Gwnewch wahaniaeth... Addysgwch Bwrsa
rïau h
£20,0 yd at 0 ar gae l yn am 0 a r bwn o c a do dol s b arth eich g r a d d . Gwele r tud. 28
Archwiliwch lwybrau ôl-raddedig i addysgu cynradd ac uwchradd www.uwtsd.ac.uk/cy/addysg-athrawon 1
2
Contents 4 Beth yw SAC – Statws Athro Cymwysedig? 5 Cwricwlwm newydd 6 Chwe ‘Maes Dysgu a Phrofiad’ (MDPh) 7 Y Rhaglen 8 Am beth rydym ni’n chwilio? 9 Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa (PDPA) 10 Ymchwil Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) 12 Datblygu sgiliau ymchwil a lleoliadau amgen 13 Modwl dewisol 15 Cenhedlaeth Newydd o Athrawon 16 Llwybrau TAR 17 Y Celfyddydau Mynegiannol 18 Y Dyniaethau 19 Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu 20 Mathemateg a Rhifedd 21 Gwyddoniaeth a Thechnoleg 22 Iechyd a Lles 23 Gofynion Mynediad 24 TAR Cynradd 25 Newid eich gyrfa 26 Cyllid a bwrsarïau 28 Pam addysgu? 29 Neges gan y Dirprwy Is-Ganghellor 29 Gwnewch gais ar UCAS 30 Diwrnodau Agored 31 Mae addysg yng Nghymru yn newid, ac athrawon sy’n arwain y ffordd
3
Mae addysg yng Nghymru yn newid, ac athrawon sy’n arwain y ffordd Nid yn aml y daw cyfle i lunio o’r newydd rywbeth arloesol sydd ar flaen y gad, felly dyma eich cyfle i ymuno â ni ar y daith honno.
Un o’r prif lwybrau i addysgu yw trwy ein cwrs blwyddyn TAR (gyda SAC), sy’n cynnig llwybrau Cynradd ac Uwchradd gan ddibynnu ar y sector rydych chi’n awyddus i ymuno ag ef. Mae’r TAR Cynradd yn darparu amrywiaeth greadigol o fodylau yn y brifysgol ac yn yr ysgol, a chaiff myfyrwyr wybodaeth ddofn ac eang am ddysgu ac addysgu ar draws yr oedran cynradd. Mae llwybr TAR Uwchradd yn adnewyddu ac yn ymestyn eich gwybodaeth bwnc, ac yn caniatáu i chi ddewis pwnc yr hoffech arbenigo arno.
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw’r darparwr addysg athrawon mwyaf yng Nghymru ac mae’n cynnig hyfforddiant cynradd ac uwchradd gydag ysgolion partner ar draws de Cymru.
www.uwtsd.ac.uk/cy/ addysg-athrawon
Felly os ydych yn ystyried newid gyrfa neu’n dechrau arni, nid yw byth yn rhy hwyr i ddechrau eich addysg athrawon ac ysbrydoli cenhedlaeth.
4
Beth yw SAC?
Yr Athrofa yw un o’r darparwyr addysg athrawon prin sydd wedi’u hachredu gan CGA ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC). Dyfernir Statws Athro Cymwysedig (SAC) i’r athrawon dan hyfforddiant hynny sydd wedi bodloni’r safonau athro proffesiynol yn llawn ar gyfer SAC.
hwb.gov.wales/datblygiad-proffesiynol/ safonau-proffesiynol Asesir yr agwedd hon ar y rhaglen drwy bortffolio o dystiolaeth a deialog broffesiynol gyda mentor a thiwtor arbenigol. Mae gan y Cyngor Gweithlu Addysg (rheoleiddiwr annibynnol y gweithlu addysg yng Nghymru) wefan ddefnyddiol iawn gyda llawer o wybodaeth:
www.cga.cymru 5
Cwricwlwm newydd Rydym yn byw mewn byd gwahanol iawn; mae datblygiadau technolegol wedi newid y meini prawf ac mae’r sgiliau lefel uwch a fynnir gan gyflogwyr wedi newid. Mae beth a sut mae plant yn dysgu wedi esblygu, ac mae cwricwlwm cenedlaethol newydd yn cael ei lunio a’i ddatblygu yn barod ar gyfer cyfnod newydd cyffrous.
Roedd arna i eisiau addysgu Saesneg am fod trafod yn bwysicach na’r ateb cywir. Mae’n ymwneud â gweld y ddwy ochr ac yn eich addysgu i fod yn unigolyn cytbwys.
Bethan Francis
un o’n graddedigion TAR Saesneg 6
Mae’r cynllun y cytunwyd arno i gefnogi arfer yn yr ystafell ddosbarth yn y dyfodol yn seiliedig ar bedwar diben, sef bod plant a phobl ifanc yn datblygu i fod: * yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes * yn gyfranwyr mentrus, creadigol, sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith * yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sydd yn barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd * yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Chwe ‘Maes Dysgu a Phrofiad’ (MDPh) Mae chwe ‘Maes Dysgu a Phrofiad’ (MDPh) yn cael eu sefydlu i helpu ysgolion i gyflawni’r pedwar diben, ac maent yn rhychwantu’r ystod oedran gyfan o 3 i 16. Maent yn hyrwyddo ac yn darparu sail ar gyfer parhad a dilyniant, ac yn annog athrawon i weithio’n greadigol ac yn gydweithredol ar draws ffiniau pwnc traddodiadol. Mae’r chwe MDPh a’u deunyddiau ategol bron wedi’u cwblhau ac yn cynnwys: * Y Celfyddydau Mynegiannol * Iechyd a lles * Y Dyniaethau * Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu * Mathemateg a rhifedd * Gwyddoniaeth a thechnoleg Mae’r Athrofa ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi bod yn flaenllaw ac yn ganolog yn yr esblygiad hwn.
Mae ein staff addysgu ac ymchwil arbenigol wedi cynorthwyo ysgolion i ddatblygu’r MDPh ynghyd â fframwaith a luniwyd i olrhain cynnydd dysgwyr. Mae ein darlithwyr yn gweithio gydag ysgolion rhwydwaith a chonsortia i baratoi cenhedlaeth newydd o athrawon i fodloni gofynion newidiol addysgu a chwricwlwm Cymru (2022) Nid oes yr un brifysgol arall yng Nghymru wedi cael yr un lefel o gyfranogiad yn y broses ddiwygio ac rydym yn eithriadol o falch o’n cyfraniadau hyd yn hyn. Dywedir yn aml na all ansawdd system addysg ragori ar ansawdd ei hathrawon. Ac nid yw hynny’n fawr o syndod, o gofio’r effaith arwyddocaol a pharhaol a gaiff athrawon ar y disgyblion yn eu gofal. Mae athrawon yn weithredwyr newid a, hebddynt, does fawr o obaith i Gymru gyrraedd yr uchelfannau rydym i gyd yn anelu atynt.
Mae’r cwrs wedi fy mharatoi i wynebu’r heriau cyffrous newydd ym maes addysgu gyda hyder.
Elizabeth Duquemin un o’n graddedigion BA Addysg Gynradd
7
Y rhaglen
Cyflwynir y rhaglen TAR (Cynradd ac Uwchradd) dros 36 wythnos gan staff Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa.
Cwricwlwm Craidd:
Mae cyflwyno’r rhaglen yn y ffordd hon yn dod ag arbenigedd ymarferol o’r sector ysgolion at ei gilydd ag ymchwil ac arbenigedd addysg uwch.
Modylau Dewisol – profiad mewn ysgol yn olrhain maes penodol o ddiddordeb
Yn fras, mae’r rhaglen yn cynnwys darpariaeth 12 wythnos yn y brifysgol ac o leiaf 24 wythnos mewn ysgol. Mae’r rhaglen yn cynnwys cwricwlwm craidd a ddarperir ar draws ein casgliad o raglenni AGA.
Modylau gorfodol Datblygu sgiliau ymchwil Llwybr proffesiynol ar gyfer SAC Yr Iaith Gymraeg
Llwybr Datblygu: Pontio – gweithgareddau sy’n dod â theori ac arfer at ei gilydd
Lleoliad amgen – cyfle i gael profiad mewn lleoliadau addysg nad ydynt yn ysgolion Cyfnewid Cyfnod - Lle gall myfyrwyr gael rhywfaint o brofiad mewn cyfnod gwahanol (cynradd/uwchradd)
Darllenwch Ragor: www.uwtsd.ac.uk/cy/addysg-athrawon 8
Am beth rydym ni’n chwilio: Agwedd bositif tuag at addysg fel modd o drawsnewid bywydau Cymhelliant i fod yn athro rhagorol Awydd empathig i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl ifanc Agweddau positif at gyfiawnder, cynhwysiant a thegwch cymdeithasol Gallu i weithio’n unigol ac fel rhan o dîm Egni, brwdfrydedd a hyblygrwydd Gwytnwch a dibynadwyedd Agweddau ac ymddygiad proffesiynol Parodrwydd i ddysgu gydol eich oes
Tystiolaeth o arbenigedd pwnc
Dewisais fod yn athro am mai plant yw’r dyfodol a bod angen i ni fuddsoddi mewn pobl ifanc os ydy’r byd yn mynd i fod yn lle gwell.
Profiad diweddar a pherthnasol mewn lleoliad addysgol
James Little
Sut rydym ni’n dewis ein hathrawon dan hyfforddiant? Ansawdd y datganiad personol
Ansawdd y cyfweliad unigol Perfformiad mewn profion dethol – e.e. llythrennedd a rhifedd
un o’n graddedigion TAR Busnes
Ansawdd y cyfweliad unigol Tystiolaeth o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o addysg yng Nghymru
9
Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa (PDPA) Trwy PDPA, rydym yn cefnogi dros 600 o athrawon dan hyfforddiant ar ein rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon. Mae’r rhain yn cynnwys rhaglenni israddedig cynradd, a TAR cynradd ac uwchradd, sydd oll â Statws Athro Cymwysedig.
Gan ein bod yn gweithio mewn partneriaeth gydweithredol, rydym yn ceisio rhoi ystod eang o gyfleoedd i chi o amrywiaeth o ysgolion. Felly, bydd angen i chi deithio o fewn ac ar draws rhwydwaith ysgolion PDPA. Ar gyfer eich profiad addysgu proffesiynol a asesir, ein nod yw eich rhoi mewn ysgolion priodol mor agos i’ch cartref â phosibl. O ganlyniad i natur y rhaglen broffesiynol, mae’n orfodol ichi gael cofnod presenoldeb rhagorol.
Mae dros 100 o ysgolion partner yn rhan o PDPA ac rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth ag ysgolion, Llywodraeth Cymru a chydweithwyr ar nifer o fentrau addysgol a chymunedol pwysig, gan gynnwys llunio a datblygu cwricwlwm newydd Cymru ac asesu dysgu ein disgyblion. Yn ogystal, mae’r Athrofa yn cymryd rhan mewn ystod eang o brosiectau ymchwil ar raddfa fach a mawr gyda rhanddeiliaid allweddol ar draws y sbectrwm addysg, gan gynnwys ysgolion, consortia addysg rhanbarthol a phartneriaid tramor.
Rydym ni yn eich ardal chi 10
Ysgolion Partner ar draws de Cymru
11
Ymchwil Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) Dan arweiniad arweinydd ysgol â bron i 30 o flynyddoedd o brofiad, mae’r Athrofa ar reng flaen ymchwil addysg ac mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar ystod o brosiectau cyffrous, gan gynnwys llunio a datblygu cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru.
12
Mae modylau newydd arloesol wedi’u llunio’n ofalus i integreiddio gwybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol, gan sicrhau bod eich arfer yn yr ystafell ddosbarth yn cael ei seilio ar sylfaen ymchwil gadarn. Mae’r ‘ddeialog’ adfyfyriol, feirniadol a thrawsnewidiol y byddwch yn rhan ohoni drwy gydol eich amser yn yr Athrofa wedi’i seilio ar ein model ‘cwrdd, profi a rhannu’ – fframwaith i athrawon dan hyfforddiant edrych o’r newydd ar yr hyn y maent wedi’i ddysgu, a’i ail-werthuso. Rydym yn cydnabod bod athrawon rhagorol yn ddysgwyr effeithiol, yn ogystal â bod yn weithredwyr newid, a bydd ein diwylliant seiliedig ar ymchwil yn sicrhau eich bod wedi’ch paratoi’n dda am y daith gyffrous sydd o’ch blaen.
Datblygu sgiliau ymchwil a lleoliadau amgen Cyflawnodd Charlotte Louise Thomas, athrawes dan hyfforddiant TAR Uwchradd Cymraeg, ei modwl Lleoliadau Amgen mewn tri lle gwahanol: Llywodraeth Cymru, Ysgol Bae Baglan, a Chynhadledd y Penaethiaid, Bro Morgannwg. Canolbwyntio ar y cwricwlwm a'r trefniadau asesu newydd, a fydd yn adlewyrchu taith ddysgu’r disgyblion yn well, er mwyn cyd-fynd â’r Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu. “Bu cael trosolwg gwych o’r gwahanol linynnau ym myd addysg yn llawn gwybodaeth ac yn fuddiol iawn i mi. Rhoddodd i mi gipolwg ar sut y mae angen addasu addysg, ac yn benodol addysgu, i gydweddu i’r cwricwlwm newydd.” “Gwnaeth i mi sylweddoli pa mor bwysig y mae ymchwil. Bod rhaid i ni adfyfyrio’n gyson i sicrhau ein bod ni’n addysgu a bod y disgyblion yn dysgu mewn modd mor effeithiol â phosibl.”
Charlotte Louise Thomas
“Heb ymchwil, fe allech chi fynd i’r arfer o wneud yr un hen bethau, ond nid yw hynny’n mynd i weithio i fyfyrwyr newydd.” “Mae’n bosibl dewis eich maes ymchwil. Ymchwiliais i’r Cwricwlwm newydd drwy ddefnyddio dulliau o’r brig i lawr, er mwyn ei weld o safbwynt gwneud penderfyniadau. Gwleidyddiaeth sy’n rhedeg addysg ac roedd arna’ i eisiau blas ar sut y mae pethau’n digwydd ar y brig.” 13
Addysgeg, Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol “Cefais i drosolwg o’r cwricwlwm a’r Gymraeg. Buom ni’n trafod y broses, o hyfforddi athrawon, i’r flwyddyn sefydlu, i gynllun gyrfa. Dangosodd hyn i mi gamau dilyniant gyrfa a’r gefnogaeth sydd ar gael.”
Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) “Buom ni’n trafod diwygio’r TAR, a bu modd i ni weld sut y maent yn addasu ac yn hyfforddi athrawon mewn ffordd wahanol. Cefais well dealltwriaeth o sut y maent am i ni gyfuno meysydd dysgu. Gofynnais sut y byddai fy null i o addysgu’n wahanol a chefais bwnc enghreifftiol a gofynnwyd i mi sut y buaswn yn cynllunio’r wers honno. Yna, trodd swyddog Llywodraeth Cymru f’ymateb i ar ei ben i ddangos i mi sut y byddai e’n paratoi gwers. Roedd yn dda gweld ei safbwynt ac roeddwn yn gallu cymharu’n hawdd sut y byddai disgwyl i mi addysgu.”
Polisi Ymchwil Addysg “Cefais gipolwg ar sut y gall ymchwil ddigwydd yn yr ystafell ddosbarth. Buom ni’n trafod pam y mae disgwyl i Ymarferwyr gynnal ymchwil i wella ac adfyfyrio. Gallwn weld sut y mae hyn yn cyd-fynd â’r broses ‘Cwrdd, Profi, Rhannu’ a ddefnyddir yn y PDPA i annog ymchwil. Gall ymarferwyr arweiniol rannu arfer da a gall athrawon dan hyfforddiant ddarganfod beth sy’n gweithio iddyn nhw drwy broses profi a methu.”
14
Addysgeg a Safonau Proffesiynol “Buom ni’n edrych ar Gontinwwm o fewn y Gymraeg a’r cwricwlwm Cymraeg newydd a fydd ar waith erbyn 2022. Roedd hyn o ddiddordeb i mi gan fy mod yn addysgu Cymraeg Ail Iaith (Cymraeg o fewn Ysgol cyfrwng Saesneg). Mae’n bosibl y bydd haenau o asesu lle gallai disgyblion Mamiaith gyrraedd diwedd y continwwm, a disgyblion Ail Iaith yn cael eu hasesu yn ôl y cyfnod y maent wedi’i gyrraedd erbyn yr amser asesu.”
Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth “Dysgais am gyllid o fewn y sector addysg a sut y caiff ei ddosbarthu, gan edrych i mewn i ddysgu proffesiynol a sut y mae hynny’n datblygu athrawon trwy gydol eu gyrfaoedd. Buom ni’n trafod arweinyddiaeth a sut y mae Penaethiaid yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru wrth wneud penderfyniadau, gan ddefnyddio’u profiad a’u safbwynt i yrru gwedd wleidyddol addysg.”
Modwl dewisol Cwblhaodd Erin Aylett, myfyrwraig TAR Uwchradd - Cymraeg, ei gradd mewn Seicoleg drwy gyfrwng y Saesneg... ...a phenderfynodd addysgu Cymraeg i lenwi’r bwlch sgiliau, a chefnogi menter y Llywodraeth i filiwn o bobl allu siarad Cymraeg erbyn 2050. Sicrhaodd Erin swydd fel athrawes erbyn mis Chwefror, gyda dyddiad cychwyn ym mis Medi (cyn iddi hi raddio). Dewisodd Erin brosiect ymchwil ar gyfer ei modwl Dewisol a oedd yn cynnwys dychwelyd i’w Hysgol Gynradd, Ysgol Gynradd Gilwern, a oedd yn rhan o rwydwaith ysgol bartner Ysgol Crughywel lle cwblhaodd Erin ei lleoliad. “Roedd arna’ i eisiau cymharu safon y Gymraeg a addysgir mewn ysgolion bwydo cynradd cyfrwng Saesneg. Bu imi ddarganfod bod yr ysgolion Cynradd yn addysgu Cymraeg o becynnau. Gyda’r ysgolion bwydo’n dod o dair sir wahanol, Sir Fynwy, Powys a Blaenau Gwent, roedd hyn yn golygu bod disgyblion yn dod at ei gilydd wedi dysgu tair safon wahanol o Gymraeg. Felly roedd athro’r ysgol uwchradd yn gorfod defnyddio nifer o wahanol strategaethau gwahaniaethu o fewn cynlluniau gwersi.
Erin Aylett
Roedd cael y cyfle i gynnal yr ymchwil hwn yn bwysig am ei fod wedi rhoi cipolwg imi o’r tu fewn pam ei bod yn ymddangos bod rhai disgyblion yn cael anhawster gyda’r Gymraeg. Gwelais nad oedd peth o’r cynnwys yn y pecynnau’n berthnasol iddynt ac efallai y byddai wedi bod yn fwy buddiol addysgu deunydd sy’n berthnasol iddynt bob dydd. Agorodd hyn gyfleoedd i gynnal ymchwil pellach i’r pecynnau a chynnwys Cymraeg sy’n eu hysbrydoli. Byddai hyn yn meithrin eu hyder fel eu bod eisiau defnyddio’r Gymraeg, a byddai’n gwneud y cynnwys a safon y Gymraeg yn gyson, sy’n arbennig o bwysig er mwyn paratoi disgyblion Cynradd ar gyfer yr ysgol Uwchradd lle mae’r Gymraeg yn bwnc craidd.” 15
Cenhedlaeth Newydd o Athrawon Cynhelir ein rhaglenni TAR yn yr adeilad IQ yn Abertawe, a enwir felly am ei fod yn ein Hardal Arloesi sydd hefyd yn gartref i gyrsiau Peirianneg, Amgylcheddol a Chyfrifiadureg. Mae ein darlithfeydd wedi'u cynllunio gyda golwg ar gydweithio ac yn cael eu defnyddio'n unol â hynny. Mae darlithwyr yn modelu'r hyn rydym yn ei ddisgwyl gan ein darpar athrawon gyda dulliau ymchwil gwybodus ar gyfer addysgu ar-lein a dysgu cyfunol. Mae gan ein hystafelloedd mwy o faint system Sony Vision Exchange ac rydym yn defnyddio Office 365 i gynorthwyo gyda dysgu cyfunol. Y Drindod Dewi Sant oedd y cyntaf yng Nghymru i lofnodi Cytundeb Nodau Cyffredin â Microsoft i alluogi'r Drindod Dewi Sant i harneisio offer ac adnoddau Microsoft sy’n arwain y byd er mwyn trawsnewid dysgu gwell technoleg y Brifysgol. Bydd myfyrwyr yn elwa o gael mynediad i LinkedIn Learning, AI Business School Microsoft a chyrsiau dysgu technoleg. 16
"Nid yw technoleg yn disodli addysgu a mentora gwych yn Y Drindod Dewi Sant, dim ond eu caboli" Gareth Evans
Cyfarwyddwr Polisi Addysg
Llwybrau TAR Newydd “Rwy’n edrych ymlaen ato’n fawr. Mae’n amser cyffrous ym myd addysg ac yn amser gwych i fod yn rhan ohoni. Rydym wrth wraidd y cwricwlwm newydd ac oherwydd ein bod ar ddechrau ein gyrfaoedd byddwn yn ei ddilyn i’r pen. Roedd angen y cwricwlwm newydd arnom – ar hyn o bryd, rydym yn paratoi disgyblion at TGAU, nid i fod yn ddinasyddion y byd a’i gyd-destun ehangach. Rydym yn cynllunio ac yn addysgu i gyrraedd arholiad. Mae’r pedwar diben craidd yn rhoi i bob plentyn y galluoedd sydd eu hangen arno/arni i wneud cynnydd yn y ffordd orau iddo ef / iddi hi. Gall ddewis unrhyw lwybr a chael yr un profiad.”
Charlotte Louise Thomas Myfyrwraig TAR Uwchradd - Cymraeg
17
Y Celfyddydau Mynegiannol Mae Ardal Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol yn cynnwys celf, cerddoriaeth, dawns, ffilm a chyfryngau digidol i ddatblygu meddwl dychmygus a chreadigol disgyblion, eu cyneddfau gwerthfawrogi, yn ogystal â’u sgiliau artistig a pherfformio, a’u hymagweddau cyfathrebu.
Mae Celf yn rhydd a gallwch fynegi eich teimladau a’ch emosiynau a’ch rhoi eich hun yn eich gwaith. Bob tro byddaf mewn ystafell gelf, byddaf yn ymlacio.
Stephanie Hughes un o’n graddedigion TAR Celf a Dylunio
18
Llwybrau pwnc a chodau UCAS Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau TAR uwchradd â ffocws ar y Celfyddydau Mynegiannol: TAR Celf a Dylunio gyda SAC 2X5R TAR Drama gyda SAC 3CM5 TAR Cerddoriaeth gyda SAC 3CM4 Ar gyfer pob ymholiad, cysylltwch â ni yn: teachered@pcydds.ac.uk
Y Dyniaethau Mae Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau Llwybrau pwnc a yn meithrin dealltwriaeth o gysyniadau chodau UCAS hanesyddol, daearyddol, gwleidyddol, economaidd, crefyddol a chymdeithasol. Mae’n archwilio’r amgylchedd er mwyn Rydym yn cynnig amrywiaeth o bynciau datblygu ymhellach ymdeimlad o le a lles. TAR uwchradd â ffocws ar y Dyniaethau: Mae’r Dyniaethau hefyd yn cynnwys profiadau dysgu am hawliau, gwerthoedd, moeseg, credoau, crefydd, athroniaeth ac ysbrydolrwydd.
“Rwy’n mwynhau addysgu pynciau meddwl agored sy’n eich annog i archwilio eich credoau a datblygu pobl ifanc yn ddinasyddion da, moesol, meddwl agored.”
TAR Busnes gyda SAC 2X5T TAR Daearyddiaeth gyda SAC 2X5Y TAR Hanes gyda SAC 2X5Z TAR Addysg Grefyddol gyda SAC 2X6G Ar gyfer pob ymholiad, cysylltwch â ni yn: teachered@pcydds.ac.uk
Elle Murray
o’n graddedigion TAR Addysg Grefyddol
19
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu Nod MDPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yw datblygu dysgwyr uchelgeisiol, medrus sy’n datblygu’n gyfathrebwyr medrus. Os gallant gyfleu eu meddyliau a’u teimladau, a dehongli rhai pobl eraill, mae dysgwyr yn dangos parch ac yn datblygu perthnasoedd cryf, positif fel y gallant weithio gydag eraill i oresgyn heriau. Arwain dinasyddion moesegol, gwybodus sy’n dod yn gyfranogwyr arloesol, creadigol at gymdeithas. Mae ieithoedd yn eich galluogi chi i gyfathrebu, esbonio a disgrifio. Gallwch eu cael i gymryd rhan mewn trafodaethau sy’n datblygu sgiliau dadlau ac yn creu pobl sy’n meddwl yn rhydd.
Liam Finan
un o’n graddedigion TAR Saesneg
20
Llwybrau pwnc a chodau UCAS Rydym yn cynnig amrywiaeth o bynciau TAR uwchradd gyda ffocws ar Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu: TAR Saesneg gyda SAC 2X5X TAR Ffrangeg gyda SAC 2X6G TAR Almaeneg gyda Ffrangeg gyda SAC 2X6C TAR Sbaeneg gyda Ffrangeg gyda SAC 2X6F TAR Cymraeg gyda SAC 2X6M Ar gyfer pob ymholiad, cysylltwch â ni yn: teachered@pcydds.ac.uk
Mathemateg a Rhifedd Mae’r MDPh Mathemateg a Rhifedd yn hyrwyddo mathemateg fel profiad dysgu gydol oes pwrpasol a difyr, mewn byd sy’n newid yn gyson.
Llwybrau pwnc a chodau UCAS
TAR Mathemateg gyda SAC 2X5R Y nod yw datblygu gwybodaeth ddofn, sgiliau rhifiadol a dadansoddi, a chyfleoedd Ar gyfer pob ymholiad, cysylltwch â ni yn: i gymhwyso’r rhain i amrywiaeth o teachered@pcydds.ac.uk sefyllfaoedd o fywyd go iawn. Gall dysgwyr fod yn chwilfrydig a meddwl agored o ran eu ffordd o feddwl. Rwy’n hoffi dangos sut y mae gwahanol ddulliau o ddatrys problemau yn fathemateg greadigol. Mae’n addysgu rheolau rhesymeg ac mae’n cael ei chymhwyso i bopeth. Mae’n hwyl!
Emyr Lewis
o’n graddedigion TAR Mathemateg Graduate
21
Gwyddoniaeth a Thechnoleg Mae’r MDPh gwyddoniaeth a thechnoleg yn datblygu dealltwriaeth gadarn o’r byd o’n cwmpas i alluogi pobl ifanc i fod yn ddinasyddion hyderus, medrus, moesol a chreadigol. Bydd dysgwyr uchelgeisiol a medrus yn deall technolegau newydd, a rhai sy’n dod i’r amlwg, ac yn cymhwyso newyddbethau a allai godi yn y dyfodol.
Y ffordd rydych chi’n meddwl sy’n bwysig gyda gwyddoniaeth a thechnoleg. Rydych chi’n addysgu profi a methu, dyfalbarhad, gweld y darlun mawr a sut i adnabod a datrys problemau. Y set sgiliau iawn at y dyfodol.
Beverly McLaran un o’n graddedigion TAR Cyfrifiadura
Astudio mewn labordai arbenigol yn yr adeilad IQ. 22
Llwybrau pwnc a chodau UCAS Rydym yn cynnig amrywiaeth o bynciau TAR uwchradd â ffocws ar Wyddoniaeth a Thechnoleg: TAR Bioleg gyda SAC 2X5S TAR Cemeg gyda SAC 2X5V TAR Ffiseg gyda SAC 2X6G TAR Cyfrifiadura gyda SAC 2X62 TAR Dylunio a Thechnoleg gyda SAC 2X5W Ar gyfer pob ymholiad, cysylltwch â ni yn: teachered@pcydds.ac.uk
Iechyd a Lles Mae iechyd a lles yn meithrin dealltwriaeth o amgylcheddau ffisegol, cymdeithasol a diwylliannol a sut y maent yn cysylltu â’n hiechyd a’n lles. Mae’n eich addysgu am berthnasoedd a sut y maent yn ein cysylltu ni â’n gilydd a’r byd.
Mae addysg mor bwysig – mae hi wedi fy mowldio i fod y person yr ydw i heddiw. Roedd gen i athrawon mor ysbrydoledig a oedd yn gofalu am yr unigolyn, lles a chynnydd.
Emily Odwye
un o’n graddedigion TAR Saesneg
23
Gofynion mynediad Gradd Israddedig
Profiad Gwaith
Rhaid bod gan ymgeiswyr radd anrhydedd da (o leiaf 2:2) mewn maes sy’n gysylltiedig â’r dewis bwnc uwchradd.
Mae’n ddefnyddiol bod yn ymwybodol o realiti bod yn athro ac o fywyd yn yr ystafell ddosbarth ac rydym yn croesawu profiad diweddar a pherthnasol mewn lleoliad addysg uwchradd. Fodd bynnag, wrth wneud cais am y cwrs TAR Uwchradd nid oes rhaid eich bod wedi gwneud hyn. Bydd ar y rheini sy’n gwneud cais am y cwrs TAR Cynradd angen tystiolaeth o waith neu wirfoddoli mewn ysgol am gyfnod o ddwy wythnos o leiaf.
Cymwysterau TGAU Gradd B neu uwch mewn TGAU Cymraeg NEU Saesneg a gradd B mewn Mathemateg neu Rifedd. Os ydych yn gwneud cais am Ysgol Gynradd bydd angen TGAU gradd C mewn Gwyddoniaeth arnoch. Bydd angen TGAU gradd B neu uwch ar athrawon dan hyfforddiant sy'n astudio i addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg mewn TGAU Saesneg Iaith neu Lenyddiaeth Saesneg, neu Iaith Gymraeg neu Lenyddiaeth Gymraeg. Yn ogystal, mae'n rhaid i chi gael o leiaf C yn yr opsiwn Iaith Saesneg a hefyd opsiwn C yn yr Iaith Gymraeg os ydych yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd cael profiad mewn dosbarth ysgol yn helpu i gryfhau eich cais a darparu gwell sail feirniadol ar gyfer eich datganiad personol. Hefyd, fe fydd yn eich paratoi at ein proses ddethol ac yn rhoi peth profiad i chi y gallwch ei ddefnyddio yn eich cyfweliad.
Mae gweithdai a phrofion cyfwerthedd ar gael i'r rhai sydd â TGAU Gradd C mewn Iaith Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth a Chymraeg.
Os cewch eich derbyn ar ein rhaglen, bydd rhaid ichi gael gwiriad manwl, clir gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, (sef y CRB, Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt) cyn gynted â phosibl. Mae ffi ynghlwm wrth y gwasanaeth ac fe ddylech sicrhau eich bod yn dewis y gwasanaeth ‘diweddaru’.
Lefel A/Lefel 3 Cymwysterau Galwedigaethol Os nad oes gan ymgeiswyr radd israddedig yn un o bynciau’r cwricwlwm, rhaid dangos tystiolaeth o astudio llwyddiannus ar lefelau uwch priodol.
Tiwtoriaid derbyn:
Cynradd: Catherine Morgan Uwchradd: Jessica Roberts 24
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa weinyddol y TAR Uwchradd: teachered@pcydds.ac.uk
TAR Cynradd Mae’r cwrs TAR Cynradd yn llwybr poblogaidd i raddedigion o safon sy’n dymuno ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC). Mae’n gwrs dwys, ysgogol a heriol, a luniwyd i ddatblygu ac ymestyn sgiliau a dealltwriaeth broffesiynol. Caiff y cwrs ei ddarparu mewn amrywiaeth greadigol o fodylau yn y brifysgol ac yn yr ysgol, a chaiff myfyrwyr wybodaeth ddofn ac eang am ddysgu ac addysgu ar draws yr oedran cynradd. Cewch eich cyflwyno i bob Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) yn rhan o'r symudiad at gwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru, ac wedyn cewch y cyfle i arloesi a threialu mathau newydd o addysgeg i gefnogi dysgwyr oedran cynradd.
Atgyfnerthir pwysigrwydd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, ac mae ein rhaglen drawsffurfiol o addysg athrawon yn sicrhau y caiff pawb sy’n cael eu derbyn yr offer sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn yr ystafell ddosbarth. Caiff myfyrwyr eu cefnogi gan rwydwaith o ysgolion Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa (PDPA), mentoriaid profiadol a darlithwyr prifysgol ymrwymedig gyda dealltwriaeth eglur o beth mae’n ei olygu i fod yn athro/athrawes newydd ac uchelgeisiol. Mae’r TAR Cynradd yn ymfalchïo mewn lefelau uchel o foddhad myfyrwyr a chyfradd gyflogaeth aruthrol o nodedig, gyda’r mwyafrif helaeth o’r graddedigion yn dod o hyd i waith cyn neu ychydig ar ôl cymhwyso. Tutor for Admissions: Catherine Morgan
Mae’r Drindod Dewi Sant wedi rhoi cynifer o gyfleoedd a phrofiadau gwych i ni wella ein crefft a’n gwybodaeth ond dydych chi ddim yn dysgu sut i fod yn athrawes go iawn nes eich bod chi allan yno ar leoliad ac yn ei wneud ef. Mae’r cymorth a’r arweiniad rydw i wedi’u cael yn golygu fy mod i’n barod ac yn hyderus i fynd allan ac addysgu a byw’r freuddwyd!
Beverly McLaran
un o’n graddedigion TAR Cyfrifiadura
25
Newid eich gyrfa Cawsom sgwrs gyda John Bainton, Stephanie Webber ac Alan Limb (TAR Astudiaethau Busnes) i weld pam y bu iddynt gamu allan o yrfaoedd i ddechrau ar daith newydd i addysgu. John Bainton: “Dewisais TAR Busnes am fod gen i 17 mlynedd o brofiad o wasanaethau ariannol ac roedd arna i eisiau gwella fy ngyrfa. Heb os, fe wnes i’r penderfyniad iawn, mae’r rhaglenni TAR yn eithriadol o heriol, roeddwn yn ymwybodol iawn o strategaeth busnes ond roedd dysgu i addysgu yn wahanol i’r disgwyl. Bu’n brofiad da iawn a hoffwn i fod wedi’i wneud yn gynt. Mae meddu ar brofiad o fusnes wedi fy helpu i fod yn llwyddiannus oherwydd mae’r disgyblion yn gwrando’n astud pan rwy’n siarad am brofiadau go iawn yn y byd busnes ac am yr hyn rwyf wedi’i weld.
Stephanie Webber: “Busnes oedd fy hoff bwnc yn yr ysgol bob amser. Ar ôl fy ngradd Busnes, cefais dair swydd wahanol a oedd i gyd yn defnyddio’r sgiliau a ddysgais ar fy ngradd ond ni theimlais fy mod yn cael boddhad. Roeddwn yn dwlu ar fusnes yn yr ysgol ac roedd arna i eisiau addysgu eraill. Doedd y byd corfforaethol ddim i mi. Heb amheuaeth, dechrau’r rhaglen TAR Busnes oedd y penderfyniad gorau rwyf wedi’i wneud oherwydd mae e wedi bod mor wahanol a ffres i ddysgu am rywbeth sydd o bwys i mi. Pan fyddwch yn newid eich gyrfa, mae’n gambl bob tro, ond dydw i ddim wedi bod eisiau methu’r un dim o’r cychwyn cyntaf.” Alan Limb: “Gweithiais am lawer o flynyddoedd yn y sector ymgynghori yn cynghori busnesau mewn trafferthion ariannol. Mae gennyf brofiad o helpu cannoedd o fusnesau ac roedd arna i eisiau gwneud defnydd da o’r profiad hwnnw drwy wneud disgyblion ysgol yn frwdfrydig am fusnes yn yr un ffordd â fi.
Mae’r rhaglen yn wych ac rwy’n ei mwynhau’n fawr. Fel ymgynghorydd byddwn yn sefyll a siarad â gweithwyr busnes proffesiynol, roedd gen i gynulleidfa lawn parch. Mae addysgu’n wahanol. Rhaid Hyd yn oed trafod ymweld â gwyliau, mae’n ichi haeddu’r hawl i sefyll a siarad gyda meithrin diddordeb yn y cyd-destun yna, disgyblion. Rhaid ichi ddeall popeth arall yn dod â senarios yn fyw yn hytrach nag sy’n mynd ymlaen yn eu byd nhw. edrych ar enghreifftiau mewn gwerslyfrau. 26
Pam fod Busnes yn bwnc pwysig? John Bainton: Yr awydd i greu entrepreneuriaid, i ysbrydoli a chymell pobl ifanc i wneud beth sy’n bwysig iddyn nhw, i sefydlu busnes a ffynnu o’r fan honno. Mae hynny’n eithriadol o gyffrous ac yn y pendraw, fe all arwain at gyfleoedd i aros yng Nghymru. Aros yn y gymuned leol a gwneud gwahaniaeth.” Stephanie Webber: “Roedd arna i eisiau addysgu Busnes mewn ffordd ymarferol, fel bod pobl ifanc yn deall yr hyn sy’n digwydd ar ôl ysgol, gan ddefnyddio pynciau sy’n berthnasol iddyn nhw ac addysgu sgiliau y gellir eu cymhwyso am weddill eu hoes.” Alun Limb: “Os ydy pobl yn deall busnes yn well, mae’n cynyddu ffyniant a chyfleoedd gwaith yng Nghymru."
A fyddech chi’n argymell y cwrs TAR? Stephanie Webber: “Yn sicr, buaswn yn argymell y TAR Busnes i’r person iawn. Rhaid bod arnoch chi eisiau ei wneud, a’ch bod yn gwybod ac yn deall yr hyn rydych chi’n cytuno i’w wneud... gyrfa addysgu. Hefyd, mae’r rhaglen yn eich addysgu am wahanol bobl. Mae’n agor eich llygaid i gymdeithas a’r gymuned rydych chi’n addysgu ynddi.” Alun Limb: “Rwy’n cytuno bod rhaid ichi wybod yn iawn beth rydych chi’n cytuno
i’w wneud. Mae’r TAR yn wahanol i radd, mae’r galw ar eich amser yn fawr. Fodd bynnag, mae’n eich ysbrydoli i ddysgu am lawer o bethau mewn bywyd. Nid dim ond addysgu.” John Bainton: “Mae rheoli amser yn rhan enfawr o astudio ar gyfer TAR. Mae fy ngwraig yn cymryd fy mab allan am y dydd fel y gallaf ganolbwyntio ar gynlluniau gwersi ac ymchwil. Mae fy mywyd teuluol wedi’i ohirio braidd ar hyn o bryd, ond fe fydd y cyfan yn werth chweil yn y pendraw. Poen byrdymor am elw hirdymor. Mae yna wahanol grantiau a benthyciadau ynghyd â grantiau ychwanegol os oes gennych chi blant.”
Addysgu Busnes = Ffyniant y Dyfodol Yr awydd i greu entrepreneuriaid, i ysbrydoli a chymell pobl ifanc i wneud beth sy’n bwysig iddyn nhw, i sefydlu busnes a ffynnu o’r fan honno. Mae hynny’n eithriadol o gyffrous ac yn y pendraw, fe all arwain at gyfleoedd i aros yng Nghymru. Aros yn y gymuned leol a gwneud gwahaniaeth.
27
Cyllid a bwrsarïau Cyllid
bwrsarïau
Cewch amrywiaeth o grantiau a benthyciadau i dalu am y rhaglen Addysgu TAR ond hefyd i fyw, gyda grantiau ychwanegol os oes gennych blant hefyd.
Pynciau’r Cwricwlwm Craidd Cynradd:
Gall hyn gynnwys: Grant Plant Dibynnol Credyd Treth Plant Lwfans Dysgu i Rieni (PLA) Gostyngiad Treth Gyngor
Saesneg | Mathemateg Gwyddoniaeth | Cymraeg Taliad atodol o £3,000 ar gyfer graddedigion â gradd ddosbarth cyntaf, gradd Meistr neu PhD
Pynciau Blaenoriaeth Uwchradd:
Cysylltwch â chyllid myfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth.
Bioleg | Cemeg | Cyfrifiadura a TGCh Mathemateg | Ffiseg | Cymraeg
moneydoctors@pcydds.ac.uk
neu ewch i:
£20,000 Anrhydedd Dosbarth Cyntaf, gradd Meistr neu PhD | £10,000 2:1 £6,000 2:2
www.pcydds.ac.uk/student-finance
Ieithoedd Tramor Modern: £15,000 Anrhydedd Dosbarth Cyntaf, gradd Meistr neu PhD | £6,000 2:1
Pob Pwnc arall Uwchradd a Chynradd: £3,000 Cefnogaeth lefel uchel Gradd Ddosbarth Cyntaf, gradd Meistr neu PhD
Cynllun Gwella Cyfrwng Cymraeg: Grant o hyd at £5,000 i hyfforddi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg www.uwtsd.ac.uk/teachereducation/pgce-bursaries 28
Pam addysgu? Mae’r TAR yn gwrs ymarferol ac yn rhoi cyfle unigryw i athrawon dan hyfforddiant ddysgu wrth eu gwaith yn un o’n 120 o ysgolion partner. Darperir y llwybr poblogaidd hwn i addysgu, sy’n flwyddyn o hyd, gan Bartneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa (PDPA), cyfuniad creadigol o staff ysgolion a staff prifysgol yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu addysg athrawon.
Fel y dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams yn ystod ei hymweliad diweddar â’r Drindod Dewi Sant, mae bod yn athro/ athrawes yn fraint a gyda’n gilydd rydym ni’n gyfrifol am sicrhau bod pob person ifanc yng Nghymru yn cael cyfle cyfartal i gyrraedd y safonau uchaf posibl. Felly dewch i ysbrydoli cenhedlaeth - a gwnewch wahaniaeth… Addysgwch!
Mae PDPA yn darparu mynediad unigryw i rai o’r ysgolion gorau oll yng Nghymru ac mae’n paratoi ein holl athrawon dan hyfforddiant at yrfa gyffrous a boddhaol mewn proffesiwn sy’n rhoi cymaint i gynifer.
Trwy drawsnewid addysg, gallwn drawsnewid bywydau Yn bwysicaf oll y mae’r angen i sicrhau bod gan bob plentyn ym mhob ystafell ddosbarth yr athrawon gorau posibl. Ein cenhadaeth ni yw cenhadaeth Cymru ac rydym yn credu y bydd trawsnewid addysg yn trawsnewid bywydau!” Professor Dylan Jones
Yr Athro Dylan Jones, Dirprwy Is-Ganghellor ac arweinydd yr Athrofa
29
Gwnewch gais ar UCAS TAR Celf a Dylunio gyda SAC 2X5R TAR Bioleg gyda SAC 2X5S
Cod Sefydliad Y Drindod Dewi Sant: T80
TAR Busnes gyda SAC 2X5T TAR Cemeg gyda SAC 2X5V TAR Cyfrifiadura gyda SAC 2X62 TAR Dylunio a Thechnoleg gyda SAC 2X5W TAR Drama gyda SAC 3CM5 TAR Saesneg gyda SAC 2X5X TAR Ffrangeg gyda SAC 2X6G TAR Ffrangeg gyda Sbaeneg gyda SAC 2X69 TAR Daearyddiaeth gyda SAC 2X5Y TAR Almaeneg gyda Ffrangeg gyda SAC 2X6C TAR Hanes gyda SAC 2X5Z TAR Mathemateg gyda SAC 2X5R TAR Cerddoriaeth gyda SAC 3CM4 TAR Ffiseg gyda SAC 2X6G TAR Cynradd gyda SAC X120 TAR Addysg Grefyddol gyda SAC 2X6G TAR Sbaeneg gyda Ffrangeg gyda SAC 2X6F TAR Cymraeg gyda SAC 2X6M 30
Achrediad SAC gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg
Diwrnodau Agored
Mae’r Athrofa yn cynnal nifer o ddiwrnodau agored ar hyd y flwyddyn academaidd. Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnwys cyflwyniadau gan ddarlithwyr, mewnbwn gan gyn-fyfyrwyr a myfyrwyr cyfredol, a blas ar yr hyn y gallwch ei ddisgwyl yn ystod eich hyfforddiant TAR. Rydym hefyd yn cynnig sesiynau blasu rheolaidd ar gyfer addysg athrawon, sydd fel arfer yn digwydd ar ôl gwaith/ ysgol i bobl sy'n ymdrechu i ymgodymu â gwahanol heriau bywyd bob dydd.
I gofrestru, ewch i: www.uwtsd.ac.uk/ pgce-information-days Dewch i ymweld â’n campws £350m newydd ar y glannau yn Abertawe a gweld drosoch eich hun beth sydd gan yr Athrofa a’r Drindod Dewi Sant i’w gynnig! www.uwtsd.ac.uk/visitus/virtual-openevening---teacher-training
Mae'r sesiynau'n anffurfiol, yn gyfeillgar ac yn cynnwys cyflwyniad PowerPoint byr sy'n tynnu sylw at nodweddion unigryw ein rhaglenni. Bydd tîm o ddarlithwyr ar gael ym mhob sesiwn i ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych, ac mae pob yn para 45-60 munud.
31
www.uwtsd.ac.uk/cy/addysg-athrawon info@uwtsd.ac.uk @athrofa | @aplpteach 32