Israddedig 2017
Y DRINDOD DEWI SANT
ABERTAWE CAERFYRDDIN LLAMBED
Trawsnewid Addysg,
TRAWSNEWID BYWYDAU
Cynnwys Dyddiadau Diwrnodau Agored Abertawe 2 Gorffennaf 2016 20 Awst 2016 (Clirio) 16 a 17 Medi 2016 5 Tachwedd 2016 3 Rhagfyr 2016
Caerfyrddin 1 Gorffennaf 2016 20 Awst 2016 (Clirio) 7 a 8 Hydref 2016
Llambed 25 Mehefin 2016 20 Awst 2016 (Clirio) 10 Medi 2016 5 Tachwedd 2016
Eich Campws Eich Prifysgol Ein Lleoliadau Eich Campws Abertawe Caerfyrddin Llambed Caerdydd
Eich Prifysgol
2 4 6 8 14 20 26
10 Rheswm Gwych i Siaradwyr Cymraeg ddewis YDDS 28 Pam YDDS? 30 Ein Gwerthoedd 32 Dysgu a Chymorth i Bawb 34 Llyfrgelloedd ac Adnoddau Dysgu 38 Profiad Myfyrwyr Gwirioneddol Fyd-eang 40 Prifysgol Amlgyswllt 42 Rhoi Siâp ar y Dyfodol 44 Addysg Ysbrydoledig ar Gyfer Dyfodol Cynaliadwy 46 Eich Gyrfa 48 Dylunio Bywyd 50 Y Gymraeg yn YDDS 52 Canolfan Peniarth 58 Yr Atom 60 Canolfan S4C Yr Egin 62 Datblygiad Tra Arbennig 64 Undeb y Myfyrwyr 66
Caerdydd
Eich Cwrs
5 Tachwedd 2016 11 Chwefror 2017
Holl Gyrsiau YDDS 68 Cyrsiau Cyfrwng Cymraeg 70 Graddau Meistr Integredig 170
Y Cam Nesaf
Am ragor o wybodaeth, ewch i’n gwefan: www.ydds.ac.uk/cy/ymweld
Sut i Wneud Cais 174 Diwrnodau Agored ac Ymweliadau 178 Ffioedd a Chyllid 180 Cysylltu â Ni 184 Ein Hymrwymiad i Chi 186 Mynegai 188 Lefelau Cymwysterau 190 www.ydds.ac.uk 1
Eich
Prifysgol Mae’r Prosbectws hwn wedi ei anelu’n bennaf at ddarpar fyfyrwyr sy’n siaradwyr Cymraeg ac sy’n ystyried astudio eu rhaglen addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Y mae’r un mor berthnasol ar gyfer siaradwyr Cymraeg sy’n dymuno astudio drwy gyfrwng y Saesneg lle bydd cyfle iddynt gyflwyno eu gwaith yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Mae’r Prosbectws yn cynnwys manylion y rhaglenni hynny sy’n cael eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog ar gampysau’r Brifysgol ac yn egluro’r math o gefnogaeth a gynigir yn benodol i fyfyrwyr sy’n cofrestru ar y rhaglenni hynny. Rhestrir hefyd yr holl raglenni cyfatebol a ddarperir drwy gyfrwng y Saesneg. Yn ogystal â hyn, mae'r Brifysgol wedi cyhoeddi Prosbectws Saesneg sy’n cyflwyno ei holl raglenni cyfrwng Saesneg a cheir copïau electronig o’r naill ddogfen a’r llall ar wefan y Brifysgol. Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau’r Brifysgol sy’n cael eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog wedi eu lleoli ar Gampws Caerfyrddin lle ceir traddodiad hir ac anrhydeddus o hyfforddi myfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae dros fil o siaradwyr Cymraeg yn astudio ar Gampws Caerfyrddin yn flynyddol gyda chanran uchel o’r rhain yn astudio o leiaf ran o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn hyn.
2 | www.ydds.ac.uk
Wrth i’r Brifysgol esblygu, mae ei Strategaeth Addysg Gymraeg a Dwyieithog yn canolbwyntio ar ddatblygu mwy a mwy o raglenni dwyieithog lle bydd modd i fyfyrwyr astudio hyd at 40 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd hyn yr un mor wir ar gyfer ei champysau yn Llambed ac Abertawe ag ydyw ar gyfer Campws Caerfyrddin.
Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r Brifysgol yn ymfalchïo’n fawr yn y ffaith y gall ddarparu rhai rhaglenni’n llwyr drwy gyfrwng y Gymraeg. Golyga hynny y bydd yr holl addysgu’n digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg ac eithrio sesiynau dysgu a arweinir gan ddarlithwyr gwadd nad ydynt yn siarad Cymraeg. Cyfeirir at y rhaglenni hyn ar dudalen 70.
Astudio’n ddwyieithog Mae’r Brifysgol yn annog ei holl fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg i astudio o leiaf ran o’u rhaglen drwy gyfrwng y Gymraeg. Trwy
wneud hyn, bydd y myfyrwyr hynny mewn sefyllfa gryfach o lawer pan ddaw hi’n amser chwilio am waith. Mae’r gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn cael ei gweld yn sgil fwy-fwy pwysig gan gyflogwyr yng Nghymru erbyn hyn. Efallai nad ydych yn teimlo’n ddigon hyderus i astudio’n llwyr drwy gyfrwng y Gymraeg. Os felly, pam na fentrwch astudio rhan o’ch cwrs yn unig drwy gyfrwng y Gymraeg? Mae rhai myfyrwyr yn astudio 40 o’u 120 credyd drwy gyfrwng y Gymraeg yn y flwyddyn gyntaf gan symud ymlaen i astudio 80 credyd drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn eu blwyddyn olaf. Mae eraill yn dewis astudio 20 credyd yn y flwyddyn gyntaf a 40 credyd yn yr ail a’r drydedd flwyddyn. Cewch gyfle i drafod yr opsiynau hyn i gyd gyda’r tiwtoriaid priodol yn ystod y Diwrnodau Agored, y Diwrnodau Cyfweld neu’n wir, wrth i chi gofrestru ar eich rhaglen.
Mae tua
2,000 o siaradwyr Cymraeg yn astudio yn YDDS
www.ydds.ac.uk | 3
Tri lleoliad i’ch ysbrydoli
Un Profiad Prifysgol i’w Rannu
“
Mae YDDS yn sefydliad positif a chanddo awyrgylch gwych. Rwyf wedi gwneud ffrindiau oes yma. Lucinda Dodd
”
Croeso i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sydd wedi’i lleoli ar dri phrif gampws bywiog yn Abertawe, Caerfyrddin a Llambed, gydag is-gampysau yn Llundain a Chaerdydd. Abertawe Wrth ddewis astudio yn ein hamgylchedd dysgu unigryw ni, byddwch yn ymuno â chymuned gyfeillgar lle mae’r myfyrwyr yn gwerthfawrogi bod yn enw ac nid yn rhif; lle mae’u darlithwyr yn meithrin eu datblygiad trwy’u hastudiaethau, a lle maent yn ffurfio cyfeillgarwch oes. Dechreuwch eich taith tuag at wireddu eich uchelgeisiau mewn bywyd yn y Brifysgol eithriadol a hanesyddol hon. Er iddi gael ei sefydlu bron 200 mlynedd yn ôl, mae’n cael ei chydnabod gyda’r fwyaf deinamig yng Nghymru. Prifysgol sy’n adeiladu at y dyfodol ydym ac sydd gam ar y blaen mewn oes sy’n newid mor gyflym.
Daeth YDDS yn
Caerfyrddin
sefydliad am ‘Gyfeillion Lleol’ Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015.
Mae gan YDDS dros
400 o gyrsiau israddedig, ar draws pum cyfadran academaidd gan gynnwys nifer o raddau meistr integredig
4 | www.ydds.ac.uk
1af o 46
Llambed
www.ydds.ac.uk | 5
Eich
Campws Ers yr uno, mae gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant dri phrif gampws yn Ne Orllewin Cymru – Caerfyrddin, Llambed ac Abertawe – pob un yn cynnig math gwahanol o brofiad i fyfyrwyr, er bod y tri’n rhannu’r un naws cymunedol, agos atoch a chyfeillgar. Mae gennym hefyd ganolfan yng Nghaerdydd - Canolfan Berfformio Cymru.
Mae ein tri phrif gampws yn cynnig: • Lleoliadau hyfryd ger rhai o’r ardaloedd arfordirol a chefn gwlad mwyaf ysblennydd yn y byd. • Cymunedau dysgu diogel, cyfeillgar lle dewch chi i adnabod pawb yn gyflym iawn. • Yr holl adnoddau dysgu a’r gwasanaethau cymorth myfyrwyr fydd eu hangen arnoch i fod yn llwyddiannus ar eich cwrs. • Cyfleusterau a llety yn lleol i gyfoethogi eich profiad myfyrwyr a’ch helpu i deimlo’n gartrefol. • Undeb y Myfyrwyr ar y campws i gynnig cyngor a chynrychiolaeth, ynghyd â chlybiau, chwaraeon, cymdeithasau ac adloniant.
Roedd
92% o fyfyrwyr YDDS yn fodlon ar ‘Ddiogelwch’ Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015
Campws Caerdydd Mae Canolfan Berfformio Cymru yn gartref i fyfyrwyr sy’n astudio ar y cwrs is-raddedig cyffrous, BA Perfformio. Mae wedi ei lleoli yng Nghanolfan Gelfyddydol The Gate yn y Rhath ac yn elwa ar stiwdios ymarfer ardderchog ynghyd â phrofiad prifysgol byrlymus ym mhrifddinas Cymru. Hefyd yng Nghaerdydd mae Academi Llais Ryngwladol Cymru (WIAV) sy’n darparu cyrsiau ôl-raddedig arbenigol ym maes perfformio. Gweler tudalen 26
Mae ein tri phrif gampws yn cynnig:
Mae campws Caerfyrddin, a sefydlwyd yn 1848, mewn tref a chanddi amgylchedd bywiog a chyfeillgar. Ceir naws gwirioneddol gymunedol yma. Gan fod y neuaddau preswyl, y cyfleusterau dysgu, chwaraeon, adloniant a rhaglenni cydnabyddedig ym meysydd addysg a’r celfyddydau oll o fewn tafliad carreg, mae popeth fydd ei angen arnoch o fewn cyrraedd hawdd.
• Safe, friendly, communities of learning. • All the learning resources and support services Campysau you’ll need to be successful on your course. Abertawe • A students’ union on campus to offer advice, representation and Abertawe social activities. Sefydlwyd campysau yn 1853. Mae ganddynt enw da am raglenni arloesol sy’n ymwneud â diwydiant ac sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd. Darperir y rhaglenni hyn yn ninas y glannau fwyaf blaenllaw Cymru, gyda chyfleoedd ym myd chwaraeon a hamdden ar hyd yr arfordir ysblennydd, ynghyd â chyfleusterau siopa a bywyd nos ardderchog ac awyrgylch cosmopolitan.
Gweler tudalen 14
Gweler tudalen 8
Campws Caerfyrddin
6 | www.ydds.ac.uk
Campws Llambed
Campws Llundain
Sefydlwyd y sefydliad addysg uwch cyntaf yng Nghymru ar gampws Llambed yn 1822. Mae’r campws mewn lleoliad gwledig braf, ac yn gartref i’r Dyniaethau. Mae’n darparu profiad cyfeillgar i fyfyrwyr mewn amgylchedd cymunedol cefnogol.
Mae gennym ni gampws yn Llundain sy'n gartref i'n myfyrwyr rhyngwladol sy’n astudio cyrsiau Busnes a Rheolaeth.
Gweler tudalen 20
www.ydds.ac.uk | 7
YDDS
Abertawe “
Dinas fetropolitan arbennig, llawn bwrlwm gyda rhai o’r bobl fwyaf cyfeillgar yn y byd i gyd. FourFourTwo Magazine
”
“
Traethau gwych a bywyd dinas bywiog, cymysgedd i weddu pawb.
”
Ella Morris-Fuge, BA Seicoleg ac Addysg
Meysydd pwnc sydd ar gael yn Abertawe: Astudiaethau Addysg Astudiaethau Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol Astudiaethau Nyrsio Yr Amgylchedd Busnes a Rheolaeth Celf Y Celfyddydau Perfformio Cyfathrebu Gweledol Cyfrifeg a Chyllid Cyfrifiadura Cwnsela Chwaraeon Digwyddiadau Diploma Sylfaen Celf a Dylunio Dylunio Electroneg Ffilm a’r Cyfryngau Digidol Ffotograffiaeth Y Gwasanaethau Cyhoeddus Gweithgynhyrchu Gwydr Y Gyfraith Hamdden a Thwristiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Logisteg a Chludiant Patrymau Arwyneb a Thecstilau Pensaernïaeth a’r Amgylchedd Adeiledig Peirianneg Rhaglenni Modurol Seicoleg Technoleg Cerddoriaeth
Ewch i’n gwefan am wybodaeth ar ein holl gyrsiau a champysau: ydds.ac.uk
8 | www.ydds.ac.uk
Diolch i Skytec am y llun
www.ydds.ac.uk | 9
Llwyddwch yn
Abertawe Nid mater o ragoriaeth academaidd yn unig yw astudio yn Abertawe – er bod hynny’n bwysig dros ben. Mae’n ymwneud â’r profiad cyfan o fyw fel myfyriwr yn yr ardal – y bywyd nos ardderchog, y siopau gwych, y trigolion cyfeillgar, y golygfeydd godidog, y traethau rhagorol a’r cysylltiadau rheilffyrdd a phriffyrdd ardderchog. Mae Abertawe’n ddinas sy’n trawsnewid ac sy’n profi mwy o fuddsoddiad nag erioed o’r blaen, gyda llawer o gynlluniau ar waith ar hyn o bryd sy’n cynnig gweledigaeth newydd. Elfen amlycaf yr ehangu hwn yw ein campws newydd arfaethedig, gwerth £300m, sef Ardal Arloesi Glannau Abertawe yn natblygiad poblogaidd SA1 y ddinas. Bydd y datblygiad newydd yn cynnig profiad myfyrwyr sy’n gweddu i’r unfed ganrif ar hugain mewn amgylchedd a fydd yn cyfuno’r byd academaidd, byd busnes, hamdden a llety preswyl.
Yng nghanol y ddinas ger stryd hanesyddol Wind Street ceir ardal gaffi enwog y ddinas, gyda’i llu o dafarndai a chlybiau poblogaidd, bwytai a lleoliadau adloniant, gan gynnwys sinema 12 sgrin o’r radd flaenaf. Mae’r ddinas hefyd yn gartref i bêl-droed yr Uwch Gynghrair gyda chlwb Dinas Abertawe, a gemau rygbi o ansawdd gyda’r Gweilch.
Yn 2014 agorwyd drysau ein hadeilad newydd gwerth £11.6m yng nghanol y ddinas sef Cyfnewidfa Ddylunio ALEX, sydd bellach yn gartref i’n Hysgol Dylunio a’r Celfyddydau Cymhwysol. Mae wedi'i ddatblygu'n ganolfan ryngwladol ar gyfer addysgu, ymchwil ac ymgynghori sy’n canolbwyntio ar ddylunio modurol, dylunio cynnyrch a gwydr pensaernïol.
Mae Abertawe wedi’i hamgylchynu gan gyrchfannau gwyliau, parciau, canolfannau bywyd gwyllt, ogofau a chestyll. Penrhyn Gŵyr oedd yr ardal gyntaf ym Mhrydain i’w dynodi’n ‘Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’ gan y Llywodraeth ym 1956. Mae’n un o benrhynau mwyaf godidog y DU, a chanddo draethau eang, glân a childraethau â chlogwyni serth wedi’u hamddiffyn gan goedwigoedd trwchus. Gyda thros 50 o gildraethau, baeau a thraethau wedi’u henwi, mae’r arfordir o gwmpas Abertawe gyda’r gorau, heb os nac oni bai.
Defnyddir y cyfleuster hefyd ar gyfer arddangosfeydd a darlithoedd cyhoeddus a gweithgareddau cymunedol.
Cafodd Abertawe y Faner Borffor yn 2015, i gydnabod cynnydd sylweddol y ddinas wrth godi safonau ei heconomi gyda'r nos.
10 | www.ydds.ac.uk
“
Cyfleusterau Gwych
Elfen amlycaf yr ehangu hwn yw ein campws newydd arfaethedig gwerth £300m - Ardal Arloesi Glannau Abertawe - yn natblygiad poblogaidd SA1 y ddinas.
”
“
Awyrgylch croesawgar, roeddwn yn teimlo’n gyfforddus o’r eiliad gyntaf. Hannah Kendall, Hysbysebu a Dylunio Brand
”
Mae ein campws yn Abertawe yn ymestyn ar draws nifer o ganolfannau pwrpasol - oll o fewn pellter cerdded hwylus o ganol y ddinas. Mae gan bob maes pwnc ei gyfleusterau pwrpasol ei hun sy’n berthnasol i anghenion y myfyrwyr. Amrywia’r cyfleusterau o’r gweithdai y mae ein ceir rasio Fformiwla Myfyrwyr yn cael eu cynllunio a’u hadeiladu ynddynt i’r stiwdios celf a dylunio lle mae gan fyfyrwyr lecynnau pwrpasol i ddatblygu eu syniadau. Ein nod yw cael cyfleusterau o safon diwydiant (neu well) ar gyfer y myfyrwyr sy’n astudio ein rhaglenni fel y byddant, ar ôl camu ymlaen i fyd gwaith, yn gallu ffynnu yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae yna lyfrgelloedd pwncberthnasol pwrpasol ar ein campysau ac mae gan bob myfyriwr fynediad agored i’n hystafelloedd TG. Yn ogystal â hynny, mae mynediad o bell i’n gwasanaethau llyfrgell a’r deunyddiau astudio trwy ein catalog llyfrgell ar-lein a’n rhith-amgylchedd dysgu. Ar hyn o bryd, mae’r Brifysgol yn buddsoddi’n helaeth mewn cyfleusterau ac adeiladau newydd a gwell ar draws ein campysau yn Abertawe, gan greu amgylcheddau dysgu newydd a chyffrous i fyfyrwyr a sicrhau bod ein rhaglenni’n galluogi myfyrwyr i symud yn ddiffwdan i fyd gwaith, busnes neu astudiaeth bellach pan fyddant yn graddio.
www.ydds.ac.uk | 11
Ymgartrefwch yn
Abertawe
“
Bywyd Myfyrwyr yn Abertawe Mae yna ddiwylliant myfyrwyr bywiog yn Abertawe, ac fe fyddwch yn ymuno â miloedd o fyfyrwyr sy’n heidio i ddinas y glannau mwyaf blaenllaw Cymru bob blwyddyn ar gyfer ei bywyd nos, ei chwaraeon, ei chyfleusterau hamdden a’i lleoliad arfordirol godidog. Yn ogystal â’r arfordir a’r ardal wledig fendigedig, mae Abertawe’n cynnig awyrgylch dinesig, cosmopolitan gyda bywyd nos gwych a siopau ardderchog. Yn ogystal â phêldroed a rygbi o’r radd flaenaf, mae Stadiwm Liberty hefyd yn cynnal cyngherddau gan amrywiol artistiaid rhyngwladol. Yn ogystal â rhoi cymorth a chynrychiolaeth i fyfyrwyr, mae Undeb y Myfyrwyr yn Abertawe yn cynnig amrywiaeth eang o glybiau chwaraeon a
chymdeithasau ac mae hefyd yn trefnu adloniant megis ‘Freshtival’ yn ystod ychydig wythnosau cyntaf y tymor a ‘Refreshers’ ar ddechrau’r ail semester. Uchafbwynt arall yn y calendr cymdeithasol yn Abertawe yw’r Ddawns Haf flynyddol, gyda’r prif artistiaid diweddar yn cynnwys, Florence and the Machine (2010), The Streets (2011), Pixie Lott, Tim Minchin a Rudimental (2012), Sub Focus a Professor Green (2013), Scouting for Girls (2014), Lethal Bizzle a The Hoosiers (2015). Mae bywyd myfyrwyr yn Abertawe yn cynnig popeth y mae arnoch ei angen i gael amser ffantastig yn ystod eich astudiaethau.
Eich Llety
Ymunwch â’r miloedd o fyfyrwyr sy’n heidio i ddinas y glannau mwyaf blaenllaw Cymru bob blwyddyn ar gyfer ei bywyd nos, ei chwaraeon, ei chyfleusterau hamdden a’i lleoliad arfordirol godidog.
Mae pum neuadd breswyl gennym yn Abertawe ar ddau safle gwahanol, gyda’r neuaddau yn ganolog i’r campysau ac o fewn 100 metr i’r cyfleusterau addysgu a’r llyfrgell. Mae dros 300 o ystafelloedd i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf wneud cais amdanynt gyda chymysgedd o ystafelloedd astudio safonol ac ystafelloedd gyda chyfleusterau ‘en-suite’.
”
Hefyd, mae gan Abertawe amrywiaeth eang o lety preifat a nifer o neuaddau myfyrwyr preifat o fewn pellter cerdded byr i adeiladau ein campws, ac mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn symud i lety rhent preifat gyda ffrindiau ar ôl eu blwyddyn gyntaf.
“
Mae Abertawe yn gyfeillgar, cymdeithasol a llawn hwyl a chanddi fywyd nos gwych i fyfyrwyr. Georgia Morgan, Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae gennym swyddfa llety bwrpasol yn Abertawe sy’n rhoi cyngor a chymorth i fyfyrwyr wrth iddynt wneud cais am lety neu chwilio am lety rhent preifat trwy gydol eu hamser gyda ni.
”
Dros 260 o siopau, 90 o fwytai a 45 o dafarndai a chlybiau yng nghanol dinas Abertawe.
12 | www.ydds.ac.uk
www.ydds.ac.uk | 13
YDDS
Caerfyrddin “
Mae gan Gaerfyrddin bopeth - canol tref unigryw, tirweddau amrywiol a dewis aruthrol o weithgareddau, gyda rhywbeth at ddant pawb.
”
Meysydd pwnc sydd ar gael yng Nghaerfyrddin: Addysg Blynyddoedd Cynnar Addysgu Astudiaethau Addysg Gynradd Astudiaethau Crefyddol Astudiaethau Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol Astudiaethau Nyrsio Busnes a Rheolaeth Y Celfyddydau Perfformio Chwaraeon, Iechyd ac Antur Awyr Agored Dysgu Seiliedig ar Waith Ffilm a’r Cyfryngau Digidol Gwaith Ieuenctid a Chymuned Iechyd a Gofal Cymdeithasol Seicoleg Gymhwysol
“
Fy hoff le yw’r Cwad, dwi’n hoffi’r dyluniad – mae e’n fodern ac yn lle gwych i gwrdd â’ch ffrindiau a gwneud ychydig o waith wrth fwynhau cwpaned o goffi. Dyddie da! Gwyneth Sweatman, Seicoleg
”
Ewch i’n gwefan am wybodaeth ar ein holl gyrsiau a champysau: ydds.ac.uk
14 | www.ydds.ac.uk
www.ydds.ac.uk 15
Llwyddwch yng
Nghaerfyrddin Yng nghanol campws Caerfyrddin mae’r adeilad gwreiddiol sy’n dyddio’n ôl i 1848. Ei enw gwreiddiol oedd Coleg Hyfforddi De Cymru a Sir Fynwy ac fe’i sefydlwyd i hyfforddi athrawon ar gyfer ysgolion yr eglwys yng Nghymru a Lloegr. Yn ddiweddarach, newidiwyd yr enw i Goleg y Drindod ac yna i Goleg Prifysgol y Drindod cyn dod yn Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Mannau Gwych i Astudio a Byw Mae lawntiau helaeth a llecynnau a dirluniwyd yn creu safle deniadol ar gyfer y gymysgedd o adeiladau oes Victoria a chyfoes. Mae’r campws yn cynnwys nifer o gyfleusterau gwahanol, yn eu plith mae llyfrgell llawn adnoddau a llecynnau dysgu ac addysgu rhagorol, theatr bwrpasol a gweithdai, ystafelloedd y cyfryngau a cherddoriaeth ynghyd â chyfleusterau TG sy’n cynnwys llecynnau mynediad agored ac ystafelloedd i fyfyrwyr wneud gwaith grŵp ynddynt. Ymhlith y cyfleusterau chwaraeon mae’r Ganolfan Chwaraeon sy’n cynnwys Ystafell Iechyd a Ffitrwydd, pwll nofio, a stiwdio ddawns amlbwrpas. Mae gan yr uned Gwasanaethau Myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr eu hadeiladau eu hunain ar y campws, sy’n galluogi myfyrwyr i ddefnyddio eu cyfleusterau a’u gwasanaethau yn hwylus. Mae’r llety i fyfyrwyr yn cynnwys neuaddau ag arlwyaeth a rhai hunanarlwyo sydd wedi’u lleoli ar y campws.
16 | www.ydds.ac.uk
Mae’r adeilad Dysgu ac Addysgu newydd yn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer darlithoedd a gwaith grŵp yn ogystal â mannau cymdeithasol y gallwch ymlacio ynddynt gyda’ch ffrindiau rhwng darlithoedd. Mae cyfuno cryfder yr arbenigedd academaidd a phroffesiynol a ddarperir, ynghyd â’r cyfleusterau pwrpasol sy'n cynnwys stiwdios, mannau arddangos a gweithdai, yn galluogi ein myfyrwyr i ddatblygu eu doniau creadigol a mireinio eu sgiliau technegol mewn amgylchedd sy’n gweddu i’w hanghenion. Yn 2014 dyfarnodd Llywodraeth Cymru grant o £355,000 i’r Brifysgol er mwyn sefydlu Canolfan Gymraeg yng Nghaerfyrddin. Bellach mae’r ganolfan honno - Yr Atom - ar agor ac yn cynnal nifer sylweddol o ddigwyddiadau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg yn y dref a’r cyffiniau.
S4C yn Ymsefydlu ar Gampws Caerfyrddin Ym mis Mawrth 2014 cyhoeddwyd y byddai S4C, y sianel deledu Gymraeg, yn symud ei phencadlys o Gaerdydd i YDDS yng Nghaerfyrddin erbyn 2018. Bydd y bartneriaeth yn dwyn ynghyd ystod o arbenigedd i ddarparu hyfforddiant i genhedlaeth newydd o fewn y diwydiannau creadigol yn ogystal â datblygu micro-fusnesau a chyfleoedd gwaith. Ewch i dudalen 62 am fanylion pellach ynghylch y datblygiad cyffrous hwn.
“
Mae campws Caerfyrddin yn llawn bywyd, ry’n ni’n teimlo fel teulu yma, gyda phawb yn adnabod ei gilydd, a ry’n ni’n cael lot o sbort yn y Gymdeithas Gymraeg! Gwyndaf Lewis, BA Perfformio
”
Am ragor o wybodaeth am Yr Atom ewch i dudalen 60.
www.ydds.ac.uk 17
Ymgartrefwch yng
Nghaerfyrddin Eich Llety Mae pedair neuadd breswyl i fyfyrwyr ar y campws, sy’n cynnig ystafelloedd sengl ac ystafelloedd a rennir mewn llety ag arlwyaeth neu hunanarlwyo. Cynigir y cyfleusterau am brisiau fforddiadwy iawn sy’n cynnwys yr holl filiau cyfleustodau. Os dewiswch fyw ar y campws, cewch eich ystafell eich hun am y flwyddyn academaidd gyfan sy’n golygu na fydd raid i chi symud allan yn ystod gwyliau. Mae cysylltiadau rhyngrwyd ym mhob ystafell felly gallwch ddod â’ch gliniadur neu’ch cyfrifiadur personol gyda chi. Fel arfer mae myfyrwyr blwyddyn gyntaf yn cael lle yn y neuaddau preswyl ag arlwyaeth – Myrddin, Non a’r Tŵr – sy’n cynnig ystafelloedd gwely gyda digon o le storio a basn ymolchi. Rhennir ystafelloedd ymolchi a llecynnau gwneud byrbrydau gyda myfyrwyr eraill. Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, mae myfyrwyr gan amlaf yn dewis byw mewn neuaddau hunanarlwyo. Mae Neuadd Archesgob Noakes yn cynnwys fflatiau ag iddynt wyth ystafell wely sengl en-suite gyda chegin i’w rhannu. Efallai y bydd ystafelloedd hunanarlwyo ar gael i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf, yn enwedig felly fyfyrwyr ag anghenion penodol. Noder bod y Brifysgol yn darparu fflatiau cyfan ar Gampws
18 | www.ydds.ac.uk
Astudio Dramor
Caerfyrddin ar gyfer y myfyrwyr hynny sy’n dymuno rhannu fflatiau gyda siaradwyr Cymraeg eraill.
Mae gennym gynllun astudio dramor sefydledig gyda phartneriaethau yn yr Unol Daleithiau, Canada, Tsieina ac Ewrop, ac fe gewch y cymorth a’r arweiniad y bydd arnoch eu hangen gan ein tîm ymroddgar trwy gydol eich profiad astudio dramor.
Am ragor o wybodaeth ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/bywydmyfyrwyr/llety
Bywyd Myfyrwyr yng Nghaerfyrddin Lleolir Campws Caerfyrddin ar gyrion tref hynaf Cymru, y dywedir iddi fod yn fan geni Myrddin o’r chwedl Arthuraidd. Mae Caerfyrddin yn dref brysur a chanddi gymysgedd dda o siopau traddodiadol a modern, gweithgareddau hamdden megis yr ali fowlio, canolfan laser, clwb rygbi a phêl-droed ynghyd â thrac athletau. Mae’n gartref i siopau cadwyn cenedlaethol, siopau boutique, yn ogystal â marchnadoedd awyr agored a dan do ardderchog. Mae ganddi gyfleusterau hamdden rhagorol, theatrau a’r sinema ddigidol bwrpasol gyntaf i gael ei hadeiladu yn y DU, a chanddi chwe sgrin 3D. Gwasanaethir y dref gan y prif rwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd ac mae’n hawdd ei chyrraedd o ddinasoedd mawr gan gynnwys Abertawe a Chaerdydd, yn ogystal â phorthladdoedd fferi yn Ne Orllewin Cymru.
I ddysgu rhagor am raglen astudio dramor YDDS, ewch i’n gwefan.
“
Mae’r llety i fyfyrwyr yn cynnwys neuaddau ag arlwyaeth a rhai hunanarlwyo sydd wedi’u lleoli ar y campws.
”
www.ydds.ac.uk 19
YDDS
Llambed Meysydd pwnc sydd ar gael yn Llambed:
“
Mae Llambed yn lle bendigedig a chanddi gymaint i’w gynnig. Yma, rydych yn fwy nag enw neu rif i staff eich adran.
”
Nick Calvin, Myfyriwr Graddedig
Yr Amgylchedd Anthropoleg Archaeoleg Astudiaethau Addysg Astudiaethau Clasurol Astudiaethau Tsieineaidd Athroniaeth Crefydd a Diwinyddiaeth Y Dyniaethau Gwareiddiadau’r Hen Fyd Hanes Hanes yr Hen Fyd Saesneg Seicoleg Gymhwysol Astudiaethau Treftadaeth Ysgrifennu Creadigol, Cyhoeddi a TEFL
Ewch i’n gwefan am wybodaeth ar ein holl gyrsiau a champysau: ydds.ac.uk
20 | www.ydds.ac.uk
www.ydds.ac.uk 21
Llwyddwch yn
Llambed
Mae amgylchedd campws Llambed yn hynod ddymunol, gan ddarparu profiad dysgu unigryw a phersonol. Mae’r profiad yn Llambed yn cyfuno prifysgol hanesyddol (a sefydlwyd yn 1822) gyda’r holl gyfleusterau a’r dechnoleg sydd eu hangen ar gyfer dysgu yn yr 21ain ganrif. Gyda thraddodiad academaidd hir a nodedig yn y Dyniaethau, mae’r campws heddiw’n gartref i ystod o gyrsiau israddedig ym meysydd Saesneg, Hanes (Yr Henfyd, Canoloesol a Chyfoes), Archaeoleg, Tsieinëeg, Astudiaethau Clasurol, Athroniaeth ac Astudiaethau Crefyddol, yn ogystal â meysydd fel Anthropoleg, Cyhoeddi, Gwareiddiadau’r Hen Fyd, Seicoleg Gymhwysol, Diwylliant yr Hen Aifft, Astudiaethau Treftadaeth ac Ysgrifennu Creadigol. Mae llawer o’n myfyrwyr yn astudio mwy nag un pwnc, ar ffurf anrhydedd cyfun neu gyfuniad arloesol newydd ar draws y disgyblaethau gyda Threftadaeth, y Dyniaethau Digidol, Amgueddfeydd ac Archifau ac Astudiaethau Addysg. Ar gampws Llambed, mae ein hymagwedd at Addysg Uwch yn unigol ac ymatebol, gan
“
Profiad dysgu sy’n dra gwahanol i sefydliadau Addysg Uwch eraill mwy amhersonol.
gydweddu â’ch diddordebau a’ch hoffterau. Ar yr un pryd, rydym yn sicrhau pan fyddwch yn graddio y bydd gennych y sgiliau y mae arnoch eu hangen i lwyddo ym marchnad waith gystadleuol yr oes sydd ohoni. Pa gwrs bynnag y penderfynwch arno, bydd eich profiad dysgu’n ysgogol, rhyngweithiol a chydweithredol. A ninnau’n gampws o ryw 1,000 o fyfyrwyr llawn amser, gallwn gynnig profiad dysgu sy’n dra gwahanol i sefydliadau Addysg Uwch eraill sydd ar raddfa fwy, ac yn fwy amhersonol. Caiff pob myfyriwr diwtor academaidd personol trwy gydol eu hamser yn y Brifysgol, i’w cynghori a’u harwain, ac mae gan bob Ysgol ei swyddog lles ei hun i ddarparu cymorth lle bo angen.
”
“
Awyrgylch clos, hyfryd gyda digon o siopau ac ymdeimlad o gymuned. Unigryw, Bendigedig, Hyfryd.
Cewch eich addysgu gan ddarlithwyr mewn seminarau addysgu bach, fel arfer grwpiau o rhwng 15 a 25 o fyfyrwyr erbyn yr ail flwyddyn. Fe ddowch i adnabod eich tiwtoriaid yn ôl eu henw cyntaf, wrth iddynt gynnig cyngor ichi ar eich gwaith a’ch cynnydd, ac fe fyddan nhw yn eu tro yn dod i’ch adnabod chithau fel unigolyn. Byddwch yn gweithio gydag eraill mewn grwpiau bach, ond byddwch hefyd yn mynd i’r afael ag ymchwil a phrosiectau ar eich liwt eich hun, ar bwnc o’ch dewis, gydag arweiniad gan diwtoriaid. Fe gewch gyfle i roi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol a bod yn aelod o nifer o gymdeithasau myfyrwyr, yn cynnwys timau chwaraeon o bob math a chymdeithasau megis Ail-greu Brwydrau Canoloesol. Drwy hyn byddwch yn dod yn rhan o’r corff myfyrwyr sydd yn ymroi fwyaf i weithgareddau allgyrsiol yn y wlad.
”
Sylwadau myfyriwr yn Adolygiad What Uni
Roedd
90% o fyfyrwyr campws Llambed yn fodlon ar eu cwrs Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2015
22 | www.ydds.ac.uk
www.ydds.ac.uk 23
Ymgartrefwch yn
Llambed Mannau Gwych i Fyw a Dysgu Rydym yn falch o'r ffaith mai ar gampws Llambed y ceir un o’r casgliadau gorau yn y wlad o lawysgrifau addurnedig canoloesol ac argraffiadau printiedig cyntaf o’r cyfnod modern cynnar. Cedwir y rhain yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen. Mae ei chasgliadau arbennig yn cynnwys tua 30,000 o gyfrolau, a argraffwyd rhwng 1470 ac 1850, ac mae ein myfyrwyr yn helpu i’w curadu. Mae’r Brif Lyfrgell, a gafodd ei hailwampio’n ddiweddar, yn cynnig mannau cymorth dysgu ac astudio â chyfleusterau uwchdechnoleg, ynghyd â chasgliad o 275,000 o lyfrau a chyfnodolion. Mae yna ddwy ystafell gyfrifiaduron bwrpasol, labordy MAC pwrpasol ar gyfer meddalwedd arolwg GIS, astudiaethau iaith, a’n cwrs ar y Dyniaethau Digidol, ac mae gennym bedwar labordy Archaeoleg gwahanol sy’n cwmpasu pob math o astudiaethau fforensig ac amgylcheddol. Er mwyn cefnogi’ch astudiaethau, lleolwyd ystod o wasanaethau integredig i fyfyrwyr, yn cynnwys cymorth dysgu, swyddfa llety, a
24 | www.ydds.ac.uk
gwasanaeth gyrfaoedd, yn adeilad eiconig Caergaint, a agorwyd yn 2012. Rhwng darlithoedd a seminarau, mae lluniaeth ar gael i fyfyrwyr yng nghaffi 1822 Starbucks, neu’r Ffreutur neu gaffi a bar Undeb y Myfyrwyr, yn ogystal â’r lliaws o gaffis sydd yn y dref.
Bywyd Myfyrwyr yn Llambed Mae’r Brifysgol wedi’i lleoli yng nghanol tref farchnad hanesyddol Llambed, sydd wedi’i hamgylchynu gan fynyddoedd Cambria a phrydferthwch cefn gwlad Cymru. Rhed yr afon Dulas trwy ganol y campws, ac yn ystod yr haf, mae’r myfyrwyr yn defnyddio glannau’r afon i fwynhau barbeciw, picnic, neu i ddarllen yn dawel. Yn yr amgylchedd hanesyddol a hyfryd yma, ein nod yw cyfoethogi eich profiad dysgu trwy gynnal amrywiaeth o wahanol deithiau maes ac ymweliadau, â chestyll ac abatai adfeiliedig lleol, â’r mwyngloddiau aur Rhufeinig yn Nolaucothi neu â dinas gadeiriol Tyddewi i enwi ond rhai. Yn agosach at adref, mae tref Llambed yn estyn croeso cynnes i fyfyrwyr ac yn ei
Llety
thro mae’n ganolfan fywiog o weithgarwch myfyrwyr. Ynghyd â siopau ac archfarchnadoedd cenedlaethol, mae Llambed yn ymfalchïo yn ei siopau lleol, annibynnol, ac mae rhai o'r rhain yn rhan o gynllun teyrngarwch lle mae myfyrwyr yn cael gostyngiad mewn rhai siopau, caffis, tafarndai a bwytai.
Mae gan y campws 15 neuadd breswyl i fyfyrwyr, gyda phob un yn darparu cyswllt Wi-fi. Mae pob un yn llety hunanarlwyo; rhai gyda chyfleusterau ‘en-suite’ ac eraill gyda chyfleusterau a rennir. Gallwn warantu lle mewn neuadd i bawb yn y flwyddyn gyntaf ac mae llawer o fyfyrwyr yn penderfynu treulio’r tair blynedd mewn neuadd.
Mae cymuned Llambed wedi ymrwymo i gynnal ffordd o fyw gynaliadwy ac mae’n cydweithio gyda myfyrwyr YDDS i hybu ac i ddatblygu materion cynaliadwyedd yn y dref a’r cyffiniau.
Am ragor o wybodaeth ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/bywydmyfyrwyr/llety/llambed
Astudio Dramor
Nid oes unman arall yn amlygu’r cydweithio hwn yn well nag amgueddfa’r dref, sy’n fenter a redir ar y cyd rhwng y Brifysgol a’r Gymdeithas Hanes Lleol, lle mae ein myfyrwyr yn gweithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr lleol i gael profiad ymarferol gwerthfawr o’r sector treftadaeth.
Mae gennym gynllun astudio dramor sefydledig gyda phartneriaethau yn yr Unol Daleithiau, Canada, Tsieina ac Ewrop, ac fe gewch y cymorth a’r arweiniad y bydd arnoch eu hangen gan ein tîm ymroddgar trwy gydol eich profiad astudio dramor.
“
Mae’r dref yn estyn croeso cynnes i fyfyrwyr a daw’r dref yn ei thro yn ganolfan fywiog o weithgarwch myfyrwyr.
”
I ddysgu rhagor am raglen astudio dramor YDDS, ewch i’n gwefan.
Darganfod rhagor Ewch i www.ydds.ac.uk/cy/llambed i weld a darllen am yr hyn sy’n wahanol am Lambed a dysgu mwy am yr hyn sy’n gwneud y campws hwn mor arbennig.
www.ydds.ac.uk 25
Canolfan
Berfformio Cymru Beth yw Canolfan Berfformio Cymru?
Canolfan Gelfyddydol “The Gate”
Canolfan arloesol sydd wedi’i sefydlu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant er mwyn hyfforddi a datblygu perfformwyr y dyfodol yw Canolfan Berfformio Cymru. Rydym yn cynnig graddau cyfrwng Cymraeg a fydd yn cyflwyno i’r myfyrwyr dechneg gadarn law yn llaw â dealltwriaeth eang o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt.
Cynhelir holl weithgarwch wythnosol y cyrsiau yn adeilad “The Gate” yn ardal Y Rhath. Yma mae nifer o ofodau amlbwrpas yn cynnwys theatr arbennig, dwy stiwdio ddawns gyda lloriau pwrpasol, a stiwdio ymarfer. Yn ogystal â hyn mae caffi/bar yno er mwyn ymlacio a chymdeithasu.
Yn ystod eu cyfnod astudio rhoddir cyfleoedd i’r myfyrwyr ddatblygu ystod eang o sgiliau. Byddant yn meithrin y sgiliau yma er mwyn eu galluogi i weithio’n broffesiynol ac i fanteisio ar y galw cynyddol am berfformwyr medrus, hyblyg a dibynadwy.
Astudio yng Nghaerdydd Caerdydd yw prif-ddinas ieuengaf Ewrop a chanddi gyfoeth o hanes a diwylliant. Dros yr 20 mlynedd diwethaf mae wedi gweld buddsoddiad sylweddol yn y celfyddydau, byd chwaraeon a chanolfannau siopa gan ei gwneud yn lle hyfryd i fyw ac astudio ynddo. Ar ben hyn oll mae Caerdydd yn fwrlwm o ddigwyddiadau diwylliannol sy’n cynnig bywyd cymdeithasol bywiog ac amrywiol.
Llety Lleolir y ganolfan hon yng nghanol ardal lle ceir digonedd o dai a neilltuir ar gyfer myfyrwyr y brifddinas yn benodol. Bydd dewis gan fyfyrwyr naill ai i chwilio am eu llety eu hunain neu bydd y Brifysgol yn gallu trefnu – trwy bartneriaeth ffurfiol ag asiantaeth rhentu tai neu neuaddau preswyl yng Nghaerdydd – bod tai penodol ar gael at ddefnydd ein myfyrwyr.
Profiadau Gwerthfawr Mae Canolfan Berfformio Cymru yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn cynnig profiadau ychwanegol i’r myfyrwyr er mwyn cyfoethogi eu profiad addysgol. Mae’r Ganolfan wedi sefydlu Lleisiau CBC sydd yn ensemble arbennig i’r holl fyfyrwyr. Mae Lleisiau CBC yn cyfrannu at fywyd diwylliannol y Brifysgol yn cynnwys cyngherddau, gwasanaethau a digwyddiadau arbennig. Mae Lleisiau CBC hefyd yn perfformio mewn nifer o ddigwyddiadau mawreddog, yn cynnwys Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a chyn gemau rygbi. Rydym yn cefnogi datblygiad personol pob myfyriwr ac yn barod i roi cyfle iddynt dderbyn profiadau gwaith proffesiynol pan nad yw’n gwrthdaro gyda’u gwaith academaidd. Er enghraifft mae ein myfyrwyr yn perfformio mewn cynyrchiadau theatr yng Nghaerdydd, yn cyfrannu at raglenni teledu megis Pobol y Cwm, Gwaith Cartref, Y Gwyll ac yn gyfranwyr cyson ar Radio Cymru.
“
Trueni nad oedd (BA Perfformio) yn bodoli yn fy amser i fel myfyrwraig.
”
Catrin Darnell, Actores
“Mae’n wych gallu cynnig cyfleoedd a phrofiadau o fewn byd darlledu i rai o fyfyrwyr Canolfan Berfformio Cymru. Cyfle i ni allu meithrin perfformwyr hyderus a rhoi cyfle i’r myfyrwyr greu cysylltiadau gyda’r diwydiant.” Boom Plant
26 | www.ydds.ac.uk
www.ydds.ac.uk 27
10 rheswm gwych i
Siaradwyr Cymraeg ddewis YDDS
Cofrestriadau Cyfrwng Cymraeg Mae mwy o fyfyrwyr yn astudio rhan o’u rhaglen addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant na sydd mewn unrhyw brifysgol arall yn y byd i gyd!
28 | www.ydds.ac.uk
Astudio Drwy Gyfrwng y Gymraeg ac yn Ddwyieithog
Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cyfrwng Cymraeg
Cangen o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae modd astudio nifer o raglenni drwy gyfrwng y Gymraeg yn gyfan gwbl ar Gampws Caerfyrddin, ynghyd â'r cwrs Perfformio yng Nghaerdydd, tra bod mwy a mwy o raglenni dwyieithog yn cael eu datblygu a’u darparu ar draws holl gampysau’r Brifysgol.
Bydd gan y rheini a fydd yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg gyfleoedd i wneud cais am nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau cyfrwng Cymraeg o du’r Brifysgol a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae gan y Brifysgol Gangen gref o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol gyda thros 400 o fyfyrwyr yn aelodau ohoni. Mae’r Gangen yn trefnu nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol ar gyfer ei haelodau bob tymor.
Pencadlys S4C
Cyrsiau Gloywi Iaith
Bydd S4C yn adleoli ei phencadlys i Gampws Caerfyrddin erbyn 2018. Bydd Canolfan S4C Yr Egin - a fydd yn gartref i’r pencadlys newydd – yn adeilad eiconig a fydd hefyd yn gartref i oddeutu 25 o gwmnïau a sefydliadau cysylltiedig eraill.
Bydd y Brifysgol yn darparu cyrsiau Gloywi Iaith ar gyfer ei holl fyfyrwyr sy’n astudio eu rhaglen addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.
Canolfan Gymraeg
Penwythnos y Glas ar Gyfer Siaradwyr Cymraeg
Llety ar y Campws ar Gyfer Siaradwyr Cymraeg
Trefnir Penwythnos y Glas ar gyfer glasfyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a fydd yn cychwyn eu hastudiaethau yn y Brifysgol bob mis Medi. Mae hwn yn gyfle i siaradwyr Cymraeg ddod i adnabod ei gilydd cyn i’r flwyddyn academaidd ddechrau.
Mae’r Brifysgol yn darparu fflatiau cyfan ar Gampws Caerfyrddin ar gyfer y myfyrwyr hynny sy’n dymuno rhannu fflatiau gyda Chymry Cymraeg eraill. Er nad oes trefniadau tebyg yn Abertawe a Llambed ar hyn o bryd, gellir trafod y sefyllfa ymhellach â’r Swyddog Llety priodol.
Mae’r Brifysgol wedi sefydlu Canolfan Gymraeg Yr Atom yng nghanol tref Caerfyrddin sydd yn cynnig pob math o weithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae ynddi gaffi poblogaidd hefyd.
Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Bydd y Brifysgol – mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol – yn cefnogi’r myfyrwyr hynny a fydd yn dymuno cofrestru ar Dystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
www.ydds.ac.uk 29
Pam YDDS?
Graddedigion Cyflogadwy
Cefnogol
Addysgu Rhagorol
Prifysgol Entrepreneuraidd
Effaith Ymchwil
Tiwtoriaid Gwych
Prifysgol “Werdd”
Hanesyddol a Modern
Roedd 93% o israddedigion YDDS sy’n hanu o’r DU mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach chwe mis wedi iddynt raddio.
Mae 96% o fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant wedi eu bodloni â ‘Gwasanaethau Myfyrwyr’ y Brifysgol.
Cytunodd 87% o fyfyrwyr israddedig YDDS bod staff yn dda am esbonio pethau. – NSS 2015
Cafodd 60% o waith ymchwil YDDS ei farnu’n eithriadol (23.3%) neu’n sylweddol iawn (36.7%) o ran ei gyrhaeddiad a’i arwyddocâd.
Roedd 95% o fyfyrwyr YDDS yn fodlon ar eu ‘Tiwtoriaid Personol’.
– Global ISBSB Autumn Wave 2015
YDDS oedd ar frig ‘Partner’s Leaderboard’ y DU am nifer y gweithgareddau entrepreneuriaeth a gynhaliwyd yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd 2014 a 2015.
Enillodd YDDS dair Gwobr Green Gown ac un gymeradwyaeth uchel yn 2015. Yn ogystal, daeth YDDS yn 1af yng Nghymru ac yn 8fed yn y DU am Berfformiad Amgylcheddol.
Gan YDDS y mae’r Siarter Frenhinol hynaf yng Nghymru (1828), ond hefyd, hi yw’r brifysgol fwyaf newydd yn dilyn uno Prifysgol Fetropolitan Abertawe â’r sefydliad yn 2013.
– DLHE 2013/14
– Global ISBSB Autumn Wave 2015
– REF 2014 – Gwobrau Green Gown 2015 Cynghrair Prifysgolion People & Planet 2015
30 | www.ydds.ac.uk
www.ydds.ac.uk 31
YDDS
Grŵp YDDS Siarter Frenhinol y Brifysgol yw’r hynaf yng Nghymru a Lloegr ar ôl prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt. Yn 2011, daeth Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn noddwr arni .
Trawsnewid, datblygu a rhoi siâp ar y dyfodol Ein gwerthoedd
Ffurfiwyd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (YDDS) ar 18 Tachwedd 2010 trwy uno Prifysgol Cymru Llambed a Choleg Prifysgol Y Drindod Caerfyrddin, o dan Siarter Frenhinol 1828 Llambed. Ar 1 Awst 2013, daeth Prifysgol Fetropolitan Abertawe yn rhan o YDDS. Croeso i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sydd wedi’i lleoli ar dri phrif gampws ysbrydoledig yn Abertawe, Caerfyrddin a Llambed.
∙ Cydweithio ∙ Cynhwysiant ∙ Cyflogadwyedd ∙ Datblygiad Cynaliadwy ∙ Cymru a’i Chymeriad Arbennig ∙ Cysyniad Dinasyddiaeth Fyd-eang ∙ Ymchwil a’i effaith ar bolisi
Rydym wrth ein bodd bod gennych ddiddordeb mewn ymuno â’n cymuned ddysgu gyfeillgar a gobeithiwn y byddwch yn dod yn un o’r myfyrwyr niferus sy’n dewis cyrraedd eu potensial gyda ni.
1800
1900
Mae gan Y Brifysgol gynllun strategol clir a chyffrous sy’n rhoi pwyslais ar ddysgu cymhwysol, disgyblaethau academaidd cryf ac ymrwymiad clir i arloesi, menter a throsglwyddo gwybodaeth. Mae’r Brifysgol amlgyswllt hon yn creu newidiadau strwythurol a strategol sy’n cysylltu’n agos â diwydiant, busnes a menter. Mae gan Grŵp YDDS yn agos i 27,000 o ddysgwyr, a gyda’n gilydd rydym yn darparu buddiannau clir a chadarn i ddysgwyr, cyflogwyr, diwydiant a chymunedau trwy gynnig ymagwedd alwedigaethol o lefel mynediad i ymchwil ôl-ddoethurol.
Cafodd Grŵp YDDS ei gyfoethogi ymhellach pan ymunodd dau bartner addysg bellach ag ef; Coleg Sir Gâr, sy’n goleg addysg bellach ac uwch a chanddo bum campws yn Sir Gâr, a Choleg Ceredigion, sy’n goleg addysg bellach a chanddo gampysau yn Aberteifi ac Aberystwyth. Bydd y Grŵp yn cael ei gryfhau ymhellach fyth pan fydd Prifysgol Cymru’n ymuno â’r Drindod Dewi Sant yn ei thro. Mae’r Is-Ganghellor yn esbonio rhagor am y Brifysgol ar ei newydd wedd yma: www.ydds.ac.uk/cy/amdano
2000
1822
1853
1931
1991
2008
2013
Sefydlu Coleg Dewi Sant, Llambed, gan yr Esgob Burgess
Sefydlu’r Ysgol Gelf yn Abertawe
Coleg y Drindod yn cael ei fabwysiadu’n enw ar y coleg yng Nghaerfyrddin
Athrofa Addysg Uwch Gorllewin Morgannwg yn troi’n Athrofa Addysg Uwch Abertawe
Athrofa Addysg Uwch Abertawe yn cyflawni statws Prifysgol ac yn newid ei henw i Brifysgol Fetropolitan Abertawe
Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Choleg Sir Gâr yn uno â Grŵp YDDS
1828
1872
1971
1996
2009
2014
Coleg Dewi Sant, Llambed, yn cael ei Siarter Frenhinol gyntaf
Sefydlu Coleg Hyfforddi Abertawe
Coleg Dewi Sant, Llambed, yn newid ei enw i Goleg Prifysgol Dewi Sant
Coleg Prifysgol Dewi Sant yn newid ei enw i Brifysgol Cymru, Llambed
Coleg y Drindod yn cyflawni statws Coleg Prifysgol
Coleg Ceredigion yn uno â Grŵp YDDS
1848
1895
1976
2010
2015
Agor y Coleg Hyfforddi Athrawon cyntaf yng Nghaerfyrddin
Ysgol Dechnegol Abertawe yn cychwyn ei hamserlen lawn gyntaf
Colegau Celf, Hyfforddi a Thechnegol Abertawe yn troi’n Athrofa Addysg Uwch Gorllewin Morgannwg
Ffurfio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant drwy Siarter Frenhinol ategol 1828
Canolfan Berfformio Cymru yn agor yng Nghaerdydd a chanolfan Gymraeg Yr Atom yn agor yng Nghaerfyrddin
32 | www.ydds.ac.uk
www.ydds.ac.uk 33
Dysgu a Chymorth i Bawb
Mae’r Brifysgol yn ymroi i addysg gynhwysol ac i ddarparu cymorth a chyfleusterau rhagorol i bob myfyriwr. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob math o fyfyriwr, waeth beth fo’u cefndir, ac mae ein tîm o staff ymroddedig ar draws bob campws, cyn ac yn ystod eich amser yn fyfyriwr gyda ni, yn darparu cyngor, arweiniad a chymorth priodol er mwyn sicrhau bod eich profiad o fod yn fyfyriwr yn un heb ei ail.
Ehangu Mynediad Mae Ehangu Mynediad yn hanfodol er mwyn hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol ac economi ffyniannus yng Nghymru. Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ymroi i gael gwared ar rwystrau at Addysg Uwch, boed y rheiny’n rhai ffisegol, cymdeithasol, diwylliannol neu ariannol. Mae’r Brifysgol yn gweithio gyda phartneriaid allanol fel ysgolion a cholegau i gyflwyno prosiectau allgymorth sy’n ceisio codi uchelgeisiau, magu hyder a chynyddu dilyniant i addysg uwch. Rydym yn aelod o Bartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach De Orllewin Cymru ac yn darparu ystod o weithgareddau a gwasanaethau i bobl ifanc sy’n byw mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf i godi ymwybyddiaeth
34 | www.ydds.ac.uk
ac i roi cipolwg iddynt ar fywyd prifysgol. Hefyd, rydym yn darparu gwasanaethau arbenigol i bobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal; ceir manylion pellach yn ein hadran Gwasanaethau Myfyrwyr ar dudalen 36. Mae’r Brifysgol hefyd yn ymwybodol fod nifer o fyfyrwyr aeddfed sy’n dychwelyd i fyd addysg yn siaradwyr Cymraeg rhugl neu wrthi'n dysgu'r iaith. Mae gan y Brifysgol systemau yn eu lle i gefnogi’r myfyrwyr hyn yn benodol, gan gynnwys staff arbenigol sydd ar gael i ddarparu cyngor a gwybodaeth lle bo angen.
Cymorth wrth i Chi Astudio Ar ddechrau eich cwrs, fe gewch gyflwyniad sylfaenol i sgiliau astudio a thechnoleg gwybodaeth. Yn ogystal, cynigir sesiynau galw heibio a sgiliau astudio i fyfyrwyr sydd eisiau cymorth gyda’u gwaith cwrs. Mae’r cyfryw gymorth yn cynnwys datblygu strategaethau astudio effeithiol, mynd i’r afael ag aseiniadau, paratoi cyflwyniadau, ysgrifennu traethodau a pharatoi at arholiadau. Mae’r cymorth hwn ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd. Hefyd, mae cymorth ar gael i fyfyrwyr a chanddynt Wahaniaethau Dysgu Penodol (er enghraifft, dyslecsia, dyspracsia).
Mae hyn yn cynnwys sgrinio, asesiad cychwynnol, cymorth un i un, addasu trefniadau arholiadau a hyfforddiant TG. Mae Gwasanaethau Myfyrwyr yn gweithio'n agos gyda gwasanaeth Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu'r Brifysgol wrth ddarparu cymorth dysgu. Mae adnoddau ychwanegol ar gael ar rithamgylchedd dysgu’r Brifysgol. Yn ogystal â hyn, mae’r staff academaidd yn eich cefnogi yn ystod eich cwrs a’ch amser yn y Brifysgol. Mae’r math o gymorth bugeiliol a gynigir yn amrywio yn ôl eich cwrs penodol. Nod y cymorth hwn yw sicrhau eich bod yn cael sylw unigol gan eich tiwtoriaid, er mwyn eich galluogi chi i drafod materion sy’n effeithio ar eich dysgu chi’n benodol. Unwaith eto, bydd y Brifysgol yn sicrhau y darperir y cymorth hwn yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ôl y gofyn.
Roedd
96%
o fyfyrwyr YDDS yn fodlon ar y ‘Gwasanaethau Myfyrwyr’ Roedd
92.3% o fyfyrwyr YDDS yn fodlon ar y ‘Cymorth Dysgu’ Roedd
92%
o fyfyrwyr YDDS yn fodlon ar y ‘Cymorth Iaith’ Roedd
90.4%
Mae YDDS yn cynnig dros £1m mewn amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i gefnogi myfyrwyr talentog o bob cefndir.
o fyfyrwyr YDDS yn fodlon ar y ‘Cwnsela’
Myfyrwyr Rhan-amser a’r rheiny sy’n Dychwelyd i Fyd Addysg Mae penderfynu astudio yn y Brifysgol yn gam cyffrous iawn, ond fe all hefyd fod yn un brawychus os nad ydych chi wedi bod mewn addysg ers amser. Mae pobl yn penderfynu dychwelyd i addysg am bob math o resymau a gall y rhain gynnwys rhai proffesiynol neu bersonol. Beth bynnag fo’ch cymhelliant, byddwch chi mewn cwmni da gan fod gennym ganran uchel o fyfyrwyr sy’n dychwelyd i astudiaethau. Er bod myfyrwyr rhan amser a’r rheiny sy’n dychwelyd i astudiaethau neu a chanddynt ymrwymiadau eraill yn wynebu heriau penodol, rydym ni’n credu y gallwch chi ymdopi â nhw yn ddigyffro gyda’r cymorth iawn. Mae system gymorth ragorol ar waith gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar gyfer ein holl fyfyrwyr gan sicrhau y cewch chi gymorth academaidd a bugeiliol pan fydd arnoch ei angen. Mae gennym gymysgedd eang o fyfyrwyr ac maent yn cynnwys pobl o bob oed a chefndir, a bydd llawer o’r pethau sy’n eich poeni chi hefyd yn poeni llawer o fyfyrwyr eraill.
Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015
www.ydds.ac.uk 35
Gwasanaeth Cwnsela Mae Gwasanaeth Cwnsela’r Brifysgol yn cynnig lefel uchel o gyfrinachedd a phreifatrwydd i fyfyrwyr sydd eisiau trafod unrhyw fater sy’n eu pryderu. Dim ond un sesiwn y mae rhai myfyrwyr ei heisiau, ond mae’n well gan lawer gael cyfres fer o sesiynau. Mae myfyrwyr yn defnyddio’r Gwasanaeth Cwnsela rhad ac am ddim i wyntyllu nifer fawr o faterion gwahanol - yn bersonol ac academaidd. Nid oes unrhyw anhawster yn cael ei ystyried yn rhy fach, ac mae’r Cwnselwyr yn gwneud eu gorau i ddarparu awyrgylch cynhaliol sy’n derbyn pobl fel ag y maent. Darperir y gwasanaeth hwn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mae’r Brifysgol yn cyflogi pedwar ymgynghorydd iechyd meddwl rhan amser sy’n gallu darparu cefnogaeth i fyfyrwyr a chanddynt anawsterau iechyd meddwl. Cefnogir ein hymgynghorwyr iechyd meddwl gan dîm o fentoriaid iechyd meddwl.
Cymorth i Fyfyrwyr a fu mewn Gofal Mae’r Brifysgol wedi derbyn Marc Safon Buttle UK i gydnabod ein hymrwymiad i bobl sy’n gadael gofal mewn addysg uwch. Os ydych yn gadael gofal ac yn dod i’r Brifysgol gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwn yn cynnig y cymorth a’r wybodaeth angenrheidiol i chi. Mae’r cymorth hwn ar gael wrth ichi benderfynu beth i’w astudio ac ymhle, mae’n parhau trwy gydol y broses o wneud cais i’r Brifysgol, ac wedi ichi ddechrau eich cwrs. Mae cymorth a gwybodaeth hefyd ar gael os ydych yn rhywun sy’n cynghori myfyriwr sydd
36 | www.ydds.ac.uk
wedi gadael gofal. Mae aelod o staff penodol yn yr Uned Gwasanaethau Myfyrwyr ar gael i roi cymorth i’r rheiny sy’n gadael gofal ar bob campws.
Myfyrwyr Anabl Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch o ran dysgu neu os oes Gwahaniaeth Dysgu Penodol gennych, gallwn ddarparu cymorth i’ch helpu ar eich cwrs, lle bo hynny’n rhesymol ac yn ymarferol. Os oes gennych anabledd, hoffem eich annog i roi gwybod i ni amdano cyn gynted ag y bo modd yn y broses ymgeisio, fel y gallwn drafod eich anghenion penodol. Gallwn hefyd drefnu cwrdd â chi i drafod eich anghenion ar Ddiwrnodau Agored a Diwrnodau Cyfweld. Mae’r Brifysgol hefyd yn darparu proses sgrinio gynhwysfawr ar gyfer gwahaniaethau dysgu penodol, cymorth gyda cheisiadau am Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA), a chymorth unigol i fyfyrwyr y mae arnynt angen hyfforddiant ychwanegol. Yn ogystal â hyn, mae gennym ystod o dechnoleg arbenigol i’ch helpu gyda’ch astudiaethau ac ystafelloedd a addaswyd yn arbennig yn ein Neuaddau Preswyl. Mae staff yr Uned Gwasanaethau Myfyrwyr a nifer o Swyddogion Llety’r Brifysgol ar gael i gynnig cymorth ac arweiniad i chi drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd.
Gofal Plant Mae’r Gamfa Wen ar gampws Caerfyrddin a Gwdihŵs ar gampws Llambed yn gyfleusterau pwrpasol ar gyfer babanod a phlant ifanc. Mae’r meithrinfeydd yn darparu amgylchedd diogel a chroesawgar lle y mae plant yn cael y gofal a’r sylw gorau. Mae digon o le i chwarae, dan do ac yn yr awyr agored, offer o ansawdd uchel
a staff dwyieithog cymwysedig - y cyfan yn cyfuno i gynnig profiad cyfoethog i blant. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â 01267 676645 ar gyfer Caerfyrddin neu 01570 423426 ar gyfer Llambed. Gall myfyrwyr ar Gampws Abertawe ffonio’r tîm Gwasanaethau Myfyrwyr ar 01792 481206 am ragor o wybodaeth ar opsiynau gofal plant yr ardal.
Gwasanaethau Meddygol
Caplaniaeth
Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog
Mae eich cyfnod yn y Brifysgol yn gallu bod yn gyfnod o chwilio am werthoedd ac ystyr a fydd yn cynnal a chyfoethogi eich bywyd cyfan. Mae llawer o gyfleoedd i archwilio a dathlu eich ffydd trwy’r gwahanol weithgareddau a drefnir gan dîm y Gaplaniaeth. Mae Caplan y Brifysgol ar gampws Caerfyrddin – sy’n rhugl ddwyieithog – a champws Llambed yn gallu rhoi cymorth i fyfyrwyr archwilio eu ffydd, yn ogystal â nifer o faterion eraill gan gynnwys darparu arweiniad cyfrinachol a chymorth i ddatrys problemau a phryderon. Mae’r Gwasanaeth Caplaniaeth yn gweithio’n agos gyda phob enwad i sicrhau bod credoau holl aelodau’r Brifysgol yn cael cefnogaeth.
Capeli ac Ystafelloedd Gweddi Mae Capel ar gampws Llambed a Chaerfyrddin a chynhelir gwasanaethau yma bob dydd yn ystod yr wythnos. Mae’r Capeli ar agor ar gyfer gweddi, myfyrdod a thawelwch trwy gydol y dydd. Hefyd, mae Mosg ar Gampws Llambed, ystafell weddi ar Gampws Abertawe a darperir ystafell ar gyfer gweddi ar amseroedd penodol o’r dydd ac o’r tymor ar gampws Caerfyrddin, yn amodol ar ofynion ein myfyrwyr.
Rydym yn eich annog i gofrestru gyda meddygfa leol pan gyrhaeddwch y Brifysgol. Mae’r Brifysgol yn gweithio gyda Meddygfa San Pedr yng Nghaerfyrddin, Canolfan Feddygol Llanbedr Pont Steffan a Chanolfan Iechyd yn Abertawe i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd i’n myfyrwyr.
Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant rydym yn cydnabod ac yn dathlu popeth a wna personél Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi dros bawb ohonom yn y gymuned ehangach. Rydym yn falch i fod yn llofnodyddion Cyfamodau Cymunedol y Lluoedd Arfog yn Sir Gâr ac Abertawe ac rydym yn gweithio gyda sefydliadau partner i sicrhau na fydd yr un aelod o’r Lluoedd Arfog sydd ar wasanaeth neu wedi ymddeol, boed yn Rheolaidd, Wrth Gefn neu’n Hen Filwr, na’u teuluoedd, dan anfantais oherwydd eu bod wedi gwasanaethu dros eu gwlad a’u bod yn cael triniaeth deg a chywir wrth gydnabod yr hyn y maent wedi’i wneud trosom ni gyd. Yn rhan o’n hymrwymiad i gefnogi’r Cyfamodau, mae person cyswllt penodol ar gael gennym i roi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i chi er mwyn eich helpu i ddewis y cwrs iawn, i weithio trwy eich hawliau ariannol ac i gefnogi’r broses ymgeisio.
95% Roedd 95% o fyfyrwyr YDDS yn fodlon ar y ‘Cymorth Anabledd’ Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015
www.ydds.ac.uk 37
Gwasanaeth Llyfrgelloedd ac
Adnoddau Dysgu Gwasanaeth Llyfrgelloedd ac Adnoddau Dysgu Mae’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd ac Adnoddau Dysgu yn cynnwys y llyfrgelloedd, parthau dysgu, casgliadau arbennig ac archifau.
Caerfyrddin Mae’r llyfrgell ar gampws Caerfyrddin yn adeilad cynllun agored mawr sy’n cynnwys nifer fawr o lyfrau, disgiau DVD, disgiau Blu-Ray, papurau newydd a chyfnodolion Cymraeg a Saesneg i gefnogi gweithgareddau dysgu ac addysgu’r Brifysgol. Mae’n cynnwys nifer o gyfrifiaduron personol a gellir cyrchu’r rhyngrwyd yn ddiwifr ym mhob rhan o’r adeilad. Ceir adran benodol sy’n darparu adnoddau dwyieithog ar gyfer myfyrwyr sy’n treulio cyfnodau mewn ysgolion fel rhan o’u rhaglen hyfforddiant cychwynnol athrawon. Mae’r campws yn gartref hefyd i’r Cwad sy’n cynnwys seddi cyfforddus, cyfrifiaduron personol, llecynnau astudio gyda chysylltiad diwifr, ystafelloedd pwrpasol ar gyfer gwaith grŵp ynghyd â llecyn eistedd awyr agored, y cyfan yn creu awyrgylch modern a hamddenol i astudio ynddo. Mae cyfle hefyd i fwynhau coffi Starbucks a byrbrydau wrth ichi weithio.
Abertawe Ar gampws Abertawe gallwch gyrchu unrhyw un o’n pedair llyfrgell sydd wedi’u lleoli’n gyfleus ar draws ein safleoedd. Er bod pob llyfrgell yn gwasanaethu’n bennaf ar ofynion astudio Ysgolion/ Cyfadrannau’r Brifysgol sy’n agos iddi, mae’r holl gyfleusterau ar gael i chi, waeth beth fo’ch rhaglen astudio benodol. Mae ein staff llyfrgell cyfeillgar a chymwynasgar yn helpu chi i ddod o hyd i’r wybodaeth y mae arnoch ei hangen i astudio. Mae eich llyfrgellydd pwnc ar gael i’ch helpu gydag unrhyw ymholiadau allai fod gennych, yn ogystal ag i gyflwyno hyfforddiant sgiliau gwybodaeth a chymorth. Hefyd, cewch gyflwyniad cynhwysfawr i adnoddau a gwasanaethau’r llyfrgell ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. Mae yna gatalog llyfrgell ar-lein sy’n eich galluogi i chwilio am lyfrau, cyfnodolion ac adnoddau argraffedig eraill yn ogystal â rhoi i chi’r cyfle i adnewyddu’ch benthyciadau, neu roi eitemau ar gadw nad ydynt ar gael ar unwaith. Gallwch hefyd gyrchu’r catalog trwy ap ar eich ffôn symudol. Hefyd, rydym yn cynnig amrywiaeth helaeth o adnoddau ar-lein, gan gynnwys mynediad at filoedd o erthyglau, cyfnodolion electronig a llawer o e-lyfrau sydd ar gael i chi o
wefan y llyfrgell. Byddwch yn gallu chwilio am a chyrchu’r rhan fwyaf o’r adnoddau ar-lein hyn o unrhyw gyfrifiadur ‘oddi ar y campws’, trwy ddefnyddio eich manylion mewngofnodi ar gyfer rhwydwaith y Brifysgol. Hefyd, rydym yn darparu amrywiaeth o lecynnau i astudio ar eich pen eich hun neu mewn grŵp, ciosgau hunanwasanaeth, Wi-fi, llungopïwyr a mannau cyfrifiaduron mynediad agored ym mhob llyfrgell, gyda chyfrifiaduron personol sydd wedi’u cysylltu â rhwydwaith y Brifysgol, sy’n rhoi’r opsiwn i chi argraffu a llungopïo mewn du a gwyn ac mewn lliw. Mae rhagor o wybodaeth ar yr adnoddau y mae’r llyfrgell yn eu cynnig ar gael ar wefan y Brifysgol, a gallwch hefyd ddilyn ein blog, tudalen Facebook a Thrydar. Gweler y dolenni o hafan y llyfrgell.
“
Llambed
Cewch fynediad at dros 500,000 o lyfrau ac 8,000 o gyfnodolion.
” Roedd
95%
o fyfyrwyr YDDS yn fodlon ar y ‘Llyfrgell Ar-lein’. Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015
“
Fel rhan o Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru, enillodd YDDS y wobr Tîm Llyfrgell Eithriadol yng Ngwobrau Arweinyddiaeth a Rheolaeth 2015 Times Higher Education.
Mae’r Llyfrgell ar gampws Llambed yn adeilad tri llawr sy’n cynnwys o leiaf 275,000 o lyfrau a chyfnodolion ynghyd â phapurau newydd. Mae’r llyfrgell yn cynnwys nifer o fannau gwahanol i astudio gan gynnwys mannau tawel i astudio ac i astudio mewn grwpiau. Mae cyfleusterau cyfrifiadurol ar gael ar un llawr ac mae gan yr adeilad cyfan gyfleusterau diwifr. Mae’n gartref hefyd i Lyfrgell ac Archifau Roderic Bowen, casgliad unigryw o fwy na 30,000 o gyfrolau a argraffwyd rhwng 1470 ac 1850 (yn cynnwys 69 incwnabwla) ynghyd ag 8 llawysgrif ganoloesol a 100 o lawysgrifau ôl-ganoloesol. Mae Llyfrgell y Brifysgol yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth electronig o ansawdd uchel trwy’r rhyngrwyd, ac mae’n cynnal tanysgrifiadau i nifer o gronfeydd data, e-lyfrau ac e-gyfnodolion addysgol. Mae porth gwybodaeth llyfrgell y Brifysgol, WorldCat Local, yn chwilio’r ystod lawn
o ddeunyddiau’r Llyfrgell ac mae hefyd yn eich galluogi i adnewyddu eitemau ar fenthyg ar ac oddi ar y campws dros y rhyngrwyd. Mae gliniaduron, MacBooks, tabledau Kindle Fire a chwaraewyr DVD hefyd ar gael i’w benthyca i’w defnyddio oddi ar y campws. Mae llyfrgellwyr pwnc yn cynnig gwybodaeth a gweithdai sgiliau gwybodaeth ar bob lefel i helpu myfyrwyr fanteisio i’r eithaf ar yr adnoddau a’r gwasanaethau. Mae gan y llyfrgell oriau agor hwylus ac amrywiaeth o opsiynau hunanwasanaeth, sy’n rhoi’r rhyddid i fyfyrwyr reoli eu hastudiaethau’n effeithiol. Hefyd, fe gewch gyflwyniad cynhwysfawr i adnoddau a gwasanaethau’r llyfrgell ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. Mae rhagor o wybodaeth am yr adnoddau a gynigir gan y llyfrgell ar gael ar wefan y Brifysgol, a gallwch hefyd ddilyn ein blog, tudalen Facebook a Thrydar. Gweler y dolenni o hafan y llyfrgell.
” 38 | www.ydds.ac.uk
www.ydds.ac.uk 39
Profiad Myfyrwyr
Gwirioneddol Fyd-Eang Er bod Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ei gwreiddio’n ddwfn ym mhridd a daear Cymru, y mae’n sefydliad sydd hefyd wedi ei gysylltu’n agos â nifer o bartneriaid rhyngwladol. Cyfoethogir yr addysg a ddarperir ar ei champysau gan bresenoldeb nifer cynyddol o fyfyrwyr o dramor. Gwna’r rhain gyfraniad allweddol i’r broses o ddatblygu ei myfyrwyr cartref yn ddinasyddion byd-eang. Mae gan y Brifysgol gysylltiadau agos â nifer o bartneriaid dylanwadol yng Ngogledd America, Asia ac Affrica a gwelir staff a myfyrwyr y Brifysgol yn ymweld â’r rhain yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn academaidd.
Daeth YDDS yn 1af o 46 sefydliad am ‘Gyfeillion Lleol’ (gwneud ffrindiau lleol wrth gyrraedd ar y campws) yn y Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015
40 | www.ydds.ac.uk
Mae’r Brifysgol yn gartref i Sefydliad Confucius cyntaf Cymru ac i Academi Cymru- America, i ddathlu dylanwad Cymru yn yr Unol Daleithiau. Mae nifer o wledydd yn y Dwyrain Canol yn elwa’n sylweddol ar arbenigedd y Brifysgol trwy waith ymchwil rhai o’i staff a chwricwlwm arbenigol nifer o’i Hysgolion. Mae’r rhagolwg rhyngwladol hwn a’r cysylltiadau byd-eang hyn yn ffurfio sylfeini newydd ar gyfer dyfodol ein cymuned addysgu a dysgu unigryw.
Cysylltiadau Byd-eang
Cyfleoedd i Astudio Dramor ac i fynd ar Leoliadau Gwaith Dramor Mae’r Brifysgol yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i fyfyrwyr dreulio amser dramor yn ystod eu hastudiaethau, boed hynny ar leoliad gwaith rhyngwladol neu yn rhan o’n rhaglen astudio dramor sefydledig ar gampysau Caerfyrddin a Llambed. Mae nifer o’n rhaglenni gradd yn cynnig lleoliadau gwaith ac mae myfyrwyr yn cael lleoliadau mewn mannau fel California, Dubai a Groeg. Mae treulio amser dramor fel rhan o’ch cwrs yn eich galluogi i ehangu eich gorwelion, i brofi gwahanol ddiwylliannau ac i ddatblygu’ch sgiliau, gwybodaeth a hyder. Mae myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn ein lleoliadau gwaith dramor neu gynlluniau astudio dramor yn canmol y profiad i’r eithaf.
Roedd
90.1%
o fyfyrwyr YDDS yn fodlon gyda’u profiad cyffredinol o gymorth Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015
O’r cychwyn cyntaf yn 1822, roedd myfyrwyr Coleg Dewi Sant gynt yn cael eu hannog yn frwd i ‘feddwl yn eang a meddwl yn fyd-eang’. Heddiw, o dan enw Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae’r Brifysgol wedi’i chysylltu â’r holl fyd trwy nifer fawr o bartneriaethau a phrosiectau rhyngwladol ar y cyd. Mae’r mentrau’n cynnwys cymryd rhan mewn rhwydweithiau ymchwil academaidd, recriwtio myfyrwyr rhyngwladol ar raglenni prifysgol yng Nghymru a Llundain, a rhaglenni cyfnewid staff a myfyrwyr, ysgolion haf rhyngwladol ac ymweliadau diwylliannol a thramor.
•
Mae’r Brifysgol, fel ‘Prifysgol Amlgyswllt’, yn gartref i Athrofa Confucius cyntaf Cymru, sy’n darparu cyfleoedd i fyfyrwyr, yn ogystal ag ysgolion yr ardal, ddysgu Mandarin ac ymgysylltu â'r diwylliant Tsieineaidd.
•
Sefydlwyd Academi Cymru-America i ddathlu dylanwad Cymreig yn yr Unol Daleithiau trwy hyrwyddo cyfleoedd i gyfnewid diwylliannau ac addysg.
•
Mae’r Brifysgol yn ddiwyd yn India ac mae ganddi Ymgynghorydd ym Mangalore, sy’n ymweld ag ysgolion, colegau a Phrifysgolion yn rheolaidd; ac yn mynychu ffeiriau addysg yn ogystal â chynnig cymorth yn y wlad i ymgeiswyr ar draws India.
•
Mae YDDS wedi cymryd yr adwy’n fyd-eang ar addysg arloesi, menter ac entrepreneuriaeth. Mae’r Sefydliad Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol Rhyngwladol (IICED), ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Abertawe, yn bwynt ffocws rhyngwladol sy’n dod â grŵp nodedig o arbenigwyr rhyngwladol mewn addysg entrepreneuraidd at ei gilydd i gymryd rhan mewn trafodaethau lefel uchel ac i ystyried safbwyntiau bydeang sy’n gallu, neu wedi, effeithio ar y broses o lunio polisïau. Nod y sefydliad yw bwydo i mewn i arferion gorau rhyngwladol mewn menter, entrepreneuriaeth ac addysgu, dysgu a gwerthuso entrepreneuraidd.
“Newidiodd y cyfle i astudio dramor fy mywyd. Gwelais y posibiliadau sydd ar gael i mi a faint o ryddid y gallaf ei gael. Roeddwn wrth fy modd yn YDDS, ond heb y cyfle i astudio yng Nghaliffornia, ni fyddaf wedi bod mor benderfynol o gael lle ar y cwrs. Mae’n gyfraniad amhrisiadwy at YDDS ac mae’r tîm rhyngwladol wedi gwneud jobyn gwych wrth ehangu meddyliau a phrofiadau ei myfyrwyr.” Claire Johnson, Myfyriwr Graddedig
www.ydds.ac.uk 41
Prifysgol
Amlgyswllt “
Credwn fod Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ‘brifysgol amlgyswllt’. Mae’r Brifysgol yn adeiladu ar ragoriaeth a threftadaeth ein sefydliadau cychwynnol i yrru cyfundrefn addysg newydd radical yn ei blaen. Y bwriad yw mynd i’r afael ag anghenion penodol Cymru gan ddarparu hefyd raglenni sy’n ddeniadol i fyfyrwyr o bob rhan o’r DU ac yn rhyngwladol.
Hyrwyddwn ragoriaeth mewn ymchwil, ysgolheictod, dysgu ac addysgu. Trwy’r rhain rydym yn buddsoddi’n sylweddol yn yr economi ac mewn arloesi cymdeithasol gan gefnogi twf economaidd, datblygiad cymdeithasol a diwylliannol cymunedau yn ein hardal leol a thu hwnt. Rydym yn falch o’r cysylltiadau hyn, ond yn fwy
na hynny, rydym yn dathlu’r cysylltiadau lu yn lleol a ledled y byd sy’n gwneud Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn nodedig. Edrychwn ymlaen â hyder a chenhadaeth glir at drawsnewid bywydau’r rheiny sy’n elwa o’u cysylltiad â’r Brifysgol hon.
Eleni, bydd gwaith yn dechrau ar Ardal Arloesi Glannau Abertawe YDDS, sy’n werth £300m, yn ardal SA1 y ddinas.
Fy hoff beth am astudio yn YDDS yw gwneud ffrindiau newydd.
”
Georgia Morgan, Gwasanaethau Cyhoeddus
Yn cysylltu â’n Myfyrwyr a’n Cyn-fyfyrwyr Mae ansawdd profiad myfyrwyr wrth wraidd ein ffordd o feddwl. Ein nod yw ysbrydoli unigolion a datblygu graddedigion ac ymarferwyr adfyfyriol sy’n gallu gwneud gwahaniaeth i gymdeithas. Byddwn yn parhau i ddarparu cyrsiau perthnasol a gyflwynir mewn amgylchedd sy’n cefnogi ein myfyrwyr trwy gydol eu gyrfa academaidd. Nid yw ein cysylltiad â chi yn dod i ben ar ddiwrnod eich graddio gan ein bod yn ceisio rhoi i’n cyn-fyfyrwyr brofiadau ar gyfer datblygu proffesiynol, lleoliadau i raddedigion, mentora, digwyddiadau rhwydweithio a chymdeithasol sy’n elwa’r teulu YDDS ehangach ble bynnag y bônt yn y byd.
Cysylltu â’n Cymuned Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, rydym yn cydnabod y rôl bwysig mae’r Brifysgol yn ei chwarae yn ein hardal leol ac rydym yn gweithio’n agos gyda’n cymunedau i’w cynnwys nhw ym mhopeth y mae gan y Brifysgol i’w gynnig. Mae YDDS yn rhan annatod o’r gymuned leol ac rydym yn ceisio gwneud cyfraniad positif i’r rhanbarth a’i dinasyddion mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae’r rhain yn amrywio o weithio mewn cymunedau lleol i’r cyfraniad a wna uwch aelodau staff at gyrff allweddol sy’n effeithio ar fywydau’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
42 | www.ydds.ac.uk
Mae’r gwaith hwn yn darparu gwir gyfle i greu perthynas ddwyffordd gynaliadwy, y mae myfyrwyr a’r gymuned yn elwa ohoni. Mae myfyrwyr yn cael profiadau amhrisiadwy ac yn gallu cymhwyso’u hastudiaethau i amgylchedd bywyd go iawn. Mae hyn yn dal llygad cyflogwyr y dyfodol sy’n rhoi gwerth ar y rhinweddau a’r sgiliau a ddatblygir trwy weithio mewn prosiectau cymunedol a gwirfoddol. Cynigwyd gwaith i nifer o raddedigion diweddar o ganlyniad uniongyrchol i brosiectau cymunedol y maent wedi bod yn rhan ohonynt yn ystod eu hamser yn y Brifysgol. Gyda datblygiad Canolfan S4C Yr Egin ar gampws Caerfyrddin a Chanolfan Gymraeg Yr Atom ar Stryd y Brenin, Caerfyrddin, bydd gan y Brifysgol gyfleoedd o’r newydd i ymgysylltu ymhellach â’r gymuned Gymraeg yn lleol ac yn genedlaethol. Hefyd, rydym yn gwahodd ein cymunedau i'r campysau pryd bynnag y bo’n bosibl gan gynnig ystod o sgyrsiau, gweithdai, perfformiadau, ffeiriau crefftau a digwyddiadau eraill trwy gydol y flwyddyn. Mae Côr Aelwyd y Drindod Dewi Sant a’r perfformiadau theatrig cyfrwng Cymraeg yn denu nifer i’r campysau ac yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr berfformio ar draws Cymru. Ein bwriad yw dal ati gyda’r gwaith da hwn ac i gydweithio gyda mwy o sefydliadau i ddarparu prosiectau eang a chynaliadwy
sy’n cynyddu cyflogadwyedd ac uchelgeisiau’r myfyrwyr sy’n eu cyflwyno nhw, yn ogystal â gwella rhagolygon y gymuned y mae’r Brifysgol wedi’i lleoli ynddi.
Cysylltu â’n Teulu Estynedig Mae’r Brifysgol yn cydweithio mewn partneriaeth â llawer o sefydliadau addysg eraill a chyfundrefnau eraill yn ein hardal leol, ac o gwmpas y byd. Yn rhan o grŵp YDDS, mae colegau lleol Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn chwarae rhan hanfodol yn ein gweledigaeth i gynnig math newydd o brofiad Addysg Bellach ac Addysg Uwch ‘systemseiliedig’ yn ein rhanbarth. Trwy weithio’n agos i sicrhau llwybrau dilyniant i fyfyrwyr o Addysg Bellach yr holl ffordd i astudiaethau ôl-ddoethurol, ein nod yw creu rhwydwaith dysgu gydol oes i’n myfyrwyr a graddedigion, a fydd yn cael effaith bositif ar ein rhanbarth – yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn economaidd. Hefyd, mae gennym gysylltiadau cydweithredol cryf gyda busnes, y celfyddydau a sefydliadau rhanbarthol eraill, ac mae gennym doreth o bartneriaid addysgol o gwmpas y byd. Mae hyn yn galluogi i’n myfyrwyr elwa o brofiad addysg wirioneddol fyd-eang, yma yng nghalon Cymru neu yn un o’n canolfannau partner yn y DU a thramor.
www.ydds.ac.uk | 43
Rhoi Siâp
ar y Dyfodol Mae ymchwil yn tanategu gweledigaeth y Brifysgol i drawsnewid, datblygu a rhoi siâp ar ddyfodol pobl. Nid yn unig y mae’n ymestyn y gronfa wybodaeth, ond mae YDDS hefyd yn gwrando ar ac yn gweithio gyda diwydiant a chyflogwyr, felly gallwch chi elwa o’i chysylltiadau. Mae’r Brifysgol yn ymrwymo i ymchwil sy’n cyfrannu at fywiogrwydd ac adfywio economaidd yr ardal ac mae’n datblygu enw da am weithio ar y cyd â busnes, diwydiant, y llywodraeth a phartneriaid eraill. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, sef yr asesiad o ymchwil a adolygir gan gymheiriaid mwyaf yn y byd, dyfarnwyd bod 47% o’n hymchwil ar flaen y gad yn fyd-eang neu’n rhyngwladol, gyda 39% arall yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei arwyddocâd a’i drylwyredd. Yn rhan o’i waith, mae Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi ac Effeithiolrwydd Adnoddau (INSPIRE) YDDS yn ceisio datblygu gallu ymchwil ac arloesi sy’n canolbwyntio ar gryfderau craidd y Brifysgol. Mae YDDS wedi cael tair Gwobr Green Gown, ac un gymeradwyaeth uchel, yn dathlu arfer da’r Brifysgol mewn cynaliadwyedd, gan gynnwys Newydd-ddyfodiad Gorau a gwobr arweinyddiaeth i Dr Jane Davidson, Cyfarwyddwr INSPIRE.
44 | www.ydds.ac.uk
Wrth ddatblygu prosiectau ymchwil, anogir ein cymuned academaidd i ddangos manteision eu gwaith i’r economi, cymdeithas, polisi cyhoeddus, diwylliant ac ansawdd bywyd. Mae rhagoriaeth ymchwil ym meysydd Archaeoleg, Hanes, Anthropoleg, Celf, Dylunio Cymhwysol, Clasuron, Astudiaethau Celtaidd, Astudiaethau Crefyddol, Gwyddorau Amgylcheddol, Addysg, Seicoleg, Peirianneg a Chyfrifiadura Cymhwysol yn sail i’n gweithgarwch ymchwil ac arloesi amlddisgyblaeth mewnol. Yn yr asesiad cyntaf o effaith ymchwil ar draws y DU, dyfarnwyd bod 60% o waith ymchwil YDDS naill ai’n eithriadol (23%) neu’n sylweddol iawn (37%) o ran ei gyrhaeddiad a’i arwyddocâd. Dengys hyn gryfder gwaith ymchwil y Brifysgol a’i gyfraniad at chwilio am ddatrysiadau i heriau’r byd go iawn. Mae ein canolfannau rhagoriaeth cynaliadwy, y mae nifer ohonynt yn cael eu cefnogi gan grantiau ymchwil mawr, wedi’u hadeiladu i gael effaith ac i wella cyfalaf cymdeithasol, diwylliannol a ffisegol Cymru a thu hwnt. O ganlyniad i themâu trawsbynciol fel addysg, dylunio, yr amgylchedd, busnes, cynaliadwyedd, treftadaeth, iechyd a lles, mae ein hymchwil
yn gydweithredol ac yn gweithio ar draws cyfadrannau a meysydd astudio. Golyga ein cenhadaeth drefol a gwledig cyfun ein bod yn ymroi i ddatblygu gwybodaeth leol newydd i’w defnyddio’n sail i ddadleuon ehangach, yn arbennig ar gydraddoldeb, cynhwysiant a chyfiawnder cymdeithasol.
Roedd
Mae staff academaidd y Brifysgol yn cymryd rhan mewn prosiectau sy’n gwneud gwir wahaniaeth i gymdeithas, o’r Grŵp Ymchwil Arfordirol a Morol yn Ysgol yr Amgylchedd Naturiol ac Adeiledig y mae eu gwaith yn ymdrin ag effeithiau newid yn yr hinsawdd ar ein amgylcheddau arfordirol, i brosiect Llongau Casnewydd, sy’n perthyn i rwydwaith Ewropeaidd gwerth €4m o ymchwilwyr sy’n datblygu dulliau newydd ym maes archaeoleg morol a thechnegau cadwraeth treftadaeth ddigidol.
DLHE 2013/14
Yn fyfyriwr yn YDDS byddwch yn elwa o fewnwelediad ymchwil y byd go iawn sy’n bwydo i mewn i’n haddysgu, ac o fod yn rhan o gymuned ddysgu fyd-eang sy’n ymroi i gael effaith bositif ar y byd ehangach.
93%
o fyfyrwyr YDDS mewn gwaith a/ neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl graddio
Roedd
96%
o fyfyrwyr YDDS yn fodlon ar eu ‘Darlithwyr Arbenigol’ Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015
Am ragor o wybodaeth am ymchwil yn YDDS ac am gyfleoedd i chi, ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/ymchwil
www.ydds.ac.uk 45
Addysg Ysbrydoledig ar gyfer
Dyfodol Cynaliadwy Mae gwneud gwahaniaeth yn y byd yn golygu mwy nag ennill gradd dda a bod yn barod ar gyfer eich gyrfa. Yn Y Drindod Dewi Sant, rydym yn cydnabod y bydd angen cael addysg gynhwysfawr arnoch sy’n eich galluogi i wneud penderfyniadau hirdymor gwell drwy ystyried effaith gweithredoedd heddiw ar genhedlaeth y dyfodol ac i ddysgu byw o fewn y ffiniau amgylcheddol. Mae datblygu eich ymwybyddiaeth o’r ystyriaethau hyn yn mynd i sicrhau eich bod mewn safle cryf o fewn y farchnad swyddi ryngwladol. Mae dyfodiad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, y gyntaf o’i bath yn y byd, yn golygu bod lles cenedlaethau’r dyfodol yn mynd i fod yn greiddiol i holl benderfyniadau’r llywodraeth. Mae’n bwysicach nag erioed felly bod ein graddedigion yn deall gwerth gwneud penderfyniadau cynaliadwy. Mae’r Brifysgol, drwy waith arobryn ein Sefydliad Arfer Cynaliadwy ac Effeithiolrwydd Adnoddau (INSPIRE), wedi gwneud ymrwymiad i Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF). Rydym yn sicrhau bod Datblygiad Cynaliadwy wedi’i
46 | www.ydds.ac.uk
fewnosod yn holl ddysgu, addysgu, cyrsiau, campysau, cymuned a diwylliant Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i sicrhau bod graddedigion y dyfodol yn ymwybodol o’r byd y maent yn byw ynddo ac yn ddinasyddion cyfrifol yn yr 21ain ganrif. Nid dim ond cynnwys y modylau y byddwch yn eu cymryd a fydd yn ymgorffori’r ethos hwn, ond hefyd y ffordd yr ydym yn addysgu. Ers ei ddechrau yn 2012, mae INSPIRE wedi ennill gwobr y Guardian am Gynaliadwyedd mewn Addysg Uwch yn 2013, Nod Arlwyo Aur ‘Bwyd am Oes’ gan Gymdeithas y Pridd yn 2014 am ein cefnogaeth i gynnyrch lleol – ac yn 2015, cododd YDDS o’r 113eg safle yn y DU a gradd trydydd ddosbarth i Radd Dosbarth 1af ac 8fed yn y DU a 1af yng Nghymru yng Nghynghrair Prifysgolion People and Planet. Mae’r Brifysgol wedi ennill 3 gwobr Green Gown, ac un clod uchel, yn 2015 am ein gwaith ar gynaliadwyedd yn y sector Addysg Uwch, gan gynnwys gwobr y Newyddddyfodiaid Gorau ac hefyd gwobr arweinyddiaeth i gyfarwyddwraig INSPIRE, Dr Jane Davidson. O fwyd i gyfarfodydd, addysgu i arweinyddiaeth, mae’r Brifysgol
yn chwilio am ffyrdd i archwilio a gosod arfer cynaliadwy ym mhopeth a wnawn. Y mae’r Brifysgol yn cydnabod bod y Gymraeg a chynnal cymunedau Cymraeg i’r dyfodol yn rhan greiddiol o ddatblygu cynaliadwy yng Nghymru. Y mae hyn yn un o’r prif resymau ei bod yn ceisio darparu addysg Gymreig a Chymraeg bob amser lle bo hynny’n ymarferol bosibl. Gallwch gymryd rhan yng ngwaith INSPIRE drwy’r interniaethau cyflogedig sydd ar gael i is-raddedigion yn flynyddol ar draws ein campysau. Mae’r interniaethau ar gael ar draws sawl categori: NUS Green Impact, Ynni a Masnach Deg fel rhan o’n menter ‘Byw’n Wyrdd’. Mae cyllid ar gael i sicrhau criw newydd o interniaethau ar ddechrau bob blwyddyn academaidd. Mae Green Impact yn gynllun achredu a gwobrau, sydd wedi cael ei ddatblygu gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, ac mae’n tynnu at ei gilydd dîmau o staff ar draws y Brifysgol sy’n chwarae rôl allweddol i leihau effaith negyddol amgylcheddol y gweithle a hybu rhai cadarnhaol. Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan drwy weithio fel archwilwyr a thrwy ryngweithio gyda’r timoedd i adnabod eu cyflawniadau ar draws y flwyddyn.
Ymunwch â ni yn YDDS a gobeithiwn y byddwch yn gwneud y gorau o’r cyfle hwn i ddatblygu’ch sgiliau, dealltwriaeth a’ch gallu mewn Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang.
Byd sy’n Newid: YDDS oedd y sefydliad cyntaf yng Nghymru i gynnal yr arddangosfa ffotograffiaeth awyr agored arwyddocaol a ddathlwyd yn fydeang, ‘WHOLE EARTH?’ sy’n ceisio cynnwys y cenedlaethau iau yn y ddadl am gynaliadwyedd.
Roedd
85%
o fyfyrwyr YDDS yn fodlon gydag ‘Agwedd dda at yr Amgylchedd’ Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015
Gwobrau Green Gown Yn ddiweddar, cafodd y Brifysgol bedair Gwobr Green Gown am ei gwaith cynaliadwyedd ym maes Addysg Uwch gan gynnwys gwobr Newydd-ddyfodiad Gorau a gwobr arweinyddiaeth i gyfarwyddwr INSPIRE, Dr Jane Davidson.
People and Planet Drwy ennill Gwobr Dosbarth Cyntaf, daeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gyntaf yng Nghymru yng Nghynghrair Prifysgolion People and Planet 2015, ac yn 8fed allan o 151 o brifysgolion ar draws y Deyrnas Unedig. Dyma’r unig gynghrair werdd gynhwysfawr ac annibynnol ar gyfer prifysgolion ar draws y Deyrnas Unedig.
Gwobr y Guardian Enillodd prosiect INSPIRE Wobr y Guardian am y prosiect cynaliadwyedd gorau yng Ngwobrau Prifysgolion 2013 y Guardian.
www.ydds.ac.uk 47
Eich Gyrfa
Blas ar Waith
i'r Dyfodol Mae’r rhan fwyaf o bobl yn mynd i’r brifysgol i ddatblygu eu hunain er mwyn cael dyfodol llwyddiannus. Mae eich helpu chi i ddarganfod a chyflawni eich dyheadau yn y dyfodol yn rhan allweddol o’n rôl fel prifysgol, felly rydym yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr y bydd gennych chi, yn un o raddedigion YDDS, y sgiliau y bydd arnoch eu hangen i lwyddo, boed hynny trwy weithio i gyflogwr, sefydlu eich busnes eich hun, teithio, gwirfoddoli neu beth bynnag arall y byddwch chi’n ei ddewis. Dyma rai o’r ffyrdd rydym yn eich cefnogi chi wrth i chi gyflawni eich nodau gyrfaol...
Arweiniad a Chymorth Gyrfaoedd Mae gan y Brifysgol wasanaeth gyrfaoedd pwrpasol sydd ar agor i holl fyfyrwyr a graddedigion y Brifysgol. Rhedir y gwasanaeth gan staff gyrfaoedd proffesiynol ac mae’n cynnig ystod eang o wasanaethau; o nodi llwybrau gyrfa posibl, chwilio am waith, cyngor ar eich CV a chyfweliadau, dod o hyd i wybodaeth am yrfaoedd, i help gyda gwneud cais am arian ac astudiaethau ôl-raddedig. Bydd y Brifysgol yn cysylltu gyda’n graddedigion chwe mis ar ôl iddynt raddio i weld beth maen nhw’n gwneud ac i weld os oes angen
48 | www.ydds.ac.uk
cymorth ychwanegol arnynt gan ein Gwasanaeth Gyrfaoedd. Rydym yn unigryw gan ein bod yn cynnig y cymorth a'r arweiniad hwn i’n graddedigion am ba bynnag hyd ag sydd angen arnynt.
Gwirfoddoli yn y Gymuned Yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol, cewch gyfleoedd niferus i wirfoddoli yn y gymuned leol. Mae nifer o’n myfyrwyr yn gwirfoddoli gyda’r Urdd neu gyda’r Mentrau Iaith yn Sir Gaerfyrddin tra bo eraill yn manteisio ar gyfleoedd gwirfoddoli gydag elusennau lleol. Bydd cyfleoedd i chi hefyd wirfoddoli yn Yr Atom, Canolfan Gymraeg Caerfyrddin, a reolir gan y Brifysgol. Yr hyn sydd wrth wraidd yr holl brofiadau yn y gweithle a gynigir i fyfyrwyr yw dymuniad y Brifysgol i weld y nifer mwyaf posibl o’i graddedigion yn cael swyddi da wedi iddynt raddio. Rydym yn awyddus iawn i ddarparu profiadau perthnasol mewn cyd-destunau Cymraeg a dwyieithog ar gyfer y myfyrwyr hynny sy’n dymuno gweithio mewn cyd-destunau tebyg yn y dyfodol. Fe ddylai’r ffaith eich bod yn ddwyieithog ac wedi profi cyfnodau o brofiad gwaith neu wirfoddoli mewn cyd-destunau dwyieithog fod yn fantais sylweddol i chi os penderfynwch ymgeisio am swyddi yng Nghymru; neu o fewn unrhyw gymuned ddwyieithog arall yn y dyfodol.
Ymweliadau Astudio a Theithiau Maes
Roedd
Rhoddir y cyfle i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr fynd ar ymweliadau astudio a theithiau maes. Er nad ydy’r rhain bob tro’n rhan annatod o’r cyrsiau, mewn llawer o achosion, maent yn eich galluogi chi i gymhwyso’ch gwybodaeth i arfer proffesiynol ac maent yn ehangu ar eich profiad o’ch pwnc.
o fyfyrwyr YDDS yn fodlon ar y 'Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd'.
Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi mwynhau ymweliadau a theithiau maes i leoedd fel parciau cenedlaethol, amgueddfeydd, orielau a theatrau yn y DU, gan gynnwys orielau celf, amgueddfeydd a sioeau ‘West End’ Llundain. Ymhlith cyrchfannau teithiau maes dramor y mae Gwlad Pwyl, Norwy, Ffrainc, Gambia, Yr Almaen, Groeg, Yr Eidal, Iwerddon, Sbaen, Y Swistir, Seland Newydd a’r Unol Daleithiau. Drwy fynychu teithiau o’r fath, cewch gyfle i astudio agweddau newydd ar eich cyrsiau, gan gynnwys safbwyntiau rhyngwladol a allai fod yn wahanol iawn i’r safbwyntiau Cymreig y byddwch yn fwy cyfarwydd â hwy. I ddysgu rhagor am y teithiau sydd ar gael ar eich cwrs, ewch i dudalen we’r cwrs neu cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn.
93%
Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015
Mae GO Wales yn brosiect cyflogadwyedd newydd a chanddo swyddogion ar bob campws. Mae’n targedu grwpiau fel y rheiny ag anghenion ychwanegol, pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, pobl sy’n gadael gofal ayb. Gallwch hefyd gael cymorth i ddod o hyd i brofiad gwaith a mentora. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd.
Profiad Gwaith, Lleoliadau ac Interniaethau Bydd cyfle i chi fanteisio ar gyfleoedd profiad gwaith trwy gydol eich astudiaethau yn y Brifysgol, naill ai fel rhan o’ch rhaglen radd neu fel gweithgaredd ychwanegol. Mae profiad gwaith yn rhoi cipolwg defnyddiol i chi ar swyddi penodol, ac fe all eich helpu i benderfynu ar y llwybr gyrfa iawn i chi. Gall mynd ar brofiad gwaith arwain at gynigion o waith a gall eich helpu wrth i chi wneud ceisiadau am swyddi wedi i chi raddio. Cynigir hefyd interniaethau i alluogi myfyrwyr i ddod o hyd i waith gyda chwmnïau yn ystod cyfnodau o wyliau neu i weithio ar faterion cynaliadwyedd. Sicrheir bod myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael cyfle i fanteisio ar leoliadau gwaith Cymraeg neu ddwyieithog ar draws y rhanbarth a thu hwnt. Manteisiwn ar y partneriaethau a ddatblygwyd gan y Brifysgol gyda chwmnïau, mudiadau a sefydliadau ar hyd y blynyddoedd.
Siop Swyddi Mae’r Siop Swyddi’n wasanaeth sy’n rhedeg ar-lein, a thrwy’r Gwasanaethau Gyrfaoedd. Mae gennym fanylion ar ein basdata am nifer o swyddi graddedig, rhan amser/achlysurol, cyfleoedd
gwirfoddoli ac interniaethau yn y DU a thramor. Edrychwch ar y Gwasanaeth Gyrfaoedd ar ein gwefan yn: ydds.ac.uk/cy/gyrfaoedd
Menter ac Entrepreneuriaeth Rydym ni’n credu bod angen i fyfyrwyr gael eu paratoi’n fwy effeithiol ar gyfer byd gwaith, yn arbennig i weithio mewn busnes, a bod myfyrwyr mentrus ac entrepreneuraidd yn mynd law yn llaw â chyflogadwyedd. Felly, rydym yn rhoi i’n myfyrwyr gipolwg ar, a phrofiad o’r sgiliau niferus sydd eu hangen i gynllunio, trefnu a rhedeg busnes; ynghyd â phrofiad masnachol a lleoliadau mewn diwydiant. Mae arnom ni eisiau i’n holl fyfyrwyr, yn arbennig y rheiny sydd wedi dod o gefndiroedd sydd â chyflawniad isel a diffyg hunanhyder, allu goresgyn eu pryderon, a datblygu’r gallu i ganolbwyntio a bod yn benderfynol wrth yrru eu syniadau ymlaen. Yn fyr, mae arnom eisiau eu helpu i lwyddo ym mha bynnag beth y maent yn penderfynu gwneud. Anogir datblygiad y rhinweddau personol hyn trwy gydol ein haddysgu. Mae menter ac entrepreneuriaeth wedi’u mewnosod yn benodol yng nghwricwlwm y rhan helaethaf o gyrsiau gan gynnwys modylau ac asesiadau sy’n cario credydau. Rydym yn darparu gweithgareddau allgyrsiol y gallwch wirfoddoli i gymryd rhan ynddynt. Mae’r rhain yn cynnwys cynlluniau fel ‘Wythnos Menter’, ‘Swigen Greadigol’, ‘Graduate Launch Pad’ a gweithdai model rôl trwy ‘Shut Up and Start Up’ lle gall myfyrwyr gwrdd â graddedigion ysbrydoledig a gweithio ar draws pob cyfadran a gyda’r holl grwpiau myfyrwyr.
www.ydds.ac.uk 49
Dylunio Bywyd
Cynllun Unigryw i YDDS Gwneud Synnwyr o’ch Dyfodol gyda Dylunio Bywyd Yn YDDS gwyddom fod ein myfyrwyr yn dod i’r Brifysgol am ddau brif reswm – i gael profiad dysgu gwych ac i ddatblygu bywyd gwell iddyn nhw’u hunain wedi iddynt raddio. Rydym wedi datblygu rhaglen unigryw, sydd ond ar gael yn YDDS, y mae ein holl fyfyrwyr yn rhan ohoni ac sy’n eu cynorthwyo i wneud y gorau o’r cyfleoedd a gânt yn y Brifysgol ac i greu’r math o fywyd y dymunant ei fyw ar ôl hynny. Bydd sesiynau all-gyrsiol yn cael eu cynnig yn Gymraeg ar gampysau Caerfyrddin ac Abertawe ynghyd â sesiynau Dylunio Bywyd cyfrwng Cymraeg yn ystod y cyfnod anwytho. Bydd gwefan cyfrwng Cymraeg yn cynnig adnoddau ar-lein, cyfleoedd ac ysbrydoliaeth i’ch cynorthwyo gyda’ch astudiaethau.
Beth yw Dylunio Bywyd? Rhaglen pedwar cam yw Dylunio Bywyd sydd ar gael i’n holl fyfyrwyr trwy weithdai, digwyddiadau, ac adnoddau arlein ac all-lein, ac sy’n eu helpu i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yn y Brifysgol a pharatoi at eu dyfodol. Mae pob myfyriwr yn y flwyddyn gyntaf yn cymryd rhan mewn sesiwn Dylunio Bywyd ar ddechrau eu profiad prifysgol yn YDDS a chewch fynediad at ystod o ddigwyddiadau, heriau, sesiynau sgiliau a chymorth arall trwy gydol eich cwrs. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio offer dylunio i gynhyrchu nifer o lwybrau posibl at y dyfodol ac i ddylunio bywyd yn y dyfodol a fydd yn cyd-fynd â’ch anghenion.
Cyflogadwyedd Cynaliadwy Mae’r byd yn newid, ac mae’n bosibl na fydd y swyddi sydd ar gael heddiw yn bod flwyddyn nesaf, heb sôn am y cyfnod pan fyddwch yn graddio ymhen rhai blynyddoedd. Dyna pam rydym wedi creu cynllun newydd. Yn hytrach na’ch paratoi ar gyfer un llwybr gyrfa, mae’r rhaglen Dylunio Bywyd yn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau, yr agweddau a’r meddylfryd a fydd yn eich galluogi i ailddyfeisio’ch hun yn barhaus yn y farchnad lafur sy’n newid yn gyflym.
Astudiaeth Achos: Ras i’r Fachnad Mae Ras i’r Farchnad yn her sy’n para wythnos ac yn dod â grwpiau o fyfyrwyr o bob rhan o’r Brifysgol at ei gilydd i weithio ar heriau masnachol a osodir gan gwmnïau neu i ddatblygu eu syniad busnes eu hunain. Gyda help mentoriaid busnes profiadol a chanddynt gefndir mewn cyllid, strategaeth, y gyfraith, eiddo deallusol ynghyd ag arbenigedd technegol, bydd ein myfyrwyr mentrus
yn treulio wythnos yn trafod a datblygu cyfres o brosiectau sy’n ddichonadwy’n fasnachol a gaiff eu cyflwyno, yn y pendraw, i banel o feirniaid. Y llynedd, ymhlith y cleientiaid masnachol roedd actores Bollywood, cwmni teledu a brand dillad, a heriodd ein myfyrwyr gyda chyfleoedd busnes y byd go iawn i weithio gyda nhw ac i arddangos eu sgiliau.
Dyma a ddywedodd rhai o gyfranogion y llynedd am y digwyddiad... “Wow! Am wythnos wych i fod yn rhan ohoni! Rwyf wedi dysgu cymaint mewn cyn lleied o amser ac mae’r hyn rydym wedi’i gyflawni wedi bod yn werth yr holl waith caled! Peidiwch ag oedi! Cymerwch ran! Fyddwch chi ddim yn ei ddifaru!” Mathew “Wrth fy modd! Mae Tîm Dylunio Bywyd yn wych!” Jahanzeb
Gallwn eich helpu i : • Ddatrys sut i ddylunio a chreu gyrfa a ffordd o fyw sy’n gweddu i chi, yn ystod eich amser yn y Brifysgol ac wedi hynny • Deall pa sgiliau a rhinweddau sydd gennych yn barod a magu’r hyder i’w defnyddio • Manteisio i’r eithaf ar eich amser yn y Brifysgol i gael y profiadau y bydd arnoch eu hangen yn y dyfodol • Datblygu eich rhwydweithiau a chyflwyno’ch hunan ar-lein ac all-lein mewn ffyrdd a fydd yn sicrhau bod y cyfleoedd gorau ar gael ichi • Meithrin yr hyder a’r gallu i ail-ddylunio’ch bywyd os bydd amgylchiadau’n newid neu os byddwch yn newid eich meddwl.
50 | www.ydds.ac.uk
www.ydds.ac.uk 51
Y Gymraeg
yn YDDS Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ei hymrwymo ei hun i ddatblygu darpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg ac rydym yn cynnig ysgoloriaethau hyd at £1,800 i annog myfyrwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y Brifysgol. Sylwer bod yr ysgoloriaethau hyn yn ychwanegol i’r ysgoloriaethau y mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn eu cynnig. Mae’r Drindod Dewi Sant yn brifysgol naturiol ddwyieithog, lle mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cyd-fyw mewn cytgord. Mae canran uchel iawn o’n staff a’n myfyrwyr yn medru’r Gymraeg ar draws ein campysau ac mae campws Caerfyrddin yn
enwedig yn adnabyddus am ei awyrgylch Cymraeg. Fe fydd lleoli pencadlys S4C ar y campws ymhen rhai blynyddoedd yn cyfrannu ymhellach at awyrgylch Cymraeg ac yn sicr bydd cyfle i fyfyrwyr elwa o bresenoldeb S4C a’r 25 o bartneriaid eraill a fydd yn gweithio yng Nghanolfan S4C Yr Egin maes o law.
Darpariaeth Gymraeg a Dwyieithog
“Gan fy mod i wedi derbyn fy holl addysg uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg, a dyma yw fy iaith gyntaf i, roeddwn wedi gobeithio gallu parhau â hynny yn y Brifysgol, ac yma, rwy’n cael y cyfle i gwblhau fy ngwaith a’r arholiadau i gyd yn y Gymraeg.
Gwenno Gibbard, Addysg Gorfforol
52 | www.ydds.ac.uk
”
Cynigir cyrsiau cyfrwng Cymraeg yn y Brifysgol yng Nghaerfyrddin ond hefyd gellir astudio rhai cyrsiau yn ddwyieithog yng Nghaerfyrddin ac Abertawe. Mae hyn yn golygu os ydych wedi’ch cofrestru ar gwrs cyfrwng Saesneg, mae’n bosib y gallwch astudio modwl, gyflwyno gwaith neu fynychu seminarau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae yma hefyd ddigon o gyfleoedd i chi wella’ch sgiliau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn dosbarthiadau i ddysgwyr a gwersi gloywi iaith. Mae’r cyfleoedd hyn yn eich galluogi i ddatblygu’ch sgiliau yn y ddwy iaith - sy’n rhoi mantais sylweddol i chi wrth ymgeisio am swyddi ar ddiwedd eich cwrs. Mae Campws Caerfyrddin yn hanesyddol wedi darparu ystod o raglenni addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig ym meysydd hyfforddi athrawon a’r celfyddydau perfformio. Yn ogystal â pharhau i gynnig darpariaeth israddedig ac ôlraddedig o’r radd flaenaf yn y meysydd hyn, mae’r Brifysgol hefyd wedi buddsoddi mewn darpariaeth o’r newydd yn ystod y blynyddoedd diweddar ar draws campysau Caerfyrddin, Llambed ac Abertawe mewn meysydd
megis Plentyndod Cynnar, Gwaith Ieuenctid a Chymuned, Addysg Gorfforol ac Addysg Antur Awyr Agored, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol, Busnes, Celf a Dylunio ac mae’r ddarpariaeth yn ehangu. Mae canran uchel o’r staff yn gwbl ddwyieithog a gellir darparu cefnogaeth diwtorial a bugeiliol ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn eu mamiaith.
Cefnogaeth gyda’r Gymraeg Darperir cyrsiau Gloywi Iaith ar y campws ac yn electronig i gefnogi’r myfyrwyr hynny sy’n dymuno astudio’u cwrs yn gyfan gwbl neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Drindod Dewi Sant hefyd yn darparu ystod o raglenni Gloywi Iaith ar gyfer y gweithle gan ganolbwyntio ar hybu sgiliau llafar ac ysgrifenedig y rheini sy’n gweithio o fewn cyddestunau dwyieithog. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i ddatblygu adnoddau cyfrwng Cymraeg o’r radd flaenaf er mwyn cefnogi myfyrwyr gyda’u hastudiaethau. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae buddsoddiad sylweddol wedi ei wneud er mwyn cynyddu adnoddau megis llyfrau,
gwefannau ac adnoddau rhyngweithiol cyfrwng Cymraeg er mwyn diwallu’r galw gan fyfyrwyr am adnoddau cefnogol. Drwy fanteisio ar arbenigeddau amrywiol staff y Brifysgol, rydym wedi datblygu amrywiaeth o adnoddau cyfrwng Cymraeg gwerthfawr iawn i fyfyrwyr ym meysydd Addysg, Chwaraeon, Busnes, ac o fewn meysydd y Celfyddydau Creadigol a Pherfformio, sy’n cael eu defnyddio gan fyfyrwyr mewn prifysgolion ar draws Cymru. Mae manylion yr holl adnoddau hyn i’w canfod ar wefan y Brifysgol yn ogystal â gwefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Os ydych yn dymuno astudio’ch cwrs addysg uwch yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg neu hyd yn oed gofrestru ar fodwl neu ddau ar hyd y daith, dewch i Brifysgol Gymreiciaf Cymru, Prifysgol y mae iddi draddodiad o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a Phrifysgol sydd wedi ei hymrwymo ei hun i hyfforddi myfyrwyr ar gyfer y Gymru ddwyieithog.
www.ydds.ac.uk | 53
Y Gymraeg yn YDDS
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: Cangen y Drindod Dewi Sant Fel un o'r prif ddarparwyr addysg uwch cyfrwng Cymraeg, mae’r Drindod Dewi Sant yn chwarae rôl flaenllaw o fewn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn cydweithio â’r Coleg i gynyddu cyfleoedd i fyfyrwyr ar sawl lefel. Mae Cangen Y Drindod Dewi Sant o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi ei lleoli ar gampws y Brifysgol yng Nghaerfyrddin ond mae’r Gangen yn weithgar ar draws holl gampysau’r Brifysgol. Mae mwyafrif staff a myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol yn aelodau ohoni. Mae Swyddfa’r Gangen wedi ei lleoli mewn safle canolog ac amlwg ar y campws o fewn adeilad yr Hen Goleg, yng nghanol bwrlwm a phrysurdeb y Brifysgol, lle mae modd i fyfyrwyr alw i mewn am sgwrs a derbyn cyngor a gwybodaeth ar unrhyw adeg. Mae nifer o gyrsiau gradd y Brifysgol eisoes wedi eu cynnwys o fewn Cynllun Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a thrwy’r cynllun hwn, mae modd i fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant ymgeisio am ysgoloriaethau hyd at £3,000 am astudio’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cangen y Drindod Dewi Sant
Mae rhestr lawn o’r cyrsiau cymwys yn ogystal â gwybodaeth ynghylch y broses ymgeisio am ysgoloriaeth i’w canfod ar wefan y Brifysgol yn ogystal â gwefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Noder bod yr ysgoloriaethau hyn yn ychwanegol i’r fwrsariaeth hyd at £1,800 y mae’r Brifysgol yn ei chynnig i fyfyrwyr am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae holl fyfyrwyr Cymraeg y Brifysgol yn cael eu hannog i ddilyn Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae hon yn Dystysgrif newydd sy'n rhoi cyfle euraid i fyfyrwyr ennill cymhwyster sy’n dangos eu sgiliau iaith Cymraeg, a’u galluogi i ddangos tystiolaeth i gyflogwyr o’u gallu i gyfathrebu’n hyderus ac yn broffesiynol yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mae’r Brifysgol yn darparu cyfleoedd i bob myfyriwr dderbyn sesiynau a chefnogaeth gan diwtor iaith sydd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer y Dystysgrif. Ceir rhagor o wybodaeth i ddarpar fyfyrwyr ar wefan y Dystysgrif: www.sgiliauiaith.colegcymraeg.ac.uk
“Yn YDDS mae’r nifer fwyaf o fyfyrwyr sy’n astudio peth o’u haddysg trwy’r Gymraeg.
”
Penwythnos y Glas Mae Cangen y Drindod Dewi Sant o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi trefnu Penwythnos y Glas ers sawl blwyddyn bellach. Mae’r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i lasfyfyrwyr Cymraeg eu hiaith (p’un ai a ydynt yn bwriadu astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ai peidio) ymgartrefu ar Gampws Caerfyrddin cyn i weddill y flwyddyn gyntaf gyrraedd ddeuddydd yn ddiweddarach. Mae’r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i Gymry Cymraeg ddod i adnabod ei gilydd a’r campws cyn i’r tymor ddechrau. Darperir gwybodaeth am y trefniadau unwaith y byddwch wedi derbyn lle i astudio yn y Brifysgol.
Cymdeithas Gymraeg Myfyrwyr y Brifysgol Mae’r Gymdeithas Gymraeg yn cael ei rhedeg gan fyfyrwyr y Brifysgol, a threfnir gweithgareddau a digwyddiadau cymdeithasol amrywiol, gan roi digon o gyfleoedd i wneud ffrindiau a chael profiadau newydd; o deithiau rygbi rhyngwladol i gystadlaethau chwaraeon ac Eisteddfodau’r Rhyng-gol… mae llu o gyfleoedd a llu o weithgareddau at ddant pawb! @GymGymDrindod
Undeb y Myfyrwyr Mae cefnogaeth gref gan Undeb y Myfyrwyr i’r Gymraeg yn YDDS. Mae Swyddog Materion Cymraeg gan yr Undeb sy’n fyfyriwr sydd wedi cael ei ethol gan fyfyrwyr i’w cynrychioli. Mae’n cydweithio gyda’r Brifysgol a’r Gymdeithas Gymraeg i sicrhau bod myfyrwyr yn mwynhau eu cyfnod yn y Brifysgol.
#DyddieDa
@CangenDDS
54 | www.ydds.ac.uk
www.ydds.ac.uk | 55
Chwaraeon Os ydych chi’n gystadleuol ac yn mwynhau bod yn rhan o dîm, mae Undeb y Myfyrwyr, ar draws ein holl gampysau, yn cefnogi nifer fawr o gymdeithasau myfyrwyr sy’n cynnig cyfleoedd i dimau gymryd rhan mewn cystadlaethau Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) rhanbarthol. Hefyd, mae ein grwpiau chwaraeon cymdeithasol yn trefnu gweithgareddau a chystadlaethau anffurfiol ac mae yna leoliadau chwaraeon awyr agored sydd wedi ennill gwobrau i’w harchwilio yn yr ardal. Hefyd, gall myfyrwyr gyrchu cannoedd o dimau chwaraeon lleol sy’n chwarae mewn cynghreiriau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Yn ogystal â hyn, mae De Orllewin Cymru yn dod yn un o’r ardaloedd mwyaf poblogaidd ar gyfer digwyddiadau y mae heidiau o bobl yn cymryd rhan ynddynt sy’n ymestyn o heriau antur, teithiau chwaraeon eithafol cenedlaethol i’r digwyddiad Ironman Cymru poblogaidd. Mae’r rhwydwaith amrywiol hwn o dimau a digwyddiadau chwaraeon hefyd yn cynnig nifer o gyfleoedd i wirfoddoli gan roi i chi ffordd wych o ychwanegu profiad at eich CV.
Yr Urdd ac Aelwyd Y Drindod Dewi Sant Mae’r Brifysgol yn gweithio mewn partneriaeth â’r Urdd ar nifer o fentrau sy’n galluogi i staff a myfyrwyr gydweithredu. Yn arbennig, mae myfyrwyr Addysg Antur Awyr Agored yn elwa o
56 | www.ydds.ac.uk
gyfleusterau’r Urdd yng Nglanllyn, ac mae myfyrwyr Gwaith Ieuenctid a Chymuned yn manteisio ar rwydweithiau’r Urdd ar gyfer lleoliadau gwaith a chyfleoedd cyfoethogi cyrsiau. Mae Aelwyd y Drindod Dewi Sant yn cyfarfod yn wythnosol yn ystod y tymor i gynnal llu o weithgareddau ynghyd ag ymarfer ar gyfer cystadlaethau’r Urdd fel rhan o Gôr Y Drindod Dewi Sant. Mae’r côr wedi profi cryn lwyddiant yn y gorffennol ac mae'n cynnal cyngherddau mewn digwyddiadau yn rheolaidd bob blwyddyn.
S4C Mae'r Brifysgol yn ymfalchïo yn y ffaith bod Awdurdod S4C wedi penderfynu adleoli pencadlys y Sianel i Gaerfyrddin. Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn a fydd yn rhoi hwb sylweddol i’r iaith yn y Sir yn dilyn siom canlyniadau’r Cyfrifiad yn 2011. Fe fydd presenoldeb S4C ar y campws yng Nghaerfyrddin hefyd yn rhoi hwb sylweddol i’r economi a’r nifer o swyddi cyfrwng Cymraeg a ddaw yma yn ei sgil. Rhagwelir y bydd rhyw 25 o gwmnïau dwyieithog – cwmnïau darlledu a pherfformio, cwmnïau digidol ac ôl-gynhyrchu, mudiadau a mentrau iaith yn ogystal â chyhoeddwyr a sefydliadau addysgol - yn cyd-leoli mewn un adeilad newydd ar y campws. Bydd presenoldeb S4C a’r partneriaid yn cynnig ystod o gyfleoedd i fyfyrwyr gan gynnwys cyfnodau o brofiad gwaith lle ceir cyfle i ddatblygu ystod o sgiliau a hynny mewn cyd-destunau gwaith go iawn.
Astudio drwy gyfrwng y Saesneg
Datblygu’ch Sgiliau Cymraeg
Mae modd astudio holl raglenni academaidd y Brifysgol drwy gyfrwng y Saesneg ac eithrio ambell raglen a ddarperir yn llwyr trwy gyfrwng y Gymraeg. Os byddwch yn astudio eich dewis raglen drwy gyfrwng y Saesneg, bydd cyfle o hyd i chi gofrestru ar fodylau Gloywi Iaith y Brifysgol ac ar Dystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ein nod yw creu cyfleoedd i’n myfyrwyr ddatblygu sgiliau ar lefel uwch a fydd yn caniatáu iddynt weithio yng Nghymru’r unfed ganrif ar hugain.
Yn yr un modd, os bydd gofyn i chi astudio eich rhaglen drwy gyfrwng y Saesneg gan nad oes darpariaeth Gymraeg yn bodoli, bydd cyfle i chi barhau i gyflwyno eich gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg os dyna fydd eich dymuniad. Holwch Swyddog Cangen y Drindod Dewi Sant o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am fwy o fanylion (01267 676618).
Efallai nad ydych wedi ystyried astudio rhan o’ch rhaglen radd drwy gyfrwng y Gymraeg hyd yn hyn.
“
Dwi wir wedi mwynhau bywyd prifysgol yn YDDS ac wedi gwneud llawer o ffrindiau da a datblygu llawer o sgiliau. O weithio fel llysgennad myfyrwyr i fod yn Swyddog Materion Cymreig yn yr Undeb, mae’r profiadau wedi bod yn wych a dwi wrth fy modd ‘ma! Dan Rowbotham Myfyriwr
”
Efallai eich bod yn teimlo’n ddihyder ynghylch astudio eich rhaglen yn llwyr drwy gyfrwng y Gymraeg. Efallai nad yw astudio’n ddwyieithog wedi croesi eich meddwl! Meddyliwch o ddifrif am y drysau a fydd yn agored i chi fel graddedigion os byddwch wedi astudio o leiaf ran o’ch rhaglen radd drwy gyfrwng y Gymraeg! Datblygwch eich sgiliau Cymraeg ymhellach yn y Drindod Dewi Sant! Cewch gefnogaeth gan y Brifysgol trwy gydol eich astudiaethau. Fyddwch chi ddim ar eich pen eich hunan! Cofiwch fod mwy a mwy o gyflogwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru yn tystio bod cyflogi staff dwyieithog yn gwella eu busnes.
#DyddieDa
www.ydds.ac.uk 57
Canolfan
Peniarth Mae Canolfan Peniarth yn chwarae rôl allweddol yn y Brifysgol o ran hyrwyddo’r Gymraeg a chefnogi staff a myfyrwyr sy’n dysgu ac yn addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Wedi ei lleoli ar Gampws Caerfyrddin, mae’n gweithio’n agos ag Ysgolion a Chyfadrannau ar draws holl gampysau’r Brifysgol er mwyn sicrhau bod adnoddau dysgu pwrpasol ar gael yn y Gymraeg yn ogystal â chefnogaeth briodol ar gyfer y rheini sy’n dymuno gloywi eu Cymraeg – ar-lein a thrwy ddosbarthiadau a gynhelir ar yr holl gampysau. Yn wreiddiol, sefydlwyd Canolfan Peniarth fel canolfan gyhoeddi i’r Brifysgol, yn creu a chyhoeddi adnoddau addysgol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Erbyn heddiw, mae portffolio’r Ganolfan wedi ehangu a datblygu i gynnwys gwasanaethau arbenigol sy’n ychwanegol i gyhoeddi llyfrau ac adnoddau blaengar.
Llyfrau ac Adnoddau Mae gan y Ganolfan gatalog o lyfrau ac adnoddau sydd wedi eu hawduro gan awduron profiadol ac arbenigol. Mae’r llyfrau a'r adnoddau hyn yn amrywio o lyfrau darllen a phecynnau addysgol athrawon yn y sector
58 | www.ydds.ac.uk
cynradd, i lyfrau ac adnoddau i’r sector uwchradd, addysg bellach ac addysg uwch. Mae llyfrau ac adnoddau’r Ganolfan yn ymateb yn uniongyrchol i fframweithiau cenedlaethol, ac wedi eu treialu gyda phlant a myfyrwyr drwy broses gynllunio fanwl. Gellir gweld holl lyfrau ac adnoddau'r Ganolfan yn y siop arlein, siop.canolfanpeniarth.org
Hyfforddiant iaith Yn ogystal â darparu sesiynau gloywi iaith i staff a myfyrwyr y Brifysgol, Canolfan Peniarth sydd hefyd yn gyfrifol am gyrsiau’r Cynllun Sabothol sy’n cael eu noddi gan Lywodraeth Cymru. Mae athrawon a chynorthwywyr dosbarth yn cael eu rhyddhau am gyfnod penodol er mwyn dilyn hyfforddiant sy’n gwella’u sgiliau iaith Gymraeg, ac o ganlyniad, yn codi safonau ar lawr dosbarth. Mae Canolfan Peniarth yn cynnal y cyrsiau hyn ar gampysau Llambed, Caerfyrddin, Abertawe ac mewn lleoliadau addas ar draws canolbarth Cymru. Yn ychwanegol at hyn, mae staff y Ganolfan yn gyfrifol am sicrhau ansawdd y cyrsiau sy’n rhan o’r cynllun ar draws Cymru gyfan ac yn ymgymryd â rôl gymedroli genedlaethol.
Adnoddau ar-lein ac apiau
Mae’r Ganolfan wedi cyhoeddi cyfres o apiau i ddatblygu sgiliau iaith myfyrwyr, sef Ap Sglein, Ap Cywirdeb Iaith, ac Ap Trieiglo.
Mae’r Ganolfan yn cynnig gwasanaethau dylunio gwe a rhyngweithiol o’r radd flaenaf. Yn ogystal â dylunio ac adeiladu gwefannau, mae’r Ganolfan yn datblygu adnoddau rhyngweithiol yn ogystal ag apiau. Canolfan Peniarth sydd wedi datblygu pecyn gweithgareddau iaith i gefnogi Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn fwy diweddar mae’r Ganolfan wedi cyhoeddi cyfres o apiau i ddatblygu sgiliau iaith myfyrwyr, sef Ap Sglein, Ap Cywirdeb Iaith, ac Ap Trieiglo. Cewch fwy o fanylion am Ganolfan Peniarth ar www.canolfanpeniarth.org
www.ydds.ac.uk | 59
Canolfan Gymraeg
Yr Atom Dyma ganolfan ddiwylliannol, fywiog yng nghanol tref Caerfyrddin sy’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau ac adnoddau. Ers iddo agor ym mis Awst 2015, mae Caffi’r Atom eisoes yn hynod o boblogaidd ac yn cynnig brecwast a chinio blasus. Yn enwog am ei ysgytlaeth a siocled poeth anferthol, mae’r caffi ar agor o 9 tan 16:30, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Y tu ôl i’r caffi mae’r Ganolfan Gymraeg. Yma, mae saith ystafell ar gael i’w llogi. Enwau cymeriadau Llyfr Du Caerfyrddin sydd ar yr ystafelloedd.
60 | www.ydds.ac.uk
Mae dwy ystafell gyfarfod, Taliesin a Glewlwyd Gafaelfawr, ac Ystafell Mynach sy’n addas ar gyfer gwaith swyddfa neu gyfarfod ar gyfer hyd at 4 o bobl. Mae Ystafell Myrddin yn gartref i Gylch Meithrin Myrddin yn y boreau, ac mae modd llogi’r ystafell yn y prynhawn neu ei chyfuno ag ystafelloedd Pryderi ac Arthur. Mae ystafelloedd Pryderi ac Arthur yn addas ar gyfer cynadleddau. Ceir manylion pellach am y ganolfan a'i phartneriaid ar wefan Yr Atom.
Cymdeithasu Agorwyd Yr Atom yn swyddogol gan Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru.
Mae myfyryr Y Drindod Dewi Sant yn mwynhau cymdeithasu yn Yr Atom. Cafwyd cwis a chyri yno yn ystod Penwythnos y Glas ynghyd â Noson Lawen fywiog.
Caffi’r Atom Mae Caffi’r Atom ar agor 6 diwrnod yr wythnos ac yma gellir mwynhau sgwrs yn y Gymraeg dros baned o de a chacen flasus, neu ewch amdani gyda’n hysgytlaeth neu siocled poeth enwog!
www.yratom.cymru
www.ydds.ac.uk 61
Canolfan S4C
Yr Egin
Yn ystod 2018, bydd Canofan S4C Yr Egin yn agor ei drysau ar Gampws Caerfyrddin. Bydd hwn yn ddatblygiad cyffrous ac amserol a fydd yn cynnig profiadau gwaith uniongyrchol a chyfleoedd datblygu rhagorol i fyfyrwyr a fydd yn astudio nifer o feysydd gwahanol o fewn y Brifysgol. Fe fydd yn ddatblygiad cwbl unigryw yng Nghymru. Yn ogystal â bod yn gartref i bencadlys newydd S4C, bydd Canolfan S4C Yr Egin yn gartref i oddeutu 25 o gwmnïau a sefydliadau gwahanol, gyda nifer ohonynt yn gweithio o fewn y diwydiannau darlledu a digidol. Mae nifer o’r cwmnïau hyn yn awyddus iawn i weithio gyda’r Brifysgol i ddatblygu portffolio o raglenni gradd dwyieithog o’r newydd gan sicrhau bod y ddarpariaeth yn ateb gofynion y diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt. Bydd y Brifysgol yn gweithio’n agos â’r cwmnïau hyn yn ystod y ddwy flynedd nesaf er mwyn sicrhau bod ystod o raglenni gradd newydd yn eu lle erbyn i Ganolfan S4C Yr Egin fod yn weithredol yn 2018.
62 | www.ydds.ac.uk
Mae’r meysydd y bwriedir datblygu rhaglenni gradd o’r newydd ynddynt yn cynnwys: • Cynhyrchu Teledu a Chyfryngau Digidol • Effeithiau Gweledol ac Animeiddio • Graffeg • Gemau Digidol (yn cynnwys celf, animeiddio, sain, dylunio, rhaglennu ac ysgrifennu) • Cyfrifiadura Cymhwysol • Digwyddiadau • Entrepreneuriaeth a Busnes Creadigol
Mae’r Brifysgol yn teimlo’n gyffrous iawn ynghylch datblygiad Canolfan S4C Yr Egin.
Mae’r datblygiad yn cynnig rhywbeth cwbl wahanol i israddedigion Cymru.
Mae’r diwydiannau creadigol yn teimlo’n gyffrous iawn ynghylch y datblygiad gan y bydd cyfle iddynt gydweithio â'r Brifysgol i hyfforddi’r math o weithwyr y bydd arnynt eisiau eu cyflogi ar gyfer y dyfodol.
Dewch am dro i Gaerfyrddin i weld Canolfan S4C Yr Egin yn datblygu. Dewch i brofi’r cyffro!
Wrth wraidd dyfodol creadigol Cymru
Canolfan S4C Yr Egin
Rhowch gyfle i’ch sgiliau creadigol chithau egino hefyd trwy ymgeisio am le ar rai o’r rhaglenni newydd arloesol a fydd yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Brifysgol yn ystod 2016.
Bydd Y Drindod Dewi Sant yn adeiladu ar ei thraddodiad hir ac anrhydeddus o ddarparu graddedigion talentog ar gyfer y diwydiannau creadigol gan weithio’n uniongyrchol â nifer o gwmnïau blaenllaw i ddarparu hyfforddiant perthnasol o’r radd flaenaf ar gyfer ei myfyrwyr.
Undergraduate Prospectus www.ydds.ac.uk 2017 | 63
Datblygiad Tra
Arbennig Yn YDDS, ein nod yw adeiladu dyfodol llwyddiannus i chi. Mae darparu cyfleoedd newydd ar gyfer ein myfyrwyr wedi bod yn hanfodol bwysig i ni erioed. Mae creu cyrsiau newydd sy’n eich helpu i fynd ymlaen i gam nesaf eich astudiaethau, gwneud cysylltiadau newydd gyda diwydiant sy’n sicrhau bod ein haddysgu’n berthnasol a datblygu dulliau newydd i’ch helpu i gynllunio eich gyrfa yn rhai ffyrdd y mae’r Brifysgol yn gweithio ar eich rhan. Nawr, rydym yn datblygu prosiectau uchelgeisiol a ddyluniwyd i roi mwy fyth o gyfleoedd i ragori i’n myfyrwyr.
64 | www.ydds.ac.uk
Ardal Arloesi Glannau Abertawe Mae YDDS yng nghanol bywyd y ddinas ac yn agos i fae hyfryd Abertawe. Bydd ein Hardal Arloesi Glannau Abertawe cyffrous gwerth £300m yn agosach fyth i’r môr ac eto’n dal i fod o fewn taith ar droed i ganol y ddinas. Fel yr awgryma’r enw, bydd hwn yn fwy na champws. Y bwriad yw sefydlu cyfleusterau ar gyfer dysgu, addysgu ac ymchwil yn ogystal ag ardal gymdeithasol,
hamdden ac adloniant. Yma, byddwn yn dod ag arloesi a menter ynghyd i annog cydweithio a throsglwyddo gwybodaeth rhwng diwydiant a’r byd academaidd. Bydd y Gyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg yn rhan o gam un, sydd i fod i agor yn 2018 ynghyd ag adeilad llyfrgell newydd ac ardaloedd cyhoeddus awyr agored.
Disgwylir i ran gyntaf datblygiad
£300m Ardal Arloesi Glannau Abertawe agor yn 2018.
Bydd yr amgylchedd dysgu newydd hwn wedi’i leoli yn SA1, lle bydd busnesau sy’n tyfu a rhai sefydledig, caffis, bwytai a bariau cyfoes yn gwneud cartref i’w hunain. Bydd siopau, adloniant a chyfleusterau hamdden a chwaraeon ar stepen eich drws. I adlewyrchu ffocws y Brifysgol ar gynaliadwyedd, bydd yr adeiladau’n cael eu dylunio i fod yn ddeniadol ac yn gynaliadwy, a bydd ardaloedd gwyrdd yn cael eu datblygu i greu lleoedd braf i gwrdd â ffrindiau am sgwrs. Y Ganolfan Myfyrwyr fydd lleoliad y gwasanaethau
cymorth myfyrwyr allweddol. Bydd ‘siop un stop’ yn rhoi i’r myfyrwyr gymorth gyda chyllid, cofrestru a llety a bydd canolfan iechyd yn fan ffocws gwasanaethau meddygol a chwnsela. Yn ogystal â hyn, bydd y Ganolfan Myfyrwyr yn hwb cymdeithasol a diwylliannol, a fydd yn cynnwys lleoedd i gynnal perfformiadau, digwyddiadau ac arddangosfeydd ynghyd â mannau bwyta. Bydd y Ganolfan yn darparu lle i fusnesau newydd gyd-weithio, ac yn cynnig gwasanaethau
cymorth busnes i gwmnïau deilliedig y Brifysgol a chwmnïau yn y gymuned yn ogystal â mannau deori mwy hir dymor. Bydd ardaloedd yn cael eu datblygu i gynnal digwyddiadau a fydd yn denu cyflogwyr i’r Brifysgol ar gyfer cyflwyniadau a ffeiriau gyrfaoedd, gan gysylltu myfyrwyr gyda llwybrau gyrfa a darpar gyflogwyr. Dyluniwyd Ardal Arloesi Glannau Abertawe i gyfoethogi eich profiad myfyriwr. Rydym ni’n gyffrous. Gobeithiwn eich bod chithau hefyd.
www.ydds.ac.uk | 65
Undeb
y Myfyrwyr Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw canolbwynt gweithgarwch myfyrwyr ar y campws, ac mae’n cynnig popeth i gyfoethogi eich amser yn y Brifysgol. P’un ai oes arnoch awydd diod gyda’ch ffrindiau, neu os hoffech ymuno ag un o’n clybiau chwaraeon a chymdeithasau niferus neu ofyn am gyngor ar unrhyw beth o lety i iechyd meddwl, mae’r cyfan gennym ni.
wrth galon y penderfyniadau a wna’r Brifysgol, gan sicrhau bod llais y myfyriwr yn cael ei glywed ar bob lefel o’r broses.
Yn Cael Ei Redeg Gennych Chi...
Cymdeithasu
Mae Undeb y Myfyrwyr yn fudiad democrataidd sy’n cael ei redeg gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr. Mae tîm o swyddogion etholedig, oll yn gyn-fyfyrwyr y Brifysgol, yn gweithio i sicrhau eich bod chi’n cael eich cynrychioli ar bob lefel a’ch bod chi’n elwa i’r eithaf ar eich amser yn astudio. Daw pob myfyriwr sy’n cofrestru’n llawn gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn awtomatig yn aelod o Undeb y Myfyrwyr a gall ddefnyddio ei holl wasanaethau.
...Ar Eich Cyfer Chi! Yn elusen, mae’r cyfan a wnawn - boed yn ddigwyddiadau gyda’r nos, yn ymgyrchoedd neu’n glybiau chwaraeon a chymdeithasau - yn cael ei wneud i gyfoethogi’ch profiad fel myfyrwyr. Rydym yn gwneud yn siŵr bod pryderon myfyrwyr
66 | www.ydds.ac.uk
Yn ogystal â darparu cynrychiolaeth Prifysgol-eang, mae Undeb y Myfyrwyr YDDS yn gysylltiedig ag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS), sy’n golygu bod ein myfyrwyr hefyd yn cael eu cynrychioli ar lefel genedlaethol trwy NUS Cymru.
Mae’r adloniant a ddarperir gan Undeb y Myfyrwyr o ansawdd uchel, yn amrywiol ac yn werth am arian; rydym yn ceisio darparu at ddant pawb gyda chymysgedd o gerddoriaeth fyw, DJs, comedïwyr a diddanwyr. Mae’r cyfan yn cychwyn yn ystod Wythnos y Glas ar ddechrau’r flwyddyn academaidd sy’n llawn amrywiaeth o adloniant ac sy’n gyfle gwych i chi gwrdd â ffrindiau newydd.
Gweithgareddau Mae Undeb y Myfyrwyr yn aelod o gynghrair Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS). Bob dydd Mercher, mae ein timau chwaraeon yn cystadlu mewn gwahanol gynghreiriau i fod yn bencampwyr BUCS. Hefyd, mae gennym nifer o gymdeithasau ar gyfer amrywiaeth eang o ddiddordebau a
gweithgareddau. Os oes gennych syniad ar gyfer clwb neu gymdeithas newydd, mae’n rhwydd iawn sefydlu un. Y cwbl sy’n rhaid ei wneud yw dod o hyd i ychydig o bobl eraill sy’n rhannu’ch diddordeb a galw heibio i’n gweld ni - nid yn unig y mae hyn yn ffordd hawdd o ddod i gwrdd â phobl newydd o’r un meddylfryd â chi, ond mae rhedeg clwb neu gymdeithas yn edrych yn grêt ar eich CV.
Roedd
89%
o fyfyrwyr YDDS yn fodlon ar ‘Undeb y Myfyrwyr’ Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015
Lles a Chymorth Mae gennym Swyddogion Lles ymroddedig yn Undeb y Myfyrwyr sydd yno i roi cymorth i fyfyrwyr ar lefel unigol yn ogystal ag ymgyrchu dros welliannau i gyfleusterau cymorth i fyfyrwyr. Gall yr Undeb eich cynorthwyo gydag unrhyw beth, o les personol i broblemau gyda’ch llety neu faterion academaidd. Yn broblem fach neu fawr, ni fydd yn ormod o drafferth i ni oherwydd rydym ni yma i helpu. Bydd rhywun yma i’ch helpu o’r eiliad y byddwch yn cyrraedd a thrwy gydol eich amser yn y Brifysgol. Os oes angen help arnoch gydag unrhyw beth, neu os hoffech sgwrs dros baned o de, cysylltwch â ni neu galwch heibio.
“
Mae bod yn aelod o Dîm Chwaraeon YDDS wedi cyfoethogi fy mhrofiad prifysgol. Lewis Mason, Gwasanaethau Cyhoeddus
”
TSDSU @TSDSU
www.ydds.ac.uk 67
Cyfadran Celf a Dylunio Cyfadran Busnes a Rheolaeth Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg Cyfadran y Dyniaethau a'r Celfyddydau Perfformio Cyfadran Addysg a Chymunedau
Cyrsiau Cyfrwng Cymraeg Addysgu Astudiaethau Addysg Astudiaethau Cymdeithasol Yr Amgylchedd, Pensaernïaeth a'r Amgylchedd Adeiledig Blynyddoedd Cynnar Busnes a Rheolaeth Celf a Dylunio Y Celfyddydau Perfformio Crefydd a Diwinyddiaeth Cyfrifeg a Chyllid Cyfrifiadura ac Electroneg Chwaraeon, Iechyd ac Antur Awyr Agored Y Dyniaethau Dysgu Seiliedig ar Waith Gwaith Ieuenctid a Chymuned Y Gwyddorau Cymdeithasol Hamdden a Thwristiaeth Modurol, Peirianneg a Logisteg Coleg Sir Gâr - Amaeth Graddau Meistr Integredig
68 | www.ydds.ac.uk
70 72 76 80 84 86 96 106 114 118 122 128 132 138 146 150 154 158 164 168 170
Eich Cwrs
www.ydds.ac.uk | 69
Cyrsiau Cyfrwng
Cymraeg
Yn YDDS mae modd astudio rhai cyrsiau yn gyfan gwbl trwy'r Gymraeg ynghyd ag opsiynau i astudio'n ddwyieithog, lle astudir rhan o'r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Isod, nodir pa gyrsiau y gellir eu hastudio drwy'r Gymraeg gan nodi faint o'r cwrs sydd ar gael drwy'r Gymraeg. 120 credyd y flwyddyn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
80 credyd y flwyddyn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
HND Busnes a Chyllid HND Rheolaeth Busnes HND Rheolaeth Digwyddiadau HND Rheolaeth Twristiaeth HND Rheolaeth Hamdden FdA Amaethyddiaeth FdA Arfer Proffesiynol FdA Astudiaethau Cynhwysol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu FdA Plentyndod Cynnar FdA Rheolaeth Busnes FdA Rheolaeth Chwaraeon FdA Rheolaeth Digwyddiadau FdA Rheolaeth Twristiaeth FdA Cymorth Dysgu ac Addysgu Tystysgrif Addysg Uwch Iechyd a Lles Pobl Ifanc Tystysgrif mewn Cymraeg Ymarferol BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar* BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar 2 flynedd* BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar)** BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar) 2 flynedd** BA Addysg Gynradd gyda SAC BA Arfer Proffesiynol BA Astudiaethau Addysg: Cynradd BA Astudiaethau Addysg: Cymunedau BA Amaethyddiaeth BA Gwaith Ieuenctid a Chymuned BA Perfformio BA Plentyndod Cynnar MEYEC Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar* MEYEC Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar)**
BA Astudiaethau Crefyddol BA Celf Gain
70 | www.ydds.ac.uk
40 credyd y flwyddyn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg BA Addysg Antur Awyr Agored BA Addysg Gorfforol BA Astudiaethau Cymdeithasol: Anghenion Ychwanegol BA Astudiaethau Cymdeithasol: Cymunedau, Teuluoedd ac Unigolion BA Astudiaethau Cymdeithasol: Iechyd a Gofal Cymdeithasol BA Busnes a Chyllid BA Busnes Rhyngwladol BA Cyfrifeg BA Entrepreneuriaeth BA Rheolaeth Adnoddau Dynol BA Rheolaeth ac Arweinyddiaeth BA Rheolaeth Busnes BA Rheolaeth Chwaraeon BA Rheolaeth Digwyddiadau BA Rheolaeth Hamdden BA Rheolaeth Marchnata BA Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Rhyngwladol BA Rheolaeth Twristiaeth BSc Therapi Chwaraeon
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Gan amlaf, mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un. Ar gyfer gradd Baglor, mae myfyrwyr yn astudio 360 credyd dros dair blynedd, sef 120 credyd y flwyddyn.
Darperir cefnogaeth cyfrwng Cymraeg ym maes Celf a Dylunio ac mae datblygiadau ar y gweill i ddarparu modiwlau cyfrwng Cymraeg lle bo modd. Byddwn yn diweddaru'n gwefan gyda'r manylion diweddaraf. * yn amodol ar ddilysu **yn amodol ar ddilysu a chymeradwyaeth broffesiynol CGC www.ydds.ac.uk 71
Addysgu
Mae’r Brifysgol yn cynnig dwy raglen israddedig sef hyfforddiant ac addysg gychwynnol athrawon cynradd (HAGA) sy’n arwain at ddyfarniad Statws Athrawon Cymwysedig (SAC), un drwy gyfrwng y Gymraeg ac un drwy gyfrwng y Saesneg. Mae llwybrau ôl-raddedig Cynradd ac Uwchradd gyda SAC ar gael hefyd os oes gennych radd israddedig (gweler UCAS-Hyfforddi Athrawon). Mae dilyn rhaglen
HAGA Cynradd sy’n arwain at SAC yn eich galluogi i gael mynediad i’r proffesiwn addysgu fel athro newydd gymhwyso. Mae’r rhaglen yn rhoi sgiliau a gwybodaeth gwerthfawr iawn i chi a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich gyrfa ym maes addysg, naill ai mewn ysgol neu mewn meysydd gwaith sy’n gysylltiedig ag addysg gyda dros 90% o raddedigion o’r cwrs cyfrwng Cymraeg yn gweithio yn y sector o fewn blwyddyn wedi iddynt adael y brifysgol.
Cyrsiau Cyfrwng Cymraeg/Dwyieithog
Roedd
100% o fyfyrwyr YDDS a oedd yn astudio yng Nghanolfan Addysg Athrawon De Orllewin Cymru yn fodlon ar eu ‘Darlithwyr Arbenigol’ Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015
Caerfyrddin Gradd Anrhydedd
Cod UCAS
BA Addysg Gynradd gyda SAC
X123
Cyrsiau Cyfrwng Saesneg Caerfyrddin Gradd Anrhydedd BA Primary Education with QTS
Cod UCAS
X120
“
Mae astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn brofiad gwerthfawr ac yn agor drysau newydd i ni.
”
Gweler hefyd Astudiaethau Addysg
Mared Evans, Blwyddyn 3 BA Addysg Gynradd gyda SAC
Astudiaethau Cymdeithasol Blynyddoedd Cynnar Gwaith Ieuenctid a Chymuned Gweler ein prosbectws ôl-raddedig am gyrsiau Ymarfer Addysgu ôl-raddedig 72 | www.ydds.ac.uk
www.ydds.ac.uk | 73
BA Addysg Gynradd gyda SAC
Lleoliad: Caerfyrddin Cod UCAS: X123 120 Credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cwrs hwn yn gymwys am Brif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gwerth £3,000 dros 3 blynedd ynghyd ag Ysgoloriaeth William Salesbury gwerth £5,000. Am ragor o wybodaeth ewch i www.colegcymraeg.ac.uk
Roedd
Darperir y cwrs BA Addysg Gynradd gyda SAC yng Nghaerfyrddin gan Ganolfan Addysg Athrawon De Orllewin Cymru. Mae’n canolbwyntio ar astudiaeth broffesiynol o holl amrediad addysg gynradd. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio yn y fath fodd i addysgu a hyfforddi athrawon ar gyfer ysgolion Cymru a thu hwnt ond gan roi sylw penodol i gyd-destun ieithyddol a blaenoriaethau addysg yng Nghymru.
99% o fyfyrwyr YDDS a oedd yn astudio yng Nghanolfan Addysg Athrawon De Orllewin Cymru yn fodlon ar eu profiad cyffredinol.
Prif egwyddor y rhaglen yw sicrhau eich bod yn meithrin dealltwriaeth drylwyr o’r cwricwla statudol ar gyfer ysgolion cynradd, a hynny mewn amgylchedd sy’n gofalu amdanoch, yn eich cefnogi ac yn eich ysbrydoli. Gyda’n hysgolion partner, rydym yn anelu at sicrhau eich bod yn cyrraedd eich potensial llawn wrth ddatblygu’n ymarferydd effeithiol a myfyrgar sy’n gallu addysgu mewn ysgolion cynradd heddiw yn ogystal â delio â heriau’r dyfodol.
Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015
Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodylau sydd yn plethu gwaith y brifysgol gydag ystod o brofiadau yn yr ysgolion, gyda diwylliant Cymru yn rhan annatod o’r profiadau yma.
“
“ Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Mae gwerth credyd modwl yn amodol ar y nifer o oriau astudio sy’n gysylltiedig â’r modwl, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac asesu. Gan amlaf mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un. Ar gyfer gradd Baglor, mae myfyrwyr yn astudio 360 credyd dros dair blynedd, sef 120 credyd y flwyddyn. Gan amlaf mae blwyddyn wedi ei rhannu’n ddau semester, lle byddwch yn astudio 60 credyd bob semester.
74 | www.ydds.ac.uk
Mae’r Gymdeithas Gymraeg yn rhan annatod o’n bywyd fel myfyrwyr cyfrwng Cymraeg. Mae’n rhoi cyfle i gymdeithasu a chwrdd â ffrindiau newydd. Lowri Davies, BA Addysg Gynradd gyda SAC
Addysgu
”
Fel llywydd y Gymdeithas Gymraeg rwyf wedi cael cyfrifoldebau a chyfleoedd i drefnu digwyddiadau ac i siarad â chynulleidfaoedd gwahanol sydd yn baratoad dda ar gyfer y proffesiwn.
”
Menna Davies BA Addysg Gynradd gyda SAC
Astudiaethau Prifysgol-seiliedig Mae’r ddarpariaeth o fewn y Brifysgol yn cynnwys modylau i feithrin eich dealltwriaeth o’r heriau a’r mwynhad o addysgu yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae’r prif elfennau yn cynnwys:
Cymraeg a Chymreig. Rhoddir cryn bwyslais ar ddysgu trwy ddatrys problemau gyda’r nod o ddatblygu sgiliau gweithio gydag eraill a sgiliau ymchwil a chyfathrebu sy’n angenrheidiol ar gyfer addysgu yn yr unfed ganrif ar hugain.
Egwyddorion Addysgeg Mae’r modylau hyn yn cyflwyno i chi’r egwyddorion a'r arferion dysgu ac addysgu a gaiff eu cadarnhau a’u datblygu ar draws gweddill y cwrs. Ymhlith y materion a drafodir mae datblygiad proffesiynol athrawon, yr athro a’r gyfraith, gofal proffesiynol o blant ac agweddau ar anghenion dysgu ychwanegol. Byddwch yn datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o addysgu plant ifanc (3-7) yn y Cyfnod Sylfaen. Byddwch hefyd yn dysgu sut i wneud defnydd da o’r canllawiau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill, yn cynnwys yr arolygaeth yng Nghymru, sef Estyn.
Mae’r Brifysgol wedi gwneud defnydd da o’i thraddodiad hir a chyfoethog o gynnig hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn canfod ffyrdd a dulliau o hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r dimensiwn Cymreig mewn addysg. Byddwch yn cael gwedd eang ar Gymru trwy ymweliadau addysgol a gwaith maes. Cewch hefyd gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg a dwyieithog er mwyn sicrhau eich hyder yn eich defnydd o’r iaith, gan ddatblygu eich sgiliau i allu addysgu mewn dosbarth amlieithog.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth Mae’r rhaglen yn cynnwys modylau ar iaith a mathemateg, sef sylfeini dysg. Byddwn yn datblygu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd personol yn ogystal â sut i addysgu plant. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys modylau ar ddysgu trwy’r celfyddydau mynegiannol, y dyniaethau a gwyddoniaeth gan ddatblygu dealltwriaeth o ystod eang o waith ar draws y pynciau. Rhoddir cryn bwyslais ar TGCh o fewn y rhaglen i gefnogi’r dysgu ar draws meysydd y cwricwlwm. Themâu Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o themâu allweddol megis addysg bersonol a chymdeithasol, cynaliadwyedd, dinasyddiaeth fyd-eang a'r diwylliant
Profiadau Ysgol-seiliedig Lluniwyd y Profiadau Ysgol-seiliedig i’ch galluogi i gymhwyso’r wybodaeth, y medrau a’r ddealltwriaeth a gafwyd yn eich Astudiaethau Prifysgol-seiliedig mewn cyddestunau addysgol mewn ysgolion. Fe’ch cyflwynir i faterion addysgu a dysgu ar lefel sylfaenol yn gynnar yn y cwrs, cyn ailymweld â nhw mewn mwy o ddyfnder wrth i’r cwrs fynd yn ei flaen, gan arwain yn y pen draw at ennill Statws Athro Cymwysedig erbyn diwedd y drydedd flwyddyn. Mae 24 wythnos o Brofiadau Ysgol-seiliedig ar draws y tair blynedd pan gewch eich lleoli mewn ysgolion ar hyd a lled de, gorllewin a / neu ganolbarth Cymru. Fe gewch ystod o brofiadau addysgu a fydd yn eich galluogi i arddangos eich gallu yn y safonau addysgu cenedlaethol wrth i chi weithio tuag at fod yn annibynnol fel darpar athrawon.
www.ydds.ac.uk | 75
Astudiaethau Addysg Cyrsiau Cyfrwng Saesneg Mae Astudiaethau Addysg yn bwnc academaidd newydd ac esblygol sydd wedi ei seilio ar 'y pedwar piler’ sef Athroniaeth, Hanes, Cymdeithaseg a Seicoleg. Anelir y radd hon at boblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr a chanddynt ddiddordeb mewn gweithio mewn cyd-destun addysgol. Canolbwyntiwn ar addysg mewn cyd-destun eang gan gynnwys pwysigrwydd materion cynhwysiant a’r gwerthoedd proffesiynol sydd ynghlwm ag addysg. Mae gennym hanes hir o ddatblygu rhaglenni arloesol mewn addysg ac mae ein tîm cyfeillgar a phrofiadol o staff academaidd yn ymroi i wneud yn siŵr eich bod yn gwireddu eich llawn botensial. Mae’r BA Astudiaethau Addysg: Cymunedau (campws Abertawe) yn canolbwyntio ar faterion y gymuned a’i phobl ar lefel leol,
genedlaethol a rhyngwladol mae pwyslais ar faterion cyfredol ym myd addysg ar draws nifer o gyd-destunau. Mae’r BA Astudiaethau Addysg: Cynradd (campws Caerfyrddin) yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau, dealltwriaeth a gwybodaeth am addysg mewn cyd-destun ysgolion cynradd. Mae natur y ddau lwybr a’r sgiliau, priodoleddau a medrau a ddatblygir yn eich galluogi i weithio mewn nifer o sectorau yn cynnwys addysg, lleoliadau gofal, iechyd a phroffesiynau perthynol yn ogystal â’r sector gwirfoddol.
Roedd
91% o fyfyrwyr a oedd yn astudio yn yr Ysgol Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol yn fodlon ar y ‘Cyflogadwyedd’ Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015
BA Astudiaethau Addysg: Cynradd* MEdStud Astudiaethau Addysg: Cynradd*
Gradd Anrhydedd/Meistr Integredig
BA Astudiaethau Addysg: Cymunedau* MEdStud Astudiaethau Addysg: Cymunedau*
76 | www.ydds.ac.uk
Meistr Integredig MEdStud Education Studies: Communities*
Gradd Sylfaen
Cod UCAS
FdA Learning Support FdA/BA Inclusive Education
X360 L500
Caerfyrddin Gradd Anrhydedd
Cod UCAS X320 3L2N CX69
MEdStud Education Studies: Primary*
Gradd Sylfaen
Cod UCAS L500
Llambed Gradd Anrhydedd
Cod UCAS X321
Gweler hefyd Addysgu
FdA Astudiaethau Cynhwysol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu
Abertawe
X300 XC38 XC3W W401
FdA Inclusive Studies for Teaching Assistants FdA/BA Inclusive Education
Gradd Sylfaen
Cod UCAS
BA Education Studies: Communities* BA Education Studies & Psychology BSc Education Studies & Psychology BA Applied Drama
Meistr Integredig
Cyrsiau Cyfrwng Cymraeg/Dwyieithog
Gradd Anrhydedd/Meistr Integredig
Gradd Anrhydedd
BA Education Studies: Primary* BA Outdoor Adventure Education BA Physical Education
Mae’r ddau lwybr yn arwain at yr opsiwn i astudio Gradd Meistr Integredig mewn Astudiaethau Addysg (sydd yn flwyddyn ychwanegol) lle mae modd derbyn cylllid myfyrwyr am y pedair blynedd.
Caerfyrddin
Abertawe
Astudiaethau Cymdeithasol Blynyddoedd Cynnar
Cod UCAS X300
Gwaith Ieuenctid a Chymuned Y Gwyddorau Cymdeithasol
Cod UCAS
BA Ancient History with Education Studies BA Ancient History, Anthropology, Education Studies BA Ancient History, Archaeology, Education Studies BA Ancient History, Classical Studies, Education Studies BA Ancient History, History, Education Studies BA Ancient History, Religious Studies, Education Studies BA Anthropology with Education Studies BA Archaeology with Education Studies
VX13 VLL1 VVL3 VQL1 VVL1 VVL2 LX63 V401
BA Anthropology, Archaeology, Education Studies BA Anthropology, Religious Studies, Education Studies BA Anthropology, History, Education Studies BA Chinese with Education Studies BA Classical Studies with Education Studies BA Classical Studies, Anthropology, Education Studies BA Classical Studies, Archaeology, Education Studies BA Classical Studies, History with Education Studies BA Classical Studies, Religious Studies, Education Studies BA Creative Writing with Education studies BA English with Education Studies BA English, Ancient History, Education Studies BA English, Anthropology, Education Studies BA English, Archaeology, Education Studies BA English, Classical Studies, Education Studies BA English, History, Education Studies BA English, Philosophy, Education Studies BA English, Religious Studies, Education Studies BA History with Education Studies BA History, Archaeology, Education Studies BA Philosophy with Education Studies BA Philosophy, Ancient History, Education Studies BA Philosophy, Anthropology, Education Studies BA Philosophy, Archaeology, Education Studies BA Philosophy, Classical Studies, Education Studies BA Philosophy, History, Education Studies BA Philosophy, Religious Studies, Education Studies BA Religious Studies with Education Studies BA Religious Studies, Archaeology, Education Studies BA Religious Studies, History, Education Studies BA Theology with Education Studies
LVL6 LVL8 LVL7 836R Q801 QLL8 QVL8 QVL9 QVL0 385V QL34 QVL3 QLL3 QVL4 QQL3 QVL5 QVL6 QVL7 VL14 VLV4 VL54 VVL5 VLL5 VVL6 VQL5 VVL7 VVL8 VL64 VVL9 V6L6 1QR4
*yn amodol ar ddilysu
www.ydds.ac.uk 77
BA Astudiaethau Addysg: Cynradd
Lleoliad: Caerfyrddin Cod UCAS: X321 120 Credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cwrs hwn yn gymwys am Brif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gwerth £3,000 dros 3 blynedd ynghyd ag Ysgoloriaeth William Salesbury gwerth £5,000. Am ragor o wybodaeth ewch i www.colegcymraeg.ac.uk
Mae’r radd hon yn rhoi cyfle i chi ddatblygu’ch sgiliau, dealltwriaeth a gwybodaeth am addysg mewn cyd-destun ysgol gynradd. Mae’r radd yn canolbwyntio ar addysg yn eang gan gynnwys pwysigrwydd materion cynhwysiant, sut mae plant yn dysgu a gwerthoedd proffesiynol ym myd addysg gynradd. Modylau enghreifftiol • • • • • • •
Addysg ddoe, heddiw ac yfory Llwybrau Ymholi Datblygiad yr Unigolyn Mapio'r Cwricwlwm Traethawd Hir Cynllunio Person Ganolog Addysgu'n Effeithiol
Prif nodweddion • Cyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg neu’n Ddwyieithog • Cyfleoedd ar gyfer profiad yn y maes • Cyfleoedd i astudio dramor • Cyfle i arbenigo mewn agweddau ar addysg gynradd, er enghraifft Addysg Arbennig/Anghenion Addysgol Ychwanegol, Addysg Amgylcheddol ac Astudiaethau Creadigol, er mwyn cwblhau traethawd estynedig • Staff profiadol sy’n meddu ar brofiad arbennig ym maes addysg gynradd Cyfleoedd gyrfa Bwriad y radd yw darparu sgiliau trosglwyddadwy a fyddai’n gymwys ar gyfer nifer o feysydd gyrfaol, yn arbennig y rheiny sy’n ymwneud â phlant. Gellir hefyd ei hystyried fel sylfaen gref ar gyfer astudio ymhellach ar gyfer gyrfa addysgu.
BA Astudiaethau Addysg: Cymunedau Mae'r radd hon yn rhoi'r cyfle i chi ganolbwyntio ar faterion cyfredol yn y byd addysg sy'n berthnasol i ysgolion ac i'r gymuned ehangach. Gwneir cysylltiadau clir a chryf gyda pholisiau cyfredol sy'n effeithio ar fyd addysg. Modylau enghreifftiol • • • • • • •
Addysg ddoe, heddiw ac yfory Datblygiad yr Unigolyn Athroniaeth Addysg Diwylliant ac Hunaniaeth Ymwneud Cymunedol Astudiaethau Cwricwlwm ac Asesu Traethawd Hir
Prif nodweddion • Cyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg neu’n Ddwyieithog • Cyfleoedd ar gyfer profiad yn y maes • Cyfleoedd i astudio dramor • Cyfle i arbenigo mewn agweddau ar addysg gymunedol, er enghraifft, addysg fenter, addysg ryngwladol a chynaliadwyedd er mwyn cwblhau traethawd estynedig • Staff profiadol sy’n meddu ar brofiad arbennig ym maes addysg
Lleoliad: Abertawe Cod UCAS: X300 40 Credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg
Cyfleoedd gyrfa Bwriad y radd yw datblygu sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer gweithio mewn nifer o sectorau gan gynnwys addysg, lleoliadau gofal, iechyd a phroffesiynau perthynol yn ogystal â'r sector gwirfoddol. *yn amodol ar ddilysu
*yn amodol ar ddilysu
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Mae gwerth credyd modwl yn amodol ar y nifer o oriau astudio sy’n gysylltiedig â’r modwl, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac asesu. Gan amlaf mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un. Ar gyfer gradd Baglor, mae myfyrwyr yn astudio 360 credyd dros dair blynedd, sef 120 credyd y flwyddyn. Gan amlaf mae blwyddyn wedi ei rhannu’n ddau semester, lle byddwch yn astudio 60 credyd bob semester.
78 | www.ydds.ac.uk
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Mae gwerth credyd modwl yn amodol ar y nifer o oriau astudio sy’n gysylltiedig â’r modwl, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac asesu. Gan amlaf mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un. Ar gyfer gradd Baglor, mae myfyrwyr yn astudio 360 credyd dros dair blynedd, sef 120 credyd y flwyddyn. Gan amlaf mae blwyddyn wedi ei rhannu’n ddau semester, lle byddwch yn astudio 60 credyd bob semester.
www.ydds.ac.uk | 79
Astudiaethau Cymdeithasol Mae cynhwysiant cymdeithasol, a sut mae mynd i’r afael ag Allgau Cymdeithasol o ran grwpiau dan anfantais mewn cymdeithas, yn parhau yn uchel ar agendâu gwleidyddol yng Nghymru, yn y DU ac yn Ewrop. Rydym yn cynnig amrywiaeth unigryw o raglenni yn y maes hwn gan eu bod yn cynnwys theori gymdeithasol, polisi cymdeithasol ac ymarfer proffesiynol. Mae’r corff o theori sy’n ymwneud â Chynhwysiant Cymdeithasol yn seiliedig ar bolisi cymdeithasol, cymdeithaseg a seicoleg. Fodd bynnag mae’n ymwneud â mwy na pholisi cymdeithasol a damcaniaeth gymdeithasol yn unig. Mae egwyddorion ymarfer cynhwysol yn rhan hanfodol o’r rhaglen. Bydd lleoliadau arsylwi yn rhoi cyfle i chi gael mewnwelediad i weithio gyda grwpiau ac unigolion.
Cyrsiau Cyfrwng Cymraeg/Dwyieithog
Roedd
Caerfyrddin
97%
Gradd Anrhydedd
Cod UCAS
BA Astudiaethau Cymdeithasol: Anghenion Ychwanegol BA Astudiaethau Cymdeithasol: Cymunedau, Teuluoedd ac Unigolion BA Astudiaethau Cymdeithasol: Iechyd a Gofal Cymdeithasol
R116 PS39 L819
Gradd Sylfaen FdA Astudiaethau Cynhwysol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu
Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015
Cyrsiau Cyfrwng Saesneg Caerfyrddin
Gradd Anrhydedd
Cod UCAS
BA Social Studies: Additional Needs BA Social Studies: Health and Social Care BA Social Studies: Communities, Families and Individuals
Meistr Integredig
R116 L819 PS39
Cod UCAS
MSocStud Additional Needs MSocStud Communities, Families and Individuals MSocStud Health And Social Care
L820 N292 N240
Gradd Sylfaen FdA/BA Inclusive Education
o fyfyrwyr YDDS a oedd yn astudio yn yr Ysgol Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol yn fodlon ar eu profiad dysgu cyffredinol
L500
Tystysgrif Addysg Uwch
Gweler hefyd Gwaith Ieuenctid a Chymuned Y Gwyddorau Cymdeithasol
Cert HE Young People’s Health and Wellbeing
Abertawe Tystysgrif Addysg Uwch Cert HE Advocacy 80 | www.ydds.ac.uk
www.ydds.ac.uk | 81
BA Astudiaethau Cymdeithasol
Lleoliad: Caerfyrddin Llwybrau: BA Astudiaethau Cymdeithasol: Anghenion Ychwanegol Cod UCAS: R116 BA Astudiaethau Cymdeithasol: Cymunedau, Teuluoedd ac Unigolion Cod UCAS: PS39 BA Astudiaethau Cymdeithasol: Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cod UCAS: L819 40 Credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cyrsiau hyn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gwerth £1,500 dros 3 blynedd am ragor o wybodaeth ewch i www.colegcymraeg.ac.uk
Mae’r BA mewn Astudiaethau Cymdeithasol yn ymateb i’r angen hollbwysig i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda grwpiau ac unigolion mewn lleoliadau cymdeithasol, addysgol a gweinyddol, feddu ar wybodaeth a dealltwriaeth eang am gynhwysiant cymdeithasol a’r materion y mae’n eu cyflwyno i’r gymdeithas sydd ohoni. Gan seilio’i chorff damcaniaethol ar bolisïau cymdeithasol, cymdeithaseg a seicoleg, ymchwilia i effaith ffactorau diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol ar syniadau am les, cyfiawnder cymdeithasol a dinasyddiaeth. Bydd myfyrwyr yn mynd ati i drafod materion cyfredol megis: • • •
Pam mai menywod sydd fwyaf blaenllaw yn y proffesiynau gofal? Sut y gallwn fynd i’r afael â thlodi plant? Gydag adnoddau sy’n lleihau a chyllidebau dan straen, sut y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau a fydd yn cryfhau ein cymunedau ac yn sicrhau eu bod yn gynaliadwy?
Mewn ymateb i natur gymhleth y pwnc ac er mwyn sicrhau bod modd i fyfyrwyr ddilyn rhaglen o fodylau sy’n adlewyrchu eu dyheadau o ran gyrfa, datblygwyd tri llwybr ar gyfer y rhaglen BA Astudiaethau Cymdeithasol:
Anghenion Ychwanegol Bydd yn edrych ar yr amrywiaeth o anghenion ychwanegol y gallai unigolion eu datblygu ar hyd eu hoes, megis anghenion dysgu ychwanegol neu drais yn y cartref, a’r polisïau a’r arferion sy’n anelu at fynd i’r afael â’r anghenion hynny. Cymunedau, Teuluoedd ac Unigolion Bydd gwleidyddion yn cyfeirio’n aml at ‘deuluoedd sy’n gweithio’n galed’ ond beth maent yn ei olygu? Mae’r llwybr hwn yn archwilio’r berthynas rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau a’r rolau maent yn eu chwarae o ran llunio polisi cymdeithasol ac i’r gwrthwyneb. Iechyd a Gofal Cymdeithasol Mae’r llwybr hwn ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno gweithio gyda phlant a phobl ifanc, neu oedolion sy’n agored i niwed, mewn ystod o leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd yn gofyn i fyfyrwyr fynd i’r afael â materion sy’n bryder cynyddol i lunwyr polisïau, megis darparu gofal o ansawdd i hen bobl mewn poblogaeth sy’n heneiddio.
Modylau Enghreifftiol
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Mae gwerth credyd modwl yn amodol ar y nifer o oriau astudio sy’n gysylltiedig â’r modwl, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac asesu. Gan amlaf mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un. Ar gyfer gradd Baglor, mae myfyrwyr yn astudio 360 credyd dros dair blynedd, sef 120 credyd y flwyddyn. Gan amlaf mae blwyddyn wedi ei rhannu’n ddau semester, lle byddwch yn astudio 60 credyd bob semester.
82 | www.ydds.ac.uk
• Ystyried Astudiaethau Cymdeithasol - Mae’r modwl hwn yn cyflwyno cysyniad Cynhwysiant Cymdeithasol ac yn dynodi grwpiau sy’n agored i allgau cymdeithasol. Mae’n archwilio’r polisïau sydd yn eu lle i fynd i’r afael ag allgau, ac felly mae’n annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn trafodaethau bywiog am gyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a hawliau dynol.
Astudiaethau Cymdeithasol
• Yr Ymarferydd Adfyfyriol - Drwy leoliad arsylwi â chefnogaeth, mae’r modwl hwn yn darparu cyfle i fyfyrwyr ddatblygu arfer cynhwysol, gan adfyfyrio ar faterion moesegol sy’n codi o weithio gyda phobl o gefndiroedd a allai fod dan anfantais a gwella sgiliau ar gyfer cyflogaeth.
Roedd
91% o fyfyrwyr YDDS a oedd yn astudio yn yr Ysgol Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol yn fodlon ar y ‘Cymorth Dysgu’ Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015
www.ydds.ac.uk | 83
Yr Amgylchedd, Pensaernïaeth a’r Amgylchedd Adeiledig Cyrsiau Cyfrwng Saesneg Yr Amgylchedd Ers blynyddoedd lawer mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cynnig rhaglenni a gynlluniwyd i ddatblygu a pharatoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa yn y sector amgylcheddol. Arweiniodd y Brifysgol y ffordd gan mai hon oedd y brifysgol gyntaf i gynnig gradd mewn Cadwraeth yr Amgylchedd ym 1998 ac mae gan y cwrs enw da yn y diwydiant ac ymhlith prifysgolion eraill. Erbyn hyn mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth eang o raglenni amgylcheddol, yn cynnwys gwyddor amgylcheddol a chadwraeth, astudiaethau morwrol ac adeiladu cynaliadwy. Yn ogystal, wrth ehangu ei rhaglenni rhyngddisgyblaethol arloesol, mae’r Brifysgol wedi ceisio datblygu’r rhyngwyneb rhwng yr amgylchedd ac amgylcheddaeth a’r dyniaethau drwy raglenni sy’n astudio’r amgylchedd ac anthropoleg, athroniaeth ac archaeoleg, gan gwmpasu themâu fel treftadaeth amgylcheddol, moeseg cadwraeth yr amgylchedd, a dyfodol cynaliadwy.
Pensaernïaeth a’r Amgylchedd Adeiledig Mae gan y Brifysgol arbenigedd eang a hirsefydlog ym maes yr amgylchedd adeiledig. Ceir amrywiaeth eang o raglenni sy’n eich galluogi i arbenigo mewn meysydd allweddol fel adeiladu cynaliadwy, arolygu adeiladau ac ynni adnewyddadwy. Mae datblygiad cynaliadwy yn yrrwr allweddol yn y sector ar draws yr holl broffesiynau amgylchedd adeiledig. Mae datblygiad cynaliadwy felly yn gysyniad craidd sydd wedi’i gynnwys yn yr holl fodylau ac a gwmpasir yn eglur mewn modwl penodedig ar yr holl raglenni pensaernïaeth a’r amgylchedd adeiledig. Wrth ystyried yr amgylchedd adeiledig trwy lens cynaliadwyedd, mae’r angen am greu cymunedau cynaliadwy, ac felly lleoedd cynaliadwy i fyw ynddynt, yn ystyriaeth allweddol. Ym mis Medi 2016, byddwn yn lansio cwrs pensaernïaeth arloesol.
Abertawe Gradd Anrhydedd
Cafodd yr Ysgol Pensaernïaeth a’r Amgylchedd Adeiledig a Naturiol bedair gwobr yn y Gwobrau Addysgu a Arweinir gan Fyfyrwyr. Dr Rhian Jenkins: ‘Darlithydd Cyfadran Gorau’ a gwobr am ei sgiliau trefnu gwych. Lynda Rudd: Gwobr ‘Brenhines Moodle’ Sergio Garate: cyfraniad eithriadol at yr Ysgol a phrofiad myfyrwyr.
K100 W770 38VW 8K32 HF29 42U0 48C3 F901 9A2H 3A91 K220 K241
Gradd Meistr Integredig MEng Applied Environmental Engineering* MEng Energy and Environmental Engineering MDes Glass: Architectural Arts MDes Glass: Contemporary Practice
0HRS SH3M 0H3A
HND 3L1V 8K32 HF29
F901 9A2H K220 042K
Tystysgrif Addysg Uwch Science, Technology, Engineering and Mathematics
Llambed Gradd Anrhydedd BA Environmental Archaeology BA Environmental Studies
Gweler hefyd
Cod UCAS
BSc Architectue* BA Glass: Architectural Arts BSc Architectural Technology BSc Building Surveying BSc Civil Engineering & Environmental Management BEng Energy and Environmental Engineering BEng Energy and Environmental Engineering (4 year) BSc Environmental Conservation BSc Environmental Sciences BSc Marine and Coastal Geography BSc Project and Construction Management BSc Quantity Surveying
Cod UCAS 0BW3 8V32
* yn amodol ar ddilysu
Celf a Dylunio Y Dyniaethau
84 | www.ydds.ac.uk
www.ydds.ac.uk | 85
Blynyddoedd Cynnar Mae’r modd y mae plant yn datblygu a dysgu yn faes astudio cyfareddol. Mae polisïau a mentrau cyfredol, fel y cwricwlwm Cyfnod Sylfaen i blant bach a Dechrau’n Deg, yn dangos ymrwymiad i’r egwyddor y dylai gwasanaethau addysgol a gofal plant ar gyfer plant bach fod o’r ansawdd uchaf. Mae gweithlu blynyddoedd cynnar sydd yn ddeallus, yn wybodus, yn fedrus, yn hyderus ac wedi ei hyfforddi’n drwyadl, yn hanfodol i ddarparu’r cyfryw wasanaethau o ansawdd uchel i blant bach. Mae’r rhaglenni Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar a addysgir naill ai yn y Gymraeg neu’r Saesneg, yn mabwysiadu ymagwedd holistaidd at brosesau dysgu plant bach. Fel myfyrwyr, byddwch yn astudio datblygiad plant yn drylwyr, drwy theori ac ymarfer, yn hanesyddol ac yn gyfredol. Cewch archwilio’r cysyniad diwylliannol o blentyndod, llythrennedd a rhifedd cynnar, dysgu awyr agored, rhywedd a phlentyndod a llythrennedd digidol. Byddwch hefyd yn cael cyfleoedd i ymweld ag amrywiaeth o leoliadau.
O fewn ein rhaglenni ceir cyfleoedd hefyd i ddilyn cyrsiau a thystysgrif megis Gwobr John Muir. Mae myfyrwyr wedi ennill hyder a phrofiadau bywyd gwerthfawr drwy gyfleoedd o’r fath. Dylunnir pob un o’r profiadau hyn er mwyn i fyfyrwyr ddatblygu CV amrywiol a nodedig, ochr yn ochr â’u gradd academaidd. Mae rhai o’r rhaglenni yn cael eu darparu fel llwybr dysgu hyblyg ar gyfer myfyrwyr sydd â phrofiad o weithio neu wirfoddoli yn y sector addysg a gofal plant. Felly gall myfyrwyr astudio gyda’r nos ac ar rai Sadyrnau, sy’n eu caniatáu i gynnal ymrwymiadau gwaith tra byddant yn ennill gradd.
Roedd
100% o fyfyrwyr YDDS a oedd yn astudio yn yr Ysgol Plentyndod Cynnar yn fodlon ar eu ‘Darlithwyr Arbenigol’ Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015
Gweler hefyd Addysgu Astudiaethau Addysg Astudiaethau Cymdeithasol Y Gwyddorau Cymdeithasol
86 | www.ydds.ac.uk
Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar Mae’r Brifysgol yn falch o allu cynnig casgliad newydd ac arloesol o raglenni gradd a luniwyd ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb mewn gweithio gyda phlant a theuluoedd ac mewn ehangu eu gwybodaeth o addysg a gofal y blynyddoedd cynnar. Mae’r amrywiol raglenni wedi’u teilwra ar gyfer gwahanol fyfyrwyr i ddatblygu eu harbenigedd ymchwil, galwedigaethol ac academaidd. Lluniwyd pob rhaglen gan staff sydd ag amrywiaeth o brofiadau ym maes addysg a gofal y blynyddoedd cynnar, yn cynnwys addysgu a chynorthwyo mewn ysgolion cynradd, rheoli meithrinfeydd, amddiffyn plant a gofal iechyd. Mae’r rhaglenni felly’n darparu amrywiaeth o bynciau a phrofiadau i fyfyrwyr eu harchwilio. Mae ffocws pob rhaglen ar gysylltu profiad ymarferol â’r theori a’r ymchwil sy’n berthnasol i’r blynyddoedd cynnar. Mae’r holl raglenni yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i fyfyrwyr sydd eu hangen er mwyn deall natur amrywiol a chymhleth plant bach a’u teuluoedd. Mae’r rhaglenni yn rhoi pwyslais cryf ar les a datblygiad plant ac yn archwilio amryw
ddisgyblaethau gwahanol gan gynnwys seicoleg; cymdeithaseg; hanes; moeseg; iechyd; datblygiad creadigol ac addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang. Adlewyrcha’r rhaglenni werthoedd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn gan osod pwyslais cadarn ar hawliau plant bach, pwysigrwydd gwrando a pharchu syniadau a phenderfyniadau plant, a hawl plant bach i fynediad i chwarae. Yn ystod y rhaglenni bydd y myfyrwyr yn cael nifer o gyfleoedd i archwilio pwysigrwydd chwarae i ddatblygiad ac i’r dysgu a wneir gan blant bach. Archwilir y syniadau hyn yng nghyd-destun y Cyfnod Sylfaen, Dechrau’n Deg a dulliau rhyngwladol eraill ym maes y blynyddoedd cynnar. Bydd themâu fel llythrennedd a rhifedd cynnar, llythrennedd digidol, amgylcheddau dysgu a datblygiad creadigol hefyd yn nodweddion amlwg o fewn y rhaglenni ac ar hyd eich astudiaethau bydd cyfleoedd i fyfyrwyr ddefnyddio’u syniadau a’u menter eu hunain i ymgymryd â thasgau dysgu. Yn ystod y radd bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau effeithiol o ran ymchwil, meddwl yn feirniadol, dadansoddi, datrys problemau a TG yn ogystal â datblygu sgiliau gweithio’n unigol ac fel tîm.
Asesir yn gyfan gwbl trwy waith cwrs gyda ffocws ar ddatblygu sgiliau cyflogaeth a sgiliau academaidd y myfyrwyr. Mae’r amserlen yn cyfuno darlithoedd traddodiadol a dysgu ymarferol ac yn cynnig nifer o gyfleoedd i fyfyrwyr ymgymryd â gweithgareddau sy’n cefnogi cynnwys darlithoedd. Yn ystod y rhaglenni, gwahoddir darlithwyr gwadd i siarad a chodi ymwybyddiaeth o faterion cyfredol yn sector y blynyddoedd cynnar. Ceir cyfleoedd hefyd ar gyfer ymweliadau maes a theithiau addysgol sy’n rhan o gynnwys gwahanol fodylau. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol: • gweithdai iaith a chwarae • ymweliadau â chanolfannau blynyddoedd cynnar • siaradwyr o sefydliadau a phroffesiynau plentyndod cynnar lleol a chenedlaethol Darperir nifer o gyfleoedd hefyd ar gyfer ymweliadau opsiynol i fyfyrwyr ymweld â lleoliadau gwahanol megis Llundain, Sweden a Chanada. Ochr yn ochr ag astudiaeth draddodiadol yn ystod y dydd, lluniwyd y rhaglenni hefyd i’w darparu’n hyblyg er mwyn cynorthwyo ymarferwyr y blynyddoedd cynnar i ddychwelyd i astudio. www.ydds.ac.uk | 87
Blynyddoedd Cynnar
Cyrsiau Cyfrwng Cymraeg/Dwyieithog
Cyrsiau Cyfrwng Saesneg
Caerfyrddin
Abertawe
Gradd Anrhydedd
Gradd Meistr Integredig
Cod UCAS
Gradd Anrhydedd
BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar* M5Y2 BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar* 2 flynedd 8Q18 BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar)** 8X56 BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar)** 2 flynedd 6D23
Cod UCAS
Gradd Meistr Integredig: Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar* Gradd Meistr Integredig: Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar)**
* yn amodol ar ddilysu **yn amodol ar ddilysu a chymeradwyaeth broffesiynol CGC
39G2
38H9
87B2 63H7
Caerfyrddin Roedd
97% o fyfyrwyr YDDS a oedd yn astudio yn yr Ysgol Plentyndod Cynnar yn fodlon ar eu ‘Cymorth Dysgu’ Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015
88 | www.ydds.ac.uk
Cod UCAS
BA Early Years Education and Care (2 years)* BA Early Years Education and Care (Early Years Practitioner) (2 years)**
Gradd Anrhydedd
Cod UCAS
BA Early Years Education and Care* BA Early Years Education and Care (2 years)* BA Early Years Education and Care (Early Years Practitioner)** BA Early Years Education and Care (Early Years Practitioner) (2 years)**
Gradd Meistr Integredig
95X7 87B2 2T41 63H7
Cod UCAS
Integrated Master’s Early Years Education and Care (Early Years Practitioner)** Integrated Master’s Early Years Education and Care*
36K2 625X
Tystysgrif Addysg Uwch Cert HE Playwork * yn amodol ar ddilysu **yn amodol ar ddilysu a chymeradwyaeth broffesiynol CGC
www.ydds.ac.uk | 89
BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar)** Lleoliad: Caerfyrddin Cod UCAS: 8X56 120 Credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cwrs hwn yn gymwys am Brif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gwerth £3,000 dros 3 blynedd ynghyd ag Ysgoloriaeth William Salesbury gwerth £5,000. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk **yn amodol ar ddilysu a chymeradwyaeth broffesiynol CGC
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Mae gwerth credyd modwl yn amodol ar y nifer o oriau astudio sy’n gysylltiedig â’r modwl, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac asesu. Gan amlaf mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un. Ar gyfer gradd Baglor, mae myfyrwyr yn astudio 360 credyd dros dair blynedd, sef 120 credyd y flwyddyn. Gan amlaf mae blwyddyn wedi ei rhannu’n ddau semester, lle byddwch yn astudio 60 credyd bob semester.
90 | www.ydds.ac.uk
Mae’r rhaglen tair blynedd hon yn caniatáu ichi astudio am radd academaidd yn ogystal â dilyn cymhwyster sy’n seiliedig ar gymwyseddau a fydd yn cael eu hasesu mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar. Felly yn ogystal ag ennill gradd BA, mae’r rhaglen hon yn cynnig cyfle i gael eich asesu ar gyfer cymhwysedd proffesiynol sy’n cyfateb ag Ymarfer Uwch lefel 5 CCLD. Bydd yr asesiadau a’r darlithoedd felly yn eich cynorthwyo i wneud cysylltiadau cryf rhwng eich gweithgarwch ar leoliad a theori addysg a gofal y blynyddoedd cynnar. Byddwch yn astudio amrywiaeth o faterion yn gysylltiedig â gweithio gyda phlant ifanc a theuluoedd ac yn archwilio i agweddau pwysig ar blentyndod megis datblygiad cyfannol, lles, addysg a gofal. Mae’r rhaglen yn llwybr cydnabyddedig i gyrsiau hyfforddi pellach megis TAR i fod yn athro ysgol gynradd ac MSc mewn Gwaith Cymdeithasol. Fodd bynnag, ar radd
amlddisgyblaethol fel hon, gall myfyrwyr fynd i nifer o yrfaoedd eraill yn gysylltiedig â gweithio gyda phlant bach a theuluoedd. Mae’r mathau o bynciau a astudir yn cynnwys: • Yr ymarferydd proffesiynol • Datblygiad dynol • Arfer seiliedig ar waith • Lles, gofal a byw’n iach • Diogelu yn y blynyddoedd cynnar • Iaith a llythrennedd yn y blynyddoedd cynnar • Plant ag anghenion ychwanegol: cynhwysiant, eiriolaeth a thegwch Canolbwyntia’r radd ar sgiliau cyflogaeth a datblyga hyder ymarferol myfyrwyr mewn sefyllfaoedd gwaith. Felly bydd graddedigion yn datblygu gwybodaeth, gwerthoedd a dealltwriaeth sy’n hanfodol ar gyfer arfer da gwybodus.
Gradd Meistr Integredig: Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar)** Rhaglen pedair blynedd yw hon a luniwyd i gyfuno astudiaeth academaidd a chymhwysedd galwedigaethol. Bydd tair blynedd gyntaf y radd yn caniatáu ichi astudio pynciau sy’n ymwneud ag addysg a gofal y blynyddoedd cynnar yn ogystal â darparu cyfleoedd ar gyfer lleoliadau a chael cynnig cyfle i gael eich asesu ar gyfer cymhwysedd proffesiynol sy’n cyfateb ag Ymarfer Uwch lefel 5 CCLD. Trwy wneud hynny, fe gewch y manteision deuol o gael gradd academaidd a chymhwyster galwedigaethol. Byddwch yn astudio amrywiaeth o faterion yn gysylltiedig â gweithio gyda phlant ifanc a theuluoedd ac yn archwilio agweddau pwysig ar blentyndod megis datblygiad cyfannol, lles, addysg a gofal.
Mae pedwaredd flwyddyn y radd yn caniatáu i fyfyrwyr weithio ar lefel ôl-raddedig a datblygu arbenigedd ymchwil yn cynnwys ymgymryd â darn arwyddocaol o ymchwil annibynnol. Mae’r mathau o bynciau a astudir yn cynnwys: • Datblygiad dynol • Yr ymarferydd proffesiynol • Dysgu seiliedig ar waith • Dulliau ymchwil ym maes addysg a gofal y blynyddoedd cynnar • Diogelu yn y blynyddoedd cynnar • Lles yn y blynyddoedd cynnar • Prosiect ymchwil
Lleoliad: Caerfyrddin Cod UCAS: 38H9 120 Credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cwrs hwn yn gymwys am Brif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gwerth £3,000 dros 3 blynedd ynghyd ag Ysgoloriaeth William Salesbury gwerth £5,000. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk **yn amodol ar ddilysu a chymeradwyaeth broffesiynol CGC
Mae’r rhaglen hon yn datblygu hyder ymarferol myfyrwyr mewn sefyllfaoedd gwaith. Bydd graddedigion yn elwa o gael cymhwyster galwedigaethol yn ogystal â gradd ar lefel ôl-raddedig.
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Mae gwerth credyd modwl yn amodol ar y nifer o oriau astudio sy’n gysylltiedig â’r modwl, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac asesu. Gan amlaf mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un.
www.ydds.ac.uk | 91
BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar*
Lleoliad: Caerfyrddin Cod UCAS: M5Y2 120 Credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cwrs hwn yn gymwys am Brif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gwerth £3,000 dros 3 blynedd ynghyd ag Ysgoloriaeth William Salesbury gwerth £5,000. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk *yn amodol ar ddilysu
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Mae gwerth credyd modwl yn amodol ar y nifer o oriau astudio sy’n gysylltiedig â’r modwl, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac asesu. Gan amlaf mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un. Ar gyfer gradd Baglor, mae myfyrwyr yn astudio 360 credyd dros dair blynedd, sef 120 credyd y flwyddyn. Gan amlaf mae blwyddyn wedi ei rhannu’n ddau semester, lle byddwch yn astudio 60 credyd bob semester.
92 | www.ydds.ac.uk
Lluniwyd y rhaglen tair blynedd hon ar gyfer y rheiny sy’n dymuno ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o addysg a gofal blynyddoedd cynnar.
Mae’r rhaglen yn llwybr cydnabyddedig i gyrsiau hyfforddi pellach megis TAR i fod yn athro ysgol gynradd a MSc mewn Gwaith Cymdeithasol. Fodd bynnag, ar radd amlddisgyblaethol fel hon, gall myfyrwyr fynd i nifer o yrfaoedd eraill yn gysylltiedig â gweithio gyda phlant bach a theuluoedd.
Mae’r radd yn rhoi cyfle i astudio materion yn gysylltiedig â gweithio gyda phlant ifanc a theuluoedd ac archwilio agweddau pwysig Mae’r mathau o bynciau a astudir yn cynnwys: ar blentyndod megis datblygiad cyfannol, • Sgiliau ar gyfer cyflogadwyedd lles, addysg a gofal. • Y mathemategydd ifanc: archwilio a datrys problemau Anogir y rheiny sy’n astudio’r radd hon i • Yr oedolyn adfyfyriol wirfoddoli mewn lleoliadau blynyddoedd • Lles, gofal a byw’n iach cynnar i gefnogi’u dysgu. Mae pwyslais ar • Arweinyddiaeth a gwaith tîm yn y astudiaeth academaidd a chaiff y myfyrwyr blynyddoedd cynnar gyfle i ganolbwyntio ar eu sgiliau ymchwil, • Prosiect ymchwil personol gan gynnwys ymgymryd â phrosiect • Plant ag anghenion ychwanegol: ymchwil arwyddocaol yn eu blwyddyn olaf. cynhwysiant, eiriolaeth a thegwch
Gradd Meistr Integredig: Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar* Gradd pedair blynedd yw hon sy’n caniatáu i fyfyrwyr fagu hyder wrth ymgymryd ag ymchwil ym maes addysg a gofal blynyddoedd cynnar. Cewch gyfle i astudio amrywiaeth o faterion yn gysylltiedig â gweithio gyda phlant ifanc a theuluoedd ac archwilio agweddau pwysig ar blentyndod megis datblygiad cyfannol, lles, addysg a gofal. Trwy gydol y radd cewch gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau ymchwil yn cynnwys ymgymryd â phrosiectau ymchwil unigol arwyddocaol yn eich trydedd a’ch pedwaredd flwyddyn. Yn y bedwaredd flwyddyn byddwch yn astudio ar lefel ôl-raddedig ac yn sgil hyn byddwch yn magu’r sgiliau a’r hyder i ymgeisio am gyflogaeth sy’n gofyn am sgiliau lefel uwch.
Mae’r mathau o bynciau a astudir yn cynnwys: • Sgiliau ar gyfer cyflogadwyedd • Datblygiad dynol • Lles, gofal a byw’n iach • Iaith a llythrennedd yn y blynyddoedd cynnar • Diogelu yn y blynyddoedd cynnar • Arweinyddiaeth a gwaith tîm yn y blynyddoedd cynnar • Plant ag anghenion ychwanegol: cynhwysiant, eiriolaeth a thegwch • Ymchwil ar gyfer a gyda phlant ifanc • Lles yn y blynyddoedd cynnar • Prosiect Ymchwil
Lleoliad: Caerfyrddin Cod UCAS: 39G2 120 Credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cwrs hwn yn gymwys am Brif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gwerth £3,000 dros 3 blynedd ynghyd ag Ysgoloriaeth William Salesbury gwerth £5,000. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk *yn amodol ar ddilysu
Mae’r Ysgol Blynyddoedd Cynnar wedi datblygu darpariaeth llwybr dysgu hyblyg sy’n caniatáu i’r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y sector addysg a gofal blynyddoedd cynnar neu alwedigaethau cysylltiedig allu astudio gyda’r nos ac ar rai Sadyrnau, gan barhau â’u hymrwymiadau arferol.
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Mae gwerth credyd modwl yn amodol ar y nifer o oriau astudio sy’n gysylltiedig â’r modwl, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac asesu. Gan amlaf mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un.
www.ydds.ac.uk | 93
BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar)** 2 flynedd Lleoliad: Caerfyrddin Cod UCAS: 6D23 120 Credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cwrs hwn yn gymwys am Ysgoloriaeth William Salesbury y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gwerth £5,000. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk **yn amodol ar ddilysu a chymeradwyaeth broffesiynol CGC
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Mae gwerth credyd modwl yn amodol ar y nifer o oriau astudio sy’n gysylltiedig â’r modwl, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac asesu. Gan amlaf mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un.
94 | www.ydds.ac.uk
Gradd dwy flynedd llwybr carlam yw’r rhaglen hon, sy’n caniatáu i fyfyrwyr ennill gradd BA lawn a chymhwysedd galwedigaethol mewn dwy flynedd yn unig. Bydd myfyrwyr yn astudio dros ddwy flynedd academaidd sy'n rhedeg o fis Medi i fis Gorffennaf. Cynhelir darlithoedd fel arfer un noson yr wythnos ac ar rai Sadyrnau gan ganiatáu i fyfyrwyr barhau â’u hymrwymiadau gwaith. Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr hefyd yn gallu defnyddio eu gwaith cyfredol fel eu lleoliad gan fod y radd hon yn cynnig cyfle i gael eich asesu ar gyfer cymhwysedd proffesiynol sy’n cyfateb ag Ymarfer Uwch lefel 5 CCLD. Felly bydd myfyrwyr yn ennill Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar sy’n gymhwyster Lefel 5 galwedigaethol.
Mae’r rhaglen yn llwybr cydnabyddedig i gyrsiau hyfforddi pellach megis TAR i fod yn athro ysgol gynradd a MSc mewn Gwaith Cymdeithasol. Fodd bynnag, ar radd amlddisgyblaethol fel hon, gall myfyrwyr fynd i nifer o yrfaoedd eraill yn gysylltiedig â gweithio gyda phlant bach a theuluoedd. Yn ystod y radd mae myfyrwyr yn astudio amrywiaeth o faterion yn gysylltiedig â gweithio gyda phlant ifanc a theuluoedd ac yn archwilio agweddau pwysig ar blentyndod megis datblygiad cyfannol, lles, addysg a gofal. Mae’r pynciau’n cynnwys: • Yr ymarferydd proffesiynol • Datblygiad dynol • Arfer seiliedig ar waith • Iaith a llythrennedd yn y blynyddoedd cynnar • Plant ag anghenion ychwanegol: cynhwysiant, eiriolaeth a thegwch
BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar* 2 flynedd Gradd dwy flynedd llwybr carlam yw’r rhaglen hon, sy’n caniatáu i fyfyrwyr ennill gradd BA lawn mewn dwy flynedd yn unig. Bydd myfyrwyr yn astudio dros ddwy flynedd academaidd sy'n rhedeg o fis Medi i fis Gorffennaf. Cynhelir darlithoedd fel arfer un noson yr wythnos ac ar rai Sadyrnau gan ganiatáu i fyfyrwyr barhau â’u hymrwymiadau gwaith. Yn ystod y radd mae myfyrwyr yn astudio amrywiaeth o faterion yn gysylltiedig â gweithio gyda phlant ifanc a theuluoedd ac yn archwilio i agweddau pwysig ar blentyndod megis datblygiad cyfannol, lles, addysg a gofal.
Mae’r pynciau a astudir yn cynnwys: • Yr ymarferydd proffesiynol • Datblygiad dynol • Y mathemategydd ifanc: archwilio a datrys problemau • Yr oedolyn adfyfyriol • Lles, gofal a byw’n iach • Iaith a llythrennedd yn y blynyddoedd cynnar • Prosiect ymchwil personol Mae’r radd hefyd yn rhoi cyfle i ddatblygu eich sgiliau ymchwil mewn perthynas â gweithio gyda phlant a theuluoedd a byddwch yn ymgymryd ag astudiaeth ymchwil unigol arwyddocaol yn eich blwyddyn olaf. Mae’r rhaglen yn llwybr cydnabyddedig i gyrsiau hyfforddi pellach megis TAR i fod yn athro ysgol gynradd a MSc mewn Gwaith Cymdeithasol. Fodd bynnag, ar radd amlddisgyblaethol fel hon, gall myfyrwyr fynd i nifer o yrfaoedd eraill yn gysylltiedig â gweithio gyda phlant bach a theuluoedd.
Lleoliad: Caerfyrddin Cod UCAS: 8Q18 120 Credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cwrs hwn yn gymwys am Ysgoloriaeth William Salesbury y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gwerth £5,000. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk *yn amodol ar ddilysu
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Mae gwerth credyd modwl yn amodol ar y nifer o oriau astudio sy’n gysylltiedig â’r modwl, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac asesu. Gan amlaf mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un.
www.ydds.ac.uk | 95
Busnes a Rheolaeth
Cyrsiau Cyfrwng Cymraeg/Dwyieithog Caerfyrddin Gradd Anrhydedd
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau sy’n cynnwys sgiliau busnes a rheolaeth, naill ai fel pwnc craidd neu fel rhan o raglen astudio sy’n ymwneud â phwnc neu broffesiwn arall. Mae astudio pynciau sy’n gysylltiedig â busnes a rheolaeth yn rhoi sgiliau a gwybodaeth gwerthfawr iawn i chi a fydd yn eich helpu i ddatblygu gyrfa mewn sefydliadau o bob maint, neu i sefydlu eich menter eich hun. Gyda’u cysylltiadau cryf â busnes, mae gan ein cyrsiau, sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd, hanes cyflogaeth graddedigion ardderchog ac un o’r cyfraddau cychwyn busnes uchaf gan raddedigion yng Nghymru.
Rydym yn cynnig cyrsiau cyffredinol mewn rheolaeth busnes a rheolaeth ac arweinyddiaeth er mwyn rhoi’r amrywiaeth ehangaf bosibl o gyfleoedd gyrfa i chi pan fyddwch yn graddio. Mae gennym hefyd raglenni arbenigol mewn meysydd busnes allweddol fel cyfrifeg a chyllid, marchnata, adnoddau dynol a systemau gwybodaeth, ynghyd â graddau sy’n gysylltiedig â diwydiannau penodol fel hamdden a thwristiaeth, chwaraeon, gwasanaethau cyhoeddus a digwyddiadau.
N200
Abertawe
Gradd Anrhydedd
Roedd
90% o fyfyrwyr a oedd yn astudio yn y Gyfadran Busnes a Rheolaeth yn fodlon ar y Darlithwyr Arbenigol. Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015
Gweler hefyd Cyfrifeg a Chyllid Chwaraeon, Iechyd ac Antur Awyr Agored Dysgu Seiliedig ar Waith Hamdden a Thwristiaeth
96 | www.ydds.ac.uk
Cod UCAS
BA Rheolaeth Busnes
Cod UCAS
BA Busnes Rhyngwladol BA Rheolaeth ac Arweinyddiaeth† BA Rheolaeth Busnes∆ BA Rheolaeth Marchnata BA Rheolaeth Adnoddau Dynol
N121 N201 N200 N500 N620
Diploma
Cod UCAS
HND Busnes a Chyllid HND Rheolaeth Busnes HND Rheolaeth Digwyddiadau HND Rheolaeth Hamdden HND Rheolaeth Twristiaeth
422N 0HW6 3T0N N872 238N
Gradd Sylfaen
Cod UCAS
FdA Rheolaeth Busnes FdA Rheolaeth Chwaraeon FdA Rheolaeth Digwyddiadau FdA Rheolaeth Twristiaeth
0HW6 5J1A 9NQY 3RX8
Cyrsiau Perthnasol
BA Busnes a Chyllid BA Cyfrifeg
(gweler yr adran Cyfrifeg a Chyllid)
Cod UCAS N290 N400
BA Rheolaeth Chwaraeon N871 (gweler yr adran Chwaraeon, Iechyd ac Antur Awyr Agored) BA Rheolaeth Digwyddiadau N820 BA Rheolaeth Hamdden N872 BA Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Rhyngwladol N840 BA Rheolaeth Twristiaeth N800 (gweler yr adran Hamdden a Thwristiaeth) ∆ Ar gyfer mynediad ym Medi 2016 Cod UCAS y cwrs hwn yw N100 † Ar gyfer mynediad ym Medi 2016 Cod UCAS y cwrs hwn yw N200
www.ydds.ac.uk | 97
Busnes a Rheolaeth
Cyrsiau Cyfrwng Saesneg Abertawe Gradd Anrhydedd BA Business and Finance BA Business Management∆ BA Human Resource Management BA International Business BSc Logistics BA Management and Leadership† BA Management Skills for the Workplace BA Marketing Management BA Sports Management
Gradd Cyd-Anrhydedd BA Law and Business
Gradd Sylfaen FdA Business Management FdA Events Management FdA Sports Management FdA Tourism Management
Diploma HND Business and Finance HND Business Management HND Events Management HND Health Management HND Sports Management HND Tourism Management HND Web Development
Tystysgrif Cenedlaethol Uwch Cod UCAS N290 N200 N620 N121 N900 N201 N500 N871
Cod UCAS K1V2
Cod UCAS 0HW6 9NQY 5J1A 3RX8
Cod UCAS 422N O22N 3T0N 3LN4 178N 238N 024G
HNC Business Management HNC Events Management HNC Health Management HNC Sports Management HNC Tourism Management
Tystysgrif Addysg Uwch Cert HE Business Management Cert HE Skills for the Workplace* Cert HE Sports Management Cert HE Tourism Management
Gradd Meistr Integredig MBus Business and Management MBus Finance MBus Human Resource Management MBus Marketing Management MBus Management & Leadership
Cod UCAS CF3A W3P2 P7A4 B4ZL A2MS
Caerfyrddin Gradd Anrhydedd BA Business Management BA Management Skills for the Workplace
Cod UCAS N200
Tystysgrif Addysg Uwch Cert HE Skills for the Workplace* ∆ Ar gyfer mynediad ym Medi 2016 Cod UCAS y cwrs hwn yw N100 † Ar gyfer mynediad ym Medi 2016 Cod UCAS y cwrs hwn yw N200 * Mae modd astudio’r cwrs hwn mewn amryw o leoliadau yn cynnwys Llanelli, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr
98 | www.ydds.ac.uk
www.ydds.ac.uk | 99
BA Busnes Rhyngwladol
Lleoliad: Abertawe Cod UCAS: N121 40 Credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cwrs hwn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gwerth £1,500 dros 3 blynedd am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Mae gwerth credyd modwl yn amodol ar y nifer o oriau astudio sy’n gysylltiedig â’r modwl, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac asesu. Gan amlaf mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un. Ar gyfer gradd Baglor, mae myfyrwyr yn astudio 360 credyd dros dair blynedd, sef 120 credyd y flwyddyn. Gan amlaf mae blwyddyn wedi ei rhannu’n ddau semester, lle byddwch yn astudio 60 credyd bob semester.
100 | www.ydds.ac.uk
Mae’r rhaglen wedi’i hanelu at fyfyrwyr cartref, o’r DU, Ewrop a myfyrwyr rhyngwladol o amrywiaeth o gefndiroedd academaidd a galwedigaethol. Mae ar gael fel rhaglen tair blynedd llawn amser neu fel cwrs blwyddyn ‘atodol’ i fyfyrwyr sy’n trosglwyddo o raglenni eraill. Mae’r cwrs yn ymgorffori egwyddorion cyflogadwyedd a datblygiad gyrfa myfyrwyr trwy roi cysyniadau academaidd a damcaniaethau perthnasol ar waith yn ymarferol yn y gweithle rhyngwladol. Mae pob pwnc a astudir ar y rhaglen yn berthnasol i fyd gwaith, ar draws disgyblaethau a sectorau arbenigol. Mae’r sgiliau a ddatblygir i sicrhau llwyddiant academaidd yn cyfateb yn union i’r rhai sydd yn ofynnol gan gyflogwyr rhyngwladol ac i astudio ar lefelau uwch. Mae hyblygrwydd y rhaglen yn caniatáu cyfleoedd i fyfyrwyr arbenigo neu i barhau â’u hastudiaethau cyffredinol er mwyn cadw eu hopsiynau yn agored yn dibynnu ar y tueddiadau yn y farchnad swyddi.
Modylau Mae’r cwrs yn dilyn dull modwlar ac mae’n ofynnol i fyfyrwyr astudio modylau cyfwerth â 120 o gredydau y flwyddyn gydag amrywiaeth o opsiynau craidd a dewisol ar wahanol gamau datblygiad y myfyrwyr. Mae Blwyddyn 1 yn darparu sylfaen generig i ddisgyblaethau allweddol busnes a rheolaeth a datblygu sgiliau personol. Mae un elfen yn cynnwys prosiect ymgysylltu â’r gymuned a luniwyd i gael y myfyrwyr i gyfarwyddo â chymhwyso cysyniadau allweddol mewn lleoliad gwaith ymarferol. Mae pob modwl yn orfodol. Mae Blwyddyn 2 yn adeiladu ar yr uchod ac yn datblygu gwybodaeth am faes busnes rhyngwladol mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau megis cyllid, marchnata ac adnoddau dynol. Mae Blwyddyn 3 yn datblygu hyn ymhellach trwy ddadansoddi pellach a chymhwyso ymarferol gan astudio strategaeth, ffactorau diwylliannol a materion arweinyddiaeth a rheolaeth mewn cyd-destun byd-eang. Ceir cyfle hefyd i ddewis o blith amrywiol opsiynau sy’n ategu’r modylau craidd. Bydd myfyrwyr hefyd yn cwblhau prosiect ymgynghori sefydliadol estynedig ar thema ryngwladol berthnasol a drafodwyd. Bydd y prosiect hwn yn darparu cyngor ymarferol i sefydliad ynglŷn â sut i wella yn y maes rhyngwladol.
www.ydds.ac.uk | 101
BA Rheolaeth ac Arweinyddiaeth
Lleoliad: Abertawe Cod UCAS: N201∆ 40 Credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cwrs hwn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymrag Cenedlaethol gwerth £1,500 dros 3 blynedd – am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk ∆ Ar gyfer mynediad ym Medi 2016 Cod UCAS y cwrs hwn yw N100
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Mae gwerth credyd modwl yn amodol ar y nifer o oriau astudio sy’n gysylltiedig â’r modwl, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac asesu. Gan amlaf mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un. Ar gyfer gradd Baglor, mae myfyrwyr yn astudio 360 credyd dros dair blynedd, sef 120 credyd y flwyddyn. Gan amlaf mae blwyddyn wedi ei rhannu’n ddau semester, lle byddwch yn astudio 60 credyd bob semester.
102 | www.ydds.ac.uk
Bydd y rhaglen yn ddeniadol i’r sawl sy’n dymuno bod yn rheolwyr ac yn arweinwyr effeithiol mewn busnes ac a fyddai’n elwa o’n dulliau addysgu ac asesu arloesol. Mae’r modylau wedi’u mapio yn erbyn cymwysterau proffesiynol cymdeithasau rheolaeth i sicrhau eithrio o rai gofynion a datblygu sgiliau cyflogadwyedd perthnasol i raddedigion. Bydd gan yr ymgeiswyr hynny sydd â diddordeb mewn cymhwyso syniadau rheoli ac arwain nifer o gyfleoedd ar y rhaglen i ymgysylltu â’r gymuned a mynd ar leoliadau neu interniaethau. Mae’r rhaglen hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n dymuno dysgu sgiliau busnes, rheoli ac arwain craidd a chael dirnadaeth o’r offer a’r technegau sydd eu hangen i ddod yn rheolwyr ac yn arweinwyr effeithiol. Bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag ystod o dasgau yn gysylltiedig â sefydliadau, a byddant yn mwynhau datblygu datrysiadau cymhleth i broblemau a chyfleoedd rheolaeth ac arweinyddiaeth.
Mae Blwyddyn 1 yn rhoi cyflwyniad i’r prif ddisgyblaethau busnes ac yn datblygu sgiliau hanfodol. Bydd myfyrwyr yn gweithio gyda sefydliad allanol i weld y ddamcaniaeth ar waith ac ennill sgiliau gwerthfawr. Mae Blwyddyn 2 yn ymdrin â sut i reoli pobl, materion yn ymwneud â moeseg rheoli, entrepreneuriaeth a modwl sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ar gyfer rheolwyr ac arweinwyr. Mae cyfle am interniaeth a gaiff ei asesu ar gyfer credydau. Mae Blwyddyn 3 yn datblygu themâu strategaeth, arweinyddiaeth a rheolaeth, gyda’r cyfle i ddewis opsiynau. Bydd myfyrwyr hefyd yn cwblhau naill ai traethawd hir ar bwnc cyfoes ym maes rheolaeth busnes neu brosiect ymgynghori sefydliadol lle byddant yn cymryd arnynt rôl yr ymgynghorydd rheoli gan ddatblygu cyngor ar gyfer y sefydliad dan sylw.
BA Rheolaeth Busnes
Bydd y rhaglen yn ddeniadol i’r rheini sy’n dymuno astudiaethau mwy galwedigaethol eu natur ac sydd â diddordeb mewn dulliau addysgu ac asesu arloesol. Mae hefyd yn berthnasol i’r rheini sydd am ddatblygu ymhellach trwy ddysgu yn y gwaith. Mae’r rhaglen hon yn gweddu i’r rheini sy’n dymuno ystyried sefydliadau busnes, gan gyfuno sgiliau ynghylch rheoli busnes, a bydd yn rhan o’r gwaith o ddatblygu atebion i broblemau masnachol trwy ymwneud â’r gymuned ac interniaethau i ddatblygu’r sgiliau sy’n seiliedig ar ddiwydiant. Mae’r strwythur modylol wedi’i integreiddio gyda dyfarniadau busnes a rheoli eraill a gynigir gan y Gyfadran a chaniateir yr hyblygrwydd mwyaf i fyfyrwyr ennill profiad gwaith, trosglwyddo i raglenni dyfarniadau busnes eraill neu newid eu dull o astudio, e.e. er mwyn trosglwyddo i astudio’n rhan amser. Byddwch yn datblygu repertoire eang o sgiliau busnes, yn hytrach na chanolbwyntio ar un arbenigedd. Mae myfyrwyr yn ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau sy’n berthnasol i sefydliadau ac yn mwynhau datblygu datrysiadau cymhleth i broblemau busnes. Yn sgil yr amrywiaeth eang o sgiliau a ddysgir, mae gan raddedigion nifer o gyfleoedd gyrfa mewn ystod amrywiol o rolau busnes mewn ystod eang o sectorau, gan gynnwys y llywodraeth a sectorau di-elw.
Modylau Mae Blwyddyn 1 yn rhoi cyflwyniad i’r prif ddisgyblaethau busnes ac yn datblygu sgiliau hanfodol. Bydd myfyrwyr yn gweithio gyda sefydliad allanol i weld y ddamcaniaeth ar waith ac ennill sgiliau gwerthfawr. Ym Mlwyddyn 2 datblygir ymhellach ddiwydiant a sgiliau allweddol trwy gymhwyso dysgu yn y gwaith er mwyn meithrin sgiliau a phrofiad mewn amgylchedd busnes. Rhoddir hefyd sylw i gyllid, adnoddau dynol a marchnata. Mae’n cynnwys ymarfer entrepreneuriaeth, rheoli data astudio a deallusrwydd busnes. Mae Blwyddyn 3 yn datblygu themâu strategaeth, arweinyddiaeth a rheolaeth, gyda chyfle i ddewis opsiynau. Bydd myfyrwyr hefyd naill ai'n gwneud traethawd hir mewn pwnc busnes cyfredol neu brosiect ymgynghorol cyfundrefnol lle byddant yn efelychu rôl ymgynghorydd rheolaeth gan ddatblygu cyngor ar gyfer sefydliad.
Lleoliad: Caerfyrddin Cod UCAS: N200 40 Credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg
Lleoliad: Abertawe Cod UCAS: N200† 40 Credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cwrs hwn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gwerth £1,500 dros 3 blynedd am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk
† Ar gyfer mynediad ym Medi 2016 Cod UCAS y cwrs hwn yw N100
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Mae gwerth credyd modwl yn amodol ar y nifer o oriau astudio sy’n gysylltiedig â’r modwl, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac asesu. Gan amlaf mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un. Ar gyfer gradd Baglor, mae myfyrwyr yn astudio 360 credyd dros dair blynedd, sef 120 credyd y flwyddyn. Gan amlaf mae blwyddyn wedi ei rhannu’n ddau semester, lle byddwch yn astudio 60 credyd bob semester.
www.ydds.ac.uk | 103
BA Rheolaeth Marchnata
Lleoliad: Abertawe Cod UCAS: N500 40 Credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cwrs hwn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gwerth £1,500 dros 3 blynedd am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk
Wrth i gyflogwyr chwilio am raddedigion sydd ag ystod eang o sgiliau ac sy’n gwerthfawrogi dynameg yr amgylchedd busnes sy’n newid yn barhaus, lluniwyd y rhaglen Rheolaeth Marchnata i baratoi darpar farchnadwyr ar gyfer realiti’r byd go iawn. Gan ganolbwyntio ar gyflogadwyedd, bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau a luniwyd i ychwanegu gwerth i’w profiad dysgu ac unrhyw ddarpar gyflogwr. Bydd darlithoedd gwadd gan gynrychiolwyr o gwmnïau rhyngwladol yn ogystal â busnesau lleol yn darparu deunydd astudiaeth achos go iawn a syniadau ar gyfer gwaith prosiect, gan sicrhau bod digon o gyfleoedd i gael profiad ymarferol o’r byd busnes. Os hoffech fod gam ychwanegol ar y blaen ym myd marchnata, efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn cwblhau cymhwyster CIM (Sefydliad Siartredig Marchnata), sy’n cyd-redeg â’r rhaglen Rheolaeth Marchnata. Cydnabyddir y cymhwyster hwn yn eang gan gyflogwyr yn rhyngwladol ac mae’n rhoi cyfle i fyfyrwyr marchnata ddatblygu sgiliau ymarferol a gwybodaeth i lunio a gweithredu gweithgareddau strategol/tactegol ynghyd â chael hygrededd ym maes marchnata ymhlith darpar gyflogwyr.
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Mae gwerth credyd modwl yn amodol ar y nifer o oriau astudio sy’n gysylltiedig â’r modwl, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac asesu. Gan amlaf mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un. Ar gyfer gradd Baglor, mae myfyrwyr yn astudio 360 credyd dros dair blynedd, sef 120 credyd y flwyddyn. Gan amlaf mae blwyddyn wedi ei rhannu’n ddau semester, lle byddwch yn astudio 60 credyd bob semester.
104 | www.ydds.ac.uk
Modylau Mae Blwyddyn 1 yn rhoi cyflwyniad i’r prif ddisgyblaethau busnes ac yn datblygu sgiliau hanfodol. Bydd myfyrwyr yn gweithio gyda sefydliad allanol i weld y ddamcaniaeth ar waith ac ennill sgiliau gwerthfawr. Caiff myfyrwyr eu cyflwyno i faterion allweddol yn ymwneud â’r amgylchedd marchnata a rheoli marchnata mewn busnes, megis cysylltiadau marchnata, y cymysgedd marchnata, gwasanaeth cwsmeriaid, ac ymchwil i’r farchnad. Mae Blwyddyn 2 yn ymdrin â’r amgylchedd marchnata, systemau gwybodaeth marchnata a chysylltiadau marchnata a bydd hefyd yn cynnwys ymarfer entrepreneuriaeth. Mae’n caniatáu dewis o opsiynau mewn meysydd datblygol cyfredol o fewn rheolaeth busnes. Mae cyfle am interniaeth a gaiff ei asesu ar gyfer credydau. Mae Blwyddyn 3 yn datblygu themâu strategaeth, cynllunio ac arferion marchnata ac mae’n archwilio materion cyfoes ym maes rheolaeth marchnata. Bydd myfyrwyr hefyd yn cwblhau naill ai traethawd hir ar bwnc cyfoes ym maes rheolaeth busnes neu brosiect ymgynghori sefydliadol lle byddant yn cymryd arnynt rôl yr ymgynghorydd rheoli gan ddatblygu cyngor ar gyfer y sefydliad dan sylw.
BA Rheolaeth Adnoddau Dynol
Bydd y rhaglen yn ddeniadol i’r sawl sy’n dymuno bod yn rheolwyr Adnoddau Dynol (AD) effeithiol mewn busnes ac a fyddai’n elwa o’n dulliau addysgu ac asesu arloesol.
Mae’r rhaglen hon yn addas i’r rhai sy’n dymuno meithrin gwybodaeth a sgiliau Rheolaeth Adnoddau Dynol yn ogystal â derbyn achrediad proffesiynol.
Mae’r modylau wedi’u mapio yn erbyn cynllun y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) sy’n caniatáu i fyfyrwyr hefyd ennill Dyfarniad y CIPD a gydnabyddir yn rhyngwladol a/neu Dystysgrif mewn Rheolaeth Adnoddau Dynol.
Bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag ystod o dasgau yn gysylltiedig â sefydliadau, a byddant yn mwynhau datblygu datrysiadau i broblemau cymhleth a materion Rheolaeth Adnoddau Dynol.
Mae gan yr ymgeiswyr hynny sydd â diddordeb mewn cymhwyso syniadau Rheolaeth Adnoddau Dynol nifer o gyfleoedd ar y rhaglen i ymgysylltu â’r gymuned a mynd ar leoliadau neu interniaethau.
Lleoliad: Abertawe Cod UCAS: N620 40 Credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cwrs hwn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gwerth £1,500 dros 3 blynedd am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Mae gwerth credyd modwl yn amodol ar y nifer o oriau astudio sy’n gysylltiedig â’r modwl, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac asesu. Gan amlaf mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un. Ar gyfer gradd Baglor, mae myfyrwyr yn astudio 360 credyd dros dair blynedd, sef 120 credyd y flwyddyn. Gan amlaf mae blwyddyn wedi ei rhannu’n ddau semester, lle byddwch yn astudio 60 credyd bob semester.
www.ydds.ac.uk | 105
Celf a Dylunio Roedd
95% o fyfyrwyr YDDS a oedd yn astudio yn y Gyfadran Celf a Dylunio yn fodlon ar y ‘Darlithwyr Da’. A ydych chi’n berson creadigol sy’n hoffi arbrofi gyda syniadau trwy fynegiant gweledol? Mae’r dyhead am astudio lle medrwch chi fel artist fynegi eich syniadau trwy amrywiaeth o gyfryngau gweledol yn greiddiol i’n rhaglenni Celf. Mae’r Gyfadran Celf a Dylunio yn cydnabod pwysigrwydd Cymru a’i Chymeriad Arbennig drwy ddathlu asedau a threftadaeth ieithyddol a diwylliannol arbennig Cymru. Ymgorffora’r Gyfadran ddiwylliant a threftadaeth Cymru o fewn addysgu a dysgu, gan greu’r cyfle i fyfyrwyr ryngweithio’n ddwyieithog mewn cyd-destun lleol a byd-eang.
Gyda ffocws ar y myfyriwr, mae’r Gyfadran Celf a Dylunio yn falch iawn i allu cynnig ei darpariaeth Celf a Dylunio yn ddwyieithog (Cymraeg / Saesneg). Bydd dysgu ac addysgu dwyieithog yn cael eu cynnal mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar y dysgwr o fewn stiwdios a gweithdai sy’n ymroddedig i’r ddarpariaeth amrywiol a gynigir. Mae’r cwrs Celf Gain yn gymwys am Brif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n werth £3,000 dros dair blynedd. Mae’r stiwdios a gweithdai celf a dylunio yn fannau llawn cynnwrf lle mae’r drafodaeth fywiog yn cwmpasu’r berthynas rhwng cysyniadau a’r dulliau priodol o fynegi’r rhain, yn faterol ac yn weledol.
“Mae arna’i fy ngyrfa gyfan i Goleg Celf Abertawe YDDS, maent yn cynnig amgylchedd delfrydol i ffynnu ynddo. Roedd y cymorth a’r arweiniad a gefais wedi'u cynllunio i weddu i fy anghenion i’r dim, maent yn trin pob person fel unigolyn.” Gareth Winter British Sky Broadcasting & Sky News
Roedd
97% o fyfyrwyr YDDS a oedd yn astudio yn y Gyfadran Celf a Dylunio yn fodlon ar y ‘Tiwtoriaid Personol’.
Roedd
100% o fyfyrwyr YDDS a oedd yn astudio yn y Gyfadran Celf a Dylunio yn fodlon ar y ‘Gwasanaethau Myfyrwyr’.
Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015
106 | www.ydds.ac.uk
www.ydds.ac.uk 107
Celf a Dylunio
Celf a Dylunio Celf a Dylunio Sylfaen Mae’r cwrs hwn yn gyflwyniad i astudiaethau Celf a Dylunio ac mae’n rhoi sylfaen i fyfyrwyr sy’n dechrau mewn coleg celf ac yn profi addysgu a dysgu mewn stiwdio am y tro cyntaf. Mae’r cwrs yn cynnig dilyniant uniongyrchol i gyrsiau gradd neu feistr integredig a bydd myfyrwyr yn cael eu haddysgu ar Gampws Celf a Dylunio canol dinas y Brifysgol. Mae gan fyfyrwyr fynediad at amrywiaeth eang o weithdai a chyfleusterau dysgu traddodiadol a chyfoes yn adeiladau Dinefwr ac ALEX.
Celf Gain Trwy weithdai, darlithoedd, seminarau ac ymweliadau, bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth gadarn o arfer celf cyfoes. Rhoddir pwyslais ar arloesi gyda defnyddiau a thechnegau, gyda chefnogaeth ac anogaeth tiwtoriaid profiadol iawn, sydd oll yn ymarferwyr proffil uchel ym myd celf. Mae cymorth staff, ac amrywiaeth eang o weithdai, yn galluogi myfyrwyr i adfyfyrio ar eu safle o fewn diwylliant cyfoes ehangach. Rhoddir pwyslais ar arfogi myfyrwyr ag amrywiaeth eang o dechnegau a phrosesau a hyrwyddo dealltwriaeth o ystod eang o gyfryngau. Yng nghyd-destun Celf Gain, ystyrir bod pob cyfrwng yn gyfartal. Anogir 108 | www.ydds.ac.uk
myfyrwyr i arbrofi gydag unrhyw gyfrwng sy’n berthnasol i’w syniadau neu i’r gwrthwyneb, i ddatblygu syniadau ymhellach os bydd y cyfrwng yn eu harwain at hynny. Mae’r berthynas rhwng cysyniad a defnydd yn cael ei drafod bob tro o fewn y prosesau stiwdio hyn.
Cyfryngau Digidol a Thechnoleg Cerdd Mae astudio pynciau sy’n gysylltiedig â’r cyfryngau digidol yn rhoi sgiliau trosglwyddadwy a gwybodaeth pwnc gwerthfawr i chi a fydd yn eich helpu i ddatblygu gyrfa mewn sefydliadau o bob maint neu i sefydlu eich menter eich hun. Gyda’u cysylltiadau cryf â busnes, mae gan ein cyrsiau, sy’n ymgysylltu â diwydiant, hanes ardderchog o gyflogaeth graddedigion ac un o’r cyfraddau dechrau busnes uchaf o blith graddedigion yng Nghymru. Rydym yn cynnig rhaglenni arbenigol mewn meysydd pwnc cyfryngau digidol allweddol fel Animeiddio Cyfrifiadurol 3D, Dylunio Gemau Cyfrifiadurol, Ffilm Ddigidol a Thechnoleg Cerddoriaeth. Mae ein holl gyrsiau’n defnyddio’r feddalwedd o safon diwydiannol ddiweddaraf, ac mae gennym nifer helaeth o stiwdios recordio, systemau cipio symudiad, labordai cyfrifiaduron, ystafelloedd gemau arbenigol, stiwdios teledu a ffotograffiaeth a mwy.
Dylunio a Chyfathrebu Gweledol Mae Cyfathrebu Gweledol yn rhan fywiog o’r diwydiannau creadigol sy’n ehangu’n barhaus. P’un ai a fyddwch yn arbenigo mewn dylunio graffig, darlunio, hysbysebu neu ddiwylliant gweledol, mae gennym enw ardderchog am ddarparu’r holl sgiliau, gwybodaeth a hyder sydd eu hangen ar fyfyrwyr er mwyn llwyddo. Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu creadigrwydd unigol, gyda chymorth amrywiaeth eang o weithdai arbenigol yn seiliedig ar sgiliau i helpu myfyrwyr i gyflwyno negeseuon trawiadol a threiddgar ynghylch y byd rydym yn byw ynddo. Mae gan y rhaglenni Cyfathrebu Gweledol gysylltiadau ardderchog gyda sefydliadau Diwydiannau Creadigol, gan helpu myfyrwyr i ddatblygu gyrfa tra llwyddiannus a chynhyrchiol yn eu maes dewisol.
Dylunio Diwydiannol Mae ein rhaglenni dylunio diwydiannol yng Nghyfnewidfa Ddylunio ALEX, sy’n adeilad rhestredig Gradd II a adnewyddwyd ac a estynnwyd yn ddiweddar, yn Ardal Celfyddydau Abertawe. Mae prosiectau diwydiannol byw yn rhan greiddiol o’ch profiad dysgu – rydym yn gweithio’n agos gyda diwydiant lleol ar brosiectau
yn ogystal â gyda rhai o’r brandiau mwyaf yn y byd fel Hasbro, Recaro, Jaguar Land Rover a Maclaren. Yn bwysicach oll o’ch safbwynt chi, mae ein staff yn gyfeillgar, yn hawdd siarad â nhw ac yn gefnogol sydd, ar y cyd â’n dosbarthiadau bach, yn sicrhau y cewch chi hyfforddiant a chefnogaeth o safon uchel i roi dechrau cadarn i’ch gyrfa dylunio. Felly, os ydych chi’n uchelgeisiol ac yn dymuno gwneud gwir effaith ar y byd o’ch cwmpas, edrychwch ar y cyrsiau rydym yn eu cynnig... Mae gennym weithdai prototeipio llawn offer a staff technegol medrus iawn sy’n rhoi ichi’r gallu i gael profiad o weithio gyda phren, metel, plastigau, gwydr ffibr, resinau, gwydr, plaster, cerameg a chlai steilio modurol. Mae ein gweithdai’n cynnwys cyfleusterau ‘layup’ gwydrffibr a chwistrellu, byrddau clai proffesiynol ac offer sgleinio, ac offer sgwrio â thywod, ysgythru ag asid, prosesu gwydr oer, ffurfio gwydr cynnes, enamlo ac electroplatio, weldio, torri, cafnu, melino, troi a thermoffurfio.
Ffilm Mae technoleg ddigidol wedi creu cyd-destun diwylliannol ble mae pawb nawr yn wneuthurwyr delweddau symudol. Boed drwy ddefnyddio ffonau neu gamerâu traddodiadol, mae cynhyrchu delweddau llonydd a symudol wedi dod yn ffenomen weledol sy’n llywodraethu dros bob maes o gyfathrebu mewn cymdeithas. Mae Ffilm yn YDDS yn cynnig llwyfan cyffrous i astudio a herio confensiynau trwy ddatblygu eich llais eich hun. Gallwch ddewis o blith amrywiaeth o gyrsiau, mewn meysydd fel cynhyrchu ffilm a theledu, ffilm a diwylliant gweledol a chynhyrchu cyfryngau newydd ar gampws Caerfyrddin, ynghyd â’r datblygiadau cyffrous a ddaw yn sgil adleoli Canolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin. Gweler tudalen 62 am fwy o fanylion am Yr Egin.
Ffotograffiaeth Mae’r rhaglenni ffotograffiaeth yn darparu platfform cyffrous er mwyn gallu archwilio safle unigryw a beirniadol delweddau ffotograffig o fewn diwylliant cyfoes yn y cyfnod cyffrous hwn. O arfer celf ffotograffig arbrofol i bosibiliadau naratif ffotograffiaeth ddogfennol, anogir myfyrwyr i ystyried traddodiadau sefydledig
eu cyfrwng ac yna i herio’r confensiynau hyn trwy ddatblygu eu llais unigryw eu hunain. Mae’r rhaglenni’n cefnogi sgiliau technegol traddodiadol a digidol trwy gyfres o weithdai, ac yn ennyn ymchwiliadau damcaniaethol trwy ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau a phrosiectau ymchwil annibynnol. O fewn y broses addysgol hon, rhoddir rhyddid i fyfyrwyr archwilio a chreu eu harfer gweledol hunan-gyfeiriedig eu hunain, sydd yna’n cael ei gymhwyso drwy ddefnyddio ein cysylltiadau proffesiynol helaeth, i bosibiliadau niferus y diwydiannau celf, masnachol a chyfryngau cyfoes.
Gwydr Mae’r cwrs sefydledig hwn yn Abertawe sy’n enwog ledled y byd yn dod â thraddodiadau gorau gweithio â llaw ym maes gwydr at ei gilydd â’r technolegau creadigol diweddaraf. Mae myfyrwyr yn astudio arferion gwydr traddodiadol a chyfoes a danategir gan sgiliau cadarn, cynaliadwy sy’n cynnwys darlunio a dylunio. Mae myfyrwyr yn adeiladu ar eu gwybodaeth a’u sgiliau o weithio gyda gwydr trwy weithio mewn stiwdio a gweithdai. Mae prosiectau
allanol yn nodwedd gyson o’r cwrs. Mae myfyrwyr yn ymgymryd â phrosiectau masnachol yn aml trwy stiwdio wydr fasnachol yr ysgol, sef y Ganolfan Gwydr Pensaernïol, gan sicrhau bod graddedigion yn gadael gyda’r holl sgiliau sydd eu hangen arnynt i weithio yn y diwydiant. Ymhlith meysydd arbenigol y cwrs mae gwydr a ffurfir mewn odyn, paentio gwydr traddodiadol, cymwysiadau addurniadol fel sgwrio â thywod, printio sgrin, ysgythru ag asid ac euro yn ogystal â thechnolegau cyfoes fel torri â chwistrell ddŵr.
Patrwm Arwyneb a Thecstilau I’r rheiny sy’n frwd am greu arwynebau a strwythurau cyffrous ac arloesol, mae Patrwm Arwyneb a Thecstilau yn cynnig cyfleoedd cyffrous i ystyried lliw, gwedd, delwedd a chysyniad yng nghyddestun Tecstilau cyfoes, ar gyfer arddurno mewnol, 3D, a ffasiwn. Mae’r ffocws ar ysbrydoliaeth greadigol, sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu eu llais a’u harddull unigol i’r eithaf. Yr athroniaeth ganolog yw meithrin creadigrwydd myfyrwyr a fydd yn mwynhau arbrofi gydag amrywiaeth o ddeunyddiau ac a allai eu hystyried eu hun yn ‘wneuthurwyr’.
www.ydds.ac.uk 109
Celf a Dylunio
“ Cyrsiau Dwyieithog Abertawe Tystysgrif Addysg Uwch Tyst AU Celf a Dylunio Sylfaen
Gradd Anrhydedd
Cod UCAS F4W8
Cod UCAS
BA Animeiddio Cyfrifiadurol 3D BA Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun BA Y Celfyddydau Digidol BA Cynhyrchu Ffilm a Theledu Digidol BA Darlunio BA Dylunio Cynnyrch BSc Dylunio Cynnyrch a Thechnoleg BA Dylunio Gemau Cyfrifiadurol Creadigol BA Dylunio Graffig BA Dylunio Modurol BA Dylunio Patrymau Arwyneb (Gwneuthurwr) BA Dylunio Patrymau Arwyneb (Gwrthrych Ffasiwn) BA Dylunio Patrymau Arwyneb (Tecstilau ar gyfer Addurno Mewnol) BA Dylunio Patrymau Arwyneb (Tecstilau ar gyfer Ffasiwn) BA Dylunio Trafnidiaeth BA Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau BA Ffotonewyddiaduraeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol BA Gwydr: Arfer Cyfoes BA Gwydr: Celfyddydau Pensaernïol BA Hysbysebu a Dylunio Brandiau BA Technoleg Cerddoriaeth
WGP4 2T12 WG24 W610 W220 W242 W284 W283 W210 W240 W790 W230 W235 W234 9R37 W643 J316 W773 2LD2 W221 J931
Darperir cefnogaeth cyfrwng Cymraeg yn y pynciau uchod ac mae datblygiadau ar y gweill i ddarparu modylau cyfrwng Cymraeg lle bo modd. Trafodwch eich gofynion gyda'n staff yn ystod ein diwrnodau agored a'n diwrnodau cyfweld. Byddwn yn diweddaru ein gwefan gyda'r manylion diweddaraf.
110 | www.ydds.ac.uk
Cwrs gwych a chanddo ddigonedd o gyfleoedd i greu gemau llawn hwyl, i wthio’ch sgiliau creadigol a chael blas ar weithio yn y diwydiant gemau.
James Ceri Penhallurick
”
Gradd Meistr Integredig
Cod UCAS
MArts Animeiddio Cyfrifiadurol 3D D7X4 MArts Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun M5A7 MArts Y Celfyddydau Digidol D3B2 MArts Cynhyrchu Ffilm a Theledu Digidol 4S8X MDes Darlunio H21Y MDes Dylunio Cynnyrch 0P2M MDes Dylunio Cynnyrch a Thechnoleg W200 MArts Dylunio Gemau Cyfrifiadurol Creadigol 8B2K MDes Dylunio Graffig 52J6 MDes Dylunio Modurol 7F3J MDes Dylunio Patrymau Arwyneb (Gwneuthurwr) T5F3 MDes Dylunio Patrymau Arwyneb (Gwrthrych Ffasiwn) Y28U MDes Dylunio Patrymau Arwyneb (Tecstilau ar gyfer Addurno Mewnol) 5RC2 MDes Dylunio Patrymau Arwyneb (Tecstilau ar gyfer Ffasiwn) 8V7C MDes Dylunio Trafnidiaeth 04G6 MArts Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau 123L MArts Ffotonewyddiaduraeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol 295G MDes Gwydr: Celfyddydau Pensaernïol 5H3M MDes Gwydr: Arfer Cyfoes 0H3A MDes Hysbysebu a Dylunio Brandiau S2J5 MMus Tech Technoleg Cerddoriaeth 5P2Y Darperir cefnogaeth cyfrwng Cymraeg yn y pynciau uchod ac mae datblygiadau ar y gweill i ddarparu modylau cyfrwng Cymraeg lle bo modd. Trafodwch eich gofynion gyda'n staff yn ystod ein diwrnodau agored a'n diwrnodau cyfweld. Byddwn yn diweddaru ein gwefan gyda'r manylion diweddaraf.
www.ydds.ac.uk | 111
Celf a Dylunio
Cyrsiau Cyfrwng Saesneg Caerfyrddin Gradd Anrhydedd BA Film and Visual Culture BA New Media Production
Cod UCAS P30H PH10
Abertawe Tyst AU Tyst AU Art & Design Foundation
Gradd Anrhydedd
Cod UCAS F4W8
Cod UCAS
BA 3D Computer Animation WGP4 BA Advertising and Brand Design W221 BA Automotive Design W240 BA Creative Computer Games Design W283 BA Digital Arts WG24 BA Digital Film and Television Production W610 BA Fine Art -Studio Site & Context 2T12 BA Glass: Contemporary Practice W771 BA Glass: Architectural Arts W770 BA Graphic Design W210 BA Illustration W220 BA Music Technology J931 BA Photography in the Arts W643 BA Photojournalism & Documentary Photography J316 BA Product Design W242 BSc Product Design and Technology W284 BA Surface Pattern Design Maker W790 BA Surface Pattern Design (Fashion Object) W230 BA Surface Pattern Design (Textiles for Fashion) W234 BA Surface Pattern Design (Textiles for Interiors) W235 BA Transport Design 9R37
112 | www.ydds.ac.uk
Gradd Meistr Integredig
Cod UCAS
MArts 3D Computer Animation D7X4 MDes Advertising & Brand Design S2J5 MDes Automotive Design 7F3T MArts Creative Computer Design 8B2K MArts Digital Arts D3B2 MArts Digital Film and Television Production 4S8X MArts Fine Art -Studio Site & Context M5A7 MDes Glass: Architectural Arts 5H3M MDes Glass: Contemporary Practice 0H3A MDes Graphic Design 52J6 MDes Illustration H21Y MMus Tech Music Technology 5P2Y MArts Photojournalism & Documentary Photography 295G MArts Photojournalism in the Arts 123L MDes Product Design 0P2M MDes Product Design & Technology W200 MDes Surface Pattern Design (Maker) T5F3 MDes Surface Pattern Design (Fashion Object) Y28U MDes Surface Pattern Design (Textiles for Fashion) 8V7C MDes Surface Pattern Design (Textiles for Interiors) 5RC2 MDes Transport Design 04G6
“
Fydden i erioed wedi dychmygu y byddai fy ngwaith wedi mynd mor bell, bod fy syniadau yn tapio i mewn i rywbeth mor greadigol a phwerus
”
Henry Derby-Cook
www.ydds.ac.uk 113
Y Celfyddydau Perfformio Mae’r Brifysgol yn cynnig portffolio cyffrous o raglenni Celfyddydau Perfformio yn cynnwys Perfformio, Dawns, Dylunio a Chynhyrchu Theatr, Drama Gymhwysol, Celfyddydau Perfformio (Perfformio Cyfoes) a Theatr Dechnegol. Mae pob rhaglen yn cynnig ymagwedd ddwys at astudio, sy’n seiliedig ar ymarfer, gyda chydbwysedd a strwythurwyd yn ofalus i gynnwys hyfforddiant ymarferol a danategir gan astudiaethau academaidd. Er mwyn sicrhau bod ein cyrsiau yn aros yn berthnasol mewn diwydiant bythol gyfnewidiol, mae’r holl raglenni’n rhoi pwyslais mawr ar ymglymiad myfyrwyr wrth weithwyr proffesiynol cyfredol sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol.
Gweler tudalen 62 am ragor o wybodaeth am Ganolfan S4C Yr Egin a’r datblygiadau cyffrous a fydd o ran meysydd astudio yn y celfyddydau a’r cyfryngau.
Cyrsiau Cyfrwng Cymraeg/Dwyieithog Caerfyrddin Gweler tudalen 62 am ragor o wybodaeth am Ganolfan S4C Yr Egin a’r datblygiadau cyffrous a fydd yn cael eu hyrwyddo ym meysydd y celfyddydau a’r cyfryngau erbyn 2018.
Caerdydd Gradd Anrhydedd
Cyrsiau Cyfrwng Saesneg
Gydag adleoliad pencadlys S4C i Gaerfyrddin a’r ffaith y bydd nifer o gwmniau adnabyddus y cyfryngau yn cydleoli o fewn Canolfan S4C Yr Egin erbyn Ionawr 2018, bydd y Brifysgol yn bwrw ati i gydweithio â’r diwydiannau i ddatblygu nifer o raglenni perthnasol yn y maes hwn yn ystod y ddwy flynedd nesaf. Bydd y ddarpariaeth hon yn rhoi cyfleoedd cyffrous a rheolaidd i’n myfyrwyr brofi cyfnodau o brofiad gwaith o fewn y diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt.
Cod UCAS
BA Perfformio
C68M
Abertawe Gradd Anrhydedd
Cod UCAS
BA Applied Drama BA Music Technology BA Performing Arts (Contemporary Performance) BA Technical Theatre (Top-up Level 6)
Gradd Sylfaen FdA Technical Theatre
Gradd Meistr Integredig MMusTech Music Technology
W401 J931 W400 W443
Cod UCAS 3RT2
Cod UCAS 5P2Y
Caerfyrddin Gradd Anrhydedd
“
Mae gymaint o gyfleoedd ar gael ac nid oes rhaid camu’n bell i ymweld â’r llyfrgell, i brynu adnoddau neu wylio sioeau mewn llefydd megis Canolfan y Mileniwm neu’r New Theatre. Lloyd Macey, BA Perfformio
BA Acting BA Dance BA Theatre Design and Production
Cod UCAS W410 W502 W460
”
Gweler ein prosbectws ôl-raddedig am gyrsiau Academi Llais Ryngwladol Cymru (WIAV)
114 | www.ydds.ac.uk
www.ydds.ac.uk 115
BA Perfformio
Lleoliad: Caerdydd Cod UCAS: C68M 360 Credyd dros ddwy flynedd drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cwrs hwn yn gymwys am Ysgoloriaeth William Salesbury y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gwerth £5,000. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk
Mae hwn yn gwrs blaengar ac arloesol a addysgir yn ddwys am gyfnod o ddwy flynedd gan gyfuniad o staff Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac arbenigwyr sy’n gweithio’n broffesiynol ym meysydd teledu, dawns, adloniant, sioeau cerdd a’r theatr. Oherwydd dwyster y cwrs a’r hyfforddiant arbenigol a gysylltir ag ef, noder mai hyn a hyn o lefydd a gynigir o fewn y cwrs yn flynyddol. Darperir y rhan fwyaf o’r cwrs mewn canolfan gelfyddydol bwrpasol yng Nghaerdydd gyda chyfnod penodol yn cael ei dreulio ar Gampws Caerfyrddin. Bydd cyfle hefyd i’r myfyrwyr dreulio cyfnod yn astudio mewn prifysgol dramor lle cynigir gogwydd gwahanol ar agweddau ar y diwydiannau creadigol. Ethos sylfaenol y radd yw darparu techneg gadarn law yn llaw â dealltwriaeth eang o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt. Craidd y cwrs yw datblygu’r llais a’r corff ac o gwmpas y modylau hyn, mae cyfle i ganolbwyntio ar feysydd megis crefft yr actor, coreograffi, profiad gwaith ac astudiaeth dramor. Mae'r cwrs yn un ymarferol ei natur gyda chyfleoedd cyson i berfformio ac arddangos cynnydd. Rydym yn cynnig hyfforddiant pwrpasol sy'n rhoi sylw neilltuol i gynnydd a datblygiad yr artist unigol drwy ganolbwyntio ar bedair agwedd: Llais y Perfformiwr: Cynnal a thaflu’r llais, actio, ynganu, acenion, canu unigol a chorawl, estill, techneg meic, gwaith radio Corff y Perfformiwr: Rhyddhau’r corff (techneg Alexander, yoga, pilates, Tai Chi), dawns (tap, bale, jazz), ystum, masg, clownio, meim, crefft llwyfan, ymladd ar lwyfan ayb.
116 | www.ydds.ac.uk
Y Celfyddydau Perfformio
Meddwl y Perfformiwr: Adeiladu cymeriad, dehongli, ymchwil i gyd-destun, seicoleg, hanes y theatr, theori cerddorol. Gyrfa’r Perfformiwr: Paratoi cyfweliadau, profiad gwaith, creu C.V., lluniau proffesiynol, paratoi ‘showreel’, ‘showcase’, paratoi ar gyfer gweithio’n hunangyflogedig, mentergarwch a rheoli cyllid. Yn ystod y ddwy flynedd rhoddir cyfleoedd i’r myfyrwyr ddatblygu ystod o sgiliau ynghyd â dealltwriaeth o’r diwydiant a fydd yn angenrheidiol iddynt eu meithrin er mwyn eu galluogi i weithio’n broffesiynol ac i fanteisio ar y galw cynyddol am berfformwyr medrus, hyblyg a dibynadwy sy’n gallu cyfuno actio a/neu ddawn gerddorol ar y lefel uchaf. Meysydd Astudiaeth Llais Corff Canu Dawns Crefft yr Actor Y Diwydiant Prosiectau Ymarferol
Teledu a Radio Cynyrchiadau Arddangosiad terfynol Astudiaeth ryngwladol Profiad Gwaith
Cyfleodd gyrfa Mae pwyslais mawr o fewn y radd arbennig hon ar gysylltiadau â’r diwydiant. Mi fydd ymarferwyr proffesiynol yn gweithio gyda’r myfyrwyr drwy gydol eu cyfnod astudio. Drwy wneud hyn bydd ein myfyrwyr yn elwa’n sylweddol ar brofiadau, cysylltiadau ac arbenigedd yr ymarferwyr hyn. Mi fydd y cysylltiadau hyn a’r cyfleoedd profiad gwaith amrywiol a gynigir yn sylfaen gref er mwyn sichrau cyflogaeth yn y dyfodol o fewn y diwydiannau creadigol. Mae’r cwrs yn gwahodd cwmniau theatr a theledu i ymweld â’r myfyrwyr yn gyson ac yn sgil hyn mae ein myfyrwyr wedi llwyddo i gael gwaith ar nifer o raglenni S4C.
“
Mae’r cwrs wedi fy ngalluogi i greu cysylltiadau gwerthfawr yn barod. Trefnir cyfarfodydd gyda chwmniau teledu ac o fewn pythefnos rwyf yn barod wedi cyflwyno ddwywaith ar TAG ac actio ar raglen Cyw. Mae'n brofiad gwych gallu gweithio gyda phobl Gymraeg broffesiynol a datblygu sgiliau angenrheidiol ar gyfer maes perfformio.
”
Heledd Roberts, Blwyddyn 1, BA Perfformio
www.ydds.ac.uk 117
Crefydd a Diwinyddiaeth
Cyrsiau Cyfrwng Saesneg Caerfyrddin Gradd Anrhydedd
Nid yw’n bosibl i ni gael gwir ddealltwriaeth o’n cymdeithas, ein diwylliant a’r byd o’n cwmpas heb ddeall rhywbeth am yr amrywiaeth eang o grefyddau sydd yn y byd. Mae ein cwrs BA Astudiaethau Crefyddol wedi’i gynllunio i gynorthwyo myfyrwyr i ddeall crefyddau yn eu cyd-destunau diwylliannol, cymdeithasol a hanesyddol.
Bydd y cwrs yn eich cyflwyno i chwe phrif grefydd y byd (Bwdhaeth, Hindwaeth, Iddewiaeth, Islam, Sikhaeth, Cristnogaeth) ac i’r berthynas ddeinamig rhwng crefydd, cymdeithas a diwylliant. Byddwch felly yn archwilio’r rôl y mae crefydd yn ei chwarae yng nghwestiynau pwysicaf ein cyfnod.
Mae’r cwrs yn cwmpasu amrediad eang o themâu ac yn asesu crefyddau a nifer o arferion crefyddol yn eu cyddestun lleol, cenedlaethol a byd-eang. Drwy hyn, byddwch yn cael mewnwelediad da i’r cyflwr dynol a’r amrywiaeth o grefyddau yn y byd.
Mae’r rhaglen Astudiaethau Crefyddol ar gael fel Anrhydedd Sengl drwy gyfrwng y Gymraeg. Gellir cyfuno’r pwnc ag amrywiaeth eang o feysydd pwnc eraill drwy gyfrwng y Saesneg. Gweler adran y Dyniaethau am fwy o fanylion.
Cyrsiau Cyfrwng Cymraeg/Dwyieithog Caerfyrddin Gradd Anrhydedd
BA Astudiaethau Crefyddol
Cod UCAS L351
K5NW RV60 TV66
Llambed Gradd Anrhydedd
Roedd
95%
o fyfyrwyr a oedd yn astudio yng Nghyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio yn fodlon ar y Cymorth Dysgu. Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015
Gweler hefyd Y Dyniaethau
Cod UCAS
BA Religious Studies BA Religious Studies & Anthropology BA Religious Studies & Chinese Studies BA Religious Studies & Classical Studies BA Religious Studies & Chinese Civilisation BA Religious Studies & Heritage Studies BA Religious Studies & Philosophy BA Religious Studies & Theology BA Religious Studies with Applied Psychology BA Religious Studies with Education Studies BA Religious Studies with Heritage Management BA Religious Studies, Ancient History, Education Studies BA Religious Studies, Anthropology, Education Studies BA Religious Studies, Archaeology, Education Studies BA Religious Studies, Classical Studies, Education Studies BA Religious Studies, History, Education Studies BA Religious Studies, Philosophy, Education Studies BA Religion, Ethics and Applied Psychology BA Religion, Philosophy and Ethics BA Religion, Theology and Ethics BA Religion, Theology and Philosophy BA Philosophy, Religion and Applied Psychology BA Theology & Classical Studies BA Theology with Education Studies BA Theology & Heritage Studies BA Theology with Heritage Management BA Theology & History BA Theology & Philosophy BA Theology, Philosophy and Ethics BA Theology, Religion and Applied Psychology
Meistr Integredig MRelSt Religious Studies MTheol Theology
118 | www.ydds.ac.uk
Cod UCAS
BA Islamic Studies BA Religious Studies BA Islamic Studies & Religious Studies
RV60 LV66 TV16 QVV6 T1V6 9C2M VV6M V616 7C29 VL64 72XS VVL2 LVL8 VVL9 QVL0 V6L6 VVL8 BSA1 D2N4 JKS2 K219 2F56 QV86 1QR4 3X29 6C30 VV16 VVP5 C32B 27YP
Cod UCAS 9F4R 4Y5K
www.ydds.ac.uk 119
BA Astudiaethau Crefyddol
Lleoliad: Caerfyrddin Cod UCAS: L351 80 Credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cwrs hwn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gwerth £1,500 dros 3 blynedd am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk
Mae’r cwrs yn rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio arferion a chredoau Crefyddau’r Byd yn ogystal â thraddodiadau crefyddol eraill. Cyflwynir gwahanol ddulliau o astudio crefydd, gan gynnwys cymdeithaseg, anthropoleg a seicoleg, a rhoddir sylw penodol i le crefydd yn y byd cyfoes. Cewch y cyfle i ymweld ag addoldai lleol a chenedlaethol, i ymgymryd â theithiau tramor i ganolfannau o bwys crefyddol, ac i feithrin adnabyddiaeth ymarferol, bersonol o ddiwylliannau a chrefyddau ‘eraill’. Prif nodweddion • Cwrs amrywiol sy’n ymdrin â chrefydd o safbwynt diwylliannol, cymdeithasol, moesegol a hanesyddol • Staff sydd ag arbenigedd mewn Astudiaethau Crefyddol, Diwinyddiaeth ac Addysg Grefyddol • Cyfleoedd cyfnewid mewn nifer o wledydd tramor • Cyfleoedd ar gyfer ymweliadau addysgol lleol ac i wledydd megis Twrci, Sbaen, yr Eidal, Israel-Palesteina a’r Almaen • Bwrsarïaethau ac ysgoloriaethau
• • •
Crefydd a Diwinyddiaeth
Staff wedi’u hymroi i ragoriaeth mewn addysgu Cyfle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg Awyrgylch dysgu cefnogol a chyfeillgar
Cyfleoedd gyrfa Bwriad y radd yw darparu gwybodaeth am Astudiaethau Crefyddol yn ogystal â sgiliau trosglwyddadwy a fyddai’n gymwys ar gyfer nifer o feysydd gyrfaol. Gellir hefyd ystyried y cwrs fel sylfaen gref ar gyfer cyrsiau ôlraddedig mewn Astudiaethau Crefyddol a hefyd pynciau megis Astudiaethau Islamaidd, Astudiaethau Beiblaidd, a Phrofiad Crefyddol. Mae amryw o’n myfyrwyr yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfa yn un o’r meysydd canlynol: • Gwasanaethau cymdeithasol • Dysgu • Sefydliadau cymorth ac elusennol rhyngwladol • Twristiaeth • Y Cyfryngau • Gwleidyddiaeth a’r Gwasanaeth Sifil • Cyhoeddi • Newyddiaduraeth
“
Mae’r radd yn un ddiddorol sydd yn cael ei haddysgu gan ddarlithwyr deallus a brwdfrydig. Teimlaf fod y cwrs yn caniatáu i mi a'm cyd-fyfyrwyr archwilio’r gwahanol grefyddau yn ein byd, yn ogystal ag ehangu ein dealltwriaeth o arferion, credoau, egwyddorion a hanes y crefyddau yma.
”
Dafydd Davies BA Astudiaethau Crefyddol
Modylau Enghreifftiol
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Mae gwerth credyd modwl yn amodol ar y nifer o oriau astudio sy’n gysylltiedig â’r modwl, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac asesu. Gan amlaf mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un. Ar gyfer gradd Baglor, mae myfyrwyr yn astudio 360 credyd dros dair blynedd, sef 120 credyd y flwyddyn. Gan amlaf mae blwyddyn wedi ei rhannu’n ddau semester, lle byddwch yn astudio 60 credyd bob semester.
120 | www.ydds.ac.uk
• Beth yw Crefydd? • Crefydd, Cymdeithas a Diwylliant • Crefyddau’r Dwyrain: Hindwaeth, Bwdhaeth, Sikhaeth • Cyflwyniad i Islam • Mudiadau Crefyddol Newydd • Cyflwyniad i Iddewiaeth a Christnogaeth • Sgiliau Astudio • Ffwndamentaliaeth • Moeseg a’r Crefyddau • Addysgu Addysg Grefyddol
• • • • • • • • •
Y Ferch mewn Iddewiaeth a Christnogaeth Islam yn y Byd Cyfoes Iddewon a Christnogion mewn Dadl a Deialog Crefydd a Ffilm Dulliau Ymchwil wrth Astudio Crefydd Addysgu Crefyddau’r Byd Crefydd, Drygioni a’r Diafol Taith Astudio Traethawd hir neu Brosiect Annibynnol
Postgraduate Prospectus www.ydds.ac.uk 2016 | 121
Cyfrifeg a Chyllid Mae astudio cyfrifeg neu fusnes a chyllid yn rhoi sgiliau a gwybodaeth gwerthfawr i chi a fydd yn eich helpu i ddatblygu gyrfa mewn sefydliadau o bob maint, neu i sefydlu eich menter eich hun. Gyda’u cysylltiadau cryf â busnes, mae gan ein cyrsiau, sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd, hanes cyflogaeth graddedigion ardderchog ac un o’r cyfraddau cychwyn busnes uchaf gan raddedigion yng Nghymru.
Cyrsiau Cyfrwng Cymraeg/Dwyieithog
Mae’r rhaglen Gyfrifeg yn rhoi’r sgiliau arbenigol i chi sydd eu hangen ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd gyrfaol pan fyddwch yn graddio, tra bod busnes a chyllid yn fwy cyffredinol ac yn darparu cymysgedd o sgiliau busnes eang ynghyd â sgiliau arbenigol mewn cyfrifeg a chyllid. Mae natur yr astudiaeth ar y rhaglen yn hyblyg, gan rymuso myfyrwyr i addasu eu hastudiaethau ar gyfer eu huchelgeisiau gyrfaol a’u hamgylchiadau personol.
Abertawe Gradd Anrhydedd
BA Busnes a Chyllid BA Cyfrifeg
Diploma
HND Busnes a Chyllid
Cod UCAS N290 N400
Cod UCAS 422N
Cyrsiau Cyfrwng Saesneg Abertawe Gradd Anrhydedd
Cod UCAS
BA Accounting BA Business and Finance
N400 N290
Diploma
Cod UCAS
HND Business and Finance
422N
Gradd Meistr Integredig
Cod UCAS
MBus Finance
W3P2
Gweler hefyd Busnes a Rheolaeth Dysgu Seiliedig ar Waith
122 | www.ydds.ac.uk
www.ydds.ac.uk | 123
BA Cyfrifeg
Lleoliad: Abertawe UCAS: N400 40 Credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cwrs hwn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gwerth £1,500 dros 3 blynedd am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk
Mae’r rhaglen yn arbenigo yn y maes swyddogaethol gan ganolbwyntio ar sgiliau cyfrifeg a chyllid mewn amrywiaeth o gyddestunau sefydliadol. Mae’r rhaglen hon yn gweddu i’r rhai sydd am arbenigo mewn sgiliau cyfrifeg, yn hytrach na chanolbwyntio ar ystod eang o sgiliau busnes. Mae myfyrwyr ar y rhaglen hon fel arfer yn rhifog a chanddynt feddwl rhesymegol, ac mae’n debygol, er nid yn orfodol, y byddant wedi astudio cyfrifeg, mathemateg neu fusnes yn flaenorol. Caiff y sawl sydd â phrofiad gwaith, ond heb lawer o gymwysterau ffurfiol, hefyd ymuno â’r rhaglen. Cydnabyddir dyfarniadau lefel A ac Edexcel, ynghyd ag ystod o dystysgrifau eraill ar y lefel hon o’r DU, yr UE a chyrff rhyngwladol. Modylau engrheifftiol Mae Blwyddyn 1 yn rhoi cyflwyniad i’r prif ddisgyblaethau busnes ac yn datblygu sgiliau hanfodol. Bydd myfyrwyr yn gweithio gyda sefydliad allanol i weld y ddamcaniaeth ar waith ac ennill sgiliau gwerthfawr. Mae Blwyddyn 2 yn cynnwys adroddiadau ariannol, cyfrifeg rheoli, trethi ac archwilio. Mae’n caniatáu dewis o opsiynau mewn meysydd cyfrifeg a chyllid cyfoes. Mae cyfle am interniaeth a gaiff ei asesu ar gyfer credydau.
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Mae gwerth credyd modwl yn amodol ar y nifer o oriau astudio sy’n gysylltiedig â’r modwl, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac asesu. Gan amlaf mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un. Ar gyfer gradd Baglor, mae myfyrwyr yn astudio 360 credyd dros dair blynedd, sef 120 credyd y flwyddyn. Gan amlaf mae blwyddyn wedi ei rhannu’n ddau semester, lle byddwch yn astudio 60 credyd bob semester.
124 | www.ydds.ac.uk
Mae Blwyddyn 3 yn datblygu themâu strategaeth, adroddiadau corfforaethol a rheolaeth ariannol ryngwladol, gyda’r cyfle i ddewis opsiynau. Bydd myfyrwyr hefyd yn cwblhau naill ai traethawd hir ar bwnc cyfoes ym maes cyfrifeg a chyllid neu brosiect ymgynghori sefydliadol lle byddant yn cymryd arnynt rôl yr ymgynghorydd rheoli gan ddatblygu cyngor ar gyfer sefydliad.
Cyfrifeg a Chyllid
Nodweddion allweddol Mae’r rhaglen yn cyfuno astudiaeth ddamcaniaethol a chymhwysiad i achosion yn y byd go iawn. Gwneir hyn o fewn strategaeth addysgu pob modwl a hefyd wrth ryngweithio’n uniongyrchol â phartneriaethau allanol y Brifysgol, yn cynnwys sefydliadau cyflogwyr, cymdeithasau proffesiynol, partneriaid rhyngwladol a gweithgareddau entrepreneuraidd deilliedig. Cymeradwywyd yn arbennig sgiliau rheoli TGCh, cyfathrebu â chymheiriaid a sefydliadau allanol, rhifedd, datrys problemau, rhyngweithio mewn timau, rhesymu moesegol, arfarnu beirniadol, hunanreolaeth ac arweinyddiaeth. Mae cynnydd myfyrwyr trwy’r rhaglen yn sicrhau eu bod yn dod yn fwyfwy hunanhyderus ac yn gallu rheoli eu dysgu eu hunain. Bydd graddedigion wedi datblygu hunanhyder a’r gallu i weithio mewn amgylcheddau amrywiol a chyfathrebu ar ystod eang o lefelau. Cyfleoedd gyrfa Gall y rhaglen hon ymfalchïo mewn cyfradd gyflogadwyedd uchel ar gyfer myfyrwyr sydd mewn swydd ymhen chwe mis ar ôl graddio. Mae nifer sylweddol o raddedigion hefyd yn mynd yn eu blaen i astudiaethau ôl-raddedig yn y brifysgol hon ac eraill. Mae’r gyfadran yn cynnig MSc mewn Rheolaeth Ariannol i’r rhai sydd yn dymuno ymgymryd ag astudiaeth bellach. Mae’r rhaglen yn galluogi myfyrwyr i ymgymryd ag astudiaeth hyblyg a theilwra’u hastudiaethau i’w huchelgeisiau gyrfaol a’u hamgylchiadau personol. Trwy integreiddio myfyrwyr o’r DU, o’r UE a myfyrwyr rhyngwladol eraill, ynghyd â chymdeithas cyn-fyfyrwyr gref, caniateir rhyngweithio a chyfleoedd i sefydlu cyfeillgarwch oes.
www.ydds.ac.uk | 125
BA Busnes a Chyllid
Lleoliad: Abertawe UCAS: N290 40 Credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cwrs hwn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gwerth £1,500 dros 3 blynedd am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Mae gwerth credyd modwl yn amodol ar y nifer o oriau astudio sy’n gysylltiedig â’r modwl, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac asesu. Gan amlaf mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un. Ar gyfer gradd Baglor, mae myfyrwyr yn astudio 360 credyd dros dair blynedd, sef 120 credyd y flwyddyn. Gan amlaf mae blwyddyn wedi ei rhannu’n ddau semester, lle byddwch yn astudio 60 credyd bob semester.
126 | www.ydds.ac.uk
Mae ein gradd BA Busnes a Chyllid yn ddeniadol i’r sawl sydd â diddordeb mewn dulliau addysgu ac asesu arloesol. Mae’n sicrhau datblygu sgiliau cyflogadwyedd perthnasol. Mae gan yr ymgeiswyr hynny sydd â diddordeb mewn cymhwyso syniadau busnes a chyllid nifer o gyfleoedd ar y rhaglen i ymgysylltu â’r gymuned a mynd ar leoliadau neu interniaethau. Mae’r rhaglen hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n dymuno dysgu cyfuniad o sgiliau busnes eang ynghyd â sgiliau arbenigol ym maes cyfrifeg a chyllid. Bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag ystod o dasgau yn gysylltiedig â sefydliadau masnachol a sector cyhoeddus, a byddant yn mwynhau datblygu datrysiadau cymhleth i broblemau a chyfleoedd busnes a chyllidol.
Nodweddion allweddol Mae’r rhaglen yn cyfuno astudiaeth ddamcaniaethol a chymhwysiad i achosion yn y byd go iawn. Gwneir hyn o fewn strategaeth addysgu pob modwl a hefyd wrth ryngweithio’n uniongyrchol â phartneriaethau allanol y Brifysgol, yn cynnwys sefydliadau cyflogwyr, cymdeithasau proffesiynol, partneriaid rhyngwladol a gweithgareddau entrepreneuraidd deilliedig. Yn benodol mae gan ein graddedigion busnes a chyllid sgiliau dadansoddi, ymchwil, technoleg gwybodaeth, rhyngbersonol, cyfathrebu trawsddiwylliannol ac empathig.
Cymeradwywyd yn arbennig sgiliau rheoli TGCh, cyfathrebu â chymheiriaid a sefydliadau allanol, rhifedd, datrys problemau, rhyngweithio mewn timau, rhesymu moesegol, arfarnu beirniadol, hunanreolaeth Modylau enghreifftiol ac arweinyddiaeth. Mae cynnydd myfyrwyr Mae Blwyddyn 1 yn rhoi cyflwyniad i’r prif trwy’r rhaglen yn sicrhau eu bod yn dod yn ddisgyblaethau busnes ac yn datblygu sgiliau hanfodol. Bydd myfyrwyr yn gweithio fwyfwy hunanhyderus ac yn gallu rheoli eu gyda sefydliad allanol i weld y ddamcaniaeth dysgu eu hunain. Bydd graddedigion wedi datblygu hunanhyder a’r gallu i weithio mewn ar waith ac ennill sgiliau gwerthfawr. amgylcheddau amrywiol a chyfathrebu ar Mae Blwyddyn 2 yn cynnwys cyfrifeg rheoli, ystod eang o lefelau. ymarfer entrepreneuriaeth a hefyd rheoli data a deallusrwydd busnes. Mae’n caniatáu Mae pob pwnc a astudir ar y rhaglen yn berthnasol i fyd gwaith, ar draws dewis o opsiynau mewn meysydd busnes disgyblaethau a sectorau arbenigol. Mae’r a chyllid cyfoes. Mae cyfle am interniaeth a sgiliau a ddatblygir i sicrhau llwyddiant gaiff ei asesu ar gyfer credydau. academaidd yn cyfateb yn union i’r rhai sydd yn ofynnol gan gyflogwyr ac i astudio ar Mae Blwyddyn 3 yn datblygu themâu lefelau uwch. Mae hyblygrwydd y rhaglen yn strategaeth, llywodraethu corfforaethol a caniatáu cyfleoedd i fyfyrwyr arbenigo neu i rheolaeth ariannol ryngwladol, gyda’r cyfle barhau â’u hastudiaethau cyffredinol er mwyn i ddewis opsiynau. Bydd myfyrwyr hefyd cadw eu hopsiynau yn agored yn dibynnu ar y yn cwblhau naill ai traethawd hir ar bwnc cyfoes ym maes busnes a chyllid neu brosiect tueddiadau yn y farchnad swyddi. ymgynghori sefydliadol lle byddant yn Mae cynnwys cyflogwyr, siaradwyr gwadd cymryd arnynt rôl yr ymgynghorydd rheoli a sefydliadau eraill wrth gyflwyno’r rhaglen gan ddatblygu cyngor ar gyfer sefydliad. yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ryngweithio gyda rhwydweithiau allanol ac i weld perthnasedd eu hastudiaethau.
Cyfrifeg a Chyllid
Cyfleoedd gyrfa Gall y rhaglen hon ymfalchïo mewn cyfradd gyflogadwyedd uchel ar gyfer myfyrwyr sydd mewn swydd ymhen chwe mis ar ôl graddio. Mae nifer sylweddol o raddedigion hefyd yn mynd yn eu blaen i astudiaethau ôl-raddedig yn y brifysgol hon ac eraill. Mae graddedigion y rhaglen hon mewn sefyllfa ddelfrydol i ddilyn gyrfaoedd mewn rheolaeth ariannol neu gyffredinol, bancio, neu mae’n bosibl y byddant yn dymuno dod yn entrepreneuriaid. Mae’r gyfadran yn cynnig MSc mewn Rheolaeth Ariannol i’r rhai sydd yn dymuno ymgymryd ag astudiaeth bellach. Mae’r rhaglen yn galluogi myfyrwyr i ymgymryd ag astudiaeth hyblyg a theilwra’u hastudiaethau i’w huchelgeisiau gyrfaol a’u hamgylchiadau personol. Trwy integreiddio myfyrwyr o’r DU, o’r UE a myfyrwyr rhyngwladol eraill, ynghyd â chymdeithas cyn-fyfyrwyr gref, caniateir rhyngweithio a chyfleoedd i sefydlu cyfeillgarwch oes.
www.ydds.ac.uk | 127
Cyfrifiadura ac Electroneg Cyfrifiadura
Electroneg
Mae astudio pynciau cyfrifiadura yn rhoi sgiliau a gwybodaeth gwerthfawr iawn i chi a fydd yn eich helpu i ddatblygu gyrfa mewn sefydliadau o bob maint, neu i sefydlu eich menter eich hun. Rydym yn cynnig cyrsiau cyffredinol mewn technoleg gwybodaeth busnes, datblygu gemau cyfrifiadurol a chyfrifiadura a systemau gwybodaeth sy’n rhoi’r amrywiaeth ehangaf posibl o gyfleoedd gyrfaol i chi pan fyddwch yn graddio. Mae gennym hefyd raglenni arbenigol mewn meysydd allweddol fel peirianneg meddalwedd a pheirianneg electronig ynghyd â graddau sy’n gysylltiedig â diwydiannau penodol yn cynnwys datblygu’r we, datblygu aps ffonau symudol a rhwydweithio cyfrifiadurol. Ni yw’r unig Academi CISCO yng Nghymru ac rydym yn cynnig cyfle i fyfyrwyr rhwydweithiau cyfrifiadurol astudio ar gyfer cymwysterau CISCO seiliedig ar ddiwydiant fel rhan o’u hastudiaethau israddedig. Mae llawer o’n rhaglenni BSc a HND yn cael eu hachredu gan gyrff proffesiynol fel Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain. Mae gan lawer o raddau statws Proffesiynolwr TG Siartredig.
Mae astudio pynciau sy’n gysylltiedig ag electroneg yn rhoi sgiliau trosglwyddadwy a gwybodaeth pwnc gwerthfawr i chi a fydd yn eich helpu i ddatblygu gyrfa mewn sefydliadau o bob maint neu i sefydlu eich menter eich hun. Rydym yn cynnig cyrsiau cyffredinol mewn peirianneg electronig a thrydanol a fydd yn rhoi’r amrywiaeth ehangaf posibl o gyfleoedd gyrfaol i chi pan fyddwch yn graddio, ac mae gennym hefyd raglenni arbenigol mewn meysydd allweddol fel systemau cyfrifiadurol ac electroneg. Trwy nifer o gysylltiadau diwydiannol, mae’r clwstr hwn wedi sefydlu galw diwydiannol cryf am y rhaglen hon. Mae parch mawr gan gyflogwyr tuag at yr arbenigedd a’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu drwy greu a rheoli datrysiadau meddalwedd a chaledwedd fel rhan o dîm. Ar gyfer myfyrwyr sydd heb gymwysterau traddodiadol mae gennym gynlluniau gradd pedair blynedd: gyda mynediad ar lefel sylfaen.
128 | www.ydds.ac.uk
Daeth Gwyddorau Cyfrifiadurol YDDS yn gydradd
1af
yng Nghymru ac yn
8fed
yn y DU am foddhad myfyrwyr. Canllaw ‘Complete University’ 2015
Gweler hefyd Celf a Dylunio
www.ydds.ac.uk | 129
Cyfrifiadura ac Electroneg
Cyrsiau Cyfrwng Saesneg
Diploma
G510 H674
Tystysgrif Addysg Uwch
Abertawe Gradd Anrhydedd
Cod UCAS
BA 3D Computer Animation BSc Applied Computing BSc Applied Computing (4 year) BSc Business Information Technology BSc Business Information Technology (4 year) BSc Computer Games Development BSc Computer Games Development (4 year) BSc Computer Graphics and Visualisation BSc Computer Networks BSc Computer Networks (4 year) BSc Computing and Information Systems BSc Computing and Information Systems (4 year) BEng Computer Systems and Electronics BEng Computer Systems and Electronics (4 year) BA Creative Computer Games Design BEng Electrical and Electronic Engineering BEng Electrical and Electronic Engineering (4 year) BSc Mobile Computing and Application Development BSc Mobile Computing and Application Development (4 year) BA Music Technology BSc Software Engineering BSc Software Engineering (4 year) BSc Web Development BSc Web Development (4 year)
Gradd Meistr Integredig
WGP4 3AL6
3CWK H611 G500 G500 H610 H608 W283 3TY8
II12
265G 7Y32 016H 54GG 116H II13 006G 024G
Cert HE Science, Technology, Engineering and Mathematics
Llambed Gradd Anrhydedd
Cod UCAS
BA Ancient History with Digital Humanities BA Archaeology with Digital Humanities BA Anthropology with Digital Humanities BA Classical Studies with Digital Humanities BA Creative Writing with Digital Humanities BA English with Digital Humanities BA Heritage Studies with Digital Humanities BA History with Digital Humanities
0P23 07V4 4V21
42V1 39B2
J931 G600 G422
Cod UCAS
MComp Business Information Technology MComp Computing Games Development MComp Computing and Information Systems MComp Computing Networks and Security MMusTech Music Technology MDes Product Design with Computer Visualisation MComp Software Engineering MComp Web Development MEng Computer Systems and Electronics (Applied Environmental Engineering)
130 | www.ydds.ac.uk
Cod UCAS
HND Business Information Technology HND Computer Games Development HND Computer Networks HND Computing and Information Systems HND Electronic Engineering HND Mobile Computing and Application Development HND Software Engineering HND Web Development
5P2Y 6H2K
www.ydds.ac.uk | 131
Chwaraeon, Iechyd ac Antur Awyr Agored Mae’r Brifysgol yn cynnig portffolio cyffrous o gyrsiau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau chwaraeon, dulliau iach o fyw ac addysg antur awyr agored, gan ddarparu amrywiaeth eang o gyfleoedd a safbwyntiau. Mae ein rhaglenni, sy’n seiliedig ar ymarfer ac yn cynnwys llawer o weithgareddau, wedi eu cynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn astudio addysg antur awyr agored, therapi chwaraeon, addysg gorfforol, hyfforddiant personol, iechyd ac ymarfer ac astudiaethau chwaraeon, ac iechyd, maeth a dull o fyw.
Mae cyfuniad gofalus o ymarfer corfforol a danategir gan astudiaethau academaidd yn nodwedd sylfaenol o bob rhaglen astudio. Nod y rhaglen Rheolaeth Chwaraeon yw paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd mewn rheolaeth chwaraeon a hamdden yn y dyfodol yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol traddodiadol ac yn y sectorau chwaraeon, iechyd a ffitrwydd preifat a yrrir gan fasnach ac sy’n ehangu’n gyflym. Gall myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Saesneg gyflwyno eu gwaith yn y Gymraeg ac mae rhai cyfleoedd ar draws y graddau eraill yn yr Ysgol i ddewis darpariaeth cyfrwng Cymraeg megis ar fodwl datblygu sgiliau proffesiynol.
Roedd
91% o fyfyrwyr YDDS a oedd yn astudio yn yr Ysgol Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored yn fodlon ar y ’Cyflogadwyedd’ Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015
Cyrsiau Cyfrwng Cymraeg/Dwyieithog Caerfyrddin Gradd Anrhydedd
Cod UCAS
BA Addysg Antur Awyr Agored BA Addysg Gorfforol BSc Therapi Chwaraeon
3L2N CX69 BC61
Abertawe
Gradd Anrhydedd
Cod UCAS
BA Rheolaeth Chwaraeon
N871
Cyrsiau Cyfrwng Saesneg Caerfyrddin Gradd Anrhydedd
Cod UCAS
Y Gwyddorau Cymdeithasol
BSc Health, Nutrition and Lifestyle BA Outdoor Adventure Education BSc Outdoor Fitness BA Physical Education BSc Personal Training (Health and Exercise) BSc Public Health* BA Sport and Health BSc Sport Therapy
Hamdden a Thwristiaeth
Abertawe
Gweler hefyd Gwaith Ieuenctid a Chymuned
Gradd Anrhydedd
FdA Sports Management
Diploma/Tystysgrif HND/HNC Sports Management Cert HE Sports Management
Gradd Meistr Integredig
MEng Extreme Sports Engineering
CX69 4B32 39W8 6T2N BC61
Cod UCAS
BA Sports Management BEng Extreme Sports Engineering BEng Extreme Sports Engineering (4 year)
Gradd Sylfaen
LB54 3L2N
N871 H340 CH61
Cod UCAS 5J1A
Cod UCAS 178N
Cod UCAS H338
* yn amodol ar ddilysu 132 | www.ydds.ac.uk
www.ydds.ac.uk | 133
BA Addysg Antur Awyr Agored
Lleoliad: Caerfyrddin Cod UCAS: 3L2N 40 Credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cwrs hwn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gwerth £1,500 dros 3 blynedd am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Mae gwerth credyd modwl yn amodol ar y nifer o oriau astudio sy’n gysylltiedig â’r modwl, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac asesu. Gan amlaf mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un. Ar gyfer gradd Baglor, mae myfyrwyr yn astudio 360 credyd dros dair blynedd, sef 120 credyd y flwyddyn. Gan amlaf mae blwyddyn wedi ei rhannu’n ddau semester, lle byddwch yn astudio 60 credyd bob semester.
134 | www.ydds.ac.uk
Mae’r dull amlddisgyblaethol o gyflwyno Addysg Antur Awyr Agored yn manteisio ar theori addysg ac arweinyddiaeth i archwilio potensial yr amgylchedd naturiol i gynnig ffordd wahanol o ddysgu sy’n seiliedig ar brofiad. Mae gan Addysg Antur Awyr Agored lawer i’w gynnig fel ffordd weithredol, gynhwysol a naturiol o ddysgu sy’n datblygu perthnasoedd cadarnhaol rhwng yr unigolyn, grŵp a’r amgylchedd. Mae mwy a mwy o gyfleoedd gwaith ar gael mewn addysg, hamdden, datblygu cymunedol, twristiaeth antur a chynaliadwyedd amgylcheddol. Fe’i cydnabyddir yn ddull gwerthfawr o ddatblygu’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n berthnasol i holl sectorau’r gweithle yn yr 21ain ganrif. Modylau enghreifftiol • Athroniaeth a Dulliau Addysg Awyr Agored • Theori ac ymarfer hwyluso • Sgiliau Arweinyddiaeth yn yr Awyr Agored (crefft mynydda, dringo creigiau, caiacio/canŵio, beicio mynydd, arfordira) • Yr Amgylchedd Naturiol a Systemau-Eco • O Ddesgiau i Waliau (mynd tu allan i’r ystafell ddosbarth) • Effeithiau Hamdden Awyr Agored • Addysg Antur Awyr Agored yn y Gymuned • Lleoliad Proffesiynol (30 diwrnod) • Hyfforddiant a Datblygiad Personol • Dulliau Ymchwil ar gyfer gwerthuso dysgu awyr agored • Astudiaethau Alldeithiau • Tirwedd a Hamdden yng Nghymru • Agweddau Naws am Le at yr Amgylchedd Awyr Agored • Materion Cyfoes Addysg Antur Awyr Agored • Traethawd hir
Prif nodweddion • Modylau perfformiad ymarferol ym mlynyddoedd 1 a 2, gan gynnwys modwl alldaith annibynnol ym mlwyddyn 2 • Cyfleoedd i ennill cymwysterau Corff Llywodraethu Cenedlaethol • Profiad gwaith mewn nifer o leoliadau Addysg Antur Awyr Agored gwahanol • Cwrs heriol ar gyfer twf a datblygiad personol • Gogwydd ymarferol a galwedigaethol i’r cwrs • Campws bach a chyfeillgar gyda mynediad hwylus i amrywiaeth eang o gyfleoedd ardderchog ar gyfer hamdden yn yr awyr agored • Cysylltiadau da â llawer o sefydliadau masnachol a chyhoeddus ym maes Addysg Antur Awyr Agored • Cyfleusterau ac offer ardderchog • Staff profiadol iawn â chymwysterau helaeth gyda chymarebau staff/ myfyrwyr da • Rhai staff yn gwbl rhugl eu Cymraeg • Cyfleoedd i astudio yn UDA/Norwy • Mae alldeithiau tramor diweddar yn cynnwys: Nepal, Norwy, Sardinia, Sbaen, Moroco a Gwlad Groeg • Partneriaeth agos â Gwersyll yr Urdd Glanllyn Cyfleoedd gyrfa • Hyfforddwr/Hwylusydd Awyr Agored • Gweithiwr Datblygu Cymunedol Awyr Agored • Hyfforddwr Awyr Agored/Antur Llawrydd//Eco-Dwristiaeth • Sefydliadau Amgylcheddol a Chadwraeth • Addysgu (yn amodol ar TAR) • Gwasanaethau Awdurdodau Lleol - Swyddog Gweithgareddau Awyr Agored • Y Lluoedd Arfog a’r Heddlu
BA Addysg Gorfforol Lluniwyd y cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sy’n ystyried y posibilrwydd o ddilyn gyrfa fel athro/athrawes Addysg Gorfforol (cynradd neu uwchradd) yn y dyfodol, neu yrfa ym maes chwaraeon ieuenctid. Mae pob un o’r meysydd ymarferol a ddynodwyd yn y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gorfforol wedi’u cynnwys yn fodylau craidd neu ddewisol. Adlewyrchir y ffocws cyfredol ar iechyd o fewn addysg gorfforol yn gryf yng nghynnwys cyffredinol y radd. Drwy gydol y cwrs bydd y myfyrwyr yn datblygu diffiniad cyffredinol o Addysg Gorfforol fel proses gydol oes a byddant yn gallu rhoi’r damcaniaethau a ddysgant ar waith mewn lleoliad ymarferol. Bydd cyfle i fynd ar brofiad gwaith i ysgol gynradd neu uwchradd yn yr ail flwyddyn, neu i dreulio semester ar gwrs cyfnewid mewn Prifysgol yn UDA. Modylau enghreifftiol • Addysg Gorfforol, y Plentyn a’r Cwricwlwm • Gemau mewn Addysg* • Addysgu Hanfodion Nofio • Cynhwysiant mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ieuenctid* • Addysg Gorfforol ac Iechyd* • Profiad Gwaith mewn Ysgol* • Ffurfiau Dawns • Dulliau Ymchwil • Gweithgareddau Athletig* • Caffaeliad Sgiliau • Asesu mewn Addysg Gorfforol • Agweddau ar Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol • Addysg, Chwaraeon ac Addysg Gorfforol* • Pedagogeg Hyfforddi • Traethawd hir*
Prif nodweddion • Cwrs unigryw yng Nghymru • Cyfleoedd i ennill cymwysterau Cyrff Llywodraethol ychwanegol • Mae’r staff yn chwarae rhan flaenllaw ym mhrosiect cenedlaethol Llythrennedd Corfforol - Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol • Mae gogwydd ymarferol a galwedigaethol i’r cwrs • Gradd berthnasol i symud ymlaen i’r cyrsiau TAR cynradd ac uwchradd • Cyfleusterau chwaraeon gwych ar y campws • Traddodiad chwaraeon cryf • Mae timau chwaraeon y Brifysgol yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Prifysgolion Prydain mewn amrywiaeth eang o chwaraeon, gan gynnwys rygbi, pêl rwyd, pêl droed, hoci, criced, triathlon, traws gwlad, jiwdo a golff • Mae myfyrwyr yr Ysgol yn cymryd rhan flaenllaw wrth drefnu a rhedeg nifer o glybiau a chymdeithasau chwaraeon megis y clwb Gweithgareddau Awyr Agored, Aerobeg a Syrffio • Canolfan wedi’i hachredu ar gyfer Gwobr Dug Caeredin • Staff sy’n rhugl eu Cymraeg Cyfleoedd gyrfa • Addysgu - Cynradd / Uwchradd (yn amodol ar ddilyn cwrs TAR) • Datblygu Chwaraeon a Chwaraeon Ieuenctid • Gwasanaeth Ieuenctid Cymunedol • Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Lluoedd Arfog • Gradd Uwch ac ymchwil *cyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
Lleoliad: Caerfyrddin Cod UCAS: CX69 40 Credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cwrs hwn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gwerth £1,500 dros 3 blynedd am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Mae gwerth credyd modwl yn amodol ar y nifer o oriau astudio sy’n gysylltiedig â’r modwl, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac asesu. Gan amlaf mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un. Ar gyfer gradd Baglor, mae myfyrwyr yn astudio 360 credyd dros dair blynedd, sef 120 credyd y flwyddyn. Gan amlaf mae blwyddyn wedi ei rhannu’n ddau semester, lle byddwch yn astudio 60 credyd bob semester.
www.ydds.ac.uk | 135
BA Rheolaeth Chwaraeon
Lleoliad: Abertawe Cod UCAS: N871 40 Credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cwrs hwn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gwerth £1,500 dros 3 blynedd am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Mae gwerth credyd modwl yn amodol ar y nifer o oriau astudio sy’n gysylltiedig â’r modwl, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac asesu. Gan amlaf mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un. Ar gyfer gradd Baglor, mae myfyrwyr yn astudio 360 credyd dros dair blynedd, sef 120 credyd y flwyddyn. Gan amlaf mae blwyddyn wedi ei rhannu’n ddau semester, lle byddwch yn astudio 60 credyd bob semester.
136 | www.ydds.ac.uk
Ffocws cyffredinol y llwybr hwn yw darparu rhaglen hyblyg o astudiaeth sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu gwybodaeth eang o faterion a chysyniadau rheoli chwaraeon yng nghyd-destun y diwydiant chwaraeon ehangach. Yn ogystal â hyn mae’n canolbwyntio ar gynhyrchu graddedigion sydd â’r sgiliau a’r doniau perthnasol i’w galluogi i wneud cyfraniad effeithiol yn sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol y diwydiant chwaraeon, iechyd a ffitrwydd. Bydd y rhaglen yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol ym maes rheoli chwaraeon a hamdden. Datblygir sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen ar ddechrau gyrfa trwy astudio caffael sgiliau, prosesau hyfforddi a chyfarwyddo, gan gyflwyno damcaniaethau a materion allweddol sy’n effeithio ar y diwydiannau chwaraeon a hamdden. Bydd y rhaglen yn datblygu fesul cam gan adeiladu ar fodylau sylfaen a bydd y myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth reoli trwy fodylau cymhwysol a modylau gwaith maes yn ymwneud â rheolaeth o safbwynt chwaraeon. Modylau enghreifftiol • Hyfforddi Chwaraeon, Ffitrwydd ac Ymarfer Corff • Cyflwyniad i Ddigwyddiadau Hamdden, Twristiaeth a Chwaraeon • Ymgysylltu â’r Gymuned • Hanfodion Marchnata • Rheolaeth ac Arweinyddiaeth • Datblygiad Personol a Phroffesiynol Cymhwysol • Hyfforddiant Chwaraeon Uwch • Rheolaeth Iechyd a Ffitrwydd • Rheolaeth Cyfleusterau Chwaraeon • Rheoli Digwyddiadau Hamdden, Sefydliadau Twristiaeth a Chwaraeon • Cyflogadwyedd / Gwasanaethau Gwesteion ar gyfer Digwyddiadau Hamdden, Twristiaeth a Chwaraeon • Interniaeth – (Dysgu Seiliedig Ar Waith) • Datblygu a Chynllunio Chwaraeon • Rheolaeth Chwaraeon Strategol • Rheolaeth Digwyddiadau Chwaraeon
Nodweddion allweddol Mae ymagwedd gyfeillgar y Brifysgol yn caniatáu adnabod anghenion dysgu yn gynnar a darparu cymorth i wella sgiliau. Mae hyn yn cynnwys parchu anghenion arbenigol. Mae tîm cymorth dysgu ar gael sy’n cynnal gweithdai a thiwtorialau rheolaidd mewn datblygu sgiliau sylfaenol ac uwch. Mae’r berthynas waith agos rhwng tiwtoriaid a myfyrwyr a myfyrwyr a’u cymheiriaid yn caniatáu amgylchedd dysgu cadarnhaol a gweithgar. Mae’r rhaglen hon yn cynnig profiad galwedigaethol, heriol yn academaidd sy’n cynnwys dulliau addysgu ac asesu arloesol. Bydd disgwyl i fyfyrwyr fod yn weithredol wrth reoli eu profiad dysgu, gan fod yn greadigol a chymryd camau i ddatblygu’u hunain. Mae’r cyfle i astudio rheolaeth chwaraeon ar waith yn brofiad deallusol gwerthfawr sydd hefyd yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer datblygu gyrfa yn y dyfodol. Mae safbwynt rhyngwladol y Brifysgol a’r integreiddio gyda chyflogwyr a chymdeithasau proffesiynol yn sicrhau cynnwys perthnasol a chyfredol. Mae’r ystod eang o weithgareddau allgyrsiol, yn rhai pynciol a chymdeithasol, yn cyfoethogi profiad y myfyrwyr ymhellach. Cyfleoedd gyrfa Gall y rhaglen hon ymfalchïo mewn cyfradd gyflogadwyedd uchel ar gyfer myfyrwyr sydd mewn • Datblygu Chwaraeon Cymunedol • Sefydliadau Chwaraeon Cenedlaethol • Rheolaeth Chwaraeon/ Cyfleusterau Hamdden • Atyniadau Hamdden • Rheolaeth Iechyd a Ffitrwydd • Cyfryngau Chwaraeon • Diwydiannau cysylltiedig eraill (gwasanaethau cyhoeddus) Mae nifer sylweddol o raddedigion hefyd yn mynd yn eu blaen i astudiaethau ôl-raddedig.
BSc Therapi Chwaraeon Fel yr unig radd Therapi Chwaraeon yng Nghymru a achredir gan Gymdeithas y Therapyddion Chwaraeon, cynlluniwyd y rhaglen hon i addysgu ymarferwyr cymwys ymhob agwedd ar Therapi Chwaraeon. Gall y Therapydd Chwaraeon graddedig ddewis gweithio mewn Clinigau Anafiadau Chwaraeon preifat neu o fewn chwaraeon proffesiynol / lledbroffesiynol yn y DU neu dramor. Mae Therapydd Chwaraeon Graddedig yn berson sy’n gymwys ac yn gallu delio ag anafiadau aciwt wrth ochr y cae chwarae, perfformio asesiad clinigol er mwyn datblygu diagnosis, a defnyddio amrywiaeth o ddulliau trin ochr yn ochr â thechnegau adfer sy’n benodol i’r gamp er mwyn cael yr athletwr yn ôl i gymryd rhan lawn yn ei gamp. Bydd myfyrwyr ar y rhaglen astudio hon yn dysgu mewn lleoliad ymarferol gyda digonedd o addysgu ymarferol mewn Ystafell Therapi Chwaraeon a Chanolfan Adfer bwrpasol. Mae’r staff addysgu’n Therapyddion Chwaraeon Graddedig profiadol, ac maent wedi gweithio mewn chwaraeon proffesiynol, lled-broffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol dros nifer o flynyddoedd. Yn ystod y flwyddyn gyntaf bydd myfyrwyr yn dysgu’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen wrth asesu anafiadau chwaraeon, ynghyd â thechnegau meinwe feddal yn cynnwys tylino chwaraeon a chymorth cyntaf wrth ochr y cae chwarae. Yn ystod yr ail flwyddyn bydd myfyrwyr yn cael cyfle i weithio fel
swyddogion cymorth cyntaf wrth ochr y cae chwarae a chael profiad clinigol yn ein clinig Tylino Chwaraeon. Ochr yn ochr â’r modylau hyn sy’n benodol i Therapi Chwaraeon, bydd myfyrwyr hefyd yn astudio modylau ffisioleg ddynol gymhwysol a hyfforddiant personol. Yn yr ail flwyddyn, addysgir y myfyrwyr i gwblhau archwiliad ac asesiad llawn o chwaraewr ag anaf a gwneud diagnosis, trin yr anaf gyda thechnegau therapi â llaw ac adfer yr athletwr yn ôl i gymryd rhan lawn yn ei gamp. Ym mlwyddyn olaf y rhaglen, bydd y myfyrwyr yn astudio rheoli trawma chwaraeon, electrotherapi a byddant yn ymgymryd â 200 awr o arfer clinigol. Cefnogir yr oriau clinigol hyn gan ein Clinig Anafiadau Chwaraeon ar y safle sy’n cynnig apwyntiadau Therapi Chwaraeon i staff, myfyrwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol, dan oruchwyliaeth y tîm therapi chwaraeon. Hefyd anogir myfyrwyr i ymgysylltu â darparwyr lleoliadau gwaith lleol a chenedlaethol er mwyn adeiladu portffolio helaeth o Brofiad Therapi Chwaraeon. Yn y flwyddyn olaf hon hefyd cwblheir prosiect ymchwil ar ddull traethawd hir mewn maes o ddiddordeb personol.
Lleoliad: Caerfyrddin Cod UCAS: BC61 40 Credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cwrs hwn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gwerth £1,500 dros 3 blynedd am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Mae gwerth credyd modwl yn amodol ar y nifer o oriau astudio sy’n gysylltiedig â’r modwl, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac asesu. Gan amlaf mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un. Ar gyfer gradd Baglor, mae myfyrwyr yn astudio 360 credyd dros dair blynedd, sef 120 credyd y flwyddyn. Gan amlaf mae blwyddyn wedi ei rhannu’n ddau semester, lle byddwch yn astudio 60 credyd bob semester.
www.ydds.ac.uk | 137
Y Dyniaethau Anthropoloeg
eraill, a’n cymdeithas ninnau yn cael eu trefnu a sut rydym yn rhyngweithio gyda’n Anthropoleg yw astudiaeth hamgylcheddau a’n tirweddau. cymdeithasau a diwylliannau Byddwch yn ymglymu wrth dynol yn eu holl gyfoeth faterion damcaniaethol a a’u hamrywiaeth. Mae gan moesegol fel treftadaeth a anthropolegwyr ddiddordeb thwristiaeth, gwleidyddiaeth yn unrhyw beth a phopeth ddiwylliannol a newid a wneir gan fodau dynol, pa amgylcheddol, ynghyd bryd bynnag a ble bynnag y’i â chyfranogi yn y gwaith gwnânt – o arferion adnewid corff ymysg grwpiau llwythol pell maes blynyddol. Yn ystod yn Affrica i’r defnydd o safleoedd y tymhorau diwethaf mae hyn wedi cael ei gynnal yn rhwydweithio cymdeithasol y mynachdy Sistersaidd ar-lein fel Facebook mewn cymdeithasau Gorllewinol cyfoes. godidog a’i gefnwlad yn Ystrad Fflur ym mynyddoedd Cambria, ychydig filltiroedd i’r Mae gan y staff Anthropoleg gogledd o’r campws. ddiddordebau ymchwil eang eu cwmpas, ac o ganlyniad rydym Astudiaethau yn cynnig amrediad helaeth o feysydd thematig a daearyddol Tsieineaidd yn ein rhaglen addysgu. Os mai canrif Yr Unol Daleithiau Drwy hyn, caiff y myfyrwyr fewnwelediad da i’r cyflwr dynol. oedd yr 20fed ganrif, bydd yr 21ain ganrif yn adnabyddus Mae gennym hefyd ymagwedd unigryw at addysgu Anthropoleg fel canrif Tsieina. Tsieina yw’r gymdeithas fwyaf dynamig, – rydym yn cydnabod amrywiol a dylanwadol yn y mai ymgysylltu ymarferol, byd heddiw. Mae ei heconomi, uniongyrchol gyda diwylliannau ei heffaith ddiwylliannol a’i ‘eraill’ yw’r ffordd orau o ddeall chryfder milwrol yn cyrraedd anthropoleg, ac os dewiswch astudio gyda ni fe gewch ddigon pob rhan o’r byd. Ac mae Tsieina yn un o wareiddiadau o gyfle i gael profiad o’r hyn yw pwysicaf y byd hefyd, gyda bod yn anthropolegydd. threftadaeth ddiwylliannol a llenyddol gyfoethog. Archaeoleg Archaeoleg yw astudiaeth y gorffennol dynol trwy archwilio gweddillion corfforol fel offer cerrig, crochenwaith ac esgyrn, hyd at adeiladau, strwythurau, henebion a thirweddau. Mae’n ceisio dangos sut mae cymdeithasau cyfoes, hen gymdeithasau
138 | www.ydds.ac.uk
O ganlyniad mae Tsieina yn bwnc astudio cyfareddol a thra boddhaus ar y lefel israddedig. Mae’r Brifysgol yn cynnig tair gwahanol fath o raglen israddedig: rhaglen Astudiaethau Tsieineaidd pedair blynedd; cyfres o raddau cydanrhydedd sy’n
canolbwyntio naill ai ar astudio iaith neu hanes a diwylliant (Gwareiddiad Tsieina); a rhaglen Astudiaethau Tsieineaidd tair blynedd.
Astudiaethau Clasurol I fyfyrwyr sy’n frwd am hen lenyddiaeth a mytholeg, Astudiaethau Clasurol yw’r radd berffaith i astudio mytholeg Groeg a Rhufain. Bydd Astudiaethau Clasurol yn astudio llenyddiaeth a diwylliant yr hen fyd, o arwyr epig mawrion Homer i fywyd bob dydd pobl gyffredin. Gyda chyfres eang o fodylau o blith y ffefrynnau ym myd llenyddiaeth dros dri mileniwm, o Homer, Vergil, Aristophanes ac Euripides, i drysorau llai adnabyddus fel Statius, Ovid, Martial ac Apollonius, mae ein graddau Astudiaethau Clasurol yn rhoi cyfle i chi ddarganfod rhyfeddodau hen lenyddiaeth a dysgu sut mae wedi llywio ein dealltwriaeth o’r hen fyd. Gan ddechrau yn y flwyddyn gyntaf gyda hen fytholeg a’i dylanwad yn yr hen fyd a’r byd modern, mae gradd Astudiaethau Clasurol yn cwmpasu pynciau sy’n amrywio o grefydd a hud i fenywod a’r teulu yn y byd Groegaidd-Rufeinig.
Athroniaeth Mae athroniaeth yn astudio’r cwestiynau mawr – Pwy ydyn ni? Beth yw ein lle yn y byd? Sut ddylen ni fyw? Beth yw realiti? Mae athroniaeth yn mynd i’r afael â’r cyfryw gwestiynau trwy ddadlau, ond hefyd trwy weledigaeth a dychymyg. Mae athroniaeth yn ymwneud â phob agwedd ar ein bywydau, yn ymarferol ac yn ddamcaniaethol. Gan ei bod wedi ei seilio ar berthnasoedd cymdeithasol a gweithgareddau dynion go iawn, mae’n ceisio deall a mynd i’r afael â’r sbectrwm cyfan o faterion cymdeithasol a moesegol cyfoes. Trwy Athroniaeth, gallwn nid yn unig ddod i ddeall bywyd, ond hefyd ei siapio. Os yw eich diddordebau yn cwmpasu bywyd, y bydysawd a phopeth, os ydych yn dymuno datblygu set gyfoethog o sgiliau bywyd a’r pŵer i ddylanwadu ar newid cadarnhaol, yna Athroniaeth yw’r pwnc i chi. Gallwch astudio Athroniaeth fel anrhydedd sengl, neu gallwch ddewis cyfuno eich angerdd dros Athroniaeth gydag astudiaeth o bwnc arall, ar ffurf rhaglen gydanrhydedd neu drwy gyfuniad prif bwnc/pwnc atodol.
Daeth Y Clasuron a Hanes yr Henfyd yn YDDS yn
7fed yn y DU am foddhad myfyrwyr Complete University Guide 2016
Gweler hefyd Crefydd a Diwinyddiaeth
www.ydds.ac.uk 139
Y Dyniaethau
Y Dyniaethau Crefydd a Diwinyddiaeth Byddwch yn cael cyflwyniad i’r berthynas ddynamig rhwng crefydd a chymdeithas a byddwch yn astudio’r rolau a chwaraeir gan grefyddau yn y materion enbyd sy’n nodweddu ein hoes ninnau. Mae’r rhaglenni’n tywys myfyrwyr y tu hwnt i sylw arwynebol gan y cyfryngau ar ddigwyddiadau cyfoes, at faterion dyfnach mewn hanes, hunaniaeth, ac at oblygiadau ymrwymiad crefyddol ar gyfer materion o bryder byd-eang. Mae’r cyrsiau’n cwmpasu amrediad eang o themâu ac yn asesu crefyddau ac arfer crefyddol yn eu cyd-destun byd-eang. Drwy hyn, byddwch yn cael mewnwelediad da i’r cyflwr dynol a lluosogrwydd crefyddau yn y byd. Mae’r rhaglenni Crefydd a Diwinyddiaeth ar gael fel anrhydedd sengl neu gallant gael eu cyfuno ag amrywiaeth eang o feysydd pwnc eraill. Gweler tudalen 118 am fanylion Astudiaethau Crefyddol drwy gyfrwng y Gymraeg
Y Dyniaethau Gall myfyrwyr sy’n dymuno astudio ystod o bynciau’r dyniaethau wneud hynny drwy’r cwrs BA Y Dyniaethau. Mae’r cwrs hwn yn gyfuniad cyffrous sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio pum agwedd/ llinyn o’r dyniaethau yn ystod y flwyddyn gyntaf. Mae’r agweddau/llinynnau hyn yn cynnwys ymholi hanesyddol, ymgysylltu diwylliannol, y dyniaethau ymarferol, llenyddiaeth Saesneg a’r meddwl dynol. Yn ystod yr ail a’r drydedd flwyddyn mae’r myfyrwyr yn cwtogi 140 | www.ydds.ac.uk
ar y meysydd a astudir gan ffocysu ar yr agweddau sydd o ddiddordeb iddynt. Mae’r Porth i’r Dyniaethau yn cynnig cymhwyster wedi ei selio ar gysyniad tebyg lle astudir ystod o bynciau ar draws y dyniaethau, ond ei fod wedi ei anelu at rai sy’n chwilio am fynediad arafach gyda chefnogaeth gref i astudio ar lefel addysg uwch.
Gwareiddiadau’r Hen Fyd O’r Aifft i Tsieina, o’r Dwyrain Agos Hynafol i Mesoamerica, neu o Wlad Groeg a Rhufain i’r Celtiaid, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o raglenni sy’n archwilio ehangder y gwareiddiadau o bob cwr o’r byd. Mae natur ryngddisgyblaethol ein cyrsiau yn ein galluogi i’ch cyflwyno i ystod gyffrous o ddiwylliannau hynafol, gan fynd y tu hwnt i’r ffocws penodol ar y byd Groegaidd-Rufeinig i archwilio lledaeniad llawer ehangach gwareiddiadau a phobloedd hynafol. Byddwch yn archwilio amrywiaeth o gymdeithasau hynafol trwy eu harchaeoleg, eu testunau, eu hanes a chwedloniaeth, mewn cyfres o fodiwlau rhyngddisgyblaethol. Bydd teithiau Amgueddfa a phrosiectau ymchwil yn eich galluogi i ymchwilio’r cymdeithasau a diwylliannau hyn o lygad y ffynnon, a bydd yn eich helpu i edrych ar y broses a ddefnyddir i ddeall y byd hynafol, sut y’i dehonglir ac yna’i gyfleu, naill ai mewn arddangosfeydd gweledol neu drwy ffynonellau ysgrifenedig.
Hanes Hanes yw un o'r meysydd academaidd mwyaf amrywiol a chynhyrchiol o ran ymchwil yn y Brifysgol, sy’n golygu y gall gynnig amrywiaeth eang o raglenni i fyfyrwyr sy’n cwmpasu nifer o filenia, o Ffaroaid yr Hen Aifft i gwymp yr Undeb Sofietaidd a diwedd y Rhyfel Oer. Mae ein darpariaeth Hanes yn rhychwantu gwahanol ranbarthau, cymdeithasau a diwylliannau’r byd. Mae’n ymdrin â’r gorffennol mewn amryw ffyrdd, boed trwy lens economeg, gwleidyddiaeth, ffurfiannau cymdeithasol, lluniadau diwylliannol, treftadaeth lenyddol, ideolegau, credoau crefyddol neu ddiwylliannau materol. Mae ein modylau'n edrych ar amrediad eang o bynciau sydd mor amryfal â Rhyfeloedd y Rhosynnau a’r Bom Niwclear, neu’r Rhyfel Mawr a straeon comig Chaucer, neu hyd yn oed Terfysgaeth fodern a Mynachaeth Ganoloesol. P’un ai a oes gennych ddiddordeb mewn astudio ar draws yr amrywiaeth eang hon o gyfnodau neu y byddai'n well gennych ganolbwyntio ar ddiddordeb penodol yn yr hen fyd, y byd canoloesol neu'r byd modern, byddwch yn cael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n ymchwilio ac yn cyhoeddi yn eu meysydd dewisol.
Hanes Hynafol I’r myfyrwyr hynny sy’n frwd am yr hen fyd, mae Hanes Hynafol yn rhoi cyfle iddynt astudio hanes gwleidyddol, milwrol a chymdeithasol y byd Groegaidd-Rufeinig, ynghyd â phrif ddiwylliannau hen Fôr y Canoldir. P’un ai a ydych yn
frwdfrydig dros ryfela, crefydd, materion cymdeithasol neu arweinwyr a meddylwyr mawr yr hen fyd, mae ein graddau Hanes Hynafol yn rhoi cyfle ichi gloddio i’r diwylliannau sydd wedi llunio’r byd gorllewinol dros ddau fileniwm. Achubwch ar y cyfle i astudio sut y tyfodd Rhufain yn ymerodraeth, sut y cafodd Sparta yr enw chwedlonol sydd ganddi heddiw, sut lywiodd crefydd fywyd bob dydd ddwy fil o flynyddoedd yn ôl a sut goncrodd Alecsander y byd hysbys a’r dychymyg dynol. Gallwch hyd yn oed ddilyn eich diddordebau eich hun yn yr hen fyd drwy ein modylau astudio annibynnol.
Saesneg, Ysgrifennu Creadigol a TEFL Mae Saesneg yn bwnc dynamig ac amryfal, yn amrywio o ddramâu dial gwaedlyd o’r Adfywiad i ffilmiau ysgubol cyfoes. Mae’r radd yn cyfuno ymrwymiad i’r darlun hanesyddol mawr yn Astudiaethau Saesneg, gan gynnwys opsiynau mewn llenyddiaeth ganoloesol, gydag ymagwedd ymatebol at gyfeiriadau a phryderon newydd yn y pwnc. Mae Ysgrifennu Creadigol yn radd gyffrous a heriol a fydd yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau fel ysgrifennwr. Bydd y cwrs yn meithrin eich doniau creadigol ar draws amrywiaeth o wahanol ffurfiau a genres, yn cynnwys storïau byrion, sgriptiau ffilm, barddoniaeth, drama a nofelau. Mae Saesneg
a TEFL (Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor) yn galluogi myfyrwyr i addysgu Saesneg fel iaith dramor yma ym Mhrydain neu mewn gwledydd eraill. Mae hefyd yn bosibl astudio Saesneg neu Ysgrifennu Creadigol ar y cyd â Chyhoeddi, gan ganolbwyntio ar y broses ymarferol o gynhyrchu deunydd ysgrifenedig.
Treftadaeth Mae ein clwstwr o raglenni a llwybrau astudio wedi eu grwpio o gwmpas maes eang Treftadaeth ac Astudiaethau Treftadaeth, ac maent yn cynnig cyfres o opsiynau cwrs poblogaidd i fyfyrwyr sy’n cyfuno astudio’r Dyniaethau gydag amrediad mwy proffesiynol o faterion a phynciau treftadaeth. Bydd myfyrwyr yn cael dealltwriaeth eang a gwerthfawrogiad o faes ehangach Treftadaeth, gan gynnwys lleoliadau gwaith a chyfnod yng nghasgliadau arbennig y Brifysgol a gedwir yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen. Mae’r myfyrwyr yn cael dewis o blith pedwar llwybr sy’n astudio agweddau mwy arbenigol neu ganolbwyntiedig ar dreftadaeth sy’n cynnwys, archifau ac amgueddfeydd, dyniaethau digidol, archaeoleg forwrol, a’r amgylchedd adeiledig. Mae’r gyfres hon o raglenni Treftadaeth yn cynnig cyfuniad unigryw o’r cyffredinol a’r penodol – ymwybyddiaeth o faterion ac ystyriaethau treftadaeth ehangach, ochr yn ochr â ffocws mwy canolbwyntiedig ac arbenigol.
www.ydds.ac.uk 141
Y Dyniaethau
Cyrsiau Cyfrwng Saesneg Llambed Gradd Anrhydedd
Cod UCAS
BA Ancient Civilisations BA Ancient History BA Ancient History and Archaeology BA Ancient History & Anthropology BA Ancient and Medieval History BA Ancient History with Ancient Egyptian Culture BA Ancient History with Education Studies BA Ancient History with Digital Humanities BA Ancient History with Greek BA Ancient History with Heritage Management BA Ancient History with Latin BA Ancient History, Archaeology, Education Studies BA Ancient History, Religious Studies, Education Studies
Cytunodd
95% o fyfyrwyr bod y staff yn dda am esbonio pethau Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2015
142 | www.ydds.ac.uk
V901 V110 VVD4 LV61 V115 2M6D VX13 0P23 T54N 4N6X 38C3 VVL3 VVL2
BA Anthropology L600 BA Anthropology & Chinese Studies TL16 BA Anthropology & English LQ63 BA Anthropology & History LVP1 BA Anthropology & Medieval Studies VL16 BA Anthropology & Philosophy VL56 BA Anthropology & Religious Studies LV66 BA Anthropology & Heritage Studies 8V3Q BA Anthropology with Psychology 32MD BA Anthropology with Heritage Management 3N2W BA Anthropology with Digital Humanities 4V21 BA Anthropology with Education Studies LX63 BA Anthropology, English, Education Studies QLL3 BA Anthropology, Philosophy, Education Studies VLL5 BA Anthropology, Ancient History, Education Studies VLL1 BA Anthropology, Classical Studies, Education Studies QLL8 BA Anthropology, History, Education Studies LVL7 BA Anthropology, Religious Studies, Education Studies LVL8 BA Anthropology, Archaeology, Education Studies LVL6 BA Applied Anthropology 3NY6
BA Archaeology BA Archaeology and Anthropology BA Archaeology with Ancient Egyptian Culture BA Archaeology of Egypt and the Near East BA Archaeology with Digital Humanities BA Archaeology with Education Studies BA Archaeology with Forensic Studies BA Archaeology with Heritage Management BA Archaeology & Classical Studies BA Archaeology & History BA Archaeology Professional Practice BA Archaeology, Religious Studies, Education Studies BA Environmental Archaeology BA Environmental Studies BA Nautical Archaeology
V400 LVQ4 09C3 59B2 07V4 V401 C3N7 6D28 QV84 VV14 F420 VVL9 0BW3 8V32 36C1
BA Chinese Studies (3 year) T100 BA Chinese Studies (4 year) 5DN2 BA Chinese Studies and History 46N3 BA Chinese Studies and Medieval Studies TV11 BA Chinese Studies and Religious Studies TV16 BA Chinese Studies with Digital Humanities 35MV BA Chinese Studies with Education Studies 836R BA Chinese Studies with Heritage Management 34Z1 BA Chinese Civilisation & Anthropology T1L6 BA Chinese Civilisation & History 6Y3W BA Chinese Civilisation & Medieval Studies T1V1 BA Chinese Civilisation & Religious Studies T1V6 BA Classics BA Classical Civilisation BA Classical Studies BA Classical Studies with Ancient Egyptian Culture BA Classical Studies with Education Studies BA Classical Studies with Digital Humanities BA Classical Studies with Heritage Management BA Classical Studies with Greek BA Classical Studies with Latin BA Classical Studies & Creative Writing BA Classical Civilisation with Greek BA Classical Civilisation with Latin
Q800 Q820 Q810 4H25 Q801 293R 7G34 39BR 436P 5GTS K3B2 2SS8
www.ydds.ac.uk | 143
Y Dyniaethau
BA Classical Studies, English, Education Studies BA Classical Studies, Ancient History, Education Studies BA Classical Studies, History, Education Studies BA Classical Studies, Anthropology, Education Studies BA Classical Studies, Archaeology, Education Studies BA Classical Studies, Religious Studies, Education Studies BA Greek & Latin
QVL0 QQ67
BA Conflict and War BA Creative Writing BA Creative Writing & English BA Creative Writing & Heritage Studies BA Creative Writing & Philosophy BA Creative Writing & Publishing BA Creative Writing with Digital Humanities BA Creative Writing with Heritage Management BA Creative Writing with Education Studies BA English BA English & Anthropology BA English & Chinese Civilisation BA English & Chinese Studies BA English & Classical Studies BA English & Creative Writing BA English & Heritage Studies BA English & History BA English & Medieval Studies BA English & Philosophy BA English & Publishing BA English & TEFL BA English with Heritage Management BA English with Digital Humanities BA English with Education Studies BA English, History, Education Studies BA English, Archaeology, Education Studies BA English, Ancient History, Education Studies BA English, Classical studies, Education Studies BA English, Philosophy, Education Studies BA English, Anthropology, Education Studies BA English, Religious Studies, Education Studies
9C3R W801 QW38 96C3 WV85 5RW2 194T 1B3R 385V Q300 LQ63 T13Q TQ13 QQ38 QW38 9C3W QV31 VQ13 VQ53 329B 94YD 636B 76G2 QL34 QVL5 QVL4 QVL3 QQL3 QVL6 QLL3 QVL7
BA Heritage Studies BA Heritage Studies & History 144 | www.ydds.ac.uk
QQL3 VQL1 QVL9 QLL8 QVL8
3B5D 529B
“Roedd fy amser yn Llambed yn fythgofiadwy ac o gael y cyfle, buaswn yn gwneud yr union un peth eto.” Karen Simms, BA Astudiaethau Clasurol
BA Heritage Studies & Archaeology BA Heritage Studies & Anthropology BA Heritage Studies & Philosophy BA Heritage Studies & Medieval History BA Heritage Studies & English BA Heritage Studies & Creative Writing BA Heritage Studies & Chinese Studies BA Heritage Studies & Theology BA Heritage Studies & Religious Studies BA Heritage Studies & Ancient History BA Heritage Studies & Classical Studies BA Heritage Studies with Nautical Archaeology BA Heritage Studies with Museums & Archives BA Heritage Studies with The Built Environment BA Heritage Studies with Digital Humanities
4B29 8V3Q 73D7 43N1 9C3W 96C3 5B29 3X29 9C2M 32N7 635L 3B5N 0C3W 6C3S 42V1
BA History BA History & Ancient History BA History & Anthropology BA History & Archaeology BA History & English BA History & Heritage Studies BA History & Medieval Studies BA History & Philosophy BA History & Theology BA History with Education Studies BA History with Heritage Management BA History with Digital Humanities BA History, English, Education Studies BA History, Philosophy, Education Studies BA History, Anthropology, Education Studies BA History, Classical Studies, Education Studies BA History, Ancient History, Education Studies BA History, Religious Studies, Education Studies BA History, Archaeology, Education Studies
V100 V112 LVP1 VV14 QV31 529B V138 VV5C VV16 VL14 T921 39B2 QVL5 VVL7 LVL7 QVL9 VVL1 V6L6 VLV4
BA Humanities
0G6H
BA Medieval History & Heritage Studies BA Medieval Studies BA Medieval Studies & Archaeology BA Medieval Studies & Classical Studies BA Medieval Studies & English BA Medieval Studies & Modern Historical Studies BA Medieval Studies & Philosophy BA Medieval Studies with Heritage Management
43N1 V130 VV41 VQ18 VQ13 V191 VV5D 0X32
BA Medieval Studies with Latin BA Modern Historical Studies
4KA9 V192
BA Applied Philosophy V503 BA Ethical and Political Studies D429 BA Philosophy V502 BA Philosophy & Anthropology VL56 BA Philosophy & Religious Studies VV6M BA Philosophy & Theology VVP5 BA Philosophy & Chinese Studies TV1M BA Philosophy & Classical Studies VQ58 BA Philosophy & Chinese Civilisation T1V5 BA Philosophy & Creative Writing WV85 BA Philosophy & English VQ53 BA Philosophy & History VV5C BA Philosophy & Heritage Studies 73D7 BA Philosophy & Medieval Studies VV5D BA Philosophy with Applied Psychology 4H62 BA Philosophy with Education Studies VL54 BA Philosophy with Heritage Management 9G32 BA Philosophy, Ancient History, Education Studies VVL5 BA Philosophy, Anthropology, Education Studies VLL5 BA Philosophy, Archaeology, Education Studies VVL6 BA Philosophy, Classical Studies, Education Studies VQL5 BA Philosophy, English, Education Studies QVL6 BA Philosophy, History, Education Studies VVL7 BA Philosophy, Religious Studies, Education Studies VVL8 BA Philosophy, Religion and Applied Psychology 2F56 BA Philosophy, Religion and Ethics D2N4 BA Philosophy, Theology and Ethics C32B
Meistr Integredig MAnth Anthropology MArc Archaeology MClass Classical Civilisation MClassL Classical Languages MCreW Creative Writing MEngLit English MHist History MPhilSt Philosophy
5YC6 58YV H3N9 U378 J2G5 Q2J0 N2B1 S8T3
Tystysgrif Addysg Uwch Cert HE Gateway to the Humanities I weld rhestr lawn o gyrsiau Crefydd a Diwinyddiaeth, gweler tudalen 118.
www.ydds.ac.uk | 145
Dysgu Seiliedig ar Waith Mae Athrofa Cymru ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr, sydd hefyd yn gweithio, i ennill cymhwyster mewn Arfer Proffesiynol. Mae’r ddarpariaeth yn gwbl seiliedig ar y gweithle ac ym mhob achos, mae’r rhaglenni wedi eu datblygu ar y cyd â diwydiant, busnes a’r cyrff cyhoeddus perthnasol i sicrhau ein bod, fel Prifysgol, yn diwallu anghenion dysgwyr a chyflogwyr.
Cyrsiau Cyfrwng Cymraeg/Dwyieithog Caerfyrddin Gradd Anrhydedd
BA Arfer Proffesiynol
Gradd Sylfaen
FdA Arfer Proffesiynol
Tystysgrif Addysg Uwch
Tyst AU Arfer Proffesiynol
Gweler hefyd Astudiaethau Cymdeithasol Busnes a Rheolaeth
Cyrsiau Cyfrwng Saesneg Caerfyrddin Gradd Anrhydedd BA Professional Practice
Gradd Sylfaen FdA Professional Practice
146 | www.ydds.ac.uk
www.ydds.ac.uk | 147
Y Fframwaith Arfer Proffesiynol
Lleoliad: Mae wedi’i leoli yn y gweithle ac yn ymwneud yn uniongyrchol â’ch cyd-destun chi.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth eang o ddyfarniadau dysgu seiliedig ar waith ar lefelau israddedig ac ôlraddedig o fewn Fframwaith Arfer Proffesiynol arloesol ac arobryn. Nod y Fframwaith Arfer Proffesiynol yw cynnig cyfleoedd dysgu sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr, gyda’r cyfleoedd hynny’n rhai hygyrch, hyblyg a chynhwysol. Yn fwy na dim, ei fwriad yw bodloni anghenion cyflogwyr a gweithwyr fel ei gilydd. Ym mhob achos, cyfunir astudiaeth academaidd â dysgu seiliedig ar waith er mwyn ichi gael y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau perthnasol i allu gwella eich perfformiad yn y gwaith ac ennill cymhwyster academaidd. Byddwch yn gweithio gydag Ymgynghorydd Rhaglen a fydd yn rhoi arweiniad ichi ac yn gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun dysgu i ennill y credydau sydd eu hangen arnoch tuag at y cymwysterau israddedig o fewn y Fframwaith Arfer Proffesiynol. Mae’r fframwaith credyd israddedig yn seiliedig ar gyfanswm o 360 credyd (120 yr un ar Lefelau 4, 5 a 6). Yn ogystal â hyn mae gan bob lefel ei dyfarniad ei hun - Tystysgrif Addysg Uwch; Diploma Addysg Uwch / Gradd Sylfaen a Gradd Anrhydedd, ac mae’n cynnig llwybr dilyniant o bob dyfarniad. Gellir parhau i astudio ar lefel ôl-raddedig hefyd. Dilynir rhaglenni dysgu seiliedig ar waith gan bobl sydd eisiau dysgu mewn ffordd sy’n uniongyrchol berthnasol i’w gwaith, boed hynny’n waith am dâl neu’n waith gwirfoddol. Mae wedi’i leoli yn y gweithle ac yn ymwneud yn uniongyrchol â’ch cyd-destun chi.
Prif nodweddion • Dysgu sy’n ymateb i alw gyda’i ansawdd wedi ei sicrhau ac sydd wedi ei addasu i fodloni anghenion unigolion ac anghenion datblygu eu cyflogwyr • Lleolir y dysgu yn bennaf yn y gwaith ac felly mae’n cwtogi ar yr amser sydd ei angen y tu allan i’r gweithle • Dysgu sydd wedi ei drafod, gyda ffocws ar bartneriaeth sy’n cynnwys y dysgwr, y cyflogwr a’r Brifysgol • Mae’r rhaglenni ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. • Gall achredu dysgu blaenorol fod yn nodwedd o’r rhaglen, naill ai o ran yr hyn a ddysgwyd drwy’r profiad o weithio neu drwy astudiaeth flaenorol Cyfleoedd gyrfa Rhaglen ddysgu seiliedig ar waith yw hon ac mae nifer o ddysgwyr wedi defnyddio’u hastudiaethau i gwblhau prosiectau yn eu gweithle gan arwain at ddatblygiad personol a phroffesiynol. Modylau nodweddiadol • Cydnabod ac Achredu Dysgu • Cynllun Rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith • Dulliau Ymchwil ar gyfer dysgu seiliedig ar waith • Cyflwyniad i Fentora • Prosiect dysgu seiliedig ar waith • Rheoli Prosiectau • Astudiaeth Annibynnol • AD i rai nad ydynt yn weithwyr AD Proffesiynol
Dysgu Seiliedig ar Waith
Tyst AU Arfer Proffesiynol Mae’r Dystysgrif Addysg Uwch yn cyfuno astudio academaidd â dysgu yn y gweithle er mwyn ichi gael y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau perthnasol i wella eich perfformiad yn y gwaith. Bydd yn ofynnol ichi astudio 120 credyd ar lefel 4 i ennill y dyfarniad. Byddwch yn gweithio gydag Ymgynghorydd Rhaglen i ddynodi rhaglen gydlynol.
FdA Arfer Proffesiynol Mae’r Radd Sylfaen mewn Arfer Proffesiynol yn adeiladu ar raglen y Dystysgrif a hefyd yn cyfuno astudio academaidd â dysgu yn y gweithle. Bydd yn ofynnol ichi astudio 120 credyd ychwanegol ar lefel 5 i ennill dyfarniad Gradd Sylfaen.
BA Arfer Proffesiynol Dyfernir y radd Anrhydedd ar ôl cwblhau 120 credyd ychwanegol yn llwyddiannus ar lefel 6.
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Mae gwerth credyd modwl yn amodol ar y nifer o oriau astudio sy’n gysylltiedig â’r modwl, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac asesu. Gan amlaf mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un.
148 | www.ydds.ac.uk
www.ydds.ac.uk | 149
Gwaith Ieuenctid a Chymuned Mae gwaith ieuenctid yn broffesiwn â phwrpas, gwerthoedd ac egwyddorion a ddatganwyd yn eglur. Prif bwrpas gwaith ieuenctid yn y Deyrnas Unedig yw: ‘Galluogi pobl ifanc i ddatblygu’n holistaidd, gan weithio gyda nhw i hwyluso’u datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol, er mwyn eu galluogi i ddatblygu eu llais, dylanwad a lle yn y gymdeithas ac i gyrraedd eu llawn botensial’. Mae’r datganiad hwn yn cyfeirio at ddatblygiad holistaidd pobl ifanc, gan gydnabod y gall datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol hefyd gynnwys, er enghraifft, ddatblygiad corfforol, gwleidyddol ac ysbrydol (Gwasanaeth Dysgu a Gwella Sgiliau (LSIS), 2012).
Cyrsiau Cyfrwng Cymraeg/Dwyieithog
100%
Caerfyrddin Gradd Anrhydedd
Cod UCAS
BA Gwaith Ieuenctid a Chymuned
L591
Tystysgrif Addysg Uwch
Tyst AU Iechyd a Lles Pobl Ifanc
Cyrsiau Cyfrwng Saesneg
o fyfyrwyr YDDS a oedd yn astudio yn yr Ysgol Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol yn fodlon ar y ‘Tiwtoriaid Personol’
“Mae YDDS yn lle gwych i astudio, gyda chymdeithas glós, gartrefol Gymreig, sydd yn bwysig iawn i mi.” Anna Fon Williams, BA Gwaith Ieuenctid a Chymuned
Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015
Caerfyrddin Gradd Anrhydedd
Roedd
Cod UCAS
BA Youth and Community Work
L592
Tystysgrif Addysg Uwch Cert HE Playwork Cert HE Young People’s Health and Wellbeing
Abertawe Gradd Sylfaen FdA Children and Young People
Cod UCAS 1A7F
Tystysgrif Addysg Uwch Cert HE Advocacy
Gweler hefyd Astudiaethau Addysg Astudiaethau Cymdeithasol Chwaraeon, Iechyd ac Antur Awyr Agored Y Gwyddorau Cymdeithasol 150 | www.ydds.ac.uk
www.ydds.ac.uk | 151
BA Gwaith Ieuenctid a Chymuned
Lleoliad: Caerfyrddin Cod UCAS: L591 120 Credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cwrs hwn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant, Prif Ysgoloriaeth ac Ysgoloriaeth William Salesbury y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk
152 | www.ydds.ac.uk
Nodweddion allweddol Mae gan y rhaglen BA Gwaith Ieuenctid a Chymuned staff dwyieithog brwdfrydig a chefnogol a chanddynt gymwysterau proffesiynol ym maes Gwaith Ieuenctid a Chymuned ynghyd ag arbenigedd cydnabyddedig. Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw’r unig fan lle y gallwch astudio’r radd hon drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ffocws ymarferol a galwedigaethol i’r rhaglen, gyda llawer o gyfleoedd i ddysgu y tu allan i’r ystafell ddarlithio. Mae ymweliadau maes yn rhan o’r rhaglen, pan fydd myfyrwyr yn cael cyfle i brofi gwaith ieuenctid gwledig, trefol ac amlddiwylliannol. Mae’r rhaglen yn gosod pwyslais ar ddatblygiad personol a chymdeithasol yr unigolyn, ac mae'r Brifysgol yn cynnig cymorth a chyfarwyddyd rhagorol ar yrfaoedd. Mae myfyrwyr hefyd yn elwa o gael eu haddysgu mewn grwpiau bach ac mewn amgylchedd dysgu cefnogol.
Mae’r rhaglen BA Gwaith Ieuenctid a Chymuned ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig cymhwyster proffesiynol a seilir ar egwyddorion a gwerthoedd craidd gwaith ieuenctid. Mae’r rhaglen wedi’i chymeradwyo gan ETS Cymru ac felly mae’n gymhwyster a gydnabyddir gan y JNC ac a dderbynnir yn eang ledled y byd. Mae’r radd yn archwilio sut i hwyluso a chefnogi twf a datblygiad personol a chymdeithasol pobl ifanc mewn amryw o leoliadau anffurfiol a rhai heb fod yn ffurfiol. Mae’n adlewyrchu polisi ac arfer ieuenctid cyfredol Cymru a’r DG ac mae’n berthnasol i’r sector galwedigaethol, cyflogwyr lleol a chenedlaethol a’r sector gwirfoddol. Mae lleoliadau mewn sefydliadau gwaith ieuenctid statudol a gwirfoddol yn rhan ganolog o’r rhaglen, ac yn sail iddynt y mae asesiadau beirniadol o faterion sy’n effeithio ar fywydau pobl ifanc, megis natur cymdeithas a materion sy'n gysylltiedig â chynhwysiant cymdeithasol, cymdeithaseg a seicoleg pobl ifanc. Mae’n ofynnol i fyfyrwyr gwblhau 800 awr o leoliadau gwaith maes a asesir yn ystod y rhaglen, yn ogystal â gwneud ymweliadau arsylwi i gefnogi modylau eraill.
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Mae gwerth credyd modwl yn amodol ar y nifer o oriau astudio sy’n gysylltiedig â’r modwl, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac asesu. Gan amlaf mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un. Ar gyfer gradd Baglor, mae myfyrwyr yn astudio 360 credyd dros dair blynedd, sef 120 credyd y flwyddyn. Gan amlaf mae blwyddyn wedi ei rhannu’n ddau semester, lle byddwch yn astudio 60 credyd bob semester.
Gwaith Ieuenctid a Chymuned
Cynigir y rhaglen drwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg ac yn ddwyieithog. Fe’i cefnogir gan e-lyfrgell gynyddol sy’n cynnwys yr holl brif gyhoeddiadau sy’n effeithio ar waith gyda phobl ifanc yng Nghymru. Hefyd, mae rhan o gasgliad Llyfrgell Gwaith Ieuenctid Cymru bellach wedi’i lleoli yn y Brifysgol, sy’n cynnig cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio testunau hanesyddol a dogfennau polisi allweddol, yn ogystal ag adnoddau allweddol eraill ym maes gwaith ieuenctid.
Roedd
95% o fyfyrwyr YDDS a oedd yn astudio yn yr Ysgol Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol yn fodlon ar y ‘Clybiau/ Cymdeithasau’
Cyfleoedd Gyrfa Yn unol â’u dyheadau wrth wneud cais am y rhaglen radd, mae llawer o’n graddedigion yn dod o hyd i waith yn uniongyrchol ym maes gwaith ieuenctid a chymuned, yn y sector gwirfoddol a’r sector a gynhelir. Gall hyn fod ar lefel wyneb yn wyneb, yn gweithio’n uniongyrchol gyda phobl ifanc mewn amrywiaeth o gyd-destunau (yn cynnwys gwaith ieuenctid mewn ysgolion, gwaith ieuenctid datgysylltiedig, gwaith ieuenctid ym maes iechyd ac ati), neu efallai y byddant yn cael eu cyflogi ar lefel reoli. Mae graddedigion eraill wedi mynd yn Swyddogion Lles Addysg, neu’n gweithio mewn canolfannau preswyl i blant a phobl ifanc. Mae hyn yn dangos sut y gellir trosglwyddo’r sgiliau y mae’r graddedigion wedi’u datblygu wrth astudio ar y rhaglen radd i leoliadau eraill. Mae rhai graddedigion wedi sicrhau gwaith o fewn addysg gymunedol, o fewn cyfiawnder ieuenctid, gydag asiantaethau gwirfoddol, gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol ac mae eraill wedi parhau i astudio drwy ymgymryd ag astudiaethau / ymchwil ôl-raddedig.
Mae’r myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau ymarferol wythnosol a elwir yn ‘Weithgareddau Dysgu drwy Brofiadau’. Mae’r sesiynau hyn yn ychwanegol at y modylau mae’r myfyrwyr wedi cofrestru arnynt, ac maent yn datblygu sgiliau ychwanegol trwy gymryd rhan mewn profiadau atodol sy’n ychwanegu at eu cyflogadwyedd. Bydd cyfle hefyd i fyfyrwyr astudio dramor fel rhan o’u hastudiaethau a daw’r cyfle hwn yn ystod ail semestr yr ail flwyddyn.
Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015
www.ydds.ac.uk | 153
Y Gwyddorau Cymdeithasol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o raglenni sy’n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol ar draws ein campysau yn Abertawe a Chaerfyrddin. Mae gan y rhaglenni hyn gysylltiadau cryf gyda’r sector ac maent yn cynnwys amrywiaeth o leoliadau a chyfnodau preswyl yn y diwydiant iechyd sy’n rhoi profiad uniongyrchol i fyfyrwyr. Mae amrywiaeth o raglenni perthnasol yn astudio gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac maent yn darparu cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth broffesiynol, eich dealltwriaeth, cymhwysedd a’ch sgiliau allweddol yn y sector gofal plant a sectorau cysylltiedig. Rydym hefyd yn cynnig nifer o raglenni mewn Iechyd, Ymarfer, Maeth ac Addysg Gorfforol ar gampws Caerfyrddin gan ganolbwyntio ar yrfaoedd sy’n hybu dulliau iach o fyw trwy addysg a’r diwydiannau sector cyhoeddus a phreifat.
Astudiaethau Nyrsio Mae’r llwybr Diploma Addysg Uwch Astudiaethau Nyrsio ac Iechyd wedi’i gynllunio i roi cyfle i fyfyrwyr ddeall a datblygu sgiliau sy’n gysylltiedig â nyrsio. Bydd hyn yn rhoi sail werthfawr i’r rheiny sy’n dymuno ceisio gyrfa ym maes nyrsio neu faes cysylltiedig. Bydd y rhaglen yn cyfuno modylau iechyd gyda modylau sy’n unol â Safonau Galwedigaethol Nyrsio cyfredol er mwyn rhoi dealltwriaeth gadarn o themâu a fframweithiau nyrsio cyfredol. Mae’r rhaglen yn arbennig o berthnasol i’r myfyrwyr hynny sy’n dymuno dechrau gyrfa mewn nyrsio ond nad oes ganddynt y cymwysterau na’r profiad i gael mynediad i’w dewis yrfa. Nid cymhwyster Nyrsio yw hwn – ond, bydd y cyfuniad o gydrannau gofal iechyd a chymdeithasol a nyrsio yn y rhaglen yn caniatâu am fwy o ddyfnder, gwybodaeth, sgiliau a phrofiad i’r rheiny sy’n dymuno gweithio mewn maes sy’n gysylltiedig â nyrsio.
Seicoleg Mae seicoleg yn faes astudio cyfareddol a boddhaus sy’n cael effaith aruthrol ar bob agwedd ar fywyd cyhoeddus, yn enwedig mewn meysydd fel addysg, iechyd, yr economi, diwydiant a chyfiawnder cymdeithasol. Gan fod nifer
154 | www.ydds.ac.uk
o opsiynau astudio ar gael ar gyfer rhaglenni cydanrhydedd neu anrhydedd sengl, a leolir ar ein campysau yn Abertawe a Chaerfyrddin, mae cyfle i chi ganolbwyntio eich astudiaethau yn llawn ar y ddisgyblaeth neu eu cyfuno naill ai ag Astudiaethau Addysg neu Gwnsela, sy’n cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol. Yn ogystal, mae campws Llambed yn cynnig cyfres o gyfuniadau anrhydedd prif bwnc/pwnc atodol mewn Crefydd, Athroniaeth ac Anthropoleg.
Cwnsela Mae’r Brifysgol yn cynnig cwrs Cydanrhydedd mewn Cwnsela gyda Seicoleg. Gall y rhaglen hon arwain at amrywiaeth eang o yrfaoedd posibl yn y dyfodol mewn llawer o sectorau sy’n cynnwys ymarfer cwnsela, seicoleg, addysg, nyrsio, gofal cymdeithasol, adnoddau dynol a mwy. Mae'r rhaglen Astudiaethau Cwnsela a Seicoleg wedi ei hachredu gan Gymdeithas Seicoleg Prydain (BPS). Golyga hyn fod y rheiny sy’n graddio gydag o leiaf gradd anrhydedd ail ddosbarth yn gymwys i dderbyn Aelodaeth Siartredig i Fyfyriwr Graddedig (GBC) gan Gymdeithas Seicoleg Prydain – yn aml mae hyn yn hanfodol i fyfyrwyr sy’n dymuno mynd yn eu blaen i astudiaethau neu hyfforddiant ôl-raddedig mewn seicoleg.
Gwasanaethau Cyhoeddus Mae astudio BA Gwasanaethau Cyhoeddus neu HND Gwasanaethau Cyhoeddus yn rhoi sgiliau a gwybodaeth gwerthfawr iawn i chi a fydd yn eich helpu i ddatblygu gyrfa yn y sector cyhoeddus neu mewn sefydliadau preifat neu drydydd sector. Gyda’u cysylltiadau cryf â gwasanaethau cyhoeddus lleol, mae gan ein cyrsiau, sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd, hanes cyflogaeth graddedigion rhagorol. Mae’r rhaglen gwasanaethau cyhoeddus yn rhoi’r sgiliau arbenigol i chi sydd eu hangen ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd gyrfaol pan fyddwch yn graddio. Cafodd y cwrs ei gynllunio, ac mae’n cael ei ddiweddaru, i adlewyrchu’r sector cyhoeddus cyfredol a’i rôl mewn cymdeithas. Mae modd bellach i astudio’r Gyfraith gyda Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae modd hefyd dewis astudio modwl drwy gyfrwng y Gymraeg o fewn y Gyfadran. Yn ddiweddar, mae sawl myfyriwr wedi dewis astudio modwl Datblygiad Personol a Phroffesiynol Cymhwysol drwy’r Gymraeg.
Roedd
100% o fyfyrwyr YDDS a oedd yn astudio yn yr Ysgol Seicoleg yn fodlon ar eu ‘Tiwtoriaid Personol’ Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015
www.ydds.ac.uk 155
Y Gwyddorau Cymdeithasol
Cyrsiau Cyfrwng Cymraeg/Dwyieithog Abertawe
Caerfyrddin Gradd Anrhydedd
Cod UCAS
BA Astudiaethau Cymdeithasol: Anghenion Ychwanegol BA Astudiaethau Cymdeithasol: Cymunedau, Teuluoedd ac Unigolion BA Astudiaethau Cymdeithasol: Iechyd a Gofal Cymdeithasol
73L8 83BY 99H7
Tystysgrif Addysg Uwch
Tyst AU Iechyd a Lles Pobl Ifanc
Cyrsiau Cyfrwng Saesneg
Roedd
100% o fyfyrwyr YDDS a oedd yn astudio yn yr Ysgol Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol yn fodlon ar y ‘Darlithwyr Arbenigol’
Cod UCAS
BSc Children and Young People BA Counselling Studies & Psychology BC98 BA Counselling Skills & Interdisciplinary Studies 07FC BA Education Studies & Psychology XC38 BSc Education Studies & Psychology XC3W BSc Health and Social Care L510 BSc Health Management 07B3 BSc Psychology 3UC3 BA Public Services L490 BA Law and Public Services L2J5
Gradd Sylfaen
Cod UCAS
FdA Children and Young People
Caerfyrddin Gradd Anrhydedd
Gradd Anrhydedd
Cod UCAS
BSc Applied Psychology L3C8 BSc Health, Nutrition and Lifestyle LB54 BSc Public Health* 39W8 BA Social Studies: Health and Social Care L819 BA Social Studies: Communities, Families and Individuals PS39 BA Social Studies: Additional Needs R116 BSc Sport Therapy BC61
1A7F
Diploma
Cod UCAS
HND Health and Social Care HND Health Management HND Public Services
015L 3LN4 064L
Tystysgrif a Diploma Cenedlaethol Uwch HNC Health and Social Care HNC Health Management HNC Public Services
Diploma Addysg Uwch
Diploma Addysg Uwch
Dip HE Nursing Studies and Health
Dip HE Nursing Studies and Health
Tystysgrif Addysg Uwch
Tystysgrif Addysg Uwch Cert HE Young People’s Health and Wellbeing
Llambed Gradd Anrhydedd
Cod UCAS
BA Anthropology with Applied Psychology 32MD BA Philosophy with Applied Psychology 4H62 BA Religious Studies with Applied Psychology 7C29
Cert HE Advocacy Cert HE Counselling Skills (Level 4) Cert HE Health Management Graduate Certificate in Applied Counselling Skills (Level 6) *yn amodol ar ddilysu
Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015 156 | www.ydds.ac.uk
www.ydds.ac.uk | 157
Hamdden a Thwristiaeth Hamdden a Thwristiaeth Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o raglenni cyffrous mewn Rheolaeth Twristiaeth a Hamdden a fydd yn rhoi’r sgiliau cyflogadwyedd a gwasanaeth gwesteion arloesol i chi sydd eu hangen yn y farchnad fyd-eang hon sy’n ehangu’n gyflym. Mae gan ein rhaglenni ffocws cryf ar ddiwydiant, a chysylltiadau rhagorol gyda sefydliadau allweddol yn lleol ac yn rhyngwladol. Ynghyd â chynnig amrywiaeth o sgiliau iaith a diwylliannol yn ein llwybrau Twristiaeth, mae ein llwybrau Hamdden yn darparu sgiliau hyfforddi a rheoli digwyddiadau i fyfyrwyr. Mae’r holl fyfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau lletygarwch a gwasanaeth gwesteion sy’n hanfodol yn holl sectorau’r diwydiant.
Digwyddiadau Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o Raglenni Rheolaeth Digwyddiadau cyffrous a fydd yn rhoi’r sgiliau rheoli a chyflogadwyedd sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y diwydiant hwn sy’n ehangu’n gyflym drwy’r holl fyd. Mae gan ein graddedigion swyddi brig mewn lleoliadau digwyddiadau byd-enwog, gwestai rhyngwladol blaenllaw sy’n cynnal digwyddiadau, gwyliau a digwyddiadau lleol a rhanbarthol, lleoliadau chwaraeon, prif ddigwyddiadau chwaraeon, canolfannau confensiynau a thimau digwyddiadau awdurdod lleol ac mae rhai eraill ohonynt yn entrepreneuriaid llwyddiannus. Mae ein holl raglenni yn cynnwys cyfnodau preswyl integredig gyda rhai o’r lleoliadau digwyddiadau a’r sefydliadau digwyddiadau mwyaf blaenllaw, yn lleol ac yn rhyngwladol, ac maent yn creu rhwydweithiau gyrfaol rhagorol i’n myfyrwyr gyda threfnwyr digwyddiadau yn y sectorau confensiynau, chwaraeon a gwyliau.
Cyrsiau Cyfrwng Cymraeg/Dwyieithog Abertawe Gradd Anrhydedd
Roedd
93%
Gradd Sylfaen
o fyfyrwyr YDDS a oedd yn astudio yn yr Ysgol Twristiaeth a Lletygarwch yn fodlon ar ‘Gynnwys y Cwrs’ Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015.
158 | www.ydds.ac.uk
9NQY 3RX8
Diploma/Tystysgrif
N820 N872 N840 N800
Cod UCAS
FdA Rheolaeth Digwyddiadau* FdA Rheolaeth Twristiaeth
Cod UCAS
HND/HNC Rheolaeth Digwyddiadau* HND/HNC Rheolaeth Twristiaeth
3T0N 238N
Cyrsiau Cyfrwng Saesneg Abertawe Gradd Anrhydedd BA Events Management BA International Hotel Management BA International Travel and Tourism BA Leisure Management BA Sports Management BA Technical Theatre (Top-Up Level 6) BA Tourism Management
Cod UCAS N820 R3H2 N840 N872 N871 W443 N800
Meistr Integredig MTour Tourism Management*
Gradd Sylfaen FdA Events Management* FdA Technical Theatre FdA Tourism Management
Diploma/Tystysgrif HND/HNC Events Management* HND/HNC Tourism Management
Ceir cynllun ar y cyd unigryw sy’n cyfuno hyfforddiant galwedigaethol yng Ngwesty’r Marriot Abertawe gydag astudiaethau academaidd ar gampws YDDS.
Cod UCAS
BA Rheolaeth Digwyddiadau BA Rheolaeth Hamdden BA Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Rhyngwladol BA Rheolaeth Twristiaeth
Gweler hefyd Busnes a Rheolaeth Y Dyniaethau
Cod UCAS 9NQY 3RT2 3RX8
Cod UCAS 3T0N 238N
Tystysgrif Addysg Uwch Cert HE Tourism Management *yn amodol ar ddilysu
www.ydds.ac.uk | 159
BA Rheolaeth Digwyddiadau
Lleoliad: Abertawe Cod UCAS: N820 40 Credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cwrs hwn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gwerth £1,500 dros 3 blynedd - am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk
Mae’r rhaglen yn rhoi i fyfyrwyr y sgiliau academaidd a’r sgiliau grymuso sy'n ofynnol ar gyfer y diwydiant er mwyn sicrhau gyrfa lwyddiannus iawn ym maes rhyngwladol Rheolaeth Digwyddiadau. Ar hyd y cwrs bydd myfyrwyr yn canolbwyntio ar ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd a’u gwybodaeth am y diwydiant gyda theithiau astudiaethau maes cyffrous yn y DU a thramor, interniaethau a lleoliadau’n seiliedig ar ddigwyddiadau, ynghyd ag ystod o ddarlithoedd a thiwtorialau cefnogol, cyflwyniadau gan y diwydiant a gweithgareddau sy'n gysylltiedig â digwyddiadau. Bydd yr astudiaethau academaidd yn rhoi ystyriaeth gyffredinol i’r cysylltiadau â digwyddiadau, hamdden, twristiaeth a chwaraeon ar yr un pryd â datblygu dealltwriaeth fanwl am faterion o fewn y sector rheoli digwyddiadau. Bydd datblygu sgiliau craidd yn sail i’r dysgu, gan ganolbwyntio ar sgiliau rheoli ac arwain, cynllunio a threfnu digwyddiadau yn ogystal â lletygarwch a sgiliau gwasanaethau gwesteion o’r radd flaenaf, sydd oll yn ganolog i’r diwydiant Rheoli Digwyddiadau.
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Mae gwerth credyd modwl yn amodol ar y nifer o oriau astudio sy’n gysylltiedig â’r modwl, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac asesu. Gan amlaf mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un. Ar gyfer gradd Baglor, mae myfyrwyr yn astudio 360 credyd dros dair blynedd, sef 120 credyd y flwyddyn. Gan amlaf mae blwyddyn wedi ei rhannu’n ddau semester, lle byddwch yn astudio 60 credyd bob semester.
160 | www.ydds.ac.uk
Modylau enghreifftiol • Rheolaeth Twristiaeth a Digwyddiadau yn y Pentref Byd-eang • Cyflwyniad i Hamdden, Digwyddiadau, Twristiaeth a Chwaraeon • Rheoli Cynadleddau, Gwyliau a Digwyddiadau • Lletygarwch a Gwasanaethau Gwesteion ar gyfer Hamdden, Digwyddiadau, Twristiaeth a Chwaraeon • Sgiliau Academaidd a Busnes • Marchnata • Lleoliad Diwydiant Cymhwysol • Cyfathrebu Rhyng-Ddiwylliannol • Traethawd hir • Cynhadledd Myfyrwyr Byd-Eang
BA Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Rhyngwladol Mae’r rhaglen yn rhoi i fyfyrwyr y sgiliau academaidd a galwedigaethol sy’n ofynnol er mwyn sicrhau gyrfa lwyddiannus iawn ym maes teithio a thwristiaeth. Ar hyd y cwrs bydd myfyrwyr yn canolbwyntio ar ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd a’u gwybodaeth am y diwydiant gyda theithiau astudiaethau maes rhyngwladol cyffrous, interniaethau a lleoliadau ynghyd ag ystod o ddarlithoedd a thiwtorialau cefnogol. Bydd datblygu sgiliau craidd yn sail i’r dysgu, gan ganolbwyntio ar sgiliau rheoli ac arwain, strategaethau teithio a thwristiaeth a dealltwriaeth sefydliadol yn ogystal â’r sgiliau lletygarwch a gwasanaethau gwesteion byd-eang sy’n ganolog i’r diwydiant rhyngwladol. Trwy gydol y rhaglen bydd myfyrwyr yn canolbwyntio ar faterion rhyngwladol megis datblygu dealltwriaeth fanwl am bwysigrwydd cynaliadwyedd ac entrepreneuriaeth. Cysylltir hyn â ffocws sylfaenol ar ddatblygu’ch sgiliau cyflogadwyedd er mwyn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant rhyngwladol yn y dyfodol. Mae cysylltiadau agos â nifer o sefydliadau teithio a thwristiaeth byd-eang yn galluogi’r rhaglen i gynnig ystod o gyfleoedd unigryw am interniaethau rhyngwladol, er mwyn galluogi myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau gwasanaethau gwesteion o’r radd flaenaf sy’n ofynnol gan arweinwyr allweddol y diwydiant. Cefnogir hyn gan gyflwyniadau gan bobl yn y diwydiant a nifer o deithiau astudiaethau maes a fydd yn darparu cyfleoedd addysgiadol i gael gwybodaeth hanfodol ‘tu ôl i’r llenni’ am rai o’r cyrchfannau mwyaf dethol ym maes teithio a thwristiaeth rhyngwladol, er mwyn bywiogi’r dysgu a chreu graddedigion sy’n barod i symud yn gyflym i swyddi rheolwyr.
Modylau enghreifftiol • Rheolaeth Twristiaeth a Digwyddiadau yn y Pentref Byd-eang • Datblygiad Personol a Phroffesiynol Cymhwysol • Gweithrediadau Teithio Rhyngwladol • Rheolaeth Weithredol ar gyfer Sefydliadau Gwasanaethau • Lletygarwch a Gwasanaethau Gwesteion ar gyfer Hamdden, Digwyddiadau, Twristiaeth a Chwaraeon • Rheoli Menter neu Twristiaeth Gynaliadwy • Sgiliau Academaidd a Busnes • Marchnata Hamdden • Egwyddorion Rheoli Sefydliadau • Lleoliad Diwydiant Cymhwysol • Cyfathrebu Rhyng-Ddiwylliannol • Traethawd hir • Rheoli Menter neu Gweithrediadau Teithio Rhyngwladol • Cynhadledd Myfyrwyr Byd-Eang
Lleoliad: Abertawe Cod UCAS: N840 40 Credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cwrs hwn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gwerth £1,500 dros 3 blynedd - am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Mae gwerth credyd modwl yn amodol ar y nifer o oriau astudio sy’n gysylltiedig â’r modwl, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac asesu. Gan amlaf mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un. Ar gyfer gradd Baglor, mae myfyrwyr yn astudio 360 credyd dros dair blynedd, sef 120 credyd y flwyddyn. Gan amlaf mae blwyddyn wedi ei rhannu’n ddau semester, lle byddwch yn astudio 60 credyd bob semester.
www.ydds.ac.uk | 161
BA Rheolaeth Twristiaeth
Lleoliad: Abertawe UCAS: N800 40 Credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cwrs hwn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gwerth £1,500 dros 3 blynedd - am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk
Mae’r rhaglen yn rhoi ichi’r sgiliau academaidd a’r sgiliau ar gyfer y diwydiant sy’n ofynnol er mwyn sicrhau gyrfa lwyddiannus iawn ym maes Rheolaeth Twristiaeth, fel a welir drwy lwyddiant graddedigion y llwybr hwn. Trwy gydol y cwrs bydd myfyrwyr yn canolbwyntio ar ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd a’u gwybodaeth am y diwydiant gyda theithiau astudiaethau maes cyffrous yn y DU a thramor, interniaethau a lleoliadau ynghyd ag ystod o ddarlithoedd a thiwtorialau cefnogol. Mae’r rhaglen Rheolaeth Twristiaeth yn ymfalchïo yn ei chysylltiadau cadarn â’r diwydiant yn rhyngwladol, sy’n eich galluogi i rwydweithio â rheolwyr rhyngwladol blaenllaw ym maes twristiaeth a datblygu cyfleoedd hyfforddi cyffrous ar gyfer graddedigion yn y DU a thramor. Bydd datblygu sgiliau craidd yn sail i’r dysgu, gan ganolbwyntio ar sgiliau rheoli ac arwain, yn ogystal â lletygarwch a gwasanaethau gwesteion rhyngwladol sy’n ganolog i’r diwydiant.
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Mae gwerth credyd modwl yn amodol ar y nifer o oriau astudio sy’n gysylltiedig â’r modwl, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac asesu. Gan amlaf mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un. Ar gyfer gradd Baglor, mae myfyrwyr yn astudio 360 credyd dros dair blynedd, sef 120 credyd y flwyddyn. Gan amlaf mae blwyddyn wedi ei rhannu’n ddau semester, lle byddwch yn astudio 60 credyd bob semester.
162 | www.ydds.ac.uk
Modylau enghreifftiol • Rheolaeth Twristiaeth a Digwyddiadau yn y Pentref Byd-eang • Cyflwyniad i Hamdden, Digwyddiadau, Twristiaeth a Chwaraeon • Rheolaeth ac Arweinyddiaeth ar gyfer Hamdden, Digwyddiadau, Twristiaeth a Chwaraeon • Twristiaeth Gynaliadwy • Lletygarwch a Gwasanaethau Gwesteion ar gyfer Hamdden, Digwyddiadau, Twristiaeth a Chwaraeon • Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Rhyngwladol Strategol • Rheoli Menter neu Gweithrediadau Teithio Rhyngwladol • Sgiliau Academaidd a Busnes • Marchnata Hamdden • Lleoliad Diwydiant Cymhwysol • Cyfathrebu Rhyng-Ddiwylliannol • Traethawd hir • Cynhadledd Myfyrwyr Byd-Eang
BA Rheolaeth Hamdden Mae’r llwybr Rheolaeth Hamdden wedi’i ddylunio ar gyfer y myfyrwyr hynny y mae’n well ganddynt feithrin a datblygu diddordeb dwfn mewn archwilio i'r diwydiant hamdden cyffredinol heb arbenigo mewn sector penodol. Athroniaeth y llwybr yw rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth gyffredinol o hamdden trwy gyd-destun amlddisgyblaeth, yn academaidd ac yn broffesiynol. O fewn lefel 4 y rhaglen, ceir mewnwelediad rhagarweiniol i’r diwydiant hamdden cyffredinol trwy Dwristiaeth a Digwyddiadau, a thrwy hynny, ddarparu sylfaen gadarn. Yna, caiff hyn ei ddatblygu’n gryf yn lefelau dilynol y rhaglen, trwy gyflwyno modylau sy’n fwy heriol yn academaidd o Reolaeth Digwyddiadau ac Entrepreneuriaeth, i Reolaeth Atyniadau Hamdden. Bydd myfyrwyr sy’n astudio’r rhaglen hon yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd, er enghraifft hamdden ac adloniant, rheolaeth awyr agored ac addysg gorfforol.
Yn ogystal â modylau craidd cyffredin, mae yna ystod o fodylau detholedig sy'n adlewyrchu maes academaidd astudiaethau hamdden yn benodol. I gefnogi’r elfennau damcaniaethol hyn, darperir profiadau galwedigaethol (lleoliadau gwaith) ar lefel 4 a 5 y rhaglen, a ddyluniwyd er mwyn i fyfyrwyr allu cymhwyso’u gwybodaeth a’u damcaniaethau academaidd. Modylau enghreifftiol • Rheolaeth Twristiaeth a Digwyddiadau yn y Pentref Byd-eang • Marchnata Hamdden • Lleoliad Diwydiant Cymhwysol • Twristiaeth Gynaliadwy • Cyfathrebu Rhyng-Ddiwylliannol • Traethawd Hir • Cynhadledd Myfyrwyr Byd-Eang • Cyflwyniad i Hamdden, Digwyddiadau, Twristiaeth a Chwaraeon
Lleoliad: Abertawe Cod UCAS: N840 40 Credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cwrs hwn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gwerth £1,500 dros 3 blynedd - am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Mae gwerth credyd modwl yn amodol ar y nifer o oriau astudio sy’n gysylltiedig â’r modwl, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd, astudio annibynnol, ac asesu. Gan amlaf mae modylau gwerth 10, 15, neu 20 credyd yr un. Ar gyfer gradd Baglor, mae myfyrwyr yn astudio 360 credyd dros dair blynedd, sef 120 credyd y flwyddyn. Gan amlaf mae blwyddyn wedi ei rhannu’n ddau semester, lle byddwch yn astudio 60 credyd bob semester.
www.ydds.ac.uk | 163
Modurol, Peirianneg a Logisteg Modurol
Peirianneg
Logisteg
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth eang o raglenni modurol, yn cynnwys peirianneg a chyrsiau sy’n canolbwyntio ar ddylunio. Mae ein holl raglenni peirianneg fodurol yn seiliedig ar yr athroniaeth sylfaenol o gefnogi gwaith dadansoddol soffistigedig gyda gweithgaredd peirianneg ymarferol, torchi llewys. Mae ein rhaglenni dylunio modurol yn canolbwyntio ar y ffactorau dylunio dynol ac emosiynol hynny sy’n symbylu ffurfiau newydd a chysyniadol ar gerbydau. Mae nifer o labordai a gweithdai ar gael i gefnogi myfyrwyr yn eu gwaith, ynghyd â hybu prosiectau myfyrwyr. Credwn fod meddu ar y cyfleusterau hyn yn ein galluogi i gynnig profiad unigryw i’r rheiny sy’n astudio yma. Mae ein hamrediad o gyrsiau peirianneg fodurol yn cynnwys meysydd arbenigol fel ceir rasio cystadleuol, beiciau modur a pheirianneg fodurol, a phob un o’r rhain yn rhoi’r cyfle i’n myfyrwyr ddatblygu sgiliau peirianneg dadansoddol a chanolbwyntio ar yr un pryd ar gymhwyso’r rhain at broblemau’r byd go iawn.
Mae’r brifysgol yn cynnig amrywiaeth eang o raglenni peirianneg, a phob un yn seiliedig ar yr athroniaeth sylfaenol o gefnogi gwaith dadansoddol soffistigedig gyda gweithgaredd peirianneg ymarferol, torchi llewys. Mae gennym nifer o labordai a gweithdai i gefnogi myfyrwyr wrth eu gwaith, ynghyd â hybu prosiectau peirianneg myfyrwyr ac, yn ein barn ni, rydym yn cynnig profiad unigryw i’r myfyrwyr hynny sy’n astudio yma.
Mae Logisteg yn chwarae rhan hanfodol yn yr economi ac ym mywyd y gymdeithas. Mae dod o hyd i gynnyrch gan gyflenwyr gorau’r byd a gallu cyrraedd marchnadoedd newydd yn creu heriau logistaidd enfawr i gwmnïau. Golyga hyn bod rhaid i fusnesau ailwerthuso’r ffordd y maent yn rheoli eu cadwynni cyflenwi – sef cyfres gymhleth o ddigwyddiadau a phenderfyniadau o gyrchu deunydd crai i weithgynhyrchu ac i’r defnyddiwr yn y pendraw.
164 | www.ydds.ac.uk
Mae llawer o’r sectorau diwydiannol yn croesawu graddedigion peirianneg, oherwydd y bydd cymhwyster mewn peirianneg yn datblygu mathemateg, technoleg, dylunio, deunyddiau, gweithgynhyrchu, sgiliau dadansoddi a rheoli, sy’n golygu bod galw mawr am raddedigion a’u bod yn gyflogadwy iawn yn y diwydiant. Mae’r sectorau diwydiannol ar gyfer graddedigion y dyfodol yn amrywiol, a dyna pam rydym yn cynnig rhaglenni peirianneg penodedig cyffrous gan gynnwys: Peirianneg Fecanyddol; Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu; Peirianneg Chwaraeon Eithafol.
Dylunir y cyrsiau hyn i ddatblygu graddedigion a chanddynt y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i gychwyn gyrfa yn y sector logisteg a chludiant.
www.ydds.ac.uk 165
Modurol, Peirianneg a Logisteg
Cyrsiau Cyfrwng Saesneg Abertawe Gradd Anrhydedd
Cod UCAS
BA Automotive Design W240 BSc Automotive Engineering H332 BEng Automotive Engineering H330 BEng Automotive Engineering (4 year) H348 BEng Computer Systems and Electronics H610 BEng Computer Systems and Electronics (4 year) H608 BEng Electrical and Electronic Engineering 3TY8 BEng Electrical and Electronic Engineering (4 year) BEng Energy and Environmental Engineering 42U0 BEng Energy and Environmental Engineering (4 year) 48C3 BEng Extreme Sports Engineering H340 BEng Extreme Sports Engineering (4 year) CH61 BSc Logistics and Transport BSc Logistics & Supply Chain Management N900 BEng Mechanical Engineering (4 year) H300 BEng Mechanical and Manufacturing Engineering HH37 BEng Mechanical and Manufacturing Engineering (4 year) HH3R BEng Motorcycle Engineering H331 BEng Motorcycle Engineering (4 year) H390 BSc Motorsport Engineering H333 BEng Motorsport Engineering H336 BEng Motorsport Engineering (4 year) H337 BSc Motorsport Management H3N2 BSc Software Engineering G600 BA Transport Design 9R37
166 | www.ydds.ac.uk
Diploma
Cod UCAS
HND Automotive Engineering HND Electronic Engineering HND Logistics and Transport HND Logistics and Supply Chain Management HND Motorsport Engineering HND Motorsport Management HND Software Engineering
043H 116H
033H 2N3H 006G
Tystysgrif Addysg Uwch Cert HE Science, Technology, Engineering and Mathematics
Gradd Meistr Integredig
Cod UCAS
MDes Automotive Design MEng Automotive Engineering MEng Energy and Environmental Engineering MEng Extreme Sports Engineering MEng Mechanical Engineering MEng Mechanical and Manufacturing Engineering MEng Motorcycle Engineering MEng Motorsport Engineering MDes Transport Design
7F3T 0PD5 0HRS H338 H302 3D7B 6D4B 6W1M 04G6
www.ydds.ac.uk | 167
Cyrsiau Addysg Uwch yng
Ngholeg Sir Gâr Mae modd astudio cyrsiau Addysg Uwch yng Ngholeg Sir Gâr, sy’n rhan o grŵp YDDS, ar ei gampysau amrywiol. Mae rhestr gyflawn o'i gyrsiau cyfrwng Saesneg i’w gweld ar ei wefan: www.colegsirgar.ac.uk Mae modd hefyd astudio cwrs BSc Amaethyddiaeth yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg ar gampws Gelli Aur yng Ngholeg Sir Gâr. Mae’r cwrs yn gymwys am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol drwy Gangen Y Drindod Dewi Sant. Mae myfyrwyr y cwrs hwn yn derbyn cefnogaeth
gan Swyddog Cangen Y Drindod Dewi Sant ac yn gallu manteisio ar holl fuddion bod yn aelodau o’r Gangen ynghyd ag ymaelodi i fod yn aelodau o Gymdeithas Gymraeg y Brifysgol. Dilysir y radd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Côd UCAS Coleg Sir Gâr: C22 Côd Cwrs: 3H2F (Gradd Sylfaen) Côd Cwrs: G4HW (Gradd)
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: 01554 754179 derbyniadau@ colegsirgar.ac.uk @ColegSirGar Mae’r cwrs hwn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant, Prif Ysgoloriaeth ac Ysgoloriaeth William Salesbury y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am ragor o wybodaeth ewch i www. colegcymraeg.ac.uk
BSc (Anrh) Amaeth
Modylau enghreifftiol • Dysgu Seiliedig ar Ddiwydiant 1 Dysgir y rhaglenni Amaeth yn llawn • Sgiliau Astudio mewn Amaethyddiaeth a rhan amser ar gampws y Gellir Aur, • Dysgu Seiliedig ar Ddiwydiant 2 Coleg Sir Gâr. Mae’r rhaglenni hyn • Ymchwil a Gwerthuso ar wedi cael eu dilysu gan Brifysgol Leoliadau Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae • Astudio Arbenigol traddodiad hir o ddysgu cyfrwng • Rheoli Busnes ar Dir Cymraeg ar gampws y Gelli Aur ym • Gwyddor Anifeiliaid maes Amaeth ers trigain mlynedd. Amaethyddol Mae’r Brifysgol a’r Coleg yn gyffrous • Cnydau Amaethyddol iawn o’r datblygiad newydd hwn • Gwyddor Planhigion a Phridd lle gall myfyrwyr astudio Amaeth ar lefel addysg uwch yn llawn neu’n • Cynhyrchu Llaeth • Cynhyrchu Bîff rhan amser i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r rhaglenni hyn wedi • Cynhyrchu Defaid • Tir fel Adnodd eu cynllunio i fodloni gofynion • Ecoleg Amaethyddol myfyrwyr sydd eisiau gweithio • Ffermio a’r Amgylchedd yn ogystal ag ennill cymhwyster • Maetheg Anifeiliaid Fferm mewn Amaeth drwy ymrwymo’n • Iechyd Anifeiliaid Fferm llawn neu’n rhan amser i’r rhaglen. Mae dalgylch myfyrwyr Gelli Aur yn • Cynhyrchu Glaswellt a Phorthiant. ymestyn o Sir Benfro i Gaerdydd hyd at yr Amwythig ac mae cymuned Caiff perfformiad y myfyrwyr ei fyrlymus Gymraeg yno sydd fonitro trwy aseiniadau, asesu hefyd yn elwa o weithgareddau parhaus, arholiadau, gwaith cymdeithasol Prifysgol Cymru Y ymarferol, asesu ar ddiwedd Drindod Dewi Sant. Mae Coleg Sir Gâr wedi creu cysylltiadau byd eang modwl a chwblhau prosiect mawr. a ddefnyddir er budd y myfyrwyr. Mae’r rhaglenni yn rhoi hyfforddiant Prif nodweddion • Caiff y rhaglenni eu cyflwyno’n cynhwysfawr i'r rheiny sy’n camu llawn a rhan amser drwy i fyd ffermio ymarferol, rheoli gyfrwng y Gymraeg, sy’n fferm a diwydiannau gwasanaeth caniatáu i fyfyrwyr gyfuno amaethyddol megis Maethegwyr, gwaith gydag addysg uwch Ymgynghorwyr, Arolygwyr • Mae’r cyrsiau yn rhai modylaidd Llesiant Ffermydd a Masnachwyr a gall y myfyrwyr ennill Cyflenwadau Amaethyddol. ardystiad (credyd) ar gyfer unrhyw fodylau sydd wedi’u cwblhau’n llwyddiannus • Cyfleoedd cyfnewid mewn nifer o wledydd tramor
•
• • •
Cyfleoedd ar gyfer gwaith maes cyson a phrofiad gwaith mewn amgylchedd dwyieithog Bwrsariaethau ac ysgoloriaethau Awyrgylch dysgu cefnogol a chyfeillgar Awyrgylch Cymreig a bywyd unigryw
Cyfleoedd gyrfa Nod y Coleg yw darparu hyfforddiant theori ac ymarferol realistig i’r myfyrwyr. Yn ystod y rhaglenni bydd cyfle gan fyfyrwyr i greu cysylltiadau drwy rwydwaith o gyflogwyr eang Coleg Sir Gâr yn y diwydiant Amaeth er mwyn ennill profiadau gwerthfawr. Byddant yn ennill sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn agor drysau iddynt mewn nifer o feysydd gwahanol. Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon, gall y myfyrwyr fynd ymlaen i ddilyn gyrfa yn y meysydd canlynol: • Ffermio • Rheoli busnesau • Rheoli ffermydd • Gweithio yn y diwydiannau gwasanaethau amaethyddol • Maeth anifeiliaid fferm • Dysgu • Bancio (ar yr ochr amaethyddol) • Y Cyfryngau • Cyhoeddi • Ymchwil • Ymgynghori • Masnachwyr cyflenwadau amaethyddol • Arolygwyr Llesiant Ffermydd
Campws Gelli Aur, Coleg Sir Gâr
168 | www.ydds.ac.uk
www.ydds.ac.uk | 169
Graddau Meistr
Integredig Mae cymhwyster Gradd Meistr Integredig yn rhoi cyfle ichi symud o lefel is-raddedig i lefel Meistr o fewn yr un strwythur o fewn un rhaglen integredig. Un o fanteision mawr ymgymryd 창 Gradd Meistr Integredig yw bod modd cael eich cyllido am y cwrs cyfan. Dyma rai o'n cyrsiau Meistr Integredig. Am ragor o wybodaeth, chwiliwch am raddau Meistr Integredig ar ein gwefan. Celf, Gwydr, Ffotograffiaeth a Thecstilau MArts Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun MArts Fine Art: Studio, Site and Context MDes Glass (Architectural Arts) MDes Glass (Contemporary Practice) MDes Illustration MArts Photography in the Arts MArts Photojournalism & Documentary Photography Dylunio Modurol, Cynnyrch a Graffig MDes Advertising and Brand Design MDes Automotive Design MDes Graphic Design MDes Product Design MDes Product Design and Technology MDes Transport Design MDes Surface Pattern (Maker) MDes Surface Pattern Design (Fashion Object) MDes Surface Pattern Design (Textile for Fashion) MDes Surface Pattern Design (Textile for Interiors) Cerddoriaeth, Teledu a Chelfyddydau Digidol MArts Digital Arts MArts Digital Film and Television Production Dylunio Gemau, Cyfrifiadura, Peirianneg Rhwydwaith a Meddalwedd MArts 3D Computer Animation MComp Business Information Technology MArts Creative Computer Games Design MComp Computer Games Development MComp Computer Networks and Security MComp Computing and Information Systems MComp Software Engineering MComp Web Development MEng Computer Systems and Electronics (Applied Environmental Engineering)
170 | www.ydds.ac.uk
Peirianneg Fodurol, Fecanyddol a Gweithgynhyrchu MEng Automotive Engineering MEng Mechanical Engineering MEng Mechanical and Manufacturing Engineering MEng Motorcycle Engineering Peirianneg Amgylcheddol a Chwaraeon MEng Energy and Environmental Engineering MEng Extreme Sports Engineering Y Dyniaethau MAnth Anthropology MArc Archaeology MClass Classical Civilisation MClassL Classical Languages MCreW Creative Writing MEngLit English Literature MHist History MPhiloSt Philosophy MRelSt Religious Studies MTheol Theology Busnes, Cyllid, Marchnata ac Adnoddau Dynol MBus Business & Management MBus Finance MBus Management & Leadership MBus Marketing Management MBus Human Resource Management Addysg ac Astudiaethau Cymdeithasol MEdStud Astudiaethau Addysg MEdStud Education Studies MEYEC Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar MEYEC Early Years Education and Care MSocStud: Additional Needs MSocStud: Health and Social Care MSocStud: Communities, Families and Individuals www.ydds.ac.uk 171
Sut i wneud cais Diwrnodau Agored ac Ymweliadau Ffioedd a Chyllid Cysylltu 창 Ni Ein Hymrwymiad i Chi Mynegai Lefelau Cymwysterau
174 178 180 184 186 188 190
Y Cam Nesaf
172 | www.ydds.ac.uk
www.ydds.ac.uk | 173
Sut i
Pryd i wneud cais
wneud cais
Bydd UCAS yn dechrau prosesu ceisiadau am fynediad ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf o ddechrau mis Medi. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer y rhan fwyaf o’n rhaglenni israddedig llawn amser y gwneir cais amdanynt trwy UCAS yw 15 Ionawr. Fodd bynnag, dylech wirio dyddiad cau eich dewis o gwrs (neu gyrsiau) ar wefan UCAS.
Gwneud cais ar lein trwy www.ucas.com Gwneir pob cais i astudio rhaglen radd israddedig llawn amser neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch yn y Brifysgol trwy UCAS gan ddefnyddio Apply - system geisiadau ar-lein sydd ar gael yn: www.ucas.com/apply Codau’r Sefydliad Os ydych yn gwneud cais i ddechrau yn y Brifysgol yn 2017, cod sefydliad UCAS YDDS fydd T80. Os ydych yn gwneud cais i ddechrau yn y Brifysgol yn 2016, dyma'r codau sefydliad UCAS: S96 – Abertawe T80 – Caerfyrddin/Llambed/ Caerdydd/Llundain Mae’r Brifysgol ar ganol symud i’r cod sengl hwn, felly edrychwch ar y wefan am y wybodaeth ddiweddaraf.
Myfyrwyr mewn ysgol neu goleg sydd wedi cofrestru gydag UCAS Mae pob ysgol a choleg yn y DU (a nifer fechan o sefydliadau dramor) wedi cofrestru gydag UCAS i reoli ceisiadau eu myfyrwyr. Bydd angen ichi gael ‘gwirair’ gan eich tiwtor neu gynghorydd gyrfaoedd, fydd ei angen arnoch wrth gofrestru gydag UCAS. Mae hyn yn cadarnhau’r sefydliad yr ydych yn gwneud cais oddi wrtho ac yn caniatáu i’ch canolwr atodi eich geirda. Gallwch dalu am
174 | www.ydds.ac.uk
eich cais naill ai trwy ddefnyddio gerdyn credyd neu ddebyd ar-lein, neu trwy dalu eich ysgol neu ganolfan gofrestredig a fydd wedyn yn talu UCAS.
Ymgeiswyr annibynnol yn y DU Mae ymgeiswyr eraill o’r DU, nad ydynt mewn ysgol neu goleg, yn gwneud cais ar-lein yn annibynnol ac maent yn gyfrifol am dalu’r tâl cywir, am gael ac atodi’r geirda academaidd ac am lenwi a chyflwyno’r cais ar-lein i UCAS. Dylai eich canolwr fod yn athro neu’n weithiwr proffesiynol sy’n eich adnabod yn ddigon da i ysgrifennu amdanoch ac am eich addasrwydd ar gyfer addysg uwch. Bydd angen ichi wneud eich taliad ar-lein trwy ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd. Nid oes raid i’r cerdyn fod yn eich enw chi, ond bydd rhaid ichi gael caniatâd deiliad y cerdyn.
Ymgeiswyr rhyngwladol o’r tu allan i’r DU (yr UE ac yn fyd-eang) Mae unigolion o’r UE (ac eithrio’r DU) a gweddill y byd, yn gwneud cais yn uniongyrchol i’r Brifysgol, ac eithrio’r sawl y mae eu hysgol neu goleg wedi cofrestru gydag UCAS. Mae cyngor ar gael gan swyddfeydd y Cyngor Prydeinig a chanolfannau eraill dramor, fel eich ysgol neu goleg. Ar gyfer pob ymgeisydd, mae cyfarwyddiadau llawn yn www.ucas.com er mwyn ei wneud mor hawdd â phosib i chi lenwi eich cais ar-lein. Os oes angen rhagor o wybodaeth a chyngor arnoch, gallwch gysylltu ag Uned Gwasanaethau Cwsmeriaid UCAS ar +44 (0)371 468 0468, ar agor Llun - Gwener, 08:30 - 18:00 (amser y DU).
Myfyrwyr israddedig rhan amser
Fe’ch cynghorir i gyflwyno’ch cais i UCAS cyn y dyddiad cau a nodir; fodd bynnag, gallwch wneud cais ar ôl y dyddiad hwnnw os bydd lleoedd gwag ar gael o hyd ar y cwrs/cyrsiau rydych wedi’u dewis.
Gofynion Mynediad Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn croesawu ymgeiswyr a chanddynt ystod amrywiol o gymwysterau’r DU a chymwysterau rhyngwladol. Rydym yn ymrwymo i gynyddu cyfranogiad mewn addysg uwch ac felly’n ystyried pob ymgeisydd yn ôl ei deilyngdod unigol. Ar gyfer rhai rhaglenni, rydym yn gwahodd ymgeiswyr i ddod i’r Brifysgol i drafod eu dewis o gwrs ac rydym yn fwy na pharod i roi cyngor i ddarpar fyfyrwyr ar y rhaglen briodol a sut i baratoi at addysg uwch. Bydd y Brifysgol yn gwneud cynigion ar gyfer pob rhaglen israddedig unigol ar ffurf pynciau, graddau, unedau neu bwyntiau tariff UCAS.
Gofynion Mynediad Sylfaenol Isod, ceir rhai gofynion sylfaenol nodweddiadol i ymgeiswyr. Fodd bynnag, am ofynion mynediad penodol pob cwrs, ewch i’n gwefan www.ydds.ac.uk neu i wefan UCAS.
Rhaglenni Gradd Anrhydedd Fel arfer, gofynnir am o leiaf dau gymhwyster Lefel A a chymwysterau lefel UG ategol, neu gyfwerth. Efallai y bydd rhaid ystyried rhai gofynion cwrs penodol.
Diplomâu Cenedlaethol Uwch Fel arfer, gofynnir am o leiaf un cymhwyster Lefel A ynghyd â chymwysterau lefel Uwch Gyfrannol ategol, neu gyfwerth.
Sgiliau Allweddol Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau oddi wrth myfyrwyr sy’n astudio cymwysterau Sgiliau Allweddol, ond nid ydynt yn debygol o gael eu cynnwys yn nhermau’r cynnig a wneir. Bydd y Brifysgol yn derbyn uchafswm o 20 pwynt ar gyfer Sgiliau Allweddol Lefel 3.
Am ragor o wybodaeth ewch i: www.ydds.ac.uk
Mae manylion sut i wneud cais i’n cyrsiau rhan amser ar gael ar wefan y Brifysgol. Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.ydds.ac.uk
www.ydds.ac.uk 175
Sut i wneud cais
Beth yw Tariff UCAS?
Canllaw Tariff UCAS
• System bwyntiau ydyw sy’n dangos cyrhaeddiad ar gyfer mynediad i addysg uwch. • Mae’n rhoi gwerthoedd rhifiadol i gymwysterau. • Mae’n gosod cywerthedd cytûn rhwng gwahanol fathau o gymwysterau. • Mae’n caniatáu cymhariaeth rhwng ymgeiswyr a chanddynt wahanol fathau o gyrhaeddiad.
PWYNTIAU TARIFF MYNEDIAD CYN 2017
PWYNTIAU TARIFF MYNEDIAD NEWYDD AR GYFER 2017
140
56
160
64
180
72
200
80
220
88
Sut mae’r system bwyntiau’n gweithio? Gellir cydgasglu pwyntiau o wahanol gymwysterau e.e. Lefel A/ Uwch Gyfrannol (UG). Nid oes uchafswm o bwyntiau y gellir eu hennill, felly rhoddir cydnabyddiaeth lawn i hyd a lled eich llwyddiannau. Nid oes cyfrif dwbl - ni all myfyrwyr gyfrif yr un cymwysterau neu rai tebyg ddwywaith. Bydd pwyntiau Uwch Gyfrannol yn cael eu cynnwys yn y pwyntiau lefel A yn yr un pwnc. Bydd pwyntiau Gradd Uwch yr Alban yn cael eu cynnwys yn y pwyntiau Gradd Uwch Estynedig yn yr un pwnc. Mae tabl sy’n dangos y Tariff UCAS ar gyfer pob cymhwyster ar gael yn: www.ucas.com/students/ucas_tariff
Tariff UCAS Mae UCAS yn defnyddio system pwyntiau tariff newydd ar gyfer cyrsiau sy’n cychwyn ym mis Medi 2017. Os ydych chi’n gyfarwydd â’r hen system pwyntiau tariff, fe all y tabl hwn eich helpu i ddeall y pwyntiau cyfwerth. Am wybodaeth bellach, ac i’ch helpu i droi eich cymwysterau a’ch graddau i’r system tariff newydd, defnyddiwch y cyfrifiannell Tariff UCAS yn: www.ucas.com/ucas/undergraduate/gettingstarted/entry-requirements/tariff/newtariff
176 | www.ydds.ac.uk
240
96
260
104
280
112
300
120
CYMHWYSTER A GRADD
Cyrsiau Mynediad
PWYNTIAU TARIFF
PWYNTIAU TARIFF UCAS NEWYDD
AR GYFER MYNEDIAD CYN 2017
AR GYFER MYNEDIAD 2017
Lefel A Gradd A*
140
56
Lefel A Gradd A
120
48
Lefel A Gradd B
100
40
Lefel A Gradd C
80
32
Lefel A Gradd D
60
24
Lefel A Gradd E
40
16
BAGLORIAETH UWCH CYMRU
PWYNTIAU TARIFF
Her Sgiliau (dechrau addysgu ym Medi 2015 a dyfarniad cyntaf yn 2017) Gradd A*
56
A
48
B
40
C
32
D
24
E
16
DIPLOMA ESTYNEDIG BTEC PEARSON (QCF)
PWYNTIAU TARIFF
Mae nifer cynyddol o fyfyrwyr yn gwneud cais ar ôl cwblhau cyrsiau Mynediad, ac rydym yn croesawu’r cyfryw geisiadau’n gynnes. Cynhelir cyrsiau Mynediad mewn partneriaeth â cholegau Addysg Bellach lleol. Cynlluniwyd y cyfryw gyrsiau’n benodol ar gyfer myfyrwyr a chanddynt ond ychydig gymwysterau neu ddim cymhwyster ffurfiol o gwbl, a fyddai’n elwa o brofiad astudio cyn mynd ymlaen i wneud cais am le mewn syfydliad addysg uwch.
Cydnabod Dysgu Blaenorol Mae’r Brifysgol yn hapus i ystyried ceisiadau gan unigolion a chanddynt gymwysterau ardystiedig perthnasol, neu dystiolaeth o ddysgu drwy brofiad, a allai eu galluogi i ymuno â rhaglen ar lefel uwch. Bydd gofyn i ymgeiswyr gwblhau Ffurflen Cydnabod Dysgu Ardystiedig Blaenorol wrth wneud cais.
Dychwelyd at Astudio? Cymwysterau Eraill? Rydym yn croesawu ceisiadau gan ddysgwyr sy’n oedolion nad ydynt efallai’n meddu ar gymwysterau ffurfiol ond y mae ganddynt y cymhelliant a’r ymrwymiad i astudio at gymhwyster Addysg Uwch. Rydym yn awyddus i annog myfyrwyr sy’n dychwelyd at astudio i wneud cais am le ar ein rhaglenni a gallwn ystyried ceisiadau’n seiliedig ar deilyngdod unigol. Os gallwch chi ddangos bod gennych brofiad, gwybodaeth neu dystiolaeth o astudiaethau diweddar priodol, efallai y gallwn ystyried y rhain yn lle cymwysterau academaidd ffurfiol. Byddwn yn eich gwahodd am gyfweliad i drafod cwrs priodol ac i’ch paratoi at astudio tuag at gymhwyster.
Gradd D*D*D*
168
D*D*D
160
D*DD
152
DDD
144
DDM
128
DMM
112
MMM
96
MMP
80
MPP
64
PPP
48
www.ydds.ac.uk | 177
Diwrnodau Agored
ac Ymweliadau Mae mynd i Ddiwrnod Agored yn ffordd ardderchog i chi ddysgu am y Brifysgol a’i rhaglenni. Maent yn gyfle i chi a’ch teulu ofyn cwestiynau i sicrhau eich bod chi’n gwneud y penderfyniad iawn trwy:
• Gwrdd â staff academaidd i drafod gwahanol gyrsiau a gofynion mynediad ac i ddysgu beth fydd cynnwys eich cwrs. • Holi am ein rhychwant o gyrsiau cyfrwng Cymraeg a’r cyfleoedd sy’n bodoli i astudio rhannau o’ch cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. • Ymuno â Changen y Drindod Dewi Sant o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. • Siarad gyda’n swyddogion cyllid a dysgu am gostau Addysg Uwch a’r cymorth ariannol sydd ar gael. Hefyd, cewch drafod eich sefyllfa unigol. • Cwrdd â’n tîm Cymorth Dysgu i drafod unrhyw gymorth dysgu arbennig allai fod arnoch ei angen. • Edrych o gwmpas ein campysau, cyfleusterau a llety. • Cwrdd â myfyrwyr presennol a siarad gyda nhw am eu profiad o fywyd yn y Brifysgol.
178 | www.ydds.ac.uk
Os ydych chi’n byw y tu allan i’r ardal, cewch hefyd gyfle i ddod i adnabod y dref a’r ardal y mae eich campws wedi’i leoli ynddynt. Er ein bod yn annog darpar fyfyrwyr i ymweld â ni yn ystod Diwrnodau Agored, rydym hefyd yn hapus i’ch croesawu i’n campysau ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn, lle bo hynny'n bosibl.
Diwrnodau Ymweld â Champws Llambed Cynhelir Diwrnodau Ymweld ar o leiaf ddau ddydd Mercher y mis ar Gampws Llambed ac maent yn rhoi gwir syniad i chi o sut beth yw bywyd ar y campws hwnnw cyn i chi wneud cais.
Cyswllt Ysgolion a Cholegau
Mae ein tîm recriwtio’n mynychu ffug gyfweliadau a digwyddiadau gyrfaoedd a drefnir gan ysgolion a cholegau’n rheolaidd, yn ogystal â llawer o ddigwyddiadau UCAS. Rydym yn darparu gwasanaeth cymorth cynhwysfawr i ysgolion a cholegau sy’n cynnwys trefnu Diwrnodau Astudio cwrsbenodol i fyfyrwyr Blynyddoedd 12 ac 13, darlithoedd pwncbenodol gan staff academaidd, yn ogystal â sgyrsiau cyffredinol ar faterion eraill sy’n effeithio ar y dewis o gyrsiau AU, er enghraifft: • Cynllunio’ch Gyrfa • Dewis y Cwrs/Prifysgol neu Goleg iawn • Sut i Lenwi Ffurflen UCAS • Sgiliau Astudio – Y Disgwyliadau yn y Brifysgol • Ariannu Addysg Uwch I drafod eich gofynion, cysylltwch â: ysgolionacholegau@pcydds.ac.uk
Y Gymraeg Fel rhan o wasanaeth y tîm cyswllt ysgolion rydym yn cynnig ein holl weithdai, cyflwyniadau ac ymweliadau trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ddwyieithog neu yn Saesneg. Er mwyn hwyluso’r ddarpariaeth Gymraeg mae gennym Swyddog Cyswllt Ysgolion a Cholegau, Luned George, sy'n gweithio’n benodol gydag ysgolion a cholegau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
Dyddiadau Diwrnodau Agored Abertawe 2 Gorffennaf 2016 20 Awst 2016 (Clirio) 16 a 17 Medi 2016 5 Tachwedd 2016 3 Rhagfyr 2016 Caerfyrddin 1 Gorffennaf 2016 20 Awst 2016 (Clirio) 7 a 8 Hydref 2016
Er mwyn annog myfyrwyr i ddewis ac i barhau i astudio yn y Gymraeg, mae gennym gyflwyniad ‘Astudio yn y Gymraeg’ sy’n amlygu manteision astudio ar lefel addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cyflwyniad yn cynnwys gwybodaeth am y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, cymorth ariannol a chyfleoedd gwaith; ynghyd â gwybodaeth am ein holl gyrsiau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, y Gymdeithas Gymraeg helaeth a bywiog sydd gennym yn y Drindod Dewi Sant, a phrofiadau ein myfyrwyr.
Llambed 25 Mehefin 2016 20 Awst 2016 (Clirio) 10 Medi 2016 5 Tachwedd 2016
I drefnu ymweliad neu i drafod eich anghenion yn fanylach, cysylltwch â Luned: l.george@pcydds.ac.uk
Cyhoeddir y manylion diweddaraf ar ein gwefan.
Caerdydd 5 Tachwedd 2016 11 Chwefror 2017
Cadw lle: ydds.ac.uk/cy/ymweld Hefyd, mae cyfleoedd i ymweld â’n campysau trwy gydol y flwyddyn.
Mae’r Brifysgol yn aelod o HELOA – Cymdeithas Swyddogion Cyswllt Addysg Uwch – ac felly rydym mewn cyswllt rheolaidd â’n cydweithwyr mewn prifysgolion a cholegau eraill yn y DU. Ein nod yw darparu gwasanaeth cyngor proffesiynol sy’n ystyried eich anghenion a’ch dyheadau gyrfaol.
www.ydds.ac.uk 179
Ffioedd a
Chyllid Myfyrwyr Israddedig llawn amser Cymru neu’r UE (ac eithrio gweddill y DU) Ffioedd Dysgu Am wybodaeth am ein ffioedd ewch i’n gwefan: ydds.ac.uk/cy/cyllid-myfyrwyr
Ffynonellau Incwm ar gyfer Eich Astudiaethau Myfyrwyr o Gymru Gall myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (GDLlC) ar sail prawf modd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru: cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk Benthyciadau cynhaliaeth Gallwch wneud cais am fenthyciad cynhaliaeth myfyriwr tuag at eich costau byw eraill.
“
Yn YDDS rydym yn cynnig amrywiaeth o fwrsariaethau ac ysgoloriaethau, gan ein bod yn credu y dylai addysg uwch fod ar gael i bawb a fyddai’n elwa ohoni.
”
Myfyrwyr Israddedig llawn amser o Loegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon Ffioedd Dysgu Am wybodaeth am ein ffioedd ewch i’n gwefan: www.ydds.ac.uk/cy/cyllid-myfyrwyr
Benthyciadau Cynhaliaeth Gallwch wneud cais am fenthyciad cynhaliaeth myfyriwr tuag at eich costau byw eraill.
Benthyciadau Ffioedd Dysgu Gallwch wneud cais am fenthyciad ffioedd dysgu i dalu am eich ffioedd dysgu. Fe’i telir yn uniongyrchol i’r Brifysgol.
Benthyciad Ychwanegol Mae’r Benthyciad Ychwanegol yn cymryd lle’r Grant Cynhaliaeth mewn rhai amgylchiadau. Gall helpu gyda chostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r cwrs megis llyfrau, offer, teithio neu ofal plant.
Benthyciadau ffioedd dysgu Gallwch wneud cais am fenthyciad ffioedd dysgu i dalu am eich ffioedd dysgu. Fe’i telir yn uniongyrchol i’r Brifysgol. Grant cymorth arbennig Mae’r Grant Cymorth Arbennig yn cymryd lle Grant Dysgu Llywodraeth Cymru mewn rhai amgylchiadau. Gall helpu gyda chostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r cwrs megis llyfrau, offer, teithio neu ofal plant.
180 | www.ydds.ac.uk
www.ydds.ac.uk 181
Ffioedd a Chyllid
Myfyrwyr Israddedig Rhan Amser Ffioedd Dysgu Mae strwythur ffioedd israddedigion rhan amser yn wahanol iawn i ffioedd israddedigion llawn amser. Bydd gofyn i chi dalu fesul modwl astudio. Ewch i’n gwefan neu cysylltwch â’r Brifysgol i gael gwybodaeth am ffioedd a’r cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr rhan amser.
Help ychwanegol / Lwfansau atodol Mae cyllid ychwanegol ar gael i fyfyrwyr mewn amgylchiadau arbennig, yn cynnwys os ydych yn anabl neu os oes dibynyddion gennych e.e., Grant Gofal Plant, Lwfans Dysgu Rhieni. Mae’r Brifysgol yn rhoi help gyda cheisiadau ar gyfer y Lwfans Myfyrwyr Anabl, Lwfans Cynorthwywyr Anfeddygol a’r Lwfans Cyfarpar lle bo’n briodol.
Gwasanaeth Cyngor ar Arian Mae’r Brifysgol yn rhedeg gwasanaeth cyngor ar arian i’ch helpu i reoli’ch arian yn cynnwys cyngor ar osod a chadw at gyllideb er mwyn osgoi anawsterau ariannol. Cysylltwch â'r Gwasanaethau Myfyrwyr am ragor o fanylion: Caerfyrddin: +44 (0)1267 676830 Llambed: +44 (0)1570 424722 Abertawe: +44 (0)1792 481123
*Mae’r wybodaeth a roddwyd yma’n gywir adeg ei hysgrifennu ond fe ddylech wirio’r gwefannau perthnasol gyferbyn neu siarad gydag ymgynghorydd cyllid myfyrwyr. Hefyd, bydd y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhoi ar ein gwefan pan fydd hi ar gael. Mae ffioedd yn daladwy ar ddechrau’r cwrs, neu gallwch drefnu i dalu mewn dau randal. Cysylltwch â Swyddfa Gyllid y Brifysgol ar 01267 676704 i drefnu’r opsiwn hwn.
Sut i Wneud Cais am Gymorth Ariannol (Ymgeiswyr y DU/UE) Mae’n wirioneddol bwysig eich bod chi’n gwneud cais am gymorth ariannol ar gyfer eich astudiaethau cyn gynted â phosibl, gan y bydd hyn yn helpu i sicrhau eich bod chi’n cael unrhyw gymorth sy’n ddyledus i chi mewn da bryd. I ddysgu rhagor am sut a phryd i wneud cais, cysylltwch â’r asiantaeth ar gyfer yr ardal rydych yn byw ynddi nawr am fanylion llawn. Dyma’r rhestr o gysylltiadau ar gyfer pob rhan o’r DU a’r Undeb Ewropeaidd:
Cysylltwch â: Cymru Cyllid Myfyrwyr Cymru Ffôn: 0300 200 4050 www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk Yr Alban Student Awards Agency for Scotland (SAAS) www.saas.gov.uk Lloegr Student Finance Direct Ffôn: 0300 100 0607 www.gov.uk/student-finance Gogledd Iwerddon Student Finance NI Ffôn: 0300 100 0077 www.studentfinanceni.co.uk
182 | www.ydds.ac.uk
Gwlad arall yn yr UE Mae’n bosibl y cewch gymorth ar gyfer ffioedd dysgu ar sail debyg i fyfyrwyr y DU ond ni fyddwch yn gymwys i wneud cais am Fenthyciad Myfyriwr na Grantiau Atodol. Am ffurflen gais i gael help gyda ffioedd dysgu, cysylltwch â: Student Finance Services Non-UK Team Student Loans Company PO Box 89 Darlington County Durham DL1 9AZ Ffôn: +44 (0)141 243 3570
Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Mae nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael gan y Brifysgol i roi cymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr israddedig. Dosberthir pob ysgoloriaeth a bwrsariaeth i geisiadau llwyddiannus trwy’r Gwasanaethau Myfyrwyr ar bob campws. Ymhlith yr enghreifftiau o ysgoloriaethau a bwrsariaethau sydd ar gael mae: Ysgoloriaethau Adrannol Mae nifer o ysgoloriaethau ar gael i fyfyrwyr israddedig ym mhob maes academaidd. Bwrsariaeth Y Drindod Dewi Sant Mae’r Brifysgol yn cynnig nifer o fwrsariaethau sydd wedi’u hanelu at fyfyrwyr llawn amser o gartrefi incwm isel.
Ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg/Dwyieithog Mae gan y Brifysgol ysgoloriaethau sylweddol am gredydau a gwblhawyd yn llwyddiannus drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae'n rhaid i’r modylau fod o leiaf 50% dwyieithog. Yn ogystal, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig ysgoloriaethau ychwanegol i bobl sy’n astudio eu gradd drwy gyfrwng y Gymraeg. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk Interniaethau Ar ôl ichi ddechrau eich cwrs israddedig, mae'n bosibl y gallwch wneud cais am fwrsariaeth i’ch cynorthwyo i gael profiad gwaith gwirfoddol, sy'n berthnasol i'ch cwrs, yn ystod gwyliau'r haf. Bwrsariaethau Gofal Plant Mae’n bosibl bod cymorth ariannol ar gael i’r myfyrwyr hynny sydd ddim yn gymwys ar gyfer Grant Gofal Plant. Bwrsariaethau Preswyl Gall fod ar gael ichi tuag at gost llety ar y campws os ydych yn talu ffioedd dysgu llawn. Cynhelir prawf modd ar gyfer y fwrsariaeth hon. Ewch i wefan y Brifysgol am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch ein hysgoloriaethau a bwrsariaethau oherwydd gall y wybodaeth uchod newid: www.ydds.ac.uk/cy/bwrsariaethau
www.ydds.ac.uk | 183
Cysylltu â Ni
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant @AstudioYDDS UWTSD UWTSD
Am ragor o wybodaeth anfonwch e-bost i: derbyniadau@ydds.ac.uk Campws Caerfyrddin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Campws Caerfyrddin Caerfyrddin SA31 3EP Ffôn: +44 (0)1267 676767 Rhif Ffôn Swyddfa Derbyn: 0300 500 5054
Campws Llambed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Campws Llambed Ceredigion SA48 7ED Ffôn: +44 (0)1570 422351 Rhif Ffôn Swyddfa Derbyn: 0300 500 5054
Campws Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Campws Mount Pleasant Abertawe SA1 6ED Ffôn: +44 (0)1792 481000 Rhif Ffôn y Gofrestrfa/Derbyn: +44(0)1792 481010
Campws Caerdydd Canolfan Berfformio Cymru Canolfan Gelfyddydol The Gate Y Rhath Caerdydd CF24 3JW Ffôn: 0300 3231250
184 | www.ydds.ac.uk
#DyddieDa
Mapiau Lleoliad a Chyfarwyddiadau Am gyfarwyddiadau manwl, a gwybodaeth ar sut i gyrraedd ein campysau, ewch i ydds.ac.uk/cy/lleoliad
Lleoliad Campysau Campws Caerfyrddin Cod post ar gyfer dyfeisiau SatNav: SA31 3EP Campws Llambed Cod post ar gyfer dyfeisiau SatNav: SA48 7ED Campysau Abertawe Campws Mount Pleasant: SA1 6ED Campws Townhill: SA2 0UT Campws Dinefwr: SA1 3EU Campws Busnes Abertawe: SA1 1NE Pan fyddwch yn archebu lle i fynychu diwrnod agored byddwn yn anfon gwybodaeth atoch, yn cynnwys manylion teithio a'r cod post priodol. Campws Caerdydd Cod post ar gyfer dyfeisiau SatNav: CF24 3JW
Llambed Caerfyrddin Abertawe Caerdydd
Ar-lein Cewch wybodaeth fanwl am raglenni unigol a bywyd yn Y Drindod Dewi Sant ar-lein ar ein gwefan: www.ydds.ac.uk
www.ydds.ac.uk | 185
Ein Hymrwymiad
i Chi
Gwnawn bob ymdrech i roi anghenion ein myfyrwyr yn gyntaf wrth gynllunio a pharatoi ein cyrsiau. Anelwn at ddarparu addysgu awdurdodol, adnoddau dysgu addas a chymorth astudio effeithiol. Ceisiwn gyflwyno rhaglen o welliant parhaus ym mhob agwedd sy’n ymwneud ag amgylchedd y Brifysgol, y gall pawb ei mwynhau. Byddwn yn ceisio’n ddiwahân i ddelio â’n myfyrwyr yn gwrtais a chan roi dyledus barch i breifatrwydd a chyfrinachedd. Yn bennaf oll, hoffem wneud y Brifysgol hon yn lle sy’n trin pob unigolyn mewn ffordd gyfeillgar a gofalgar ac yn gwneud iddynt deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu parchu. Mae’r Brifysgol yn cefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob agwedd ar ei gwaith.
Cymdeithas y Cyn Fyfyrwyr Drwy astudio gydag YDDS byddwn yno i chi pan fyddwch yn graddio. Ymunwch â Chymdeithas y Cyn Fyfyrwyr a bydd y Brifysgol yn cadw mewn cysylltiad â chi gan gynnig cefnogaeth ym maes mentergarwch, cyngor gyrfa, a chyfleoedd datblygiad proffesiynol. Cysylltwch â: alumni@ydds.ac.uk 186 | www.ydds.ac.uk
Cyfleoedd Cyfartal Mae’r Brifysgol yn ymrwymo i sicrhau cyfle cyfartal i bob myfyriwr ac aelod o staff ac rydym wedi adnabod cynwysoldeb yn un o’r saith o werthoedd craidd sy’n ganolog i’r cynllun strategol. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, waeth beth fo’u rhyw, statws priodasol, cenedligrwydd, hil, anabledd neu oed. Gwneir penderfyniadau i dderbyn myfyrwyr yn seiliedig ar deilyngdod academaidd a/ neu botensial unigolion. Mae gan y Brifysgol Bolisi Cyfle Cyfartal cynhwysfawr yn ogystal â gweithgorau i staff a myfyrwyr a chanddynt y nod o wneud y polisïau hyn yn gwbl effeithiol.
Yr Iaith Gymraeg Mae gan y Gymraeg a’r Saesneg statws cyfartal fel ieithoedd swyddogol y Brifysgol ac mae’r sefydliad yn ymrwymo i fodloni ei goblygiadau o dan unrhyw ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg (Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 / Mesur y Gymraeg [Cymru] 2011) trwy ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel drwy gyfrwng y Gymraeg. Ewch i’n gwefan iaith Gymraeg yn www.ydds.ac.uk/cy am ragor o wybodaeth.
Sicrhau Ansawdd Mae gan y Brifysgol system Gwarantu Ansawdd ar waith sy’n ceisio sicrhau proses drylwyr o baratoi ac addysgu cyrsiau. Mae gan y Brifysgol gyfrifoldeb llawn am gymeradwyo, dilysu a monitro
pob cwrs a gynigir ganddi. Caiff pob cwrs ei fonitro, ei adolygu a’i werthuso’n feirniadol yn rheolaidd. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i’r egwyddor y dylid rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr gyfrannu at brosesau sicrhau ansawdd trwy: • • •
gael eu cynrychioli ar bwyllgorau sy’n delio ag adolygu cyrsiau’n flynyddol cael eu cynrychioli ar amrywiaeth o brosesau monitro ac adolygu eraill cael eu hannog i drafod materion yn uniongyrchol gyda phob aelod o staff, yn enwedig gyda’u tiwtoriaid personol.
Mae’n rhaid i bob cwrs ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fynd trwy broses o ‘ddilysu’ cyn cymeradwyo iddynt gael eu cyflwyno. Mae dilysu’n broses lle mae’r corff dyfarnu (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant neu gorff dyfarnu arall, yn amodol ar y cymhwyster) yn barnu ansawdd y rhaglen arfaethedig i warantu ei bod yn bodloni’r safonau gofynnol.
Mae ein Siartr Myfyrwyr yn amlinellu'r cyfrifoldebau y gwnaiff y Brifysgol eu cyflawni i’w myfyrwyr. Mae hefyd yn esbonio’r cyfrifoldebau y bydd yn rhaid i’n myfyrwyr eu cyflawni wrth astudio yn y Brifysgol.
(Deddf) Lles Cenedlaethau’r Dyfodol 2015
Cynrychiolir myfyrwyr ar y rhan fwyaf o bwyllgorau’r Brifysgol, gan gynnwys y Corff Llywodraethol.
Statws Elusengar Rhif Elusen Gofrestredig: 1149535
Polisi Hawliau Eiddo Deallusol Mae gan y Brifysgol bolisi blaengar a chefnogol ar hawliau eiddo deallusol. Rydym yn gweithio gyda’n myfyrwyr i wireddu gwerth masnachol llawn syniadau, dyfeisiau newydd a darganfyddiadau. Mae hyn yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y wobr ariannol uchaf o dan y cynllun rhannu refeniw. Am ragor o fanylion ewch i'n gwefan.
Y Siartr Myfyrwyr
Efallai bod rhai o‘r rhaglenni a restrwyd yn y prosbectws hwn yn y broses o gael eu dilysu adeg argraffu’r ddogfen ym mis Chwefror 2016. Golyga hyn bod y Brifysgol yn aros am gymeradwyaeth y corff dyfarnu cyn cyflwyno rhai cyrsiau gan fod hyn yn amodol ar ganlyniad y broses hon. Edrychwch ar ein gwefan am y wybodaeth ddiweddaraf.
Yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor Y Brifysgol
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ceisio rhoi cyfle i fyfyrwyr brofi ystod eang o ddylanwadau academaidd, cymdeithasol a diwylliannol a fydd yn hyrwyddo eu datblygiad personol ac yn ysbrydoli eu hastudiaethau.
Yn Amodol ar Ddilysu
Gyda chyflwyniad diweddar Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, y gyntaf o’i math yn y byd, lle caiff lles cenedlaethau’r dyfodol ei ystyried wrth wraidd proses gwneud penderfyniadau’r llywodraeth, mae’n bwysicach nag erioed bod ein graddedigion yn deall gwerth gwneud penderfyniadau cynaliadwy. Rydym ni’n credu bod yr ymagwedd hon at fewnosod Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fydeang (ADCDF) yn rhoi i raddedigion y dyfodol yr offer angenrheidiol i gael effaith bositif ar eu dewis o yrfa. Os byddwch yn ymuno â ni yn YDDS, rydym yn gobeithio y byddwch yn cofleidio’r cyfle hwn i ddatblygu sgiliau, galluoedd a thalentau mewn ADCDF.
Yn ogystal â hyn, mae’n amlinellu cyfrifoldebau Undeb y Myfyrwyr i’r Brifysgol a’i myfyrwyr. Trwy gael Siartr Myfyrwyr yn ei lle mae’r Brifysgol yn dangos ei hymroddiad llawn i wella ansawdd ei gwasanaeth i’w myfyrwyr yn barhaus ac mae’n cydnabod bod myfyrwyr yn ganolog i’r sefydliad. Y mae copi o’r Siartr Myfyrwyr ar gael ar ein gwefan.
Ymwadiad YDDS Er bod Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y cynnwys a'r datganiadau a geir yn y prosbectws hwn yn deg a chywir, ni ellir ei dal yn gyfrifol am unrhyw hepgoriadau, camgymeriadau na newidiadau sy'n dilyn ac nid yw'n derbyn unrhyw atebolrwydd o gwbl am unrhyw golled neu ddifrod a gyfyd o ganlyniad. Mae’r datganiadau a wneir, a’r wybodaeth a ddarperir yn y prosbectws, yn ganllaw cyffredinol ac mae’n bosibl y bydd newidiadau'n digwydd ar ôl ei gyhoeddi sy’n effeithio ar y cynnwys. Ceidw’r Brifysgol yr hawl i dynnu rhaglenni neu fodylau yn ôl neu eu newid heb rybudd os bydd rhaid, a gall trefniadau asesu a goruchwylio ymchwil newid. Hefyd, sylwch mai canllaw yn unig yw’r wybodaeth a ddarperir ar ofynion mynediad ar gyfer rhaglen radd arbennig, lle rhoddir y wybodaeth honno. Gall yr amodau sydd ynghlwm wrth gynigion newid o flwyddyn i flwyddyn ac o ymgeisydd i ymgeisydd. Nid yw contractau’r Brifysgol gyda’i myfyrwyr yn rhoddi unrhyw fuddiannau i drydydd partïon at ddibenion Deddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999. www.ydds.ac.uk 187
Mynegai A Abertawe 8-13 Addysg Antur Awyr Agored 134 Addysg Gorfforol 135 Addysgu 72-75 Yr Amgylchedd 84 Anthropoleg 138 Archaeoleg 138 Astudiaethau Addysg 76-79 Astudiaethau Clasurol 138 Astudiaethau Crefyddol 120 Astudiaethau Cymdeithasol 80-83 Astudiaethau Nyrsio 154 Astudiaethau Tsieineaidd 138 Athroniaeth 138 Yr Atom 16, 29, 43, 60 Astudio Dramor 40 B Blynyddoedd Cynnar 86-95 Busnes a Chyllid 126 Busnes a Rheolaeth 96 Busnes Rhyngwladol 100 Bwrsariaethau 183 C
Côr y Brifysgol 43 Crefydd a Diwinyddiaeth 118, 140 Cwnsela 154 Cyfathrebu Gweledol 108 Cyfeiriadau 184 Cyfnewidfa Ddylunio ALEX 10 Cyfrifeg a Chyllid 122 Cyfrifiadura 128-131 Cyfryngau Cymdeithasol 185 Cyfryngau Digidol 108 Cyngor Ariannol 180 Cyngor a Chefnogaeth 34-37 Cyngor Gyrfaeodd 48 Cyrsiau Cyfrwng Cymraeg 70 Cyswllt Ysgolion a Cholegau 178 Cysylltu â ni (rhifau ffôn) 184
Ffilm 109 Ffioedd 180-181 Ffotograffiaeth 109 Y Fframwaith Arfer Proffesiynol 148 G
Gofal Plant 36 Gofynion Mynediad 174 Graddau Meistr Integredig 170 Gwaith Ieuenctid a Chymuned 150-152 Gwareiddiadau yr Henfyd 140 Gwasanaethau Cyhoeddus 154 Gwasanaethau Myfyrwyr 35-37 CH Gwneud Cais 174 Gwobr People and Planet 47 Chwaraeon 56, 136, 137 Gwobr Y Ddraig Werdd 47 Chwaraeon, Iechyd a'r Awyr Agored 132 Gwobr Y Guardian 47 Gwydr 109 Y Gwyddorau Cymdeithasol 154 D Y Gymdeithas Gymraeg 55 Y Gymraeg 52-57, 28 -29, Darlunio 108 70-71 Datblygiad SA1 10, 64 Derbyniadau 174 H Digwyddiadau 158, 160 Dilysu 187 Hamdden a Thwristiaeth Diwrnodau Agored 1, 179 158-163 Dylunio a Chyfathrebu Gweledol Hanes 140 108 Hanes YDDS 32 Dylunio Bywyd 50 Hanes yr Henfyd 140 Dylunio Graffig 108 Dysgu Seiliedig ar Waith 146 I Y Dyniaethau 138-145 INSPIRE 46 E Iechyd a Gofal Cymdeithasol 154
Caerdydd 26 Caerfyrddin 14-19 Canolfan Berfformio Cymru 7, 26, 184 Canolfan Peniarth 58 Canolfan S4C Yr Egin 29, 43, 52, 62-63, 109, 114 Caplaniaeth 36 Celf a Dylunio 106-113 Celf a Dylunio Sylfaen 108 Celf Gain 108 Ein Hymrwymiad i Chi Y Celfyddydau Perfformio 114 Electroneg Coleg Cymraeg Cenedlaethol 28, 54 Coleg Sir Gâr 33, 168
188 | www.ydds.ac.uk
FF
186-187 128-131
L Lefelau Cymwysterau Logisteg
Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Rhyngwladol 190 Rheolaeth Thwristiaeth 164-167 Rhifau Ffôn S
LL Llambed 20-25 Llety - Abertawe 8 - Caerfyrddin 14 - Llambed 20 - Caerdydd 26 Lles 71 Llinell Amser 32-33 Y Lluoedd Arfog 37 Llyfrgelloedd ac Adnoddau Dysgu 38 M Map a manylion teithio Marchnata Masnach Deg Modurol P
17, 29, 43, 52, 56, 62, 109, 114 Saesneg, Ysgrifennu Creadigol a Cyhoeddi 140 Sicrhau Ansawdd 186 Seicoleg 154 S4C
T Technoleg Cerdd 108 Treftadaeth 140 Twristiaeth 162
TH 184 104 Therapi Chwaraeon 46 164-167 U
UCAS Undeb Y Myfyrwyr Patrwm Arwyneb a Thecstilau 109 Yr Urdd Peirianneg 164-167 Pensaernïaeth a'r Amgylchedd 84 W Penwythnos Y Glas 29, 55 Perfformio 116 WIAV R
161 162 184
137
176 55, 66 56
7
Y
Rhan Amser 35, 174, 182 Ysgoloriaethau Rheolaeth Adnoddau Dynol 105 Yn amodol ar Ddilysu Rheolaeth ac Arweinyddaeth 102 Rheolaeth Busnes 103 Rheolaeth Chwaraeon 136 Rheolaeth Digwyddiadau 160 Rheolarth Hamdden 163 Rheolaeth Marchnata 104
28, 183 187
www.ydds.ac.uk 189
Lefelau
Cymwysterau Tystysgrif Addysg Uwch (Tyst AU) - Lefel 4
Tystysgrif a Diploma Cenedlaethol Uwch (HNC/HND) Lefelau 4 a 5
Mae Tystysgrif Addysg Uwch yn gymhwyster Lefel 4 ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf rhaglen radd anrhydedd llawn amser. I gyflawni’r cymhwyster, mae’n rhaid i fyfyrwyr gael o leiaf 120 credyd. Gall cwblhau Tystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus arwain i mewn i ail flwyddyn Gradd Sylfaen neu raglen radd anrhydedd briodol.
Dylunnir Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch a Diplomâu Cenedlaethol Uwch i fod yn seiliedig ar waith ac yn alwedigaethol eu natur. Yr hyn sy’n gwneud HNCau a HNDau yn wahanol i radd baglor yw mai sylfaen y ddau gymhwyster yma yw sicrhau bod myfyrwyr yn cael sgiliau a gwybodaeth ar gyfer gyrfa mewn diwydiant cysylltiedig. Gellir cwblhau’r cymwysterau hyn o fewn dwy flynedd yn llawn amser. Mae yna opsiwn i fyfyrwyr ag ymrwymiadau personol neu broffesiynol gwblhau’r ddau gymhwyster yn rhan amser.
Diploma Addysg Uwch (Dip AU) - Lefelau 4 a 5 Mae Diploma Addysg Uwch yn gymhwyster Lefel 5 ac mae’n gyfwerth â dwy flynedd gyntaf rhaglen radd anrhydedd llawn amser. I gyflawni’r cymhwyster, mae’n rhaid i fyfyrwyr gael o leiaf 240 credyd. Gall cwblhau Diploma Addysg Uwch yn llwyddiannus arwain i mewn i drydedd flwyddyn rhaglen radd anrhydedd briodol. Gradd Sylfaen (FdA/FdSc) - Lefelau 4 a 5 Mae Gradd Sylfaen yn gymhwyster cysylltiedig â chyflogaeth ar lefel addysg uwch. Fe’i dyluniwyd i roi i unigolion y sgiliau a’r wybodaeth lefel uwch sy’n bodloni anghenion y cyflogwr yn ogystal â rhoi’r cyfle i’r unigolyn ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol. Mae’n rhannol seiliedig ar waith ac mae prosiectau ac aseiniadau’n berthnasol i rôl yr unigolyn yn y gweithle. I gyflawni’r cymhwyster, mae’n rhaid i fyfyrwyr gael o leiaf 240 credyd. Gall cwblhau Gradd Sylfaen yn llwyddiannus arwain i mewn i drydedd flwyddyn rhaglen radd anrhydedd briodol.
Gradd Baglor (BA/BSc/BEng) - Lefelau 4, 5, 6 Mae gradd anrhydedd Baglor yn gymhwyster Lefel 6 ac fel arfer mae’n galw am dair blynedd o astudiaethau llawn amser. Mae’r rhan fwyaf o raglenni’n fodylaidd, ac felly maent ar gael yn rhan amser, naill ai’n ystod y dydd, neu gyda’r nos ac weithiau ar ddydd Sadwrn. I gyflawni’r cymhwyster, mae’n rhaid i fyfyrwyr gael o leiaf 360 credyd. Gradd Meistr Integredig (MArc/MAnth/MArts/MBus/MClass/ MComp/MClassL/MCreW/MDes/ MEdStud/MEng/MEngLit/MEYEC/MHist/ MPhilSt/MRelSt/MSocStud/MTheol) – Lefelau 4, 5, 6, 7 Mae Gradd Meistr Integredig yn gymhwyster Lefel 7 ac fel arfer mae'n galw am bedair blynedd o astudiaethau llawn amser, a bydd o leiaf un o’r rhain ar lefel ôl-raddedig (Lefel 7). I gyflawni’r cymhwyster hwn, rhaid i fyfyrwyr gael o leiaf 480 credyd. Mae’r brifysgol yn cynnig llwybrau dilyniant i raglenni Ôl-raddedig a Meistri yn y rhan fwyaf o feysydd pwnc. Hefyd, mae yna nifer o raddau ymchwil ar gael yn ogystal â doethuriaethau proffesiynol. Gweler ein Prosbectws Ôl-raddedig am ragor o fanylion.
190 | www.ydds.ac.uk
www.ydds.ac.uk 191
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant @AstudioYDDS UWTSD UWTSD
#DyddieDa Israddedig 2017 Hawlfraint Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, 2015. Cedwir Pob Hawl.
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
AstudioYDDS
UWTSD
UWTSD
www.ydds.ac.uk
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Israddedig 2017