Cysylltiadau: Cylchgrawn Alumni PCYDDS

Page 1

Y DRINDOD DEWI SANT YN DATHLU 200 MLYNEDD O ADDYSG UWCH YNG NGHYMRU

RHIFYN Y DAUCANMLWYDDIANT

CYSYLLTIADAU 12 SEREMONÏAU GRADDIO 2022 14 GWEITHIO GYDA DIWYDIANT 20 CWRDD Â’N CYN-FYFYRWYR

uwtsd.ac.uk/cy | 1


Cynnwys

www.facebook.com/ Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

www.instagram.com/y Drindod Dewi Sant

twitter.com/UWTSD

www.youtube.com/trinitysaintdavid

www.linkedin.com/showcase/uwtsd-alumni

2 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant


4

Croeso i ‘Cysylltiadau’, Cylchgrawn Cyn-fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

5

Cadw mewn Cysylltiad 18

6

Croeso gan ein Profostiaid

8

Y Drindod Dewi Sant yn Dathlu 200 Mlynedd o Addysg Uwch yng Nghymru

9

Pete Pahides, Un o gyn-fyfyrwyr Llambed

10

Canolfan Tir Glas - Gweledigaeth Newydd ar gyfer Llambed

11

Gorymdaith Llambed

12

Seremonïau Graddio Y Drindod Dewi Sant 2022

14

Gweithio gyda Diwydiant - AMSA: Darparu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar amgylchedd gweithgynhyrchu modern yr oes sydd ohoni - MADE Cymru Gweithgynhyrchwyr Cymru ar eu Helw

17

Cynllun Prentisiaethau arloesol Y Drindod Dewi Sant yn llwyddiant i fyfyrwyr a chyflogwyr Meistrolwch eich Dyfodol: Astudio’n Ôl-raddedig yn Y Drindod Dewi Sant

18

Noson Ôl-raddedig Rithwir Y Drindod Dewi Sant - Cofrestrwch eich diddordeb

19

Rhowch sglein ar eich sgiliau Seiberddiogelwch yr haf yma

20

Cwrdd â’n Cyn-fyfyrwyr

22

Ein cyn-fyfyrwyr entrepreneuraidd: Grant Cychwyn Busnes Entrepreneuriaeth Cronfa’r Dyfodol

27

Deilliannau Graddedigion: Lleisiwch eich barn!

28

Digwyddiadau i Gyn-fyfyrwyr: Ffair Gyrfaoedd lwyddiannus i Gyn-fyfyrwyr a Myfyrwyr ar Gampws SA1 Abertawe

29

Gwasanaeth Gyrfaoedd Y Drindod Dewi Sant: eich cefnogi drwy gydol eich gyrfa

15

- Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC)

30

Ap Cyn-fyfyrwyr

16

- Canolfan Arloesi Cerebra (CiC)

31

Gwneud Cyfraniad

uwtsd.ac.uk/cy | 3


Croeso i Cysylltiadau, cylchgrawn 2022 ar gyfer cyn-fyfyrwyr. Fel cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’r sefydliadau a’i rhagflaenodd, rydych yn rhan o gymdeithas cyn-fyfyrwyr hanesyddol o fri a chymuned fyd-eang sydd wedi derbyn graddedigion ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r Drindod Dewi Sant yn falch o’i chyn-fyfyrwyr, ac rydym yn parhau i’ch cefnogi yn eich ymdrechion yn y dyfodol gan ddarparu mynediad diderfyn i wasanaethau gyrfaoedd, cyfleoedd rhwydweithio i wella’ch rhagolygon gyrfa, mynediad i ddigwyddiadau, aduniadau a darlithoedd gwadd, a’ch helpu i gynnal cysylltiadau gydol oes â’ch cymuned prifysgol.

44 || Prifysgol Prifysgol Cymru Cymru YY Drindod Drindod Dewi Dewi Sant Sant


Ailgysylltwch gyda’r rhai oedd yn eich dosbarth a’ch cyd-raddedigion Cadwch mewn cysylltiad gyda’ch cyd-fyfyrwyr i ddysgu am aduniadau a digwyddiadau, cyfleoedd i rwydweithio a buddiannau a gwasanaethau i gyn-fyfyrwyr. P’un a wnaethoch chi raddio’n ddiweddar, neu flynyddoedd lawer yn ôl, ein cyn-fyfyrwyr yw ein llysgenhadon gorau felly sicrhewch eich bod yn diweddaru eich manylion cyswllt i fanteisio ar fuddion a gwasanaethau gyrfaoedd unigryw, a ddarperir am ddim fel aelod o’n rhwydwaith cyn-fyfyrwyr. Bellach, mae gennym ein safle LinkedIn ein hun, sef ‘UWTSD Alumni Network’, felly dilynwch ni i gael mynediad i ddiweddariadau, gwybodaeth a straeon ysbrydoledig am ein cyn-fyfyrwyr ac i ailgysylltu â’r rhai oedd yn eich dosbarth a’ch cyd-raddedigion. Gallwch hefyd ddiweddaru eich manylion ar ein gwefan fel y gallwn gadw mewn cysylltiad: www.uwtsd.ac.uk

Rhannwch eich llwyddiant, Cynllun E-Fentora’r Drindod Dewi Sant Gwnewch wahaniaeth, gwirfoddolwch eich amser. Cofrestrwch ar ein rhaglen fentora a helpu myfyrwyr cyfredol sy’n astudio cyrsiau yn eich maes arbenigedd ar hyn o bryd. Mae bod yn fentor yn rhoi cyfle i chi wella eich sgiliau arweinyddiaeth, datblygu eich sgiliau cyfathrebu a chyfoethogi eich deallusrwydd emosiynol. Mae mentora’n ffordd wych o ehangu eich rhwydwaith ac adeiladu etifeddiaeth. Mae datblygu’n fentor gwych yn dda i chi, eich mentai, a’ch sefydliad. Gallwch gynnig help gyda CVs, llythyrau eglurhaol, adolygiad portffolio neu drwy roi cyngor ar yrfaoedd. Bydd yr holl fentora’n digwydd ar-lein, felly ni ddylai amharu gormod ar eich diwrnod gwaith, a gall hefyd gyfrif at ofynion DPP ar gyfer cymdeithasau proffesiynol. Gallwch hefyd ymweld â’r Drindod Dewi Sant i siarad mewn digwyddiadau, cyflwyno darlithoedd gwadd neu gynnig interniaethau i fyfyrwyr presennol a graddedigion. Gall gwirfoddoli fod yn gyfle gwych i wella eich sgiliau a helpu eich cwmni i agor y drws i raddedigion sydd â’r dalent a’r arbenigedd diweddaraf. Edrychwch ar ein gwefan i gael manylion ynghylch sut i gofrestru: www.uwtsd.ac.uk/alumni

uwtsd.ac.uk/cy | 5


Croeso

gan y Profost

Yr Athro Ian Walsh,

Profost Campysau Abertawe a Chaerdydd Yn Brofost Campysau Abertawe a Chaerdydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant mae’n bleser mawr gen i’ch croesawu i Rwydwaith Cynfyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant. Ers dau gan mlynedd, mae’r Brifysgol hon wedi bod yn croesawu dysgwyr i astudio yma yng Nghymru. Drwy ddewis Y Drindod Dewi Sant rydych wedi ymuno â sefydliad addysg uwch hynaf Cymru. Mae’r Drindod Dewi Sant wedi’i hymwreiddio ym mywyd diwylliannol a

66 || Prifysgol Prifysgol Cymru Cymru YY Drindod Drindod Dewi Dewi Sant Sant

chymdeithasol Cymru. Mae ein campysau yn Abertawe a Chaerdydd wedi’u lleoli yng nghanol dinasoedd bywiog sydd â mynediad i gyfleusterau diwylliannol, chwaraeon a hamdden gwych. Lle bynnag bo’ch campws, mae mannau awyr agored gwych i’w harchwilio gyda rhai o draethau a pharciau cenedlaethol gorau’r DU. Yn un o gyn-fyfyrwyr y brifysgol hon, rwy’n eich annog i gadw mewn cysylltiad, i fynychu’r gwahanol aduniadau a digwyddiadau rydym ni’n eu cynnig, ymunwch â’r cynllun mentora i helpu ysbrydoli’r myfyrwyr presennol ac yn anad dim, gadael i ni wybod sut mae eich taith yn mynd yn ei blaen. Mae’r Drindod Dewi Sant yn esblygu’n gyson fel Prifysgol fel y gwelir yn nhrawsnewidiad ein campysau. Yr haf yma, rydym wrthi’n ddiwyd yn creu cartref newydd ar gyfer Undeb y Myfyrwyr, y Gwasanaethau Myfyrwyr a chaffi newydd a man digwyddiadau yng Nghanolfan Dylan Thomas Abertawe. Rydym hefyd yn torri tir newydd ar ein Matrics Arloesi newydd gwerth £10m yn Ardal Arloesi SA1. Bydd y datblygiad newydd hwn yn agor ym mis Medi 2023 yn ganolfan fywiog a deinamig ar gyfer ymchwil ac arloesi digidol.


Gwnaethom gynnal Seremoni Radd Anrhydeddus arbennig ar y campws ar ddechrau mis Gorffennaf o flaen Canghellor a Noddwr Brenhinol y Brifysgol, sef Ei Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru. Roedd hwn yn gyfle i’r Brifysgol anrhydeddu pedwar unigolyn nodedig sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Gymru a thu hwnt – yr Arglwydd Griffiths o Borth Tywyn, Emma Jane Bolam, Patrick Holden CBE a Ned Thomas.

Gwilym Dyfri Jones,

Profost Caerfyrddin a Llambed Cyfarchion a chroeso, gyn-fyfyrwyr, i’n cylchgrawn Cysylltiadau, ac i Rwydwaith Cyn-fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant. Bydd llawer ohonoch yn ymwybodol bod y Brifysgol yn dathlu ei daucanmlwyddiant eleni, a’r uchafbwynt yw’r orymdaith drwy dref Llambed ar y 12fed o Awst i goffáu gosod carreg sylfaen Coleg Dewi Sant. Rwy’n gobeithio y bydd llawer ohonoch yn gallu ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad hwnnw yn nes ymlaen yr haf hwn. Rydym eisoes wedi cynnal gwasanaeth i gynulleidfa niferus yng Nghadeirlan Dewi Sant ynghyd â nifer o sgyrsiau a darlithoedd ar y campws. Hefyd, mae Darlithoedd Agoriadol Athrawol y Daucanmlwyddiant wedi’u cynnal i anrhydeddu pedwar o ysgolheigion o Lambed.

Eleni, bu’n fraint gan y Brifysgol dderbyn myfyrwyr israddedig o St Vincent a’r Grenadines sydd wedi derbyn ysgoloriaethau i astudio yn y Brifysgol. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at groesawu 20 o fyfyrwyr ôl-raddedig o Wcráin i Lambed yn y dyfodol agos iawn. Mewn newyddion pellach, buodd ymweliad diweddar â Phrifysgol y Gwyddorau Gastronomig ym Mollenzo, Yr Eidal, yn drawsnewidiol ac fe ganiataodd i’r rheiny a ymwelodd â’r brifysgol weld y potensial sylweddol yn Llambed i greu arlwy addysg uwch pwrpasol ym maes cynaliadwyedd, gyda ffocws arbennig ar gynaliadwyedd bwyd, ffermio cynaliadwy, diogelwch bwyd, menter wledig ac iechyd a maeth. Yn rhan o fenter Canolfan Tir Glas, dyfarnwyd i’r Brifysgol hanner miliwn o bunnoedd gan y Gronfa Adfywio Cymunedol i ddatblygu astudiaethau dichonoldeb ym meysydd bwyd, pren a menter wledig a fydd yn cefnogi

cais gan y sefydliad i Fargen Twf Canolbarth Cymru am tua £8m £10m i ddatblygu adeilad cynaliadwy eiconig yn gartref i Academi Bwyd Cyfoes Cymru ar Gampws Llambed. Mae’r gwaith yn symud ymlaen yn dda, ac fe ddylai’r cyflwyniad terfynol fod yn barod yn hwyrach y flwyddyn hon. Mae datblygiad a gwelliannau pwysig iawn yn cael eu cynnal ar Gampws Caerfyrddin. Ymhlith y rhain mae: creu derbynfa newydd yn adeilad Dewi, buddsoddiad pellach yn Academi Chwaraeon y Brifysgol, a gwella’r berthynas rhwng y campws a’r gymuned leol ymhellach. Hefyd, bydd ffocws o’r newydd ar ein darpariaeth yn y celfyddydau creadigol a pherfformio yn ogystal â gweledigaeth ffres ar gyfer Yr Egin. Rydym yn falch o’r gwaith a gwblhawyd ar gampws Caerfyrddin ac edrychwn ymlaen at gynnydd cyflym ar y mentrau hyn i gyfoethogi ymhellach ein cynnig i fyfyrwyr, staff a’r gymuned leol y Sir Gar. Cadwch mewn cysylltiad fel y gallwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein campysau, aduniadau a digwyddiadau. Rydym yn gwerthfawrogi eich mewnbwn a’r cyfraniad a wnaethoch i’r Brifysgol ac mae ein cysylltiadau gydol oes gyda’n cyn-fyfyrwyr yn werthfawr i ni.

uwtsd.ac.uk/cy | 7


Y Drindod Dewi Sant yn Dathlu 200 Mlynedd o Addysg Uwch yng Nghymru Mae’r daucanmlwyddiant yn coffáu sefydlu Coleg Dewi Sant, Llambed ar 12 Awst 1822 trwy osod y garreg sylfaen sy’n nodi dechrau addysg uwch yng Nghymru. Rydym yn falch o’n hanes a sut mae wedi llunio’r Brifysgol yr ydym heddiw. O’r hadau a heuwyd yn Llambed dros ddwy ganrif yn ôl, a datblygiad ein campysau, rydym wedi tyfu i fod yn Brifysgol aml-gampws, sector deuol sy’n darparu rhaglenni galwedigaethol berthnasol mewn partneriaeth â chyflogwyr. Ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth: www.uwtsd.ac.uk/cy/daucanmlwyddiant/cyfarfod-ancyn-fyfyrwyr

200 Bywgraffiad – Dathlu Daucanmlwyddiant Llambed Yn rhan o ddathliadau’r Daucanmlwyddiant, cynhaliodd staff yn y tîm Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu brosiect i archwilio bywydau cyn-fyfyrwyr a staff Llambed. Mae eu prosiect yn darparu gwybodaeth am y rhai sydd wedi gadael eu hôl ar bob maes gan gynnwys Ysgolheictod, y Lluoedd Arfog, Y Celfyddydau, Crefydd, Addysg, Chwaraeon ac Adloniant ynghyd â meysydd eraill. Y bwriad yw ehangu’r ystorfa hon i gynnwys cyn-fyfyrwyr o gampysau eraill y Brifysgol. Mae eu hanes i’w weld ar ein gwefan. www.uwtsd.ac.uk/cy/daucanmlwyddiant/ cyfarfod-an-cyn-fyfyrwyr

88 || Prifysgol Prifysgol Cymru Cymru YY Drindod Drindod Dewi Dewi Sant Sant


Cwrdd â’n

Cyn-fyfyrwyr Llambed

Mae Pete Paphides yn ysgrifennu cerddoriaeth, yn ddarlledwr, yn berchen ar label recordiau ac yn gyn prif adolygydd roc The Times. Daeth cerddoriaeth yn ysgogiad enfawr i Takis yn gynnar iawn yn ei fywyd. Nid yn unig y bu cerddoriaeth bop yn ddylanwad arno, ond roedd hefyd fel petai’n disgrifio ei fagwraeth. Meddai, ‘Roeddwn i’n ceisio dod o hyd i ffordd i mewn i bethau. Roeddwn i’n chwilfrydig.’ Mae’n credu y buodd yn chwilio am bont i Brydeindod. Penderfynodd hefyd ei fod am gael ei alw’n Peter. Astudiodd athroniaeth, y mae’n teimlo ei bod yn ‘radd dda iawn i’w wneud i fod yn well ysgrifennwr.’ Ar ôl graddio, aeth Paphides i Lundain i weithio fel newyddiadurwr llawrydd i Melody Maker. Tua’r un pryd, cyfarfu â Caitlin Moran, a oedd hefyd yn ysgrifennu i Melody Maker. Mae wedi dweud ‘Roeddwn i’n genfigennus ohoni am ei bod hi’n wych.’ Priododd ef a Caitlin yn 1999; mae ganddyn nhw ddwy ferch, Dora ac Eavie. Yn fwy diweddar, lansiodd Paphides label recordiau Needle Mythology sydd wedi’i neilltuo’n bennaf i ailgyhoeddi albymau na roddwyd digon o sylw iddynt, ac nad yw llawer ohonynt erioed wedi bod ar gael ar finyl o’r blaen, gan eu “rhyddhau â’r cariad y maent yn ei haeddu.” Ymhlith yr artistiaid y mae eu gwaith wedi’i ryddhau ar y label mae Stephen Duffy, Ian Broudie, Tanita Tikaram, Bernard Butler a Catherine Anne Davies, a’r bwriad yw ailgyhoeddi teitlau gan Neil a Tim Finn yn ehangach yn 2021.

Hefyd, ym mis Mawrth 2020 cyhoeddwyd llyfr cyntaf Paphides, ‘Broken Greek: a story of chip shops and pop songs’, (Quercus, 2020). Mae’n disgrifio sut yr oedd yn ei chael yn anodd cysoni ei hunaniaethau fel Groegwr o Gyprus ac fel Sais o Firmingham. Ochr yn ochr â hyn, mae’n ysgrifennu am effaith cerddoriaeth arno; mae’n gofyn, ‘Ydych chi weithiau’n teimlo bod y gerddoriaeth rydych chi’n ei chlywed yn esbonio eich bywyd i chi?’ Ond stori ei rieni yw’r llyfr hefyd, a’u brwydr nhw i lwyddo mewn bywyd. I weld yr erthygl lawn, ewch i’n gwefan: https://www.uwtsd. ac.uk/cy/llyfrgell/casgliadau-arbennig/200-bywgraffiadyn-dathlu-daucanmlwyddiant-llambed/

uwtsd.ac.uk/cy | 9


Canolfan Tir Glas: Gweledigaeth Newydd ar gyfer Llambed

Mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd yn Neuadd y Celfyddydau ar gampws Llambed ar ddydd Iau 17eg Mawrth 2022, gwnaeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant lansio prosiect Canolfan Tir Glas. Gan ei bod yn dathlu ei daucanmlwyddiant eleni, mae’r Drindod Dewi Sant wedi lansio’r weledigaeth gyffrous newydd hon ar gyfer dyfodol ei champws yn Llambed sy’n adeiladu ar ei enw byd-enwog fel canolfan ar gyfer astudio’r Dyniaethau a deialog amlddiwylliannol a rhyngffydd. Y nod yw creu cynnig hirdymor ar gyfer y campws a’r dref, wedi’i seilio ar egwyddorion cydnerthedd a chynaliadwyedd, sy’n cynnig cyfle i hyrwyddo cryfderau a chyd-destun gwledig yr ardal. Mae’r Brifysgol yn cynnig gweledigaeth uchelgeisiol a beiddgar ar gyfer Llambed a’r cyffiniau. Yn sefydliad craidd, mae’r Brifysgol yn cydnabod bod ganddi rôl ganolog i’w chwarae yn y broses o adfywio tref Llambed yn y cyfnod ôl-Covid.

10 10 || Prifysgol Prifysgol Cymru Cymru YY Drindod Drindod Dewi Dewi Sant Sant


Drwy gydweithio â Chyngor y Dref, Cyngor Sir Ceredigion, y gymuned fusnes leol a phartneriaid allweddol eraill, mae’r Brifysgol yn hyderus y gellir creu a gweithredu gweledigaeth integredig ar gyfer y dref yn ystod y blynyddoedd nesaf. Mae cynnig y Brifysgol yn seiliedig ar hwyluso a chyflymu twf economaidd yn Llambed a’r cyffiniau. Mae cryfhau cydnerthedd economaidd yn ganolog i’r weledigaeth a hynny, yn anad dim, trwy fanteisio ar yr ystod o asedau naturiol sy’n bodoli’n lleol. Meddai Gwilym Dyfri Jones, Profost campws Llambed: “Fel sefydliad craidd yn y dref, mae’r Brifysgol yn cydnabod bod ganddi rôl ganolog i’w chwarae yn y gwaith o adfywio Llambed yn y cyfnod wedi Covid. Mae’r Brifysgol yn ei hystyried ei hun yn gatalydd ar gyfer newid cadarnhaol a fydd yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. “Yn ogystal â darparu ffordd ymlaen ar gyfer tref Llambed, y weledigaeth ar gyfer Canolfan Tir Glas yw darparu cyfle i’r Brifysgol ddatblygu portffolio newydd o raglenni, gan weithio’n gydweithredol ag ystod o bartneriaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i alluogi Llambed i ddod yn ganolfan ragoriaeth ym meysydd cynaliadwyedd a chydnerthedd.”

Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor: “Mae Canolfan Tir Glas yn cynnig cyfle unwaith mewn oes i ailddiffinio arlwy’r Brifysgol yn Llambed i gyflwyno buddion economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol i ganolbarth a de-orllewin Cymru. Nod y Brifysgol a’n partneriaid yw creu cyfleoedd a fydd yn uwchsgilio ac yn ailsgilio gweithlu’r ardal, yn creu swyddi ac yn denu buddsoddiad pellach yn y dref a’r cyffiniau. Wrth wneud hyn, y nod yw creu cymunedau cydnerth er mwyn i bobl a lleoedd allu ffynnu am genedlaethau i ddod”.

Gorymdaith Llambed:

Dathlu Daucanmlwyddiant addysg uwch yng Nghymru Ar 12 Awst 1822, gosodwyd y garreg sylfaen ar gyfer Coleg Dewi Sant Llambed a oedd yn nodi dechrau addysg uwch yng Nghymru. I goffáu’r diwrnod arbennig hwn, cynhelir ystod o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd ar gampws Llambed. Estynnwn groeso i’n cyn-fyfyrwyr, ac am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: 1822@uwtsd.ac.uk uwtsd.ac.uk/cy | 11


Seremonïau Graddio 2022 Mae’r flwyddyn hon yn nodi carreg filltir, nid yn unig am ei bod yn ddaucanmlwyddiant y brifysgol, ond hefyd am ein bod, o’r diweddar, wedi gallu ymuno â’n myfyrwyr i ddathlu eu graddio. Wedi’u cynnal ar draws ein campysau, gwnaethom groesawu graddedigion 2020 a 2021 nôl, yn ogystal ag ymuno â’n graddedigion diweddaraf mewn cyfres o seremonïau a ddangosodd y gwydnwch a’r cymeriad sydd gan ein graddedigion.

Dywedodd Is-Ganghellor Y Drindod Dewi Sant, yr Athro Medwin Hughes, DL: “Mae’r seremoni Raddio yn nodi uchafbwynt gyrfa academaidd ein myfyrwyr. Mae’n ganlyniad i waith caled ac ymrwymiad, ond dylem hefyd gofio’r gefnogaeth a roddwyd gan deulu a ffrindiau.” “Rydych chi i gyd yn graddio gyda’r sgiliau a’r priodoleddau sydd eu hangen arnoch i wneud gwahaniaeth yn eich gyrfa ddewisol. Hyderaf, wrth ichi edrych yn ôl ar eich cyfnod fel myfyriwr yn y Brifysgol, eich bod yn mynd â’r cyfeillgarwch niferus a’r atgofion hapus o’ch amser yma gyda chi, ac y bydd eich profiadau yn y Drindod Dewi Sant yn eich gwasanaethu’n dda gydol eich oes. “Rwy’n dymuno pob llwyddiant i chi ar gyfer eich dyfodol ac yn eich atgoffa, fel cyn-fyfyrwyr y Brifysgol hon, y byddwn yn ymdrechu i’ch cefnogi ac yn gobeithio y byddwch yn parhau i gadw mewn cysylltiad â ni.” Gallwch weld yr orielau lluniau yma: https://www.uwtsd.ac.uk/graduation2022/

12 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant


Gair gan Raddedigion 2022 Mae Wendie Kosek wedi graddio’n ddiweddar o Lambed â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Athroniaeth yn 60 mlwydd oed.. Ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd Wendie’n byw yn Rhaeadr ac yn gweithio fel therapydd ymarferol, ond wedi iddi ddechrau dioddef poen a chael problemau ecsema, penderfynodd Wendie na allai barhau â’i gwaith. Ymwelodd â Gyrfa Cymru i weld pa bosibiliadau eraill oedd yn agored iddi, a chynigiwyd y gallai fynd yn ôl i astudio.

Dyw hi byth yn rhy hwyr i raddio!

Tra roedd Wendie ar y campws cyfarfu â’r darlithydd Tristan Nash, a thaniodd ei diddordeb a’i chariad at Athroniaeth a phenderfynodd astudio’r pwnc fel gradd. “Teimlwn fod y darlithwyr mor gefnogol. Roeddwn i’n hoffi mynd i’r llyfrgell a bod yn y math hwnnw o awyrgylch, a’r cyfleoedd i gwrdd â phobl a chael sgwrs ar hap, a oedd mor wahanol i’r ffordd y bu fy

Gwnaeth Mike Wakelyn, sy’n Beiriannydd Seilwaith Uwch yng Ngwasanaeth Arennol Cymru y GIG, gofrestru ar gyfer ei Raddbrentisiaeth Ddigidol yn 2017 gan ddisgwyl y byddai’r radd a’r sgiliau a ddysgir yn helpu gyda’i rôl bresennol, ac y byddai ei brofiad a’i ddefnydd o systemau TG cymhleth yn helpu gyda’r astudiaethau gradd. Yn ystod ei radd, datblygodd Mike ddangosfwrdd arloesol ar y we sy’n rhoi golwg fyw i nyrsys o feddyginiaethau y mae cleifion dan eu gofal i fod i’w cael.

Bellach, mae Mike yn edrych ymlaen at dreulio amser gyda’i deulu a ffocysu ar ei yrfa. Fe fyddai’n argymell y Raddbrentisiaeth Ddigidol i eraill, oherwydd er iddi fod yn heriol mae’r canlyniadau wedi golygu gwelliant enfawr mewn gweithdrefnau i gleifion a staff yn y gwasanaeth arennol o fewn y GIG. Hefyd, mae’n gobeithio y bydd ei waith caled a’i ymrwymiad i astudio yn enghraifft i’w blant ifanc o ran pwysigrwydd a gwerth addysg uwch.

Meddai Mike: “Pan fydd claf yn eistedd i lawr i gael dialysis, nid oes siartiau cyffuriau ar bapur wrth eu bwrdd ac nid oes raid i nyrsys ddod o hyd i nodiadau neu chwilio am feddygon i ail-ysgrifennu siartiau annarllenadwy. Drwy astudio yn Y Drindod Dewi Sant cefais yr amser a’r sgiliau roedd arna’i eu hangen i ddatblygu’r dangosfwrdd yn gynt o lawer nag y byddwn fel arall.”

Dywedodd Mike: “Fel unrhyw astudiaethau gradd mae’n galed, ond gyda phwysau proffesiynol a theulu ychwanegol, mae’n galetach fyth. Wedi dweud hynny, roedd staff y brifysgol yn gefnogol ac mae’r cyfan wedi talu ar ei ganfed yn y pendraw.”

mywyd o’r blaen. Roeddwn i’n hoffi’r ysgogiad deallusol a godai’n naturiol o’r cyfarfodydd hynny.” Dros y tair blynedd diwethaf, mae Wendie wedi gweld ei hun yn datblygu mewn nifer o ffyrdd, yn enwedig yn academaidd. Yn fyfyriwr aeddfed, mae Wendie yn annog eraill i ddilyn yn ei hôl traed, ac i ddilyn eu breuddwydion: “Peidiwch â phoeni...fe wnewch chi ddod i ben ag e, a chyrraedd pen y daith...does ond rhaid i chi gymryd un cam ar y tro. Os bydd pethau’n mynd yn drech na chi, mae cymaint o help ar gael – y sgiliau astudio, yr adran dechnoleg, does ond rhaid gofyn!” Mae Wendie bellach yn astudio ar gyfer ei gradd MRes mewn Athroniaeth yn Y Drindod Dewi Sant.

Gradd-brentisiaeth Ddigidol yn arwain at dechnegau gofal cleifion newydd arloesol ar gyfer Gwasanaeth Arennol GIG Cymru

uwtsd.ac.uk/cy | 13


Gweithio gyda Diwydiant

AMSA: Yn darparu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer yr amgylchedd gweithgynhyrchu modern sydd ohono Nod yr Academi Sgiliau Gweithgynhrychu Uwch (AMSA) yw datblygu, cynnal ac adeiladu ar y sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar brentisiaid gweithgynhyrchu a chyflogwyr i ddarparu’r technolegau sy’n cadw’r diwydiant gweithgynhyrchu yn gystadleuol dros y byd.

MADE Cymru

Gweithgynhyrchwyr Cymru ar eu helw Yn y byd gweithgynhyrchu sy’n esblygu’n gyson, mae Diwydiant 4.0 yn gyfle i archwilio technolegau sydd â’r potensial i gynyddu effeithlonrwydd, gwneud yn fawr ar gynhyrchiant a diogelu busnesau at y dyfodol. Mae MADE Cymru, cyfres o brosiectau a ariennir gan yr UE a gefnogir gan Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cymru ac a ddarperir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yma i helpu. Gall ein cyrsiau sydd wedi eu hachredu gan brifysgolion a’n cynllun cymorth busnes dan arweiniad arbenigwyr helpu unigolion a sefydliadau i addasu i heriau a chyfleoedd Diwydiant 4.0. O gyfleoedd dysgu o bell i gymorth ymarferol gyda phrototeipio, mae ein tîm profiadol wrth law i’ch helpu i gofleidio’r wybodaeth, yr ymchwil a’r technolegau diweddaraf. Yn ogystal â hynny, mae rhaglenni Uwchsgilio ar gyfer Diwydiant 4.0 ac Arloesedd Rhyngwladol MADE Cymru yn cael eu hariannu’n llawn (ar gyfer busnesau cymwys). Gallwn helpu gyda: Ffordd hyblyg o ddysgu tra byddwch yn gweithio Ffordd foddhaol o gynyddu boddhad yn y swydd Gwireddu manteision economaidd Diwydiant 4.0 Cydweithio ag arbenigwyr E-bostiwch MADE@uwtsd.ac.uk am ragor o fanylion. 14 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Rydym yn darparu hyfforddiant uwch ar gyfer myfyrwyr Peirianneg, prentisiaid a busnesau ar y peiriannau, offer ac offer archwilio diweddaraf o safon diwydiant. Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), mae AMSA yn gweithio mewn partneriaeth gyda thri o brif gwmnïau’r diwydiant gweithgynhyrchu. I ddysgu rhagor, cysylltwch â Lee Pratt: l.pratt@uwtsd.ac.uk

Oes gennych chi awydd dysgu… Oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio cwrs byr sydd wedi’i ariannu’n llawn? Allwn ni eich temtio gyda chyrsiau byr achrededig sydd wedi’u hariannu’n llawn rydym yn eu cynnal yn Y Drindod Dewi Sant? Y dyddiad dechrau nesaf yw 7fed Hydref 2022. Mae gennym ddau gwrs byr ar gyfer Diwydiant 4.0. sy’n berffaith i unrhyw un sy’n gweithio ym maes peirianneg neu weithgynhyrchu yng Nghymru. Mae hefyd cwrs byr ym maes Rheoli Arloesi a fyddai’n addas i unrhyw un sy’n gweithio

ym maes datblygu cynnyrch newydd, strategaeth brand/ cynnyrch ac unrhyw fath o arloesi. Gallwch ddysgu rhagor trwy ddilyn y ddolen hon: https://www.madecymru. co.uk/cy/yn-cofrestrunawr-cyrsiau-made-cymruwediu-hariannun-llawn-syndechrau-ym-mis-hydref/ Neu gallwch anfon e-bost i MADE@uwtsd.ac.uk am fwy o fanylion ac i weld os ydych chi’n gymwys. Hwn fydd y tro olaf y bydd y cyrsiau hyn wedi’u hariannu’n llawn (ESF trwy Lywodraeth Cymru).


Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Mae ATiC yn ganolfan ymchwil a chyfnewid gwybodaeth unigryw, aml-foddol o’r radd flaenaf a grëwyd i gefnogi anghenion arloesi ac ysgogi newid a thrawsnewid yn y sector gwyddorau bywyd a’r GIG yng Nghymru. Mae labordy ymchwil profiad defnyddiwr (UX) o’r radd flaenaf gwerth £1.1m a pheirianneg defnyddioldeb (UE) wedi’i lleoli yn Ardal Arloesi Y Drindod Dewi Sant Abertawe. Gyda thîm amrywiol, amlddisgyblaethol o artistiaid, dylunwyr, penseiri, gwyddonwyr a pheirianwyr, mae ffocws ATiC ar ddeall anghenion pobl drwy ffordd o feddwl sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, dulliau

ymchwil dylunio, ac offer mesur ffisegol gwrthrychol. Mae’r tîm yn dadansoddi profiadau defnyddwyr a pherfformiad wrth ryngweithio â chynhyrchion, gwasanaethau, systemau a mannau gofal iechyd corfforol a digidol. Yna defnyddiwn y mewnwelediadau hyn i helpu ein partneriaid i ddatblygu atebion arloesol ar gyfer iechyd a llesiant sy’n trawsnewid bywydau.

iechyd ond nid ydych yn siŵr pa gamau i’w cymryd nesaf, os ydych ym maes busnes ac yn awyddus i ehangu eich ystod cynnyrch, neu os ydych yn weithiwr proffesiynol perthynol i iechyd sydd wedi sylwi ar ffordd glyfar o wella proses – rydym am weithio gyda chi! Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag: www.uwtsd.ac.uk/cy/atic/

Mae ATiC yn darparu arbenigedd yn y meysydd canlynol: Ymchwil Dylunio, Peirianneg a Gwerthuso UX ac UE, Dadansoddi Thermograffig a llawer mwy. Mae ATiC yn bartner yn y rhaglen arloesol ‘Cyflymu’, sy’n helpu arloeswyr yng Nghymru i droi eu syniadau’n atebion. Os oes gennych syniad am dechnoleg gofal

Myfyriwr gradd Meistr Y Drindod Dewi Sant a chanolfan ymchwil yn cydweithio i wella profiadau plant o weithdrefnau meddygol rhaglen £24m a ariennir ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) trwy Lywodraeth Cymru. Bu Adam, y myfyriwr MSc Dylunio Diwydiannol 23 oed o Rhiwbeina yng Nghaerdydd, yn gweithio gydag ATiC wrth iddo ddatblygu ei gynhyrchion lliwgar a llachar ar y thema anifeiliaid, gyda phob un yn benodol i weithdrefn neu archwiliad meddygol arbennig. Mae Adam Higgins, un o raddedigion Y Drindod Dewi Sant, wedi cydweithio gyda Chanolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) y Brifysgol, i ddatblygu ei gasgliad o brototeipiau cynnyrch sy’n paratoi plant ar gyfer triniaethau meddygol - Pre-Medical-Preparation neu PreMedPrep – er mwyn gwella eu profiadau o weithdrefnau meddygol. Cefnogwyd y prosiect pum mis gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru trwy Cyflymu,

Nod y cynhyrchion yw addysgu, cynnwys a pharatoi plant ar gyfer eu triniaethau, megis profion gwaed, archwiliadau’r galon a thymheredd, a nebiwlyddion ar gyfer derbyn meddyginiaeth, gan gynnig ymdeimlad o reolaeth ac ymreolaeth i blant dros eu gofal iechyd. Meddai Adam, sy’n un o raddedigion Dylunio Cynnyrch Coleg Celf Abertawe yn y Drindod Dewi Sant: “Gall diffyg dealltwriaeth plant o’r hyn sy’n digwydd

iddynt arwain at brofiad negyddol o weithdrefnau meddygol; gall achosi ofn a phryder ac effeithio ar eu hymweliadau meddygol yn y dyfodol. Gall fod goblygiadau parhaus i hyn a bydd plant yn aml yn gwrthod triniaethau yn y dyfodol, sy’n gallu golygu bod gweithdrefnau’n cymryd yn hirach a gwneud gwaith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn fwy heriol. Yn ogystal derbyniodd Adam gyngor a chymorth gan Kath Penaluna, Rheolwr Menter y Drindod Dewi Sant ac aelod o grŵp cynghori addysg IPUC Swyddfa Eiddo Deallusol y DU, a’r Twrnai Patent, Tom Baker o Murgitroyd, sy’n cefnogi myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant yn aml gydag arweiniad ar ddiogelu eu dyfeisiau arloesol.

uwtsd.ac.uk/cy | 15


Canolfan Arloesi Cerebra (CiC) Mae plant anabl yn aml yn wynebu rhwystrau i gymryd rhan mewn gweithgareddau y mae plant nad ydynt yn anabl yn eu cymryd yn ganiataol. Yn Cerebra rydym yn gweithio gyda theuluoedd i feddwl am syniadau gwych i helpu plant i gael hwyl, chwarae, darganfod a chymryd rhan.

Yr hyn a wnawn

Creadigrwydd ac Arloesi

Mae canolfan arloesi Cerebra yn dîm o ddylunwyr sy’n dylunio ac adeiladu cynhyrchion pwrpasol i blant pan nad yw rhywbeth ar gael yn fasnachol sy’n gweddu iddyn nhw.

Mae’r drymiau Cajon synhwyraidd hyn wedi’u gwneud yn gelfyddyd gyda deunyddiau lleol a chynaliadwy ac maent yn rhoi ystod enfawr o bosibiliadau i blant o ran cerddoriaeth, therapi a chwarae. Mae’r arwynebau â gwead ac amrywiaeth y seiniau y gellir eu gwneud yn caniatáu i blant archwilio llawer o’u synhwyrau ac maent yn ddefnyddiol iawn mewn sesiynau therapi cerddoriaeth.

Elfen allweddol o unrhyw dyluniad CiC yw y dylai’r cynnyrch fod yn hardd ac yn gyffrous, nid dim ond yn swyddogaethol. Fe ddylai hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol y plentyn dan sylw ac annog iddynt gael eu derbyn gan eu cymheiriaid. Bydd rhieni/gofalwyr yn cysylltu â CiC gyda mater sy’n ymwneud â gallu eu plentyn i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau y gall unrhyw blentyn heb anabledd eu mwynhau.

Ganwyd y syniad ar gyfer y cynhwysiad hwn pan ddangosais y drymiau hyn i gydweithwyr technoleg cerddoriaeth, a awgrymodd y gallant gynnwys llawer o gydrannau uwch-dechnoleg i gynyddu’r adborth synhwyraidd a’r hwyl!

Mae enghreifftiau o’u gwaith arloesol yn cynnwys Dr Ross Head a’i dîm yn addasu bwrdd syrffio ar gyfer Imogen Ashwell-Lewis, 10 oed, sydd â pharlys yr ymennydd, fel y gall reidio’r tonnau, gydag ychydig o help, yn union fel pawb arall.

Meddai Dr Ross Head, Athro Cysylltiol: “Dewison ni addasu byrddau sydd ar gael eisoes er mwyn dangos ei fod yn hawdd a bod plant yn gallu dewis eu bwrdd, ei liw a’r brand, eu hunain yn union fel pawb arall, a gydag addasiad bach y gallant daro’r tonnau.” Meddai mam Imogen, Catherine Ashwell-Lewis: “Rydyn ni mor ddiolchgar i’r Drindod Dewi Sant. Cafodd Imogen amser anhygoel ac mae’n dwlu ar ei bwrdd pinc, mae’n gymaint yn haws iddi na’r bwrdd gorwedd wyneb i lawr mae wedi bod yn ei ddefnyddio hyd nawr.” Am ragor o wybodaeth am elusen Cerebra, ewch i www.cerebra.org.uk

16 16 || Prifysgol Prifysgol Cymru Cymru Y Y Drindod Drindod Dewi Dewi Sant Sant


Cynllun Prentisiaeth Y Drindod Dewi Sant arloesol yn llwyddiant i fyfyrwyr a chyflogwyr Buddsoddwch mewn datblygu eich gweithwyr trwy Uwch Brentisiaethau a Gradd-brentisiaethau a arweinir gan y diwydiant, a thrawsnewid eich busnes. Mae ein prentisiaethau ar gyfer gweithwyr o bob oed dros 18, nad ydynt mewn addysg amser llawn: mae hwn yn llwybr dysgu gydol oes (dim terfyn oedran). Mae’n 2 – 4 blynedd o hyd gan ddibynnu ar y rhaglen. Mae Ordnans, Arfau Rhyfel a Ffrwydron yn cymryd 5 mlynedd i gyflawni Graddbrentisiaeth Lawn. Mae’n rhaid bod prentisiaid yn gweithio, ond os ydych yn hunan-gyflogedig yng Nghymru, gallwch chithau hefyd wneud cais. Mae’n rhaid i brentisiaid fod yn gymwys i weithio yn y Deyrnas Unedig a derbyn cyflog o £12,000 y flwyddyn o leiaf, byddwch yn astudio’n rhan amser, o amgylch ymrwymiadau gwaith. Bydd gennych hawl i gyflog, gwyliau statudol ac amser i ffwrdd o’r gwaith â thâl i astudio a thelir y gost drwy gyllid gan y Llywodraeth. Gallwch ennill cymwysterau fel HNC / gradd anrhydedd / MA gyda chymwysterau proffesiynol dewisol.

Sbotolau ar ein Prentisiaethau

Daran Griffiths

Arweinydd Peirianneg Gweithrediadau gyda Zimmer Biomet, sy’n astudio Gradd Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu Lefel 6

“Ar hyn o bryd rwy’n astudio’r cwrs BEng mewn Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu ac yn cael boddhad mawr o wneud hynny. Rwy’n teimlo fy mod yn gallu cysylltu rhai o’r pynciau â phrofiadau rwy’ wedi’u cael yn ystod fy mywyd gwaith hyd yn hyn, ac rwy’n ennill llawer o wybodaeth o’r modylau dadansoddol, sydd yn hwb i’m hyder wrth i mi ddychwelyd i’r gweithle. Rwy’n teimlo bod y brifysgol a’r darlithwyr wedi gwneud gwaith gwych”

Mae prentisiaethau ar gael ym meysydd Digidol Peirianneg Ordnans, Arfau Rhyfel a Ffrwydron Archaeoleg Yr Heddlu

Katie Rees

Dadansoddwr Busnes a Chymorth gyda Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, sy’n astudio BSc Cyfrifiadura (Systemau Data a Gwybodaeth)

Adeiladu Gwydr Dysgwch ragor drwy gysylltu ag: apprenticeships@uwtsd.ac.uk neu edrychwch ar ein gwefan: https://www.uwtsd.ac.uk/Apprenticeships/

“Gan i mi ddechrau gweithio i’r Gwasanaeth Gwybodeg heb gefndir technegol, mae’r Radd-brentisiaeth Ddigidol wedi rhoi hwb enfawr i’m hyder o fewn fy rôl ac yn caniatáu i mi gael gwell perthynas gyda datblygwyr ac aelodau eraill fy nhîm. Mae’r Drindod Dewi Sant wedi fy nghefnogi’n llawn drwy gydol y brentisiaeth.”

uwtsd.ac.uk/cy | 17


Meistroli Eich Dyfodol:

Astudiaethau Ôl-raddedig yn Y Drindod Dewi Sant P’un a ydych wedi gorffen gradd israddedig yn ddiweddar, rydych yn dilyn diddordeb oes, neu’n ceisio newid gyrfa neu ddyrchafiad, gallwch ddewis o’n hystod o wahanol gymwysterau ôl-raddedig, a gallwch astudio llawer ohonynt yn rhan-amser, yn llawn amser neu ar-lein/o bell. Bob blwyddyn rydym yn croesawu myfyrwyr o bob oed, o bob rhan o’r byd, felly beth bynnag bo’ch cefndir neu gymhelliant, bydd astudiaethau ôl-raddedig yn Y Drindod yn cynnig boddhad a mwynhad deallusol a phersonol i chi. Mae ein portffolio cryf o raglenni ôlraddedig, proffesiynol a TAR yn golygu bod pob rheswm i chi aros i astudio yn Y Drindod Dewi Sant.

Bwrsariaeth Dilyniant Ôl-raddedig a Addysgir Y Drindod Dewi Sant

Edrychwch ar ein gwefan am ragor o wybodaeth am y cyrsiau ôl-raddedig a addysgir a chyrsiau ymchwil sydd ar gael www. uwtsd.ac.uk

Mae ystod o fwrsarïau ac ysgoloriaethau ar gael yn Y Drindod Dewi Sant i helpu gydag ariannu cost eich astudiaethau. Mae bwrsari dilyniant ôl-raddedig a addysgir ar gael i fyfyrwyr sy’n dymuno parhau â’u hastudiaethau gyda’r Drindod Dewi Sant. Dyfernir y bwrsari hwn i fyfyrwyr y DU/UE sydd wedi cwblhau gradd israddedig yn ddiweddar (o fewn dwy flynedd) ac sy’n mynd ymlaen i raglen ôl-raddedig llawn amser neu rhan amser a addysgir yn Y Drindod Dewi Sant e.e. MA/MTh/MRes (ond yn eithrio PGDip/PG Cert). Mae swm y dyfarniad hyd at £2,500 a bydd y bwrsari yn cael ei gymhwyso’n awtomatig i fyfyrwyr cymwys. Gwybodaeth Ychwanegol: Mae’r bwrsari yn cael ei wobrwyo fel gostyngiad ffioedd pro-rata â’r gost a’r dwyster astudio. Mae’r £2,500 llawn ar gyfer cyrsiau sy’n costio £7,500 neu fwy. (Bydd cyrsiau MA a addysgir yn llawn sy’n costio £5,050 yn gymwys i gael bwrsari gwerth £1,000).

NOSON ÔL-RADDEDIG RITHWIR COFRESTRWCH EICH DIDDORDEB

Dydd Mawrth, 6 Medi 2022 am 17:30

Are you ready for the next chapter with UWTSD? Stay on for postgraduate study and discover a new and exciting chapter of your story. Meet academics, chat with current students and find out more about our range pf postgraduate courses at this event. 18 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

You can register to attend on Eventbrite: www.eventbrite. co.uk/e/uwtsd-virtual-postgraduate-evening-registeryour-interest-tickets-387479691187 or take a look at web site for more information: www.uwtsd.ac.uk


HANFODION SEIBERDDIOGELWCH

Rhowch sglein ar eich sgiliau Seiberddiogelwch yr haf yma

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod Dewi Sant) yn cynnig cyrsiau rhagarweiniol ar lefel dechreuwyr mewn Seiberdiogelwch ar gyfer y sawl sydd â diddordeb mewn rhoi sglein ar eu gwybodaeth dros yr haf.

Nod y cyrsiau ar-lein am ddim yma, a ardystir gan Academi CISCO, yw cynnig cyflwyniad i’r maes, a byddant yn apelio i’r sawl sy’n gobeithio astudio cyfrifiadura, newid gyrfa neu sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor.

Gallwch hunan-gofrestru a dysgu rhagor ar y dolenni isod: Cyflwyniad i Seiberddiogelwch: www.netacad.com/portal/web/self-enroll/m/course-1339822 Hanfodion Seiberddiogelwch: www.netacad.com/portal/web/self-enroll/m/course-1334662 Linux i ddechreuwyr: www.netacad.com/portal/web/self-enroll/m/course-1324280


Cwrdd â’n Cyn-fyfyrwyr

Cyn-fyfyrwyr Caerfyrddin yn dathlu eu haduniad 30 mlynedd yn ystod blwyddyn daucanmlwyddiant Y Drindod Dewi Sant

Mae Teresa, Melinda a Marie wedi bod yn cwrdd pob blwyddyn ers graddio, ac eithrio yn ystod y cyfnodau clo. Meddai Teresa Barrett, a gwblhaodd radd BAdd Anrh mewn Saesneg a Drama pedair blynedd a Chydlynydd Ffoneg Cyfnod Allweddol 1: “Rydym yn cwrdd unwaith y flwyddyn ac fel arfer yn aros yn ein cartrefi ein gilydd, ond gan fod hyn yn dathlu tri deg mlynedd, roedd rhaid bod yng Nghaerfyrddin. Rydym yn cadw mewn cysylltiad o hyd trwy ein grŵp WhatsApp a gwnaethom ddefnyddio Zoom yn ystod y pandemig. Roedd yn amser arbennig a lluniwyd perthnasoedd arbennig iawn.”

Cwblhaodd Marie Smith BA Anrh mewn Astudiaethau Theatr ac Astudiaethau Crefyddol. Gwnaeth Marie gais i’r Drindod trwy’r broses Glirio ac yn wreiddiol fe ystyriodd fynychu gwahanol brifysgol ond cafodd groeso mor gynnes ar gampws Caerfyrddin na wnaeth hi oedi cyn derbyn ei lle yno, ac mae ganddi lawer o atgofion melys am gyfnod ei hastudiaethau. Mae Marie wedi cael gyrfa ugain mlynedd ym maes hyfforddiant, ac mae bellach yn gweithio’n rhan-amser i elusen canser plant. Meddai Marie “Ni fyddaf byth eto mewn lle wedi fy amgylchynu gan feddyliau cyffrous, ffres o gynifer o wahanol gefndiroedd. Roedd pobl greadigol, meddylgar, anarferol, di-flewyn-ar-dafod yno a gwnes i chyfarfûm ffrindiau am oes. Roeddwn i wrth fy modd gyda’m darlithoedd, roedd fy ngweithdai theatr yn anhygoel, ac roeddwn yn dwlu ar agwedd ddiwylliannol Add Gref. Roedd fy narlithwyr yn frwdfrydig ac yn wybodus.” Astudiodd Melinda Craddock, Dirprwy Brifathrawes ym Merthyr Tudful, radd BAdd Anrh mewn Saesneg a Drama, gan gwblhau hyfforddiant addysgu ochr yn ochr â’i gradd. Meddai Melinda: “Mae gennyf atgofion melys iawn o’m hamser yn Y Drindod. Roedd pawb yn gofalu am ei gilydd, roedd gwir ymdeimlad o gymuned.” Yr hyn sydd gan y ffrindiau hyn yn gyffredin yw eu cariad at Gaerfyrddin a’u profiad prifysgol, o ddawnsiau haf i gystadlaethau gwisg ffansi, brwydrau peli eira enfawr yn y gaeaf i syrffio ar garpedi i lawr coridor B Dewi. Roedd Teresa’n ystyried Caerfyrddin yn ail gartref iddi ac mae’r triawd wrth eu boddau’n cwrdd i hel atgofion. Meddai Marie: “I ni ein gilydd, nid ydym yn fam na’n wraig na’n athrawes na’n rheolwr i’n gilydd, ni yw Marie, Melinda & Teresa, y myfyrwyr 18 oed.” Dymunwn lawer mwy o flynyddoedd hapus o aduniadau iddynt wrth i’r Drindod ddathlu ei daucanmlwyddiant yn falch. Os hoffech rannu eich stori cyn-fyfyriwr, cysylltwch â ni ar alumni@uwtsd.ac.uk Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad trwy Rwydwaith Cynfyfyrwyr Y Drindod neu ddysgu rhagor o wybodaeth:

www.uwtsd.ac.uk

20 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant


Cyn-fyfyriwr Perfformio yn cael Rôl West End yn y Sioe Jersey Boys Mae Joey Cornish, un o raddedigion cwrs BA Perfformio yng Nghaerdydd, wedi’i ddewis i chwarae rhan Joe Pesci ac yn eilydd ar gyfer rhan Frankie Valli yng nghynhyrchiad y West End o Jersey Boys. Mae’r BA Perfformio yn gwrs arloesol, cyfrwng Cymraeg a addysgir yn ddwys dros gyfnod o ddwy flynedd. Mae’r cwrs yn datblygu perfformwyr amlddisgyblaethol, hyderus sydd â gwybodaeth gadarn am y diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt, ac sydd â chysylltiadau â’r diwydiannau hynny. Mae cyn-fyfyrwyr y cwrs wedi cynnwys Lloyd Macey (2017), perfformiwr yn yr X-factor, a chanwr medrus.

Meddai Joey: “Roedd y cyfnod a dreuliais ar y cwrs Perfformio yn Y Drindod Dewi Sant Caerdydd yn sbringford perffaith i gam nesaf fy ngyrfa. I mi, y cam hwnnw oedd ceisio hyfforddiant pellach a rhoddodd y cwrs yr arfau a phrofiad perffaith i mi allu gwneud hynny. Dysgais gymaint yn ystod fy amser yn Y Drindod yn cynnwys llu o sgiliau a thechnegau rwy’n eu defnyddio bob dydd, wrth ymarfer a pherfformio. Mae cael gradd mewn dwy flynedd yn fonws hefyd am ei fod yn golygu y gallwn ddechrau ar fy ngyrfa’n gynt. Dydw i ddim yn meddwl bod hyfforddiant ar lefel ysgol ddrama trwy gyfrwng y Gymraeg yn bodoli yn unman arall!”

Llwyddiant busnes i un o raddedigion Ffilm Caerfyrddin cleientiaid sydd wedi rhoi’r boddhad mwyaf i mi yw’r brifysgol ei hun. Maent wedi ymddiried ynof fi i ymgymryd â nifer o gyfleoedd, ac mae hyn yn rhoi boddhad mawr i mi.

Mae James Owen yn falch iawn o’i gyraeddiadau ers graddio o’r cwrs Ffilm yng Nghaerfyrddin gyda’r Drindod Dewi Sant. Meddai James: “Enw fy musnes yw Stori Cymru ac rwy’n helpu busnesau ledled Cymru a thu hwnt i rannu eu stori busnes trwy gyfrwng ffilm. Yn gwmni cynhyrchu fideo, gallaf gynhyrchu ystod o fideos proffesiynol ar gyfer pob math o fusnes - rhai bach a mawr. Dros y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi symud o fy stiwdio gartref i weithle newydd yng Nghross Hands. Mae’r busnes yn tyfu’n raddol ac rwyf bellach yn gobeithio adeiladu fy nhîm i weithio ar brosiectau mawr. Rwyf wedi gweithio gyda chleientiaid anhygoel dros y blynyddoedd diwethaf. Cyngor Sir Gar, Y Scarlets, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Llywodraeth Cymru i enwi ond rhai. Un o’r

Ar ôl addysgu fy hun sut i dynnu lluniau ac yna golygu ffilmiau, sylweddolais fy mod yn angerddol am adrodd straeon. Fy mreuddwyd oedd rhoi’r gorau i fy swydd ym maes gwerthiannau i ddilyn busnes yn y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru. Y prif beth â’m denodd at astudio’r rhaglen Gwneud Ffilmiau yn Y Drindod Dewi Sant Caerfyrddin oedd y modylau entrepreneuriaeth. Roedd arna’i eisiau dysgu sut i wneud bywoliaeth broffesiynol fel gwneuthurwr ffilmiau. Gwnaeth hynny wir fy nenu at astudio yng Nghaerfyrddin. Yng Nghaerfyrddin, yr addysgu a’r ffocws ar entrepreneuriaeth oedd y ffactor tyngedfennol. Roedd y cwrs yn un ymarferol iawn a gwnes i fwynhau’r cyfleoedd i ffilmio a gefais wrth fod yn fyfyriwr. Cefais gyfle i ffilmio Ryan Jones ar gyfer y digwyddiad Iron Man Cymru. Roedd hynny’n reit arbennig, oherwydd ei fod yn arwr pan oeddwn yn tyfu i fyny yn chwarae rygbi. Gwnes i wir fwynhau cael fy addysgu gan Dr Brett Aggersberg a Dr Matt Jones ar y campws hefyd. Mae’r wybodaeth academaidd sydd gan y dynion hyn yn syfrdanol. Yn bersonol, nid oedd astudio ar gyfer gradd yn

rhwydd i mi am sawl rheswm. Yn gyntaf, nid wyf yn fy ystyried fy hun yn academaidd iawn am fy mod yn ei chael yn anodd ysgrifennu traethodau ac adroddiadau. Yn ail, roedd yn aberth enfawr o safbwynt ariannol. Rhoddais y gorau i swydd â chyflog da ym maes gwerthiannau i ddilyn bywyd myfyriwr. Hyd yma, nid wy’n difaru dim gan mai dyna oedd y penderfyniad gorau i mi yn yr hirdymor. Buaswn yn argymell y cwrs yma i unrhyw un sydd â chariad at y cyfryngau. Mae’n gwrs ymarferol iawn felly ni ddylech gael eich troi oddi ar ei wneud os nad ydych chi’n academaidd fel fi. A dweud y gwir, fe fydd yn eich gweddu i’r dim os ydych wedi cael pethau felly’n anodd. Er nad oedd fy sgiliau ysgrifennu yn wych pan oedd yn fyfyriwr ar y dechrau. Gwnaeth Dr Matt Jones fy addysgu sut i wella fy sgiliau ysgrifennu ac es ymlaen i gael marciau uchel yn fy nhraethodau yn ystod fy mlwyddyn olaf. Mae’r sgiliau busnes a ddysgais wrth astudio yn Y Drindod wedi bod yn allweddol i lwyddiant fy musnes hyd yma. Mae’r ffydd oedd gen i yn fy nhiwtoriaid a’r anogaeth a gefais wedi helpu’n fawr iawn. Mentrais lawer wrth adael fy swydd a mynd nôl i astudio, ac ar ôl blynyddoedd lawer o waith caled, mae’r cyfan wedi talu ar ei ganfed.”

uwtsd.ac.uk/cy | 21


Ein cyn-fyfyrwyr entrepreneuraidd:

Grantiau Dechrau Busnes Entrepreneuraidd Cronfa’r Dyfodol Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant lansio Grant Entrepreneuriaeth i Fusnesau Newydd gan Gronfa’r Dyfodol, sy’n caniatáu i’n Tîm Menter wobrwyo myfyrwyr a chynfyfyrwyr gyda chyllid o hyd at £500. Rhoddir y grant i’r unigolion hynny sy’n dangos angen am gymorth gyda dechrau eu busnes newydd, p’un a ydych yn gweithio ar eich liwt eich hun neu’n fusnes bach. Os ydych yn ystyried dechrau, neu wedi dechrau, busnes yn y DU o fewn y flwyddyn ddiwethaf, fe allech chi fod yn gymwys i dderbyn y grant hwn.

Rhaid bod ymgeiswyr yn fyfyrwyr cyfredol neu’n gyn-fyfyrwyr yn y Drindod Dewi Sant er mwyn bod yn gymwys am y gronfa, yn ogystal â gallu rhoi amlinelliad eglur o sut byddwch yn defnyddio’r £500 i gefnogi twf eich busnes. Gallai hyn fod i helpu gyda phrynu deunyddiau, creu gwefan neu dalu am gostau gwasanaethau proffesiynol, megis cyngor cyfreithiol.

arweiniad ynghylch y camau nesaf ar eich taith fusnes. Yn ogystal â’r sesiwn hon, rhaid i ymgeiswyr gwblhau cwrs dechrau busnes perthnasol er mwyn sicrhau bod gennych yr holl wybodaeth a sgiliau angenrheidiol i roi’r cyfle gorau i’ch hun i lwyddo. Yn olaf, rhaid i bob busnes newydd fod wedi’i gofrestru’n briodol o fewn y DU.

Cyn i’r gronfa gael ei rhyddhau, rhaid i bob ymgeisydd dderbyn sesiwn gynllunio busnes gydag aelod o’r Tîm Menter, lle byddwch yn archwilio eich syniad busnes gyda’ch gilydd yn fwy manwl, a chael

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am Grant Dechrau Busnes Entrepreneuriaeth, ewch i: https://futurefund.uk neu cysylltwch ag enterprise@ uwtsd.ac.uk am fwy o wybodaeth

Cyn-fyfyriwr yn morio i lwyddiant ac yn gwahodd staff addysgu i fwrdd y llong Daeth y gwahoddiad i ymweld â’r llong newydd gan Craig Jarrett, cyn-fyfyriwr, a ddechreuodd ei yrfa yn astudio rhaglen Rheolaeth Hamdden yn y diwydiant yn Y Drindod Dewi Sant. Ar ôl graddio, bu’n gweithio mewn cyrchfan sgïo yn Ffrainc a datblygodd brofiad o reoli gwestai cyn ymuno â’r RCI a gweithio mewn ystod o swyddi gweithredol ar longau. Gan weithio ei ffordd i fyny yn y cwmni, daeth Craig yn Gyfarwyddwr Bwyd a Diod Asia cyn symud i Miami lle mae bellach yn Gyfarwyddwr Gwerthiannau Corfforaethol, Cymhelliant a Siarter. Meddai Craig: “Pan ymunais i â’r Drindod Dewi Sant bron 20 mlynedd yn ôl, ni fuaswn i byth wedi dychmygu y buaswn i yn y fan hon heddiw. Rwy’ wedi bod yn gweithio i Royal Caribbean International ers dros 13 o flynyddoedd, a gallaf ddweud yn hyderus fy mod i’n dal i ddefnyddio rhai o’r hanfodion a gafodd eu hegluro yn ystod fy nghyfnod yn y Brifysgol hyd heddiw. Gwnaeth y pynciau defnyddiol a’r ffordd y cafodd y

22 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

radd ei chyflwyno fy annog i gadw mewn cysylltiad â’r Brifysgol ac mae’n wych gweld fy narlithydd Jacqui Jones yn dal i arwain y ffordd yn y diwydiant Twristiaeth. “Mae’n braf gweld y brifysgol yn parhau i feithrin perthnasoedd newydd gyda’r diwydiant byd-eang, gan agor cyfleoedd mawr i fyfyrwyr gael cyfleoedd cyflogaeth ystyrlon ar ôl iddynt raddio. Mae bywyd yn gyfuniad o lwc, gwaith caled ac amseru cywir. Rwy’n gwybod bod fy amser yn Y Drindod Dewi Sant wedi bod yn iawn.” Mae Craig yn un o nifer o fyfyrwyr a chynfyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant sydd wedi mwynhau lleoliadau a gyrfaoedd rhagorol ar longau mordeithio yn y Caribî, UDA, Alaska, y Dwyrain Canol a’r Dwyrain Pell. Mae llawer o gyn-fyfyrwyr bellach yn oruchwylwyr a rheolwyr, ac mae eraill wedi dychwelyd i’r DU ac wedi cael gyrfaoedd llwyddiannus ym meysydd twristiaeth, digwyddiadau a marchnata.


Graddedigion entrepreneuraidd Caerfyrddin yn sefydlu Badger Sett Productions LHDTC+ Enw ein cwmni yw Badger Sett Productions ac mae’n gwmni Cynhyrchu sy’n cynhyrchu a chreu celf perfformio fyw a chynnwys ffilm. Rydym yn arbenigo mewn theatr fyw ond mae gennym hefyd brofiad o gynhyrchu cynnwys hyrwyddol, hwyluso a gweithdai. Efallai bydd rhai pobl yn gofyn pan ein bod yn dewis brandio ein cwmni cynhyrchu yn un Yn ystod ein hamser yn Y Drindod Dewi Sant cawsom sgiliau bywyd a gyrfa gwerthfawr. Gwnaethom adeiladu ein pecyn cymorth bach ein hunain rydym yn ei ddefnyddio bob dydd. Un o’r rhain yw cyfathrebu, wrth weithio ochr yn ochr â chyrsiau eraill ac ymarferwyr proffesiynol y diwydiant rhaid i chi allu cyfleu eich syniadau. Gwnaethom lawer o wahanol gysylltiadau wrth astudio yn cynnwys gyda chynhyrchwyr, cyfarwyddwyr, ysgrifenwyr ac ati ac mae rhai o’r rhain nawr yn chwarae rhan fawr yn ein cwmni. Byddwn yn eirioli ar ran ein cwrs bob tro. Mae’r radd BA Actio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Caerfyrddin yn gwrs hynod o amrywiol

LHDTC+ yn agored. Rydw i ac Alex yn agored am fod yn gwiar ac yn cydnabod y fraint hwnnw. Rydym wedi cael cariad a chefnogaeth ein ffrindiau a’n teulu i fod yn agored ac i fynegi ein rhywioldeb gyda’r byd. Nawr, rydym yn dewis brandio ein cwmni yn un LHDTC+ i sicrhau bod pobl yn gwybod ein bod yn ofod saff ac yn rwydwaith cefnogi i’r rheiny sydd ei angen.

a chyffrous. Mae wedi ein siapio fel pobl greadigol, ac ni fyddem ni ble’r ydym ni heddiw heb gariad a chefnogaeth ein darlithwyr a’n cymheiriaid. Mae’r Drindod Dewi Sant wedi bod yn eithriadol o gefnogol, gan gynnig cymorth iechyd meddwl, cymorth ariannol a mwy. Gall mynd i’r brifysgol fod yn beth hynod o frawychus, ond gwnaeth Y Drindod Dewi Sant wneud y cyfnod pontio’n rhwydd iawn.

Yn olaf, hoffem ddiolch i bawb sydd wedi ein cefnogi ar y daith. Lynne Seymour, Stacey-Jo Atkinson a Dave Atkinson am eu cariad a’u cymorth parhaus. Y Drindod Dewi Sant a’r Egin am roi i ni ofod ymarfer a swyddfa. Ein teulu a’n ffrindiau, ry’n ni’n gobeithio eich bod yn falch ohonom.

Ein cyngor i fyfyrwyr entrepreneuraidd eraill sydd eisiau sefydlu eu cwmni eu hunain yw i fynd amdani. Bydd rhwystrau yn y ffordd waeth pa lwybr y byddwch yn ei ddewis, felly dewiswch yr un fydd yn rhoi’r mwyaf o lawenydd i chi.

uwtsd.ac.uk/cy | 23


Matthew Salleh-Matta Millar wedi’i bleidleidio’n ‘30 under 30’ TTG, dosbarth 2022 mewn Gwobrau Teithio a Thwristiaeth

Gan obeithio cyflawni gyrfa lefel uwch ym maes teithio, astudiodd Matthew reolaeth teithio a thwristiaeth ym Mhrifysgol Cymru, gan raddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn 2017 cyn mynd ymlaen i gael Rhagoriaeth yn ei radd Meistr mewn Gweinyddiaeth Busnes yn 2018. Ymunodd â jet2 fel swyddog gweithredol y flwyddyn olynol, ac ers

hynny mae wedi cael dyrchafiad i rôl swyddog gweithredol uwch ar ôl dangos dycnwch mawr yn cefnogi gwahanol feysydd y busnes yn ystod y pandemig. Wrth enwebu Matthew, meddai Janice Mather o Jet2: “Yn rhan o ‘30 under 30’ TTG, bydd Matthew yn elwa’n bersonol ar ymestyn ei wybodaeth o’r diwydiant teithio a dysgu a datblygu gan gyfleoedd i rwydweithio a datblygu’n broffesiynol yn ogystal â dilyniant gyrfa.” Hwn yw’r rhestr fwyaf unigryw ar gyfer y rheiny sy’n gobeithio meithrin eu gyrfaoedd yn y diwydiant teithio – ’20 under 30’ TTG. Meddai Matthew: “Yn gyntaf oll, y gwaith gwych a wnaeth y darlithwyr trwy gefnogi ac arwain yr holl fyfyrwyr. Cefais fy nghefnogi gan ffigyrau allweddol y tîm gyda phethau fel gwneud penderfyniadau am fy natblygiad proffesiynol i gyfleoedd ar

leoliadau ac agor y drws i gysylltiadau allweddol ar draws y diwydiant. Nhw oedd catalydd fy symbyliad o fewn y diwydiant trwy’r wybodaeth y gwnaethant ei rhannu gyda fi. Roedd y modylau’n cwmpasu ystod mor eang o feysydd y gellir eu cymhwyso i fwy neu lai pob busnes yn y diwydiant. Mae bod yn rhan o ’30 under 30’ TTG y flwyddyn hon ac i gael fy nghydnabod yn rhan o’r grŵp unigryw hwn wedi bod yn gyrhaeddiad anhygoel yn fy ngyrfa broffesiynol hyd yma. Mae’n rhoi i mi gyfle gwych i rwydweithio gyda chymheiriaid sydd wedi’u henwebu’n rhan o’r grŵp eleni, i drafod heriau a chyfleoedd cyfredol yn y diwydiant, i wrando ar siaradwyr gwadd ar draws nifer o ddigwyddiadau, ac i barhau i ddatblygu fy ngwybodaeth o fewn y diwydiant arbennig hwn! “

Cyn-fyfyriwr Anthropoleg Y Drindod Dewi Sant yn cael gwahoddiad i gyflwyno sgwrs TEDx Anthropolegydd diwylliannol yw Malsa ac mae’n angerddol am ddiwylliant y Maldives. Yn ferch i longwr, tyfodd i fyny yn gwrando ar straeon o bob rhan o’r byd a chafodd ei hysbrydoli ganddynt. Ar ôl gorffen ei gradd Baglor yn y Celfyddydau mewn Archeoleg ac Anthropoleg a Meistr Ymchwil mewn Anthropoleg Gymhwysol yng nghampws Llambed Y Drindod Dewi Sant, cynhaliodd waith maes yn archwilio i ddiwylliant cnau coco’r Maldives. Mae ei hymchwil diweddaraf yn archwilio i sut mae’r corff dynol yn dal a throsglwyddo gwybodaeth ddiwylliannol.

dadleuodd Malsa bod rhaid i rywun fod yn bresennol, talu sylw a chymryd rhan gyda phobl i ddeall y byd o’u safbwynt nhw. Yn dilyn ei sgwrs, dywedodd:

Mae sgwrs TEDx yn gyfle i siaradwyr gyflwyno syniadau gwych, cyflawn mewn llai na 18 munud. Yn ystod ei sgwrs,

“Roedd yn fraint cael fy ngwahodd i gyflwyno’r sgwrs TEDx hon ac i gael cyfle mor wych i gyflwyno fy ngwaith.

24 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant


Brwdfrydedd un o raddedigion Y Drindod Dewi Sant am feddwl creadigol arloesol yn arwain at swydd dylunydd yn Asiantaeth Farchnata Apple Gyda’i frwdfrydedd yn cael ei feithrin gartref a’i gyfoethogi yn yr ysgol, penderfynodd Patrick ymestyn y creadigrwydd hwnnw ymhellach drwy gofrestru ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac yntau ond yn 17 oed. Tair blynedd yn ddiweddarach, wythnosau’n unig ar ôl graddio o’i gwrs gradd Dylunio Graffeg yng Ngholeg Celf Abertawe yn y Brifysgol, mae wedi symud i Lundain i ddechrau gyrfa fel dylunydd iau gyda TBWA/Media Arts Lab, asiantaeth farchnata Apple. “Roedd creadigrwydd yn ei ystyr academaidd yn rhywbeth roedd fy rhieni bob amser yn ei annog pan oeddwn yn ifanc - mwy o ddarllen, ysgrifennu ac adeiladu,” meddai Patrick Edem Glavee, a anwyd yn Ghana yn 2000 ac a fagwyd yn Iwerddon.

Meddai: “Ganwyd fy mrwdfrydedd gartref. Roedd gen i’r ddawn o dynnu teganau’n ddarnau, ymchwilio a thorri eu cylchedau mewn ymgais ofer i adeiladu tegan newydd. Oherwydd fy nghreadigrwydd dinistriol ynghyd â fy nghariad at fanwl gywirdeb, a feithrinwyd drwy Lego, ces i f’arwain at astudio pwnc oedd yn cyfuno

dylunio cynnyrch â phensaernïaeth yn yr ysgol uwchradd. “Roeddwn i’n hyderus yn y ffaith fy mod i eisiau creu, nid un peth yn unig, ond unrhyw beth a phopeth. I dorri’r stori’n fyr, cefais fy nghyflwyno i ddylunio graffig gan ei weld ar unwaith fel y pwnc cyffredinol sy’n cwmpasu pob sail greadigol. Ymlaen wedyn i’r Drindod Dewi Sant. Des i Abertawe am y traeth ac arhosais am y cwrs. “Rwy’n anfon fy niolchiadau i’r adran graffeg yn y Drindod Dewi Sant a oedd bob amser yn caniatáu rhyddid i archwilio. I Donna, Gavin, Harry a Phil, a fyddai’n fy ngoddef i’n ailwampio prosiectau ar y funud olaf yn gyson ac a fyddai’n meithrin fy natblygiad creadigol. Ac eto, i Donna, am fod yn warcheidwad i mi tra oeddwn yn 17 ar hyd fy mlwyddyn gyntaf, ac yn ffrind.”

Natalie Jones, Cyn-fyfyriwr TAR, gwnewch wahaniaeth....addysgwch!

Mae angen athrawon gwych yn awr yn fwy nag erioed i gyfoethogi dysgu plant ar ôl yr hyn sydd wedi bod yn gyfnod heriol tu hwnt i’r sector addysg. Athrawes Cymraeg fel ail iaith mewn ysgolion uwchradd yw Natalie Jones. Mae’r llwybr TAR Uwchradd yn llwybr poblogaidd iawn i mewn i yrfa addysgu, ac mae’n caniatáu i chi ddewis eich pwnc arbenigol. Dywedodd fod y pandemig wedi dangos iddi gymaint o

foddhad y gellir ei gael o addysgu ac anogodd unrhyw un sy’n ei ystyried fel gyrfa i “fynd amdani”. Meddai: “Dewisais ddod yn athrawes oherwydd roeddwn i eisiau bod yn rhywun a fyddai ar gael i blant a dylanwadu arnynt, rhywbeth na chefais i yn blentyn yn y system addysg. Rwy hefyd yn angerddol iawn am yr iaith Gymraeg a’r hyn mae’n ei olygu i dreftadaeth a diwylliant plant Cymru. “Mae gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn rhoi cymaint o foddhad. Dewisais astudio yn Y Drindod Dewi Sant oherwydd ei bod yn brifysgol leol sydd wedi ymrwymo i’r ardal, ac roeddwn i eisiau mynd i rywle y gwyddwn fyddai’n fy nghefnogi i a’m hymdrechion yn y dyfodol i ddod yn athrawes. Roedd dewis y brifysgol hon hefyd yn allweddol i mi fel un sy’n siarad Cymraeg. Roedd

angen i mi wybod y byddwn yn cael cymorth i wella fy Nghymraeg ymhellach ac roeddwn i eisiau gwybod sut y gallwn gefnogi’r iaith Gymraeg mewn ysgolion. “Mae bod yn rhan o’r ymdrech aruthrol i addasu a gweithio trwy’r cyfnod clo i gynorthwyo’r plant wedi fy ngwneud yn fwy penderfynol fyth i gyflawni fy nod a helpu llunio bywydau ifanc.” “Byddwn yn argymell bod pobl o leiafrifoedd ethnig yn ystyried addysgu fel gyrfa gan fod poblogaeth y disgyblion o leiafrifoedd ethnig ar hyn o bryd yn uwch o lawer na phoblogaeth staff mewn ysgolion o ran amrywiaeth. Mae yna ddywediad sy’n dweud, ‘ni allwch fod yr hyn na allwch ei weld’, ac os ydyn ni eisiau annog y genhedlaeth nesaf i ddod yn athrawon, mae angen iddynt allu gweld amrywiaeth o fewn y bobl sy’n eu haddysgu.” uwtsd.ac.uk/cy | 25


Llwyddiant gyrfaol a bri rasio i un o raddedigion Peirianneg Beiciau Modur Y Drindod Dewi Sant Graddiodd Sam Mousley o’r Drindod yn 2019 gydag MEng mewn Peirianneg Beiciau Modur, ac ers hynny mae ei yrfa wedi mynd o nerth i nerth, yn gweithio i McClaren fel Peirianwr Calibradu Injanau, ac yna symudodd i Triumph. Er gwaethaf ei amserlen waith brysur, mae Sam yn parhau i rasio mewn digwyddiadau beiciau modur cystadleuol gyda chyn-fyfyrwyr ac aelodau’r tîm Rasio Orthrus o’r Drindod Dewi Sant, Jordan Ballantyne, Peiriannydd Datblygiad Mecanyddol yn McLaren. Yn ddiweddar, cymerodd Sam ran yng nghystadleuaeth TT Ynys Manaw ac mae’n dweud bod ei lwyddiant o ganlyniad i’w gariad at bopeth sy’n gysylltiedig â beiciau modur a’r cyfle a roddodd Y Drindod iddo symud ei yrfa rasio ymlaen. Mae’n rhaid fy mod i’n dwlu ar Y Drindod Dewi Sant, oherwydd penderfynais dreulio pum mlynedd o’m mywyd yno!

ras ar gylch cwrs mynydd Ynys Manaw yn y ‘Manz GP’ lle daethom yn ail yn y ras newydd-ddyfodiaid!

Dechreuais ar y flwyddyn sylfaen yn 2014, am na wnes i arholiadau Safon Uwch, a bu hyn yn gam da iawn oherwydd nid yn unig y diweddarodd fy mathemateg a’m gwyddoniaeth, ond rhoddodd fantais i mi mewn modylau eraill hefyd a des i adnabod y darlithwyr yn barod ar gyfer blwyddyn un. Ar ddechrau blwyddyn 1, gwnes i a phum myfyriwr arall sefydlu ‘Orthrus Racing’, tîm rasio beiciau modur y gwnaethom ei ddatblygu dros y pedair blynedd nesaf gyda chefnogaeth wych gan y brifysgol. Gwnaeth llawer o fyfyrwyr eraill ymuno â ni ar y daith, a gyda fi’n reidio, gwnaethom rasio am 4 blynedd ar Yamaha R6 a ddaeth i’w anterth mewn

Rhannwch eich Stori Cyn-fyfyriwr Dywedwch wrthym am eich cyflawniadau a’ch llwyddiant, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Ewch i’r wefan a llenwi’r ffurflen ar-lein ‘rhannu eich stori’, a fydd yn eich tywys drwy gyfres o gwestiynau. Fel arall, cysylltwch ag alumni@uwtsd.ac.uk. Gallai ei llwyddiant yn eich gyrfa fod yn ysbrydoliaeth i fyfyriwr presennol, neu i’r rhai sy’n dal i benderfynu ar eu cwrs. Edrychwn ymlaen at glywed gennych! 26 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Ar ôl fy mlwyddyn olaf, penderfynais nad oeddwn yn barod i ffarwelio â’r brifysgol eto ac arhosais am bumed flwyddyn i wneud gradd meistr integredig. Dechreuais fy nhraethawd hir ar fodelu tanio mewn silindr ac o ganlyniad i’r cysylltiadau gwych sydd gan y brifysgol â’r diwydiant, cefais sgwrs gyda McLaren Automotive ac fe’i orffennais fel prosiect ar y cyd â McLaren. Arweiniodd hyn at fy swydd gyntaf yn McLaren fel peiriannydd calibradu. Erbyn hyn rwy’n gweithio yn swydd fy mreuddwydion fel peiriannydd calibradu i Triumph Motorcycles ble rwy’n cael y cyfle i ddatblygu systemau rheoli tyniant ar gyfer modelau newydd a reidio llawer o feiciau!


Deilliannau Graddedigion: Lleisiwch eich barn!

Arolwg cenedlaethol yw’r arolwg Deilliannau Graddedigion sy’n cipio gwybodaeth am weithgareddau a safbwyntiau graddedigion 15 mis ar ôl iddynt orffen eu hastudiaethau.

The Yr arolwg Graduate ar Hynt Outcomes Graddedigion... survey... contactsâgraduates cysylltu graddedigion 15 months 15 mis after ar ôl graddio completing studies by e-bost ar email or neu phone dros y ffôn itoddysgu learn about am eich your gweithgareddau activities and views a’ch safbwyntiau cadwch keep your eich contact manylion details cyswllt up toyndate: gyfredol: www.uwtsd.ac.uk/stayconnected www.uwtsd.ac.uk/cy/cadwcyswllt Find out Mwy o wybodaeth more www.graduateoutcomes.ac.uk yn www.graduateoutcomes.ac.uk

Ynglŷn â’r arolwg Bydd yr holl raddedigion a gwblhaodd gwrs perthnasol yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg, er mwyn helpu myfyrwyr presennol a rhai’r dyfodol i gael syniad o gyrchfannau a datblygiad gyrfaol. Bydd eich ymatebion hefyd yn helpu’r Drindod Dewi Sant i werthuso a hyrwyddo ein cyrsiau. Bwriad ‘Deilliannau Graddedigion’ yw deall p’un a ydych mewn cyflogaeth, wedi parhau ag astudiaethau pellach neu’n gwneud rhywbeth arall, ac i ba raddau y gwnaeth eich cymhwyster helpu.

Hefyd, mae’r arolwg o arwyddocâd cenedlaethol gan ei fod yn caniatáu i wneuthurwyr polisi, elusennau, newyddiadurwyr, ymchwilwyr ac eraill ddeall y sector addysg uwch a chyflwr y farchnad lafur graddedigion. Felly mae’n bwysig bod gennym eich manylion cyswllt diweddaraf er mwyn i ni allu cysylltu â chi ar ôl ichi raddio. Os ydych chi’n fyfyriwr gyda ni ar hyn o bryd, gallwch ddiweddaru eich manylion ar MyTSD, ond, os ydych chi wedi gorffen eich astudiaethau, gallwch ddiweddaru eich manylion cyswllt ar ein gwefan https://www.uwtsd.ac.uk/ cy/gyrfaoedd/arolwg-hynt-graddedigion/ uwtsd.ac.uk/cy | 27


Digwyddiadau i

Gyn-fyfyrwyr Mae’r flwyddyn hon wedi bod yn un brysur i’n cynfyfyrwyr, yn ogystal â’r digwyddiadau niferus i ddathlu’r daucanmlwyddiant, rydym wedi bod wrthi’n brysur yn trefnu sgyrsiau a digwyddiadau sy’n ffocysu ar yrfaoedd.

Ffair Yrfaoedd Cyn-fyfyrwyr a Myfyrwyr lwyddiannus yng Nghampws SA1 Abertawe Daeth myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr i Ffair Yrfaoedd ar gampws SA1 Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, i gwrdd â darpar gyflogwyr a chlywed am y cyfleoedd gwaith sydd ar gael mewn amrywiaeth o sectorau. Wedi’i drefnu gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, hwn oedd y digwyddiad wyneb yn wyneb cyntaf ar ôl y pandemig ac fe’i cynhaliwyd yn yr adeilad IQ gyda ffocws ar bynciau STEM. Cydlynwyd y digwyddiad gan Mel Hall, Cynghorydd Gyrfaoedd yn Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru (WISA) y Brifysgol ac roedd cynrychiolwyr o 25 o fusnesau’n bresennol. Mae’r tîm gyrfaoedd yn rhoi cyngor ac arweiniad un i un ar yrfaoedd i fyfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr, ynghyd â help gyda CV, ceisiadau, paratoi ar gyfer cyfweliadau a chyngor ar ddod o hyd i brofiad gwaith. Mae’r gwasanaeth gyrfaoedd yn y Drindod Dewi Sant yn falch o dynnu sylw at y ffaith eu bod yn cynnig gwasanaeth i gyn-fyfyrwyr pryd bynnag y gwnaethon nhw raddio, a’u bod ar gael i’r un graddau i raddedigion diweddar ag y maent i’r rhai a raddiodd flynyddoedd lawer yn ôl ac sydd efallai’n ystyried newid gyrfa neu wedi’u diswyddo. Meddai Pierluigi Bonagura, Myfyriwr Peirianneg Modurol yn y Drindod Dewi Sant, a oedd yn bresennol yn y digwyddiad: “Mae wedi bod yn ddigwyddiad anhygoel, sydd wedi bod o gymorth i mi ac eraill i ddarganfod cyfleoedd gwaith newydd. Da iawn chi am drefnu hyn.” 28 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Ymhlith y cyflogwyr a oedd yn bresennol yn y digwyddiad roedd: Tata Steel, GotBoost, HEIW Cymru, Rheolaeth y GIG, Kier, Sureview, DVLA, Kaymac Marine Engineering, Sony, Concrete Canvas, Parc Thema Oakwood, Undeb y Myfyrwyr, Adran Ieithoedd Tramor Modern Prifysgol Caerdydd, Theatrau Sir Gâr, Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Canolfan yr Amgylchedd, Vinci Construction, Flexonics, Vaillant, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Heddlu De Cymru, Menter Y Drindod Dewi Sant, Hydrock Engineering, Gwasanaethau Adeiladu Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Sunny Recruitment. Ceir cysylltiadau i’r cyflogwyr oedd yno ar ein safle LinkedIn: UWTSD Alumni Network I ddysgu am ddigwyddiadau cyflogaeth y dyfodol, aduniadau a’n cynllun mentora, edrychwch ar ein gwefan www.uwtsd. ac.uk/cy/alumni/ neu e-bostiwch alumni@uwtsd.ac.uk


Y Drindod Dewi Sant yn eich cefnogi trwy gydol eich gyrfa Mae’r tîm gyrfaoedd yn y Drindod Dewi Sant yma i’ch cefnogi, pa un a ydych yn chwilio am waith ar ôl graddio, yn meddwl am newid gyrfa neu’n ystyried astudiaeth ôl-raddedig. Nid oes terfyn amser ynghylch pryd y gallwch gysylltu a gofyn am gymorth. Gall graddedigion ddefnyddio ein porth gyrfaoedd MyCareer: ac yna bydd opsiwn ganddynt i’w droi’n gyfrif graddedig. Mae gennym dîm o ymarferwyr Gyrfaoedd Prifysgol profiadol a chymwys yn broffesiynol ac rydym yn bodoli i’ch helpu i ddeall eich opsiynau gyrfa a datblygu eich Cyflogadwyedd. Gallwn hefyd helpu gydag ymholiadau ynghylch: Dechrau arni a chynhyrchu syniadau Gyrfaoedd Deall eich opsiynau a gwneud penderfyniadau cadarn Dod o hyd i brofiad gwaith o safon, a’i gael Deall eich opsiynau Ôl-raddedig Cychwyn eich Busnes eich hun

Dysgwch sut y gall ein tîm gyrfaoedd gefnogi eich dyfodol. Gallwch gysylltu â’r tîm Gwasanaeth Gyrfaoedd yma: e-bost:careers@uwtsd.ac.uk

Hoffech chi

gymryd eich Busnes i’r cam nesaf?

Yr Athrofa Arfer Cynaliadwy Arloesi, Ymchwil a Menter Ffôn: 01570 424755 E-bost: rebecca.jones @uwtsd.ac.uk uwtsd.ac.uk/cy | 29


Mae’r Drindod Dewi Sant yn llawn cyffro i gyhoeddi lansiad ap newydd sbon i gyn-fyfyrwyr, UWTSD Alwmni app. Yr ap fydd yr unig le i ddod o hyd i’r holl faterion sy’n ymwneud â Chyn-fyfyrwyr: • Dysgwch am ddigwyddiadau a sut y gallwch ymuno yn Nathliadau Daucanmlwyddiant y Drindod Dewi Sant • Rhannwch eich llwyddiannau a darganfod gweithgareddau eraill i Gyn-fyfyrwyr • Diweddarwch eich manylion cyswllt • Daliwch ati i astudio gyda’r Drindod Dewi Sant • Darllenwch gyhoeddiadau’r Brifysgol yn yr Ystafell Newyddion • Cymerwch olwg ar newyddion a’r datblygiadau’r campysau

I gael mynediad i’r ap bydd angen i chi:

Gofrestru eich manylion gyda ni drwy gwblhau’r ffurflen ar-lein hon.

Bydd angen i chi roi eich enw, eich cyfeiriad e-bost a gair cofiadwy y bydd ei angen arnoch i fewngofnodi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Hwb:

hwb@uwtsd.ac.uk | @uwtsdstudents

30 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Yna byddwn yn anfon e-bost atoch unwaith y bydd eich cyfrif wedi’i greu.

Ar ôl i chi gael gwybod bod eich cyfrif yn weithredol, byddwch yn gallu lawrlwytho’r ap newydd sbon i gyn-fyfyrwyr, UWTSD Alwmni App

Am rhagor o wybodaeth dilynwch y ddolen yma:

www.uwtsd.ac.uk/alumni


Gwneud Cyfraniad Gyda llawer o fyfyrwyr yn ei chael yn anodd ymdopi â’r argyfwng costau byw, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn cefnogi ein cymuned myfyrwyr. Gallwch ddewis gwneud rhodd i’r gronfa caledi myfyrwyr, neu brosiect penodol, gwneud rhodd untro neu adael cymynrodd yn eich ewyllys. Mae rhoddion i gefnogi’r Drindod Dewi Sant yn chwarae

rhan hanfodol wrth helpu i sicrhau bod ein cenhadaeth, ‘trawsnewid addysg, trawsnewid bywydau’ yn cael ei hategu trwy ddarparu cyfleusterau, ymchwil, profiadau ar y campws a ffrwd o dalent, o israddedigion i arweinwyr mewn diwydiant, waeth beth fo’u hamgylchiadau ariannol, gan ddarparu mynediad i addysg uwch i bawb.

Croesewir rhoddion ar gyfer y canlynol: Y gronfa cymorth a chaledi myfyrwyr Entrepreneuriaid myfyrwyr Profiadau myfyrwyr – cyfleoedd i deithio ac astudio Bwrsarïau ac ysgoloriaethau pwnc-benodol

Os hoffech drafod gwneud rhodd, cysylltwch â’n tîm cyn-fyfyrwyr alumni@uwtsd.ac.uk Cymorth Rhodd – ar gyfer trethdalwyr cymwys yn y DU Pan fyddwch yn gwneud cyfraniad trwy Gymorth Rhodd, gallwn hawlio treth yn ôl gan Gyllid a Thollau EM ar y gyfradd sylfaenol yr ydych eisoes wedi’i thalu ar eich rhodd. Mae hynny’n golygu bod eich rhodd i ni yn werth 25% yn fwy, heb ddim cost ychwanegol i chi. Os ydych yn talu treth ar y gyfradd uwch, gallwch hefyd hawlio’n ôl y gwahaniaeth rhwng y dreth ar y gyfradd uwch a’r gyfradd sylfaenol ar gyfanswm gwerth eich rhodd i’r Brifysgol ar eich ffurflen dreth Hunanasesu.

uwtsd.ac.uk/cy | 31


32 | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.