2
Cynnwys Caerfyrddin – Cewch eich ysbrydoli!
4
Ôl-radd Ffilm a Chyfryngau 72
Caerfyrddin Greadigol 6
Yr Egin 74
Y Celfyddydau Perfformio
Gyrfaoedd a Diwydiant 76
8
BA Actio 12
Staff a Thiwtoriaid
BA Dawns 26
Campws Caerfyrddin 80
BA Dylunio a Chynhyrchu Theatr
36
Cymorth i Fyfyrwyr 82
MA Cyfarwyddo 50
Sut i wneud cais? 84
Ffilm a Chyfryngau
Ffioedd a Chyllid 86
52
78
BA Cynhyrchu Ffilmiau Antur 56
Ymwelwch â ni
BA Cynhyrchu Ffilmiau 64
Manylion Cyswllt 91
Tyst AU Cynhyrchu Ffilmiau Antur
90
69
Tyst AU Cynhyrchu Ffilmiau 69
8
52 3
cenedlaethol a rhyngwladol.
gan ein campws diogel, deniadol a gwyrdd gan ein lleoliad yng nghalon cefn gwlad fendigedig Cymru
4
Course Here
5
Mae Caerfyrddin yn cynnig canolfan gyfoethog a bywiog o greadigrwydd sy’n tynnu at ei gilydd gyfuniad unigryw o bynciau’r celfyddydau creadigol a seiliedig ar berfformiad a phrosesau ffilm a chyfryngau digidol, i greu cymuned ddysgu sy’n ddeinamig, arloesol a chyffrous. Canolbwynt y ddarpariaeth yw’r Egin, pair creadigol ar gyfer ymarferwyr ac entrepreneuriaid sydd wedi’i leoli mewn adeilad trawiadol ac eiconig. Y ganolfan newydd gyffrous hon yw cartref pencadlys S4C yn ogystal â nifer o gwmnïau a sefydliadau sy’n gweithio o fewn y diwydiannau creadigol a digidol. Bydd Yr Egin yn darparu cyfle i feithrin y dalent greadigol orau un yng Nghymru, gan gynnig profiadau a chyfleoedd gwaith gwerth chweil i unigolion dawnus sy’n dymuno gweithio yn y diwydiannau creadigol. Cynhyrchir egni a dawn greadigol drwy bylu ffiniau a rhwystrau disgyblaeth draddodiadol a chaiff brwdfrydedd unigol ei annog a’i ddatblygu drwy ddysgu ac astudio mewn ffordd sy’n eich paratoi at y diwydiant. P’un ai a ydych yn actor neu’n ddawnsiwr, yn artist neu’n ddylunydd llwyfan, byddwch yn ffeindio eich hunan yn gweithio ochr yn ochr ag ysgrifenwyr creadigol, gwneuthurwyr ffilmiau, cynhyrchwyr cyfryngau newydd, gwneuthurwyr pypedau a dylunwyr theatr.
Profiad Caerfyrddin Greadigol... unigryw, gwahanol ac ysbrydoledig. 6
Course Here
7
8
Y Celfyddydau Perfformio #GwneudiTheatrDdigwydd Astudiaethau Israddedig 12
BA Actio
26
BA Dawns
36
BA Theatr, Dylunio a Chynhyrchu
Astudiaethau Ôl-raddedig 52
Cyfarwyddo
9
Hyfforddiant galwedigaethol ar gyfer eich dyfodol Mae’r Celfyddydau Perfformio (Caerfyrddin) yn cynnig hyfforddiant ymarferol mewn actio, dawnsio, dylunio a chynhyrchu theatr. Bydd ein myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau a’u technegau gyda ffocws benodol ar y diwydiant heriol. Rydym yn ceisio datblygu ein myfyrwyr fel unigolion a mowldio cynnwys y cwrs a dulliau asesu i gefnogi eu huchelgeisiau yn y dyfodol. Golyga’r lefel uchel o gyswllt gyda staff bod y myfyrwyr yn cael hyfforddiant dwys mewn amgylchedd cefnogol. Mae iechyd a lles ein myfyrwyr yn ffocws ar bob cwrs, gan sicrhau bod myfyrwyr yn barod i berfformio a chyrraedd rhagoriaeth yn eu dewis faes astudio. Rydym yn ymrwymo i arddangos gwaith ein myfyrwyr ar ystod eang o blatfformau perfformio. Nid yw’n anghyffredin i’n gweld ni’n perfformio ar draws Cymru a’r DU mewn theatrau 10
proffesiynol a lleoliadau safle benodol. Bydd cyfleoedd yn cael eu cynnig i fyfyrwyr fynd ar leoliadau a fydd yn cyfoethogi eu profiad hyfforddiant gydag ystod o weithwyr proffesiynol o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol.
Pam dewis y Celfyddydau Perfformio yn Y Drindod Dewi Sant? • Ymhlith y cyfleusterau mae gweithdy creu golygfeydd llawn offer, stiwdio gwisgoedd a dylunio, gweithdy a man ymarfer mawr, stiwdios dawns arbenigol a theatr ar y safle. • Staff ymroddedig sy’n berfformwyr, cyfarwyddwyr, dylunwyr theatr ac ymchwilwyr profiadol ag enw da.
Byddwch yn gweithio gyda’r ymarferwyr a’r cwmnïau a ganlyn: 2Faced Dance National Dance Company of Wales Leviathan Workshop National Theatre Wales
• Rhyngweithio ac ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol y diwydiant o fewn rhaglen o ddarlithoedd gan ddarlithwyr gwadd.
WNO
• Cofleidio’r cyfle i dreulio semester dramor mewn prifysgolion yn America.
Theatr Na nÓg
• Cyflogadwyedd ac entrepreneuriaeth sydd ar reng flaen cynnwys cyrsiau, lle mae pob modwl yn rhoi i fyfyrwyr y sgiliau i ddatblygu.
Kapow Dance
Gwyn Emberton Dance The Other Room Forget About It Films Media to Motion Mappa Mundi Yvonne Murphy Keiron Self Carri Munn Suzanne Phillips Geinor Styles Ioan Hefin Matthew Holmquist David Mercatalli Chelsey Gillard Daniel Lloyd Small World Theatre Kev McCurdy Kiani Del Valle Eddie Ladd
11
Actio
BA (Anrh)
Cwrs ymarferol sy’n hyfforddi actorion yfory. 14
BA Actio
18
Cwrdd â myfyrwyr BA Actio
20
Beth mae ein graddedigion yn ei wneud nawr
22
Ffocws ar Ddiwydiant
25
Gyrfaoedd
Rhagor o Wybodaeth: www.uwtsd.ac.uk/ba-acting
12
BA Actio
13
BA Actio Cwrs ymarferol sy’n hyfforddi actorion yfory. Dyluniwyd y radd BA Actio i ddatblygu eich sgiliau fel eich bod yn graddio fel gweithwyr proffesiynol sy’n barod ar gyfer y diwydiant. I wneud hyn, byddwch yn cydweithio gyda gweithwyr proffesiynol o wahanol ddisgyblaethau sy’n creu amgylchedd sy’n eich annog a’ch cefnogi lle gall myfyrwyr arbrofi ac ymchwilio’n ddiogel. Mae archwilio sgiliau perfformio ymarferol, datblygu cysylltiadau gyda gweithwyr proffesiynol yr alwedigaeth a meithrin entrepreneuriaeth wrth wraidd yr hyfforddiant hwn.
Rhagor o Wybodaeth: www.uwtsd.ac.uk/ba-acting 14
BA Actio
Pam dewis Actio yn Y Drindod Dewi Sant? • • • • • • • • • • •
Dysgwch gan, a chydweithiwch gyda, gweithwyr proffesiynol hyfforddedig, profiadol sydd wedi gweithio ar lwyfan, teledu a ffilm Mae pob asesiad yn berfformiad ymarferol ei natur Gweithio gyda myfyrwyr eraill i greu darnau artistig Gweithio ar ystod o gyfryngau, o fonologau, dramâu cyfnod, yr absẃrd, a Shakespeare Gallwch astudio dramor yn yr Unol Daleithiau Mae cyfarwyddwyr proffesiynol ac ymarferwyr theatr eraill yn cyfrannu’n rheolaidd at y cwrs Mae cwmnïau theatr deithiol yn ymweld â’r Brifysgol yn rheolaidd Hyfforddiant trylwyr, astudiaeth ymarferol, awyrgylch cefnogol a sylw personol Cyfleusterau rhagorol gan gynnwys Theatr yr Halliwell sydd â 375 sedd, stiwdios a gweithdai Cyfleoedd i weithio gyda chwmnïau ac ymarferwyr theatr proffesiynol er mwyn datblygu eich sgiliau a’ch rhagolygon gyrfa Tîm helaeth o ymarferwyr proffesiynol yn gweithio yn yr Ysgol fel Cyfarwyddwyr, Dylunwyr a thiwtoriaid arbenigol
Cod UCAS: W410 | Cod Sefydliad: T80 | Hyd y Cwrs: 3 Blynedd | Lleoliad: Caerfyrddin Cyfarwyddwr Rhaglen: Dave Ainsworth 15
Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen BA Actio yn canolbwyntio ar ddatblygiad blociau adeiladu sylfaenol hyfforddiant unrhyw actor, sef Llais, Symudiad, Perfformio Cerddorol, Creu Byrfyfyr ac Actio. Caiff myfyrwyr eu cefnogi wrth iddynt fagu hyder a datblygu technegau a meithrin eu creadigrwydd fel cydweithredwyr a pherfformwyr. Mae’r ail flwyddyn yn adeiladu ar y technegau hyn wrth i ni archwilio’n ymarferol i sut y maent yn cymhwyso’r sgiliau hyn i wahanol feysydd o waith fel Shakespeare, Dramâu Cyfoes a Theatr Absẃrd. Mae’r flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar gymhwyso’ch hyfforddiant i leoliad ymarfer proffesiynol. Tri phrif berfformiad cyhoeddus y drydedd flwyddyn yw Theatr Deithiol, Theatr Prif Lwyfan a Theatr Stiwdio. Bydd profiad o’r math yma o brosesau ynghyd â modwl Ymarfer Proffesiynol sy’n archwilio techneg clyweliadau, CVs, Equity, ayb yn eich paratoi at yrfa yn y Diwydiannau Creadigol.
16
BA Actio
Gall y cwrs gynnwys modylau megis: • • • • •
Llais Actio Perfformiad Cerddorol Creu Byrfyfyr a Dyfeisio Arddulliau Theatr
• • • • • •
Y Diwydiant Perfformio Sgript, Ymarfer a Pherfformio Teledu a Radio Perfformio Shakespeare Ymarfer Perfformio Arbenigol Symbolaeth a Theatr Absẃrd
• • • •
Theatr Deithiol Prif Gynyrchiadau Llwyfan Theatr Stiwdio Ymarfer Proffesiynol
17
Cwrdd â myfyrwyr BA Actio “Y peth gwych am y cwrs actio yn Y Drindod Dewi Sant yw’r ystod o fodylau sydd ar gael; o Shakespeare glasurol i theatr absẃrd ac arbrofol.”
Katyana Malcolm Myfyriwr BA Actio Presennol, Blwyddyn 3
18
Yn rhan o’r cwrs, fe gawn ystod eang o hyfforddiant manwl gan arbenigwyr yn y meysydd hynny. Mae’r tiwtoriaid yn barod i sgwrsio bob tro, ond caiff dysgu annibynnol ei annog hefyd. Buaswn yn annog unrhyw un i roi o’u hamser i wneud ffrindiau gyda’ch cyd-fyfyrwyr ar eich cwrs! Mae’n bwysig cefnogi eich gilydd wrth eich gwaith, ac i annog eich gilydd yn eich ymdrechion, y tu fewn a thu allan i ddarlithoedd.
Mae Caerfyrddin yn dref hyfryd i fyw, felly cymerwch ran mewn pethau yn y dref, gwirfoddolwch, crwydrwch a dysgwch! Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda gweithwyr proffesiynol y flwyddyn nesaf ac archwilio i ddyfnderau fy ngalluoedd trwy’r gwersi rwyf wedi’u dysgu dros y ddwy flynedd diwethaf.
BA Actio
“Dewisais fynd i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant oherwydd yr awyrgylch cartrefol gan ei fod yn gampws llai sy’n ei wneud yn haws i wneud ffrindiau tu fewn a thu allan i’r cwrs.” Jordan Nasser Myfyriwr BA Actio Presennol, Blwyddyn 3
“Hefyd, ansawdd/cynnwys y radd BA Actio gydag ystod o wahanol fodylau sy’n addas ar gyfer y diwydiant sydd ohono. O fewn hyn, mae’r tiwtoriaid wedi cynnig cefnogaeth o hyd ac mae polisi drws agored ganddynt, sy’n creu awyrgylch cyfeillgar iawn ar fy nghwrs ac yn meithrin perthynas dda rhwng myfyrwyr a darlithwyr. Hefyd, mae’r radd yn cynnig llawer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn llawer o brosiectau creadigol yn y Brifysgol ac wedi agor drysau drwy gwrdd â chysylltiadau
sydd wedi fy nghynnwys mewn prosiectau eraill tu allan i’r Brifysgol ar gyfer profiad gwaith, sy’n fy mharatoi at y cyfnod ar ôl graddio. Wrth fynd ymlaen i’r drydedd flwyddyn, rwy’n wir edrych ymlaen at weithio gyda chyfarwyddwyr a gweithwyr proffesiynol eraill y diwydiant lle gallaf roi’r pethau rwyf wedi’u dysgu drwy gydol y radd a nodau personol a ddatblygwyd yn ystod y radd ar waith.”
19
Beth mae ein graddedigion BA Actio
yn ei wneud nawr “Mwynheais fy amser ar y cwrs actio yn fawr iawn, yn arbennig yn fy mlwyddyn olaf, roedd gallu gweithio ar dair sioe ffantastig yn gyfle gwych.”
Sean Ryan Graddiodd yn 2018
“Fy hoff fodylau oedd sgript, ymarfer a pherfformio / sgript uwch gan fy mod wedi gallu gweithio ar ddramâu ffantastig gyda chyfarwyddwyr ffantastig o tu fewn a thu allan i’r Brifysgol. Un arall oedd Y Diwydiant Perfformio am ei fod wedi rhoi’r cyfle i mi roi cynnig ar lawer o bethau newydd yn amrywio o frwydro ar gyfer y llwyfan i bypedwaith. Trwy gydol fy hyfforddiant, mae fy hunanhyder a’m sgiliau wedi gwella’n anhygoel diolch i sgiliau addysgu ac ymrwymiad yr holl ddarlithwyr y cefais y fraint o weithio gyda nhw.
20
Bu’r Brifysgol ei hun yn ddefnyddiol iawn o ran rhoi help personol a phroffesiynol ac ar hyn o bryd rwyf yng Ngŵyl Cyrion Caeredin (Edinburgh Fringe) gyda darn a grëwyd ac a berfformiwyd gan ein cwmni theatr ein hunain a sefydlwyd gen i ac aelodau fy mlwyddyn pan oeddem ar y cwrs. Profiad sydd wedi bod yn agoriad llygad ac wedi gwneud i mi edrych ymlaen at symud i Gaerdydd a mynychu cymaint o glyweliadau â phosibl i ddal ati i weithio yn y diwydiant.”
BA Actio
“Ers graddio o’r Drindod Dewi Sant yn 2016 gyda gradd BA(Anrh) Actio dosbarth cyntaf, rwyf wedi bod yn gweithio’n gyson yn y diwydiant creadigol.” “Nawr, rwy’n byw a gweithio yng Nghaerdydd fel actor ar fy liwt fy hun.
Jake Sawyers Graddiodd yn 2016
Mae hyn gyda diolch i’r cysylltiadau a sgiliau a ddatblygais yn ystod fy amser yn Y Drindod Dewi Sant. Wrth ddewis lle i astudio fy mlaenoriaethau oedd ansawdd y cwrs a nifer yr oriau addysgu. Heb os, bodlonodd Y Drindod Dewi Sant fy nisgwyliadau, mae’r cwrs BA Actio yn ymarferol iawn ac yn rhoi ichi sgiliau y gallwch eu defnyddio yn y byd perfformio.
Yn fyfyriwr sydd wedi cofrestru’n ddall roedd cael perthynas gref a dialog agored gyda darlithwyr yn hanfodol. Yn ystod fy amser yn Y Drindod Dewi Sant teimlais fy mod yn cael fy nhrin fel unigolyn ac nid dim ond fel rhif. Cefais ddigon o amser cyswllt a chefnogaeth gyda’r holl staff, ac roedd fy anghenion yn flaenoriaeth bob tro. Ers graddio, rwyf wedi gweithio gyda chwmnïau fel UCAN Productions, Yellow Brick a chwmni Elbow Room Theatre. Rwyf hefyd yn creu cynnwys ar gyfer BBC Cymru.
21
Ffocws ar Ddiwydiant Modwl Ffilm Fer “Bydd y modwl ffilm fer yn Y Drindod yn eich galluogi i ddysgu i greu eich ffilmiau eich hun, am y cewch eich rhoi mewn grwpiau bach i droi eich syniadau’n sgriptiau. Byddaf gerllaw i helpu eu siapio nhw a’ch tywys drwy gymeriadau a strwythur a llawer o agweddau ar gynhyrchu ffilm. Nod y modwl yw rhoi ichi nid yn unig eich ffilmiau byr eich hunain ond hefyd, dealltwriaeth o’r broses gydweithredol o droi sgript yn gynnyrch gorffenedig ar y sgrîn. Bydd hyn yn rhoi ichi’r sgiliau i wneud eich ffilmiau eich hunain tu allan i’r coleg wrth i chi fynd allan i’r byd proffesiynol.” Rwy’n actor/ysgrifennwr o Gasnewydd yn wreiddiol a astudiodd ym Mhrifysgol Rhydychen a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ers graddio rwyf wedi gweithio llawer iawn mewn ffilm, teledu a radio, fel actor ac ysgrifennwr, gan ymddangos yn y ‘sit-com’ MY FAMILY i’r BBC ac yn ysgrifennu ar gyfer pethau fel CBBC, Disney, Aardman yn ogystal â datblygu nifer o sgriptiau ffilmiau hir. Keiron Self
Tiwtor Paratoi Sgript a Pherfformio “Crëwyd y modwl paratoi sgript a pherfformio i roi ichi ystod eang o sgiliau ymarferol i’ch helpu i fynd ati i ymdrin â thestun theatraidd. Mae hyn yn cynnwys ymagweddau gan lawer o wahanol ymarferwyr, gan eich paratoi at eich ethig gwaith proffesiynol a datblygu eich cysylltiadau gyda’r diwydiant. Byddwn yn gweithio ar ystod eang o destunau o addasiadau modern o glasuron i ddramâu modern eofn. Bydd hyn oll yn cyrraedd ei anterth mewn cyflwyniad o’n gwaith Mae gweithio yn Y Drindod Dewi Sant yn bwysig i fi oherwydd eu hymrwymiad i roi profiad cyfredol o’r diwydiant i fyfyrwyr, gan weithio gyda phobl sydd â syniadau ac ymagweddau ffres at wneud gwaith. Astudiodd Matthew ddrama ym Mhrifysgol Exeter. Ers hynny, mae e wedi gweithio ym myd opera a theatr ac ar hyn o bryd maen gyfarwyddwr staff yn WNO ac yn gyfarwyddwr cyswllt yn Other Room Theatre. Mae’n gyfarwyddwr artistig yn Red Oak Theatre, cwmni sy’n dod â dylunwyr a chyfarwyddwyr sy’n dod i’r amlwg at ei gilydd. Hefyd, mae Matthew wedi gweithio fel dylunydd sain/cyfansoddwr i’r Other Room, Graphic Theatre a Citiscape Theatre.” Matthew Holmquist
22
BA Actio
Modwl Theatr Deithiol “Nod y modwl Theatr Deithiol yw datblygu a mireinio eich galluoedd dyfeisio ac adrodd straeon, cryfhau eich sgiliau tîm fel rhan o gwmni theatr, a gosod ethig gwaith broffesiynol gyda’r nod o’ch paratoi at y diwydiant. Fel cyfarwyddwr, byddaf yn eich tywys drwy’r broses ddyfeisio tuag at berfformiad sy’n hygyrch i bob cynulleidfa.” Rwy’n actor, ysgrifennwr, cyfarwyddwr a digrifwr ar fy nhraed sy’n gweithio yn y Gymraeg a'r Saesneg. O Gaerdydd yn wreiddiol, astudiais Ddrama ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Ers hynny, rwyf wedi gweithio’n helaeth ym myd theatr, naill ai fel dyfeisiwr, ysgrifennwr neu gyfarwyddwr, gydag ystod eang o gwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol. Yn ddiweddar, bues yn ysgrifennwr preswyl i Theatr Clwyd a Paines Plough. Carri Munn
23
“Rwyf yn edrych ymlaen gymaint at weld i ble y bydd fy ngyrfa’n mynd nesaf, gan wybod fy mod wedi cael hyfforddiant sydd wedi fy mharatoi ar gyfer gyrfa gyffrous fel perfformiwr.” Josephine Wilson Un o raddedigion BA Actio
24
BA Actio
Gyrfaoedd Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i amrywiaeth o yrfaoedd ac astudiaethau pellach, gan gynnwys: • Actio • Chwarae rhan a hyfforddiant corfforaethol • Drama Gymhwysol • Addysg • Astudiaethau/ymchwil ôl-raddedig • Troslais a Thraethu • Voice Over and Narration
25
Dawns
BA (Anrh) 26
Creu graddedigion sy’n gallu cyrraedd rhagoriaeth mewn arfer dawns. 28
BA Dawns
32
Cwrdd â myfyrwyr a graddedigion BA Dawns
34
Ffocws ar Ddiwydiant
35 Gyrfaoedd
Rhagor o wybodaeth www.uwtsd.ac.uk/ba-dance
BA Dawns
27
BA Dawns Creu graddedigion sy’n gallu cyrraedd rhagoriaeth mewn arfer dawns. Mae BA Dawns yn rhaglen seiliedig ar arfer a ddyluniwyd i baratoi myfyrwyr at yrfa yn y diwydiant dawns/perfformio. Mae’r cwrs yn hwyluso datblygiad sgiliau technegol, coreograffi a pherfformio wrth baratoi myfyrwyr at gyfleoedd cyflogaeth o fewn y sector. Mae’r rhaglen yn ffocysu ar dri phrif ffrwd: techneg a pherfformio, coreograffi a dawns, iechyd a lles. Bydd myfyrwyr yn caffael ystod o sgiliau arbenigol a phrofiad ymarferol ym mhob maes, yn ogystal â chael gwybodaeth gyfoes berthnasol ynghylch arfer dawns cynhwysol. Caiff yr holl sgiliau ymarferol eu tanategu gan y damcaniaethau ac ymagweddau cysyniadol perthnasol.
Rhagor o wybodaeth: www.uwtsd.ac.uk/ba-dance 28
Rydym yn aelodau o, ac yn cael ein cefnogi gan..
BA Dawns
Pam dewis Dawns yn Y Drindod Dewi Sant? • Caiff y cwrs ei gyflwyno gan artistiaid ac ymarferwyr proffesiynol dylanwadol • Cewch hyfforddiant dawns cyfoes trylwyr ar y lefel uchaf un • Dosbarthiadau bach • Ffocws ar ymagweddau rhyngwladol mewn perfformio, hyfforddiant a choreograffi • Nifer o gyfleoedd i berfformio bob blwyddyn • Datblygwch arfer goreograffig unigol drwy fentora a hyfforddiant personol • Caffael dealltwriaeth a gwybodaeth ddefnyddiol am gysylltiadau’r corff rhwng ffitrwydd, diet, a lles • Gweithio ar y cyd â’r adran chwaraeon i wneud yn fawr o hyfforddiant a pherfformio, trwy gynlluniau hyfforddi pwrpasol a chyngor am faeth • Dewis ffocysu ar berfformio, coreograffi, iechyd a lles neu arfer gynhwysol yn y flwyddyn olaf • Gweithio mewn amgylchedd dysgu heriol, ond cefnogol sy’n dathlu llwyddiannau myfyrwyr ac yn eu hannog i gyflawni rhagoriaeth yn eu dewis faes dawns • Cydweithio a datblygu cysylltiadau gwerthfawr gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant • Bod yn barod am yrfa am oes fel artist dawns
Cod UCAS: W502 | Cod Sefydliad: T80 | Hyd y Cwrs: 3 Blynedd | Lleoliad: Caerfyrddin Cyfarwyddwr Rhaglen: Gwyn Emberton 29
Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen BA Dawns yn canolbwyntio ar ddatblygiad technegau mewn nifer o arddulliau dawns, gan gynnwys cyfoes, ballet, jazz a masnachol. Caiff myfyrwyr eu cefnogi wrth feithrin arbenigedd fel cydweithredwr a choreograffydd, gan ddysgu am arwyddocâd dawns wrth hyrwyddo iechyd a lles. Caiff y meysydd astudio ymarferol hyn eu tanategu gan ddamcaniaeth berthnasol ac ymagweddau cysyniadol. Mae’r ail flwyddyn yn archwilio sgiliau a gwybodaeth a gaffaelir mewn amrywiaeth o gyd-destunau sy’n cynnwys perfformio ac arfer arweinyddiaeth. Mae’r flwyddyn olaf yn rhoi’r hyblygrwydd i astudio maes arbenigol ochr yn ochr â pherfformio, gan gynnwys cynyrchiadau cyhoeddus. Trwy gydol y cwrs, anogir myfyrwyr i lunio cysylltiadau gyda’r diwydiant dawns i gynorthwyo’r dilyniant o astudiaethau i waith.
30
BA Dawns
Gall y cwrs gynnwys modylau megis: • Technegau Dawns Gyfoes • Iechyd a Lles Dawns • Dawns mewn Cyd-destun • Archwilio Arddulliau Dawns • Cyflwyniad i Goreograffi • Dawns a Mathau eraill o Gelf
• Techneg Dawns mewn Perfformiad • Iechyd a Lles Cymhwysol • Repertoire mewn Cyd-destun • Theatr Gorfforol • Coreograffi ac Arfer • Creadigol • Arweinyddiaeth mewn Dawns
• Paratoi at y Diwydiant Dawns • Celfyddydau Rhyngddisgyblaethol • Cynhyrchiad Mawr • Prosiect Annibynnol
31
Cwrdd â myfyrwyr a graddedigion
BA Dawns
Mae Luke yn fyfyriwr yn ei flwyddyn gyntaf ar y cwrs BA Dawns. Wedi dechrau ei daith dawns yn 10 oed gyda chynllun DanceEast CAT lle mae wedi cael y pleser o weithio gyda chwmnïau a choreograffwyr fel Matthew Bourne’s New Adventures, Alexander Whitley a Tamsin Fitzgerald o 2faced. Ar ôl ei amser yn y brifysgol, mae’n gobeithio y daw yn athro cymwysedig ar lefel Coleg, i ddenu rhagor o ddisgyblion i fyd Dawns. “Rydym yn astudio techneg amrywiaeth o wahanol bethau yn y flwyddyn gyntaf – techneg; coreograffi; iechyd a lles; cyd-destun; archwilio arddulliau dawns...gan ein helpu i ddatblygu ein sgiliau at y dyfodol. Rydym hefyd wedi cael llawer o gyfleoedd mewn gweithdai – gwnaethom un gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru – ac rydym wedi cael llawer o gyfleoedd i gydweithio gydag artistiaid eraill yn y diwydiant.
32
Pan oeddwn yn mynd i glyweliadau mewn Prifysgolion, teimlais mai’r cwrs hwn oedd yn gweddu orau i’r hyn yr hoffwn ei wneud yn y dyfodol. Hefyd, teimlais bod gan YDDS awyrgylch mwy cyfeillgar a chartrefol o lawer na phrifysgolion eraill – rwy’n hoffi pa mor fach ydyw, sy’n rhoi rhagor o amser un i un i chi gyda darlithwyr. Mae darlithwyr yn rhoi’r amser i chi fel unigolyn – nid dim ond enw ydych chi mewn dosbarth.”
Luke James BA Dawns
BA Dawns
“...Mae’n hynod o ddiddorol gweithio gyda gwahanol goreograffwyr” “...a gweld sut y maent i gyd yn gweithio mewn ffordd mor wahanol a chreu prosiectau anhygoel mewn ffyrdd gwahanol. Mae cael pobl o wahanol ddiwylliannau a gwahanol arddulliau yn dod i’n haddysgu wedi bod yn hynod o ddiddorol. Hefyd, mae ein tiwtoriaid yn cefnogi ein hanghenion – os oes angen unrhyw beth arnom, maen nhw ar ben arall e-bost bob tro. Maent yn ein helpu gyda’n bywydau bob dydd yn
ogystal â’n dyfodol. Carais bob eiliad o’m gradd! Nawr, rwy’n gweithio tuag at fod yn ddawnsiwr a choreograffydd. Ers graddio, rwyf wedi cymryd rhan mewn prentisiaeth wythnos gyda choreograffydd a gydweithiodd gyda fy nosbarth yn y brifysgol. Rwyf wedi cael profiad, sgiliau a chysylltiadau a fydd yn fy helpu i lwyddo!”
Daniel Rowe BA Dawns
“Fy hoff fodwl oedd iechyd a lles. I mi, roedd yn haws o lawer ysgrifennu yn fy ngweithlyfr proses am ei fod yn seiliedig ar wersi, gan fy mod yn dysgu’n well drwy gael fy addysgu gan rywun.”
Yn yr achos hwn roeddwn yn gallu gwneud nodiadau wrth fynd ymlaen fel fy mod yn gwybod yn union am ba bwyntiau roedd rhaid i mi siarad amdanynt ac ymchwilio iddynt ymhellach. Yn y modwl iechyd a lles y cefais fy marc uchaf ac rwy’n meddwl yn bendant bod hyn am ei fod yn fodwl a addysgir. Roedd y gefnogaeth gan y darlithwyr ac ymarferwyr eraill yn wych. Mae cymaint o gyfleoedd gwahanol ar gael ar y cwrs. Roeddwn yn caru helpu gyda’r myfyrwyr celfyddydau perfformio a coreograffio darn ar gyfer eu sioe ar ddiwedd y drydedd
flwyddyn. Roeddwn yn gwbl gyfforddus ac roeddynt yn bleser i weithio gyda nhw! Hefyd, mae yna lawer o gyfleoedd i weithio gyda gwahanol gwmnïau boed hynny o fewn meini prawf y cwrs neu beidio. Mae’n wych cymryd rhan yn y rhain am eu bod yn datblygu cymaint o sgiliau. Rwy’n edrych ymlaen at ddechrau’r cwrs newydd a gweld beth a ddaw yn yr ail flwyddyn!
Cerys Worsfold BA Dawns
33
Ffocws ar Ddiwydiant “Carais weithio gyda myfyrwyr y drydedd flwyddyn yn Y Drindod Dewi Sant ar ein darn ar gyfer eu sioe graddedigion.”
34
“Roeddynt wedi bondio fel grŵp ac wedi cael eu cefnogi’n dda felly roeddynt yn barod am her ac i drafodaethau, a oedd yn wych gan ei fod yn bwydo i mewn i fy ymchwil coreograffig ehangach. Rwyf wir yn edrych ymlaen at ddod i adnabod myfyrwyr yr 2il flwyddyn nawr a gwneud mwy fyth y flwyddyn yma ar y modwl Arfer Gynhwysol.”
Zosia Dowmunt Coreograffydd, Joon Dance
BA Dawns
Gyrfaoedd Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i amrywiaeth o yrfaoedd ac astudiaethau pellach, gan gynnwys: • Dawnsiwr • Gweithiwr Dawns Gymunedol • Athro Dawns • Hyfforddwr Ffitrwydd/Ymgynghorydd Hyrwyddo Iechyd • Therapi Dawns/Symud • Astudiaethau/ymchwil ôl-raddedig
Llwybrau dilyniant academaidd a awgrymir: • MSc Gwyddor Dawns • MA Coreograffi a/neu Berfformio
“Roedd y myfyrwyr yn gwbl ymrwymedig ac yn dangos potensial a phroffesiynoldeb enfawr. Bu iddynt weithio’n arbennig o galed i mi. Roedd yn bleser gweithio gyda nhw, a’u gweld nhw’n gwthio’u hunain tu hwnt i’r hyn roeddwn yn ei ddisgwyl. Am gyffrous! Mae grŵp o ddawnswyr newydd ar ei ffordd o Gymru...” Kiani Del Valle Coreograffydd
35
Dylunio a Chynhyrchu Theatr
BA (Anrh) 36
Creu dylunwyr ymarferol, technegwyr creadigol a gwneuthurwyr sythweledol. 38
BA Dylunio a Chynhyrchu Theatr
42
Cwrdd â’r myfyrwyr BA Dylunio a Chynhyrchu Theatr
44
Beth mae ein graddedigion yn ei wneud nawr
46
Ffocws ar Ddiwydiant
49
Gyrfaoedd
Rhagor o wybodaeth: www.uwtsd.ac.uk/ ba-theatre-design-production
BA Dylunio a Chynhyrchu Theatr
37
BA Dylunio a Chynhyrchu Theatr Creu dylunwyr ymarferol, technegwyr creadigol a gwneuthurwyr sythweledol. Mae’r radd BA Dylunio a Chynhyrchu Theatr yn rhaglen ymarferol a ddyluniwyd i adeiladu ar sylfaen eang o sgiliau cynhyrchu’r holl ffordd i gynhyrchu perfformiadau.
Trwy gydol y radd mae yna hyblygrwydd i alluogi i bob myfyriwr arbenigo ac archwilio eu llwybr eu hunan. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd am leoliadau gwaith, astudio dramor a phrosiectau i wneud yn siŵr bod pob myfyriwr yn cael y profiad y mae arnynt ei eisiau a’u cefnogi i mewn i swydd.
Mae’r cwrs yn galluogi myfyrwyr i archwilio, dylunio a chreu gwaith newydd cyffrous ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant. Y nod yw datblygu graddedigion sydd â sail wybodaeth eang a chadarn, sy’n fedrus mewn mwy nag un maes ac sy’n barod i ymgysylltu â’r sector perfformio ehangach.
Rhagor o wybodaeth: www.uwtsd.ac.uk/ba-theatre-design-production 38
BA Dylunio a Chynhyrchu Theatr
Pam dewis Dylunio a Chynhyrchu Theatr yn Y Drindod Dewi Sant ? • • • • • • • • •
Addysgu ymarferol, uniongyrchol mewn amgylcheddau gweithdy /stiwdio Mae pob asesiad yn ymarferol – dim arholiadau na thraethawd hir Dysgwch gan, a chydweithiwch gyda, gweithwyr proffesiynol hyfforddedig, profiadol sydd wedi gweithio ar lwyfan, teledu a ffilm – gan ennill cysylltiadau ar y daith Tîm helaeth o ymarferwyr proffesiynol yn yr adran fel cyfarwyddwyr, dylunwyr, gwneuthurwyr a thiwtoriaid arbenigol. Erbyn y drydedd flwyddyn gallwch arbenigo yn eich dewis faes Gallwch astudio dramor yn yr Unol Daleithiau Mae cwmnïau theatr teithiol yn ymweld â’r Brifysgol yn rheolaidd Awyrgylch cefnogol a sylw unigol i bob myfyriwr Cyfleusterau rhagorol gan gynnwys Theatr yr Halliwell sydd â 375 sedd, theatr Y Llwyfan, stiwdios a gweithdai (gweler tud.15)
Cod UCAS: W460 | Cod Sefydliad: T80 | Hyd y Cwrs: 3 Blynedd | Location: Carmarthen Iaith: Saesneg (cyfleoedd dwyieithog ar gael) | Cyfarwyddwr Rhaglen: Stacey-Jo Atkinson 39
Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen BA Dylunio a Chynhyrchu Theatr yn canolbwyntio ar ddatblygiad blociau adeiladu sylfaenol y broses gynhyrchu. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i gwmpasu pynciau fel Rheoli Llwyfan, Adeiladu Golygfeydd, Dylunio, Goleuo a Sain, Arddulliau Theatr, Gwisgoedd a Chelf Golygfeydd. Cefnogir myfyrwyr trwy gydol y radd wrth iddynt fagu hyder a datblygu sgiliau, a meithrin eu creadigrwydd fel dylunwyr, gwneuthurwyr a thechnegwyr. Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar gymhwysiad y sgiliau hyn mewn amrywiaeth o brosiectau a gosodweithiau. Mae’r rhain yn cynnwys cymhwysiad digidol, gwireddu dyluniad a phrosiect theatr unigol, yn ogystal â’r cyfle i weithio ar gynyrchiadau’r drydedd flwyddyn. Mae’r flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar gymhwyso’ch hyfforddiant i broses cynhyrchu proffesiynol. Tri phrif berfformiad cyhoeddus y drydedd flwyddyn yw Theatr Deithiol, Theatr Prif Lwyfan a Theatr Stiwdio. Bydd profiad o’r math yma o brosesau ynghyd â modwl Ymarfer Proffesiynol sy’n archwilio portffolios, CVs, treth, technegau cyfweld, cynlluniau datblygu personol, ayb yn eich paratoi at yrfa yn y Diwydiannau Creadigol.
40
BA Dylunio a Chynhyrchu Theatr
Rydym yn aelodau o, ac yn cael ein cefnogi gan:
Gall y cwrs gynnwys modylau megis: • • • • • •
Egwyddorion Dylunio (gan gynnwys Gwneud Modelau) Celf Golygfeydd a Gwisgoedd (gan gynnwys Gwallt a Cholur) Rheoli Llwyfan (Gan gynnwys Propiau) Adeiladu Golygfeydd Goleuo, Sain a Chlyweledol Arddulliau Theatr
• • • • • • •
Y Diwydiant Perfformio Proses Dylunio Senograffi – Gwireddu Dylunio Llwyfan Arfer Digidol Prosiect Cynhyrchu Arfer Unigol Lleoliad Gwaith (Dewisol)
• • • • • •
Theatr Deithiol Prif Gynyrchiadau Llwyfan Theatr Stiwdio/Safle-benodol Arfer Proffesiynol Lleoliad Gwaith (Dewisol) Astudiaethau Rhyngwladol (Dewisol)
41
Cwrdd â’n myfyrwyr
BA Dylunio a Chynhyrchu Theatr “Yn y flwyddyn gyntaf, bu inni archwilio ystod eang o bynciau fel celf golygfeydd ac adeiladu set i reoli llwyfan, sain a goleuo.”
Carys-Haf Williams BA Dylunio a Chynhyrchu Theatr
42
“Mae’r cwrs yn ymarferol iawn sy’n golygu ei fod yn ddiddorol ac yn rhwydd i’w fwynhau. Yn ogystal â gweithio ochr yn ochr ag aelodau’ch dosbarth, mae’r cwrs yn rhoi cyfle i chi weithio gydag actorion, cyfarwyddwyr a gweithwyr proffesiynol eraill y diwydiant ar y daith. Mae’r tiwtoriaid i gyd yn wybodus a brwdfrydig iawn am eu pynciau sy’n golygu bod popeth a addysgir ichi yn berthnasol ac yn ffocysu ar y diwydiant; maent i gyd yn eich annog ac yn barod i helpu pryd bynnag y bydd angen eu cymorth arnom.
Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, rwyf wedi cael llawer o gyfleoedd i wneud profiad gwaith gyda chwmnïau fel Theatr na nÓg a Theatr Genedlaethol Cymru. Drwy fanteisio ar y cyfleoedd hyn rwyf wedi dod i adnabod llawer o bobl yn y diwydiant ac wedi gallu gweithredu’r sgiliau rwyf wedi’u dysgu ar y cwrs hyd yma. Ni allaf aros i ddechrau fy ail flwyddyn!”
BA Dylunio a Chynhyrchu Theatr
“O ddiwrnod cyntaf y cwrs hwn, mae e wedi teimlo fel un teulu mawr.” Nid ydych dan anfantais os nad oes gennych brofiad blaenorol yn y theatr. Yn y flwyddyn gyntaf, cewch ddysgu hanfodion dylunio, adeiladu set, rheoli llwyfan, gwisg, propiau, gwneud modelau, celf golygfeydd, goleuo a sain. Addysgir y rhain gyda darlithoedd ymarferol gan weithwyr proffesiynol, a wahoddir i’r Brifysgol ar gyfer eu harbenigedd a’u profiad. Mae’r ail flwyddyn yn eich trochi. Dyma’r flwyddyn sy’n crynhoi’r cymal ‘cewch allan ohono yr hyn a rowch i mewn’. Mae pob modwl yn archwilio’r sgiliau a ddysgoch yn y flwyddyn
gyntaf mewn rhagor o fanylder. Cewch weithio gyda rhagor o weithwyr proffesiynol o’r diwydiant mewn meysydd fel brwydro ar gyfer llwyfan i theatr hygyrch. Mae pob blwyddyn yn wahanol, felly nid yw fyth yn ddiflas nac ailadroddus. Mae yna adegau pan fydd hi ymhell wedi hanner nos, ac rydych yn dal i fod wrthi’n adeiladu neu’n peintio set. Mae’r darlithwyr yn dal i fod wrth eich ochr, nid ydynt fyth yn gwneud i chi wneud rhywbeth na fydden nhw’n fodlon ei wneud eu hunain – y cariad hwn at theatr sy’n llifo drwy’r holl staff. Yr ail flwyddyn yw’r flwyddyn i archwilio ac ehangu eich gwybodaeth a’ch sail sgiliau. Fel grŵp blwyddyn fe gewch fwy o ymreolaeth, mae mwy o gyfrifoldeb gennych fel unigolyn ac fel grŵp. Daw hunanreolaeth a moeseg waith dda yn flaenoriaeth. Does dim ond sioeau yn y drydedd flwyddyn. Yma, byddwch yn tynnu ar eich profiad blaenorol, yn cael cyllideb, cyfarwyddwr a grŵp o actorion ac i ffwrdd â chi. Sioeau teithio, cynyrchiadau llwyfan a sioeau
stiwdio/safle-benodol. Mae e mor debyg i theatr broffesiynol â phosibl gyda rhwyd diogelwch ar ffurf yr adran. Yn ystod fy amser ar y cwrs rwyf wedi cael llawer o gyfleoedd cyflogaeth – gan gynnwys adeiladu, gosod a goleuo, i gwmnïau lleol a chenedlaethol gan gynnwys Gŵyl Cyrion Caeredin. Caiff y cwrs ei asesu ar waith ymarferol a ‘llyfrau gwaith proses’ yn hytrach na thraethodau, arholiadau neu draethodau hir, i mi roedd hyn yn fonws. Gadewais addysg amser llawn 25 mlynedd nôl ac ni wnes i ymgysylltu â’r holl broses. Mae’r amser cyswllt gyda darlithwyr yn rhagori ar yr amseroedd swyddogol a nodwyd ac mae hyn yn help mawr. Mae ganddynt bolisi drws agored go iawn ac maent yn hapus i helpu pan fyddwch mewn penbleth. Maent yn eich annog bob tro ac eisiau eich gweld yn gwneud eich gorau.
Jamie Rollinson BA Dylunio a Chynhyrchu Theatr
43
Beth mae ein graddedigion BA Dylunio a Chynhyrchu Theatr
yn ei wneud nawr
“Roedd yr wybodaeth a’r sgiliau a gefais ym mhob un modwl a phrosiect gymaint yn fwy gwerthfawr nag y byddwn byth wedi’i ddisgwyl.”
Becca Moore A raddiodd yn 2016
“Profais bob agwedd ar theatr o oleuo, sain, a dylunio i wisgoedd, colur a rheoli llwyfan; y broses gyfan o cyn-i-ôl gynhyrchu. Dyma’r fantais fawr, ac un o’m hoff agweddau ar y cwrs eang hwn, gan fy mod nawr yn weithiwr proffesiynol theatr a llwyfan hyblyg sydd â llawer o sgiliau trosglwyddadwy. Gwnes yn fawr iawn o’r holl gyfleoedd a oedd ar gael i mi, yn ogystal ag agor drysau i fi fy hun a chwilio am gyfleoedd y tu allan i’r campws. Bues yn ffodus iawn i weithio gyda chwmnïau fel Opera Cenedlaethol Cymru, Cwmni Theatr Taking Flight, Quadriennale Prague, a’r National Theatre Wales, i gyd wrth astudio. Ni faswn wedi cael yr hyder i ymgymryd â’r rolau a’r cyfrifoldebau hyn oni bai am yr holl bobl y bu i mi gwrdd â nhw a gweithio gyda nhw yn ystod fy amser ar y cwrs, o diwtoriaid i gydweithwyr, cyfarwyddwyr i aelodau cast, dylunwyr i dimau cynhyrchu.
44
Ers graddio, rwyf wedi cyflawni mwy nag oeddwn erioed wedi’i ddychmygu. Ers graddio, rwyf wedi gweithio gyda’r National Theatre Wales ar ‘City of the Unexpected’, wedi gwirfoddoli gydag Opera Vancouver, rwyf wedi bod yn LX2/ Swing Tech ar daith y DU o ‘All or Nothing: the Mod Musical’ ac yna fe ddes i yn Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol taith yr Hydref, cyn symud i’r West End. Rwyf ar fin dechrau antur newydd fel Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol gyda’r National Theatre yn Llunndain ar eu taith ysgolion o ‘The Curious Incident of the Dog in the Night-time’.”
BA Dylunio Course a Chynhyrchu Here Theatr
“Mae bron deng mlynedd wedi mynd heibio ac mae’n teimlo fel pe bawn i wedi graddio ddoe. Rwyf nawr yn Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol a Rheolwr Llwyfan ar fy liwt fy hun.” Cassey Jones A raddiodd yn 2009
“Rwyf wedi gweithio i amrywiaeth o gwmnïau gan gynnwys Theatr Clwyd a Chwmni’r Fran Wen, ac rwyf newydd orffen cyfnod fel Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol yn y National Theatre, Llundain ar ‘Home I’m Darling’. Rwyf hefyd wedi cael fy ngwahodd yn ôl i addysgu ar y cwrs fel rhan o’r modwl rheoli llwyfan. Rwy’n addysgu’r myfyrwyr am rôl RhLlC a DRhLl – paratoi sgriptiau, dod o hyd i bropiau a galw sioe.
pryd nad oedd y cyrsiau Rheoli Llwyfan eraill yn eu cynnig ar lefel prifysgol, ac rwy’n credu bod hynny wedi fy ngwneud yn fwy cyflogadwy nawr. Petawn i’n rhoi cyngor i chi, buaswn yn dweud wrthych i wneud y cwrs hwn. Fe fydd yn rhoi cyfle ichi ddysgu cymaint o wahanol sgiliau y byddwch yn eu defnyddio yn eich gyrfa, a bywyd.”
Nawr, wrth edrych y yn ôl ar y cwrs Dylunio a Chynhyrchu Theatr rwy’n gweld ei fod wedi rhoi i mi sylfaen ragorol ar gyfer fy ngyrfa am ei fod yn cwmpasu llawer o feysydd, a oedd i gyd yn berthnasol i weithio ym maes Rheoli Llwyfan. Dysgais lu o sgiliau ar y
45
Ffocws ar Ddiwydiant Mae Jake Linzey yn sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Leviathan Workshop Ltd.
Jake Linzey Gweithdy Leviathan
Mae Leviathan Workshop yn Tamworth, yn stiwdio propiau a phypedau sydd wedi ennill llawer o wobrau. Mae eu gwaith proffil uchel i’w weld gyda chleientiaid fel Katy Perry, Michael Bublé, MNEK ac enwau cyfarwydd fel Cadbury, Carlsberg, P&O a H&M. Mae’r cwmni’n arbenigo mewn pypedau a phropiau o’r radd flaenaf, sy’n syfrdanol yn weledol, yn fecanyddol ddibynadwy ac yn gwrthsefyll realiti’r diwydiant ar daith. Mae Jake yn ddarlithydd gwadd ar bypedwaith yn y Brifysgol lle graddiodd ef ei hun yn 2009. Mae Jake yn ymroi i roi safonau diwydiannol presennol i’r myfyrwyr yn Y Drindod Dewi Sant
46
i roi iddynt fantais gystadleuol pan fyddant yn graddio. Mae hyn yn cynnwys cymryd myfyrwyr ar leoliadau gwaith i Leviathan Workshop lle maent yn gweithio ochr y ochr â’r tîm o wneuthurwyr proffesiynol a chyflwyno myfyrwyr i ystod eang o ddefnyddiau gan gyflenwyr gorau’r diwydiant. “Mae’r cwrs BA Dylunio a Chynhyrchu Theatr yn cynnig lle gwych i ddysgu a datblygu, gyda chefnogaeth a gofal y staff addysgu i helpu tywys myfyrwyr i fod yn gyflogadwy yn eu dewis arbenigedd.”
BA Dylunio a Chynhyrchu Theatr
Fe ddes i yn Rheolwr Cynhyrchu i National Theatre Wales yn ôl yn 2014 ar ôl gweithio ar fy liwt fy hun iddyn nhw am nifer o flynyddoedd yn ogystal â gweithio fel technegydd yng Nghanolfan Celfyddydau Abertystwyth. Rwyf hefyd yn gweithio’n rhyngwladol fel Rheolwr Cynhyrchu gyda’r Freedom Theatre yng Ngwersyll Ffoaduriaid Jenin, Palesteina. “Rwyf wedi gweithio ar y BA Dylunio a Chynhyrchu Theatr am yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn cyflwyno sesiynau ar y modwl Rheoli Llwyfan. Rwy’n addysgu’r myfyrwyr am theatr safle benodol ac yn edrych ar fapio safle ac esbonio pam bod iechyd a diogelwch mor bwysig. Rwyf hefyd yn cyflwyno sgyrsiau fel rhan o Arfer Proffesiynol am weithio ar eich liwt eich hun a chyfleoedd sydd ar gael gyda’r National Theatre Wales. Rydym wedi llwyddo i gynnig nifer o leoliadau i fyfyrwyr Dylunio a Chynhyrchu Theatr a chyflogi graddedigion o ganlyniad i’r ffaith eu bod yn meddwl yn ymarferol ac yn benderfynol o ddysgu, dwy rinwedd bwysig iawn i’r diwydiant.” 47
Jacob Gough National Theatre Wales
48
BA Dylunio a Chynhyrchu Theatr
Gyrfaoedd Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i amrywiaeth o yrfaoedd ac astudiaethau pellach, gan gynnwys: • Dylunydd Theatr • Technegydd • Artist Golygfeydd • Adeiladu set • Rheoli Llwyfan • Gwneuthurwr Gwisgoedd • Goruchwylydd Wardrob • Rheolaeth Digwyddiadau • Rheolaeth celfyddydau • Addysg • Astudiaethau/ymchwil ôl-raddedig
“Ers graddio, rwyf wedi gweithio mewn llawer o fannau anarferol gan gynnwys siop pastai a thatws stwnsh hynaf Llundain, ysgol gelf adfeiliedig a Globe Shakepeare. Ni fuaswn wedi cael y cyfleoedd hyn heb y profiad angenrheidiol a gefais yn ystod fy amser yn Y Drindod.“ Sarah Phillips
49
MA Cyfarwyddo Dysgwch grefft cyfarwyddo ar gyfer y llwyfan mewn mannau perfformio ymarferol a reolir yn broffesiynol. Nod ein MA mewn Cyfarwyddo Theatr yw ymgysylltu â gofynion a disgwyliadau’r cyfarwyddwr theatr sy’n gweithio mewn cyd-destun theatraidd cyfoes. Yn y rhaglen ddwy flynedd hon, byddwch yn archwilio i fecaneg rheoli ystafell ymarfer a datblygu strategaethau a thechnegau ar gyfer proses greadigol, gydweithredol.
Rhagor o Wybodaeth: www.ydds.ac.uk 50
Byddwch yn gweithio gydag ymarferwyr theatr proffesiynol ac ymarferwyr creadigol i ddeall ac archwilio gwaith y cyfarwyddwr theatr mewn theori ac ar waith.
MA Cyfarwyddo
Mae’r Rhaglen yn rhoi i fyfyrwyr y cyfle i ddatblygu ac arddangos gwybodaeth uwch a dealltwriaeth o, a phrofiad ymarferol, mewn: •
gofynion a disgwyliadau’r cyfarwyddwr theatr sy’n gweithio yn y cyd-destun theatraidd cyfoes, gan gynnwys cyfleoedd a phwysau ariannu;
• dealltwriaeth a chymhwysiad y cyfarwyddwr o dechnegau a dulliau ar gyfer ymarfer a pherfformio sgript; • agweddau ar y mudiad modernaidd mewn perthynas â drama a theatr trwy waith dramodwyr dethol; •
datblygu a llwyfannu cynyrchiadau prif lwyfan fel cyfarwyddwr cynorthwyol a sioe theatr ‘stiwdio’ fel y prif gyfarwyddwr.
Bydd myfyrwyr ar y rhaglen yn gweithio gyda staff craidd, cyfarwyddwyr proffesiynol a gweithwyr theatr proffesiynol eraill a gyda charfannau o fyfyrwyr israddedig celfyddydau perfformio i gynhyrchu gwaith o ansawdd proffesiynol. Lle bo’r myfyriwr yn gweithredu naill ai fel cyfarwyddwr cynorthwyol neu gyfarwyddwr darn ar gyfer stiwdio, cânt eu cefnogi gan fentor/tiwtor a fydd hefyd yn sicrhau ansawdd profiad ar gyfer y garfan israddedig. Yn ogystal â dysgu achrededig, fe fydd yna gyfleoedd i elwa o’r rhwydwaith o gwmnïau theatr y mae tîm Celfyddydau Perfformio Caerfyrddin yn rhwydweithio â nhw yn barod er enghraifft: Mess Up the Mess OMIDAZE, Cardiff Fringe Festival, Cwmni Theatr Mappa Mundi a Kev Macurdy Stage Combat School.
Cynnwys y Cwrs • Cyfarwyddo Theatr • Theori ac Ymagweddau Ymarfer at Gyfarwyddo 1: Sgript, Ymarfer a Pherfformio • Ymagweddau at Gyfarwyddo 2: Arddulliau Theatr • Y Cyfarwyddwr Cynorthwyol • Y Prosiect Cyfarwyddo “Mae’r cwrs MA Cyfarwyddo newydd yn ychwanegiad arbennig at y cyrsiau celfyddydau creadigol rhagorol sydd ar gael yn barod ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Gan weithio ochr yn ochr â thiwtoriaid arbenigol a gweithwyr proffesiynol y diwydiant, mae’r cwrs yn cynnig cyfleusterau rhagorol a phrofiadau arloesol i fyfyrwyr, a fydd yn gweithio fel catalydd ar gyfer gyrfa yn y diwydiant theatr.”
Peter Doran Cyfarwyddwr Artistig Theatr Torch
Cod Sefydliad: T80 | Hyd y Cwrs: 2 Years | Lleoliad: Carmarthen | Cyfarwyddwr y Rhaglen: Dave Ainsworth 51
52
Course Here
Ffilm a Chyfryngau Antur, Profiad, Diwydiant Astudiaethau Israddedig 56
BA Cynhyrchu Ffilmiau Antur
64
BA Cynhyrchu Ffilmiau Antur
Astudiaethau Ôl-radd 72
MRes Cynhyrchu Ffilmiau Antur
72
Tyst Ôl-raddedig Cynhyrchu Ffilmiau Antur
53
Ffilm a Chyfryngau Mae ein lleoliad yng Ngorllewin Cymru yn unigryw. Mae ein myfyrwyr ffilm a chyfryngau wedi cael eu hysbrydoli gan harddwch y tirlun a’r arfordir, a’r cyfleoedd a gyfyd ynddo i’r rheiny sydd â diddordeb mewn amgylchedd ffilmio, bywyd gwyllt, chwaraeon a diwylliant. Mae ein dosbarthiadau wedi’u lleoli mewn casgliad o ystafelloedd pwrpasol ym mloc Addysgu a Dysgu newydd y brifysgol, sy’n cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf a golygfeydd dros y cefn gwlad bendigedig cyfagos. Mae’r rhaglen Cynhyrchu Ffilmiau Antur yn unigryw yn y DU, ac yn defnyddio tirluniau Gorllewin Cymru a’r ystod ehangach o weithgareddau awyr agored a gynhelir yn y rhanbarth. Mae yna gyfleoedd gwych i ffilmio chwaraeon eithafol, bywyd môr a bywyd gwyllt, tiroedd arfordirol a mynyddig gyda mewnbwn gan weithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y meysydd hyn drwy gydol y radd.
54
Mae’r radd Cynhyrchu Ffilmiau yn cynnig i fyfyrwyr y cyfle i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer diwydiant cyfoes ac i ymgysylltu â chwmnïau cynhyrchu’r cyfryngau. Mae ymgysylltu â’r diwydiant yn rhan annatod o’r holl agweddau ar y rhaglenni. Gall hyn fod ar ffurf lleoliadau gwaith, prosiectau i gleientiaid allanol, gweithio ar brosiectau ffilm, neu ymgysylltu â’r gweithwyr proffesiynol niferus o’r diwydiant a fydd yn cynnig eu harbenigedd wrth gyflwyno’r rhaglenni. Rydym yn arbennig o ffodus i gael pencadlys newydd S4C, y cwmni darlledu Cymraeg, y drws nesaf i’n hadeilad. Mae Canolfan S4C Yr Egin, sef enw’r ganolfan cyfryngau, yn cynnig ystod o gyfleusterau, a chyfleoedd rhwydweithio gwych i’n myfyrwyr gyda’r cwmnïau a fydd yn defnyddio’r ganolfan. Bu’r mewnbwn gan weithwyr proffesiynol y cyfryngau sy’n gysylltiedig â’r ganolfan yn wirioneddol bwysig i ni, wrth sicrhau bod ein graddau’n cynnig yn union yr hyn y mae diwydiant cyfoes yn gofyn amdano gan raddedigion.
Mae alldeithiau a theithiau maes yn rhan ganolog o’n graddau. Maent yn caniatáu i fyfyrwyr gael profiad o ffilmio mewn amrywiaeth o leoliadau ac amodau. Gall yr alldeithiau hyn fod yn rhan o’ch gwaith gradd asesedig, ond rydym yn annog myfyrwyr i fynychu’r teithiau ychwanegol a fydd yn cael eu trefnu drwy gydol y flwyddyn, a hynny’n aml gyda gwneuthurwyr ffilmiau arbenigol. Rydym hefyd yn mynd ar deithiau rheolaidd i stiwdios cwmnïau cynhyrchu mawr i roi gwir gipolwg i mewn i weithio yn y diwydiant.
Course Here
Pam Astudio Ffilm a Chyfryngau yn Y Drindod Dewi Sant Caerfyrddin? • Mae ein cwrs arloesol mewn Cynhyrchu Ffilmiau Antur yn unigryw yn y DU. • Mae’r rhaglenni gradd wedi’u datblygu gyda’r diwydiant i baratoi myfyrwyr at yrfa mewn cynhyrchu ffilmiau cyfoes. • Mae gan ein lleoliad hyfryd yng Ngorllewin Cymru ystod o dirweddau, bywyd gwyllt, amgylcheddau a chwaraeon sy’n darparu cyfleoedd ar gyfer gwaith cynhyrchu. • Mae gwaith myfyrwyr yn ffocysu ar ddatblygu’r sgiliau ymarferol a chreadigol sydd eu hangen i arbenigo yn eich dewis faes.
55
Cynhyrchu Ffilmiau Antur
BA (Anrh) 56
Yr unig beth rhyngoch chi a’r cyffro yw’r camera.
58
BA Cynhyrchu Ffilmiau Antur
62
Cwrdd ag un o’n graddedigion
Rhagor o wybodaeth: www.uwtsd.ac.uk/ ba-adventure-filmmaking
BA Cynhyrchu Course Ffilmiau Here Antur
57
BA Acting Cynhyrchu Ffilmiau Antur Yr unig beth rhyngoch chi a’r cyffro yw’r camera. The BA Acting degree has been designed to develop Mae’r rhaglen Cynhyrchu Ffilmiau Antur your skills so that you yn unigryw yn y DU, ac mae’n defnyddio graduate as industrytirlun Gorllewin Cymru a’r ystod eang o ready professionals. weithgareddau awyr agored sy’n digwydd To do you will collaborate with yn yrso, ardal.
theatre professionals from different disciplines creating gwych an extremely Mae yna gyfleoedd i ffilmio chwaraeon eithafol, bywyd encouraging supportive môr a bywyd and gwyllt, tir arfordirol a mynyddig, gyda mewnbwn environmentsy’n in which students can ymarferwyr gweithio yn y meysydd hyn drwy gydol y radd. safely explore and experiment. Exploring practical performance Mae ymgysylltu â’r diwydiant yn rhan annatod o’r holl skills, developing connections agweddau ar ein rhaglenni. Gallwith hyn fod ar ffurf lleoliadau industryprosiectau professionals and cleientiaid fostering allanol, gwaith ar gwaith, ar gyfer entrepreneurship is at the heart â’r of ymarferwyr niferus yn y brosiectau ffilm, neu ymgysylltu this training. diwydiant a fydd yn cynnig eu harbenigedd yn ystod y rhaglenni.
Rhagor More information: o wybodaeth: www.uwtsd.ac.uk/ba-adventure-filmmaking www.uwtsd.ac.uk/ba-acting 58
BA Cynhyrchu Ffilmiau Antur
Cod UCAS: AF01 | Cod Sefydliad: T80 | Hyd y Cwrs: 3 blynedd Llawn Amser / Chwe Blynedd Rhan Amser Lleoliad: Caerfyrddin | Cyfarwyddwr Rhaglen: Dr Brett Aggersberg / b.aggersberg@uwtsd.ac.uk 59
Dyluniwyd y rhaglen hon i roi i fyfyrwyr y sgiliau arbenigol a galwedigaethol sydd eu hangen arnynt i weithio yn y maes deinamig hwn o’r diwydiannau ffilm a ffotograffiaeth. Erbyn y flwyddyn olaf, gall myfyrwyr weithio ar brosiectau mawr yn eu dewis faes, gyda mewnbwn arbenigol gan weithwyr proffesiynol. Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i’r sgiliau cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu craidd sydd eu hangen i gynhyrchu cynnwys ffilm a chyfryngau seiliedig ar antur. Bydd nifer o alldeithiau a phrosiectau, yn ogystal â dosbarthiadau ffurfiol, a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr gael profiad o weithio mewn amrywiaeth o amgylcheddau a meysydd. Gall y rhain ymestyn o chwaraeon eithafol a chwaraeon moduro, i ffilmio bywyd gwyllt, ffilmio tirlun ac arfordir, a ffilmio awyrol. Wrth i fyfyrwyr wneud cynnydd, gallent arbenigo mewn maes o’u dewis; erbyn y flwyddyn olaf, gall myfyrwyr weithio ar brosiect mawr unigol yn eu dewis faes, gyda mewnbwn arbenigol gan ymarferwyr o bwys. Mae sgiliau entrepreneuraidd a galwedigaethol yn elfen greiddiol o brofiad myfyrwyr, gan alluogi i raddedigion gamu i’r diwydiant yn hyderus fel gweithwyr llawrydd ac i hyrwyddo ac arddangos eu gwaith. Ni fydd yr addysgu’n cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd ffurfiol, ond drwy weithdai a seminarau, alldeithiau a phrosiectau, sy’n aml yn cynnwys gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant. Hefyd, mae cyfleodd ychwanegol yn cael eu cynnig drwy gydol y flwyddyn, i’r rheiny sy’n dymuno cael mwy o brofiad i feithrin eu portffolio a’u CV. 60
BA Cynhyrchu Ffilmiau Antur
Mae Steven Clarey yn un o brif ffigyrau gwneud ffilmiau a ffotograffiaeth antur. Graddiodd Steven gyda ni yn 2013, ac ar hyn o bryd mae’n llysgennad Ewrop ar gyfer Panasonic. Arweiniodd lansiad Panasonic o’r Lumix GH5 eleni – edrychwch ar yr hysbyseb (‘The One Making The Waves’) a wnaeth gyda’r cwmni ar-lein! Gall y cwrs gynnwys modylau megis: • Sgiliau Cynhyrchu Craidd • Deall Techneg Ffilm • Cynhyrchu Ffilm • Cyn-gynhyrchu Ffilm • Alldaith Myfyrwyr 1 • Iechyd, Diogelwch ac Asesu Risg
• Cynhyrchu Ffilm Unigol • Ffotograffiaeth Antur, Bywyd Gwyllt ac Amgylcheddol • Dadansoddi Ffilm • Alldaith Myfyrwyr 2 • Rhaglen ddogfen: Antur, bywyd gwyllt ac amgylchedd • Gwneud Ffilmiau o’r Awyr
• Prosiect Mawr 1 • Prosiect Mawr 2 • Prosiect Cleient • Entrepreneuriaeth a Gwneud Ffilmiau • Cynnwys Amlblatfform
61
Cwrdd ag un o raddedigion,
Ffilm a Chyfryngau Caerfyrddin Cafodd Rhys Rasmussen, a raddiodd yn ddiweddar o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin, deitl Fideograffydd y Flwyddyn UK Esports yng Ngwobrau UK Esports 2018. Hefyd, cafodd ei enwebu ar gyfer yr un categori yng Ngwobrau Diwydiant Esports y byd. Wedi astudio ar gampws Caerfyrddin Y Drindod Dewi Sant, mae Rhys bellach yn dilyn ei gariad at esports ac wedi sefydlu ei gwmni cynhyrchu ei hun – DLC Studios – gan ffocysu ar y farchnad esport. “Un o’r pethau eraill y mae gennyf gariad ato, a hynny ochr yn ochr â’m gwaith prifysgol, gwnes ymdrech fawr i wneud gwaith awyr agored yn y diwydiant Esports. Dechreuais mewn rôl wirfoddol yn gweithio gyda chlybiau esports llawr gwlad Prydain ac ers hynny rwyf wedi gweithio gyda rhai o frandiau mwyaf y diwydiant fel ESL a Level 99. O ganlyniad i’r gwaith hwn, rwyf wedi cael fy nghydnabod gan y diwydiant Esports ar lefel genedlaethol a byd-eang.
62
Yn ddiweddar, cefais fy enwi yn Fideograffydd Esports y Flwyddyn y DU yng ngwobrau Esports y DU ac ers hynny rwyf wedi cael fy enwebu eildro yn yr Esports Industry Awards. Mae’n teimlo’n swrrealaidd bod fy enw wedi’i gynnwys yn seremonïau gwobrau esports y DU a’r byd, gyda fy enw wrth y gwneuthurwyr ffilmiau a’m hysbrydolodd i ddechrau gwneud gwaith yn y diwydiant Esports. “Mae fy ngobeithion yn uchel at y dyfodol ac ers graddio rwyf wedi bod yn ffocysu ar sefydlu fy nghwmni fy hun, DLC Studios, ochr yn ochr â thîm o dri gweithiwr creadigol talentog arall. Ers gadael y Brifysgol, rwyf eisoes wedi cael y cyfle i deithio i leoedd fel Sweden, Tenerife, Madrid a Llundain i gwrso fy mreuddwyd i adrodd straeon gwych.” Mae Dr Brett Aggersberg, darlithydd Ffilm a Chyfryngau Digidol yn YDDS yn eithriadol o falch o lwyddiannau Rhys ac mae’n hapus i weld y cwmni, a ddatblygodd yn wreiddiol yn ystod ei astudiaethau, bellach yn ffynnu. “Ymunodd Rhys â’n gradd BA Cynhyrchu Cyfryngau Newydd ar ôl cwblhau cwrs Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol yn llwyddiannus yng Ngholeg Ceredigion. Dangosodd ei ymroddiad i ffilm ar unwaith trwy ei ymagwedd at
brosiectau a gwaith ychwanegol ar ei liwt ei hun,” meddai Brett. “Ers ei flwyddyn gyntaf gyda ni mae e wedi adeiladu ei brofiad trwy weithio gyda sefydliadau allanol fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a bandiau. Ar ddechrau’r ail flwyddyn, aeth Rhys i ymweld â’i goleg blaenorol fel Llysgennad Myfyrwyr a dangos ei bortffolio gyda’r ystod trawiadol o brosiectau y mae wedi bod yn gweithio arnynt. “Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae e hefyd wedi datblygu ei gysylltiadau gydag Esports. Cafodd ei gynnwys ar restr fer Fideograffydd 2017 Esports, ac enillodd Fideograffydd y Flwyddyn Esports y DU yn 2018. Mae hyn yn gyrhaeddiad ffantastig i rywun mor newydd i’r maes, ac mewn maes sydd mor gystadleuol. Parhaodd Rhys i ddatblygu ei restr cleientiaid gyda phrosiectau masnachol â thâl ar gyfer timau Esports a brandiau diodydd egni Esports ac ers hynny mae e wedi sefydlu DLC Studios fel cwmni gwneud ffilmiau proffesiynol i weithio o fewn maes marchnata Esports. Datblygwyd y cwmni hwn yn ystod ein modwl entrepreneuriaeth, ac mae’n rhoi llawer o foddhad i ni weld myfyrwyr yn llwyddo fel hyn. Dymunwn bob hwyl i Rhys ar gyfer y dyfodol a’r lwyddiant y mae’n ei haeddu.”
BA Cynhyrchu CourseFfilmiau Here Antur
63
Cynhyrchu Ffilmiau
BA (Anrh) 64
Mae’r radd Cynhyrchu Ffilmiau yn cynnig i fyfyrwyr y cyfle i arbenigo yn y maes cynhyrchu o’u dewis, ac i feithrin y sgiliau cyflogadwyedd sydd eu hangen ar y diwydiant. 66
BA Cynhyrchu Ffilmiau
70
Cwrdd â Myfyriwr Ffilm a Chyfryngau
71
Cwrdd ag un o’n graddedigion
Rhagor o wybodaeth: www.uwtsd.ac.uk/ba-filmmaking
BA Cynhyrchu Ffilmiau
65
BA Cynhyrchu Ffilmiau Ar hyn o bryd, mae’r diwydiant ffilm yn profi newid enfawr yn y ffordd y mae’n creu, ariannu a dosbarthu cynnwys i’w gynulleidfa. Mae ein gradd BA Cynhyrchu Ffilmiau ar flaen y gad o ran technegau cynhyrchu, gan greu graddedigion sy’n barod i gyfrannu at y newid hwnnw. Mae myfyrwyr yn dysgu i drin a thrafod y berthynas anodd rhwng damcaniaeth ac arfer i greu cynnwys ffilm gwreiddiol a diddorol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ddiwydiannau ffilm a chyfryngau. Mae ein modylau theori’n gwasanaethu’r ymagwedd greadigol at gynhyrchu ffilmiau. Bydd graddedigion yn barod i ymgysylltu â llawer o agweddau ar y diwydiant, o ddarlledu i weithio ar eu liwt eu hunain. Mae llawer o gyfleoedd yng Nghymru a’r DU i wneuthurwyr ffilmiau entrepreneuraidd, ac mae’r rhaglen hon wedi’i seilio ar brofiad ymarferwyr y diwydiant a pherthnasoedd agos gyda chwmnïau.
Rhagor o wybodaeth: www.uwtsd.ac.uk/ba-filmmaking 66
BA Cynhyrchu Ffilmiau
Cod UCAS: FM01 | Cod Sefydliad: T80 | Hyd y Cwrs: 3 blynedd Llawn Amser / Chwe Blynedd Rhan Amser Lleoliad: Caerfyrddin | Cyfarwyddwr Rhaglen: Dr Brett Aggersberg / b.aggersberg@uwtsd.ac.uk 67
Mae’r radd Cynhyrchu Ffilmiau yn cyfuno damcaniaeth ac arfer i ganiatáu i fyfyrwyr gynhyrchu cynnwys ffilm a chyfryngau creadigol a gwybodus.
Mae’r pwyslais ar sgiliau galwedigaethol a chyflogadwyedd yn galluogi myfyrwyr i lunio portffolio o waith yn eu maes arbenigol, gan eu galluogi i gystadlu am waith yn eu dewis faes. Hefyd, mae sgiliau entrepreneuriaeth wedi’u mewnosod i’r rhaglen, gan baratoi graddedigion i weithio’n hyderus ar eu liwt eu hunain yn niwydiant yr oes sydd ohoni.
Hefyd, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ymgysylltu â Chanolfan S4C Yr Egin, sydd wedi’i lleoli drws nesaf i’n hadeilad.
Mae yna gyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith, ac i gynhyrchu gwaith ar gyfer cleientiaid allanol mawr, sy’n galluogi i fyfyrwyr ddechrau adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau yn y diwydiant. Ni fydd yr addysgu’n cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd ffurfiol, ond drwy weithdai a seminarau, alldeithiau a phrosiectau, sy’n aml yn cynnwys gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant. Hefyd, mae cyfleodd ychwanegol yn cael eu cynnig drwy gydol y flwyddyn, i’r rheiny sy’n dymuno cael mwy o brofiad i feithrin eu portffolio a’u CV.
Mae’r radd Cynhyrchu Ffilmiau’n rhoi i fyfyrwyr y sgiliau arbenigol a’r wybodaeth sydd eu hangen i greu cynnwys ar gyfer y diwydiant ffilm a chyfryngau cyfoes. Bydd myfyrwyr yn cael eu tywys trwy prif agweddau technegol cyn-gynhyrchu, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu, cyn cymhwyso’r rhain i’w prosiectau eu hunain.
Gall y cwrs gynnwys modylau megis: • Sgiliau Cynhyrchu Craidd • Deall Techneg Ffilm • Cynhyrchu Ffilm • Cyn-gynhyrchu Ffilm • Alldaith Myfyrwyr 1 • Iechyd, Diogelwch ac Asesu Risg 68
• Cynhyrchu Ffilm Unigol • Prosiect Byw • Dadansoddi Ffilm • Datblygu Proffesiynol • Addasiad • Gwneud Ffilm o’r Awyr
• Prosiect Mawr 1 • Prosiect Mawr 2 • Dadansoddi Ffilm Uwch • Entrepreneuriaeth a Gwneud Ffilmiau • Cynnwys Amlblatfform
Tyst AU Cynhyrchu Ffilmiau / Cynhyrchu Ffilmiau Antur
Tyst AU Cynhyrchu Ffilmiau Antur Tyst AU Cynhyrchu Ffilmiau Os ydych yn awyddus i wella eich sgiliau cynhyrchu, ond ddim yn barod i ymrwymo i radd dair blynedd lawn, gall ein Tyst AU (Tystysgrif Addysg Uwch) fod yn ddewis da i chi. Gan ddarparu ystod o sgiliau cynhyrchu, technegol a chreadigol fe gewch gymhwyster am orffen astudiaethau llawn amser un flwyddyn. Os byddwch yn dewis gwneud hynny, gallech uwchraddio i Dip AU (Diploma Addysg Uwch), neu radd anrhydedd lawn, yn ddiweddarach. Dyma’r mathau o fodylau sydd wedi’u cynnwys yn y Tyst AU:
• Sgiliau Cynhyrchu Craidd – Sgiliau sy’n cynnwys cyfansoddiad, ffotograffiaeth, ffilmio, golygu a hyrwyddo ar-lein. •
Deall Techneg Ffilm – Datgelu’r theori tu ôl i sut y cafodd rhai o enydau gorau sinema, teledu a gemau fideo eu datblygu ar gyfer y sgrîn gyda’r bwriad o fod yn sail i’ch arfer gwneud delweddau eich hunan.
• Cyn-gynhyrchu Ffilm – Datblygu’r gwaith papur hanfodol i gymryd eich syniad i gam cynhyrchu. •
Cynhyrchu Ffilm - Cyfoethogi eich sgiliau a thechnegau gwneud ffilm cyfoes gan gynnwys gwaith camera, golygu a gweithdrefnau criwiau ffilm.
•
Alldaith Myfyrwyr – Rhowch y theori cynhyrchu ar waith mewn alldaith grŵp cyffrous lle byddwch chi’n dewis y stori.
•
Iechyd, Diogelwch ac Asesu Risg – Canllaw a gwybodaeth ymarferol hanfodol ar sut i sicrhau bod eich cynhyrchiad yn ddiogel a chyfreithlon.
Mae’r themâu hyn yn canolbwyntio ar y diwydiant ac yn ffurfio blwyddyn gyntaf ein rhaglen radd. 1 flwyddyn llawn amser, 2 flynedd rhan amser
69
Cwrdd ag un o fyfyrwyr creadigol,
Ffilm a Chyfryngau Caerfyrddin Roedd Amy WatlerThomas yn 25 pan y bu iddi ddarganfod bod Y Drindod Dewi Sant yn cynnig cyrsiau mewn Ffilm a Chyfryngau yn ei thref enedigol, sef Caerfyrddin.
Amy Watler-Thomas
70
Dywedodd Amy: “Penderfynais yn hwyr iawn yn y flwyddyn bod arna’i eisiau mynd i’r brifysgol. Ni feddyliais y byddwn yn mynd, a dweud y gwir, gan nad oeddwn wedi mynd pan aeth fy holl ffrindiau ar ôl y coleg, a ‘doedd dim byd roedd arna’i wir eisiau ei wneud ac yna gwelais y cwrs hwn a meddwl y byddai’n grêt. Roedd dewis o ddau gwrs ffilm, ond roedd yr un a ddewisais yn ymwneud yn fwy â’m diddordebau.” Manteisiodd Amy ar y cyfle i ymweld â’r campws cyn iddi wneud ei phenderfyniad ac fe ddaeth i’n Diwrnod Agored. Cafodd y cyfle i edrych ar y cwmpas a chwrdd â’r staff a fyddai’n ei haddysgu ar y cwrs. Dywedodd: “Y tro cyntaf y des i i’r Drindod am fy nghyfweliad/sgwrs gyda fy narlithwyr yn y Diwrnod Agored. Roedd yn brofiad da iawn ac yn llawn gwybodaeth mewn amgylchedd hamddenol, roeddwn yn nerfus iawn cyn mynd ond doedd dim eisiau i mi fod, roedd pawb yn gyfeillgar iawn.”
Erbyn hyn, mae hi wedi cwblhau ei blwyddyn gyntaf ac ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at ei hail flwyddyn. Meddai: “Rwyf wedi caru fy amser yn y brifysgol hyd yma. Rwyf wedi cael y cyfle i gael llawer o gyfleoedd gwych ac wedi cymryd rhan mewn llwyth o bethau. Roeddwn yn ofni y bydden i’n wahanol i’r myfyrwyr eraill am nad oeddwn yn mynd i fod ag eisiau partio, ond mae nifer o bobl ar fy nghwrs sydd hefyd yn fyfyrwyr aeddfed ac yn debyg iawn i mi. Un prif bryder oedd gen i am fynd i’r brifysgol oedd yr ochr ysgrifennu ond nid yw hynny’n rhy ddrwg mewn gwirionedd, ac mae llawer o help ar gael os byddaf yn straffaglu. Rwyf wedi dysgu cymaint ac yn edrych ymlaen yn fawr at yr 2il flwyddyn! “Cyn dechrau’r cwrs nid oedd syniad gen i beth y buaswn yn ei wneud gyda’r radd ar ôl gorffen, neu hyd yn oed a oeddwn am gadw at yrfa. Rwyf wedi bod eisiau gweithio ar fy liwt fy hun ers talwm, a nawr rwy’n credu y gallwn wneud hynny. Yn amodol ar weithio’n galed, rwy’n hyderus y dof o hyd i waith gan wneud rhywbeth y byddaf yn ei fwynhau.”
BA Cynhychu Ffilmiau
Beth mae ein graddedigion
yn ei wneud nawr? Graddiodd Lowri Bevan gyda gradd dosbarth cyntaf o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Ar ôl graddio, sefydlodd Lowri ei busnes ei hun, Digi Designs, sy’n asiantaeth marchnata a hysbysebu creadigol sy’n ffocysu ar hysbysebu brodorol ac artistig ar gyfer busnesau ar draws Cymru. Yn ystod y seremoni raddio, derbyniodd Lowri Wobr Tudor Bevan – Cyfraniad at Ysgrifennu Creadigol neu’r Celfyddydau Creadigol yng Nghymru. Meddai Lowri: “Mae’n gymaint o fraint ennill y bwrsari yma. Rwyf wedi mwynhau fy amser yn YDDS yn fawr a’r gwahanol agweddau ar fy nghwrs. Mae cwblhau’r modwl entrepreneuriaeth wedi gwneud i mi sylweddoli fy mod nawr yn gallu adeiladu fy musnes fy hun ac mae e wedi agor fy llygaid i faint o gefnogaeth sydd gan Gymru i’w chynnig i entrepreneuriaid uchelgeisiol ifanc fel fi.
Lowri Bevan
“Mae fy astudiaethau yn YDDS wedi caniatáu i mi ymestyn a datblygu fy sgiliau ac i ddysgu a gweithio o fewn y diwydiant creadigol yng Nghymru sy’n tyfu’n gyson. Mae’r cwrs yn anhygoel ar gyfer ysbrydoli unigolion sy’n dymuno dysgu am arferion cyfryngau newydd a’r hyn sydd gan y diwydiant i’w gynnig. Mae’r cymorth a’r ysgogiad y mae’r darlithwyr wedi’u rhoi i mi wedi bod yn hollol anhygoel. Fy nod yw bod yn ddylunydd digidol sefydledig ac i weithio ar amrywiaeth o wahanol brosiectau a chynyrchiadau dros yr ychydig flynyddoedd nesaf i ddod o hyd i’m cryfderau o fewn y
diwydiannau creadigol. Hefyd, mae gen i awydd cryf i ddechrau gweithio gyda Disney. Maent yn bobl greadigol heb eu hail, yn artistiaid ac adroddwyr straeon gwych. Rwyf wedi caru Disney erioed! “Mae’r cwrs wedi rhoi i mi’r platfform i allu gweithio gyda chriw adran gelf gyda’r BBC a STARZ (US) sydd wedi gweithio ar Doctor Who, Torchwood, Skins, Da Vinci’s Demons. Roedd cael y profiad o greu eich prosiectau mawr eich hun yn brofiad dysgu arbennig iawn. Mae’r broses greadigol yn hir. Rydych yn datblygu, datrys problemau a newid yn gyson, rwy’n caru’r broses gyfan. Profodd i mi pa mor ymrwymedig ydw i i orffen prosiect. Buaswn yn cymharu fy ngwaith fy hun yn gyson gyda gwaith lefel diwydiant, sydd mewn gwirionedd wedi fy ngalluogi i gael y marciau uchel rwyf mor falch ohonynt.” Meddai Brett Aggersberg, Darlithydd Cynhyrchu Ffilm a Chyfryngau Digidol, Campws Caerfyrddin: “Bu’n bleser addysgu Lowri dros y tair blynedd diwethaf. Datblygodd ei chefndir mewn celf a dylunio yn ddealltwriaeth ddofn a phroffesiynol o sut i wneud y mwyaf o botensial technoleg cyfryngau newydd er mwyn ennyn diddordeb cynulleidfa. Mae hi wedi magu hyder trwy wneud yn fawr o’r holl gyfleoedd oedd ar gael iddi, wrth astudio BA (Anrh) Cynhyrchu Cyfryngau Newydd ar gampws Caerfyrddin. Mae gwaith Lowri o safon eithriadol o uchel, ac fe ddywedodd ein arholwr allanol ei fod “yn well na pheth o’r gwaith a gynhyrchir yn y diwydiant.” Cafodd Lowri radd anrhydedd dosbarth cyntaf o ganlyniad i’w gwaith caled ac ymroddiad, ac rydym yn hyderus y bydd hi’n llwyddo ym mha bynnag ran o’r diwydiant creadigol y bydd hi’n gweithio.” 71
Ôl-radd Ffilm a Chyfryngau Mae’r MRes Cynhyrchu Ffilmiau Antur yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gael arbenigedd proffesiynol mewn gwneud ffilmiau antur, gan wella’u cyfleoedd am waith yn y dyfodol yn y maes cystadleuol hwn. Caiff myfyrwyr eu cyflwyno i brif feysydd pwnc y maes yn y 60 credyd cyntaf o astudiaethau dan gyfarwyddyd. Mae’r Prosiect Ffilm Uwch 120 credyd sy’n dilyn y modylau a addysgir hyn yn galluogi myfyrwyr i gael sgiliau gweithio ar eu liwt eu hunain, trwy gynhyrchu prosiect ffilm wreiddiol a chreadigol yn eu priod faes arbenigol.
Cynnwys y Cwrs: Ymhlith y modylau, mae:
Rhaglen Ddogfen Antur: Damcaniaeth Rhaglen Ddogfen Antur: Arfer Sgiliau Cynhyrchu Uwch Prosiect Ffilm Uwch
Tyst Ôl-raddedig Cynhyrchu Ffilmiau Antur 1 flwyddyn llawn amser, 2 flynedd rhan amser
Ymhlith y modylau, mae: Rhaglen Ddogfen Antur: Damcaniaeth Rhaglen Ddogfen Antur: Arfer Sgiliau Cynhyrchu Uwch
Rhagor o wybodaeth: www.uwtsd.ac.uk/postgraduate/mres-adventure-filmmaking 72
Ôl-radd Ffilm a Chyfryngau
Cod Sefydliad: T80 | Hyd y Cwrs: 1 Flwyddyn llawn amser / 2 Flynedd rhan amser Lleoliad: Caerfyrddin | Cyfarwyddwr y Rhaglen: Dr Brett Aggersberg / b.aggersberg@uwtsd.ac.uk
73
Canolfan S4C Yr Egin Mae Canolfan S4C Yr Egin – canolfan ddigidol a chyfryngau newydd y Brifysgol yng Nghaerfyrddin – yn ddatblygiad trawsnewidiol ac arloesol wedi’i leoli o fewn adeilad trawiadol ac eiconig. Bydd canolfan Yr Egin yn dod â thalent greadigol at ei gilydd i gynhyrchu syniadau a gwneud cysylltiadau gan hefyd feithrin sgiliau, datblygu cynnyrch newydd a rhannu adnoddau – mae’n bair creadigol ar gyfer ymarferwyr, entrepreneuriaid a dysgwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau creadigol. Wedi agor yn ddiweddar, mae’r Egin yng nghalon y campws a’r gymuned leol gan roi cyfleoedd i fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd greu, dysgu a mwynhau ei chyfleusterau o’r radd flaenaf sy’n cynnwys awditoriwm, ystafelloedd golygu a gofodau perfformio gyda rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau, gweithdai, sgyrsiau a sgrinio ffilmiau. Gyda S4C yn brif denant o fewn yr adeilad, mae’r Egin hefyd yn gartref i ystod o gwmnïau sy’n gweithio yn y 74
diwydiannau creadigol, gan gynnwys cyhoeddi aml-gyfrwng a thechnoleg ddigidol; addysg ddigidol; cynhyrchu fideo a ffotograffiaeth; ôl-gynhyrchu; dylunio graffig; cyfieithu ac is-deitlo yn ogystal â rheolaeth ariannol ar gyfer y diwydiannau creadigol. Maent yn cynnwys: Atebol, Big Learning Company, Captain Jac, Asset Finance Solutions, Gorilla, Highly, Lens 360, Moilin, Optimwm, a Trywydd. Mae cyd-leoli a chydweithio gydag ystod mor amrywiol o gwmnïau proffesiynol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr y Brifysgol gyrchu profiad gwaith o ansawdd uchel gan hefyd agor y drws i gyfoeth o gysylltiadau a rhwydweithiau, ac felly cynyddu’r cyfleoedd i gael gwaith yn y diwydiannau creadigol. Gyda chymaint o gwmnïau creadigol yn dewis sefydlu a thyfu eu busnesau yn y ganolfan hon yng Nghaerfyrddin, bydd y cyswllt â’r Brifysgol yn arwain at ddatblygiad piblinell talent, yn ogystal â strwythur gefnogaeth ar gyfer graddedigion sy’n dymuno sefydlu cwmnïau o’r newydd neu ymgymryd ag ymchwil creadigol seiliedig ar y diwydiant a phrosiectau datblygu.
Hefyd, mae nifer sylweddol o gyrsiau’n cael eu datblygu mewn ymateb i anghenion a heriau presennol y diwydiannau creadigol. Gyda rhaglenni’n cael eu siapio gan y diwydiant, bydd Y Drindod Dewi Sant yn sicrhau bod ei myfyrwyr yn graddio gyda’r sgiliau mwyaf priodol ar gyfer y farchnad waith. Mae myfyrwyr eisoes yn elwa o gyfleoedd sydd wedi codi yn sgil dyfodiad Yr Egin, gyda llawer yn gweithio ochr yn ochr â gwneuthurwyr theatr ac ymarferwyr digwyddiadau uchel eu parch a mawr eu profiad ar ddathliadau agoriadol cyffrous y ganolfan. Yn ogystal, bydd myfyrwyr y Celfyddydau Perfformio yn gwerthfawrogi’r awditoriwm 120 sedd a gofod perfformio cyhoeddus mawr o’r radd flaenaf.
Am ragor o wybodaeth am Yr Egin, ewch i: www.yregin.cymru
75
Gyrfaoedd a Diwydiant Mae meithrin eich cariad at eich dewis bwnc yn bwysig i’n staff brwdfrydig a chefnogol yma ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Maent hefyd yn gwybod, pan fyddwch yn graddio, y bydd arnoch angen y sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt wedi ichi raddio er mwyn cael gyrfa lwyddiannus.
Dewi Sant yn meithrin ymagwedd ddeinamig ac arloesol wrth eich paratoi ar gyfer y dyfodol. Er enghraifft, mae Dylunio Bywyd, yn rhaglen pedwar cam sydd ar gael i holl fyfyrwyr YDDS y gellir ei chyrchu trwy weithdai, digwyddiadau, ac adnoddau ar-lein ac all-lein. Fe’i dyluniwyd i’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch amser yn y brifysgol a bod yn barod at fywyd mewn byd sy’n newid yn gyflym.
Mae’r un peth yn wir am ddechrau eich busnes eich hun neu weithio ar eich liwt eich hunan. Dyma pam fod Y Drindod Dewi Sant yn mewnosod cyflogadwyedd i’r cyrsiau a gynigir, yn dod â chyflogwyr i mewn ac yn anfon myfyrwyr ar interniaethau.
Cydnabyddir mai’r Drindod Dewi Sant yw un o sefydliadau mwyaf blaenllaw’r byd mewn addysg entepreneuraidd seiliedig ar greadigrwydd. O ganlyniad i’w gwaith yn y maes hwn, mae’r Drindod Dewi Sant nawr yn un o’r sefydliadau addysg uwch gorau yn y wlad am gynhyrchu busnesau newydd llwyddiannus a sefydlir gan raddedigion.
Mae ar y Brifysgol eisiau ichi fod yn barod am bopeth, nid dim ond beth sy’n digwydd nawr. Mae’r Drindod
76
Mae’r Drindod Dewi Sant yn cynnig ystod o gyfleoedd cyfoethogi entrepreneuriaeth a chyflogadwyedd i fyfyrwyr drwy weithio gyda chyflogwyr a sefydliadau cymunedol i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer hunangyflogaeth neu i weithio mewn busnes.
Roedd 95% o israddedigion Y Drindod Dewi Sant mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach 6 mis ar Ă´l graddio. Ffynhonnell: DLHE 2016/17
96.8% of UWTSD’s full-time UK undergraduates were in employment and/or further study six months after graduating. Source: DLHE 2016/17
77
Staff a Thiwtoriaid Dave Ainsworth
Cyfarwyddwr Rhaglen BA Actio ac MA Cyfarwyddo
Bu Dave yn gomedïwr proffesiynol am flynyddoedd yn Llundain. Fel actor, mae e wedi mwynhau rolau yn Oh Hello!, Bedroom Farce, One Flew Over the Cuckoo’s Nest, Malvolio yn Stockings, Aladdin, Cinderella a Jack & the Beanstalk. Hefyd, mae e wedi ysgrifennu a pherfformio cyfres o sioeau comedi un-dyn, gan gynnwys Augustus John, You Turn Me On, Mrs Slocombe’s Cat, Praise the Lord Nelson, I Slept with Dylan Thomas a Land of My Grandfather. Fel ysgrifennwr proffesiynol ers 2001, mae Dave wedi ysgrifennu nifer o ddramâu, gan gynnwys Oh Hello!, Who’s Afraid of Rachel Roberts (a ysgrifennwyd ar y cyd gyda Helen Griffin), Malvolio yn Stockings, Wasteland, Noe Two Thynges are More Equal a Greville’s Whore. Dave yw Cyfarwyddwr Rhaglen y BA Actio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac yn ddiweddar, dechreuodd astudio PhD.
Stacey-Jo Atkinson
Cyfarwyddwr Rhaglen y BA Dylunio a Chynhyrchu Theatr
Fy mhrif rôl yw cydlynu a chyflwyno’r radd BA (Anrh) Dylunio a Chynhyrchu Theatr. Mae hyn yn cynnwys gwneud yn siwr bod y tîm addysgu’n gwybod holl wybodaeth ddiweddaraf y diwydiant ac i wneud yn siwr bod y myfyrwyr yn teimlo’u bod yn cael eu cefnogi’n llawn a’u herio trwy gydol eu hastudiaethau. Fy nghyfrifoldeb i yw dylunio a gweithredu rhaglen radd ddeinamig a gweithio i 78
sicrhau bod ein holl raddedigion yn barod am y diwydiant. Mae gennyf gefndir ym maes dylunio a chynhyrchu ar gyfer y theatr. Mae fy ngwaith proffesiynol wedi rhoi’r cyfle i mi weithio mewn amrywiaeth o rolau seiliedig ar gynhyrchu gyda llawer o gwmnïau pwysig a chyffrous gan gynnwys Welsh National Opera, Theatr Genedlaethol Cymru, Boomerang (S4C), Taking Flight Theatre, Scamp Theatre a Fio. Yn ogystal â chynnal a datblygu fy nghysylltiadau diwydiannol, mae fy meysydd addysgu’n cynnwys Egwyddorion Dylunio, Arfer Unigol a datblygiad proffesiynol, ynghyd ag egwyddorion cynyrchiadau yn ystod y drydedd flwyddyn, sy’n cynnwys yr holl fyfyrwyr BA Dylunio a Chynhyrchu Theatr ac Actio.
Brett Aggersberg
Cafarwyddwr Rhaglen y BA Ffilm Antur. BA Cynhyrchu Ffilmiau MRes Cynhyrchu Ffilmiau Antur
Nod Brett yw cefnogi unigolion creadigol wrth iddynt ddefnyddio technolegau cyfryngau newydd i adrodd eu straeon. Ar ôl gweithio yn y diwydiant digwyddiadau cyfryngau yn cynhyrchu ffilmiau hyrwyddo, graffeg ac animeiddio, ymunodd Brett â Phrifysgol Cymru yn 2003. Mae ei ddiddordebau darlithio ac ymchwil yn cwmpasu technolegau cyfryngau newydd, delweddu digidol a delweddu. Hefyd, mae e’n arholwr allanol ar gyfer graddau cynhyrchu ffilm Prifysgolion eraill.
Yn ogystal â’i waith yn y Brifysgol, mae Brett yn ymarferydd creadigol ar ei liwt ei hun, yn bennaf ym maes ffotograffiaeth a gwneud ffilmiau; mae e hefyd yn ymgynghorydd technoleg ar gyfer artistiaid a gwneuthurwyr ffilmiau. Mae galw wedi bod am arbenigedd Brett ar gyfer amrywiaeth o fentrau diwydiannol diwylliannol a chreadigol. Mae e wedi gweithio ar ffilmiau dogfen i Ganolfan Deongliadol Hywel Dda, a’r artist o Gymru Christine Kinsey, a Gŵyl Lenyddol Dinefwr. Mae gwaith ffilm diweddar Brett yn cynnwys ffilmiau hyrwyddo ar gyfer Telynau Teifi a ‘Printed Chocolates’. Ar hyn o bryd, mae Brett yn gweithio gyda’r Brifysgol ar ddatblygiad gweithgareddau cysylltiedig ag adleoli pencadlys S4C i’r Egin. Mae ei waith presennol yn cynnwys prosiect Treftadaeth Ddigidol a ariennir gan Ewrop, a bod ar Reithgor Gŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin ar gyfer Ariel Filmmaking, and Feature Length Documentary. Mae’n aml yn cefnogi gwneuthurwyr ffilmiau lleol a gweithio fel criw ar setiau ffilm. Mae Brett yn cymryd rhan weithredol gyda nifer o sefydliadau diwydiannol, gan gynnwys bod yn Arweinydd Campws Adobe, ac mae’n aelod o: Y Gymdeithas Deledu Frenhinol Cymrawd o’r Academi Addysg Uwch Y Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol Adobe Generation Rheithgor Gŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru
Lynne Seymour, BA Actio
Fy nghefndir yw fel actor proffesiynol a
Lynne Seymour, darlithydd BA Actio Mae gen i brofiad fel actores broffesiynol a chyfarwyddwraig theatr ac mae gen i gariad at greu perfformwyr cyflawn sy’n barod i ffynnu yn y diwydiant perfformio. Mae fy ngwaith gyda myfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn seiliedig ar fagu hyder a chreu pecyn cymorth o sgiliau ymarferol a thechnegau i’w galluogi i greu cymeriad cyflawn o ddarn o waith ysgrifenedig. Gyda myfyrwyr yr ail flwyddyn, mae fy ffocws ar adeiladu ar y sgiliau hyn i annog creadigrwydd a meddwl annibynnol yn yr ystafell ymarfer boed hynny’n gweithio ar ddrama gyfoes neu ar ddarn o waith ysgrifenedig clasurol neu absẃrd. Yn y drydedd flwyddyn rydym yn dod â’r holl sgiliau hyn at ei gilydd a gweithio, fel tîm, ar berfformiadau cyhoeddus o gwmpas y tri math o theatr, Theatr Deithiol Ddyfeisiedig, cynyrchiadau Prif Lwyfan a darnau theatr stiwdio ar raddfa fach. Mae ffocws fy ngwaith gyda myfyrwyr y drydedd flwyddyn ar Arfer Proffesiynol lle rydym yn edrych ar lunio CV, darnau a thechnegau clyweliad, meithrin cysylltiadau gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant a sicrhau bod ein holl berfformwyr mor wydn ac entrepreneuraidd â phosibl ac yn barod i fynd i mewn i’r diwydiannau creadigol fel actorion brwdfrydig a medrus.”
Gwyn Emberton, darlithydd BA Dawns Coreograffwr a dawnsiwr o Gymru yw Gwyn Emberton. Ar ôl perfformio gyda nifer o brif goreograffwyr a chwmnïau’r DU ac Israel, gan gynnwys Akram Khan, Matthew Bourne, Jasmin Vardimon, Scottish Dance Theatre, ac Inbal Pinto, dychwelodd Gwyn i Gymru i sefydlu ei gwmni ei hun, sef Gwyn Emberton Dance. Ers hynny, mae’r cwmni yn prysur dod yn un o brif gwmnïau theatr ddawns gyfoes Cymru, gyda gwaith yn cael ei berfformio’n helaeth ar draws Cymru,
gweddill y DU, Ewrop a’r Dwyrain Canol, bu Gwyn yn rhan o’r triawd ‘Light, Ladd & Emberton’, ac yma mae’n cydgyfarwyddo a pherfformio ochr yn ochr â’r perfformwyr enwog o Gymru, Eddie Ladd a Deborah Light. Ers 2014, bu Gwyn yn rhan o gasgliad o ddawnswyr cyfoes rhyngwladol, iCoDaCo, gan gydweithio â llawer o goreograffwyr a phobl greadigol rhyngwladol mewn prosiect coreograffig a pherfformio bob dwy flynedd sy’n ymestyn ar draws y byd. Hefyd, mae’n coreograffio ar gyfer y theatr, teledu a fideos cerddoriaeth ac mae e wedi addysgu mewn llawer o wyliau dawns rhyngwladol ac ysgolion.
Dan Bailey
Technegydd a darlithydd BA Cynhyrchu Ffilmiau Antur/ BA Cynhyrchu Ffilmiau
Ymunodd Dan â’r Brifysgol yn fyfyriwr yn 2013 gan raddio yn 2016. Bu’n gweithio yn y Brifysgol ers 2017 fel Technegydd Ffilm a Chyfryngau. Daw dan â chyfoeth o brofiad o’r diwydiant ffilm a theledu gydag ef, ac mae’n gyffrous i rannu hwn gyda’n myfyrwyr. Tu allan i’r Brifysgol, mae Dan yn cydredeg cwmni cynhyrchu, sef Broadside Films. Gyda Broadside Films, mae Dan wedi mynd ymlaen i ennill gwobrau ar gyfer ffilmiau byr y mae e wedi’u cynhyrchu. Mae’r gwobrau’n cynnwys, Gŵyl Ffilm Fach Caerdydd a Gŵyl Ffilm Arswyd Fer Llundain. Prif faes Dan o fewn gwneud ffilmiau yw Cynhyrchu a Rheoli Cynhyrchiad. Bellach, mae Dan wedi mynd ymlaen i gynhyrchu ffilmiau hir annibynnol gyda Broadside Films, ac mae’n datblygu prosiectau dramor. Hefyd, mae Dan yn gweithio ar ei liwt ei hun yn y diwydiant teledu, lle bu’n rhedwr/ cynorthwyydd swyddfa cynhyrchu ar sioeau fel ‘The Royal Welsh Show’ gyda BBC Wales, BBC Four a Telesgop,
‘Murder By The Sea’ ac ‘A Voice of a Killer’ gyda CBS Reality a Monster Films, a ‘Britannia’ gyda Sky Atlantic. Mae Dan hefyd wedi cael profiad o wneud ffilmiau o’r awyr. Mae e wedi gweithio fel gweithredwr camera gyda Skytec lle creodd ffilm ar gyfer fideos cerddoriaeth, hysbysebion, ac at ddibenion gwyliadwriaeth. Hefyd, mae Dan wedi bod yn rhan o’r tîm drôn a weithiodd ar hysbyseb ‘Fleet Lights’ Direct Line, a gynhyrchwyd gan Saatchi & Saatchi. Mae Dan yn aelod craidd o Dîm Cynhyrchu’r Brifysgol ar y cyrsiau ffilm, ac mae ganddo lawer o wybodaeth a phrofiadau i’w rhannu gyda’r myfyrwyr ynghylch bod yn y diwydiant ffilm a theledu, a bod yn fyfyriwr yn YDDS.
Dr Matt Jones, Darlithydd Mae Dr Matt Jones yn ddarlithydd astudiaethau ffilm a theledu yn YDDS. Mae’n addysgu modylau damcaniaeth ffilm a chyfryngau ym meysydd techneg ffilm, genre ffilm, a ffilm a chyfryngau Celtaidd, yn ogystal â damcaniaeth ffilm ddogfen ar lefel ôl-raddedig. Mae ei arbenigeddau’n rhyngddisgyblaethol ac yn cynnwys Ffilm a Chyfryngau a Saesneg. Ei brif feysydd astudio yw damcaniaeth genre, gan gynnwys astudiaeth gymharol o lenyddiaeth, ffilm, teledu a chyfryngau newydd; damcaniaeth naratif; a damcaniaeth addasu. Mae ei draethawd doethuriaeth, astudiaeth rhyngddisgyblaethol o’r enw ‘Becoming Film Noir’, yn ymdrin ag addasiad ffuglen gwydn Americanaidd yn ‘film noir’ ac yn archwilio ‘genedigaeth’ y genre yn ei amryw gyd-destunau diwylliannol. Mae ei ffocws presennol ar ddiwylliant cydgyfeiriant a’r cyfleoedd newydd ar gyfer adrodd straeon trwy’r cyfryngau digidol. 79
Campws Caerfyrddin Mae ei leoliad hardd, awyrgylch cyfeillgar, cymunedol a chyfleustra cael cymaint ar stepen eich drws, gyda thref brysur o fewn tafliad carreg, yn golygu bod Caerfyrddin yn cynnig bywyd deniadol i fyfyrwyr. Mae’r gymysgedd o adeiladau Fictorianaidd a modern yn darparu cefndir hardd i fyw a dysgu ynddo a’r ymdeimlad bod traddodiad yn cael ei barchu yma ac arloesi’n cael ei groesawu’n gynnes. Ymhlith y datblygiadau newydd a chyffrous ar gampws Caerfyrddin mae pencadlys newydd y cwmni darlledu S4C. Mae Canolfan S4C Yr Egin yn hwb ar gyfer y diwydiannau creadigol, gan gynnig cyfleodd i fyfyrwyr gael profiad, gwneud cysylltiadau gwerthfawr yn y maes a datblygu eu sgiliau. Hefyd, mae Canolfan S4C Yr Egin yn rhywle i bawb ei fwynhau, gyda’i chaffi, awditoriwm a llwyfannau perfformio a fydd yn cynnig ystod o ddigwyddiadau. Mae treftadaeth gyfoethog yng Nghaerfyrddin hefyd. Mae adeilad gwreiddiol y coleg, sy’n dyddio’n ôl i 1848, yng nghalon campws Caerfyrddin. Mae’r Hen Goleg gwych yn gartref i’r Cwad, man dysgu modern, mynediad agored i fyfyrwyr a staff. Mae’n cynnwys cyfrifiaduron i fyfyrwyr, ystafelloedd mewn grwpiau, mynediad diwifr i’r rhyngrwyd, a siop deunydd ysgrifennu a gwasanaeth reprograffeg. 80
Hefyd, mae’r Cwad yn gaffi cysurus. Mae’n llecyn hyfryd ar gyfer astudio, ymlacio a chael clonc gyda ffrindiau. Mae’r prif fwyty, lle caiff prydau’r myfyrwyr hynny sy’n byw mewn llety arlwyo eu gweini, yng Nghanolfan yr Halliwell. Mae’n lle golau, braf. Mae’r wal flaen, wydr yn arwain allan i deras, barbeciw a seddi tu allan. Hefyd, mae Tap House 72 ar gael yn Undeb y Myfyrwyr, sef hwb lluniaeth sydd â rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau. Cynigir llawer o wahanol gyrsiau yng Nghaerfyrddin a’r cyfleusterau sydd eu hangen ar eu cyfer. Mae gan y campws lyfrgell a mannau dysgu ac addysgu rhagorol, theatr llawn offer a gweithdai, yn ogystal ag ystafelloedd cyfryngau a cherddoriaeth. Mae ei chyfleusterau TG yn cynnwys mannau mynediad agored ac ystafelloedd i fyfyrwyr allu gwneud gwaith grŵp. Mae gan y Ganolfan Chwaraeon Swît Iechyd a Ffitrwydd, pwll nofio a stiwdio ddawns amlbwrpas. I wneud bywyd yn haws i chi, mae gan y Gwasanaethau Myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr, sydd ill dau’n ffynonellau help a chyngor, eu hadeiladau eu hunain fel eich bod yn gwybod lle yn union i fynd pan fydd arnoch eu hangen. Mae gan yr adeilad Dysgu ac Addysgu trawiadol newydd, gyda’i olygfeydd syfrdanol o’r dref a’r cefn gwlad, gyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer darlithoedd a gwaith grŵp yn ogystal â mannau cymdeithasol y
gallwch ymlacio ynddynt gyda ffrindiau. Mae cymysgedd o lety ar gael i fyfyrwyr sy’n cynnwys neuaddau arlwyo a hunanarlwyo. Mae pedair neuadd myfyrwyr ar y campws, sy’n cynnig ystafelloedd unigol a rhai a rennir, ar sail arlwyo neu hunanarlwyo. Mae cost byw mewn neuadd, sy’n cynnwys yr holl filiau cyfleustodau, yn fforddiadwy iawn. Os y byddwch yn dewis byw ar y campws, fe gewch eich ystafell eich hun hyd ddiwedd y flwyddyn academaidd, felly ni fydd raid ichi symud allan yn ystod gwyliau. Mae gan bob ystafell fynediad at y rhyngrwyd a gallwch ddod â’ch gliniadur neu gyfrifiadur personol gyda chi. Mae Caerfyrddin yn denu myfyrwyr o bob cwr o’r byd ac mae’n cynnig cyfleoedd i archwilio. Mae yma gynllun astudio dramor sefydledig gyda phartneriaethau gyda’r Unol Daleithiau, Canada, Tsieina ac Ewrop, a thîm pwrpasol i roi ichi’r gefnogaeth a’r arweiniad sydd eu hangen arnoch pe baech yn dymuno cymryd rhan. Mae campws Caerfyrddin Y Drindod Dewi Sant yn ddigon agos i’r dref i fod yn rhan ohoni ond eto mae ganddi hefyd ei hymdeimlad ei hun o gymuned. Mae siopau, adloniant a chysylltiadau cludiant da ar stepen eich drws. Caiff Caerfyrddin ei galw gan lawer yn dref hynaf Cymru, ac mae hi’n llawn hanes a dirgelwch, gan gynnwys chwedl Arthuraidd.
Dyma fy neg peth gorau i’w gwneud yng Nghaerfyddin. 1. Taith gerdded natur hyfryd mewn coedwig 2. Llwybr ar hyd yr afon Yn ôl rhai fersiynau o’r hanes, ganed y dewin Myrddin mewn ogof y tu allan i’r dref. Y stori yw, pe bai’r goeden a elwir yn Goeden Dderwen Myrddin yn cwympo, felly hefyd fyddai tynged y dref, felly cedwir darnau o’r pren yn amgueddfa’r dref. Erbyn hyn, mae coeden newydd yn tyfu yn ei lle ar gornel Lôn Y Dderwen a Heol Y Prior. Mae’n awgrymu, efallai, y modd y mae Caerfyrddin yn parchu a rhoi gwerth ar ei hanes ond eto’n edrych tua’r dyfodol yr un pryd – yn union fel y gwnawn ni ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae llawer o adeiladu a chofebion hanesyddol y dref yn dal i fodoli ac mae datblygiadau newydd yn chwythu chwa o awyr iach i’w strydoedd. Mae gan Gaerfyrddin lawer i’w gynnig i fyfyrwyr. Mae yma fwytai, barau a chlybiau nos yn ogystal â thafarndai hanesyddol, siopau bach a siopau cadwyn mawr, archfarchnadoedd a neuadd farchnad sy’n gwerthu rhai o gynhyrchion lleol gorau Cymru. Mae rhai o fawrion y stryd fawr wedi dod i ganol y dref, sef Rhodfa’r Santes Fair, ar safle’r hen fart gwartheg. Mae digon o hanes i’w weld yng Nghaerfyrddin a’r cyffiniau. Mae hyd yn oed y swyddfa gwybodaeth i dwristiaid mewn adfeilion Castell Normanaidd sy’n edrych dros yr Afon Tywi. Dyma un o gestyll niferus y sir, o Dalacharn,
Llansteffan a Chydweli ar yr arfordir, i Ddryslwyn a Dinefwr gyda’u golygfeydd dros afonydd a gwychder pen bryn Carreg Cennen ym Mannau Brycheiniog. Gyda da reswm, mae Sir Gâr a’i siroedd cyfagos yn gyrchfannau gwyliau poblogaidd. Mae ein myfyrwyr chwaraeon yn gwneud yn fawr o arfordir, afonydd a chefn gwlad yr ardal. Mae yma draethau tywodlyd hir yng Nghefn Sidan a Phentywyn, llwybrau cerdded gwych ym Mharc Sirol Pembre, parciau thema a phentrefi glan môr i ymweld â nhw. Os oes awydd arnoch weld rhagor o Gymru a’r DU, mae gan Gaerfyrddin gysylltiadau cludiant da. Mae’n llai nag awr mewn trên i Abertawe, a dwy awr yn unig i Gaerdydd a phum awr i Lundain. Mae Caerfyrddin yn lle gwych ar gyfer pobl greadigol gan fod cymaint o wahanol leoedd i’w gweld ac i ymweld â nhw. Mae’r dref wedi’i hamgylchynu o bob cyfeiriad gan gefn gwlad ac mae hi’n dref brysur sydd â llawer o weithgareddau a digwyddiadau’n cael eu cynnal o hyd. Mae gan y drefn hanes cyfoethog, gan mai hi yw tref hynaf Cymru. Mae yno orielau celf, amgueddfa, castell, canol dref brysur a digonedd o fannau tawel hardd i fynd am dro... Mae hyd yn oed reilffordd stêm ychydig funudau o ganol y dref, a thraethau a mynyddoedd o fewn tafliad carreg.
3. Traethau tywodlyd bendigedig gerllaw 4. Sinema Vue 5. Theatr y Lyric 6. Lleoliad cerddoriaeth fyw The Parrott 7. Siopau coffi annibynnol a bariau coctels a gin 8. Rhwydd cyrraedd Sir Benfro a Bannau Brycheiniog 9. Llawer o siopau cadwyn yn ogystal â siopau annibynnol a bwtîcs 10. Safleoedd hanesyddol fel y castell a’r amffitheatr Amy Watler-Thomas Myfyriwr Ffilm a Theledu yn yr 2il Flwyddyn
81
Cymorth Myfyrwyr Gyrfaoedd – myfyrwyr gyda chyfrifoldebau gofal
Cymorth a chyngor ariannol
Gall ein heiriolwr gofalwyr roi cyngor ar help ariannol ac ymarferol sydd ar gael yn y brifysgol, ar bethau ymarferol astudio a rheoli amser a llwyth gwaith.
Mae swyddog cyllid myfyrwyr pwrpasol ar bob prif gampws. Mae’r Brifysgol hefyd yn darparu ysgoloriaethau, bwrsarïau a chronfa galedi yn ogystal â chyngor ymarferol ar reoli eich arian.
Gofal plant
Cymorth dysgu
Yn ogystal â darparu cyngor a chefnogaeth gyffredinol mae cymorth ariannol ar gael i fyfyrwyr llawn amser a rhan amser israddedig nad ydynt yn cael y Grant Gofal Plant na’r Credydau Treth Gofal Plant.
Cymorth Myfyrwyr
Yn ogystal, mae gennym Swyddog Cymorth Myfyrwyr Rhyngwladol sy’n darparu cymorth bugeiliol i fyfyrwyr rhyngwladol.
Cwnsela a Iechyd Meddwl
Mae cwnselwyr proffesiynol ar gael ar bob prif gampws, a chysylltiadau gydag asiantaethau arbenigol a gwybodaeth ar gyrchu cymorth yn ogystal ag Ymgynghorwyr iechyd meddwl proffesiynol a mentoriaid arbenigol.
82
Rydym yn cynnig cymorth i unrhyw fyfyriwr anabl. Darperir sgrinio ac asesu ar gyfer gwahaniaethau dysgu penodol, help i hawlio Lwfansau Myfyrwyr Anabl, tîm o Staff arbenigol gan gynnwys Cydlynydd Cymorth Dysgu ac Ymgynghorydd Anableddau ar bob prif gampws.
Meddygol
Rydym yn eich annog i gofrestru gyda meddyg teulu lleol pan fyddwch yn cyrraedd y Brifysgol. Mae’r Brifysgol yn gweithio’n Gydweithredol gyda Meddygfa San Pedr yng Nghaerfyrddin wrth ddarparu gofal iechyd ar gyfer ein myfyrwyr.
83
Eich llwybr i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant drwy UCAS Mae gwneud cais am le mewn prifysgol yn benderfyniad mawr a gall dewis ymhle i dreulio’r tair blynedd nesaf fod yn hynod anodd. Rydym yn darparu proses gwneud cais clir a hyblyg sy’n amlinellu’r dyddiadau a therfynau amser allweddol, cynnig cyfleoedd i ymweld â’n campysau, cwrdd â thiwtoriaid a chael profiad o sut beth yw astudio yma. Fe’ch cefnogwn ni chi bob cam o’r ffordd. Y Flwyddyn Newydd Dyddiad cau UCAS ar gyfer ceisiadau yw Ionawr 15fed. Peidiwch â phoeni, gallwch wneud cais o hyd ar ôl y dyddiad hwn ond byddwch yn cael eich ystyried yn ‘ymgeisydd hwyr’.
Dros yr haf Treuliwch amser yn ystyried eich opsiynau, lle a beth yr hoffech chi ei astudio.
Gallwch wneud cais am gyllid myfyrwyr o fis Chwefror.
Pethau i’w hystyried: • • • •
Pellter o’ch cartref Maint dosbarthiadau Costau byw Campws – beth sydd ar gael yno • Arolygon profiad myfyrwyr Os ydych chi’n barod, gallwch ddechrau eich cais ar wefan UCAS.
84
Hydref Cwtogwch eich dewisiadau ac ymchwiliwch eich rhestr fer, ewch i Ddiwrnodau Agored, Diwrnodau Blasu a gofynnwch y cwestiynau sy’n bwysig i chi. Gweithiwch ar eich cais er mwyn ei gyflwyno cyn mis Ionawr.
Awst
Croeso!
Ar ddiwrnod y canlyniadau lefel A, bydd rhai ymgeiswyr yn cael canlyniadau annisgwyl. Rydym yn hapus i glywed gennych yn ystod Clirio.
Mae ein myfyrwyr newydd yn cyrraedd tua diwedd mis Medi ac fe gânt groeso gwresog. Rydym yn ymfalchïo yn yr ystod o gymorth sydd ar gael yma ac yn yr amgylchedd cyfeillgar, sy’n cynnig profiad addysgu a dysgu clos.
Mehefin Dylech fod wedi cyflwyno eich cais cyn 30ain Mehefin, neu byddwch yn mynd drwy’r broses Glirio’n awtomatig ym mis Awst.
Rydym yn croesawu myfyrwyr o bob oed ac sy’n dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd. Os nad ydych wedi astudio ers peth amser, peidiwch â gadael i hynny eich rhwystro. Rydym yn ymfalchïo yn yr amgylchedd addysgu a dysgu cefnogol unigryw a ddarparwn. Os hoffech drafod gwneud cais neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses, ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/ cysylltu-a-ni Gwneir pob cais i astudio rhaglen radd israddedig llawn amser neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch yn Y Drindod Dewi Sant drwy UCAS (oni nodir fel arall) gan ddefnyddio ‘Apply’ – system gwneud cais ar-lein sydd ar gael yn www.ucas.com/apply 85
Ffioedd a Chyllid Ffioedd dysgu myfyrwyr israddedig o Gymru neu’r UE (ac eithrio gweddill y DU)
Ffioedd Dysgu Myfyrwyr Israddedig llawn amser o Loegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon
Myfyrwyr o Gymru
Benthyciadau Cynhaliaeth
Gall myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (GDLlC) ar sail prawf modd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru: cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Benthyciadau cynhaliaeth Gallwch wneud cais am fenthyciad cynhaliaeth myfyriwr tuag at eich costau byw.
Benthyciadau ffioedd dysgu Gallwch wneud cais am fenthyciad ffioedd dysgu i dalu eich ffioedd dysgu. Caiff ei dalu yn uniongyrchol i’r Brifysgol.
Grant cymorth arbennig Mae’r Grant Cymorth Arbennig yn cymryd lle Grant Dysgu Llywodraeth Cymru mewn rhai amgylchiadau. Gall helpu gyda chostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r cwrs megis llyfrau, offer, teithio neu ofal plant.
86
Gallwch wneud cais am fenthyciad cynhaliaeth myfyriwr tuag at eich costau byw.
Benthyciadau Ffioedd Dysgu Gallwch wneud cais am fenthyciad ffioedd dysgu i dalu am eich ffioedd dysgu. Caiff ei dalu yn uniongyrchol i’r Brifysgol.
Benthyciad Ychwanegol Mae’r Benthyciad Ychwanegol yn cymryd lle’r Benthyciad Cynhaliaeth mewn rhai amgylchiadau penodol. Gall helpu gyda chostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r cwrs megis llyfrau, offer, teithio neu ofal plant.
Ffioedd Dysgu Myfyrwyr Israddedig Rhan Amser Mae strwythur ffioedd israddedigion rhan amser yn wahanol iawn i ffioedd israddedigion llawn amser. Bydd gofyn i chi dalu fesul modwl rydych yn ei astudio. Ewch i’n gwefan neu cysylltwch â’r Brifysgol i gael gwybodaeth am ffioedd a’r cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr rhan amser.
Help ychwanegol Lwfansau Atodol Mae cyllid ychwanegol ar gael i fyfyrwyr mewn amgylchiadau arbennig, gan gynnwys os ydych yn anabl neu os oes dibynyddion gennych e.e. Grant Gofal Plant, Lwfans Dysgu i Rieni. Mae’r Brifysgol yn rhoi help gyda cheisiadau ar gyfer y Lwfans Myfyrwyr Anabl, Lwfans Cynorthwywyr Anfeddygol a’r Lwfans Cyfarpar lle bo’n briodol.
Gwasanaeth Cyngor ar Arian Mae’r Brifysgol yn rhedeg gwasanaeth cyngor ar arian i’ch helpu i reoli’ch arian gan gynnwys cyngor ar osod a chadw at gyllideb er mwyn osgoi anawsterau ariannol.
Cysylltwch â'r Uned Gwasanaethau Myfyrwyr am ragor o fanylion: Caerfyrddin: +44 (0)1267 676830 Llambed: +44 (0)1570 424722 Abertawe: +44 (0)1792 481123
Sut i Wneud Cais am Gymorth Ariannol (Ymgeiswyr y DU/UE) Mae’n wirioneddol bwysig eich bod chi’n gwneud cais am gymorth ariannol ar gyfer eich astudiaethau cyn gynted â phosibl, gan y bydd hyn yn helpu i sicrhau eich bod chi’n cael unrhyw gymorth sy’n ddyledus i chi mewn da bryd. I ddysgu rhagor am sut a phryd i wneud cais, cysylltwch â’r asiantaeth ar gyfer yr ardal rydych yn byw ynddi nawr am fanylion llawn.
Dyma’r rhestr o gysylltiadau ar gyfer pob rhan o’r DU a’r Undeb Ewropeaidd: Cymru
Cyllid Myfyrwyr Cymru Ffôn: 0300 200 4050 www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Lloegr
Student Finance Direct Ffôn: 0300 100 0607 www.gov.uk/student-finance
Yr Alban
Student Awards Agency for Scotland (SAAS) www.saas.gov.uk SAAS Ffôn: 0300 555 0505
Gogledd Iwerddon
Student Finance NI Ffôn: 0300 100 0077 www.studentfinanceni.co.uk
UE
Student Finance England www.gov.uk/apply-for-studentfinance Tel: 0141 243 3570
*Mae’r wybodaeth a roddwyd yma’n gywir adeg ei hysgrifennu ond fe ddylech wirio’r gwefannau perthnasol uchod neu siarad gydag ymgynghorydd cyllid myfyrwyr. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhoi ar ein gwefan pan fydd hi ar gael. Mae ffioedd yn daladwy ar ddechrau’r cwrs, neu gallwch drefnu i dalu mewn dau randal. Cysylltwch â Swyddfa Gyllid y Brifysgol ar 01267 676704 i drefnu’r opsiwn hwn.
87
Gwlad arall yn yr UE Mae’n bosibl y cewch gymorth ar gyfer ffioedd dysgu ar sail debyg i fyfyrwyr y DU ond ni fyddwch yn gymwys i wneud cais am Fenthyciad Myfyriwr na Grantiau Atodol. Am ffurflen gais i gael help gyda ffioedd dysgu, cysylltwch â: Student Finance Services non-UK Team Student Loans Company PO Box 89 Darlington County Durham England DL1 9AZ Ffôn: +44 (0)141 243 3570 Cysylltwch â'r Uned Gwasanaethau Myfyrwyr: Caerfyrddin: +44 (0)1267 676830 Llambed: +44 (0)1570 424722 Abertawe: +44 (0)1792 481123
Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Mae nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael gan y Brifysgol i roi cymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr. Dosberthir pob ysgoloriaeth a bwrsariaeth i geisiadau llwyddiannus trwy’r Gwasanaethau Myfyrwyr ar bob campws. Ymhlith yr enghreifftiau o ysgoloriaethau a bwrsariaethau sydd ar gael mae:
Ysgoloriaethau Cyfadrannol Mae pob Cyfadran yn cynnig ystod o ysgoloriaethau i gefnogi myfyrwyr mewn meysydd o flaenoriaeth. Mae manylion llawn ar ein gwefan.
Ysgoloriaethau Adrannol Mae nifer o ysgoloriaethau ar gael i fyfyrwyr israddedig ym mhob maes academaidd.
88
Bwrsariaeth Y Drindod Dewi Sant Mae’r Brifysgol yn cynnig nifer o fwrsariaethau sydd wedi’u hanelu at fyfyrwyr llawn amser o gartrefi incwm isel.
Ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg/Dwyieithog Mae gan y Brifysgol ysgoloriaethau sylweddol am gredydau a gwblhawyd yn llwyddiannus drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae'n rhaid i’r modylau fod o leiaf 50% dwyieithog. Yn ogystal, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig ysgoloriaethau ychwanegol i fyfyrwyr sy’n astudio eu gradd drwy gyfrwng y Gymraeg. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk
Interniaethau Ar ôl ichi ddechrau eich cwrs israddedig, mae'n bosibl y gallwch wneud cais am fwrsariaeth i’ch cynorthwyo i gael profiad gwaith gwirfoddol, sy'n berthnasol i'ch cwrs, yn ystod gwyliau'r haf.
Bwrsariaethau Gofal Plant Mae’n bosibl bod cymorth ariannol ar gael i’r myfyrwyr hynny sydd ddim yn gymwys ar gyfer Grant Gofal Plant.
Bwrsariaethau Preswyl Mae nifer o fwrsariaethau preswyl sy’n dibynnu ar brawf modd ar gael i fyfyrwyr israddedig sy’n talu ffioedd llawn. Ewch i'n gwefan am ragor o wybodaeth am ein ysgoloriaethau a bwrsariaethau gan fod yr wybodaeth uchod yn gallu newid: www.ydds.ac.uk/cy/bwrsariaethau
89
Diwrnodau Agored Rydym yn edrych ymlaen i gwrdd â chi Cadwch le ar un o’n Diwrnodau Agored neu Ddiwrnodau Ymweld. Rydym yn cynnal Diwrnodau Blasu hefyd – a dyma flas ar fwydlen ein diwrnodau agored. Gallwch ddysgu rhagor a chael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sydd ar gael trwy ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol.
Diwrnodau Agored a Diwrnodau Ymweld Mae dod i Ddiwrnod Agored yn ffordd wych ichi ddysgu am y Brifysgol a’r rhaglenni. Maent yn rhoi cyfle i chi a’ch teulu ofyn cwestiynau i sicrhau eich bod yn gwneud y penderfyniad iawn drwy: • Gwrdd â’r staff academaidd i drafod opsiynau cwrs, gofynion mynediad a dysgu’r hyn y bydd eich cwrs yn ei gynnwys. • Siarad gyda’n swyddogion ariannol a dysgu am gostau Addysg Uwch a’r cymorth ariannol sydd ar gael. Gallwch hefyd drafod eich amgylchiadau unigol chi. • Cwrdd â’n Tîm Cymorth Dysgu i drafod unrhyw gymorth dysgu arbennig sydd gennych. • Teithio o gwmpas ein campysau, ein cyfleusterau gwych. a gweld y llety. • Cwrdd â myfyrwyr presennol a siarad gyda nhw am eu profiadau yn y Brifysgol.
90
Os ydych yn byw y tu allan i’r ardal, cewch hefyd gyfle i ddod i adnabod y dref a’r ardal y mae eich dewis gampws wedi’i leoli ynddi. Er ein bod yn annog darpar fyfyrwyr i ymweld â ni yn ystod Diwrnodau Agored, fe fydd ein swyddogion derbyn yn gwneud eu gorau i gynnal ymweliadau unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn.
Cadwch le ar ein Diwrnod Agored nesaf: www.ydds.ac.uk/cy/ymweld Dewch i gael blas ar fywyd myfyriwr yn Y Drindod Dewi Sant Caerfyrddin trwy archebu lle ar Ddiwrnod Blasu Caerfyrddin Greadigol: www.ydds.ac.uk/cy/ymweld/diwrnodau-blasu
Manylion Cyswllt Dr Brett Aggersberg Cyfarwyddwr Rhaglen Ffilm a Chyfryngau b.aggersberg@uwtsd.ac.uk
Cadwch mewn cysylltiad Cyfryngau Cymdeithasol Ffilm a Theledu
Dave Ainsworth Cyfarwyddwr Rhaglen Actio / Cyfarwyddo d.ainsworth@uwtsd.ac.uk
@Filmandmediacarmarthen
Stacey-Jo Atkinson Cyfarwyddwr Rhaglen Dylunio a Chynhyrchu Theatr s.atkinson@uwtsd.ac.uk
UWTSD Filmmaking & Adventure Filmmaking
Lynne Seymour Darlithydd Actio lynne.seymour@uwtsd.ac.uk Gwyn Emberton Darlithydd, Dawns gwynemberton@me.com
Ymholiadau cyffredinol: Heather Thomas heather.thomas@uwtsd.ac.uk 01267 676929
Filmandmediacarmarthen
Cyfryngau Cymdeithasol Celfyddydau Perfformio @UwtsdPerformingarts @UWTSD_Perf_Arts UWTSD_Perf_Arts