Performio

Page 1

o i m r Perffo Caerdydd

pcydds.ac.uk/cbc

Gwnewch gais drwy wefan UCAS

www.ucas.com Côd sefydliad - T80 Côd y cwrs - C68M


sylfaenol y ganolfan yw darparu “Ethos techneg gadarn law yn llaw â dealltwriaeth eang o’r diwydiannau creadigol yng Ngymru a thu hwnt.”

Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr BA Perfformio

|

2 pcydds.ac.uk/cbc


Pam

BA Perfformio?

Er mai cwrs gymharol newydd yw BA Perfformio mae’n gyflym ennill ei blwyf fel un o gyrsiau hyfforddi actorion a chantorion amlycaf Cymru. Mae’r cwrs ymarferol hwn yn

PRIF AMCANION CBC: • Datblygu perfformwyr hyderus amlddisgyblaethol • Datblygu perfformwyr sydd â gwybodaeth a chysylltiadau cryf â’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt • Darparu profiadau ymarferol cyson a fydd yn paratoi’r myfyrwyr at weithio’n broffesiynol • Datblygu dealltwriaeth y myfyrwyr o bwysigrwydd sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn ganolbwynt i’w gyrfa fel perfformwyr Yn ystod eu cyfnod astudio rhoddir cyfleoedd i’r myfyrwyr ddatblygu ystod eang o sgiliau. Byddant yn meithrin y sgiliau yma er mwyn eu galluogi i weithio’n broffesiynol ac i fanteisio ar y galw cynyddol am berfformwyr medrus, hyblyg a dibynadwy.

cynnig hyfforddiant pwrpasol a fydd yn rhoi sylw neilltuol i gynnydd a datblygiad yr artist unigol.

Beth

formio yw Canolfan Berf Canolfan arloesol ydyw sydd wedi’i sefydlu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant er mwyn hyfforddi a datblygu perfformwyr y dyfodol. Rydym yn cynnig graddau cyfrwng Cymraeg a fydd yn darparu ein myfyrwyr gyda thechneg gadarn law yn llaw â dealltwriaeth eang o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt.

Cymru?

Mae Canolfan Berfformio Cymru yn bair byrlymus o actorion, cantorion, a dawnswyr y dyfodol. Mae etheg gwaith y cwrs wedi’i selio ar barch a chydweithio, ac mae hyn deillio. Mae hyn yn deillio o’r gefnogaeth mae’r myfyrwyr yn ei dderbyn gan ein staff ymroddedig a phroffesiynol. Mae ein myfyrwyr yn ffurfio grwpiau clos, gan datblygu perthynas bersonol a phroffesiynol sy’n para am flynyddoedd.

|

pcydds.ac.uk/cbc 3


Pam

erdydd?

a astudio yng Ngh

Caerdydd yw Prifddinas ieuengaf Ewrop a chanddi gyfoeth o hanes a diwylliant. Dros yr 20 mlynedd diwethaf mae wedi gweld buddsoddiad sylweddol yn y celfyddydau, byd chwaraeon a chanolfannau siopa gan

ei wneud yn lle hyfryd i fyw ac astudio. Ar ben hyn oll mae Caerdydd yn fwrlwm o ddigwyddiadau diwylliannol niferus sy’n cynnig bywyd cymdeithasol bywiog ac amrywiol.

Caerdydd yn ddinas fywiog llawn prysurdeb a chynnwrf “Mae sy’n sicrhau profiad o fyw cyffrous iawn. Mae gymaint o

gyfleoedd ar gael ac nid oes rhaid camu ym mhell i ymweld â’r llyfrgell, i brynu adnoddau neu wylio sioeau mewn lleoedd megis Canolfan y Mileniwm neu’r New Theatre.

Lloyd Macey – BA Perfformio

|

4 pcydds.ac.uk/cbc


wych gallu cynnig cyfleoedd “Mae’n a phrofiadau o fewn byd darlledu i rai o fyfyrwyr Canolfan Berfformio Cymru. Mae’n gyfle i ni allu meithrin perfformwyr hyderus a rhoi cyfle i’r myfyrwyr greu cysylltiadau gyda’r diwydiant.” Nia Dafydd – Boom Plant

Cynhelir holl weithgarwch wythnosol y cyrsiau yn adeilad “The Gate” yn ardal Y Rhath. Yma mae nifer o ofodau amlbwrpas yn cynnwys theatr arbennig, dwy stiwdio ddawns gyda lloriau pwrpasol, a stiwdio ymarfer. Yn ogystal â hyn mae caffi/ bar yno er mwyn ymlacio a chymdeithasu. Oherwydd ein lleoliad mae’r myfyrwyr yn gallu manteisio ar y partneriaethau sydd gennym gyda Canolfan Mileniwm Cymru a BBC Cymru. Mae’r ganolfan yn rhoi cyfleoedd cyson i’r myfyrwyr berfformio, defnyddio gofodau ymarfer, derbyn tocynnau i weld

rhediadau gwisg a thocynnau gostyngol i weld sioeau yn gyson. Mae’r berthynas gyda BBC yn galluogi’r myfyrwyr gael profiad o weithio ar set broffesiynol Pobol y Cwm ym Mhorth Teigr a hefyd chyfnodau o brofiad gwaith i unigolion. Yn ogystal â’r profiadau hyn mae nifer o gwmnïau teledu wedi’u lleoli yn y Brifddinas sydd yn gyson yn edrych am gyfranwyr a bellach maent yn troi at Ganolfan Berfformio Cymru ar gyfer actorion a chantorion ifanc.

|

pcydds.ac.uk/cbc 5


o i m r o f f r e P A B ddedig

is-ra Cwrs dwy flynedd

Mae hwn yn gwrs blaengar ac arloesol a addysgir yn ddwys am gyfnod o ddwy flynedd gan gyfuniad o staff Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac arbenigwyr sy’n gweithio’n broffesiynol ym meysydd teledu, dawns, adloniant, sioe gerdd a’r theatr. Oherwydd dwyster y cwrs a’r hyfforddiant arbenigol a gysylltir ag ef, dim ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael ar y cwrs bob blwyddyn. Gan mai cwrs dwy flynedd llawn amser yw hwn nid yw’r system semester draddodiadol yn berthnasol. Mae’r cwrs yn cael ei ddarparu dros chwe chyfnod dysgu penodol, dau gyfnod ar gyfer pob lefel academaidd. Bydd y cyfnodau hyn yn para tua 12 wythnos yr un. Un o gryfderau’r rhaglen hon yw’r bartneriaeth gref rhwng y Brifysgol a chynrychiolaeth briodol o’r diwydiannau creadigol.

|

6 pcydds.ac.uk/cbc

Byddwn yn chwilio am fyfyrwyr sydd â photensial i ddatblygu’n berfformwyr hyderus a llwyddiannus a fydd yn gallu perfformio mewn theatr, neuaddau cyngerdd neu o fewn stiwdios radio neu deledu. Gan y bydd y cwrs yn un dwys - gyda sesiynau hyfforddi yn digwydd trwy gydol yr wythnos – bydd gofyn i fyfyrwyr fod yn gorfforol ffit a heini. Yr elfen bwysicaf, serch hynny, fydd parodrwydd i ddysgu gan arbenigwyr yn y maes ac ymateb i’r cyngor a roddir iddynt yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

Yn y pen draw, mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn dymuno gweld y cwrs hwn yn darparu graddedigion talentog, hyblyg a phroffesiynol ar gyfer llwyfannau Cymru a thu hwnt. Mae’r cwrs yn un uchelgeisiol o ran cynnwys a strwythur a bydd y profiadau a gaiff y myfyrwyr yn rhai cyfoethog, amserol ac amrywiol a fydd yn sicrhau y cânt eu paratoi’n drwyadl ar gyfer nifer o yrfaoedd posibl sy’n ymwneud â pherfformio.


nad oedd (BA Perfformio) yn “Trueni bodoli yn fy amser i fel myfyrwraig.” Catrin Darnel – Actores

|

pcydds.ac.uk/cbc 7


o i m r o f f Per ACTIO

Rydym yn gosod actio fel prif ffocws addysg myfyrwyr BA Perfformio. Caiff y myfyrwyr eu cyflwyno i dechnegau actio megis Stanislavski, Meisner a Michael Checkov a chânt gyfle i feistroli terminoleg er mwyn hybu cyfathrebiad yn yr ystafell ymarfer, datblygu cysylltiad effeithiol rhwng actorion a gallu dychmygol corfforol yr actor. Bydd ein cyfuniad o weithdai, prosiectau ymarferol, gwaith dyfais, a darlithoedd traddodiadol yn rhoi cyfle i’r myfyriwr ddatblygu nid yn unig eu sgiliau perfformio ond hefyd sgiliau beirniadol a gwerthusol fydd yn eu galluogi i wneud y gwaith gorau ar lwyfan ac ar sgrin. Yn y bôn pecyn arfau amhrisiadwy yw’r hyn a gynhigiwn i’r myfyrwyr a fydd yn ymestyn dychymyg a chodi uchelgais creadigol y perfformiwr.

|

8 pcydds.ac.uk/cbc

Yn ystod Lefel 4 ceir cyflwyniad i dechnegau actio megis Stanislavski, Meisner a Checkov a chyflwyniad i syniadaeth Mamet a Tim Ettchells. Drwy’r modylau Prosiect bydd disgwyl i’r myfyrwyr gymhwyso nifer o dechnegau llais a symudiad i amrywiaeth o destunau a sefyllfaoedd actio. Drwy sesiynau wythnosol Crefft yr Actor bydd y myfyriwr yn datblygu hyder fel actor gan ddysgu’r cysylltiad rhwng anadlu, sain, meddwl, y gair, rhythm ac emosiwn. Drwy weithio fel rhan o ensemble bydd y myfyriwr yn dysgu geirfa dechnegol hanfodol, sgiliau gwrando a phwysigrwydd canolbwyntio. Mae Lefel 5 yn dwysau ymwybyddiaeth y myfyrwyr o bwysigrwydd dangos ymroddiad priodol er mwyn dyfnhau gallu actio drwy gymorth ymarferion.

Mae’n datblygu a dyfnhau gallu damcaniaethol a dadansoddol y myfyrwyr i drafod proses mewn cyddestun ymarferol. Bydd yn dyfnhau sail dechnegol, ymatebiad y corff a’r llais a disgyblaeth broffesiynol y perfformiwr. Yn ystod y lefel hon mae gwaith creu a dyfeisio yn cael ei gyflwyno drwy weithdai a phrosiectau megis modiwl Y Theatr Gymreig. Erbyn Lefel 6 mae’r myfyrwyr yn barod i ymgymryd â gwaith ar gyflwyniadau theatr sylweddol. Mae cyfle i’r myfyrwyr fireinio’r sgiliau craidd a ddatblygwyd ym modylau blaenorol y rhaglen ac i weithio gyda chyfarwyddwr proffesiynol er mwyn eu paratoi ar gyfer y diwydiant.


CYNNWYS YR HYFFORDDIANT • Actio seico-gorfforol – Technegau Stanislavsky, Chekov a Meisner • Theatr yr Absŵrd • Theatr Naturiolaidd • Theatr Gymreig • Actio Ffilm a Theledu • Shakespeare

• Dadansoddi testun • Gwaith ensemble • Ymladd ar gyfer llwyfan • Y Llais fel offeryn • Pwyslais ar gemau a chwarae • Arfer da y gwagle ymarfer a pherfformio • Trawstoriad rolau’r ‘cwmni’ • Hanes y Theatr

MODIWLAU • Crefft yr Actor • Y Gair A’r Gerddoriaeth • Llais 1 + 2 • Actio • Prosiectau ymarferol 1 – 5 • Arddangosiad Terfynol • Cynhyrchiad 1 + 2

|

pcydds.ac.uk/cbc 9


o i m r o f f Per CANU

Mae datblygu sgiliau canu yn bwysig iawn i unrhyw berfformiwr. Drwy gyfuniad o fodylau llais, canu a hyfforddiant lleisiol mae’r myfyrwyr yn datblygu repertoire eang dros ben. Cyflwynir y myfyrwyr i weithiau cynnar cyfnod y Baróc, operetas Gilbert and Sullivan, gweithiau Rodgers and Hammerstein, ac ystod eang o sioeau cerdd cyfoes gan gyfansoddwyr megis Sondheim, Lloyd Webber, Schwartz, Robert Brown, Piesk & Paul ac eraill. Drwy gyfuniad o ddosbarthiadau unigol a grŵp ar Lefel 4 mae’r myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i elfennau o ganu fel rhan o hyfforddiant yr actor gan ganolbwyntio ar bwysigrwydd y testun. Trafodir agweddau megis cymeriadu, dehongli naratif a

|

10 pcydds.ac.uk/cbc

hefyd datblygu ystod eang o repertoire er mwyn ehangu eu portffolio. Gwersi wythnosol un i un sydd ar gael ar Lefel 5. Bydd y myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant unigol er mwyn datblygu technegau perfformio drwy gydol y cyfnod hwn. Bydd y myfyrwyr yn dadansoddi ystod eang o sgiliau technegol, a’r broses o baratoi a chyflwyno perfformiad e.e. eu cryfderau a’u gwendidau technegol, eu cywirdeb o ran arddull, eu dehongliad (ac ynganiad i gantorion.). Bydd cyfleoedd cyson i adfyfyrio’n feirniadol ar eu cyraeddiadau, a bydd disgwyl iddynt gadw dyddiadur o’u datblygiad. Yn ogystal, bydd cyfle iddynt fynychu ac i gymryd rhan mewn Dosbarthiadau Meistr. Bydd dadansoddi

beirniadol o berfformiadau gan gerddorion proffesiynol yn nodwedd ychwanegol i’r hyfforddiant a gynigir. Mae’r modylau Lefel 6 yn darparu profiad, sy’n cyfateb i un proffesiynol, o weithio ar gynhyrchiad sioe gerdd gydag ymarferwyr o’r diwydiant. Mae’n rhoi cyfle i’r myfyrwyr gyfuno’r sgiliau actio, canu a dawns a ddatblygwyd ganddynt yn ystod Lefelau 4 a 5. Mae’r cyfnod hwn yn herio’r myfyrwyr i gynnal cyfres o berfformiadau dilynol o safon uchel.


CYNNWYS YR HYFFORDDIANT • Canu yng nghyd-destun drama a’r theatr. • Astudio technegau llais pen, “chest” a “belt”, tempo, traw, rhythm, alawon a chynghanedd. • Cynyrchiadau sioeau cerdd

• Datganiadau • Ymweliadau a pherfformiadau • Cyngherddau • Gwersi un i un • Arddangosiad terfynol • Dosbarthiadau Meistr • Gwaith Ensemble

MODIWLAU • Gair a’r Gerddoriaeth • Llais 1 • Hyfforddiant Lleisiol • Cynhyrchiad 2 • Arddangosiad Terfynol

|

pcydds.ac.uk/cbc 11


o i m r o f f Per DAWNSIO

|

12 pcydds.ac.uk/cbc


Rydym yn grediniol bod y gallu i symud/dawnsio yn arf bwysig i unrhyw actor neu ganwr. Er y bydd eich hyfforddiant fel dawnsiwr yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau technegol,byddwch hefyd yn datblygu fel artist creadigol sy’n gallu cyfathrebu’n emosiynol gyda chynulleidfa, drwy gyfrwng dawns.

Yn ystod Lefel 4 cynhelir dosbarthiadau Bale, Cyfoes, Jazz a Thapddawnsio ymarferol wythnosol er mwyn datblygu technegau a sgiliau ar draws y pedwar disgyblaeth.

CYNNWYS YR HYFFORDDIANT

• Cerddediad, neidiau a dilyniannau teithio Jazz • Curiadau unigol - Tap, Brwsh, Herc, curiad sawdl a churiad blaen troed • Curiadau Cyfansawdd – shiffladau, codiadau, rholiau cramp, cam amser sengl sylfaenol. • Technegau Cyfoes Graham, Cunningham, Humphrey a Limón

• Gwaith Barre – Plies, Tendus, Glisses, Rond de Jambes, Frappes, Adage, Grand Battement. • Gwaith canol ystafell – Ports de Bras, safleoedd traed, paratoi ar gyfer pirwetau a phirwetau unigol, Petit Allegro a dilyniannau teithio. • Plies Jazz, Tendus Jazz, Ystum breichiau Jazz, ynysiadau, ciciau a phirwetau Jazz

fod y myfyrwyr wedi derbyn y sgiliau priodol i ddawnsio o fewn cynyrchiadau ar lefel proffesiynol.

Ar Lefel 5 canolbwyntir ar ddatblygu techneg dawnsio o fewn maes Theatr Gerddorol. Y nôd erbyn Lefel 6 yw sicrhau

MODIWLAU • Y Corff • Dawns • Arddangosiad Terfynol • Cynhyrchiad 2

|

pcydds.ac.uk/cbc 13


o i m r o f f Per Y DIWYDIANT

Mae’r cwrs wedi’i greu yn fwriadol i ddatblygu sgiliau a fydd yn eich helpu i greu eich cyfleoedd gwaith eich hun neu i gael gwaith yn diwydiannau creadigol. Un o gryfderau y cwrs yw y trawstoriad eang o

CYNNWYS YR HYFFORDDIANT • Paratoi cyfweliadau, • Profiad gwaith • Creu C.V. • Lluniau proffesiynol • Creu Sioe un Dyn

|

14 pcydds.ac.uk/cbc

diwtoriaid o’r diwydiannau creadigol sy’n gweithio gyda’r myfyrwyr. Maen nhw’n barod iawn i roi cymorth a chefnogi datblygiad gyrfaol y myfyrwyr.

Mae’r myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant ar ddatblygu eu C.V. paratoi ar gyfer gweithio yn hunangyflogedig, a chreu eu gwaith eu hunain. Mae’r oriau hir a dwyster y cwrs hefyd yn rhoi sylfaen gre i weithio yn y diwydiant.

• ‘Showcase’ • Paratoi ar gyfer gweithio’n hunangyflogedig • Gweithio’n Llawrydd • Mentergarwch a rheoli cyllid • Tiwtorialau

MODIWLAU • Y Diwydiant • Arddangosiad Terfynol • Profiad Gwaith


|

pcydds.ac.uk/cbc 15


h t e a g o n f Ce Mae astudio yn y Brifysgol yn gyffrous, ond fe all achosi straen a bod yn anodd ar adegau, felly mae’n bwysig eich bod yn gofalu amdanoch chi’ch hunain. Os oes angen cymorth arnoch, fe wnawn ein gorau i’ch galluogi i weithio i’ch potensial llawn ac i ddangos gwir lefel eich gallu fel myfyriwr israddedig neu ôl-raddedig. Clustnodir tiwtor personol i bob myfyriwr, ac fe fydd yr unigolyn yma’n aelod o staff academaidd a fydd yn gallu rhoi cyngor a chymorth ichi gyda materion academaidd. Mae gan bob Cyfadran ei Chydlynydd Academaidd Arbenigol ei hun o fewn y Gwasanaethau Myfyrwyr sy’n helpu i drefnu cymorth ychwanegol, ac i

gynorthwyo myfyrwyr ag anableddau ac anawsterau dysgu. Rydym yn gweithio’n agos gyda Gwasanaethau Myfyrwyr y Brifysgol. Mae’r tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnig cyngor ar bob mater, o sgiliau academaidd i gyllid. Cyniga’r Brifysgol ystod eang o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i helpu myfyrwyr yn ariannol gyda materion sy’n amrywio o ofal plant i deithio sy’n gysylltiedig â’ch astudiaethau.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.uwtsd.ac.uk/cy/gwasanaethauproffesiynol/gwasanaethau-myfyrwyr www.uwtsd.ac.uk/cy/bwrsariaethau

|

16 pcydds.ac.uk/cbc


g e a r m y C Coleg l o h t e a l d e Cen Fel un o brif ddarparwyr addysg uwch cyfrwng Cymraeg yng Nghymru, mae’r Drindod Dewi Sant yn chwarae rôl flaenllaw o fewn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn cydweithio â’r Coleg i gynyddu cyfleoedd i fyfyrwyr ar sawl lefel. Mae’r Gangen yn weithgar ar draws holl gampysau’r Brifysgol gan gynnwys campws Canolfan Berfformio Cymru yng Nghaerdydd. Mae BA Perfformio yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaeth Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gwerth £1000 y flwyddyn a Ysgoloriaeth William Salesbury, sef £5000 am eich cyfnod yn astudio’r radd. Ewch i wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol www.colegcymraeg.ac.uk

Mae’r Dystysgrif yn darparu cyfle euraid i fyfyrwyr ennill cymhwyster sy’n dangos eu sgiliau iaith Cymraeg, a’u galluogi i ddangos tystiolaeth i gyflogwyr o’u gallu i gyfathrebu’n hyderus yn broffesiynol yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mae’r Brifysgol yn darparu cyfleoedd i bob myfyriwr dderbyn sesiynau a chefnogaeth gan diwtor iaith sydd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer y Dystysgrif. Ceir rhagor o wybodaeth i ddarpar fyfyrwyr ar wefan y Dystysgrif: sgiliauiaith. colegcymraeg.ac.uk

Os hoffech glywed mwy am Gangen y Drindod Dewi Sant mae croeso i chi gysylltu â’r SwyddogCangen, Bethan Wyn Davies ar b.davies@ pcydds.ac

am fwy o wybodaeth. Mae holl fyfyrwyr Canolfan Berfformio Cymru yn gwneud y cwrs Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

|

pcydds.ac.uk/cbc 17


u a h t e a i r o l Ysgo Mae myfyrwyr BA Perfformio hefyd yn gymwys i wneud cais am Ysgoloriaeth Cyfrwng Cymraeg / Dwyieithog y Brifysgol sydd yn cynnig gwobr o hyd at £600 i fyfyrwyr. Dyfernir £50 am bob 10 credyd a gwblheir yn llwyddiannus trwy gyfrwng y Gymraeg ac

|

18 pcydds.ac.uk/cbc

mae modd gwneud cais am yr ysgoloriaeth hon yn ystod tymor yr hydref ar ôl cychwyn astudio yn y Brifysgol. Mae CBC hefyd yn cynnig ysgoloriaethau’r ganolfan a fydd yn cael eu rhoi i’r myfyrwyr hynny sydd wedi dangos y datblygiad mwyaf yn ystod y cyfnod

cyntaf o astudio gyda ni. Bydd tiwtoriaid y cwrs yn penderfynu ar ddau fyfyriwr a fydd yn derbyn £750 yr un yn ystod mis Gorffennaf eu blwyddyn gyntaf o astudio.


|

pcydds.ac.uk/cbc 19


bod yn rhan o “Roedd gynhyrchiad RENT yn

brofiad breintiedig. Roeddwn yn cael y cyfle i chwarae fy hoff gymeriad, yn fy hoff sioe. Mi fyddai’n cofio’r profiad yma am amser hir.

Joel Edwards – Bl. 1 BA Perfformio

|

20 pcydds.ac.uk/cbc


. . . d d a r g a Mwy n Mae Canolfan Berfformio Cymru yn ymfalchïo yn y faith bod modd cynnig profiadau ychwanegol i’r myfyrwyr er mwyn cyfoethogi eu profiad addysgol. Mae’r Ganolfan wedi sefydlu LLEISIAU CBC sydd yn ensemble arbennig i’r holl fyfyrwyr sy’n astudio gyda ni ar draws pob cwrs a phob blwyddyn. Mae Lleisiau yn cyfrannu i fywyd diwylliannol y Brifysgol yn cynnwys Cyngherddau, gwasanaethau a digwyddiadau arbennig. Mae Lleisiau hefyd yn perfformio mewn nifer o ddigwyddiadau mawreddog yn cynnwys Eisteddfod

Ryngwladol Llangollen a cyn gemau rygbi yn Stadiwm y Mileniwm. Rydym yn gefnogol i ddatblygiad personol pob myfyriwr ac yn barod roi cyfle iddynt dderbyn profiadau gwaith profesiynol pan nad yw’n gwrthdaro gyda’i gwaith academaidd. Mae ein myfyrwyr yn perfformio mewn cynyrchiadau theatre yng Nghaerdydd, yn cyfrannu i raglenni teledu megis Pobol y Cwm, TAG, Gwaith Cartref, Y Gwyll ac yn gyfranwyr cyson ar Radio Cymru.

Un o gyfleuon arbennig y radd hon yw cael treulio cyfnod o bedwar mis yn astudio ym Mhrifysgol Long Beach, California.

! u a d a fi o r ...p |

pcydds.ac.uk/cbc 21


u a d a i h t r a b Dos i a d h t i e w G / Meistr Stephen Hill – Academi Gerdd Frenhinol Lisa Matheson – Captain Dawns Dirty Rotten Scoundrels Julian Lewis Jones – Actor Stifyn Parry – Crefft Clyweliad Sarah Bickerton – Theatr Genedlaethol Cymru Morwenna Rowe – Gwaith Llais Lucy Jones – Gweithdy ar y sioe gerdd Rent

u a d a i m r o f Perf Gem Rygbi Cymru Uruguay – Stadiwm Mileniwm Cymru Cyngerdd Nadolig yr Is-Ganghellor – Capel y Brifysgol, Campws Caerfyrddin Gwasanaeth Nadolig – Capel y Brifysgol, Campws Caerfyrddin Cyngerdd Nadolig CBC a CF1 – Neuadd Reardon Smith, Amgueddfga Cymru I Love you You’re Perfect Now Change – Chapter Perfformiad a’r y Lanfa – Canolfan Mileniwm Cymru An Opera for an Unknown Woman – Gwyl y Llais, Canolfan Mileniwm Cymru “2-4-1” – Theatr “The Gate” Lansio Llyfrau Betsan a Roco – Canolfan Peniarth Lawnsio Llyfr Mannon Steffan Ros – Eisteddfod yr Urdd Gwobr Llais Rhyngwladol Stuart Burrows – Capel y Brifysgol, Campws Caerfyrddin Cyngerdd y Ddwy Ddraig – Theatr yr Halliwell, Campws Caerfyrddin Cyngerdd Sioeau Cerdd – Eistedddfod Llangollen, Pafiliwn Rhyngwladol Llangollen DEL(ete) – Ysgol Gyfun Gartholwg Noson Hollol Abswrd – Canolfan Mileniwm Cymru RENT – Theatr “The Gate”

|

22 pcydds.ac.uk/cbc


d i a i r o t w i Staff a Th Eilir Owen Griffiths Cyfarwyddwr Canolfan Berfformio Cymru MODIWLAU:

CBCP4009 CBCP5004 CBCP6003 CBCP6005

Y gair a’r gerddoriaeth Y diwydiant Profiad Gwaith Astudiaeth Ryngwladol

Aled Pedrick

Swyddog Gweinyddol a Thiwtor Theatr

Tiwtor Canu a Chyfarwyddwr Cerdd

MODIWLAU:

MODIWLAU:

CBCP4005 Prosiectau Ymarferol 1 CBCP4004 Crefft yr Actor CBCP5007 Prosiectau Ymarferol 3

Eiry Thomas

Rhian Morgan

MODIWLAU:

Tiwtor Theatr

MODIWLAU:

CBCP6002 Cynhyrchiad 2: Sioe Gerdd

Elen Bowman

Angharad Lee

MODIWLAU:

Tiwtor Theatr MODIWLAU:

Tiwtor Theatr CBCP5006 CBCP6001

CBCP4007 Llais 1 CBCP4010 Prosiectau Ymarferol 2: Shakespeare

Geraint Morgan

Buddug Verona James

MODIWLAU:

Tiwtor Llais MODIWLAU:

Tiwtor Actio ar gyfer Teledu a Ffilm CBCP5005

CBCP4007 Llais 1

Jên Angharad

Dan Jones

MODIWLAU:

Tiwtor Theatr MODIWLAU:

CBCP4010 Prosiectau Ymarferol 2: Shakespeare CBCP5001 Llais 2

Hyfforddiant Lleisiol Arddangosiad Terfynol Cynhyrchiad 2: Sioe Gerdd

Tiwtor Theatr CBCP4004 Crefft yr Actor CBCP6004 Arddangosiad Terfynol

Tiwtor Theatr

CBCP5003 CBCP6004 CBCP6002

Tiwtor Dawns CBCP4005 Y Corff CBCP4008 Prosiectau Ymarferol 1

Jackie Bristow

MODIWLAU:

CBCP5001 Llais 2

Stifyn Parri Tiwtor Y diwydiant MODIWLAU:

CBCP5004 Y diwydiant CBCP6004 Arddangosiad Terfynol

Terry Dyddgen-Jones Tiwtor Actio ar gyfer ffilm a theledu MODIWLAU:

CBCP5005 Actio a’r gyfer ffilm a theledu

Tiwtoriaid gwadd Alun Saunders Amanda Harris Ceri Elen Morris Ffion Dafis

Tiwtor Dawns a Choreograffydd MODIWLAU:

CBCP4005 Y Corff CBCP5002 Dawns CBCP6004 Arddangosiad Terfynol

Dave Taylor

John Quirk

|

pcydds.ac.uk/cbc 23


Gwybodaeth bellach Am wybodaeth bellach, cysylltwch ag Eilir Owen Griffiths E.griffiths@pcydds.ac.uk

|

0300 323 1250

perfformioYDDS Mae’r wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir ar adeg ei argraffu, ond fe all newid yn rhan o bolisi gwelliant a datblygiad parhaus y Brifysgol.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.