YDDS
Coleg Celf Abertawe Sefydlwyd 1853
Profiad Ysgol Gelf M EW N P R I F YS G O L GY FO ES
www.uwtsd.ac.uk/cy/cyfadran-celf-a-dylunio
1
Ein Cyrsiau
2
Dylunio Patrwm Arwyneb18 Crefftau Dylunio28 Gwydr30 Dylunio Modurol a Chludiant36 Dylunio Cynnyrch44 Hysbysebu a Dylunio Brand50 Dylunio Graffig56 Darlunio62 Celf Gain68 Astudiaethau Amgueddfeydd76 Ffotograffiaeth78 Ffilm a Theledu86 Dylunio Set92 Celfyddydau Perfformio94 Technoleg Cerddoriaeth98 Animeiddio Cyfrifiadurol 3D102 Dylunio Gemau Cyfrifiadurol108 Sylfaen114 Ôl-raddedig118 Ymchwil122
3
Rhagair 4
“ Os byd d by t h g e n nyc h c hi bl enty n na d y w’n gw ybod b et h i ’w w n e u d , dodwc h e m ewn ysgol ge l f. M ae’n r hy fe d d o l b et h sy ’n es bl ygu.” R i d l e y S c o t t
Nid oes addysg prifysgol arall yn debyg i addysg coleg celf. Gorwedda ei unigrywiaeth yn y ffordd y mae’n meithrin, cyfarwyddo ac annog unigoliaeth, creadigaeth ac arloesedd. Mae gan y DU ystod anhygoel o gyfoethog ac amrywiol o golegau celf sydd â threftadaeth nodedig o gynhyrchu artistiaid, dylunwyr, animeiddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau a pherfformwyr a gydnabyddir ar draws y byd. Mae Coleg Celf Abertawe, coleg celf hynaf ac uchaf ei barch Cymru, yn rhan o’r traddodiad gwych hwn. Ers iddo agor ei ddrysau am y tro cyntaf y 1853 bu’r Coleg ar reng flaen datblygiadau mewn addysg gelf, dylunio a chyfryngau yn y DU. Am yn agos i 165 o flynyddoedd, mae Coleg Celf Abertawe wedi cymryd ysbrydoliaeth o ddau fyd, dinas fodern ar yr un ochr a harddwch garw Penrhyn Gŵyr ar y llall. Y cymysgedd newidiol a deinamig hwn o’r ddau sydd wedi bywiogi Coleg Celf Abertawe i fod yn un o brif golegau celf y DU. Trwy gydol ein hanes rydym wedi cyfuno cysylltiadau â diwydiant gyda byd yr oriel. Mae ein cyrsiau yn mwynhau perthnasoedd gwaith cryf gyda brandiau mwyaf y DU a’r byd a chaiff prosiectau byw eu cefnogi’n rheolaidd gan gwmnïau fel Jaguar Land Rover, H&M a Hasbro. Mae ein cysylltiadau gyda’r diwydiant ffilm yn Ne Cymru yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael profiad gwaith gwerthfawr a lleoliadau ar gynyrchiadau teledu a ffilm mawr. Yn fwy lleol, mae gennym hyd yn oed ein stiwdio deledu ein hunain, sy’n gartref i orsaf deledu leol Abertawe, BAY TV. Fel y byddech yn disgwyl, mae’r Coleg hefyd yn gweithio’n agos iawn gyda nifer o orielau sefydledig a newydd. Mae hyn yn darparu cyfleoedd i’n myfyrwyr ymgymryd â lleoliadau mewn orielau yn ogystal â churadu arddangosfeydd o’u gwaith eu hunain. Yr ochr arall i hyn yw bod y Coleg hefyd yn croesawu arddangosiadau teithiol mawr fel Gwobrau Darlunio’r Byd y Gymdeithas Darlunwyr. Un o brif nodweddion profiad myfyrwyr yn Abertawe yw’r cyfle a roddir iddynt gael profiad rhyngwladol drwy dreulio semester dramor yn un o’n prifysgolion partner yng Ngogledd America.
I’r rheiny nad ydynt yn dymuno treulio amser estynedig dramor, mae yna gyfleoedd i fynd ar ymweliadau byrrach naill ai ar daith gyfnewid neu un o’r teithiau rhyngwladol rheolaidd a redir gan dimau cwrs. Er ein bod yn rhoi pwys mawr ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd rydym hefyd yn cydnabod bod addysg gelf a dylunio yn daith o hunan-ddarganfyddiad. Rydym yn credu’n gryf mewn rhoi i’n myfyrwyr amser a lle i archwilio a dod o hyd i’w cyfeiriad eu hunain ac mae’n wirioneddol anhygoel beth sy’n esblygu. Mae parhau i fod yn gyfredol ym myd celf, dylunio a chyfryngau yn hanfodol. Mae gan y Coleg ddiwylliant ymchwil ffyniannus ac mae e wedi denu nawdd sylweddol i gefnogi prosiectau ymchwil. Mae’r rhan fwyaf o’n darlithwyr yn cynnal eu harfer eu hunain ac yn arddangos gwaith mewn lleoliadau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae hyn yn sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn elwa o weithio gydag artistiaid a dylunwyr o’r radd flaenaf sydd naill ai’n gweithio yn y Coleg neu’n ymweld ag ef fel rhan o dîm prosiect byw neu breswyliad. Yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, prifysgol hynaf Cymru a chanddi’r 3ydd Siarter Frenhinol hynaf yn Lloegr a Chymru, mae’n deg ein bod yn falch o’n traddodiadau. Mae meddu ar draddodiadau’n beth da, ond mae’n bwysicach fyth bod yn arloesol, yn greadigol ac yn flaengar. Enghraifft o’r ffordd o feddwl flaengar hon yw’r partneriaethau rydym wedi’u llunio gyda phrifysgolion ar draws Ewrop ac mae Coleg Celf Abertawe yn arwain yr Hwb Menter yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau a ariennir gan yr UE. Bydd y math yma o brosiect blaengar yn sicrhau bod Coleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant yn parhau i ddarparu profiad coleg celf rhyngwladol mewn prifysgol gyfredol ymhell i’r dyfodol.
Yr A t h r o I A N WA L S H Deon Coleg Celf Abertawe, Y Drindod Dewi Sant
5
Celf a Dylunio Mae Coleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant yn cydnabod pwysigrwydd Cymru a’i chymeriad arbennig trwy ddathlu asedau a threftadaeth ieithyddol a diwylliannol Cymru. Ein nod yw mewnosod diwylliant a threftadaeth Cymru yn ein dulliau addysgu a dysgu, gan greu’r cyfle i fyfyrwyr ryngweithio’n ddwyieithog o fewn cyd-destun lleol a byd-eang. Cynhelir yr addysgu dwyieithog yn ein stiwdios a gweithdai pwrpasol mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar ein myfyrwyr.
GYDA FFOCWS AR y myfyriwr mae’r Gyfadran Celf a Dylunio yn falch iawn ei bod yn gallu cynnig elfennau o’i darpariaeth Celf a Dylunio yn ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg) ar gampws Abertawe. Lle bo modd, ceir dysgu ac addysgu dwyieithog mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar y dysgwr o fewn stiwdios a gweithdai sydd wedi eu neilltuo i’r ddarpariaeth amrywiol a gynigir. Enillodd Tomos Sparnon, myfyriwr celf gain CCA, ysgoloriaeth yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2017. “Mae ennill yr ysgoloriaeth gelf yn fraint enfawr. Roedd ennill y Fedal Gelf yng Nghaerffili ddwy flynedd yn ôl yn brofiad ardderchog, a dim ond naturiol oedd i mi roi cynnig ar yr ysgoloriaeth. Mae fy ngwaith wedi newid a datblygu ers hynny ac mae gwybod bod beirniaid ac eraill yn dal i hoffi fy ngwaith yn rhoi hyder a symbyliad i mi ddal ati i arbrofi. Mae’r Eisteddfod yn agos at fy nghalon ac mae arddangos ynddi, a thrwy gyfrwng y Gymraeg, yn arbennig o bwysig i mi. Hoffwn ddiolch i’m darlithwyr yng Ngholeg Celf Abertawe am fy ysbrydoli bob dydd, ac am fy nghefnogi ar bob cam. Rwy’n gwbl argyhoeddedig na fyddai fy ngwaith fel y mae e heb eu cyfraniad nhw”. Tomos yw un o’n myfyrwyr sy’n ymgymryd â’u gradd drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda chefnogaeth ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’n arbennig o foddhaus gan ei fod wedi dewis astudio drwy gyfrwng y Gymraeg gan ddangos ei ymroddiad i gelf ac i’r iaith Gymraeg. Mae’r Arddangosfa yn Eisteddfod yr Urdd yn cael cannoedd o geisiadau gan ystod o grwpiau oedran sy’n arddangos creadigrwydd a dychymyg, sy’n hyfryd i’w weld. 6
Cangen Y Drindod Dewi Sant o’r
Coleg Cymraeg Cenedlaethol FEL UN O’R prif ddarparwyr addysg uwch cyfrwng Cymraeg yng Nghymru, mae’r Drindod Dewi Sant yn chwarae rhan flaenllaw o fewn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn cydweithio â’r Coleg i gynyddu cyfleoedd i fyfyrwyr ar sawl lefel. Mae’r Gangen yn weithgar ar draws holl gampysau’r Brifysgol gan gynnwys campws Coleg Celf Abertawe. Mae’r BA Celf Gain yn gymwys ar gyfer Prif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sef £3000 am astudio o leiaf 80 credyd o’r cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hefyd yn gymwys am Ysgoloriaeth William Salesbury, sef £5000 am eich cyfnod yn astudio’r radd. Cynigir yr ysgoloriaeth hon gan Gronfa William Salesbury i un o fyfyrwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n astudio 100% o’r cwrs yn y Gymraeg. Ewch i wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol www. colegcymraeg.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.Mae holl fyfyrwyr Cymraeg y Brifysgol yn cael eu hannog i ddilyn Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r Dystysgrif yn darparu cyfle euraidd i fyfyrwyr ennill cymhwyster sy’n dangos eu sgiliau iaith Cymraeg, ac sy’n eu galluogi i ddangos tystiolaeth i gyflogwyr o’u gallu i gyfathrebu’n hyderus ac yn broffesiynol yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mae’r Brifysgol yn darparu cyfleoedd i bob myfyriwr dderbyn sesiynau a chefnogaeth gan diwtor iaith sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer y Dystysgrif. Ceir rhagor o wybodaeth i ddarpar fyfyrwyr ar wefan y Dystysgrif: sgiliauiaith.colegcymraeg.ac.uk Os hoffech chi glywed rhagor am Gangen y Drindod Dewi Sant, mae croeso i chi gysylltu â’r Swyddog Cangen, Bethan Wyn Davies ar b.davies@pcydds.ac.uk neu 01267 676618.
Cangen y Drindod Dewi Sant
@CangenDDS
7
8
Beth sy’n ein gwneud ni mor arbennig? Wedi ein sefydlu dros 165 o flynyddoedd yn ôl... Rydym yn fach, cyfeillgar ac anffurfiol gydag ychydig dros fil o fyfyrwyr yn y gyfadran. Golyga hyn bod y staff yn hawdd siarad gyda nhw ac ar gael i’ch helpu, eich cefnogi a’ch herio. Hefyd, mae’n caniatáu mynediad rhagorol i’n lleoedd stiwdio a chyfleusterau hael sydd i gyd yn cynnwys yr offer mwyaf cyfredol.
9
Mae popeth er eich mwyn chi MAE LEFELAU’R AMSER A GAIFF MYFYRWYR G Y D A S TA F F Y M H L I T H YR UCHAF YN Y WLAD.
10
©A.M.P.A.S.®
Jens Hansen
Roedd tri o’n graddedigion yn rhan o dîm a enillodd Oscar yn 2017 am eu gwaith ar The Jungle Book
Ein Graddedigion yn mwynhau llwyddiant yn ‘New Designers’ 2017. Roedd y gwobrau’n cynnwys Gwobr Stiwdio Hallmark, Gwobr Cydymaith y Marketing Store a Gwobr Peroni am ddylunio.
RYDYM WEDI adeiladu’r enw da sydd gennym o ganlyniad, yn bennaf, i’n myfyrwyr a’n graddedigion. Mae llawer wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd nodedig yn y celfyddydau, neu wedi sefydlu cwmnïau dylunio gwerth miliynau o bunnoedd. Mae eraill yn gweithio i gwmnïau fel Lego, McLaren a Monsoon ac mae rhai graddedigion yn gweithio i wneuthurwyr ffilmiau a chynhyrchwyr cyfryngau enwog, gan gynnwys y BBC ac ITV. Nod ein prosiectau allanol yw cymhwyso eich creadigrwydd unigol ac ymestyn eich ymdrechion drwy ymgysylltu â’r farchnadle allanol. Mae’r prosiectau hyn wedi bod yn gweithredu’n llwyddiannus ers llawer o flynyddoedd ac yn aml maent wedi darparu gwaith i fyfyrwyr wedi iddynt raddio.
E N I L LW Y R G WO B R A U Mae ein myfyrwyr yn ennill gwobrau’n rheolaidd a rhoddir cyfle iddynt arddangos eu gwaith drwy gydol eu cyrsiau. Cynhelir sioeau graddedigion yn Abertawe a Llundain lle bydd myfyrwyr yn arddangos eu gwaith mewn arddangosfeydd mawreddog gan gynnwys New Designers a D&AD New Blood.
ASTUDIO DRAMOR Yn ystod eich amser gyda ni, cewch hefyd gyfle i astudio dramor gyda rhaglen gyfnewid Erasmus, sy’n rhedeg gyda phrifysgolion yn Norwy, Barcelona a’r Ffindir ar hyn o bryd.
11
Ein Cyn-fyfyrwyr Mae ein graddedigion yn gweithio ledled y byd ac mae llawer ohonynt yn canfod bod derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a bod yn ddwyieithog yn rhoi mantais iddynt yn y gweithle.
GARETH REES Yn Gweithio i Adidas yn yr Almaen Wedi graddio o’r cwrs BA Dylunio Cynnyrch FEL DYLUNYDD i dîm rhyngddisgyblaethol Adidas Future rwyf yn gweithio gyda pheirianwyr a gwyddonwyr chwaraeon i greu a datblygu dyfodol y brand. Mae’n rôl gyffrous mewn adran arloesol a hynod gyfrinachol, ble rydym yn gweithio ar gynnyrch sy’n dair i ddeng mlynedd o flaen y diwydiant presennol.
12
RHIAN HAF Artist Gwydr Wedi graddio o’r cwrs MA Gwydr
GRADDIAIS o Abertawe gyda rhagoriaeth mewn MA Gwydr. Darparodd y cwrs sylfaen gadarn i mi o ran datblygiad fy ngwaith artistig. Dros y blynyddoedd, ochr yn ochr â chreu fy ngwaith fy hun, rwyf wedi ymgymryd â llawer iawn o brosiectau, digwyddiadau a phreswylfeydd celf - proffesiynol, addysgol a rhai gyda ffocws cymunedol. Mae gwydr yn gelfyddyd mor unigryw ac arbenigol ac mae’r gallu i rannu fy ngwybodaeth a’m harbenigedd o’r maes, drwy ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn werthfawr tu hwnt, boed hynny ar ffurf gweithdai mewn ysgolion neu gyflwyniad i gorff proffesiynol. Mae angen bod yn hyblyg i weithio yn y diwydiannau creadigol ac mae’r gallu i ddarparu a chyflwyno yn ddwyieithog yn rhan bwysig o hynny yn fy mhrofiad i.
R H I A N N O N S PA R K S Uwch Ddylunydd Graffeg Canolfan Peniarth Wedi graddio o’r cwrs BA Darlunio YN YSTOD FY 8 mlynedd yn gweithio fel dylunydd graffeg a darlunydd ar gyfer Canolfan Peniarth (tŷ cyhoeddi’r Brifysgol ar gyfer adnoddau addysgol) rwyf wedi bod yn cymryd gwersi Cymraeg ochr yn ochr â’m gwaith. Wrth i fy Nghymraeg ddatblygu, rwy’n teimlo bod fy ngwerth i’r sefydliad wedi cynyddu. Rwy’n dylunio a chreu llyfrau ac adnoddau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, felly mae’r gallu i ddeall testun a chyfarwyddiadau awduron yn hanfodol i’m rôl. Rwyf wrth fy modd yn gweithio mewn amgylchedd creadigol a dwyieithog.
13
E I R I A N D AV I E S Athro Ysgol Gynradd Wedi Graddio o’r BA Celf a Dylunio MA Celf Gain Deialogau Cyfoes YN Y brifysgol astudiais fy ngradd BA drwy gyfrwng y Gymraeg ac yna fy ngradd Meistr yn ddwyieithog. Mae’r gallu i drafod syniadau am gelf drwy gyfrwng y Gymraeg wedi fy ngalluogi i greu gwaith sy’n ymwneud â’m diwylliant a’m hunaniaeth. Mae gweithio’n ddwyieithog wedi agor y drws i gyfleoedd ac opsiynau ehangach na fyddai wedi bod yn bosib petawn yn gweithio trwy gyfrwng un iaith yn unig.
14
DAFYDD WILLIAMS Artist Preswyl Celf a Dylunio Wedi Graddio o’r BA Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau “DERBYNIAIS RADD dosbarth 1af, mewn Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau yn 2016 ac ar ôl hynny fe wnes i breswyliaeth yn yr adran ffotograffiaeth, diolch i gynllun gan y brifysgol i raddedigion Celf a Dylunio. Ers mis medi rwyf wedi bod yn ffodus i gael swydd cyfrwng Cymraeg yn gweithio fel Artist Preswyl Celf a Dylunio yn Ysgol Gelf Abertawe yn y Brifysgol. O ddechrau’r radd tan nawr, rwyf wedi cael profiadau anhygoel yn y celfyddydau yn gweithio gyda chwmnïau y tu fewn a thu allan i’r brifysgol, cwrdd â siarad gydag artistiaid proffesiynol, cyhoeddwyr, ac arddangosfeydd, datblygu fy sgiliau ffotograffiaeth, gwneud gweithdai gyda myfyrwyr yn y brifysgol a gyda disgyblion ysgolion a churadu arddangosfeydd. Llynedd, cefais hefyd gyfle i helpu i guradu arddangosfa Celf a Dylunio yr Urdd. Dwi ddim yn un sy’n cynllunio’n ormodol i’r dyfodol ond rwy'n cymryd pob cyfle fel y maent yn codi, rwy’n gweithio'n galed ac yn rhwydweithio ac felly mae rhywbeth yn dod i’r amlwg bob tro. Roeddwn wrth fy modd â’r radd ffotograffiaeth a chefais fy addysgu gan ddarlithwyr anhygoel!”
15
Beth sydd gennym R Y D Y M Y N PA R C H U A D AT H L U EIN TRADDODIADAU.
DYMA PAM rydym wedi cadw offer a phrosesau traddodiadol ym meysydd gwydr, cerameg, gwneud printiau a ffotograffiaeth. Ond rydym hefyd yn flaengar ac mae’r adeilad yn llawn dop o dechnoleg newydd. Mae lleoedd stiwdio, ystafelloedd crit ac ystafelloedd cyfrifiaduron ar gael ar draws y campysau gan alluogi i fyfyrwyr gael mynediad at gyfleusterau o hyd. Felly, p’un a fyddwch yn dewis gweithio gyda phrosesau traddodiadol neu gyda thechnolegau newydd, neu ar draws y ddau, mae popeth yma i chi. Mae’r posibiliadau creadigol yr un mor gyffrous ag ydynt eang.
Carwch eich Man Dysgu Grym creadigol dĹľr
18
MAE AWYRGYLCH BRAF YMA DINAS AR LAN y môr yw Abertawe, lle gwych i fyw ac astudio: yn ddigon mawr i roi ichi’r lle y byddwch ei angen; yn ddigon bach i roi ichi deimlad o berthyn, mae’n llawn posibiliadau a phobl o’r un meddylfryd. Wedi’i lleoli ger Penrhyn Gŵyr, “Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol”, gyda lleiniau godidog o draethau tywodlyd hir, a golygfeydd anhygoel ac ysbrydoledig ar stepen eich drws. Mae gennym yr holl amwynderau a gweithgareddau diwylliannol y byddech yn eu disgwyl mewn Dinas Brifysgoltheatrau, sinemâu, orielau gwych, amgueddfeydd, bwytai, bariau a bywyd nos gwych i fyfyrwyr. Hefyd, mae gennym ardal forol sydd wedi ennill gwobrau, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, pwll nofio maint Olympaidd a nifer o chwaraeon gan gynnwys syrffio, beicio mynydd, padl fyrddio, dringo, tennis i enwi ond rhai. Ar ben hynny, mae costau byw yn rhesymol iawn yma o gymharu â’r rhan fwyaf o ddinasoedd prifysgol eraill. Mae gan Abertawe bersonoliaeth fawr iawn a dyma’r lleoliad perffaith i ddechrau eich taith creadigol.
19
Sîn Gelf Abertawe Mae Abertawe wedi cael ei chynnwys ar restr fer Dinas Diwylliant 2021, teitl a ddyfernir i un o ddinasoedd y DU am flwyddyn. Byddai ennill statws Dinas Diwylliant y DU ar gyfer 2021 yn arwain at hwb ariannol gwerth miliynau o bunnoedd i Abertawe. Mae’r Drindod Dewi Sant yn bartner allweddol yng nghais Dinas Diwylliant y DU 2021 Abertawe, trwy ei chymuned greadigol a thrwy helpu i ddatblygu’r diwydiannau creadigol, cyfleoedd seiliedig ar waith a rhaglenni sgiliau hir dymor ar gyfer y ddinas.
Mae Abertawe yn gartref i amrywiaeth o leoliadau ar gyfer y celfyddydau gan gynnwys orielau, lleoliadau cerddoriaeth a theatr. Mae’r ddinas hefyd yn cynnal amrywiaeth o wyliau celf trwy gydol y flwyddyn.
Oriel Mission: oriel celf a chrefft weledol gyfoes, y mae Coleg Celf Abertawe wedi bod yn bartner pwysig ynddi, gan helpu gyda chyflwyno rhaglenni cyhoeddus a phreswyliaethau.
Galerie Simpson: oriel ddielw annibynnol sy’n arddangos artistiaid rhyngwladol a lleol.
Oriel Glyn Vivian: oriel bwysig yng Nghymru gyferbyn â Choleg Celf Abertawe. Mae’n ganolfan rhagoriaeth ar gyfer y celfyddydau gweledol yng Nghymru. Mae’r oriel wedi cynnal ystod o arddangosiadau cenedlaethol a rhyngwladol pwysig ers 1911.
Theatr Grand Abertawe: lleoliad celfyddydau perfformio hanesyddol sy’n cynnal sioeau comedi, theatr deithiol, pantomeims a dawns.
Oriel Elysium: menter gymdeithasol ddielw a arweinir gan artistiaid sy’n cynnwys 60+ o leoedd stiwdio ac oriel gelf gyfredol yng nghanol dinas Abertawe. Celf ar draws y Ddinas Locws International: elusen a arweinir gan artistiaid sydd wedi ennill gwobrau a sefydlwyd yn 1999 gyda’r nod o wneud y celfyddydau mor hygyrch â phosibl i’r cyhoedd. 20
Theatr Volcano: Cwmni celfyddydau bach, egnïol ac ymatebol.
Taliesin: mae’r theatr yma’n cynnal rhaglen o ddigwyddiadau ac amrywiaeth o berfformiadau byw. O ddawns a drama i jazz a cherddoriaeth y byd. Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas: gwobr nodedig i ysgrifenwyr ifanc a gyflwynir yn flynyddol er cof am yr ysgrifennwr a bardd o Abertawe, Dylan Thomas. The Garage: lleoliad cerddoriaeth fyw mewn awyrgylch diffwdan.
Mae gan Abertawe hefyd dreftadaeth jazz cryf ac mae’n cynnal gŵyl Jazz Rhyngwladol Abertawe ac mae’r Brifysgol yn cadw Archif Jazz Cymru. Swigen Greadigol: yn defnyddio creadigrwydd myfyrwyr i ddarparu digwyddiadau llawn hwyl, cyffrous ac annisgwyl ar draws Canol Dinas Abertawe. Mae Abertawe hefyd yn gartref i ystod eang o leoliadau celf annibynnol gan gynnwys Cinema & Co.
+
+
+
+
*
+
*
*
*
+ + VO L C A N O T H E AT R E
*CINEMA&CO
21
Pwy ydy pwy 22
Rydym wedi dylunio modylau a fydd yn eich helpu i gael sgiliau proffesiynol a gwneud cysylltiadau rhagorol gyda’r diwydiannau creadigol a’r rhwydweithiau oriel felly pan fyddwch yn graddio bydd gennych ‘droed yn y drws’ yn barod. MAE NIFER SYLWEDDOL o gwmnïau’n cynnig lleoliadau a swyddi i’n myfyrwyr. Mae gennym hefyd restr helaeth o ddarlithwyr gwadd ac athrawon arfer sy’n gweithio gyda’n myfyrwyr.
Mae ein holl raglenni’n elwa o dîm o staff cymwys iawn sy’n ymchwilio’n weithredol, yn arddangos yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac yn cymryd rhan yn aml mewn prosiectau gyda’r Diwydiant. Mae llawer o’r staff yma wedi ennill enwau da rhyngwladol am eu hymchwil arloesol a’u harfer creadigol. Mae staff wedi cynrychioli Cymru yn Biennale Fenis ac wedi cael eu cynnwys ar restr fer Gwobr Artist Mundi. Mae gan eraill gyfoeth o brofiad o’r diwydiant.
ENILLODD JULIA GRIFFITH JONES, darlithydd Dylunio Patrwm Arwyneb, y Fedal Aur am Grefft a Dylunio yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2017 “Mae bod yn Gymraes, ond yn un sy’n cael ei hysbrydoli gan gelf Ddwyrain Ewrop, wedi golygu bod fy mywyd a’m harfer artistig wedi asio syniadau o nifer o wledydd. Y gwaith diweddaraf hwn “Room within a Room”, yw anterth fy hoff luniadau o nifer o wahanol deithiau, wedi’u gwneud yma mewn weiar, gan uno’r hyn a gofir a’r presennol.” Yn y blynyddoedd diweddar, mae staff o Goleg Celf Abertawe y Brifysgol wedi cael llwyddiant mawr yn y gystadleuaeth hon gyda Peter Finnemore yn ennill y Fedal Aur yn 2005, Tim Davies yn 2003 a Sue Williams yn 2000. Eisteddfod Genedlaethol Cymru yw’r ŵyl flynyddol gerddoriaeth a barddoniaeth gystadleuol fwyaf yn Ewrop i ddathlu diwylliant Cymreig, Eisteddfod yr Urdd sy’n cyfateb â hyn i bobl ifanc. 23
Dylunio Patrwm Arwyneb Diben y portffolio Dylunio Patrwm Arwyneb yw creu arwynebau a strwythurau cyffrous ac arloesol, sy’n ystyried lliw, gwead, delwedd a chysyniad o fewn cyd-destun arfer dylunio cyfoes.
GALL Y BYD i gyd fod o’ch blaen chi drwy’r cwrs hwn. Mae gennym ystod arbennig o offer digidol a chyfleusterau gan gynnwys ystafelloedd cyfrifiaduron o’r radd flaenaf, torwyr laser ac ysgythrwyr, argraffwyr tecstil digidol, brodio digidol a thorrwr chwistrell dŵr. Mae ein hoffer annigidol yr un mor nodedig, gyda chyfleusterau llawn ar gyfer lliwio, printio sgrin, pwytho, gwaith metel a llawer mwy. Yn ogystal â hyn, bydd gennych eich lle personol eich hun yn ein stiwdio fywiog, golau ac awyrog sydd â lle i bob un o bedair blynedd y cwrs. Rydym yn canolbwyntio ar ysbrydoliaeth greadigol, a fydd yn eich caniatáu i ddatblygu eich llais a’ch arddull yn llawn. Mae’r rhaglen wedi’i strwythuro i alluogi i ddysgwyr barhau i weithio yn y maes y maent wedi datblygu arbenigedd penodol ynddo ac i wneud hynny gydag angerdd creadigol a gallu i adnabod a gwneud y gorau o gyfleoedd. Mae myfyrwyr y flwyddyn olaf yn cael y cyfle i arddangos eu gwaith yn yr arddangosfa ‘New Designers’ yn Llundain.
24
D Y L U N I O PAT R W M A R W Y N E B
Anna Bruce
Rachel Rosser
25
L LW Y B R A U D Y L U N I O PAT R W M A R W Y N E B
Gwneuthurwr Mae’r llwybr gwneuthurwr, gyda materoliaeth wrth ei wraidd, yn bodloni anghenion myfyrwyr sy’n dymuno arbenigo fel gwneuthurwyr dylunwyr, gan wneud darnau arloesol, unigryw neu mewn sypiau bach. COD UCAS BA YDDS: W790
MDes: T5F3
Stacey Mead
Yn addas ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno dylunio a chyfoethogi mannau mewnol gyda thecstilau a gorchuddion wal arloesol – o fasnachol i gysyniadol. COD UCAS BA YDDS: W235
MDes: 5RC2
Georgina Angelone
Tecstilau ar gyfer Ffasiwn
Gwrthrych Ffasiwn
Ar gyfer y myfyrwyr hynny sy’n dymuno dylunio ar gyfer anghenion pellgyrhaeddol a chyson newidiol y diwydiant ffasiwn – o’r stryd fawr i’r pen uchaf.
Y nod yw cynhyrchu dylunwyr a gwneuthurwyr sy’n gallu creu gwrthrychau o’r radd flaenaf ar gyfer y corff, gan gwestiynu swyddogaeth, ffurf ac addurniad, a dylanwadu ar y ffordd rydym yn edrych, teimlo a gwisgo ffasiwn.
COD UCAS BA YDDS: W234
COD UCAS BA YDDS: W230
Rachel Rosser
26
Tecstilau ar gyfer Addurno Mewnol
MDes: 8V7C
Catrin Walsh
MDes: Y28U
D Y L U N I O PAT R W M A R W Y N E B
ROSIE COOK Un o’n Graddedigion Dylunio Patrwm Arwyneb MAE ROSIE COOK wedi graddio o’r cwrs Dylunio Patrwm Arwyneb. Mae hi nawr yn byw yn Stockholm yn gweithio fel Dylunydd Tecstilau i H&M ac mae casgliad newydd ganddi ar fin cael ei lansio gyda Made.com. Mae Rosie wedi arddangos ei gwaith mewn nifer o arddangosfeydd cenedlaethol gan gynnwys Interiors UK a New Designers One Year On. Mae hi wedi cael gwaith yn Dylunydd gweithio ar ei liwt ei hun ac wedi lansio ei dyluniadau printiedig mewn casgliad o Tecstilau i H&M sydd â chasgliad sgarffiau o dan ei henw ei hun. Datblygodd arddull liwgar a chwareus newydd ar fin Rosie yn ei thrydedd flwyddyn yn y brifysgol trwy ei chariad at baentio, cael ei lansio collage a phatrwm. Mae’n parhau i gael gyda Made.com ei hysbrydoli gan deithiau, tirluniau ac arfordir cyfarwydd Sir Benfro. “Mae llawer o’m cyraeddiadau wedi codi drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau dylunio sy’n rhan o’r prosiect mawr terfynol. Mae popeth a ddysgais yn Abertawe wedi bod yn ddefnyddiol mewn bob math o ffyrdd o roi portffolio gwych at ei gilydd i weithio ar friffiau dylunio byw” Rosie Cook ar gyfer Made
27
Cydbwyso Gweledigaeth Greadigol ac Allanoldeb 28
D Y L U N I O PAT R W M A R W Y N E B
MAE’R RHAGLEN Dylunio Patrwm Arwyneb wedi’i strwythuro i alluogi ein dysgwyr i raddio a pharhau i weithio yn y maes y maent wedi’i ddatblygu arbenigedd penodol amdano – gyda chreadigrwydd estynedig a gallu i adnabod a gwneud yn fawr ar gyfleoedd. Gwneir hyn drwy raglen sydd wedi’i mireinio, ac yn cydbwyso gweledigaeth greadigol ac allanoldeb, lle caiff sgiliau penodol sydd eu hangen yn y maes ymarferol Mae H&M wedi ymweld ag eu hadnabod a’u datblygu. Abertawe o Sweden nifer Caiff prosiectau ymarferol o weithiau yn y 2 flynedd eu rhoi mewn cyd-destun diwethaf, gan roi i fyfyrwyr gwir o’r cychwyn cyntaf ac mae’r flas ar y cwmni, y disgwyliadau rhaglen theori yn atgyfnerthu hyn. Cynhelir prosiectau byw a’r broses ddylunio sy’n cael ei drwy gydol y 4 blwyddyn. meithrin o fewn y brand. Yn ddiweddar, rydym wedi
mwynhau prosiect byw sylweddol gyda phencadlys dylunio H&M yn Stockholm, a gyrhaeddodd ei anterth gyda 6 myfyriwr yn cael eu cymryd am leoliadau tri mis â thâl i weithio gyda’r tîm dylunio print. Mae proses dylunio’r myfyrwyr wedi eu harwain drwy luniadu, adrodd ar siopau, ymchwil ar gystadleuwyr, proffilio cwsmeriaid, creu byrddau hwyl, dadansoddi lliw, datblygu patrwm a lluniadu ffasiwn. Mae’r prosiect wedi gofyn i’r myfyrwyr wneud llawer o bethau newydd; bod yn gryno yn eu dewisiadau dylunio, ffocysu’n gyson ar y brand a phroffil y cwsmer ar yr un pryd â sicrhau bod yna weledigaeth greadigol gadarn mewn ymateb i’r duedd, a bod eu dyluniadau’n wreiddiol ac yn ysbrydoli! Ers ymgymryd â’r prosiect mae un o’n hisraddedigion wedi cael swydd gan y brand ac wedi symud o Gymru i Stockholm i ddechrau antur newydd!
29
30
CYFLEUSTERAU PATRWM ARWYNEB MAE EIN GWEITHDAI ARBENIGOL YN CYNNWYS:
Mae ein cyfleusterau arbenigol yn cynnwys stiwdio argraffu draddodiadol, lab lliwio, gwasg gwres roler, gweisg gwres fflat, stemio, cyfleusterau golchi a sychu, ystafell bwytho, argraffwyr tecstil digidol, peiriant brodio digidol, cyfrifiaduron, peiriant tyllu nodwydd â gwely 900 nodwydd ac ein plotydd, offer torri ac ysgrythur â laser a dŵr, ac yn olaf gweithdy gwaith metel a lledr bach. Hefyd, gall myfyrwyr gyrchu’r ystod anhygoel o gyfleusterau sydd gan y Gyfadran drwy ein cynllun Gweithdai Mynediad Agored, ond heb os, bydd myfyrwyr Patrwm Arwyneb yn cymryd rhan mewn gwneud printiau, gwydr, cerameg ac enamel drwy’r arbenigedd sydd gan dîm addysgu’r rhaglen.
31
Mark Eley o’r cwmni ffasiwn a dylunio byd-eang, Eley Kishimoto
Cysylltodd Mark â thîm y cwrs y llynedd ar ôl cael ei ysbrydoli i wneud hynny ar ôl gweld ein ffrwd Instragram fywiog, yn sôn am yr ethos dylunio ac egni a rannwn gydag Eley Kishimoto. Ers hynny, rydym wedi bod yn datblygu ffyrdd i weithio gyda’n gilydd ac, eleni, penodwyd Mark yn Athro Arfer.
GAN FYW YN ÔL Y WIREB “Print The World”, mae Eley Kishimoto wedi ceisio creu gwaith a gyflawnir mewn ffordd syml, clir ei fwriad, gan arddangos dawn greadigol unigryw sy’n gwrthod mympwyon a chwiwiau byrhoedlog. O bartneriaeth a ffurfiwyd ar ddechrau’r 90au, datblygodd enw da’r cwmni am ddyluniadau print brathog a deallus yn gyflym ac ymddangosodd eu crefftwriaeth ar bomprennau’r byd drwy waith gyda Louis Vuitton, Marc Jacobs, Alexander McQueen, Alber Elbaz a Jil Sander, i enwi ond rhai. Ar hyn o bryd, mae Mark Eley a Wakako Kishimoto yn gyfarwyddwyr artistig ar linell newydd i farchnad Siapan Laura Ashley London ac wedi cydweithio ar waith gyda beiciau modur BMW, cwrw Duvel, Incase (ategolion Macbook, iPhone, iPad) a Vans Shoes ymhlith eraill. Rydym wedi gweithio gyda Mark Eley i ddylunio ffordd arloesol a manteisiol i’w rôl Cadair Athro cael effaith bositif ar brofiad myfyrwyr Dylunio Patrwm Arwyneb. Dechreuodd Mark arni’r flwyddyn academaidd ddiwethaf gyda’i ddarlith ysbrydoledig i’r Ysgol Dylunio a Chelf Gymhwysol gyfan, yn gosod y dôn ar gyfer yr hyn sydd i ddod. O’r fan honno rydym wedi llunio rôl mentoriaeth i Mark, yn ei alinio’n agos gyda charfan benodol. Y cynllun yw
32
y bydd Mark yn gweithio gyda Myfyrwyr Glas DPA 2016 drwy brosiect byw yn eu hail flwyddyn, 2017-18 ac yna iddo fentora grŵp llai o’i enillwyr dethol ar gyfer gweddill eu rhaglen. Rydym yn rhagweld y byddant yn cael profiad dysgu unigryw trwy’r ymagwedd addysgol arbrofol hon ac rydym yn bwriadu olrhain y profiad o gydweithio, a gwaith a wnaed yn ystod ei oes, a’i rannu mewn nifer o ffyrdd – stori ffotograffau, llyfr, blog, papur academaidd, arddangosfa, digwyddiad. Byddwn yn caniatáu i’r myfyrwyr arwain ar y penderfyniadau hyn a’r cysylltiadau a gânt gyda Mark o ganlyniad. Mae myfyrwyr eraill ar y rhaglen yn elwa o brosiectau talu gwrogaeth i Eley Kishimoto. Er enghraifft, bydd ein myfyrwyr 3ydd a 4edd blwyddyn yn dylunio patrymau i’w gosod o gwmpas y ddinas trwy brosiect o’r enw #swanseastreetwrap a fydd yn cael eu dadorchuddio yn y Gwanwyn 2018. Gobaith y prosiect hwn yw atseinio ymagwedd ragweithiol Eley Kishimoto at batrymu’r byd, ac ysbryd creadigrwydd a chymuned rymusol y deuawd. Byddwn yn rhannu gwaith y ddau brosiect yma ac effaith cychwynnol Cadair Athro Mark, mewn arddangosfeydd a gynhelir ar yr un pryd ym mis Ionawr / Chwefror 2018. Cadwch lygad yma!
Dyluniad Flash gan Eley Kishimoto
Mae Mark Eley yn cynrychioli popeth rydym yn gobeithio ei feithrin yn ein myfyrwyr; awch anniffoddadwy am greadigrwydd a dylunio, egni anhygoel am gynhyrchu gwaith a pharodrwydd i gydweithio gyda phobl greadigol o feddylfryd tebyg. Yn ei ddarlith ysbrydoledig, rhannodd gwerth 20+ o flynyddoedd o frand Eley Kishimoto, gan adfyfyrio’n onest ar yr heriau a’r camgymeriadau yn ogystal â’r llwyddiannau a’r ymfoddhad a brofodd.
Mae’r fenter hon yn croesawu Mark yn ôl fel un o Gyn-fyfyriwr cwrs Sylfaen Y Drindod Dewi Sant, wrth i Eley Kishimoto nesáu at eu pen-blwydd yn 25. Mae pethau cyffrous i ddod.
33
Crefftau Dylunio O wydr i emwaith, mae ein cwrs Crefftau Dylunio yn rhoi ichi’r rhyddid i ddarganfod eich llais creadigol ac yn eich helpu i gynllunio llwybr gyrfaol drwy’r posibiliadau amrywiol sydd ar gael.
BYDD Y RADD Crefftau Dylunio yn rhoi ichi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio gyda gwahanol ddefnyddiau gan gynnwys gwydr, cerameg, gemwaith a chyfryngau cymysg gan ddewis meysydd penodol i ganolbwyntio arnynt. Byddwch yn datblygu sgiliau gwneud â llaw traddodiadol yn ogystal â gwybodaeth a phrofiad o brosesau cyfoes fel torri ac ysgythru â laser, torri â chwistrell ddŵr ac argraffu 3D. Cewch eich cefnogi wrth ddatblygu eich syniadau a dyluniadau creadigol drwy gydol y cwrs. Bydd ein tîm o ymarferwyr crefft sefydledig a thechnegwyr profiadol yn cefnogi datblygiad eich syniadau a dyluniadau creadigol trwy gydol y cwrs ac yn eich cyflwyno i arloeseddau cyfredol mewn defnyddiau a phrosesau i sicrhau bod gennych y sgiliau a’r wybodaeth ddiweddaraf. Byddwch yn astudio ystod eang o brosesau gan gynnwys: adeiladu cerameg; prosesau gwydr gan gynnwys castio, ffiwsio a ‘slympio’; technegau oer a pate de verre;
34
technegau gemwaith traddodiadol a chyfoes; castio amlgyfrwng yn ogystal ag amrywiaeth o brosesau adeiladu a ffurfio ar gyfer pren, metelau, plastigau, gwydr ffibr, resinau ac electro-ffurfio. Cewch eich cyflwyno i ddylunio â chymorth cyfrifiadur (2D a 3D) fel y gallwch weithio gyda phrosesau sy’n cynnwys argraffu 3D, ysgythru a thorri â laser, torri â chwistrell ddŵr a melino CNC. Bydd cael profiad o ystod eang o ddefnyddiau a phrosesau yn eich galluogi i ddatblygu ymagwedd bersonol iawn at greu arteffactau gwerthfawr pwrpasol neu a gynhyrchir mewn sypiau a nwyddau moethus ar gyfer amrywiaeth o gymwysiadau gan gynnwys: pensaernïaeth, dylunio mewnol, gwrthrychau celf (i’w gwerthu trwy orielau neu drwy gomisiwn) a gemwaith. Caiff y cwrs ei gyflwyno drwy gyfres o sesiynau a addysgir sy’n seiliedig ar weithdai, tiwtorialau, lleoliadau gwaith, prosiectau byw, briffiau a chystadlaethau dylunio, oll wedi’u tanategu gan astudiaethau gweledol ac arferion hanesyddol a chyd-destunol.
C R E F F TA U DY L U N I O
I W N E U D C A I S C Y S Y L LT W C H Â’ R B R I F Y S G O L
35
Gwydr Mae’r cwrs bywiog hwn yn cynnig cyfle cyffrous i chi arbenigo mewn gweithio gyda a deall rhinweddau defnydd rhyfeddol, sef gwydr. Mae sgiliau ymarferol a gwneud yn rhan annatod o’r adran wydr.
GYDA THREFTADAETH gref a thraddodiad o wydr lliw, wedi’i gyflenwi gan dechnoleg o’r radd flaenaf ac ymagweddau cyfoes, rydym yn gwneud ein gorau i amddiffyn y traddodiadol a bod yn arloesol at y dyfodol. Y cwrs gwydr yn Abertawe yw’r cwrs gwydr lliw hynaf yn y DU. Gyda hanes mwy nag 80 blynedd, mae adran Wydr Coleg Celf Abertawe yn parhau i ffynnu ac arloesi wrth ddarparu rhaglenni BA, MA a PhD. Mae’r dreftadaeth unigryw hon yn gwneud Abertawe’n fan ffocws ar gyfer addysg wydr. Mae ein cyn-fyfyrwyr yn cynnwys nifer o arweinwyr ym maes Gwydr Pensaernïol fel Alexander Beleschenko a Martin Donlin. Mae gan ein graddedigion a’n cyn-fyfyrwyr bortffolio trawiadol o gomisiynau a phrosiectau pensaernïol rhyngwladol. Mae prosiectau allanol yn nodwedd gyson o fewn y cwrs gwydr. Byddwch yn ymgymryd â phrosiectau masnachol gyda chymorth Canolfan Gwydr Pensaernïol y Brifysgol, gan sicrhau eich bod yn gadael gyda’r sgiliau a’r profiad angenrheidiol ar gyfer y diwydiant a byd gwaith. O baentio â llaw traddodiadol a gwydr cynnes i lu o gymwysiadau digidol, fe gewch eich cefnogi wrth ichi ddatblygu eich syniadau creadigol a chyflawni eich uchelgeisiau. Cewch y rhyddid creadigol i weithio gydag ystod o brosesau a chymwysiadau gwydr, o Bensaernïaeth i Gynnyrch a Chelf Gain. Cyflwynir y cwrs trwy weithdai, tiwtorialau, prosiectau, briffiau byw a chystadlaethau. Bydd ein staff ymchwil gweithredol yn eich cyflwyno i’r technolegau newyddaf mewn defnyddiau a phrosesau i sicrhau bod gennych y sgiliau a’r wybodaeth ddiweddaraf. 36
GWYDR
Charleigh Barlow
Louis Jawad
C O D U C A S B A Y D R I N D O D D E W I S A N T: W 7 7 0 | M D e s : 5 H 3 M
37
O bensaernïaeth eiconig i arfer stiwdio gyfoes, mae Gwydr yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd gyrfaol cyffrous. Bydd ein cwrs Gwydr yn rhoi ichi blatfform i ddarganfod eich llais creadigol ac yn eich helpu i gynllunio llwybr gyrfaol ymhlith yr amrywiol bosibiliadau sydd ar gael.
SARAH KNIGHTON Un o’n Graddedigion Gwydr
ROEDD CWRS ABERTAWE yn teimlo fel adref i mi, roedd yr amgylchedd yn gyfforddus ac roedd yr holl staff yn gweithio gyda’i gilydd fel teulu. Roedd pawb yn groesawgar a chynhwysol. Roedd yn awyrgylch bywiog a chyfoethog i fod yn rhan ohono. Roedd y myfyrwyr o bob oed ac o bob cefndir, roedd Roedd yr gan yr athrawon wir gariad at wydr ac roedd amgylchedd syniadau a gwybodaeth yn llifo. Fel myfyriwr yn un bywiog, aeddfed, nid oed gennyf ddim cefndir mewn llawn hwyl i fod celf ond fe ddangosodd yr athrawon i mi sut i yn rhan ohono ddatgloi fy mhotensial. Rhoddodd y cwrs gwydr i mi sylfaen cryf o wybodaeth rwyf wedi adeiladu fy ngyrfa arno. Nid oeddwn wedi ystyried gweithio ym maes cadwraeth gwydr lliw yn ystod fy astudiaethau ond ers hynny rwyf wedi darganfod y gallaf ddefnyddio technegau a defnyddiau newydd o fewn crefft traddodiadol. Cefais fy nysgu am dechnegau a chymwysiadau modern a thraddodiadol. Rwy’n gweithio i Holy Well Glass, un o’r prif stiwdios cadwraeth annibynnol, lle dechreuais fel gweithiwr dros dro un haf 9 mlynedd yn ôl a bellach, fi yw rheolwr y stiwdio ac yn gyfrifol am dîm bach ac rwyf yn y broses o wneud cais am achrediad ICON. Mae Holy Well yn gweithio ar bob math o wydr pensaernïol, o gyfres o wydr lliw canoloesol ym mhresbytri Cadeirlan Winchester i oleuadau plwm addurnedig yng Nghastell Windsor. Mae’r gwaith yn llawn amrywiaeth o ran y gwydr lliw rydym yn gweithio arno a’r heriau sy’n codi yn sgil hyn. Er bod gwydr lliw yn grefft draddodiadol, mae’n esblygu’n gyson ac rydym ni fel ymarferwyr yn dysgu ac yn esblygu’n gyson gydag ef.
38
GWYDR
Roedd y cwrs yn Abertawe yn teimlo fel adref i mi SARAH KNIGHTON UN O’N GRADDEDIGION 39
40
CYFLEUSTERAU GWYDR MAE EIN GWEITHDAI ARBENIGOL YN CYNNWYS:
Stiwdios dylunio pwrpasol gyda gweithfannau unigol, gweithdai traddodiadol ac arbenigol gydag ystafelloedd cyfrifiadurol CAD uwch cynhwysfawr, gweithdai pren, metel, plastig a cherameg pwrpasol. Stiwdios paentio gwydr, cyfleusterau ar gyfer ysgythru gydag asid, odynau ar gyfer ymdoddi, ffurfio, slympio a chastio gwydr. Mae’r gweithdai’n cynnwys sgwrio â thywod, printio sgrin a gwneud mowldiau, peiriannau torri â chwistrell ddŵr a laser, argraffwyr 3D a thechnoleg CNC.
41
Dylunio Modurol a Chludiant Ein gweledigaeth yw cynhyrchu gweithwyr proffesiynol dylunio sydd â lefelau uchel o sgiliau, creadigrwydd, ymwybyddiaeth ddiwylliannol ac estheteg a sensitifrwydd at ddyfodol cynaliadwy. Mae’r cwrs hwn yn archwilio i natur newidiol cludiant ar ei holl ffurfiau. Anogir myfyrwyr i gynhyrchu cysyniadau cerbyd radical sy’n herio confensiynau sefydledig ond nid ar draul anghenion dynol sylfaenol.
42
MAE’R RHAGLEN yn integreiddio arfer stiwdio traddodiadol a modelu clai gydag offer digidol o’r radd flaenaf, gyda myfyrwyr yn defnyddio’r fersiynau diweddaraf o feddalwedd dylunio a delweddu â chymorth cyfrifiadur o safon diwydiannol. Mae arfer staff, cyswllt â’r diwydiant a phrosiectau byw yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu paratoi’n llawn at ofynion gwaith. Cydweithiwyd yn ddiweddar gyda: Jaguar Land Rover, McLaren Automotive, Lotus Cars Westfield, Sports Cars, Arup, Honda, Nissan, Modec Vehicles a Pembrokeshire Sports Boats. Hefyd, caiff myfyrwyr y cyfle i arddangos eu gwaith yn New Designers Llundain.
DY L U N I O M O D U R O L A C H L U D I A NT
Mae’r MDes integredig yn caniatåu i fyfyrwyr ymestyn eu hastudiaethau i lefel meistr ac archwilio eu hathroniaeth ddylunio trwy brosiect pellach. 43
DY L U N I O M O D U R O L A C H L U D I A NT
Dylunio Modurol Mae Dylunio Modurol yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu’r sgiliau, gwybodaeth a medrau sydd eu hangen i ddylunio a datblygu ceir a beiciau modur newydd, yn seiliedig ar ddealltwriaeth glir o egwyddorion cyfrannedd, cyfaint a dylunio arwyneb. Mae Dylunio Modurol yn cynnwys datblygu a mireinio arwyneb cymhleth ac fel arfer bydd yn gofyn am greu model clai manwl wedi dod o olygon orthograffig da. Mae profiad o arwynebu â chlai yn bwysig iawn wrth ddatblygu dylunwyr ceir y dyfodol gan ei fod yn rhoi gwell dealltwriaeth o gyfrannedd ac arwynebu 3D. Hefyd, mae’n agor y drws i yrfa fel Cerflunydd Clai Modurol.
COD UCAS BA Y D R I N D O D D E W I S A N T: W 2 4 0 MDes: 7F3T
Dylunio Cludiant Mae’r cwrs Dylunio Cludiant yn archwilio cludiant ar ei holl ffurfiau o ymagweddau at ddylunio cysyniadau, gan gynnwys cychod, carafanau, ceir cysyniad a beiciau modur, cerbydau amaethyddol, loris, cerbydau 2/3 olwyn modurol, systemau cludiant, cerbydau cysyniad ‘awyr las’ i gerbydau set ffilm ac ati. Ein gweledigaeth yw cynhyrchu ymarferwyr dylunio sydd â lefel dda o allu a chreadigrwydd deallusol. Ein nod yw datblygu dylunwyr sy’n gallu dylunio cludiant/cerbydau gydag ymagwedd ‘tu chwith allan’ neu unigryw, gyda chefnogaeth ymchwil a rhagfynegiadau ar gyfer y dyfodol mewn technoleg, estheteg ac ystyriaethau amgylcheddol. Felly os hoffech wneud rhywbeth gwahanol, bydd Dylunio Cludiant yn eich gweddu i’r dim.
44
COD SEFYDLIAD: T80
COD UCAS BA Y D R I N D O D D E W I S A N T: 9 R 3 7 MDes: O4G6
Caiff myfyrwyr eu cefnogi gan fodelwyr clai profiadol sy’n gweithio yn y diwydiant, y mwyaf diweddar o’r rheiny oedd yn ystod prosiect byw gyda Jaguar. 45
Rwyf wedi llwyddo o ganlyniad i gefnogaeth barhaus ac ymroddiad y tiwtoriaid PETER WILKINS UN O’N GRADDEDIGION
46
DY L U N I O M O D U R O L A C H L U D I A NT
PETER WILKINS Uwch Ddylunydd Allanol McLaren Automotive Limited
ROEDD ASTUDIO Dylunio Modurol yn Abertawe yn brofiad gwych i mi. Roedd safon yr addysgu un i un heb ei ail ac fe alluogodd y cyfleusterau o’r radd flaenaf i mi wir archwilio a datblygu fy sgiliau i’r safonau diwydiannol uchaf. Gan gymryd rhan mewn prosiectau a noddwyd gan y diwydiant, galluogwyd i mi ddod i adnabod a deall y diwydiant cystadleuol roedd arna’i eisiau gyrfa ynddo ac fe helpodd fowldio’r dylunydd ydw i heddiw. I mi, mae Coleg Celf Abertawe wir wedi helpu i siapio’r person ydw i ac mae’n fraint gallu dweud bod fy llwyddiant o ganlyniad i gymorth parhaus ac ymroddiad ei diwtoriaid.
Galluogodd y cyfleusterau o’r radd flaenaf i mi archwilio a datblygu fy sgiliau i’r safonau diwydiannol uchaf.
Mae graddedigion ein cwrs wedi cael gwaith gyda rhai o enwau mwyaf sefydledig y byd mewn gweithgynhyrchu ac ymgynghoriaeth ddylunio, fel:
47
CYFLEUSTERAU DYLUNIO MODUROL, CLUDIANT A CHYNNYRCH MAE EIN GWEITHDAI ARBENIGOL YN CYNNWYS:
48
Cyfleusterau ‘layup’ a chwistrell gwydrffibr, byrddau ac offer arwynebu clai modurol proffesiynol, offer llaw traddodiadol, castio resin a phlastr, castio gwactod, sgwrio â thywod,ysgythru asid, prosesu gwydr oer, ffurfio gwydr cynnes, enamlo ac electroplatio, weldio, torri, llwybro, melino, troi, offer thermo-ffurfio, canolfannau peiriannu a llwybru CNC, argraffu 3D (peiriannau ‘Ultimaker’, ‘Object’ a ‘Stratasys’) a thechnolegau digidol a sganio (Artec, Roland).
Mae gan ein gweithfannau Wacom Cintiq y fersiynau diweddaraf o feddalwedd dylunio a delweddu 3D Autodesk Fusion 360, Alias Automotive, SketchBook Pro, Speedform, V-Red, Solidworks ac Adobe Creative Suite. Gallwch hefyd gyrchu offer torri â chwistrell ddŵr a laser, cerameg, printio sgrin, ffotograffiaeth, golygu ffilm a fideo a stiwdios cipio symudiad yng Nghanolfan Celf, Dylunio a Chyfryngau Dinefwr, sydd ddau funud ar droed o ALEX.
49
Dylunio Cynnyrch
50
Leon Evans
DY L U N I O C Y N N Y R C H
Mae dylunwyr cynnyrch yn diffinio’r byd o’n cwmpas, maent yn rhoi iddo ffurf ac ansawdd materol, maent yn ei wneud yn ddefnyddiadwy a synhwyrol ond mae’n rhaid iddynt allu gwneud hyn mewn ffyrdd economaidd, diffiniedig a chynaliadwy. Ein gweledigaeth yw cynhyrchu gweithwyr proffesiynol dylunio sy’n gallu ymateb yn greadigol i anghenion newidiol pobl mewn ffordd sy’n gynaliadwy yn fasnachol ac yn amgylcheddol.
NOD y rhaglenni BA (Anrh) a BSc (Anrh) yw rhoi ichi y wybodaeth a’r awydd i ddylunio ac arloesi cynnyrch, systemau a gwasanaethau defnyddwyr masgynyrchedig, mewn ffyrdd creadigol ac adeiladol. Yr hyn sy’n eu gwneud yn wahanol yw eu hymagwedd at ddatblygu cynnyrch newydd gyda’r BA (Anrh) yn ffocysu ar ymgysylltu a rhyngweithio â chynnyrch o safbwynt iwtalitaraidd ac emosiynol, lle bo’r BSc (Anrh) yn ffocysu ar fanylion cynnyrch, technolegau newydd, dewisiadau materol a meini prawf gweithgynhyrchu. Mae’r llwybr MDes (Anrh) yn rhoi i fyfyrwyr y cyfle i ymestyn eu profiad dysgu a dilyn goliau hunangyfeiriedig trwy weithgareddau entrepreneuraidd arloesol ac arfer dylunio uwch. Mae astudio Dylunio Cynnyrch yng Ngholeg Celf Abertawe yn cynnig ichi gyfle unigryw i ffocysu ar eich datblygiad creadigol. Rydym yn falch i allu cynnig grwpiau addysgu dwys, bach a thiwtorialau ‘un i un’ rheolaidd, lle, fel myfyriwr, byddwch yn ffocysu ar ddatblygu eich dealltwriaeth a’ch twf proffesiynol unigol. Mae gennym gyfleusterau rhagorol sy’n integreiddio arferion stiwdio a gweithdy traddodiadol gydag offer digidol a phrototeipio o’r radd flaenaf. Trwy gydol eich astudiaethau, cewch eich annog i ddysgu a thyfu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gynhyrchu cynnyrch digidol a ffisegol; byddwch yn ymgysylltu â phrosiectau ‘byw’ yn y diwydiant; byddwch yn gwthio ffiniau eich gallu deallusol ac yn datblygu syniadau arloesol am gynnyrch. Rydym yn eich gweld fel UNIGOLION ac rydym yn ymrwymo i’ch helpu i archwilio ffyrdd i gyrraedd eich potensial creadigol.
51
Dylunio Cynnyrch Mae’r cwrs hwn yn archwilio creadigrwydd rhyngddisgyblaethol, agweddau dynol-ganolog o ddylunio cynnyrch tri dimensiwn. Cewch eich annog i fod yn amrywiol yn eich syniadau a’ch ymagweddau ymarferol, i herio ffiniau maes dylunio i’w cymhwyso i’ch archwiliadau dylunio a heriau creadigol. Bydd y cwrs hwn yn rhoi ichi hyder a’r ystod eang o sgiliau i ddechrau eich gyrfa. Byddwch yn cwestiynu’r rolau mae dylunwyr yn eu chwarae a’r effeithiau y gall dylunio a dylunwyr eu cael ar gyd-destunau cymdeithasol, gwleidyddol, amgylcheddol a masnachol. Caiff ymagweddau at gynhyrchu syniadau, datblygu ffurf a rhyngweithio â chynnyrch eu harchwilio trwy waith mewn stiwdios a gweithdai, defnyddio offer digidol o’r radd flaenaf, ynghyd â meithrin dealltwriaeth gadarn o ddefnyddiau a gweithgynhyrchu trwy argraffu 3D a chyfleusterau prototeipio eraill. COD UCAS BA Y D R I N D O D D E W I S A N T: W 2 4 2 MDes: OP2M
52
Rhys Kilbuern
Dylunio Cynnyrch a Thechnoleg Diben y cwrs athroniaeth yw cynhyrchu graddedigion dylunio proffesiynol sy’n greadigol ac arloesol, ac sy’n gallu dylunio cynnyrch sydd nid yn unig yn edrych yn dda ond yn gweithio’n dda hefyd. Mae yna bwyslais cryf ar optimeiddio dylunio ac ymwybyddiaeth dechnegol o ran dewis defnydd, meini prawf gweithgynhyrchu a phensaernïaeth cynnyrch ochr yn ochr â gwybodaeth am wireddu deilliant dylunio trwy arferion cynaliadwy ac unplygrwydd masnachol. Cewch eich annog i archwilio ffyrdd newydd i ddatrys problemau, a’ch cyflwyno i offer dylunio digidol o’r radd flaenaf a thechnolegau prototeipio i archwilio’r ffordd rydych yn ystyried dylunio a siapio ein perthnasau yn y dyfodol gyda’r cynhyrchion sydd, neu nad oes, arnom eu hangen. COD UCAS BSc Y D R I N D O D D E W I S A N T: W 2 8 4 MDes: W200
53
DY L U N I O C Y N N Y R C H
KEIRA GWYNN
KEIRA YW dechreuwr Scallop, sedd unigryw a difyr sy’n ffocysu ar dri ffactor, Symlrwydd, Cludadwyedd ac Amlbwrpasedd. Mae’n datrys problemau eistedd i’r rheiny sydd ag angen cynhaliad ychwanegol wrth eistedd ar y llawr neu eistedd ar gadair. Datblygwyd y syniad hwn yng Ngholeg Celf Abertawe ac yna ei fasnacheiddio gan R82 a’i lansio ar draws y byd yn 2017. “Alla’i ddim wir credu fy mod i yma, yn troi fy syniad yn realiti. Rhoddodd y rhaglen gyfleoedd i mi ddod o hyd i fi fy hun ac archwilio fy mhotensial, a ddaeth i’w anterth pan gefais interniaeth ac yna swydd llawn amser gyda R82, cwmni sy’n dylunio cymhorthion o ansawdd uchel i blant a phobl yn eu harddegau sydd ag anghenion arbennig. Roedd ganddynt ddiddordeb mewn cymryd fy mhrosiect israddedig ymhellach, a wnaeth i mi ymgymryd mewn ymchwil pellach yn Alla’i ddim wir ystod fy ngradd meistr i arddangos bod credu fy mod i gwir angen y cynnyrch ac i gyfnerthu’r yma, yn troi fy nodweddion dylunio. Mae’r ddwy flynedd syniad yn realiti diwethaf wedi bod fel corwynt, ac yn llawn anesmwythder a chyffro. Ar ôl ei lansio’n fyd-eang mae’r cynnyrch, o’r enw SCALLOP, bellach yn cael ei gynhyrchu a’i ddosbarthu ar draws y byd. Mae’n wirioneddol rhoi boddhad i mi wybod bod fy syniad bellach yn helpu i blant ag anghenion arbennig ar draws y byd gymryd rhan mewn gweithgareddau bob dydd a mwynhau eu bywydau i’r eithaf. Dylunio Cynnyrch yw un o’r disgyblaethau hynny lle gallwch ddelweddu a chreu’r hyn sydd yn eich dychymyg; nid oes teimlad gwell na gweld eich cynnyrch yn rhoi gwen ar wyneb rhywun.”
Arweinydd Prosiect Marchnata yn R82, Denmarc Arbenigwyr cynhyrchion cynorthwyol i blant ac oedolion anabl
54
Mae’r ddwy flynedd diweddaf wedi bod fel corwynt KEIRA GWYNN UN O’N GRADDEDIGION
55
Hysbysebu a Dylunio Brand Mae ein cwrs Hysbysebu a Dylunio Brand yn denu pobl ‘syniadau’ sy’n credu bod bob diwrnod yn gyfle cyffrous i archwilio cysyniadau newydd.
BYDD ASTUDIO HYSBYSEBU a Dylunio Brand yn eich galluogi i archwilio pob agwedd ar gyfathrebu gweledol darbwyllol, gan gynnwys: dylunio graffig, teipograffeg, ysgrifennu copi, hysbysebu digidol, cyfryngau cymdeithasol, profiad brand, technolegau sy’n dod i’r amlwg a marchnata. Rydym yn meithrin ei myfyrwyr i fod yn weithwyr proffesiynol creadigol gweledigaethol a blaengar a fydd yn gallu datrys heriau cyfathrebu’r dyfodol. Bydd y cwrs yn rhoi ichi’r gallu creadigol a’r hyder i wir wneud eich marc. Rydym yn fach, yn gyfeillgar ac yn anffurfiol, ac yn falch o hynny. Golyga hyn bod ein staff yn hawdd siarad â nhw a’u bod yn barod i’ch helpu, cefnogi a herio. Mae yna ddigonedd o le stiwdio a mynediad at yr offer a’r cyfleusterau diweddaraf. Oherwydd bod ein dosbarthiadau yn llai na llawer o brifysgolion, caiff myfyrwyr fwy o amser o lawer gyda darlithwyr a digonedd o diwtorialau unigol ac mewn grwpiau bach. Mae hyn yn creu amgylchedd creadigol deinamig lle gallwch fynd ati’n hyderus i ddatblygu eich sgiliau a syniadau cysyniadol. 56
Mae’r cwrs hefyd yn ymwneud â chyfathrebu ar gyfer busnes a menter. Rydym yn cysylltu â busnesau ac yn edrych ar broblemau go iawn i’w datrys o’r cychwyn cyntaf drwy weithio ar friffiau cleient ‘byw’. Mae ein prosiectau ymarferol yn cynnwys dylunio ar gyfer brandio, cyfeiriad celf creadigol, ‘cyflwyno’ cysyniadau a syniadau, cynllunio strategaethau marchnata a chreu ymgyrchoedd newydd, arloesol. Dyma yw diben y cwrs. Mae Ross Weaver, un o’n graddedigion diweddar, yn gweithio fel Cyfarwyddwr Celf yn Amsterdam i asiantaeth rhyngwladol. Meddai: “Heb y cwrs hwn, ni fuaswn heddiw’n cael modd i fyw yn gwneud rhywbeth rwy’n ei garu.” Mae’r cwrs Hysbysebu a Dylunio Brand yn rhan o Rwydwaith Prifysgolion D&AD. Mae bod yn aelod o’r rhwydwaith hwn yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr greu proffil iddyn nhw eu hunain, a’u gwaith, yng Ngŵyl ‘New Blood D&AD’ yn Shoreditch, Llundain, yn ystod blwyddyn olaf y cwrs. Mae’r ŵyl yn gyfle gwych i gwrdd â gweithwyr creadigol y diwydiant o rhai o brif asiantaethau hysbysebu’r wlad.
Ross Weaver a Danielle Leigh Hall
H Y S BY S E B U A DY L U N I O B R A N D
Hannah Barnes a Jordan Tench
Francesca Murray-Shelley
Cameron Millwater
Yn yr ACM diweddaraf yn 2017, cytunodd 92% o’n myfyrwyr bod y cwrs wedi rhoi iddynt gyfleoedd i ddod â gwybodaeth a syniadau at ei gilydd o wahanol bynciau. C O D U C A S Y D R I N D O D D E W I S A N T: B A W 2 2 1 | M D e s S 2 J 5
57
LAURA MARQUISS Un o Raddedigion Hysbysebu a Dylunio Brand PAN ADEWAIS YR YSGOL ‘doedd gen i ddim syniad beth oeddwn i am ei wneud gyda fy nyfodol. Fodd bynnag, roeddwn yn gwybod bod arna’i eisiau profi bywyd prifysgol ac i roi fy nawn creadigol ar waith mewn diwydiant sy’n cynnig rhagolygon gwaith realistig. Trwy gydol fy amser yn y brifysgol ar y cwrs Hysbysebu a Dylunio Brand, gwnes ystod eang o fodylau gan gynnwys popeth o feddwl creadigol, hawlfraint, brandio, marchnata, hunan-hyrwyddo, digidol, dylunio graffig, rheolaeth digwyddiadau, cyfryngau cymdeithasol... mae’r rhestr yn ddiddiwedd! Trwy’r modylau hyn dysgais sut i weithio’n effeithiol mewn tîm a sut i weithio gyda chleientiaid go iawn. Ar y cwrs hwn, nid oes unrhyw un yn dal eich llaw ond cewch eich cefnogi drwyddo a’ch annog i chwilio am gyfleoedd a chymryd rhan. Os byddwch yn gweithio’n galed, fe fydd yn talu ar ei ganfed. Pan oeddwn yn chwilio am fy swydd gyntaf, gwelais bod y gystadleuaeth yn frwd ond drwy ddefnyddio’r sgiliau roeddwn wedi’u caffael roedd cael fy nhroed drwy’r drws yn haws. Heb gefnogaeth Rwy’n dal i ddefnyddio’r sgiliau a ddysgais nawr – mae’r cwrs yma’n gwneud ichi y cwrs dydw feddwl mewn ffordd wahanol ac yn rhoi gwir i wir ddim yn ymdeimlad o entrepreneuriaeth ichi. credu y buaswn Ar ôl graddio, gwnes gais am nifer o interniaethau ac roeddwn wrth fy modd i i wedi bod yn gael cyfweliad mewn asiantaeth hysbysebu ddigon dewr i enwog ym Manceinion. Nid oeddwn yn fynd yno am y gyfarwydd â Manceinion o gwbl, a heb gefnogaeth y cwrs dydw i wir ddim yn cyfweliad.
58
credu y buaswn i wedi bod yn ddigon dewr i fynd yno am y cyfweliad. Roeddwn wrth fy modd pan gefais fy newis ar gyfer yr interniaeth ac o fewn dwy wythnos, gadewais i ddechrau’r bennod newydd hon. Cafodd fy sgiliau rheoli a threfnu eu cydnabod ac o ganlyniad trodd yr interniaeth yn swydd llawn amser fel swyddog gweithredol cyfrifon. Roedd y rôl yn cynnwys gweithio fel rhan o’r tîm gwasanaethau cleientiaid sy’n rheoli perthnasoedd rhwng rhai brandiau mawr a’r asiantaeth a symud y gwaith creadigol drwy’r asiantaeth. Rwy’n caru bywyd mewn asiantaeth gan fod eich cydweithwyr yn dod yn ffrindiau gorau. Rhaid ichi weithio fel un tîm, gan anelu at yr un gôl ac mae gweithio ochr yn ochr â phobl mor dalentog yn eich ysbrydoli mewn diwydiant sy’n newid yn gyson. Yn ystod fy amser yn yr asiantaeth datblygais ddiddordeb mewn prosiectau digidol fel dylunio apiau a’r cyfryngau cymdeithasol ac felly penderfynais gymryd y cam nesaf i fyny’r ysgol yrfaol i asiantaeth marchnata digidol. O fewn cyfnod byr, cefais wobr ‘Gweithiwr y Mis’, a chefais fy enwebu ar gyfer gwobr ‘Person Ifanc Mwyaf Addawol Manceinion’ yng ngwobrau ‘Talent Ifanc Manceinion 2016’. Yn ddiweddar, symudais i faes marchnata newydd ac mae’r sgiliau a ddysgais yn parhau i fod yn amhrisiadwy. Nawr, rwy’n gweithio mewn asiantaeth digwyddiadau a chyfathrebu byw ar brosiectau mwy diriaethol. Roeddwn wedi mwynhau hyn yn fy nhrydedd flwyddyn yn y brifysgol. Ar y foment rwy’n brysur yn cynllunio ar gyfer digwyddiad ym Milan ac rwy’n gyffrous iawn ynglŷn ag ymgymryd â’m rôl rheoli safle cyntaf!
59
60
Mae gan fyfyrwyr ar draws y gyfadran fynediad at ystafelloedd Mac pwrpasol, sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn beiriannau o’r fanyleb uchaf.
61
Dylunio Graffig Mae’r cwrs Dylunio Graffig yng Ngholeg Celf Abertawe yn paratoi myfyrwyr ar gyfer dyfodol deinamig ac amrywiol yn y byd cyfathrebu gweledol sy’n ehangu mor gyflym. Trowch eich creadigrwydd yn alwedigaeth.
GALL DYLUNIO GRAFFIG fod ar ffurf cylchgronau, papurau newydd neu lyfrau, deunydd pacio, posteri, graffigau gwybodaeth, logos a dulliau adnabod corfforaethol neu systemau arwyddion. Gall drosglwyddo ei neges drwy ddyluniad gwe, graffeg symud neu ddylunio rhyngwyneb defnyddiwr. Rydym yn rhyngweithio gyda dylunio graffig bob dydd wrth i ni fynd drwy daith bywyd. Drwy ddefnyddio geiriau a delweddau, sgiliau a dychymyg, mae ein graddedigion yn gallu gwneud ymyraethau a chyfraniadau gweledol ystyrlon yn y tirluniau creadigol y maent yn dymuno gweithio ynddynt. Cyflwynir y cwrs gan dîm o staff angerddol, sy’n meithrin myfyrwyr mewn amgylchedd dysgu cefnogol, cyfeillgar gydag etheg waith broffesiynol sy’n adfyfyrio ar y diwydiant. Mae eich uchelgeisiau personol yn bwysig iawn i ni ac fe wnawn ein gorau glas i roi ichi bortffolio graddedig sy’n llawn dop o’r hunanhyder creadigol sydd arnoch ei angen i symud yn ddiffwdan i fyd gwaith dylunio.
62
Linh Duong
DY L U N I O G R A F F I G
Morwenna Stewart
Lucy Cooper
Anna Jehan
Morwenna Stewart
Just Griff
Mae ein myfyrwyr Dylunio Graffig yn cyflawni rhai o’r gyrfaoedd cenedlaethol a rhyngwladol mwyaf cyffrous sydd ar gael, flwyddyn ar ôl blwyddyn. C O D U C A S Y D R I N D O D D E W I S A N T: B A W 2 1 0 | M D e s 5 2 J 6
63
Nawr, rwy’n Gyfarwyddwr Dylunio yn FITCH yn Ninas Efrog Newydd PHILL REES A RADDIODD YN 2004 64
DY L U N I O G R A F F I G
PHILL REES
“AR ÔL GRADDIO yn 2004 roeddwn yn ddigon ffodus i weithio i FITCH yn Llundain lle treuliais 5 mlynedd yn gweithio mewn cwmni greadigol a strategol tu hwnt. Drwy weithio yn FITCH cefais lawer o gyfleoedd i weithio ar brosiectau oedd yn cael eu harwain gan Fanwerthu a Brand. Rhai o’r cleientiaid y bues yn gweithio mwyaf â nhw yn FITCH oedd Vodafone, Dell, McLaren Automotive, Gemau Olympaidd 2012, Andaz Hotels a ymhlith llawer o rai eraill. Ar ôl FITCH bues yn gweithio ar fy liwt fy hunan mewn asiantaethau fel Imagination, Identica a Brand Union yn Llundain cyn gweithio gyda FITCH yn Mumbai, India, lle cefais gyfleoedd i weithio ar ystod amrywiol o brosiectau mewn amgylchedd diwylliannol gwahanol iawn. Ar ôl India, cynigiwyd swydd i mi yn gweithio yn Efrog Newydd gyda Stag&Hare lle treuliais 5 mlynedd yn gweithio’n bennaf gyda phecynnu ar gyfer brandiau Rwyf wir yn credu fel Coca-Cola, Sprite, Hubert’s Lemonade ond hefyd ar waith brand ac ymgyrch i IHG, Campari a llawer iawn bod yr addysgu mwy o gleientiaid. Nawr, rwy’n Gyfarwyddwr Dylunio yng Ngholeg yn FITCH yn Ninas Efrog Newydd, yn ffocysu ar sefydlu stiwdio Efrog Newydd a gweithio ar draws y rhwydwaith Celf Abertawe byd-eang o stiwdios, gan weithio gyda chleientiaid yn ddi-ail. fel Hilton Hotels, Dell a’r Amgueddfa Celf a Dylunio. Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i weithio’n rhyngwladol ac mewn asiantaethau mawr a bach sydd i gyd wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi dyfu fel dylunydd a phrofi llawer o wahanol ddiwylliannau, ac wedi dylanwadu ar fy arddull ddylunio. Rwyf wir yn credu bod yr addysgu yng Ngholeg Celf Abertawe yn ddi-ail. Dros y blynyddoedd rwyf wedi dilyn y gwaith y mae’r Brifysgol wedi’i droi allan ac rwy’n cael fy synnu o’r ochr orau’n gyson gyda pha mor barod yw’r myfyrwyr i fynd i mewn i fyd masnachol dylunio. Fel un o raddedigion Coleg Celf Abertawe gallaf ddweud yn onest fy mod Ni fuaswn fyth wedi gwneud y dewis iawn wrth ddewis fy wedi cael lefel y mhrifysgol – ni fyddwn fyth wedi cael lefel y fentoriaeth a’r datblygiad creadigol mewn fentoriaeth a’r prifysgolion eraill. Mae’r staff addysgu’n datblygiad wirioneddol gofalu am eu myfyrwyr ac yn creadigol mewn llwyddo i ddod o hyd i gryfderau unigol pob prifysgolion eraill. myfyriwr er mwyn datblygu eu set sgiliau.”
Un o’n Graddedigion Dylunio Graffig
65
Rydym yn annog myfyrwyr i weithio gyda dulliau argraffu traddodiadol, gan ddefnyddio teip plwm yn ein hystafell argraffwaith bwrpasol.
66
67
68
Stiwdio yn y drydedd flwyddyn
DARLUNIO
Darlunio Mae’r awyrgylch bywiog a chreadigol yn ein stiwdios yn darparu amgylchedd cyfforddus, cyfeillgar a symbylol i ffynnu a datblygu eich sgiliau a syniadau ynddynt. Mae yna le a chyfle i weithio ar raddfa fawr, 3D, creu gosodiadau a gwneud i’r stiwdios eich gweddu chi.
MAE’R CWRS DARLUNIO yma yn Abertawe yn adlewyrchu a chofleidio natur amrywiol darlunio cyfoes ac yn eich annog i herio’r cysyniad o’r hyn y gall darlunio fod ac i ddilyn cyfeiriad personol yn eich gwaith. Mae’r cwrs darlunio yn cynnig rhaglen eang a deinamig, a ddyluniwyd i annog cysyniadu a gwireddu syniadau a naratif. Bydd yn eich galluogi i archwilio ystod eang o dechnegau, defnyddiau ac arddulliau er mwyn dod o hyd i’ch cryfderau personol. Wrth i chi symud ymlaen drwy’r cwrs rydym yn eich helpu i ddarganfod pa fath o ddarluniwr yr hoffech fod, pa faes o’r diwydiant sydd o ddiddordeb i chi a beth fydd eich cyfeiriad gyrfaol yn y pen draw, gan eich galluogi i wireddu eich potensial llawn fel cyfathrebwr gweledol. Yn ein hadran, mae gennym ystod arbennig o offer a chyfleusterau digidol gan gynnwys casgliad pwrpasol o iMacs, llechi WaCom a sgriniau arlunio Cintiq mawr, yn ogystal â thorrwr laser. Mae ein cyfleusterau annigidol yr un mor gyffrous: stiwdio gwneud printiau ar gyfer Lino, Argraffu Sgriniau, Ysgythru a Cholagraff a stiwdio argraffwaith gyda phedwar peiriant argraffwaith Adana ac offer gwneud llyfrau. Mae hyn oll yn rhoi cyfle gwych ichi arbrofi ac archwilio potensial creadigol cyfuno technegau traddodiadol gyda thechnoleg ddigidol o’r radd flaenaf.
Mae’n amser arbennig o gyffrous i fod yn ddarluniwr a bydd y cwrs hwn yn rhoi ichi blatfform i ddysgu’r sgiliau a thechnegau gofynnol, datblygu eich ymagwedd unigol a’ch llofnod gweledol unigryw a deall anghenion y diwydiant bywiog hwn sy’n datblygu’n gyflym. Mae gwaith caled ac angerdd yn allweddol wrth blodeuo yn y brifysgol a ffynnu yn y diwydiant. Ni ellir addysgu’r rhinweddau hyn, ond fe fydd y cwrs hwn yn eich ysbrydoli ac yn cynnau fflam ynoch a fydd yn eich annog i ragori ar eich disgwyliadau.
C O D U C A S Y D R I N D O D D E W I S A N T: B A W 2 2 0 | M D e s S 2 1 Y
69 Achuth Surendran
Mike Redman
Francesca Schum
Naomi Mitchell
70
Emily Bruce
DARLUNIO
LUCY LITTLER Un o’n Graddedigion Darlunio
“RWYF WEDI BOD yn angerddol am gelf erioed ac mae gennyf fwy fyth o gariad at ddarlunio. Gwneud fy ngradd yng Ngholeg Celf yw’r penderfyniad gorau i mi ei wneud yn fy mywyd hyd yma. Daw’r cwrs â chymaint o gyfleoedd i fyfyrwyr - siaradwyr gwadd, gwibdeithiau, cydweithio â chyrsiau eraill a’r gallu i ddod o hyd i’ch arbenigedd fel unigolyn creadigol. Y prif reswm roeddwn yn caru astudio yn Abertawe oedd am fod y darlithwyr mor gyfeillgar. Oherwydd eu bod wedi bod, Y prif reswm ac yn dal i fod, yn ddarlunwyr wrth eu roeddwn yn gwaith eu hunain, mae ganddynt lawer caru astudio yn o wybodaeth am y byd gwaith ac un o’u Abertawe oedd am blaenoriaethau o fewn tair blynedd y cwrs yw eich paratoi at fod yn ymarferydd fod y darlithwyr darlunio wedi ichi raddio. mor gyfeillgar. Ar ddiwedd y drydedd flwyddyn, caiff myfyrwyr y cyfle i arddangos eu gwaith yn yr arddangosfa fwyaf y DU ar gyfer graddedigion newydd. Yn ystod sioe ‘New Designers’ Llundain y gwelais y buaswn yn gallu gwneud gyrfa o ddarlunio. Enillais y wobr ‘Hallmark Studio’ lle cefais leoliad dau fis yn wobr. Mae ennill y wobr wedi rhoi cymaint o gyhoeddusrwydd i mi i allu dechrau ar fy llwybr fy hun fel gweithiwr creadigol ac ni allaf aros i weld i ble y bydd y dyfodol yn mynd â fi.”
Lucy Littler
71
72
Caiff myfyrwyr fynediad agored rheolaidd i’n stiwdio bywluniadu. 73
Celf Gain Stiwdio, Safle a Chyd-destun Mae Coleg Celf Abertawe wedi bod yn darparu addysg Celf Gain i Gymru, y DU a thu hwnt i’r un safon uchel ers 1853. Mae ein henw da fel canolfan ragoriaeth ac arloesi yn y celfyddydau yn para hyd heddiw gyda chyfleusterau cyfoes a staff darlithio sy’n artistiaid rhyngwladol o bob disgyblaeth. 74
Scott Mackenzie
CELF GAIN
Darren Mundy
Caitlin Littlejohns
Anja Stenina
CYNHELIR Y CWRS yn bennaf yn y stiwdio a chlustnodir lle gwaith i bob myfyriwr, yn ogystal â mynediad i leoedd gosod gwaith, ystod eang o weithdai a’r stiwdios bywluniadu. Mae’r cwrs yn seiliedig ar arfer a danategir gan ddamcaniaeth sy’n caniatáu i’r myfyrwyr arfer o fewn cyfrwng penodol; er enghraifft paentio, neu i ddefnyddio’r strategaeth traws-ddisgyblaethol sy’n caniatáu i bob math o gasgliadau creadigol ddod i’r amlwg. Anogir myfyrwyr i fod yn arbrofol gyda defnyddiau a chysyniadau mewn ymdrech i lunio dulliau cyfathrebu cymdeithasol cymhleth drwy bob agwedd ar arfer Celf Gain. Mae’r cwrs yn pwysleisio dysgu trwy wneud, gan ymateb i ac ymgysylltu â’r rhyngwyneb rhwng syniadau a defnydd. Cyflwynir arbenigeddau amrywiol i’r cwrs drwy arfer ac ymchwil y staff ac rydym yn annog ein myfyrwyr i ddatblygu iaith bersonol drwy greu eu mynegiant eu hunain. Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i arlliwiau llu o arferion gan gynnwys paentio ac arlunio, cerflunio, ffotograffiaeth, fideo, gosodiadau ar arferion safle-ymatebol a sefyllfabenodol. Gellir archwilio i safbwyntiau perfformiadol trwy unrhyw rai o’r opsiynau hyn a gall defnyddiau gynnwys metel, carreg, resin, clai, gwydr a mwy. Trwy weithdai, darlithoedd, seminarau ac arddangosfeydd, bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth gadarn o arfer celf cyfoes gyda phwyslais ar arloesi drwy ddefnyddiau, technegau a strategaethau critigol.
Drwy archwilio dulliau ymchwil a datblygu strwythur waith bersonol sy’n ymgorffori rheolaeth amser ac arferion proffesiynol, bydd myfyrwyr yn profi rhaglen gyfoethog, ddwys ac amrywiol. Bydd myfyrwyr yn cyd-guradu pob sioe a gynhyrchir trwy gydol y cwrs gydag aelodau o staff, gan ddysgu drwy wneud y mathau o gyflwyniadau a allai fod yn briodol i’w harfer celf. Caiff safonau proffesiynol eu haddysgu a’u parchu drwy gydol y cwrs, hyd yn oed os yw arferion yn aflonyddgar, gwleidyddol, chwareus neu’n anarchig. Mae gan y cwrs Celf Gain gysylltiadau rhagorol â phob rhan o’r byd celf – yn lleol; prosiect artist cymunedol, ‘Elysium’, orielau lleol sy’n gweithredu’n rhyngwladol fel The Mission a Gallerie Simpson, yn ogystal ag Oriel Glynn Vivian hanesyddol Abertawe. Mae’r cysylltiadau cenedlaethol a rhyngwladol yn cynnwys gwobr baentio The Beep a Gwobr Artes Mundi. Trefnir teithiau i’r Venice Biennale y mae rhai o’r darlithwyr wedi cymryd rhan ynddo a gall myfyrwyr wneud cais i fynd i astudio dramor mewn sefydliadau o gwmpas y byd. Gallwch ymdrwytho yn nhreftadaeth draddodiadol maith a dyfodol cyfoes arbrofol Abertawe; ac mae’r cyfuniad hwn yn profi bod y ddinas yn ganolfan fywiog ar gyfer addysg Celf Gain sydd cystal ag unrhyw le yn y DU.
C O D U C A S Y D R I N D O D D E W I S A N T: B A 2 T 1 2 | M A r t s M 5 A 7
75
Sioe unigol ryngwladol yn Oriel Aldama Fabre, Bilbao ALEXANDER DUNCAN UN O’N GRADDEDIGION 76
CELF GAIN
ALEXANDER DUNCAN
MAGWYD ALEXANDER DUNCAN yn Abertawe lle buodd yn astudio ar y cwrs Celf a Dylunio Sylfaen cyn cwblhau ei BA Celf Gain yng Ngholeg Celf Abertawe yn 2007. Pan raddiodd, cydweithiodd Alex gydag un o’i gyd-raddedigion, Jonathan Anderson, ar nifer o sioeau dau-berson gan gynnwys ‘Real Estate’ yn Elysium. Yn 2011, ddim yn hir ar ôl symud i Lundain, cafodd Alex ei sioe unigol cyntaf ‘Surge’ yn Oriel Mission. Aeth Alex yn ei flaen i astudio MA mewn Cerflunio yn y Coleg Celf Brenhinol yn 2015, yr un flwyddyn a chafodd ei ddethol am y ‘London Open’ yn Oriel Whitechapel a rhoddwyd iddo Wobr Wakelin gan Oriel Gelf Mae’r staff addysgu’n Glynn Vivian. Yn 2017, cafodd Alex ei sioe unigol wirioneddol gofalu am ryngwladol gyntaf, ‘Blow’, yn Oriel Aldama Fabre, eu myfyrwyr ac yn Bilbao. Mae’n gweithio rhwng Abertawe a Llundain lle mae ei stiwdio ac mae’n cyd-gyfarwyddo llwyddo i ddod o hyd i man prosiect, ArtLacuna. “Mae’r staff addysgu’n gryfderau unigol pob wirioneddol gofalu am eu myfyrwyr ac yn llwyddo myfyriwr er mwyn i ddod o hyd i gryfderau unigol pob myfyriwr er datblygu eu set sgiliau. mwyn datblygu eu set sgiliau.”
Un o’n Graddedigion Celf Gain
77
78
CYFLEUSTERAU CELF GAIN MAE EIN GWEITHDAI ARBENIGOL YN CYNNWYS:
Caiff pob myfyriwr Celf Gain le stiwdio personol. Mae ein cyfleusterau rhagorol hefyd yn cynnwys gweithdai metel, pren, resin a cherameg, yn ogystal â thorwyr laser a chwistrell ddŵr a stiwdios digidol/ystafelloedd tywyll.
79
Karen MacKinnon
Cyfarwyddwr a Churadur yn Arddangosfa a Gwobr Celfyddydau Gweledol Rhyngwladol Artes Mundi MAE GAN KAREN gariad at y celfyddydau cyfoes yng Nghymru ac mae hi wedi bod yn gweithio gyda ac ysbrydoli Coleg Celf Abertawe am nifer o flynyddoedd, gan gomisiynu staff a myfyrwyr ar gyfer arddangosfeydd, curadu prosiectau a thrwy gymryd rhan yn ein rhaglenni addysgu. Yn ystod ei gyrfa mae Karen wedi trefnu arddangosfeydd cyfoes a hanesyddol ac wedi datblygu diddordeb arbennig mewn arfer sy’n ymgysylltu â’r gymdeithas a sut y gall celf cyfoes fod yn gatalydd er newid cymdeithasol. Yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter, lle dechreuodd ei gyrfa, ffocysodd Karen ar arddangosfeydd a chomisiynau unigol gydag artistiaid fel Lucy Gunning, Nick Crowe ac Orlan. Yn ddiweddarach yn Oriel Gelf Glynn Vivian buodd yn guradur ar sioeau fel ‘Displaced’: celf gyfoes o Golombia a gynhwysodd yr artistiaid Oscar Muñoz, José Alejandro Restrepo a Maria Elvira Escallón. Ymhlith yr arddangosfeydd eraill a guradodd roedd
80
Cystadleuaeth Nofio Goffa ‘Swansea Jack’ Shimabuku, arddangosfa ‘Ffolly’ Rut Blees Luxembourg a’r prosiect ‘Lets see what happens...’ (2013) a oedd yn cynnwys gwaith 7 artist o Gymru a Tsieina ar draws 5 safle yn Abertawe. Yn 2005, cafodd Karen ei phenodi’n Guradur arddangosfa Cymru yn y Venice Biennale ac fe arddangosodd arddangosaf grŵp a oedd yn cynnwys gwaith Peter Finnemore, Laura Ford, Paul Granjon a phreswyliaeth gyda Bedwyr Williams. Yn 2013 daeth Karen yn Gyfarwyddwr a Churadur ar gyfer Artes Mundi lle mae hi wedi llunio rhaglen gyfoethog o weithgarwch ehangach y tu allan i’r wobr gan gynnwys arddangosfeydd, prosiectau cymunedol a chomisiynau sy’n ymgysylltu â chymdeithas ac yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau yn y DU a thu hwnt. Ymhlith ei chomisiynau proffil uchel diweddar mae ‘Divine Violence’ Broomberg a Chanarin gydag Oriel Mostyn, Llandudno, a ‘Traw’ Bedwyr Williams gyda 14:18 NOW.
KAREN MACKINNON
Yn Athro Ymarfer, mae Karen yn parhau i ddatblygu ei pherthynas glos â Choleg Celf Abertawe ac rydym yn edrych ymlaen at lawer iawn mwy o brosiectau ar y cyd â hi.
AT H R O Y M A R F E R
81
Astudiaethau Amgueddfeydd Mae’r cwrs Astudiaethau Orielau Celf ac Amgueddfeydd yn cynnig i fyfyrwyr gyfle unigryw i astudio’r pwnc hwn ar lefel israddedig yng Nghymru. Wedi’i datblygu mewn partneriaeth â’r sector orielau, mae’r rhaglen hon yn meithrin profiad proffesiynol o’r cychwyn cyntaf.
82
ASTUDIAETHAU AMGUEDDFEYDD
MAE’R CWRS Astudiaethau Orielau Celf ac Amgueddfeydd yn paratoi myfyrwyr at waith yn y sector celf wedi iddynt raddio. Un o brif nodweddion y cwrs yw ei fod wedi’i ddatblygu ar y cyd â rhai o brif asiantaethau creadigol rhanbarthol Cymru. Addysgir y cwrs mewn cydweithrediad ag academyddion, artistiaid wrth eu gwaith ac arbenigwyr orielau. Mae’r cwrs yn cynnwys nifer o ddarlithoedd gwadd gan sefydliadau celf rhyngwladol a rhanbarthol sy’n cynnwys Artes Mundi, ac orielau lleol a arweinir gan artistiaid sy’n rhoi profiad eang o sector y celfyddydau i fyfyrwyr. Mae’r modylau’n darparu sgiliau ymarferol ac academaidd i roi i fyfyrwyr ddealltwriaeth eang o sefydliadau’r celfyddydau fel sefydliadau diwylliant yn ogystal â datblygu sgiliau beirniadol annibynnol. Bydd cael profiad o fentora a lleoliadau yn y diwydiant yn rhoi i’r myfyrwyr sgiliau cyflogadwyedd allweddol ac yn sefydlu rhwydweithiau proffesiynol. Mae’r cwrs wedi’i dargedu at ddarpar fyfyrwyr sydd â chariad at y pwnc ac sydd am gael eu herio i ddatblygu eu gwaith mewn nifer o wahanol gyfeiriadau. Bydd ysgrifennu beirniadol yn gydran wahanol ac unigryw o’r cwrs hwn. Bydd ysgrifennu’n benodol ar gyfer y celfyddydau yn galluogi i’r myfyrwyr fod yn feddylwyr beirniadol a chanddynt y gallu i gyfleu syniadau’n
annibynnol ac i feddu ar y sgiliau deallusol, proffesiynol a thechnegol sydd eu hangen i weithio yn y sector celf a diwylliannol. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau mewn arsylwi, dadansoddi a dehongli gwledol i gyfnerthu ystod o ymagweddau beirniadol mewn ysgrifennu a chelf. Byddant yn datblygu arbenigedd yn y sgiliau llafar ac ysgrifenedig sydd eu hangen i gyfathrebu i’r ystod eang o gynulleidfaoedd. Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o ddaliadau a chysyniadau allweddol arfer ac ysgrifennu curadurol er mwyn dod yn gynhyrchydd profiadau a digwyddiadau diwylliannol. Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â 2 leoliad 1 wythnos ac un lleoliad 1 mis mewn sefydliad diwylliannol perthnasol o ddewis y myfyriwr. Bydd y profiad proffesiynol hwn yn rhoi cyfleoedd i’r myfyrwyr rhoi cynnig ar eu syniadau damcaniaethol mewn cyd-destun ymarferol a fydd yn eu galluogi i gael gwell dealltwriaeth o’u meysydd diddordeb arbennig wrth ddatblygu’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen mewn amgylchedd gwaith. Trwy gydol y rhaglen, bydd myfyrwyr yn paratoi portffolio o waith a fydd yn cynrychioli eu gwybodaeth, sgiliau, dealltwriaeth a gallu wrth baratoi at waith. Mae cyflogadwyedd wrth wraidd y rhaglen hon.
C O D U C A S Y D R I N D O D D E W I S A N T: B A 5 3 7 C | M A r t s 5 3 7 D
83
Ffotograffiaeth
84
Stephanie Blakemore
FFOTOGRAFFIAETH
TRWY diwtorialau a thrafodaethau, anogir myfyrwyr i gynhyrchu gwaith ffotograffig sy’n gofyn cwestiynau am eu pwnc ac, yr un mor bwysig, yn profi paramedrau arfer ffotograffig. Mae’r cwrs yn cynnig rhaglen eang a chyfeillgar sy’n caniatáu i fyfyrwyr archwilio ystod eang o dechnegau, defnyddiau ac arddulliau er mwyn darganfod eu cryfderau personol a chyfeiriad eu gyrfa yn y pen draw. Yn ogystal â chyfleusterau ac ystafelloedd tywyll ffotograffiaeth traddodiadol, mae ein darpariaeth ddigidol yn cynnwys ystafelloedd cyfrifiaduron Mac ac arnynt y feddalwedd Adobe diweddaraf. Mae ein holl gyfrifiaduron Mac wedi’u cysylltu ag argraffwyr proflennu a chwistrell, ystafell dywyll ddigidol lliwreoledig arbenigol gyda sganwyr Hasselblad Flextight a chyfleuster argraffu fformat mawr a storio sy’n rhoi ichi fynediad at gamerâu ffilm fformat canolig a mawr, SLR digidol proffesiynol, camerâu digidol Hasselblad fformat canolig ac offer goleuo lleoliad. Rydym yn credu ei fod yn hanfodol bod eich gwaith gael gorffeniad proffesiynol ac i’r perwyl hwn, cefnogir eich prosiectau ymarferol gan weithdai. Mae cael mynediad at wybodaeth ymarferol ychwanegol yn sicrhau y gallwch ddefnyddio cyfleusterau rhagorol y Brifysgol yn hyderus, gan wneud dewisiadau gwybodus am ddull ac offer, ac yn y pen draw, cynhyrchu gwaith o safon eithriadol. Mae’r gweithdai’n cwmpasu prosesu ac argraffu, gan gynnwys dulliau argraffu hanesyddol, du a gwyn seiliedig ar ffibr; defnyddio gwahanol fformatau camera o fformat canolig i ffilm rholyn a ffilm 5 x 4, i ddigidol (gan gynnwys fformat canolig); llif gwaith ac argraffu digidol; fideo (saethu a golygu); gosod a thaflunio arddangosfa; goleuo stiwdio a lleoliad.
85
FFOTOGRAFFIAETH
Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau Mae’r cwrs hwn yn eich galluogi i archwilio a herio confensiynau celf ffotograffig cyfoes. Fe’ch anogir i ymgymryd ag ymholiad helaeth, mentrus i bosibiliadau’r cyfrwng, gydag arbrofi wrth wraidd athroniaeth y cwrs. Mae’r cwrs yn cwmpasu dealltwriaeth eang o bob agwedd ar ffotograffiaeth; ei hanes, theori ac arfer, ac fel y cyfryw mae’n adlewyrchu natur cynyddol rhyngddisgyblaethol ffotograffiaeth o fewn y cyfryngau cyfoes. Mae llawer o’r cwrs yn hunan-gyfeiriedig, gan ganiatáu am ymagwedd hyblyg at wneud delweddau mewn perthynas â phwnc a thechneg. Gan ganolbwyntio ar syniad ffotograffiaeth fel arfer celf cysyniadol, mae’r cwrs hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cysylltu datblygiad ffotograffig unigol gyda chymwysiadau masnachol. Mae gan yr adran ffotograffiaeth gysylltiadau cryf gyda’r diwydiannau celf a chyfryngau masnachol, a ddefnyddir ac a gryfheir gan y rhaglen darlithwyr gwadd rheolaidd.
COD UCAS Y D R I N D O D D E W I S A N T: W 6 4 3 MArts: 123L
Hannah Scoular
Ffotonewyddiaduraeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol Mae’r cwrs hwn yn ffocysu ar ddatblygu gwell dealltwriaeth o rym adrodd straeon gweledol a chanlyniadau sosio-wleidyddol gwahanol ffurfiau a defnyddiau ffotograffiaeth. Mae’r cwrs yn archwilio ein diwylliant gweledol rhyfeddol esblygol a’n hawydd parhaus i ddogfennu bywyd bob dydd – o’r hunlun, i’r stryd, i’r stiwdio. Anogir ein myfyrwyr i edrych ar ffotograffiaeth Ffotonewyddiaduraeth a Dogfennol fel pwnc eang a chyffrous sy’n addasu’n gyson i gadw fyny gydag amgylchedd cyfryngau sy’n newid yn gyson. Gyda chymorth amrywiaeth eang o weithdai ymarferol (gan gynnwys delwedd symudol, goleuo stiwdio a lleoliad ac argraffu mewn ystafell dywyll) mae ein myfyrwyr yn arbrofi gyda chyfrwng ffotograffiaeth i ddatblygu eu harddull unigryw eu hunain. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda grwpiau cymunedol ac elusennau lleol lle caiff myfyrwyr y cyfle i gyflwyno gweithdai a datblygu prosiectau personol. Georgia Mingham
86
BCAO D U CSAESF YCDOLDI A ED : W : T68403
COD UCAS Y D R I N D O D D E W I S A N T: J 3 1 6 MArts: 295G
Jasmine Farling
87
VERÓNICA SANCHIS BENCOMO Wedi graddio o’r cwrs Ffotograffiaeth
88
MAE VERÓNICA Sanchis Bencomo yn ffotograffydd,
ysgrifennwr a churadur, sydd ar hyn o bryd yn gweithio o Hong Kong. Ar ôl graddio o’r cwrs Ffotonewyddiaduraeth yn 2010, cydweithiodd gyda’r cylchgrawn diwylliannol, Ventana Latina, a arweiniodd at erthygl nodwedd misol, Fotografia Latina, lle cyfwelodd â ffotograffwyr sy’n gweithio yn America Ladin. Yn 2014 sefydlodd Verónica Foto Féminas, i hyrwyddo gwaith ffotograffwyr benywaidd o America Ladin a’r Caribî yn rhyngwladol, mewn arddangosfeydd a chyhoeddiadau. Mae Verónica yn cyfrannu at blatfformau sy’n cynnwys The Photographic Museum of Humanity (Y Deyrnas Unedig), cylchgrawn Yet (Y Swistir) ac Atlas Fotografia e Imagen (Tsile). Mae hi’n parhau i weithio ar ei phrosiectau ei hun ac yn ddiweddar fe gyhoeddodd lyfr artist, sef Blaze, ar y cyd â’r bardd, Cristina Gálvez. “Fe wnes i fy nhraethawd hir ar wahanol Yn 2014 sefydlodd ffotograffwyr sy’n gweithio ym Mecsico, a berodd i Verónica ‘Foto mi barhau gyda’r ymchwil, yn gyntaf trwy gyfweld Féminas’, i hyrwyddo â ffotograffwyr Sbaenig o gylchgrawn Ventana gwaith ffotograffwyr Latina yn Llundain, a esblygodd yn Foto Féminas fel prosiect personol. Heb os, roedd meddu ar y cefndir benywaidd o America hwn o’m hastudiaethau yn y brifysgol wedi bod yn bwysig wrth ddatblygu fy syniadau yn y dyfodol.” Ladin a’r Caribî.
Ffotograffydd, ysgrifennwr a churadur, sy’n gweithio o Hong Kong VERÓNICA SANCHIS BENCOMO UN O’N GRADDEDIGION 89
90
CYFLEUSTERAU FFOTOGRAFFIAETH
MAE EIN GWEITHDAI FFOTOGRAFFIG ARBENIGOL YN CYNNWYS:
Cyfleusterau ac ystafelloedd tywyll ffotograffiaeth traddodiadol helaeth, darpariaeth ddigidol sy’n cynnwys ystafelloedd Mac sydd â’r feddalwedd Adobe diweddaraf wedi’u cysylltu ag argraffwyr proflennu a chwistrell proffesiynol, ystafell dywyll ddigidol lliwreoledig arbenigol gyda sganwyr Hasselblad Flextight a chyfleuster argraffu fformat mawr a storio sy’n rhoi ichi fynediad at gamerâu ffilm fformat canolig a mawr, SLR digidol proffesiynol, camerâu digidol Hasselblad fformat canolig ac offer goleuo lleoliad.
91
Ffilm a Theledu Mae ein rhaglen ffilm a theledu yn greadigol ac yn seiliedig ar arfer, gan ganolbwyntio ar egwyddorion creadigol a damcaniaethol allweddol a fydd yn dal i elwa myfyrwyr yn hir ar ôl iddynt raddio. Fel Ffilm a Theledu ei hun, mae’r cwrs yn gyfuniad o feddwl creadigol ac ochr ymarferol gwneud ffilmiau, wedi’i ategu gan ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau diddorol a symbylol.
92
FFILM A THELEDU
MAE ATHRONIAETH y cwrs wedi’i seilio ar yr arfer cymhwysol o adrodd straeon ar gyfer y sgrin. O ganlyniad, mae cynyrchiadau ein myfyrwyr wedi ennill gwobrau ar gyfer gwaith ffuglen a ffeithiol mewn llawer o wyliau a seremonïau gwobrwyo, gan gynnwys Gwobrau Myfyrwyr Cymdeithas Teledu Brenhinol Cymru, Screentest: Gŵyl Ffilm Genedlaethol Myfyrwyr, Gŵyl Ffilm Fach Caerdydd a Ffresh. Nod y cwrs yw meithrin a herio ein myfyrwyr wrth iddynt ddatblygu eu galluoedd creadigol. Hefyd, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â gweithdai rheolaidd gydag offer o safon diwydiant gan Canon, Red, Sony, Dedo, Kino Flo, Manfrotto, Rode, Sennheiser, Litepanels ayyb. Rydym hefyd yn un o’r ychydig Ysgolion Ffilm y DU sy’n cynnig cyfle i fyfyrwyr redeg gŵyl ffilm. Gŵyl a redir gan fyfyrwyr Coleg Celf Abertawe yw Gŵyl Ffilm Ryngwladol Copper Coast sy’n denu diddordeb o bob cwr o’r byd. Gyda phedwar stiwdio mawr yn gweithredu o fewn awr i ni, mae Abertawe yn lleoliad perffaith i astudio Ffilm. Mae hyn wedi galluogi i’r cwrs ddatblygu cysylltiadau cryf iawn gyda’r sector cynhyrchu, yn arbennig gyda stiwdios Bad Wolf, Caerdydd.
Hefyd, mae’r brifysgol yn cyflogi aelod o staff i gysylltu gyda stiwdios a chwmnïau cynhyrchu. Mae hyn yn helpu i ddarparu cyfleoedd rheolaidd i fyfyrwyr addas fynd ar leoliad, ar ffilmiau a chyfresi teledu. Caiff myfyrwyr brofiad gwaith mewn gwahanol adrannau o fewn criw cynhyrchu drama, ar leoliad, yn y stiwdio ac yn y swyddfa gynhyrchu. Mae ein myfyrwyr wedi gweithio ar amrywiaeth o sioeau ffilm a theledu fel Sherlock (2012), Atlantis (2013), Fury (2014), Guardians of the Galaxy (2014), Mission: Impossible - Rogue Nation (2015), The Collection (2016), The Grand Tour (2016), Bang, (2017) Will (2017), Overlord (2018) a llawer iawn mwy. Mae gan y cwrs berthynas cryf gyda gorsaf deledu newyddaf Cymru, BAY TV (Sianel Freeview 8 a Virgin Media 159). Er ei bod yn cael ei hariannu’n rhannol gan y BBC, cwmni teledu darlledu annibynnol yw BAY sydd wedi sefydlu stiwdio a chyfleuster darlledu yng Ngholeg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant. Mae hwn yn gyfle anhygoel i’n myfyrwyr, gan eu galluogi nid yn unig i weithio ar sioeau stiwdio byw, ond hefyd i ymchwilio a chyflwyno cysyniadau ar gyfer cynyrchiadau teledu posibl.
C O D U C A S B A Y D R I N D O D D E W I S A N T: W 6 1 0 | M A r t s : 4 S 8 X
93
94
D AV E C L A R K E Un o’n Graddedigion ERS graddio yn 2011, mae Dave Clarke wedi llunio gyrfa lwyddiannus fel Prif Grip yn gweithio ar lu o ffilmiau a sioeau teledu gan gynnwys Paddington 2, Casualty a llawer iawn o rai eraill. Am y 5 mlynedd ddiwethaf, buodd yn gweithio fel Cynorthwyydd Grip ac yna’n ddiweddarach fel Grip. Bellach, mae’n gyfrifol am yr adran Grip, gan ddarparu cefnogaeth a datrysiadau rigio i’r adran camerâu. O offer syml fel trybeddau a phennau camerâu i gyfuniadau trac a doli mwy cymhleth yn ogystal â rigiau car a chraeniau.
95
Dylunio Set Meddyliwch am funud am eich hoff ffilmiau a rhaglenni teledu. Meddyliwch am ba mor anhygoel yw’r setiau. Meddyliwch am y ffordd y mae’r setiau’n rhoi cartref i gymeriadau a syniadau. Dychmygwch fod yn rhan o ddiwydiant creadigol a gwneud hyn am fywoliaeth. Gall y radd Dylunio Set wireddu’r freuddwyd hon.
96
DY L U N I O S E T
GALL DDATBLYGU a ffrwyno eich meddwl creadigol a dychmygol, hybu eich brwdfrydedd am ddelweddu, creu ac adeiladu amgylcheddau a setiau syfrdanol. Mae’r rhaglen hon ar gyfer pobl sydd am ddefnyddio eu cariad a’u creadigrwydd at ddylunio i wneud yr amgylcheddau hynny. Mae’r cwrs hwn yn trawsnewid cyffredinolwyr yn arbenigwyr. Ychydig iawn o gyrsiau tebyg sydd ar gael yn genedlaethol neu’n rhyngwladol ac nid oes gan yr un ohonynt yr un uchelgais dros eu myfyrwyr na’r un ystod o ymagweddau. Wedi ein lleoli yn Abertawe, mae gennym gysylltiadau uniongyrchol ag ystod o gyfleusterau a stiwdios cynhyrchu. Ni yw’r unig gwrs i gyflogi Swyddog Lleoli Addysg Ffilm pwrpasol i hwyluso profiad gwaith ar setiau yn y diwydiant Ffilm a Theledu. Rydym yn unigryw am fod gennym ein gorsaf deledu ddarlledu ein hunain – Bay TV – ac yn ei defnyddio i arddangos gwaith myfyrwyr a rhoi amser go iawn ar y teledu i rhith-ddyluniadau set. Rydym yn gwahodd gweithwyr proffesiynol o’r radd flaenaf o Bad Wolf Studios, Three Cliffs Production, Pinewood Cymru, Dragon Studios,
Bay Studios yn Abertawe i weithio gyda’r myfyrwyr a’n datblygiad newydd sy’n werth miliynau o bunnoedd, sef pencadlys corfforaethol S4C. Yn bwysicaf oll, mae galw mawr am ein myfyrwyr gan y stiwdios hyn ac maent yn cynnig swyddi i raddedigion yn gyson. Rydym yn cefnogi hyn i gyd gyda lle stiwdio, cyfleusterau ac offer rhagorol gan Canon, Red, Sony, Dedo, Kino Flo, Manfrotto, Rode, Sennheiser a Litepanels. Os hoffech ymchwilio i gyfnodau hanesyddol, datblygu delweddau, adeiladu golygfeydd bendigedig, ail-greu tirweddau presennol neu drawsnewid naratif a syniadau ar gyfer sgriptiau ffilmiau yn setiau ffilm, yna mae ar y cwrs Dylunio Setiau eich angen. Rydym yn gobeithio llunio cwrs o unigolion angerddol sydd â diddordeb mewn hanes, dylunio, celfyddydau, graffeg a diwylliant cyfoes; pobl sydd eisiau bod yn ddylunwyr set talentog a gweithio mewn diwydiant ffyniannus a bywiog. Rydym yn disgwyl i bobl ddod o ystod eang o gefndiroedd technoleg, dylunio, y dyniaethau, prentisiaeth a seiliedig ar y cyfryngau.
C O D U C A S Y D R I N D O D D E W I S A N T: B A 6 4 D 8 | M A r t s 6 4 D 9
97
Celfyddydau Perfformio Rydym yn chwilio am fyfyrwyr sydd â chariad at berfformio. Myfyrwyr sy’n cael eu hysbrydoli drwy arbrofi gyda ffiniau arfer perfformio drwy gydweithio rhyngddisgyblaethol gydag artistiaid creadigol, cerddorion a gwneuthurwyr o bob math.
RYDYM YN CYNNIG profiad dwys, seiliedig ar arfer at astudio, gyda chydbwysedd gofalus o hyfforddiant ymarferol a gefnogir gan astudiaethau academaidd. Er mwyn sicrhau bod ein cyrsiau’n parhau i fod yn berthnasol o fewn diwydiant sy’n newid o hyd, mae sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael gweithio gydag ymarferwyr dylanwadol cenedlaethol a rhyngwladol wrth wraidd ein haddysgu a’n dysgu.
98
Camiile Relet
Fel myfyrwyr, byddwch yn dysgu drwy ‘wneud’, drwy ymgysylltu â’ch gilydd, gyda’ch cynulleidfa a gyda’r gymuned drwy eich gwaith creadigol. Mae ein hymrwymiad i lwyfannu a dathlu gwaith ein myfyrwyr mewn gwyliau a digwyddiadau yn cyfrannu at berfformiadau arloesol o safon uchel iawn, ac yn darparu cyfleoedd gyrfaol allweddol at y dyfodol.
RYDYM YN ANNOG cyflogaeth gynaliadwy trwy roi sgiliau trosglwyddadwy a chreadigol i’n myfyrwyr, gan gysylltu arfer proffesiynol i gyfleoedd gwaith cyson ar gyfer ein graddedigion. Bob blwyddyn, bydd eich arfer creadigol yn datblygu drwy weithio mewn amrywiaeth o fformatau a lleoliadau cyffrous ac arloesol, gan herio ffiniau perfformio a rhoi ichi lu o gyfleoedd i arddangos eich gwaith.
Mark Robson
99
Drama Gymhwysol DYLUNIWYD y cwrs hwn i’r rheiny sy’n caru perfformio ac sy’n cael eu cyffroi gan ei rôl mewn lleoliadau cymunedol, addysgol a therapiwtig. Mae drama gymhwysol yn addysgu’r myfyriwr i greu a chyflwyno gweithgareddau perfformio cyfranogol y tu allan i leoliadau theatr traddodiadol gan ddefnyddio ymagweddau arloesol ac unigryw, mewn cydweithrediad ag ymarferwyr a chwmnïau proffesiynol. Cyfeirir ato’n aml fel Theatr er Newid (‘Theatre for Change’), ac mae Drama Gymhwysol yn cynnig llwybr amgen at yrfa yn y Celfyddydau Perfformio.
COD UCAS Y DRINDOD DEWI SANT: BA W401
Perfformio Cyfoes MAE’R CWRS HWN yn gwau perfformiad corfforol a lleisiol gyda chyfryngau a thechnoleg i greu perfformiadau rhyngddisgyblaethol, arbrofol, gan archwilio i ffyrdd modern i rannu straeon modern. Mae ein myfyrwyr Perfformio Cyfoes hefyd i’w gweld yn amlwg, gan gynhyrchu theatr stryd arloesol a digwyddiadau perfformio ar draws y ddinas. Georgia Mingham
100
COD UCAS Y DRINDOD DEWI SANT: BA W47W
BARBARA SARMIENTO ARAÑA
Graddiodd o’r cwrs Perfformio Cyfoes yn 2014. Ar ôl graddio, cafodd ei hurio gan Volcano Theatre i berfformio yn eu cynhyrchiad o Black Stuff (Edinburgh Fringe Festival, Canolfan Mileniwm Cymru 2015). Ers hynny, mae hi wedi sefydlu ei chwmni theatr ei hun, Pain in the Arts, gyda Liam Reynolds a raddiodd gyda hi. Cenhadaeth eu cwmni yw helpu ac ysbrydoli graddedigion i greu a datblygu gwaith newydd. Mae Pain in the Arts wedi cyflwyno tri chynhyrchiad, ‘Don’t Let Me Forget’ (Novemberfest 2016), ‘Book of Growth’ (Gŵyl Wyddoniaeth Kew yn Wakehurst) a’u darn theatr ieuenctid newydd ‘Grow Together’ (Gŵyl Let’s Grow Wild, Glannau afon Casnewydd, 2017). Delwedd: Volcano Theatre Company
101
Technoleg Cerddoriaeth Mae ein gradd seiliedig ar arfer yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr ddatblygu’r sgiliau allweddol sydd eu hangen er mwyn gallu gweithio yn y diwydiannau cyfryngau clywedol.
GALL MYFYRWYR ARBENIGO MEWN: Cynllunio Sain, Sain Gemau, Peirianneg Stiwdio, Cyfansoddi Cymysgu a Gwneud Prif Gopïau, Sain Fyw, Cynllunio Meddalwedd Cerddoriaeth Cynhyrchu Fideos Cerddoriaeth, Rhaglennu, Perfformio
102
CERDDORIAETH
MAE GENNYM gysylltiadau cryf gyda phartneriaid ac ymarferwyr yn y diwydiant, rydym yn defnyddio’r feddalwedd safon diwydiant diweddaraf ac mae gennym gyfleusterau helaeth ar gyfer creu sain gofodol 3D, recordio mewn stiwdio, sain byw, fideo, a chynnwys rhyngweithiol ar gyfer y we a dyfeisiau symudol. Yn bennaf, mae’r cwrs Technoleg Cerddoriaeth wedi’i leoli yn yr Adeilad BBC hanesyddol ac mae’n cynnwys tair stiwdio recordio o’r radd flaenaf a neuadd ddarlledu cyngherddau fawr. Mae’r stiwdios wedi croesawu artistiaid amrywiol, fel Dylan Thomas, Peter Sellers a Catatonia. Ar hyn o bryd, mae Cerddorfa Gliniadur Abertawe mewn preswyliaeth yno. Mae gan y myfyrwyr fynediad llawn i’n lab Mac, sy’n llawn o’r feddalwedd ddiweddaraf, fel Pro Tools a Logic X. Cynigir hyfforddiant dwys mewn ystod eang o sgiliau a gweithgareddau cysylltiedig â thechnoleg cerddoriaeth. Mae’r casgliad o stiwdios yn y brifysgol yn llawn offer sy’n cynnig ystod eang o feddalwedd a chaledwedd o safon ddiwydiannol a lleoedd recordio a pherfformio pwrpasol.
103
Technoleg Cerddoriaeth Nod y rhaglen Technoleg Cerddoriaeth yw meithrin sgiliau technegol ac esthetig amrywiol sy’n gysylltiedig â phwnc eang technoleg cerddoriaeth. Mae’r adran technoleg cerddoriaeth yn fywiog ac yn rhan allweddol o ethos traws-ddisgyblaeth Coleg Celf Abertawe.
COD UCAS Y DRINDOD D E W I S A N T: J 9 3 1 M M u s Te c h : 5 P 2 Y
Cerddoriaeth (Perfformio a Chynhyrchu) Mae’r cwrs Cerddoriaeth (Perfformio a Chynhyrchu) wedi’i ddylunio i roi i’r graddedigion y sgiliau perfformio, technegol, creadigol a phroffesiynol sy’n berthnasol i’r rheiny sy’n dymuno gweithio yn y diwydiannau cerddoriaeth. Mae’r cwrs hwn yn un ymarferol iawn ac yn ffocysu ar y diwydiant, gydag ymagwedd aml-sgil sy’n cynnwys perfformio, cyfansoddi, dadansoddi, recordio a chynhyrchu. Mae natur seiliedig ar brosiectau’r rhaglen yn caniatáu i’r myfyrwyr deilwra’r aseiniadau i weddu eu diddordebau o fewn maes pwnc eang perfformio a chynhyrchu cerddoriaeth.
104
COD UCAS Y DRINDOD D E W I S A N T: 1 6 5 F
JAKE BOURTON Artist Sain ar ei Liwt ei Hun “Mae’r cwrs, ynghyd â chefnogaeth y tîm darlithio, wedi ehangu fy meddwl yn gerddorol, yn artistig ac mewn ffyrdd technolegol. Agwedd arbennig o gyffrous am y cwrs oedd cael y rhyddid, yr hyder a’r gred yn fy ngallu i ddilyn diddordebau mewn sain ffilm a theledu. I helpu hyn, ymgymerais â lleoliadau gwaith yn y diwydiant, na fyddai wedi bod ar gael i mi heb y cwrs. Buaswn yn argymell y cwrs hwn i unrhyw un sy’n dymuno cael swydd mewn diwydiannau sy’n gweithio gyda sain.” Mae Jake wedi gweithio ar nifer o gynyrchiadau gan gynnwys: Sunshade Films – Driscoll Manor, Long Coats and Crisp Packets, Feature Film, Tornado Studios – The Rebels.
105
Animeiddio Cyfrifiadurol 3D Ar y radd Animeiddio Cyfrifiadurol 3D rydym yn rhoi’r rhyddid a’r cyfleoedd i fyfyrwyr ddysgu rhagor am gelf a chrefft animeiddio. Rydym yn helpu myfyrwyr i lunio gwaith sy’n apelio ac yn helpu i roi bywyd i gymeriadau, modelau ac effeithiau, delweddaeth a naratifau gweledol.
Y CWRS HWN yw un o rhai mwyaf sefydledig y DU. Ers 2003 mae ein graddedigion wedi cael profiad allweddol o’r diwydiant gyda chwmnïau cynhyrchu bydeang, stiwdios VFX, stiwdios gemau, hysbysebion, teledu a llawer o feysydd adloniant eraill. Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio ar y ffilmiau INTERSTELLAR, JUNGLE BOOK, GUARDIANS OF THE GALAXY, FANTASTIC BEASTS, HOTEL TRANSYLVANIA, THOR, SKYFALL, PROMETHEUS, CHRONICLES OF NARNIA, MAN OF STEEL, IRON MAN 2, KUBO AND THE TWO STRINGS, BOXTROLLS, WORLD WAR Z, a llawer iawn mwy. Mae ein holl dîm yn annog y defnydd o dechnegau dylunio solet, i ymgorffori cyfnodau animeiddio a chynhyrchu clasurol lle bynnag y bo’n bosibl. Rydym yn gwybod pa mor werthfawr yw deall strwythur anatomegol mewn gwaith ffigwr; rydym yn pennu amser i ddefnyddio arddulliau ac egwyddorion animeiddio cymeriad; rydym yn helpu i ddylunio a datblygu setiau a senarios stori dychmygus. Hyn oll o fewn gwaith cysyniad a chyngynhyrchu cyn eu gweld yn cael eu siapio mewn 3D. Mae gan staff brofiad academaidd cadarn o addysgu’r pynciau hyn, gyda rhestr faith o gyfresi animeiddio, ffilm a gemau yn cefnogi hyn. Yn eu tro, mae ein myfyrwyr Animeiddio Cyfrifiadurol 3D yn cael cipolwg gwerthfawr i mewn i’r diwydiant a chymorth gydag animeiddio sy’n eu galluog i ddilyn y llwybr iawn i’r diwydiannau creadigol a’r datblygiadau cyffrous diweddaraf mewn animeiddio digidol modern.
106
Delwedd ASSASSINS gan Cedrick Valdeviezo, BA (Anrh) Animeiddio Cyfrifiadurol 3D, 2017 (nawr yn gweithio yn DIGITAL SHOGUNS).
ANIMEIDDIO CYFRIFIADUROL 3D
Raj Joshi
Emelie Jensen
C O D U C A S Y D R I N D O D D E W I S A N T: B A W G P 4 | M A r t s D 7 X 4
107
108
ANIMEIDDIO CYFRIFIADUROL 3D
ANTHONY BLOOR Pennaeth 3D, Advertising MPC, Llundain
ANTHONY oedd un o’r myfyrwyr cyntaf i gwblhau’r radd BA Animeiddio 3D yn 2003. Dechreuodd weithio yn MPC yn 2005, yn gweithio fel Goleuwr a Gweithiwr Cyffredinol ar ‘Hogfather’ a enillodd BAFTA, (Effeithiau Gweledol Gorau). Helpodd y ffilm a wnaeth yn y drydedd flwyddyn yn Abertawe - PLATFORM ZERO – ei lansio i mewn i’r diwydiant lle mae’n parhau i ddatblygu gwaith artist ac animeiddio 3D o’r radd flaenaf, a fireiniodd yma yn Abertawe. Ers dod yn Gyd-bennaeth ar yr adran 3D yn 2013, mae Anthony wedi gweithio gyda nifer o asiantaethau a chleientiaid, gan oruchwylio ystod enfawr o waith 3D creadigol sydd wedi ennill gwobrau, yn goruchwylio’n bersonol dyluniad, gwaith adeiladu ac animeiddio dilyniannau enwog sy’n cynnwys nadredd wedi’u hanimeiddio (coctels), bwystfilod sy’n chwythu tân (gwm cnoi) a Barry, yr hwyatbig sy’n siarad (hysbyseb yswiriant).
DATBLYGODD HELEN berthynas glos gydag AARDMAN
HELEN DUCKWORTH Modelwr ‘CG’ ac Artist Gwead
(Bryste) yn ei blwyddyn olaf, ac o ganlyniad fe aeth i weithio iddyn nhw yn eu hadran ‘CG’ gyda’r modelu digidol ar hysbysebion ac ar y ffilm PIRATES. Mae’n gweithio’n bennaf ar y modelau a dyluniad cymeriadau ond mae hi hefyd wedi cyfrannu at roi gwead iddynt ac i ddatblygu’r goleuo a’r edrychiad ar lawer o ffilmiau sydd wedi ennill gwobrau. Arweiniodd y profiad gydag AARDMAN at fwy o brosiectau 3D ar y ffilm BOXTROLLS a KUBO & THE TWO STRINGS, gyda LAIKA, ac yna i fod yn Uwch Fodelwr gyda SONY PICTURES IMAGEWORKS a’i gwaith ar gymeriadau, setiau, propiau ar ffilmiau HOTEL TRANSYLVANIA, THE SMURFS a STORKS.
109
110
Stiwdio Cipio Symudiad 111
Dylunio Gemau Cyfrifiadurol Creadigol Mae’r cwrs Dylunio Gemau Cyfrifiadurol Creadigol yn rhoi i fyfyrwyr y sgiliau hanfodol a’r arferion a ddefnyddir yn y Diwydiant Gemau ynghyd â’r gallu i ddadansoddi’n academaidd a gwerthuso eich syniadau a’ch dyluniadau eich hunain ar gyfer gemau.
112
Richard Morgan
DY L U N I O G E M AU C Y F R I F I A D U R O L C R E A D I G O L
Richard Morgan
Richard Morgan
Gemma Suen
MAE EIN HOLL FODYLAU yn bwydo i mewn i un syniad am êm dros ddwy flynedd y cwrs, gan alluogi i fyfyrwyr weithio o fewn grŵp cynhyrchu i ddatblygu gwaith drwy ddefnyddio cylch datblygu ffug. Ym mlwyddyn gyntaf y cwrs bydd myfyrwyr yn gweithio o fewn eu timau i gynhyrchu pob cysyniad, cymeriad, ased a dogfennaeth ar gyfer y gêm. Yn yr ail flwyddyn, bydd pob myfyriwr yn gweithredu’r holl waith o’r flwyddyn gyntaf i mewn i amgylchedd peiriant gêm ac yn y pendraw yn creu gêm arddangos sy’n gweithio. Mae’r drydedd flwyddyn yn datblygu’r syniadau hyn ymhellach a bydd y myfyrwyr yn cynhyrchu gêm arddangos/ proflen o gysyniad, wedi’i seilio ar eu manylebau eu hunain, fel rhan o’u prosiect mawr terfynol. Mae blwyddyn olaf yr MArts wedi’i dylunio i gynnig cyfle i fyfyrwyr gael gradd Meistr a thrafod trosglwyddo i’r diwydiant.
Mae’r Rhaglen yn aelod o Raglen Academaidd PlayStation® Sony, ac mae’r bartneriaeth gyffrous hon yn darparu mynediad i offer datblygu PlayStation® a’r un caledwedd proffesiynol a ddefnyddir gan stiwdios gemau o gwmpas y byd i greu gemau sy’n torri tir newydd ar PlayStation®. Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio gyda chwmnïau blaenllaw a llwyddiannus fel ROCKSTAR NORTH, ELECTRONIC ARTS, CRITERION, CREATIVE ASSEMBLY a TRAVELLER’S TALES yn rhan o ddatblygiad BURNOUT DOMINATOR, cyfres HARRY POTTER, GRAND THEFT AUTO V, HALO WARS 2, LITTLE BIG PLANET, ALIEN ISOLATION a chyfres LEGO STAR WARS.
C O D U C A S Y D R I N D O D D E W I S A N T: B A W 2 8 3 | M A r t s 8 B 2 K
113
114
DAN BREWER Uwch Ddylunydd Creative Assembly
D AV I D A L D E N Artist Cysyniad Technegol yn Rockstar North
DECHREUAIS FY ngyrfa fel Dylunydd yn Supermassive Games. Yn ystod fy nghwrs prifysgol, roedd gen i ddiddordeb mawr mewn realiti estynedig, ac fe gwestiynodd fy nhraethawd hir p’un ai dyna oedd dyfodol gemau. Roedd Supermassive Games yn dechrau gwaith ar êm parti realiti estynedig fel teitl lansio ar gyfer rheolwr ‘Playstation Move’ (Start the Party) ar PS3 ac roeddynt yn chwilio am ddylunydd i weithio arno. Yn ffodus iawn, o ganlyniad i’m brwdfrydedd dros dechnoleg realiti estynedig roeddwn yn wahanol i ymgeiswyr eraill a chynigiwyd swydd i mi ychydig wythnosau’n ddiweddarach. Yn ystod fy 6 blynedd yn Supermassive, bues yn ddigon ffodus i weithio ar bron bob prosiect y gwnaethant, gan gynnwys: Little Big Planet DLC, cyflwyno cysyniadau, prototeipiau drama naratif mewnol, Doctor Who: The Eternity Clock, Wonderbook: Walking with Dinosaurs, Airship Aces, Spy Ops ac Until Dawn, a enillodd BAFTA. Ar ôl hyn, ymunais â Creative Assembly fel uwch ddylunydd i weithio ar Halo Wars 2, ac yn ystod y 2 flynedd y buom yn gweithio ar Halo Wars 2, cymerais rôl allweddol wrth ddarparu’r profiad chwarae craidd ac aml-chwaraewr. Hyd heddiw, rwy’n mwynhau fy amser yn Creative Assembly, ac yn defnyddio sgiliau allweddol a ddysgais yn ystod fy amser yng Ngholeg Celf Abertawe bob dydd.
AR HYN O BRYD, rwy’n gweithio fel Artist Cynnwys Technegol yn Rockstar North lle rwyf wedi bod yn gweithio ers dros 5 mlynedd wedi dod yma’n syth o Golef Celf Abertawe. Yn yr amser hwnnw rwyf wedi symud o QA i Gymorth Celf gan fod y brifysgol wedi addysgu imi ddealltwriaeth o iaith gelf gemau ac yna es ymlaen i’m teitl swydd presennol o ganlyniad i’m sgiliau ymarferol. Yn rhinwedd fy swydd, rwy’n gweithio ar gelf map gemau bob dydd, o’r cysyniad, dylunio i’r gweithredu a’r cynllun technegol gyda thîm gwych o artistiaid a phobl gynorthwyol angerddol o’r un meddylfryd. Ni fuaswn i ble rydw i nawr heb fy amser ar y cwrs Dylunio Gemau Cyfrifiadurol Creadigol, a roddodd i mi’r sgiliau a’r iaith i allu cyfleu fy syniadau a’m harddulliau o fewn y diwydiant, am roi i mi sail wybodaeth anhygoel i adeiladu arni, ac am yr hyder i roi fy ngwaith a fi fy hun yn y diwydiant Gemau i barhau gyda’m gyrfa fel Artist Gemau.
115
116
YN DDIWEDDAR cafodd Coleg Celf Abertawe ei ddewis i ymuno â PlayStation®First, Rhaglen Academaidd Fyd-eang Sony Interactive Entertainment. Mae’r bartneriaeth gyffrous hon yn rhoi mynediad i’n myfyrwyr Dylunio Gemau Cyfrifiadurol Creadigol at offer datblygu PlayStation; yr un caledwedd proffesiynol a ddefnyddir gan stiwdios gemau ar draws y byd i greu gemau sy’n torri tir ar PlayStation. “Trwy PlayStation First rydym yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr dorri’u dannedd ar ddatblygu consol yn gynnar yn eu gyrfa. Mae arnom eisiau iddynt feddu ar y sgiliau sydd eu hangen ar ein diwydiant. Ac mae arnom eisiau ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddatblygwyr i greu gemau a phrofiadau newydd.” Luke Savage, Uwch Rheolwr Datblygu Academaidd Sony.
Mae PlayStation First yn cydnabod cyrsiau datblygu gemau mwyaf blaenllaw’r byd i helpu meithrin ton newydd o ddatblygwyr gemau. Mae’r rhaglen yn unigryw am ei bod yn cynorthwyo mynediad at y feddalwedd a’r caledwedd datblygu PlayStation llawn at ddibenion addysgu mewn peirianneg, rhaglennu a datblygu meddalwedd a dylunio gemau.“Mae natur cydweithredol yr holl waith a wna ein myfyrwyr yn rhoi iddynt well dealltwriaeth o sut beth yw gweithio’n gynhyrchiol a chymhwyso eu cryfderau craidd i unrhyw brosiect diwydiannol. Caiff yr athroniaeth yma ei hehangu gan ein bod wedi ein cynnwys ar raglen PlayStation®First Sony sy’n helpu i bontio’r bwlch rhwng academia a diwydiant ymhellach.” John Carroll, Cyfarwyddwr y Rhaglen: Dylunio Gemau Cyfrifiadurol Creadigol
117
Celf a Dylunio
Sylfaen Mae’r cwrs Tyst AU Celf a Dylunio Sylfaen yn darparu’r sail ar gyfer astudio celf a dylunio. Golyga hyn mai dyma’r ffordd ddewisol o fynd i astudiaethau arbenigol o fewn addysg uwch. Mae’r rhaglen yn weledol ac ymarferol yn bennaf, gydag elfennau o waith ysgrifenedig, ac mae’n datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o gysyniad, cyddestunau a gwneud.
MAE’R CWRS yn gyflwyniad i astudiaethau celf a dylunio, ac mae’n sylfaen neu’n sail i fyfyrwyr sy’n dechrau mewn ‘ysgol gelf’ ac yn wynebu, am y tro cyntaf, addysg a dysg mewn stiwdio, sy’n cynnwys ymholi a dysgu drwy ddarlunio, gwneud a phroses, ysgrifennu, ymchwil, cyflwyno a thrafod. Mae’r cwrs yn galluogi i fyfyrwyr symud ymlaen trwy gynhyrchu portffolio o waith ymarferol a gweledol, enghreifftiau o waith ysgrifenedig ac arddangosfa derfynol. Cyflwynir myfyrwyr i feysydd astudio arbenigol a allai arwain at astudiaethau pellach mewn meysydd sy’n cynnwys Celf Gain, Paentio ac Arlunio, Darlunio, Dylunio Graffig, Hysbysebu a Dylunio Brand, Dylunio Gemau, Celfyddydau Digidol, Animeiddio, Ffilm
118
a Fideo, Ffotograffiaeth, Modurol, Dodrefn, Addurno Mewnol, Cynnyrch, Cynhyrchu a Dylunio Theatr, Pensaernïaeth, Dylunio Gemwaith, Ffasiwn, Tecstilau, Patrwm Arwyneb, Crefft, Pensaernïaeth, Gwydr, Technoleg Cerddoriaeth a llawer iawn mwy. Addysgir y cwrs yn llwyr ar Lefel 4. Mae hyn yn ddilyniant clir o Lefel A ond gan roi i fyfyrwyr amser i ystyried opsiynau arbenigol BA yng nghyd-destun profiad ysgol gelf llawn. Rydym yn cynnal ethos a hud Sylfaen, gan alluogi i fyfyrwyr adeiladu sail o brofiad a sgil wrth ddarganfod meysydd newydd nad ydynt efallai wedi cael y cyfle i’w harchwilio o’r blaen. Rydym yn credu bod hyn yn hanfodol i lwyddo ar lefel gradd ac yn hollbwysig o ran gwneud y penderfyniadau iawn ar gyfer gyrfa yn y diwydiannau creadigol.
SYLFAEN
Charlotte Case
C O D U C A S Y D R I N D O D D E W I S A N T: F 4 W 8
119
Mae gan fyfyrwyr Sylfaen fynediad at gyfleusterau gweithdy ar draws y Gyfadran gan gynnwys ffotograffiaeth, print, torri â laser, gweithdy 3D (pren/metel/ plastig), gwydr, ystafelloedd cyfrifiaduron (Mac a PC), cerameg a stiwdios bywluniadu
Roberto Pierri
Alex Haredence
Ben Dawson
Jane Harrison
120
MAE’R CWRS wedi’i leoli’n bennaf mewn stiwdio hyfryd a gafodd ei hailwampio yn ddiweddar yng Nghyfnewidfa Ddylunio ALEX ac yn y fan hon y cychwynnodd y cwrs dros 100 mlynedd yn ôl. Rydym hefyd yn gweithio ar draws Gampws Dinefwr ac yn cynnig mynediad llawn i’n myfyrwyr at weithdai, cyfleusterau ac adnoddau un-pwrpas yn yr ysgol gelf, gan weithio ochr yn ochr â’n myfyrwyr gradd. Mae gan y Coleg Celf rhai o adnoddau gorau’r ardal, sy’n cynnwys offer traddodiadol a modern, sydd i gyd ar gael i’r holl fyfyrwyr Sylfaen fanteisio arno. Rydym hefyd yn cefnogi ceisiadau pellach drwy UCAS, ar gyrsiau yn ein Cyfadran ein hunan ac mewn mannau eraill – bydd myfyrwyr yn symud ymlaen i amrywiaeth o gyrsiau gradd mewn prifysgolion ar draws y wlad. Mae llawer o gyn-fyfyrwyr Sylfaen, sydd bellach yn raddedigion, yn artistiaid, dylunwyr ffasiwn, cynnyrch a graffig, athrawon a darlithwyr wrth eu gwaith. Mae rhai yn curadu a gweithio fel gweinyddwyr ac addysgwyr celfyddydau mewn amgueddfeydd ac orielau. Mae rhai wedi dod yn ddylunwyr yn y diwydiant neu’n gweithio fel penseiri. Yn ddiweddar, bu inni ddathlu ein pen-blwydd yn 100 oed gyda sioe cyn-fyfyrwyr yn Oriel Mission a amlygodd yr ystod eang o yrfaoedd cyffrous mae ein myfyrwyr wedi eu cael ar ôl gadael y cwrs. Mae llawer o’n cyn-fyfyrwyr yn dweud mai’r cwrs Sylfaen oedd un o’r blynyddoedd mwyaf gwerthfawr ac allweddol o’u haddysg gelf gan eu rhoi ar y llwybr iawn i’w meysydd pwnc arbenigol.
SYLFAEN
Jennifer Graham
Jennifer Graham
C O D U C A S Y D R I N D O D D E W I S A N T: F 4 W 8
121
Astudiaethau Ôl-raddedig Mae ein portffolio MA Dialogau Cyfoes yn creu platfform dysgu unigryw a ddefnyddir i annog myfyrwyr i ehangu eu profiad creadigol trwy arbrofi, cydweithredu a thrafodaethau rhyngddisgyblaethol.
MAE MA CELF GAIN yn dathlu disgyblaeth agored, seiliedig ar syniadau sy’n sefydlu amgylchedd dysgu unigryw lle chaiff cysyniad a phroses eu cefnogi’n gyfartal trwy arfer academaidd a gweithdy helaeth. Felly, mae gan fyfyrwyr y cyfle i weithio o fewn ac ar draws ystod eang o gyfryngau sy’n cynnwys paentio, fideo, perfformio, arfer 3D, gosod a phrint.
Tom Morris
122
Fel rhan o’r platfform rhyngddisgyblaethol, anogir myfyrwyr i ehangu proses, gan archwilio ystod eang o ymagweddau a defnyddiau ynghyd â datblygu dealltwriaeth ddamcaniaethol. Anogir myfyrwyr i werthuso ac ail-gwestiynu eu harfer ac i arbrofi a herio lled a ffiniau eu potensial a’u syniadau.
MAE MA CYFATHREBU GWELEDOL yn annog y myfyrwyr i archwilio a datblygu ymagweddau a dealltwriaeth newydd at broblemau dylunio gweledol sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Gyda phwyslais ar feddwl creadigol eang a datrys problemau, mae’r myfyrwyr yn datblygu portffolio o ymchwil a arweinir gan arfer sy’n ffurfio corff helaeth a allai gwmpasu ystod amrywiol o allbynnau ar draws meysydd darlunio, a dylunio graffig, hysbysebu a brand.
MAE MA FFOTOGRAFFIAETH yn ystyried holl agweddau arfer ond mae’n ymddiddori’n bennaf mewn ffurfio arferion unigol newydd ar draws ffiniau trawsddisgyblaethol. Mae’r cwrs yn ymestyn o foddau dogfennol i foddolrwydd cysyniadol fel ‘natur perfformiadol’, gwaith sefyllfa-benodol, ‘gornestau’ ffotograffig a gwahanol arferion cyfranogol a yrrir gan astudiaethau athronyddol a beirniadol i archwilio ac arbrofi gyda chysyniad dyfodoldeb a ‘ffotograffiaethau’r dyfodol’.
Paul Green
MAE MA DYLUNIO PATRWM ARWYNEB yn cynnig profiad sy’n canolbwyntio ar ddylunio ac yn ffocysu ar ethos o greadigrwydd, arloesi, gweledigaeth, dylunio a sgiliau gwneud ynghyd â dealltwriaeth gyd-destunol uwch a chyflogadwyedd. Gall myfyrwyr arbrofi ar draws ystod o ddisgyblaethau gan gynnwys dylunio ar gyfer addurno mewnol, gwrthrychau ffasiwn a gemwaith/gwaith metel.
Rachel Rosser
MAE MA TECSTILAU yn canolbwyntio ar decstilau fel cyfrwng ar gyfer archwiliad cyfathrebol a semiotig sy’n gallu ffurfio dialogau gyda disgyblaethau eraill. Gan fod y cyfrwng yn rhan hanfodol o’r profiad dynol, mae yna bwyslais ar ddiwylliant materol wedi’i drawsgyfeirio ag astudiaethau mewn ffenomenoleg ac astudiaethau beirniadol. Mae myfyrwyr yn archwilio cyd-destunau amrywiol materoliaeth fel y maent yn perthyn i werthoedd iaith, trosiad a defnydd diwylliannol.
Carly Wilshere-Butler
MAE’R MA GWYDR yn ymwneud ag astudio gwydr mewn amgylchedd a’i effeithiau a pherthynas â golau a lle. Fel defnydd, mae gwydr yn cynnig lle unigryw mewn dylunio a phensaernïaeth ac mae’r cwrs yn cynnig y cyfle i archwilio’r defnydd hwn, gyda chyfeiriad arbennig at ei gymwysiadau mewn pensaernïaeth. Mae gwydr ar ei ffurfiau niferus; mosaig, gwydro, enamel a ffasâd ffenestri yn cwmpasu amrywiaeth eang o arwynebau, sy’n cynnig paled cyfoethog ac amrywiol i’r gwneuthurwr.
Eddie Jones
123
MAE MYFYRWYR MA DYLUNIO CYNNYRCH yn cofleidio, adfyfyrio ac ymdrin â heriau amgylcheddol, economaidd a sosio-ddiwylliannol trwy ddialog creadigol. Mae’r cwrs yn herio confensiynau trwy arbrofi’n draws-gydweithredol a meddwl yn llorweddol i harneisio amwysedd dylunio a meddwl arloesol wrth adfyfyrio ar awyddau cymdeithas a’i hanghenion am gynnyrch yn y dyfodol. Mae’n annog safbwynt proffesiynol wrth ymgorffori paradeimau newydd ar gyfer dylunio cynhyrchion, systemau a gwasanaethau arloesol a chynaliadwy.
MAE MSC DYLUNIO DIWYDIANNOL yn defnyddio uwch dechnolegau digidol i ddilysu cyfeiriad dylunio sy’n ystyried dialogau deallusol a thechnegol gwireddu canlyniad dylunio â ffocws. Bydd myfyrwyr yn herio confensiynau creadigrwydd ac ychwanegiad technegol wrth geisio arloesi. Mae hyn yn darparu platfform o arbrofi cydweithredol a dylunio sy’n adlewyrchu’r heriau amgylcheddol, economaidd a thechnolegol sy’n bresennol yng nghymdeithas defnyddiwr yr oes sydd ohoni.
Matt Bellis
MAE’R MA DYLUNIO CLUDIANT yn cynnig bod dylunio arloesol sy’n canolbwyntio ar y dyfodol yn ganolog i hwyluso ymateb i’n hanghenion cludiant newidiol. Mae’r cwrs yn cynnig ymagwedd unigryw sy’n cyfuno cyfleoedd rhyngddisgyblaethol a chydweithredol i adeiladu ar ddealltwriaeth benodol o ragoriaeth mewn dylunio cerbydau. Mae’n annog myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth athronyddol eang er mwyn hwyluso mewnolwg i ddulliau rhyngweithio a materiolaeth.
Cynlluniwyd y RADD MA ANIMEIDDIO CYFRIFIADUROL 3D i helpu myfyrwyr i gael profiad o feddalwedd gyfoes o safon diwydiant ym maes cynhyrchu’r cyfryngau a datblygu ymwybyddiaeth feirniadol o ddelweddau a grëir gan gyfrifiadur. Mae elfen cyn-gynhyrchu’r rhaglen yn rhoi cyfle i ddatblygu deunydd cyn-gynhyrchu sy’n cyfathrebu’n glir â chynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol, sy’n un o nifer o sgiliau y mae cyflogwyr yn rhoi gwerth arnynt. Nid yw’r rhaglen hon yn rhan o’r portffolio Deialogau Cyfoes.
Robert Crick
124
125
Graddau Ymchwil Mae gan Goleg Celf Abertawe ddiwylliant ymchwil cyffrous a gefnogir gan restr helaeth o academyddion sydd â doethuriaethau a gwybodaeth arbenigol cysylltiedig. Mae’r academyddion hyn yn cymryd rhan mewn prosiectau ymchwil arloesol sy’n ymchwilio i arferion celf cydweithredol, crefft gyfoes, gwydr, iechyd a lles, addysgeg greadigol, digwyddiad a sefyllfa, ysgrifennu celf creadigol, astudiaethau amgylcheddol ac athroniaeth gyfandirol. Rydym yn cynnig nifer o opsiynau gradd ymchwil, gan gynnwys Meistr drwy Ymchwil (MRes), Meistr mewn Athroniaeth (MPhil) a Doethur mewn Athroniaeth (PhD). Mae pob myfyriwr yn cyfrannu at fforwm ymchwil ôl-raddedig bywiog o arbrofi, ymholi athronyddol ac archwilio seiliedig ar arfer. Cynigir goruchwyliaeth ar gyfer ymchwil drwy arfer a/neu drwy draethawd hir ysgrifenedig, mewn ystod eang o bynciau.
M R E S – C E L F A DY L U N I O
M E I S T R M E W N AT H R O N I A E T H
Mae’r MRes yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr ymchwil i ddatblygu methodolegau ar gyfer integreiddio damcaniaeth ac arfer. Y mae wedi’i anelu at fyfyrwyr sy’n dymuno ymgysylltu â chyfnod o ymholiad athronyddol, gyda chyfle i gynnwys elfen o arfer creadigol, ac mae’n cynnig dull amgen deinamig i astudio MA neu MPhil. Cyflwynir yr MRes drwy gyfuniad o ddysgu strwythuredig, sy’n cynnwys darlithoedd a seminarau sy’n hwyluso meddwl beirniadol, a chyfnod o ymchwil annibynnol.
Mae’r MPhil yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr wella eu hunain yn broffesiynol drwy ymchwilio i bwnc sy’n berthnasol i’w diddordebau a meysydd arbenigol y staff. Mae MPhil drwy ymchwil neu ysgrifennu seiliedig ar arfer yn ystyried a rhoi sylwadau ar wybodaeth bresennol drwy ddangos dealltwriaeth ddofn o’r pwnc dan sylw yn ogystal ag elfen o wreiddioldeb. Yn aml, bydd gwaith MPhil yn cael ei gyhoeddi a gall arwain at yrfa mewn academia.
M R E S - DY S G U C R E A D I G O L
D O E T H U R M E W N AT H R O N I A E T H
O 2018, rydym yn gyffrous i allu cynnig cwrs MRes newydd a gyflwynir ar y cyd rhwng y Cyfadrannau Celf a Dylunio ac Addysg. Datblygwyd y cwrs mewn ymateb i newidiadau i’r ddarpariaeth mewn addysg ysgol sy’n rhoi pwyslais ar greadigrwydd ac fe’i hanelir at y rheiny yn y sector addysg. Yn gynyddol, mae creadigrwydd yn ffactor sy’n galluogi arloesi, datrys problemau a meddwl mewn ffordd agored sy’n berthnasol i ystod eang o ddisgyblaethau a chyd-destunau. Hefyd, gall gweithwyr proffesiynol eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat elwa o’r cwrs hwn.
Mae’r radd ymchwil PhD yn annog myfyrwyr i ymchwilio i bwnc ymchwil o dan oruchwyliaeth tîm o staff academaidd cymwys. I gael PhD rhaid i’r myfyrwyr gynhyrchu cyfraniad gwreiddiol at wybodaeth yn y maes hwnnw, yna caiff ei ddilysu drwy farn arbenigol. Yng Ngholeg Celf Abertawe mae gennym ystod eang o wybodaeth arbenigol mewn ymchwil ar draws disgyblaethau Celf a Dylunio ac rydym yn croesawu cynigion traws-ddisgyblaethol.
126
Hannah Downing
127
Arddangosfeydd MAE MYFYRWYR yn cael y cyfle i arddangos eu gwaith drwy gydol eu cyrsiau. Mae myfyrwyr y flwyddyn olaf yn cymryd rhan yn Sioeau Haf Coleg Celf Abertawe, digwyddiad a gynhelir ar draws Abertawe. Mae rhai cyrsiau hefyd yn cymryd myfyrwyr i Lundain i arddangos eu gwaith mewn orielau ac mewn ffeiriau dylunio mawreddog i raddedigion fel ‘D&AD New Blood’ a ‘New Designers’ gan roi iddynt y cyfle i arddangos eu gwaith i weithwyr proffesiynol y diwydiant.
128
129
SAND
Gŵyl Animeiddio Abertawe
MAE EIN DIGWYDDIAD diwydiant animeiddio deuddydd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan mewn sgyrsiau a gweithdai gan weithwyr proffesiynol o’r diwydiant o bob rhan o’r byd. Yn aml, mae siaradwyr gwadd yn cynnwys graddedigion sy’n gweithio yn y diwydiant. Yn ddiweddar, mae’r rhain wedi cynnwys graddedigion sy’n gweithio i stiwdios VFX The Mill, Double Negative ac MPC. Er enghraifft, Ryan Morgan a weithiodd fel Cyfarwyddwr Technegol Modelu a Gweadedd ar ffilmiau enwog diweddar Guardians of the Galaxy, Fantastic Beasts and Where To Find Them, a The Jungle Book. Daeth mawrion y diwydiant hefyd, fel EA Games, Blizzard, MPC, The Mill a Framestore. Hefyd, rhoddwyd y cyfle i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith er mwyn ei feirniadu gan weithwyr proffesiynol y diwydiant.
130
Gŵyl Ffilm
NI YW UN o ychydig Ysgolion Ffilm y DU sy’n cynnig cyfle i fyfyrwyr redeg gŵyl ffilm. Mae’r ŵyl yn denu diddordeb o bob cwr o’r byd, gan roi mewnolwg i’r farchnad ffilm ehangach a dealltwriaeth o’r hyn y mae’n ei gymryd i wneud ffilm sy’n ennill gwobrau. Cafodd gŵyl 2017 dros 2000 o geisiadau o bob cwr o’r byd.
131
Rhwydweithiau Diwydiannau Creadigol Mae Coleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant yn falch i noddi gwobrau BAFTA Cymru, ac fel rhan o’r berthynas hon rydym hefyd yn cynnal cynulleidfa flynyddol gyda sêr y diwydiant, a’r diweddaraf o’r rhain oedd Eddie Izzard.
132
BAFTA CYMRU / INTO FILM CYMRU
BAD WOLF
B AY T V
MAE GENNYM aelod o staff sy’n gweithio fel cydlynydd lleoliadau yn Stiwdios Bad Wolf yng Nghaerdydd, sy’n cysylltu â’r stiwdios a’r cwmnïau cynhyrchu. Mae hyn yn helpu i ddarparu cyfleoedd rheolaidd i fyfyrwyr addas fynd ar leoliad, ar ffilmiau a chyfresi teledu. Gall myfyrwyr gael profiad gwaith mewn gwahanol adrannau o fewn criw cynhyrchu drama, ar leoliad, yn y stiwdio ac yn y swyddfa gynhyrchu. Yn aml, mae’r profiad hwn yn rhoi i fyfyrwyr eu rhwydwaith gyntaf o gysylltiadau a gall arwain at gael eu swydd gyntaf yn y diwydiant ffilm a theledu. Mae ein myfyrwyr wedi gweithio ar amrywiaeth o sioeau ffilm a theledu fel Sherlock (2012), Atlantis (2013), Fury (2014), Guardians of the Galaxy (2014), Mission: Impossible - Rogue Nation (2015), The Collection (2016), The Grand Tour (2016), Bang, (2017) Will (2017), Overlord (2018) a llawer iawn mwy.
CWMNI TELEDU darlledu annibynnol yw Bay TV sydd wedi sefydlu stiwdio a chyfleustra darlledu yng Ngholeg Celf Abertawe. Mae hwn yn darparu cyfle anhygoel i’n myfyrwyr, gan eu galluogi i weithio ar sioeau stiwdio byw, ond hefyd i ymchwilio a chyflwyno cysyniadau ar gyfer cynyrchiadau teledu posibl. Hefyd, mae’n garreg sarn cyntaf i yrfa yn y diwydiant teledu.
133
Wythnos Ddylunio a Symposiwm Graddedigion
MAE’R ‘WYTHNOS DDYLUNIO’ a symposia graddedigion yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ymgysylltu â dylunwyr a chwmnïau mawreddog. Yn aml, rhoddir sgyrsiau gan ein graddedigion sy’n gweithio yn y diwydiant, yn ddiweddar mae’r rhain wedi cynnwys graddedigion sydd nawr yn gweithio i Lego, Sky Creative, Monsoon, Tigerprint a Saatchi & Saatchi Wellness. 134
Ittihkorn Duangchat
135
Cwestiynau Cyffredin Rydym yn caru sgwrsio gyda darpar fyfyrwyr ac yn aml byddwn yn clywed llawer o’r un cwestiynau - dyma rai sy’n codi’n aml;
Beth yw’r gymhareb ymgeiswyr i dderbyniadau? Mae tua 800 o fyfyrwyr yn gwneud cais bob blwyddyn am ychydig dros 300 o leoedd israddedig.
myfyrwyr fanteisio ar y cyfle i astudio am un semester yn UDA a Chanada drwy Astudio Dramor. Mae llawer o raglenni yn trefnu ymweliadau dramor fel ‘Venice Biennale’ a Ffair Llyfrau Bologna.
Pa fath o yrfaoedd mae graddedigion yn mynd ymlaen i’w cael? Mae ein cyrsiau yn cynnig llwybr i lawer o yrfaoedd i raddedigion, gweler ein tudalennau cyrsiau am ragor o fanylion.
Faint o amser cyswllt a gaf i gyda thiwtoriaid a beth am faint dosbarthiadau? Rydym yn ymfalchïo yn faint o amser cyswllt a chymorth a roddwn i ein myfyrwyr. Mae maint ein dosbarthiadau yn adlewyrchu hyn felly byddwch bob tro’n cael y sylw sydd ei angen arnoch.
A fyddaf yn gweithio gyda chleientiaid allanol? Mae ein holl gyrsiau yn wynebu tuag allan ac yn cynnwys briffiau byw gan gleientiaid a/neu gyfleoedd i arddangos eu gwaith, a chaiff myfyrwyr eu hannog yn weithredol i roi cynnig ar gystadlaethau.
A allaf ddod i edrych o gwmpas y campws? Mae yna ddiwrnodau agored drwy gydol y flwyddyn. Bydd y dyddiadau ar ein gwefan, ond os nad ydych yn gallu dod ar un o’r dyddiadau sydd ar gael fe wnawn ein gorau i wneud trefniadau ichi ddod i ymweld â ni ar ddiwrnod sy’n eich gweddu chi. A oes unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau ar gael? Oes, mae’r rhain yn cynnwys Bwrsariaeth Coleg Partneriaeth (Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion)
Faint o fynediad at y cyfleusterau a gaf i? Caiff myfyrwyr fynediad at y gweithdai, staff a lle stiwdio bob diwrnod o’r wythnos yn ystod y tymor ac yn aml ar ddyddiau Sadwrn.
A yw eich cyrsiau’n cael eu haddysgu yn y Gymraeg? Gall myfyrwyr ddewis astudio rhai modylau drwy gyfrwng y Gymraeg. Hefyd, mae ysgoloriaethau ar gael gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Pa sgiliau a chymwysterau sydd eu hangen arnaf i wneud cais? Fel arfer, rydym yn gofyn am 80-120 o bwyntiau UCAS ond gellir cydbwyso hyn gan bortffolio/cyfweliad gwych neu brofiad gwaith/bywyd arall. Os nad ydych yn sicr p’un a oes gennych y cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer ein cyrsiau, cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.
A fyddaf yn cael fy lle stiwdio fy hun? Mae gan lawer o’n cyrsiau leoedd stiwdio, a dyrennir y rhain i fyfyrwyr am y flwyddyn sy’n caniatáu ichi wneud y lle yn gartref creadigol. Mae gan gyrsiau mad oes ganddynt leoedd stiwdio le ychwanegol i’w ddefnyddio’n ystafelloedd beirniadu neu stiwdios cyfrifiaduron mawr yn ôl anghenion y cwrs.
Sut fedra’i wybod os mai hwn yw’r cwrs iawn i mi? Mae ein tiwtoriaid bob tro’n hapus i drafod pethau ymhellach gyda chi i sicrhau eich bod wedi gwneud y dewis iawn. Byddwn yn cyfweld â phob ymgeisydd, ac mae hyn yn gyfle gwych i ni weld os ydych chi’n iawn ar gyfer y cwrs ac i chi weld os ydy’r cwrs yn iawn ar eich cyfer chi.
Beth ydych chi’n ei ddisgwyl gan ymgeiswyr? Gennych chi, rydym yn disgwyl egni, chwilfrydedd ac ymrwymiad a chariad at eich cyfrwng.
Sut beth yw bywyd myfyrwyr yn Abertawe? Mae llawer yn mynd ymlaen yma, rydym wedi ein henwebu yn Ddinas Diwylliant 2012, ac mae llu o theatrau, orielau, lleoliadau cerddoriaeth a bywyd nos ardderchog ar gael i fyfyrwyr. Mae yma hefyd draethau bendigedig a chyfleoedd chwaraeon anhygoel gan gynnwys syrffio, padlfyrddio yn ogystal â nifer o lwybrau seiclo a lleoedd gwyrdd i’w harchwilio.
Ni allaf weld y cwrs rwy’n chwilio amdano. Os na allwch chi weld y cwrs sydd o ddiddordeb ichi, mae’n bosibl y byddwn yn dal i allu eich helpu. Mae ein holl gyrsiau yn eang a hyblyg eu natur. Byddwch yn cael digon o gyfle i arbenigo yn y cyfryngau neu bwnc sy’n orau gweddu eich bwriado gyrfaol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, e-bostiwch ni yn artanddesign@uwtsd.ac.uk neu ffoniwch ni ar 01792 481285
A allaf astudio dramor? Yn ystod eich amser gyda ni, cewch hefyd gyfle i astudio dramor gyda rhaglen gyfnewid Erasmus. Yn ogystal â hynny, gall
136
Sut i wneud cais Sgiliau Astudio Mae cymorth sgiliau astudio ar gael i bob myfyriwr sydd ag angen cymorth gyda’u hastudiaethau, gan ddarparu gwybodaeth, cyngor, arweiniad a chymorth ymarferol ac emosiynol o ansawdd uchel i bob myfyriwr er mwyn iddynt allu cyrraedd eu potensial llawn. Mae gwasanaeth sgiliau astudio galw heibio ar gael bob diwrnod o’r wythnos waith. Llety Mae llety Abertawe ymhlith y rhataf yn y wlad, ac mae yna nifer o opsiynau ar gael o fewn ychydig funudau ar droed o’r Brifysgol. Maent i gyd mewn lleoliad canolog ac o fewn cyrraedd hawdd i gysylltiadau trafnidiaeth a chanol y ddinas. Gweler ein gwefan am fanylion pellach.
Gwneir ceisiadau israddedig llawn amser drwy UCAS. Daw Coleg Celf Abertawe o dan god Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, T80 Ymhlith y rhaglenni israddedig a gynigir mae’r Dyst AU Sylfaen 1 Blynedd, BA/BSc ac mae’r rhain yn para 3 blynedd yn llawn amser neu 6 blynedd yn rhan amser. MArts/MDes/MMus Tech - mae’r rhain yn rhaglenni 4 blynedd yn llawn amser neu 8 mlynedd yn rhan amser, ac mae’r cyrsiau hyn yn caniatáu i fyfyrwyr astudio am flwyddyn ychwanegol gyda manteision arian israddedig gan roi ichi amser ychwanegol i ffocysu ar brosiect sy’n ffocysu ar y diwydiant. MA/MSc Mae’r rhain yn para rhwng 1-2 flynedd ac fel arfer ymgymerir â nhw unwaith y bydd gennych radd israddedig. Mphil/PHD Fel arfer, ymgymerir â Graddau Ymchwil unwaith y bydd gennych gymhwyster ôl-raddedig. Dylid gwneud ceisiadau Ôl-raddedig a Rhan Amser yn uniongyrchol i’r Brifysgol.
137
Cyfweliadau
RYDYM yn cyfweld â phob ymgeisydd, ac yn ystod rhain fe ddylent gyflwyno tystiolaeth sy’n gysylltiedig â’u dewis gwrs. Os cewch eich dewis am gyfweliad mae’n gyfle i chi arddangos eich ymrwymiad a’ch hunan-gymhelliant i’ch dewis faes astudio; i drafod agweddau ar y cwrs ac i ofyn unrhyw gwestiynau a allai fod gennych. Fel arfer, rydym yn dechrau cyfweld o fis Rhagfyr y flwyddyn cyn cychwyn y cwrs. Mae ein holl gyfweliadau yn hamddenol ac anffurfiol a byddwn hefyd yn cynnig taith ichi o gwmpas y Gyfadran a’r cyfleusterau. Os oes gennych unrhyw bryderon, os oes angen rhagor o fanylion arnoch neu os oes gennych unrhyw anghenion ychwanegol, cysylltwch â ni cyn eich ymweliad. 138
Y Cyfweliad Celf a Dylunio Ar gyfer y rhan fwyaf o gyfweliadau, bydd rhaid ichi gyflwyno portffolio o waith yn rhan o’ch cyfweliad. Fel canllaw cyffredinol, dylai portffolios gynnwys enghreifftiau o waith (gorffenedig ac ar ei ganol) sy’n dangos eich sgiliau a diddordebau arbennig. Dylid cyflwyno cynnwys portffolio mewn ffordd rhesymegol, trefnus a syml. Rydym hefyd yn caru gweld llyfrau braslunio.
Y Cyfweliad Celfyddydau Perfformio Bydd pob ymgeisydd yn cael gwahoddiad i weithdy ymarferol yn lle cyfweliad. Yma, byddwch yn gweithio gyda thiwtoriaid a chyd-ymgeiswyr i archwilio ymatebion creadigol i ysgogiadau cyfoes, cymryd rhan mewn arfer cydweithredol ac arbrofi gyda’ch syniadau mewn sesiwn ymarferol cefnogol a hamddenol.
139
C Y S Y L LT W C H Â N I 017 9 2 4 8 12 8 5 w w w. u w t s d . a c . u k / c y / c y f a d r a n - c e l f - a - d y l u n i o /swanseacollegeofart @ArtSwansea
celfadylunio@pcydds.ac.uk
swanseacollegeofart swanseacollegeofart
Ein Cyrsiau Israddedig TEITL Y CWRS Dylunio Patrwm Arwyneb (Gwneuthurwr)
BA W790
MDes T5F3
Dylunio Patrwm Arwyneb (Tecstilau ar gyfer Ffasiwn)
BA W234
MDes 8V7C
Dylunio Patrwm Arwyneb (Tecstilau ar gyfer Addurno Mewnol)
BA W235
MDes 5RC2
Dylunio Patrwm Arwyneb (Gwrthrychau Ffasiwn)
BA W230
MDes Y28U
Gwydr: Celfyddydau Pensaernïol
BA W770
MDes 5H3M
Dylunio Modurol
BA W240
MDes 7F3T
Dylunio Cludiant
BA 9R37
MDes 04G6
Dylunio Cynnyrch
BA W242
MDes 0P2M
Dylunio Cynnyrch a Thechnoleg
BSc W284
MDes W200
Hysbysebu a Dylunio Brand
BA W221
MDes S2J5
Dylunio Graffig
BA W210
MDes 52J6
Darlunio
BA W220
MDes H21Y
Celf Gain - Stiwdio, Safle a Chyd-destun
BA 2T12
MArt M5A7
Astudiaethau Orielau ac Amgueddfeydd Celf
BA 537C
MArt 537D
Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau
BA W643
MArt 123L
Ffotonewyddiaduraeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol
BA J316
MArts 295G
Ffilm a Theledu
BA W610
MArts 4S8X
Dylunio Set
BA 64D8
MArts 64D9
Drama Gymhwysol
BA W401
-
Perfformio Cyfoes
BA W47W
-
Technoleg Cerddoriaeth
BA J931
MMus Tech 5P2Y
Cerddoriaeth (Perfformio a Chynhyrchu)
BA 165F
-
Animeiddio Cyfrifiadurol 3D
BA WGP4
MArts D7X4
Dylunio Gemau Cyfrifiadurol Creadigol
BA W283
MArts 8B2K
Cert HE F4W8
-
Tyst AU Celf a Dylunio Sylfaen
Ar gyfer ein cyrsiau ôl-raddedig, ewch i dudalennau 118-122
Ymwadiad Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y cynnwys a’r datganiadau a geir yn y cyhoeddiad hwn yn deg a chywir, a bydd y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech rhesymol i gyflwyno rhaglenni a gwasanaethau eraill yn unol â’r disgrifiadau a ddarperir. Fodd bynnag, mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i amrywio cynnwys rhaglenni, gofynion mynediad a dulliau cyflwyno, ac i roi terfyn ar, uno neu gyfuno rhaglenni, cyn ac ar ôl i fyfyriwr gael ei dderbyn i’r Brifysgol, os yw’r Brifysgol yn ystyried bod y cyfryw gamau’n angenrheidiol. Fe wnawn pob ymdrech ar bob adeg i wneud cyn lleied o newidiadau â phosibl ac i roi diweddariadau priodol i ddarpar fyfyrwyr.
W W W. Y D D S . AC . U K