Celf a Dylunio

Page 1

Celf a Dylunio

www.ydds.ac.uk


Coleg Celf Abertawe Celf a Dylunio Sylfaen Celf Gain / Ffotograffiaeth Ffotonewyddiaduraeth Animeiddio Cyfrifiadurol / Dylunio Set Dylunio Gemau Cyfrifiadurol / Cynhyrchu Ffilm a Theledu Digidol Technoleg Cerddoriaeth / Ffilm a Diwylliant Gweledol / Cynhyrchu’r Cyfryngau Newydd Dylunio Modurol / Dylunio Cynnyrch Dylunio Trafnidiaeth / Gwydr Dylunio Patrymau Arwyneb / Tecstilau Hysbysebu a Dylunio Brand Darlunio / Dylunio Graffig Tystysgrif Addysg Uwch / BA / BSc MArt / MDes / MA / MSc / MMus Tech MPhil / PhD

Am fwy o wybodaeth e-bostiwch ni ar celfadylunio@ydds.ac.uk

Coleg Celf Abertawe Fflôt y Glas 1960au

*Darperir cefnogaeth cyfrwng Cymraeg yn y pynciau uchod, sy’n cael eu cynnig ar gampws Abertawe, ac mae datblygiadau ar y gweill i ddarparu modylau cyfrwng Cymraeg lle bo modd. Trafodwch eich gofynion gyda’n staff yn ystod ein diwrnodau agored a’n diwrnodau cyfweld. Byddwn yn diweddaru ein gwefan gyda’r manylion diweddaraf.


Cynnwys Cyflwyniad 2 Cangen Y Drindod Dewi Sant o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol Ein Lleoliadau Ein Cyfleusterau Ein Myfyrwyr Pethau i’w gwneud yn Abertawe a Chaerfyrddin

4 6 8 10 14

Cyrsiau 18 Hysbysebu a Dylunio Brand 18 Darlunio 22 Dylunio Graffig 26 Celf Gain, Safle a Chyd-destun 32 Ffotograffiaeth 38 Dylunio Patrymau Arwyneb 48 Gwydr 62 Dylunio Diwydiannol 72 Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth 82 Ffilm a Chyfryngau Digidol 90 Technoleg Cerddoriaeth 102 Ffilm a Theledu 108

Jordan Budd

Gwybodaeth ddefnyddiol: Cymorth i Fyfyrwyr Sut i wneud cais Ein Lleoliad Llyfrau eraill yn y gyfres hon

116 118 120 122

Mae’r wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir ar adeg ei argraffu, ond fe all newid yn rhan o bolisi gwelliant a datblygiad parhaus y Brifysgol.

www.ydds.ac.uk | 1


Cyflwyniad Mae’r Gyfadran Celf a Dylunio yn cydnabod pwysigrwydd Cymru a’i Chymeriad Arbennig drwy ddathlu asedau a threftadaeth ieithyddol a diwylliannol arbennig Cymru. Ymgorffora’r Gyfadran ddiwylliant a threftadaeth Cymru o fewn addysgu a dysgu, gan greu’r cyfle i fyfyrwyr ryngweithio’n ddwyieithog mewn cyd-destun lleol a byd-eang.

Mae nifer o fyfyrwyr o wledydd eraill yn dilyn yr un cwrs. Mae gwneud fy nghwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yn gyfle gwych i ddangos i’r myfyrwyr hyn fod gennym ein hiaith a’n diwylliant ein hunain yng Nghymru.” Tomos Sparnon Blwyddyn 1 Celf Gain Stiwdio, Safle a Chyd-destun

Tomos Sparnon

Gyda ffocws ar y myfyriwr mae’r Gyfadran Celf a Dylunio yn falch iawn ei bod yn gallu cynnig elfennau o’i darpariaeth Celf a Dylunio yn ddwyieithog (Cymraeg/ Saesneg) ar gampws Abertawe. Lle bo modd, ceir dysgu ac addysgu dwyieithog mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar y dysgwr o fewn stiwdios a gweithdai sydd wedi eu neilltuo i’r ddarpariaeth amrywiol a gynigir.

“Rwy’n astudio Celf Gain yng Ngholeg Celf Abertawe. Mae dilyn y cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yn fy ngalluogi i wneud yr hyn rwy’n ei fwynhau fwyaf, sef celf, yn fy iaith gyntaf.

2 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 3


Cangen Y Drindod Dewi Sant o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol Fel un o’r prif ddarparwyr addysg uwch cyfrwng Cymraeg yng Nghymru, mae’r Drindod Dewi Sant yn chwarae rôl flaenllaw o fewn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn cydweithio â’r Coleg i gynyddu cyfleoedd i fyfyrwyr ar sawl lefel. Mae’r Gangen yn weithgar ar draws holl gampysau’r Brifysgol gan gynnwys campws Coleg Celf Abertawe.

Tomos Sparnon

Mae holl fyfyrwyr Cymraeg y Brifysgol yn cael eu hannog i ddilyn Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r Dystysgrif yn darparu cyfle euraidd i fyfyrwyr ennill cymhwyster sy’n dangos eu sgiliau iaith Gymraeg, ac sy’n eu galluogi i ddangos tystiolaeth i gyflogwyr o’u gallu i gyfathrebu’n hyderus ac yn broffesiynol yn y Gymraeg, ar lafar ac yn Mae’r BA Celf Gain yn gymwys ysgrifenedig. Mae’r Brifysgol yn ar gyfer Prif Ysgoloriaeth y darparu cyfleoedd i bob myfyriwr Coleg Cymraeg Cenedlaethol, dderbyn sesiynau a chefnogaeth sef £3000 am astudio o leiaf 80 gan diwtor iaith sy’n paratoi credyd (66%) o’r cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hefyd yn myfyrwyr ar gyfer y Dystysgrif. gymwys am Ysgoloriaeth William Ceir rhagor o wybodaeth i ddarpar Salesbury, sef £5000 am eich fyfyrwyr ar wefan y Dystysgrif: cyfnod yn astudio’r radd, cynigir sgiliauiaith.colegcymraeg.ac.uk yr ysgoloriaeth hon gan Gronfa William Salesbury i un o fyfyrwyr Os hoffech chi glywed rhagor am y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Gangen y Drindod Dewi Sant, mae sy’n astudio 100% o’r cwrs trwy’r croeso i chi gysylltu â’r Swyddog Gymraeg. Ewch i wefan y Coleg Cangen, Bethan Wyn Davies ar Cymraeg Cenedlaethol www. b.davies@pcydds.ac.uk colegcymraeg.ac.uk i gael rhagor neu 01267 676618. o wybodaeth. Cangen y Drindod Dewi Sant

4 | www.ydds.ac.uk

Nerys Edwards

Glesni Thomas

Nerys Edwards

@CangenDDS

www.ydds.ac.uk | 5


Profiad Ysgol Gelf Mewn Prifysgol Gyfoes ... Abertawe a Chaerfyrddin Ein Lleoliadau Abertawe Dinas ar lan y môr yw Abertawe. Mae’n lle gwych i fyw ac astudio ynddo: yn ddigon mawr i gynnig digon o le ac yn ddigon bach i fod yn gartrefol. Fel y byddech chi’n disgwyl, mewn dinas prifysgol fodern a bywiog, mae cyfleusterau a gweithgareddau diwylliannol eang yma - theatrau, sinemâu, orielau rhagorol, amgueddfeydd, bwytai, barrau a bywyd nos i fyfyrwyr ac mae costau byw yn rhesymol iawn o’u cymharu â nifer o drefi a dinasoedd prifysgol eraill. Mae gan Abertawe bobl go iawn, personoliaeth go iawn a hon yw un o’r dinasoedd mwyaf cyffrous yn y DU i fod ynddi ar hyn o bryd. Rydyn ni dair awr o Lundain a 2.5 awr o Birmingham. Fe fedrwch chi ymweld â Chanolfan Gymraeg Tŷ Tawe sydd yma er 1987, ac sy’n cynnig gwersi Cymraeg, ystafelloedd cyfarfod, neuadd digwyddiadau, caffi, siop Gymraeg Siop Tŷ Tawe a Menter Iaith Abertawe. Yma hefyd mae ardal forol anhygoel ac ar ein stepen drws, mae’r Mwmbwls, a Phenrhyn Gŵyr, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol sy’n wych ar gyfer syrffio.

6 | www.ydds.ac.uk

Mae gennym draffordd ragorol (M4) a chysylltiadau rheilffordd prif linell. Byddwch chi’n darganfod yr arfordir a thraethau, syrffio a hwylio, dringo a chanŵio, nofio a beicio, diwylliant a chreadigrwydd - mae’r cyfan yma. Ac am hanes ... Abertawe oedd man geni Dylan Thomas, a Catherine Zeta-Jones, Richard Burton, Anthony Hopkins a chafodd Michael Sheen ei fagu gerllaw. Abertawe oedd y lle cyntaf i gael rheilffordd i deithwyr a chafodd rhai o’r ffotograffau cynharaf eu tynnu yn ardal bae Abertawe gan Fox Talbot a’i ffrindiau. Sefydlwyd Coleg Celf Abertawe dros 150 mlynedd yn ôl - a hi yw’r ysgol gelf hynaf yng Nghymru, ac un o’r rhai hynaf yn y DU. Fe’i disgrifiwyd yng ngwaith Peter Lord ‘Diwylliant Gweledol Cymru’ fel ‘yr ysgol gelf fwyaf llwyddiannus a blaenllaw yng Nghymru’.

Caerfyrddin Tref brysur, llawn cymeriad sy’n gyfuniad o’r traddodiadol a’r modern, yw Caerfyrddin. Yma byddwch yn astudio ar gampws bach cyfeillgar a chroesawgar gyda bywyd cymdeithasol prysur a bywiog, ar gyrion ardal wledig; yn agos at y môr, tirweddau gwledig, traethau hardd a siopau modern. Mae Campws Caerfyrddin wedi’i leoli ar gyrion Caerfyrddin, tref hynaf Cymru, man geni honedig Myrddin chwedlau Arthur a bu sôn am hyn yn Llyfr Du Caerfyrddin, sef y llawysgrif honedig hynaf o farddoniaeth Gymraeg. Mae’n dref brysur a chanddi amrywiaeth dda o siopau traddodiadol a modern, sy’n dyst i’w swyn unigryw a’i pharodrwydd i addasu i anghenion siopwyr modern. Mae’n gartref i gadwyni cenedlaethol, siopau bwtîc, yn ogystal â marchnadoedd awyr agored a dan do ardderchog. Mae ganddi gyfleusterau hamdden rhagorol ac yng Nghaerfyrddin y mae’r sinema ddigidol unpwrpas gyntaf a chanddi chwe sgrin 3D. Gallwch gymdeithasu mewn tafarndai, bwytai, a chaffis, ymweld â theatr, gwyliau blynyddol, ystod o orielau celf a gwrando ar gerddoriaeth gyfoes Cymraeg a Saesneg.

Gellir teithio i Lansteffan, Glanyfferi, Llandeilo, ymweld â chestyll ger y môr, mynyddoedd a chyfathrebu yn naturiol yn y Gymraeg ar y campws ac yn yr ardal leol. Mae’r dref yn elwa o rwydweithiau priffordd a rheilffordd da ac mae o fewn cyrraedd hawdd at ddinasoedd mawr, gan gynnwys Abertawe a Chaerdydd, yn ogystal â phorthladdoedd fferi Gorllewin Cymru. Sefydlwyd y band Gorky’s Zygotic Myncis yma ac yn fwy diweddar Bromas ac mae Elis James a Rhodri “Rhod” Gilbert y digrifwyr yn dod o Gaerfyrddin ac yng nghanol tref Caerfyrddin mae canolfan Gymraeg yr Atom yn hwb i Gymreictod yr ardal.

Y Dyfodol Mae S4C yn adleoli i’r dref ac yn benodol yn gyfagos i gampws y brifysgol a disgwylir i’r pencadlys weithredu fel hwb i economi’r rhanbarth, gan ddenu busnesau a chreu swyddi newydd. Bydd y Gyfadran Celf a Dylunio yn gweithio’n agos gyda S4C a’r cwmnïau cynhyrchu a fydd yn ffurfio rhan o’r ganolfan newydd.

“Yr wyf yn ddyledus i Goleg Celf Abertawe PCYDDS am fy ngyrfa gyfan, maent yn cynnig yr amgylchedd creadigol delfrydol i ffynnu ynddo. Roedd y gefnogaeth a’r arweiniad gan fy nhiwtoriaid wedi’u teilwra’n bwrpasol i gydfynd â’m hanghenion ac maent yn trin pob person fel unigolyn.” Gareth Winter British Sky Broadcasting & Sky News

www.ydds.ac.uk | 7


Ein Cyfleusterau

Rydyn ni’n parchu ac yn dathlu ein traddodiadau. Dyma pam rydyn ni wedi cadw offer a phrosesau traddodiadol ym meysydd cerameg, gwydr, argraffu a ffotograffiaeth. Serch hyn, rydyn ni hefyd yn edrych i’r dyfodol, ac mae’r Gyfadran yn orlawn â thechnoleg newydd. Rydyn ni’n falch iawn ein bod yn meddu ar yr offer digidol Apple Mac diweddaraf ar gyfer ein holl raglenni, ac mae gennym hefyd offer arbenigol o’r radd flaenaf sy’n bodloni anghenion rhaglenni unigol. Mae’r offer

8 | www.ydds.ac.uk

yma’n cynnwys torrwr chwistrell ddŵr, argraffwyr ffotograffig a thecstiliau digidol, torrwyr laser a chyfleusterau argraffu ceramig digidol ynghyd ag ystafelloedd golygu ac adnoddau fideo, gan gynnwys mynediad at y camera Uwch HD RED diweddaraf. Felly, os ydych chi’n dymuno gweithio gyda phrosesau traddodiadol neu dechnolegau newydd, neu ar draws y ddau, gallwch wneud hynny yma. Mae’r posibiliadau mor gyffrous ag ydynt o fawr.

www.ydds.ac.uk | 9


Ein Myfyrwyr Dros 160 o flynyddoedd, ein myfyrwyr a’n graddedigion, yn bennaf, sydd wedi adeiladu’r enw da sydd gennym. Mae llawer wedi mynd ymlaen i yrfaoedd nodedig yn y celfyddydau, mae rhai wedi sefydlu cwmnïau dylunio nodedig neu yn gweithio fel artistiaid llawrydd. Mae eraill yn gweithio i Lego, MacLaren, Jimmy Choo neu i wneuthurwyr ffilm a chynhyrchwyr cyfryngau adnabyddus. Mae ein myfyrwyr yn ennill gwobrau o hyd ac yn cael y cyfle i arddangos eu gwaith drwy gydol eu cyrsiau. Cynhelir ein Sioeau Graddedigion yn Abertawe, Caerfyrddin a Llundain a hefyd mae ein myfyrwyr yn cyflwyno eu gwaith mewn arddangosfeydd mawreddog gan gynnwys New Designers, Free Range, New Blood a’r Eisteddfodau. Ein haddysgu Mae myfyrwyr ar bob rhaglen yn elwa o dîm o staff profiadol, cymwys tu hwnt yn eu maes, sy’n ymchwilwyr gweithredol, yn arddangos yn genedlaethol a thramor, ac yn aml yn ymwneud â phrosiectau yn eu diwydiannau creadigol penodol. Rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith fod amser cyswllt staff a myfyrwyr gyda’r uchaf yn y wlad.

10 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 11


Ein cysylltiadau / cyflogadwyedd Gyfadran mewn cynadleddau a symposia rheolaidd sy’n datblygu Rydyn ni wedi cynllunio modylau a dealltwriaeth eang o gelf a fydd yn eich paratoi at gael sgiliau dylunio. Rydyn ni’n annog ein myfyrwyr i gystadlu ac i ymwneud i’r gweithle ac a chael cysylltiadau â phrofiadau ym myd celfyddydol ardderchog â’r diwydiannau Cymru megis Eisteddfodau, creadigol a phrif gwmnïau orielau ac amgueddfeydd ac i cynhyrchu gan sicrhau y bydd weithio i ddatblygu mentrau gyda gennych ‘droed yn y drws’ wedi i chi raddio pan fyddwch yn graddio chymorth y gyfadran a’r brifysgol. y byddwch ar y blaen. Astudio Dramor Yn y drydedd flwyddyn rydyn Mae gennym ni gynllun astudio ni’n annog ein myfyrwyr i dramor sefydledig gyda fentro mewn cystadlaethau phartneriaethau yn UDA, Canada, celf a dylunio cenedlaethol a Tsieina ac Ewrop, (Norwy, Barcelona rhyngwladol ac ymgymryd mewn a’r Ffindir). Bydd ein tîm un-pwrpas prosiectau allanol sy’n berthnasol yn rhoi’r cymorth a’r arweiniad y i’ch creadigrwydd unigol, yn ymestyn eich portffolio a’ch proffil bydd arnoch eu hangen gydol eich profiad astudio dramor. proffesiynol. Yn ogystal, mae prosiectau byw gyda chleientiaid Mae astudio mewn gwlad arall wir allanol yn rhan bwysig o bob yn gallu newid eich bywyd! Nid yn cwrs a bydd pob myfyriwr yn gadael gyda phrofiad o brosiectau unig y mae’n gyfle i gael persbectif rhyngwladol ar eich astudiaethau, ‘go iawn’. Rydyn ni’n annog ein ond mae hefyd yn gyfle i brofi ac myfyrwyr i ddatblygu eu hunan i ddysgu am ddiwylliant, hanes a ddelwedd i hyrwyddo a pharatoi ffyrdd o fyw gwahanol. eu hunain ar gyfer cyflogaeth broffesiynol. Mae rhai myfyrwyr yn trefnu cyfweliadau â gweithwyr Ein hymchwil proffesiynol lefel uchel mewn sefydliadau megis Photographers’ Mae gan Goleg Celf Abertawe hanes Gallery a Saatchi & Saatchi sy’n aml hir o ragoriaeth mewn ymchwil yn y Celfyddydau, Dylunio a’r Cyfryngau. yn arwain at waith a lleoliadau. Mae myfyrwyr eraill yn amddiffyn Ym mhob un o’n hysgolion mae eu syniadau trwy gofrestriadau dylunio neu geisiadau patent gyda diwylliant ôl-raddedig sefydledig a bywiog sy’n cwmpasu portffolio chefnogaeth y Brifysgol. MA / MSc deinamig, rhaglenni ymchwil MPhil / PhD ac ymchwil Mae amrywiaeth ardderchog o ôl-ddoethurol o’r safon uchaf. Yn ddarlithwyr gwadd yn ymweld â’r

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014 dyfarnwyd 95.8% o’n hymchwil yn fyd arweiniol, yn rhagorol o safon neu a gydnabyddir yn rhyngwladol. Yn y gyfadran mae Canolfan Ymchwilio ac Arloesedd Y Diwydiannau Creadigol (CIRIC) yn gweithredu’n gatalydd ar gyfer datblygu a chynnal partneriaethau rhyngwladol a chysylltiadau diwydiannol. Mae CIRIC yn arloesol, yn entrepreneuraidd ac yn ganolfan fasnachol sy’n meithrin trosglwyddo gwybodaeth rhwng y sector preifat a’r Brifysgol. Mae ymchwil ac arfer pob Aelod o staff yn y gyfadran yn cyfoethogi ein rhaglenni ôl-raddedig ac yn sicrhau eu cyfred. Gwahoddir ein staff i arddangos mewn digwyddiadau a lleoliadau rhyngwladol megis Biennale Fenis, amgueddfa’r Tri Cheunant yn Tsieina a’r Eisteddfod Genedlaethol ac mae rhai aelodau o’r staff wedi ennill y Fedal Aur Celf.

“Roedd fy 3 blynedd yng Ngholeg Celf Abertawe yn wirioneddol wych. Mae’r cwrs yn darparu cyfleusterau gwerthfawr a thîm gwych o ddarlithwyr sydd wir yn gwybod eu stwff, ac yn help sylweddol i fi symud i fyd diwydiant, mor esmwyth â phosib. Maent yn annog myfyrwyr bob amser i fod yn greadigol tu hwnt ar bob briff, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi aros gyda fi drwy gydol fy ngyrfa ac mae’n parhau i ddylanwadu ar fy ngwaith dylunio.“ Phill Rees Uwch Ddylunydd yn Stag & Hare, Efrog Newydd

Mae’r cyfuniad o leoliad, cyfleusterau o’r radd flaenaf a phroffil ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol yn gwneud Coleg Celf Abertawe yn Y Drindod Dewi Sant yn ganolfan flaenllaw ar gyfer ymchwil ac astudiaethau ôl-raddedig.

Delwedd: Michael Sheen yn Dioddefaint Port Talbot ffilm gan fyfyrwyr ar brofiad gwaith gyda Moving Image Wales

12 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 13


Pethau i’w gwneud yn Abertawe Yn y dref Ymweld â nifer o orielau celf ac amgueddfeydd, yn cynnwys y Mission, Elysium a’r Glyn Vivian, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac Amgueddfa Abertawe. Rhowch gynnig ar y sleidiau ym mharc dŵr dan do mwyaf Cymru. Rhowch gynnig ar syrffio barcud, pêl foli neu badlo bwrdd ar y traeth. Mwynhewch noson fawr allan yn Stryd y Gwynt. Prynwch bice ar y maen yn y farchnad dan do mwyaf yng Nghymru neu ewch i frig adeilad talaf Cymru. Hefyd, mae cynlluniau gwerth £1 biliwn ar y gweill i drawsnewid canol y ddinas ac i greu Morlyn Llanw. Yr Uplands Ymlaciwch yn y barrau / bwytai. Ewch i barc plentyndod Dylan Thomas, sef Parc Cwmdonkin, am baned o de ac am dro bach o gwmpas y farchnad stryd fisol. Y Mwmbwls Ewch am daith i’r traeth - Langland neu Caswell am frechdan ac i syrffio. Prynwch hufen iâ o Joes. Porwch y siopau yn Heol Newton ac archwiliwch Gastell Ystumllwynarth. Gŵyr Ewch i’r penrhyn ysblennydd, ardal o harddwch naturiol eithriadol cyntaf y DU, cartref i tua 50 o draethau, cildraethau a baeau heb eu difetha. Ewch i Fae Three Cliffs, neu am bicnic yn Rhosili, syrffiwch y tonnau yn Llangynydd, sydd gyda’r 10 lle syrffio gorau yn y DU. Mae yna hefyd faes awyr ar gyfer parasiwtio a pharagleidio.

14 | www.ydds.ac.uk

Pethau i’w gwneud yng Nhgaerfyrddin Yn y dref Ewch i farrau, bwytai, caffi am baned. Cewch chi siopa mewn cadwyni cenedlaethol, siopau bwtîc, yn ogystal â marchnadoedd awyr agored a dan do ardderchog, ewch i ymweld â theatr neu’r sinema ac i wrando ar gerddoriaeth fyw yn y nos. Yn Stryd y Brenin cewch chi dreulio amser yn ardal greadigol ddatblygol y dref, mae nifer o orielau a Chanolfan Cymraeg yr Atom yma. Mae’r traethau yn agos i’r campws a gallwch ymwneud â’r awyr agored trwy gerdded, nofio, pysgota neu ymlacio ar draethau anhygoel yr ardal. Ar y campws Mae Campws Caerfyrddin wedi ei leoli ar gyrion y dref ac mae ganddo ystod o gyfleusterau gan gynnwys llyfrgell gyforiog o adnoddau a mannau dysgu ac addysgu rhagorol, theatr a gweithdai llawn offer, ystafelloedd cyfryngau a cherddoriaeth yn ogystal â chyfleusterau TG sy’n cynnwys mannau mynediad agored ac ystafelloedd i fyfyrwyr ymgymryd â gwaith grŵp. Ymhlith y cyfleusterau chwaraeon mae’r Ganolfan Chwaraeon gydag Ystafelloedd Iechyd Ffitrwydd, pwll nofio a stiwdio ddawns amlbwrpas. Mae ganddo deimlad cymunedol go iawn, gyda llety ar y campws a phopeth sydd ei angen o fewn cyrraedd hawdd. Mae undeb y myfyrwyr ar y campws a gallwch chi ymuno ag amryw glybiau – pêl-droed, rygbi, clwb oesoedd canol, clwb Cristnogol, neu gallwch greu clwb newydd. Gallwch fwynhau noson allan gyda digwyddiadau amrywiol a gynhelir drwy gydol y flwyddyn. Gallwch chi hefyd fod yn weithgar mewn Chymry’r Drindod Dewi Sant a chystadlu yn yr Eisteddfod Ryng-gol neu ymuno â chôr y Drindod.

www.ydds.ac.uk | 15


16 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 17


Ross Weaver

Hysbysebu a Dylunio Brand 18 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 19


O’r flwyddyn gyntaf, anogir y myfyrwyr i weithio gyda chleientiaid allanol yn y gymuned leol. Caiff hyn ei atgyfnerthu ym mlwyddyn dau, gyda phrosiect grŵp i gleient allanol. Ym mlwyddyn tri, bydd pob myfyriwr yn ‘hunangyfarwyddo’ prosiectau ac yn ysgrifennu eu briffiau eu hunain wrth weithio gyda chleientiaid allanol a datblygu briff personol. Fe’u hanogir i gymryd rhan mewn cystadlaethau megis D&AD a briffiau cystadlaethau rhyngwladol eraill ac i weithio tuag at arddangosfa derfynol o’u gwaith

Ashley Anderson, Lucy Johns and Tenny Gonarashe D&AD student awards VICE entry

BA (Anrh) / MDes (Anrh) Hysbysebu a Dylunio Brand

mewn lleoliad lleol, yn Llundain ac ar-lein. Mae dysgu fertigol wedi’i fewnosod yn y cwrs ac mae’n cynnwys prosiectau sy’n croesi’r blynyddoedd ac yn datblygu sgiliau mentora ac adfyfyrio myfyrwyr. Addysgir y cwrs yn y stiwdio ac fe’i cyflwynir ar ffurf gweithdai, tiwtorialau a darlithoedd. COD UCAS y BA: W221 COD UCAS yr MDes: S2J5 Lleoliad: Abertawe Cyswllt: Angela Williams angela.williams@uwtsd.ac.uk

“‘Mae fy holl yrfa yn ddyledus i Goleg Celf Abertawe - maent yn cynnig amgylchedd creadigol delfrydol i ffynnu ynddo.“

20 | www.ydds.ac.uk

Codi arian ar gyfer arddangosfa

Ar leoliad Tonto Studio

Liam Thomas enillydd D&AD ‘in Book’ 2014

Arddangosfa The Lab 2013

Arddangosfa Tapped 2015

Gareth Winter

www.ydds.ac.uk | 21


Nathan Collins

Emily O’Grady

Darlunio 22 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 23


BA (Anrh) / MDes (Anrh) Darlunio

BA UCAS Code: W220 MDes UCAS Code: H21Y Lleoliad: Abertawe

24 | www.ydds.ac.uk

Chris Harrendence

Abbie Cameron

Cyswllt: Derek Bainton derek.bainton@uwtsd.ac.uk

The Lab Exhibition 2013

Wedi’i addysgu trwy gyfres strwythuredig o weithdai, darlithoedd a seminarau a gefnogir gan diwtorialau a thrafodaethau grŵp rheolaidd, mae’r pwyslais ar waith ymarferol, stiwdio-seiliedig. Cefnogir hyn gan raglen o wŷr gwadd clodfawr o’r diwydiant; awduron, cyhoeddwyr, darlunwyr sy’n gweithio yn y maes ac arlunwyr arbrofol. Mae teithiau astudio a drefnir i Amsterdam a Ffair

Rebecca Phippen

Yr ail ffordd yw archwilio i ddarlunio fel iaith weledol ar draws y celfyddydau creadigol, gan gofleidio cerameg, 3D a delweddau symudol, ochr yn ochr â chyfryngau traddodiadol a digidol, er mwyn ymestyn potensial graddedigion i gael swydd mewn amrywiaeth ehangach o gyrchfannau fel gwerthu gweledol a’r diwydiant ffilm.

Llyfrau Plant ym Mologna yn ysbrydoli ac yn rhoi dealltwriaeth ehangach o ddarlunio mewn cyd-destun byd-eang. Hefyd, ceir cyfle cyffrous yn yr ail flwyddyn i fynd ar Daith Gyfnewid Erasmus i’r Brifysgol ym Marcelona yr astudiodd Picasso ynddi. Mae briffiau allanol, a chystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol hefyd yn rhan annatod o’r cwricwlwm, ac mae llawer o’n myfyrwyr yn llwyddo yn y rhain. Caiff y gwaith ymarferol ei seilio ar raglen fywiog o Astudiaethau Gweledol, sy’n cynnwys bywluniadu. Tynnu llun sy’n tanategu’r rhaglen, nid yn unig i gryfhau gallu technegol ond hefyd i helpu myfyrwyr i ddatblygu eu hiaith weledol unigryw ac ystyrlon eu hunain. Mae modylau craidd, fel astudiaethau cyd-destunol ac arfer proffesiynol i artistiaid a dylunwyr yn cefnogi a hysbysu arfer myfyrwyr ym mhellach.

Conor Rawson

Mae’r BA (Anrh) Darlunio yn Abertawe yn rhaglen fywiog a chreadigol sy’n archwilio darlunio mewn dwy ffordd. Mae’r cyntaf yn ddisgyblaeth fasnachol, grefftus sy’n paratoi myfyrwyr at fusnes darlunio, fel cyhoeddi a hysbysebu.

www.ydds.ac.uk | 25


Jordan Budd

Emily O’Grady

Dylunio Graffig 26 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 27


BA (Anrh) / MDes (Anrh) Dylunio Graffig

Mae gan y staff gariad at Ddylunio Graffig ac maent yn ymroi i’r cwrs ac i’r myfyrwyr. Rydym oll yn ddylunwyr wrth ein gwaith ac mae gennym gefndiroedd proffesiynol helaeth ac amrywiol. Cawn ein cefnogi gan staff rhan amser a darlithwyr gwadd sy’n ychwanegu at gyfoeth y rhaglen. Mae nifer y myfyrwyr yn gymharol fach – yn grwpiau digon mawr i fod yn egnïol, ond yn ddigon bach i alluogi tiwtoriaeth unigol a sylw personol. Mae’r awyrgylch yn gyfeillgar ac anffurfiol, ac mae gan y myfyrwyr, trwy gyfarfodydd cwrs, lawer o ddweud yng nghyfeiriad y rhaglen. BA UCAS Code: W201 MDes UCAS Code: 52J6 Lleoliad: Abertawe

28 | www.ydds.ac.uk

Joynal Miah

Matthew Betts

Gabriel Asante

Cyswllt: Donna Williams donna.williams@uwtsd.ac.uk

Jordan Budd

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr a chanddynt gariad at Ddylunio Graffig, sy’n gallu siarad yn frwdfrydig am faterion dylunio cyfoes. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr a chanddynt feddwl agored a chwilfrydedd anniwall am y byd rydym yn byw ynddo.

Pan gewch gyfweliad, mae arnom eisiau gweld portffolio o waith sy’n dangos ymrwymiad a pharodrwydd i archwilio ac arbrofi gydag amrywiaeth eang o waith. Mae gennym ddiddordeb mewn popeth, nid dim ond Dylunio Graffig.

Andrew Jones

Mae’r rhaglen hon yn rhoi ichi addysg eang mewn dylunio graffig, a gan fod elfen o hyblygrwydd yn perthyn i’r rhaglen, mae’n eich galluogi i ddilyn diddordebau unigol, boed y rheiny ym maes graffeg gorfforaethol a hunaniaeth brand, cyhoeddi, dylunio cyffredinol ar gyfer argraffu, pecynnu neu ddylunio rhyngweithiol ar sgrin. Wedi ein hannog gan safonau diwydiannol a gyda chymorth technolegau o’r radd flaenaf, rydym yn cynhyrchu graddedigion cyflogadwy iawn. Mae cysylltiadau gyda busnesau a diwydiant yn rhan hanfodol o’r rhaglen a chaiff y rhain eu cynnal a’u datblygu trwy brosiectau ‘byw’, lleoliadau gwaith, ymweliadau gan weithwyr proffesiynol ac ymweliadau addysgol.

www.ydds.ac.uk | 29


MA Cyfathrebu Gweledol: Deialogau Cyfoes Mae’r rhaglen Meistr hon wedi’i chynnwys yn y Llwybrau Deialogau Cyfoes. Ei chynulleidfa darged yw graddedigion sy’n dymuno datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ddyfnach o feddwl adfyfyriol ac arfer cyfathrebu gweledol.

Karl James Mountford

Cyswllt: Gavin Kirby gavin.kirby@uwtsd.ac.uk

30 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 31


sheree Naqvi

Celf Gain, Stiwdio, Safle a Chyd-destun 32 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 33


BA (Anrh) / MArts (Anrh) Celf Gain, Stiwdio, Safle a Chyd-destun Trwy weithdai, darlithoedd, seminarau ac ymweliadau, bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth gadarn o arfer celf cyfoes. Rhoddir pwyslais ar arloesi gyda defnyddiau a thechnegau, gyda chefnogaeth ac anogaeth tiwtoriaid profiadol iawn, sydd oll yn ymarferwyr proffil uchel ym myd celf. Mae cymorth staff, ac amrywiaeth eang o weithdai, yn galluogi myfyrwyr i adfyfyrio ar eu safle o fewn diwylliant cyfoes ehangach.

Yng nghyd-destun Celf Gain, ystyrir bod pob cyfrwng yn gyfartal. Anogir myfyrwyr i arbrofi gydag unrhyw gyfrwng sy’n berthnasol i’w syniadau neu i’r gwrthwyneb, i ddatblygu syniadau ymhellach os bydd y cyfrwng yn eu harwain at hynny. Mae’r berthynas rhwng cysyniad a defnydd yn cael ei drafod bob tro o fewn y prosesau stiwdio hyn.

Rhoddir pwyslais ar arfogi myfyrwyr ag amrywiaeth eang o dechnegau a phrosesau a hyrwyddo dealltwriaeth o ystod eang o gyfryngau.

Cod BA UCAS: 2T12 Cod MArts UCAS: M5A7 Lleoliad: Abertawe Cyswllt: Catrin Webster catrin.webster@uwtsd.ac.uk

Evion Sven-Myer

“Rwyf yn fy 3edd flwyddyn ar y cwrs celf gain ac yn fy ngwaith rwy’n dadadeiladu stereoteipiau Cymreig a’u hail-greu mewn mytholeg newydd Cymreig, mae dealltwriaeth y staff yng Ngholeg Celf Abertawe yn fy nghefnogi i ddatblygu fy syniadau.”

34 | www.ydds.ac.uk

Rhiannon Ames

Laura Challinor

Phillip Cheater

Kathryn Williams

Scot McKenzie

www.ydds.ac.uk | 35


MA Celf Gain (Deialogau Cyfoes) Mae’r cwrs yn dechrau gyda chyfnewidiadau amlddisgyblaeth trwy seminarau a darlithoedd, gan gynnwys pob rhaglen o fewn y portffolio hwn, i symbylu safbwyntiau newydd ac i herio cyfeiriadau. Yn rhan o’r cwrs MA, mae gan fyfyrwyr yr opsiwn i ddefnyddio safle gwaith MA sydd yn stiwdios annibynnol Elysium, ar Stryd Fawr Abertawe, a arweinir gan artistiaid, gan greu canolfan stiwdio ymhlith artistiaid wrth eu gwaith a helpu i bontio’r cam o addysg i fywyd proffesiynol y tu hwnt i’r brifysgol. Mae’r stiwdios hyn ar agor 7 diwrnod yr wythnos, 24 awr y diwrnod gan greu amgylchedd gwaith hyblyg a rhwydd. Cyswllt: Catrin Webster catrin.webster@uwtsd.ac.uk

Eirian Davies MA Celf Gain (Deialogau Cyfoes)

36 | www.ydds.ac.uk

Hannah Downing

“Mae’r gallu i drafod syniadau am Gelf a Dylunio trwy gyfrwng y Gymraeg wedi fy ngalluogi i greu gwaith sy’n ymwneud â fy niwylliant a hunaniaeth. Mae gweithio gyda darlithwyr sy’n rhan o’r byd celfyddydol yng Nghymru a thu hwnt hefyd wedi fy helpu i ddysgu llawer am yr opsiynau sydd ar gael i mi drwy gyfrwng y Gymraeg wrth astudio ac i’r dyfodol.”

www.ydds.ac.uk | 37


Stine Aas Nundal

Ffotograffiaeth 38 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 39


Ffotograffiaeth

Mae’r rhaglenni ffotograffiaeth yn darparu platfform cyffrous er mwyn gallu archwilio safle unigryw a beirniadol delweddau ffotograffig o fewn diwylliant cyfoes yn y cyfnod cyffrous hwn. O arfer celf ffotograffig arbrofol i bosibiliadau naratif ffotograffiaeth ddogfennol, anogir myfyrwyr i ystyried traddodiadau sefydledig eu cyfrwng ac yna i herio’r confensiynau hyn trwy ddatblygu eu llais unigryw eu hunain. Mae’r rhaglenni’n cefnogi sgiliau technegol traddodiadol a digidol trwy gyfres o weithdai, ac yn ennyn ymchwiliadau damcaniaethol trwy ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau a phrosiectau ymchwil annibynnol.

Nora Lerstol

O fewn y broses addysgol hon, rhoddir rhyddid i fyfyrwyr archwilio a chreu eu harfer gweledol hunangyfeiriedig eu hunain, sydd yna’n cael ei gymhwyso drwy ddefnyddio ein cysylltiadau proffesiynol helaeth, i bosibiliadau niferus y diwydiannau celf, masnachol a chyfryngau cyfoes.

40 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 41


BA (Anrh) / MArts (Anrh) Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau Mae’r cwrs MArts a BA (Anrh) Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau yn annog myfyrwyr i archwilio a herio confensiynau arfer celf ffotograffig cyfoes, gan alluogi ymagwedd hyblyg at wneud delweddau mewn perthynas â phwnc a thechneg. Disgwylir i fyfyrwyr ymgymryd ag ymholiad helaeth a mentrus i bosibiliadau’r cyfrwng.

Cod BA UCAS: W643 Cod MArts UCAS: 123L Lleoliad: Abertawe

42 | www.ydds.ac.uk

Annastiina Kankare

Marit Nyhus

Bethan Laurence-McGuffie

Cara Heath

Jordan Thomas

Stuart Hardie

Cyswllt: Hamish Gane hamish.gane@uwtsd.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 43


BA (Anrh) / MArts (Anrh) Ffotonewyddiaduraeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol Mae’r cwrs MArts a BA (Anrh) Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau yn annog myfyrwyr i archwilio a herio confensiynau arfer celf ffotograffig cyfoes, gan alluogi ymagwedd hyblyg at wneud delweddau mewn perthynas â phwnc a thechneg. Disgwylir i fyfyrwyr ymgymryd ag ymholiad helaeth, a mentrus i bosibiliadau’r cyfrwng.

Cod BA UCAS: J316 Cod MArts UCAS: 295G Lleoliad: Abertawe

44 | www.ydds.ac.uk

Kieran Hosking

Rhys Davies

Joe Long

Ryan Marsh

Tom Deacon

Sam Abraham

Cyswllt: Paul Duerinckx paul.duerinckx@uwtsd.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 45


MA Ffotograffiaeth (Deialogau Cyfoes) Mae’r rhaglen MA Ffotograffiaeth - Deialogau Cyfoes wedi’i dylunio i gyflenwi’r cyrsiau BA (Anrh) drwy barhau i ymestyn profiad dysgu’r myfyrwyr o ran ffotograffiaeth drwy gymhwyso Deialogau Cyfoes celf, dylunio ac athroniaeth i ehangu eu hastudiaeth o’r cyfrwng. Cyswllt: Catrin Webster catrin.webster@uwtsd.ac.uk

46 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 47


Emily O’Grady

Dylunio Patrymau Arwyneb 48 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 49


Dylunio Patrymau Arwyneb

Nora Lerstol

Mae’r byd i gyd o’ch blaen chi ar y cwrs hwn. Mae gennym ystod anhygoel a rhagorol o offer digidol a chyfleusterau gan gynnwys ystafelloedd cyfrifiadura moethus, torwyr ac ysgrythwyr laser, argraffwyr tecstil digidol, a brodwr digidol a thorrwr chwistrell dŵr. Mae ein hoffer annigidol yr un mor sylweddol ac mae gennym gyfleusterau lliwio, printio sgrin, pwytho, gwaith metel a llawer mwy. Yn ogystal â hyn, fe gewch eich lle personol eich hun yn ein stiwdio fywiog, olau ym mhob blwyddyn o’r cwrs.

50 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 51


BA (Anrh) / MDes (Anrh) Dylunio Patrymau Arwyneb (Gwneuthurwr)

Mae’r llwybr Gwneuthurwr yn bodloni anghenion myfyrwyr sy’n dymuno arbenigo fel gwneuthurwr dylunydd, yn gwneud darnau arloesol a fyddai’n addas ar gyfer deilliant unigol neu luosog. Mae astudiaethau Tecstilau ar gael ond mae’n bosib y gwnewch chi arbenigo mewn defnyddiau eraill fel metel, pren, papur, gwydr neu gerameg. Cewch eich annog yn gyson i fireinio sgiliau gwneud, ynghyd â darlunio, samplo defnydd a gwneud modelau.

Cod BA UCAS: W790 Cod MDes UCAS: T5F3 Lleoliad: Abertawe Cyswllt: Georgia McKie georgia.mckie@uwtsd.ac.uk

“Mae’r cwrs Patrwm Arwyneb yn Abertawe yn gwrs hynod amrywiol. Mae’n agor llawer o lwybrau newydd o archwilio drwy ddarparu cynifer o wahanol gyfleoedd a chyfleusterau.”

52 | www.ydds.ac.uk

Anne Lewis

Georgia Hampton

Cerys Thurlow

Ciara Long

Alice Burke

Hannah Stowell

www.ydds.ac.uk | 53


BA (Anrh) / MDes (Anrh) Dylunio Patrymau Arwyneb (Tecstilau ar gyfer Addurno Mewnol)

Dyluniwyd y llwybr hwn ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno arbenigo fel dylunwyr a gwneuthurwyr, a chanddynt gariad at wella ardaloedd mewnol gyda thecstilau arloesol.

Cod BA UCAS: W235 Cod MDes UCAS: 5RC2 Lleoliad: Abertawe Cyswllt: Georgia McKie georgia.mckie@uwtsd.ac.uk

“Mae’r cwrs hwn wedi bod yn brofiad dysgu gwych. Mae yma amrywiaeth wych o gyfleusterau ac mae gennym ein gofod stiwdio ein hunain. Rwyf wedi dysgu cymaint o sgiliau newydd, gan gynnwys argraffu tecstilau a lliwio, gwaith metel, gwau, brodwaith a dylunio cyfrifiadurol.“

54 | www.ydds.ac.uk

Anne Lewis

Harriet Popham

Carys Indigo

Holly Davies

Holly Davies

Malin Odermark

www.ydds.ac.uk | 55


BA (Anrh) / MDes (Anrh) Dylunio Patrymau Arwyneb (Tecstilau ar gyfer Ffasiwn)

Mae’r llwybr hwn ar gyfer y myfyrwyr hynny sy’n dymuno arbenigo mewn tecstilau ar gyfer ffasiwn. Trwy weithdai, darlithoedd, seminarau ac ymweliadau, mae myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth gadarn o sut i fodloni anghenion penodol y diwydiant ffasiwn.

Cod BA UCAS: W234 Cod MDes UCAS: 8V7C Lleoliad: Abertawe Cyswllt: Georgia McKie georgia.mckie@uwtsd.ac.uk

“Mae’r cwrs Patrwm Arwyneb Dylunio yn darparu amrywiaeth o brofiad a sgiliau mewn ystod eang o arferion digidol a thraddodiadol. Mae wedi bod yn brofiad gwych ac wedi rhoi hyder mawr i mi ar gyfer y dyfodol i gynllunio tecstilau ar gyfer ffasiwn.”

56 | www.ydds.ac.uk

Anne Lewis

Carys Indigo

Holly Davies

Alice Burke

Daisy Jones

www.ydds.ac.uk | 57


BA (Anrh) / MDes (Anrh) Dylunio Patrymau Arwyneb (Gwrthrych Ffasiwn)

Nod y llwybr Gwrthrych Ffasiwn yw cynhyrchu dylunwyr a gwneuthurwyr sy’n gallu cyfrannu gwaith sydd ar flaen y gad i ddylanwadu ar y ffordd rydym yn edrych ac yn teimlo, ac a fydd yn cael dylanwad deinamig ar fyd ffasiwn. Trwy weithdai, darlithoedd, seminarau, ymweliadau a

phrosiectau byw, byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn o sut i fodloni anghenion penodol y diwydiant ffasiwn. Rhoddir pwyslais ar arloesi gyda defnyddiau, technegau a chymhwysiad, wedi’i gefnogi gan diwtoriaid profiadol iawn.

Cod BA UCAS: W230 Cod MDes UCAS: Y28U Lleoliad: Abertawe

58 | www.ydds.ac.uk

Catrin Jones

Ciara Long

Danielle Guess

Cyswllt: Georgia McKie georgia.mckie@uwtsd.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 59


MA Tecstilau (Deialogau Cyfoes) Mae’r cwrs yn dechrau gyda chyfnewidiadau amlddisgyblaeth trwy seminarau a darlithoedd a ddyluniwyd i symbylu safbwyntiau newydd ac i herio cyfeiriadau. Mae’r traws-ffrwythloniad hwn o syniadau, trwy ddeialog gyda ffotograffwyr, artistiaid cain, a myfyrwyr cyfathrebu gweledol, wedi’i ddylunio i hyrwyddo ffordd newydd o feddwl a deall a chynhyrchu tecstilau ac arfer tecstil. Cynhelir yr ymagwedd hon trwy gydol y cwrs a gall myfyrwyr geisio cymorth tiwtoriaid ar draws y pedair disgyblaeth MA.

Hannah Downing

Cyswllt: Catrin Webster catrin.webster@uwtsd.ac.uk

60 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 61


Gwydr 62 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 63


Gwydr

Mae’r cwrs sefydledig hwn yn Abertawe, sy’n enwog ledled y byd, yn dod â thraddodiadau gorau gweithio â llaw ym maes gwydr at ei gilydd â’r technolegau creadigol diweddaraf. Mae myfyrwyr yn astudio arferion gwydr traddodiadol a chyfoes a danategir gan sgiliau cadarn, cynaliadwy sy’n cynnwys darlunio, dylunio a gwneud. Mae myfyrwyr yn adeiladu ar eu gwybodaeth a’u sgiliau o weithio gyda gwydr trwy weithio mewn stiwdio a gweithdai. Mae prosiectau allanol yn nodwedd gyson o’r cwrs. Mae myfyrwyr yn ymgymryd â phrosiectau masnachol yn aml trwy stiwdio wydr fasnachol yr ysgol, sef y Ganolfan Gwydr Pensaernïol, gan sicrhau bod graddedigion yn gadael gyda’r holl sgiliau sydd eu hangen i weithio yn y diwydiant. Ymhlith meysydd arbenigol y cwrs mae gwydr a ffurfir mewn odyn, paentio gwydr traddodiadol, cymwysiadau addurniadol fel

sgwrio â thywod, printio sgrin, ysgythru ag asid ac euro yn ogystal â thechnolegau cyfoes fel torri â chwistrell ddŵr. Addysgir y modylau sy’n seiliedig ar brosiectau gan staff arbenigol mewn gweithdai a chyfleusterau newydd a rhagorol. Mae’r grwpiau bach o fyfyrwyr yn golygu y gallwch chi bob amser ddod o hyd i diwtor i’ch helpu gyda’ch gwaith. Mae’r tîm addysgu yn cynnwys artistiaid a dylunwyr gwydr profiadol iawn sydd yn cymryd rhan naill ai mewn arfer proffesiynol neu’n weithredol mewn ymchwil, gyda chefnogaeth staff technegol a hyfforddwyd yn y diwydiant. Mae hyn yn sicrhau bod y cwrs yn darparu cymwysterau a phrofiad sy’n berthnasol iawn i anghenion newidiol y diwydiant a’r gymuned gwydr pensaernïol ehangach . Mae’r ddau lwybr gwydr yn cynnig y cyfle i ganolbwyntio ar elfennau penodol o gelf gwydr, dylunio a gwneud.

“Rwyf wrth fy modd gyda’r hyn rwyf yn ei wneud. Ni allaf ddychmygu gwneud unrhyw beth arall yn hytrach na chyfuno fy ngwaith adfer gwydr lliw ochr yn ochr â gwneud fy mhaneli ar gyfer comisiynau ac arddangosfeydd.”

Nora Lerstol

Elisabeth Voss Sinnerud Myfyriwr Graddedig Adferwr Gwydr , Nidaros Cathedral, Norway

64 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 65


BA (Anrh) / MDes (Anrh) Gwydr: Celfyddydau Pensaernïol Mae’r llwybr Celfyddydau Pensaernïol yn rhoi sgiliau a gwybodaeth i fyfyrwyr mewn gwydr lliw traddodiadol a phaentio gwydr gyda ffocws ar wydr pensaernïol y gellir wedyn ei gymhwyso mewn cyd-destun cyfoes a/neu gadwraeth ac adnewyddu. Cod BA UCAS: W770 Cod MDes UCAS: 5H3M Lleoliad: Abertawe Cyswllt: Lisa Burkl lisa.burkl@uwtsd.ac.uk

“Mae ennill fy BA mewn Gwydr Pensaernïol wedi fy ngalluogi i ddilyn gyrfa fel dylunydd a gwneuthurwr gwydr lliw traddodiadol a chyfoes. Mae fy mhrofiad wedi ei gwneud yn bosibl i mi weithio gyda rhai o’r artistiaid a’r stiwdios mwyaf blaenllaw ym Mhrydain Fawr ac yn rhyngwladol.”

66 | www.ydds.ac.uk

Rachel Phillips

Stacey Poultney: un o raddedigion Gwydr Cynorthwy-ydd stiwdio. Canolfan Gwydr Pensaernïol, Abertawe

www.ydds.ac.uk | 67


BA (Anrh) / MDes (Anrh) Gwydr: Arfer Cyfoes

Mae’r llwybr Arfer Cyfoes yn hwyluso ymagwedd ehangach at wydr, nid yn unig fel cyfrwng mewn cyd-destun pensaernïol, ond hefyd fel defnydd i’r artist cymhwysol neu ddylunydd-gwneuthurwr.

Cod BA UCAS: W771 Cod MDes UCAS: 0H3A Lleoliad: Abertawe Cyswllt: Cath Brown catherine.brown@uwtsd.ac.uk

68 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 69


MA Gwydr (Deialogau Cyfoes) Mae’r rhaglen MA Gwydr yn ceisio datblygu arfer sy’n ymwneud ag ail-werthuso traddodiadau, confensiynau a systemau gwerth gwydr pensaernïol. Y broses ailddehongli drwyadl hon, yn ffisegol ac yn seicolegol, a fydd yn anochel yn diffinio paramedrau astudiaethau personol myfyrwyr unigol. Cyswllt: Lisa Burkl lisa.burkl@uwtsd.ac.uk Cath Brown catherine.brown@uwtsd.ac.uk

70 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 71


Dylunio Diwydiannol 72 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 73


Dylunio Diwydiannol

Wedi’u lleoli yng nghanol Abertawe, un o ddinasoedd mwyaf bywiog ond fforddiadwy i fyfyrwyr y DU, mae ein rhaglenni dylunio diwydiannol yng Nghyfnewidfa Ddylunio ALEX, sy’n adeilad rhestredig Gradd II a adnewyddwyd ac estynnwyd yn ddiweddar, yn Ardal Celfyddydau Abertawe. Mae prosiectau diwydiannol byw yn rhan bwysig o’ch profiad dysgu – rydym yn gweithio’n agos gyda diwydiant lleol ar brosiectau yn ogystal â gyda rhai o’r brandiau mwyaf yn y byd fel Hasbro, Recaro, Jaguar Land Rover a Maclaren. Yn bwysicach oll o’ch safbwynt chi, mae ein staff yn gyfeillgar, yn hawdd siarad â nhw ac yn gefnogol sydd, ar y cyd â’n dosbarthiadau bach, yn sicrhau y cewch chi hyfforddiant a

chefnogaeth o safon uchel i roi dechrau cadarn i’ch gyrfa dylunio. Felly, os ydych chi’n uchelgeisiol ac yn dymuno gwneud gwir wahaniaeth ar y byd o’ch cwmpas, edrychwch ar y cyrsiau rydym yn eu cynnig... Mae gennym weithdai prototeipio llawn offer a staff technegol medrus iawn sy’n rhoi ichi’r gallu i gael profiad o weithio gyda phren, metel, plastigau, gwydr ffibr, resinau, gwydr, plaster, cerameg a chlai steilio modurol. Mae ein gweithdai’n cynnwys cyfleusterau ‘layup’ gwydrffibr a chwistrellu, byrddau clai proffesiynol ac offer sgleinio, offer sgwrio â thywod, ysgythru ag asid, prosesu gwydr oer, ffurfio gwydr cynnes, enamlo ac electroplatio, weldio, torri, cafnu, melino, troi a thermoffurfio.

“Mae dylunio cynnyrch yn un o’r disgyblaethau hynny lle gallwch ddatblygu a chreu gwrthrych o’ch dychymyg; does dim teimlad gwell na gweld y canlyniad yn rhoi gwên ar wyneb rhywun.” Kiera Gwynne

74 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 75


BA (Anrh) / MDes (Anrh) Dylunio Cynnyrch

Mae’r rhaglen hon yn archwilio agweddau dynol-ganolog dylunio cynnyrch. Fe’ch anogir i archwilio, arloesi ac yna ymgorffori eich dealltwriaeth eich hun o estheteg a chymhlethdodau eraill a ddeallir trwy wneud ffurf a chysyniadau a rhyngweithiau cynnyrch

Cod BA UCAS: W242 Cod MDes UCAS: 0P2M Lleoliad: Abertawe Cyswllt: Dr Pete Spring peter.spring@uwtsd.ac.uk

“Mae’r cwrs hwn wedi bod yn brofiad dysgu gwych. Mae yma amrywiaeth wych o gyfleusterau ac fe gawn ein gofod stiwdio ein hunain. Rwyf wedi dysgu cymaint o sgiliau newydd, gan gynnwys argraffu tecstilau a lliwio, gwaith metel, gwau, brodwaith a dylunio cyfrifiadurol.“

76 | www.ydds.ac.uk

Harriet Popham

Carys Indigo

Malin Odermark

www.ydds.ac.uk | 77


BSc (Anrh) / MDes (Anrh) Dylunio Cynnyrch a Thechnoleg

Ein gweledigaeth yw cynhyrchu gweithwyr proffesiynol dylunio sy’n gallu cymhwyso technolegau newydd yn greadigol o fewn cynnyrch newydd. Fe’ch anogir i archwilio ffyrdd newydd o fanteisio ar offer digidol i ddarparu cynnyrch effeithlon ac effeithiol i’r farchnad fasnachol. Cewch gyfle i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a galluoedd deallusol i ymgymryd â dylunio a datblygu cynnyrch newydd sy’n defnyddio offer dylunio o safon ddiwydiannol o’r radd flaenaf a thechnolegau prototeipio cyflym i archwilio a gwireddu atebion cynnyrch manwl. Mae yna bwyslais mawr ar optimeiddio

dylunio cynigion cynnyrch o ran galluogi technolegau, y dewis o ddefnydd a meini prawf gweithgynhyrchu ynghyd ag ymwybyddiaeth o arferion dylunio a gwireddu cynaliadwy. Wedi ichi raddio, bydd gennych y sgiliau trosglwyddadwy a’r priodoleddau pwnc-benodol sydd eu hangen i gynhyrchu syniadau, cysyniadau, a chynigion dylunio manwl mewn ymateb i anghenion penodol a gallu gweithredu’n effeithiol mewn amgylchedd stiwdio dylunio (amlddisgyblaeth).

Cod BSc UCAS: W284 Cod MDes UCAS: W200 Lleoliad: Abertawe

78 | www.ydds.ac.uk

Anne Lewis

Harriet Popham

Cyswllt: Matt Archer matthew.archer@uwtsd.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 79


MA Dylunio Cynnyrch (Deialogau Cyfoes) Diben y rhaglen hon yw gwthio ffiniau Dylunio Cynnyrch trwy addysgu’r genhedlaeth nesaf o weledyddion a gweithredwyr, a fydd yn cofleidio, adfyfyrio a mynd i’r afael â heriau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol-ddiwylliannol trwy gyfrwng deialog creadigol. Cyswllt: Matt Archer matthew.archer@uwtsd.ac.uk

MSc Dylunio Diwydiannol (Deialogau Cyfoes) Diben y rhaglen hon yw gwthio ffiniau Dylunio Diwydiannol trwy roi i fyfyrwyr y rhyddid i herio confensiynau presennol trwy arbrofi’n gydweithredol ac ystyried dylunio mewn ffordd sy’n adlewyrchu ac yn mynd i’r afael â’r heriau amgylcheddol, economaidd a thechnolegol sy’n bresennol yn y gymdeithas sydd ohoni. Cyswllt: Matt Archer matthew.archer@uwtsd.ac.uk

80 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 81


Jay Patel

Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth 82 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 83


BA (Anrh) / MDes (Anrh) Dylunio Modurol

Mae’r BA (Anrh) Dylunio Modurol yn rhoi i fyfyrwyr y cyfle i ddatblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r medrau sydd eu hangen i fynd ati i ddylunio a datblygu ceir a briciau modur newydd, wedi’u seilio ar ddealltwriaeth glir o egwyddorion dylunio cymesuredd, cyfaint ac arwyneb. Ein gweledigaeth yw cynhyrchu gweithwyr proffesiynol ym

maes dylunio a chanddynt lefel uchel o sgiliau, creadigrwydd ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol ac esthetig gyda sensitifrwydd at becynnu cerbydau dynol a thechnegol dichonadwy. Mae’r cwrs yn pwyso tuag at ddatrysiadau esthetig arddulliau cerbyd y genhedlaeth nesaf neu’r dyfodol agos gyda sensitifrwydd at estheteg brand a DNA.

Cod BA UCAS: W240 Cod MDes UCAS: 7F3T Lleoliad: Abertawe Cyswllt: Sergio Fontanarosa sergio.fontanarosa@uwtsd.ac.uk

“Mae Coleg Celf Abertawe wedi fy helpu i siapio’n sylweddol pwy ydwyf ac mae’n anrhydedd i allu dweud bod fy llwyddiant yn ganlyniad i gefnogaeth ac ymroddiad parhaus y tiwtoriaid”

Carys Indigo

Peter Williams Uwch Ddylunydd Modurol McLaren Automotive Limited

84 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 85


BA (Anrh) / MDes (Anrh) Dylunio Trafnidiaeth

Mae’r rhaglen BA (Anrh) Dylunio Trafnidiaeth yn archwilio cludiant o bob math o ymagwedd dylunio cysyniad, gan gynnwys cychod, carafanau, ceir a beiciau modur cysyniad, cerbydau amaethyddol, lorïau, cerbydau 2/3 olwyn moduraidd, systemau trafnidiaeth, cerbydau cysyniad ‘awyr las’ i gerbydau setiau ffilm ac ati. Ein gweledigaeth yw cynhyrchu

gweithwyr proffesiynol a chanddynt lefel dda o allu deallusol a chreadigrwydd. Ein nod yw datblygu dylunwyr sy’n gallu dylunio gwahanol fathau o gludiant/gerbydau o ymagwedd ‘tu fewn-tu allan’ unigryw, gyda chefnogaeth ymchwil a rhagolygon y dyfodol mewn technoleg, estheteg ac ystyriaethau amgylcheddol.

Cod BA UCAS: 9R37 Cod MDes UCAS: 04G6 Lleoliad: Abertawe Cyswllt: Paul Morrow paul.morrow@uwtsd.ac.uk

86 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 87


MA Dylunio Cludiant (Deialogau Cyfoes) Mae ein rhaglenni Meistr yn gosod athroniaeth ddylunio, arloesi ac arfer dylunio mewn cyd-destun diwydiannol i ddatblygu datrysiadau cynaliadwy a byd-eang i anghenion dynol. Mae gwneud unrhyw un o’n rhaglenni Meistr yn rhoi cerbyd i raddedigion allu mireinio eu hymagweddau dylunio ac i adeiladu ar y sylfaeni a osodwyd yn ystod eu hastudiaethau israddedig. Gall y rhaglen symbylu’r myfyrwyr hynny sy’n dychwelyd i’r brifysgol ar ôl treulio amser yn gweithio yn y diwydiant i adfywio gyrfa mewn dylunio.

Cyswllt: Paul Morrow paul.morrow@uwtsd.ac.uk

88 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 89


Ffilm a Chyfryngau Digidol 90 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 91


Ffilm a Chyfryngau Digidol

Cyflwynir ein cyrsiau yn ein hadeiladau un-pwrpas yn Abertawe a Chaerfyrddin, lle ceir ymdeimlad cryf o gymuned a mynediad at ystod o gyfleoedd rhwydweithio rhad ac am ddim, digwyddiadau arbennig fel cynhadledd SAND, wythnosau menter a diwydiant, a darlithoedd gan wŷr gwadd o’r diwydiant.

Ar gampws Caerfyrddin, cyflwynir ein graddau Ffilm a Chyfryngau mewn adeilad newydd tra modern, mewn lleoliad gwledig, godidog. Dyluniwyd y cyfleusterau’n benodol i gynnig i fyfyrwyr amgylchedd creadigol a phroffesiynol i weithio ynddo, a hynny o fewn cyrraedd rhwydd i amrywiaeth o leoliadau ffilmio allanol bendigedig.

Yn Abertawe, cyflwynir y cyrsiau ar draws tri adeilad eiconig: Canolfan Dinefwr ar gyfer Celf a Dylunio, Cyfnewidfa Ddylunio ALEX, ac Adeilad y BBC (cartref recordiadau radio enwog Dylan Thomas).

92 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 93


BA (Anrh) / MArts (Anrh) Animeiddio Cyfrifiadurol 3D Dyluniwyd y cwrs BA/MArts Animeiddio Cyfrifiadurol 3D i roi i’w raddedigion y sgiliau technegol, y medrau creadigol a’r ymagwedd broffesiynol sydd eu hangen i weithio yn y diwydiannau 3D, animeiddio a chreadigol. Nod yw cwrs yw rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth o’r rolau niferus sy’n perthyn i’r broses o gynhyrchu animeiddio, gan gymryd ymagwedd aml-sgil a rhoi i fyfyrwyr y cyfle i arbenigo mewn meysydd yr hoffent yrfa ynddynt yn ddiweddarach, drwy gymryd rhan mewn cynyrchiadau ar y cwrs.

Cod BA UCAS: WGP4 Cod MArts UCAS: D7X4 Lleoliad: Abertawe Cyswllt: Phil Organ philip.organ@uwtsd.ac.uk

“Rwyf wedi cael profiad anhygoel yn gweithio ar prosiectau gyda Da Vinci Demons megis gwaith gosod ac animeiddio. Rwy’n teimlo fy mod wedi dysgu llawer yn ystod y cyfnod hwn ac ennill profiad hynod o werthfawr”

Stuart Lindsay

Ian Mills, Myfyriwr Graddedig, 2015

94 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 95


BA (Anrh) / MArts (Anrh) Dylunio Set Cod BA UCAS: 64D8 Cod MDes UCAS: 64D9 Lleoliad: Abertawe Cyswllt: John Hill john.hill@uwtsd.ac.uk

Abi Vaughan

Mae’r radd Dylunio Set yn dathlu’r cyfuniad o feddwl creadigol a chymhwysiad ymarferol sydd ei angen ymgymryd â llawer o’r swyddogaethau traws-ddisgyblaethol sydd yn y diwydiant Ffilm a Theledu. Mae ar ddiwydiant o’r fath angen dylunwyr set i wireddu gweledigaeth greadigol y cyfarwyddwr. Mae’r cwrs ar gyfer pobl sy’n ymddiddori yn y broses o ddychmygu, creu ac adeiladu amgylcheddau a setiau ffilm.

96 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 97


BA (Anrh)/ MArts (Anrh) Dylunio Gemau Cyfrifiadurol Creadigol Mae’r cwrs Dylunio Gemau Cyfrifiadurol Creadigol yn cyflwyno myfyrwyr i’r sgiliau hanfodol a’r arferion a ddefnyddir yn y diwydiant gemau ynghyd â’r gallu i ddadansoddi’n academaidd a gwerthuso eu syniadau a’u dyluniadau eu hunain ar gyfer gemau. Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar archwiliad creadigol dylunio gemau cyfrifiadurol yn y byd sydd ohoni. Rhoddir i fyfyrwyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen i ddatblygu gwaith newydd ac arloesol ym meysydd creu delwedd, Graffig 3D, animeiddio,

modelu amgylchedd, creu gwead, creu, dylunio a modelu cymeriad. Fe’u hanogir i archwilio a datblygu eu syniadau trwy ddefnyddio’r technolegau cyfrifiadurol a meddalwedd diweddaraf. Cod BA UCAS: W283 Cod MArts UCAS: 8B2K Lleoliad: Abertawe Cyswllt: John Carroll john.carroll@uwtsd.ac.uk

James Ceri Penhallurick

98 | www.ydds.ac.uk

Richard Morgan

“Cwrs anhygoel gyda digon o gyfleoedd i greu gemau llawn hwyl, gwthio sgiliau creadigol a chael blas ar weithio yn y diwydiant gemau.”

www.ydds.ac.uk | 99


MA Animeiddio Cyfrifiadurol 3D Dylunnir y rhaglen Animeiddio Cyfrifiadurol 3D i roi i raddedigion ac ymgeiswyr cymwys eraill brofiad a fydd yn annog a datblygu eu creadigrwydd, ymestyn eu galluoedd ymarferol a mireinio eu gallu beirniadol. Dyluniwyd y cwrs i symbylu piblinell cynhyrchu arferol gyda modylau mewn sgiliau animeiddio craidd, technegau cyn- ac ôl-gynhyrchu (yn cynnwys VFX), a rheoli cynhyrchu. Cyswllt: Henry Lutman henry.lutman@uwtsd.ac.uk

100 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 101


Technoleg Cerddoriaeth 102 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 103


BA (Anrh)/ MMus Tech (Anrh) Technoleg Cerddoriaeth Mae’r rhaglen Technoleg Cerddoriaeth yn ceisio meithrin sgiliau technegol ac esthetig amrywiol sy’n gysylltiedig â’r maes pwnc. Mae ein gradd seiliedig ar arfer yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr ddatblygu’r sgiliau allweddol sydd eu hangen er mwyn gallu gweithio yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol. Gan ein bod yn yr Ysgol Ffilm a Chyfryngau Digidol, gall myfyrwyr gydweithio ar draws disgyblaethau gyda myfyrwyr

animeiddio, gemau a ffilm. Gall myfyrwyr ddefnyddio labiau cyfrifiaduron Mac a chyfrifiaduron personol a chanddynt offer o safon ddiwydiannol gan gynnwys Avid, Adobe, Autodesk, Apple, a llawer iawn mwy o ddatblygwyr arbenigol.

Cod BA UCAS: J931 Cod MDes UCAS: 5P2Y Lleoliad: Abertawe Cyswllt: Simon Kilshaw simon.kilshaw@uwtsd.ac.uk

104 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 105


MA Cynhyrchu Sain Creadigol Mae’r MA Cynhyrchu Sain Creadigol yn rhoi’r cyfle i gyfranogion ymestyn eu sgiliau technolegol a chyfansoddol mewn amrywiaeth o ffurfiau a chyd-destunau cerddorol, ac yn rhoi cyfle unigryw i fyfyrwyr ddatblygu set sgiliau pwysig a phrin ar lefel ôl-raddedig sy’n addas ar gyfer swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn y diwydiannau creadigol. Cyswllt: Paul Hazel paul.hazel@uwtsd.ac.uk

106 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 107


Ffilm a Theledu 108 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 109


BA (Anrh) / MArts (Anrh) Cynhyrchu Ffilm a Theledu Digidol Dyluniwyd y rhaglen Cynhyrchu Ffilm a Theledu Digidol i roi i raddedigion y sgiliau technegol, galluoedd creadigol ac agwedd broffesiynol angenrheidiol sy’n berthnasol i’r rheiny sy’n dymuno gweithio yn y diwydiannau ffilm a theledu. Cewch eich annog i ddatblygu eich llais personol o fewn gwneud ffilmiau digidol trwy gynhyrchu prosiectau ffilm fer yn barhaus trwy gydol y cwrs gradd. I gefnogi hyn, fe gewch hyfforddiant lawn ac arweiniad i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu

a chyfarwyddo. Hefyd, cewch gyfle i ymgymryd â lleoliadau ar gynyrchiadau proffesiynol. Er enghraifft, yn y flwyddyn ddiwethaf, cafodd rhai myfyrwyr brofiad gwaith ar y ddrama deledu lwyddiannus ‘Da Vinci’s Demons’, ar nifer o ffilmiau, gan gynnwys ‘The Machine’ a ‘The Convenience’, yn ogystal â rhaglenni dogfen i’r BBC. Yn ogystal â hyn, caiff myfyrwyr hefyd y cyfle i fynychu gwyliau ffilm a theledu lle gallant rwydweithio gyda chyfarwyddwyr, cynhyrchwyr a phobl eraill yn y diwydiant.

Cod BA UCAS: W610 Cod MArts UCAS: 4S8X Lleoliad: Abertawe Cyswllt: Robert Jones robert.jones1@uwtsd.ac.uk

110 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 111


BA (Anrh) Ffilm a Diwylliant Weledol* Mae’r BA Ffilm a Diwylliant Weledol yn rhaglen radd arloesol, sy’n cyfuno cynhyrchiad creadigol darnau unigol o waith mewn meysydd arbenigol, gydag astudiaeth academaidd ffilm a chyfryngau gweledol eraill. Trwy gyfuno damcaniaeth ac arfer, anogir myfyrwyr i gyfoethogi eu dealltwriaeth o sinema fel cyfrwng trwy greu gwaith ymarferol.

Crëwyd y rhaglen gyda phwyslais ar sgiliau galwedigaethol a chyflogadwyedd; yn ystod eu hastudiaethau, bydd myfyrwyr yn cyfansoddi portffolio o waith i’w galluogi i gystadlu am swydd yn eu dewis faes o’r diwydiant ffilm. Rhoddir pwyslais ar sgiliau entrepreneuraidd, ac ar y sgiliau sydd eu hangen i gyhoeddi ac arddangos gwaith i gynulleidfaoedd y tu hwnt i’r brifysgol.

Cod BA UCAS: P30H Lleoliad: Caerfyrddin Cyswllt: Susan Drake S.Drake@uwtsd.ac.uk *Cwrs cyfrwng Saesneg. Nid oes modylau cyfrwng Cymraeg ar y cwrs hwn ar hyn o bryd.

“Cynigodd y modiwl Lleoliad Gwaith gyfle gwych i mi weithio mewn stiwdio fawr ar gynhyrchiad rhyngwladol o bwys, ac i wneud llawer o gysylltiadau defnyddiol. Trwy’r gwaith a wnes, cefais y cyfle am waith â thâl yn ystod yr haf yn ffilmio ‘The Crow’ yn Stiwdios Pinewood. Gwnaeth hyn rhoi golwg fanwl i mi ar weithio yn y diwydiant ffilm, a rhoi hwb i’m gyrfa ym maes cynhyrchu ffilmiau.” Lowri Bevan

112 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 113


BA (Anrh) Cynhyrchu’r Cyfryngau Newydd* Mae’r radd BA Cynhyrchu’r Cyfryngau Newydd yn rhaglen amlddisgyblaeth sy’n rhoi i fyfyrwyr y sgiliau a’r wybodaeth arbenigol sydd eu hangen i greu cynnwys ar gyfer y diwydiant cyfryngau cyfoes. Bydd myfyrwyr yn archwilio i amrywiaeth o fethodolegau cynhyrchu creadigol fel cyhoeddi digidol, gwneud ffilmiau ar-lein, animeiddio, a

ffotograffiaeth rhyngwladol, yn ogystal â’r technolegau gwe sylfaenol sy’n diffinio Cyfryngau Newydd. Gyda phwyslais ar naratifau rhyngweithiol, mae’r rhaglen yn rhoi’r defnyddiwr yng nghanol y cyffro. Y rhyngweithio hwn a’r weledigaeth 360-gradd sy’n gwneud y radd Cynhyrchu’r Cyfryngau Newydd yn wahanol a chymhellol.

Cod BA UCAS: PH10 Lleoliad: Caerfyrddin Cyswllt: Susan Drake S.Drake@uwtsd.ac.uk *Cwrs cyfrwng Saesneg. Nid oes modylau cyfrwng Cymraeg ar y cwrs hwn ar hyn o bryd.

114 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 115


Gwybodaeth ddefnyddiol Cymorth i Fyfyrwyr

Darperir cefnogaeth sgiliau astudio i bob myfyriwr sydd angen cymorth gyda’u hastudiaethau, trwy ddarparu gwybodaeth o ansawdd uchel, cyngor, canllawiau, cymorth ymarferol ac emosiynol sy’n galluogi pob myfyriwr i gyrraedd ei botensial llawn. Yn ogystal, mae’r Brifysgol yn cynnig gwasanaeth sgiliau astudio pob diwrnod o’r wythnos waith i bob myfyriwr. Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd ar gael i helpu myfyrwyr i adnabod eu hamcanion gyrfaol drwy gydol eu hamser yn y Brifysgol, a bydd ein staff yn darparu’r cymorth sydd eu hangen arnynt i wireddu’r amcanion hynny.

Llety Mae llety myfyrwyr Abertawe a Chaerfyrddin ymysg y rhataf yn y wlad. Mae gan Abertawe bum neuadd breswyl ar ddau gampws ac os am fyw yn y sector preifat mae amrywiaeth o lety ar gael yng nghanol y ddinas. Yng Nghaerfyrddin, mae’r llety ar y prif gampws. Yn ogystal, mae ystod eang o lety ar gael oddi ar y campws. Ymweld â Ni /Dyddiau agored Mae’r Gyfadran yn cynnal diwrnodau agored swyddogol, gweler y manylion ar ein gwefan, ond rydyn ni hefyd yn croesawu myfyrwyr ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.

Am ragor o wybodaeth, i Cyllid drefnu ymweliad neu i ofyn am Rydyn ni’n cynnig ystod eang o brosbectws, cysylltwch â ni. gymorth ariannol, gan gynnwys bwrsariaethau ac ysgoloriaethau, er enghraifft ysgoloriaethau adrannau, cefnogaeth i fyfyrwyr o gefndir incwm isel, bwrsariaethau preswyl, ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg / dwyieithog, cymorth ar gyfer pobl sy’n gadael gofal, cefnogaeth gyda chostau gofal plant, interniaethau, bwrsariaethau a dyfarniadau addysgol ar gyfer myfyrwyr rhan amser, myfyrwyr ôl raddedig, myfyrwyr anabl a myfyrwyr rhyngwladol.

116 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 117


Sut i wneud cais

Os am wneud cais i astudio yn rhan amser neu ymgymryd ag astudiaethau ôl-raddedig, boed yn llawn amser neu’n rhan amser: byddwch yn gwneud cais yn uniongyrchol trwy’r Brifysgol. Gweler ein gwefan am ragor o fanylion.

Campws Abertawe

Campws Caerfyrddin

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Cyfadran Celf a Dylunio, Canolfan Dinefwr, De La Beche Street, Abertawe, SA1 3EU

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Ffordd y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EP

Ffôn: +44 (0) 1792 481285 E-bost: celfadylunio@ydds.ac.uk www.ydds.ac.uk

Ffôn: +44 (0) 1267 676767 E-bost: celfadylunio@ydds.ac.uk www.ydds.ac.uk

M9 2

Gwneir pob cais i astudio ar raglen radd llawn amser neu Ddiploma Addysg Uwch yn y Brifysgol trwy UCAS gan ddefnyddio Apply system geisiadau ar-lein sydd ar gael yn www.ucas.com/apply

Glasgow

M90

Caeredin A74

Cyfweliadau a Phortffolios

Leeds

2 M6

Caergybi A5

Birmingham

Abertawe

Penfro

Abertawe

M 50

M 50

Llambed Caerfyrddin

M4 Caerdydd

M4

Caerdydd

118 | www.ydds.ac.uk

Abergwaun

M1

Llambed Caerfyrddin

Penfro

2 M4

M5

Abergwaun

Manceinion

M1

Lerpwl

M6

Ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau, bydd yn ofynnol i chi gyflwyno portffolio o waith yn y cyfweliad. Fel canllaw cyffredinol dylid cynnwys enghreifftiau o waith (gorffenedig a gwaith ar y gweill) sy’n arddangos eich sgiliau a’ch diddordebau penodol. Dylid cyflwyno cynnwys y portffolio mewn ffordd resymegol, drefnus a syml. Mae gennym ni hefyd ddiddordeb mawr mewn gweld llyfrau braslunio.

M6

Os cewch chi eich dewis ar gyfer cyfweliad yn eich maes astudio dewisol bydd gennych gyfle i ddangos eich ymrwymiad a’ch hunan ysgogiad i’r pwnc. Yn ystod y cyfweliad bydd gennych gyfle i drafod agweddau ar y cwrs ac i ofyn cwestiynau mewn cyfweliad cyfeillgar ac anffurfiol a byddwn yn cynnig taith o amgylch chyfleusterau’r Gyfadran.

M25

Llundain

M4 Bryste

A3

6

A3

M2 Dover

M5

Southampton

www.ydds.ac.uk | 119


Ein Lleoliad yn Abertawe

Maes Parcio NCP, Ffordd y Brenin SA1 5AS Maes Parcio NCP, Stryd y Berllan SA1 5JQ

11.

Ein Lleoliad yng Nghaerfyrddin

Campws Dinefwr (Peth Parcio) SA1 3ES

10.

Campws Heol Alex (Dim Parcio ar gael) SA1 5DU

Campws Caerfyrddin SA31 3EP (Parcio ar y campws)

19.

Adeilad Dysgu ac Addysgu

7.

Derbynfa

Croeso i’r YDDS Caerfyrddin Welcome to UWTSD Carmarthen 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26

120

Prif fynedfa | Main entrance Theatr yr Haliwel | Haliwell Theatre Bwyty Myrddin | Merlin Restaurant Llety Noakes | Noakes Accommodation Swyddfa Llety | Accommodation Office Canolfan Chwaraeon | Sports Centre Derbynfa | Reception Y Gofrestrfa | Registry Cyllid | Finance Y Llwyfan Hen Goleg | Old College Swyddfa Coleg Cymraeg Cenedlaethol Desg Gymorth TG | IT Help Desk Undeb y Myfyrwyr | Students’ Union Pwll Nofio | Swimming Pool Llety Tŵr | Tower Accommodation Llety Myrddin | Myrddin Accommodation Llyfrgell | Library Stiwdio | Studio Gwasanaethau Myfyrwyr | Student Services Llety Non | Non Accommodation Capel | Chapel Adeilad Dysgu ac Addysgu | Teaching and Learning Building Ystafelloedd darlithio TL | TL Lecture Rooms Parry Ystafelloedd darlithio P | P Lecture Rooms Dafydd Rowlands Ystafelloedd darlithio DR | DR Lecture Rooms Rob Hunter Ystafelloedd darlithio RH | RH Lecture Rooms Norah Issac Ystafelloedd darlithio N | N Lecture Rooms Carwyn James Ystafelloedd darlithio CJ | CJ Lecture Rooms Emyr Wyn Evans Ystafelloedd darlithio EW | EW Lecture Rooms Y Gamfa Wen

Campws Mount Pleasant | Mount Pleasant Campus Coleg Celf Abertawe | Swansea College of Art | www.ydds.ac.uk Campws Fusnes Abertawe | Swansea Business Campus

www.ydds.ac.uk | 121


Llyfrau eraill yn y gyfres hon Mae’r llyfr hwn yn un o gyfres. Os hoffech dderbyn llyfr arall, cysylltwch â’r gyfadran. celfadylunio@ydds.ac.uk 01792 481285

Product, Automotive & Transport Design

Surface Pattern Design Glass

Film & Digital Media

Art & Design Foundation Diploma Swansea

Pdf ar gael ar ein gwefan www.uwtsd.ac.uk/cy/ cyfadran-celf-a-dylunio www.uwtsd.ac.uk

www.uwtsd.ac.uk

BA/MDes Product Design BSc/MDes Product Design & Technology BA/MDes Automotive Design BA//MDes Transport Design MA Product Design MA Transportation Design MSc Industrial Design

BA/MArts BA/MArts BA/MArts MA MA

Fine Art Photography in the Arts Photojournalism Fine Art (Contemporary Dialogues) Photography (Contemporary Dialogues)

BA/MDes Dylunio Cynnyrch BSc/MDes Dylunio Cynnyrch a Thechnoleg BA/MDes Dylunio Modurol MA Dylunio Cynnyrch MA Dylunio Trafnidiaeth MSc Dylunio Diwydiannol

BA/MArts BA/MArts BA/MArts MA MA

Celf Gain Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau Ffotonewyddiaduraeth Celf Gain (Deialogau Cyfoes) Ffotograffiaeth (Deialogau Cyfoes)

BA/MDes BA/MDes BA/MDes BA/MDes MA BA/MDes BA/MDes MA

Surface Pattern Design (Maker) Surface Pattern Design (Textiles for Interiors) Surface Pattern Design (Textiles for Fashion) Surface Pattern Design (Fashion Object) Textiles (Contemporary Dialogues) Glass: Contemporary Practice Glass: Architectural Arts Glass

BA/MDes Dylunio Patrymau Arwyneb (Gwneuthurwr) BA/MDes Dylunio Patrymau Arwyneb (Tecstilau ar gyfer Addurno Mewnol) BA/MDes Dylunio Patrymau Arwyneb (Tecstilau ar gyfer Ffasiwn) BA/MDes Dylunio Patrymau Arwyneb (Tecstilau ar gyfer Gwrthrych Ffasiwn) MA Tecstilau (Deialogau Cyfoes) BA/MDes Gwydr: Arfer Cyfoes BA/MDes Gwydr: Celfyddydau Pensaernïol MA Gwydr

www.uwtsd.ac.uk

BA/MArts Digital Film & Television Production BA/MArts 3D Computer Animation BA/MArts Digital Arts BA/MArts Creative Computer Games Design MMus Tech Music Technology MA Creative Sound Production MA 3D Computer Animation

BA/MArts Cynhyrchu Ffilm a Theledu Digidol BA/MArts Animeiddio Cyfrfiadurol 3D BA/MArts Y Celfyddydau Digidol BA/MArts Dylunio Gemau Cyfrifiadurol Creadigol MMusTech Technoleg Cerddoriaeth MA Cynhyrchu Sain Creadigol MA Animeiddio Cyfrfiadurol 3D

Foundation Diploma Art & Design

Diploma Sylfaen Celf a Dylunio

Advertising and Brand Design Illustration Graphic Design

www.uwtsd.ac.uk

BA/MDes Advertising and Brand Design BA/MDes Illustration BA/MDes Graphic Design

BA/MArts Hysbysebu a Dylunio Brand BA/MArts Darlunio BA/MArts Dylunio Graffig

122 | www.ydds.ac.uk

www.ydds.ac.uk | 123


Gwybodaeth Bellach www.ydds.ac.uk Mae’r wybodaeth a gynhwysir yn y llyfryn hwn yn gywir ar adeg ei gyhoeddi. Ewch i’r wefan am ragor o wybodaeth neu e-bostiwch ni yn celfadylunio@ydds.ac.uk @ArtSwansea

/swanseacollegeofart

/swanseacollegeofart

Mae’r wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir ar adeg ei argraffu, ond fe all newid yn rhan o bolisi gwelliant a datblygiad parhaus y Brifysgol. Ceidw’r Brifysgol yr hawl i dynnu rhaglenni neu fodylau yn ôl neu eu newid heb rybudd os bydd raid, a gall trefniadau asesu a goruchwylio ymchwil newid.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.