CWIC_Newsletter2_Welsh

Page 1

Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru Construction Wales Innovation Centre

Diogelu Sgiliau Adeiladu at y Dyfodol Cylchlythyr Canolfan Arloesi Adeiladu Cymru (CWIC) wedi’i lleoli yn adeilad newydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Ardal Arloesi Glannau Abertawe yn SA1, ond roedd hefyd yn bleser cydnabod y gwaith cyflawni a wnaed ledled Cymru gan ein partneriaid ers y dechrau. Donna Griffiths Rheolwr Partneriaethau CITB

C

roeso i ail rifyn y cylchlythyr hwn. Yn dilyn ein rhifyn cyntaf yn nhymor yr hydref y llynedd, ac yn sgil agor Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) yn swyddogol, rydym wedi cael cyfnod cynhyrchiol a chyffrous iawn. Roedd yn bleser mawr gallu cydnabod y gwaith o gwblhau’r ganolfan, sydd

Mae’r uchafbwyntiau nodedig ac arloesol yn cynnwys cyrsiau Cynnal Arolwg gyda Cherbyd Awyr Di-griw, cyrsiau Gweithredwyr Peiriannau Tyrchu 360, gan gynnwys hyfforddiant ar efelychwr, cyrsiau Sgaffaldiau Sylfaenol CISRS yng Ngholeg Cambria, hyfforddiant peiriannau a sifil llwyddiannus a phoblogaidd iawn a drefnir gan Goleg y Cymoedd, Cyflwyniad i Adeiladu ar gyfer myfyrwyr

Haf 2019 Rhif 2

Blwyddyn 9 yng Ngholeg Ceredigion, sy’n cynnig cymhwyster lefel 1 REVIT, a chydweithrediad BIM yng Ngholeg Sir Gâr. Sefydlwyd y bartneriaeth rhwng CITB a’r brifysgol yn 2016, gyda’r strwythur prif ganolfan a lloerennau unigryw yn gweithredu ledled tri rhanbarth Cymru, ac roedd yn fraint cael fy ngwahodd i gadeirio grŵp llywio CWIC. Hyd at ddiwedd mis Chwefror eleni, roedd CWIC wedi galluogi mwy na 640 o gwmnïau i elwa ar hyfforddiant arbenigol, ac roedd wedi cyflwyno mwy na 367 o gyrsiau gwahanol a gweithgareddau eraill. >>

cwic.wales | 01792 481273 | cwic@uwtsd.ac.uk | @CWICWales


Mae hyn yn cyfateb i 1,070 o ddiwrnodau neu gyfanswm o 8,560 o oriau o hyfforddiant yr oedd galw mawr amdano. Roedd yr hyfforddiant a gynigiwyd yn amrywiol a bu o fudd i fwy na 2,750 o unigolion, gyda 58% ohonynt yn perthyn i alwedigaethau technegol a phroffesiynol. Mae CWIC yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddiwallu anghenion cyflogwyr, ac mae’n canolbwyntio ar ddarparu ar gyfer ardaloedd yng Nghymru nad ydynt wedi cael sylw o’r fath yn y gorffennol. Mae CWIC mewn sefyllfa dda i ymateb i’r heriau cyfredol a heriau’r dyfodol mewn perthynas â sgiliau ledled y wlad, y modd y mae’n datblygu cymwysterau newydd, yn ogystal â’i rôl wrth gefnogi cyflogwyr i ddarparu comisiynau a ariennir.

Agoriad CWIC

Mae CWIC, sy’n awyddus i fod yn gynhwysol a diwallu anghenion y diwydiant cyfan yng Nghymru, wedi dechrau ar gynnig hyfforddiant trwy’r rhwydwaith ehangach, er enghraifft yng Ngholeg Sir Benfro, Coleg Llandrillo a Choleg Gwent, i enwi dim ond rhai. Gan gydnabod na fu gwell adeg erioed i fenywod fentro i’r byd adeiladu ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2019, cynhaliodd CITB ddigwyddiad adeiladu unigryw i Gymru gyfan er mwyn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fenywod i ystyried gyrfa ym maes adeiladu. Gan ddefnyddio’r model prif ganolfan a lloerennau, bwriodd CITB Cymru ati i hyrwyddo’r diwydiant ledled Cymru gan fanteisio ar y cyhoeddusrwydd ychwanegol a oedd yn

gysylltiedig â Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a’r Wythnos Prentisiaethau Cenedlaethol, a hynny er mwyn denu gweithlu mwy amrywiol. Yn ystod y digwyddiad, darlledwyd anerchiad Ruby Bhogal, Rheolwr Prosiect a chystadleuydd yn rownd derfynol y Great British Bake Off yn 2018, yn fyw i golegau partner ledled Cymru. Cafwyd cyfweliadau fideo gan Fabienne Viala, Cadeirydd Bouygues, a Carole Ditty, Cyfarwyddwr Cyfreithiol Bouygues, a hynny wrth iddynt egluro wrth y myfyrwyr pam yr oedd hi wedi dewis dilyn llwybr gyrfa ym maes adeiladu, yn ogystal â nodi’r cyfleoedd a oedd ar gael iddynt.

Ruby Bhogal – Sgwrs ar Diwrnod Menywod Rhyngwladol


CONVERT: Prosiect Dysgu Trochol ar gyfer Adeiladu sy’n defnyddio Rhith-wirionedd a Realiti Estynedig, gwerth £2 filiwn ar draws Prydain Fawr gyfan, wedi’i lansio ym mis Chwefror.

Defnyddio efelychwyr fel dull hyfforddi

Mae CWIC yn arwain gwaith rheoli prosiect ar gyfer consortiwm sy’n cwmpasu Prydain Fawr gyfan a fydd yn darparu hyfforddiant adeiladu gan ddefnyddio technolegau trochol modern. Mae technolegau fel rhithwirionedd (VR) a realiti estynedig (AR) wedi aeddfedu bellach ac yn cynnig buddion economaidd a buddion diogelwch amlwg i gwmnïau sy’n buddsoddi mewn rhaglenni hyfforddi. Gellir defnyddio rhith-wirionedd i osod gweithwyr mewn byd rhithwir, trochol er mwyn archwilio sefyllfaoedd realistig sy’n allweddol o ran diogelwch, a rhoi prawf arnynt. Drwy wneud hyn gall gweithwyr dan hyfforddiant ddod yn barod am waith mewn llai o amser a dod yn fwy cyfarwydd ag arferion a phrotocolau iechyd a diogelwch nag y byddent trwy ddulliau hyfforddi confensiynol. Mae systemau realiti estynedig yn cyfuno golygfeydd o’r byd iawn â delweddau wedi’u cynhyrchu â chyfrifiadur. Caiff y dechnoleg hon ei defnyddio i baratoi gweithwyr ar gyfer y chwyldro yn yr ‘Amgylchedd Adeiledig Digidol’ lle y mae’r cylch oes cyfan o’r cam dylunio i’r gwaith cynnal a chadw ar ôl adeiladu yn cael ei yrru mwy a mwy gan gysyniadau fel Modelu Gwybodaeth am Adeiladau (BIM) sy’n rhan annatod bellach o raglenni adeiladu.

Dychmygwch fod gan beirianwyr cynnal a chadw’r gallu i droshaenu delweddau digidol sy’n egluro cymhlethdodau’r amgylchedd 3D wrth iddynt gerdded o amgylch adeilad anghyfarwydd. Bydd CWIC yn rheolwr prosiect cyffredinol ar y rhaglen ddwy flynedd hon, sydd â phedwar llinyn hyfforddiant allweddol: • • • •

Dronau yn y Diwydiant Adeiladu - wedi’i arwain gan Kier Construction Ltd. Byddai hyfforddiant nodweddiadol yn cynnwys defnyddio dronau ar gyfer arolygon safle, mapio amgylcheddol 3D a chynnal a chadw adeiladau. Gorffen pren a chwistrellu paent - wedi’i arwain gan CWIC. Gweithio ar Uchder - wedi’i arwain gan Altrad UK. Dadadeiladu Adeiladau - wedi’i arwain gan Ganolfan Arloesi Construction Scotland (CSIC), gan ddefnyddio technegau sganio â laser a darlunio uchel ei ansawdd i greu dadadeilad rhithwir o adeilad.

Defnyddir model cyflwyno ‘prif ganolfan a lloerennau’ er mwyn cwmpasu Prydain Fawr. Bydd hynny’n fodd i gynyddu graddfa’r prosiect wrth i’r galw amdano dyfu.


Adeiladu Pontydd gyda Pheirianwyr Yfory! Ym mis Tachwedd, roedd CWIC a’i bartneriaid yn falch iawn o groesawu 70 o ddisgyblion o ysgolion lleol i gymryd rhan mewn diwrnod o ddifyrrwch peirianneg sifil a heriau adeiladu pontydd fel rhan o Her Beirianneg i Dimau Sefydliad Peirianwyr Sifil (ICE) Cymru.

tro cyntaf yng Nghanolfan newydd CWIC. Roedd yn amlwg bod y disgyblion ysgol nid yn unig wedi mwynhau’r profiad ond hefyd wedi dysgu llawer am y diwydiant peirianneg sifil a’r ystod o swyddi sydd ar gael.”

Roedd hwn yn un o nifer o ddigwyddiadau a gynhaliwyd ledled y wlad, i helpu i ddathlu deucanmlwyddiant y Sefydliad Peirianwyr Sifil yng Nghymru. Dywedodd Gerald Naylor, Cyfarwyddwr CWIC: “Roedd CWIC yn falch iawn o gynnal y digwyddiad cyffrous hwn am y

Dysgu am beirnianneg sifil

Am Adeiladu – Addysgu Mae’r Prosiect Cwricwlwm Mewn Cyddestun (CCP), fel y’i gelwid yn wreiddiol, yn rhaglen tair blynedd o hyd a ariennir gan CITB, sy’n darparu cynnig addysg adeiladu ledled Cymru, a hwnnw wedi’i dargedu at ddarparwyr addysg Cynradd, Uwchradd ac Amgen. Mae’r prosiect hefyd yn gwella’r heriau presennol sy’n canolbwyntio ar adeiladu ym Magloriaeth Cymru. Cyflwynir y cynnig addysg ar ffurf pecyn cymorth a gynlluniwyd yn arbennig ac sy’n cynnwys cynlluniau gwersi unffurf, hawdd eu darllen mewn perthynas â phynciau STEAM, Adeiladu ac ABGI.

Dysgu am adeiladu o oedran ifanc

Ar ôl i’r deunyddiau gael eu cwblhau, a fapiwyd i gyd-fynd â’r cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru, byddant ar gael i unrhyw un, a hynny trwy gofrestru ar wefan Am Adeiladu ar ôl mis Ionawr 2020. Sefydlwyd Consortiwm y Prosiect Cwricwlwm mewn Cyd-destun (CCP) dan arweiniad Bouygues UK ym mis Mai 2017, ac mae’n cynnwys CITB Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC), WRW Construction, Kier Construction, y Sefydliad Adeiladu Siartredig, a Gyrfa Cymru.


Mae’r tabl canlynol yn dangos llinell amser ar gyfer y cerrig milltir o ran cyflawni’r prosiect addysgol uchelgeisiol hwn: GWEITHGAREDD

ERBYN PRYD

Adroddiad ar ddangosyddion cynnar yr ymchwil bwrdd gwaith

Mehefin 2017

Dadansoddiad llawn o’r Data/Dadansoddiad o’r Bylchau

Medi 2017

Sefydlu tri Grŵp Ffocws Rhanbarthol

Medi 2017

Cwblhau’r gwaith o Ddatblygu Pecyn Cymorth – cymeradwyo’r deunyddiau peilot

Hydref 2018

Lansio’r tri Phrosiect Peilot Rhanbarthol

Tachwedd 2018

Cwblhau, adolygu a gwerthuso’r Prosiectau Peilot

Gorfennaf 2019

Cynllunio’r Ymgyrch Farchnata Ledled Cymru

Hydref 2019

Lansiad Swyddogol ar Go Construct – Ymgyrch Fyw

Ionawr 2020

Mae’r cwmni technoleg dysgu, Aspire2BE, a gomisiynwyd i ddatblygu adnoddau ar gyfer pecyn cymorth, wedi bod yn cynnal gweithdai ‘chwarae, crefft a dysgu’ mewn ysgolion ledled Cymru. Mae’r adnoddau’n gwbl ryngweithiol ac yn cwmpasu sgiliau mewn perthynas â llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, ac mae pob un ohonynt yn canolbwyntio ar Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Celf a Mathemateg (STEAM), yn ogystal ag adeiladu. Mae’r prosiect bellach yn ei gyfnod peilot, ac wedi cael ei ailfrandio yn Am Adeiladu – Addysgu. Mae gweithdai wedi cael eu cynnal gydag ysgolion peilot a

Defnyddio technoleg i dreialu’r pecyn cymorth

phartneriaid ym maes diwydiant, ac mae’r adborth cyfredol yn rhagorol. Mae bwlch sgiliau enfawr yn y sector adeiladu ledled Cymru ar hyn o bryd a rhagwelir y bydd hwn yn parhau i dyfu yn y dyfodol. Mae mwy o angen nag erioed i ni dynnu sylw pob plentyn at y cyfleoedd sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu fel dewis da o ran gyrfa. Nod y prosiect hwn yw cyflwyno pobl ifanc i’r diwydiant adeiladu yn gynharach wrth greu cysylltiadau â’u cwricwlwm a chyfoethogi eu dysgu.


Ymgysylltu Cymunedol yn allweddol o ran mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau Mae partneriaeth ragweithiol, gydweithredol ac arloesol a sefydlwyd rhwng Kier, y CITB, CIOB, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), CWIC a Gyrfa Cymru yn rhoi sylw i’r argyfwng sgiliau sy’n wynebu’r amgylchedd adeiledig. Lluniwyd rhaglen Ymgysylltu Am Adeiladu, fel y’i gelwir, i newid y farn am y diwydiant adeiladu a rhoi sylw i’r bwlch sgiliau presennol a’r bwlch sgiliau yn y dyfodol. Fel y gwelwyd yng nghanfyddiadau Arolwg Sgiliau Cyflogwyr Comisiwn y Deyrnas Unedig dros Gyflogaeth a Sgiliau (UKCES) 2015-2018, mae cyflogwyr yn cael trafferth i lenwi un o bob tair swydd adeiladu wag bellach, wedi codi o un o bob pedair swydd wag yn 2013, am nad ydynt yn gallu cael pobl â’r sgiliau iawn. Mae gan Kier a chwmnïau eraill tebyg iddo rôl hanfodol bwysig i’w chwarae o ran newid meddylfryd, lleihau stereoteipio, darparu hyfforddiant a phontio’r bwlch rhwng y diwydiant a’r genhedlaeth nesaf. Ar sail ymchwil fanwl a gynhaliwyd gyda PCYDDS er mwyn deall y rhwystrau rhag mynediad i’r diwydiant, dywedodd 90% o’r rhai y cyfwelwyd â nhw a oedd yn cynrychioli byd addysg (ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd a darparwyr amgen) nad oedd ganddynt gysylltiad â’r diwydiant adeiladu. Dywedodd 81% ohonynt nad oeddent yn gwybod am gynlluniau ymgysylltu a gynigir gan y diwydiant adeiladu. Felly, os nad ydym ni, fel diwydiant, yn ymgysylltu â myfyrwyr a chymunedau ac yn gweithio gyda nhw, sut y gallwn ni ddisgwyl i bethau newid? Ar y llaw arall, pan ofynnwyd i’r diwydiant, ‘A ydych chi o’r farn y byddai ymgysylltu ag ysgolion yn fuddiol i’ch cwmni?’ atebodd 90% gan ddweud y byddai’n fuddiol, dywedodd 65% eu bod yn ymgysylltu ag ysgolion yn barod a dywedodd 90% yr hoffent

fod yn rhan o brosiect Ymgysylltu Am Adeiladu. Mae Kier, sef sefydliad arweiniol prosiect Ymgysylltu Am Adeiladu, wedi ymrwymo i weithio ar lefel genedlaethol i ysgogi’r diwydiant a’i gefnogi i ddyfnhau ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd deinamig am swyddi a rhoi sylw i’r bwlch sgiliau yn y dyfodol agos. Yn dilyn yr arolwg, mae Kier wedi bod yn gweithio gydag ysgolion gan ddarparu gweithgareddau ymgysylltu wedi’u harwain gan rai o arbenigwyr y diwydiant. Nod y prosiect yw camu i ffwrdd o ymgysylltu ad hoc trwy ddatblygu cysylltiadau gwaith cryf ag ysgolion, gwreiddio ymwybyddiaeth o’r diwydiant yn y dysgu a chydweithio ochr yn ochr ag ysgolion i ddenu mwy o bobl ifanc i ystyried gyrfa mewn adeiladu. Dywedodd Lucy Moderate, Ysgol Llangatwg, ‘Diolch i chi unwaith eto am holl waith caled eich timau. Dangosodd y disgyblion lawer o ddiddordeb a buont yn ymgysylltu’n dda â’r gweithgareddau. Roedd y disgyblion y bûm i’n siarad â nhw wedi mwynhau’r heriau gosod brics a Lego gan eu bod yn fwy ymarferol. Mae rhai o’n bechgyn mwy galluog wedi awgrymu eu bod am ddewis un o’r cyrsiau DT, gyda digwyddiadau’r diwrnod yn cyfrannu at eu penderfyniad, sy’n beth gwych’. Trwy ddod â’r diwydiant ynghyd, o’r cleientiaid i’r contractwyr i’r gadwyn gyflenwi, gallwn addysgu mwy o bobl ac ymgysylltu â nhw gan siarad ag un llais ac yna rannu arferion gorau a thynnu sylw at yr hyn sy’n gweithio. I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn neu i gael copi o’r adroddiad, cysylltwch â jess.Morgan@kier.co.uk


Cyfnewid yr ystafell ddosbarth am safle adeiladu Bellach, mae Sgiliau ar y Safle, sef menter CWIC sy’n gyfle i fyfyrwyr addysg uwch ac addysg bellach fanteisio ar y cyfleoedd dysgu sydd ar gael ar safleoedd adeiladu byw, ar waith am ei hail flwyddyn. Ers ei lansio yn 2017, bu nifer o ymweliadau â safleoedd lle y mae myfyrwyr wedi gallu dysgu am ddefnyddio dronau mewn adeiladu, Cysylltedd a Rheoliadau Mecanyddol a Pheirianegol, Gweithdrefnau Contractiol a Chynigion Tendrau, Logisteg Safleoedd, a materion yn ymwneud ag Isadeiledd, Aradeiledd a Dylunio. Ers Rhagfyr 2018, mae Huw Thomas, Pennaeth Cynorthwyol y Cwricwlwm Technoleg a Sgiliau yng Ngholeg Ceredigion, wedi ysgwyddo rôl gydlynu i ddatblygu’r rhaglen. Gyda chynllun uchelgeisiol i drefnu 30 o ymweliadau erbyn diwedd Awst 2019, mae Huw yn awyddus i glywed gan gwmnïau adeiladu sy’n gallu agor eu safle byw ar gyfer ymweliad. Dywedodd, “Mae hwn yn gyfle amhrisiadwy ac mae sefydliadau addysg bellach yn manteisio’n ddiolchgar ar y cyfle i gael sesiwn addysgu yn y gweithle. Mae tiwtoriaid o dan bwysau parhaus i gyflawni gofynion cyrsiau penodol a’u dyletswyddau yn eu sefydliad, ac nid oes amser o hyd i drefnu teithiau ac ymweliadau. Yn sgil y gwaith cydlynu gan raglen Sgiliau ar y Safle, gwneir y rhan fwyaf o’r trefniadau ar ran y sefydliad, ac mae cyfle hefyd i hawlio cyllid yn ôl i dalu costau’r ymweliad”. Mae ymweliadau diweddar wedi cynnwys sesiwn Modelu Gwybodaeth am Adeiladau (BIM) a chyfle i ddefnyddio technolegau Rhith-wirionedd a Realiti Estynedig a ddarparwyd gan Ian Massey, Rheolwr Rhanbarthol BIM, Boygues UK ar gyfer myfyrwyr y cwrs BSc (Anrhydedd) Rheolaeth a Thechnoleg Adeiladu yng Ngholeg Sir Gâr. Roedd yn gallu

egluro wrthynt sut y mae’r cwmni’n defnyddio BIM ar draws ei safleoedd adeiladu yn y Deyrnas Unedig. Dyma ddetholiad bach yn unig o’r sylwadau a wnaed gan fyfyrwyr; “Yn y sesiwn BIM y bûm i ynddo, roeddwn i wir wedi mwynhau’r profiad o weld tafluniad rhithwirionedd o adeilad newydd a gynllunnir a chael gwybod sut y mae rhith-wirionedd yn helpu i reoli prosiectau adeiladu.” “Mae’r ymweliad wedi gwneud i mi sylweddoli faint y mae BIM yn gallu helpu cleient i weld prosiect trwy dechnolegau newydd fel rhith-wirionedd a realiti estynedig” “Dysgais i lawer am sut y mae rheoliadau a thechnegau adeiladu’n cael eu profi mewn 3D ac roedd clywed pobl sy’n gweithio gyda’r feddalwedd yn sôn am broblemau a chyfyngiadau cyffredin yn ddiddorol iawn” “Mae Boygues yn gwmni cyffrous a oedd yn dangos ymagwedd a dull gweithredu arloesol o ran technolegau modern mewn adeiladu. Mae Canolfan CWIC yn fan cynnal gwych.” Yn Aberteifi, mae Interserve yn adeiladu Canolfan Gofal Iechyd Integredig newydd gwerth £24 miliwn. Mae’r cwmni wedi croesawu un neu ddau o ymweliadau trwy fenter Sgiliau ar y Safle. Yn ystod yr ail ymweliad, bu Interserve yn trafod Rheoliadau Dylunio a Rheoli Adeiladu gyda phrentisiaid sy’n astudio cwrs CIOB ar Lefel 4. Os byddwch am i ni drefnu ymweliad Sgiliau ar y Safle, Mae croeso i chi gysylltu â ni cwic@uwtsd.ac.uk


Datblygu Adeiladu Oddi ar y Safle Mae CWIC wedi creu partneriaeth â Chanolfan Arloesi Adeiladwaith yr Alban (CSIC) ac eraill er mwyn sicrhau cyllid gan CITB i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr adeiladu oddi ar y safle. Y nod cyffredinol yw hyfforddi gweithwyr newydd neu ailhyfforddi gweithwyr presennol mewn sgiliau newydd i fodloni'r farchnad gynyddol ar gyfer dulliau modern o adeiladu ledled Prydain Fawr. •

Bydd y prosiect yn creu fframwaith cymhwysedd oddi ar y safle a fydd yn cael ei ddefnyddio i lywio’r gwaith o ddatblygu deunyddiau dysgu.

Bydd y cynnwys yn cael ei ddatblygu’n unol â’r fframwaith, a bydd yn ymdrin â’r meysydd pwnc a nodwyd gan y comisiwn.

Bydd y cynnwys yn fodiwlaidd ac wedi’i achredu, ac wedi’i fwriadu ar gyfer amrywiaeth eang o ddefnyddiau ac wedi’i fapio ar gyfer cymwysterau a safonau L2-7 perthnasol.

Bydd canllawiau’n cael eu datblygu i helpi hyfforddwyr i roi modiwlau yng nghyd-destunau eu maes pwnc penodol nhw.

Bydd y prosiect yn datblygu sgiliau ymddygiadol yn ogystal â gwybodaeth trwy ddysgu drwy brofiadau, sy’n cynnwys cyfoethogi’r ystafell ddosbarth, profiadau trochi a byd go iawn, yn ogystal â rhwydwaith cynaliadwy o arbenigwyr i rannu gwybodaeth, cynnal a chefnogi’r cynnyrch.

Bydd hyd at 600 o hyfforddwyr yn cael eu huwchsgilio yn y deunyddiau ledled tair cenedl, ochr yn ochr â rhaglen allgymorth mewn ysgolion uwchradd a chydag athrawon.

• Sicrheir cynaliadwyedd trwy ddefnyddio platfform ar-lein pwrpasol, sydd ar gael i bawb, mewn fformat sy’n

gydnaws â phlatfformau eraill, fel bod modd lawrlwytho a rhannu adnoddau’n rhwydd. •

Mae CWIC wedi bod yn ymwneud â datblygu’r prosiect, ac ynghyd â’i bartneriaid (lloerennau) ledled Cymru, bydd yn cyflwyno’r agenda hon ledled Cymru o’r haf.

“Mae’n amser meddwl am adeiladu mewn modd gwahanol, oherwydd nid yw parhau fel hyn yn opsiwn – rhaid i’n diwydiant foderneiddio. Gall gwaith adeiladu oddi ar y safle ddarparu cynnyrch o ansawdd uchel y gellir eu masaddasu, ac sy’n ddatblygedig o ran technoleg, gan gynnig manteision cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd. Mae’n gallu cyflymu’r broses adeiladu, gostwng effeithiau amodau anffafriol y tywydd ar brosiectau, yn ogystal â lleihau costau a gwella diogelwch ar yr un pryd. Ond, er mwyn sicrhau bod gwaith adeiladu oddi ar y safle yn dod yn ddull prif ffrwd, rhaid i ni gael gweithlu sy’n meddu ar y sgiliau gofynnol – a dyna gyfraniad y prosiectau hyn.” Rohan Bush, Pennaeth Partneriaethau Cyhoeddus a Gweithlu’r Dyfodol CSIC.

Cynyddu adeiladu oddi ar y safle ar gyfer y galw yn y dyfodol


CWIC yn cynnal digwyddiad i ddethol Tîm WorldSkills Yn y Gystadleuaeth WorldSkills, a elwir y ‘Gemau Olympaidd Sgiliau’, mae prentisiaid a myfyrwyr gorau’r byd yn brwydro i ennill gwobr Aur, Arian ac Efydd yn eu sgìl dewisol. Ar hyn o bryd, mae’r Deyrnas Unedig yn ddegfed yn safleoedd WorldSkills o ganlyniad i’r medalau a enillwyd ganddi yn y Gystadleuaeth WorldSkills ddiwethaf yn Abu Dhabi yn 2017. Yn gynnar ym mis Mawrth, ochr yn ochr â chystadlaethau dethol timau eraill, cynhaliodd Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant un o chwe digwyddiad dethol timau, ynghyd ag amrywiaeth o ddigwyddiadau ymgysylltu ar gyfer ysgolion, colegau a myfyrwyr y Brifysgol. Roedd y digwyddiadau hyn yn arddangos llwybrau amrywiol i mewn i waith adeiladu, ac yn amlygu technoleg arloesol, er enghraifft offer adeiladu digidol newydd ac offer hyfforddi realiti rhithwir. Roedd CWIC wrth ei bodd yn cynnal Cystadleuaeth Dethol Tîm WorldSkills UK ar gyfer Saernïo Cabinetau, Gwaith Coed a Saernïaeth ym MharthAdeiladu cyfarparedig, pwrpasol CWIC. Roedd y chwe chystadleuydd medrus, o bob cwr o’r Deyrnas Unedig, wedi treulio’r wythnos yn brwydro am le, a chwenychir yn fawr, yn y rownd derfynol a gynhelir ym mis Awst yn Kazan, Rwsia. Dywedodd Barry Liles, OBE, Dirprwy Isganghellor (Sgiliau a Dysgu Gydol Oes) ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: “Fel darparwr sgiliau lefel uchel, roedd yn bleser gan CWIC Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant groesawu un o ddigwyddiadau dethol timau nodedig WorldSkills UK i’n datblygiad newydd yng Nglannau Abertawe SA1. Rydym yn cydnabod y manteision enfawr i’n myfyrwyr a’n staff, fel ei gilydd, sy’n deillio o gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau.

amhrisiadwy ar gyfer paratoi myfyrwyr gyda’r sgiliau a’r wybodaeth y mae arnynt eu hangen ar gyfer diwydiant. Mae cynnal digwyddiad dethol tîm yn dangos i’n rhanddeiliaid pa mor bwysig yw datblygu sgiliau lefel uchel i ni”. Dywedodd Dr Neil Bentley-Gockmann OBE, Prif Weithredwr, WorldSkills UK, sy’n rheoli mynediad y Deyrnas Unedig i’r Gystadleuaeth WorldSkills: “Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf i ni eu defnyddio i ddethol prentisiaid a myfyrwyr gorau’r Deyrnas Unedig i gystadlu ar lwyfan y byd. Trwy weithio gyda darparwyr hyfforddiant tebyg i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a busnesau ledled y Deyrnas Unedig, gallwn drosglwyddo’r mewnwelediad a geir o gystadlu yn erbyn gwledydd eraill i’r economi ehangach, gan godi safonau hyfforddiant yn y Deyrnas Unedig i lefelau o’r radd flaenaf, a hybu cynhyrchiant.” Ynghyd â chynnal y digwyddiad, mae gan CWIC gynrychiolaeth yn y gystadleuaeth WorldSkills. Gareth Wyn Evans, Rheolwr ein Canolfan, yw Arbenigwr cyfredol Prydain mewn Gwaith Coed. Mae’r rôl heriol hon yn golygu bod Gareth yn hyfforddi ac yn mentora doniau ifanc mwyaf blaenllaw’r Deyrnas Unedig tuag at gyflawni llwyddiant rhyngwladol. Mae ei waith yn golygu ei fod yn teithio’n helaeth ar hyd a lled y byd, i rannu arferion gorau â gwledydd eraill, ac i gasglu gwybodaeth werthfawr am y technolegau a’r arferion adeiladu diweddaraf sydd i’w gweld ledled y byd.

Fel Prifysgol sector deuol yng Nghymru, mae gennym hanes hir a mawreddog o ddatblygu ein dysgwyr i fod yn gystadleuwyr ar lwyfan y byd. Mae’r profiad a geir yn y cystadlaethau hyn yn Cystadleuwyr WorldSkills


Cyfleusterau Newydd Sbon Mae wyth mis eisoes wedi mynd heibio ers i CWIC agor ei drysau ym mis Hydref 2018. Yn ystod y cyfnod byr hwnnw, rydym wedi croesawu yn agos at fil o ymwelwyr o’r diwydiant adeiladu a sectorau cysylltiedig eraill, sydd wedi gwneud defnydd o’r cyfleusterau trawiadol sydd gennym.

hyd at 34 o bobl yn y naill ofod a’r llall pan fyddant ar ffurf theatr, a hyd at 24 o bobl pan fyddant ar ffurf cabaret. Mae’r ddau ofod yn cynnwys y galedwedd a’r feddalwedd ddiweddaraf ar gyfer cyflwyniadau clyweledol a fideo gynadledda.

Mae’r cyfleusterau sydd ar gael yn CWIC yn amrywiol, gyda nifer mawr o leoedd ac ystafelloedd ar gael ledled ein cyfleuster 1000 metr sgwâr.

Mae ail lawr CWIC yn cynnwys lleoedd rhwydweithio anffurfiol a mannau cyfarfod agored. Mae’r gofodau hyn wedi’u cynllunio i groesawu ymwelwyr ac i ddarparu amrywiaeth o opsiynau o ran desgiau poeth neu gyfarfodydd anffurfiol.

Mae ParthAdeiladu CWIC, sydd wedi’i leoli ar y llawr gwaelod, yn ofod 284 metr sgwâr, ac mae’n addas i amrywiaeth o ddibenion, sy’n amrywio o ddarparu hyfforddiant ymarferol, i gynnal digwyddiadau mawr tebyg i gynadleddau. Mae ein gweithdy cyfarparedig yn cynnwys amrywiaeth o offer peiriant o ansawdd uchel, a gyflenwyd gan Felder UK, ynghyd â chyfleusterau gweithdy cyffredinol a thechnoleg cynadledda clyweledol. Ar y llawr cyntaf, mae gennym ystafell gyfrifiaduron flaengar. Mae’r ParthDigidol yn cynnwys 12 o gyfrifiaduron manyleb uchel iawn, wedi’u llwytho ag amrywiaeth o feddalwedd arloesol gyfredol, gan gynnwys Autodesk, Revit, y feddalwedd rendro arloesol Enscape, a BIM 360. Defnyddir yr ystafell hon yn helaeth i wella sgiliau’r diwydiant o ran defnyddio technegau adeiladu digidol, ac mae’n gartref i amrywiaeth o galedwedd ddelweddu, er enghraifft pecynnau realiti rhithwir a realiti estynedig. Mae’r llawr cyntaf hefyd yn cynnwys dau BarthDysgu hyblyg, sydd wedi’u goleuo a’u hawyru’n dda. Mae gan y rhain arwynebedd llawr cyfunol o 45.5 metr sgwâr, y gellir ei gadw fel un gofod mawr neu ei rannu’n ddwy. Mae yna le i

Ar gyfer cyfarfodydd ffurfiol, mae gennym ystafell fwrdd, sydd â lle i hyd at 14 o bobl. Mae hon yn cynnwys cyfrifiadur sgrin gyffwrdd mawr, cysylltedd AV, a gwahanol opsiynau o ran telegynadledda. Gellir darparu ar gyfer cyfarfodydd mwy o hyd at 30 o bobl yn ein ParthAgored. Gellir ad-drefnu’r gofod 93 metr sgwâr hyblyg hwn i weddu i nifer o opsiynau gwahanol o ran gosodiad, yn ôl yr angen. Gallwn hefyd ddarparu ar gyfer cyfarfodydd llai yn y ParthHyblyg cyffiniol. Mae’r ystafell hon wedi’i chysylltu â’r ParthAgored, ac mae’n addas ar gyfer hyd at bedwar o bobl. Mae CWIC yn falch i gynnal hyfforddiant, cyfarfodydd, cyfleoedd rhwydweithio a digwyddiadau eraill ar gyfer unigolion, cwmnïau a sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r diwydiant adeiladu. Mae ein holl gyfleusterau yn rhad ac am ddim. Os bydd arnoch angen opsiynau arlwyo cost isel, bydd y tîm arlwyo yn hapus i gynorthwyo. Mae parcio am ddim ar gael gerllaw, ond rhaid darparu manylion ymlaen llaw. Os hoffech ymweld â’r cyfleusterau neu eu llogi, cysylltwch â julie.evans@uwtsd.ac.uk


Ystafell Agored

Ystafell Dysgu

Ystafell Fwrdd

Ystafell Digidol

Gweithdy Adeiladu


Cyfleuster Newydd gwerth £ 1.5M yn golygu Y gall dysgwyr aros yng Nghymru i gael hyfforddiant sgaffaldau llawn Mae gwaith wedi dechrau ar yr unig gyfleuster hyfforddi sgaffaldau cynhwysfawr yn Ne Cymru. Dan arweiniad Canolfan Arloesedd Adeiladu Cymru (CWIC) mewn partneriaeth â Bwrdd Hyfforddi’r diwydiant Adeiladu Cymru (CITB), bydd y ganolfan newydd yn cael ei lleoli mewn cyfleuster wedi’i ddatblygu’n bwrpasol ar ffordd Fabian ym Mae Abertawe. Bydd y gyfleuster newydd yn golygu na fydd yn rhaid i fyfyrwyr sy’n gweithio yng Nghymru ac sy’n dymuno cael hyfforddiant sgaffaldau helaeth deithio i Loegr neu du hwnt i ennill set lawn o sgiliau. Mae’r adeilad yn cael ei ailwampio ar gost o ymron i “Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i unrhyw un yng Nghymru sy’n dymuno manteisio ar yr ystod lawn o hyfforddiant y bydd CWIC a CITB yn ei ddarparu o fewn y neuadd fynediad deithio y tu allan i Gymru i wneud hynny. “Mae galw mawr am y rhaglenni hyn ac rydym wrth ein boddau bod gwaith yn mynd rhagddo ar y ganolfan newydd hon a fydd ar agor ddiwedd yr haf. Rydym wedi gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i wireddu ein huchelgais ar gyfer y cyfleuster hwn sy’n gwella cynnig y CWIC i’r diwydiant adeiladu yng Nghymru ac yn sicrhau bod cyflogwyr yn y sector yn gallu manteisio ar gymwysterau proffesiynol ac achrediad yn nes at adref”.

Gerald Naylor, Cyfarwyddwr CWIC

£1.5miliwn ar hyn o bryd i greu canolfan sgaffaldiau dwrpasol (neuedd fynediad) gan gynnwys ystafell ddosbarth a chyfleusterau TG. Y neuadd fynediad fydd yr unig gyfleuster a gymeradwyir gan gynllun cofnodi sgaffaldau’r diwydiant adeiladu (CISRS) yn Ne Cymru sy’n darparu’r ystod lawn o hyfforddiant ar uchder i newydd-ddyfodiaid, prentisiaid, uwchweithwyr, goruchwylwyr ac arolygwyr.

metr sgwâr sy’n cynnwys naw bae hyfforddi a thair ystafell ddosbarth benodedig, ag un yn cynnwys cyfleusterau TG. Yn ogystal, mae’r CWIC yn ceisio gweithio gydag aelodau’r Cydffederasiwn Mynediad a Sgaffaldau Cenedlaethol (NASC) i ddarparu canllawiau a chyfarwyddyd pellach wrth ddiwallu anghenion hyfforddi a datblygu’r diwydiant sgaffaldio yng Nghymru.

O dan arweiniad cwmni hyfforddi sgaffaldau blaenllaw yn y DU, mae’r adeilad presennol yn cael ei adnewyddu i ofynion CISRS ac mae ganddo arwynebedd llawr mewnol o tua 2,000 “Mae’r cyfleuster sgaffaldau newydd yn enghraifft wych o sut mae buddsoddiad CITB yn CWIC yn gwneud gwahaniaeth i ddysgwyr a chyflogwyr. Ers gormod o amser mae ein myfyrwyr wedi gorfod teithio y tu hwnt i Gymru i gael hyfforddiant sgaffaldau cynhwysfawr. “Mae CWIC a CITB wedi gwrando ar y diwydiant ac wedi buddsoddi yn yr anghenion sgiliau hanfodol hyn. Bydd y cyfleuster newydd yn cynyddu nifer y dysgwyr sgaffaldau yng Nghymru ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr lansio gyrfaoedd adeiladu boddhaus a gwobrwyol”.

Mark Bodger, Cyfarwyddwr partneriaeth strategol CITB Cymru

“Bydd datblygu’r cyfleuster newydd hwn yn cael effaith sylweddol ar uwchsgilio gweithwyr yn y diwydiant sgaffaldau. “Mae gweithgareddau CWIC eisoes yn cynorthwyo cyflogwyr yn y diwydiant adeiladu ledled Cymru. Mae ein partneriaeth â CITB yn darparu hyfforddiant o’r radd flaenaf a rhaglenni pwrpasol ar gyfer y sector hynod bwysig hon i economi Cymru. Mae mynediad at arbenigedd o’r fath drwy’r CWIC yn rhoi’r hyder i gyflogwyr ddatblygu eu gweithwyr ac i recriwtio newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant”.

Barry Liles, Dirprwy Is-Ganghellor Sgiliau a Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.