Cyfleusterau CWIC

Page 1

Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru Construction Wales Innovation Centre

Lleoliad Cymru ar gyfer Adeiladu

Yn Diogelu Sgiliau Adeiladu ar gyfer y Dyfodol

Future Proofing Construction Skills

1


Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru

2

Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru


Mae Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) yn gyfleuster unigryw a adeiladwyd yn bwrpasol, sydd wedi’i leoli yn Ardal Arloesi Abertawe Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Wedi’i hariannu mewn partneriaeth gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB), agorodd y ganolfan nodedig hon, sy’n werth £6.5 miliwn, ym mis Hydref 2018, ac mae’n cynnig cyfleusterau dysgu a chynadledda o’r radd flaenaf i ddiwydiant adeiladu Cymru ar ei thri llawr.

Yn Diogelu Sgiliau Adeiladu ar gyfer y Dyfodol

3


Y Llawr Daear Gellir defnyddio’r ParthAdeiladu ar gyfer amrywiaeth eang o ddibenion ymarferol. Nodweddion: • gweithdy ac ynddo amrywiaeth helaeth o gyfarpar, yn ogystal â pheiriannau o ansawdd uchel; • cyfarpar ar gyfer hyfforddiant a digwyddiadau ymarferol sy’n ymwneud ag adeiladu; • technoleg gynadledda glyweledol; • cyfleusterau golchi dwylo; • mesanîn sy’n rhedeg ar hyd yr ystafell, gan ddarparu oriel wylio ragorol.

Defnydd Posibl: • arddangosiadau cynnyrch; • arddangosfeydd; • cynadleddau bach; • ymweliadau gan ysgolion.

4

Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru


Yn Diogelu Sgiliau Adeiladu ar gyfer y Dyfodol

5


Y Llawr Cyntaf Mae’r ParthDigidol yn darparu cyfleusterau cyfrifiadura rhagorol sy’n canolbwyntio ar adeiladu digidol. • 12 o gonsolau cyfrifiadur manyleb uchel; • meddalwedd arloesol a diwydiant-benodol gan gynnwys Autodesk, Revit, Enscape a BIM 360; • technoleg glyweledol.

6

Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru

Mae’r ParthDysgu ar yr un llawr, sef ystafell gyfarfod/ddosbarth olau ac amlbwrpas; • gellir ei defnyddio fel un ystafell gyfarfod fawr, neu; • gellir ei rhannu’n ddwy ystafell; • mae yna le i 34 o bobl ymhob ystafell pan fydd ar ffurf theatr, a lle i 24 o bobl pan fydd ar ffurf ystafell ddosbarth; • caledwedd a meddalwedd ar gyfer cyflwyniadau clyweledol a fideogynadledda.


ParthDysgu

ParthDigidol

Yn Diogelu Sgiliau Adeiladu ar gyfer y Dyfodol

7


Yr Ail Lawr Mae’r ParthAgored yn fan cyfarfod anffurfiol sy’n cynnwys cyfleusterau cegin a golygfeydd dros ddociau Abertawe. Nodweddion: • chwe desg boeth â phŵer, data a mynediad at Wi-Fi i ymwelwyr • cyfleusterau cegin • loceri • pod acwstig i bedwar unigolyn • ystafell fwrdd sy’n cynnwys lle i hyd at 12 o bobl • technoleg sgrin gyffwrdd

8

Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru


Mae gan bob llawr gysylltedd rhagorol â’r Wi-Fi i ymwelwyr, ynghyd â digon o leoedd parcio am ddim ar y safle (pan wneir cais trwy CWIC ymlaen llaw).

Yn Diogelu Sgiliau Adeiladu ar gyfer y Dyfodol

9


10

Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru


Yr Ail Lawr Mae’r ParthHyblyg hefyd ar y llawr hwn, sef ardal sy’n ddigon mawr i gynnal amrywiaeth o gyfarfodydd: • dodrefn modiwlar yn addas ar gyfer fformatau gwahanol • technoleg sgrin gyffwrdd • lle i hyd at 30 o bobl (ystafell fwrdd)/60 o bobl ar ffurf cynhadledd • ystafell gyfarfod gyffiniol ar gyfer pedwar unigolyn • WiFi i ymwelwyr

Yn Diogelu Sgiliau Adeiladu ar gyfer y Dyfodol

11


Fabian Way i’r M4

Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Heol Ynys Abertawe SA1 8EW

IQ Marina / I’r Traeth

01792 481273 | cwic.wales | cwic@uwtsd.ac.uk constructionwalesinnovationcentre

@ConstructionWalesInnovationCentre

@CWICWales


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.