Ymunwch â’r Drindod Dewi Sant yn ystod GŴYL DDYSGU ABERTAWE

Page 1

GÅ´YL DDYSGU ABERTAWE EBRILL 2 EBRILL 4 EBRILL 6 CAMPWS SA1 GLANNAU ABERTAWE SA1 8AL

WWW.UWTSD.AC.UK/GROW


GŴYL DDYSGU ABERTAWE Dathliad o gyfleoedd dysgu ar draws Abertawe

1 Ebrill 2019 9.00yb Digwyddiad 1-66 diwrnod Digwyddiad rhad ac am ddim ar draws Abertawe Bydd rhestr lawn o weithgareddau ar gael ar ein gwefan. Mae dros 100 o ddigwyddiadau rhad ac am ddim wedi’u trefnu fel rhan o ŵyl fawr ar draws y ddinas yn arddangos a dathlu dysgu i bobl o bob oed yn Abertawe. Bydd digwyddiad uchelgeisiol Gŵyl Ddysgu Abertawe yn cael ei gynnal mewn lleoliadau dysgu traddodiadol fel colegau, ysgolion a chanolfannau cymunedol ond hefyd mewn lleoliadau mwy anarferol gan gynnwys siopau, bwytai a mannau awyr agored. Y nod yw arddangos y cyfleoedd dysgu gwahanol niferus sydd ar gael i bobl ifanc ac oedolion ac i gynyddu’r nifer sy’n cymryd rhan. Ymhlith y gweithgareddau bydd sesiynau blasu rhyngweithiol, arddangosfeydd, arddangosiadau, dosbarthiadau, gweithdai a seminarau

www.abertawe.gov.uk/article/48616/ Gwyl-Ddysgu-Abertawe


Ymunwch â’r Drindod Dewi Sant yn ystod sesiynau dysgu hwyl rhad ac am ddim yn ein campws newydd yn SA1 GLANNAU ABERTAWE

SA1 8AL GOOGLE MAPS – CLICIWCH YMA


DYDD MAWRTH

EBRILL

2

10:00 - 6:00


RHOWCH GYNNIG AR... MAN AWYR AGOR NEU’R FFORWM Bwyd Stryd Sgiliau Syrcas FFORWM 001 – Cymraeg Llafar / Cyflwyniad i Sbaeneg a Ffrangeg 002 – Gremlins Gramadeg / Athroniaeth i Blant 003 – 004 – Felly, fe hoffech chi addysgu? 006 ac i lawr grisiau yn y FFORWM – Sesiynau Llambed


CYFLEUSTERAU YDDS ARDAL ARLOESI IQ Parth Peirianneg – Llawr Daear Taith Peirianneg ac efelychydd Chwaraeon Moduro Labordai Seicoleg - Ail Lawr – Adeilad IQ Sesiynau Labordy Seicoleg Ryngweithiol


RHOWCH GYNNIG ARNI CWIC – LLAWR DAEAR Man Agored y Llawr Daear Cit VR Chwaraeon a Ffitrwydd Icaros (13+), Citiau Animeiddio ‘Stop Motion’ 2D a 3D, Cit Technoleg Cerddoriaeth, SIM Chwaraeon Moduro CWIC – LLAWR CYNTAF

CWIC – AIL LAWR

Parth Dysgu 001 Newid yn y Cwricwlwm i Rieni Parth Dysgu 002 Dosbarth Meistr Mathemateg Rhifedd i Rieni Ystafell Fwrdd (Codio Scratch ar iPads)

Parth Agored Dysgu Creadigol, Sachau Stori, Basgedi Trysor, Chwarae Blêr


DYDD IAU

EBRILL

4

16:30 - 19:00


NOSON AGORED GALW HEIBIO Dydd Iau 4 Ebrill 2019 4.30yh – 7.00yh Dewch i wella eich rhagolygon gyrfaol; edrychwch ar ein rhaglenni dysgu gydol oes IQ 001 - Prentisiaethau IQ 002 - Rhaglenni Sylfaen IQ 002 - Rhaglenni rhan amser IQ 001 - TAR Addysg Athrawon IQ 001 - Rhaglenni ôl-raddedig


GRADDBRENTISIAETHAU Gradd-brentisiaeth ar gyfer 2018-2019: Gradd-brentisiaeth Integredig Cwnstabliaid yr Heddlu Ordnans, Arfau Rhyfel a Ffrwydron Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol Gwyddor Data Gymhwysol Rheolaeth Seiberddiogelwch Gymhwysol Datblygiadau newydd ar gyfer 2019-2020: Peirianneg apprenticeships@uwtsd.ac.uk Gweithgynhyrchu Uwch 01267 676814 Adeiladu www.uwtsd.ac.uk/cy/prentisiaethau/ MA Arbenigol Archeolegol


RHAGLENNI SYLFAEN www.uwtsd.ac.uk/cy/graddau-sylfaen/ Gradd Sylfaen (FdA / FdSc) Lefelau 4 a 5 Plant a Phobl Ifanc Rheolaeth Chwaraeon Rheolaeth Twristiaeth Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar Dyniaethau Astudiaethau Cynhwysol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu

Tystysgrif Addysg Uwch (Tyst. AU) Lefel 4 Eiriolaeth Celf a Dylunio Sylfaen Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar Iechyd a Llesiant i Ofalwyr Sgiliau ar gyfer y Gweithle

gwybodaeth@pcydds.ac.uk


TYSTYSGRIF ADDYSG UWCH

CELF A DYLUNIO SYLFAEN www.uwtsd.ac.uk/cy/cyfadran-celf-a-dylunio katherine.clewett@uwtsd.ac.uk


TYSTYSGRIF ADDYSG UWCH

SYLFAEN YN DYNIAETHAU www.uwtsd.ac.uk/foundation/ humanities-foundation gwybodaeth@pcydds.ac.uk


SYLFAEN MEWN

STEM

Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg A oes gennych chi’r sgiliau iawn ar gyfer eich dyfodol? Mae’r Flwyddyn Sylfaen, a gynigir hefyd fel Tystysgrif Addysg Uwch annibynnol, wedi’i llunio i ganiatáu i’r myfyrwyr gael y sgiliau sydd eu hangen i gael eu derbyn ar ein Rhaglenni BSc/BEng yn y Gyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg. Mae gan bob rhaglen STEM Sylfaen fodylau craidd cyffredin yn darparu cyfarwyddyd mewn sgiliau fel mathemateg, gwyddoniaeth ac ysgrifennu academaidd. Mae gan bob pwnc fodylau arbenigol sy'n gysylltiedig â’r maes astudio. PYNCIAU STEM: Peirianneg Fodurol HR3U Adeiladu SBS1 Cyfrifiadura SCT1 Electroneg SES1 Ffrwd Amgylcheddol STE1 Gweithgynhyrchu MES1 Caiff sgiliau, cyflawniad a phrofiad ei ystyried yn feini prawf mynediad. Cyllid ar gael gyda Chyllid Myfyrwyr Cymru

stem@uwtsd.ac.uk www.uwtsd.ac.uk/face


Tystysgrif Addysg Uwch: Sgiliau ar gyfer y Gweithle Mae gennym gyrsiau dydd a chyrsiau min nos a phenwythnosau mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol ar draws De Cymru. Mae’r rhaglen prifysgol un flwyddyn hon, yn gofyn am brofiad bywyd yn hytrach na thystysgrifau addysgol mewn cyfweliad ac mae’n ffordd ddelfrydol o ailgydio mewn Addysg Uwch i’r rhai na chafodd y cyfle yn gynharach yn eu bywyd. Mae’n canolbwyntio ar addysgu’r sgiliau generig hynny y mae gofyn amdanynt gan gyflogwyr ac ar gyfer dilyniant yn y gweithle, gyda phob aseiniad wedi ei gysylltu’n benodol â sefyllfaoedd bywyd go iawn. Mae gan y rhaglen hygyrch a hyblyg hon fodylau ar gyfer Sgiliau Academaidd a Chyflogadwyedd, Gwaith Tîm a Chyfathrebu Effeithiol, Sgiliau Digidol a Dulliau Ymchwil a Datrys Problemau a Gwneud Penderfyniadau a Datblygu Gyrfa Proffesiynol ynghyd ag opsiynau ychwanegol sy’n eich galluogi i ganolbwyntio eich astudiaethau ar weithle penodol.

Bunmi Thomas Bunmi.thomas@uwtsd.ac.uk


Gradd Sylfaen, Astudiaethau Cynhwysol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu Sesiynau gyda’r nos yn Ysgol Gynradd St Thomas Mae’r Radd Sylfaen mewn Astudiaethau Cynhwysol yn addas yn benodol i Gynorthwywyr Addysgu. Cwrs tair blynedd ydyw a chyflwynir darlithoedd ar ddydd Sadwrn ar Gampws Caerfyrddin neu yn y gymuned leol mewn sesiynau min nos. Gall cwblhau’r radd hon arwain at fwy o gyfrifoldebau yn y gweithle. Gellir cwblhau gwaith yn y Gymraeg neu’r Saesneg ac mae cyfle i gwblhau’r cwrs gradd cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg. Ar ôl cwblhau’r cwrs mae cyfle i astudio am flwyddyn arall ar y cwrs BA Cynhwysiant Cymdeithasol (Addysg Gynhwysol) a gynigir eto trwy ddarpariaeth hyblyg ac a gyflwynir ar ddyddiau Sadwrn neu drwy sesiynau min nos.

Cindy Hunt c.hunt@uwtsd.ac.uk


Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar – 2 Flynedd Mae’r rhaglen hon wedi'i llunio ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes yn gweithio yn y sector gofal plant ac addysg, ac yn caniatáu iddynt astudio’n hyblyg o gwmpas eu hymrwymiadau gwaith. Mae hon yn rhaglen radd llawn amser, arloesol wedi’i chywasgu i ddwy flynedd ac wedi’i chynnwys yn rhestr Gofal Cymdeithasol Cymru o gymwysterau gofynnol i weithio o fewn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru. Byddwch yn graddio gyda gradd yn ogystal â thrwydded i ymarfer o fewn ystod o leoliadau blynyddoedd cynnar. Caiff darlithoedd eu cyflwyno un noson yr wythnos ac ar ambell ddydd Sadwrn er mwyn galluogi myfyrwyr i barhau i weithio wrth iddynt gwblhau eu gradd. Manylion Cyswllt: Dr Glenda Tinney g.tinney@uwtsd.ac.uk

www.uwtsd.ac.uk/cy/blynyddoedd-cynnar


BSc Iechyd Meddwl Cyflwyniad ar benwythnosau a gyda’r nos Datblygwch eich dealltwriaeth o sut a pham y gall unigolion ddatblygu anawsterau iechyd meddwl. Dysgwch y ddamcaniaeth, datblygwch sgiliau ymchwil, a meithrinwch eich gwybodaeth o faterion moesegol a phroffesiynol sy’n ymwneud â maes iechyd meddwl a lles. Yn sgil y ffaith mai’r GIG yw’r cyflogwr mwyaf yng Nghymru a’r sylw a roddir i Iechyd Meddwl ar Agenda Llywodraeth Cymru a’r Llywodraeth Ganolog, gall y rhaglen hon ddatblygu casgliad cryf o sgiliau cyflogadwyedd a all helpu unigolion i ymuno ag ystod o alwedigaethau cysylltiedig ag iechyd meddwl.

Karen Eaton-Thomas K.EatonThomas@uwtsd.ac.uk


ACADEMI TG CISCO Yn Academi Rhwydweithio Cisco® mae’r adeiladu IQ yn cynnig profiad ymarferol a mynediad llawn i lwybrwyr, switshis, waliau tân a meddalwedd Cisco a ddefnyddir yn y diwydiant rhwydweithio a diogelwch. Mae dosbarthiadau’n cael eu cynnal gyda’r nos o 5.30 i 8.30yh. Mae’r cwricwlwm Llwybro a Switsio CCNA wedi’i lunio ar gyfer myfyrwyr sy’n chwilio am swyddi TGCh lefel mynediad neu’n cynllunio dilyn sgiliau TGCh mwy arbenigol. Mae’r cwrs CCNA® Diogelwch yn gam nesaf i unigolion sydd eisiau cyfoethogi eu set sgiliau lefel ardystiedig Cisco CCENT® a helpu i fodloni’r galw sy’n tyfu am weithwyr proffesiynol diogelwch rhwydwaith. Mae’r cwricwlwm Llwybru a Switsio CCNP yn rhoi sylw cynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd o sgiliau rhwydweithio lefel menter, gan gynnwys uwch lwybro, switsio a datrys problemau, wrth ddarparu cyfleoedd ar gyfer profiad ymarferol a datblygu sgiliau meddal. Manylion Cyswllt: Dr Kapilan Radhakrishnan E-bost Cyswllt: itacademy@uwtsd.ac.uk


PEIRIANNEG RHAN AMSER A oes gennych chi’r sgiliau iawn ar gyfer eich dyfodol? Nod ein cwricwlwm, sy’n ffocysu ar y diwydiant, yw cynhyrchu arweinwyr diwydiant peirianneg y dyfodol. Mae ein rhaglenni wedi’u llunio i weddu eich wythnos waith, felly trefnir y dosbarthiadau ar brynhawniau Gwener o 1yh i 7yh.

engineering@uwtsd.ac.uk

BEng Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu BEng Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu BEng Gwyddor Defnyddiau BEng Gweithrediadau Gweithgynhyrchu Uwch

Cyfarwyddwr y Cwrs a Thiwtor Derbyn: Dr Arnaud Marotin +44 (0) 1792 481719 arnaud.marotin@uwtsd.ac.uk


SEFYDLIAD MARCHNATA SIARTREDIG (CIM) www.uwtsd.ac.uk/foundation

Mae’r Drindod Dewi Sant yn ganolfan astudio swyddogol ar gyfer rhaglenni’r Sefydliad Marchnata Siartredig: Diploma mewn Marchnata Proffesiynol Diploma Digidol mewn Marchnata Proffesiynol Tystysgrif mewn Marchnata Proffesiynol

Addysgir dosbarthiadau gyda’r nos ac ar benwythnosau gan ddechrau ym mis Ionawr, Mai a Medi.

cim@uwtsd.ac.uk www.uwtsd.ac.uk/cy/rhan-amser/


ÔL-RADDEDIG ABERTAWE SA1 PENSAERNÏAETH, CYFRIFIADURA A PHEIRIANNEG

YR ATHROFA

MRes | MSc • Cyfrifiadura • Dylunio Cynnyrch Peirianneg • Rheoli Prosiectau Peirianneg • Gweithgynhyrchu Darbodus ac Ystwyth • Logisteg • Peirianneg Fecanyddol

MSc • Applied Social and Health Psychology

MSc Cyfrifiadura Cymhwysol • Rhwydweithiau a Diogelwch Cyfrifiadurol • Cadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol • Rheolaeth Eiddo a Chyfleusterau • Peirianneg Meddalwedd • Adeiladu Cynaliadwy

MA Celf mewn Addysg (PCET) • Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: • Astudiaethau Addysg • Addysg • Arfer Seicotherapiwtig: Dyneiddiol


ÔL-RADDEDIG ABERTAWE CAMPWS BUSNES ABERTAWE

COLEG CELF ABERTAWE

MSc • Cyfrifeg a Chyllid • Rheolaeth Ariannol • Masnachu a Marchnadoedd Ariannol

MA

MA • Rheolaeth Adnoddau Dynol • Dysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg MBA • Gweinyddu Busnes • Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol • Rheolaeth Twristiaeth

• Animeiddio Cyfrifiadurol 3D • Celf Gain • Gwydr • Delwedd Symudol • Ffotograffiaeth • Dylunio Cynnyrch • Sain • Dylunio Patrymau Arwynebedd • Tecstilau • Dylunio Cludiant • VFX • Cyfathrebu Gweledol MSc • Dylunio Diwydiannol


MRes | MPhil | PhD ABERTAWE MRes | MPhil | PhD • Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg • Celf a Dylunio • Seicoleg • Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol • Yr Athrofa MRes • Profi Anninistriol Doethuriaeth • Gweinyddu Busnes (DBA) • Addysg (Ed D) Cymwysterau Proffesiynol • Sefydliad Siartredig Swyddogion Gweithredol Cyfreithiol (CILEX) • Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) • Cymwysterau Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) • Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth (CILT) Tystysgrif Graddedig (Lefel 6) • Dysgu Proffesiynol: Rhaglen Ailhyfforddi Saesneg, Mathemateg neu Wyddoniaeth (CA3+) Dip Graddedig (Lefel 6) • Dysgu Proffesiynol: Anawsterau Dysgu Difrifol/ Anawsterau Dysgu Dwys a Lluosog. Dip. Ôl-radd |Tyst. Ôl-radd • Dysgu Proffesiynol: Arweinwyr Canol


BENTHYCIAD ÔL-RADDEDIG

Mae benthyciadau ôl-raddedig o hyd at £13,000 bellach ar gael i fyfyrwyr cymwys y DU/UE sy'n astudio rhaglenni meistr yn YDDS. Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.uwtsd.ac.uk/postgraduate/ postgraduate-loans Info@uwtsd.ac.uk www.uwtsd.ac.uk/postgraduate


PYNCIAU

BWRSARIAU

Llwybrau Addysg Athrawon: TAR Cynradd gyda SAC TAR Uwchradd gyda SAC

Pynciau Cwricwlwm Craidd Cynradd: Saesneg Cymraeg Mathemateg Gwyddoniaeth Ychwanegiad o £3,000 ar gyfer graddedigion gyda gradd dosbarth cyntaf, Meistr neu PhD

Pynciau Uwchradd: Celf a Dylunio 2X5R Bioleg 2X5S Busnes 2X5T Cyfrifiadura 2X62 Cemeg 2X5V Dylunio a Thechnoleg 2X5W Drama 3CM5 Saesneg 2X5X Daearyddiaeth 2X5Y Hanes 2X5Z Mathemateg 2X65 Ieithoedd Tramor Modern Cerddoriaeth 3CM4 Ffiseg 2X6G Addysg Grefyddol 2X6H Ieithoedd Tramor Modern: Ffrangeg 2X6B Ffrangeg gyda Sbaeneg 2X69 Almaeneg gyda Ffrangeg 2X6C Sbaeneg gyda Ffrangeg 2X6F

Pynciau Blaenoriaeth Uwchradd: Cemeg Cyfrifiadura a TGCh Mathemateg Ffiseg Cymraeg £20,000 - Anrhydedd Dosbarth Cyntaf, Meistr £10,000 - 2:1 £6,000 - 2:2 Ieithoedd Tramor Modern: £15,000 - Anrhydedd Dosbarth Cyntaf, Meistr neu PhD £6,000 - 2:1 Pob Pwnc Uwchradd a Chynradd arall: £3,000 - gradd dosbarth cyntaf, Meistr neu PhD i addysgu Cynllun Gwella Cyfrwng Cymraeg: I hyfforddi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg Grant o £2,000


PAM ADDYSGU?

PAM DEWIS YDDS?

Gallwch wneud gwir wahaniaeth i bobl ifanc; Byddwch ar reng flaen cwricwlwm newydd; Boddhad gwaith; Mae pob diwrnod yn wahanol; Cewch weithio gyda'ch pwnc bob dydd; Rhannwch wyliau ysgol gyda'ch teulu; Dewiswch yrfa nid swydd

Campws newydd ar gwerth £350m Ysgolion partneriaeth ar draws De Cymru Tiwtoriaid profiadol a chymwys Cymorth rhagorol gan diwtoriaid a gwasanaethau myfyrwyr Mae eich llwyddiant yn bwysig i ni Darparwr addysg athrawon hynaf Cymru Hyfforddwch i addysgu gan ddefnyddio Sony Vision Exchange Graddedigion cyflogadwy iawn

Main Pay Ranges £23,720 - £35,008 Upper Pay Ranges £36,646 - £39,406 Leading Practitioners £23,720 - £35,008 Head Teachers £23,720 - £35,008

Achrediad SAC gyda Chyngor y Gweithlu Addysg www.uwtsd.ac.uk/teacher-education

Diwrnodau Agored Dydd Sadwrn am 10:00 Mehefin 22 | Awst 17

Galw Heibio ar Nos Iau am 16:00 Ebrill 4


DYDD SADWRN

EBRILL

6

10:00 - 4:30


BYDDWCH YN BENSAER AM Y DYDD! Dewch i gael blas ar sut brofiad yw bod yn Bensaer yn y sesiwn diwrnod addysgiadol ac ymarferol hwn sy’n cael ei gynnal gan Gymdeithas Brenhinol Penseiri Cymru.

Gŵyl Bensaernïaeth Cymru 2019


RHAGLEN 10:15 Cofrestru: Adeilad IQ 10:30 Croeso ac amlinelliad o raglen y diwrnod: Stiwdio 210 10:45 Croeso ac amlinelliad o raglen y diwrnod: Stiwdio 210 11:15 Beth a gewch chi gan addysg mewn Pensaernïaeth? * Pensaernïaeth a Dylunio * Pensaernïaeth ac Adeiladu * Pensaernïaeth a Busnes 11:45 Egwyl am Goffi 12:15 Malws Sbageti: gweithgaredd grŵp llawn hwyl i archwilio dylunio strwythurol gyda Gavin Traylor 13:00 Cinio

Mae’r digwyddiad yma’n rhad ac am ddim, ond gallwch gadw lle drwy roi eich manylion i Mr Ryan Stuckey mewn e-Bost: r.stuckey@uwtsd.ac.uk


13:30 Grŵp Gweithdy Un: Yr Arhosfan Bysiau Gostyngedig Grŵp Gweithdy Dau: Y Cwt Traeth Gweithdy Tri: Y Ciosg Coffi Gan weithio mewn grwpiau, byddwch yn ystyried eich dyluniad ar gyfer gweithfa newydd. Byddwch yn gweithio gyda’n penseiri gwirfoddol i greu a dylunio a chyflwyno eich canfyddiadau ar y diwedd. 16:00 Adolygu Gwaith: bydd pob gweithdy’n dod at ei gilydd i ystyried y canlyniadau ac arddangos gwaith. 16:30 Diwedd y Dydd


LLUN - GWENER

EBRILL

1-4 11:00 - 13:00


Gŵyl Ddysgu Abertawe yn y Swigen Greadigol Bydd y Swigen Greadigol yn cymryd rhan yng Ngŵyl Ddysgu Abertawe trwy agor ei drysau i gynnal cyfres o weithdai cyfeillgar AM DDIM dan arweiniad staff a myfyrwyr y Drindod Dewi Sant. Mae’r Swigen Greadigol yn fenter gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac AGB Abertawe sy’n annog myfyrwyr i roi cynnig ar syniadau a phrosiectau creadigol. Mae hefyd yn rhywle lle gallan nhw rannu eu gwaith gyda’r cyhoedd. Mae pob un o’r gweithdai a restrir isod am ddim (darperir deunyddiau) a gall pobl gofrestru trwy anfon e-bost at lucy.beddall@uwtsd.ac.uk Maent yn addas i ddechreuwyr ac yn agored i bawb. Lleolir y Swigen Greadigol yn: 13 Cradock Stryd Abertawe SA1 3EW Gofynnir i chi gyrraedd 5 munud cyn amser cychwyn y gweithdy.


GWEITHDAI'R SWIGEN GREADIGOL Gweithdy darlunio gwisgoedd gydag Aidan Biddiscombe 11am - 1pm, dydd Llun 1 Ebrill Gweithdy creu cylchgrawn a bathodynnau gyda Natasha John 11am - 1pm, dydd Mawrth 2 Ebrill Gweithdy nwyddau ymolchi ecogyfeillgar gyda Danielle Charles 11am - 1pm, dydd Mercher 3 Ebrill Dylunio gwisgoedd cynaliadwy eich hunan gyda Zoe Murphy a Keeley-Shay Jarvis 10am - 3pm, Dydd Iau 4 Ebrill


Rhowch gynnig ar... Ysgol Gelf Sadwrn yng Ngholeg Celf Abertawe YDDS Mae ein Hysgol Gelf Sadwrn rhad ac am ddim ar gyfer artistiaid ifanc, rhwng 14-18 oed, sy’n llawn dyhead ac yn datblygu. 4ydd Mai – 1af Mehefin ac 8fed Mehefin – 6ed Gorffennaf Wedi’ch addysgu gan arbenigwyr yn eu maes fe gewch gyfle i archwilio a datblygu eich creadigrwydd tu allan i’r ysgol. Bydd y sesiynau’n galluogi ichi archwilio ein cyfleusterau arbenigol gan eich galluogi i ddatblygu’ch portffolio. Gellir defnyddio’r holl waith a gynhyrchir ar gyfer portffolios TGAU/Safon Uwch. Darperir yr holl ddeunyddiau. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, os bydd gennych unrhyw gwestiwn, neu i gadw lle cysylltwch â: amanda.roberts@uwtsd.ac.uk www.uwtsd.ac.uk/art-design/saturday-art-school/


Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Diwrnodau Agored a Diwrnodau Ymweld gwybodaeth@pcydds.ac.uk Abertawe

Caerfyrddin

Llambed

22 Mehefin 2019 17 Awst 2019 14 Medi 2019 26 Hydref 2019 30 Tachwedd 2019 8 Chwefror 2020 27 Mehefin 2020

6 Gorffennaf 2019 17 Awst 2019 7 Medi 2019 9 Tachwedd 2019 1 Chwefror 2020 20 Mehefin 2020

29 Mehefin 2019 17 Awst 2019 7 Medi 2019 9 Tachwedd 2019 25 Ionawr 2020 20 Mehefin 2020

www.uwtsd.ac.uk/cy/ymweld/





WWW.UWTSD.AC.UK/GROW


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.