Map Llwybr Sgiliau ac Arloesi ar gyfer Gweithlu Adeiladu’r Dyfodol yng Nghymru

Page 1

Map Llwybr Sgiliau ac Arloesi ar gyfer Gweithlu Adeiladu’r Dyfodol yng Nghymru 2020-2030

cwic.cymru Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru | Diogelu Sgiliau at y Dyfodol

1


Cynnwys Rhagair

3

Cyflwyniad

4

Diben a Nodau

5

Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru

6

Gweithlu’r Dyfodol

8

Datblygu Sgiliau

10

Arloesi

12

Diweddglo a’r Ffordd Ymlaen

14

Cyfeiriadau 16


Rhagair Wrth i Ganolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) gyrraedd carreg filltir arwyddocaol yn ei datblygiad, sef agor ei phrif ganolfan bwrpasol yn Ardal Arloesi Abertawe, mae’n amserol lansio’r Map Llwybr Sgiliau ac Arloesi Adeiladu yng Nghymru ar yr un pryd. Dechreuodd y bartneriaeth strategol rhwng Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn 2016 ac mae wedi rhagori ar yr holl ddisgwyliadau o ran cyflawni’i nodau sef ymgysylltu â chyflogwyr a darparu atebion hyfforddi arloesol ar gyfer y diwydiant adeiladu. Crëwyd y map llwybr i dynnu sylw at yr angen am strategaeth integredig er mwyn datblygu’r gweithlu dros y degawd nesaf ar gyfer un o’r sectorau cyflogaeth pwysicaf yn economaidd yng Nghymru. Dyma sector sydd ar hyn o bryd yn cyflogi tua 7% o weithlu Cymru ac sydd â’r potensial i ddarparu nifer mawr o rolau sgiliau uchel sy’n talu’n dda. Fodd bynnag mae’r sector yn wynebu lefelau twf na welwyd mo’u tebyg o’r blaen, prinderau sgiliau’n gyffredinol a mabwysiadu technolegau newydd a datblygol ar raddfa gyflym. Gyda’i gilydd mae’r ffactorau hyn yn gofyn am ddulliau sy’n sylfaenol wahanol i fethodolegau darparu traddodiadol. Mae gan CWIC fodel darparu cydnabyddedig yn cynnwys Prif Ganolfan a Lloerennau ar draws Cymru ac mae mewn sefyllfa ddelfrydol i oruchwylio cyflawni’r strategaeth hon mewn cydweithrediad â CITB a PCYDDS. Mae PCYDDS yn arwain y maes o ran datblygu system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol i Gymru, am fod ganddi elfennau’n cwmpasu addysg bellach, addysg uwch, ymchwil a dysgu seiliedig ar waith i bob oed, yn cynnwys prentisiaethau. Mae’i phortffolio eang yn datblygu dilyniant i mewn i waith ac o fewn gwaith, gyda darpariaeth gynhwysfawr yn y gwaith ar draws

pob lefel a phob sector cyflogaeth sy’n cynnig cyfleoedd dysgu gydol oes i unigolion a chwmnïau uwchraddio’u sgiliau galwedigaethol a phroffesiynol. Mae gan golegau partner PCYDDS arbenigedd cryf yng nghyswllt adeiladu ac mae hyn, ynghyd â’r cwrs Pensaernïaeth israddedig newydd cyntaf yng Nghymru er 70 mlynedd, a’i harlwy addysg uwch eang yn yr Amgylchedd Adeiledig, Peirianneg a Dylunio, yn golygu y bydd y bartneriaeth rhwng CWIC, CITB a PCYDDS yn darparu canolfan rhagoriaeth ac arloesi ym maes adeiladu ar bob lefel i Gymru. Eisoes dynodwyd bod y twf arfaethedig mewn gweithgarwch adeiladu yng Nghymru yn fwy nag unrhyw ranbarth arall yn y DU, heb gynnwys effaith y ddwy Fargen Ddinesig arfaethedig. Mae’r bargenion twf uchelgeisiol ar gyfer Abertawe a Chaerdydd yn dynodi gweithgarwch adeiladu ychwanegol sylweddol sy’n greiddiol iddynt. Rhagwelir effaith debyg gyda datblygiad arfaethedig Bargen Twf y Gogledd. Hefyd mae datblygiadau seilwaith sylweddol yn Lloegr yn cael effaith ar gyflogaeth yn y sector adeiladu yng Nghymru ac mae’r sector yn gweld cynnydd yn y sgiliau a gollir dros y ffin. Bydd datblygiadau’r dyfodol megis HS2, Crossrail, Heathrow a chyfleusterau Niwclear yn cynyddu ymhellach y galw am sgiliau ac am raglen radical ar gyfer datblygu’r gweithlu yng Nghymru. Mae adroddiad sgiliau CITB a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dynodi galw sylweddol am sgiliau yn ardal pob un o’r tair Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol. Dynodir cyfanswm y galw am lafur yng Nghymru yn 109,000 o unigolion yn 2018, yn codi i 118,450 erbyn 2022. O ran crefftau medrus, mae galw am Grefftau Pren (13,200), Plymio a Gwresogi (8,140) a Bricwyr (6,470) ac o ran rolau proffesiynol mae’r galw uchaf yn y maes Technegol / TG (12,240) a phrosesau adeiladu (7,520).

Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru | Diogelu Sgiliau at y Dyfodol

Mae’r prinderau sgiliau a ddynodwyd yn cael eu gwaethygu ymhellach gan nifer o faterion cyflogaeth trawssector. Mae lleihad parhaus yn nifer yr ymadawyr ysgol sy’n mynd i mewn i’r farchnad swyddi, cynnydd yn y nifer o ddinasyddion Ewrop sydd wedi’u cyflogi yn y DU ac sy’n ymadael, a chystadleuaeth gynyddol o nifer o sectorau cyflogaeth eraill sy’n wynebu prinderau sgiliau tebyg. Dynodwyd bod cyflwyno’r ardoll brentisiaethau’n creu galw am brentisiaethau ac am fuddsoddi ynddynt ym meysydd anhraddodiadol ar gyfer hyfforddiant drwy brentisiaeth. Yn benodol, mae gan y sector adeiladu yng Nghymru weithlu sy’n heneiddio hefyd, gydag 20% dros 55 oed a nifer sylweddol o BBaChau a busnesau micro yn y gadwyn gyflenwi. Mae’r busnesau hyn yn arbennig o agored i niwed o ran datblygu sgiliau a chadw gweithwyr. Yn ddiweddar cyhoeddodd Llywodraeth y DU “Construction Sector Deal” gyda’r nod o drawsnewid cynhyrchiant y sector adeiladu drwy fabwysiadu technolegau arloesol yn ogystal â datblygu gweithlu medrus iawn, sef pileri’r strategaeth a gynhwysir yn y map llwybr hwn. Mae Bargen Adeiladu’r DU yn dynodi partneriaeth rhwng y llywodraeth a’r sector adeiladu er mwyn cyflawni’i uchelgais. Mae’r map llwybr hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru am bartneriaeth debyg gyda’r partneriaid cyflawni allweddol CITB, CWIC a PCYDDS er mwyn cyflwyno datblygiadau o ran y gweithlu a thechnoleg mewn modd arloesol ar gyfer y sector adeiladu yng Nghymru yn ystod degawd o dwf sylweddol a datblygiadau technolegol.

Barry Liles Pro-Vice Chancellor, Skills & Lifelong Learning

3


Cyflwyniad “Mae Cymru yn arwain y DU o ran twf adeiladu, a’n gwaith ymchwil ni yn dangos y caiff dros 12,000 o swyddi newydd eu creu yn y wlad dros y pum mlynedd nesaf. Mae’n hollbwysig trefnu bod yr hyfforddiant cywir ar gael i greu gweithlu’r dyfodol. Mae arian CITB ar gyfer CWIC wedi galluogi partneriaid allweddol ledled Cymru i ddod at ei gilydd a darparu’r sgiliau y mae eu hangen ar gwmnïau adeiladu ac economi Cymru.” Mark Bodger Cyfarwyddwr Partneriaethau CITB Cymru

Yn dilyn galw o bob rhan o sector y diwydiant adeiladu yng Nghymru, ymatebodd Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) gyda system chwyldroadol a chydweithredol. Arweiniodd y dull arloesol newydd at enedigaeth Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) yn 2016 gyda’i threfn unigryw o Brif Ganolfan a Lloerennau. Mae’i natur unigryw’n deillio o’i gallu i fod yn adweithiol ac yn rhagweithiol wrth fynd i’r afael ag anghenion sgiliau arbenigol lle nad oes darpariaeth gyfredol ar gael, lle mae’r ddarpariaeth yn annigonol neu’n is na’r safon. Er bod CWIC yn canolbwyntio’n bennaf ar anghenion diwydiant adeiladu Cymru mae’n cyd-fynd â barn Fforwm Economaidd y Byd (2016) bod “...the [construction] industry has vast potential for improving productivity and efficiency, thanks to digitalization, innovative technologies and new construction techniques.” Mae’n cadarnhau bod “the rapid emergence of augmented reality, drones, 3D scanning and printing, Building Information Modelling (BIM), autonomous equipment and advanced building materials – all of them have now reached market maturity”. Drwy fabwysiadu a manteisio ar y dyfeisiadau newydd hyn, bydd cwmnïau’n hybu cynhyrchiant, yn symleiddio rheoli prosiectau a’u gweithdrefnau ac ar yr un pryd yn gwella ansawdd a diogelwch. Mae CWIC yn cefnogi’r angen i gipio’r holl botensial hwn a fydd yn gofyn am “a committed and concerted effort by the industry across many aspects, from technology, operations and strategy to personnel and regulation”. O safbwynt y DU mae CITB (2018a) yn tynnu sylw at heriau i’r diwydiant adeiladu’n cynnwys newidiadau o ran mudo, gweithlu sy’n heneiddio a chyfnod o ail-bwyso a mesur yn economaidd ar y cyd â chynnydd mewn llwythau gwaith yn enwedig prosiectau seilwaith sylweddol arfaethedig. Mae hefyd yn nodi’r “need to look towards the future and how industry can deliver projects more effectively using new methods of construction”. Mae CWIC yn rhannu’r un ymrwymiad â CITB ar gyfer gweithlu modern y mae arno angen “a modern fit-for-purpose training organisation...” Bydd CWIC yn gweithio’n agos â CITB a Llywodraeth Cymru wrth gyflawni’r nod hwn ac mae eisoes wedi dechrau gweithio wrth ochr ei rhwydwaith o bartneriaid i gyflwyno’r uchelgais hwn. Mae Llywodraeth Cymru (2017) yn ei nod Uchelgeisiol ac yn Dysgu yn gobeithio “creu’r awydd ym mhawb i ddysgu drwy gydol eu bywydau, a’u hysbrydoli i fod y gorau y gallant fod”. Mae gweledigaeth CWIC yn adlewyrchu’r nod hwn oherwydd ei diben yw datblygu gweithlu’r dyfodol, dysgu gydol oes a sgiliau lefel uchel. Mae CWIC yn cefnogi galwad Llywodraeth Cymru (ibid) i weld “Cymru yn ffynnu, [lle] mae angen pobl greadigol, sy’n fedrus iawn ac yn gallu addasu, felly bydd ein haddysg o’r oedran cynharaf un yn sylfaen i oes o ddysgu a chyflawni”. Meddai CITB (2018b) “rhagamcenir y bydd twf allbwn adeiladu yng Nghymru yn ystod y cyfnod rhwng 2018 a 2022 yn 4.6% ar gyfartaledd ... [ac] mae cyfradd dwf Cymru yn uwch o lawer na chyfradd dwf y DU (1.3%). Ar sail ehangu allbwn, disgwylir i gyflogaeth dyfu ar gyfradd gyfartalog flynyddol o 2.1%, sydd eto ymhell uwchlaw cyfradd y DU o 0.5%. Amcangyfrifir y bydd gofyniad recriwtio cyfartalog (AAR) yn 2,450, sef 2.2% o gyflogaeth sylfaen 2018”. Nid oes syndod bod y tair PDSRh wedi cydnabod adeiladu’n ‘sector o flaenoriaeth’. Mae allbwn CWIC yn ymwneud yn sylfaenol â mynd i’r afael â’r blaenoriaethau hyn yn y dyfodol ar yr un pryd â diwallu anghenion y diwydiant heddiw. Mae’n gwneud hyn yn effeithiol iawn drwy’i phartneriaid darparu (Lloerennau) ffurfiol ar draws Cymru sy’n ymgysylltu â chyflogwyr a darparwyr Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (VET) mewn modd ac ar lefel nas gwelwyd o’r blaen.

4


Diben a Nodau “Mae gan Grŵp y Drindod Dewi Sant draddodiad cryf o gynnig atebion sgiliau ar gyfer y diwydiant adeiladu ar bob lefel. Bellach mae’n arbennig o bleserus cydweithio â Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu i gyflwyno gweledigaeth genedlaethol lawer ehangach i Gymru. Mae lansio CWIC a gyllidir gan y Bwrdd Hyfforddi, ar bwys adeilad newydd cyffrous y Gyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg yn y Drindod Dewi Sant ar Lannau Abertawe yn fenter arwyddocaol ar y daith hon a bydd yn gatalydd pwysig ar gyfer cyflawni Cynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru” Jane Davidson Pro Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Mae’r Map Llwybr hwn yn ymateb i’r blaenoriaethau allweddol a nodwyd yn yr adroddiadau addysg a hyfforddiant galwedigaethol (VET) pwysig y cyfeirir atynt ar hyd y ddogfen hon. Mae’n cael ei lunio gan Gynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru ac yn tynnu ar y cynllun hwnnw. Mae’n gynllun blaenoriaethau strategol 10 mlynedd i CWIC ac mae wedi’i seilio ar y canfyddiadau a’r argymhellion uchod yn ogystal â mynd i’r afael â’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi ar gyfer adeiladu (Llywodraeth Cymru, 2018). Dan y cynllun uchelgeisiol hwn bydd CWIC a’i rhwydwaith o bartneriaid yn cynnal ac yn ehangu’i harlwy er mwyn mynd i’r afael ymhellach â diffygion Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol ar draws pob rhanbarth yng Nghymru. Mae CWIC yn cefnogi’n enwedig agenda Llywodraeth Cymru (2018) o ran “hyrwyddo cynwysoldeb” ac mae’n ymrwymedig i ddarparu rhaglenni sy’n sicrhau amrywiaeth, cynwysoldeb a chydraddoldeb. At hynny, mae CWIC yn cyd-fynd â nod y Llywodraeth o “gael gwared ar y bwlch rhwng cyfraddau diweithdra ac anweithgarwch economaidd yng Nghymru a chyfartaledd y DU ymhen 10 mlynedd.” Mae CITB a’i randdeiliaid yn gweld model CWIC fel modd effeithiol o fynd i’r afael â’r anghenion hyn o ran cyflogadwyedd ac addysg a hyfforddiant galwedigaethol ar gyfer y diwydiant adeiladu ac maent yn ymrwymedig i gefnogi parhad y dull hwn. Er mwyn cyflawni deilliannau’r Map Llwybr hwn yn gyflawn mae CWIC yn chwilio am gymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru drwy fodel cydfuddsoddi. Gan adeiladu ar eu llwyddiant cyfredol, mae CWIC a’i phartneriaid yn dynodi tair thema allweddol (blaenoriaethau’r diwydiant) sy’n diffinio’r Map Llwybr hwn ac yn codi safonau sector sy’n tyfu ac yn arloesi. Themâu’r Map Llwybr:

• Gweithlu’r Dyfodol • Datblygu Sgiliau • Arloesi Mae CWIC yn barod i gefnogi’r anghenion sgiliau ar gyfer y rhes sylweddol o brosiectau seilwaith arfaethedig megis Wylfa Newydd, ffordd liniaru M4 Casnewydd, Metro De Cymru, Bargen Ddinesig Rhanbarth-Ddinas Caerdydd, Bargen Ddinesig Bae Abertawe, Bargen Twf y Gogledd yn ogystal â’r ymrwymiad i Ganolfan Logisteg ar gyfer Heathrow. Mae cefnogaeth hefyd wedi’i nodi ar gyfer datblygiadau’r dyfodol mewn ysbytai, ysgolion, prifysgolion a’r rhaglenni niferus ar draws Cymru i adeiladu tai. Mae’r rhain i gyd yn golygu defnyddio technolegau newydd a datblygol yn cynnwys technegau gweithgynhyrchu oddi ar y safle sy’n gofyn am sgiliau lefel uwch newydd. Mae’r Cyngor Arweinyddiaeth Adeiladu (CLC, 2018) yn cadarnhau hyn gan honni y bydd mabwysiadu technolegau digidol a gweithgynhyrchu yn helpu i hyrwyddo newid a datblygu gweithlu medrus â galluoedd newydd. Mae CWIC yn cydnabod hyn a’i rôl ataliol yn y bwlch sgiliau a’r angen ar frys am y sgiliau newydd hyn os ydy’r diwydiant adeiladu yng Nghymru yn mynd i gystadlu am y gweithiau arfaethedig hyn. Nid yw anghenion sgiliau newydd a datblygol bob amser yn amlwg i gyflogwyr adeiladu gyda’r rhan fwyaf o flaenoriaethau wedi’u cyfeirio tuag at ddarparu ar gyfer anghenion sgiliau cyfredol. Un o amcanion pennaf CWIC yw gweithio gyda CITB ac eraill i ddynodi a mynd i’r afael â bylchau sgiliau o’r fath. Megis y Construction Sector Deal (HM Government, 2018) yn Lloegr, mae CWIC yn cynnig partneriaeth rhwng y diwydiant a Llywodraeth Cymru (ond gan gynnwys pob sector addysg) sy’n anelu at drawsnewid sylfaen sgiliau’r sector. Bydd yn gwneud hyn drwy ddenu’r rheini sy’n fwy abl a thalentog, drwy ddatblygu hyfforddiant sgiliau lefel uchel ar gyfer y dyfodol yn ogystal â thrwy fabwysiadu technolegau newydd ac arloesol ar raddfa eang.

Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru | Diogelu Sgiliau at y Dyfodol

5


Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru “Ar gyfer ein holl fusnes a’n pobl mae CWIC yn cynnig buddion allweddol mynd i’r afael ag anghenion pwrpasol yn gyflym, yn effeithiol ac yn ddidrafferth. Mae’i harlwy’n unigryw yn y byd hyfforddi am ei bod yn wirioneddol yn mynd i’r afael ag anghenion gweithwyr” Richard Heaton Rheolwr Gyfarwyddwr Read Construction

“Mae menter Sgiliau ar y Safle gan CWIC yn ffordd ardderchog o bontio’r bwlch rhwng theori’r ystafell ddosbarth a phrofiadau go iawn ar y safle. Mae clywed gan ymarferwyr y diwydiant sut maen nhw’n datrys pob math o broblemau technegol yn y camau dylunio ac adeiladu ar gyfer adeilad annhraddodiadol yn werthfawr iawn yn enwedig i fyfyrwyr llawn amser.” Daryl Thomas Pennaeth Cwricwlwm Coleg Sir Gâr 6

Mae CWIC yn gyfleuster sgiliau unigryw ar gyfer Cymru gyfan a gyllidir gan CITB gyda’i phrif ganolfan yn rhan o gampws newydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn Ardal Arloesi Abertawe. Mae’r Brif Ganolfan a’r Lloerennau (ar hyn o bryd Coleg y Cymoedd, Coleg Cambria, Coleg Ceredigion, Coleg Sir Gâr a’r Sefydliad Ymchwil Adeiladu) yn cyflwyno rhaglenni sgiliau pwrpasol/arbenigol a digwyddiadau ymgysylltu ar draws pob sector a lefel o’r diwydiant adeiladu yng Nghymru a’i gadwyn gyflenwi. Mae hyn yn dilyn galwadau cryf gan y diwydiant am ddarpariaeth Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol leol ac mae’n ceisio lleihau dyblygu darpariaeth yng Nghymru yn ogystal â chefnogi’r buddsoddi yn agenda Cymru ar gyfer economi gref drwy ddiwallu anghenion sgiliau cyfredol ac yn y dyfodol. Er bod gan Brif Ganolfan CWIC bresenoldeb ffisegol a sylfaen weinyddol ganolog ar gampws newydd PCYDDS yn Abertawe, mae’i chryfder yn ei pherthynas â’r Lloerennau sydd wedi’u gwasgaru’n ddaearyddol. Mewn cydweithrediad â chyflogwyr eu rhanbarth, rhoddir tasg i bob Lloeren ddynodi ac ymateb i’r anghenion sgiliau rhanbarthol. Gan weithio’n agos â’u darparwyr Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol lleol ac yn gydweithredol â rhwydwaith CWIC, mae modd i’r Lloerennau ddarparu’r sgiliau iawn ar yr amser iawn ac yn y lle iawn. Ers ei lansio ym mis Medi 2016 mae CWIC wedi dangos ei bod yn gallu cyflawni deilliannau’r prosiect yn ymatebol ac yn hyblyg er mwyn diwallu anghenion y diwydiant adeiladu yng Nghymru. Nid yn unig y mae CWIC yn rhagori ar ei thargedau a gynlluniwyd, mae’n cyfrannu’n sylweddol at lefelau newydd o weithio cydweithredol rhwng y sector addysg (ysgolion, AB, AU a darparwyr preifat) a’r diwydiant adeiladu. Mae deilliannau CWIC yn helpu cwmnïau i dyfu a ffynnu drwy ddatblygu sgiliau sy’n cyfrannu at well cynhyrchiant a chystadleurwydd o fewn marchnadoedd Cymru a marchnadoedd byd-eang ehangach. Yn ychwanegol at yr agenda sgiliau mae CWIC yn mynd ati’n weithredol i gefnogi’r defnydd o ddeunyddiau cynaliadwy a chydrannau wedi’u gweithgynhyrchu a gafwyd yn lleol. Er enghraifft, mae CWIC yn gweithio ar hyn o bryd gyda sefydliad yng Nghymru ym maes cyflenwi a defnyddio cynnyrch pren brodorol. Mae menter Coedwig i Safle yn enghraifft ymarferol o’i hymrwymiad i hyrwyddo amgylcheddol. Mae’r Lloerennau’n gweithio gyda’i gilydd ac yn rhannu arferion gorau mewn ffordd newydd sy’n rhoi budd i bob rhanddeiliad. Hefyd mae tystiolaeth eglur o fwy o gydweithio o ran hyfforddiant rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat gan hwyluso atebion sgiliau mwy cyflym ac â mwy o ffocws ar y cyflogwyr. Mae CWIC yn dechrau cael ei chydnabod am ganolbwyntio ar gymryd rôl arweiniol o ran hyrwyddo’r agenda moderneiddio ac arloesi ar draws Cymru mewn sector diwydiant sy’n amharod ac yn araf i newid fel y dynodwyd gan Farmer (2016). Mae’r dulliau o gyflwyno sgiliau’n ategu ymhellach y broses o gyflwyno sgiliau ar gyfer technolegau a phrosesau newydd. Unwaith eto, diwallir anghenion cyflogwyr drwy strategaeth flaengar CWIC yng nghyswllt cyflwyno sgiliau, gan sicrhau’r colledion lleiaf o ran cynhyrchiant ar yr un pryd â chynyddu cost-effeithiolrwydd. Hyrwyddir y thema cyflogwyr yn ymgysylltu ag addysg ymhellach gan y fenter Sgiliau ar y Safle gan CWIC, sy’n annog contractwyr i agor safleoedd adeiladu’n ‘ganolfannau dysgu byw’ ac felly i gefnogi parodrwydd dysgwyr adeiladu llawn amser i weithio. Mae’r mater olaf hefyd yn cael sylw drwy brosiect cydweithredol arall a gyllidir gan CITB. Mae CWIC yn hwyluso darparu’r prosiect dysgu drwy brofiadau hwn sydd â’r nod o ddarparu dysgu ymarferol diogel a lleol i gyfoethogi addysg lawn amser er mwyn cefnogi datblygu parodrwydd i weithio. Mae gweithio mewn partneriaeth yn un o werthoedd creiddiol CWIC ac mae’i hymwneud â nifer o brosiectau cysylltiedig a gyllidir gan CITB yn ategu ymhellach yr agenda ymgysylltu rhwng y sector addysg ehangach a’r diwydiant adeiladu.


“Mae CIOB yn gweithio’n gydweithredol ac yn ymwneud â nifer o brosiectau a gyllidir gan CITB gyda chontractwyr haen un a BBaChau, sydd wedi bod yn ganlyniad cadarnhaol i’n dulliau ni o weithio mewn partneriaeth â Chanolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC).”

Yn dilyn datblygiad llwyddiannus y Brentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Rheoli Safleoedd Adeiladu i Gymru, datblygwyd dwy brentisiaeth uwch Lefel 5 newydd yn ddiweddar. Mae’r cymhwyster Lefel 4 yn darparu llwybr dilyniant mawr ei angen ar gyfer crefftwyr sy’n cwblhau Lefel 3 ac fe’i cynigir bellach mewn nifer o golegau addysg bellach yng Nghymru. Datblygwyd y Prentisiaethau Uwch Lefel 5 mewn Rheoli Adeiladu a Mesur Meintiau mewn ymateb uniongyrchol i ddiffygion yn y diwydiant yn y meysydd hyn ac er mwyn denu ymadawyr ysgol mwy abl a thalentog i’r rolau technegol a phroffesiynol uwch. Mae mynd â’r maen i’r wal gyda’r rhaglenni prentisiaeth hyn yn deillio’n uniongyrchol o ethos cydweithredol cryf rhwng CWIC, cyflogwyr y Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB), CITB a Grŵp PCYDDS. Cyflogwyr a’u cynrychiolwyr sy’n gyrru strwythur, cynnwys a’r recriwtio ar gyfer y prentisiaethau uwch gyda CWIC yn darparu gwerth ychwanegol drwy’i gweithgareddau cefnogol. Bellach mae cyflogwyr yn galw am radd-brentisiaethau cysylltiedig ac eisoes maent wedi darparu’r cyfeiriad ar gyfer eu datblygu.

Gareth John Cadeirydd, CIOB yng Nghymru Sefydliad Adeiladu Siartredig

Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru | Diogelu Sgiliau at y Dyfodol

7


Gweithlu’r Dyfodol Yr anawsterau “Roedd cyflogwyr yn awyddus i bwysleisio bod Wrth fynd i’r afael â’r blaenoriaethau ar gyfer gweithlu’r dyfodol, mae CWIC yn â Chymwysterau Cymru (2018): “Her arbennig sy’n wynebu’r system yna ystod eang o swyddi cytuno gymwysterau yn y sector AAA yw bod gwahaniaethau sylweddol rhwng cwmnïau mwy o faint a chwmnïau bach/micro”. Mae cwmnïau mwy o faint yn tueddu mewn adeiladu sydd cael diffiniad mwy cyfyng o rolau a swyddogaethau swyddi lle mae gweithwyr angen dysgwyr â mewn cwmnïau llai’n fwy tebygol o ymgymryd ag ystod ehangach o dasgau. “O ganlyniad, mae cyrff dyfarnu, darparwyr dysgu a pherchenogion safonau gallu uwch.” galwedigaethol cenedlaethol yn wynebu’r her o sicrhau’r cydbwysedd cywir Cymwysterau Cymru

“Mae’r Gyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg yn falch i roi croeso i CWIC ar ein campws newydd ar lannau SA1. Rydym yn gwerthfawrogi ein partneriaeth â Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu ac yn credu bod y cydweithio hwn yn allweddol wrth ddarparu atebion arloesol i anghenion sgiliau’r diwydiant adeiladu. Mae CWIC a’r Ysgol Pensaernïaeth, Amgylcheddau Adeiledig a Naturiol oddi mewn i’r Gyfadran wedi cydweithio ar nifer o brosiectau sy’n berthnasol i’r diwydiant gan gwella sgiliau ein graddedigion a gweithlu’r diwydiant. Trwy weithio ar y cyd â’i phartneriaid, nod CWIC yw bod ar y blaen o ran gyrru y dechnoleg diwetharaf i ddiwydiant adeiladu Cymru, a thrwy hynny ysgogi rhagoriaeth adeiladu yng Nghymru.” Yr Athro Michael Fernando Deon Cyfadran Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

8

o sgiliau ...”

Daw’r un adroddiad i’r casgliad bod adeiladu “yn dioddef am fod newyddddyfodiaid yn ystyried ei fod yn anneniadol” ... a bod gan y sector ddelwedd wael nad yw’n ei haeddu ymhlith pobl ifanc. Roedd cyflogwyr o’r farn bod y diwydiant yn cael ei ‘stereoteipio fel un diflas’ sydd ar gyfer ‘cyflawnwyr isel’. “...ymddengys fod lefel isel o ymwybyddiaeth o’r ystod eang o sgiliau sydd eu hangen yn y sector, megis sgiliau digidol a’r gallu i ddatrys problemau’n greadigol.” Yn ei dadansoddiad SWOT o faes adeiladu, dynododd y Bartneriaeth Dysgu, Sgiliau ac Arloesi (LSkIP, 2017) nifer o ddiffygion yn y cyngor i weithlu’r dyfodol yn cynnwys canfyddiadau cyfyng o gyfleoedd gyrfaol yn y maes. Tynnwyd sylw at y diffygion hyn hefyd gan gyflogwyr yn adroddiad PDSRh (2017). Ar yr un thema gwelai Cymwysterau Cymru (2018) fod pryderon yn cael eu mynegi’n eang bod “gyrfaoedd yn y sector yn tueddu i gael eu hyrwyddo, mewn ysgolion, i ddysgwyr o allu is yn unig. Pwysleisiwyd hyn hefyd yn adroddiad LSkIP (2017) a nododd “... nid oedd hanner yr athrawon wedi trafod na rhoi unrhyw wybodaeth i bobl ifanc am adeiladu, ac felly roedd mwy na 50% yn credu ei fod yn waith llaw yn bennaf ac roedd llai nag 20% yn credu ei fod yn ddewis da. Roedd athrawon wedi dweud wrth bron hanner y bobl ifanc y byddai astudio am radd yn y brifysgol yn well i’w gyrfa yn y tymor hir na dilyn prentisiaeth.” Yn ei gynllun gweithredu mae CLC (2018) yn galw am gydlynu’r diwydiant adeiladu amrywiol er mwyn anfon allan “clear messages on careers” yn ogystal â darparu profiadau gwaith mwy ystyrlon. Mae’n mynnu bod rhaid i’r diwydiant weithio gyda’i gilydd i gynyddu nifer ac ansawdd y cyfleoedd am brofiad gwaith. Fodd bynnag, roedd cyflogwyr yn awyddus i bwysleisio bod ystod eang o rolau swyddi ym maes adeiladu sydd angen dysgwyr â gallu uwch. “Er gwaethaf amrywiaeth o fentrau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, megis Am Adeiladu, nifer gymharol fach o ddysgwyr o allu uwch sy’n manteisio ar gyfleoedd i ymuno â’r sector naill ai drwy brentisiaethau neu addysg uwch.” (Cymwysterau Cymru, 2018). Dywedodd Cymwysterau Cymru (ibid) fod nifer o ysgolion yng Nghymru yn pwysleisio pwysigrwydd cyflogwyr adeiladu’n ymgysylltu â’r cyrsiau er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol a phwysleisiwyd gwerth ymweliadau safle i ddysgwyr. Pwysleisiodd sawl cyflogwr “...pa mor bwysig yw sicrhau bod dysgwyr yn rhoi sylw i gysyniadau gyrfaoedd yn y diwydiant adeiladu o 14 oed ymlaen”. Honnir er bod “rhai [cyflogwyr] wedi gweithio’n dda gydag ysgolion roedd eraill o’r farn nad oedd llawer o groeso iddynt, neu mai dim ond dysgwyr gallu is a oedd yn cael eu cyfeirio atynt”. Mae effaith Bagloriaeth Cymru yn fuddiol i’r bobl ifanc yn ogystal ag i ddiwydiant. Mae’r bartneriaeth rhwng busnes ac addysg yn rhoi’r hyder, y sgiliau trosglwyddadwy a’r wybodaeth i bobl ifanc sy’n angenrheidiol er mwyn adeiladu cronfa dalent gref o unigolion arloesol.


“Y sbardun allweddol wrth fynd i’r afael â heriau’r gweithlu yn y dyfodol yw trwy gydweithio helaeth rhwng y diwydiant a’r sector addysg ehangach a dyna sydd wrth wraidd yr hyn y mae CWIC yn ceisio’i wneud.”

Yr atebion

Canolfan Arloesi Adeiladu Cymru

4. Mae CWIC yn croesawu agenda Bagloriaeth Cymru yn yr ysgolion a bydd yn cefnogi’r elfen menter a chyflogadwyedd drwy gysylltu ysgolion/colegau a chyflogwyr â’i gilydd mewn ffyrdd cydweithredol newydd er mwyn mynd i’r afael â’r deilliannau darparu.

Y sbardun allweddol i fynd i’r afael â heriau gweithlu’r dyfodol yw drwy gydweithio helaeth rhwng y diwydiant a’r sector addysg ehangach sydd wrth wraidd yr hyn y mae CWIC yn ymdrechu i’w wneud. Yn fwy penodol, mae CWIC yn argymell yr atebion canlynol ac yn amlinellu sut y gellir eu cyflawni: 1. Bydd CWIC yn annog ac yn cefnogi’r diwydiant i ymgysylltu â’r sector ysgolion drwy gefnogi deunyddiau dysgu cyd-destunol a chyflwyno pynciau STEAM. 2. Mae CWIC yn gobeithio ehangu ac ymgorffori’r modelau arfer gorau cyfredol ar gyfer cyflogwyr yn ymgysylltu ag addysg mewn modd cynaliadwy. Cyflawnir hyn drwy adeiladu ar blatfform llwyddiannus Am Adeiladu gan CITB a’r ceisiadau cyfredol a gomisiynwyd megis y Cwricwlwm Cyd-destunol dan arweiniad y diwydiant a’r prosiectau Cyflogwyr yn Ymgysylltu ag Addysg. 3. Bydd CWIC yn hwyluso’r ffordd i’r diwydiant weithio gyda’i gilydd i gynyddu nifer ac ansawdd y cyfleoedd profiad gwaith ar gyfer y sector ysgolion.

5. Drwy gyflwyno technolegau dysgu trochi, bydd CWIC yn cyflwyno’r atebion uchod mewn fformat newydd a diddorol sy’n apelio at ddysgwr yr 21 ain Ganrif. Bydd hefyd yn ehangu’r defnydd o dechnolegau o’r fath er mwyn hyrwyddo’r diwydiant adeiladu i weithlu’r dyfodol yn cynnwys rhai sy’n newid gyrfa. Bydd CWIC yn hyrwyddo’r technolegau hyn drwy’r sector addysg a hyfforddiant ehangach ac yn treialu’r offer i weld a ydynt yn addas i’w mabwysiadu gan y diwydiant. 6. Bydd CWIC yn ehangu’i chefnogaeth ar gyfer diwallu anghenion sgiliau rhanbarthol drwy ymgysylltu â’r Partneriaethau Dysgu Rhanbarthol a rhwydweithiau darparwyr Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol ar draws Cymru. 7. Bydd CWIC yn annog cydweithio rhwng ei rhwydweithiau estynedig a darparwyr cyngor ar yrfaoedd. 8. Trwy weithio gyda’r sector ysgolion bydd CWIC yn hyrwyddo rhagoriaeth alwedigaethol drwy ehangu cystadlaethau sgiliau a gweithgareddau datrys problemau. Mae CWIC eisoes yn ymwneud â rhaglenni sy’n cyflwyno llawer o elfennau o’r ateb uchod neu mae’n rheoli’r rhaglenni hynny. Cyfoethogir hyn gan gysylltiadau helaeth Grŵp PCYDDS â’r sector ysgolion a’i ddatblygiadau o ran dysgu trochi. Fodd bynnag, er mwyn ehangu ac ymgorffori’r rhaglenni, mae ar CWIC angen cymorth ariannol tymor hirach ac ymgysylltu gan gyflogwyr er mwyn sicrhau cynaliadwyedd. Byddai CWIC yn darparu’r sbardun, y cydlynu a’r trefniadau cymorth ar gyfer y deilliannau uchod. Bydd yn gwneud hyn drwy weithio’n benodol gyda’r rheini sy’n darparu neu’n dylanwadu ar gyngor, cyfleoedd a chymorth i weithlu’r dyfodol. Er mwyn cyflawni hyn a chyflwyno’r atebion yn llwyddiannus byddai hefyd ar CWIC angen cymorth ariannol Llywodraeth Cymru, cyflogwyr a CITB drwy fodel cyd-fuddsoddi.

Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru | Diogelu Sgiliau at y Dyfodol

9


Datblygu Sgiliau Yr anawsterau “Newydd gwblhau’r bŵtcamp adeiladu 20 Yn yr Adroddiad Rhanbarthol Gwybodaeth am y Farchnad Lafur (Porth Sgiliau 2017) dywedodd cyflogwyr (pob sector) “fod sgiliau ymarferol yn brin ymhlith diwrnod ... Roeddwn ymgeiswyr (Cymru gyfan) yn enwedig sgiliau neu wybodaeth arbenigol (69%) a datrys problemau cymhleth (44%)”. Dynodwyd y pwynt olaf hwn hefyd yn i’n un o’r ieuengaf ar y adolygiad Cymwysterau Cymru (2018) lle nodir “Pwysleisiodd cyflogwyr fod tuedd cwrs ac wedi mwynhau’r gynyddol i gyflogeion newydd feddu ar sgiliau datrys problemau gwael”. Roedd yr adolygiad hwn hefyd wedi nodi bod “darparwyr dysgu yn cytuno â chyflogwyr bod profiad drwyddi draw. angen datblygu parodrwydd dysgwyr i weithio”. Mae Unite (2018) yn honni bod Wedi dysgu am ddraenio, niferoedd sylweddol o bobl ifanc ar “so-called dead-end construction courses” er bod y sylwadau hyn yn aml yn gamarweiniol am fod y ffigurau sylfaenol yn gosod cyrbau a gosod cynnwys pobl ifanc ar raglenni ‘mynediad i gyflogaeth ymhob sector’. Mae’r undeb yn galw am ailfeddwl ynghylch adnoddau er mwyn sicrhau y cyfeirir arian a slabiau a phafinau bloc. fuddsoddir tuag at ‘brentisiaethau dilys’. Yn ôl cynllun y PDSRh (2017) mae angen gwella ymgysylltiad â chyflogwyr wrth ddatblygu fframweithiau prentisiaethau, gan Cefais i fy nhocynnau gynnwys ar gyfer rhaglenni uwch a gradd. CPCS ar gyfer cerbydau Dywedodd nifer o ddarparwyr dysgu fod “y ffordd y mae crefftau craidd yn cael dadlwytho a rholio. eu gwahanu yn newid a bod angen gweithwyr sydd â chrefft graidd ynghyd â sgiliau atodol ar gyflogwyr er mwyn diwallu anghenion lleol a rhanbarthol.” Roedd Roedd y sgiliau a Cymwysterau Cymru (2018) hefyd wedi nodi “Mynegodd cyflogwyr ymhob rhan ddysgais i’n ddefnyddiol o’r sector fod gweithwyr aml-sgiliau yn ddymunol”. Er hynny, yn ôl yr adolygiad “Mae’r ffaith nad oes ganddo staff â sgiliau newydd sydd ar gael yn hwylus yn iawn ar gyfer y diwydiant arafu’r diwydiant ac yn tanseilio cynhyrchiant.” Yn ogystal, dadleua CLC (2018) fod gan y diwydiant gyfle unigryw i ddod yn fwy cynhyrchiol drwy ddatblygu gweithlu adeiladu... Mae’n dda medrus â galluoedd newydd. Er mwyn cywiro hyn, mae’r cwmnïau’n aml yn gen i ddweud fy mod i’n darparu ar gyfer uwchsgilio drwy hyfforddiant gweithgynhyrchwyr. Fodd bynnag, awgrymodd rhai cyfranogwyr [yn yr adolygiad] nad yw’r uwchraddio hyn ar gael dechrau gwaith ar 16eg yn gyson ac yn gyffredinol mae’n fwy hygyrch i gwmnïau mwy o faint. Pan ddaw gyda Persimmon Homes.” i arbenigedd nododd yr adolygiad “Po fwyaf arbenigol yw’r grefft y lleiaf tebygol Rhys Thomas Dysgwr Coleg y Cymoedd

“Mae’n dda gennym ni weithio mewn partneriaeth â Choleg Cambria i gynnig cyrsiau hyfforddi’n benodol mewn sgaffaldiau, gweithio ar uchder a PASMA drwy gynllun CWIC” Simon Hughes Cyfarwyddwr Simian Risk Group

10

ydyw y bydd hyfforddiant ar gael, neu fod cymwysterau yn cael eu cynnig.”

Gwelir bod dilyniant hefyd yn faes pryder i gyflogwyr a gweithwyr gyda Chymwysterau Cymru (ibid) yn adrodd “ar draws yr ystod o gymwysterau, nododd yr Adolygiad nad yw llwybrau dilyniant ar gyfer dysgwyr yn glir nac yn ddigonol”. Ac ar ben hynny, “Cydnabu darparwyr addysg bellach fod y bwlch rhwng cymwysterau lefel 3 a chymwysterau lefel 4 yn heriol i ddysgwyr a oedd am symud ymlaen i addysg uwch.” Yn ogystal, “Pan fydd cyflogwyr am i staff profiadol ddatblygu sgiliau mwy arbenigol efallai na fydd digon o alw i golegau hyfforddi gynnig darpariaeth datblygiad proffesiynol parhaus nac ychwaith i gyrff dyfarnu gynnig cymwysterau. Mynegodd cyflogwyr bryderon ynghylch y ffaith nad yw darparwyr dysgu yn ymateb i’w hanghenion a mynegodd darparwyr dysgu bryderon ynghylch y ffaith bod cyrff dyfarnu yn rhoi’r gorau i gynnig cymwysterau os bydd nifer y dysgwyr yn fach.” “Mynegodd darparwyr dysgu bryder hefyd ynghylch dyfodol ac ymarferoldeb hyfforddiant DPP ar gyfer y diwydiant – yn enwedig mewn perthynas â’r ffaith mai ychydig iawn o arian cyhoeddus a oedd ar gael ar gyfer addysg i oedolion (ac eithrio mewn prentisiaethau)”. (Cymwysterau Cymru, 2018). Dywedodd Cymwysterau Cymru (ibid) hefyd “Nododd cyflogwyr amrywiaeth o anghenion sgiliau nad oeddent yn cael eu diwallu gan ddarparwyr dysgu. Mewn llawer o achosion, roedd yn rhaid i ddysgwyr o Gymru deithio i fanteisio ar ddarpariaeth yn Lloegr. Roedd y rhain yn cynnwys: • • • • •

leinin sych; sgaffaldwaith; gosodwr barrau dur; dalennau to; a cladin.


Yn ôl yr Adolygiad roedd hefyd “heriau penodol i gyflogwyr yn ardaloedd mwy gwledig “Rydw i wedi gweld Cymru, a oedd yn ei chael hi’n anodd cael gafael ar yr amrywiaeth o ddarpariaeth a oedd gwahaniaeth enfawr yn yn cael ei chynnig mewn ardaloedd mwy trefol – yn enwedig ar gyfer dysgu lefel uwch rhan amser, mewn meysydd megis tirfesur.” ymrwymiad ac agwedd Mae’r PDSRh (2017) yn gwneud pwynt tebyg ac yn galw am “ddarparu cymorth ychwanegol fy ngweithiwr tuag y i hwyluso darpariaeth newydd yn yr ardaloedd daearyddol lle nad yw’r adnoddau gwaith ers bod ar y cwrs angenrheidiol ar gael ar hyn o bryd”. Lefel 4 Goruchwylio Yr atebion Safleoedd gan CIOB a Mae CWIC yn cadarnhau canfyddiadau Cymwysterau Cymru ynghylch sgiliau arbenigol, gyllidwyd gan CWIC” anghenion rhanbarthol a pharodrwydd i weithio. Mae CWIC hefyd yn cydnabod y camau

Emyr Harris Cyflogwr o Dde-orllewin Cymru

“Bydd CWIC yn datblygu rhaglenni i ennyn diddordeb ac ailhyfforddi’r gweithlu presennol yn ogystal ag ailhyfforddi â sgiliau i gefnogi technolegau digidol a dulliau modern o adeiladu.” Gerald Naylor Cyfarwyddwr Adeiladu Cymru

a gynigir yn y Construction Sector Deal (HM Government, 2018). Bydd CWIC yn datblygu rhaglenni i ymgysylltu â’r gweithlu cyfredol a’i ailhyfforddi yn ogystal ag ailhyfforddi gyda sgiliau i gefnogi technolegau digidol a dulliau modern o adeiladu. Mae’r atebion canlynol gan CWIC yn tynnu ar y canfyddiadau hyn a chanfyddiadau eraill a seilir ar ymchwil: 1. Bydd CWIC yn parhau i gyflwyno sgiliau arbenigol/pwrpasol i ddiwallu galwadau cyfredol gan gyflogwyr drwy’i rhwydwaith partneriaethau (Lloerennau). Rhoddir mwy o bwyslais ar weithio’n ddigidol a dulliau adeiladu modern. 2. Bydd CWIC yn datblygu ymhellach ei chefnogaeth ar gyfer sicrhau bod dysgwyr llawn amser yn barod i weithio drwy raglen o brofiad gwaith diwydiannol strwythuredig. Bydd yn ehangu’i menter Sgiliau ar y Safle, a lansiwyd yn llwyddiannus, i bob sector o’r diwydiant ar draws Cymru. 3. Gan weithio gyda’r gwasanaeth Am Adeiladu bydd CWIC yn hwyluso’r gwaith o baru dysgwyr llawn amser â chyfleoedd profiad gwaith gyda chyflogwyr lleol. 4. Mewn partneriaeth â’r diwydiant, bydd CWIC yn cyflwyno rhaglenni dysgu drwy brofiadau arloesol a fydd yn gweld dysgwyr llawn amser yn ymgysylltu ag amgylcheddau adeiladu diogel, realistig ac efelychiadol. Cyflwynir hyn drwy gymysgedd o senarios trochi a chwarae rôl a gefnogir gan hyrwyddwyr y diwydiant. 5. Bydd CWIC yn ehangu’i hymateb cyfredol i anghenion uwchsgilio cyflogwyr drwy wasanaethu’r galw cynyddol am ddarpariaeth arbenigol/bwrpasol ranbarthol, a darpariaeth sgiliau lefel uwch. Bydd yn gwneud hyn drwy ffederasiynau / cymdeithasau’r diwydiant a chyrff proffesiynol yn ogystal â chysylltu â sefydliadau crefftau, gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr. 6. Bydd CWIC yn ehangu’i rôl hwyluso drwy ddatblygu llwybrau dilyniant di-dor ar bob lefel ond yn enwedig ar lefel prentisiaethau uwch a gradd-brentisiaethau. 7. Bydd CWIC yn dynodi, datblygu a chyflwyno prentisiaethau arbenigol lle nad yw’r ddarpariaeth hon yn bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd. 8. Bydd CWIC yn gweithio gyda’r diwydiant a phob rhan o’r sector addysg yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol eraill wrth hyrwyddo cystadlaethau sgiliau fel cyfrwng i godi sgiliau lefel uwch i ddiwallu anghenion sector sy’n symud ymlaen yn dechnolegol.

Mae’r fethodoleg ar gyfer cyflwyno’r atebion uchod yn deillio o’r cydweithio sydd eisoes yn gadarn rhwng CWIC, ei phartneriaid cynyddol yn y diwydiant, cymdeithasau crefftau, cyrff proffesiynol a’i rhwydwaith addysg/hyfforddiant helaeth. Bwriad CWIC yw adeiladu ar y dull cydweithredol hwn drwy ymgynghori â Llywodraeth Cymru a CITB ar y dull gorau o gyflawni’r argymhellion allweddol a gynhwysir yn y Cynllun Cyflogadwyedd. Wrth gytuno ar ddeilliannau penodol yr atebion gyda’r rhanddeiliaid bydd CWIC yn datblygu ac yn rheoli’r pethau sydd i’w darparu’n cynnwys y gwaith mesur a monitro er mwyn sicrhau priodoldeb a datblygiadau parhaus yn ogystal â chyflawni gwerth gorau. Er mwyn datblygu a chyflwyno’r atebion hyn mae CWIC yn chwilio am gydgyllido gan Lywodraeth Cymru, CITB a chyflogwyr. Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru | Diogelu Sgiliau at y Dyfodol

11


Arloesi “Fel cwmni rydym ni’n ddiolchgar iawn i CWIC am ddarparu’r cwrs hwn. Rydym ni wedi ystyried symud o 2D i mewn i 3D am nifer o flynyddoedd ond mae costau’r hyfforddiant wedi bod yn rhwystr. Mae mynd ar y cwrs hwn bellach yn caniatáu i ni dyfu ein busnes drwy gynnig gwasanaethau pellach i’n cleientiaid a llunio modelau ar gyfer prosiectau a alluogir drwy Fodelu Gwybodaeth Adeiladu”. Gethin James Hunangyflogedig IAGO Cymru Ltd

Yr anawsterau Mewn adroddiad gan y CLC ynghylch arloesi, mae Chaldecott (2016) yn awgrymu bod gwella gallu, cynhyrchiant ac arloesi ym maes adeiladu’n ddyheadau pwysig a bydd llwyddiant yn arwain at fuddion sylweddol i economi’r DU ac yn enwedig i’r diwydiant adeiladu a thai. Yn ei adolygiad o’r sector tynnodd Cymwysterau Cymru (2018) sylw at farn cyflogwyr fod “y sector AAA ‘wedi newid yn sylweddol dros yr ugain mlynedd diwethaf’ oherwydd y datblygiadau technolegol a dulliau adeiladu newidiol”. Mae’r defnydd o dechnolegau digidol, deunyddiau newydd, peiriannau ac offer gwell neu newydd, a thwf gweithgynhyrchu oddi ar y safle oll wedi cyfrannu i newidiadau yn yr arferion gwaith ar safleoedd adeiladu. Mae’r un adolygiad yn dadlau bod technoleg yn debygol o barhau i ddatblygu’n gyflym hyd y gellir rhagweld o leiaf. Mae CITB yn rhagfynegi ymhen 10-15 mlynedd, y gallai systemau awtomeiddio a’r defnydd o ddeunyddiau newydd megis concrid wedi’i atgyfnerthu â gwydr, mowldinau pwrpasol, mowldiau gwydr print 3D, a ‘waliau clyfar’ ehangu ymhellach ym maes adeiladu oddi ar y safle.” Fodd bynnag, nid oes ymdrechion i fynd i’r afael â’r sgiliau ar gyfer y rhain a thechnolegau newydd eraill yn effeithiol. Yn ôl canfyddiadau Cymwysterau Cymru (2018) “... nad oedd cymwysterau wedi’u diweddaru er mwyn ystyried y defnydd o dechnolegau newydd, gan gynnwys y gofynion ar gyfer cartrefi ynni isel.” Mae’n mynd ymlaen i ddweud bod sefydliadau addysg uwch yn cytuno nad yw cymwysterau yn gyfredol â’r technolegau ac arferion gwaith newydd [hyn] gan gyfeirio at “Fodelu Gwybodaeth Adeiladu (BIM), y defnydd o offer pŵer, arferion arolygu a thechnegau rheoli safle” fel enghreifftiau. Mae’r Bartneriaeth Sgiliau Dysgu Rhanbarthol (RLSP, 2017) yn tynnu sylw at bryder cyflogwyr ynghylch diffyg sgiliau TG a meddalwedd ar lefel uchel ar draws dysgwyr llawn amser a’r gweithlu. Mae hyn yn achosi pryder yn enwedig o ystyried bod “technolegau a deunyddiau newydd sydd wedi’u cyflwyno ... yn golygu bod angen i gyflogeion allu ymaddasu er mwyn eu defnyddio ar y safle. Mae sgiliau TG, gan gynnwys modelu 3D, Modelu Gwybodaeth Adeiladu a CAD yn dod yn fwyfwy pwysig ac ymddengys fod y galw am y sgiliau hyn yn debygol o gynyddu.”

Yr atebion Mae CWIC wedi bod yn gweithio’n agos â’r diwydiant a’i phartneriaid darparu i ddynodi’r cynnyrch, y deunyddiau, yr arferion a’r dyfeisiadau newydd sydd â’r gallu i wella twf, cynhyrchiant neu gystadleurwydd busnesau adeiladu Cymru. Mae CWIC yn cydnabod bod ymchwilio i ddyfeisiadau newydd yn aml yn cymryd amser ac arian ond mae’n angenrheidiol er mwyn cadw’n gystadleuol a chynnal twf. At hynny, “Innovation can lead to job creation and new methods of construction” sy’n gofyn am sgiliau newydd a allai effeithio’n uniongyrchol ar wella perfformiad adeiladu (Chaldecott, 2016). Mae CWIC yn gobeithio adeiladu ar y gwaith hwn a mynd i’r afael â’r prif heriau o ran y sgiliau angenrheidiol drwy fod yn arloesol yn ei hatebion cydweithredol. Bydd yn cyflawni hyn drwy fod yn rhagweithiol ac yn adweithiol i agenda datblygu sgiliau’r dyfodol. 1. Bydd CWIC yn ehangu’r gwaith o sganio’r gorwel drwy’i hymgysylltu â’i rhanddeiliaid gan ddynodi blaenoriaethau strategol i’r diwydiant adeiladu. Bydd hyn yn cynnwys ymgysylltu â deiliaid prosiectau mawr yng Nghymru, yn cynnwys cynlluniau ynni, Bargeinion Dinesig a mentrau seilwaith eraill. Cyfrwng allweddol ar gyfer cyflawni’r ateb hwn yw drwy ymchwil cydweithredol â phrifysgolion Cymru.

12


“Mae CWIC yn ceisio gweithredu ar y cyd i hyrwyddo’r defnydd o arferion a thechnolegau arloesi trwy rannu gwybodaeth a syniadau ar draws y sectorau.” Canolfan Arloesi Adeiladu Cymru

2. Drwy’i rhaglen ‘Intern Arloesi’ bydd CWIC yn parhau â’i hymchwil gwerthusol i gyfleoedd sy’n ddichonadwy’n fasnachol ac sy’n deillio o ddyfeisiadau newydd sydd eisoes ar gael y tu fewn neu y tu allan i’r diwydiant adeiladu. 3. Wrth hwyluso dulliau ymchwil a datblygu sy’n benodol i’r diwydiant, bydd CWIC yn hyrwyddo atebion mewn partneriaeth â CITB ac eraill drwy weithgareddau cydweithredol i gyflogwyr sy’n ymgysylltu ag addysg. 4. Bydd CWIC yn cynyddu’i ffocws ar sgiliau cyfredol a datblygol ar gyfer gwelliannau yn y diwydiant megis adeiladu digidol, modelu gwybodaeth adeiladu, gweithgynhyrchu oddi ar y safle, thermograffi, deunyddiau ac offer sy’n effeithlon o ran ynni. 5. Drwy feithrin ei chynlluniau i gynnig sgiliau mewn marchnadoedd arloesol neu arbenigol megis technolegau sganio â drôn a laser, sgerbydau allanol a robotiaid, bydd CWIC yn gallu gwasanaethu anghenion sgiliau’r diwydiant yn y dyfodol y n well. Bydd yn gatalydd ar gyfer gwella ymatebion Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol i’r anghenion newidiol hyn drwy fwy o gydweithio, hyblygrwydd a gallu i addasu. 6. Bydd CWIC yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a CITB i sefydlu ‘canolfannau rhagoriaeth’ sy’n gwasanaethu anghenion rhanbarthol orau ond hefyd yn gwasanaethu gofynion Cymru gyfan am sgiliau arbenigol lefel uchel. Byddai anghenion penodol y diwydiant yn cynnwys cynhyrchiant, ansawdd a gwelliannau mewn perfformiad yn ogystal â defnyddio deunyddiau, cynnyrch a systemau brodorol megis pren a dyfir yng Nghymru a gweithgynhyrchu oddi ar y safle yng Nghymru.

Prifysgol Dechnoleg Eindhoven

7. Bydd CWIC yn cynnig cyfleoedd arbrofi ar gyfer mentrau neu raglenni newydd. Bydd yn gwneud hyn drwy ddarparu platfform arbrofol i gynnal profion ar theorïau gwyddonol, cynnyrch a thechnolegau newydd yn gysylltiedig ag adeiladu. Bydd CWIC hefyd yn gweithio’n agos â ‘chanolfannau rhagoriaeth’ rhanbarthol ac yn helpu i adnabod a hyrwyddo ymchwil i heriau technolegau allweddol megis adeiladu digidol. 8. Bydd CWIC yn broceru gwasanaeth i annog arbenigwyr blaenllaw’r diwydiant o bob rhan o’r byd i rannu eu gwybodaeth a’u sgiliau newydd ac arloesol gyda’r nod o ysbrydoli dysgwyr yng Nghymru i gyrraedd eithaf eu potensial. Bydd PCYDDS yn cyfoethogi’r fenter hon drwy’i rhaglen Athrawon Ymarfer ac ar y cyd â CWIC bydd yn creu cysylltiadau â chwmnïau arloesol megis Canolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC (cyfleuster ynni adnewyddadwy) yn ne Cymru. 9. Trwy weithio â chyrff proffesiynol bydd CWIC yn cynnig gwasanaeth DPP gan hyrwyddo’n bennaf arloesi mewn adeiladu i holl sectorau’r diwydiant adeiladu. Er mwyn cyflawni’r prif amcan o ddatblygu arloesi yn y diwydiant adeiladu bydd CWIC yn gweithio gyda sefydliadau presennol o’r un anian yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Er enghraifft, mae CWIC wedi ymweld â chwmni technoleg dysgu trochi yn Ffrainc ac mae’n gweithio ar y cyd â nhw ar hyn o bryd i fynd i’r afael ag anghenion dysgu trochi ar gyfer y sector Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol yng Nghymru. Mae ymweliadau diweddar eraill â choleg Realiti Estynedig / Rhithrealiti yn Lloegr a chanolfan arloesi adeiladu yn yr Alban wedi arwain at fentrau arloesi cydweithredol newydd sy’n enghreifftiau pellach o weithio’n gydweithredol. Yn fwy cyffredinol, mae CWIC yn ceisio hyrwyddo’n gydweithredol y nifer sy’n defnyddio arferion a thechnolegau arloesi drwy rannu gwybodaeth a syniadau o wahanol sectorau. Mae’n ystyried bod ymyrraeth a chefnogaeth ariannol gan CITB a Llywodraeth Cymru yn hollbwysig wrth yrru’r agenda hwn yn ei flaen ac felly mae’n ceisio’u cefnogaeth ar y cyd yn y dyfodol. Mae mesur a monitro’n elfennau allweddol wrth ddatblygu a chyflwyno’r atebion hyn a byddant yn sicrhau gwerth gorau a gwelliannau a datblygiadau parhaus.

Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru | Diogelu Sgiliau at y Dyfodol

13


Diweddglo a’r Ffordd Ymlaen Wrth ddyfarnu’r contract cyllido i PCYDDS i sefydlu a chynnal model newydd arloesol o Brif Ganolfan a Lloerennau i Gymru (CWIC), roedd CITB wedi gosod yr heriau i CWIC eu cyflawni drwy’i thair thema allweddol (blaenoriaethau’r diwydiant) o ran mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau ym maes adeiladu: • Gweithlu’r dyfodol - hyrwyddo’r diwydiant adeiladu fel sector deniadol i weithio ynddo. • Datblygu sgiliau - bod hyfforddiant ar gael pan fydd ei angen ar gyflogwyr, a’u bod yn ymwybodol o’r sgiliau sydd ar gael gan ddefnyddio’r holl ddulliau cyfredol a datblygol. • Arloesi - ymatebion creadigol ac arloesol i heriau’r diwydiant yn y dyfodol. • Arloesi - ymatebion creadigol ac arloesol i heriau’r diwydiant yn y dyfodol. Mae’r blaenoriaethau hyn ar gyfer adeiladu hefyd wedi’u cydnabod gan Lywodraeth Cymru (2018) yn ei Chynllun Cyflogadwyedd. Mae’n cydnabod buddsoddiad y diwydiant mewn datblygu sgiliau a phrentisiaethau gan dynnu sylw at CWIC yn benodol am ei gwaith ategol mewn ymchwil ac arloesi ar gyfer y diwydiant adeiladu yng Nghymru. Mae’r Map Llwybr wedi tynnu’n helaeth ar dri adroddiad PDSRh, Adolygiad Cymwysterau Cymru yn ogystal â Chynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru. Mae’r Map Llwybr hefyd yn cymryd sylw o’r Construction Sector Deal (HM Government, 2018) yn Lloegr ac mae’n gobeithio cyflwyno atebion cymharol ar gyfer y diwydiant adeiladu yng Nghymru. Mae’r argymhellion o’r uchod ac o ddogfennau allweddol eraill yn ffurfio’r atebion arfaethedig dan y tair thema. Mae’r Map Llwybr hwn yn amlinellu cynlluniau uchelgeisiol gan CWIC i gefnogi cyflwyno’r blaenoriaethau hyn ac wrth wneud hynny hyrwyddo llawer mwy o ymgysylltu rhwng cyflogwyr a’r holl sectorau addysg a hyfforddiant yn cynnwys ysgolion, sefydliadau addysg bellach/uwch a darparwyr preifat. Mae CWIC yn gobeithio gweithio’n fwy agos â CITB a Llywodraeth Cymru yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol eraill i gael cefnogaeth ar gyfer gweithredu’r atebion a ddynodwyd yn y Map Llwybr hwn. Bydd CWIC yn ehangu’i chynghreiriau strategol â sefydliadau eraill o’r un anian yn y DU gyda’r prif nod o rannu gwybodaeth, adnoddau ac arferion gorau. Mae CWIC yn cynnig ehangu’i rhwydwaith cyflwyno drwy’r Lloerennau yng Nghymru er mwyn sicrhau bod modd cyflawni’r atebion sgiliau. Mae’n gobeithio cynyddu’i hymwneud â phob sector Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol drwy ymgysylltu ac annog ffurfio ‘canolfannau rhagoriaeth’ lle mae pob un yn ymateb i’w hanghenion lleol ond yn hollbwysig, i anghenion Cymru gyfan. Bydd y dosbarthu hwn ar gyflwyno sgiliau’n galluogi arbedion maint ar yr un pryd â helpu ‘arbenigedd’ a sgiliau arbenigol i dyfu. Bydd y Map Llwybr hwn yn ymgysylltu â gweithlu’r dyfodol gyda chefnogaeth dulliau ymgysylltu newydd ac arloesol. Mae’n cynnig dulliau ategol i arfer gorau cyfredol drwy dynnu sylw at gyfleoedd rolau swyddi adeiladu newydd a newidiol. Mae’r Map Llwybr yn ceisio lleihau bylchau sgiliau ym maes adeiladu yn enwedig ar lefelau uwch yn ogystal ag ymdrechu i gynyddu galluoedd y gweithlu. Drwy wella’r ffordd y mae’r holl sector addysg yn ymgysylltu â chyflogwyr, mae’r Map Llwybr hwn yn cynnig ffyrdd newydd o weithio cydweithredol i bontio bylchau cymwysterau sy’n cyfoethogi sgiliau lefel uwch, yn gwella cynhyrchiant ac yn hyrwyddo twf economaidd. Mae cynlluniau i gynyddu’r ymwybyddiaeth o dechnolegau newydd a dyfeisiadau newydd a’u mabwysiadu, yn cynnwys y sgiliau angenrheidiol, yn rhan allweddol o’r Map Llwybr hwn. Mae’n cefnogi gweithredu’r technolegau a’r dyfeisiadau newydd hyn sy’n gwella cymwysiadau diwydiannol ac yn cyfoethogi datblygu sgiliau. 14


“Mae partneriaeth CWIC yn rhagflaenydd unigryw i gyfeiriad addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru yn y dyfodol.” Barry Liles Prifathro Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion

Mae CWIC yn chwilio am drefniant aml-bartneriaeth wrth gyflwyno’r weledigaeth uchod i Gymru ac mae’n credu mai’r ffordd orau o gyflawni hyn yw model cydfuddsoddi lle mae’r diwydiant a’r Llywodraeth yn cefnogi’r deilliannau darparu (themâu ac atebion) yn ariannol. Byddai pob partner yn dod â’i ddylanwad, gwybodaeth, arbenigedd a chymorth ariannol a fydd gyda’i gilydd yn mynd i’r afael â’r anawsterau a ddynodwyd yn gynharach yn yr adroddiad hwn. Gofynnir i Lywodraeth Cymru ystyried cydnabod diben a nodau CWIC sydd wedi’u llunio gan bolisïau LlC megis y Cynllun Cynaliadwyedd a dogfennau strategaeth genedlaethol Ffyniant i Bawb. Hefyd gofynnir i LlC ystyried darparu cyllid cyfatebol ar gyfer datblygu a chyflwyno’r atebion. Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu eisoes yn darparu cyllid a chymorth logistaidd ar gyfer deilliannau cyfredol CWIC a gofynnir iddo ystyried cynnal lefelau cyllido digonol y tu hwnt i’w ymrwymiad cyfredol sy’n gorffen ym mis Awst 2019. Hefyd gofynnir iddo estyn ei ddylanwad sylweddol ar y diwydiant a’i gysylltiadau ehangach â rhanddeiliaid wrth gefnogi cenhadaeth CWIC i ehangu’i chyrhaeddiad yn ddaearyddol ac ar draws sectorau. Yn sgil ymatebion cadarn a chadarnhaol iawn gan y diwydiant i’r cysyniad o CWIC ac ymgysylltu â’i deilliannau darparu, bellach mae CWIC yn ceisio mwy o rwymedigaeth gan gyflogwyr. Drwy gymryd sylw o ganfyddiadau ac argymhellion y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yng Nghymru a thrwy weithio hyd yn oed yn fwy agos â chyflogwyr, gofynnir i’r olaf gymeradwyo’r Map Llwybr hwn, helpu i lywio cyfeiriad strategol CWIC a chyfrannu’n ariannol at gyflwyno’r agenda Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol a gyfoethogwyd i Gymru. Mae Grŵp PCYDDS yn brifysgol sector deuol â hanes hir a chadarn o ran cyflwyno rhaglenni adeiladu ar bob lefel academaidd yn cynnwys prentisiaethau. Mewn partneriaeth â darparwyr addysg eraill yng Nghymru gofynnir i PCYDDS barhau ac ehangu’i chefnogaeth i CWIC drwy gydweithio ar ymchwil, cydweithio traws-ddisgyblaethol, mynediad ehangach i gyfleoedd rhwydweithio PCYDDS a datblygu rhaglenni Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol newydd ac ymatebol. Mewn partneriaeth â CWIC gofynnir i Grŵp PCYDDS hefyd sbarduno a chefnogi datblygiad prentisiaethau newydd mewn disgyblaethau arbenigol yn cynnwys prentisiaethau uwch a gradd-brentisiaethau. Yn ychwanegol at ffrwd gyllido greiddiol CITB mae CWIC wedi ymgeisio’n llwyddiannus am gyllid prosiectau penodol ychwanegol gan CITB sy’n cyd-fynd â’r themâu a’r atebion yn y Map Llwybr hwn. Bydd yn parhau i chwilio am gyllid o’r fath ar gyfer gweithgareddau sy’n hyrwyddo’r nodau a’r dyheadau a gynhwysir yn y ddogfen hon yn cynnwys ffrydiau cyllido ar wahân i CITB. Mae CWIC hefyd yn llunio model ar gyfer incwm masnachol a fydd yn ategu ffynonellau cyllido creiddiol.

Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru | Diogelu Sgiliau at y Dyfodol

15


Cyfeiriadau Chaldecott, M. (2016), Innovation Workstream: Roadmapping to improve productivity, capacity and innovation in the housing sector. CITB (2018a), Future CITB: Vision 2020, https://www.citb.co.uk/about-us/ourvision-strategy/future-citb-vision-2020/ [cyrchwyd 9 Ebrill 2018]. CITB (2018b), Cipolwg ar y Diwydiant: Cymru. CLC (2018), Skills Workstream: 2018 Strategy and Action Plan Cymwysterau Cymru (2018), Adeiladu’r Dyfodol. Farmer, M. (2016) Modernise or Die: Review of the UK Construction Labour Model HM Government (2018), Industrial Strategy: Construction Sector Deal LSKIP (2017), Cynllun Medrau a Chyflogaeth 2017 Prifddinas-Ranbarth Caerdydd Llywodraeth Cymru (2017), Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru (2018), Cynllun Cyflogadwyedd PDSRh (2017), Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau: De-orllewin a Chanolbarth Cymru. Porth Sgiliau (2017), Adroddiad Rhanbarthol Gwybodaeth am y Farchnad Lafur. Unite (2018), Unite concerned with huge rise in ‘dead-end’ construction courses World Economic Forum (2016), Shaping the Future of Construction.

16


Diwydiant ac Addysg yn gweithio gyda’i gilydd

Prosiectau Comisiwn CITB a ddarparwyd drwy Ganolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru

Cwricwlwm Cyd-destunol

Pecyn cymorth athrawon/ gyrfaoedd i wella dysgu drwy weithgareddau cwricwlwm a dargedwyd rhwng y sector adeiladu ac ysgolion cynradd, uwchradd ac amgen.

Cyflogwyr yn Ymgysylltu ag Addysg

Datblygu ymgysylltu a phartneriaethau cynaliadwy rhwng cwmnïau adeiladu ac ysgolion cynradd, uwchradd ac amgen i ymgorffori rhaglen o fentrau.

Cyflogwyr yn Ymgysylltu ag Addysg Uwch

Llunio model o arfer gorau o ran ymgysylltu rhwng y diwydiant adeiladu a Sefydliadau Addysg Uwch yn cynnwys creu adnoddau DPP.

Dysgu drwy Brofiadau Ymgysylltu myfyrwyr â

thechnolegau digidol, dysgu am adeiladu a lleoliadau adeiladu yn cynnwys clybiau Minecraft a datblygu canolfannau dysgu drwy brofiadau.

Dysgu Trochi

Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru | Diogelu Sgiliau at y Dyfodol

Darparu atebion dysgu trochi arloesol a fydd yn cyfoethogi apêl y diwydiant, eu hymgorffori o fewn y dysgu a chynnig cipolwg i gyflogwyr ar y cyfleoedd a’r buddion wrth fabwysiadu technolegau dysgu trochi.

17


Gweithlu’r Dyfodol

Datblygu Sgiliau

Arloesi

Cefnogi dysgu cyd-destunol drwy wella dulliau cyflwyno pynciau STEAM

Parhau i gyflwyno sgiliau arbenigol/pwrpasol i ddiwallu galwadau cyfredol gan gyflogwyr drwy’i Lloerennau

Ehangu galluoedd sganio’r gorwel sy’n dynodi ac yn diffinio blaenoriaethau strategol i’r diwydiant adeiladu

Ehangu ac ymgorffori’r modelau arfer gorau cyfredol ar gyfer cydweithio cynaliadwy rhwng cyflogwyr ac addysg

Datblygu ei chefnogaeth ar gyfer sicrhau bod dysgwyr llawn amser yn barod i weithio drwy brofiad gwaith diwydiannol strwythuredig

Gwerthuso ymchwil i gyfleoedd sy’n ddichonadwy’n fasnachol sy’n deillio o ddyfeisiadau newydd drwy’r cynllun ‘Intern Arloesi’

Cynyddu nifer ac ansawdd y cyfleoedd profiad gwaith ar gyfer y sector ysgolion

Hwyluso’r gwaith o baru dysgwyr llawn amser â chyfleoedd profiad gwaith gyda chyflogwyr lleol drwy Am Adeiladu

Hwyluso ymchwil a datblygu yn y diwydiant drwy weithgareddau cydweithredol i gyflogwyr sy’n ymgysylltu ag addysg

Cefnogi elfen menter a chyflogadwyedd Bagloriaeth Cymru

Cyflwyno dysgu drwy brofiadau cydweithredol ac arloesol a fydd yn ymgysylltu â dysgwyr llawn amser

Cynyddu ffocws ar gyfoethogi sgiliau cyfredol a datblygu sgiliau newydd er mwyn gwella’r diwydiant a chynaliadwyedd

Cyflwyno technolegau dysgu trochi mewn ffyrdd newydd a deniadol

Gwasanaethu’r galw am uwchsgilio arbenigol/pwrpasol rhanbarthol, a darpariaeth sgiliau lefel uwch

Datblygu sgiliau’r dyfodol ar gyfer marchnadoedd arloesol ac arbenigol sy’n darparu mwy o hyblygrwydd a gallu i addasu

Ymgysylltu â’r Partneriaethau Dysgu Rhanbarthol a rhwydweithiau darparwyr VET ar draws Cymru

Ehangu’i rôl hwyluso drwy ddatblygu llwybrau dilyniant sgiliau di-dor ar bob lefel

Annog sefydlu canolfannau rhagoriaeth sy’n gwasanaethu anghenion rhanbarthol ac anghenion Cymru gyfan orau

Annog cydweithio rhwng rhwydweithiau CWIC a darparwyr cyngor ar yrfaoedd

Dynodi, datblygu a chyflwyno prentisiaethau arbenigol lle nad yw’r ddarpariaeth hon yn bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd

Cynnig cyfleusterau arbrofi ar gyfer mentrau a syniadau newydd drwy ddarparu platfformau arbrofi a gwasanaethau cysylltiedig

Hyrwyddo rhagoriaeth alwedigaethol drwy ehangu cystadlaethau sgiliau a gweithgareddau datrys problemau

Gweithio gyda’r diwydiant, addysg ac eraill wrth hyrwyddo cystadlaethau sgiliau i ddiwallu anghenion technolegau sy’n symud ymlaen

Annog arbenigwyr ac arweinwyr y diwydiant i rannu arloesi a menter â darpar ddysgwyr a rhai sy’n uwchsgilio Broceru gweithgareddau DPP a chysylltiadau â chwmniau arloesol sy’n bennaf yn hyrwyddo arloesi mewn adeiladu

18


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.