, mae pobl yn cymryd ochrau, mae ffeithiau’n anodd eu cael. Pam mae hyn wedi digwydd? Sut mae symud ymlaen? Beth sydd raid i ni ei gofio? Mae’n hawdd mynegi barn ar-lein, yn ddiogel tu ôl i allweddell heb i neb eich adnabod chi, dim ond hoffi, rhannu a thanysgrifio. Ond wrth i’r giwed ddigidol hogi ei harfau, mae’r byd yn dechrau cwestiynu pa mor rhydd yn union ddylai siarad rhydd fod. Sioe gerdd ffraeth, newydd gan Chris Bush a Matt Winkworth am wirionedd, bod yn seren a dicter cyhoeddus. Dewch i weld y sioe yma os ydych chi’n mwynhau: Jerry Springer The Opera, Black Mirror, London Road neu ddychan tywyll. 6
Cefnogir gan The Kevin Spacey Foundation Cyfarwyddwyd gan James Grieve | Cynhyrchiad gan Theatr Clwyd
gwe 20 Ebr – Sad 12 Mai O £10 archebwch yn gynnar i gael y seddi gorau am y prisiau gorau. 7:45pm | 2:45pm | Theatr Emlyn williams
Maw 8 Mai Sad 5 Mai 2.45pm | iau 10 Mai 7.45pm Sad 5 Mai 2.45pm Sad 5 Mai 2.45pm a iau 10 Mai 7.45pm
Llun: David Stewart
Home, i’m Darling gan laura wade Première Byd
llun 25 Meh – Sad 14 gorff
Pa mor hapus ydi pobl sydd mewn priodas hapus? Mae pob priodas angen ychydig o ffantasi i gynnal y wefr. Ond y tu ôl i’r llenni gingham, dydi bod yn dduwies ddomestig ddim mor hawdd ag y mae’n edrych... Katherine Parkinson (The IT Crowd, Humans) sy’n serennu yng nghomedi dywyll Laura Wade am ryw, cacennau a’r ymgais i fod yn wraig tŷ berffaith yn y 1950au. Cyfarwyddwyd gan Tamara Harvey Cynhyrchiad ar y cyd gan Theatr Clwyd a’r National Theatre
O £10 archebwch yn gynnar i gael y seddi gorau am y prisiau gorau. 7:45pm | 2:45pm | Theatr Emlyn williams Maw 10 gorff Sad 7 gorff 2.45pm | iau 12 gorff 7.45pm Sad 7 gorff 2.45pm Sad 7 gorff 2.45pm | iau 12 gorff 7.45pm 7
8
“Every man is a king” Dydi Stanley ddim yn eithriad. Pan ddaw chwaer-yng-nghyfraith bryderus, ddeniadol ac eithriadol glyfar Stanley, Blanche DuBois, draw i aros mae ei dyfodiad yn bygwth ei holl ffordd o fyw. Wrth i’r haf boethi, a’r gemau droi’n filain, mae dyhead cryf yn bygwth chwalu eu byd yn deilchion mân. Mae clasur oesol Tennessee Williams yn bortread ffyrnig o beth yw ystyr bod ar y tu allan mewn cymdeithas lle rydyn ni i gyd yn dyheu am berthyn. Cyfarwyddwyd gan Chelsea Walker Cynlluniwyd gan Georgia Lowe Cynhyrchiad ar y cyd gan Theatr Clwyd, Nuffield Southampton Theatres a’r English Touring Theatre gyda chefnogaeth gan y Royal Theatrical Support Trust
Maw 15 Mai – Sad 2 Meh O £10 Rhan o’r Tocyn Tymor | Rhan o’r Tocyn Tymor archebwch yn gynnar i gael y seddi gorau am y prisiau gorau 7:30pm | 2:30pm | Theatr anthony Hopkins argymhellir 14+ oed Sad 26 Mai 2.30pm | iau 31 Mai 7.30pm Sad 26 Mai 2.30pm Sad 26 Mai 2.30pm | iau 31 Mai 7.30pm
“Mae Blanche DuBois yn un o’r rhannau eiconig hynny sy’n ffrwydro ar y llwyfan gydag angerdd, ansicrwydd a thrydan. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at weld y sioe yma.” Gwennan Mair – Tîm Ymgysylltu Creadigol
Theatr Clwyd 9
The little Matchgirl (and Other Happier Tales) ★★★★★ WhatsOnStage ★★★★ The Guardian Cynhyrchiad ‘exquisite’ (Daily Telegraph) Emma Rice ar gyfer Shakespeare's Globe sydd wedi cael canmoliaeth frwd y beirniaid. Mae ein harwres yn cael trafferth goroesi, gan danio matsys i gadw’n gynnes. Mae pob matsien yn creu stori newydd, gweledigaeth newydd. Cydiwch yn ei llaw wrth i ni, gyda’n gilydd, syrthio i lawr twll cwningen. Wedi’i hysbrydoli gan The Little Matchgirl gan Hans Christian Andersen (sy’n cyfuno The Princess and the Pea, The Emperor’s New Clothes a Thumbelina), camwch i fyd gwefreiddol dirgelwch a hud. Cyfarwyddwr a chyd-Addaswr Emma Rice Awdur a chyd-Addaswr Joel Horwood Cynhyrchiad gan Shakespeare’s Globe a Bristol Old Vic
The weir Enillydd Olivier am y glasur fodern hon gan Conor McPherson “One of the best plays of the past century” Daily Telegraph Mewn tref fechan Wyddelig, mae’r trigolion lleol yn rhannu straeon o amgylch tân eirias tafarn Brendan ar noson stormus. Wrth i’r cwrw a’r wisgi lifo, mae dyfodiad dieithryn ifanc, sy’n cuddio cyfrinach o’i gorffennol, yn troi’r straeon llen gwerin yn rhywbeth llawer mwy anesmwyth. Ond mae un stori’n fwy iasol a real nag y byddai unrhyw un ohonyn nhw wedi gallu dychmygu. Mae’r stori yma sy’n llawn cysgodion ac sy’n tyrchu i bob twll a chornel dywyll o fywydau pobl yn dathlu ei phen blwydd yn 20 oed. Cynhyrchiad gan yr English Touring Theatre a Mercury Theatre Colchester
Maw 13 – Sad 17 Chwe O £10
Maw 30 ion – Sad 3 Chwe
7.30pm | 1pm | Theatr anthony Hopkins
O £10
Sgwrs cyn y sioe: 13 Chwe 6.30pm | ystafell Haydn Rees
7.30pm | 1pm | Theatr anthony Hopkins
iau 15 Chwe 7.30pm Disgrifiad: Sad 17 Chwe 2.30pm
10
Taith gyffwrdd: Sad 17 Chwe 2.30pm
Rita, Sue and Bob Too "Wyt ti’n meddwl y byddai’n well i ni’n dwy gael cariadon go iawn?"
Maw 6 – Sad 10 Chwe
Mae dwy ffrind yn eu harddegau, Rita a Sue, yn cael lifft adref gan Bob, gŵr priod, ar ôl gwarchod ei blant. Pan mae’n mynd â nhw’r ffordd hir rownd ac yn cynnig dipyn o hwyl iddyn nhw, mae’r tri’n dechrau ar berthynas mae pob un ohonyn nhw’n meddwl eu bod yn gallu ei rheoli.
O £10
Gyda hiwmor dieflig, manylder dychrynllyd a chlust wych am ddeialog, addaswyd Rita Sue and Bob Too yn ffilm lwyddiannus yn y 80au.
“…Great work like this never ages” North West End ★★★★★
Ysgrifennwyd gan Andrea Dunbar Cyfarwyddwyd gan Kate Wasserberg
archebwch yn gynnar i gael y seddi gorau am y prisiau gorau. 7:30pm | 2:30pm | Theatr anthony Hopkins
"Intensely funny" The Guardian
Cynhyrchiad ar y cyd gan Out of Joint, Octagon Theatre Bolton a’r Royal Court Theatre
11
Charles Dickens’
great Expectations Gyda chymeriadau lliwgar a chofiadwy ar draws tirlun helaeth o leoliadau, mae’r sioe drawiadol yma’n berfformiad pwerus a theatrig o gampwaith Dickens sy’n ffefryn yn fyd-eang. Mae’r actores sydd wedi ennill gwobr Olivier, nichola Mcauliffe, yn arwain y cast fel yr eiconig Miss Havisham. Mae Nichola’n enwog am ei rôl yn y gyfres deledu Surgical Spirit, y ffilmiau Tomorrow Never Dies a Chéri a’i hymddangosiadau niferus ar lwyfan, gan gynnwys Kiss Me Kate ar gyfer yr RSC, The Night of the Iguana yn y West End a The Lady in the Van gan Alan Bennett. Cyfarwyddwyd gan Sophie Boyce Couzens | Cynhyrchiad ar y cyd gan Tilted Wig Productions a Malvern Theatres
Of Mice and Men gan John Steinbeck Cynhyrchiad iasol newydd o stori fwyaf eiconig a phwerus llenyddiaeth america. Gyda chyfnod heriol y Dirwasgiad Mawr yn gefndir iddi, mae Of Mice And Men yn ddrama sy’n cyflwyno portread pwerus o’r ysbryd Americanaidd ac yn deyrnged dorcalonnus i gwlwm cyfeillgarwch a beth mae’n ei olygu i fod yn berson o gig a gwaed. Carreg filltir o ddrama gan y dramodydd a enillodd Wobr Nobel, John Steinbeck, ac mae’n adrodd stori George a Lennie, dau weithiwr mudol sy’n gweithio ar ransh fawr ac yn breuddwydio am fod yn berchen ar eu ransh eu hunain rhyw ddydd. Mae’n boenus o berthnasol i’r oes fodern a dyma stori ingol am geisio dal gafael ar eich breuddwydion a chyfeillgarwch yn ystod cyfnodau anodd. Cyfarwyddwyd gan Guy Unsworth Selladoor Productions
Maw 27 Chwe – Sad 3 Maw O £10
llun 19 – Sad 24 Chwe
7.30pm | 1pm | Theatr anthony Hopkins
O £10
12
7.30pm | 1pm | 2.30pm | Theatr anthony Hopkins
yn SyTH O’R wEST EnD yn llunDain
Maw 27– Sad 31 Maw
“The best page-to-stage show since War Horse… a spellbinding production’’ The Stage ★★★★★
O £10
Mae Afghanistan yn wlad ranedig ar ddibyn rhyfel ac mae dau ffrind bach ar fin cael eu rhwygo ar wahân. Mae’n brynhawn hyfryd yn Kabul ac mae’r awyr yn llawn cyffro a llawenydd y twrnamaint hedfan barcud. Ond nid yw Hassan nac Amir yn gallu rhagweld y digwyddiad erchyll a fydd yn chwalu eu bywydau am byth. Mae’r stori hiraethus yma am gyfeillgarwch sy’n cwmpasu diwylliannau a chyfandiroedd yn dilyn siwrnai un dyn i wynebu ei orffennol a cheisio gwaredigaeth. Addaswyd gan Matthew Spangler Yn seiliedig ar y nofel gan Khaled Hosseini Cyfarwyddwyd gan Giles Croft Cynhyrchiad gan y Nottingham Playhouse
archebwch yn gynnar i gael y seddi gorau am y prisiau gorau. 7.30pm | 2.30pm | Theatr anthony Hopkins
“The Kite Runner is a truly contemporary cultural phenomenon” ★★★★★ The Sunday Express “Director Giles Croft delivers a coup… an enthralling tale beautifully told” The Telegraph
13
Photo credit: Sheila Barnett
’
noël Coward’s
Private lives
The Play That goes wrong
Mae angerdd mawr a phersonoliaethau mwy’n gosod y llwyfan ar gyfer brwydr glasurol rhwng y rhywiau.
★★★★★ Daily Mail ★★★★ Independent ★★★★ Sunday Telegraph ★★★★ Metro ★★★★ Financial Times ★★★★ The Stage
1930. Deauville, Ffrainc. Mae dau gwpwl sydd newydd briodi’n aros mewn ystafelloedd mis mêl drws nesaf yn yr un gwesty. Mae cerddorfa i’w chlywed yn y pellter wrth i Sibyl syllu’n llawn edmygedd i lygaid ei gŵr carismataidd Elyot, tra mae Victor yn edmygu ei wraig newydd, Amanda soffistigedig.
Fawlty Towers a Noises Off yn un yn y gomedi lwyddiannus yma ar Broadway ac yn y West End sydd wedi ennill gwobrau di-ri.
Yn gyforiog o ffraethineb deifiol a deialog slic, Private Lives yw comedi lwyfan fwyaf poblogaidd Coward o hyd. Cynhyrchiad gan London Classic Theatre Cyfarwyddwyd gan Michael Cabot
Maw 20 – Sad 24 Maw O £10 14
7.30pm | 2.30pm | Theatr anthony Hopkins
Mae Cymdeithas Ddrama Coleg Polytechnig Cornley yn llwyfannu drama o’r 1920au am ddirgelwch llofruddiaeth ond, fel mae’r enw’n awgrymu, mae popeth sy’n gallu mynd o chwith ... yn mynd o chwith! Wrth i’r thesbiaid frwydro ymlaen yn wyneb sawl damwain a her nes i’r llenni gau am y tro olaf, mae’r canlyniadau’n hynod ddoniol! Ysgrifennwyd gan Henry Lewis, Jonathan Sayer a Henry Shields Cyfarwyddwyd gan Mark Bell | Neb enwog yn actio
llun 9 – Sad 14 Ebr O £10 7.30pm | 2.30pm | Theatr anthony Hopkins
Jonathan Broadbent as Oberon in A Midsummer Night’s Dream 2016. Photo: Tristram Kenton
a Midsummer night’s Dream gan william Shakespeare ★★★★★ Independent on Sunday ★★★★ “Slapstick, magic and mayhem” The Guardian Mae gogwydd unigryw a beiddgar i’r stori glasurol yma am gariadon ifanc a thylwyth teg rhyfelgar, gyda cherddoriaeth fyw wreiddiol. ‘Filter’s Dream is part rock gig, part exuberant joke, exploding the conventions of the form and remaking them in dazzling new shapes’ Metro
Turn Of The Screw gan Tim luscombe addaswyd o’r nofel gan Henry James
Mae athrawes ifanc yn cytuno i edrych ar ôl dau o blant amddifad yn Bly, plasty gwledig paradwysaidd yr olwg. Ond yn fuan ar ôl iddi gyrraedd, mae’n sylweddoli nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain. Mae’r addasiad ffres yma o nofel boblogaidd a stori ysbryd glasurol Henry James yn gadael i chi lunio eich casgliadau eich hun am y digwyddiadau yn Bly a phwy sy’n euog.
Crëwyd gan Filter | Cyfarwyddwyd gan Sean Holmes Cynhyrchiad gan Lyric Hammersmith a Filter Theatre
Dyma’r ysbrydoliaeth wreiddiol ar gyfer The Woman in Black gan Susan Hill a sawl ffilm – peidiwch â cholli’r theatr gynhyrfus, swanc yma sy’n procio’r meddwl!
Maw 24 – Sad 28 Ebr
Cynhyrchwyd gan Dermot McLaughlin Productions gyda The Mercury Theatre Colchester a Wolverhampton Grand Theatre.
O £10 7.30pm | 1pm | 2.30pm | Theatr anthony Hopkins
Maw 1 – Sad 5 Mai O £10 7.30pm | 2.30pm | Theatr anthony Hopkins 15
Darlun gan: Caroline Tomlinson
Hanna Mae bod yn fam i fod yn anodd – ond i Hanna, dyma’r unig beth mae wedi bod yn wych am ei wneud, nes i brawf DNA ddatgelu nad ei phlentyn hi yw ei merch – a nawr mae ei rhieni ‘go iawn’ eisiau cyfarfod. Première byd ddoniol a theimladwy. Ysgrifennwyd gan Sam Potter Cyfarwyddwyd gan George Turvey Cynhyrchiad Papatango
Mer 7 – iau 8 Chwe O £15 7.45pm Theatr Emlyn williams
Brighton Rock gan graham greene Fersiwn newydd o’r ddrama afaelgar, iasol yma – peidiwch â’i cholli Mae Fred yn cael ei ganfod yn farw – maen nhw’n gwadu llofruddiaeth. Mae Rose mewn cariad – maen nhw’n dweud ei bod mewn perygl. Mae dau o ieuenctid dwy ar bymtheg oed, Pinkie a Rose, yn cael eu tynnu i ganol rhyfel milain rhwng gangiau yn Brighton. Mae un llofruddiaeth giaidd yn arwain at y nesaf ac nid yw’r heddlu’n gwneud dim. Ond mae Ida Arnold ddewr eisiau cael gwybod y gwir, dim ots beth fydd y canlyniadau.
2071 Cynhyrchiad sy'n cwmpasu materion amgylcheddol llosg yr oes - llygredd awyr, gwastraff plastig, colled rhywogaethau, dadgoedwigo, diflaniad gwenyn ac wrth gwrs newid hinsawdd. Sioe llawn caneuon, cerddoriaeth, geiriau dramatig a delweddau fideo.
Addasiad Bryony Lavery Cyfarwyddwyd gan Esther Richardson Cynhyrchiad ar y cyd gan Pilot Theatre a York Theatre Royal, drwy drefniant arbennig gyda STUDIOCANAL Comisiynwyd ar y cyd gyda The Lowry ar gyfer Week 53
Pam 2071 - oherwydd "yn y flwyddyn honno bydd wyres yr Athro Chris Rapley yr un oed ag yw ef heddiw. Sut fyd fydd o'i blaen?"
Maw 8 – Sad 12 Mai
llun 5 Chwe
O £10
O £10 | £6 ysgolion
7.30pm | 2.30pm | Theatr anthony Hopkins
7.45pm | Theatr Emlyn williams Cynhyrchiad yn yr iaith gymraeg
16
Prosiect amgylcheddol gan Gwmni Pendraw
Mae A Linha Curva yn ddarn parti sydd wedi ennill gwobr Olivier gyda digon o ysgwyd y cluniau a churiadau drwm. Yma mae ysbryd y carnifal ym Mrasil wedi cael ei ail-greu gan y coreograffydd Itzik Galili, gyda 28 o ddawnswyr, pedwar offerynnwr taro samba ac egni heintus.
“A giant, rowdy Brazilian carnival of a work” The Guardian
I gyd-fynd cyflwynir The days run away like wild horses gan Aletta Collins, portread ffraeth a bywiog o’r eiliadau sy’n creu bywyd, i gyfeiliant Danzones gan Arturo Márquez, a Symbiosis, dathliad ar gyflymder mawr o sgiliau dawnswyr Rambert gan y lluniwr dawnsfeydd byd-enwog Andonis Foniadakis. Cynhyrchiad Rambert
Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
Terra Firma
Llun: Chris Nash
Rambert: A Linha Curva a gweithiau eraill
Mer 7 – Sad 10 Maw O £10 7.30pm 1.30pm Sioe Cipolwg Prynhawn iau 8 Maw yn cynnwys 2 ddarn o waith, A Linha Curva a The days run away like wild horses. Sgwrs: iau 8 Mawrth 6.30pm | Sinema Theatr anthony Hopkins
Mae Folk yn stori dylwyth teg benigamp sydd wedi’i throi wyneb i waered gyda choreograffi od a theatrig Caroline Finn yn creu darlun mympwyol, tywyll o fywyd cymunedol. Mae gan Tundra gan Marcos Morau wreiddiau pwerus mewn dawnsio gwerin a chwyldro o Rwsia: adroddir hen straeon drwy ddawnsio cyfoes i roi perthnasedd newydd. I gyd-fynd cawn waith newydd gan Mario Bermudez Gil, yn seiliedig ar ei wreiddiau Sbaenaidd a’i hyfforddiant Israelaidd, yn null nodedig NDCWales ei hun.
llun 16 – Maw 17 Ebr O £10 7.30pm | 1pm | Theatr anthony Hopkins
17
woman of Flowers Cafodd Blodeuwedd ei chreu o flodau gwyllt gan ddewin i fod yn wraig berffaith i dywysog. Pan gaiff y dyheadau tywyll sydd wedi’u plethu yn ei natur eu deffro, mae’r canlyniadau’n waedlyd i bawb. Ail-gread trawiadol o farddonol o chwedl y Mabinogi am Blodeuwedd gan yr awdur llwyddiannus o Gymru, Siôn Eirian, i greu ffantasi dywyll hudolus. Gan Siôn Eirian | Ar ôl Saunders Lewis Cyfarwyddwyd gan Erica Eirian Cynhyrchiad ar y cyd gan Theatr Pena a Chanolfan y Celfyddydau Taliesin
gwe 23 – Sad 24 Chwe O £13 7.45pm | Theatr Emlyn williams Cynhyrchiad yn y Saesneg yw hwn Sad 24 Chwef 7.45pm Cefnogir gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru drwy gyfrwng y Cynllun Teithio Cenedlaethol ar gyfer Celfyddydau Perfformio. Gyda chefnogaeth ychwanegol gan Curo Advisers Limited a’u partneriaid strategol.
Ventoux Stori gelyniaeth Lance Armstrong a Marco Pantani ar y Llunt Ventoux arswydus yn y Tour de France yn 2000. Gan ddefnyddio gwaith fideo syfrdanol a dau feic ffordd rydyn ni’n gofyn y cwestiwn – pa mor bell ydych chi’n fodlon mynd i lwyddo? "A piece to be enjoyed by both cycling fans and non-fans in equal measure." ★★★★½ The Public Reviews ★★★★ The Independent Dyfeisiwyd gan y cwmni gydag Andy Routledge Cyfarwyddwyd gan Matt Wilks | Cynhyrchiad 2Magpies
Maw 27 – Mer 28 Chwe O £15 7.45pm | Theatr Emlyn williams 18
Crimes under the Sun
y Tad
Daw gwesty cudd ar ynys yn lleoliad i drosedd. Caiff y femme-fatale ei lladd. Mae’r holl westeion ar yr ynys yn cael eu hamau, ond ydyn nhw ar eu pen eu hunain? Mae pedwar actor yn chwarae rhannau cymeriadau niferus a nodedig yn y gomedi hon sydd wedi’i hysbrydoli gan Agatha Christie, Hitchcock a film noir!
Dyma stori ddirdynnol am ŵr sy’n methu deall yr hyn sy’n digwydd iddo pan fo’i gof yn dadfeilio, a merch sy’n ceisio dygymod â salwch ei thad.
"a mesmerising mix of murder, mayhem and laugh-out-loud comedy… even has echoes of those word-play specialists the Two Ronnies” HHHH The Stage
Gan Florian Zeller | Trosiad Cymraeg gan Geraint Løvgreen Cyfarwyddwyd gan Arwel Gruffydd Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â Pontio
Cyfarwyddwyd gan James Farrell | Cynhyrchiad New Old Friends
Sad 3 – Sul 4 Maw O £15 7.45pm | Theatr Emlyn williams
Trosiad newydd i’r Gymraeg o Le Père (The Father), enillydd Gwobr Molière am y Ddrama Orau, ac enillydd cystadleuaeth Trosi Drama i’r Gymraeg, Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2016.
Maw 13 – Mer 14 Mawrth O £12 | Canllaw oedran 11+ 7.45pm | 1.30pm | Theatr Emlyn williams Ôl-drafodaeth: Maw 13 Mawrth Mynediad i’r di-gymraeg drwy gyfrwng ap Sibrwd. Manylion llawn: theatr.com
Black Men walking
Richard iii Redux
Mae tri dyn yn cerdded bob mis. Cerdded a siarad. Ond wrth gerdded y tro yma ... Efallai y dylen nhw fod wedi canslo, ond roedd arnyn nhw angen cerdded heddiw. Allan yng nghanol y Copaon, maen nhw’n cael eu gorfodi i gerdded am yn ôl cyn gallu symud ymlaen.
Beth os caiff y ‘cripil hyll…. wedi’i anffurfio, yn gloff a’i gefn yn grwm’ ei bortreadu gan ffeminydd ddoniol, fenywaidd gyda’r un ffurf ar sgoliosis?
Stori Revolution Mix | Ysgrifennwyd gan Testament Cyfarwyddwyd gan Dawn Walton | Cyd-gynhyrchiad Eclipse Theatre Company a Royal Exchange Theatre Company
gwe 16 – Sad 17 Maw O £15 7.45pm | Theatr Emlyn williams
Sut byddai’r cymeriad yn newid o gael ei bortreadu gan actores anabl sy’n feistres lwyr ar amseru comedi? Ysgrifennwyd gan Kaite O’Reilly Cyfarwyddwyd gan Phillip Zarrilli | Cynhyrchiad Llanarth Group
llun 19 – Maw 20 Maw O £15 7.45pm | Theatr Emlyn williams
19
Cyngerdd amser Cinio
Corws Opera Cenedlaethol Cymru
Ruby wax: Frazzled
The wood
gan Owen Thomas Gorffennaf 1916 ac mae Brwydr y Somme yn ei hanterth. Yng Nghatrawd Cymreig rhif 38 mae Dan a Billy’n dod yn ffrindiau yng ngwres y frwydr. Ond pan gaiff Billy ei ladd yng Nghoed Mametz mae’n gadael ffrind sydd wedi torri’i galon ac, yn ôl adref, gwraig feichiog. Sut mae cofio ffrind rydych chi wedi’i golli? Ysbrydolwyd y ddrama hon gan stori wir, stori am gyfeillgarwch, cariad ac aberth yn erbyn cefndir o fyd mewn fflamau. Cyfarwyddwyd gan Peter Doran (Cyfarwyddwr Gorau, Gwobrau Theatr Cymru 2017) | Yn seiliedig ar syniad gan Ifan Huw Dafydd Cynhyrchiad Torch Theatre
Aelodau corws OCC yn perfformio cyngerdd amser cinio. Argymhellir archebu yn gynnar Perfformiad o ryw awr yn fras
gwe 20 Ebr £5 | £4 gost Tê a choffi am ddim ar gael Bagiau picnic ar gael ar y diwrnod am £3 1pm | ystafell Clwyd
Hardd, beiddgar, clyfar Ruby Wax gyda’i sioe un dynes pum seren newydd sy’n seiliedig er ei llyfr llwyddiannus A Mindfulness Guide for the Frazzled. Yn wallgo ar un adeg, ond yn llai felly erbyn hyn, mae’n mynd â ni ar daith drwy’i meddwl a’i chof sut i’w ddefnyddio, sut i beidio’i golli.
Sul 22 Ebr
Sad 24 Maw
£20
O £15
7.30pm Theatr anthony Hopkins
7.45pm | Theatr Emlyn williams
Stolen
“A scintillating combination of music, sound and story” The Times Mae Daniel Morden yn eich cludo chi i wlad nad oes posib dychwelyd ohoni - The Land of No Return, gyda chyfeiliant llinynnol hypnotig i’r stori gan Sarah Moody ac Oliver Wilson-Dickson. Byddant yn eich tywys chi ar siwrnai epig drwy wlad freuddwydiol lle byddwch yn dod ar draws y brenin sydd wedi cael ei droi’n garreg, hen wraig sy’n byw yng nghrafanc ceiliog mawr a dyn gwydr yn llawn gwenyn meirch. Dyma stori am gariad coll, dewrder ac, yn fwy na dim arall, gobaith.
gwe 9 Mar £12 | £10 gost 8pm | The Devil’s Violin ystafell Clwyd 20
The goat Roper Rodeo Band gyda Michelle Stodart (The Magic Numbers) a Brandon Ridley
y Clwb gwerin
Noson blŵs gosmig a harmonïau dolefus gyda The Goat Roper Band a’r enwog Michele Stodart (The Magic Numbers).
gwe 2 Maw £7 | £8 wrth y drws Drysau 7pm | Dechrau am 7.30pm ystafell Clwyd
Cerddorfa Jazz SK2
Jazz
Dewch i glywed goreuon y diweddar gawr Stan Kenton wrth i’r band mawr 18 offeryn yma berfformio darnau cerddorfaol gwefreiddiol Johnny Richards o’r Cuban Fire Suite a chaneuon clasurol West Side Story. Dan arweiniad y drymiwr Dave Tyas a gyda Lee Hallam, Munch Manship, Jim Fieldhouse a Mike Burns, cewch brofi sain eiconig Kenton ar ei newydd wedd i gynulleidfaoedd yr 21ain ganrif. Cyflwyniad Jazz Gogledd Cymru
Maw 6 Chwe £12 | £10 gost | £5 dan 18 8pm | ystafell Clwyd
Mountainface Me & Deboe andy Hickie Mae Mountainface yn swynol ac yn hudolus, yn gwbl gynnil gyda chrefft ofalus. Mae gan y triawd talentog yma gyfoeth o addewid i’w gynnig.
gwe 6 Ebr £7 | £8 wrth y drws Drysau 7pm | Dechrau am 7.30pm ystafell Clwyd
Pedwarawd Scott Hamilton Yn un o gyfeillion y cawr Benny Goodman ers blynyddoedd lawer, mae’r sacsaffonydd tenor o UDA, Scott Hamilton, wedi recordio gyda chewri’r byd jazz, fel Gerry Mulligan a Rosemary Clooney, ac wedi rhyddhau mwy na 40 albym. Yn y pedwarawd llawn sêr yma mae Cewri Prydain - John Pearce (piano), Dave Green (bas dwbwl) a Steve Brown (drymiau) – yn ymuno ag ef. Cyflwyniad Jazz Gogledd Cymru
Maw 27 Maw £15 | £10 gost | £5 dan 18 8pm | ystafell Clwyd 21
Sioeau Teuluol 0-5 oed
Hush-a-bye gan Tim webb g yn Mae’r canopi deilio aduriaid gartref i lawer o gre yl eu gw dis i’n fyddech ch dech chi fyd na un ac , eld gw ld – babi fyth yn disgwyl ei we wedi bi ba e’r ma t Su ! bach fi bro i fle Cy cyrraedd yno? ac au syn , dd fey golyg fryd yn y arogleuon coetir hy n Oily ga a ym d hia cynhyrc ! en Cart ar ben coed t Cynhyrchiad Oily Car Newell Cyfarwyddwr: Anna
siwn Mae gennym ni 3 fer gyfer ar e sio o’r gwahanol au: gwahanol oedrann 6 mis i 2 oed 3 i 5 oed l (3 i 8 oed) Fersiwn Hamddeno
n Maw 16 – Sad 20 io m Maw: 10.30am | 1p m 1p | am .30 iau: 10 gwe: 1pm | 4.30pm Sat: 10.30am | 1pm
£8 | £7 grwpiau* £6 ysgolion 22
*grwpiau o 6 neu fwy ms Theatr Emlyn willia
5+ Oed
little Red and the Big Bad wolf Mae ffigur bach coch yn cychwyn ar droed, I dŷ Nain mae’n mynd yr ochr arall i’r coed. Paid arogli’r blodau na dringo coeden fawr, Na chanu i’r adar, cofia’r geiriau hyn nawr… Paid gadael y llwybr, cinio blasus wyt ti, i’r blaidd mawr llwglyd, sy’n dy aros di! byddus Ail-gread hynod theatrig o’r stori glasurol adna yn llawn cerddoriaeth, dawns a chân. “witty and intelligent production ” HHHHH The Reviews Hub
ar y cyd gan Cyfarwyddwyd gan Nina Hajiyianni | Cynhyrchiad Action Transport Theatre ac Unity Theatre
iau 25 – Sad 27 ion £8 | £7 grwpiau* | £6 ysgolion *grwpiau o 6 neu fwy 10.30am | 1.30pm | 4.30pm Theatr Emlyn williams
3+
7+
Oe d
what the Moon Saw
Oed
3+
Oed
Ŵy,Chips a nain i nnocence Mae Guto wrth ei fodd yn
Perfformiad treulio amser gyda ysta Ar ei ben ei hun yn y byd ac yn ’i Nain. Trip unigryw. Cyfle fell chwarae cw ch i Iw erd don, picnic ar lan ofni’r tywyllwch, mae Jack yn i archwilio dychymyg W y môr, fflagiau se illiam Blake agor llenni ei ystafell wely i maffor a a ch amu i’w fyd thylwyth teg yn tro ddarganfod wyneb cyfarwydd. o ddirgelwch i plant yn , hw yl se ac lsi g! Ond mae’r antu antur. Gyda Yn disgleirio’n llachar, mae’r r fwyaf ch er et dd o or i dd ia od et . h fyw, caneuo Lleuad yn dysgu Jack sut i fod n, chwerthin a Yn dathlu dychym synau anifeili yn ddewr ar antur ryfeddol ar yg plant ac aid gan Paul Brad ley. Profiad draws y byd. Gwyliwch fyd Jack yn edrych ar y berthyn as dawns hard d a difyr i blan arbennig rhwng ta yn dod yn fyw yn y stori id neu nain t bach, eu teul ac ŵyr neu wyres uoedd a’u ryngweithiol yma o ddawns, a sut mae ffrindiau. dementia’n newid syrcas a cherddoriaeth. hynny dros ★★★★★ am ser. i gael yr antur orau erioed, The Sunday Ysg rife nn wy Express d gan Gwyneth Gly dewch yn gwisgo eich n Cyfarwyddwyd ga ★★★★ n Iola Ynyr pyjamas! Cynhyrchiad ar y cyd gan Frân Wen a The Scotsman Galeri Ysbrydolwyd gan Hans Christian Andersen | Ail-gread gan 2Faced ★★★★ Dance Company The Times M aw 20 – Dramaturg: Ellie While Comisiynwyd gan The Place, Dance East a DanceXchange a chefnogir gan Arts Council England, The Gulbenkian, Canterbury a The Point, Eastleigh.
Maw 13 – Mer 14 Chwe £8 | £7 grwpiau* £6 ysgolion *grwpiau o 6 neu fwy 10.15am | 1.15pm | 4.30pm Theatr Emlyn williams
Mer 21 Chwe
£8 | £7 grwpiau* £6 ysgolion
*grwpiau o 6 neu fwy 10.15am | 1.15pm | 4.30pm Theatr Emlyn wi lliams
Cynhyrchiad Scottish Danc e Theatre
Maw 27 – iau 29 Maw £8 | £7 grw piau* £6 ysgolion
*grwpiau o 6 neu fwy 10.30am | 1. 30pm | 4.30 pm Theatr Emly n williams
23
Cerddoriaeth glasurol Eugene Onegin Dyma gyfuniad o stori rymus a thorcalonus Pushkin gyda thelynegiaeth ysgubol Tchaikovsky gydag alawon trawiadol, gan gynnwys golygfa fawr Tatyana (tour de force yn y repertoire i sopranos). Mae’r stori ingol yma’n gwrthgyferbynnu bywyd gwledig â gormodedd llys Rwsia cyn y chwyldro ac yn adrodd hanes y cariad anobeithiol rhwng Tatyana ddiniwed a’r sinig Onegin. Cynhyrchiad gan Opera Canolbarth Cymru
gildas Quartet “the gifted Gildas Quartet” The Times Un o’r ensembles ifanc mwyaf cyffrous i ymddangos yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Y rhaglen yn cynnwys: HayDn - Pedwarawd Op. 74 Rhif 1 yn G leiaf BRaHMS - Pedwarawd Llinynnol Op.51 Rhif 1 yn C leiaf
Sul 3 Rhag £17 | £15
7:30pm Theatr anthony Hopkins
24
Sinfonia Cymru
“…one of classical music’s most exciting, prodigiously brilliant young stars” Classic FM
“datblygiad cerddorfaol pwysicaf ac mwyaf arwyddocaol Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf” Bryn Terfel
Telynores glasurol o safon byd. Bydd Catrin yn chwarae rhaglen amrywiol, o JS Bach i alawon Cymreig traddodiadol. Y rhaglen yn cynnwys: JS BaCH - Prelude o Violin Partita Rhif 3 TRaDDODiaDOl gyMREig – Alawon
7:30pm Theatr anthony Hopkins
Sul 18 Maw £22 | £20 gost
Catrin Finch, telyn
Mae cerddorfa siambr genedlaethol Cymru yn ei hôl o dan arweiniad meistrolgar Gabor Tacács-Nagy i berfformio Symffoni Rhif 40 angerddol Mozart yn G leiaf. Y rhaglen yn cynnwys: MOZaRT – Symffoni Rhif 40 yn G leiaf K.550
Sul 4 Chwe llwglyd? Mae ein caffi’n gweini prydau poeth ac oer cyn y cyngherddau!
£17 | £15 7:30pm Theatr anthony Hopkins
Sul 4 Maw £17 | £15 7:30pm Theatr anthony Hopkins
CaRu Ein CyngHERDDau ClaSuROl? Archebwch eich tocynnau i gyd ymlaen llaw i arbed! Archebwch y 7 sioe cyn 8 Rhag ac arbed 10%
alexander Chaushian, soddgrwth yvgeny Sudbin, piano
Benjamin Baker, fiolin Daniel lebhardt, piano
“Chaushian’s passion was riveting” The Guardian
“a sleek-sounding young soloist; hugely impressive” Daily Telegraph
Mae galw mawr am y chwaraewr soddgrwth byd enwog o Armenia, Alexander Chaushian, fel cerddor siambr ac unawdydd.
Mae Benjamin Baker a aned yn Seland Newydd yn dalent sy’n prysur wneud enw iddo’i hun.
Skampa Quartet “The quartet’s dynamic approach was breathtaking...the beauty of their playing stems from deep musical intelligence.” Independent Yn wreiddiol o’r Weriniaeth Tsiec, mae Skampa wedi teithio’r byd ers dros 20 mlynedd ac mae’n un o bedwarawdau mwyaf blaenllaw Ewrop.
Y rhaglen yn cynnwys: BEETHOVEn – Sonata i’r Soddgrwth Rhif 3 Op. 69 BORODin - Sonata yn B leiaf i’r Soddgrwth a’r Piano CÉSaR FRanCK - Sonata i’r Soddgrwth a’r Piano yn A leiaf
Y rhaglen yn cynnwys: BEETHOVEn – Sonata i’r Soddgrwth Rhif 3 Op. 69 BORODin - Sonata yn B leiaf i’r Soddgrwth a’r Piano CÉSaR FRanCK - Sonata i’r Soddgrwth a’r Piano yn A leiaf
Y rhaglen yn cynnwys: SCHuBERT – Pedwarawd Llinynnol Rhif 14 ‘Death and the Maiden’
Sun 25 Mar
Sul 6 Mai
£17 | £15
£17 | £15
£17 | £15
7:30pm Theatr anthony Hopkins
7:30pm Theatr anthony Hopkins
7:30pm Theatr anthony Hopkins
Sul 3 Meh
llŷr williams – Schubert: Piano Sonatas “One of the truly great musicians of our time” The Times Dau gyngerdd gan Llŷr Williams, gyda sgwrs gan Stephen Johnson o BBC R3.
Sul 17 Meh 3:30pm SCHuBERT – Pedair Impromptu D935 SCHuBERT – Sonata Rhif 9 D575 Sgwrs Stephen Johnson
£12 | £10 gost
7:30pm SCHuBERT – Sonata Rhif 18 D894 SCHuBERT – Sonata Rhif 19 D958
£17 | £15 gost Theatr anthony Hopkins
25
Sinema Profiad sinema gwych o ddim ond £6* Mae ein sinema 115 sedd gyfforddus yn dangos y ffilmiau prif ffrwd, amgen a thŷ celf gorau. Ewch i theatrclwyd.com am y manylion neu mae gennym ganllaw ffilm misol ar gael (fe wnawn ei bostio atoch chi os ydych chi wedi ymweld yn ddiweddar ac os nad oes gennych chi e-bost). Dim ond £6* yw tocynnau’r rhan fwyaf o’r ffilmiau, gyda Sgrin Hŷn yn dangos ffilmiau am £5**. *Bydd ambell sgrinio byw, arbennig a lloeren yn costio mwy. **Yn cynnwys paned o de neu goffi ffilter
26
d £3 Clwb Ffilm i Deuluoed e i weld cyfl e ma wrn Bob bore Sad wyniad cyfl ffilm deuluol glasurol fel neu 4 pen y £3 a. em perffaith i’r sin nar gyn ! am £10. Archebwch yn
Sgrinio Byw Gyda darllediada u byw gan y Natio nal Theatre, RSC, Met Opera, Bolshoi Ba llet a mwy. Manylion am sgrinio i ddod ar gael ar ein gwefa n ni. .
Comedi
Tudur Owen The Size of wales
Mitch Benn i’m Still Here
Paul Sinha Shout Out to My Ex
Ymunwch â’r comedïwr llwyddiannus (sydd wedi ymddangos ar The Now Show ar BBC Radio 4) ar siwrnai lon gydag ambell sypreis i ddod i wybod beth yw gwir ystyr bod yn Gymro.
Llongyfarchiadau! Mae’n 2018 ac rydych chi dal yma! A Mitch hefyd, yn edrych yn ôl, ymlaen ac i’r ochr ac yn ceisio gwneud y byd yn lle gwell, un gân wirion ar y tro, fel y clywyd ar The Now Show ar BBC Radio 4.
★★★★★ Edinburgh Festivals Mag ★★★★★ one4review ★★★★ The Scotsman
Ydan ni’n wahanol? Beth mae pobl eraill yn ei feddwl ohonon ni? Oes ots? “Riotously funny” ★★★★TheReviewsHub “very funny and very Welsh” BBC Wales. Mer 14 Chwef £10 8pm Theatr Emlyn williams Mae’r sioe hon yn Saesneg
Defnyddir iaith gref a themau ar gyfer oedolion yn y sioeau comedi yma.
“Well crafted, well sung, his songs are just plain funny” The Guardian “the country's leading musical satirist” The Times ★★★★ One4Review ★★★★ ScotsGay ★★★★ To Do List Sad 17 Maw £14 | £12 7.30pm ystafell Clwyd
Yn ei sioe yng Ngŵyl Fringe Caeredin yn 2015 plethodd Paul Sinha (The Chase) stori gymhleth am hapusrwydd yn seiliedig ar gyfuniad o wneud dwy swydd roedd wrth ei fodd â nhw, a bod mewn perthynas dymor hir go iawn i oedolion. Y diwrnod ar ôl iddo ddychwelyd adref, chwalwyd y ddelwedd o hapusrwydd yn deilchion. Ai hyn oedd y diwedd? “Life will bring him crashing down to earth soon enough. And that really ought to sustain his densely funny comedy.” Scotsman iau 22 Maw £14 | £12 7.45pm Theatr Emlyn williams Oedran: 18+
27
ymgysylltu Creadigol Ein Cwmni ifanc
Cwmni55
ysgolion a Cholegau
Mae ein gweithdai drama wythnosol yn cynnwys dosbarthiadau meistr, cyfle unigryw i weld sioeau ymlaen llaw a sesiynau gydag artistiaid proffesiynol.
Dros 55 oed? Diddordeb yn y theatr a pherfformio? Cyfle i ddatblygu sgiliau newydd, magu hyder a gwneud ffrindiau newydd yn y grŵp bywiog a chreadigol yma.
Rydyn ni eisiau gweithio gyda chi! Mynnwch ein llyfryn chwarterol sy’n llawn gweithdai addysgol, teithiau, pecynnau, cynigion arbennig a chyfleoedd.
Cwmni25
Cwmni Fuse
Ffotograffwyr ifanc
Rhwng 17 a 25 oed? Eisiau creu, archwilio ac arbrofi? Diddordeb mewn profiad gweithdy wythnosol arloesol? Cwmni25 yw ein theatr i bobl ifanc sydd fymryn bach yn wahanol!
Ar gyfer pobl ifanc (7 i 25 oed) sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Lle perffaith i archwilio pleserau byd y theatr.
Eisiau fframio bywyd mewn lens camera? Dal eiliadau cofiadwy sy’n nodi digwyddiad, emosiwn neu dirlun? Eisiau cael eich ysbrydoli gan ffotograffydd proffesiynol? Gall ein sesiynau ffotograffiaeth ymarferol helpu!
Tyfu
28
Mae Rhaglen Datblygiad Creadigol Theatr Clwyd yn cynnig llawer o gyfleoedd i actorion, awduron, cyfarwyddwyr, cwmnïau a hwyluswyr o Gymru sydd eisiau datblygu eu sgiliau a’u syniadau creadigol.
lleoliadau a gwirfoddoli Diddordeb mewn gyrfa yn y theatr? Mae lleoliadau profiad gwaith cyfyngedig ar gael i ieuenctid 16+ oed neu beth am fod yn aelod o’n castiau cymunedol. Chi sydd i ddewis!
Stori a chân Dewch draw i’n gweithgareddau wythnosol am ddim i rieni a babanod yn ein gardd dan do. Cyfle i ganu caneuon, chwarae gemau a chyfarfod rhieni eraill. Mae’r sesiynau dwyieithog yma’n cael eu harwain gan Cymraeg i Blant ac maent yn addas i siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg o gwbl. Addas ar gyfer hyd at 2 oed.
Oriel Drefol Ydych chi’n artist sydd eisiau dangos eich gwaith? Grŵp yn dechrau clwb celf? Ysgol sy’n creu gwaith celf rhyfeddol? Dewch i arddangos eich gwaith yn yr Oriel Drefol yma. I gael gwybod mwy am ein holl weithgareddau, ewch i
theatrclwyd.com nerys.edwards @theatrclwyd.com
yr Oriel Jane Farrington: Tu Ôl i’r llen 2 Rhag - 13 ion Astudiaeth o Fyd Rhyfeddol y Theatr a Pherfformio i greu delweddaeth sy’n defnyddio cyfuniadau o gyfryngau cymysg, tynnu llun a collage.
Jeremy yates PRCa: Paentiadau a lluniau Diweddar 20 ion - 3 Maw “Ers blynyddoedd lawer rydw i wedi ymddiddori mewn paentio dŵr a’i nodweddion hylifol, tryloyw ac adlewyrchol – yn afonydd, llynnoedd a glaw Gogledd Cymru.”
Morwynion Haearn ii: gwnaed yng nghymru 10 Maw - 21 Ebr Sioe grŵp gan artistiaid sy’n unedig yn eu cyffro am natur haearn bwrw fel cyfrwng cerflunio a’u dyhead i rannu eu canlyniadau gyda eraill.
Peter welford 28 Ebr – 9 Meh Nid lluniau cysurus i salon yw’r paentiadau yma, ond newyddiaduraeth yn eu hanfod. Mae’r themâu’n pryfocio ac yn wleidyddol withiau, nid ymsonau ond deialogau gyda’r gwyliwr.
Dyluniad gan: Peter Welford
Oriel gymunedol Rhwydwaith Celf a Chrefft gweledol Sir y Fflint 27 Tach - 30 Rhag Casgliad o waith gan artistiaid amatur a phroffesiynol Sir y Fflint.
Chimera 2 – 20 ion Gweithiau newydd eclectig a chyffrous gan aelodau grŵp tecstilau Chimera.
Paula Salmons 22 ion – 3 Chwef Môr-luniau a thirluniau lleol mewn olew.
Martin lewis 5 - 24 Chwef Cyfres o baentiadau haniaethol a lled-haniaethol yn seiliedig ar ffurfiau naturiol a hanesyddol.
Susie liddle a Barbara larkin 26 Chwef - 17 Maw Paentiadau cyfoes gan ddefnyddio cyfrwng hynafol cwyr llosgliw.
Jean Hobson 19 Maw - 7 Ebr Paentiadau a sgrin-brintiau o Fanceinion a Lerpwl wedi’u nodweddu gan eu bywiogrwydd a’u huniongyrchedd. 29
Cymuned
Clwb Comedi Prynu 3 gig ac arbed 10% Prynu 5 gig ac arbed 20% Archebu’n Gynnar yn Syniad Da!
iau 4 ion | 8pm | £10 Fern Brady (8 Out of 10 Cats) ac enwebai am wobr gomedi Chris washington. iau 1 Chwef | 8pm | £10 Enillydd Comedi’r BBC Dan antopolski, wes Packer a Kiri Pritchard-Mclean o Gymru. iau 1 Maw | 8pm | £10 Enillydd gwobr Funny Women Jayde adams, Rich wilson a ffefryn y gigiau Silky. iau 5 Ebr | 8pm | £10 Comedïwr o fri Barry Dodds, un o oreuon y sesiynau cynhesu ar y teledu Dan Thomas a gwesteion. iau 3 Mai | 8pm | £10 Y gŵr “effortlessly likeable” (The List) o Fanceinion Mike newall a gwesteion. iau 7 Meh | 8pm | £10 Un sy’n ymddangos yn rheolaidd ar Weekend ar ITV Stephen Bailey, yr hyfryd lukas Kirkby a gwesteion.
30
Gall yr holl ddigwyddiadau comedi gynnwys iaith gref a themâu oedolion | Gall yr enwau sy’n ymddangos newid
Fur Coat and no Knickers Cyfle i ddianc rhag felan y gaeaf gyda dipyn o gomedi. Mae’n benwythnos priodas Deirdre Ollerenshawe gyda theulu cwbl wallgof – beth allai fynd o chwith? Ysgrifennwyd gan Mike Harding Cynhyrchiad Phoenix Theatre Company
iau 1 – Sad 3 Chwef £10 | £8 gostyngiadau | £7 grwpiau | 7.45pm Theatr Emlyn williams Cynnwys i oedolion | nid ar gyfer rhai sy’n cael eu sarhau yn hawdd!
gŵyl Dramâu un act Cymdeithas Theatr gymunedol Clwyd Mae Gŵyl Un Act Cymdeithas Theatr Gymunedol Clwyd yn ei hôl wedi absenoldeb o ugain mlynedd. Dewch i gefnogi goreuon y theatr gymunedol leol a gweld fedrwch chi ddewis y ddrama fuddugol fel y beirinad, David Price.
iau 8 – Sad 10 Maw £10 | £8 gostyngiadau | £7 grwpiau | 7pm Theatr Emlyn williams
Elite School of Dance: Spotlight Noson wefreiddiol o ganu a dawnsio i’r teulu cyfan gan gast o 300 o berfformwyr. Fel aelod o Dîm Cymru yng Nghwpan Dawns y Byd 2017, mae’n bleser gan Elite gyflwyno ei gynhyrchiad newydd gyda chast llawn yma unwaith eto. Elite Dance School
Cyngerdd gwasanaeth Cerddoriaeth Sir y Fflint Ymunwch â ni am ein dathliad blynyddol o gerddoriaeth gyda chymysgedd eang o gerddoriaeth jazz, roc a chlasurol. Bydd cerddorion ifanc gorau’r sir yn perfformio.
iau 19 – Sad 21 Ebr £8 | £6 gostyngiadau | 7pm Theatr anthony Hopkins
Mer 4 – Sad 7 Ebr 12 £10 | £8 gostyngiadau | 7pm Theatr anthony Hopkins
Oh what a night! Detholiad o ganeuon gorau a mwyaf poblogaidd y sioeau cerdd mwyaf llwyddiannus erioed yn y West End. O Jesus Christ Superstar i Wicked, Jersey Boys i Les Miserables, ymunwch â Dee & Alyn am noson ddisglair o diwns o’r sioeau.
Priscilla Queen of the Desert Mae gan y sioe gerdd eiconig yma fwy o gliter nag y mae’r rhan fwyaf o sioeau’n gallu breuddwydio amdano. Bydd yn cynnwys casgliad sgleiniog o gannoedd o wisgoedd a phenwisgoedd a llif cyson o glasuron y llawr dawnsio, gan gynnwys It’s Raining Men, I Will Survive, I Love the Nightlife, Hot Stuff, a Go West, Macarthur Park a llawer mwy. Cynhyrchiad Tip Top
Mer 6 – Sad 9 Meh O £12 | 7.30pm | 2.30pm Theatr anthony Hopkins
Cymdeithas Gilbert a Sullivan Dee & Alyn
gwe 27 – Sad 28 Ebr £12 | 8pm | ystafell Clwyd
31
Hygyrchedd
gwybodaeth Prynu tocynnau Mae posib prynu tocynnau yn theatrclwyd.com, ar 01352 701521, neu wyneb yn wyneb yn ein swyddfa docynnau (ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 10am ymlaen). Ceir nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael am y pris isaf a nodir. Hefyd mae posib prynu tocynnau o: Deva Travel (Caer), Voel Coaches (Dyserth), Linghams (Heswall), Gwesty Beaufort Park (Yr Wyddrug), Canolfan Gelfyddydau Wrecsam a Chanolfannau Gwybodaeth i Ymwelwyr Llandudno, Llangollen, Wrecsam a’r Rhyl. Mae’r tocynnau ar gyfer ymarferion Gwisg Agored yn £5 ac ar gael ar gyfer The Great Gatsby, A Streetcar Named Desire, The Assassination of Katie Hopkins a Home, I’m Darling. gostyngiadau Mae prisiau is i ieuenctid dan 17 oed, myfyrwyr llawn amser, pobl dros 60 oed, pobl sy’n derbyn lwfans ceisio am waith a lwfans cymorth incwm a phobl anabl ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o gynyrchiadau. Telerau ac amodau Gellir cyfnewid tocynnau am berfformiad arall o’r un cynhyrchiad 24 awr cyn iddo ddechrau (ffi’n berthnasol). Ni
32
fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynd i mewn i’r awditoriwm nes bod egwyl addas yn y perfformiad. Gallwn bostio eich tocynnau atoch chi am £1.50 hyd at 5 diwrnod gwaith cyn dyddiad dechrau’r digwyddiad. Ewch i theatrclwyd.com am y telerau a’r amodau llawn. Hebryngwyr gwirfoddol Os hoffech wirfoddoli fel hebryngwr cysylltwch ag andy.reilly@theatrclwyd.com llogi ein gofod O gyfweliadau a chyfarfodydd i briodasau, ffeiriau, lansiadau a llawer mwy. Cyfle i greu naws theatrig yn eich digwyddiad! Cysylltwch â nathan.stewart@theatrclwyd.com Parcio Mae gennym faes parcio helaeth sy’n cael ei reoli gan Gyngor Sir y Fflint. Am ddim o 5pm ymlaen ac ar ddyddiau Sul. Y prisiau yw 20c am 2 awr a 50c am y diwrnod llawn. grwpiau ac ysgolion Mae gostyngiadau ar gael i grwpiau ac ysgolion. E-bost box.office@theatrclwyd.com a gallwn eich ffonio chi’n ôl. Preifatrwydd Mae preifatrwydd yn bwysig iawn i ni. Am fwy o wybodaeth ac i ddarllen ein polisi preifatrwydd, ewch i’n gwefan ni.
E&OE – While every care has been put into publishing this brochure, information may, on occasion change from the time of printing.
Cerdyn HynT Angen help i ymweld â ni? Mae gan ddeiliaid cardiau cynllun HYNT hawl i docyn am ddim ar gyfer gofalwr neu gynorthwyydd personol. www.hynt.co.uk Sain Ddisgrifiad a Theithiau Cyffwrdd Disgrifiad o’r hyn sy’n digwydd ar y llwyfan yn fyw drwy glustffonau. I gyd-fynd â hyn bydd taith gyffwrdd i helpu’r gynulleidfa i weld y set, y gwisgoedd a’r actorion yn y meddwl. Capsiynau Is-deitlau heb amharu gormod ar gyfer y theatr (y geiriau fel maent yn cael eu dweud) ar focs arddangos ar ochr y llwyfan. Hamddenol Yn agored i bawb ond wedi’i addasu’n benodol ar gyfer unrhyw un fyddai’n elwa o awyrgylch mwy hamddenol (e.e. teuluoedd gyda babanod, plant ifanc neu blant gyda Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig, y rhai ag anhwylderau synhwyraidd a chyfathrebu neu anableddau dysgu) – mae’r golau a’r sain yn ysgafnach, mae mwy o staff ar gael i’ch helpu chi ac mae’n iawn os ydych chi eisiau dod i mewn a mynd allan yng nghanol y sioe. Os oes gennych chi ofynion mynediad, cysylltwch â’n swyddfa docynnau, a fydd yn gallu addasu eich archeb i ddiwallu eich anghenion.