BAROD AM BRIFYSGOL Digwyddiadau a Gweithgareddau Ar-lein ar gyfer Ysgolion a Cholegau
Mae ein pamffled digidol ar gynigion ar-lein Barod Am Brifysgol wedi’i gynllunio i’ch helpu chi wrth i chi cynorthwyo’ch myfyrwyr â’u trosglwyddiad i’r brifysgol. Os ydych yn athro, yn cynnwys Pennaeth Chweched Dosbarth a Phennaeth Pwnc, arweinydd ôl-16, cydlynydd ac ymgynghorydd, Swyddog Cyswllt Myfyrwyr, neu Ymgynghorydd Gyrfaoedd, daliwch ati i ddarllen i ddysgu rhagor ynghylch sut y gall Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant eich helpu.
ysgol neu goleg, mae ein holl weithgarwch wedi symud ar-lein ers dechrau’r pandemig Covid-19. Er na allwn aros i gwrdd â chi a’ch myfyrwyr yn wyneb i wyneb eto a’ch gwahodd i’n campysau Ein nod yw hyrwyddo mynediad at Addysg Uwch eto, bydd gweithgareddau’n parhau i gael eu cyflwyno fel hyn am y dyfodol rhagweladwy. i bawb, darparu gwybodaeth a chyngor o safon, a helpu i arwain myfyrwyr ar eu taith i’r brifysgol. Rydym yn gwerthfawrogi bod hwn wedi bod Gan ein bod yn aelodau gweithgar o Gymdeithas yn gyfnod anodd i ysgolion a cholegau. Hoffwn helpu mewn unrhyw ffordd bosibl ac rydym yn Swyddogion Cyswllt Addysg Uwch (HELOA), gallwn eich sicrhau bod yr wybodaeth a’r cyngor a hapus i drefnu gweithgaredd wedi’i deilwra sy’n ddarperir gan ein tîm yn broffesiynol, gwybodus a bodloni anghenion eich myfyrwyr. diduedd.
Mae tîm Recriwtio a Chyswllt Y Drindod Dewi Sant yn gweithio gydag ysgolion a cholegau yn lleol ac yn genedlaethol i ddarparu gwybodaeth
Er y byddai popeth sy’n cael ei gynnig yn y llyfryn hwn fel arfer yn cael ei gyflwyno’n wyneb i wyneb, naill ai ar un o’n campysau gwych neu yn eich
allweddol ar Addysg Uwch, gan gynnwys gwybodaeth ar gyrsiau, cyllid, bywyd myfyrwyr, sgiliau academaidd ac astudio, a mwy.
i
BAROD AM BRIYSGOL
CYFLWYNIADAU A GWEITHDAI AR-LEIN Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyflwyniadau a gweithdai ar-lein a gall gynorthwyo’ch myfyrwyr gyda’u camau nesaf yn eu haddysg - gweler y rhestr gyfan o gyflwyniadau a gweithdai ar y dudalen nesaf. Rydym yn gwerthfawrogi y gallai myfyrwyr fod yn poeni am y dyfodol yn yr amser ansicr hwn. Mae ein cyflwyniadau a gweithdai wedi’u cynllunio i hysbysu ac arwain myfyrwyr cyn ac wrth iddynt drawsnewid i Addysg Uwch. Mae pob cyflwyniad a gweithdy’n rhad ac am ddim a gellir eu teilwra i weddu eich gofynion penodol. Gallwn gynnig cyfuniad o bynciau ar ddyddiad ac amser sy’n gweddu i chi. Mae pob cyflwyniad a gweithdy’n ddiduedd ac ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog.
Cysylltwch â ni ac archebu sesiwn
i
BAROD AM BRIYSGOL
Buddsoddi yn eich dyfodol: Cyllid Myfyrwyr Bywyd Myfyrwyr
Cyflwyniad i’r broses UCAS
Gweithdai Datganiad Personol
Dewis Cwrs a Phrifysgol
Pam y Drindod Dewi Sant?
Pam Addysg Uwch?
X
BAROD AM BRIYSGOL
SESIYNAU BLASU A CHYFLWYNIADAU PWNC O ganlyniad i bandemig Covid-19, mae ein holl sesiynau blasu a chyflwyniadau pwnc yn cael eu cyflwyno’n rhithwir. Mae sesiynau pwnc yn ffordd wych i gyflwyno’ch myfyrwyr i’w dewis faes astudio a’r amrywiaeth o bynciau sydd ar gael ar lefel Addysg Uwch. Mae ein Sesiynau Blasu a Chyflwyniadau Pwnc yn darparu blas ar yr hyn sydd ar gael yn Y Drindod. Mae’r Drindod yn cynnig dosbarthiadau bach ac amgylchedd dysgu a chymdeithasol croesawgar a chefnogol. Mae ein sesiynau blasu a chyflwyniadau cwrs rhithwir cyfeillgar ac anffurfiol yn efelychu’r profiad hwn ar gyfer darpar fyfyrwyr. Bydd darlithwyr yn rhannu awgrymiadau defnyddiol ar wneud cais, dangos sut y mae cyrsiau wedi addasu i ddysgu ar-lein a chyfunol ac amlygu ein cyfleusterau addysgu. Bydd timau cymorth, fel ein swyddogion cyllid, llety a llesiant, hefyd yn bresennol i ateb cwestiynau a thawelu unrhyw bryderon y mae’n naturiol i’ch myfyrwyr eu cael wrth iddynt drawsnewid i Addysg Uwch.
Meysydd Pwync:
ANTHROPOLEG A DATBLYGU RHYNGWLADOL ASTUDIAETHAU ADDYSG, BLYNYDDOEDD CYNNAR AC ADDYSG ATHRAWON
CYFRIFIADURA AC ELECTRONEG FFILM, FFOTOGRAFFIAETH A CHERDDORIAETH HANES, CLASURON AC ARCHEOLEG
ASTUDIAETHAU AMGYLCHEDDOL
NYRSIO, IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL
ASTUDIAETHAU CREFYDDOL A DIWINYDDIAETH
PEIRIANNEG
ASTUDIAETHAU CYMDEITHASOL ASTUDIAETHAU TSIEINEAIDD ATHRONIAETH A DYNIAETHAU BUSNES A RHEOLI CELF A DYLUNIO CELFYDDYDAU PERFFORMIO
PENSAERNÏAETH AC ADEILADU SEICOLEG A CHWNSELA SAESNEG AC YSGRIFENNU CREADIGOL TWRISTIAETH, DIGWYDDIADAU A LLETYGARWCH Y GYFRAITH, GWASANAETHAU CYHOEDDUS, PLISMONA A THROSEDDEG
CHWARAEON, IECHYD AC ADDYSG AWYR AGORED
i
BAROD AM BRIYSGOL
CAM TUAG AT AU
CWRS LEFEL 4 AR-LEIN RHAD AC AM DDIM AR GYFER MYFYRWYR CA5 Yn y sefyllfa anarferol ac ansicr hon, gyda chymaint o aflonyddwch a heriau i addysgu a dysgu a chanslo arholiadau ac asesiadau, rydym yn gwerthfawrogi y gall eich myfyrwyr fod yn poeni am y cam o’r ysgol i’r coleg neu brifysgol.
Gall ein cwrs meddwl academaidd eu helpu i groesi rhai o’r pontydd hyn drwy eu cyflwyno i weithgareddau ac adnoddau a fydd yn eu helpu i ddatblygu ystod o sgiliau darllen, ysgrifennu a meddwl beirniadol academaidd.
Mae tri phrif thema, gyda phob un yn cynnwys ystod eang o bynciau a sgiliau. Dechrau ar astudio academaidd • Cyflwyniad i feddwl beirniadol • Sgiliau sylfaenol ar gyfer academia: darllen, gwneud nodiadau, dod o hyd i wybodaeth briodol Dod yn ymchwilydd a chyflwyno eich gwaith yn effeithiol • Ysgrifennu ar gyfer gwaith academaidd: sgiliau a strategaethau • Cyfeirnodi a dyfynnu gwybodaeth • Gwerthuso gwybodaeth: newyddion ffug a dethol adnoddau • Strwythuro dadl sylfaenol • Camgymeriadau cyffredin a maglau • Common errors and pitfalls
Cefnogi sgiliau astudio effeithiol • Datblygu sgiliau personol ar gyfer bywyd academaidd • Rheoli amser • Llesiant • Gosod goliau • Rheoli llwyth gwaith academaidd Asesu • Cyflwyniad ‘Flipgrid’ tri munud • Cyfeirnodi tasgau • Blog 300 o eiriau Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn gyfwerth â 10 credyd ar Lefel 4, yn rhoi eich myfyrwyr gam ar y blaen i bawb arall ac edrych yn wych ar eu cais prifysgol.
i
BAROD AM BRIYSGOL
Am ragor o wybodaeth, neu i drefnu sesiwn, cysylltwch â’r tîm recriwtio a chyswllt:
uwtsd.ac.uk/cy/ysgolion-a-cholegau/ BAROD AM BRIYSGOL