#oAddysgiAstudiaeth

Page 1

#O Addysg i Astudiaeth


#O Addysg i Astudiaeth


Rydym yn falch o’r hyn mae ein myfyrwyr yn ei gyflawni gyda ni ac o’r hyn y maent yn mynd yn ei flaen i’w wneud ar ôl graddio, felly rydym wedi casglu rhai o’u straeon, a rhywfaint o ddata cyflogaeth, i’w rhannu gyda chi. Yma, cewch raddedigion ysgol gelf sydd wedi ennill Oscars a dylunwyr cynnyrch arloesol, beirdd cyhoeddedig ac arbenigwyr peirianneg sydd ar lwybr carlam i lwyddiant. Mae cyn-fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant yn gwneud gwahaniaeth mewn llawer o feysydd, o addysgu a gwaith ieuenctid i fusnes, chwaraeon, y celfyddydau, iechyd, addysg uwch a mwy. Mae ein cyn-fyfyrwyr yn siarad am y ffordd yr helpodd y cymorth a gawsant gyda’u gyrfaoedd. Yn ogystal â darparu amgylchedd sy’n meithrin, mae’r brifysgol yn gosod cyflogadwyedd yn rhan annatod o’i chyrsiau, yn gwahodd cyflogwyr i mewn ac yn anfon myfyrwyr ar interniaethau er mwyn eu paratoi mewn ffordd ymarferol at fyd gwaith ochr yn ochr â’u hastudiaethau academaidd. Mae ein hymagwedd ddeinamig ac arloesol yn cynnwys Dylunio Bywyd, rhaglen pedwar cam sy’n eich helpu i wneud yn fawr o’ch amser yn y brifysgol ac i wneud yn siŵr eich bod yn barod am fywyd mewn byd sy’n newid yn gyflym. Mae’r Drindod Dewi Sant yn cynnig ystod o gyfleoedd i gyfoethogi entrepreneuriaeth a chyflogadwyedd drwy weithio gyda chyflogwyr a sefydliadau cymunedol i ddatblygu sgiliau sydd eu hangen i weithio’n hunangyflogedig neu i weithio mewn busnes. Yn ogystal, mae llawer o’n cyrsiau academaidd yn cynnwys elfennau o ddysgu seiliedig ar waith neu brosiectau byw. Rydym yn rhannu straeon ein graddedigion o dan #OAstudiaethiGyflogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol. Dewiswch astudio gyda ni yn Y Drindod Dewi Sant a byddwn yn edrych ymlaen at glywed eich un chi.


GRADDEDIGION

CYFLOGADWY

Roedd

Roedd

95% o

100% o

YDDS

YDDS

mewn gwaith a/neu

mewn gwaith a/neu

astudiaethau pellach

astudiaethau pellach

chwe mis ar ôl iddynt raddio.

Ffynhonnell: DLHE 2015/16

chwe mis ar ôl iddynt raddio.


BETH MAE YN EI WNEUD NAWR? Ymhlith y cyflogwyr, mae: • British Airways • British Telecom • Heddlu Dyfed Powys • Jaguar Land Rover • Y Weinyddiaeth Amddiffyn • Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth • NPT Homes • Brains Brewery • Dŵr Cymru • Tata Steel • Gwasanaeth Carchardai EM

• Days Motor Group • Swyddfa Llundain y Bathdy • Ford Motor Company • Enterprise Rent-a-Car • Tesco • Gwasanaeth Ambiwlans y De Orllewin • DW Fitness • Cyngor Sir Gâr • Gwasanaethau Archeolegol Prifysgol Leicester


PRIFYSGOL ENTREPRENEURAIDD Mae’r Drindod Dewi Sant yn cynnig cyrsiau sy’n datblygu sgiliau entrepreneuraidd a chreadigol, gan alluogi myfyrwyr i gael y cyfleoedd gorau i gael swyddi a chyfrannu at ffyniant eu cymunedau lleol.

Dechreuodd

88

YDDS

YDDS

fusnes yn 2015/16.

yn 3ydd yn y

DU am nifer y busnesau gweithredol a ddechreuwyd gan raddedigion yn 2015/16,

sef 567.

Ffynhonnell: Arolwg Rhyngweithio Busnes a Chymuned AU 2015/16.


INTERNIAETHAU DIWEDDAR • Brain Associates Ltd – marchnata a gweithgynhyrchu • Engineering Education Scheme Wales – dylunio • Red Dragon Flagmakers – marchnata a gwaith peiriant gwnïo • Dezrez – dylunio a marchnata • Jane Systems Ltd – interniaeth marchnata • IndyCube – Dylunydd Amlgyfrwng • Business in Focus – rheoli digwyddiadau • SureView Systems – Peiriannydd SA Iau • H&M • Hallmark

Mae’r Drindod Dewi Sant yn cynnig Bwrsariaeth Interniaeth hyd at £1,000 ar gyfer 2017/18, sydd ar gael i fyfyrwyr israddedig llawn amser sy’n dymuno cael profiad gwaith ychwanegol, perthnasol gyda chwmni/grŵp nad ydynt yn gallu cynnig swydd â chyflog.


Abertawe



Abertawe

Roedd

96%

o fyfyrwyr

Abertawe

YDDS

mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl iddynt raddio.

Ffynhonnell: DLHE 2015/16


BETH MAE YN EI WNEUD NAWR? Ymhlith y swyddi a’r cyflogwyr, mae: • Delweddwr 3D yn I-Create • Criw Caban gyda British Airways • Swyddog Carchar yng Ngwasanaeth Carchardai EM • Nyrs Iechyd Galwedigaethol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bro Morgannwg • Uwch Weithiwr Cymorth Iechyd Meddwl yn ERA Living Solutions • Cydlynydd Marchnata yn Days Motor Group • Paragyfreithiwr yn BDE Law • Cynorthwyydd Ymgysylltu yn Deloitte • Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus, Digwyddiadau a Chyfryngau Cymdeithasol yn Swyddfa Bathdy Llundain • Hyfforddwr Chwaraeon i’r Urdd

• Peiriannydd Trydanol Graddedig gyda Dŵr Cymru • Crefftwr Cynnal a Chadw Mecanyddol yn Ford Motor Company • Peiriannydd Offer a Logisteg yn Oceaneering (SIS Swansea) • Peiriannydd Cydran Siasi yn Jaguar Land Rover • Hyfforddai Rheoli yn Enterprise Rent-a-Car • Rheolwr Dadansoddi Cymhleth i British Telecom • Syrfëwr Meintiau yn Morgan Sindall Property Services • Datblygwr y We yn Waters Creative • Heddwas gyda Heddlu Dyfed Powys


Elliott Hawkins BA Dylunio Modurol Dyluniodd Elliott Hawkins, a raddio o’r cwrs Dylunio Modurol, pod di-yrrwr cyntaf y DU. Elliott, a raddiodd o’r Drindod Dewi Sant yn 2007, yw Prif Ddylunydd RDM Group, yng Nghofentri, sy’n arbenigo mewn dylunio a gweithgynhyrchu cerbydau awtonomaidd. Mae’r rôl yn cynnwys popeth o ddylunio gweddau mewnol ac allanol y podiau, i ddyluniad gyriant yr olwynion a’r pecyn batri.

Rydw i’n dal i argymell Y Drindod Dewi Sant i bobl fel lle ffantastig i astudio, yn arbennig myfyrwyr sy’n dyheu i fod yn ddylunwyr cerbydau. Nid dim ond safon yr addysgu a roddodd y darlithwyr oedd yn wych ond hefyd yr amser oedd ganddynt ar gyfer pob myfyriwr. Rydw i’n dal i dynnu ar eu hangerdd, creadigrwydd a phrofiad yn feunyddiol. Yr hyn sydd wedi aros yn y cof am Y Drindod Dewi Sant yw nad oedd yn teimlo eich bod yn astudio mewn sefydliad mawr, diwyneb, ond yn hytrach, roedd yn teimlo fel teulu.


Hannah Johnson BA Seicoleg a Chwnsela Blwyddyn graddio: 2014 Pam wnes di ddewis astudio’r pwnc yma? Rydw i wedi ymddiddori mewn pobl erioed ac roeddwn yn gwybod bod arna’i eisiau swydd a fyddai’n fy ngalluogi i helpu pobl yn y pen draw. Gan fy mod wedi astudio seicoleg yn y coleg, roeddwn yn gwybod bod gen i ddiddordeb ynddo felly penderfynais wneud gradd anrhydedd gyfun gyda chwnsela i ddysgu am yr alwedigaeth a gweld sut y gallai’r ddau weithio gyda’i gilydd. Beth oedd y peth gorau am y rhaglen? Mae’n anodd dewis un peth oherwydd rwy’n credu bod yna nifer o bethau wedi dod at ei gilydd yn y pen draw i wneud fy mhrofiad yn un gwych. Rwy’n credu bod gwir arbenigedd fy nhiwtoriaid, ynghyd â charfan fach (neu llai na’r arfer) o gymheiriaid yn golygu fy mod wedi cael digon o amser un i un. Fodd bynnag, roedd y cyfuniad o ddau bwnc, ac yna’r ffaith eich bod yn astudio cymaint o ddisgyblaethau seicolegol a therapiwtig o fewn pob un, wedi fy ngalluogi i gael dealltwriaeth eang o ddau faes astudio gwahanol. Ers i mi adael, mae’r amrywiaeth hwn wedi fy ngalluogi i fynd i’r afael â gwahanol roliau o fewn y busnes rwy’n gweithio ynddo. Dywed wrtha’i am dy swydd. Cefais fy mhenodi yn Gyfarwyddwraig yn Carter Corson yn y Gwanwyn 2017 yn dilyn ymlaen o’m rôl blaenorol fel Seicolegydd. Rydym yn ymgynghoriaeth o seicolegwyr busnes sy’n gweithio gyda phob math o wahanol fathau a meintiau o fusnes i’w helpu i wella perfformiad eu sefydliad drwy eu pobl – rydym yn defnyddio ein dealltwriaeth a’n harbenigedd o fewn seicoleg a busnes i helpu pobl i fod cystal â phosibl yn y gweithle. I wneud hynny, efallai y byddwn yn darparu hyfforddiant un i un, neu’n gweithio gyda thîm o reolwyr i ddatblygu eu harddull gyfathrebu a sgiliau rheoli, efallai yr awn ni’n nôl i’r cychwyn cyntaf un a helpu sefydliadau i recriwtio’r bobl orau posibl drwy ddefnyddio asesiadau a seicometreg pwrpasol. Mae fy rôl i yn cynnwys dylunio a darparu ar draws yr holl feysydd hyn ac rwyf bellach hefyd yn ffocysu ar ddatblygiad digidol y busnes a sut y gallwn ymestyn ein cefnogaeth i fusnesau a chydweithwyr drwy gyd-destun a meddalwedd ar-lein. Beth yw dy gyngor i rywun sydd â diddordeb mewn astudio dy gwrs? Gwnewch yn siŵr bod gennych wir ddiddordeb ynddo a chariad ato – mae tair blynedd yn amser hir i weithio, ymchwilio, archwilio ac astudio os nad yw eich pwnc wir o ddiddordeb i chi. Os ydych yn siŵr, ewch amdani – a thaflwch eich hun i mewn iddo, camwch allan o’ch fan cysurus ac ymdrechwch i’r eithaf cewch eich gwobrwyo yn y diwedd.


Mathew Boyle BA Dylunio Graffig

Nid oes dim amheuaeth gennyf fod astudio yn Abertawe wedi fy helpu i gyrraedd fy mhotensial llawn fel Dylunydd Graffig. Ymestynnodd y theori a addysgwyd i mi fy nealltwriaeth o ddylunio, gwthiodd y gwaith fy nghreadigrwydd mewn ffyrdd newydd a diddorol, ac roedd y darlithwyr yn eich annog ac yn graff, gan fynd y tu hwnt i’r galw i’ch helpu pan oedd angen. Os ydych chi’n ystyried gyrfa mewn dylunio graffig, ni allaf argymell unman gwell.


Sarah Chappell-Smith BEng Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu Mae gan Sarah CV sylweddol – roedd hi’n gweithio i gorfforaeth rhyngwladol Americanaidd wrth gwblhau blwyddyn olaf ei gradd. I gychwyn, cynigiwyd lleoliad haf i Sarah gan Perkin Elmer, gweithgynhyrchwr mwyaf y byd o offer gwyddonol dadansoddol ar gyfer diagnosis meddygol, dadansoddi gwyddonol a gallu cynnyrch, yn ystod ei hail flwyddyn, ond fe wnaeth waith Sarah argraff mor dda ar ei rheolwyr eu bod wedi ymestyn y lleoliad nes iddi raddio.

Mae gweithio gyda chwmni rhyngwladol wedi bod yn brofiad anhygoel. Ni freuddwydiais i fyth y buaswn yn cael profiad mor wych wrth astudio fy ngradd. Mae’r gefnogaeth rwyf wedi’i chael gan ddarlithwyr Y Drindod Dewi Sant a staff Perkin Elmer wedi bod yn anhygoel. Buaswn yn argymell y cwrs hwn yn gryf i unrhyw ddarpar fyfyrwyr.


Keira Gwynn BA & MA Dylunio Cynnyrch Helpodd Keira Gwynn, un o raddedigion y Brifysgol, i roi gwên ar wyneb geneth fach drwy greu cadair arbennig sy’n galluogi i Evie eistedd, chwarae a bwyta wrth ochr ei theulu a’i ffrindiau ysgol. Cafodd Evie ddiagnosis o barlys yr ymennydd, parlys pedwarplyg sbastig pan yn bedwar mis oed. Mae’n effeithio ar ei hochr dde ac nid yw’n gallu eistedd yn annibynnol heb gwympo drosodd, sy’n cnocio ei hyder ac yn peri gofid iddi. Ond diolch i gynnyrch o’r enw ‘The Scallop’, cadair a ddyluniwyd ac a ddatblygwyd gan Keira gyda chyflenwr arbenigol R82, gall Evie nawr chwarae’n hapus wrth ochr ei siblingiaid a’i chyfoedion. Cwmni yn Nenmarc yw R82, ac mae’n cynhyrchu cymhorthion ansawdd uchel arbenigol i blant ac arddegwyr sydd ag anableddau ar draws y byd. Dywedodd Keira bod astudio dylunio cynnyrch yn Y Drindod Dewi Sant wedi ei haddysgu i gasglu ymchwil, a’i ddadansoddi a’i ddefnyddio’n greadigol i ddatrys problemau bywyd go iawn: “Galluogodd y sgiliau hyn i mi greu cynnyrch sydd nid yn unig yn datrys problem i un teulu penodol, ond i lawer o deuluoedd.”


Daniel Williams, Ryan Morgan a Jens Hansen Ffilm a Chyfryngau Digidol

Dywed Daniel Williams, Ryan Morgan a Jens Hansen, graddedigion Ffilm a Chyfryngau Digidol y Drindod Dewi Sant, sy’n rhan o dîm y rhoddwyd iddynt Oscar am eu gwaith anhygoel ar ‘Jungle Book’, bod eu hamser yn y Brifysgol wedi bod yn fan cychwyn perffaith ar gyfer gyrfa gyffrous yn y diwydiant arbenigol. Mae’r tri bellach yn gweithio i MPC (‘Moving Picture Company’) - un o gyfleusterau ôl-gynhyrchu mwyaf blaenllaw’r byd yn creu effeithiau gweledol digidol o’r radd flaenaf ar gyfer y diwydiannau teledu a ffilm.


Lee Woodman MSc e-fasnach Graddiodd Lee Woodman o’r MSc e-fasnach (Technoleg) yn 2008 a bellach mae’n Gyfarwyddwr Rheoli i Visit Digital Ltd. Yn fyr, a elli di ddisgrifo’r sefydliad rwyt yn gweithio iddo? Mae Visit Digital Ltd yn adeiladu meddalwedd i’r diwydiant twristiaeth. Rydym yn rhoi set o offer yn nwylo timau marchnata trefi a dinasoedd sy’n eu galluogi i gyrraedd cynulleidfa fyd-eang gyda’r bwriad o gynyddu ymwelwyr. Beth yw teitl a rôl dy swydd? Cyfarwyddwr Rheoli – rwy’n goruchwylio’r gweithrediadau o ddydd i ddydd yn Visit Digital Ltd. Fy mhrif rôl yw helpu tîm bach o ddatblygwyr a dylunwyr i gyflwyno platfform twristiaeth arloesol ar blatfform Drupal 7. Pa fodylau sy’n fwyaf defnyddiol i ti wrth dy waith? Rhaglennu – er fy mod yn raglennwr cymwys, rwyf wedi addysgu fy hun felly neidiais dros y dair bennod gyntaf yn y rhan fwyaf o lyfrau wrth i mi ddysgu am y tro cyntaf. Cymerodd y modylau rhaglennu fi’n ôl i’r cychwyn ac yn syth, cafodd rhai bylchau yn fy ngwybodaeth eu llenwi. Wyt ti’n gweld dy fod yn defnyddio’r sgiliau trosglwyddadwy a ddatblygaist yn y Brifysgol? Nid oedd cyflwyniadau yn un o’m cryfderau, ond roedd gorfod eu gwneud nhw’n rheolaidd yn y brifysgol wedi golygu nad ydyn nhw’n fy mhoeni mwyach wrth orfod eu gwneud ar lefel bwrdd yn Llundain.


Martin Stevenson Astudiaethau Cwnsela a Seicoleg Blwyddyn graddio: 2013 Pam wnes di ddewis astudio’r pwnc yma? Enynnais wir ddiddordeb mewn seicoleg wrth wneud fy Lefel A ac roedd arna’i eisiau parhau â’r pwnc wedyn. Roeddwn wedi gweld llawer o gyrsiau oedd yn cynnig seicoleg yn unig ond heb weld un cwnsela a seicoleg. Penderfynais fynd am y cwrs hwn am ei fod yn ffordd o fynd yn bellach gyda seicoleg, gan ddysgu sut i’w gymhwyso i gwnsela ac, yn fy meddwl i, roedd gradd anrhydedd gyfun yn edrych yn well. Beth oedd y peth gorau am y cwrs? I mi, maint y cwrs. Gan ei bod yn brifysgol fach dim ond tua 70 o bobl oedd yn y dosbarth. Mae hyn yn swnio’n lot ond o gymharu ag Abertawe/Caerdydd, mae’n gymharol fach. Golyga hyn eich bod yn dod i adnabod eich cymheiriaid yn well, y cewch chi fwy o gefnogaeth gan y darlithwyr ac y gallwch wneud yn fawr ar gyfleoedd gwell. Roedd dosbarth llai yn golygu eich bod yn dod i adnabod y darlithwyr yn well ac o ganlyniad buodd yn bosibl i mi gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil cymhwysol, mynd i gynadleddau myfyrwyr a gwneud pethau anhygoel na fyddent efallai wedi digwydd yn rhywle arall. Dywed wrtha’i am dy swydd. Rwy’n ymarferwr lles gyda Rhaglen Byw Bywyd yn Dda Bwrdd Iechyd PABM. Fy swydd i yw darparu ymyraethau seicolegol dwysedd isel i bobl â phroblemau iechyd meddwl cyffredin, fel gorbryder ac iselder, trwy gyrsiau mynediad agored fel Rheoli Straen ac ‘ACTivate your Life’. Rydym yn dîm bach, ond mae gan bawb lawer o brofiad o holl wahanol feysydd seicoleg. Mae gennym hefyd seicolegydd goruchwyliol sy’n ein hannog i gymryd rhan mewn unrhyw beth y gallwn. Ers bod yn y swydd hon, nid yn unig rwyf wedi bod yn cyflwyno cyrsiau, ond rwyf hefyd wedi gallu gweithio gyda therapyddion a’u cleientiaid yn y tîm iechyd meddwl cynradd. Rwy’n cymryd rhan mewn ymchwil cymhwysol ac ar hyn o bryd yn datblygu fy nghyrsiau fy hun i gefnogi pobl ifanc a hyrwyddo hunanofal i ofalwyr. Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i rywun sydd â diddordeb mewn astudio dy gwrs? Mae’n gwrs da iawn sy’n rhoi trosolwg da ichi o gwnsela a seicoleg, sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn y gwahanol feysydd o waith seicoleg ac iechyd meddwl rydw i’n gweithio. Y cyngor gorau y gallwn ei roi i unrhyw un sy’n ystyried gyrfa mewn seicoleg yw cymryd rhan cymaint ag y gallwch. Mae’n faes cystadleuol iawn, yn arbennig meysydd sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl, felly cadwch lygad allan am gyfleoedd sy’n codi yn y brifysgol yn ogystal â thu allan iddi.


Kirsty Young BSc Rheolaeth Chwaraeon Modurol Mae Kirsty bellach wedi’i lleoli yng Nghanolfan Arloesi Silverstone, yn gweithio i CMA Marketing. Mae CMA Marketing yn arbenigo mewn marchnata chwaraeon modurol a chwmnïau peirianneg perfformiad uchel (yn bennaf ar gyfer gweithgynhyrchwyr cydrannau) fel Xtrac Transmissions, Lifeline Fire and Safety Systems a busnesau tebyg eraill. Beth yw’r peth gorau am dy swydd? Nid oes dau ddiwrnod yr un fath. Mae’n ddiwydiant cyffrous/pwysau uchel sy’n newid yn gyson fel bod rhaid i chi wybod yr holl ddatblygiadau a newidiadau technolegol diweddaraf, sy’n fy nghadw ar flaenau fy nhraed. Beth oedd y peth gorau am dy gwrs? Roedd nifer o agweddau a wnaeth y cwrs yn arbennig. Yn gyntaf, roedd o’n gwrs bach felly fe gawsom well profiad dysgu a mwy o amser gyda’r darlithwyr, sydd bob tro’n beth da. Cawsom ein hannog i weithio ar weithgareddau/prosiectau allgyrsiol gyda’r peirianwyr yn y gweithdy a roddodd i mi syniad o amgylchedd gwaith go iawn yn y diwydiant. Hefyd, roedd gan y cwrs gysylltiadau ardderchog gyda’r diwydiant. Bu imi gwrdd â fy nghyflogwr presennol a chefais gynnig fy swydd pan oeddwn yn y flwyddyn gyntaf yn y brifysgol a theimlaf y byddai wedi bod yn llawer mwy anodd dod o hyd i waith, pe bawn i wedi bod mewn prifysgol arall.


Harley Gasson BEng Peirianneg Chwaraeon Moduro Cyflogir Harley Gasson gan McLaren ac mae’n gyfrifol am systemau ‘cranktrain’, ‘valvetrain’ a systemau eraill yr injan V8 ar ei holl weddau, sy’n gyrru ystod o gerbydau McLaren Automotives. Pa fodylau fuodd o’r help mwyaf i ti? Mae fy holl nodiadau egwyddorion mecanyddol, peirianneg a dylunio injan o’r brifysgol o dan fy nesg yn y gwaith. Does dim yn gallu cymryd eu lle, ac maent wedi bod yn help cyson wrth ddylunio cydrannau ar gyfer injans McLaren. Beth oedd y peth gorau am dy gwrs? Y peth gorau am y cwrs oedd yr ymagwedd ymarferol a chael y rhyddid i fod yn rhan o weithgareddau chwaraeon modurol allgyrsiol. Am ddwy flynedd fi oedd Prif Beiriannydd tîm Formula 4 y Brifysgol, defnyddiais yr injan o’r car hwn ar gyfer fy nhraethawd hir gan ffocysu ar berfformiad y pen-silindr a deinameg y ‘valvetrain’. Cyflwynodd y Brifysgol addysg ar lefel bersonol gyda dosbarthiadau bychain lle’r oedd y staff y gwybod eich enw ac yn ymwybodol o alluoedd pob myfyriwr ac o’r agweddau y gallent wella arnynt.


Abi Lewis BSc ac MSc Cadwraeth Amgylcheddol Graddiodd Abi Lewis o’r cyrsiau BSc ac MSc Cadwraeth Amgylcheddol ac nawr mae hi’n Rheolwr Datblygu Busnes i Hydro Industries. Beth yw’r peth gorau am y cyrsiau? Roedd dysgu mwy am wyddor bywyd yn ogystal â’r amgylchedd yn ddiddorol iawn. Dysgais bopeth o ochr cemeg a bioleg pethau i wyddor yr amgylchedd arfordirol. Dysgais lawer am ddŵr. Y bobl, yr athrawon a’r darlithwyr. Doedd o ddim yn teimlo fel fy mod i mewn sefydliad i wneud dim byd ond dysgu – roedd yr amgylchedd yn llawn hwyl, ac roedden nhw’n ei wneud yn hwyl i’r myfyrwyr. Aethom i’r Gŵyr, Bae Abertawe a Bae Oxwich. Ar gyfer geomorffoleg arfordirol, mae ein harfordir ymhlith y gorau yn y byd, felly roedd gallu astudio’r arfodir hwnnw a mynd allan i’r ardal leol a’i gweld hi yn ffantastig. Abertawe yw fy nhref enedigol, felly roedd gallu astudio cwrs rwy’n ei garu yn fy nhref enedigol yn wych i mi. Arhosais yn agos i’m teulu a ffrindiau a gwneud ffrindiau newydd rwy’n dal i fod mewn cysylltiad â nhw nawr.


Victoria Williams BA Drama Gymhwysol Blwyddyn Graddio: 2016 Beth oedd y peth gorau am y cwrs? Uchafbwynt i fi oedd pan oeddwn yn rhedeg gweithdai mewn ysgol yn ystod fy ail flwyddyn, ac roedd yna eneth fach roedd yr athrawon wedi fy rhybuddio amdani. Fe ddwedon nhw nad oedd hi’n siarad nac yn cymryd rhan mewn dim. Yn ystod y gweithdai drama fe wnaeth hi gymryd rhan ynddynt ac erbyn y diwedd fe siaradodd – dywedodd ei henw’n uchel – a oedd yn beth enfawr iddi hi. Fe wnaeth gweld hynny i mi sylwi pa mor rymus yw drama a’r gwaith a wnawn i fagu hyder a newid bywydau, ac fe gadarnhaodd i mi – ‘Ie, dyma rydw i eisiau ei wneud!’. Dywed wrtha’i am dy swydd? Rydw i wedi dechrau gweithio fel Gweithiwr Celfyddydau Ieuenctid i Valley Kids (Artwork). Elusen yw Valley Kids sy’n cefnogi unigolion a chymunedau agored i niwed drwy waith chwarae, gwaith ieuenctid, gwaith celf a datblygu cymuned. Mae’r tîm Artworks yn archwilio drama, theatr, cerddoriaeth, dawns a ffilm i bobl ifanc o 8 i 25 oed gan fynd i’r afael â materion sy’n wynebu pobl ifanc ar draws ardal Valley Kids.


Roxanne Preece BA Rheolaeth Chwaraeon Blwyddyn Graddio: 2015 Pam wnes di ddewis y pwnc yma? Dewisais astudio Rheolaeth Chwaraeon oherwydd fy mod wedi ymddiddori mewn amrywiaeth o chwaraeon erioed. Er nad ydw i’n cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon fy hun, rwyf wedi ymddiddori mewn digwyddiadau chwaraeon a datblygu rhaglenni chwaraeon erioed. Beth oedd y peth gorau am y rhaglen? Y peth gorau am y rhaglen, yn bendant, oedd y lleoliad seiliedig ar waith yn yr ail flwyddyn. Nid yn unig mae hwn yn rhoi’r cyfle i chi ddefnyddio’r wybodaeth rydych wedi’i chael o’r brifysgol, ond mae’n rhoi cyfle ichi hefyd gael profiad gwaith gwerthfawr a gwneud cysylltiadau ar gyfer y dyfodol. Dywed wrtha’i am dy swydd. Rwyf wedi gweithio o’r blaen i Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Pêl-droed Cymru. Yn y ddwy swydd yma, bues yn ddigon ffodus i weithio ar nifer o raglenni a theithiais i Fanceinion, San Marino, Gwlad Belg a Ffrainc. Ar hyn o bryd, rwy’n cael fy nghyflogi gan sefydliad teithiau chwaraeon o’r enw Inspire Sport. Mae Inspire Sport yn cynllunio a threfnu amrywiaeth o deithiau chwaraeon ar gyfer pob grŵp ac oedran ar draws y byd. Rwy’n cynrychioli’r cwmni ac yn mynychu teithiau gydag ein cwsmeriaid. Yn ddiweddar, bues yn ddigon ffodus i dreulio wyth diwrnod yn Manchester City FC a gyda Gleision Caerdydd.


Pa gyngor a fyddet ti’n ei roi i rywun sydd â diddordeb mewn astudio dy gwrs? Fy nghyngor i unrhyw un sydd â diddordeb mewn astudio Rheolaeth Chwaraeon fyddai i wneud yn siŵr eu bod yn ymchwilio a chael lleoliad o fewn y sector chwaraeon a fydd nid yn unig yn llesol i’w graddau yn y brifysgol, ond a fydd hefyd yn eu helpu i gael y profiad gwaith gwerthfawr hwnnw y mae llawer o sefydliadau’n gofyn amdano wrth chwilio am weithwyr. Heb os, mae cael y profiad hwn yn helpu eich hunanhyder wrth wneud cais am swyddi ac yn helpu i’ch CV sefyll allan.


Dan Hawkes BSc Technoleg Gwybodaeth Busnes Astudiodd Daniel fel myfyriwr rhan amser wrth iddo weithio, gan raddio yn 2016. Nawr, mae’n Reolwr Dadansoddi Cymhleth i BT, yn edrych ar ddata mawr a dealltwriaeth busnes.

Roedd gen i rôl dechnegol gyda BT yn barod, ond roedd angen rhagor o wybodaeth a theori busnes arna’i. Mae’r BSc Technoleg Gwybodaeth Busnes yn eich helpu o safbwynt corfforaethol am fod ganddo falans da rhwng data a busnes. Ni fyddwn i yma heb wneud y radd a fy swydd ill dau. Roeddynt yn mynd law yn llaw. Mae’r radd yn eich helpu i fod yn barod ar gyfer y dyfodol oherwydd ei fod yn rhoi ichi ddealltwriaeth gynhwysfawr o’r ffordd mae busnesau’n gweithredu. Mae darlithwyr yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yn ffantastig – buaswn yn argymell y cwrs, y brifysgol, popeth.


Jermayne Pryce BA Rheolaeth Busnes Goresgynnodd Jermayne Pryce, un o’n graddedigion Rheolaeth Busnes, ddyslecsia i dderbyn swydd gyda’r Berkeley Group yn Dubai. Hedfanodd Jermayne i Dubai ym mis Mehefin 2017 i ddechrau swydd fel Rheolwr Datblygu Busnes. Cafodd ddiagnosis dyslecsia yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn Y Drindod Dewi Sant, a diolchodd i staff y Brifysgol am ei gefnogi a’i dywys drwy ei astudiaethau. “Rydw i wedi cael cymorth ymarferol mor wych drwy gydol fy amser yma,” meddai Jermayne. “Dechreuodd gyda fy niagnosis ac mae’r cymorth wedi parhau drwy gydol fy astudiaethau. Ni allaf ddiolch ddigon i fy nhiwtoriaid a’m gweithiwr cymorth, Hannah John, roedd rhywun ar gael i’m helpu o hyd. Wrth gwrs, fe fuodd yn anodd ofnadwy ar brydiau, ond cefais fy annog i ddyfalbarhau. Ac rwyf mor falch i mi wneud! Rwy’n edrych ymlaen yn ofnadwy at deithio i weithio yn Dubai ac yn teimlo bod y byd i gyd o ‘mlaen i.”

Teithiais i Lundain ar gyfer y cyfweliad gyda Berkeley Group ac roeddwn yn bles iawn pan gefais y swydd. Mae fy nheulu mor falch ohonof. Buaswn yn dweud wrth eraill yn yr un sefyllfa â fi gyda dyslecsia i beidio â rhoi’r ffidil yn y to, waeth pa mor galed bydd pethau, oherwydd os byddwch yn gweithio’n galed ac yn ymrwymo i’ch cwrs a chael cymorth ymarferol da, mae gyrfa dda o fewn eich cyrraedd.


Maria Woodman-Smith BA (Anrh) Cwnsela a Seicoleg Blwyddyn graddio: 2013 Pam wnes di ddewis astudio’r pwnc yma? Dim ond ar ddiwedd un fy lefel A y gwnes i benderfynu fy mod eisiau gwneud seicoleg (ni wnes i Lefel A seicoleg). Datblygais ddiddordeb aruthrol yn y meddwl dynol pan oeddwn yn straffaglu gydag arholiadau a phenderfyniadau mawr eraill yr oedd angen eu gwneud o gwmpas y cyfnod hwn. Beth oedd y peth gorau am y cwrs? I mi, y ffaith bod y darlithwyr yn hawdd siarad â nhw oedd un o’r pethau gorau am y rhaglen. Os oeddech chi’n straffaglu gydag unrhyw beth personol neu a oedd yn ymwneud â’r cwrs, roeddynt ar gael bob tro i’ch helpu a’ch cefnogi. Er fy mod wedi gwneud gradd anrhydedd gyfun, roedd elfennau’n gorgyffwrdd rhwng y ddau bwnc ac roedd hyn yn gwneud adolygu’n llawer mwy effeithlon. Hefyd, roeddwn mewn carfan fach (o gymharu â phrifysgolion eraill) ac fe fu hyn yn brofiad positif iawn; gallu gofyn cwestiynau mewn seminarau a chael dadleuon, yn ogystal â’r bonws ychwanegol bod darlithwyr yn gwybod eich enw. Roeddwn hefyd yn hoffi’r ffaith ein bod yn cael ein hannog i gymryd rhan mewn cynadleddau a chyflwyniadau, ac mae hyn yn sicr wedi fy helpu drwy gydol fy ngyrfa. Dywed wrtha’i am dy swydd. Ar ôl gadael, dechreuais MSc mewn Seicoleg Annormal a Chlinigol gyda Phrifysgol De Cymru ac yna es ati i gael profiad mewn lleoliadau clinigol. Gweithiais fel gofalwr, tiwtor preswyl, gweithiwr cymorth ac yna cefais fy swydd gyntaf fel Seicolegydd Cynorthwyol gyda GIG Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Ariannwyd y prosiect hwn gan Lywodraeth Cymru, gyda’r nod o leihau amseroedd aros ar gyfer diagnosis dementia. Prif nodwedd y rôl hon oedd cynnal Asesiadau Niwroseicolegol o fewn y Tîm Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn. Yna, cefais fy ail rôl fel Seicolegydd Cynorthwyol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gweithio ar wardiau Cleifion Mewnol Acíwt. Mae’r rôl yma wedi cynnwys ymyraethau therapiwtig byr dymor a sgrinio gwybyddol. Ar hyn o bryd rwy’n ymdrin â’r holl wardiau Seiciatrig Oedolion Hŷn yn ardal Gwent; Casnewydd, Cas-gwent, Pont-y-pŵl, Caerffili a Glynebwy. Ym mis Medi, byddaf yn gadael y rôl hon i ddechrau Doethuriaeth Broffesiynol mewn Seicoleg Cwnsela ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, felly byddaf yn y brifysgol am ddeuddydd yr wythnos. Ac yna O’R DIWEDD, ymhen tair blynedd byddaf yn Seicolegydd Cwnsela cymwys.


Beth oedd y peth gorau am y rhaglen? Dwi’n meddwl pe bawn i’n gallu mynd nôl a gwneud fy ngradd eto buaswn yn gwneud mwy o waith gwirfoddol ar yr un pryd oherwydd, ar ôl fy MSc, treuliais dair blynedd yn gweithio mewn llawer o wahanol leoliadau ac mewn gwirionedd, buaswn wedi gallu gwneud hynny wrth astudio. Mae llawer o feysydd o fewn seicoleg sy’n ddiddorol, a hyd yn oed os nad ydych chi wir yn gwybod beth yr hoffech ei wneud yn y dyfodol, byddwch yn siŵr o ddod o hyd i faes sy’n eich diddori. Yn ogystal, mae llawer o barch at raddau seicoleg mewn llawer o wahanol ddiwydiannau, felly bydd gennych lwyth o opsiynau pan fyddwch yn graddio.


Patrick Carton BA Dylunio Modurol Cafodd Patrick Carton, un o’n graddedigion Dylunio Modurol, ei enwi yn rhestr 30 o dan 30 Forbes ar gyfer 2017. Mae’r rhestr yn amlygu 300 o ddosbarthwyr, entrepreneuriaid ac arloeswyr ifanc o Ewrop ar draws 10 diwydiant sy’n newid y byd. Cafodd Patrick Wobr Dylunio Cerbydau Pilkington am gar hunangynhaliol sy’n gallu cynhyrchu trydan o law, gwynt a golau’r haul. Ac yntau’n gweithio i McLaren bellach, mae’n helpu i greu cynhyrchion modurol newydd ac arloesol.


Carais bob munud o fy amser yn Abertawe ac rwy’n gweld eisiau’r gymuned glos yno. Y peth rwy’n diolch amdano’r mwyaf o’r cwrs yw’r hyfforddiant un i un a gefais – dydych chi ddim yn cael hynny yn unman arall ac fe roddodd wir hwb i mi pan raddiais ac yn wir, fuaswn i ddim ble ydw i heddiw heb yr arbenigedd, amser ac ymdrech a roddodd staff y cwrs i mi.


Caerfyrddin



Caerfyrddin Roedd

98%

o fyfyrwyr

Caerfyrddin

YDDS

mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl iddynt raddio.

Ffynhonnell: DLHE 2015/16


BETH MAE YN EI WNEUD NAWR? Ymhlith y swyddi a’r cyflogwyr, mae: • Athro Drama gyda Theatre Stars • Cynorthwyydd Datblygu Creadigol ar gyfer UCAN Productions • Hyfforddai Rheoli Graddedig ar gyfer Enterprise Rent-a-Car • Swyddog Cymorth Ymddygiad ar gyfer Cyngor Sir Gâr • Gweithiwr Cymorth Cymunedol yr Heddlu i Heddlu De Cymru • Gweinyddydd Logisteg i Wasanaeth Ambiwlans y De Orllewin • Athro i Gyngor Sir Benfro • Hyfforddai Rheoli i Tesco • Hyfforddwr Personol yn DW Fitness • Swyddog Recriwtio yn Y Weinyddiaeth Amddiffyn


Sarah Phillips BA Dylunio a Chynhyrchu Theatr Blwyddyn graddio: 2012 Pam wnes di ddewis y cwrs yma? Mi ddes i i’r Drindod Dewi Sant i fod yn Artist Golygfeydd, ond dros y tair blynedd deuais o hyd i gariad at wneud propiau a gallu annisgwyl am waith rheoli llwyfan. Beth oedd y peth gorau am y cwrs? Mae gan y radd BA Dylunio a Chynhyrchu Theatr gymaint i’w gynnig gan gynnwys modylau ar theatr awyr agored a safle-benodol, a oedd yn ffefrynnau gen i. Ers graddio, rwyf wedi gweithio mewn nifer o leoedd anarferol gan gynnwys siop pasteiod a thatws stwnsh hynaf Llundain, ysgol gelf adfeiliedig a Glôb Shakespeare. Ni fuaswn wedi cael cynnig y profiadau hyn heb y profiad angenrheidiol a gefais yn ystod fy amser yn Y Drindod Dewi Sant. Dywed wrtha’i am dy swydd. Rwyf wedi cael y fraint o weithio ar lawer o gynyrchiadau gwych. Rwyf wedi bod yn Reolwr Llwyfan Cynorthwyol/Eilydd ar gyfer cynhyrchiad gan y National Theatr, a enillodd wobrau, sef ‘The Curious Incident of the Dog in the Night-Time’; Rheolwr Llwyfan Dylunio yn theatr Glôb Shakespeare; Rheolwr Cynorthwyol yn Theatr Awyr Agored Parc Regent, a Rheolwr Llwyfan ar gyfer ‘Secret Cinema’. Wrth i mi symud ymlaen o fod wedi graddio’n ddiweddar i weithio yn y West End, teimlais yn hyderus fy mod yn meddu ar y sgiliau a’r profiadau angenrheidiol i fod yn Rheolwr Llwyfan llwyddiannus, o ganlyniad i safon broffesiynol yr addysgu yn Y Drindod Dewi Sant. Mae’n gymaint o hwyl, ac mae e wedi rhoi gyrfa anhygoel i mi – un lle nad ydw i byth yn gwybod beth sydd o gwmpas y gornel!


Emma Jones BA Rheolaeth Busnes Blwyddyn graddio: 2017 Cafodd Emma gynnig swydd gyda’r ymgynghorwyr ariannol annibynnol, Thomas and Thomas Finance (IFA), yn Hwlffordd, Sir Benfro, ar ôl i’r cwmni apelio am help i ddod o hyd i ymgeisydd llwyddiannus. Ni chafwyd unrhyw lwc ar ôl chwilio am bum mis am rhywun i lenwi’r swydd, ac ysgrifennodd Darren Thomas, Cyfarwyddwr Rheoli Thomas and Thomas, mewn cyhoeddiad am ei rwystredigaeth wrth ddod o hyd i raddedigion addas a chanddynt wybodaeth arbenigol o’r alwedigaeth sy’n newid yn gyflym. Meddai Mr Thomas: “Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i’r Drindod Dewi Sant am anfon manylion Emma Jones atom. “Gwnaeth gwybodaeth Emma, a’r gwaith paratoi roedd hi wedi’i wneud ar gyfer y cyfweliadau, argraff dda iawn arnom. Mae’n amlwg ei bod yn frwdfrydig iawn ac mae’r radd a wnaeth gyda’r Drindod Dewi Sant wedi bod o fantais fawr iddi ar gyfer gyrfa mewn gwasanaethau ariannol.”

Bu imi fwynhau fy amser yn Y Drindod Dewi Sant yn fawr iawn. Dysgais lawer iawn am y pynciau sy’n gysylltiedig â byd busnes yr oes sydd ohoni ac ar gyfer y dyfodol. Hefyd, bu imi ddarganfod fy nghariad at gyllid ynghyd â meysydd busnes eraill fel cynaliadwyedd a moeseg busnes, rheolaeth strategol a rheolaeth adnoddau dynol. Rwy’n credu bod y sgiliau a gefais yn ystod fy astudiaethau, gan gynnwys datrys problemau, sgiliau dadansoddol a chymdeithasol, wedi fy helpu i gael swydd. Dim ond mis wedi i mi orffen fy ngradd bues yn ddigon ffodus i gael cynnig swydd gyda Thomas and Thomas.


Megan Williams BA Astudiaethau Crefyddol (drwy gyfrwng y Gymraeg) Blwyddyn graddio: 2013 Pam wnes di ddewis astudio’r pwnc hwn? Dewisais y pwnc oherwydd yr amrywiaeth o bynciau a gynigir ac oherwydd y gallu i’w astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Beth oedd y peth gorau am y rhaglen? Mwynheais lawer o agweddau ar y cwrs – fy hoff ran oedd y daith astudio. Drwy hwn, cefais ymweld ag Israel a Thwrci yn ystod fy ngradd. Dywed wrtha’i am dy swydd. Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio i Lywodraeth Cymru. Rwy’n gweithio i swyddfa breifat yr Ysgrifennydd Parhaol. Pa gyngor a fyddet ti’n ei roi i rywun sydd â diddordeb mewn astudio dy gwrs? Buaswn yn awgrymu eu bod yn ymchwilio/gwneud gwaith darllen cyn pob modwl. Mae hyn yn help mawr pan fydd rhaid ichi ysgrifennu traethawd/traethawd hir ar gyfer pob semester.


Tracey Hughes BA Astudiaethau Addysg Gynradd

Blwyddyn graddio: 2015 Pam wnes di ddewis astudio’r pwnc yma? Dewisais astudio AAG am fod addysg a lles plant wastad wedi bod o ddiddordeb i mi. Ar y dechrau, nid oeddwn yn siŵr a oedd arna’i eisiau gweithio o fewn lleoliadau addysg neu gymunedol; rhoddodd AAG y cyfle i mi astudio modylau mewn addysg, modelau aml-asiantaeth, ac ymagweddau at gefnogi addysg a lles plant sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Beth oedd y peth gorau am y rhaglen? Y peth gorau am y rhaglen AAG oedd y dewis o fodylau oedd ar gael gan fy mod yn gallu teilwra fy astudiaethau o gwmpas fy niddordebau personol a phroffesiynol; golygodd hyn fy mod yn gallu dewis astudio’r elfennau hynny o’r rhaglen a oedd yn orau gweddu fy newis lwybr gyrfaol. Dywed wrtha’i am dy swydd. Ar ôl graddio, cefais swydd gydag elusen leol, Home Start Dinefwr; rydym yn cefnogi teuluoedd sydd â phlant 0-14 oed drwy gynnig iddynt gymorth cyfeillgar, anffurfiol nad yw’n eu barnu, yn eu cartref eu hunain gan wirfoddolwr hyfforddedig. Fy rôl i yw Trefnydd Cynllun - rwy’n gyfrifol am yr asesiad cychwynnol a pharhaus o anghenion y teulu, am oruchwylio eu cymorth, a chysylltu gydag asiantaethau eraill a allai fod yn gweithio gyda’r teuluoedd. Mae’r sgiliau, gwybodaeth a phrofiad a gefais drwy astudio’r rhaglen AAG wedi bod yn uniongyrchol drosglwyddadwy i’m rôl yn Home Start; teimlais fy mod yn gallu dechrau fy ngyrfa’n hyderus, gan dynnu ar yr hyn roeddwn wedi’i ddysgu wrth astudio. Pa gyngor a fyddet ti’n ei roi i rywun sydd â diddordeb mewn astudio dy gwrs? Cadwch feddwl agored; mae yna gymaint o lwybrau gyrfa y gallech eu dilyn o ganlyniad i’r cwrs. Hefyd, os cewch chi’r cyfle, gofynnwch am gael mynd i wirfoddoli o fewn lleoliadau - casglwch gymaint o wybodaeth o’r tu mewn am yr asiantaethau sy’n gweithio o fewn addysg a lles ag y gallwch chi gan y bydd yn wirioneddol helpu gyda’ch astudiaethau, ac yn edrych yn wych ar eich CV hefyd. Rwy’n argymell y rhaglen yn gryf, roedd yn ddiddorol, yn berthnasol i fyd gwaith, ac roedd y cymorth a’r arweiniad a gefais gan y staff heb ei ail.


Caryl Ann Thomas MA Plentyndod Cynnar

Blwyddyn graddio: 2017 Graddiodd Caryl Ann Thomas gyda MA mewn Plentyndod Cynnar ar yr un pryd â rhedeg meithrinfa sydd wedi ennill gwobrau yn Sir Gâr. Bellach, mae Caryl yn rhedeg Meithrinfa Twts Tywi Nursery, meithrinfa cyfrwng Cymraeg yn Llandeilo, a bleidleisiwyd yn un o ddeg meithrinfa ddydd gorau Cymru o 360 meithrinfa. Cafodd BA mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar ar yr un pryd â gweithio yn Y Gamfa Wen, sef y feithrinfa ar gampws y Brifysgol yng Nghaerfyrddin, lle ddaeth hi’n Rheolwraig yn y pen draw.

Roedd y darlithwyr yn wych, yn arbennig gan fy mod yn rhedeg busnes wrth wneud y radd Meistr. Os oes gennych gariad at ofalu am blant yn y blynyddoedd cynnar, mae’r cwrs hwn yn agor llawer o ddrysau o fewn Blynyddoedd Cynnar sy’n eich galluogi i ddatblygu.


Mitchell Brown TAR Bioleg Uwchradd gyda SAC

Blwyddyn graddio: 2017 Derbyniodd Mitchell swydd fel athro Addysg Grefyddol yn adran addysg carchar. Meddai Mitchell: “Rwyf wedi dewis llwybr ychydig yn wahanol i eraill ar fy nghwrs. Rwyf wedi mynd i’r cyfeiriad hwn am fy mod yn teimlo ei fod yn gweddu’r ffordd rwy’n mwynhau addysgu yn well o gymharu ag ysgolion prif ffrwd. Rwy’n edrych ymlaen at ddechrau’r rôl yma a’r heriau a fydd yn dod yn ei sgil. Rwy’n barod i weld y teimlad hwnnw o falchder a gaiff myfyriwr pan fydd yn llwyddo!” Yn ogystal ag addysgu ar raglen Addysg Gorfforol lawn, bydd Mitchell hefyd yn helpu i sefydlu academi chwaraeon o fewn y carchar. Bydd yn helpu i weithredu amserlen o chwaraeon tîm cystadleuol yn ogystal â rhaglen o amserlenni ffitrwydd.

Ers dechrau’r cwrs ym mis Medi, rwyf wedi bod ar gromlin ddysgu serth; yn edrych ar y theori tu ôl i addysgu a cheisio rhoi hyn ar waith (dyna’r rhan hwyl). Mae’r broses hon wedi cael ei gwneud yn llawer mwy diddorol diolch i’r cydweithwyr gwych ar y cwrs, rydym wedi gweithio gyda’n gilydd i helpu ein gilydd cymaint â phosibl trwy rhai o’r darnau anodd. Ynghyd â staff Y Drindod Dewi Sant sydd â ffordd grêt o’ch cael chi i feddwl am bethau mewn ffordd gwbl newydd.


Alexandra Atkins BA Gwaith Ieunctid a Chymuned

Blwyddyn graddio: 2016 Pam wnes di ddewis astudio’r pwnc yma? Dewisais astudio Gwaith Ieuenctid a Chymunedol am fy mod yn teimlo ei fod yn ffordd fwy uniongyrchol i fod yn weithiwr cymdeithasol gyda’n agos i’r cymwysterau proffesiynol uchaf posibl. Mae gennyf lawer o feddwl o bobl ifanc, ac rwyf wedi bod â chysylltiad da â gwahanol sefydliadau ieunctid erioed, felly teimlais y byddai hyn yn cefnogi ac atgyfnerthu’r holl waith roeddwn yn ei wneud beth bynnag. Beth oedd y peth gorau am y rhaglen? Rhan orau’r cwrs yw’r modwl gwaith maes sy’n gofyn ichi fynd allan i’r maes ieuenctid a chymuned i ymgymryd â lleoliad. Caiff y lleoliad hwn ei gefnogi’n dda gan y sefydliad y byddwch yn mynd iddo, y tiwtor sy’n ymweld â chi, yn ogystal â goruchwylydd allanol, sy’n eich helpu i ddatrys problemau, pryderon neu deimladau sy’n codi ar y lleoliad. Mae’n eich helpu i gael dealltwriaeth ehangach o faes gwaith ieuenctid, ac nid dim ond y gwaith rydych o bosibl yn ei wneud yn barod. Dywed wrtha’i am dy swydd. Wrth wneud fy ngradd, treuliais amser yn ymgyrchu dros brosiect oedolion ifanc sy’n ofalwyr (YAC) yn Abertawe. Bûm yn ffodus iawn i weithio mewn sefydliad ieuenctid ar y pryd a’m cefnogodd i gael fy secondio i ganolfan gofalwyr Abertawe i redeg y cynllun peilot rhan amser: y prosiect YAC. Gan fod y cyllid hwnnw wedi dod i ben ond bod rhagor o arian wedi’i ddiogelu i ymestyn y prosiect, gwnes gais am rôl Rheolwr Prosiect y prosiect YAC, a chefais y swydd honno. O ganlyniad i natur gwaith elusen a phrosiectau rhan amser/a ariennir am y byrdymor, rwyf nawr yn Rheolwr Prosiect Gofalwyr sy’n Bobl Ifanc a Chydlynydd LifeSkills2. Mae’r prosiect YAC yn rhoi cymorth i bobl ifanc rhwng 16-25 oed sydd â chyfrifoldebau gofalu am deulu, ffrindiau neu rywun na fyddai’n gallu ymdopi heb eu cymorth. Gall y cymorth amrywio o sesiynau 1-i-1, cymorth gyda gweithwyr proffesiynol, clybiau ieuenctid, teithiau a chyfleoedd eraill yn ogystal â galluogi iddynt gyrchu holl wasanaethau canolfan gofalwyr Abertawe. Mae’r prosiect LifeSkills2 yno i gefnogi pobl ifanc sy’n ofalwyr dros 25 oed i’w hannog i fynd nôl i addysg, gwaith neu wirfoddoli. Rwy’n helpu ar bob lefel i’w cefnogi nôl mewn i un o’r llwybrau hyn, gan ystyried eu rôl gofalu, a’u cefnogi mewn ffordd gyfannol.


Pa gyngor a fyddet ti’n ei roi i rywun sydd â diddordeb mewn astudio’r cwrs? Rwy’n awgrymu y dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cefnogi pobl ifanc o bob cefndir edrych ar y cwrs hwn gan ei fod yn gyfle gwych i weithwyr cefnogi gael eu hardystio yn broffesiynol, yn arbennig os ydynt wedi bod yn cefnogi pobl ifanc ers nifer o flynyddoedd.


Llambed



Llambed Roedd

90%

o fyfyrwyr

Llambed

YDDS

mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl iddynt raddio.

Ffynhonnell: DLHE 2015/16


BETH MAE YN EI WNEUD NAWR? Ymhlith y swyddi a’r cyflogwyr, mae: • Athro Saesneg yn First Leap China • Cynorthwyydd Profiad Ymwelwyr yn Amgueddfa Genedlaethol y Fyddin • Cynorthwyydd Llyfrgell yn Llyfrgell Brighton • Cynorthwyydd Safle dan Hyfforddiant yng Ngwasanaethau Archeolegol Prifysgol Leicester • Cynorthwyydd Plwyf yn Eglwys St Augustine • Clerc Cofnodi Data yn Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth • Athro Saesneg yn Hankuk University of Foreign Studies • Swyddog Prosiect Cymunedol yn Groundwork UK • Cynorthwyydd Hysbysebu yn Barhale.


Rhys Milsom MA Ysgrifennu Creadigol Cyhoeddodd Rhys Milsom, y bardd, ei gasgliad cyntaf o gerddi, o’r enw Amnesia, yn 2015.

Rwy’n credu mai ar y cwrs MA Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant y gwnes i ddod o hyd i fy “llais” ysgrifennu. Cefais fy nhiwtora gan y bardd gwych a digyffelyb, Menna Elfyn, a’i chyngor ac arweiniad hi a ysbrydolodd syniadau ar gyfer fy nghasgliad cyntaf o farddoniaeth, ‘Amnesia’.


Sean Strong BA Hanes yr Henfyd Blwyddyn graddio: 2017 Beth oedd y peth gorau am y rhaglen? Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn Llambed, cefais fy niagnosio gydag amrywiaeth o nodweddion awtistaidd. Efallai mai dyna oedd y peth gorau a wnaeth y brifysgol i mi gan ei fod wedi fy helpu i ddeall fy hun, a nawr gallaf werthfawrogi’n llawn fy ngwallau a’u troi’n gryfderau. Cafodd hyn ei gadarnhau drwy gydol y gefnogaeth a roddwyd i mi, trwy fy nhiwtor cymorth yn y brifysgol. Roeddwn yn gallu siarad gyda fy nhiwtor ac fe’m helpodd gyda fy hunanhyder. Drwy’r cymorth a gefais yn Llambed, a’r anogaeth gan staff, deuais o hyd i’r penderfyniad a’r cymhelliant i anelu’n uwch ac o ganlyniad, fe aeth fy ngraddau i fyny. Dywed wrtha’i am dy gamau nesaf. Rwy’n mynd i ddechrau MA Astudiaethau Hynafol Hwyr a Bysantaidd ym Mhrifysgol Rhydychen ym mis Medi. Diolch i’r cymorth a’r anogaeth a gefais gan staff y brifysgol, a’r gwaith caled a roddais i mewn i’r radd, sylweddolais o’r diwedd efallai y buaswn yn gallu gwneud cais am radd ôl-raddedig Meistr. Cyflawnwyd hyn drwy waith caled, meddu ar gariad at y pwnc a chael rhwydwaith cymorth anhygoel o staff a darlithwyr academaidd yn Llambed. Ni allaf ddiolch digon i Lambed am faint y mae wedi fy helpu i ddatblygu yn y fath ffordd yn academaidd ac yn bersonol fel y gallwn dderbyn cynnig gan Rhydychen.


Sammy Jacques BA Astudiaethau Canoloesol Blwyddyn graddio: 2017 Beth oedd y peth gorau am y cwrs? Ni allwn fod wedi gofyn am ddarlithwyr mwy parod eu help a brwdfrydig a oedd bob tro’n gwneud yr amser i’m helpu gydag unrhyw fater! Dywed wrtha’i am dy gamau nesaf. Nawr, rwy’n gweithio tuag at MA Astudiaethau Canoloesol. Ni feddyliais erioed y buaswn yn gallu gwneud MA, ond drwy’r cymorth gwych a gefais gan ddarlithwyr a ffrindiau a wnes i yn Llambed, rwy’n cyrraedd goliau uwch nag oeddwn erioed wedi’u dychmygu i fi fy hun.



Fritha Costain BA Archaeoleg “Gadewais Lambed yn 1994, ac ar ôl mentro am gyfnod i faes rheolaeth manwerthu ac yna gwneud MA mewn Arolygu Archeolegol ym Mhrifysgol Durham, ymunais â PricewaterhouseCoopers yn eu hadain methdaliad gan ennill ACCA ‘Association of Certified Chartered Accountants’. Yn dilyn hyn, rhywsut, llwyddais i gyfuno fy nghariad at archaeoleg a’m profiad o reolaeth a chyllid mewn swydd yn rhoi cyngor i amgueddfeydd ac atyniadau treftadaeth ar sut i wneud arian a denu mwy o ymwelwyr. Bellach, rwy’n Rheolwr Cyffredinol ar gyfer Ymddiriedolaeth Genedlaethol Yr Alban, gan oruchwylio 11 eiddo yng Ngorllewin Yr Alban. Gan fod y Brifysgol yn un fach, cefais gyfleoedd i wneud cymaint ag yr oedd arna’i ei eisiau - hyfforddais i fod yn DJ a fi oedd is-lywydd RAG - rolau na fyddwn wedi bod yn ddigon dewr i’w gwneud mewn prifysgol fwy. Yn bennaf oll, cefais lawer o hwyl a chwrddais â phobl wych!”

Roedd mynd i Lambed yn brofiad anhygoel: roedd astudio archaeoleg yn wych ac fe fu’n sylfaen ar gyfer fy niddordeb mewn treftadaeth heddiw.


A hoffech chi ddysgu rhagor am sut y gall Y Drindod Dewi Sant eich helpu chi i fynd o #oAddysgiGyflogaeth? Ewch i’n gwefan www.pcydds.ac.uk/cy/ Cadwch le ar Ddiwrnod Agored Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol UWTSD

@StudyUWTSD

SNAPUWTSD


#O Addysg i Astudiaeth


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.