Cyflawni dros Gymru Gynaliadwy
INSPIRE
Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi ac Effeithlonrwydd Adnoddau The Institute for Sustainable Practice, Innovation and Resource Effectiveness
“Yn fy marn i, os ydych chi’n pryderu am faterion cynaladwyedd, does dim ond un wlad i fynd iddi – Cymru, ac o fewn Cymru, dim ond un Brifysgol i fynd iddi, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.” Rikki Miller Llywydd y Myfyrwyr
Man cychwyn addysg uwch yng Nghymru
INSPIRE
Sicrhau bod cynaliadwyedd ynghanol gweledigaeth strategol y Brifysgol newydd: Camau Allweddol Gweledigaeth: cynaliadwyedd, cyflogadwyedd, rhyngwladoli, diwylliant a dysgu gydol oes • Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn darparu profiad addysgiadol, dwyieithog o ansawdd uchel i gymuned amrywiol o ddysgwyr, gan gyfrannu’n gadarnhaol i anghenion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol Cymru, yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. • Bydd pum elfen allweddol wrth wraidd y profiad unigryw a gynigiwn yn y Brifysgol, sef cynaliadwyedd, cyflogadwyedd, rhyngwladoli, diwylliant a dysgu gydol oes. • Byddwn yn cyflawni ein cyfraniad trwy ganolbwyntio ar ein haddysgu, cyfnewid ymchwil a gwybodaeth yn ogystal â’r modd yr ymddygwn wrth gyflawni’r genhadaeth honno. • Dyma ein cenhadaeth graidd: ‘cyflawni ar gyfer Cymru gynaliadwy yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol’.
Llywodraethu • Bydd trefniadau llywodraethu’r Brifysgol newydd yn adlewyrchu ymrwymiad clir Y Drindod Dewi Sant wrth ddatblygu cynaliadwy. • Bydd Adroddiad Blynyddol y Brifysgol yn cynnwys Datganiad ar Gynaliadwyedd. • Sefydlir Grw ˆ p Cynaliadwyedd ar draws y Brifysgol yn dilyn archwiliad sgiliau staff • Bydd y Brifysgol yn llofnodi Siarter Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
Addysgu a Dysgu • Mae’r Brifysgol yn cydnabod y pwysigrwydd o ddatblygu graddedigion hyddysg ynghylch cynaliadwyedd; mae’n ymrwymo i ennyn brwdfrydedd pob myfyriwr mewn cysyniadau a materion cynaliadwyedd mewn cyd-destun priodol drwy eu dysgu a gwella eu cyflogadwyedd. • Bydd y Brifysgol yn datblygu cyfres o raglenni gradd a fydd yn gysylltiedig â datblygu cynaliadwy ac a fydd yn adeiladu ar broffil nodedig newydd y brifysgol. Bydd pob cyfadran yn cynnig un cwrs israddedig newydd ac un cwrs ôl-raddedig newydd ar gyfer y myfyrwyr a fydd yn dechrau yn 2013. • Bydd y Brifysgol yn gwneud cynaliadwyedd yn rhan o 15% o brofiadau’r holl fyfyrwyr erbyn hydref 2013 gan greu ‘Cwricwlwm Un Blaned’ a fydd yn arbennig i’r Drindod Dewi Sant. • Bydd y Brifysgol yn datblygu ‘Pasport Sgiliau Un Blaned’ a fydd yn cynnwys elfen Menter Gymdeithasol ar gyfer y rheini a fydd yn dechrau yn 2014, i’w dreialu yn 2013 yn y Brifysgol a thrwy bartneriaethau ag ysgolion a cholegau.
0300 500 1822 www.ydds.ac.uk
Byw’n unol â’n cyfyngiadau amgylcheddol ein hunain
INSPIRE
• Mae’r Brifysgol yn ymrwymo wrth arferion sy’n lleihau’r posibilrwydd o effeithiau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol negyddol; yn ceisio gwella perfformiad amgylcheddol yr amgylchedd dysgu, bodloni a rhagori lle bo modd ar ganllawiau cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer cynaliadwyedd; llwyddo i eco-frandio’i chyfleusterau; gwella cyfanrwydd ecolegol tirwedd y campws; adrodd bob blwyddyn ar hyn a gyflawnwyd a gwobrwyo myfyrwyr sy’n cofleidio’r agenda hon ac sy’n barod i fod yn weithgar wrth gymryd rhan a monitro. • Bydd y Brifysgol yn mesur effaith amgylcheddol pob campws ac yn llunio adroddiad blynyddol i wella perfformiad. • Bydd y Brifysgol yn cyhoeddi cynllun gweithredu eglur ynghylch y modd y bwriada fyw yn ôl ei chyfyngiadau amgylcheddol yn 2012. • Mae’r Brifysgol yn ymrwymo i sicrhau Lefel 5 o dan gynllun y Ddraig Werdd ar bob un o’i champysau ac i sicrhau dyfarniad dosbarth cyntaf yng Nghynghrair Gwyrdd yr elusen People and Planet erbyn 2013. • Bydd y Brifysgol yn sicrhau bod cyfleoedd ar gael i fyfyrwyr ennill bwrsarïau/ysgoloriaethau os gwnânt ymrwymiad ‘Byw Un Blaned’ wrth gyrraedd y Brifysgol.
Myfyrwyr yn “Palu ’Mlaen” i newid y dyfodol
0300 500 1822 www.ydds.ac.uk
INSPIRE
Ymgysylltu, Eiriol ac Arwain • Mae’r Brifysgol yn ymrwymo wrth agenda cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol; yn cydnabod bod iddi rôl o ran hyrwyddo’r agenda ym maes cynaliadwyedd ar draws de-orllewin Cymru ac yn ehangach, yn croesawu cyfleoedd i gymryd rhan mewn partneriaethau cynaliadwyedd gan geisio cyfleoedd ennyn brwdfrydedd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol yn agenda cynaliadwyedd trwy gydweithio â sefydliadau eraill. • Mae’r Brifysgol yn ymrwymo i ddefnyddio cynnyrch Masnach Deg lle bynnag y bo modd ac i gefnogi’r pythefnos Masnach Deg blynyddol mewn partneriaeth ag eraill. • Bydd y Bartneriaeth Ddysgu Ranbarthol yn cynnal archwiliad effaith cynaliadwyedd a fydd yn ail i weledigaeth ranbarthol ynghylch materion sy’n ymwneud â datblygu cynaliadwy. • Bydd y Brifysgol yn chwilio’n benodol am bartneriaethau ag awdurdodau lleol, mudiadau gwirfoddol a busnesau mewn perthynas â chynaliadwyedd. • Bydd Grw ˆ p Datblygu Cynaliadwy’r Brifysgol yn nodi’r dyfarniadau allanol mwyaf priodol ar gyfer adlewyrchu gweithgarwch.
Cyflawni dros Gymru Gynaliadwy
INSPIRE
Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi ac Effeithlonrwydd Adnoddau The Institute for Sustainable Practice, Innovation and Resource Effectiveness
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn… • anelu at gyflawni ar gyfer Cymru gynaliadwy yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol • anelu at fod yn ddewis Brifysgol i fyfyrwyr a staff craff y dyfodol
Argraffwyd ar Revive 50:50 Sidan: papur wedi’i ailgylchu sy’n cynnwys 50% gwastraff a ailgylchwyd a 50% ffibr glân, ac wedi’i gynhyrchu mewn melin a ardystiwyd â’r safon ISO 14001 rheolaeth amgylcheddol
0300 500 1822 www.ydds.ac.uk