Canllaw i Fyfyrwyr Ol-raddedig

Page 1

Dal ati i astudio gyda’r Drindod Ewch â’ch addysg i’r lefel nesaf Canllaw i Fyfyrwyr Ôl-raddedig


Man cychwyn addysg uwch yng Nghymru Byddwch yn rhan o’n dathliadau deucanmlwyddiant i goffáu sefydlu Coleg Dewi Sant, Llambed, yn 1822 a 200 mlynedd gyntaf Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Daliwch ati i astudio gyda’r Drindod am brofiad ôl-raddedig rhagorol, p’un a ydych wedi astudio gyda ni o’r blaen neu rydych yn barod i ymuno â ni am y tro cyntaf. Rydym yn cynnig cymwysterau ôl-raddedig a addysgir, ymchwil a phroffesiynol yn cwmpasu llawer o feysydd y celfyddydau, addysg, gwyddoniaeth, iechyd, Dyniaethau, rheoli a gwyddorau cymdeithasol. P’un a ydych wedi cwblhau gradd israddedig yn barod gyda ni neu yn rhywle arall, rydych yn dilyn diddordeb gydol oes, neu’n ceisio newid gyrfa neu gael dyrchafiad, bydd rhywbeth at ddant pawb yn ein hystod eang o gymwysterau, y mae

llawer ohonynt yn cynnig dewis o ddysgu rhan amser, llawn amser neu ar-lein/o bell. Mae ein canolfannau addysgu ôl-raddedig yn canolbwyntio ar arbenigedd ein staff addysgu sy’n weithgar ym maes ymchwil ac yn cyhoeddi llyfrau ac erthyglau a adolygir gan gymheiriaid yn rheolaidd, yn cyflwyno sgyrsiau a darlithoedd mewn cynadleddau neu’n cymryd rhan fel golygyddion cyfnodolion academaidd. Bob blwyddyn rydym yn croesawu myfyrwyr o bob oed, felly beth bynnag bo’ch cefndir neu gymhelliant, bydd astudiaethau ôl-raddedig yn Y Drindod yn cynnig boddhad a mwynhad deallusol a phersonol i chi.

Mae gan Y Drindod Dewi Sant dri phrif gampws yng Nghymru; yn Abertawe, Caerfyrddin, a Llambed, a champws yn Llundain a chanolfannau dysgu yng Nghaerdydd a Birmingham. Mae’r Drindod Dewi Sant yn amgylchedd addysgu, dysgu ac ymchwil deinamig sy’n cofleidio arloesi a chydweithio.


Pam dal ati i astudio gyda’r Drindod? “Mae gan Y Drindod ddarlithwyr anhygoel o wybodus a brwdfrydig. Mae’r gefnogaeth a gefais dros dair blynedd fy ngyrfa academaidd yma wedi bod yn hollol eithriadol ac yn un o’r rhesymau rwy’n credu i mi ragori mewn amgylchedd academaidd. Rwyf wedi cael cyfleoedd gwych trwy gydol fy astudiaethau ôl-raddedig, mae cael cynnig swydd Cynorthwyydd Addysgu Graddedig wedi rhoi profiad uniongyrchol i mi o sut beth yw addysgu ym maes addysg uwch. Mae cyfleoedd eraill a gefais wedi cynnwys prosiectau diwydiant byd go iawn i gael profiad, cynigion i weithio â thâl, a chynlluniau gyda chwmnïau lleol ar gyfer cyfleoedd pellach am waith a phrofiad.”

David Robin James MSc Peirianneg Meddalwedd a Deallusrwydd Artiffisial

“Nid yw’r ffordd y des i i astudio yn Y Drindod mor syml â’r rhan fwyaf o bobl. Gorffennais y chweched dosbarth yn 18 oed heb unrhyw syniad beth roedd arna’i eisiau ei wneud ac roedd gen i’r holl gymwysterau anghywir i wneud gradd peirianneg. Roeddwn yn dwlu ar chwaraeon moduro erioed ac wedi cymryd pethau’n ddarnau erioed i weld beth oedd yn gwneud iddynt weithio. Soniodd ffrind am radd beirianneg oedd yn ffocysu ar Chwaraeon Moduro yn Y Drindod ac a oedd yn cynnwys blwyddyn sylfaen er mwyn datblygu fy ngalluoedd mathemateg a ffiseg. Penderfynais fynd amdani a gwneud cais. Mae pedair blynedd ers hynny, ac rwyf wir yn credu mai astudio yn Y Drindod yw un o’r penderfyniadau gorau a wnes i erioed. Mae wedi fy ngwthio i fod mor dda ag y gallaf fod a bellach mae gen i radd Peirianneg Dosbarth 1af ac rwy’n astudio tuag at radd Meistr.

Callum James Hill MSc Peirianneg Chwaraeon Moduro.

“Dewisais astudio yn Y Drindod oherwydd bod yr hyfforddiant a geir yno’n eithriadol. Mae’r tiwtoriaid yn eich annog yn gyson ac maent yn dymuno i ni ragori yn ein hyfforddiant Prifysgol ac yn ein gyrfaoedd wedi hynny hefyd. Mae’r Drindod wedi fy helpu i ennill sgiliau, hyder a brwdfrydedd wrth ddawnsio, canu ac actio, sydd eu hangen ar gyfer fy nyfodol, gan fod mewn amgylchedd saff a meithringar. Penderfynais aros yn Y Drindod i wneud y radd ôl-raddedig am fy mod wedi gwneud ffrindiau oes yn ystod fy astudiaethau israddedig, a ‘doeddwn i ddim yn barod i adael i fy nhiwtoriaid gwych fynd eto! Mae’r tair blynedd ddiwethaf wedi cael effaith enfawr ar fy mywyd ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r brifysgol am fy helpu i fod yr unigolyn yr ydw i heddiw.”

Elinor Parsons MA Perfformio


Ymchwil Mae’r staff profiadol yn rhoi cyngor a chymorth i fyfyrwyr ymchwil o fewn eu maes astudio. Hefyd, mae’r Drindod yn ceisio rhoi i fyfyrwyr ymchwil y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddatblygu eu gyrfaoedd academaidd a phroffesiynol, yn ogystal â’u helpu i deimlo’n rhan o gymuned academaidd ehangach. Mae’r Coleg Doethurol newydd yn ddatblygiad cyffrous a gynlluniwyd i greu hwb ar gyfer y gweithgareddau hyn.

Coleg Doethurol O fis Medi 2021, bydd hyfforddiant a chymorth ymchwil ôl-raddedig yn cael eu darparu gan Goleg Doethurol newydd y Brifysgol. Bydd y datblygiad cyffrous hwn yn hwyluso casgliad cyfoethocach o gyfleoedd, adnoddau a chymorth i’ch helpu i ffynnu yn eich astudiaethau. Bydd ganddo blatfform ar-lein pwrpasol a gynlluniwyd i ganiatáu cydweithio ar draws grwpiau ymchwil a diddordebau yn ogystal â bod yn hwb ar gyfer adnoddau a digwyddiadau ble bynnag y byddwch yn dewis astudio gyda ni. Bydd hyn yn adeiladu ar y Rhaglen Datblygu Ymchwil presennol yn Y Drindod, sy’n cynnwys: • Cyfleoedd hyfforddi a datblygu ymchwil trwy raglenni ar gampysau ac ar-lein • Seminarau, gweithdai a digwyddiadau ar-lein ac ar gampysau • Cynadleddau ymchwil, yn cynnwys ysgol haf a chynadleddau rhyngddisgyblaethol • Cynrychiolaeth Myfyrwyr • Cyngor ar gyllido a chydlynu ymchwil • Cymorth gyda chyfleoedd datblygu ymchwilwyr ychwanegol • Hwb ar gyfer gwybodaeth ac arweiniad ar gyfer pob myfyriwr ôlraddedig sy’n gweithio tuag at radd ymchwil.


Rhagoriaeth Ymchwil Mae’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yn system newydd ar gyfer asesu ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU. Yn REF 2014, barnwyd bod 60% o waith ymchwil Y Drindod naill ai’n rhagorol (23.3%) neu’n sylweddol iawn (36.7%) o ran ei gyrhaeddiad a’i arwyddocâd. Mae hyn yn dangos cryfder gwaith ymchwil y Brifysgol a’r cyfraniad a wna wrth geisio datrysiadau i heriau’r byd go iawn.

Arolwg Profiad Addysgu Ôl-raddedig Yr Arolwg Profiad Addysgu Ôl-raddedig (PTES) yw’r unig arolwg o sector addysg uwch cyfan y DU sy’n cael mewnwelediad gan fyfyrwyr ôl-raddedig a addysgir am eu profiad dysgu ac addysgu. Yn PTES 2018, daeth Y Drindod: • • • •

Deilliannau Graddedigion Deilliannau Graddedigion yw arolwg cymdeithasol blynyddol mwyaf y DU ac mae’n cofnodi safbwyntiau a statws presennol graddedigion diweddar. Yn arolwg 2017/18:

Roedd

94%

o raddedigion Y Drindod mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach 15 mis ar ôl gorffen eu hastudiaethau.

Yn y chwartel uchaf yn y DU am foddhad cyffredinol Yn y chwartel uchaf yn y DU am foddhad cyffredinol gyda chynhaliaeth 6ed yn y DU am foddhad gydag asesiad 9fed yn y DU am foddhad gyda chyflogadwyedd


Cyrsiau Ôl-raddedig Adeiladu Rheolaeth Eiddo a Chyfleusterau (MSc)

TAR Uwchradd Addysg Grefyddol gyda SAC TAR Uwchradd Cymraeg gyda SAC

Adeiladu Cynaliadwy (MSc)

Amgylchedd

Addysg Athrawon

Cadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol (MSc)

TAR Cynradd gyda SAC

Archaeoleg

TAR Uwchradd Celf a Dylunio gyda SAC TAR Uwchradd Bioleg gyda SAC TAR Uwchradd Busnes gyda SAC TAR Uwchradd Cyfrifiadura a TGCh SAC TAR Uwchradd Cemeg gyda SAC TAR Uwchradd Dylunio a Thechnoleg gyda SAC TAR Uwchradd Drama gyda SAC TAR Uwchradd Saesneg gyda SAC TAR Uwchradd Daearyddiaeth gyda SAC TAR Uwchradd Hanes gyda SAC TAR Uwchradd Mathemateg gyda SAC TAR Uwchradd Ieithoedd Tramor Modern gyda SAC TAR Uwchradd Cerddoriaeth gyda SAC TAR Uwchradd Ffiseg gyda SAC

Arfer Archeolegol (MA) Arbenigwr Archeolegol (MA)

Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddiaeth Crefyddau’r Hen Fyd (MA) Dehongli’r Beibl (MA) Dehongli’r Beibl (MRes) Diwinyddiaeth Gristnogol (MTh) Profiad Crefyddol (MRes) Astudiaethau Rhyngffydd (MA) Astudiaethau Islamaidd (MA) Athroniaeth a Chrefydd (MA) Astudio Crefyddau (MA) Y Beibl a Diwinyddiaeth (GradDip)


Astudiaethau Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg Addysg (MA) Addysg Gorfforol, Chwaraeon a Llythrennedd Corfforol (MA) Addysg Awyr Agored (MA) Llesiant, Dysgu a Datblygiad Proffesiynol (MA)

MBA (Ar-lein) (Rhan-amser) MBA Ar-lein Ducere-Cymru: Un flwyddyn a Phrosiect Diwydiannol Mawr MBA (Ar-lein) (Arweinyddiaeth Cynaliadwyedd)

Celf a Dylunio

Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (MA) (Ardystiad ETS)

Hysbysebu (MA)

Ymwybyddiaeth Ofalgar a Llesiant ar gyfer Ymarferwyr

Celf Gain (MA)

Proffesiynol (Tystysgrif Ôl-raddedig)

Gwydr (MA)

Astudiaethau Tsieineaidd a Diwinyddiaeth Astudiaethau Testunol Bwdhaidd Tsieineaidd (MA)

Athroniaeth Athroniaeth (MA) Athroniaeth (MPhil) Athroniaeth (MRes) Athroniaeth a Chrefydd (MA)

Busnes a Rheolaeth Rheolaeth Ariannol (MSc) MBA (Meistr mewn Gweinyddu Busnes) Llywodraethu Un Blaned (PGCert) Lleoedd Cynaliadwy (MRes) Rheolaeth Adnoddau Dynol (Diploma Ôl-raddedig CIPD)

Dylunio Graffig (MA) Darlunio (MA) Dylunio Diwydiannol (MA) Delweddau Symudol (MA) Ffotograffiaeth (MA) Dylunio Cynnyrch (MA) Sain (MA) Dylunio Patrwm Arwyneb (MA) Tecstilau (MA) Dylunio Cludiant (MA) Cyfathrebu Gweledol (MA) Celf a Dylunio (MRes) Coleg Celf Abertawe Doethur mewn Athroniaeth (PhD) Coleg Celf Abertawe Meistr mewn Athroniaeth (MPhil)


Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored Addysg Awyr Agored (MA) Addysg Gorfforol, Chwaraeon a Llythrennedd Corfforol (MA) Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff (MSc) Sgiliau Digiol ar gyfer Galwedigaethau Iechyd Gofal (MSc)

Celfyddydau Perfformio Cyfarwyddo Theatr (MA) Theatr (Cyfarwyddo) (MA) Theatr (Theatr Gerddorol) (MA) Theatr (Perfformio) (MA) Perfformio (Répétiteur a Chyfeiliant) (MA) Astudiaethau Lleisiol Uwch (MA)

Ymwybyddiaeth Ofalgar a Llesiant ar gyfer Ymarferwyr Proffesiynol (Tystysgrif Ôl-raddedig) Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol (MPhil/PhD)

Hanes Treftadaeth (MA) Treftadaeth (MRes) Astudiaethau Hanesyddol (MA) Astudiaethau Canoloesol (MA) Astudiaethau Canoloesol (MRes)

Peirianneg Peirianneg Modurol (MSc) Rheolaeth Prosiectau Peirianneg (MSc)

Cyfrifiadura

Peirianneg Diwydiannol (MSc)

Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch (MSc)

Peirianneg Beiciau Modur (MSc)

Data a Deallusrwydd Artiffisial (MSc) Gwyddor Data a Dadansoddi (MSc) Peirianneg Meddalwedd (MSc) Peirianneg Meddalwedd a Deallusrwydd Artiffisial (MSc)

Gwyddorau Cymdeithasol Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd (MA) Ecwiti ac Amrywiaeth yn y Gymdeithas (MA)

Gweithrediadau Darbodus ac Ystwyth (MSc) Peirianneg Chwaraeon Moduro (MSc)

Plismona Plismona (Arweinyddiaeth Weithrediadol a Strategol) (MSc) Cyfiawnder Troseddol a Phlismona (MA) Caethwasiaeth Modern (MA) Caplaniaeth (MA)


Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol MBA mewn Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol

Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Ysgrifennu Creadigol (MA) Llenyddiaeth Fodern (MA)

Seicoleg a Chwnsela Seicoleg Gymhwysol (MSc) Arfer Seicotherapiwtig: Dyneiddiol (MA) Uwch Ddamcaniaeth ac Ymchwil Cwnsela (MA)

Twristiaeth, Digwyddiadau a Lletygarwch MBA Rheolaeth Twristiaeth

Yr Hen Fyd Gwareiddiadau’r Hen Fyd (MA) Gwareiddiadau’r Hen Fyd (MRes) Hanes yr Hen Fyd (MA) Hanes yr Hen Fyd (MRes) Crefyddau’r Hen Fyd (MA)


Dal ati i astudio gyda’r Drindod Dysgwch ragor Porwch ein hystod lawn o gyfleoedd astudio ôl-raddedig ar ein gwefan: www.uwtsd.ac.uk/cy/graddau-olraddedig Ymunwch â ni ar ddiwrnod agored, diwrnod ymweld neu sesiwn flasu: www.uwtsd.ac.uk/cy/ymweld E-bostiwch ni: gwybodaeth@pcydds.ac.uk

#DalAtigydaNi


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.