ED@PCYDDS Amddiffyn eich syniadau ac osgoi achosion llys Diwrnod Eiddo Deallusol y Byd 2016
Creadigrwydd Digidol: Ailddychmygu Diwylliant
26 Ebrill Pam poeni am Eiddo Deallusol? Trafodaethau sgyrsiau, pam mae angen i fyfyrwyr wybod a sut gallwn ni helpu.
Beth yw ED?
“
“
Mae Eiddo Deallusol neu ED yn derm cyfreithiol sy’n cyfeirio at bethau a grëir yn y meddwl.
Dylai cenhedloedd y dyfodol ddeall popeth am eiddo deallusol. Mae hyn yn berthnasol i bopeth o amddiffyn ein brandiau mwyaf neu newyddaf i hawlfraint cerddoriaeth bop a phatentau cyffuriau sy’n achub bywydau. - Baroness Neville-Rolfe
Pam fod Ed yn bwysig Mae amddiffyn ED yn hanfodol er mwyn hyrwyddo arloesi. Heb amddiffyn syniadau, ni fyddai busnesau nac unigolion yn cael budd llawn o’u dyfeisiau. Yn debyg, ni fyddai artistiaid yn cael eu talu’n llawn am eu creadigaethau. Mae’n atal eraill rhag cymryd eich gwaith a’i ddefnyddio fel eu gwaith eu hunain.
Deall ED! Chi sy’n berchen ar ED os: • Chi greodd y gwaith • Prynoch chi’r hawliau gan y crëwr neu’r perchennog blaenorol • Oes gennych frand a allai fod yn nod masnach Gall ED: • Fod efo mwy nag un perchennog • Perthyn i bobl neu fusnesau • Cael ei werthu neu ei drosglwyddo
Fel arfer, mae’r symbol hawlfraint yn cael ei ddilyn gan enw deiliad yr hawlfraint a blwyddyn gyntaf ei gyhoeddi. Y nod yw hysbysu trydydd partïon a rhwystro darpar droseddwyr.
Dim ond os ydy’r ED wedi’i gofrestru gyda’r swyddfa hawlfraint y ceir defnyddio’r symbol hawlfraint.
Mathau o Amddiffyniad Hawlfraint
(hawl awtomatig)
Nod masnach
Enghreifftiau o ED Celf, ffilmiau, ffotograffiaeth, teledu, cynnwys y we, recordiadau sain, cerddoriaeth Cynnyrch, enw, logos, canigau
Patentau
Dyfeisiau a chynhyrchion. e.e. rhannau peiriant neu foddion
Hawliau dylunio
Siapiau gwrthrychau
Dyluniadau cofrestredig
Ymddangosiad cynnyrch gan gynnwys si창p, pecynnu a phatrymau
(hawl awtomatig)
Amddiffynnwch eich ED!
Mae amddiffyn eich eiddo deallusol yn ei wneud yn haws i gymryd camau cyfreithiol yn erbyn unrhyw un sy’n ei ddwyn neu’n ei gopïo. Dylech gadw’ch eiddo deallusol yn gyfrinach nes ichi ei gofrestru, os nad yw wedi’i amddiffyn gan hawl awtomatig.
Gallwch gofrestru eich ED yn www.gov.uk/intellectual-property
Beth sydd gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr i’w ddweud am bwysigrwydd gwybod am Eiddo Deallusol? Yn ôl ymchwil diweddar yn y DU ...
33%
Dywed o fyfyrwyr nad ydynt yn credu bod eu hymwybyddiaeth na’u dealltwriaeth o ED yn ddigonol.
40% o fyfyrwyr sy’n credu bod ED yn fater pwysig. 77%
Roedd dros o fyfyrwyr yn credu bod ymwybyddiaeth o ED yn berthnasol iddynt yn eu gyrfa yn y dyfodol.
Ffeithiau a Ffigyrau Mae’r rhan fwyaf o fuddsoddiad HED yn mynd ar asedau a amddiffynnir gan hawlfraint (46%), hawliau dylunio heb eu cofrestru (21%) a nodau masnach (21%).
48%
Yn 2011, roedd (£65.6bn) o fuddsoddiad gwybodaeth yn sector marchnad y DU wedi’i amddiffyn gan HED.
Jo Ashburner Farr
Mae Jo Ashburner Farr yn un o entrepreneuriaid graddedig Y Drindod Dewi Sant a ddechreuodd ei busnes ‘Noonoo’ ymhen tri mis ar ôl graddio yn 2004 ac a enillodd wobr Gwraig Busnes y Flwyddyn ar gyfer y DU yn 2006. Enillodd Noonoo nifer o wobrau am arloesi a dylunio ledled y byd ac yn 2014, newidiodd Jo ei model busnes yn un o fenter gymdeithasol. Bellach mae Red Dragon Manufacturing Ltd yn cynhyrchu baneri wedi eu gwnïo a’u hargraffu, yn cyflenwi contractau sector cyhoeddus a phreifat ac yn darparu hyfforddi ar gyfer cyflogaeth gynaliadwy i’r rheini sydd y tu allan i gyflogaeth prif ffrwd. Enillodd Jo wobr Entrepreneur y Flwyddyn (Gweithgynhyrchu) yn 2015.
www.reddragonflagmakers.co.uk
Beth a olyga ED i Jo... Mae ED yn golygu eich bod yn berchen ar eich syniadau, brandiau a’ch busnesau ac ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw datgan eich hawl os ydych chi o ddifrif am eich syniadau a’ch busnes. Rwy’n berchen ar frandiau ‘Noonoo’ a ‘Red Dragon Flagmakers’ ymhlith eraill - ac mae’r ddau frand wedi cael eu targedu a’u copïo. Dim ond oherwydd imi fuddsoddi mewn ED rwyf wedi llwyddo i stopio’r rheini nad oes ganddynt ddigon o ddychymyg eu hunain, drwy gyflwyno fy mherchnogaeth sicr mewn nod masnach a dylunio cynnyrch trwy sianelau ED. Pe nad oeddwn wedi diogelu’r ED ar gyfer fy musnesau, ni fyddai’r brand na hirhoedledd y busnesau wedi para’n hir. Er y bu’n rhaid imi grafu’r ceiniogau at ei gilydd ar y cychwyn cyntaf i brynu’r hanfodion, mae’r buddsoddiad wedi talu ar ei ganfed. Rwyf wedi gweld lladrad ED yn digwydd cymaint o weithiau felly peidiwch â diystyru apêl na chynulleidfa eich cynnyrch a’ch brand - unwaith y byddwch yn gyhoeddus, byddwch yn colli’r hawl i’r ddau os nad ydych wedi paratoi. Cofiwch mae cais am batent yn cael ei ystyried am gyfnod er mwyn rhoi chi’r cyfle i chi roi cynnig ar, profi a mireinio’ch syniadau. Os, ar ddiwedd y cyfnod hwn, rydych wedi newid mwy nag 20% ar eich dyluniad, ystyriwch wneud cais newydd am batent neu ddiwygio’r un gwreiddiol a dechrau’r broses o’r dechrau. Hefyd, mae’n werth talu’r gost gymharol fach ar gyfer enw parth, Twitter (a chyfryngau cymdeithasol eraill), nod masnach a chofrestriad cwmni ymlaen llaw i roi cyfle i’ch busnes fod yn berchen ar o leiaf yr enw a’r hunaniaeth.
Siop wag yn 13 Stryd Cradock, Abertawe yw’r Swigen Greadigol. Yn y lle hwn gall myfyrwyr roi cynnig ar eu syniadau, eu busnesau a’u mentrau. Ers ei lansio, mae siop y Swigen Greadigol wedi cynnal perfformiadau, arddangosfeydd, cyfarfodydd, gweithdai, digwyddiadau codi arian, dangosiadau cyntaf ffilmiau, siopau symudol a nosweithiau cymdeithasol.
- Graddedig Ffilm a Theledu
“
“
Oherwydd fy mod wedi cymryd rhan yn Swigen Greadigol, rwyf wedi sefydlu fy musnes fy hun AC mae gen i swydd gyda chwmni y bu imi gwrdd â nhw drwy’r prosiect
Beth bynnag eich disgyblaeth, mae’r siop yn adnodd rhad ac am ddim y mae croeso i chi ei ddefnyddio (gyda chymorth cyfeillgar gan dîm Swigen Y Drindod Dewi Sant). Mae hwn yn gyfle i gael yr allweddi i le siop go iawn a gwireddu eich syniadau mewn amgylchedd diogel.
“
“
Does dim byd yn debyg i’r teimlad o gael yr allweddi i’ch lle eich hun am wythnos – cynhaliwyd siop symudol a chodi arian i’n harddangosfa derfynol. Roedd yn help i ni weld y cyfleoedd masnachol sydd ar gael i ni wrth adael. -Myfyriwr Celf a Dylunio
Mae’r Swigen Greadigol hefyd yn cynnal sesiwn fisol ‘Pizza with a Pro’ lle mae myfyrwyr yn cwrdd ag entrepreneur ar gyfer gweithdy (ac yn cael Pizza am ddim!).
- Myfyriwr Busnes a Rheolaeth.
“ “
“ “
Mae digwyddiadau Pizza with a Pro yn hwyliog a chyfeillgar. Mae’r rhain yn gyfle gwych i gyfarfod a chlywed pobl wefreiddiol.
Mae Swigen Greadigol wedi helpu i mi weld ffyrdd newydd y gallaf werthu fy ngwaith - gall bod yn artist hefyd fod yn yrfa ddichonadwy -Myfyriwr Celf a Dylunio
@CBSwansea SwanseaCreativeBubble www.uwtsd.ac.uk/creative-bubble Ymholiadau: Lucy Beddall, Swigen Greadigol, lucy.beddall@pcydds.ac.uk
Ardystiad ED Gallwch gael tystysgrif DPP achrededig o’r swyddfa eiddo deallusol, ei chynnwys ar eich CV a dangos eich gwybodaeth o ED.
www.ipo.gov.uk/blogs/iptutor
Cyngor ED
Defnyddiwyd y darlun gyda chaniatâd Karl Mountford ©
Os oes gennych syniad busnes ac mae angen cymorth arnoch, cysylltwch â Kathryn Penaluna am ragor o gyngor ar Eiddo Deallusol.
kathryn.penaluna@pcydds.ac.uk
Cyngor Arbenigol
Rwy am gael hawlfraint i’m gwaith ond mae’n rhy ddrud.
Mae hawlfraint yn hawl Eiddo Deallusol sy’n dechrau ohoni ei hun unwaith y mae’r gwaith wedi ei gofnodi, ac o’r herwydd mae’n ddi-dâl. Felly, er enghraifft, cyn gynted ag y gosodir paentiad ar gynfas, mae hawlfraint yn bodoli ar y paentiad hwnnw. I orfodi hawlfraint rhaid profi ‘perchenogaeth’, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cadw cofnodion da ynghylch pryd y crëwyd y gwaith – mae a wnelo hyn yn fwy â phrofi ‘perchenogaeth’ na chopïo. Rwy’n defnyddio ffotograff y des i ar ei draws ar Google Images – os yw yno, mae modd i mi ei ddefnyddio’n rhad ac am ddim ar fy llenyddiaeth farchnata, onid oes? Ddim o reidrwydd – mae hawlfraint yn y darlun, felly os copïwch chi’r darlun efallai y byddwch chi’n tramgwyddo hawliau’r perchennog. Dylid felly geisio caniatâd, a gellir rhoi hwn am ffi.
Talais i am rai lluniau gan y ffotograffydd hwn ac rwy am eu rhoi nhw ar fy ngwefan. Mae e’n dweud nad oes hawl i mi wneud hyn. Mae e’n anghywir, onid yw e?
Perchennog hawlfraint gwaith yw’r person a gyflawnodd y gwaith, felly os bydd rhywun yn tynnu llun ohonoch chi, ef sydd berchen ar yr hawlfraint yn y llun hwnnw. Meddyliwch am luniau priodas, lle’r ffotograffydd sydd berchen ar yr hawlfraint i’r lluniau priodas. Fodd bynnag, gallwch chi gytuno (gwnewch yn siŵr bod hyn yn ysgrifenedig) â thrydydd parti ynghylch trosglwyddo hawlfraint y lluniau i chi, efallai ar ôl talu bil y ffotograffydd.
Rydw i am gael hawlfraint i’m dyfais. Ga i wneud hyn?
Mae hyd yn oed pobl sydd â gwybodaeth am Eiddo Deallusol yn gofyn cwestiynau o’r fath, gan ddangos pa mor ddryslyd yw’r gwahanol fathau ar Eiddo Deallusol. Mae pedwar prif fath, wedi eu cynnwys yn gynnil mewn ffôn symudol modern. Sef: (a) Hawlfraint – yng ngwaith artistig yr eiconau ar y sgrin; (b) Nodau masnach yn enw neu logo’r gwneuthurwr; (c) Dyluniadau yn ymddangosiad/ffurf y ffôn ei hun; (d) Patentau o ran sut mae’r ffôn yn gweithio mewn gwirionedd, ni waeth sut olwg sydd arno. Felly, er y bydd hawlfraint yn bodoli yn narluniau dyfais, er enghraifft, mae angen patent i amddiffyn sut mae’r ddyfais yn gweithio. Rydw i wedi creu’r ddyfais ryfeddol newydd hon – rydw i wedi ei rhoi hi ar-lein ac wedi caeI llawer o ddiddordeb ac yn credu y dylwn i gael patent. Ga i wneud hyn?
Na chewch! Unwaith y bydd eich dyfais ar gael i’r cyhoedd, nid oes modd bellach gael patent i’w amddiffyn. Felly rhaid ffeilio cais am batent ymlaen llaw. Mae yn bosibl o hyd trafod dyfais gyda phartïon eraill yn gyfrinachol ond sicrhewch fod cytundeb wedi ei lofnodi yn ei le. Mae gan wefan Swyddfa Eiddo Deallusol y DU sampl o Gytundeb Diffyg Datguddio ar gael i’w lawrlwytho. Dydw i ddim yn mynd i boeni am batentau – bydd cwmnïau mawr yn dwyn fy syniad beth bynnag.
Mewn gwirionedd, os ydych chi’n gwerthu cynnyrch masnachol lwyddiannus, ac os oes patent yn gysylltiedig agef, mae hynny’n fwy diddorol o lawer i gwmni mawr. Efallai y bydd gan gwmni mawr sy’n hoffi’r cynnyrch diddordeb mewn prynu’r patent er mwyn osgoi cyhoeddusrwydd gwael a hefyd atal eu cystadleuwyr eraill rhag gwerthu cynnyrch tebyg. Efallai y byddan nhw’n galetach o lawer wrth drafod i brynu’r patent, ond yn ystod y 14 blynedd rwy wedi bod yn gweithio yn y maes dydw i byth wedi gweld achos pendant o’r broblem ‘dwyn’ hon. Yn wir, ni fydd rhai cwmnïau hyd yn oed yn siarad â dyfeisiwr neu gwmni bach heb fod cais am batent i ddod er mwyn gwneud perchenogaeth dyfais yn glir ac, o’r herwydd, osgoi’r cyhuddiad hwn.
Beth sy’n gwneud nod masnach da?
Peidiwch â dewis yr enw generig ar gyfer beth fyddwch chi’n ei wneud, e.e. SEBON ar gyfer cynhyrchion sebon, ac osgowch unrhyw beth sy’n amlwg yn ddisgrifiadol. Mae rhywbeth nodedig sy’n eich helpu chi i sefyll allan mewn torf yn lle da i ddechrau. Mae gen i enw cwmni cofrestredig a chofrestriad enw parth – oes angen i mi gael nod masnach cofrestredig hefyd? Os ydych chi am fod yn y sefyllfa orau i helpu i rwystro eraill rhag defnyddio eich nod masnach, cofrestru nod masnach amdani – nid yw cofrestru enw cwmni nac enw parth yn rhoi unrhyw hawliau cyfreithiol i atal eraill rhag defnyddio’r un enw. Beth pe bai rhywun arall eisoes wedi cofrestru’r enw yr hoffwn i ei gael?
Os yw rhywun arall yn berchen ar eich dewis enw ar gyfer yr hyn y dewiswch chi ei wneud, dylech chi ystyried yn ofalus ailfrandio. Oni wnewch chi hynny, gallai eich defnydd chi ar yr enw amharu ar eu hawliau nod masnach nhw, a gall amharu arwain at achos cyfreithiol yn eich erbyn chi.
Bu’r canlynol mor garedig ag ateb ein cwestiynau: Mae Annabel Hanratty a Tom Baker yn dwrneiod hawlfraint a phatent, yn eu tro, gyda UDL LLP (www.udl.co.uk), cwmni ymgynghorwyr arbenigol ar Eiddo Deallusol.
Dyddiadau i’w cofio 26 Ebrill Pizza with Pro’s - Warren Fauvel, Nudjed, Alex Symonds, UKIPO a Tom Baker, UDL 6.00 – 7.30 Y Swigen Greadigol, Abertawe 26 Ebrill Pizza with a Pro – Kim Stoddart, ysgrifennydd i’r Guardian ac entrepreneur cymdeithasol, Yr Ystafell Goch, Llambed 6.00 – 7.30 13 – 17 Mehefin Ras i’r Farchnad Her 5 niwrnod gan ennill profiad yn y byd go iawn, a gweithio gyda phobl fusnes lwyddiannus. I ddarganfod rhagor ac i wneud cais, gweler:
http://lifedesign.uwtsd.ac.uk/race-to-market-2016/ 14 – 20 Tachwedd Wythnos Mentergarwch Fyd-eang I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r digwyddiadau hyn ac i gael diweddariadau rheolaidd ynghylch digwyddiadau, cysylltwch â: amanda.hughes@pcydds.ac.uk
“
Editor
Myfyriwr Hysbysebu a Dylunio Brand, 21 oed, blwyddyn olaf
Mae gwybodaeth am ED yn hollbwysig i lwyddo mewn byd cystadleuol llawn syniadau a dylunio da. Gallwch elwa’n llawn o’ch creadigaethau drwy eu hamddiffyn yn llawn. Cysylltwch â fi yn:
ross.weaver@msn.com
“
Ross Weaver
Cymorth Menter ac Entrepreneuraidd Os ydych chi erioed wedi ystyried dechrau eich busnes eich hun, mae’r tîm Menter yn RIES yma i’ch helpu chi i archwilio entrepreneuriaeth. Mae nifer o ffyrdd y gallwch chi ymwneud â ni megis gweithdai datblygu syniadau a sgiliau entrepreneuriaeth, ymuno â ni i gyfarfod â siaradwyr gwadd entrepreneuraidd a gwrando arnyn nhw, a gallwn ni roi cymorth fesul un i chi wrth i chi ddatblygu eich syniad busnes ac wedyn ei roi ar waith. Rydyn ni hefyd yn perthyn i rwydwaith o ddarparwyr gweithgareddau o dan Syniadau Mawr Cymru Llywodraeth Cymru, felly mae gennych chi hefyd gyfle i fynd i ddigwyddiadau, cymryd rhan mewn heriau a chystadlaethau ledled Cymru a chael cymorth i gychwyn busnesau gan entrepreneuriaid ac ymgynghorwyr busnesau.
Dewch i wybod rhagor trwy gysylltu â’r Tîm Menter: Abertawe Kath Penaluna - kathryn.penaluna@pcydds.ac.uk Amanda Hughes - amanda.hughes@pcydds.ac.uk Ffôn: (01792) 481199 Caerfyrddin a Llambed Sally Hewes – s.hewes@pcydds.ac.uk Ffôn: (01267) 676864