CWIC Cylchlythyr Hydref 2018

Page 1

Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru Construction Wales Innovation Centre

Diogelu Sgiliau Adeiladu at y Dyfodol Cylchlythyr Canolfan Arloesi Adeiladu Cymru (CWIC) Coleg y Cymoedd yn Ne Ddwyrain Cymru a’r Sefydliad Ymchwil Adeiladu ymuno gyda’i gilydd yn y fenter unigryw hon i sicrhau bod gan ein diwydiant y sgiliau cywir yn eu lle i gwrdd ag anghenion presennol ac anghenion y dyfodol. Donna Griffiths Rheolwr Partneriaethau CITB

C

roeso i rifyn cyntaf y cylchlythyr. Bellach, dim ond ychydig o wythnosau sydd i fynd cyn agor canolfan SA1 CWIC. Yn 2016 fe wnaeth partneriaeth CWIC sy’n cynnwys Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion (sy’n ffurfio rhan o Grŵp PCYDDS); Coleg Cambria yng Ngogledd Cymru;

Drwy gyllid y CITB, mae’r bartneriaeth eisoes wedi cyflawni llawer. Mae CWIC eisoes wedi ymgysylltu â dros 2,000 o weithwyr proffesiynol y diwydiant adeiladu yng Nghymru ac wedi cyflwyno cyfanswm o 633 o ddiwrnodau hyfforddi ers iddo ddechrau. Mae CWIC wedi cefnogi 350 o gyflogwyr yng Nghymru ac wedi cefnogi cynnal 260 o weithgareddau ledled Cymru.

Hydref 2018 Rhif 1

Bydd cydweithio yn parhau i fod wrth wraidd CWIC sydd mewn sefyllfa dda i ymateb i’r heriau sgiliau ledled Cymru a bydd, am y tro cyntaf, yn darparu llwybr gyrfa integredig rhwng gweithredwyr, crefftwyr a galwedigaethau adeiladu proffesiynol ar draws Cymru gyfan. Mae tîm CWIC yn gobeithio cyhoeddi dyddiad swyddogol lansio canolfan SA1 yn fuan, lle byddwch chi’n gallu cwrdd â’r tîm a gweld y cyfleusterau newydd. Am y newyddion diweddaraf ac opsiynau hyfforddiant, ewch i cwic.wales.

cwic.wales | 01792 481273 | cwic@uwtsd.ac.uk | @CWICWales


Ffocws ar Hyfforddiant Mae CWIC wedi ymrwymo i helpu cyflwyno gweithgareddau o ansawdd uchel a arweinir gan alw ledled Cymru. Mae’r gweithgareddau hyn wedi’u hwyluso gan ein colegau partner ac rydym yn falch o rannu dim ond ychydig o’r uchafbwyntiau gan bobl sydd wedi cymryd rhan yn y cyrsiau hyn.

Goruchwyliaeth Safle CIOB Ym mis Mehefin eleni, cyflwynodd Goleg Ceredigion gwrs Lefel 4 CIOB mewn Goruchwyliaeth Safle a ariennir gan CWIC sy’n ymdrin â rheoli iechyd a diogelwch ar safleoedd adeiladu, cyfrifoldebau cytundebol a chyfreithiol, amcangyfrif a mesur gwaith yn ogystal â rheoli technoleg adeiladu modern. Yn fuan wedyn fe wnaeth cyflogwr, y bu i un o’i weithwyr fynychu’r cwrs, gysylltu â’r coleg i ddweud ei fod ef

“... wedi sylwi ar wahaniaeth mawr yn agwedd ac ymrwymiad fy ngweithiwr at waith ers bod ar y cwrs” ac mae’n “bendant yn argymell y cwrs ac yn ystyried anfon prentis arall y flwyddyn nesaf ar y rhaglen brentisiaeth uwch.”

Hyfforddiant mewn Autodesk Revit Nododd CWIC, trwy ei rwydwaith o fudd-ddeiliaid, fod yna brinder o gwmnïau pensaernïol sy’n symud i amgylcheddau gweithio 3D Modelu Gwybodaeth am Adeiladu (BIM) a Chynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD). Er mwyn helpu i fynd i’r afael â hyn, mae CWIC newydd gwblhau cyflwyno ei gwrs Autodesk Revit yn ei ganolfan bartner, Coleg Sir Gâr.

Meddai Gethin James o IAGO Cymru Cyf am y cwrs, “Rydym ni, fel cwmni, yn ddiolchgar iawn i CWIC am ddarparu’r cwrs hwn. Rydym wedi ystyried symud o 2D i 3D ers sawl blwyddyn ond mae costau hyfforddi

wedi bod yn afresymol. Ar ôl mynychu’r cwrs hwn mae’n caniatáu i ni nawr dyfu ein busnes drwy gynnig rhagor o wasanaethau i’n cleientiaid a chynhyrchu modelau ar gyfer prosiectau a alluogwyd gan BIM”.


Mae cyfranogwyr nifer o gwmnïau’n dysgu am dechnoleg dron

Technoleg Drôn ac Adeiladu Mae Coleg Cambria (CWIC yng Ngogledd Cymru) yn gweithio’n agos iawn gyda chwmnïau adeiladu blaenllaw megis Redrow, Anwyl, Watkin Jones, Read, Knights, Galliford Try a llawer o rai eraill. Mae’r cydweithio hwn wedi golygu bod cyrsiau wedi eu datblygu sydd â’r nod o fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r diwydiant adeiladu yng Ngogledd Cymru. Mae darpariaeth hyfforddiant Coleg Cambria wedi cynnwys ystod o gyrsiau sgaffaldio gan gynnwys Archwilio Sgaffaldiau Sylfaenol CISRS; Defnydd Sylfaenol, Canolradd ac Uwch o Reolaeth Prosiect MS 2016; PASMA ar gyfer Defnyddwyr; Defnyddio Dronau mewn Adeiladu (yn y llun) yn ogystal ag Ymwybyddiaeth Ymddygiadol mewn Adeiladu.

“Mae CWIC wedi bod yn effeithiol iawn wrth ddarparu’r hyfforddiant pwrpasol sydd ei angen arnom i’n staff ac wedi gallu mynd i’r afael â’n hanghenion yn gyflym. Mae’n un o’r cynigion unigryw yn y byd hyfforddi sy’n mynd i’r afael ag anghenion gweithwyr” Richard Heaton, Rheolwr Gyfarwyddwr yn Reading Construction

Bŵtcamp yn llwyddiant mawr Oherwydd y peryglon posibl o weithio mewn seilwaith, mae llawer o gyflogwyr yn amharod i ganiatáu i newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant gael mynd ar y safle heb gael eu hyfforddi’n gyntaf. Fodd bynnag, ar gyfer newydd-ddyfodiad, mae costau hyfforddiant mewn gwaith seiliau a gweithrediadau peiriannau, tu hwnt i’w gyrraedd. O’r herwydd, sefydlwyd Bŵtcamp Adeiladu, gyda chymorth ariannol CWIC

a CITB Cymru, i helpu darparu hyfforddiant digonol i ganiatáu i’r genhedlaeth nesaf o weithwyr y diwydiant gychwyn arni ac atal argyfwng sgiliau yn y dyfodol. Hyd yn hyn, mae ARC, Coleg y Cymoedd a CWIC wedi gweithio gyda’i gilydd i hwyluso tri bŵtcamp 20 diwrnod llwyddiannus. Meddai John Roberts, aseswr a hyfforddwr ar gyfer y cynllun, “... mae’r cwrs wedi bod yn llwyddiant enfawr, gyda’r ymgeiswyr

yn ennill eu cymwysterau ac yna’n symud ymlaen i gyflogaeth. Yn bersonol, credaf y dylai fod llawer mwy o’r mathau hyn o gyrsiau sy’n annog ymgeiswyr i gael gwaith.”

Myfyrwyr yn dysgu sut i osod ffordd


Canolfan CWIC yn agor O’r mis Hydref hwn, bydd Canolfan CWIC ar agor ac yn cyflwyno ystod o gyrsiau hyfforddi ar bob lefel i unrhyw un sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu. Bydd y cyfleusterau’n cefnogi cyflogwyr trwy fynd i’r afael ag anghenion brys o ran sgiliau a gwybodaeth yn ogystal â chynnal digwyddiadau ymgysylltu ar gyfer ysgolion a newyddddyfodiaid posibl eraill i’r diwydiant adeiladu. Bydd y Ganolfan yn cynnwys ParthAdeiladu sy’n ddigon hyblyg i ddarparu hyfforddiant mewn sgiliau ymarferol, arddangos cynnyrch, sioeau masnach a gweithgareddau ymgysylltu â’r diwydiant. Bydd y Ganolfan hefyd yn cynnwys swît gyfrifiaduron bwrpasol, canolfan gynadledda y gellir ei rhannu’n ddwy ystafell ddosbarth, ystafell fwrdd a gofod ar gyfer defnyddwyr allanol o’r diwydiant. Yn ogystal, mae gan ddefnyddwyr CWIC fynediad i ystod estynedig o gyfleusterau y gall campws prifysgol modern eu cynnig.

Meddai Dr Jane Davidson, Dirprwy Is-Ganghellor Ymgysylltu Allanol a Chynaladwyedd: “Un o’r diwydiannau pwysicaf – ac un o’r symbylwyr cyfleoedd gwaith – yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe yw adeiladu. Wrth i £1.3 biliwn o fuddsoddiad ddod i mewn i Dde Orllewin Cymru, bydd y bartneriaeth rhwng PCYDDS, a’i ffynhonnell o bobl ifanc sy’n ennill sgiliau yn yr amgylchedd adeiledig, a Chanolfan Arloesi Adeiladu Cymru, yn helpu i sicrhau y caiff unigolion a chwmnïau’r hyfforddiant gorau posibl yn y cyfleusterau gorau posibl i hybu cyfleoedd pellach yn y rhanbarth a thu hwnt.”

Yr oriel

Y Parth Adeiladu newydd

Meddai Gerald Naylor, Cyfarwyddwr CWIC: “Rydym nid yn unig yn gweithio’n gyflym ac yn ymatebol i ddiwallu anghenion y diwydiant adeiladu yng Nghymru, ond hefyd rydym yn cydweithio â nifer o bartneriaid diwydiant ar wella ymgysylltiad cyflogwyraddysg. Mae CWIC hefyd yn cydweithio â budd-ddeiliaid eraill i hyrwyddo delwedd gadarnhaol o’r diwydiant adeiladu i newydd-ddyfodiaid posibl.”


Ehangu ein cwmpas I ategu ei weithgareddau craidd mae CWIC yn rhan o ddau brosiect a ariennir gan y CITB sy’n hyrwyddo’r diwydiant adeiladu i’r sector ysgolion. Arweinir y prosiect Cwricwlwm Cyd-destunol gan Bouygues UK sy’n datblygu adnoddau gyda’u partneriaid prosiect, deunyddiau dysgu a gwybodaeth y gall athrawon eu defnyddio mewn pynciau STEAM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, y Celfyddydau a Mathemateg). Bydd yr ail brosiect, rhaglen Ymgysylltu Addysg a arweinir gan Kier Construction, yn

defnyddio’r adnoddau hyn fel rhan o ymgyrch i greu diddordeb mewn adeiladu ymhlith disgyblion ysgol. Yn ogystal, mae CWIC yn rheolwr prosiect ar gyfer dwy fenter cyflogwyraddysg arall a ariennir eto gan y CITB. Mae WRW Construction yn arwain ar y prosiect Dysgu drwy Brofiadau sy’n ceisio hyrwyddo’r diwydiant i bobl ifanc mwy galluog a thalentog yn ogystal â darparu amgylchedd gwaith ffug diogel sy’n cefnogi parodrwydd at waith. Bydd prosiect tebyg a chyflenwol a gefnogir gan Gymdeithas y Contractwyr

Peirianneg Sifil yn creu adnoddau ar gyfer cyfres o raglenni datblygiad proffesiynol parhaus yn ogystal ag annog arbenigwyr yn y diwydiant i rannu eu gwybodaeth a’u sgiliau gyda’r sector addysg uwch. Hefyd mae CWIC ar hyn o bryd yn cydweithio â sefydliadau eraill o’r un anian ledled y DU i hyrwyddo’r defnydd o dechnolegau ymgolli mewn adeiladu a phrosiect ar wahân i fynd i’r afael â phrinder sgiliau dybryd mewn gweithgynhyrchu oddi ar y safle.

Edrych i’r dyfodol Wrth ddiwallu anghenion cyflogwyr heddiw, mae CWIC hefyd yn edrych i’r dyfodol. Mae nawr yn gweithio ar gynllun deng mlynedd uchelgeisiol i gynnal ei weithgareddau craidd cyfredol ac i ymestyn ei gyrhaeddiad i orwelion newydd ac ym mhob rhan o Gymru Wedi’i fframio o gwmpas tair blaenoriaeth allweddol y diwydiant sef gweithlu’r dyfodol, datblygu sgiliau ac arloesi, bydd CWIC yn gweithio hyd yn oed yn agosach gyda chyflogwyr, darparwyr addysg, y CITB a Llywodraeth

Cymru. Mae CWIC eisoes wedi dechrau ar y gwaith hwn ac wedi nodi amrediad o ‘faterion’ o dan bob blaenoriaeth. Argymhellwyd ‘datrysiadau’ petrus ac mae cyfnod o ymgynghori ar y gweill. Trefnir cyhoeddi Rhaglen Ddarparu ym mis Hydref 2018 pan ofynnir i bob buddddeiliad gyfrannu a dylanwadu ar gynllun gweithredu Cymru gyfan.


Y Sefydliad Adeiladu Siartredig yn cynnig Prentisiaethau Uwch Lefel 5 Newydd mewn Rheoli Adeiladu a Mesur Meintiau Mae’n bleser mawr gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyhoeddi dwy raglen Prentisiaeth Uwch newydd mewn Rheolaeth Adeiladu a Mesur Meintiau. Mae’r Ysgol Pensaernïaeth ac Amgylcheddau Adeiledig a Naturiol yn gweithio’n uniongyrchol gyda phartneriaid yn y diwydiant ac mewn cydweithrediad â’r Sefydliad Adeiladu Siartredig, Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru a Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu i gyflwyno’r rhaglenni hyn yn y Gyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg o fis Hydref 2018. Maent wedi’u datblygu ar y cyd a’r diwydiant i fynd i’r afael â’r prinder sylweddol o Reolwyr Adeiladu a Syrfewyr Meintiau yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i’r Ysgol Pensaernïaeth ac Amgylcheddau Adeiledig a Naturiol. Lluniwyd pob un o’n cyrsiau i ymateb i ofynion y diwydiant. Fel prifysgol a darparwr addysg adeiladu, rydym ni mewn sefyllfa unigryw, am fod ein partneriaeth â Chanolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru yn rhoi cyfle i ni drafod gofynion y diwydiant

a’r prinder cyfredol yn uniongyrchol gyda chyflogwyr a sefydliadau proffesiynol. Ein nod yw bod ar frig y darparwyr cyrsiau Adeiladu yng Nghymru. Ynghyd â’n cydweithio â’r Sefydliad Adeiladu Siartredig, credwn fod ein cyrsiau’n rhoi i’r myfyrwyr y sgiliau angenrheidiol sy’n ofynnol mewn diwydiant sy’n newid yn gyflym, sef y sgiliau sy’n gosod y myfyrwyr hynny’n gadarn ar y llwybr i achredu proffesiynol. Bydd y fframwaith wedi’i strwythuro i gynnig dau lwybr cysylltiedig gyda dilyniant di-dor trwy dair blynedd academaidd gan ymgorffori dau Ddiploma Cenedlaethol Uwch (HND) a Chymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs) Lefel 5 perthynol. Bydd y llwybrau newydd hyn yn hyblyg, addasadwy ac yn bodloni gofynion cyflogwyr lleol. Ein nod yw datblygu ein Prentisiaethau Cenedlaethol Uwch ar draws ein holl raglenni.

Kate Evans, ein prentisiaeth cyntaf, yn siarad gyda Lindsey Richards, Pennaeth yr Ysgol Pensaernïaeth ac Amgylcheddau Adeiledig a Naturiol yn YDDS


Sgiliau ar y Safle

Ein ymweliad cyntaf Sgiliau ar y Safle gyda Kier yn SA1

Ym mis Mai 2017, fe wnaethom lansio ein menter dysgu ar-safle newydd, Sgiliau ar y Safle, a’i phrif amcan yw manteisio ar argaeledd safleoedd adeiladu byw i ddarparu hyfforddiant ymarferol, galwedigaethol ac addysgol, gan ychwanegu felly at ddysgu’r ystafell ddosbarth. Wedi’i chreu fel partneriaeth rhwng CWIC, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Sefydliad Siartredig Adeiladu a Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu, ei nod hefyd yw ymgysylltu â sefydliadau’r gadwyn gyflenwi i archwilio pynciau safle a dulliau gweithio perthnasol. Fe wnaeth ein digwyddiad Sgiliau ar y Safle cyntaf, a gynhaliwyd gan Kier Construction yn adeilad newydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn natblygiad SA1 Glannau Abertawe, ymgysylltu â myfyrwyr o Ysgol Bensaernïaeth, Amgylchedd

Adeiledig a Naturiol y brifysgol ei hun a Choleg Sir Gâr mewn cyflwyniad ar y ffyrdd yn y mae technoleg drôn yn cael ei defnyddio mewn adeiladu. Meddai Cyfarwyddwr Partneriaethau Strategol CITB Cymru, Mark Bodger: “Nod Sgiliau ar y Safle yw cefnogi sefydliadau adeiladu i agor safleoedd i ddod yn barthau dysgu. Rwy’n falch iawn mai safle SA1, sy’n gartref i’r Ganolfan Arloesi Adeiladu Cymru (CWIC) newydd, fydd yn lansio’r cynllun. “Mae CWIC a datblygiad SA1 eisoes wedi ymrwymo i ddysgu ar-safle, gyda chyfle i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau amrywiol trwy gydol proses adeiladu’r ganolfan newydd. Mae’r datblygiad SA1 hefyd wedi ennill statws Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Adeiladu, a fydd yn helpu i greu swyddi ar gyfer y gweithlu lleol, creu prentisiaethau o safon uchel

a darparu hyfforddiant o’r radd flaenaf a arweinir gan y diwydiant ar safle’r datblygiad.” Ers hynny mae pynciau eraill wedi cynnwys Gweithdrefnau CynAdeiladu, sgwrs ar gynlluniau Mecanyddol a Pheirianegol, cyflwyniad ar Weithdrefnau Cytundebol a Chynigion Tendro, esboniad ar Logisteg Safle a Sylfeini yn ogystal ag ymweliad i ddysgu am faterion Iechyd a Diogelwch ym Mhencadlys newydd S4C, Yr Egin. Mae CWIC yn awyddus i ddatblygu mwy o ymweliadau a hoffem glywed gan gwmnïau adeiladu o bob maint ledled Cymru a fyddai’n barod i groesawu ymweliad gan Sgiliau ar y Safle. Rydym yn falch i gyhoeddi y bydd Coleg Ceredigion yn arwain y fenter ar ran CWIC. Cysylltwch â ni ar 01792 481273.


Adeiladu Cyd-destunol ar gyfer Disgyblion Ysgol y Preseli Mae grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 9 o Ysgol y Preseli, ysgol uwchradd yn Sir Benfro, wedi cymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi beilot newydd o’r enw ‘Adeiladu Eich Dyfodol’ caiff ei rhedeg gan Goleg Ceredigion i ddysgu am adeiladwaith. Yn ystod y cwrs 18 wythnos, cafodd y disgyblion brofiad ymarferol o nifer o brosiectau adeiladu a oedd yn cynnwys gosod brics, plastro, gwaith coed, gwaith trydanol, plymio, cynnal a chadw a phaentio ac addurno. Daeth y cwrs i ben ym mis Mehefin gyda phrosiect a oedd yn cynnwys creu pod oedd wedi ei adeiladu gyda dychymyg mewn modd cynaliadwy gan ddefnyddio deunyddiau amgylcheddol. Dyluniwyd y cwrs yn y fath fodd fel bod disgyblion yn gallu gweithio tuag at brosiect ‘Dylunio ac Adeiladu’ diwedd blwyddyn yn ogystal â chyflawni Dyfarniad Lefel 1 City and Guilds mewn Sgiliau Adeiladu sydd

Arddangosiad gwaith coed

wedi rhoi cyflwyniad gwerthfawr iddynt i’r diwydiant adeiladu. Yn ogystal â gallu mynd i’r afael yn ymarferol â rhai o’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen yn ein diwydiant, roeddent hefyd yn gallu ymgymryd â thasgau trwy ddefnyddio meddalwedd Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur a dysgu am Fesur Meintiau. Yn ogystal â gweithio ar brosiect dylunio, ymwelodd disgyblion â’r Ganolfan Dechnoleg Amgen i ddysgu am yr heriau amgylcheddol sy’n wynebu’r diwydiant adeiladu a sut mae’r Ganolfan Dechnoleg Amgen yn gweithio tuag at Brydain ddi-garbon. Cawsant hefyd gyfle i wrando ar Carwyn Jones, enillydd y rhaglen deledu Channel 4, Cabins in the Wild. Roedd cynllun unigryw Carwyn yn cynnwys strwythur ffrâm bren a ffurfiwyd mewn siâp Llygad Draig. Cyflwynodd Carwyn sesiwn ddiddorol


iawn, gan gynnwys sôn am y broses meddwl y tu ôl i’r dyluniad a’r heriau a’r gwobrau o adeiladu’r strwythur. Dilynodd Huw Thomas, Rheolwr Datblygu’r Cwricwlwm yng Ngholeg Ceredigion, gynnydd y cwrs o’i ddechrau hyd ei ddiwedd. Meddai, “Mae’n wych gallu darparu cyfle mor unigryw i ddisgyblion blwyddyn 9 Ysgol Y Preseli. Mae’r amrywiaeth o sgiliau y mae’r disgyblion wedi eu datblygu dros y flwyddyn academaidd yn rhyfeddol. Mae hyn yn bendant yn tynnu sylw at y ffaith fod pobl yn dysgu orau pan fyddant yn mwynhau’r hyn maen nhw’n ei wneud. Bu’n bleser i ni fel coleg addysgu’r garfan o ddysgwyr hyn ac rydym yn ddiolchgar i’r CITB, CWIC ac i Ysgol Y Preseli am eu cefnogaeth barhaus drwy gydol y prosiect”.

Ymweld â safle adeiladu

Mae’r prosiect hwn wedi bod yn hanfodol yn nhermau helpu disgyblion i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy pwysig. Mae’r cyngor ymarferol arbenigol a’r cyfleoedd dysgu maen nhw wedi derbyn wedi darparu’r disgyblion gyda sylfaen gadarn ar gyfer eu hyfforddiant galwedigaethol yn y dyfodol. Mike Davies Prifathro

Sgiliau ymarferol yn gwneud pod


Arloesedd yn cymryd i ffwrdd yng Nghambria Daeth Coleg Cambria yn ganolfan ar gyfer CWIC yn 2016. Roedd yn amlwg bron ar unwaith bod galw mawr am y cyrsiau roedd CWIC yn eu cyflwyno. Trefnwyd ystod eang o gyrsiau i gynorthwyo gyda diwallu anghenion hyfforddi unigolion o gwmnïau adeiladu yng Nghymru.

ddarparu cyrsiau ‘yn y dosbarth’, fel Rheoli Prosiectau MS, BIM, Cydlynydd a Goruchwyliwr Gwaith Dros Dro, yn ogystal â’r opsiwn i fynychu cyrsiau ymarferol gan gynnwys PASMA, Archwilio Sgaffaldau Sylfaenol ac archwiliadau ac arolygon awyr CISRS.

Bu cryn waith adeiladu ac adnewyddu ar safle Ffordd y Bers Coleg Cambria yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf. Seiliwyd llawer o’r gwaith hwn ar drafodaethau ynglŷn â meysydd i ddatblygu hyfforddiant drwy raglenni cyrsiau CWIC, yn ogystal â thrafodaethau â’r diwydiant. Mae’r meysydd addysgu adeiladu newydd hyn wedi’u llunio gyda chymorth penseiri a staff y coleg.

Mae adeiladwyr a gweithwyr o bob cwr o Gymru yn mynychu’r cyrsiau hyn ac maent yn eu croesawu’n fawr, os nad yn fwy nag ar y dechrau un. Ein huchelgais yw meithrin technolegau newydd ac arloesol ac addysgu dulliau adeiladu modern.

Mae ein Canolfan Arloesi newydd bellach yn ganolbwynt ar gyfer pob cwrs CWIC sy’n cael ei gyflwyno yn y coleg. Gallwn Dysgu arolygu gyda drôn

Rydym Wedi Symud Construction Wales Innovation Centre University of Wales Trinity Saint David Heol Ynys, Kings Road, Swansea SA1 8EW


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.