January newsletter welsh

Page 1

Cyfadran Addysg a Chymunedau Newyddlen Ionawr 2015

Croeso/ Welcome Cyfnod Cyffrous! Croeso i gylchlythyr cyntaf y Gyfadran Addysg a Chymunedau. Rydym yn newydd – dim ond ym mis Medi 2015 y cafodd y Gyfadran ei sefydlu, pan unodd dwy uned bwerus yn y Brifysgol â’i gilydd: sef Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol a’r Gyfadran Hyfforddiant Athrawon ac rydym yn gasgliad bywiog iawn o staff a myfyrwyr. Mae’n fraint enfawr cael bod yn rhan o’r gyfadran wefreiddiol hon. Pwy ydym ni? Ceir 7 ysgol neu ganolfan yn y Gyfadran:

dinasyddiaeth ac annog uchelgeisiau. Rydym yn dysgu gyda’n gilydd, yn staff ac yn fyfyrwyr, gan adeiladu ar ddealltwriaeth a gwybodaeth drwy ymagwedd at ddysgu a rennir. Rydym yn ymrwymo i egwyddorion lles ac i feithrin awydd i ddysgu , i lwyddo, i fod yn wydn ac i deimlo’n hyderus mewn plant a phobl ifanc. Cewch flas ar bwy yr ydym ni yn y cylchlythyr hwn - mae’r gair bywiog yn lle da i ddechrau.

»Canolfan » Dysgu a Datblygiad Proffesiynol Parhaus »Canolfan » Cymru er Cydraddoldeb mewn Addysg »Yr » Ysgol Plentyndod Cynnar »Yr » Ysgol Seicoleg a Chwnsela »Yr » Ysgol Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol »Yr » Ysgol Gymraeg ac Astudiaethau Dwyieithrwydd »Canolfan » Addysg Athrawon DeOrllewin Cymru Rydym yn ymwneud yn hollol â phobl: sut yr ydym yn dysgu, sut yr ydym yn byw a sut yr ydym yn trefnu ein hunain o fewn cymdeithas. Mae hwn yn lle cyffrous ac ymholgar, a chanddo bobl - staff a myfyrwyr sy’n gofyn cwestiynau, yn cynnig datrysiadau ac yn herio ei gilydd, a ni ein hunain. Mae gwreiddiau ein gwerthoedd yn ymwneud â chyfiawnder, cydraddoldeb, democratiaeth, hawliau dynol, Newyddlen Y Gyfadran Addysg a Chymunedau | Ionawr 2015

Rydym yn cynnig ystod o raglenni sy’n amrywio o Raddau Sylfaen i raglenni BA a BSc, MA , MPhil a graddau PhD. Mae rhaglenni ar gael ar gyfer myfyrwyr israddedig a graddedigion sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig, yn ogystal â chymwysterau academaidd mewn Astudiaethau Addysg, Astudiaethau Addysg Gynradd, Cymorth Dysgu, Plentyndod Cynnar, Llythrennedd Cynnar, Gwaith Ieuenctid a Chymunedol, Seicoleg, Cwnsela, Eiriolaeth, Astudiaethau Celtaidd, Astudiaethau Dwyieithog ac Amlieithog, Polisi a Chynllunio Iaith, Cynhwysiant Cymdeithasol, Astudiaethau Cynhwysol a Dwyieithrwydd Cymhwysol........ac amrywiaeth enfawr o gyrsiau datblygiad proffesiynol. Darllenwch bopeth amdanom yma, a gadewch i ni wybod eich barn. Edrychaf ymlaen at glywed gennych. Dr Siân Wyn Siencyn Deon y Gyfadran s.w.siencyn@tsd.uwtsd.ac.uk


Ar faes yr Eisteddfod Ar faes yr Eisteddfod am y tro cyntaf neilltuwyd un rhan arbennig o babell Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ADLEN - gofod delfrydol i dynnu pobl ynghyd i drin a thrafod pob math o syniadau o’r byd addysg. Drwy gydol yr wythnos rhaglenwyd gweithgareddau difyr, ond prynhawn Mawrth oedd cyfle CAADOC. Ar y cyd â Chanolfan Peniarth, gwahoddwyd athrawon a chyn-fyfyrwyr i ddod i fwynhau te mefus a hufen a chlywed mwy am ddatblygiadau’r sefydliad. Cafwyd cwmni Nia Parry o raglen cariad@Iaith:love4language, y Cofiadur a’r cyn-fyfyriwr Penri Roberts yn ogystal â nifer o gyfeillion eraill. Roedd blas ar y sgwrsio fel ar y bwyd! Daeth cynrychiolwyr o fyd addysg y gwledydd Celtaidd hefyd i ymuno â ni. Diolch i bawb a helpodd gyda’r trefniadau - a chofiwch, os ydych chi’n gwybod am gyn-fyfyrwyr a hoffai fod yn rhan o’n rhwydwaith Alumni ni, cysylltwch â partneriaeth@ydds.pcydds.ac.uk. Dr. Mererid Hopwood, Cyfarwyddwraig Partneriaethau Strategol

Un o Raddedigion yr Ysgol Seicoleg yn derbyn bwrsari i gyflwyno ei thraethawd hir mewn cynhadledd ryngwladol Mae Rebecca Crabtree, a raddiodd o’r Ysgol Seicoleg a Chwnsela gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Astudiaethau Cwnsela a Seicoleg, wedi derbyn bwrsariaeth fawreddog i fyfyrwyr gan Gymdeithas Seicoleg Prydain (CSP) er mwyn cyflwyno ei thraethawd hir i Gynhadledd Flynyddol Adran Seicoleg Iechyd y Gymdeithas a fydd yn cael ei chynnal yng Nghaerefrog. Bydd Rebecca yn cyflwyno ei gwaith ymchwil sy’n archwilio i’r cysylltiadau rhwng agweddau ymhlyg dynion, eu gwrywdod a’u parodrwydd i gael gwiriadau iechyd. Hefyd, enillodd Rebecca y wobr Myfyriwr Seicoleg Gorau yn ei charfan, a dywedodd “Mae derbyn y wobr CSP a bwrsari i wneud cyflwyniad yng Nghynhadledd Flynyddol yr Adran Seicoleg Iechyd wedi coroni tair blynedd anhygoel yn y Brifysgol hon. Gwnes fwynhau ymchwilio i iechyd dynion yn fawr ac rwy’n gobeithio parhau i wneud hynny yn y dyfodol agos. Er fy mod yn drist wrth adael tîm o ddarlithwyr cystal sydd wedi fy nghefnogi cymaint dros y tair blynedd diwethaf, rwyf hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at y cyfle i astudio am radd Meistr mewn Seicoleg Iechyd yng Nghaerfaddon”. Mae Rebecca wedi cael ei derbyn ar y rhaglen Meistr mewn Seicoleg Iechyd ym Mhrifysgol Caerfaddon, gan ddechrau ym mis Medi eleni. Dywedodd Dr Ceri Phelps, Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg a goruchwyliwr traethawd hir Rebecca: “Mae Rebecca wedi cwblhau darn o ymchwil cyffrous dros ben ar iechyd dynion, gan fynd â’i hymchwil i mewn i’r gymuned leol, ac yn bendant, bydd potensial i fynd â’r ymchwil hwn yn bellach yn y dyfodol. Rydym wrth ein boddau oherwydd y byddwn yn gallu parhau i weithio ar yr ymchwil hwn dros y misoedd i ddod”. Newyddlen Y Gyfadran Addysg a Chymunedau | Ionawr 2015

Rebecca Crabtree (ar y dde) gyda Dr Ceri Phelps (Ysgol Seicoleg) yn derbyn ei gwobr CSP am fod y Myfyriwr Seicoleg Gorau


Cynhadledd Cangen Cymru Cymdeithas Seicoleg Prydain 2014 ym Mhrifysgol Aberystwyth Cyflwynodd chwe myfyriwr seicoleg israddedig o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Abertawe eu hymchwil traethawd hir yng nghynhadledd Cangen Cymru Cymdeithas Seicoleg Prydain a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Mai 2014.

Ysgol Seicoleg a Chwnsela

uwtsd.ac.uk/cy/addysg-a-chymunedau/ ysgol-seicoleg-a-chwnsela/ O’r chwith i’r dde: Rebecca Watkins, Aislyn Watts, Bruce Spence, Rebecca Crabtree, Alecia Cousins, Katie Sullivan

Prosiect AHRC ar Gwlt y Seintiau yng Nghymru: Cynhadledd Ryngwladol ar Gampws Caerfyrddin

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cydweithio â’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ar brosiect sylweddol ar Seintiau yng Nghymru ac wedi llwyddo i ddenu £774,582 oddi wrth Y Cyngor Ymchwil i’r Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC). Dan arweiniad y Prif Ymchwilydd (Arweinydd Prosiect) Dr David Parsons yn y Ganolfan, gyda Chyd-ymchwilwyr Dr Barry Lewis (y Ganolfan) a Dr Jane Cartwright (Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant), bydd yr adnodd digidol hwn yn cynnwys nifer o olygiadau arlein o’r testunau sydd wedi eu casglu, gyda nodiadau dwyieithog helaeth

a chyfieithiadau llawn i’r Saesneg (a hefyd, yn achos y farddoniaeth, i Gymraeg cyfoes). Bydd delweddau digidol o nifer o’r llawysgrifau a thrafodaethau ar wahân o’r casgliadau pwysicaf. Ym mis Medi 2014 cynhaliwyd cynhadledd tridiau ar gampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Saint. Denodd hon gyfranogwyr o Gymru ac Ynysoedd Prydain, ynghyd ag Iwerddon, Ffrainc, yr Almaen, yr Iseldiroedd ac Awstralia! Cyflwynodd aelodau o dîm y prosiect rywfaint o gynnyrch cyntaf eu hymchwil: bu

Alaw Mai Edwards yn trafod rhai o’r anawsterau a geir i wahaniaethu rhwng traddodiadau penodol seintiau ag enwau tebyg oedd wedi’u cyfuno; cyflwynodd Eurig Salisbury waith bardd o Sir Forgannwg oedd hyd yma wedi’i anwybyddu, Rhisiart ap Rhys; bu Barry Lewis yn ystyried yr heriau a’r ddealltwriaeth oedd i’w cael yn nhraddodiad llawysgrifol dryslyd y testun achyddol Bonedd y Saint. Bu siaradwyr eraill yn ymdrin ag agweddau amrywiol cwltiau’r seintiau, yng Nghymru ac mewn traddodiadau cyfatebol. Roedd y ddau brif ddarlithydd yn aelodau o’n Bwrdd Ymgynghorol: siaradodd yr Athro Padraig Ó Riain ar ‘Hagiographical exchanges between Ireland and Wales: new questions and old answers’, a thraddodwyd darlith Dr Katherine Olson, ‘All Christendom’s saints: the cult of saints, manuscript culture, and Catholicism in the sixteenth century’, gan Dr Craig Owen Jones ar ran ei wraig, oedd yn anhwylus. Yn 2015 byddwn yn dechrau ar gyfres o ddigwyddiadau undydd o gwmpas Cymru yn disgrifio ein gwaith ac yn trafod llenyddiaeth y seintiau sy’n lleol i’r ardaloedd y byddwn ni’n ymweld â nhw. Yr Athro Jane Cartwright BA, PhD, Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Ddwyieithrwydd j.cartwright@tsd.uwtsd.ac.uk


Lawr i’r ddaear! BA Plentyndod Cynnar Cafodd tiwtoriaid a myfyrwyr y drydedd flwyddyn ymweliad difyr ac addysgiadol arall â phrosiect Down to Earth ar benrhyn Gŵyr y gwanwyn hwn. Mae myfyrwyr sy’n dilyn y modiwl Plentyndod Gwyrdd wedi bod yn ymweld â Down to Earth dros y tair blynedd diwethaf ac mae’r digwyddiad bob amser yn llwyddo i wneud Addysg ar gyfer Datblygu

Darlithwyr yn darparu hyfforddiant- Mudiad Ysgolion Meithrin Yn ddiweddar bu Carys Richards a Nanna Ryder yn cynnal hyfforddiant ‘Y Cyfnod Sylfaen’ i hyfforddwyr Mudiad Ysgolion Meithrin. Yn ystod yr hyfforddiant cafodd y cyfranogwyr brofiadau ymarferol ynghyd a gwybodaeth diweddaraf o ran y Cyfnod Sylfaen. Meddai Carys Richards, uwch ddarlithydd ac Arweinydd y Cyfnod Sylfaen: ‘Barnwyd gan y cyfranogwyr bod yr hyfforddiant wedi bod yn llwyddiannus. Nodwyd yn eu hadborth eu bod wedi mwynhau’r hyfforddiant a’r cyfle i drafod gan nodi bod cymryd rhan weithredol yn fanteisiol wrth iddynt raeadru yn ôl i’w hyfforddeion hwythau.’ Bu Carys Richards a Catherine Morgan yn darparu hyfforddiant Cam Cyntaf mewn Cerddoriaeth i hyfforddeion Cam wrth Gam ledled Cymru. Cafwyd diwrnodau hwylus yn llawn difyrrwch a gweithgareddau bywiog. Roedd cyfleoedd i’r cyfranogwyr weld adnoddau Cymraeg a dwyieithog newydd ac arloesol a ddatblygwyd gan Ganolfan Peniarth, yn ogystal a sut i’w cyflwyno mewn modd sbardunol i blant.

Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ACDCF) yn rhywbeth difyr, diddorol a pherthnasol. Eleni bu’r grŵp yn chwarae gemau ac yn ymchwilio’r safle i ddod o hyd i ffyrdd o hyrwyddo cynaliadwyedd a dinasyddiaeth fyd-eang gyda phlant ifanc. Yn ystod ein hymweliad dysgon ni am y traddodiad hynafol o adeiladu â mwd a gwellt a sut y gellir defnyddio hyn i ddatblygu gwahanol agweddau ar y cwricwlwm ADCDF yng Nghymru. Yn ogystal defnyddiwyd mapiau mawr, sesiynau trafod a chwisiau i wneud dinasyddiaeth fyd-eang yn rhywbeth ystyrlon ac yn hwyl. Mae’r diwrnod hefyd yn amlygu pwysigrwydd hawliau plant a dysgu yn yr awyr agored sydd yn greiddiol i werthoedd yr Ysgol Plentyndod Cynnar. Rydym yn edrych ymlaen at ein hymweliad y flwyddyn nesaf.

Ysgol Plentyndod Cynnar

www.uwtsd.ac.uk/cy/addysg-a-chymunedau/ysgolplentyndod-cynnar/

Newyddlen Y Gyfadran Addysg a Chymunedau | Ionawr 2015

Canolfan Addysg Athrawon De-Orllewin Cymru swwcte.ac.uk/cy/amdanom-ni


Hyfforddeion TAR-Cynradd yn datblygu syniadau ar gyfer hyrwyddo FfLlRh ac ADCDF wrth ddysgu yn yr awyr agored Yn ystod yr wythnos amwytho, ymwelodd hyfforddeion TAR Cynradd â Chanolfan Darganfod Parc Margam i ddeall gwerth profiadau dysgu y tu allan i’r ysgol. Nodau’r diwrnod oedd i ddechrau deall gwerth profiadau dysgu y tu allan i’r ysgol ac ar gyfer cefnogi dealltwriaeth o’r dimensiwn Cymreig/ ADCD;

cwmpawd, cyfeirnodau grid a chyfeirnodau GPS. Gellir defnyddio’r parc hefyd i hyrwyddo sgiliau mathemategol. Yn ystod y

Gellir hyrwyddo agwedau o ADCDF gyda’r plant wrth drafod y ceirw prin ‘Pere David’ yn parc, ac ystyried effaith dyn ar gynefinoedd anifeiliaid o gwmpas y byd. Gall hyn arwain at weithgareddau’n seiliedig ar newid hinsawdd, treuliant a gwastraff, nid yn unig yn yr ardal leol ond y byd ehangach hefyd.

Derbyniwyd adborth cadarnhaol iawn gan y staff a’r hyfforddeion, ac roedd y syniadau a gynhyrchwyd gan yr ymweliad yn werthfawr iawn. Ar ôl yr ymweliad, crewyd wiki ar Moodle i annog hyfforddeion i rannu eu syniadau. Dyma rhai o’u sylwadau:

‘Gellir defnyddio y Llwybr Fferm i helpu plant i ystyried pwysigrwydd gofalu am bobl eraill ac anifeiliaid; holi plant o ble y daw llaeth, caws, iogwrt, cig a wyau – cysylltiadau â ffermio organig, bwydydd lleol, masnach deg…’

gweithgareddau ‘Rhifedd’ rhoddwyd onglydd ‘acetate’ i ni fesur onglau gwahanol. Byddai hyn yn weithgaredd hwyliog i’r plant hefyd wrth iddynt drafod y gwahanol siapiau, adeiledd y castell, er enghraifft, waliau ar onglau 90º a chylchoedd consentrig.

Yn y gweithgareddau “Mapiau”, gofynwyd i ni ddarganfod pellter, creu map gyda rhai agweddau ar goll, labelu’r map a gosod graddfa. Gellir creu mapiau tebyg ar gyfer plant – mesur rhannau o’r castell, eu labelu ar fap gwag. Cyfle hefyd i gyfoethogi geirfa wrth i blant ddysgu pwyntiau’r

Canolfan Addysg Athrawon DeOrllewin Cymru swwcte.ac.uk/cy/amdanom-ni

Croeso i Lammas: Cynaliadwyedd a Chynhwysiant Cymdeithasol BA Cynhwysiant Cymdeithasol Mae myfyrwyr sydd ar eu blwyddyn olaf o’r cwrs gradd BA Cynhwysiant Cymdeithasol yn astudio modwl o’r enw ‘Cynaliadwyedd a Chynhwysiant Cymdeithasol’. Mae’r modwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ystyried cynaliadwyedd a chymunedau cynaliadwy mewn ffordd ddamcaniaethol yn ogystal â ffordd ymarferol. Gofynnir i fyfyrwyr archwilio i amrywiaeth o athroniaethau Gwyrdd sy’n gysylltiedig â’r agenda cynaliadwyedd, gan gynnwys rhai techno-ganolog ac eco-ganolog, drwy ystyried ystod o ddamcaniaethau, gan gynnwys ecoleg gymdeithasol, eco-ffeministiaeth, eco-sosialaeth ac ecoleg ddofn. Mae’r damcaniaethau hyn yn caniatáu mynd i’r afael yn feirniadol â safiad cyfiawnder cymdeithasol parthed dadleuon amgylcheddol a chynaliadwyedd. Er mwyn sicrhau bod y rhain yn fwy na dim ond dadleuon anffrwythlon ‘academaidd’, caiff y myfyrwyr ymweld â Phrosiect Lammas, eco-bentref a leolir ar Dir y Gafel yng

Ngogledd Sir Benfro, lle mae’r aelodau wedi creu model arloesol a ddisgrifir fel a ganlyn: ‘model amgen ar gyfer byw ar y tir. Mae’n rhoi’r grym i bobl


archwilio i sut beth yw byw mewn ffordd sy’n cael llai o effaith ar yr amgylchedd. Mae’n dangos bod ffyrdd o fyw amgen ar gael yma a nawr’ (Lammas, 2014). Yn ystod y dydd, mynychodd y myfyrwyr amrywiaeth o weithdai a archwiliodd i: • Gyflwyniad i Permaddiwylliant • Adeiladu Cobiau (Adeiladu Naturiol) • Ynni Adnewyddadwy nad yw ar y grid (ynni dŵr ac ynni solar) • Gweithdy Bwyd Gwyllt • Cynnal a Chadw lawnt pentref • Crefft Helyg Gwnaeth y myfyrwyr ddarganfod bod yr ymweliad hwn nid yn unig wedi caniatáu iddynt gymryd rhan yn yr asesiadau a oedd yn gysylltiedig â’r modwl, ond ei fod hefyd wedi

ymestyn eu dealltwriaeth o bosibiliadau byw yn gynaliadwy. Gwnaeth y myfyrwyr y sylwadau canlynol: ‘Mae’n braf ei brofi gyda’ch llygaid chi eich hun, yn hytrach na darllen amdano ar bapur’ ‘mae gweld y peth yn fyw yn helpu; mae llyfrau a phethau eraill yn dda, ond mae gwneud y peth eich hun yn eich helpu chi ei ddeall llawer yn well’ ‘Yn bendant, byddem yn cymeradwyo’r cwrs. Rydym yn ffodus ein bod yn gallu mynd ar wibdeithiau ac mae’r Brifysgol a’r darlithoedd yn dda; maent yn ein helpu ni llawer ac rydym yn mwynhau mynd ar wibdeithiau fel y rhain!’ Prosiect Lammas, ‘Croeso i Lammas’ , lammas.org.uk [Cyrchwyd ar 12/12/2014]

Hafan Cymru Ar hyn o bryd, mae staff a myfyrwyr yr Ysgol Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol yn cymryd rhan mewn ail gyfnod o werthuso gyda Hafan Cymru, sy’n rhedeg Rhaglen Addysg Bersonol a Chymdeithasol mewn ysgolion ar draws Cymru, gan gynnwys y Cyfnod Sylfaen, hyd at fyfyrwyr Safon Uwch. Sefydlwyd y rhaglen Spectrum gan Hafan Cymru er mwyn: ‘ gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru, codi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig a’i effaith ar blant a phobl ifanc, a rhoi i bobl ifanc y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i chwilio am gymorth, pe baent yn cael profiad o gam-drin domestig’. Nod y gwerthusiad yw asesu’n feirniadol gwaith Spectrum er mwyn

sicrhau bod y prosiect: ‘yn parhau i fod yn gyfoes ac yn effeithiol wrth hysbysu, addysgu a newid agweddau’. Dr Nichola Welton a Dr Caroline Lohmann-Hancock yw rheolwyr prosiect y gwerthusiad, gyda chefnogaeth academaidd ychwanegol gan yr Athro Cyswllt Sue Davies ac Alison Baggot, yn ogystal â dau fyfyriwr lefel 6, Philip Morgan a Gwawr Williams, sy’n astudio am radd BA Cynhwysiant Cymdeithasol. Daw pawb sy’n gweithio ar yr ymchwil hwn o’r Ysgol Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol. Felly, mae’r prosiect ymchwil hwn yn cynnig datblygiad proffesiynol i staff a myfyrwyr ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr yn arbennig i gymryd rhan mewn ymchwil go iawn.

Mae nodau Hafan, sef ceisio codi ymwybyddiaeth o ‘gam-drin domestig’ a ‘thrais ar sail rhywedd’ yn cyd-fynd ag amcanion presennol Llywodraeth Cymru. Oherwydd hynny, mae’r Ysgol Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol yn rheng flaen yr ymchwil presennol a wneir yn y maes hwn. Mae gwerthuso’r rhaglen addysgol hon gyda Hafan Cymru yn galluogi i fyfyrwyr a staff ddatblygu ymchwil gyda sefydliadau a chanddynt werthoedd sy’n cyd-fynd â gwerthoedd yr ysgolion.

Ysgol Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol

uwtsd.ac.uk/cy/addysg-a-chymunedau/ ysgol-cyfiawnder-a-chynhwysiantcymdeithasol/

Llwyddiant i Bawb yn dod â’i Rhaglen Ysgolion, sydd Eisoes wedi Ennill Gwobrau, i Gymru Sefydlwyd Canolfan Cymru er Cydraddoldeb mewn Addysg gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Cymru. Mae’n cynrychioli ymrwymiad gan y prifysgolion i ddatblygu polisi, ymchwil cymhwysol ac arfer arloesol a fydd yn cyfrannu at wella cydraddoldeb o fewn system addysg Cymru. Ers mis Ionawr 2014, mae cynllun peilot llwyddiannus o Llwyddiant i Bawb wedi bod yn rhedeg gyda Chonsortiwm Canolog y De mewn 14 o ysgolion Braenaru yn yr ardal, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, Canolfan Cymru er Cydraddoldeb mewn Addysg, consortia addysg rhanbarthol ac ysgolion yng Nghymru. Dengys data o ysgolion Braenaru cynnydd sylweddol mewn darllen, ysgrifennu a mathemateg. Gwnaeth disgyblion ar y Newyddlen Y Gyfadran Addysg a Chymunedau | Ionawr 2015


rhaglen un is-lefel o gynnydd y tymor, a fyddai’n arwain at un lefel Cwricwlwm Cenedlaethol o gynnydd y flwyddyn - sy’n gynnydd uwch na’r hyn a geir mewn ysgolion yn Lloegr. Mae’r rhaglen Llwyddiant i Bawb yn rhedeg dros ddwy flynedd ac fe’i cyflwynir mewn partneriaeth gan ‘Pencampwr’ enwebedig yr ysgol a ‘Hyfforddwr Cyflawniad’. Mae’r fframwaith yn cysylltu pedair prif elfen o welliant ysgol: • Arweinyddiaeth – gyda ffocws cryf ar welliant a arweinir gan ysgolion i drawsnewid deilliannau i ddisgyblion agored i niwed • Addysgu a dysgu – gan gynnwys tracio, cynllunio a chyflwyno asesu a data • Ymgysylltu â Rhieni – sgyrsiau strwythuredig gyda rhieni sy’n ffocysu ar ddeilliannau addysgol • Deilliannau a chyfleoedd ehangach – gwella ymddygiad, presenoldeb a chyfranogiad ym mywyd yr ysgol Dywedodd Sonia Blandford, sylfaenydd a Phrif Weithredwr Llwyddiant i Bawb: “Rydym wrth ein bodd i ddechrau ar bennod newydd o’n gwaith i gulhau’r bwlch a gwella deilliannau i blant a phobl ifanc agored i niwed a dan anfantais yng Nghymru. Mae ein Rhaglen Ysgolion yn cael effaith enfawr ar y plant a’r ysgolion sy’n cymryd rhan, gyda

llawer o blant yn gwneud cynnydd cyflymach mewn darllen, ysgrifennu a mathemateg na’u cyfoedion mewn ysgolion eraill. Rwy’n falch iawn ein bod yn cyflwyno Llwyddiant i Bawb Cymru i ysgolion yng Nghymru er mwyn helpu i wella cyfleoedd bywyd plant.” Bydd digwyddiad Dydd Iau yn cael ei gynnal yn Adeilad Pierhead ac yn dathlu gwaith caled yr ysgolion braenaru. Fe fydd yna berfformiad cerddorol gan fyfyrwyr Ysgol Gyfun Y Bari a ffilm gan Ysgol Gynradd Cadoxton. Bydd Brian Lamb OBE, Cadeirydd Llwyddiant i Bawb, Sonia Blandford, a David Egan, Cyfarwyddwr Canolfan Cymru er Cydraddoldeb mewn Addysg yn bresennol ac yn annerch y gwestai, a byddwn hefyd yn clywed gan Mary Davis, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Bryn Hafren, ynglŷn â sut y mae’r rhaglen wedi eu helpu nhw i wella deilliannau eu disgyblion. Gall ysgolion Cynradd, Uwchradd ac Arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion yng Nghymru gofrestru nawr i ymuno â Rhaglen Llwyddiant i Bawb. Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.afa3as.org.uk neu anfonwch e-bost, enquiries@afa3as.org.uk

Rhaglen newydd mewn dwyieithrwydd Mae Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Dwyieithrwydd wedi dilysu rhaglen arloesol newydd a fydd yn dechrau ym Medi 2015. Un o nodweddion unigryw’r BA mewn Dwyieithrwydd Cymhwysol (Cymraeg gyda Saesneg) yw y bydd ar gael i fyfyrwyr Cymraeg Ail Iaith yn unig - penderfyniad a wnaed yn dilyn ymchwil a ddangosodd fod myfyrwyr o gefndir ail iaith yn aml yn teimlo’n anghyfforddus yn astudio wrth ochr myfyrwyr iaith gyntaf mewn prifysgolion.

Nodwedd arall sy’n gwneud y rhaglen hon yn wahanol i gyrsiau gradd traddodiadol yn y Gymraeg yw’r ffocws ar ddwyieithrwydd. Y bwriad yw gwella sgiliau Saesneg y myfyrwyr ar yr un pryd â’u sgiliau Cymraeg, gan ddefnyddio eu gwybodaeth o’u mamiaith i’w helpu nhw i ddeall eu hail iaith yn well. Cynhelir dau draean o’r modylau drwy gyfrwng y Gymraeg a thraean drwy gyfrwng y Saesneg. Bydd gan fyfyrwyr gyfleoedd hefyd i ddysgu sgiliau newydd megis isdeitlo a chyfieithu ar y pryd.

Wedi cwblhau’r rhaglen, y gobaith yw y bydd graddedigion yn gallu gweithredu’n hyderus yn y ddwywaith, a deall bod perthynas rhyngddyn nhw, sy’n gweld y naill yn dylanwadu ar y llall. Cyflwynir y berthynas hon mewn cyd-destun byd-eang a fydd yn edrych ar ddyfodol amrywiaeth ieithyddol y byd yn yr unfed ganrif ar hugain, a’r rhyngweithio rhwng ieithoedd mwyafrifol a lleiafrifol. Os hoffech fwy o wybodaeth, croeso i chi gysylltu ag Andrew Currie (01267 67 6846) a.currie@ydds.pcydds.ac.uk


Proffil Staff Yr wyf, hyd yn hyn, wedi mwynhau pob sesiwn gyda’r hyfforddeion yn Abertawe a Chaerfyrddin. Maent yn awyddus i ddysgu ac yn barod i wrando ar syniadau ac ni allant aros i fynd ‘allan i’r maes’. Er hynny, mae wedi bod yn frawychus hefyd. Wrth fynd o addysgu mewn ystafell ddosbarth gynnes, liwgar a bywiog yn llawn o wynebau bychain a oedd yn awyddus i’m plesio a chymryd rhan, i ystafell ddychrynllyd Rhosili gyda bron â bod 170 o oedolion, gwnes aros yn y man gan ofyn i’m hun ‘sut ar y ddaear gwnes i gyrraedd yma?’ ac ‘ai dyma beth yr wyf eisiau gwneud?’ Ond yr hyfforddeion yw’r rheswm yr wyf yn mwynhau fy swydd newydd. Mae ganddynt yr un brwdfrydedd tuag at addysgu a oedd gennyf innau, lawer of flynyddoedd yn ôl, pan wneuthum astudio ar gwrs TAR ym Mryste. Maent yn hoffi holi am yr holl wybodaeth maent yn dod o hyd iddi ac maent yn awyddus i wneud yn dda ac i fod yr athro newydd gymhwyso rhagorol hwnnw mae pob ysgol ei angen. Ydyn, maent yn achwyn am y llwyth gwaith a’r pwysau gwaith, ond hyd yn hyn, nid ydynt yn ymwybodol o’r llwyth gwaith enfawr hwnnw y bydd yn rhaid iddynt hwy, fel athrawon, ei wynebu. Mae ganddynt o hyd yr awydd i addysgu, i wneud gwahaniaeth ac i ofalu am y disgyblion, a’u gweld fel unigolion ac nid dim ond fel rhifau a rhan o’u ‘data’.

Roeddwn i’n arfer dweud na fyddwn byth yn addysgu unrhyw un sy’n dalach na minnau.… Er rwy’n dal i ystyried fy hun yn aelod gymharol newydd o’r staff, meddyliais y buaswn yn defnyddio’r cylchlythyr hwn i fynegi rhai o’m syniadau a phrofiadau diweddar. Yn gyntaf, ychydig amdana’i. I’r rhai hynny ohonoch nad ydych wedi fy nghwrdd, rwyf wedi gweithio ar draws Abertawe a Sir Gaerfyrddin fel Athrawes Cyfnod Sylfaen, ac yn fwy diweddar fel Swyddog Cymorth a Hyfforddiant y Cyfnod Sylfaen. Rwy’n briod â Phrifathro lleol ac mae gennym bedwar o blant (yn dal i fod yn yr ysgol), dwy gath a dau gi. Felly, mae bywyd yn eithaf prysur! Mae bod yn rhan o’r Brifysgol a gweithio ar y cyrsiau BA Addysg a TAR Cynradd wedi bod yn newid anferth i mi. Roedd arna’i esiau ‘gwneud gwahaniaeth’ a chyfrannu tuag at fowldio’r ‘athro newydd gymhwyso’. O safbwynt yr ysgol, gwnaeth rhai athrawon newydd gymhwyso ein syfrdanu gyda’u creadigedd, eu brwdfrydedd a’u dealltwriaeth o addysgu a dysgu. Yn anffodus, ni wnaeth eraill yr un argraff. Nid oeddent yn barod am heriau’r proffesiwn ac roeddynt yn dibynnu’n drwm ar yr ysgol i’w harwain a’u helpu gyda gwersi, cynllunio, gwerthuso a miliwn o dasgau eraill y mae athrawon yn eu hwynebu.

Newyddlen Y Gyfadran Addysg a Chymunedau | Ionawr 2015

Yn ddiweddar, cefais y fraint o dreulio diwrnod yn Ysgol Gynradd Gwyrosydd pan wnaeth yr hyfforddeion TAR addysgu eu gwersi ar raddfa fechan. Roedd ofn arnynt, roeddent yn ddibrofiad ac yn nerfus, ond hefyd, roeddent wedi paratoi yn hynod o dda, yn broffesiynol, ac roedd cyflwyniadau’r gwersi yn gyson o safon uchel. Gwnaeth yr holl waith y gwnaethant ei gwblhau, a’r ymchwil yr oeddent wedi ei wneud er mwyn darparu sesiwn ddiddorol, heriol, â rhediad da iddi, ar gyfer y disgyblion ifanc, argraff arnaf. Yn bendant, hyd yn hyn, mae gweithio i’r Brifysgol wedi profi i mi fy mod wedi cymryd y cam iawn. Mae gennyf lawer iawn i’w ddysgu o hyd ac rwy’n paratoi sesiynau ac adnoddau i’w rhannu gyda’r hyfforddeion yn gyson. Nid wyf fyth erioed wedi defnyddio gliniadur ac e-bost cymaint, ac felly, pan fydd fy mab ifanc yn gofyn i mi chwarae gêm gydag ef, rhaid i mi ddifodd y cyfan a chanolbwyntio ar bethau eraill – o leiaf am dipyn.

Mrs Gail Parker BA, ECON, TAR Uwch-Darlithydd - Arweinydd Cyfnod Sylfaen(DPP) e-bost:gailparker@uwtsd.ac.uk


Ehangu Mynediad – Proffil Myfyrwraig hwnnw fy helpu i fireinio fy sgiliau rheoli amser a threfnu, gan alluogi persbectif newydd ar ddeddfwriaeth a’r pynciau damcaniaethol hynny yr oeddwn yn eu hastudio ar y cwrs. Yn ystod blwyddyn olaf fy ngradd, daliais ati i ddatblygu fy sgiliau trefnu drwy gwblhau cymysgedd o aseiniadau a oedd yn ofynnol arnom eu hastudio, rhai ar gyfer yr unigolyn ynghyd â rhai ar gyfer y grŵp, yn ogystal â threfnu fy mhriodas erbyn yr haf a oedd yn dod. Roedd hwn eto yn brofiad heriol a gwerth chweil, a’r canlyniad oedd diwrnod priodas bythgofiadwy, i’w ddilyn gan fy niwrnod graddio ar y cwrs ddeuddydd wedyn, pan enillais radd ail ddosbarth uwch gydag anrhydedd. Elwais yn fawr o’r cwrs, yn bersonol ac yn academaidd, a theimlaf fod y cwrs hwn nid yn unig wedi helpu i mi ddod o hyd i’m brwdfrydedd, ond hefyd wedi ehangu fy ngwybodaeth a’m sgiliau academaidd. Yn dilyn y graddio, gwnes ailddechrau gweithio yn y sector gofal preswyl ac am y tair blynedd diwethaf rwyf wedi bod yn gweithio i Mencap fel gweithiwr cymorth o fewn yr adran anawsterau dysgu ac ymddygiad heriol. Mae’r cyfnod hwn o waith wedi fy ngalluogi i gefnogi fy ngŵr wrth iddo barhau gyda’i astudiaethau. Fe fydd yn dod i ben â’i astudiaethau eleni, ac yna, fe fydd cyfle i’n teulu dyfu. Erbyn hyn, rwy’n gwneud cais i astudio am radd Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol a theimlaf y bydd fy ngradd yn fy helpu i gymryd cam yn agosach at fy nymuniad o fod yn Weithiwr Cymdeithasol.

Enillais radd BA gydag anrhydedd o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, lle astudiais Astudiaethau Addysg a Chynhwysiant Cymdeithasol, cymysgedd o’r ddwy yrfa yr wyf yn frwdfrydig drostynt ac sydd o ddiddordeb mawr i mi. Rhoddodd fy amser yn y brifysgol i mi amrywiaeth eang o wybodaeth addysgol a phrofiadau bywyd. Yn ystod fy ail flwyddyn, bu geni fy merch gyntaf, felly, cymerais egwyl o 4 wythnos o’r cwrs i wella, ond daliais ati i astudio gartref gan sicrhau bod fy holl aseiniadau yn cael eu cyflwyno’n electronig ac mewn pryd. Teimlaf y cefais lawer o gefnogaeth gan fy narlithwyr a gwnaeth hyn fy ngalluogi i barhau gyda / gwblhau fy ngradd. Er roedd y flwyddyn honno yn un llawn heriau academaidd a phersonol, mae’r profiad a gefais wedi bod yn werthfawr. Gwnaeth y profiad

Cefais lawer o gefnogaeth, nid yn unig gan ddarlithwyr, ond hefyd gan Gymorth Myfyrwyr. Oherwydd fy nyslecsia, roedd ambell beth yn anodd weithiau ac roeddent yn gydymdeimladol iawn. Teimlaf eu bod nhw a’r darlithwyr wedi rhoi i mi’r gefnogaeth iawn, e.e. gyda chaniatâd, roedd hi’n bosibl i mi recordio’r darlithoedd, oherwydd gall fod yn rhwystredig iawn os na allwch sillafu unrhyw air yn gywir. Kimberley Snellgrove B.A.


Newyddion da: Adroddiad Estyn CAADOC Mae Canolfan Addysg Athrawon De-Orllewin Cymru wedi derbyn ei hadroddiad olaf gan Estyn, ar ôl 18 mis prysur dros ben - cyfnod pan fu’r Ganolfan yn gweithio’n ddiwyd i geisio ymateb i’r argymhellion a gododd o Arolwg Estyn o’r Ganolfan HAGA yn 2011-12. Gwobrwywyd gwaith caled staff CAADOC gan fod yr adroddiad yn cydnabod y newidiadau a fu yn niwylliant, arferion gwaith a deilliannau myfyrwyr HAGA y Ganolfan. Mae llythrennedd yn fater hollbwysig ym myd addysg Cymru; mae’r sylwadau canlynol a ddaw o adroddiad Estyn yn dangos sut mae CAADOC yn llwyddo wrth baratoi myfyrwyr at fynd i’r afael â’r mater hwn yn yr ystafell ddosbarth:

Mae staff y Ganolfan wedi gweithio’n galed i wella sgiliau cynllunio ac adfyfyrio’r hyfforddeion: ‘Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu llawer o bwyslais ar wella sgiliau cynllunio ac adfyfyrio’r hyfforddeion... Mae tiwtoriaid yn disgwyl llawer gan gynlluniau’r hyfforddeion ac maent wedi cyfathrebu’n glir y disgwyliadau hyn i’r mentoriaid yn yr ysgolion. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod hyfforddeion yn derbyn negeseuon cyson a chefnogaeth dda mewn perthynas â chynllunio gwersi’. Mae’r Cwricwlwm Cymreig yn ganolog i’n gwaith gyda myfyrwyr HAGA – ac rydym yn gobeithio arwain y sector yn y maes hwn yn y dyfodol: ‘Mae adnabod enghreifftiau o arfer gorau’r Cwricwlwm Cymreig yn nodwedd gref o’r gwaith hwn ac mae’n dangos gwaith rhagweithiol y Ganolfan wrth ddatblygu ei phartneriaeth ag ysgolion’. Cafodd y prosesau cynllunio a monitro strategol a gynhelir bob blwyddyn ar draws CAADOC hefyd eu cydnabod: ‘Mae’r strategaethau a’r gweithdrefnau hefyd yn cynnwys gweledigaeth sy’n cael ei chyfleu’n eglur o’r disgwyliadau uchel sydd o’r holl staff yn ogystal ag uchelgais i ddarparu athrawon o ansawdd uchel i’r gweithlu addysgu yng Nghymru a thu hwnt. Mae tiwtoriaid, mentoriaid a hyfforddeion, yn deall y weledigaeth hon yn dda ac yn cefnogi’r uchelgais’. Mae’r datganiad diwethaf hwn yn crynhoi ein sefyllfa ar hyn o bryd. Yn y dyfodol, mae CAADOC yn wir bwriadu arwain y sector mewn HAGA gan dyfu i fod yn Ganolfan Ragoriaeth o ran darpariaeth HAGA; bydd gwaith y Brifysgol gyda’i phartneriaid consortiwm rhanbarthol, yn symud y nod hwn ymlaen yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.

Dr Jane Waters BSc (An), TAR, MA(Add),PhD Pennaeth Canolfan Addysg Athrawon De- Orllewin Cymru e-bost: jane.waters@uwstd.ac.uk ‘Mae hyfforddeion ar yr holl raglenni yn ymwybodol o’r angen i ddatblygu llythrennedd disgyblion ar draws y cwricwlwm, ac mae ganddynt ddealltwriaeth dda o ofynion y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd. Darperir cymorth a chyfarwyddyd ymarferol da gan y Ganolfan er mwyn helpu hyfforddeion i ddatblygu sgiliau llythrennedd y disgyblion, ac mae hyn, yn ei dro, wedi gwella arfer yr hyfforddeion ar draws pob rhaglen... Dengys data’r Ganolfan bod ymyriadau llythrennedd gorfodol a dargedwyd wedi gwella sgiliau llythrennedd y grŵp hwn o hyfforddeion yn sylweddol’.

Newyddlen Y Gyfadran Addysg a Chymunedau | Ionawr 2015


Darlithydd yn dod yn ‘Pencampwraig Daeryddiaeth’ Yn ddiweddar, llwyddodd Dr Sioned Hughes, uwchddarlithydd CAADOC, i ddod yn ‘Geography Champion’ anrhydeddus i’r Gymdeithas Ddaearyddol. Mae’r meini prawf ar gyfer ‘Geography Champion’ yn cynnwys bod yn wybodus ac yn frwdfrydig wrth sicrhau ansawdd uchel addysgu a dysgu Daearyddiaeth, y gallu i rannu’r brwdfrydedd a’r gwybodaeth gyda rhwydwaith a’r gallu a’r parodrwydd i gefnogi eraill. Fel ‘Pemcampwraig Daearyddiaeth’, fe fydd Sioned yn dod yn rhan o dîm Cymedroli y Gymdeithas Ddaearyddiaeth, yn cefnogi gydag asesu y ‘Primary Geography Quality Mark’ (PGQM) gan sicrhau ei berthnasedd i ysgolion Cymru. Dr Sioned Hughes with Dr Russell Grigg holding their recent publication: Teaching primary humanities

International Federation for Information Processing (IFIP) Rwy wedi elwa mewn nifer o ffyrdd o’r profiad hwn, gan gynnwys yr hyder a fagais fel ymchwiliwr wrth gyflwyno’r papur, ac o safbwynt ymchwil, mae wedi fy ngalluogi i fynegi fy ngwaith ymchwil mewn geiriau. O safbwynt proffesiynol, gwnaeth hefyd fy ngalluogi i rwydweithio a gwneud cysylltiadau, ac ers y gynhadledd rwyf innau a Steve wedi cael cynnig i ysgrifennu pennod mewn llyfr newydd o’r enw “Debates in ICT and Computing” a gaiff ei gyhoeddi flwyddyn nesaf. Hefyd, cefais wahoddiad i fod yn aelod cyswllt o’r IFIP, ond cyn hynny, fe fydd yn rhaid i mi gyflwyno gwaith eto mewn cynhadledd arall os ydwyf am fod yn aelod llawn - Vilnius flwyddyn nesaf… Gallaf ddim ond breuddwydio!! Ym mis Gorffennaf 2014, roeddwn yn ddigon ffodus i gyflwyno papur o’r enw ‘Canfyddiadau Athrawon o Alluoedd Allweddol mewn TGCh” yng nghynhadledd yr International Federation for Information Processing (IFIP), a gynhaliwyd yn Potsdam, yn yr Almaen. Cafodd y papur ei ysgrifennu ar y cyd gyda Dr. Steve Kennewell ar sail canlyniadau fy ngwaith ymchwil ar sut

mae athrawon arbenigol TGCh mewn ysgolion uwchradd yn canfod eu pwnc arbenigol ac yn ogystal â hyn, a ydy eu harfer yn cefnogi eu canfyddiadau. Cafodd y papur ei dderbyn yn dda dros ben a chefais ganmoliaeth gan lawer o ymchwilwyr mwyaf sefydlog a phobl allweddol y maes TGCh, yn enwedig am ganolbwyntio ar y defnydd arloesol o Ddamcaniaeth Gweithgarwch o fewn yr ymchwil.

O safbwynt personol, cefais gyfle i ymweld â dinas brydferth a rhwydweithio ymhlith rhai o bobl allweddol y byd addysg a’m pwnc.

Jan Barnes

Swyddog Asesu/ Uwch-darlithydd TAR Uwchradd Canolfan Addysg Athrawon DeOrllewin Cymru e-bost: janine.barnes@uwtsd.ac.uk


Llyfr gan un o ddarlithwyr y Gyfadran yn ennill dwy wobr Mae cyfrol yr Athro Jane Cartwright Mary Magdalene and her Sister Martha: An Edition and Translation of the Medieval Welsh Lives a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Gatholig America yn 2013 wedi ennill dwy wobr yn ddiweddar. Ym mis Mehefin 2014 enillodd wobr ddylunio Cymdeithas Cyhoeddwyr Washington yn yr Unol Daleithiau ac ym mis Gorffennaf 2014 enillodd Wobr Goffa Vernam Hull am ei chyfraniad i astudiaethau canoloesol ym maes rhyddiaith. Tynnodd Jane lun o furlun canoloesol sy’n portreadu Mair Fadlen yn eglwys Llanilltud Fawr ar gyfer clawr y gyfrol a ddyluniwyd y clawr gan Anne Kachergis. Yn ôl yr Athro Dafydd Johnston: ‘Sicrha’r gyfrol bod golygiad a chyfieithiad ysgolheigaidd o’r ddwy Fuchedd Gymraeg ar gael i gynulleidfa ryngwladol am y tro cyntaf erioed a phrofa fod Cymru wedi chwarae rôl amlwg yn y broses o gynhyrchu traddodiadau Ewropeaidd am seintiau rhyngwladol. Ceir trafodaeth wybodus ar ddatblygiad cynnar y chwedlau, cymhariaeth fanwl o’r fersiynau gwahanol yn y llawysgrifau Cymraeg o’r bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen sy’n dangos sut yr addaswyd a defnyddiwyd y chwedlau yn y cyfnod modern cynnar. Gesyd y rhagarweiniad y bucheddau hyn yng nghyd-destun diwylliant brodorol Cymru a’i llenyddiaeth gyfoethog sy’n clodfori seintiau.

ifanc ac sydd â diddordeb yn y ffordd maent yn rhyngweithio gyda lleoedd awyr agored. Mae’r llyfr hwn yn cynnig persbectifau damcaniaethol y gallwch eu defnyddio i ystyried y materion ymarferol hynny (sydd yn aml yn anodd) sy’n wynebu’r sawl sy’n gweithio yn yr awyr agored gyda phlant ifanc mewn amrywiaeth o gyddestunau gwahanol. Mae’r persbectif rhyngwladol yn ein galluogi ni i feddwl ‘yn wahanol’ am, er enghraifft, chwarae a gychwynnir gan blant, cymryd risgiau a chysyniadu amgylcheddau awyr agored ‘effeithiol’. Archwilio Chwarae Awyr Agored yn y Blynyddoedd Cynnar “Mae’r amgylchedd awyr agored yn bwysig i blant ifanc. Nid yn unig y mae’r llyfr hwn yn cefnogi chwarae awyr agored, ond mae’n ystyried hefyd sut beth yn union ydyw yn y D.U. ac yn rhyngwladol, ac yn gofyn i ni adfyfyrio ar ei oblygiadau i’n harferion gwaith ni ein hunain. Bwriad Maynard a Waters oedd annog adfyfyrio beirniadol ac ysbrydoli ymarferwyr.

Cyhoeddi’r llyfr newydd: Exploring Outdoor Play in the Early Years Mae Dr Jane Waters yn gydolygydd i’r casgliad rhyngwladol hwn o waith sy’n ymwneud â chwarae a dysgu plant ifanc yn yr awyr agored a gyhoeddwyd gan McGraw Hill. Yn ogystal â gweithio gyda’r Athro Trisha Maynard ar gydolygu’r llyfr, Jane hefyd yw awdures y rhagair a phennod sy’n ymwneud â’i hymchwil doethuriaeth. Bwriad y llyfr hwn yw darparu testun sy’n berthnasol i’r rhai hynny sy’n gweithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol gyda phlant Newyddlen Y Gyfadran Addysg a Chymunedau | Ionawr 2015

Yn sicr, gwnaethant gyrraedd eu nod ac mae’r llyfr hwn i’w groesawu fel arf ychwanegol wrth ddadlau am bwysigrwydd amgylcheddau awyr agored yn y blynyddoedd cynnar. Gail Ryder Richardson, Ymgynghorydd Blynyddoedd Cynnar a Hyfforddwraig, Outdoor Matters!


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.