Llyfr Celf: Coleg Celf Abertawe

Page 1

Coleg Celf Abertawe PCYDDS


Darlun y Clawr gan Alice Jones,

B Darlun tu mewn gan Dili Pitt – Celf a Dylunio Sylfaen


“

Trawsnewid Bywydau i Newid y Byd; Un Myfyriwr ar y Tro. Coleg Celf Abertawe | Y DRINDOD DEWI SANT www.uwtsd.ac.uk/cy/cyfadran-celf-a-dylunio


2


→ → → → → → → → → → → → → → → → → →

Dylunio Patrwm Arwyneb 28 Crefftau Dylunio 38 Gwydr 40 Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth 46 Dylunio Cynnyrch 54 Hysbysebu a Dylunio Brand 60 Dylunio Graffig 66 Darlunio 72 Celf Gain 78 Ffotograffiaeth 86 Ffilm a Theledu 94 Dylunio Set 100 Technoleg Cerddoriaeth 102 Animeiddio 106 Dylunio Gemau 110 Sylfaen 116 Ôl-raddedig 120 Ymchwil 124

Olivia Hutchings Dylunio Patrwm Arwyneb Prosiect Allanol Orangebox

3


4


Rhagair Rhagair Nid oes addysg brifysgol arall yn debyg i addysg coleg celf. Gorwedda ei unigrywiaeth yn y ffordd y mae’n meithrin, cyfarwyddo ac annog unigoliaeth, creadigrwydd ac arloesedd. Mae gan y DU ystod anhygoel o gyfoethog ac amrywiol o golegau celf sydd â threftadaeth nodedig o gynhyrchu artistiaid, dylunwyr, animeiddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau a pherfformwyr a gydnabyddir ar draws y byd. Mae Coleg Celf Abertawe, coleg celf hynaf ac uchaf ei barch Cymru, yn rhan o’r traddodiad gwych hwnnw. Ers iddo agor ei ddrysau am y tro cyntaf yn 1853 bu’r Coleg ar reng flaen datblygiadau mewn addysg gelf, dylunio a chyfryngau yn y DU. Am yn agos i 165 o flynyddoedd, mae Coleg Celf Abertawe wedi cymryd ysbrydoliaeth o ddau fyd, dinas fodern ar yr un ochr a harddwch garw Penrhyn Gŵyr ar y llall. Y cymysgu hylif a deinamig hwn o’r ddau sydd wedi bywiogi Coleg Celf Abertawe i fod yn un o brif golegau celf y DU. Trwy gydol ein hanes rydym wedi cyfuno cysylltiadau â diwydiant gyda byd yr oriel. Mae ein cyrsiau yn mwynhau perthnasoedd gwaith cryf gyda brandiau mwyaf y DU a’r byd a chaiff prosiectau byw eu cefnogi’n rheolaidd gan gwmnïau fel Jaguar Land Rover, H&M a Hasbro. Mae ein cysylltiadau gyda’r diwydiant ffilm yn Ne Cymru yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael profiad gwaith gwerthfawr a lleoliadau ar gynyrchiadau teledu a ffilm mawr. Fel y byddech yn disgwyl, mae’r Coleg hefyd yn gweithio’n agos iawn gyda nifer o orielau sefydledig a newydd. Mae hyn yn darparu cyfleoedd i’n myfyrwyr ymgymryd â lleoliadau mewn orielau yn ogystal â churadu arddangosfeydd o’u gwaith eu hunain. Yr ochr arall i hyn yw bod y Coleg hefyd yn croesawu arddangosiadau teithiol mawr fel Gwobrau Darlunio’r Byd y Gymdeithas Darlunwyr. Un o brif nodweddion profiad myfyrwyr yn Abertawe yw’r cyfle a roddir iddynt gael profiad rhyngwladol drwy dreulio semester dramor yn astudio yn un o’n prifysgolion partner yng Ngogledd America.

I’r rheiny nad ydynt yn dymuno treulio amser estynedig dramor, mae yna gyfleoedd i fynd ar ymweliadau byrrach naill ai ar daith gyfnewid neu un o’r teithiau rhyngwladol rheolaidd a redir gan dimau cwrs. Er ein bod yn rhoi pwys mawr ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd rydym hefyd yn cydnabod bod addysg gelf a dylunio yn daith o hunanddarganfyddiad. Rydym yn credu’n angerddol mewn rhoi i’n myfyrwyr amser a lle i archwilio a dod o hyd i’w cyfeiriad eu hunain ac mae’n wirioneddol anhygoel beth sy’n esblygu. Mae parhau i fod yn gyfredol ym myd celf, dylunio a chyfryngau yn hanfodol. Mae gan y Coleg ddiwylliant ymchwil ffyniannus ac mae e wedi denu nawdd sylweddol i gefnogi prosiectau ymchwil. Mae’r rhan fwyaf o’n darlithwyr yn cynnal eu harfer eu hunain ac yn arddangos gwaith mewn lleoliadau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae hyn yn sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn elwa o weithio gydag artistiaid a dylunwyr o’r radd flaenaf sydd naill ai’n gweithio yn y Coleg neu’n ymweld ag ef fel rhan o dîm prosiect byw neu breswyliaeth. Yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, prifysgol hynaf Cymru a chanddi’r 3ydd Siarter Frenhinol hynaf yn Lloegr a Chymru, mae’n deg ein bod yn falch o’n traddodiadau. Mae meddu ar draddodiadau’n beth da, ond mae’n bwysicach fyth bod yn arloesol, yn greadigol ac yn flaengar. Enghraifft o’r ffordd o feddwl flaengar hon yw’r partneriaethau rydym wedi’u llunio gyda phrifysgolion ar draws Ewrop ac mae Coleg Celf Abertawe yn arwain yr Hwb Menter yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau a ariennir gan yr UE. Bydd y math yma o brosiect blaengar yn sicrhau bod Coleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant yn parhau i ddarparu profiad coleg celf rhyngwladol mewn prifysgol cyfoes ymhell i’r dyfodol.

5


Marc Rees Athro Ymarfer Wedi ei eni ac yn byw yng Nghymru, mae Marc Rees yn unigolyn rhyngddisgyblaethol a chreadigol sydd wedi hen ennill ei blwyf yn cyflawni prosiectau arloesol, pryfoclyd a mentrus. Dros y pymtheg mlynedd diwethaf, mae wedi datblygu nifer o weithiau celf a seilir yn fwyfwy ar bensaernïaeth; yn enwedig y prosiectau lleoliad-benodol En Residencia a For Mountain, Sand & Sea, a gomisiynwyd gan Teatro de la Laboral a National Theatre Wales, yn eu tro. ‘Rydw i’n creu ac yn curadu perfformiadau a gwaith gosod sy’n ymateb i le a chymuned. Gellir honni fy mod yn gweithio mewn modd tebyg i archeolegydd; rwy’n archwilio hanes pethau a lleoedd gan ddatgelu olion gwir a dychmygol. Wedi i mi archwilio safle neu gyfnod penodol o hanes, af ati i weithio gydag artistiaid, perfformwyr a’r gymuned i ddehongli ac ail-ddychmygu’r hyn yr wyf wedi ei ddarganfod. Caiff yr hanes hwn ei siapio a’i ddatblygu ac yna’i ail-gyflwyno i gynulleidfa fel profiad hollgynhwysol.’ Marc Rees.

6


Cangen Y Drindod Dewi Sant o’r

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Fel un o brif ddarparwyr addysg uwch cyfrwng Cymraeg yng Nghymru, mae’r Drindod Dewi Sant yn chwarae rôl flaenllaw o fewn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn cydweithio â’r Coleg i gynyddu cyfleoedd i fyfyrwyr ar sawl lefel. Mae’r Gangen yn weithgar ar draws holl gampysau’r Brifysgol gan gynnwys campws Coleg Celf Abertawe. Mae BA Celf Gain yn gymwys ar gyfer Prif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sef £3000 am astudio o leiaf 80 credyd (66%) o’r cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gweddill cyrsiau’r Coleg Celf yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sef £1500 am astudio o leiaf 40 credyd (33%) o’r cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Ewch i wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol www.colegcymraeg. ac.ukam fwy o wybodaeth. Mae holl fyfyrwyr Cymraeg y Brifysgol yn cael eu hannog i ddilyn Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r Dystysgrif yn darparu cyfle euraid i fyfyrwyr ennill cymhwyster sy’n dangos eu sgiliau iaith Cymraeg, a’u galluogi i ddangos tystiolaeth i gyflogwyr o’u gallu i gyfathrebu’n hyderus yn broffesiynol yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mae’r Brifysgol yn darparu cyfleoedd i bob myfyriwr dderbyn sesiynau a chefnogaeth gan diwtor iaith sydd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer y Dystysgrif. Ceir rhagor o wybodaeth i ddarpar fyfyrwyr ar wefan y Dystysgrif: http://sgiliauiaith.colegcymraeg.ac.uk Os hoffech glywed fwy am Gangen y Drindod Dewi Sant croeso i chi gysylltu â’r Swyddog Cangen, Bethan Wyn ar b.davies@pcydds.ac.uk neu 01267 676618. @CangenDDS Cangen y Drindod Dewi Sant @CangenyDrindod

7


Artistiaid Preswyl Tomos Sparnon a Caitlin Littlejohns 8

Mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bu Tomos Sparnon a Caitlin Littlejohns yn gweithio fel artistiaud preswyl y Gymraeg yng Ngholeg Celf Abertawe yn mentora myfyrwyr trwy eu hastudiaethau. Astudiodd Tomos drwy gyfrwng y Gymraeg ac ef yw’r myfyriwr cyntaf i raddio gyda gradd Celf Gain drwy Gyfrwng y Gymraeg o Goleg Celf Abertawe a’r myfyriwr cyntaf i gwblhau ei draethawd hir yn gyfan gwbl yn Gymraeg. Mae Caitlin Littlejohns hefyd wedi graddio o Goleg Celf Abertawe ac fe’i dewiswyd fel un o’r artistiaid i greu a chynhyrchu ‘Gwobr y bobl Golwg 360’ ar gyfer seremoni Llyfr y Flwyddyn Cymru 2017. Dewiswyd Tomos i gynhyrchu yr un wobr yn 2018.


Owain Roberts a Jessica Burtonshaw Artistiaid preswyl 2019-20 yw Owain Roberts a Jessica Burtonshaw, eu rôl yw gweithio yng Ngholeg Celf Abertawe lle maent yn mentora myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau. Bu Owain Roberts, sy’n wreiddiol o Lanfairfechan, yn fyfyriwr cyfrwng Cymraeg ar y cwrs BA Technoleg Cerddoriaeth yng Ngholeg Celf Abertawe tan iddo raddio eleni. Yn ystod ei gyfnod yn y Brifysgol, gweithiodd ar ysgrifennu albwm gan ddefnyddio sawl offeryn a chanu mewn arddull roc a roc caled gan arbrofi a genres eraill hefyd – gyda’r rhan fwyaf o’i waith yn cael ei ysgrifennu a’i berfformio drwy gyfrwng y Gymraeg. “Roedd gallu dilyn cwrs yn Gymraeg drwy gyfrwng fy iaith gyntaf – yn bwysig iawn ac yn rheswm dros eisiau gwneud y cwrs yn y lle cyntaf. Ro’n i eisiau aros yng Nghymru ac ymarfer fy angerdd trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Wedi astudio cwrs Sylfaen Celf yng Ngholeg Celf Abertawe, symudodd Jess Burtonshaw i astudio cwrs Celf Gain yng Nghaerfaddon ond mae hi bellach ‘nôl yn Abertawe ac wrth ei bodd yn cael dychwelyd i’r ddinas i ymgymryd â’i rôl fel Artist Preswyl. “Mae cael y swydd hon fel artist preswyl cyfrwng Cymraeg yn mynd i roi’r cyfle i fi ail gysylltu â fy Nghymraeg a’m Cymreictod ac rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu fy ngwaith creadigol ‘nôl yn y lle nes i astudio fy nghwrs sylfaen,” meddai Jess. Gwenllian Beynon, Cydlynydd y Gymraeg o fewn Coleg Celf Abertawe fydd yn cydweithio gydag Owain a Jess yn ystod eu cyfnod fel artistiaid preswyl gan eu mentora, eu datblygu a rhoi ystod o brofiadau creadigol iddynt. “Mae rôl yr artistiaid preswyl cyfrwng Cymraeg yn holl bwysig i lwyddiant datblygiadau addysg cyfrwng Cymraeg yng Ngholeg Celf Abertawe o fewn Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant,” meddai Gwenllian Beynon.

9


Ein Cyn-fyfyrwyr Mae ein graddedigion yn gweithio ledled y byd ac mae llawer ohonynt yn canfod bod derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a bod yn ddwyieithog yn rhoi mantais iddynt yn y gweithle. Rydym yn fach, cyfeillgar ac anffurfiol gydag ychydig dros fil o fyfyrwyr yn y gyfadran. Golyga hyn bod y staff yn hawdd siarad gyda nhw ac ar gael i’ch helpu, eich cefnogi a’ch herio. Hefyd, mae’n caniatáu mynediad rhagorol i’n leoedd stiwdio a chyfleusterau hael sydd i gyd yn cynnwys yr offer mwyaf cyfredol.

Gareth Rees Yn Gweithio i Adidas yn yr Almaen Wedi graddio o’r cwrs BA Dylunio Cynnyrch Fel dylunydd i dîm rhyngddisgyblaethol Adidas Future rwyf yn gweithio gyda pheirianwyr a gwyddonwyr chwaraeon i greu a datblygu dyfodol y brand. Mae’n rôl gyffrous mewn adran arloesol a hynod gyfrinachol, ble rydym yn gweithio ar gynnyrch sy’n dair i ddeng mlynedd o flaen y diwydiant presennol.

10


Rhian Haf Artist Gwydr Wedi graddio o’r cwrs MA Gwydr Graddiais o Abertawe gyda rhagoriaeth mewn MA Gwydr. Darparodd y cwrs sylfaen gadarn i mi o ran datblygiad fy ngwaith artistig. Dros y blynyddoedd, ochr yn ochr â chreu fy ngwaith fy hun, rwyf wedi ymgymryd â llawer iawn o brosiectau, digwyddiadau a phreswylfeydd celf - proffesiynol, addysgol a rhai gyda ffocws cymunedol. Mae gwydr yn gelfyddyd mor unigryw ac arbenigol ac mae’r gallu i rannu fy ngwybodaeth a’m harbenigedd o’r maes, drwy ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn werthfawr tu hwnt, boed hynny ar ffurf gweithdai mewn ysgolion neu gyflwyniad i gorff proffesiynol. Mae angen bod yn hyblyg i weithio yn y diwydiannau creadigol ac mae’r gallu i ddarparu a chyflwyno yn ddwyieithog yn rhan bwysig o hynny yn fy mhrofiad i.

Rhiannon Sparks Uwch Ddylunydd Graffeg Canolfan Peniarth Wedi graddio o’r cwrs BA Darlunio Yn ystod fy 8 mlynedd yn gweithio fel dylunydd graffeg a darlunydd ar gyfer Canolfan Peniarth (tŷ cyhoeddi’r Brifysgol ar gyfer adnoddau addysgol) rwyf wedi bod yn cymryd gwersi Cymraeg ochr yn ochr â’m gwaith. Wrth i fy Nghymraeg ddatblygu, rwy’n teimlo bod fy ngwerth i’r sefydliad wedi cynyddu. Rwy’n dylunio a chreu llyfrau ac adnoddau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, felly mae’r gallu i ddeall testun a chyfarwyddiadau awduron yn hanfodol i’m rôl. Rwyf wrth fy modd yn gweithio mewn amgylchedd creadigol a dwyieithog. 11


Eirian Davies Athro Ysgol Gynradd Wedi Graddio o’r BA Celf a Dylunio MA Celf Gain Deialogau Cyfoes YN Y brifysgol astudiais fy ngradd BA drwy gyfrwng y Gymraeg ac yna fy ngradd Meistr yn ddwyieithog. Mae’r gallu i drafod syniadau am gelf drwy gyfrwng y Gymraeg wedi fy ngalluogi i greu gwaith sy’n ymwneud â’m diwylliant a’m hunaniaeth. Mae gweithio’n ddwyieithog wedi agor y drws i gyfleoedd ac opsiynau ehangach na fyddai wedi bod yn bosib petawn yn gweithio trwy gyfrwng un iaith yn unig.

12


Dafydd Williams Technegydd Ffotograffiaeth Wedi Graddio o’r BA Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau Ers graddio o Goleg Celf Abertawe gyda gradd yn 2016, rwyf wedi gweithio yn y Celfyddydau mewn sawl ffordd. Rwyf wedi cwblhau dau gyfnod Artist Preswyl yng Ngholeg Abertawe Celf, un mewn Ffotograffiaeth ac fel Artist Preswyl cyfrwng Cymru sy’n cefnogi’r Ddarpariaeth Gymraeg. Ers hynny, rwyf wedi mynd ymlaen i gael fy nghyflogi gan y Brifysgol fel Arddangoswr Technegydd yn Ffotograffiaeth, ac yn gwneud rhai oriau darlithio achlysurol a chynnal gweithdai creadigol. Yn fy amser sbâr, rwy’n gweithio i sefydlu fy hun fel arlunydd trwy greu a chyflwyno gwaith ar gyfer cystadlaethau ac arddangosfeydd celf. Mae hyn wedi rhoi llawer o lwyddiant i mi, fel bod ar restr fer Gwobr Syr Leslie Joseph gydag Oriel Glynn Vivian, Abertawe, a wnaeth arwain at breswyliad a sioe unigol yn Oriel Elysium, yn 2018. Yn dilyn ymlaen o hyn, o ganlyniad i’r wobr rhestr fer hon ac yna cyflwyno fy ngwaith i aelodau’r oriel, cefais wahoddiad i arddangos fy ngwaith yn Oriel Glynn Vivian ym mis Ebrill 2020, gyda ffocws ar artistiaid LGBTQ.

Rwyf hefyd wedi cael y pleser o gael hunanbortread paent olew o’r enw ‘After Coded Reverie’ cafodd ei arddangos yn Agored Abertawe 2019, Oriel Glynn Vivian, a aeth ymlaen i ennill Gwobr Cyfeillion Glynn Vivian 2019. Yn ogystal â fy arfer fy hun, rwyf wedi canolbwyntio ar brosiectau llawrydd eraill fel Cyfaill Celfyddyd. Fe wnes i ffilmio hyd at 20 o artistiaid o bob rhan o Gymru sydd i gyd yn gweithio mewn gwahanol feysydd yn y celfyddydau, cyfle gwych a roddodd fynediad imi i rwydwaith a chwrdd â rhai o artistiaid amlycaf Cymru. Adnodd ar lein i ysgolion a cholegau yw Cyfaill Celfyddyd sy’n cynnig mynediad i weld gwahanol lwybrau yn y Celfyddydau. Rwyf hefyd wedi gweithio gydag orielau lleol i redeg Gweithdai ffotograffig, a chael cyfle i weithio fel technegydd i Oriel Myrddin, Caerfyrddin. Mae gweithio’n ddwyieithog yn y diwydiannau creadigol yn agwedd gwerth chweil ar fy arfer creadigol ac mae wedi creu llawer o gyfleoedd i mi.

13


Chi sy’n Bwysig Roedd tri o’n graddedigion yn rhan o dîm a gafodd Oscar yn 2017 am eu gwaith ar The Jungle Book.

Dyma Ni ©A.M.P.A.S.® 14

Jens Hansen


Mae lefelau’r amser a gaiff myfyrwyr gyda staff ymhlith yr uchaf yn y wlad. Mae lefelau’r amser a gaiff myfyrwyr gyda staff ymhlith yr uchaf yn y wlad. O ganlyniad yn bennaf i’n myfyrwyr a’n graddedigion rydym wedi adeiladu’r enw da sydd gennym. Mae llawer wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd nodedig yn y celfyddydau, neu wedi sefydlu cwmnïau dylunio gwerth miliynau o bunnoedd. Mae eraill yn gweithio i gwmnïau fel Lego, McLaren a Monsoon ac mae rhai graddedigion yn gweithio i wneuthurwyr ffilmiau a chynhyrchwyr cyfryngau enwog, gan gynnwys y BBC ac ITV. Nod ein prosiectau allanol yw cymhwyso’ch creadigrwydd unigol ac ymestyn eich ymdrechion drwy ymgysylltu â’r farchnadle allanol. Mae’r prosiectau hyn wedi bod yn gweithredu’n llwyddiannus ers llawer o flynyddoedd ac yn aml maent wedi darparu gwaith i fyfyrwyr wedi iddynt raddio.

Enillwyr Gwobrau Mae ein myfyrwyr yn ennill gwobrau’n rheolaidd a rhoddir cyfle iddynt arddangos eu gwaith drwy gydol eu cyrsiau. Cynhelir sioeau graddedigion yn Abertawe a Llundain lle bydd myfyrwyr yn arddangos eu gwaith mewn arddangosfeydd mawreddog gan gynnwys New Designers a D&AD New Blood.

Jon Williams, Kelly Whitcombe, Cameron Ridgeway a Linh Duong (Dylunio Graffig) cydnabyddiaeth yn New Designers.

Nick Thatcher (Dylunio Cynnyrch), enillydd Gwobr ArloesiDyfeisgarwch New Designers.

Bethan Yates (Gwydr) 2il safle yn adolygiad graddedigion newydd y Gymdeithas Gwydr Gyfoes.

15


Beth sy’n Ein Gwneud Ni Mor Arbennig Sefydlwyd dros 165 o flynyddoedd yn ôl... Rydym yn fach, cyfeillgar ac anffurfiol gydag ychydig dros fil o fyfyrwyr yn y gyfadran. Golyga hyn bod y staff yn hawdd siarad gyda nhw ac ar gael i’ch helpu, eich cefnogi a’ch herio. Hefyd, mae’n caniatáu mynediad rhagorol i’n leoedd stiwdio a chyfleusterau hael sydd i gyd yn cynnwys yr offer mwyaf cyfredol.

16


17


1af

yng Nghymru am Foddhad Cyffredinol Myfyrwyr

yn y DU am Foddhad Cyffredinol Myfyrwyr

Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2019

Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2019

1af

yn y DU am Ffasiwn a Thecstilau Guardian League Table 2020

8fed yn y DU am Gelf

Guardian League Table 2020

18

9fed 7fed yn y DU am Ddylunio a Chrefftau

Guardian League Table 2020


19


Beth Sydd Gennym Ni Rydym yn parchu a dathlu ein traddodiadau. 20

Dyma pam rydym wedi cadw offer a phrosesau traddodiadol ym meysydd gwydr, cerameg, gwneud printiau a ffotograffiaeth. Ond rydym hefyd yn flaengar ac mae ein campws yn llawn dop o dechnoleg newydd. Mae lleoedd stiwdio, ystafelloedd crit ac ystafelloedd cyfrifiaduron ar gael sy’n rhoi i fyfyrwyr fynediad llawn amser at gyfleusterau. Felly, p’un a fyddwch yn dewis gweithio gyda phrosesau traddodiadol neu gyda thechnolegau newydd, neu ar draws y ddau, mae popeth yma i chi. Mae’r posibiliadau creadigol mor gyffrous ag ydynt eang.


21


Mae Cysylltiadau’n Hollbwysig Rydym wedi dylunio modylau a fydd yn eich helpu i gael sgiliau proffesiynol a gwneud cysylltiadau rhagorol gyda’r diwydiannau creadigol a’r rhwydweithiau orielau felly pan fyddwch yn graddio bydd gennych ‘droed yn y drws’ yn barod.

Naomi Urch, - Saatchi & Saatchi Wellness, Un o’N Graddedigion Dylunnio Graffig CCA

Matt Boyle – LEGO, Un o raddedigion Dylunio Graffig CCA

22


Tom Felton - Draco Malfoy yn Harry Potter

Cerys Matthews

Micheal Sheen

Mae ein myfyrwyr yn elwa o ystod o leoliadau yn y diwydiant a phrosiectau byw gyda chwmnïau fel Sony, H&M, Orangebox, Jaguar Land Rover a McLaren Automotive. Mae gennym hefyd rhestr helaeth o ddarlithwyr ac athrawon arfer gwadd sy’n gweithio gyda’n myfyrwyr i’w helpu i ddatblygu eu prosiectau i safon cyfwerth â’r diwydiant.

Mae ein holl raglenni’n elwa o dîm o staff cymwys iawn sy’n ymchwilio’n weithredol, yn arddangos yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac yn cymryd rhan yn aml mewn prosiectau gyda’r Diwydiant. Mae llawer o’r staff yma wedi ennill enwau da rhyngwladol am eu hymchwil arloesol a’u harfer creadigol.

23


Sîn Gelf Abertawe Wedi’i chynnwys ar restr fer Dinas Diwylliant 2021, mae Abertawe yn gartref i amrywiaeth o leoliadau ar gyfer y celfyddydau gan gynnwys orielau, lleoliadau cerddoriaeth a theatrau. Hefyd, mae’r ddinas yn cynnal amrywiaeth o wyliau celf trwy gydol y flwyddyn.

Mission Gallery: oriel celf a chrefft weledol gyfoes, y mae Coleg Celf Abertawe wedi bod yn bartner pwysig gyda hi, gan helpu’n llwyddiannus i gyflwyno rhaglenni cyhoeddus a phreswyliadau. Glynn Vivian Art Gallery: oriel bwysig yng Nghymru sydd gyferbyn â Choleg Celf Abertawe. Mae’n ganolfan ragoriaeth ar gyfer y celfyddydau gweledol yng Nghymru. Mae’r oriel wedi cynnal ystod o arddangosiadau cenedlaethol a rhyngwladol pwysig ers 1911. Elysium Gallery: menter gymdeithasol dielw a arweinir gan artistiaid sy’n cynnwys dros 60 o leoedd stiwdio ac oriel gelf gyfoes yng nghanol dinas Abertawe. Volcano Theatre: cwmni celfyddydau bach, egnïol ac ymatebol.

24

Swansea Grand Theatre: lleoliad celfyddydau perfformio hanesyddol sy’n cynnal sioeau comedi, theatr deithiol, pantomeimiau a dawns. Taliesin: mae’r theatr yma’n cynnal rhaglen eang o ddigwyddiadau ac amrywiaeth o berfformiadau byw. O ddawns a drama i jazz a cherddoriaeth y byd. Creative Bubble: yn defnyddio creadigrwydd myfyrwyr i ddarparu digwyddiadau llawn hwyl, cyffrous ac annisgwyl ar draws canol dinas Abertawe. The International Dylan Thomas prize: gwobr nodedig ar gyfer ysgrifenwyr ifanc a gyflwynir yn flynyddol er cof am yr ysgrifennwr a bardd o Abertawe, Dylan Thomas. The Garage: lleoliad cerddoriaeth fyw mewn awyrgylch diffwdan.

Art across the City Locws International: elusen a arweinir gan artistiaid ac sydd wedi ennill gwobrau a sefydlwyd yn 1999 gyda’r nod o wneud y celfyddydau mor hygyrch â phosibl i’r cyhoedd.

Hefyd, mae gan Abertawe dreftadaeth Jazz gref ac mae’n cynnal Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe. Mae’r Drindod Dewi Sant hefyd yn gartref i Dreftadaeth Jazz Cymru.

Galerie Simpson: oriel dielw annibynnol sy’n dangos gwaith artistiaid rhyngwladol a lleol.

Mae Abertawe hefyd yn gartref i ystod eang o leoliadau celf annibynnol gan gynnwys Cinema & Co.


+

+

+

+

+

*

*

+ +Volcano Theatre

*Cinema&Co

25


Grym Creadigol Dŵr Dyma Ni Cewch deimlad da am y lle

26


Dinas ar lan y môr yw Abertawe, lle gwych i fyw ac astudio: yn ddigon mawr i roi ichi’r lle y byddwch ei angen; yn ddigon bach i roi ichi deimlad o berthyn, mae’n llawn posibiliadau a phobl o’r un meddylfryd. Wedi’i lleoli ger Penrhyn Gŵyr, sy’n “Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol”, gyda lleiniau godidog o draethau tywodlyd hir, a golygfeydd anhygoel ac ysbrydoledig ar stepen eich drws. Mae gennym yr holl gyfleusterau a gweithgareddau diwylliannol y byddech yn disgwyl dod o hyd iddynt mewn dinas brifysgol - theatrau, sinemâu, orielau, amgueddfeydd, bwytai, barrau a bywyd nos gwych i fyfyrwyr. Hefyd mae gennym ardal forol sydd wedi ennill gwobrau, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Pwll Nofio Cenedlaethol ac opsiynau chwaraeon niferus yn cynnwys syrffio, beicio mynydd, padlfyrddio, dringo a thennis i enwi ond rhai. Ac at hynny, mae’r costau byw yma’n rhesymol iawn o’u cymharu â’r rhan fwyaf o ddinasoedd prifysgol eraill. Mae gan Abertawe bersonoliaeth gyfeillgar iawn a dyma’r lleoliad perffaith i ddechrau eich taith creadigol.

Peidiwch â Chymryd Ein Gair Ni amdano... Mae ein traethau baner las lleol yn ennill gwobrau’n aml. Disgrifiwyd Bae Rhosili fel ‘Model traethau Prydain’ gan The Independent, ac fe’i bleidleisiwyd yn Draeth Orau Cymru 2018 a 3ydd yn y DU gan Wobrau Travellers’ Choice TripAdvisor. Mae Condé Nast Traveller wedi enwi Abertawe yn ei 10 gwyliau dinas orau 2019, gan ddweud bod Abertawe, yn llechwraidd, wedi dod yn hothouse ar gyfer diwylliant yng Nghymru. Hefyd, enwodd The Sunday Times Y Mwmbwls, Abertawe y lle gorau i fyw yng Nghymru 2018.

27


BA (Anrh) / MDes

Dylunio Patrwm Arwyneb

Dylunio Patrwm Arwyneb

Mae Dylunio Patrwm Arwyneb yn ymwneud ag arwyneb, strwythur, gwead, patrwm a chyddestun. Mae’r rhaglen yn meithrin sgiliau trwy brofiad amlddiwylliannol ac arloesol o fateriolaeth, lliwiad, gwneud a datblygiad cysyniadol, wedi’u cyflwyno i gyd-destun eang o arferion dylunio cyfoes.

28

Mae’r byd i gyd o’ch blaen chi ar y cwrs hwn. Mae gennym ystod arbennig o offer digidol a chyfleusterau gan gynnwys ystafelloedd cyfrifiaduron o’r radd flaenaf, torwyr ac ysgythrwyr laser, argraffwyr tecstil digidol, brodio digidol a thorrwr chwistrell dŵr. Mae ein hoffer annigidol yr un mor nodedig, gyda chyfleusterau llawn ar gyfer lliwio, printio sgrîn, pwytho, gwaith metel a llawer mwy. Yn ogystal â hyn, bydd gennych eich lle personol eich hun yn ein stiwdio bywiog, golau ac awyrog sydd â lle i bob un o bedair blynedd y cwrs. Rydym yn canolbwyntio ar ysbrydoliaeth greadigol, a fydd yn eich caniatáu i ddatblygu eich llais a’ch arddull yn llawn. Mae’r rhaglen wedi’i strwythuro i alluogi i’n dysgwyr barhau i weithio yn y maes y maent wedi datblygu arbenigedd penodol ynddo ac i wneud hynny gydag angerdd creadigol a gallu i adnabod a gwneud y gorau o gyfleoedd. Mae myfyrwyr y flwyddyn olaf yn cael y cyfle i arddangos eu gwaith yn yr arddangosfa ‘New Designers’ yn Llundain.


Rebecca Davies

Marie Wilkinson

Nicole Soutar

29


Mae Dylunio Patrwm Arwyneb yn eich galluogi i ddewis o blith...

Mae gan Ddylunio Patrwm Arwyneb Gwneuthurwr fateriolaeth wrth ei wraidd, gan fodloni anghenion myfyrwyr sy’n dymuno arbenigo fel Gwneuthurwyr Dylunwyr y dyfodol. Byddwch yn gwneud gwaith arloesol sy’n addas ar gyfer deilliannau cynhyrchu pwrpasol, neu swmp, sy’n perthyn i ddylunio, crefft, oriel, gwrthrych, corff neu le – penderfynwch chi! Stacey Mead

Mae Tecstilau ar gyfer Ffasiwn ar gyfer y myfyrwyr hynny sy’n dymuno dylunio ar gyfer anghenion pellgyrhaeddol a chyson newidiol y diwydiant ffasiwn – o’r stryd fawr i’r pen uchaf. Rachel Rosser

30

Mae Tecstilau ar gyfer Addurno Mewnol yn addas ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno dylunio a chyfoethogi mannau mewnol gyda thecstilau a gorchuddion wal arloesol – o fasnachol i gysyniadol. Georgina Angelone

Nod Gwrthrych Ffasiwn yw cynhyrchu dylunwyr a gwneuthurwyr sy’n gallu creu gwrthrychau o’r radd flaenaf ar gyfer y corff, gan gwestiynu swyddogaeth, ffurf ac addurniad, a dylanwadu ar y ffordd rydym yn edrych, teimlo a gwisgo ffasiwn. Catrin Walsh


Rosie Cook Un o’n Graddedigion Dylunio Patrwm Arwyneb Mae Rosie Cook wedi graddio o’r cwrs Dylunio Patrwm Arwyneb. Bellach, mae hi’n byw yn Stockholm yn gweithio’n Ddylunydd Tecstilau Printiedig ar gyfer y brand ffasiwn H&M, ac mae ei dyluniadau’n dal i gael eu defnyddio gan y brand dodrefn a nwyddau mewnol Made.com. Mae Rosie wedi arddangos ei gwaith mewn nifer o arddangosfeydd cenedlaethol proffil uchel gan gynnwys ‘Interiors UK’ a ‘New Designers One Year On’. Mae hi wedi cael gwaith yn gweithio ar ei liwt ei hun ac wedi lansio ei dyluniadau printiedig mewn casgliad o sgarffiau o Dylunydd Tecstilau ar gyfer dan ei henw ei hun twy Printed and Co. y brand ffasiwn H&M, ac Datblygodd arddull liwgar a chwareus mae ei dyluniadau’n dal Rosie yn ei thrydedd flwyddyn yn y brifysgol trwy ei chariad at baentio, i gael eu defnyddio gan y collage a phatrwm. Mae’n parhau i gael brand dodrefn a nwyddau ei hysbrydoli gan deithiau, tirluniau ac mewnol Made.com. arfordir cyfarwydd Sir Benfro. “Mae llawer o’m cyraeddiadau wedi codi drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau dylunio sy’n llunio rhan o’r prosiect mawr terfynol. Mae popeth a ddysgais yn Abertawe wedi bod yn ddefnyddiol mewn bob math o ffyrdd o roi portffolio gwych at ei gilydd i weithio ar friffiau dylunio byw”

31


Dylunio Patrymau Arwyneb

“

Cydbwyso Gweledigaeth ac Allanoldeb Creadigol Dylunio Patrymau Arwyneb

32


Mae’r rhaglen Dylunio Patrwm Arwyneb wedi’i strwythuro i alluogi ein dysgwyr i raddio a pharhau i weithio yn eu maes arbenigol. Ein nod yw eu bod yn graddio yn unigolion sydd â chreadigrwydd estynedig a chanddynt allu i adnabod a manteisio ar gyfle.

Gwneir hyn drwy raglen sydd wedi’i mireinio, gan gydbwyso gweledigaeth greadigol ac allanoldeb, lle caiff sgiliau penodol sydd eu hangen yn y maes ymarferol eu hadnabod a’u datblygu. Caiff prosiectau ymarferol eu gosod mewn cyd-destun o’r cychwyn cyntaf trwy ymchwil bob dydd mewn llyfrau braslunio yr holl ffordd i gysylltiadau partner a diwydiant gofalus y rhaglen. Cynhelir prosiectau byw drwy gydol y 3 blynedd (BA) neu 4 blynedd (MDes). Ymhlith y prosiectau byw diweddar nodedig mae cyswllt sylweddol gyda phencadlys dylunio H&M yn Stockholm, a gyrhaeddodd ei anterth gyda 6 myfyriwr yn cael eu cymryd am leoliadau tri mis â thâl i weithio gyda’r tîm dylunio print. Ymwelodd H&M ag Abertawe o Sweden nifer o weithiau gan roi i fyfyrwyr gwir flas ar y cwmni, y disgwyliadau a’r broses ddylunio sy’n cael ei meithrin o fewn y brand. Trwy ein rhagolwg amlddisgyblaethol, cadwn opsiynau ein myfyrwyr ar agor, gan eu cyflwyno i ystod eang o wahanol sectorau cysylltiedig â strwythurau ein llwybrau. Er enghraifft, dros gyfnod o flwyddyn, mae myfyrwyr wedi ymgymryd â phrosiect yw llwyddiannus arall gyda mawrion y byd offer ysgrifennu Hallmark UK, a ddaeth i’w anterth ar ffurf lleoliadau ar gyfer 4 enillydd detholedig yn eu Pencadlys Dylunio. Bu hefyd inni weithio gyda’r brand dylunio dodrefn Orangebox, gan ymchwilio i ffyrdd i ychwanegu gwerth i ddarnau o ffabrig sy’n weddill o’r brethyn a gorchuddion amrywiol a ddefnyddir i glustogi eu cynhyrchion.

O ganlyniad i ddatrysiadau arloesol y myfyrwyr cafodd eu dyluniadau eu defnyddio yn Wythnos Ddylunio fawreddog Clerkenwell yn arddangosle Orangebox. Yna, yn wahanol eto, oedd prosiect byw Reimagine the Archive y bu inni ymgymryd ag ef gydag Amgueddfa Hanes Genedlaethol Sain Ffagan. Archwiliodd y myfyrwyr gasgliadau’r amgueddfa drwy fynediad digynsail i’r archifau, gan geisio adnabod man cychwyn i greu eu fersiynau nhw o wrthrych dylunio hanesyddol. Daeth y prosiect hwn i’w anterth mewn ymyraethau dros dro o’u gwaith dylunio yn amgueddfa unigryw Sain Ffagan. Mae briff yw yn cymryd y myfyrwyr trwy Cynhelir broses ddylunio drylwyr prosiectau byw anarferol o luniadu, adrodd ar siopau, ymchwil ar drwy gydol y 3 blynedd (BA) neu gystadleuwyr, proffilio 4 blynedd (MDes). cwsmeriaid, creu byrddau hwyl, dadansoddi lliw, datblygu patrwm a delweddu dylunio. Mae natur fyw y prosiectau’n gofyn am bethau newydd gan y myfyrwyr – sef eu bod yn gryno o ran eu dewisiadau dylunio, gan ffocysu’n gyson ar y brand a phroffil y cwsmer, ar yr un pryd â sicrhau bod yna weledigaeth greadigol gadarn sy’n ymateb i’r brîff, a bod eu dyluniadau’n wreiddiol ac ysbrydoledig!

Ymwelodd H&M ag Abertawe o Sweden nifer o weithiau gan roi i fyfyrwyr gwir flas ar y cwmni

33


Cyfleusterau Patrwm Arwyneb Mae ein Gweithdai arbenigol yn cynnwys:

34

Mae ein cyfleusterau arbenigol yn cynnwys stiwdio argraffu traddodiadol, lab lliwio, gwasg gwres roler, gweisg gwres fflat, cyfleusterau stemio, golchi a sychu, ystafell bwytho, argraffwyr tecstil digidol, peiriant brodio digidol, cyfrifiaduron, peiriant tyllu nodwydd â gwely 900 nodwydd, ein hoffer torri ac ysgrythur, plotiwr, laser a chwistrell ddŵr, ac yn olaf gweithdy gwaith metel a lledr bach. Hefyd, gall myfyrwyr gyrchu’r ystod anhygoel o gyfleusterau sydd gan y Gyfadran drwy ein hymagwedd mynediad agored, ond heb os, bydd myfyrwyr Patrwm Arwyneb yn dod ar draws gwneud printiau, gwydr, cerameg ac enamel drwy’r arbenigedd sydd gan dîm addysgu’r rhaglen.


35


Mae gan fyfyrwyr Dylunio Patrwm Arwyneb gyfeillion mewn mannau uchel

Dylunio Patrymau Arwyneb

ar ffurf ein Hathrawon Ymarfer!

Mark Eley Mark Eley Gan fyw yn ôl y wireb “Print The World”, mae Eley Kishimoto wedi ceisio creu gwaith a gyflawnir mewn ffordd syml, clir ei fwriad, gan arddangos dawn greadigol unigryw sy’n gwrthod mympwyon a chwiwiau byrhoedlog. O bartneriaeth a ffurfiwyd ar ddechrau’r 90au, datblygodd enw da’r cwmni am ddyluniadau print brathog a deallus yn gyflym ac ymddangosodd eu crefftwriaeth ar bomprenni’r byd. Ar hyn o bryd, mae Mark Eley a Wakako Kishimoto yn gyfarwyddwyr artistig ar linell newydd i farchnad Siapan Laura Ashley ac maent wedi cydweithio ar waith gyda beiciau modur BMW, cwrw Duvel, Incase (ategolion Macbook, iPhone, iPad) Kirkby a Vans Shoes ymhlith eraill. Cysylltodd Mark â thîm y cwrs ar ôl cael ei ysbrydoli i wneud hynny ar ôl gweld ein ffrwd Instragram fywiog, yn sôn am yr ethos dylunio ac egni a rannwn gydag Eley Kishimoto. Ers hynny, rydym wedi bod yn datblygu

36

ffyrdd i weithio gyda’n gilydd ac, ers 2017, penodwyd Mark yn Athro Arfer. Bu inni weithio gyda Mark Eley i ddylunio ffyrdd arloesol a manteisiol i’w gadair athro i effeithio ar brofiad myfyrwyr Dylunio Patrwm Arwyneb. Trwy ddarlith ysbrydoledig i’r Ysgol Dylunio a Chelf Gymhwysol gyfan, wedi’i ddilyn gan ddau brosiect a arweiniwyd gan Athrawon, mae ein myfyrwyr wedi cael gwir gipolwg i’r byd yn ôl Eley Kishimoto. Mae Mark Eley yn crynhoi popeth rydym yn gobeithio ei feithrin yn ein myfyrwyr; awch anniffoddadwy am greadigrwydd a dylunio, ynni anhygoel am gynhyrchu gwaith a pharodrwydd i gydweithio gyda phobl greadigol o meddylfryd tebyg. Yn ei ddarlith ysbrydoledig, rhannodd 20+ blwyddyn o frand Eley Kishimoto, gan adlewyrchu’n onest ar yr heriau a’r camgymeriadau yn ogystal â’r llwyddiannau a’r ymfoddhad a brofodd.


Jan Koen Lomans Mae’r artist amlddisgyblaethol ac ymchwilydd Jan Koen Lomans wedi bod yn cydweithio gyda’r rhaglen Dylunio Patrwm Arwyneb ers blynyddoedd, felly roedd yn addas ein bod yn ei enwebu’n Athro Arfer. O’i ganolfan yn yr Iseldiroedd, mae Jan yn ymweld â ni unwaith y flwyddyn i weithio gyda’n myfyrwyr a chynhyrchu gwaith ar ein ysgythrwr laser Graphixscan, y mwyaf yn Ewrop! Bu’r bartneriaeth gydweithredol hon mor ffrwythlon o ran ei chynnyrch; yn iawn am y gwaith a’r gefnogaeth a roddwyd i Batrwm Arwyneb, mae Jan wedi cefnogi ein myfyrwyr i ymweld â’r Iseldiroedd a gweithio gydag ef ar ei brosiectau ymchwil personol, ac arddangos gydag ef mewn digwyddiadau sy’n cynnwys Wythnos Ddylunio’r Iseldiroedd ac Object Rotterdam. Mae’r adlewyrchu arfer hwn yn amhrisiadwy ac mae ein myfyrwyr wedi gwerthfawrogi rôl ein Hathrawon yn enfawr. “Roedd mynd i OBJECT Rotterdam yn brofiad anhygoel. Cefais flas ar sut i osod stondin arddangos a gweithio fel rhan o dîm i greu corff syfrdanol o waith roeddwn yn falch i siarad amdano gyda’r rheiny a oedd yn ymweld â’r digwyddiad.” Abbie Joslin – Mdes DPA “Trwy weithio gyda Jan dysgais y sgiliau allweddol ynghylch sut i arddangos a gosod fy ngwaith, wrth ryngweithio â phobl o wahanol feysydd y diwydiannau creadigol. Mae datblygu cysylltiadau gydag artistiaid a chwmnïau eraill wedi fy helpu gydag ymchwil ar gyfer fy ngwaith presennol. Rwy’n bwriado defnyddio’r wybodaeth hon wrth chwilio am waith ar ôl graddio ac rwy’n gobeithio gallu defnyddio’r profiad hwn i seilio fy arddangosfeydd arni yn y dyfodol.” - Stacey Mead – MDes DPA

37


Crefftau Dylunio

BA (Anrh) / MDes

Crefftau Dylunio O wydr i emwaith, mae ein cwrs Crefftau Dylunio yn rhoi ichi’r rhyddid i ddarganfod eich llais creadigol ac fe fydd yn eich helpu i gynllunio llwybr gyrfaol drwy’r posibiliadau sydd ar gael. 38


Bydd y radd Crefftau Dylunio yn rhoi ichi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio ar draws defnyddiau gan gynnwys gwydr, cerameg, gemwaith yn ogystal â chyfryngau cymysg cyn dewis meysydd penodol i ganolbwyntio arnynt. Byddwch yn datblygu sgiliau gwneud â llaw traddodiadol yn ogystal â gwybodaeth a phrofiad o brosesau cyfoes fel torri ac ysgythru â laser, torri â chwistrell ddŵr ac argraffu 3D. Cewch eich cefnogi wrth ddatblygu eich syniadau a dyluniadau creadigol drwy gydol y cwrs. Bydd ein tîm o ymarferwyr crefft sefydledig a thechnegwyr profiadol yn cefnogi datblygiad eich syniadau a dyluniadau creadigol trwy gydol y cwrs ac yn eich cyflwyno i arloeseddau cyfredol mewn defnyddiau a phrosesau i sicrhau bod gennych y sgiliau a’r wybodaeth ddiweddaraf. Byddwch yn astudio ystod eang o brosesau gan gynnwys: adeiladu cerameg; prosesau gwydr gan gynnwys castio, ffiwsio a ‘slympio’; technegau oer a pâte de verre; technegau gemwaith traddodiadol a chyfoes;

castio aml-gyfrwng yn ogystal ag amrywiaeth o brosesau adeiladu a ffurfio ar gyfer pren, metelau, plastigau, gwydr ffibr, resinau ac electro-ffurfio. Cewch eich cyflwyno i ddylunio â chymorth cyfrifiadur (2D a 3D) fel y gallwch weithio gyda phrosesau sy’n cynnwys argraffu 3D, ysgythru a thorri â laser, torri â chwistrell ddŵr a melino CNC. Bydd cael profiad o ystod eang o ddefnyddiau a phrosesau yn eich caniatáu i ddatblygu ymagwedd bersonol iawn at greu arteffactau pwrpasol neu a gynhyrchir mewn sypiau o werth uchel a nwyddau moethus ar gyfer amrywiaeth o gymwysiadau gan gynnwys: pensaernïaeth, dylunio mewnol, gwrthrychau celf (i’w gwerthu trwy orielau neu drwy gomisiwn) a gemwaith. Caiff y cwrs ei gyflwyno drwy gyfres o sesiynau a addysgir sy’n seiliedig ar weithdai, tiwtorialau, lleoliadau gwaith, prosiectau byw, briffiau a chystadlaethau dylunio, oll wedi’u tanategu gan astudiaethau gweledol ac arferion hanesyddol a chyd-destunol.

Bridget Spowart

39


Gwydr

Tyst AU / BA (Anrh) / MDes

Gwydr

Gyda threftadaeth a thraddodiad cryf o wydr lliw, wedi’i gyflenwi gan dechnoleg o’r radd flaenaf ac ymagweddau gyfoes, rydym yn gwneud ein gorau i amddiffyn y traddodiadol a bod yn arloesol at y dyfodol.

Y cwrs gwydr yn Abertawe yw’r cwrs gwydr lliw hynaf yn y DU. Gyda dros 80 o flynyddoedd o hanes, mae adran wydr Coleg Celf Abertawe yn parhau i ffynnu ac arloesi wrth ddarparu rhaglenni TystAU, BA, MA a PhD. Mae’r dreftadaeth unigryw hon yn gwneud Abertawe’n fan ffocws ar gyfer addysg wydr. Mae ein cyn-fyfyrwyr yn cynnwys nifer o arweinwyr ym maes Gwydr Pensaernïol fel Alexander Beleschenko a Martin Donlin. Mae gan ein graddedigion a’n cyn-fyfyrwyr bortffolio trawiadol o gomisiynau a phrosiectau pensaernïol rhyngwladol. Mae prosiectau allanol yn nodwedd gyson o fewn y cwrs gwydr. Byddwch yn ymgymryd â phrosiectau masnachol gyda chymorth Canolfan Gwydr Pensaernïol y

40

Gina Bowles

Brifysgol, gan sicrhau eich bod yn gadael gyda’r sgiliau a’r profiad angenrheidiol ar gyfer y diwydiant a gwaith. O baentio â llaw traddodiadol a gwydr cynnes i lu o gymwysiadau digidol, fe gewch eich cefnogi wrth ichi ddatblygu eich syniadau creadigol a chyflawni eich uchelgeisiau. Cewch y rhyddid creadigol i weithio gydag ystod o brosesau a chymwysiadau gwydr, o bensaernïaeth i gynnyrch a chelf gain. Cyflwynir y cwrs trwy weithdai, tiwtorialau, prosiectau, briffiau byw a chystadlaethau. Bydd ein staff ymchwil gweithredol yn eich cyflwyno i’r technolegau newyddaf mewn defnyddiau a phrosesau i sicrhau bod gennych y sgiliau a’r wybodaeth ddiweddaraf.


41


Sarah Knighton Un o’n Graddedigion Gwydr

Gwydr

O bensaernïaeth eiconig i arfer stiwdio cyfoes, mae Gwydr yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd gyrfaol cyffrous. Bydd ein cwrs Gwydr yn rhoi ichi blatfform i ddarganfod eich llais creadigol ac yn eich helpu i gynllunio llwybr gyrfaol ymhlith yr amrywiol bosibiliadau sydd ar gael.

42

Roedd y cwrs yn Abertawe yn teimlo fel adref i mi, roedd yr amgylchedd yn gyfforddus a’r holl staff yn gweithio gyda’i gilydd fel teulu. Roedd pawb yn groesawgar a chynhwysol. Roedd yn awyrgylch bywiog a chyfoethog i fod yn rhan ohono. Roedd y myfyrwyr o bob oed ac yn dod o bob cefndir. Roedd yr athrawon mor angerddol am wydr roedd yna lif rhydd o syniadau a rhannu gwybodaeth. Fel myfyriwr aeddfed doedd dim cefndir gen i mewn celf ond dangosodd yr athrawon i mi sut i ddatgloi fy mhotensial. Rhoddodd y cwrs gwydr sylfaen gref o wybodaeth i mi rwyf wedi adeiladu fy ngyrfa arni. Nid oeddwn wedi ystyried gweithio ym maes cadwraeth gwydr lliw yn ystod fy astudiaethau ond ers hynny rwyf wedi darganfod y gallaf ddefnyddio technegau a defnyddiau newydd o fewn crefft draddodiadol. Cefais fy nysgu am dechnegau a chymwysiadau modern a thraddodiadol. Rwy’n gweithio i Holy Well Glass, stiwdio gadwraeth annibynnol flaenllaw. Dechreuais fel gweithiwr haf dros dro 9 mlynedd yn ôl a bellwch rwy’n rheolwr y stiwdio â gofal am dîm bach ac rwyf yn y broses o wneud cais am achrediad gan ICON. Mae Holy Well yn gweithio ar bob math o wydr pensaernïol o gynllun o wydr lliw canoloesol yn seintwar Eglwys Gadeiriol Caer-wynt i oleuadau plwm addurnedig yng Nghastell Windsor. Mae’r gwaith yn llawn amrywiaeth, yn y gwydr lliw y byddwn ni’n gweithio arno ac yn yr heriau mae’n eu rhoi i ni. Er mai crefft draddodiadol yw gwydr lliw, mae’n esblygu’n barhaus ac rydym ni fel ymarferwyr yn dysgu ac yn esblygu’n barhaus gydag ef.


Roedd y cwrs yn Abertawe yn teimlo fel adref i mi Sarah Knighton, Un o’n Graddedigion

43


Cyfleusterau Gwydr Mae ein Gweithdai arbenigol yn cynnwys:

44

Stiwdios dylunio pwrpasol gyda gweithfannau unigol, gweithdai traddodiadol ac arbenigol gydag ystafelloedd cyfrifiadurol CAD uwch cynhwysfawr, gweithdai pren, metel, plastig a cherameg pwrpasol. Stiwdios paentio gwydr, cyfleusterau ar gyfer ysgythru gydag asid, odynau ar gyfer ymdoddi, ffurfio, slympio a chastio gwydr. Mae’r gweithdai’n cynnwys sgwrio â thywod, printio sgrin a gwneud mowldiau, peiriannau torri â chwistrell dŵr a laser, argraffwyr 3D a thechnoleg CNC.


45


BA (Anrh) / MDes

Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth

Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth

46

Ein gweledigaeth yw cynhyrchu gweithwyr proffesiynol dylunio sydd â lefelau uchel o sgiliau, creadigrwydd, ymwybyddiaeth ddiwylliannol ac estheteg a sensitifrwydd at ddyfodol cynaliadwy. Mae’r cwrs hwn yn archwilio i natur newidiol trafnidiaeth ar ei holl ffurfiau. Anogir myfyrwyr i gynhyrchu cysyniadau cerbyd radical sy’n herio confensiynau sefydledig ond nid ar draul anghenion dynol sylfaenol.

Mae’r rhaglen yn integreiddio arfer stiwdio traddodiadol a modelu clai gydag offer digidol o’r radd flaenaf, gyda myfyrwyr yn defnyddio’r fersiynau diweddaraf o feddalwedd dylunio a delweddu â chymorth cyfrifiadur o safon diwydiannol. Mae arfer staff, cyswllt â’r diwydiant a phrosiectau byw yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu paratoi’n llawn at ofynion gwaith. Cydweithiwyd yn ddiweddar gyda: Jaguar Land Rover, McLaren Automotive, Lotus Cars Westfield, Sports Cars, Arup, Honda, Nissan, Modec Vehicles a Pembrokeshire Sports Boats. Hefyd, caiff myfyrwyr y cyfle i arddangos eu gwaith yn New Designers Llundain.


47


BA (Anrh) / MDes Dylunio Modurol Mae’r cwrs Dylunio Modurol yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu’r sgiliau, gwybodaeth a medrau sydd eu hangen i ddylunio a datblygu ceir a beiciau modur newydd, wedi’i seilio ar ddealltwriaeth glir o egwyddorion cyfrannedd, cyfaint a dylunio arwyneb. Mae dylunio modurol yn cynnwys datblygu a mireinio arwyneb cymhleth ac fel arfer bydd yn gofyn am

greu model clai â chydrannau da wedi dod o olygon orthograffig da. Mae profiad o arwynebu â chlai yn bwysig iawn wrth ddatblygu dylunydd car y dyfodol gan ei fod yn rhoi gwell dealltwriaeth o gyfrannedd ac arwynebu 3D. Hefyd, mae’n agor y drws i yrfa fel Cerflunydd Clai Modurol.

Jay Morris

BA (Anrh) / MDes Dyluni Trafnidiaeth Mae’r cwrs Dylunio Trafnidiaeth yn archwilio i drafnidiaeth ar ei holl ffurfiau o ymagwedd dylunio cysyniadau, gan gynnwys cychod, carafanau, ceir cysyniad a beiciau modur, cerbydau amaethyddol, loris, cerbydau 2/3 olwyn modurol, systemau cludiant, cerbydau cysyniad ‘awyr las’ i gerbydau setiau ffilm ac ati. Ein gweledigaeth yw cynhyrchu gweithwyr proffesiynol dylunio sydd â lefel dda o Ruben Lansley

48

allu a chreadigrwydd deallusol. Ein nod yw datblygu dylunwyr sy’n gallu dylunio mathau o drafnidiaeth/ gerbydau o ymagwedd ‘tu chwith allan’ neu unigryw, gyda chefnogaeth ymchwil a rhagfynegiadau ar gyfer y dyfodol mewn technoleg, estheteg ac ystyriaethau amgylcheddol. Felly os hoffech wneud rhywbeth gwahanol, bydd Dylunio Cludiant yn eich gweddu i’r dim.


Caiff myfyrwyr eu cefnogi gan fodelwyr clai profiadol sy’n gweithio yn y diwydiant, y mwyaf diweddar o’r rheiny oedd yn ystod prosiect byw gyda Jaguar.

49


Mae fy llwyddiant o ganlyniad i gefnogaeth barhaus ac ymroddiad y tiwtoriaid Peter Wilkins, Un o’n Graddedigion

50


Peter Wilkins Prif Ddylunydd Dyson Automotive

Roedd astudio Dylunio Modurol yn Abertawe yn brofiad gwych i mi. Roedd safon yr addysgu un i un heb ei ail ac fe alluogodd y cyfleusterau o’r radd flaenaf i mi wir archwilio a datblygu fy sgiliau i’r safonau diwydiannol uchaf. Gan gymryd rhan mewn prosiectau a noddwyd gan y diwydiant, galluogwyd i mi ddod i adnabod a deall y diwydiant cystadleuol roedd arna’i eisiau gweithio ynddo ac fe Galluogodd y helpodd fowldio’r dylunydd ydw cyfleusterau o’r i heddiw. I mi, mae Coleg Celf radd flaenaf i Abertawe wir wedi helpu i siapio’r mi archwilio person ydw i ac mae’n fraint a datblygu fy gallu dweud bod fy llwyddiant o sgiliau i’r safonau ganlyniad i gymorth parhaus ac ymroddiad ei diwtoriaid. diwydiannol uchaf

Mae graddedigion ein cyrsiau wedi cael gwaith gyda rhai o enwau mwyaf sefydledig y byd mewn gweithgynhyrchu ac ymgynghoriaeth ddylunio, fel:

51


Cyfleusterau Dylunio Modurol, Trafnidiaeth a Chynnyrch Mae ein Gweithdai arbenigol yn cynnwys:

52


Cyfleusterau ‘layup’ a chwistrell gwydrffibr, byrddau ac offer arwynebu clai modurol proffesiynol, offer llaw traddodiadol, castio resin a phlastr, castio gwactod, sgwrio â thywod, ysgythru ag asid, prosesu gwydr oer, ffurfio gwydr cynnes, enamlo ac electroplatio, weldio, torri, llwybro, melino, troi, offer thermo-ffurfio, canolfannau peiriannu a llwybro CNC, argraffu 3D (peiriannau ‘Ultimaker’, ‘Object’ a ‘Stratasys’) a thechnolegau sganio digidol (Artec, Roland).

Mae gan ein gweithfannau Wacom Cintiq y fersiynau diweddaraf o feddalwedd dylunio a delweddu 3D Autodesk Fusion 360, Alias Automotive, SketchBook Pro, Speedform, V-Red, Solidworks ac Adobe Creative Suite. Gallwch hefyd gyrchu offer torri â chwistrell ddŵr a laser, cerameg, printio sgrîn, ffotograffiaeth, golygu ffilm a fideo a stiwdios cipio symudiad yng Nghanolfan Celf, Dylunio a Chyfryngau Dinefwr, sydd ddau funud ar droed o ALEX.

53


BA / BSc (Anrh) / MDes

Dylunio Cynnyrch Ymhle y byddem ni heb Ddylunwyr Cynnyrch?

Dylunio Cynnyrch

Rydym yn diffinio’r byd o’n cwmpas; rhoddwn iddo ffurf; rhoddwn iddo rinwedd materol; fe’i wnawn yn ddefnyddiadwy ac yn synhwyrol ac yn bwysicach oll rydym yn dylunio’r dyfodol. Ein gweledigaeth yw cynhyrchu gweithwyr proffesiynol dylunio sy’n gallu ymateb yn greadigol i anghenion newidiol pobl mewn ffordd sy’n gynaliadwy yn fasnachol ac amgylcheddol. Ai chi yw’r person hwnnw?

54

Eloise Linnett - Honey: Selectable Shelving


Nathan Warren - Contemporary Light

Mae astudio Dylunio Cynnyrch yng Ngholeg Celf Abertawe, Y Drindod Dewi Sant, yn cynnig ichi gyfle unigryw i ffocysu ar eich datblygiad creadigol. Rydym yn falch i allu cynnig grwpiau addysgu dwys, bach a thiwtorialau ‘un i un’ rheolaidd, lle, fel myfyriwr, byddwch yn ffocysu ar ddatblygu eich dealltwriaeth a’ch twf proffesiynol unigol. Mae gennym gyfleusterau rhagorol sy’n integreiddio arferion stiwdio a gweithdy traddodiadol gydag offer digidol a phrototeipio o’r radd flaenaf. Trwy gydol eich astudiaethau: Cewch eich annog i ddysgu a datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gynhyrchu cynhyrchion digidol a ffisegol; byddwch yn cymryd rhan mewn prosiectau ‘byw’ yn y diwydiant; byddwch yn gwthio ffiniau eich gallu deallusol; byddwch yn datblygu syniadau arloesol am gynhyrchion ac fe gewch y cyfle i Astudio Dramor ac ymgymryd â Lleoliad mewn Diwydiant. Rydym yn eich gweld Chi fel UNIGOLION ac rydym yn ymrwymo i’ch helpu i archwilio ffyrdd i gyrraedd eich potensial creadigol llawn.

Nic Thatcher - Talon: Personal Transport

55


BA (Anrh) / MDes Dylunio Cynnyrch

Dylunio Cynnyrch

Mae’r cwrs hwn yn archwilio agweddau rhyngddisgyblaethol a dynol-ganolog creadigol ar ddylunio cynhyrchion tri dimensiwn. Cewch eich annog i fod yn amrywiol yn eich ffordd o feddwl ac yn eich ymagweddau ymarferol, i herio ffiniau canfyddedig o fewn eich archwiliad dylunio. Bydd y cwrs yn rhoi ichi’r hyder ac ystod eang o sgiliau i ddechrau eich gyrfa. Byddwch yn cwestiynu’r rolau mae dylunwyr yn eu chwarae a’r effeithiau y gall dylunio a dylunwyr eu cael ar gyd-destunau cymdeithasol, gwleidyddol, amgylcheddol a masnachol. Caiff ymagweddau ar gyfer cynhyrchu syniadau, datblygu ffurf a rhyngweithio â chynnyrch eu harchwilio trwy waith mewn stiwdios a gweithdai, offer digidol o’r radd flaenaf, ynghyd â dealltwriaeth gadarn o ddefnyddiau a gweithgynhyrchu trwy argraffu 3D a chyfleusterau prototeipio eraill.

George Anderson - Evolve

56

Daniel Hancock - Educational Toys: Differences in Society


BA (Anrh) / MDes Dylunio Cynnyrch

Toby Gleave – Cynhaliad Gwddf ar gyfer Trin Gwallt

Athroniaeth y cwrs yw cynhyrchu graddedigion dylunio proffesiynol sy’n greadigol ac arloesol, ac sy’n gallu dylunio cynhyrchion sydd nid yn unig yn edrych yn dda ond yn gweithio’n dda hefyd. Mae yna bwyslais cryf ar optimeiddio dylunio ac ymwybyddiaeth dechnegol o ran dewis defnydd, meini prawf gweithgynhyrchu a phensaernïaeth cynnyrch, ochr yn ochr â gwybodaeth am wireddu deilliant dylunio trwy arferion cynaliadwy ac unplygrwydd masnachol. Cewch eich annog i archwilio ffyrdd newydd i ddatrys problemau, a’ch cyflwyno i offer dylunio digidol o’r radd flaenaf a thechnolegau prototeipio i archwilio’r ffordd rydych yn ystyried dylunio a siapio ein perthnasau yn y dyfodol gyda’r cynhyrchion mae arnom eu hangen neu beidio.

Rhodri Davies – Skull-Tech: Amddiffynnwr Pen ar gyfer Rygbi

57


Keira Gwynn Arweinydd Prosiect Marchnata yn R82, Denmarc Arbenigwyr mewn cynhyrchion cynorthwyol i blant ac oedolion anabl

Keira yw dechreuwr Scallop, sedd unigryw a hwyl sy’n ffocysu ar dri ffactor, symlrwydd, cludadwyedd ac amlbwrpasedd. Mae’n datrys problemau eistedd i’r rheiny sydd ag angen cynhaliad ychwanegol wrth eistedd ar y llawr neu mewn cadair. Datblygwyd y syniad yng Ngholeg Celf Abertawe ac yna cafodd ei fasnacheiddio gan R82 a’i lansio ar draws y byd yn 2017. “Alla’i ddim credu fy mod i yma, a dweud y gwir, yn datblygu fy syniad yn gynnyrch go iawn. Rhoddodd y rhaglen gyfleoedd i mi ddod o hyd i fi fy hun ac archwilio fy mhotensial, Alla’i ddim wir a ddaeth i’w anterth pan gefais credu fy mod i interniaeth ac yna swydd llawn yma, yn datblygu fy amser gyda R82, cwmni sy’n dylunio cymhorthion o ansawdd syniad yn gynnyrch uchel i blant a phobl yn eu go iawn harddegau sydd ag anghenion arbennig. Roedd ganddynt ddiddordeb mewn cymryd fy mhrosiect israddedig ymhellach, a arweiniodd ataf i’n ymgymryd mewn ymchwil pellach yn ystod fy ngradd meistr i arddangos angen pendant ac i gyfnerthu’r nodweddion dylunio. Mae’r ddwy flynedd diwethaf wedi bod fel corwynt, gydag anesmwythder a chyffro. Ar ôl ei lansio’n fyd-eang mae’r cynnyrch, o’r enw SCALLOP, bellach yn cael ei gynhyrchu a’i ddosbarthu ar draws y byd. Mae’n wirioneddol rhoi boddhad i mi wybod bod fy syniad bellach yn helpu i blant ag anghenion arbennig ar draws y byd gymryd rhan mewn gweithgareddau bob dydd a mwynhau eu bywydau i’r eithaf. Dylunio Cynnyrch yw un o’r disgyblaethau hynny lle gallwch ddelweddu a chreu eich dychymyg; nid oes teimlad gwell na gweld eich cynnyrch yn rhoi gwen ar wyneb rhywun.”

Keira exhibiting at the Smithsonian Museum, Washington D.C.

58


Mae’r ddwy flynedd diwethaf wedi bod fel corwynt Keira Gwynn, Un o’n Graddedigion

59


BA (Anrh) / MDes

Hysbysebu a Dylunio Brand

Hysbysebu a Dylunio Brand

Mae hysbysebu yn trawsnewid yn sylweddol. Mae technolegau newydd ac arloeseddau yn golygu bod hwn yn faes astudio cyffrous a chreadigol eithriadol ac mae ein cwrs yn cofleidio’r cyfleoedd anhygoel sydd o’n blaenau.

Mae’r cwrs Hysbysebu a Dylunio Brand yng Ngholeg Celf Abertawe yn annog a chefnogi esblygiad myfyrwyr drwy ysbrydoli ffordd o feddwl gyfoes, greadigol i ddatrys problemau cyfathrebu’r dyfodol. Golyga’r twf mewn arloesi digidol, ynghyd ag ymlediad platfformau hysbysebu newydd, bod mwy o gyfleoedd i weithwyr creadigol hysbysebu nag erioed o’r blaen. Felly, rydyn ni’n mentora ein myfyrwyr i fod yn chwaraewyr tîm sy’n cael eu gyrru gan syniadau sy’n niwtral o ran y cyfryngau gyda golwg strategol 360 gradd. Rydym ni’n credu y bydd gan syniad graidd le o hyd. Trwy astudio ar ein cwrs, byddwch yn meithrin llawer o sgiliau wrth greu’r sgiliau perthnasol sy’n cyrraedd a chyffwrdd calonnau a meddyliau cynulleidfaoedd. Mae hysbysebu’n fwy traws-ddisgyblaethol nag erioed o’r blaen, felly byddwch yn cael eich hunain yn archwilio syniadau trwy lliaws o dechnegau creadigol o ffotograffiaeth i ffilm, dylunio graffig i

60

ysgrifennu copi, Deallusrwydd Artiffisial a Realiti Estynedig, aflonyddu i ddysg drwy brofiad, blogiau i flogiau a chyfryngau cymdeithasol i enwi ond rhai. Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd, ond nid ydym yn disgwyl i chi fod yn arbenigwr yn y meysydd hyn, gan y byddwn yn eich helpu i archwilio’r llwybrau hyn i ddod â’ch syniadau’n fyw trwy arbrofi, cydweithio a chymryd risgiau. Mae’r diwydiant hysbysebu’n llawn unigolion egnïol, felly rydym yn credu bod angerdd, brwdfrydedd a chwilfrydedd yn rinweddau hanfodol yn ein myfyrwyr. Rydym yn hoffi cwrdd ag unigolion sy’n holgar yn gyson ac sydd efallai’n meddu ar allbwn creadigol yn barod fel ffotograffiaeth, blogio, cerddoriaeth, darlunio, sianel YouTube, ffrwd Instagram neu unrhyw beth sy’n dangos gweithgarwch creadigol.


Mae’r cwrs Hysbysebu a Dylunio Brand yn rhan o Rwydwaith Prifysgolion D&AD. Yn wir, mae ein myfyrwyr wedi ennill pedair gwobr ryngwladol D&AD New Blood yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf. Mae bod yn aelod o’r rhwydwaith hwn yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr greu proffil iddyn nhw eu hunain, a’u gwaith, yng Ngŵyl ‘D&AD New Blood’ yn Shoreditch, Llundain, yn ystod blwyddyn olaf y cwrs. Mae’r ŵyl yn gyfle gwych i gwrdd â gweithwyr creadigol y diwydiant o rhai o brif asiantaethau hysbysebu’r wlad. Rydym yn sicrhau perthnasedd masnachol trwy ein cysylltiadau â diwydiant ac yn darparu darlithoedd gwadd i ychwanegu hygrededd i’r cwrs. Mae hyn yn gwella cyfleoedd gwaith graddedigion ac mae llawer o’n myfyrwyr yn y drydedd flwyddyn yn cael interniaethau. AR Ôl cwblhau’r cwrs byddwch yn barod i gael swydd eich breuddwydion yn y diwydiannau creadigol. Mae llawer o’n cyn-fyfyrwyr yn mynd ymlaen i weithio i asiantaethau fel AMV BBDO, 180 Kingsday, Saatchi & Saatchi, iCreate, TBWA, Elvis, Golley Slater, S3 Advertising, Bluegg, 360i, DVLA ac mae rhai hyd yn oed wedi sefydlu eu busnesau eu hunain. Yn ogystal ag addysgu sgiliau creadigol a dylunio craidd rhagorol, rydym hefyd yn datblygu eich sgiliau trosglwyddadwy trwy gydol y radd a fydd yn eich paratoi i ddilyn eich dewis lwybr gyrfaol. Mae ein cyn-fyfyrwyr yn gweithio mewn llawer o rolau amrywiol fel Gweithiwr Creadigol Asiantaeth, Dylunydd Digidol, Dylunydd Graffig, Cyfarwyddwr Celf, Ysgrifennwr Copi, Cynllunydd, Swyddog Gweithredol Cyfrifon, Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol, Crëwr Cynnwys, Cysylltiadau Cyhoeddus a Rheolwr Digwyddiadau i enwi ond rhai. Trwy gydol eich amser yn astudio gyda ni, mae ein myfyrwyr yn elwa am fod ein dosbarthiadau’n llai na llawer o brifysgolion, sy’n golygu bod yna llawer mwy o amser cyswllt gyda darlithwyr, ynghyd â digonedd o diwtorialau grŵp bach ac unigol. Mae hyn yn caniatáu llawer mwy o amser cyswllt ac yn creu amgylchedd deinamig lle gallwch chi ddatblygu’n hyderus eich sgiliau creadigol wrth gael cymorth llawn gan eich darlithwyr. Laurie Simmons & Lewis Blakemore

Dominic Cunningham, Hannah Rees, Jordan Mahoney

61


Ross Weaver

Hysbysebu a Dylunio Brand

Un o Raddedigion Hysbysebu a Dylunio Brand

62

Graddiais yn 2016 o’r cwrs Hysbysebu a Dylunio Brand yng Ngholeg Celf Abertawe. Ar ddiwedd ein blwyddyn olaf, aeth ein dosbarth cyfan u arddangosfa D&Ad New Blood yn Shoreditch, Llundain. Roedd y digwyddiad yn arbennig, yn rhwbio ysgwyddau gyda mawrion y diwydiant a chael ein hysbrydoli gan bobl y byddwch yn gweithio ochr yn ochr â nhw yn y diwydiant. Bues yn ddigon ffodus i gael fy ngwahodd am interniaeth 3 mis mewn asiantaeth ryngwladol yn Amsterdam, sef 180 Kingsday. Rwyf wedi bod yn Gyfarwyddwr Celf yn yr asiantaeth ers 3 blynedd erbyn hyn, ac wedi gweithio gyda lliaws o gleientiaid ar wahanol brosiectau gan gynnwys DHL PlayStation, ASICS, Under Armour a dwy ymgyrch ryngwladol i Qatar Airways. Mae 2019 wedi bod yn flwyddyn gyffrous i mi yn barod. Rwyf wedi ennill 5 gwobr am y ffilm Thanks Plants sy’n talu gwrogaeth i effaith positif gwyrddni. Rwyf wedi cael fy enwi’n un o’r meddyliau digidol gorau dan 30 oed yn yr Iseldiroedd. Cefais fy nghyffroi’n gyson ar y cwrs ac fe’m helpodd i dyfu a gwneud cynnydd. Mae’n ymdrin â chreu problemau a’u datrys, dysgu sgiliau newydd sy’n datgloi cyfleoedd newydd a chreu llwybr newydd at yrfa sy’n gweddu i chi. Roedd y tiwtoriaid yn hanfodol i’r broses ac i’m rhoi i ar ben ffordd gyda’u gwybodaeth helaeth o hysbysebu a brandio.


63


64


Mae gan fyfyrwyr y gyfadran fynediad at ystafelloedd Mac pwrpasol, sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn parhau i gynnwys y fanyleb orau posibl.

65


Dylunio Graffig

NEW & UPCOMING DESIGNERS

Kelly Whitcombe

Unit Nineteen

(Anrh) MDes 19 BA Little Wind/ St Swansea SA1 1EE

Dylunio Graffig Mae’r cwrs Dylunio Graffig yng Ngholeg Celf Abertawe yn paratoi myfyrwyr at ddyfodol deinamig ac amrywiol ym maes cyfathrebu gweledol sy’n ymestyn yn gyson. Trowch eich creadigrwydd yn alwedigaeth.

66

Open

Private View: 12th July 6pm Open to Public: 13th to 19th July 10am to 5pm CLOSED SUNDAY


Linh Duong

Rhys Davies

Calum Lewis

Calum Lewis

Linh Duong

Jonathan Williams

Gall Ddylunio Graffig fod ar ffurf cylchgronau, papurau newydd neu lyfrau, pecynnu, posteri, graffeg gwybodaeth, logos a hunaniaethau corfforaethol eu systemau arwyddion. Gall gyfleu ei neges trwy ddylunio ar y we, graffeg symud neu ddylunio rhyngwyneb defnyddiwr. Rydym yn rhyngweithio gyda dylunio graffig bob dydd wrth i ni fynd trwy bywyd. Wedi’u harfogi gyda geiriau a delweddau, sgiliau a dychymyg, mae ein myfyrwyr yn barod ac yn gallu gwneud ymyraethau gweledol ystyrlon a chyfrannu at y tirlun creadigol y maent yn mynd iddo.

Cyflwynir y cwrs gan dîm staff angerddol, sy’n meithrin myfyrwyr mewn amgylchedd dysgu cefnogol, cyfeillgar gyda moeseg gwaith proffesiynol sy’n adfyfyrio ar y diwydiant. Mae eich uchelgeisiau personol yn bwysig iawn i ni ac fe wnawn ein gorau glas i roi ichi bortffolio graddedig sy’n llawn dop o’r hyder creadigol sydd ei agen arnoch i drosglwyddo’n llyfn i fyd gwaith dylunio. Mae ein myfyrwyr Dylunio Graffig yn cael rhai o’r gyrfaoedd cenedlaethol a rhyngwladol mwyaf cyffrous sydd ar gael, flwyddyn ar ôl blwyddyn.

67


Daniel Alcorn Un o’n graddedigion Dylunio Graffig

Dylunio Graffig

O weithio i glwb Pêl-droed y Prif Gynghrair i sefydlu gŵyl ddylunio, bu fy amser ers graddio yn 2010 yn brofiad anhygoel sydd wedi fy ngalluogi i ddilyn fy holl obeithion a breuddwydion fel dylunydd. Ar ôl cyfnod byr yn ddylunydd mewnol mewn manwerthwr catalogau symudais i Glwb Pêldroed Aston Villa yn 2012 yn Ddylunydd Creadigol, yn gweithio ochr yn ochr â’r tîm marchnata i gynhyrchu ymgyrchoedd lansio tocynnau tymor a chit, rhaglenni argraffiad arbennig a gosodweithiau gan gynnwys addurno’r ystafell newid yn Wembley ar gyfer rownd derfynol y cwpan FA. Tua diwedd fy amser yn y clwb symudais i ddylunio mwy ar gyfer sgriniau a darparais wefan newydd y clwb yn ogystal â nifer o ymgyrchoedd fideo a graffeg symudol.

68


Ers 3 blynedd rwyf wedi bod yn gweithio mewn asiantaeth ddigidol o’r enw Substrakt yn dylunio ac adeiladu cynhyrchion digidol i sefydliadau celf gan gynnwys Academi Brenhinol y Celfyddydau, yr American Repertory Theater, Pallant House Gallery a Kiln Theatre. Yn ystod fy amser ym Mirmingham, rwyf wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau wedi’u hanelu at y gymuned greadigol a ddaeth i’w anterth wrth sefydlu Gŵyl Ddylunio Birmingham gyda fy ffrind Luke Tonge. Nawr yn mynd i mewn i’w drydedd flwyddyn, mae BDF yn croesawu miloedd o ymwelwyr i’r ddinas bob mis Mehefin gyda siaradwyr yn cynnwys Aaron Draplin, Anthony Burrill, Verònica Fuerte ac Astrid Stavro. Caniataodd fy amser yn Abertawe i mi ddarganfod fy nghariad at ddylunio a mireinio fy sgiliau mewn amgylchedd croesawgar a’m gwthiodd i greu gwaith rwy’n ei garu. Mae’r cwrs wedi’i strwythuro mewn ffordd sy’n eich annog i roi cynnig ar wahanol ymagweddau ac yna’n eich caniatáu i ffocysu ar ein rhinweddau gorau sy’n teimlo fel ymagwedd berffaith. Gŵyl Ddylunio Birmingham Mae Gŵyl Ddylunio Birmingham yn croesawu miloedd o ymwelwyr i’r ddinas bob mis Mehefin 69


Stiwdios Llythrenwasg a Risograff Rydym yn annog myfyrwyr i weithio gyda dulliau argraffu traddodiadol, gan ddefnyddio teip plwm yn ein hystafell llythrenwasg bwrpasol a lliwiau sengl praff yn ein hargraffwr risograff. 70


71


Darlunio

BA (Anrh) / MDes

Darlunio Mae’r awyrgylch bywiog a chreadigol yn ein stiwdio yn darparu amgylchedd cyfforddus, cyfeillgar a symbylol lle gellir ffynnu a datblygu eich sgiliau a’ch syniadau. Mae yna le a chyfle i weithio ar raddfa fawr, 3D, creu gosodweithiau a gwneud y stiwdio’n eiddo i chi.

72

Alice Samuel


Owen Harry

Mae’r cwrs Darlunio yma yn Abertawe yn mwynhau enw da am gynhyrchu ystod amrywiol ac eclectig o ddarlunwyr graddedig sy’n hyder wrth ddefnyddio eu llais creadigol eu hunain. Mae’r rhaglen eang a deinamig wedi’i dylunio i ddatblygu sgiliau creadigol a phroffesiynol, gan bylu ffiniau gyda Chelf Gain, Dylunio Graffig, Animeiddio, a disgyblaethau eraill. Mae’n adlewyrchu a chofleidio natur amrywiol darlunio cyfoes a bydd yn eich annog i herio’r cysyniad o’r hyn y gall darlunio fod ac i ddilyn cyfeiriad personol yn eich gwaith. Byddwch yn archwilio i ystod eang o dechnegau, defnyddiau ac arddulliau er mwyn pennu cryfderau personol. Wrth i chi fynd ymlaen drwy’r cwrs rydym yn eich helpu i ddarganfod pa fath o ddarlunydd yr hoffech fod, pa faes o’r diwydiant sydd o ddiddordeb i chi a chyfeiriad eich gyrfa yn y pendraw, gan eich galluogi i wireddu eich potensial llawn fel cyfathrebwr gweledol. Yn ein hadran, mae gennym ystod trawiadol o offer digidol a chyfleusterau sy’n cynnwys ystafell bwrpasol o iMacs, tabledi WaCom a

sgriniau darlunio Cintiq, yn ogystal â thorrwr laser. Mae ein cyfleusterau annigidol yr un mor gyffrous: stiwdio gwneud printiau ar gyfer Leino, Argraffu ar Sgrîn, Ysgythru a ‘Cholagraff’, a stiwdio llythrenwasg ar gyfer ein pedwar peiriant llythrenwasg Adana ac offer gwneud llyfrau. Mae hyn oll yn rhoi cyfle gwych i chi arbrofi ac archwilio i botensial creadigol cyfuno technegau traddodiadol gyda thechnoleg digidol o’r radd flaenaf. Mae’n amser arbennig o gyffrous i fod yn ddarlunydd a bydd y cwrs hwn yn darparu’r platfform i chi ddysgu’r sgiliau a thechnegau sydd eu hangen, datblygu eich ymagweddau unigol a’ch llofnod gweledol unigryw a deall anghenion y diwydiant bywiog hwn sy’n esblygu’n gyflym. Bydd y cwrs hwn yn ysbrydoli a sbarduno gwreichion a fydd yn eich annog i ragori ar eich disgwyliadau eich hun.

Scott Mahoney

73


Ocean Hughes

Darlunio

Un o’n graddedigion Darlunio

74

Mae gennyf gymaint o gariad at ddarlunio ac rwy’n credu y dylai llawer o’r glod am hynny gael ei roi i’m tiwtoriaid yng Ngholeg Celf Abertawe, sydd wedi fy ysbrydoli a’m hannog cymaint. Mae graddio o’r brifysgol yn chwerwfelys: Rwy’n gyffrous am ragolygon y dyfodol, ond mae’n drist hefyd i adael rhan mor fawr o’m bywyd fel darlunydd ar ôl wrth i mi ddechrau pennod nesaf fy mywyd fel darlunydd yn gweithio ar fy liwt fy hun. Pe bawn i’n gallu gwneud y brifysgol i gyd eto, buaswn yn ei wneud heb oedi. Mae’r cwrs wedi fy mharatoi at y byd real ac wedi rhoi i mi nifer di-rif o gyfleoedd sydd wedi rhoi hygrededd i mi fel darlunydd. Yn fy ail flwyddyn, cefais fy nghomisiynu i Yn fy ail ddarlunio llyfr plant o’r enw Nature’s Nasties. flwyddyn, cefais Cefais y cyfle i gwrdd â’r cyhoeddwr, Canolfan fy nghomisiynu Peniarth, yn ystod yr wythnos ddylunio flynyddol y mae’r brifysgol yn ei chynnal bob i ddarlunio blwyddyn. Cysylltais â nhw a gofynnais pe llyfr plant o’r baent yn cynnig interniaeth i mi. Nid yn unig enw Nature’s y gwnaethant hynny, ond roeddynt yn hoffi fy ngwaith gymaint eu bod wedi gofyn i mi Nasties. ddarlunio Nature’s Nasties , a ysgrifennwyd gan Lady Carol Barratt. Ac wrth, dywedais iawn! Mae’r cyfle hwn wedi agor drysau i mi ar gyfer cymaint mwy! Rwyf newydd ddarlunio llyfr addysgol Cymraeg o’r enw Gofal! Gofal! am ddiogelwch ffordd i’r un cyhoeddwr, ac mae cynlluniau ar waith ar gyfer ail lyfr Nature’s Nasties a fydd yn cael ei wneud y flwyddyn nesaf!


Rwyf wir wedi caru astudio darlunio yng Ngholeg Celf Abertawe oherwydd fy od wedi cael fy annog i ddarganfod fy arddull a’m cilfach fy hun, ac rwyf wedi cael cymaint o wybodaeth o’r diwydiant gan fy nhiwtoriaid a siaradwyr gwadd fel Nina Cosford, Nicola Davies a Lou Bones o’r Gymdeithas Darlunwyr. Ar ddiwedd y drydedd flwyddyn, mae myfyrwyr yn cael y cyfle i arddangos eu gwaith yn yr arddangosfa fwyaf i raddedigion yn y DU. Mae’r sioe New Designers yn Llundain wedi rhoi i mi gymaint o esiamplau a chysylltiadau, sy’n amhrisiadwy. Mae fy ngwaith wedi’i gynnwys yn y Cylchgrawn Digital Arts, ynghyd â chyd-fyfyrwyr o Goleg Celf Abertawe, ar gyfer y dalent newydd orau yn New Designers. Rwyf hefyd wedi cael y cynnig i gael fy nghynrychioli gan asiantaeth ddarlunio Plum Pudding ac ar hyn o bryd rwy’n cael fy ystyried i gael fy nghynrychioli gan The Bright Agency, sydd wedi bod yn gôl gen i ers yr ail flwyddyn. Mae’r cyfleoedd a roddodd y brifysgol i mi wedi rhoi cymaint o gyhoeddusrwydd i mi ac wedi fy mharatoi at fy nhaith tuag at ddod yn ddarlunydd.

75


76


“

Caiff myfyrwyr fynediad agored rheolaidd at ein stiwdio darlunio. 77


Celf Gain

BA (Anrh) / MArts

Stiwdio Celf Gain, Safle a Chyd-destun

Mae gan y cwrs Celf Gain yng Ngholeg Celf Abertawe enw ardderchog am ragoriaeth ac arloesi yn y celfyddydau gweledol. Cwrs a gynhelir yn bennaf yn y stiwdio yw hwn lle bydd myfyrwyr yn ymgysylltu â dialogau gydag artistiaid a gydnabyddir yn rhyngwladol. “Trwy seminarau a thiwtorialau, rydym yn atgoffa ein hunain yn gyson nad yw’r bydoedd diwylliannol, gwleidyddol a barddonol y tu allan i waliau ein stiwdio, ond bod y waliau hyn yn rhan o’r bydoedd hyn. Yn fannau mynegiant, mae’r gorffennol, presennol a dyfodol yn feysydd cyfnewidiol ar gyfer dysgu, cyd-destun ac arloesi” – Yr Athro Tim Davies.

78

Abigail Eckberg


Darren Mundy

Hannah Thomas

Laura Wright

Owain Sparnon

Yn Abertawe mae ein holl fyfyrwyr llawn amser yn cael eu man personol eu hunain. “Caiff hyn ei gyflenwi gan ystod eang o weithdai; stiwdio darlunio byw a mannau gosodwaith ychwanegol y gellir ei gadw ymlaen llaw. Gyda thanategu damcaniaethol, anogir myfyrwyr i arfer o fewn ac ar draws pob cyfrwng. Mae’r cwrs yn pwysleisio dysgu trwy wneud, gan ymateb i ac ymgysylltu â’r rhyngwyneb rhwng syniadau a defnydd. Caiff ein myfyrwyr eu cyflwyno ac yna eu hannog i ymgysylltu â phrosesau paentio, arlunio, cerflunio, ffotograffiaeth, fideo, gosodweithiau, safle-ymatebol, seiliedig ar berfformiad a sefyllfa-benodol. Anogir myfyrwyr i fod yn arbrofol gyda defnyddiau a chysyniadau mewn ymdrech i lunio dulliau cyfathrebu cymdeithasol cymhleth drwy bob agwedd ar arfer Celf Gain. Trwy gyfres o weithdai, arddangosiadau, darlithwyr gwadd, bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth drylwyr ac aeddfed o arfer cyfoes. Drwy archwilio syniadau drwy ddulliau ymchwil a datblygu strwythur waith bersonol sy’n ymgorffori rheolaeth amser ac arferion proffesiynol, bydd myfyrwyr yn profi rhaglen gyfoethog, ddwys ac amrywiol. Bydd myfyrwyr yn dysgu arfer curadurol trwy bob arddangosfa a gynhyrchir ar

y cwrs, gan ddysgu’r gwahanol fecanweithiau cyflwyno sy’n briodol i’w harfer celf. Cofleidir agwedd broffesiynoldeb ar ein cwrs p’un a yw rhywun yn defnyddio dulliau traddodiadol neu’n fwy aflonyddgar, gwleidyddol, chwareus neu anarchig. Mae gan y cwrs Celf Gain gysylltiadau ardderchog â’r byd celf cyfoes a’i gymuned. Rydym wedi cychwyn partneriaethau yn Abertawe gydag Oriel a Stiwdios Elysium; Theatr Arbrofol Volcano; Oriel Mission, Galerie Simpson ac Oriel Gelf Glynn Vivian. Mae’r cysylltiadau cenedlaethol a rhyngwladol yn cynnwys gwobr baentio The Beep a Gwobr Artes Mundi. Bob blwyddyn caiff ymweliadau astudio eu trefnu ac yn y blynyddoedd diweddar maent wedi cynnwys Llundain; Berlin a Biennale Fenis. Hefyd, mae yna nifer o gyfnewidiadau stiwdio byd-eang. Mae gan y staff darlithio lawer o flynyddoedd o brofiad proffesiynol ac maent wedi arddangos yn Tsieina, America, Canol a De America, Canada, Affrica, Awstralia ac ar hyd a lled Ewrop. Caiff eu gwaith ei gynrychioli mewn llawer o gasgliadau rhyngwladol ac maent wedi’u cynnwys mewn arddangosiadau mawr fel Biennale Fenis a Gwobr Gelf Artes Mundi.

79


80

Celf Gain


Alexander Duncan Un o’n Graddedigion Celf

Magwyd Alexander Duncan yn Abertawe lle buodd yn astudio ar y cwrs Celf a Dylunio Sylfaen cyn cwblhau ei BA mewn Celf Gain yng Ngholeg Celf Abertawe yn Gain 2007. Pan raddiodd, cydweithiodd Alex gydag un o’i gyd-raddedigion o’r Drindod, Jonathan Anderson, ar nifer o sioeau dau-berson gan gynnwys ‘Real Estate’ yn Elysium. Yn 2011, ddim yn hir ar ôl symud i Lundain, cafodd Alex ei sioe unigol cyntaf ‘Surge’ yn Oriel Mission.. Aeth Alex yn ei flaen i astudio MA mewn Cerflunio yn y Coleg Mae’r staff addysgu wir yn gofalu am eu myfyrwyr Celf Brenhinol yn 2015, yr un flwyddyn a chafodd ei ddethol am y ‘London ac yn llwyddo i ddod o Open’ yn Oriel Whitechapel a rhoddwyd hyd i gryfderau unigol iddo Wobr Wakelin gan Oriel Gelf Glynn pob myfyriwr er mwyn Vivian. Yn 2017, cafodd Alex ei sioe unigol datblygu eu set sgiliau. ryngwladol gyntaf ‘Blow’ yn Oriel Aldama Fabre, Bilbao. Mae’n gweithio rhwng Abertawe a Llundain lle mae ganddo stiwdio ac mae’n cyd-gyfarwyddo lle prosiectau ArtLacuna. “Mae’r staff addysgu wir yn gofalu am eu myfyrwyr ac yn llwyddo i ddod o hyd i gryfderau unigol pob myfyriwr er mwyn datblygu eu set sgiliau.”

81


Cyfleusterau Celf Gain Mae ein Gweithdai arbenigol yn cynnwys: Caiff pob myfyriwr Celf Gain le stiwdio personol. Mae ein cyfleusterau rhagorol hefyd yn cynnwys gweithdai metel, pren, resin a cherameg, yn ogystal â thorwyr laser a chwistrell ddžr a stiwdios digidol/ystafelloedd tywyll.

82


83


Karen MacKinnon MBE

Curadur Oriel Gelf Glynn Vivian Mae Karen yn anogwr brwd dros y celfyddydau cyfoes yng Nghymru ac mae hi wedi bod yn cydweithio gyda ac ysbrydoli Coleg Celf Abertawe am nifer o flynyddoedd, gan gomisiynu staff a myfyrwyr ar gyfer arddangosfeydd, curadu prosiectau a thrwy gymryd rhan yn ein rhaglenni addysgu. Yn ystod ei gyrfa mae Karen wedi trefnu arddangosfeydd cyfoes a hanesyddol ac wedi datblygu diddordeb arbennig mewn arfer sy’n ymgysylltu â’r gymdeithas a sut y gall celf cyfoes fod yn gatalydd er newid cymdeithasol. Yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter, lle dechreuodd ei gyrfa, ffocysodd Karen ar arddangosfeydd a chomisiynau unigol gydag artistiaid fel Lucy Gunning, Nick Crowe ac Orlan. Yn ddiweddarach yn Oriel Gelf Glynn Vivian fe guradodd sioeau fel Displaced: celf gyfoes o Colombia a gynhwysodd yr artistiaid Oscar Muñoz, José Alejandro Restrepo a Maria Elvira Escallón. Ymhlith yr arddangosiadau sydd wedi’u curadu mae Cystadleuaeth Nofio Goffa Swansea Jack Shimabuku,

84

arddangosfa Luxemburg Rut Blees ‘Ffolly’ a’r prosiect ‘Let’s see what happens’ ar draws y ddinas (2013) a oedd yn cynnwys gwaith 7 artist o Gymru a Tsieina ar draws 5 safle yn Abertawe. Yn 2005, cafodd Karen ei phenodi’n Guradur arddangosfa Cymru yn y Venice Biennale ac fe arddangosodd arddangosaf grŵp a oedd yn cynnwys gwaith Peter Finnemore, Laura Ford, Paul Granjon a phreswyliaeth gyda Bedwyr Williams. Yn 2013 daeth Karen yn Gyfarwyddwr a Churadur ar gyfer Artes Mundi lle mae hi wedi llunio rhaglen gyfoethog o weithgarwch ehangach y tu allan i’r wobr gan gynnwys arddangosfeydd, prosiectau cymunedol a chomisiynau sy’n ymgysylltu â chymdeithas yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau yn y DU a thu hwnt. Ymhlith ei chomisiynau proffil uchel diweddar mae ‘Divine Violence’ Broomberg a Chanarin gydag Oriel Mostyn, Llandudno a ‘Traw’ Bedwyr Williams gyda 14:18 NOW. Mae Karen yn ôl yn Guradur yn Oriel Gelf Glynn Vivian.


Yn Athro Arfer, mae Karen yn parhau i ddatblygu ei pherthynas glos â Choleg Celf Abertawe ac rydym yn edrych ymlaen at lawer iawn mwy o brosiectau ar y cyd â hi.

85


Ffotograffiaeth

BA (Anrh) / MArts

Ffotograffiaeth Trwy diwtorialau a thrafodaethau, anogir myfyrwyr i gynhyrchu gwaith ffotograffig sy’n gofyn cwestiynau am eu pwnc ac, yr un mor bwysig, yn profi paramedrau arfer ffotograffig. Mae’r cwrs yn cynnig rhaglen eang a chyfeillgar sy’n caniatáu i fyfyrwyr archwilio ystod eang o dechnegau, defnyddiau ac arddulliau er mwyn darganfod eu cryfderau personol a chyfeiriad eu gyrfa yn y pen draw.

86

Alice Oliver


Yn ogystal â chyfleusterau ac ystafelloedd tywyll ffotograffiaeth traddodiadol, mae ein darpariaeth digidol yn cynnwys ystafelloedd Mac ac arnynt y feddalwedd Adobe diweddaraf. Mae ein holl gyfrifiaduron Mac wedi’u cysylltu ag argraffwyr proflennu a chwistrell, ystafell dywyll ddigidol lliw-reoledig arbenigol gyda sganwyr Hasselblad Flextight ac argraffu fformat mawr a chyfleuster storio sy’n rhoi ichi fynediad at gamerâu ffilm fformat canolig a mawr, SLR digidol proffesiynol, camerâu digidol Hasselblad fformat canolig ac offer goleuo lleoliad. Rydym yn credu ei fod yn hanfodol i’ch gwaith gael gorffeniad proffesiynol ac i’r perwyl hwn, mae gweithdai ar gael i gefnogi eich prosiectau. Mae cael mynediad at wybodaeth ymarferol ychwanegol y sicrhau y gallwch ddefnyddio cyfleusterau rhagorol y Brifysgol yn hyderus, gan wneud dewisiadau gwybodus am ddull ac offer, ac yn y pen draw, cynhyrchu gwaith o safon eithriadol. Mae’r gweithdai’n cwmpasu: prosesu ac argraffu, gan gynnwys dulliau argraffu hanesyddol, du a gwyn seiliedig ar ffibr; defnyddio gwahanol fformatau camera o fformat canolig i ffilm rholyn a ffilm 5 x 4, i ddigidol (gan gynnwys fformat canolig); llif gwaith ac argraffu digidol; fideo (saethu a golygu); gosod a thaflunio arddangosfa; goleuo stiwdio a lleoliad.

87


BA (Anrh) / MArts Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau

Ffotograffiaeth

Mae’r cwrs hwn yn eich galluogi i archwilio a herio confensiynau celf ffotograffig cyfoes. Fe’ch anogir i ymgymryd ag ymholiad helaeth, mentrus i bosibiliadau’r cyfrwng, gydag arbrofi wrth wraidd athroniaeth y cwrs. Mae’r cwrs yn cwmpasu dealltwriaeth eang o bob agwedd ar ffotograffiaeth; ei hanes, theori ac arfer, ac fel y cyfryw mae’n adlewyrchu natur cynyddol rhyngddisgyblaethol ffotograffiaeth o fewn y cyfryngau cyfoes. Mae llawer o’r cwrs yn hunan-gyfeiriedig, sy’n caniatáu am ymagwedd hyblyg at wneud delweddau mewn perthynas â phwnc a thechneg. Gan ganolbwyntio ar syniad ffotograffiaeth fel arfer celf cysyniadol, mae’r cwrs hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cysylltu datblygiad ffotograffig unigol gyda chymwysiadau masnachol. Mae gan yr adran ffotograffiaeth gysylltiadau cryf gyda’r diwydiannau celf a chyfryngau masnachol, a ddefnyddir a chryfheir gan y rhaglen darlithwyr gwadd rheolaidd.

88

© Chloe Hughes


© Kaylee Francis

BA (Anrh) Ffotonewyddiaduraeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol Ar y cwrs hwn fe gewch eich trochi mewn diwylliant weledol. Byddwch yn archwilio grym adrodd straeon gweledol trwy ffotograffiaeth ddogfennol, ystyried ei effeithiau sosio-wleidyddol a dadlau am y materion moeseol cyfagos. Byddwch yn herio confensiynau ffotonewyddiaduraeth ar ei amryw weddau ac ymchwilio i strategaethau ffotograffig am gynrychiolaeth gonest pan fo’r byd yn llawn camddefnydd digidol a ffug newyddion. Cewch eich annog i gymryd rhan lawn wrth ymchwilio i’r pynciau sy’n eich ysbrydoli, ac i fod yn eiriolwyr ac actifyddion ar gyfer yr achosion rydych chi’n fwyaf angerddol drostynt. Cewch eich

cefnogi wrth i chi arbrofi gyda delwedd, testun, delwedd symudol, amlgyfrwng, gosodwaith ac arddangosfeydd i ddatblygu eich arddull unigryw eich hun a dehongli’r rôl mae delweddau’n ei chwarae wrth ddiffinio cymdeithas a’n perthnasoedd gyda’n gilydd. Yn ogystal â gweithio gyda grwpiau cymuned lleol i ddatblygu prosiectau cydweithredol sy’n mynd i’r afael â materion cymdeithasol cyfoes, mae gennym raglen reolaidd o ddarlithwyr gwadd a gweithdai arbenigol sy’n darparu cyfleoedd rhwydweithio amhrisiadwy i’n myfyrwyr ac yn rhoi i’n graddedigion sgiliau hanfodol i symud ymlaen yn broffesiynol.

89


Verónica Sanchis Bencomo

Ffotograffiaeth

Un o raddedigion y cwrs

90

Mae Verónica Sanchis Bencomo yn ffotograffydd, ysgrifennwr a churadur, sydd ar hyn o bryd yn gweithio yn Hong Kong. Ers graddio o’r cwrs Ffotonewyddiaduraeth yn 2010, cydweithiodd gyda’r cylchgrawn diwylliannol, Ventana Latina, a arweiniodd at Ffotograffiaeth erthygl nodwedd misol, Fotografia Latina, lle cyfwelodd â ffotograffwyr sy’n gweithio yn America Ladin. Yn 2014 sefydlodd Verónica Foto Féminas, i hyrwyddo gwaith ffotograffwyr benywaidd o America Ladin a’r Caribî yn rhyngwladol, mewn arddangosfeydd a chyhoeddiadau. Mae Verónica yn cyfrannu at blatfformau sy’n cynnwys The Photographic Museum of Humanity (Y Deyrnas Unedig), cylchgrawn Yet (Y Swisdir) ac Atlas Fotografia e Imagen (Tsile). Mae hi’n parhau i weithio ar ei phrosiectau ei hun ac yn ddiweddar, cyhoeddodd lyfr artist, Blaze, ar y cyd â’r bardd Cristina Yn 2014 sefydlodd Gálvez. “Gwnes fy nhraethawd hir ar wahanol ffotograffwyr sy’n gweithio ym Mecsico, a’m Verónica Foto harweiniodd i ddal ati gyda’r ymchwil, yn gyntaf Féminas, i drwy gyfweld â ffotograffwyr Sbaenaidd ar hyrwyddo gwaith gyfer cylchgrawn Ventana Latina yn Llundain, ffotograffwyr a ddatblygodd yn Foto Féminas fel prosiect benywaidd o personol. Heb os, roedd meddu ar y cefndir hwn o’m hastudiaethau yn y brifysgol wedi bod yn America Ladin a’r bwysig wrth ddatblygu fy syniadau yn y dyfodol.” Caribî.


Ffotograffydd, ysgrifennwr a churadur, sy’n gweithio yn Hong Kong Verónica Sanchis Bencomo, Un o’n Graddedigion 91


Cyfleusterau Ffotograffiaeth Mae ein Gweithdai arbenigol yn cynnwys:

Cyfleusterau ac ystafelloedd tywyll ffotograffiaeth traddodiadol helaeth, darpariaeth digidol sy’n cynnwys ystafelloedd Mac sydd â’r feddalwedd Adobe diweddaraf wedi’u cysylltu ag argraffwyr prawfddarllen a chwistrell proffesiynol, ystafell dywyll ddigidol lliwreoledig arbenigol gyda sganwyr Hasselblad Flextight ac argraffu fformat mawr a chyfleuster storio sy’n rhoi ichi fynediad at gamerâu ffilm fformat canolig a mawr, SLR digidol proffesiynol, camerâu digidol Hasselblad fformat canolig ac offer goleuo lleoliad.

92


93


BA (Anrh) / MArts

Ffilm a Theledu

Ffilm a Theledu

Mae ein rhaglen ffilm a theledu yn greadigol a seiliedig ar arfer, sy’n canolbwyntio ar egwyddorion creadigol a damcaniaethol allweddol a fydd yn elwa myfyrwyr yn hir ar ôl iddynt raddio. Fel Ffilm a Theledu ei hun, mae’r cwrs yn gyfuniad o feddwl creadigol a gwneud ffilmiau ymarferol, wedi’i ategu gan ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau diddorol a symbylol.

94


Myfyrwyr BA Ffilm a Theledu Coleg Celf Abertawe ar daith astudio addysgiadol a ffilmio i Ferlin yn 2020

Mae athroniaeth y cwrs wedi’i seilio ar yr arfer cymhwysol o adrodd straeon ar gyfer y sgrîn. O ganlyniad, mae cynyrchiadau ein myfyrwyr wedi ennill gwobrau ar gyfer gwaith ffuglen a ffeithiol mewn llawer o wyliau a seremonïau gwobrwyo, gan gynnwys Gwobrau Myfyrwyr Cymdeithas Teledu Brenhinol Cymru, Screentest: Gŵyl Ffilm Cenedlaethol Myfyrwyr, Gŵyl Ffilm Fach Caerdydd a Ffresh. Nod y cwrs yw meithrin a herio ein myfyrwyr wrth iddynt ddatblygu eu galluoedd creadigol. Hefyd, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â gweithdai rheolaidd gydag offer o safon diwydiant gan Canon, Red, Sony, Dedo, Kino Flo, Manfrotto, Rode, Sennheiser, Litepanels ayyb. Rydym hefyd yn un o ychydig Ysgolion Ffilm y DU sy’n cynnig cyfle i fyfyrwyr redeg gŵyl ffilm. Gŵyl a redir gan fyfyrwyr Coleg Celf Abertawe yw Gŵyl Ffilm Ryngwladol Copper Coast sy’n denu diddordeb o bob cwr o’r byd.

Gyda phedair stiwdio fawr yn gweithredu o fewn awr i ni, Abertawe yw’r lleoliad perffaith i astudio Ffilm. Mae hyn wedi caniatáu’r cwrs i ddatblygu cysylltiadau cryf iawn gyda’r sector cynhyrchu yn arbennig gyda stiwdios Bad Wolf, Caerdydd. Mae’r brifysgol hefyd yn cyflogi aelod o staff i gysylltu gyda stiwdios a chwmnïau cynhyrchu. Mae hyn yn helpu i ddarparu cyfleoedd rheolaidd i fyfyrwyr addas fynd ar leoliad, ar ffilmiau a chyfresi teledu. Gall myfyrwyr gael profiad gwaith mewn gwahanol adrannau o fewn criw cynhyrchu drama, ar leoliad, yn y stiwdio ac yn y swyddfa gynhyrchu. Mae ein myfyrwyr wedi gweithio ar amrywiaeth o ffilmiau a sioeau teledu fel Sherlock (2012), Atlantis (2013), Fury (2014), Guardians of the Galaxy (2014), Mission: Impossible - Rogue Nation (2015), The Collection (2016), The Grand Tour (2016), Bang, (2017) Will (2017), Overlord (2018) a llawer iawn mwy.

95


Dave Clarke Un o raddedigion Ffilm a Theledu

96

Ers graddio yn 2011, mae Dave Clarke wedi llunio gyrfa lwyddiannus fel Prif Grip yn gweithio ar lu o ffilmiau a sioeau teledu gan gynnwys Paddington 2, Casualty a llawer iawn o rai eraill. Am y 5 mlynedd diwethaf, mae e wedi bod yn gweithio fel Cynorthwyydd Grip ar y cychwyn ac yna’n ddiweddarach fel Grip. Bellach, mae’n gyfrifol am yr adran Grip, gan ddarparu cefnogaeth a datrysiadau rigio i’r adran camerâu. O offer syml fel trybeddau a phennau camerâu i gyfuniadau trac a doli mwy cymhleth yn ogystal â rigiau car a chraeniau.


Cyfleusterau Ffilm a Theledu Mae ein Gweithdai arbenigol yn cynnwys:

Mae gan y cwrs ffilm gyfleusterau ac offer rhagorol ar gyfer cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu ffilm a theledu. Er mwyn cynhyrchu lleoliadau, gall myfyrwyr ddefnyddio ystod eang o offer camerâu HD DSLR, XD-CAM a 4K, gan gynnwys camerâu Canon a RED, gyda chitiau lens pennaf, ynghyd â chitiau goleuo Kino, Arri a Dedo ac offer recordio sain. Gallwch hefyd defnyddio llithryddion camera proffesiynol, rigiau ysgwydd, trac a throliau a systemau Steadicam i greu symudiadau camerâu llyfn. Ar gyfer ôl-gynhyrchu, mae gan holl

gyfrifiaduron y Gyfadran feddalwedd cynhyrchu ffilm a theledu o safon diwydiant gan gynnwys Adobe Creative Suite (gan gynnwys Premiere, Photoshop, After Effects), ProTools a DaVinci Resolve, Final Draft, MovieMagic Scheduling a MovieMagic Budgeting. Mae’r systemau golygu hyn yn delio â ffilm manylder uwch heb ei gywasgu mewn amser real. Hefyd, mae gan yr adran sgrîn plasma mawr a 3D LED a thaflunwyr digidol ar gyfer dangos y gwaith arnynt.

97


98


Yr Ystafell Ddarllen, Alex Mae’r Ystafell Ddarllen yn cael defnyddio ar gyfer darlithoedd, digwyddiadau ac arddangosfeydd a hyd yn oed ambell i bennod o Doctor Who a Sherlock.

99


BA (Anrh) / MArts

Dylunio Setiau

Dylunio Setiau

Meddyliwch am funud am eich hoff ffilmiau a rhaglenni teledu. Meddyliwch am ba mor anhygoel yw’r setiau. Meddyliwch am y ffordd y mae’r setiau’n rhoi cartref i gymeriadau a syniadau. Dychmygwch fod yn rhan o ddiwydiant sy’n arbennig o greadigol a gwneud hyn am fywoliaeth. Gall y radd Dylunio Set wireddu’r freuddwyd hon.

Gall ddatblygu a ffrwyno eich meddwl creadigol a dychmygol, hybu eich brwdfrydedd am ddelweddu, creu ac adeiladu amgylcheddau a setiau syfrdanol. Mae’r rhaglen ar gyfer pobl sydd am ddefnyddio eu cariad a’u creadigrwydd at ddylunio i wneud yr amgylcheddau hynny. Mae’r cwrs hwn yn trawsnewid cyffredinolwyr yn arbenigwyr. Ychydig iawn o gyrsiau tebyg sydd ar gael yn genedlaethol neu’n rhyngwladol ac nid oes gan yr un ohonynt yr un uchelgais dros eu myfyrwyr na’r cyfryw ystod o ymagweddau. Wedi ein lleoli yn Abertawe, mae gennym gysylltiadau uniongyrchol ag ystod o gyfleusterau a stiwdios cynhyrchu. Gallwn hwyluso profiad gwaith ar set yn y diwydiant Ffilm a Theledu. Rydym yn unigryw am fod gennym ein gorsaf deledu ein hunain sy’n llawn offer ac yn cael ei redeg gan fyfyrwyr i arddangos gwaith myfyrwyr a rhoi amser go iawn ar y teledu i rhith-ddyluniadau set. Rydym yn dod ag arbenigedd gweithwyr proffesiynol o’r radd flaenaf o Bad Wolf Studios, Three Cliffs Production, Pinewood

100

Cymru, Dragon Studios, Bay Studios yn Abertawe a’n datblygiad newydd sy’n werth miliynau o bunnoedd, sef pencadlys corfforaethol newydd S4C. Yn bwysicaf oll, mae’r stiwdios hyn yn galw allan am ein myfyrwyr ac yn gyson cynnig swyddi i raddedigion. Rydym yn cefnogi hyn i gyd gyda lle stiwdio, cyfleusterau ac offer rhagorol gan Canon, Red, Sony, Dedo, Kino Flo, Manfrotto, Rode, Sennheiser a Litepanels. Os hoffech ymchwilio i gyfnodau hanesyddol, datblygu delweddau, adeiladu golygfeydd bendigedig, ail-greu tirweddau presennol neu drawsnewid naratif a syniadau am sgriptiau ffilmiau yn setiau ffilm, yna mae ar y cwrs Dylunio Setiau eich angen. Rydym yn gobeithio llunio cwrs o unigolion angerddol sydd â diddordeb mewn hanes, dylunio, y celfyddydau, graffeg a diwylliant cyfoes; pobl sydd eisiau dod yn ddylunwyr set talentog a gweithio mewn diwydiant ffyniannus a bywiog. Rydym yn disgwyl i bobl ddod o ystod eang o gefndiroedd technoleg, dylunio, y dyniaethau, prentisiaeth a seiliedig ar y cyfryngau.


101


BA (Anrh) / MArts / MMus

Technoleg Cerddoriaeth

Technoleg Cerddoriaeth

Mae ein gradd seiliedig ar arfer yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr ddatblygu’r sgiliau allweddol sydd eu hangen er mwyn gallu gweithio yn y diwydiannau cyfryngau clywedol.

102

Gall myfyrwyr hefyd arbenigo mewn: Dylunio Sain, Sain Gemau, Peirianneg Stiwdio, Cyfansoddi, Cymysgu a Meistroli, Sain Fyw, Dylunio Meddalwedd Cerddoriaeth, Cynhyrchu Fideos Cerddoriaeth, Rhaglennu, Perfformio


Mae gennym gysylltiadau cryf gyda phartneriaid ac ymarferwyr yn y diwydiant, yn defnyddio’r feddalwedd safon diwydiant diweddaraf ac mae gennym gyfleusterau helaeth ar gyfer creu sain gofodol 3D, recordio mewn stiwdio, sain fyw, fideo, a chynnwys rhyngweithiol ar gyfer y we a dyfeisiau symudol. Yn bennaf, mae’r cwrs Technoleg Cerddoriaeth wedi’i leoli’n bennaf yn Adeilad BBC hanesyddol ac mae’n cynnwys stiwdios recordio o’r radd flaenaf a neuadd ddarlledu cyngherddau fawr. Mae’r stiwdios wedi croesawu artistiaid amrywiol, fel Dylan Thomas, Peter Sellers a Catatonia.

Ar hyn o bryd, mae Cerddorfa Gliniadur Abertawe mewn preswyliaeth yno. Mae gan fyfyrwyr fynediad llawn i’n lab Mac, sy’n llawn meddalwedd o safon ddiwydiannol, fel Pro Tools a Logic X. Cynigir hyfforddiant dwys mewn ystod eang o sgiliau a gweithgareddau cysylltiedig â thechnoleg cerddoriaeth. Mae’r casgliad o stiwdios yn y brifysgol yn llawn offer sy’n cynnig ystod eang o feddalwedd a chaledwedd o safon diwydiannol a lleoedd recordio a pherfformio pwrpasol.

103


BA (Anrh) / MMus Technoleg Cerddoriaeth Greadigol Nod y rhaglen Technoleg Cerddoriaeth yw meithrin sgiliau technegol ac esthetig amrywiol sy’n gysylltiedig â phwnc eang technoleg cerddoriaeth. Mae’r adran technoleg cerddoriaeth yn fywiog ac yn rhan allweddol o ethos traws-ddisgyblaeth Coleg Celf Abertawe.

BA (Anrh) / MArts (Perfformio a Chynhyrchu) Mae’r cwrs Cerddoriaeth (Perfformio a Chynhyrchu) wedi’i ddylunio i roi i’r graddedigion y sgiliau perfformio, technegol, creadigol a phroffesiynol sy’n berthnasol i’r rheiny sy’n dymuno gweithio yn y diwydiannau cerddoriaeth. Mae’r cwrs hwn yn un ymarferol iawn ac yn ffocysu ar y diwydiant, gydag ymagwedd aml-sgil sy’n cynnwys perfformio, cyfansoddi, dadansoddi, recordio a chynhyrchu. Mae natur seiliedig ar brosiectau’r rhaglen yn caniatáu i’r myfyrwyr deilwra’r aseiniadau i weddu eu diddordebau o fewn maes pwnc eang perfformio a chynhyrchu cerddoriaeth.

104


Jake Bourton Artist Sain ar ei Liwt ei Hun

“Mae’r cwrs, ynghyd â chefnogaeth gan y tîm darlithio, wedi ehangu fy meddwl yn gerddorol, yn artistig ac mewn ffyrdd technolegol. Agwedd arbennig o gyffrous am y cwrs oedd cael y rhyddid, yr hyder a’r gred yn fy ngallu fy hun i ddilyn diddordebau mewn sain ffilm a theledu. I helpu hyn, ymgymerais â lleoliadau gwaith yn y diwydiant, na fyddai wedi bod ar gael i mi heb y cwrs. Buaswn yn argymell y cwrs hwn i unrhyw un sy’n dymuno cael swydd mewn diwydiannau sy’n gweithio gyda sain.” Mae Jake wedi gweithio ar nifer o gynyrchiadau gan gynnwys: Sunshade Films - Driscoll Manor, Long Coats and Crisp Packets, Feature Film, Tornado Studios – The Rebels

105


Animeiddio Cyfrifiadurol

BA (Anrh) / MArts

Animeiddio Cyfrifiadurol Diben y radd animeiddio hon yw dod â’ch dyluniadau’n fyw. Rydym yn defnyddio technegau animeiddio 2D clasurol, modelau clai bychain a dyluniadau cysyniad i’ch helpu i lunio a rheoli dyluniadau a straeon a bydoedd 3D. Byddwch yn mwynhau’r rhyddid creadigol i archwilio animeiddio ar draws 2D a 3D, modelau a datblygu symudiad, goleuo ac edrychiad. Fel cymaint o’n graddedigion rydym am i chi ddefnyddio hyn yn fan troi yn eich gyrfa, i ddatblygu’r riliau gorau ar gyfer gwaith yn y diwydiant a thu hwnt.

106

YOUKANTE” cymeriad gan TOMMY NELSON


Emelie Jensen

Raj Joshi

Y cwrs hwn yw un o rhai mwyaf sefydledig y DU. Ers 2003 mae ein graddedigion wedi cael profiad allweddol o’r diwydiant gyda chwmnïau cynhyrchu byd-eang, stiwdios VFX, stiwdios gemau, hysbysebion, teledu a llawer o feysydd adloniant eraill. Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio ar y ffilmiau Interstellar, Jungle Book, Guardians Of The Galaxy, Fantastic Beasts, Hotel Transylvania, Thor, Skyfall, Prometheus, Chronicles Of Narnia, Man Of Steel, Iron Man 2, Kubo And The Two Strings, Boxtrolls, World War Z, a llawer iawn mwy. Mae ein holl dîm yn annog y defnydd o dechnegau dylunio cadarn, i ymgorffori cyfnodau animeiddio clasurol a chynhyrchu lle bynnag y bo’n bosibl. Rydym yn gwerthfawrogi

gwerth deall strwythur anatomegol mewn gwaith ffigwr; rydym yn pennu amser i ddefnyddio arddulliau ac egwyddorion animeiddio cymeriad; rydym yn helpu i ddylunio a datblygu setiau a senarios stori dychmygus. Digwydd hyn oll o fewn gwaith cysyniad a chyn-cynhyrchu cyn eu gweld yn cael eu siapio mewn 3D. Mae gan staff brofiad academaidd cadarn o addysgu’r pynciau hyn, gyda rhestr faith o gyfresi animeiddio, ffilm a gemau y maent wedi gweithio arnynt. Yn eu tro, mae ein myfyrwyr Animeiddio Cyfrifiadurol 3D yn cael cipolwg gwerthfawr o’ diwydian a chymorth gydag animeiddio sy’n eu galluog i ddilyn y llwybr iawn i’r diwydiannau creadigol a’r datblygiadau cyffrous diweddaraf mewn animeiddio digidol modern.

107


108

Animeiddio Cyfrifiadurol


Anthony Bloor Pennaeth 3D, Advertising MPC, Llundain

Helen Duckworth Modelwr ‘CG’ ac Artist Gwead

Anthony oedd un o’r myfyrwyr cyntaf i gwblhau’r radd BA Animeiddio Cyfrifiadurol 3D yn 2003. Dechreuodd weithio yn MPC yn 2005, fel Goleuwr a Gweithiwr Cyffredinol ar ‘Hogfather’ a enillodd BAFTA, (Effeithiau Gweledol Gorau). Helpodd y ffilm a wnaeth yn y drydedd flwyddyn yn Abertawe - PLATFORM ZERO – ei lansio i mewn i’r diwydiant lle mae’n parhau i ddatblygu gwaith artist ac animeiddio 3D o’r radd flaenaf, a ddysgodd yma yn Abertawe. Ers dod yn Gyd-bennaeth ar yr adran 3D yn 2013, mae Anthony wedi gweithio gyda nifer o asiantaethau a chleientiaid, gan oruchwylio ystod enfawr o waith 3D creadigol sydd wedi ennill gwobrau, yn goruchwylio’n bersonol dyluniad, adeiladu ac animeiddio dilyniannau enwog sy’n cynnwys nadredd wedi’u hanimeiddio (coctêls), bwystfilod sy’n chwythu tân (gwm cnoi) a Barry, yr hwyatbig sy’n siarad (hysbyseb yswiriant).

Datblygodd Helen berthynas glos gydag Aardman Animations (Bryste) yn ei blwyddyn olaf, ac o ganlyniad fe aeth i weithio iddynt nhw yn eu hadran ‘CG’ gyda’r modelu digidol ar hysbysebion ac ar y ffilm PIRATES. Mae’n gweithio’n bennaf ar y modelau a dyluniad cymeriadau ond mae hi hefyd wedi cyfrannu at greu gwead a datblygu’r goleuo a’r edrychiad ar lawer o ffilmiau sydd wedi ennill gwobrau. Arweiniodd y profiad gydag AARDMAN at fwy o brosiectau 3D ar y ffilm Boxtrolls a Kubo & the two strings, gyda Laika, ac yna i fod yn Uwch Fodelwr gyda Sony Pictures Imageworks a’i gwaith ar gymeriadau, setiau, propiau’r ffilmiau Hotel Transylvania, The Smurfs a Storks.

109


BA (Anrh) / MArts

Dylunio Gemau Cyfrifiadurol

Dylunio Gemau Cyfrifiadurol

Mae’r cwrs Dylunio Gemau Cyfrifiadurol yn rhoi i fyfyrwyr y sgiliau hanfodol a ddefnyddir yn y diwydiant gemau, a gwybodaeth o’i arferion, ynghyd â’r gallu i ddadansoddi a gwerthuso’n academaidd eu gwaith eu hunain.

110

Richard Morgan


Richard Morgan

Gemma Suen

Richard Morgan

Mae ein holl fodylau yn bwyso i mewn i un syniad am êm dros ddwy flynedd y cwrs, gan alluogi i fyfyrwyr weithio o fewn grŵp cynhyrchu i ddatblygu gwaith drwy ddefnyddio cylch datblygu ffug. Ym mlwyddyn gyntaf y cwrs bydd myfyrwyr yn gweithio o fewn eu timau i gynhyrchu pob cysyniad, cymeriad, ased a dogfennaeth ar gyfer y gêm. Yn yr ail flwyddyn, bydd pob myfyriwr yn gweithredu’r holl waith o’r flwyddyn gyntaf i mewn i amgylchedd peiriant gêm ac yn y pendraw yn creu gêm arddangos sy’n gweithio. Mae’r drydedd flwyddyn yn datblygu’r syniadau hyn ymhellach a bydd y myfyrwyr yn cynhyrchu gêm arddangos/proflen o gysyniad, wedi’i seilio ar eu manylebau eu hunain, fel rhan o’u prosiect mawr terfynol. Mae blwyddyn olaf yr MArts wedi’i dylunio i gynnig cyfle i fyfyrwyr gael gradd Meistr a thrafod trosglwyddo i’r diwydiant.

Mae’r rhaglen yn aelod o Raglen Academaidd PlayStation® Sony. Mae’r bartneriaeth gyffrous hon yn darparu mynediad i offer datblygu PlayStation® a’r un caledwedd proffesiynol a ddefnyddir gan stiwdios gemau o gwmpas y byd i greu gemau sy’n torri tir newydd ar PlayStation®. Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio gyda chwmnïau blaenllaw a llwyddiannus fel Rockstar North, Electronic Arts, Criterion, Creative Assembly a Traveller’s Tales yn rhan o ddatblygiad Burnout Dominator, cyfres Harry Potter, Grand Theft Auto V, Halo Wars 2, Little Big Planet, Alien Isolationa chyfres Lego Star Wars.

111


112

Dylunio Gemau Cyfrifiadurol


Dan Brewer Uwch Ddylunydd Creative Assembly

David Alden Artist Cysyniad Technegol yn Rockstar North

Dechreuais fy ngyrfa fel Dylunydd yn Supermassive Games. Yn ystod fy nghwrs prifysgol, roedd gen i ddiddordeb mawr mewn realiti estynedig, ac fe gwestiynodd fy nhraethawd hir p’un ai dyna oedd dyfodol gemau. Roedd Supermassive Games yn dechrau gwaith ar êm parti realiti estynedig fel teitl lansio ar gyfer rheolwr ‘Playstation Move’ (Start the Party) ar PS3 ac roeddynt yn chwilio am ddylunydd i weithio arno. Yn ffodus iawn, o ganlyniad i’m brwdfrydedd dros dechnoleg realiti estynedig roeddwn yn wahanol i ymgeiswyr eraill a chynigiwyd swydd i mi ychydig wythnosau’n ddiweddarach. Yn ystod fy 6 blynedd yn Supermassive, bues yn ddigon ffodus i weithio ar bron bob prosiect y gwnaethant, gan gynnwys: Little Big Planet DLC, cyflwyno cysyniadau, prototeipiau drama naratif mewnol, Doctor Who: The Eternity Clock, Wonderbook: Walking with Dinosaurs, Airship Aces, Spy Ops ac Until Dawn, a enillodd BAFTA. Ar ôl hyn, ymunais â Creative Assembly fel uwch ddylunydd i weithio ar Halo Wars 2, ac yn ystod y 2 flynedd y buom yn gweithio ar Halo Wars 2, cymerais rôl allweddol wrth ddarparu’r profiad chwarae craidd ac aml-chwaraewr. Hyd heddiw, rwy’n mwynhau fy amser yn Creative Assembly, gan ddefnyddio sgiliau allweddol a ddysgais yn ystod fy amser yng Ngholeg Celf Abertawe bob dydd.

Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio fel Artist Cynnwys Technegol yn Rockstar North lle rwyf wedi bod yn gweithio ers dros 5 mlynedd wedi dod yma’n syth o Goleg Celf Abertawe. Yn yr amser hwnnw rwyf wedi symud o SA i Gymorth Celf gan fod y brifysgol wedi addysgu imi ddealltwriaeth o iaith gelf gemau ac yna es ymlaen i’m teitl swydd presennol o ganlyniad i’m sgiliau ymarferol. Drwy fy rôl, rwy’n gweithio ar gelf map gemau bob dydd, o’r cysyniad, dylunio, gweithredu a sefydlu technegol gyda thîm gwych o artistiaid a phobl cynorthwyol angerddol o’r un meddylfryd. Ni fuaswn i ble rydw i nawr heb fy amser ar y cwrs Dylunio Gemau Cyfrifiadurol, a roddodd i mi’r sgiliau a’r iaith i allu cyfleu fy syniadau a’m dulliau o fewn y diwydiant, am roi i mi sail wybodaeth anhygoel i adeiladu arni, ac am yr hyder i roi fy ngwaith a fi fy hun yn y diwydiant gemau i barhau gyda’m gyrfa fel Artist Gemau.

113


114


Yn ddiweddar, dewiswyd Coleg Celf Abertawe i ymuno â Rhaglen Academaidd Byd-eang Sony Interactive Entertainment PlayStation®First Sony.

Mae’r bartneriaeth gyffrous hon yn galluogi i’n myfyrwyr Dylunio Gemau Cyfrifiadur Creadigol fynediad i offer datblygu PlayStation; yr un caledwedd proffesiynol a ddefnyddir gan stiwdios gemau ar draws y byd i greu gemau arloesol ar PlayStation. “Trwy PlayStation First rydym yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr dorri’u dannedd ar ddatblygu consol yn gynnar yn eu gyrfa. Mae arnom eisiau iddynt feddu ar y sgiliau sydd eu hangen ar ein diwydiant. Ac rydym ni am ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf yma o ddatblygwyr i greu gemau a phrofiadau newydd.” Mae Luke Savage, Uwch Reolwr Datblygu Academaidd PlayStation First Sony yn cydnabod cyrsiau blaenllaw’r byd ym maes datblygu gemau er mwyn helpu i feithrin y don newydd o ddatblygwyr gemau. Mae’r rhaglen yn unigryw gan ei bod yn rhoi mynediad i feddalwedd a chaledwedd datblygu cyflawn PlayStation at ddibenion addysgu mewn peirianneg gyfrifiadurol, rhaglennu a datblygu meddalwedd a dylunio gemau. Mae natur cydweithredol yr holl waith a wna ein myfyrwyr yn rhoi iddynt well dealltwriaeth o sut beth yw gweithio’n gynhyrchiol a chymhwyso eu cryfderau craidd i unrhyw brosiect diwydiannol. Caiff yr athroniaeth yma ei ehangu gan ein bod wedi ein cynnwys ar raglen PlayStation®First Sony sy’n helpu i bontio’r bwlch rhwng academia a diwydiant ymhellach.

115


Tyst. AU Celf a Dylunio

Sylfaen

Sylfaen

Mae’r cwrs Tyst AU Celf a Dylunio Sylfaen yn darparu’r sail ar gyfer astudio celf a dylunio. Golyga hyn mai dyma’r ffordd ddewisol o fynd i astudiaethau arbenigol o fewn addysg uwch. Mae’r rhaglen yn weledol ac yn ymarferol yn bennaf, gydag elfennau o waith ysgrifenedig, a datblyga ddealltwriaeth myfyrwyr o gysyniad, cyd-destunau a gwneud.

116

Mae’r cwrs yn gyflwyniad i astudio o fewn celf a dylunio, ac mae’n sylfaen neu’n sail i fyfyrwyr sy’n dechrau mewn ‘ysgol gelf’ ac yn wynebu, am y tro cyntaf, addysgu a dysgu mewn stiwdio, sy’n cynnwys ymholi a dysgu drwy ddarlunio, gwneud a phroses, ysgrifennu, ymchwil, cyflwyno a thrafod. Mae’r cwrs yn galluogi i fyfyrwyr symud ymlaen trwy gynhyrchu portffolio o waith ymarferol a gweledol, enghreifftiau o waith ysgrifenedig ac arddangosfa terfynol. Cyflwynir myfyrwyr i feysydd astudio arbenigol a allai arwain at astudiaethau pellach mewn meysydd sy’n cynnwys Celf Gain, Paentio ac Arlunio, Darlunio, Dylunio Graffig, Hysbysebu a Dylunio Brand, Dylunio Gemau, Celfyddydau Digidol, Animeiddio, Ffilm a Fideo, Ffotograffiaeth, Modurol, Dodrefn, Addurno Mewnol, Cynnyrch,

Cynhyrchu a Dylunio Theatr, Pensaernïaeth, Dylunio Gemwaith, Ffasiwn, Tecstilau, Patrwm Arwyneb, Crefft, Gwydr, Technoleg Cerddoriaeth a llawer mwy. Addysgir y cwrs yn llwyr ar Lefel 4. Mae hyn yn ddilyniant clir o Lefel A ond gan roi i fyfyrwyr amser i ystyried opsiynau arbenigol BA yng nghyd-destun profiad ysgol gelf llawn. Rydym yn cynnal ethos a hud Sylfaen, gan alluogi i fyfyrwyr adeiladu sail o brofiad a sgil wrth ddarganfod meysydd newydd nad ydynt efallai wedi cael y cyfle i’w harchwilio o’r blaen. Credwn fod hyn yn hanfodol ar gyfer llwyddiant ar lefel gradd ac yn hollbwysig o ran gwneud y penderfyniad iawn ar gyfer gyrfa yn y diwydiannau creadigol yn y dyfodol.


117


Mae’r cwrs wedi’i leoli mewn stiwdio brydferth yng Nghyfnewidfa Ddylunio ALEX, a adnewyddwyd yn ddiweddar, ac yma oedd lleoliad cyntaf y cwrs dros 100 mlynedd yn ôl. Rydym yn gweithio ar draws Campysau Dinefwr sy’n cynnig mynediad llawn i fyfyrwyr at weithdai, cyfleusterau ac adnoddau pwrpasol yn yr ysgol gelf, gan weithio ochr yn ochr â’n myfyrwyr gradd. Mae gan yr ysgol gelf rhai o adnoddau gorau’r ardal, sy’n cynnwys offer traddodiadol a thra modern, sydd i gyd ar gael i’r holl fyfyrwyr Sylfaen fanteisio arno. Rydym hefyd yn cefnogi ceisiadau pellach drwy UCAS, ar gyrsiau yn ein Cyfadran ein hunan ac mewn mannau eraill – bydd myfyrwyr yn symud ymlaen i amrywiaeth o gyrsiau gradd mewn prifysgolion ar draws y wlad. Mae llawer o gynfyfyrwyr Sylfaen, sydd bellach yn raddedigion, yn artistiaid, dylunwyr ffasiwn, cynnyrch a graffig, athrawon a darlithwyr wrth eu gwaith. Mae rhai yn curadu a gweithio fel gweinyddwyr ac addysgwyr celfyddydau mewn amgueddfeydd ac orielau. Mae rhai wedi dod yn ddylunwyr yn y diwydiant neu’n gweithio fel penseiri. Yn ddiweddar, bu inni ddathlu ein pen-blwydd yn 100 oed gyda sioe cyn-fyfyrwyr yn Oriel Mission a amlygodd yr ystod eang o yrfaoedd cyffrous mae ein myfyrwyr wedi eu cael ar ôl gadael y cwrs. Mae llawer o’n cyn-fyfyrwyr yn dweud mai’r cwrs Sylfaen oedd un o’r blynyddoedd mwyaf gwerthfawr ac allweddol o’u haddysg gelf gan eu rhoi ar y llwybr iawn i’w meysydd pwnc arbenigol.

Roberto Pierri

118

Jane Harrison

Ben Dawson


Jennifer Graham

Jennifer Graham

119


Cyrsiau Ôl-Raddedig Mae ein portffolio MA Dialogau Cyfoes yn creu platfform dysgu unigryw a ddefnyddir i annog myfyrwyr i ehangu eu profiad creadigol trwy arbrofi, cydweithredu a rhyngddisgyblaethol. Yn rhan o’r platfform rhyngddisgyblaethol caiff myfyrwyr eu hannog i ehangu proses, gan archwilio i ystod eang o ymagwedd a defnydd ynghyd â datblygiad dealltwriaeth ddamcaniaethol.

Yn rhan o’r platfform rhyngddisgyblaethol caiff myfyrwyr eu hannog i ehangu proses, gan archwilio i ystod eang o ymagwedd a defnydd ynghyd â datblygiad dealltwriaeth ddamcaniaethol. Mae ein portffolio MA Dialogau Cyfoes yn creu platfform dysgu unigryw a ddefnyddir i annog myfyrwyr i ehangu eu profiad creadigol trwy arbrofi, cydweithredu a rhyng-ddisgyblaethol.

Mae’r MA Tecstilau yn canolbwyntio ar decstilau fel cyfrwng ar gyfer archwiliad cyfathrebol a semiotig sy’n gallu ffurfio dialogau gyda disgyblaethau eraill. Gan fod y cyfrwng yn rhan hanfodol o’r profiad dynol, mae yna bwyslais ar ddiwylliant materol wedi’i draws-gyfeirio ag astudiaethau mewn ffenomenoleg ac astudiaethau beirniadol. Mae myfyrwyr yn archwilio cyd-destunau amrywiol meteriolaeth fel y maent yn perthyn i werthoedd iaith, trosiad a defnydd diwylliannol. Mae’r MA Gwydr yn ymwneud ag astudio gwydr mewn amgylchedd a’i effeithiau a pherthynas â golau a lle. Fel defnydd, mae Gwydr yn cynnig lle unigryw ym maes dylunio a phensaernïaeth ac mae’r cwrs yn cynnig y cyfle i archwilio’r defnydd hwn, gan gyfeirio’n arbennig ar ei gymwysiadau mewn pensaernïaeth. Mae gwydr ar ei wahanol ffurfiau; mosaig, gwydro, enamel a ffasâd ffenestri yn cwmpasu amrywiaeth eang o arwynebau, sy’n cynnig paled cyfoethog ac amrywiol i’r gwneuthurwr.

120

Mae MA Dylunio Patrwm Arwyneb yn cynnig profiad sy’n canolbwyntio ar ddylunio ac yn ffocysu ar ethos o greadigrwydd, arloesi, gweledigaeth, dylunio a sgiliau gwneud ynghyd â dealltwriaeth gyd-destunol uwch a chyflogadwyedd. Gall myfyrwyr arbrofi ar draws ystod o ddisgyblaethau gan gynnwys dylunio ar gyfer addurno mewnol, gwrthrychau ffasiwn a gemwaith/gwaith metel. MA Effeithiau Gweledol Mae ein rhaglen Effeithiau Gweledol wedi’i ddylunio ar gyfer graddedigion sy’n dymuno ymestyn eu gwybodaeth ac adeiladu eu gyrfa effeithiau gweledol ar lefel ôlraddedig. Y nod yw ymestyn arfer dylunio unigol a CGI, gyda’r bwriad o weithio yn y diwydiant Effeithiau Gweledol. Bydd myfyrwyr yn defnyddio ystod o ffilm llyfrgell o ansawdd proffesiynol, naill ai yn ffynhonnell allanol neu wedi’u cynhyrchu gan fyfyrwyr.


Mae MA Celf Gain yn dathlu disgyblaeth agored, seiliedig ar syniadau sy’n sefydlu amgylchedd dysgu unigryw lle chaiff cysyniad a phroses eu cefnogi’n gyfartal trwy arfer academaidd a gweithdy helaeth. Felly, mae myfyrwyr yn cael y cyfle i weithio o fewn ac ar draws ystod eang o gyfryngau sy’n cynnwys paentio, fideo, perfformio, arfer 3D, gosodwaith a phrint. Mae MA Ffotograffiaeth yn ystyried pob math o arfer ond mae’n ymddiddori’n bennaf mewn ffurfio arferion unigol newydd ar draws ffiniau traws-ddisgyblaethol. Mae’r cwrs yn amrywio o ddulliau dogfennol i foddolrwydd cysyniadol fel ‘perfformiadol’, gwaith sefyllfa-benodol, ‘gornestau’ ffotograffig a gwahanol arferion cyfranogol a yrrir gan astudiaethau athronyddol a beirniadol i archwilio ac arbrofi gyda chysyniad dyfodoldeb a ‘ffotograffiaethau’r dyfodol’.

MA Delwedd Symudol Mae’r rhaglen meistr Delwedd Symudol yn archwilio i ffyrdd newydd o ddenu cynulleidfaoedd, boed hynny ym meysydd hyrwyddo a hysbysebu neu o fewn y sector arddangos a chorfforaethol, delweddau symudol ar gyfer dyfeisiau symudol, y we, ac ym mhob faes o ddylunio symudiad. Mae’r rhaglen wedi’i dylunio ar gyfer y rheiny sy’n chwilio am ffordd o ddysgu arloesol, creadigol a beirniadol, gan y byddwch yn ymgysylltu â fideo, amgylcheddol, golygu digidol, sain ac animeiddio i ddatblygu eich syniadau creadigol ac adeiladu sylfaen cysyniadol a thechnegol cryf ar gyfer eich datblygiad. MA Sain Mae sain yn faes sydd o bwys cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol cynyddol, ond eto caiff ei esgeuluso’n aml ac ni chaiff ei werthfawrogi’n ddigonol yn y gymdeithas weledol, sgrin-seiliedig sydd ohoni. Mae ganddo rym emosiynol enfawr ar gyfer cyfathrebu trwy adrodd straeon, cerddoriaeth, a ffurfiau mwy cynnil ac atgofus. Mae’r rhaglen meistri hon yn ffocysu ar sbectrwm llawn sain fel ffenomen cymdeithasol mewn theori ac ar waith, o wrando, cynhyrchu a recordio i’w potensial ar gyfer trawsnewid ein profiadau, amgylcheddau, bywydau a diwylliannau.

121


Mae myfyrwyr MA Dylunio Cynnyrch yn cofleidio, adfyfyrio ar ac ymdrin â heriau amgylcheddol, economaidd a sosioddiwylliannol trwy ddialog creadigol. Mae’r cwrs yn herio confensiynau trwy arbrofi’n draws-gydweithredol a meddwl yn llorweddol i harneisio amwysedd dylunio a meddwl arloesol wrth adfyfyrio ar awyddau cymdeithas a’i hanghenion am gynnyrch yn y dyfodol. Mae’n annog safiad proffesiynol gan ymgorffori paradeimiau newydd ar gyfer dylunio cynhyrchion, systemau a gwasanaethau arloesol a chynaliadwy.

Mae MSc Dylunio Diwydiannol yn defnyddio uwch dechnolegau digidol i ddilysu cyfeiriad dylunio sy’n ystyried dialogau deallusol a thechnegol gwireddu canlyniad dylunio â ffocws. Bydd myfyrwyr yn herio confensiynau creadigrwydd ac ychwanegiad technegol wrth geisio arloesi. Mae hyn yn darparu platfform o arbrofi cydweithredol a dylunio sy’n adlewyrchu’n heriau amgylcheddol, economaidd a thechnolegol sy’n bresennol yng nghymdeithas defnyddiwr yr oes sydd ohoni.

Mae’r MA Dylunio Trafnidiaeth yn cynnig y dylai dylunio arloesol sy’n ffocysu ar y dyfodol yn ganolog i alluogi ymateb i’n hanghenion trafnidiaeth sy’n newid yn gyflym. Mae’r cwrs yn cynnig ymagwedd unigryw sy’n cyfuno cyfleoedd rhyngddisgyblaethol a chydweithredol i adeiladu ar ddealltwriaeth sy’n ymwneud yn benodol â dylunio o ragoriaeth mewn dylunio cerbydau. Mae’n annog myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth athronyddol eang er mwyn hwyluso mewnolwg i ddulliau rhyngweithio a materoliaeth.

Cynlluniwyd yr MA Animeiddio Cyfrifiadurol i helpu myfyrwyr i gael profiad o feddalwedd gyfoes o safon diwydiant ym maes cynhyrchu’r cyfryngau a datblygu ymwybyddiaeth feirniadol o ddelweddau a grëir gan gyfrifiadur. Mae elfen cyngynhyrchu’r rhaglen yn rhoi cyfle i ddatblygu deunydd cyn-gynhyrchu sy’n cyfathrebu’n glir â chynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol, sy’n un o nifer o sgiliau y mae cyflogwyr yn rhoi gwerth arnynt.

122


Mae MA Cyfathrebu Gweledol yn annog y myfyrwyr i archwilio a datblygu ymagweddau a dealltwriaeth newydd at broblemau dylunio gweledol sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Gyda phwyslais ar feddwl creadigol eang a datrys problemau, mae’r myfyrwyr yn datblygu portffolio o ymchwil a arweinir gan arfer sy’n ffurfio corff helaeth a allai gwmpasu ystod amrywiol o allbynnau ar draws meysydd darlunio, dylunio graffig, hysbysebu a dylunio brand. MA Darlunio Gan archwilio i’r farchnad sy’n esblygu’n gyson am ddefnydd gweledol darluniadol, mae’r cwrs hwn yn defnyddio dulliau traddodiadol a digidol i ymestyn arferion arddangos, cyhoeddi a rhyngddisgyblaethol newydd. Bydd myfyrwyr yn cyfnerthu eu harbenigedd drwy adnabod, archwilio a chyflawni dyheadau gyrfaol y dyfodol o fewn yr amgylchedd creadigol ôl-raddedig.

MA Dylunio Graffig Yn ddylunydd Graffig, byddwch yn darganfod bod angen eich arfer uwch mewn ystod eang o feysydd o fewn tirlun y diwydiant creadigol. Bydd bod yn rhan o’r portffolio Dialogau Cyfoes yn eich galluogi i ddatblygu gwahanol safbwyntiau a ffyrdd o feddwl o fewn eich arfer dylunio eich hun. Yn ei dro, bydd hyn yn eich helpu i ymateb i ac ystyried anghenion a briffiau amrywiol cleientiaid. MA Hysbysebu Yn ganolog i’r llwybr MA Hysbysebu mae syniadaeth nad yw ynghlwm â chyfrwng ac arloesi rhyngddisgyblaethol. Mae’r rhain yn cael eu llywio a’u cefnogi gan feddwl treiddgar, strategol, a’u cyflawni drwy ymchwil trylwyr. Bydd y cwrs hwn yn eich ysbrydoli a’ch cefnogi i ddefnyddio dulliau eofn nad ydynt ynghlwm â chyfrwng wrth greu negeseuon cymhellol, a wireddir drwy gymhwyso sgiliau crefft wedi’u mireinio.

123


Graddau Ymchwil Mae gan Goleg Celf Abertawe ddiwylliant ymchwil cyffrous a gefnogir gan restr helaeth o academyddion sydd â doethuriaethau ac arbenigedd cysylltiedig. Mae’r academyddion hyn yn cymryd rhan mewn prosiectau ymchwil arloesol sy’n ymchwilio i arferion celf cydweithredol, crefft cyfoes, gwydr, iechyd a lles, addysgeg creadigol, digwyddiad a sefyllfa, ysgrifennu celf creadigol, astudiaethau amgylcheddol, paentio cyfoes, arfer digidol, sain, ffotograffiaeth a delwedd symudol ac athroniaeth dramor.

Rydym yn cynnig nifer o opsiynau gradd ymchwil, gan gynnwys Meistr drwy Ymchwil (MRes), Meistr mewn Athroniaeth (MPhil) a Doethur mewn Athroniaeth (PhD). Mae pob myfyriwr yn cyfrannu at fforwm ymchwil ôl-raddedig bywiog o arbrofi, ymholi athronyddol ac archwilio seiliedig ar arfer. Cynigir goruchwyliaeth ar gyfer ymchwil drwy arfer a/neu drwy draethawd hir ysgrifenedig, mewn ystod eang o bynciau.

124

MRes – Celf a Dylunio

MRes – Dysgu Creadigol

Mae’r MRes yn cynnig i fyfyrwyr ymchwil y cyfle i ddatblygu methodoleg ar gyfer integreiddio damcaniaeth ac arfer. Y mae wedi’i anelu at fyfyrwyr sy’n dymuno ymgysylltu â chyfnod o ymholiad athronyddol, gyda chyfle i gynnwys elfen o arfer creadigol, ac mae’n cynnig dull amgen deinamig i astudio MA neu MPhil. Cyflwynir yr MRes drwy gyfuniad o ddysgu strwythuredig, sy’n cynnwys darlithoedd a seminarau sy’n hwyluso meddwl beirniadol a chyfnod o ymchwil annibynnol.

Wedi’i gyflwyno ar y cyd gan Gelf a Dylunio ac Addysg, mae’r cwrs hwn wedi’i ddatblygu mewn ymateb i newidiadau i ddarpariaeth addysgu mewn ysgolion sy’n rhoi pwyslais ar greadigrwydd ac wedi’i anelu at y rheiny yn y sector addysg. Yn gynyddol, mae creadigrwydd yn ffactor allweddol sy’n galluogi arloesi, datrys problemau a meddwl mewn ffordd agored sy’n berthnasol i ystod eang o ddisgyblaethau a chyddestunau. Hefyd, gall gweithwyr proffesiynol eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat elwa o’r cwrs hwn.

Hannah Downing


Meistr mewn Athroniaeth

Doethur mewn Athroniaeth

Mae’r MPhil yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr wella eu hunain yn broffesiynol drwy ymchwilio i bwnc sy’n berthnasol i’w diddordebau a meysydd arbenigol y staff. Mae MPhil drwy ymchwil seiliedig ar arfer neu ysgrifennu yn ystyried a rhoi sylwadau ar wybodaeth bresennol drwy ddangos dealltwriaeth ddofn o’r pwnc dan sylw yn ogystal ag elfen o wreiddioldeb. Yn aml, bydd gwaith MPhil yn cael ei gyhoeddi a gall arwain at yrfa mewn academia.

Mae’r radd ymchwil PhD yn annog myfyrwyr i ymchwilio i bwnc ymchwil o dan oruchwyliaeth tîm o staff academaidd cymwys. I gael PhD rhaid i’r myfyriwr gynhyrchu cyfraniad gwreiddiol at wybodaeth yn y maes hwnnw, yna caiff ei ddilysu drwy farn arbenigol. Yng Ngholeg Celf Abertawe mae gennym ystod eang o arbenigedd ar draws disgyblaethau Celf a Dylunio yn ogystal â chroesawu cynigion traws-ddisgyblaethol.

125


Celf a Dylunio Mae Coleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant yn mewnosod pwysigrwydd Cymru a’i natur unigryw drwy ddathlu asedau a threftadaeth ieithyddol a diwylliannol arbennig Cymru. Ein nod yw mewnosod diwylliant a threftadaeth Cymru yn ein haddysgu a dysgu, gan greu’r cyfle i fyfyrwyr ryngweithio’n ddwyieithog o fewn cyd-destun lleol a Byd-eang. Cynhelir yr addysgu dwyieithog mewn amgylchedd sy’n ffocysu ar fyfyrwyr yn ein stiwdios a gweithdai pwrpasol. Mae Coleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant yn cydnabod pwysigrwydd Cymru a’i chymeriad arbennig trwy ddathlu asedau a threftadaeth ieithyddol a diwylliannol Cymru. Ein nod yw mewnosod diwylliant a threftadaeth Cymru yn ein haddysgu a dysgu, gan greu’r cyfle i fyfyrwyr ryngweithio’n ddwyieithog o fewn cyd-destun lleol a byd-eang. Cynhelir yr addysgu dwyieithog yn ein stiwdios a gweithdai pwrpasol mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar ein myfyrwyr.

Tomos Sparnon Tomos Sparnon Artist Fentor (Cyfrwng Cymraeg) – Un o’n graddedigion Celf Gain Preswyl (Y Gymraeg)

Yn ystod y flwyddyn diwethaf rwyf wedi bod yn gweithio fel Artist mewn Preswyliaeth cyfwng Cymraeg yng Ngholeg Celf Abertawe. Yn y rôl hwn, bues yn gweithio’n agos gyda myfyrwyr cyfrwng Cymraeg, hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn y Brifysgol ac roedd gen i le stiwdio i ddatblygu fy ngwaith celf. Bu’n flwyddyn arbennig ac rwyf wedi elwa o lawer o brofiadau gwerthfawr. Cyn hyn, astudiais radd Celf Gain yn y Coleg. Cefais amser gwych yn gwneud y radd a chefais brofiadau rhagorol wrth astudio. Roedd gen i ddarlithwyr ysbrydoledig a’m heriodd i ddatblygu fy ngwaith ac i gymryd risgiau. Dysgais lawer ganddyn nhw, gan gynnwys sgiliau a thechnegau a fydd yn aros gyda fi. Yn ogystal, cefais y cyfle i astudio’r rhan fwyaf o’m gradd trwy gyfrwng y Gymraeg – rhywbeth a oedd yn bwysig iawn i mi.

126

Galluogodd hyn i fi drafod fy mhwnc trwy gyfrwng y Gymraeg mewn tiwtorialau wythnosol, cwrdd â myfyrwyr eraill a oedd yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a rhannu syniadau a phrofiadau. Bu hefyd cyfleoedd i arddangos fy gwaith mewn arddangosiadau gyda myfyrwyr eraill o Gymru. Bu hefyd yn gyfle gwych i ddatblygu sgiliau yn y ddwy iaith a chlywed darlithoedd gan artistiaid o Gymru, gan gynnwys Marc Rees a Peter Lord. At hyn, cefais gymorth ariannol drwy’r brifysgol a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Buaswn yn annog yn gryf i bobl astudio gradd drwy gyfrwng y Gymraeg yng Ngholeg Celf Abertawe. Rwy’n ddiolchgar i Goleg Celf Abertawe yn gyffredinol a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am gyfleoedd gwych dros y pedair blynedd diwethaf ac am yr holl gymorth.


Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi bod yn gweithio fel Artist Preswyl Cyfrwng Cymraeg yng Ngholeg Celf Abertawe. Yn y rôl hon, gweithiais yn agos gyda myfyrwyr cyfrwng Cymraeg, hyrwyddo’r Gymraeg yn y brifysgol ac roedd gen i stiwdio i ddatblygu fy ngwaith celf. Mae wedi bod yn flwyddyn arbennig ac rwyf wedi elwa ar nifer o brofiadau gwerthfawr. Cyn hynny, fe astudiais radd Celfyddyd Gain yn y Coleg. Cefais amser wrth fy modd yn gwneud y radd a chefais brofiadau ardderchog wrth astudio. Roedd gennyf ddarlithwyr ysbrydoledig a oedd yn fy herio i ddatblygu fy ngwaith a chymryd risgiau. Dysgais lawer ganddynt, gan gynnwys sgiliau a thechnegau a fydd yn aros gyda fi. Ar ben hyn, cefais y cyfle i astudio’r rhan fwyaf o’m gradd trwy gyfrwng y Gymraeg – rhywbeth oedd yn bwysig iawn i fi.

Roedd hyn yn fy ngalluogi i drafod fy mhwnc trwy gyfrwng y Gymraeg mewn tiwtorialau wythnosol, cwrdd â myfyrwyr eraill oedd yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a rhannu syniadau a phrofiadau. Cafwyd cyfleoedd hefyd i arddangos fy ngwaith mewn arddangosfeydd gyda myfyrwyr Cymraeg eraill. Roedd hefyd yn gyfle arbennig i ddatblygu sgiliau yn y ddwy iaith a chlywed darlithoedd gan artistiaid Cymraeg, gan gynnwys Marc Rees a Peter Lord. Ar ben hyn i gyd, cefais gymorth ariannol trwy’r brifysgol a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Byddwn yn argymell astudio gradd trwy gyfrwng y Gymraeg yng Ngholeg Celf Abertawe yn fawr. Rwy’n ddiolchgar i Goleg Celf Abertawe, y Drindod Dewi Sant yn gyffredinol a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am gyfleoedd gwych dros y pedair blynedd diwethaf ac am bob cefnogaeth.

127


Arddangosfeydd Am ragor o wybodaeth gweler www.uwtsd.ac.uk/cy/cyfadran-celfa-dylunio/sioeaur-haf/ 128

Mae myfyrwyr yn cael y cyfle i arddangos eu gwaith drwy gydol eu cyrsiau. Mae myfyrwyr y flwyddyn olaf yn cymryd rhan yn Sioeau Haf Coleg Celf Abertawe, digwyddiad a gynhelir ar draws Abertawe. Mae rhai cyrsiau hefyd yn cymryd myfyrwyr i Lundain i arddangos eu gwaith mewn orielau ac mewn ffeiriau dylunio mawreddog i raddedigion fel ‘D&AD New Blood’ a ‘New Designers’ gan roi iddynt y cyfle i arddangos eu gwaith i weithwyr proffesiynol y diwydiant.


129


Prosiectau Ymchwil 130

ASSISTIVE TECHNOLOGIES INNOVATION CENTRE CANOLFAN ARLOESI TECHNOLEGAU CYNORTHWYOL


Canolfan ymchwil integredig yw ATiC sy’n rhoi dulliau meddwl sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr, a dulliau arloesi strategol, ar waith yn ein cyfleuster o’r radd flaenaf ym maes ymchwil i Brofiadau Defnyddwyr yn Ardal Arloesi Abertawe PCYDDS. Mae ATiC yn gweithio gyda diwydiant preifat, Gwasanaeth Iechyd Gwladol y DU, elusennau ymchwil, a phartneriaid academaidd i helpu datblygu cynhyrchion, gwasanaethau a systemau arloesol yn y sector iechyd a lles. Ers ei sefydlu yn 2004, hyd at ein partneriaeth bresennol ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, nod ATiC bob amser trwy’r rhaglen Accelerate, fu cyflawni effaith drawsnewidiol – gyda buddion economaidd yn ogystal â buddion iechyd - i bobl Cymru a thu hwnt.

Mae’r prosiect Hybiau Entrepreneuriaeth y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHEH) a ariennir ar y cyd gan yr Undeb Ewropeaidd, yn dod â phartneriaeth o 14 o sefydliadau at ei gilydd o 7 o wledydd Ewropeaidd o fyd Academia a Menter. Nod sylfaenol y prosiect yw gwella gobeithion hirdymor ein myfyrwyr a’n graddedigion a rhoi iddynt y sgiliau a’r hyder y mae arnynt eu hangen er mwyn llwyddo; gallai’r deilliannau fod yn gymdeithasol, diwylliannol eu fasnachol. Trwy raglen gynhwysfawr o weithgareddau, mae partneriaid prosiect yn ymchwilio a datblygu rhaglenni a deunyddiau hyfforddi arloesol, a gaiff eu profi drwy gynlluniau peilot ar lefel ranbarthol ac Ewropeaidd. Byddwn yn gweithio

Mae Catalyst yn brosiect peilot 31 mis a fydd yn darparu cymorth i fusnesau Gwyddor Bywyd a Bwyd a Diod yn Iwerddon a Chymru yn seiliedig ar thema cynaliadwyedd. Mae Catalyst yn cynnig ystod o weithdai, digwyddiadau, gweithgareddau traws-ffiniol a chymorth 1-1 i helpu busnesau o Iwerddon a Chymru i gynhyrchu cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd a chreu swyddi newydd.

gyda myfyrwyr a mentrau ar set o friffiau byw a heriau allweddol, a sefydlu cyfleoedd hir dymor ar gyfer cydweithio, yn genedlaethol a rhyngwladol. Yn ogystal â rhoi i fyfyrwyr y cyfle i ddysgu sgiliau newydd, cael profiad a chymryd rhan mewn cyfnewidfaoedd Ewropeaidd, mae’r prosiect yn rhoi’r cyfle i ni arddangos y sgiliau a’r talentau anhygoel sydd gan ein graddedigion celf a dylunio i’w cynnig i fentrau. Bydd y prosiect yn arwain at ddatblygu 7 Hwb newydd oddi mewn i Brifysgolion partner i ymgorffori entrepreneuriaeth yn llawn mewn addysg yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn ogystal â chynnig cyfleoedd hir-dymor i gydweithio yn Ewrop.

131


Rhwydwaith Diwydiannau Creadigol Swansea College of Art UWTSD is proud to be a sponsor of the BAFTA Cymru awards. As part of this relationship, we also host an annual audience with stars from the industry, most recently this has been Eddie Izzard.

132

BAFTA CYMRU / INTO FILM CYMRU


Prosiect Byw H&M

Myfyrwyr yn ymweld â Saatchi & Saatchi Wellness a Sky yn rhan o ddigwyddiadau rhwydweithio alumni.

Digwyddiad Academi BBC Radio One yn ymweld â Choleg Celf Abertawe

Gall myfyrwyr gael cyfleoedd gwaith a phrofiad o’r diwydiant creadigol trwy gydol eu cyrsiau yng Ngholeg Celf Abertawe. Yn ddiweddar, mae myfyrwyr wedi ymweld â Saatchi & Saatchi Wellness, wedi gweithio ar ffilmiau a sioeau teledu fel Sherlock, Atlantis, Guardians of the Galaxy, ac wedi cymryd rhan mewn cyfleoedd gyda’r BBC, Jaguar Land Rover a H&M.

133


Digwyddiadau Blynyddol Dathlu ein Cysylltiadau â’r Diwydiant Creadigol

Mae ein digwyddiad diwydiant animeiddio deuddydd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan mewn sgyrsiau a gweithdai gan weithwyr proffesiynol o’r diwydiant o bob rhan o’r byd. Yn aml, mae siaradwyr gwadd yn cynnwys graddedigion sy’n gweithio yn y diwydiant. Yn ddiweddar, mae’r rhain wedi cynnwys graddedigion sy’n gweithio i stiwdios VFX The Mill, Double Negative ac MPC. Er enghraifft, Ryan Morgan a weithiodd fel Cyfarwyddwr Technegol Modelu a Gweadedd ar ffilmiau enwog diweddar Guardians of the Galaxy, Fantastic Beasts and Where To Find Them, a The Jungle Book. Daeth mawrion y diwydiant hefyd, fel EA Games, Blizzard, MPC, The Mill a Framestore. Hefyd, rhoddwyd y cyfle i fyfyrwyr gael eu gwaith wedi’i feirniadu gan weithwyr proffesiynol y diwydiant.

Raphael de Almeida Pimentel, Animation Director, Luma Pictures

134


GŴYL FFILM RYNGWLADOL GLANNAU COPR Rydym yn un o’r ychydig gyrsiau Ffilm yn y DU sy’n cynnig i’n myfyrwyr y cyfle i redeg gŵyl ffilm ryngwladol, gydnabyddedig. Mae’r ŵyl yn denu diddordeb o bedwar ban byd, gan roi cipolwg ar y farchnad ffilm ehangach a dealltwriaeth o beth mae’n cymryd i wneud ffilm arobryn. Gwnaeth gŵyl 2020 coffáu 75 mlynedd ers rhyddhad Auschwitz.

135


Wythnos Ddylunio a Symposiwm Graddedigion Mae’r ‘Wythnos Ddylunio’ a symposia graddedigion yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ymgysylltu â dylunwyr a chwmnïau mawreddog. Yn aml, rhoddir sgyrsiau gan ein graddedigion sy’n gweithio yn y diwydiant, yn ddiweddar mae’r rhain wedi cynnwys graddedigion sydd nawr yn gweithio i Lego, Sky Creative, Monsoon, Tigerprint a Saatchi & Saatchi Wellness.

136


137


Cwestiynau Cyffredin Rydym yn caru sgwrsio gyda darpar fyfyrwyr ac yn aml byddwn yn clywed llawer o’r un cwestiynau – dyma rhai sy’n codi’n aml... Beth yw’r gymhareb ymgeiswyr i dderbyniadau? Mae tua 800 o fyfyrwyr yn gwneud cais bob blwyddyn am ychydig dros 300 o leoedd israddedig. Pa fath o yrfaoedd mae graddedigion yn mynd ymlaen i’w cael? Mae ein cyrsiau yn cynnig llwybr i lawer o yrfaoedd i raddedigion, gweler ein tudalennau cwrs am ragor o fanylion. A fyddaf yn gweithio gyda chleientiaid allanol? Mae ein holl gyrsiau yn wynebu tuag allan ac yn cynnwys briffiau byw gan gleientiaid a/neu gyfleoedd i arddangos gwaith. Caiff myfyrwyr eu hannog yn weithredol i roi cynnig ar gystadlaethau. Pa sgiliau a chymwysterau sydd eu hangen arnaf i wneud cais? Fel arfer, rydym yn gofyn am 80120 o bwyntiau UCAS (32 ar gyfer ein rhaglenni Tyst. AU) ond gellir cydbwyso hyn gan bortffolio/cyfweliad gwych neu brofiad gwaith/bywyd arall. Os nad ydych yn sicr p’un a oes gennych y cymwysterau sydd eu hangen i gael lle ar un o’n cyrsiau, cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau. Beth ydych chi’n ei ddisgwyl gan ymgeiswyr? Gennych chi, rydym yn disgwyl egni, chwilfrydedd ac ymrwymiad a chariad at eich cyfrwng. A allaf astudio dramor? Yn ystod eich amser gyda ni, cewch hefyd gyfle i astudio dramor gyda rhaglen gyfnewid Erasmus. Yn ogystal â hynny, gall myfyrwyr fanteisio ar y cyfle i astudio am un semester yn UDA a Chanada drwy Astudio Dramor. Mae llawer o raglenni yn trefnu ymweliadau dramor fel ‘Venice Biennale’ a Ffair Llyfrau Bologna. 138

Faint o amser cyswllt a gaf i gyda’r tiwtoriaid a beth fydd maint dosbarthiadau? Rydym yn falch iawn o faint o amser cyswllt a chymorth a roddwn i’n myfyrwyr. Mae maint ein dosbarthiadau yn adlewyrchu hyn felly byddwch bob tro’n cael y sylw sydd ei angen arnoch. Faint o fynediad at y cyfleusterau a gaf i? Caiff myfyrwyr fynediad at y gweithdai, staff a lle stiwdio o ddydd Llun i ddydd Sadwrn yn ystod y tymor. A fyddaf yn cael fy lle stiwdio fy hun? Mae gan lawer o’n cyrsiau leoedd stiwdio, a dyrennir y rhain i fyfyrwyr am y flwyddyn sy’n caniatáu ichi wneud y lle yn gartref creadigol. Mae gan gyrsiau nad oes ganddynt leoedd stiwdio le ychwanegol i’w ddefnyddio’n ystafelloedd beirniadu neu stiwdios cyfrifiaduron mawr yn ôl anghenion y cwrs. Sut beth yw bywyd myfyrwyr yn Abertawe? Mae llawer yn mynd ymlaen yma, mae llu o theatrau, orielau, lleoliadau cerddoriaeth a bywyd nos ardderchog ar gael i fyfyrwyr. Mae yma hefyd draethau bendigedig a chyfleoedd chwaraeon anhygoel gan gynnwys syrffio, padlfyrddio yn ogystal â nifer o lwybrau seiclo a lleoedd gwyrdd i’w harchwilio. A allaf ddod i edrych o gwmpas y campws? Mae yna ddiwrnodau agored penodol drwy gydol y flwyddyn. Mae’r dyddiadau ar gael ar ein gwefan. Os nad ydych yn gallu dod ar un o’r dyddiadau sydd ar gael fe wnawn ein gorau i wneud trefniadau ichi ddod i ymweld â ni ar ddiwrnod sy’n eich gweddu chi.

Oes unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsarïau ar gael? Oes, mae’r rhain yn cynnwys Bwrsari Coleg Partneriaeth (Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion) A yw eich cyrsiau’n cael eu haddysgu yn y Gymraeg? Na, nid oes raid i fyfyrwyr allu siarad Cymraeg, fodd bynnag, mae rhai modylau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Hefyd, mae ysgoloriaethau ar gael gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Sut alla’i wybod os mai hwn yw’r cwrs iawn i mi? Mae ein tiwtoriaid bob tro’n hapus i drafod pethau ymhellach gyda chi i sicrhau eich bod wedi gwneud y dewis iawn. Byddwn yn cyfweld â phob ymgeisydd, ac mae hyn yn gyfle gwych i ni weld os ydych chi’n iawn ar gyfer y cwrs ac i chi weld os ydy’r cwrs yn iawn ar eich cyfer chi. Ni allaf weld y cwrs rwy’n chwilio amdano. Os na allwch chi weld y cwrs sydd o ddiddordeb ichi, mae’n bosibl y byddwn yn dal i allu eich helpu. Mae ein holl gyrsiau yn eang a hyblyg eu natur. Byddwch yn cael digon o gyfle i arbenigo yn y cyfrwng neu bwnc sy’n orau gweddu eich bwriadon gyrfaol.

_______________________________ Unrhyw gwestiynau eraill? Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch - cysylltwch! 01792 481285 artanddesign@uwtsd.ac.uk www.uwtsd.ac.uk/art-design _______________________________


Sut i Wneud Cais Sgiliau Astudio Mae cymorth sgiliau astudio ar gael i bob myfyriwr sydd ag angen cymorth gyda’u hastudiaethau, gan ddarparu gwybodaeth, cyngor, arweiniad a chymorth ymarferol ac emosiynol o ansawdd uchel i bob myfyriwr er mwyn iddynt allu cyrraedd eu potensial llawn. Mae gwasanaeth sgiliau astudio galw heibio ar gael bob diwrnod o’r wythnos waith. Llety Mae llety Abertawe ymhlith y rhataf yn y wlad, ac mae yna nifer o opsiynau ar gael o fewn ychydig funudau ar droed o’r Brifysgol. Maent i gyd mewn lleoliad canolog ac o fwn cyrraedd hawdd i gysylltiadau trafnidiaeth a chanol y ddinas. Gweler ein gwefan am fanylion pellach.

Gwneir pob cais i astudio rhaglen israddedig llawn amser trwy UCAS. Daw Coleg Celf Abertawe o dan god Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, T80. Ymhlith y rhaglenni israddedig a gynigir mae: Tyst. AU (rhaglenni dethol, un flwyddyn); BA /BSc (tair blynedd llawn amser neu chwe blynedd rhan amser); ac, MArts / MDes/ MMus (pedair blynedd llawn amser neu wyth mlynedd rhan amser), mae’r cyrsiau hyn yn caniatáu i fyfyrwyr astudio am flwyddyn ychwanegol gyda manteision nawdd israddedig, sy’n rhoi ichi amser ychwanegol i ffocysu ar brosiect sy’ ffocysu ar y diwydiant. MA /MSc/ MRes Un neu ddwy flynedd eu hyd ac fel arfer ymgymerir â nhw unwaith y bydd gennych radd israddedig. Fel arfer, ymgymerir â graddau MPhil / PhD unwaith y bydd gennych gymhwyster ôlraddedig. Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig a rhan amser yn uniongyrchol i’r brifysgol.

139


Cyfweliadau 140


Y Cyfweliad Celf a Dylunio Bydd pob ymgeisydd yn cael cyfweliad, ac yn ystod y rhain fe ddylent gyflwyno tystiolaeth sy’n gysylltiedig â’u dewis gwrs. Os cewch eich dewis am gyfweliad mae’n gyfle i chi arddangos eich ymrwymiad a’ch hunan-gymhelliant i’ch dewis faes astudio; i drafod agweddau ar y cwrs a gofyn cwestiynau. Fel arfer, rydym yn dechrau cyfweld o fis Rhagfyr y flwyddyn cyn cychwyn y cwrs. Mae ein holl gyfweliadau yn hamddenol ac anffurfiol a byddwn hefyd yn cynnig taith ichi o gwmpas y gyfadran a’r cyfleusterau. Os oes gennych unrhyw bryderon, os oes angen rhagor o fanylion arnoch neu os oes gennych unrhyw anghenion ychwanegol, cysylltwch â ni cyn eich ymweliad.

Ar gyfer y rhan fwyaf o gyfweliadau, bydd rhaid ichi gyflwyno portffolio o waith yn rhan o’ch cyfweliad. Fel rheol, dylai portffolios gynnwys enghreifftiau o waith (gorffenedig a gwaith sy’n digwydd) sy’n arddangos eich sgiliau a’ch diddordebau penodol. Dylid cyflwyno cynnwys y portffolio mewn modd rhesymegol, trefnus a syml. Rydym hefyd yn hoff iawn o weld llyfrau braslunio.

141


142


Ein Cyrsiau Israddedig Teitl y Cwrs Dylunio Patrwm Arwyneb (Gwneuthurwr)

BA W790

MDes T5F3

Dylunio Patrwm Arwyneb (Tecstilau ar gyfer Ffasiwn)

BA W234

MDes 8V7C

Dylunio Patrwm Arwyneb (Tecstilau ar gyfer Addurno Mewnol)

BA W235

MDes 5RC2

SDylunio Patrwm Arwyneb (Gwrthrych Ffasiwn)

BA W230

MDes Y28U

Crefftau Dylunio

BA D100

MDes D110

Gwydr: Celfyddydau Pensaernïol

BA W770

MDes 5H3M

Dylunio Modurol

Cert HE W776

BA W240

MDes 7F3T

Dylunio Trafnidiaeth

BA 9R37

MDes 04G6

Dylunio Cynnyrch

BA W242

MDes 0P2M

Dylunio Cynnyrch a Thechnoleg

BSc W284

MDes W200

Hysbysebu a Dylunio Brand

BA W221

MDes S2J5

Dylunio Graffig

BA W210

MDes 52J6

Darlunio

BA W220

MDes H21Y

Celf Gain – Stiwdio, Safle a Chyd-destun

BA 2T12

MArt M5A7

Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau

BA W643

MArt 123L

Ffotonewyddiaduraeth a Ffotograffiaeth Ddogfen

BA DPV1

-

Ffilm a Theledu

BA W610

MArts 4S8X

Dylunio Set

BA 64D8

MArts 64D9

Technoleg Cerddoriaeth Greadigol

BA J931

MMus 5P2Y

Cerddoriaeth (Perfformio a Chynhyrchu)

BA 165F

MArt MPP2

Animeiddio Cyfrifiadurol

BA CAN1

MArts CAN2

Dylunio Gemau Cyfrifiadurol

BA CGD1

MArts CGD2

Cert HE F4W8

-

Celf a Dylunio Sylfaen

(Ar gyfer cyrsiau Ôl-raddedig, ewch i’n gwefan)

Ymwadiad Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y cynnwys a’r datganiadau a geir yn y cyhoeddiad hwn yn deg a chywir, a bydd y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech rhesymol i gyflwyno rhaglenni a gwasanaethau eraill yn unol â’r disgrifiadau a ddarperir. Fodd bynnag, mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i amrywio cynnwys rhaglenni, gofynion mynediad a dulliau cyflwyno, ac i roi terfyn ar, uno neu gyfuno rhaglenni, cyn ac ar ôl i fyfyriwr gael ei dderbyn i’r Brifysgol, os yw’r Brifysgol yn ystyried bod y cyfryw gamau’n angenrheidiol. Fe wnawn ein gorau bob tro i wneud cyn lleied â phosibl ac i roi’r wybodaeth briodol i fyfyrwyr.

143


Dewch am Ymweliad! Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn dod i ymweld â ni i gael teimlad am y lle. Cynhelir diwrnodau agored drwy gydol y flwyddyn ac mae ffurflenni archebu ar gael ar y wefan. Os nad ydych yn gallu dod ar un o’r dyddiadau sydd ar gael fe wnawn ein gorau i wneud trefniadau ichi ddod i ymweld â ni ar ddiwrnod sy’n eich gweddu chi.

144


Cysylltwch â Ni! www.uwtsd.ac.uk/cy/cyfadran-celf-a-dylunio artanddesign@uwtsd.ac.uk 01792 481000 www.facebook.com/celfadylunio www.instagram.com/colegcelfabertawe www.twitter.com/Celf_a_Dylunio swanseacollegeofart

145


www.uwtsd.ac.uk/cy


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.