2020
Prosbectws Israddedig
Croeso i'r
Drindod Dewi Sant Trawsnewid Addysg, Trawsnewid Bywydau
A new
university
Gwybodaeth gyfreithiol bwysig – gweler tudalen 391. Ewch i’n gwefan i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gyrsiau: www.ydds.ac.uk/cy
Darganfyddwch y cwrs a'r campws iawn i chi
Campws Abertawe
114-287
Addysg 126-131 Animeiddio/Dylunio Gemau 180, 200 Yr Amgylchedd 278-281 Astudiaethau Nyrsio 166 Blynyddoedd Cynnar 132-135 Celf a Dylunio 176 Celf Gain 182 Y Celfyddydau Perfformio 184-187 Cerddoriaeth 188-191 Cyfrifeg a Chyllid 146-147 Cyfrifiadura/ Datblygu Gemau/Electroneg 242-257 Cynhwysiant Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol 126-135 Darlunio 194 Dylunio Cynnyrch 196-199 Dylunio Graffig 202 Dylunio Modurol a Chludiant 204-207 Dylunio Patrymau a Thecstilau 208-211 Ffilm a Theledu/Dylunio Set 212-215 Ffotograffiaeth 216-219 Gradd Sylfaen STEM 226 Gwasanaethau Cyhoeddus 170-173 Gwydr/Crefft Dylunio 192, 220 Y Gyfraith 174 Hysbysebu a Dylunio Brand 222 Iechyd a Gofal Cymdeithasol 164-169 Logisteg a Thrafnidiaeth 282-285 Peirianneg/Electronig 258-263 Peirianneg Modurol 264-273, 286 Pensaernïaeth/ Amgylchedd Adeiledig 228-241 Plismona/Criminoleg 170-175 Rheolaeth Busnes 144 -151 Rheolaeth Chwaraeon 160-163 Seicoleg / Cwnsela 136-141 Twristiaeth a Digwyddiadau 152-157
Cyrsiau
392
Campws Caerfyrddin 36-101 Addysg 48, 60 Addysgu (Addysg Athrawon) 46 Astudiaethau Nyrsio 76 Blynyddoedd Cynnar 50-53 Y Celfyddydau Perfformio 94-101 Cyfathrebu a Newyddiaduraeth 92 Cymdeithaseg 54 Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored 70-75, 78-83 Eiriolaeth 56 Ffilm a Theledu 86-91 Gwaith Ieuenctid a Chymuned 58 Seicoleg 62 Rheolaeth Busnes 66-69
Campws Caerdydd
102-113
Astudiaethau Lleisiol 108 Perfformio 110 Theatr Gerddorol 112
Campws Llambed
288-351
Anthropoleg 298-301 Archaeoleg 302-305 Astudiaethau Celtaidd 306 Astudiaethau Tsieineaidd 308 Astudiaethau Clasurol 314-317 Athroniaeth 310 Celfyddydau Breiniol 312 Crefydd a Diwinyddiaeth 318-321 Datblygiad Rhyngwladol 322 Y Dyniaethau 296, 344-349 Gwareiddiadau Hynafol 324 Gwleidyddiaeth ac Economeg 326 Hanes 328-331 Hanes yr Henfyd 332-335 Saesneg, Ysgrifennu Creadigol a TEFL 338-341 Sinoleg 342 Treftadaeth 336
Campws Llundain
35
Busnes www.uwtsdlondon.ac.uk
Fframwaith Arfer Proffesiynol 352
Sgiliau ar gyfer y Gweithle 354
Cynnwys
Cysylltiadau
394
397
1
Eich Prifysgol
Eich
Prifysgol Mae’r prosbectws hwn wedi ei anelu’n bennaf at ddarpar fyfyrwyr sy’n siaradwyr Cymraeg ac sy’n ystyried astudio eu rhaglen addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Y mae’r un mor berthnasol ar gyfer siaradwyr Cymraeg sy’n dymuno astudio drwy gyfrwng y Saesneg lle bydd cyfle iddynt gyflwyno eu gwaith yn y Gymraeg neu’r Saesneg. 2
Mae rhai cannoedd o siaradwyr Cymraeg yn astudio yn Y Drindod Dewi Sant
3
Eich Prifysgol
4
Mae’r prosbectws yn cynnwys manylion y rhaglenni hynny sy’n cael eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog ar gampysau’r Brifysgol ac yn egluro’r gefnogaeth a gynigir yn benodol i fyfyrwyr sy’n cofrestru ar y rhaglenni hynny. Rhestrir hefyd yr holl raglenni cyfatebol a ddarperir drwy gyfrwng y Saesneg. Yn ogystal â hyn, mae'r Brifysgol wedi cyhoeddi prosbectws Saesneg sy’n cyflwyno ei holl raglenni cyfrwng Saesneg a cheir copïau electronig o’r naill ddogfen a’r llall ar wefan y Brifysgol. Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau’r Brifysgol sy’n cael eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog wedi eu lleoli ar Gampws Caerfyrddin lle ceir traddodiad hir ac anrhydeddus o hyfforddi myfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae nifer sylweddol o siaradwyr Cymraeg yn astudio ar Gampws Caerfyrddin yn flynyddol gyda chanran uchel o’r rhain yn astudio o leiaf ran o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn hyn. Wrth i’r Brifysgol esblygu, mae ei Strategaeth Addysg Gymraeg a Dwyieithog yn canolbwyntio ar ddatblygu mwy a mwy o raglenni dwyieithog lle bydd modd i fyfyrwyr astudio hyd at 40 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd hyn yr un mor wir ar gyfer ei champysau yn Llambed ac Abertawe ag ydyw ar gyfer Campws Caerfyrddin.
Fy hoff beth i am astudio'r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yw fy mod yn bwriadu aros yng Nghymru i weithio wedi i mi raddio, ac felly bydd cael fy hyfforddi am dair blynedd yn fy iaith gyntaf yn fy mharatoi i'n dda ar gyfer y byd gwaith.
Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r Brifysgol yn ymfalchïo’n fawr yn y ffaith y gall ddarparu rhai rhaglenni’n llwyr drwy gyfrwng y Gymraeg. Golyga hynny y bydd yr holl addysgu’n digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg ac eithrio sesiynau dysgu a arweinir gan ddarlithwyr gwadd nad ydynt yn siarad Cymraeg. Cyfeirir at y rhaglenni hyn ar dudalen 11.
Astudio’n ddwyieithog Mae’r Brifysgol yn annog ei holl fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg i astudio o leiaf ran o’u rhaglen drwy gyfrwng y Gymraeg. Trwy wneud hyn, bydd y myfyrwyr hynny mewn sefyllfa gryfach o lawer pan ddaw hi’n amser chwilio am waith. Mae’r gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn cael ei weld yn sgil fwy-fwy pwysig gan gyflogwyr yng Nghymru erbyn hyn. Efallai nad ydych yn teimlo’n ddigon hyderus i astudio’n llwyr drwy gyfrwng y Gymraeg. Os felly, pam na fentrwch astudio rhan o’ch cwrs yn unig drwy gyfrwng y Gymraeg? Mae rhai myfyrwyr yn astudio 40 o’u 120 credyd drwy gyfrwng y Gymraeg yn y flwyddyn gyntaf gan symud ymlaen i astudio 80 credyd drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn eu blwyddyn olaf. Mae eraill yn dewis astudio 20 credyd yn y flwyddyn gyntaf a 40 credyd yn yr ail a’r drydedd flwyddyn. Cewch gyfle i drafod yr opsiynau hyn i gyd gyda’r tiwtoriaid priodol yn ystod y Diwrnodau Agored, y Diwrnodau Cyfweld neu’n wir, wrth i chi gofrestru ar eich rhaglen.
Siôn Llywelyn
Myfyriwr BA Addysg Gynradd gyda SAC
5
Y Gymraeg
Dyma ddechre ar y
dyddie da... Croeso i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sefydliad addysg uwch sydd wedi’i leoli ar dri phrif gampws bywiog yn Abertawe, Caerfyrddin a Llambed, gydag chanolfannau dysgu yng Nghaerdydd a Llundain. Wrth ddewis astudio yn ein hamgylchedd dysgu unigryw ni, byddwch yn ymuno â chymuned gyfeillgar lle mae’r myfyrwyr yn gwerthfawrogi bod yn enw ac nid yn rhif; lle mae darlithwyr cefnogol yn herio ac yn ysbrydoli, a lle mae cyfle i ffurfio cyfeillgarwch oes.
6
Dechreuwch eich taith tuag at wireddu eich uchelgeisiau mewn bywyd yn y Brifysgol eithriadol a hanesyddol hon. Er iddi gael ei sefydlu bron 200 mlynedd yn ôl, mae’n cael ei chydnabod gyda’r fwyaf deinamig yng Nghymru heddiw. Rydym yn sefydliad sy’n canolbwyntio ar y dyfodol ac sydd gam ar y blaen mewn oes sy’n newid mor gyflym.
Mae gan Y Drindod Dewi Sant
350
dros o gyrsiau israddedig, ar draws pum cyfadran academaidd
7
Y Gymraeg
10 rheswm gwych i siaradwyr Cymraeg ddewis
Y Drindod Dewi Sant Canolfan S4C Yr Egin Mae Canolfan S4C Yr Egin - canolfan greadigol a digidol newydd – wedi ei hagor yn swyddogol bellach gan gynnig cartref newydd i S4C a llu o gwmnïau a sefydliadau eraill. Bydd cyfleoedd rheolaidd i fyfyrwyr wirfoddoli neu dreulio cyfnodau profiad gwaith yn Yr Egin.
Canolfan Gymraeg Mae’r Brifysgol wedi sefydlu Canolfan Gymraeg Yr Atom yng nghanol tref Caerfyrddin sydd yn cynnig pob math o weithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg. Eto, bydd cyfleoedd i fyfyrwyr wirfoddoli neu dreulio cyfnodau profiad gwaith yn Yr Atom.
Llety ar y Campws ar gyfer siaradwyr Cymraeg Mae’r Brifysgol yn darparu fflatiau cyfan ar Gampws Caerfyrddin ar gyfer siaradwyr Cymraeg. Mae modd cydleoli siaradwyr Cymraeg ar gampysau’r Brifysgol yn Abertawe a Llambed hefyd.
Penwythnos y Glas ar gyfer siaradwyr Cymraeg Trefnir Penwythnos y Glas ar gyfer glasfyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a fydd yn cychwyn eu hastudiaethau yn y Brifysgol bob mis Medi. Mae hwn yn gyfle i siaradwyr Cymraeg ddod i adnabod ei gilydd cyn i’r flwyddyn academaidd ddechrau.
8
Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn Ddwyieithog
Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cyfrwng Cymraeg
Mae modd astudio nifer o raglenni drwy gyfrwng y Gymraeg yn gyfan gwbl ar gampws Caerfyrddin, ynghyd â'r cwrs Perfformio yng Nghaerdydd, tra bod mwy a mwy o raglenni dwyieithog yn cael eu datblygu a’u darparu ar draws holl gampysau’r Brifysgol.
Bydd gan y rheiny a fydd yn astudio o leiaf ran o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg gyfleoedd i wneud cais am nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau cyfrwng Cymraeg o du’r Brifysgol a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Y Gym Gym
Cangen o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
– cymdeithas Gymraeg y myfyrwyr Y Gym Gym yw un o’r cymdeithasau mwyaf amlwg ar gampws Caerfyrddin. Mae’n cwrdd yn rheolaidd gan drefnu nifer o ddigwyddiadau a thaith flynyddol adeg Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Cefnogaeth i’r rheini sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg Bydd y Brifysgol yn darparu cefnogaeth ymarferol i’r holl fyfyrwyr sy’n astudio eu rhaglen addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ceisir sicrhau bod cyfle i’r myfyrwyr ar gampysau’r Brifysgol yng Nghaerfyrddin, Abertawe, Caerdydd a Llambed dderbyn sesiynau Gloywi Iaith yn ystod y flwyddyn academaidd.
Mae gan y Brifysgol Gangen gref o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol gyda thros 400 o fyfyrwyr yn aelodau ohoni. Mae’r Gangen yn trefnu nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol ar gyfer ei haelodau bob tymor.
Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Bydd y Brifysgol – mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol – yn cefnogi’r myfyrwyr hynny a fydd yn dymuno cofrestru ar Dystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
9
Eich Cwrs
Cyrsiau Cyfrwng
Cymraeg
Yn Y Drindod Dewi Sant mae modd astudio rhai cyrsiau yn gyfan gwbl trwy'r Gymraeg. Ceir hefyd opsiynau i astudio'n ddwyieithog, lle astudir rhan o'r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.
10
Gweler isod restr o’r rhaglenni y mae modd eu hastudio’n llwyr neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Abertawe 40
80
Caerfyrddin
Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar Animeiddio Astudiaethau Addysg Astudiaethau Addysg: Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant Astudiaethau Addysg: Dysgwyr a Dysgu Cyfoes Astudiaethau Addysg: Safbwyntiau Rhyngwladol Astudiaethau Orielau Celf ac Amgueddfeydd Celfyddydau Perfformio: Drama a Chyfryngau Cerddoriaeth: Perfformio a Chynhyrchu Crefft Dylunio Cyfrifeg Darlunio Drama Gymhwysol: Addysg, Lles, Cymuned Dylunio Cynnyrch Dylunio Gemau Cyfrifiadurol Dylunio Graffig Dylunio Modurol a Chludiant Dylunio Patrwm Arwyneb Dylunio Set Ffilm a Theledu Ffotograffiaeth Ffotonewyddiaduraeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol Gradd Sylfaen Celf a Dylunio Gwydr Hysbysebu a Dylunio Brand Marchnata Digidol Rheolaeth Busnes Rheolaeth Busnes (Adnoddau Dynol) Rheolaeth Busnes (Cyllid) Rheolaeth Busnes (Marchnata) Rheolaeth Digwyddiadau Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol Rheolaeth Hamdden Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol Rheolaeth Twristiaeth Technoleg Cerddoriaeth Creadigol Gradd Sylfaen mewn Addysg Gynhwysol Celf Gain
20
40
80
120
180
Mae'r ffigurau hyn yn nodi faint o gredydau y gellir eu hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg ar y rhaglen o dan sylw’n flynyddol.
40
Addysg Antur Awyr Agored Addysg Gorfforol Busnes a Rheolaeth Cymdeithaseg Eiriolaeth Rheolaeth Menter Wledig Rheolaeth Diwydiannau Diwylliannol Therapi Chwaraeon Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Maetheg ar gyfer Chwaraeon) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Hyfforddi Personol) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Ffitrwydd Awyr Agored) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Ffisioleg Ymarfer Corff Clinigol)
80
Gradd Sylfaen Mewn Addysg Gynhwysol
120
Addysg Gynradd gyda SAC Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar) Astudiaethau Addysg: Cynradd Gwaith Ieuenctid a Chymuned
180
Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (2 flynedd) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar) (2 flynedd)
Llambed 80
Astudiaethau Crefyddol
120
Astudiaethau Celtaidd
Caerdydd 180
Perfformio (2 flynedd)
Mae cyrsiau prifysgol wedi eu rhannu’n fodylau sy’n gyfwerth â chredydau. Gan amlaf, mae modylau'n werth 10, 15, neu 20 credyd yr un. Ar gyfer gradd Baglor, mae myfyrwyr yn astudio 360 credyd dros dair blynedd, sef 120 credyd y flwyddyn, neu 180 y flwyddyn am gwrs 2 flynedd.
11
Y Gymraeg
Y Gymraeg yn Y Drindod Dewi Sant
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ei hymrwymo ei hun i ddatblygu a hyrwyddo ystod cynyddol o raglenni addysg uwch cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ac rydym yn cynnig ysgoloriaethau i annog myfyrwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. 12
Prifysgol Naturiol Ddwyieithog
Mae’r Drindod Dewi Sant yn Brifysgol naturiol ddwyieithog, lle mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cyd-fyw mewn cytgord. Mae canran uchel o’n staff a’n myfyrwyr yn medru’r Gymraeg ar draws ein campysau ac mae campws Caerfyrddin, yn enwedig, yn adnabyddus am ei awyrgylch Cymraeg. Mae lleoli pencadlys S4C ar y campws – ochr yn ochr â phrif swyddfeydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Theatr Genedlaethol Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol - yn cyfrannu ymhellach at ei awyrgylch Cymraeg.
ehangu. Mae canran uchel o’r staff yn gwbl ddwyieithog a gellir darparu cefnogaeth diwtorial a bugeiliol ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn eu mamiaith.
Darpariaeth Gymraeg a Dwyieithog
Datblygu’ch Sgiliau Cymraeg
Cynigir cyrsiau cyfrwng Cymraeg ar gampysau’r Brifysgol yng Nghaerfyrddin a Chaerdydd ond hefyd gellir astudio rhai cyrsiau yn ddwyieithog yng Nghaerfyrddin, Llambed ac Abertawe. Mae hyn yn golygu os ydych wedi’ch cofrestru ar gwrs cyfrwng Saesneg, mae’n bosib y gallwch astudio modwl, gyflwyno gwaith neu fynychu seminarau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae yma hefyd ddigon o gyfleoedd i chi wella’ch sgiliau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn dosbarthiadau i ddysgwyr a gwersi gloywi iaith a drefnir gan Ganolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol. Mae’r cyfleoedd hyn yn eich galluogi i ddatblygu’ch sgiliau yn y ddwy iaith sy’n rhoi mantais sylweddol i chi wrth ymgeisio am swyddi ar ddiwedd eich cwrs. Mae Campws Caerfyrddin yn draddodiadol wedi darparu ystod o raglenni addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig ym meysydd hyfforddi athrawon a’r celfyddydau perfformio. Yn ogystal â pharhau i gynnig darpariaeth israddedig ac ôl-raddedig o’r radd flaenaf yn y meysydd hyn, mae’r Brifysgol hefyd wedi buddsoddi mewn darpariaeth o’r newydd yn ystod y blynyddoedd diweddar ar draws campysau Caerfyrddin, Llambed ac Abertawe mewn meysydd megis Plentyndod Cynnar, Gwaith Ieuenctid a Chymuned, Addysg Gorfforol, Addysg Antur Awyr Agored, Busnes, Gwasanaethau Cyhoeddus, Celf a Dylunio ac mae’r ddarpariaeth yn
Mae’r Brifysgol wrthi’n datblygu nifer o raglenni newydd a fydd yn cael eu haddysgu’n ddwyieithog, gyda nifer o’r rhain yn gysylltiedig â’r diwydiannau creadigol a maes iechyd a gofal yn benodol. Bydd mwy o fanylion am y rhain ar gael ar wefan y Brifysgol yn ystod 2019.
Ein nod yw creu cyfleoedd i’n myfyrwyr ddatblygu sgiliau ar lefel uwch a fydd yn caniatáu iddynt weithio yng Nghymru’r unfed ganrif ar hugain. Efallai nad ydych wedi ystyried astudio rhan o’ch rhaglen radd drwy gyfrwng y Gymraeg hyd yn hyn. Efallai eich bod yn teimlo’n ddihyder ynghylch astudio eich rhaglen yn llwyr drwy gyfrwng y Gymraeg. Efallai nad yw astudio’n ddwyieithog wedi croesi eich meddwl! Meddyliwch o ddifrif am y drysau a fydd yn agored i chi fel graddedigion os byddwch wedi astudio o leiaf ran o’ch rhaglen radd drwy gyfrwng y Gymraeg! Datblygwch eich sgiliau Cymraeg ymhellach yn Y Drindod Dewi Sant! Cewch gefnogaeth gan y Brifysgol trwy gydol eich astudiaethau. Fyddwch chi ddim ar eich pen eich hun! Cofiwch fod mwy a mwy o gyflogwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru yn tystio bod cyflogi staff dwyieithog yn gwella eu busnes.
13
Cymraeg
Cefnogaeth â’r Gymraeg
Darperir cyrsiau Gloywi Iaith ar y campws ac yn electronig i gefnogi’r myfyrwyr hynny sy’n dymuno astudio’u cwrs yn gyfan gwbl neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Drindod Dewi Sant hefyd yn darparu ystod o raglenni Gloywi Iaith ar gyfer y gweithle gan ganolbwyntio ar hybu sgiliau llafar ac ysgrifenedig y rheiny sy’n gweithio o fewn cyd-destunau dwyieithog. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i ddatblygu adnoddau cyfrwng Cymraeg o’r radd flaenaf er mwyn cefnogi myfyrwyr â’u hastudiaethau. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae buddsoddiad sylweddol wedi ei wneud er mwyn cynyddu adnoddau megis llyfrau, gwefannau ac adnoddau rhyngweithiol cyfrwng Cymraeg er mwyn diwallu’r galw gan fyfyrwyr am adnoddau cefnogol. Drwy fanteisio ar arbenigeddau amrywiol staff y Brifysgol, rydym wedi datblygu amrywiaeth o adnoddau cyfrwng Cymraeg gwerthfawr iawn i fyfyrwyr ym meysydd Addysg, Chwaraeon, Busnes, a'r Celfyddydau Creadigol a Pherfformio, sy’n cael eu defnyddio gan fyfyrwyr mewn prifysgolion ar draws Cymru. Mae manylion yr holl adnoddau hyn i’w canfod ar wefan y Brifysgol yn ogystal â gwefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Os ydych yn dymuno astudio’ch cwrs addysg uwch yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg neu hyd yn oed gofrestru ar fodwl neu ddau ar hyd y daith, dewch i brifysgol Gymreiciaf Cymru, prifysgol y mae iddi draddodiad o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a phrifysgol sydd wedi ei hymrwymo ei hun i hyfforddi myfyrwyr ar gyfer y Gymru ddwyieithog.
14
Cymdeithas Gymraeg Myfyrwyr y Brifysgol Mae’r Gymdeithas Gymraeg yn cael ei rhedeg gan fyfyrwyr y Brifysgol, a threfnir gweithgareddau a digwyddiadau cymdeithasol amrywiol, gan roi digon o gyfleoedd i wneud ffrindiau a chael profiadau newydd; o deithiau rygbi rhyngwladol i gystadlaethau chwaraeon ac Eisteddfodau’r Rhyng-gol… mae llu o gyfleoedd a llu o weithgareddau at ddant pawb!
Undeb y Myfyrwyr Mae cefnogaeth gref gan Undeb y Myfyrwyr i’r Gymraeg yn Y Drindod Dewi Sant. Mae gan yr Undeb Swyddog Materion Cymraeg sy’n fyfyriwr sydd wedi cael ei ethol gan fyfyrwyr i’w cynrychioli. Mae’n cydweithio â’r Brifysgol a’r Gymdeithas Gymraeg i sicrhau bod myfyrwyr yn mwynhau eu cyfnod yn y Brifysgol.
Yr Urdd a'r Drindod Dewi Sant Mae’r Brifysgol yn gweithio mewn partneriaeth â’r Urdd ar nifer o fentrau cyffrous. Yn benodol, mae myfyrwyr Addysg Antur Awyr Agored yn elwa o gyfleusterau’r Urdd yng Nglan-llyn, ac mae myfyrwyr Gwaith Ieuenctid a Chymuned yn manteisio ar rwydweithiau’r Urdd ar gyfer lleoliadau gwaith a chyfleoedd cyfoethogi cyrsiau.
Canolfan S4C Yr Egin Mae'r Brifysgol yn ymfalchïo yn y ffaith bod pencadlys S4C bellach wedi ei sefydlu ar gampws y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin. Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn i’r Brifysgol a thref Caerfyrddin. Mae presenoldeb Canolfan S4C Yr Egin ar y campws eisoes wedi rhoi hwb sylweddol i’r economi leol yn sgil y swyddi newydd a sefydlwyd ynddi. Gwelwyd hefyd nifer dda o gwmnïau dwyieithog – cwmnïau darlledu a pherfformio, cwmnïau digidol ac ôlgynhyrchu, mudiadau a mentrau iaith yn ogystal â chyhoeddwyr a sefydliadau addysgol - yn cyd-leoli yn Yr Egin gan gynnig cyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad gwaith cyffrous mewn cyd-destunau gwaith go iawn ar gyfer ein myfyrwyr.
Rwy’n mwynhau’r Drindod Dewi Sant oherwydd mae gennym ddarlithwyr gwych a phrofiadol. Mae'r myfyrwyr i gyd yn bobl hyfryd. Mae’r GymGym yn rhoi ystod o brofiadau i fyfyrwyr o’r Rhyng-gol i'r daith rygbi flynyddol. Dwi wrth fy modd yma.
Teleri Phillips Myfyrwraig Y Drindod Dewi Sant
#DyddieDa 15
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Cangen Y Drindod Dewi Sant Cangen Y Drindod Dewi Sant
Côr y Gangen
Fel un o brif ddarparwyr addysg uwch cyfrwng Cymraeg, mae'r Drindod Dewi Sant yn chwarae rôl flaenllaw o fewn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn cydweithio â’r Coleg i gynyddu cyfleoedd dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyrwyr ar sawl lefel.
Cafodd Côr y Gangen ei sefydlu yn 2017 ac mae staff a myfyrwyr yn aelodau ohono. Mae’n gôr cyfeillgar, anffurfiol sy’n perfformio mewn gwasanaethau a chyngherddau yn y Brifysgol megis Noson Garolau Capel Campws Caerfyrddin a digwyddiadau Gŵyl Dewi.
Er bod ei swyddfa wedi ei lleoli mewn man canolog ar gampws Caerfyrddin, mae Cangen Y Drindod Dewi Sant o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn weithredol ar draws holl gampysau’r Brifysgol gan gynnwys Abertawe, Llambed, Caerdydd a champysau Coleg Sir Gâr. Mae’r swyddfa yn gartref i Swyddog y Gangen a’r Tiwtor Iaith ac mae croeso i aelodau o’r Gangen, boed yn fyfyrwyr neu’n staff, alw draw am sgwrs a derbyn cyngor a gwybodaeth ar unrhyw adeg.
Tystysgrif Sgiliau Iaith
Mae nifer o gyrsiau gradd y Brifysgol eisoes wedi eu cynnwys o fewn Cynllun Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a thrwy’r cynllun hwn, mae modd i fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant ymgeisio am ysgoloriaethau hyd at £3,000 am astudio’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhestr lawn o’r cyrsiau cymwys yn ogystal â gwybodaeth ynghylch y broses ymgeisio am ysgoloriaeth i’w canfod ar wefan y Brifysgol yn ogystal â gwefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
16
Mae holl fyfyrwyr Cymraeg y Brifysgol yn cael eu hannog i ddilyn Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae hon yn Dystysgrif newydd sy'n rhoi cyfle euraidd i fyfyrwyr ennill cymhwyster sy'n dangos eu sgiliau iaith Cymraeg, a’u galluogi i ddangos tystiolaeth i gyflogwyr o’u gallu i gyfathrebu’n hyderus ac yn broffesiynol yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mae’r Brifysgol yn darparu cyfleoedd i bob myfyriwr dderbyn sesiynau a chefnogaeth gan diwtor iaith sydd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer y Dystysgrif. Ceir rhagor o wybodaeth i ddarpar fyfyrwyr ar wefan y Dystysgrif: www.sgiliauiaith.colegcymraeg.ac.uk
Penwythnos y Glas
Mae Cangen Y Drindod Dewi Sant o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi trefnu Penwythnos y Glas ers sawl blwyddyn bellach. Mae’r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i lasfyfyrwyr Cymraeg eu hiaith (p’un ai a ydynt yn bwriadu astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ai peidio) ymgartrefu ar Gampws Caerfyrddin cyn i weddill y flwyddyn gyntaf gyrraedd ddeuddydd yn ddiweddarach. Mae’r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i Gymry Cymraeg ddod i adnabod ei gilydd a’r campws cyn i’r tymor ddechrau. Anfonir gwybodaeth atoch ynghylch y trefniadau unwaith y byddwch wedi derbyn lle i astudio yn y Brifysgol.
Cangen Y Drindod Dewi Sant @CangenDDS b.davies@pcydds.ac.uk
17
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Ysgoloriaethau’r
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn i allu cwblhau fy astudiaethau yn yr iaith Gymraeg oherwydd dyma yw fy mamiaith. Bues yn weithgar ac yn ddigon ffodus i dderbyn ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg sydd wedi bod yn llawer o help ym mywyd prysur prifysgol. Mae astudio yng Nghaerfyrddin wedi bod yn llawer o hwyl dros y tair blynedd ddiwethaf a byddwn yn argymell unrhyw un i fynychu’r Brifysgol yn y dyfodol. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Coleg!
Iolo Roberts
BA Addysg Gynradd gyda SAC Wedi derbyn Prif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
18
Mae’r cyrsiau isod yn gymwys am Brif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Ysgoloriaeth William Salesbury;
Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol;
120 credyd y flwyddyn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
Prif Ysgoloriaeth, sef £1,000 y flwyddyn (neu £3,000 dros dair blynedd) i’r myfyrwyr hynny sy’n bwriadu astudio o leiaf 66% (neu 80 credyd y flwyddyn) o’u cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyddiad cau: 5 Ionawr 2020
BA Addysg Gynradd gyda SAC BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (2 flynedd) BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar) BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar) (2 flynedd) MEYEC Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar MEYEC Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar) BSc Amaethyddiaeth (Coleg Sir Gâr) BA Astudiaethau Addysg Cynradd BA Astudiaethau Celtaidd BA Gwaith Ieuenctid a Chymuned
Mae’r cyrsiau isod yn gymwys am Brif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol;
Ysgoloriaeth Cymhelliant, sef £500 y flwyddyn (neu £1,500 dros dair blynedd) i’r myfyrwyr hynny sy’n bwriadu astudio o leiaf 33% (neu 40 credyd y flwyddyn) o bwnc yr ysgoloriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cais i’w gyflwyno pan fydd myfyrwyr wedi dechrau ar y cwrs, bydd manylion ar gael yn ystod yr wythnos groeso. Ysgoloriaeth William Salesbury, sef £5000 am y cyfnod yn astudio’r radd. Cynigir yr ysgoloriaeth hon gan Gronfa William Salesbury i un o fyfyrwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n astudio 100% o’r cwrs trwy’r Gymraeg. Dyddiad cau: 20 Mawrth 2020. Am fwy o wybodaeth gwelwch www.colegcymraeg.ac.uk
80 credyd y flwyddyn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg BA Astudiaethau Crefyddol BA Perfformio BA Celf Gain
40 credyd y flwyddyn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg Mae holl gyrsiau'r Brifysgol sydd ag o leiaf 40 credyd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ag eithrio BA Addysg Gynradd gyda SAC a BA Perfformio. Gweler tudalen 11 am restr o gyrsiau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael.
19
Canolfan Iaith
Mae Rhagoriaith:Canolfan Gwasanaethau Cymraeg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ganolfan iaith newydd a sefydlwyd gyda’r nod o ddatblygu a darparu gwasanaethau hyfforddiant iaith yn y Gymraeg i fyfyrwyr, i staff ac i’r cyhoedd. 20
Mae’r Ganolfan yn gyfrifol am ddysgu a gweinyddu Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar draws pob campws a hefyd yn darparu cyrsiau ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno gwella’u cyfle i gael swydd yng Nghymru trwy fodylau 5 credyd, ‘ Y Gymraeg a'r gweithle dwyieithog’ a ‘Welsh in the Workplace’. Mae modd dysgu Cymraeg ar-lein hefyd trwy ddilyn tair tystysgrif ar wahanol lefelau, sef ‘Tystysgrifau mewn Cymraeg
Ymarferol’. Mae gan y Ganolfan dîm o diwtoriaid iaith uchel iawn eu parch sy’n gyfrifol am arwain ar gyrsiau cenedlaethol a noddir gan Lywodraeth Cymru, sef y Cynllun Sabothol i Athrawon. Mae hefyd yn darparu sesiynau dysgu Cymraeg i nifer o weithleoedd amlwg gan gynnwys y Comisiynydd Plant, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Cyngor Gofal Cymdeithasol Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.
21
Peniarth
Mae Canolfan Peniarth yn chwarae rôl allweddol yn y Brifysgol o ran cyhoeddi adnoddau a hyrwyddo’r Gymraeg ac mae’n gweithio’n agos ag Ysgolion a Chyfadrannau ar draws holl gampysau’r Brifysgol er mwyn sicrhau bod adnoddau dysgu pwrpasol ar gael yn y Gymraeg.
22
Yn wreiddiol, sefydlwyd Canolfan Peniarth fel canolfan gyhoeddi i’r Brifysgol, yn creu a chyhoeddi adnoddau addysgol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Erbyn heddiw, mae portffolio’r Ganolfan wedi ehangu a datblygu i gynnwys gwasanaethau arbenigol sy’n ychwanegol i gyhoeddi llyfrau ac adnoddau blaengar.
Llyfrau ac Adnoddau
Mae gan y Ganolfan gatalog o lyfrau ac adnoddau sydd wedi eu hawduro gan awduron profiadol ac arbenigol. Mae’r llyfrau a'r adnoddau hyn yn amrywio o lyfrau darllen a phecynnau addysgol athrawon yn y sector cynradd, i lyfrau ac adnoddau i’r sector uwchradd, addysg bellach ac addysg uwch.
Adnoddau ar-lein ac apiau
Mae’r Ganolfan yn cynnig gwasanaethau dylunio gwe a rhyngweithiol o’r radd flaenaf. Yn ogystal â dylunio ac adeiladu gwefannau, mae’r Ganolfan yn datblygu adnoddau rhyngweithiol ac apiau. Canolfan Peniarth sydd wedi datblygu pecyn gweithgareddau iaith i gefnogi Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn fwy diweddar mae’r Ganolfan wedi cyhoeddi cyfres o apiau i ddatblygu sgiliau iaith myfyrwyr, sef Ap Sglein, Ap Cywirdeb Iaith, ac Ap Treiglo. Mae'r Ganolfan hefyd wedi cyhoeddi nifer o apiau ac adnoddau ar gyfer y sectorau addysg cynradd ac uwchradd. Cewch fwy o fanylion am Ganolfan Peniarth ar www.peniarth.cymru.
Mae llyfrau ac adnoddau’r Ganolfan yn ymateb yn uniongyrchol i fframweithiau cenedlaethol, ac wedi eu treialu gyda phlant a myfyrwyr drwy broses gynllunio fanwl. Gellir gweld holl lyfrau ac adnoddau'r Ganolfan yn y siop ar-lein, www.peniarth.cymru.
Mae’r Ganolfan wedi cyhoeddi cyfres o apiau i ddatblygu sgiliau iaith myfyrwyr, sef Ap Sglein, Ap Cywirdeb Iaith, ac Ap Treiglo.
23
S4C
Canolfan S4C
Yr Egin Fis Hydref 2018, agorwyd Canolfan S4C Yr Egin yn swyddogol gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones AS. Y mae’n ganolfan greadigol arloesol y gall Cymru gyfan ymhyfrydu ynddi; y mae’n ddatblygiad i’w drysori.
Mae’r adeilad ysblennydd wedi ei leoli gyferbyn â’r adeilad Dysgu ac Addysgu ar gampws y Brifysgol yng Nghaerfyrddin a’i nod yw gwasanaethu Cymru, tanio ei dychymyg creadigol a meithrin talentau’r dyfodol. Yn ogystal â bod yn bencadlys newydd i S4C, mae Yr Egin hefyd yn gartref i ystod o gwmnïau sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol, gan gynnwys cynhyrchu teledu; cyhoeddi aml-gyfrwng; datblygu platfformau digidol; ôl-gynhyrchu; dylunio graffeg, cyfieithu ac is-deitlo. Mae gan Y Drindod Dewi Sant draddodiad hir ac anrhydeddus o ddarparu graddedigion talentog ar gyfer y diwydiannau creadigol. Trwy gyd-leoli a chydweithio ag ystod amrywiol o gwmnïau proffesiynol caiff myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant hyfforddiant o ansawdd uchel tra hefyd yn cael mynediad i gyfoeth o gysylltiadau a rhwydweithiau. Bydd y Brifysgol yn lansio cyfres o raglenni newydd perthnasol yn ystod y blynyddoedd nesaf a bydd gwybodaeth am y rhain ar ei gwefan yn ystod 2019. Bydd Yr Egin, sy'n cynnwys 'stafelloedd ôlgynhyrchu ac ardaloedd perfformio ynghyd â rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau, gweithdai, sgyrsiau a dangosiadau, yn darparu cyfleoedd arbennig i fyfyrwyr ddatblygu ystod o sgiliau pwysig yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol.
24
Yn tanio egni creadigol Cymru
25
Yr Atom
Canolfan Gymraeg
Yr Atom Dyma ganolfan ddiwylliannol, fywiog yng nghanol tref Caerfyrddin sy’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau ac adnoddau. 26
Canolfan Gymraeg Caerfyrddin yw Yr Atom. Ei nod yw chwarae rôl arweiniol yn y broses o Gymreigio tref Caerfyrddin gan godi ymwybyddiaeth y rheiny sy’n byw ac yn gweithio ynddi o’r Gymraeg a’i diwylliant. Y Brifysgol sy’n gyfrifol am reoli’r ganolfan a byddwn yn gweithio’n agos â sefydliadau a mentrau eraill i drefnu digwyddiadau yn rheolaidd yno. Mae croeso mawr i fyfyrwyr y Brifysgol yn Yr Atom – bydd cyfle i wirfoddoli yno yn ogystal â threfnu digwyddiadau penodol.
Cymdeithasu
Mae myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant yn mwynhau cymdeithasu yn Yr Atom. Trefnir sawl digwyddiad yno ar eu cyfer bob blwyddyn.
Cynllun Aelodaeth
Caffi’r Atom
Mae Caffi’r Atom yn cynnig gwledd o fwydydd a chacennau cartref ar eich cyfer. Dewch i ymlacio yn y caffi lle mae cyfle i fwynhau cerddoriaeth Gymraeg gefndirol. Mae rhywbeth ar gael at ddant pawb yn y caffi! Mae’r Ganolfan Gymraeg wedi ei lleoli yng nghalon yr adeilad ar Ffordd y Brenin, y tu draw i’r caffi. Ceir yma ystod o swyddfeydd ac ystafelloedd cynadledda, cartref Cylch Meithrin Caerfyrddin a Menter Gorllewin Sir Gâr a gofodau lle mae modd cynnal digwyddiadau cymdeithasol. Mae’r Atom yn ganolfan fyrlymus sy’n denu 10,000 a rhagor o ymwelwyr bob blwyddyn.
Mae Cynllun Aelodaeth Cyswllt Yr Atom wedi ei ddatblygu er mwyn cynnig i’r sawl nad ydynt yn denantiaid gael presenoldeb mewn awyrgylch busnes prysur a dynamig, heb orfod cael swyddfa yn yr adeilad. Am ragor o fanylion, cysylltwch â staff Yr Atom.
Am fwy o wybodaeth ffoniwch: 0300 323 1848 e-bost: ymholiadau@yratom.cymru www.yratom.cymru
27
Ffeithiau a Ffigurau
Pam dewis
Y Drindod Dewi Sant? Gadewch i ni fod yn rhan o’ch dyfodol. Gadewch i ni roi cyfle i chi gyrraedd eich potensial.
1af
Cymuned ddysgu gyfeillgar Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 1af yng Nghymru am ei chymuned ddysgu.
yng Nghymru
Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2018
Profiad academaidd ardderchog
Mae’r Drindod Dewi Sant ymhlith y 10 Prifysgol orau yn y DU am brofiad academaidd.
28
The Times Higher Education Student Experience Survey 2018
Prifysgol Entrepreneuraidd
Addysgu arbennig
Cydnabyddir mai’r Drindod Dewi Sant yw un o sefydliadau penna’r byd am addysg entrepreneuraidd seiliedig ar greadigrwydd ac mae hi wedi bod yn arwain ymdrechion rhyngwladol i ddod o hyd i ffyrdd newydd o baratoi myfyrwyr ar gyfer amgylchedd gwaith yr 21ain ganrif.
Cymuned Gymraeg a Chymreig Mae’r Drindod Dewi Sant yn falch o’i gwreiddiau Cymreig a’i rhaglenni cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 5ed yn y DU am ansawdd ei haddysgu.
Gall myfyrwyr gyrchu cymorth gyda’u Cymraeg yn Y Drindod Dewi Sant ac mae ysgoloriaethau penodol ar gael The Times and The Sunday Times Good University Guide 2019 i’r rheiny sy’n dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Graddedigion Cyflogadwy Roedd 97% o fyfyrwyr israddedig y Brifysgol sy’n hanu o’r DU mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach
6
Effaith Ymchwil
60%
Cafodd 60% o waith ymchwil y Brifysgol ei farnu’n eithriadol (23.3%) neu’n sylweddol iawn (36.7%) o ran ei effaith a’i arwyddocâd.
Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014
mis wedi iddynt raddio. Arolwg Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch 2015/16
Hanesyddol a Modern Gan Y Drindod Dewi Sant y mae’r Siarter Frenhinol hynaf yng Nghymru (1828), ond yn 2013, wedi i Brifysgol Fetropolitan Abertawe uno â hi,
prifysgol fwyaf newydd y DU. hi oedd
29
Llinell Amser
Prifysgol
newydd Rydym wrth ein bodd bod gennych ddiddordeb mewn ymuno â’n cymuned ddysgu gyfeillgar. Dyma ein hanes.
1822
Sefydlu Coleg Dewi Sant, Llambed, gan yr Esgob Burgess
1848 1828 Coleg Dewi Sant, Llambed, yn cael ei Siarter Frenhinol gyntaf
Agor y Coleg Hyfforddi Athrawon cyntaf yng Nghaerfyrddin
1931
1853 Sefydlu’r Ysgol Gelf yn Abertawe
1872 Sefydlu Coleg Hyfforddi Abertawe
Coleg y Drindod yn cael ei fabwysiadu’n enw ar y coleg yng Nghaerfyrddin
1971 Coleg Dewi Sant, Llambed, yn newid ei enw i Goleg Prifysgol Dewi Sant
...a chanddi hanes hir 30
Ein gwerthoedd: Cydweithio ∙ Cynhwysiant ∙ Cyflogadwyedd ∙ Datblygiad Cynaliadwy ∙ Cymru a’i Chymeriad Arbennig ∙ Cysyniad Dinasyddiaeth Fyd-eang ∙ Ymchwil a’i effaith ar bolisi
Ers 2010. . . Unodd Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Choleg Sir Gâr â Grŵp Y Drindod Dewi Sant yn 2013, wedi’u dilyn gan Goleg Ceredigion yn 2014. Yn 2015, agorodd Canolfan Berfformio Cymru yng Nghaerdydd. Yn 2016, sefydlwyd yr Academi Sinoleg yn Llambed, dechreuodd y gwaith ar ein datblygiad £350m Glannau SA1 Abertawe ac yn 2017 dechreuodd y gwaith adeiladu ar Ganolfan S4C Yr Egin, canolfan greadigol a digidol newydd ar gampws Caerfyrddin. Agorwyd y naill a'r llall yn 2018.
1996 1976
Llun: Marie Edwards
Colegau Celf, Hyfforddi a Thechnegol Abertawe yn troi’n Athrofa Addysg Uwch Gorllewin Morgannwg
Coleg Prifysgol Dewi Sant yn newid ei enw i Brifysgol Cymru, Llambed
Grŵp Y Drindod Dewi Sant Siarter Frenhinol y Brifysgol yw'r hynaf yng Nghymru a Lloegr ar ôl prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt. Yn 2011 daeth Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn Noddwr Brenhinol arni. Mae gan Grŵp Y Drindod Dewi Sant yn agos i 27,000 o ddysgwyr a gyda'n gilydd rydym yn darparu manteision clir, diriaethol i fyfyrwyr, cyflogwyr, diwydiannau a chymunedau drwy gynnig ymagwedd alwedigaethol o lefel mynediad i ymchwil ôl-ddoethurol. Mae’r grŵp wedi cael ei gryfhau ymhellach wrth uno Prifysgol Cymru â'r Drindod Dewi Sant yn 2017.
2009 2008 Athrofa Addysg Uwch Abertawe yn cyflawni statws Prifysgol ac yn newid ei henw i Brifysgol Fetropolitan Abertawe
Coleg y Drindod yn cyflawni statws Coleg Prifysgol
2010 Ffurfio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant drwy Siarter Frenhinol ategol 1828
...a dyfodol cyffrous Y Drindod Dewi Sant yn Trawsnewid, Llunio a Datblygu’r Dyfodol www.ydds.ac.uk/cy/cenhadaeth
31
Ein Lleoliad
Tri lleoliad sy'n ysbrydoli... Croeso i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sydd wedi’i lleoli ar dri phrif gampws yn Abertawe, Caerfyrddin a Llambed, gyda chanolfannau dysgu yn Llundain, Caerdydd a Birmingham. Drwy ddewis Y Drindod Dewi Sant fel eich man astudio, cewch gyfle i fyw a bod mewn amgylchedd dysgu unigryw; cymuned gyfeillgar lle cewch eich adnabod yn ôl eich enw yn hytrach na rhif, lle mae eich darlithwyr yn eich adnabod, lle cewch eich ysbrydoli, lle cewch gyfle i wneud ffrindiau oes. Ewch ati i wireddu eich potensial yn y Brifysgol eithriadol a hanesyddol hon, a sefydlwyd yn agos i 200 mlynedd yn ôl ond sydd eto’n cael ei chydnabod fel un o’r rhai mwyaf deinamig yng Nghymru heddiw.
32
Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 4ydd yn y DU am diwtora mewn grwpiau bach a chydradd 4ydd yn y DU am berthnasoedd personol da gyda staff addysgu. The Times Higher Education Student Experience Survey 2018
Rwy'n falch y dewisais i astudio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gan ei fod yn le croesawgar lle daw pawb i adnabod pawb erbyn y diwedd, ond hefyd braf yw clywed cymaint o staff Cymraeg. Mae bywyd y Brifysgol hon yn hwyliog ac yn fywiog gyda digonedd o lefydd ar gyfer tawelwch a heddwch yn ogystal.
Lowri Jones
Myfyrwraig Y Drindod Dewi Sant
...Un Profiad Prifysgol
i'w rannu
33
Ein Lleoliad
Eich Campws Mae gennym dri champws gwych yn Ne Orllewin Cymru, campws yn Llundain a chanolfannau dysgu yng Nghaerdydd a Birmingham. Mae gan bob un ei gymeriad arbennig ei hun, ond sydd eto’n cynnig yr un profiad cyfeillgar. 34
Campysau Abertawe
Mae gan gampysau Abertawe enw da am raglenni arloesol a arweinir gan ddiwydiant ac a yrrir gan yrfaoedd. Wedi’i sefydlu yn 1853, mae Campws Abertawe yn ymestyn dros nifer o ganolfannau pwrpasol – oll o fewn tafliad carreg i ganol y ddinas. Mae gan bob maes pwnc ei gyfleusterau ei hun gyda mynediad at offer, adnoddau dysgu, gweithdai ac ystafelloedd TG arbenigol. Mae ein datblygiad newydd yn SA1 Glannau Abertawe yn cynnig lleoliad newydd a chyffrous ger y môr.
Campws Caerfyrddin
Mae campws Caerfyrddin yn amgylchedd bywiog, cyfeillgar sydd wedi tyfu o gwmpas adeilad gwreiddiol 1848. Mae gan y campws ystod o gyfleusterau sy’n cynnwys llyfrgell helaeth, theatr llawn offer a gweithdai, ystafelloedd cerddoriaeth, cyfryngau a TG a mannau addysgu modern. Mae unig sianel deledu Gymraeg y byd, S4C, wedi adleoli ei phencadlys i gampws Caerfyrddin Y Drindod Dewi Sant gan gyfoethogi bywyd Cymraeg y campws ymhellach a chryfhau'n sylweddol brofiad y myfyrwyr sy'n astudio yno.
Campws Llambed
Mae campws hanesyddol Llambed yn gartref i sefydliad Addysg Uwch cyntaf Cymru, a sefydlwyd yn 1822. Bellach, mae’n cyfuno traddodiad academaidd nodedig gyda’r holl gyfleusterau a thechnoleg modern sydd eu hangen i ddysgu yn yr 21ain ganrif. Wedi ei leoli mewn lleoliad gwledig delfrydol, mae Campws Llambed yn darparu profiad myfyriwr cefnogol o fewn cymuned glos a diogel.
Mae ein holl brif gampysau yn cynnig: • Cymunedau dysgu diogel a chyfeillgar.
Hefyd, mae gennym ganolfannau yng Nghaerdydd sy’n canolbwyntio ar berfformio a champws yn Llundain sy’n arbenigo mewn cyrsiau busnes i fyfyrwyr rhyngwladol.
Canolfannau Dysgu Caerdydd
Mae Academi Llais Ryngwladol Cymru (WIAV) yn darparu conservatoire llais o safon fyd-eang yn un o brif ganolfannau addysg uwch y DU a chyfle i arwain mewn maes y mae Cymru’n adnabyddus amdano. Yn 2015, cafodd Canolfan Berfformio Cymru (CBC) ei sefydlu i gynnig astudiaethau perfformio drwy gyfrwng y Gymraeg. Bellach, mae CBC hefyd yn cynnig rhaglenni drwy gyfrwng y Saesneg.
Campws Llundain
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Llundain yn cynnig cyfle i fyfyrwyr rhyngwladol astudio ystod o raglenni yn un o ardaloedd harddaf a mwyaf diogel Llundain. Cynigir y rhaglenni hyn gan Gyfadran Busnes a Rheolaeth y Brifysgol ac fel y cyfryw, maent o'r ansawdd a’r safon academaidd uchaf fel rhan o’n hymrwymiad i’n nifer cynyddol o fyfyrwyr rhyngwladol.
Canolfan Ddysgu Birmingham
Mae’r Drindod Dewi Sant Birmingham, sydd wedi’i leoli ar Stratford Road yng nghymdogaeth fywiog Sparkhill, wedi’i sefydlu i ddarparu cyfleoedd i bobl o bob cefndir astudio rhaglen addysg uwch yn eu cymuned. Am ragor o wybodaeth am ein campysau, ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/lleoliad
• Yr holl adnoddau dysgu a gwasanaethau cymorth y bydd arnoch eu hangen i lwyddo ar eich cwrs.
• Undeb y Myfyrwyr i gynnig cyngor, cynrychiolaeth a gweithgareddau cymdeithasol.
35
Campws Caerfyrddin
Llwyddwch yng
Nghaerfyrddin 36
Os ewch i ymweld â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, fe welwch ei bod yn darparu ar gyfer eich holl anghenion. Golyga ei leoliad hardd, ei awyrgylch cyfeillgar a chymunedol ei naws a’r ffaith ei fod o fewn tafliad carreg i brysurdeb canol tref, fod Campws Caerfyrddin yn cynnig bywyd atyniadol iawn i fyfyrwyr. Mae’r cyfuniad o adeiladau Fictoraidd a modern yn gefnlen hyfryd i’r campws. Ceir ymdeimlad fod traddodiad yn cael ei barchu yma a bod arloesi yn cael ei annog a’i gofleidio’n gynnes.
37
Caerfyrddin
Byddwch chi wrth eich bodd yng Nghaerfyrddin! Mae’r campws yn un bychan, diogel a bywiog. Mae pawb yn adnabod ei gilydd yma ac yn cyd-dynnu’n dda. Gydag agor Canolfan S4C Yr Egin yn 2018, gwelwyd pennod newydd yn agor yn hanes Campws Caerfyrddin. Mae'r datblygiad cyffrous hwn a'r weledigaeth uchelgeisiol sy'n cydfynd ag ef yn cynnig pob math o gyfleon newydd i'r Brifysgol a'i myfyrwyr. Bydd Canolfan S4C Yr Egin yn gyrchfan y gall pawb ei fwynhau, gyda’i gaffi, awditoriwm a gofodau perfformio amrywiol.
38
Ceir hefyd dreftadaeth gyfoethog ar Gampws Caerfyrddin. Mae adeilad gwreiddiol y coleg, sy'n dyddio'n ôl i 1848, yng nghanol y campws gyda'r Hen Goleg ysblennydd yn gartref i’r Cwad, man dysgu modern sy'n cynnig mynediad agored i fyfyrwyr a staff. Mae’n darparu cyfrifiaduron at ddefnydd myfyrwyr, ystafelloedd astudio grŵp, mynediad rhyngrwyd diwifr, siop nwyddau ysgrifennu a gwasanaeth llungopïo. Os ydych chi’n chwilio am rywle i fwyta a chwrdd â ffrindiau, mae caffi cysurus yn Y Cwad. Wedi ei leoli gyferbyn â’r capel, mae'n llecyn hyfryd i astudio, ymlacio a chloncian.
Mae’r prif fwyty, lle caiff prydau myfyrwyr sy’n byw mewn llety arlwyo eu gweini, yn Adeilad yr Halliwell. Mae’n lle golau, braf. Mae’r wal flaen wedi’i gwneud o wydr ac yn wynebu teras, man barbeciw a lleoedd i eistedd yn yr awyr agored. Hefyd, mae Tap House 72, yn Undeb y Myfyrwyr, yn cynnig croeso cynnes ac ystod o ddewis drwy gydol y dydd. Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o raglenni astudio yng Nghaerfyrddin. Ceir hefyd amrywiaeth o adnoddau penigamp sy’n cyfoethogi profiadau dysgu’r myfyrwyr. Mae’r llyfrgell yn orlawn o lyfrau ac adnoddau dysgu; lleolir mannau dysgu ac addysgu pwrpasol ar draws y Campws; ceir theatr a gweithdai llawn offer yn ogystal ag ystafelloedd TG amrywiol. Ceir hefyd amrywiaeth o adnoddau chwaraeon a ffitrwydd gan gynnwys ystafell ffitrwydd, pwll nofio a stiwdio ddawns amlbwrpas. I wneud bywyd yn haws i chi, mae gan yr Uned Gwasanaethau Myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr, ill dau’n ffynonellau help a chyngor, eu hadeiladau eu hunain fel eich bod yn gwybod yn union lle i fynd pan fydd arnoch eu hangen. Mae gan yr adeilad Dysgu ac Addysgu trawiadol, gyda’i olygfeydd bendigedig o’r dref a chefn gwlad, gyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer darlithoedd a gwaith grŵp yn ogystal â mannau cymdeithasol i ymlacio ynddynt gyda ffrindiau. Mae llety'r myfyrwyr yn cynnwys neuaddau arlwyo a hunanarlwyo. Mae pedwar llety i fyfyrwyr ar y campws, sy’n cynnig ystafelloedd sengl ac a rennir, ar sail hunanarlwyo neu gydag arlwy. Mae cost byw mewn neuadd, sy’n cynnwys yr holl filiau gwasanaethau, yn fforddiadwy iawn.
Os byddwch yn dewis byw ar y campws, cewch eich ystafell eich hun drwy gydol y flwyddyn academaidd felly ni fydd raid ichi symud allan yn ystod cyfnodau’r gwyliau. Mae gan bob ystafell fynediad i’r rhyngrwyd felly gallwch ddod â’ch gliniadur neu gyfrifiadur personol eich hun gyda chi. Mae Caerfyrddin yn denu myfyrwyr o bob cwr o'r byd ac yn cynnig cyfleoedd i archwilio. Mae yma gynllun astudio dramor sefydledig gyda phartneriaid yn UDA, Canada, Tsieina ac Ewrop, a thîm pwrpasol i roi ichi’r cymorth a’r arweiniad y mae arnoch eu hangen pe baech yn dymuno manteisio arno.
39
Caerfyrddin
40
Tu hwnt i'r campws Mae campws Caerfyrddin Y Drindod Dewi Sant yn ddigon agos i'r dref i fod yn rhan ohoni ond eto mae ganddo ei gymuned fach ei hun hefyd. Mae siopau, adloniant a chysylltiadau cludiant da ychydig funudau i ffwrdd. Cydnabyddir yn gyffredinol mai Caerfyrddin yw tref hynaf Cymru, ac mae hi’n gyfoeth o hanes a dirgelwch, gan gynnwys chwedl Arthur. Yn ôl rhai, cafodd y dewin Myrddin ei eni mewn ogof y tu allan i’r dref. Hefyd, yn ôl chwedl arall, pan fyddai’r goeden a alwyd yn Dderwen Myrddin yn cwympo, felly hefyd y byddai’r dref, felly mae darnau ohoni wedi’u cadw yn amgueddfa’r dref. Bellach, mae coeden newydd yn tyfu yn ei lle ar gornel Lôn y Dderwen a Heol y Prior. Efallai fod hyn oll yn symbolaidd o’r ffordd y mae Caerfyrddin yn gwerthfawrogi a pharchu ei hanes ac eto’n edrych ymlaen at y dyfodol - yn union fel y gwnawn ninnau yma ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae’r dref wedi cadw llawer o'i hadeiladau a chofebion hanesyddol wrth i ddatblygiadau newydd ddod â bywyd ffres i'w strydoedd. Mae gan Gaerfyrddin lawer i’w gynnig i fyfyrwyr. Mae yna fwytai, bariau a chlybiau nos yn ogystal â thafarndai hanesyddol, siopau bychain a siopau cadwyn mawr, archfarchnadoedd a marchnad dan do sy'n gwerthu rhai o gynhyrchion lleol gorau Cymru.
Mae siopau stryd fawr enwog wedi dod i ganol y dref sydd wedi’i ailddatblygu, sef Rhodfa’r Santes Catrin, ar hen safle’r farchnad wartheg. Mae digon o hanes i’w weld yng Nghaerfyrddin a’r cyffiniau. Mae hyd yn oed y ganolfan groeso wedi ei lleoli yn adfeilion y castell Normanaidd sy'n edrych dros Afon Tywi. Mae’n un o lawer o gestyll o gwmpas y sir, o Dalacharn, Llansteffan a Chydweli ar yr arfordir i Ddryslwyn a Dinefwr, gyda'u golygfeydd o afonydd, a chadernid trawiadol Carreg Cennen nid nepell o’r Mynydd Du. Mae Sir Gâr a'i siroedd cyfagos yn boblogaidd fel cyrchfannau gwyliau, am reswm da. Mae ein myfyrwyr chwaraeon yn gwneud y gorau o arfordir, afonydd a chefn gwlad yr ardal. Mae yna draethau hir, tywodlyd yng Nghefn Sidan a Phentywyn, llwybrau troed gwych ym Mharc Gwledig Pen-bre a phentrefi arfordirol hardd i ymweld â nhw. Yn syml iawn, mae’n ardal o harddwch naturiol heb ei hail ac yn lle delfrydol i astudio ynddo. Os oes awydd arnoch weld rhagor o Gymru a’r DU, mae gan Gaerfyrddin gysylltiadau cludiant da. Mae’n llai nag awr mewn trên i Abertawe, a dim ond tua dwy a phum awr yn eu tro i Gaerdydd a Llundain, y mae ganddynt ill dau feysydd awyr rhyngwladol.
41
Caerfyrddin
Y 10 peth gorau i'w gwneud yng Nghaerfyrddin gan Lysgenhadon Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant 1. Ymlacio ar draeth lleol
4. Ymweld â’r felodrom
Ac yntau wedi ei leoli cwta wyth milltir o’r campws, mae traeth Llansteffan – gyda’r castell Normanaidd yn codi’n osgeiddig uwch ei ben – yn llecyn perffaith ar gyfer gêm o bêl-foli a barbeciw gyda ffrindiau.
Efallai ei fod dros ganrif oed ond mae felodrom Caerfyrddin yn barod am gystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol ers cael ei ailwampio ar gost o £600,000. Hwn yw’r unig un gyda chae rygbi yn ei ganol!
2. Siopa yn Rhodfa Santes Catrin
5. Mwynhau diod yng nghanol y dref
Mae canolfan siopa tref Caerfyrddin yn gartref i Debenhams, Next, Vision Express, Cotswold, Pizza Express, Frankie and Benny's, Costa, Lush, H&M a sinema chwe sgrin 3D, sy'n gwbl ddigidol, yn ogystal â llawer mwy o siopau a bwytai.
3. Ymlacio yn Theatr y Lyric
Cafodd y tŷ tref hwn o’r 1700au ei drawsnewid yn sinema yn 1935. Gall y lleoliad gynnal pob math o gynyrchiadau theatrig proffesiynol.
Mynd i un o’r bariau cŵl, tafarndai clud neu fwytai niferus yng nghanol y dref. Yn ogystal, mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnal nosweithiau myfyrwyr ar y campws.
6. Gwylio rygbi
Mae Caerfyrddin yn gartref i glybiau rygbi Cwins Caerfyrddin ac Athletig Caerfyrddin, ac mae tîm rygbi proffesiynol y Scarlets yn chwarae eu gemau cartref yn Llanelli, sy'n daith fer mewn car neu ar drên.
7. Ewch i'r Sinema
Profwch wefr y sgrin fawr yn sinema chwe-sgrin 3D digidol Caerfyrddin.
42
8. Cwrdd â ffrindiau am goffi
Treuliwch brynhawn yn un o siopau coffi cysurus Caerfyrddin. Cofiwch am y caffi poblogaidd a leolir yn Yr Atom, Canolfan Gymraeg y dref sy’n cael ei reoli gan y Brifysgol.
9. Darganfod rhywbeth arbennig
Mae marchnad hanesyddol a siopau annibynnol Caerfyrddin yn lleoedd gwych i fynd i gael danteithion blasus, rhoddion bach gwahanol neu wisg fendigedig.
10. Caru’r awyr agored anhygoel
Crwydrwch Sir Gâr ac fe ddewch ar draws cyfoeth o hanes a diwylliant. Mae tirlun amrywiol y sir yn ei gwneud yn lle perffaith i fwynhau llawer o weithgareddau awyr agored a hamdden sy’n amrywio o chwaraeon eithafol, canŵio a physgota i golff, beicio a marchogaeth.
Darganfyddwch Gyrsiau Caerfyrddin > 43
Yr Athrofa
Yr Athrofa Pobl sydd wrth wraidd Yr Athrofa - sut rydym yn dysgu, sut rydym yn byw a sut rydym yn trefnu ein hunain mewn cymdeithas.
44
Yr Athrofa
Rydym yn gyfadran gyffrous sy’n ymholi sydd â’i gwerthoedd wedi’u gwreiddio mewn cyfiawnder, ecwiti, democratiaeth, hawliau dynol, dinasyddiaeth ac annog uchelgeisiau i bawb. Gyda’n gilydd, rydym yn gofyn cwestiynau, cynnig datrysiadau a herio ni ein hunain ac eraill. Mae’r Athrofa yn galluogi i fyfyrwyr ddatblygu’n raddedigion crefftus, creadigol, a chyflogadwy a fydd yn cyfrannu at gymdeithas a bod yn ddinasyddion cyfrifol o’r byd. Mae campws eiconig Caerfyrddin yn gymuned glos, gyfeillgar sy’n llawn traddodiad ond eto’n canolbwyntio’n gadarn ar ei dyfodol. Mae tref hanesyddol Caerfyrddin o fewn taith fer ar droed ac mae ganddi amrywiaeth o siopau, cyfleusterau hamdden rhagorol a chysylltiadau da i’r arfordir a pharciau gwledig. Mae dyfodiad cwmni darlledu S4C, sydd wedi lansio ei bencadlys newydd ar y campws, yn dod â llawer o gyfleoedd newydd yn ei sgil i fyfyrwyr. Yn falch o’n treftadaeth ac o natur unigryw’r genedl rydym yn ei gwasanaethu, mae’r Athrofa yn eithriadol o uchelgeisiol, ac yn tynnu ar arfer da rhyngwladol i seilio ein gwaith arni, yma yng Nghymru a thramor. Yn awyddus i rannu ein harbenigedd mewn dosbarthiadau lleol a byd-eang, mae’r Athrofa yn cael ei chymell gan rym newid addysgiadol a’r gwahaniaeth positif y gallwn ei wneud er lles cenedlaethau’r dyfodol. Cynllunnir ein rhaglenni i ddatblygu cariad at ddysgu a, gyda’n gilydd, gallwn ddefnyddio’r manteision niferus a gyfyd yn sgil hyn i drawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau. Yng Nghaerfyrddin, mae rhaglenni'r Athrofa yn cynnig graddau o lefel sylfaen i anrhydedd BA a BSc a Meistr Integredig.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: athrofa.cymru/cy
Rydym hefyd yn cynnig rhaglenni gradd dwy flynedd carlam trwy lwybr dysgu hyblyg sy’n cynnwys cyflwyno gyda’r nosweithiau ac ar Sadyrnau. Mae’r rhain yn cynnwys rhaglenni mewn Astudiaethau Addysg: Cynradd, Addysg Gynhwysol, Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar, Gwaith Ieuenctid a Chymuned, Seicoleg Gymhwysol, Cymdeithaseg ac Eiriolaeth a rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig. Ochr yn ochr â’n cyrsiau gradd mwy traddodiadol, mae gennym hefyd nifer o raglenni sy’n darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol i ystod eang o staff sy’n rhan o ddarparu addysg e.e. y Radd Sylfaen mewn Addysg Gynhwysol sy’n addas ar gyfer y rheiny sy’n cefnogi dysgwyr mewn unrhyw ysgol gynradd neu uwchradd. Mae’r rhaglenni hyn yn caniatáu’r dysgwr i gymryd rhan mewn dadleuon cymhleth a dadansoddiadau beirniadol o bolisi a damcaniaeth ar waith. Mae ein hystod eang o gymwysterau’n bodloni anghenion y sawl sy’n dymuno astudio’n llawn amser ac yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr y mae’n well ganddynt astudio mewn modd hyblyg y gellir ei gyfuno gyda’u hymrwymiadau gwaith neu wirfoddoli.
@athrofa
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
45
Yr Athrofa
Addysg Gynradd
gyda Statws Athro Cymwysedig Mae’r cwrs hwn yn ffocysu ar astudiaeth broffesiynol yr ystod lawn o addysg gynradd ac mae’n darparu dealltwriaeth drylwyr o’r cwricwlwm statudol ar gyfer ysgolion cynradd, o fewn amgylchedd gofalgar, cefnogol a fydd yn eich ysbrydoli.
100%
120
Cytunodd 100% o fyfyrwyr Addysg Gynradd Y Drindod Dewi Sant bod y staff wedi gwneud y pwnc yn ddiddorol. ACM 2018
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Mae'r cwrs yma yn gymwys am Ysgoloriaethau y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18, neu www.colegcymraeg.ac.uk
46
Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin
Iaith: Cymraeg, Saesneg
Mae’r rhaglen addysg gychwynnol athrawon gyffrous, heriol a boddhaus hon yn paratoi myfyrwyr at ofynion deallusol ac ymarferol bod yn athro cymwysedig. Wedi’i chynnig gan Bartneriaeth Dysgu Proffesiynol Yr Athrofa, cyflwynir y rhaglen mewn lleoliadau ysgol ac yn y Brifysgol ac mae’n ceisio’n weithredol i gynnwys darpar athrawon wrth ddadlau am ddulliau addysgu a dysgu cyfredol, herio safbwyntiau a thybiaethau, cymryd rhan mewn dialog proffesiynol gyda chydweithwyr a chyfoedion a datblygu athroniaeth bersonol o addysgu. Mae’r Athrofa wedi llunio rhaglen gyfoethog sy’n ffocysu ar ddatblygu dealltwriaeth drylwyr o bob agwedd ar addysg gynradd. Cyflwynir darpar athrawon i’r lleoliad ysgol yn fuan yn y rhaglen ac fe’u cefnogir wrth gyflawni’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn ymarferwyr annibynnol effeithiol. Mae hyn yn digwydd o fewn amgylchedd sy’n meithrin, cefnogi ac annog y mae myfyrwyr wedi dweud ei fod yn arfer gorau. Mae maes addysg yn newid yn gyson ac mae ar ysgolion angen gweithlu proffesiynol sy’n wydn, yn gallu datrys problemau ac wedi’i seilio ar ymchwil addysg. Mae’r rhaglen yn darparu cyfleoedd i ddarpar athrawon ddatblygu’r sgiliau hyn drwy gynnal ymchwil yn y dosbarth, gweithio mewn partneriaeth a chymryd rhan mewn cymunedau arfer. Mae’r sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr hyn yn trosglwyddo i lawer o leoliadau addysgol.
Opsiynau Astudio: Llawn amser
Addysg Gynradd gyda SAC
Ymhlith y cyfleoedd i ymgymryd â gweithgareddau cyfoethogi yn ystod y rhaglen mae: datblygu sgiliau iaith personol yn y Gymraeg, ymweld â mannau o ddiddordeb, mynychu a chyflwyno gwaith mewn cynadleddau addysgol, mynychu cyrsiau preswyl a chyflawni gwahanol dystysgrifau sy’n gysylltiedig ag addysgu, er enghraifft tystysgrifau Ysgol Fforest, Cymorth Cyntaf, Hylendid Bwyd, Iaith a Chwarae, ac Ysgolion Eglwys.
Gofynion Mynediad
O fis Medi 2019 lleiafswm y gofynion bydd 115 o bwyntiau UCAS Safon Uwch neu gyfwerth, Gradd B neu'n uwch TGAU Saesneg iaith neu lenyddiaeth, Gradd B neu'n uwch TGAU Cymraeg iaith neu lenyddiaeth, Gradd B neu'n uwch TGAU Mathemateg a Gradd C neu'n uwch TGAU Gwyddoniaeth. • BTEC (12 Uned) – Graddau Gofynnol – Clod, Teilyngdod • (18 Uned) – Graddau Gofynnol - Teilyngdod, Teilyngdod, Pas • CACHE – Yn dderbyniol ar ei ben ei hun ac wedi’i gyfuno â chymwysterau eraill. Am fanylion pellach, cyfeiriwch at wefan UCAS.
Fy hoff beth am fy nghwrs yw dysgu am ffyrdd gwreiddiol a hwylus o ddysgu plant trwy'r Gymraeg. Dwi'n falch iawn fy mod i wedi dewis astudio yn Y Drindod Dewi Sant!
Cerys-Mair Griffiths Myfyrwraig BA Addysg Gynradd gyda SAC
BA Addysg Gynradd gyda SAC: Cod UCAS: X123
Cafodd y rhaglen Addysg Gynradd gydnabyddiaeth genedlaethol ym mis Mehefin 2018 gan mai Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa oedd un o ychydig o ddarparwyr yn unig a gafodd achrediad gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Mae’r gymeradwyaeth yn sicrhau y bydd canolfan addysg athrawon hynaf a mwyaf Cymru yn parhau i gefnogi athrawon newydd ac wrth eu gwaith ymhell i’r dyfodol.
BA Primary Education with QTS: Cod UCAS: X120
47
Yr Athrofa
Astudiaethau Addysg: Cynradd Mae ein cwrs Astudiaethau Addysg: Cynradd wedi’i anelu at fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn gweithio gyda phlant oedran ysgol gynradd. 120
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Mae'r cwrs yma yn gymwys am Ysgoloriaethau y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18, neu www.colegcymraeg.ac.uk
Mae cwrs newydd cyffrous yn cael ei ddatblygu a bydd mwy o wybodaeth ar ein gwefan yn ystod 2019-2020.
48
Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin, Abertawe
Iaith: Cymraeg, Dwyieithog, Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Astudiaethau Addysg: Cynradd
Os nad ydych yn gwbl sicr ynghylch ba yrfa sydd o ddiddordeb i chi, yna fe all yr hyblygrwydd i archwilio ac ystyried yr ystod o gyfleoedd a gynigir gan y rhaglen hon olygu y gall y cwrs hwn fod o ddiddordeb i chi. Rydym yn credu’n gryf nad yw addysg yn digwydd yn unig yn yr ystafell ddosbarth. Drwy gydol eich amser gyda ni fe gewch amrywiaeth o sgiliau amhrisiadwy sydd nid yn unig yn academaidd, ond hefyd yn hanfodol i unrhyw fyfyriwr graddedig yng ngweithle’r oes sydd ohoni, ac rydym yn cynnig ystod o gyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol i’ch galluogi i gael y cyfryw sgiliau a phrofiad.
97%
Roedd 97% o fyfyrwyr BA Astudiaethau Addysg: Cynradd yn fodlon ar eu cwrs. ACM 2018
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? Ac yntau’n gyfnod o newidiadau sylweddol mewn addysg yng Nghymru, mae ein cwrs yn rhoi’r cyfle i chi drafod yn feirniadol y byd addysg newidiol hwn ac yn eich paratoi at ystod o yrfaoedd sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau plant.
Gyrfaoedd: • Athro • Gweithiwr cymdeithasol • Swyddog addysg • Gweithio gyda phlant agored i niwed, pobl ifanc a theuluoedd • Gweithio gydag elusennau
Mae fy mhrofiad o astudio’r cwrs hwn yn Y Drindod Dewi Sant fel myfyriwr aeddfed wedi bod yn werth chweil. Mae’r darlithwyr wedi cefnogi fy uchelgeisiau’n llawn ac rwyf wedi cael profiad gwych yn y Brifysgol yn gyffredinol.
Tracey Hughes
Un o raddedigion y cwrs
Astudiaethau Addysg: Cynradd Codau UCAS: BA 14F3 (Cyfrwng Cymraeg) BA 36H5 (Cyfrwng Saesneg) Am wybodaeth fanylach, ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/ba-astudiaethauaddysg-gynradd
Gofynion Mynediad: 88 o bwyntiau UCAS
Mae’r cwrs hwn yn astudio sut y mae plant yn dysgu, gyda ffocws ar blant oedran ysgol gynradd. Mae astudio’r rhaglen hon yn eich caniatáu i ddatblygu sgiliau academaidd allweddol yn ogystal â sgiliau trosglwyddadwy, fel gwaith tîm, cyfathrebu a meddwl beirniadol. Addysgir y rhaglen hon ar gampws Caerfyrddin. Cyflwynir y rhaglen hon yn y Saesneg a'r Gymraeg.
49
Yr Athrofa
Blynyddoedd Cynnar Mae sut mae plant yn datblygu a dysgu yn faes hynod o ddiddorol i’w astudio. Mae Blynyddoedd Cynnar yn Y Drindod Dewi Sant wedi datblygu casgliad o raglenni gradd arloesol a gynlluniwyd i roi i’n graddedigion y sgiliau a’r gallu sy’n hanfodol i weithio yn y sector addysg a gofal blynyddoedd cynnar. Mae rhaglenni Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar penodol wedi’u cynnwys ar restr Gofal Cymdeithasol Cymru o gymwysterau cymwys ar gyfer gweithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.
100%
50
Roedd 100% o fyfyrwyr BA Plentyndod Cynnar Y Drindod Dewi Sant yn fodlon gyda’r addysgu ar eu cwrs. ACM 2017
Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin, Abertawe
Mae gennym ddarpariaeth astudio yn ystod y dydd ac rydym hefyd yn cynnig darpariaeth dysgu hyblyg a gyflwynir gyda’r nos ac ar ddyddiau Sadwrn sy’n caniatáu myfyrwyr i gynnal ymrwymiadau gwaith yn ogystal â chael gradd. Mae rhaglenni wedi’u lleoli ar gampysau Caerfyrddin ac SA1 ac fe’u haddysgir naill ai drwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog. Mae gennym hefyd raglenni a redir yn y gymuned neu mewn ardaloedd lle mae galw am y ddarpariaeth. Mae ein holl raglenni’n meithrin ymagwedd gyfannol at ddatblygiad a dysgu plant ifanc. Bydd myfyrwyr yn astudio’r materion pwysig sy’n effeithio ar blant a theuluoedd. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau pwysig fel: dadansoddi; gwerthuso beirniadol; dadlau academaidd; ymwybyddiaeth o faterion moesegol sy’n gysylltiedig â phlant ifanc yn ogystal â gallu i archwilio i faterion sy’n gysylltiedig â phlentyndod cynnar yn fanwl. Mae’r rhain hefyd yn rhinweddau pwysig sy’n gysylltiedig â chyflogaeth yn y dyfodol.
Iaith: Cymraeg, Dwyieithog, Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Hyblyg
Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar
Ymhlith prif themâu ein graddau mae: • datblygiad plant • cynhwysiant a chyfiawnder cymdeithasol • llythrennedd a rhifedd cynnar • datblygiad iaith • dysgu awyr agored • cynaliadwyedd • arweinyddiaeth • gwaith tîm
Rwy’n ddiolchgar bod fy nghwrs wedi rhoi hyder i mi ynof fi fy hun ac yn fy ngwaith. Mae’r profiadau a’r wybodaeth rwyf wedi’u cael dros y blynyddoedd yn amhrisiadwy.
Becky Hawkes Graddiodd yn 2017
Gall myfyrwyr gael cyfleoedd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o ymweliadau addysgol yn ystod eu gradd a allai gynnwys ymweliadau dewisol dramor i wledydd fel Sweden a Chanada. Bydd ein graddedigion, gyda’r wybodaeth, gwerthoedd a dealltwriaeth sy’n hanfodol ar gyfer arfer gwybodus, yn gwneud cyfraniad sylweddol i ragoriaeth broffesiynol ym maes blynyddoedd cynnar Cymru a thu hwnt.
Gofynion Mynediad: Mae mynediad i’n graddau dwy flynedd wedi’i seilio ar brofiad gwaith. Ar gyfer ein rhaglenni tair blynedd, y gofyniad yw 88 o bwyntiau UCAS. Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/blynyddoedd-cynnar
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
51
Yr Athrofa
Rhaglenni Blynyddoedd Cynnar Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar Codau UCAS: BA YBC1 (Cyfrwng Cymraeg) BA YPS1 (Cyfrwng Saesneg)
Rhaglen tair blynedd yw hon sydd wedi’i chynnwys ar restr gymeradwy Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer gweithio mewn lleoliad gofal plant. Bydd myfyrwyr yn astudio amrywiaeth o faterion sy’n gysylltiedig â gweithio gyda phlant ifanc a theuluoedd yn ogystal ag archwilio i agweddau pwysig ar blentyndod fel datblygiad holistaidd, lles, addysg a gofal. 120
Gofynion Mynediad: 88 o bwyntiau UCAS
Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (2 flynedd)
Codau UCAS: BA YBC2 (Cyfrwng Cymraeg) BA YPR2 (Cyfrwng Saesneg) Gofynion Mynediad: Wedi’i seilio ar rinweddau’r unigolyn.
Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar Codau UCAS: BA M5Y2 (Cyfrwng Cymraeg) BA 95X7 (Cyfrwng Saesneg) Gofynion Mynediad: 88 o bwyntiau UCAS
52
Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin, Abertawe
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Gellir astudio’r radd hon dros ddwy flynedd ac fe’i cyflwynir gyda’r nos ac ar rai Sadyrnau. Byddwch yn astudio amrywiaeth o faterion sy’n gysylltiedig â gweithio gyda phlant ifanc a theuluoedd yn ogystal ag archwilio i agweddau pwysig ar blentyndod fel datblygiad holistaidd a lles. Mae’r rhaglen hon wedi’i chynnwys ar restr gymeradwy Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer gweithio mewn lleoliad gofal plant.
180
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Rhaglen radd tair blynedd yw hon a ddatblygwyd i roi i fyfyrwyr ddealltwriaeth fanwl o addysg a gofal blynyddoedd cynnar. Bydd myfyrwyr yn archwilio agweddau pwysig ar blentyndod fel datblygiad holistaidd, lles, addysg a gofal. Hefyd, mae’r rhaglen yn darparu cyfle i ddatblygu sgiliau ymchwil mewn perthynas â gweithio gyda phlant a theuluoedd. 120
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Iaith: Cymraeg, Dwyieithog, Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Hyblyg
Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar
Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (2 flynedd)
Rhaglen garlam yw hon a luniwyd ar gyfer y rheiny sydd eisoes yn gweithio yn y sector gofal plant ac addysg. Gelllir astudio’r radd hon dros ddwy flynedd ac fe’i cyflwynir gyda’r nos ac ar rai Sadyrnau.
Codau UCAS: BA 8Q18 (Cyfrwng Cymraeg) BA 87B2 (Cyfrwng Saesneg)
Mae’r rhaglen yn rhoi’r cyfle i i ddatblygu sgiliau ymchwil mewn perthynas â gweithio gyda phlant a theuluoedd.
Gofynion Mynediad: Wedi’i seilio ar rinweddau’r unigolyn.
180
*Pwyntiau UCAS: Mae mynediad at ein graddau dwy flynedd wedi'i seilio ar brofiad gwaith.
Mae'r cyrsiau hyn yn gymwys am Ysgoloriaethiau y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18, neu www.colegcymraeg.ac.uk
Credyd Cyfrwng Cymraeg
53
Yr Athrofa
Cymdeithaseg Datblygwch wybodaeth ddofn am faterion cymdeithasol cyfoes drwy astudio ein gradd BA Cymdeithaseg. Archwiliwch wreiddiau allgau, anfantais, grym a chyfryngiad a'r llwybrau i hwyluso newid. Bydd myfyrwyr yn ystyried effaith allgau mewn amrywiaeth o leoliadau a chyddestunau, fel addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, cyfiawnder troseddol, lles a chyflogaeth, ac amrywiaeth ac anabledd. Er bod y radd hon yn ffocysu ar ddamcaniaeth gymdeithasegol, y mae hefyd yn tynnu ar bolisi cymdeithasol a seicoleg gymdeithasol i archwilio effaith allgau ac anfantais. Bydd materion fel diwylliant, gwleidyddiaeth, cyfryngau, iechyd a gofal cymdeithasol, lles, ac ystod o ffactorau cymdeithasol yn cael eu harchwilio, gan gynnwys syniadau am fathau o anabledd, amrywiaeth cenedl, cynrychiolaethau cymdeithasol yn y wasg, cyfiawnder troseddol, cynaliadwyedd, grym a rheolaeth, gwaith aml-asiantaeth, rôl gofal cymdeithasol a lles, cyfiawnder a chynhwysiant cymdeithasol.
Mae gwir angen ymarferwyr proffesiynol i weithio gyda grwpiau ac unigolion sydd mewn perygl o gael eu hallgau. Mae dulliau asesu ar gyfer y radd hon – aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau seminar, adroddiadau, dyddiaduron adfyfyriol, taflenni a chofnodion fideo – yn cysylltu â datblygiad sgiliau cyflogadwyedd.
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • Mae’r radd hon yn ffocysu ar gymdeithaseg ar waith i ddarparu ecwiti a chydraddoldeb mewn cymdeithas. • Cyfleoedd i fynd ar leoliadau gwaith gyda chleientiaid mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn. • Staff sy’n ymchwilwyr gweithredol a hefyd yn ymgysylltu â damcaniaeth ac arfer yn y sector ochr yn ochr â gwŷr a gwragedd gwadd o amrywiaeth eang o sefydliadau. • Ystod o fodylau ar draws amrywiaeth o feysydd pwnc. • Cyfleoedd i archwilio damcaniaeth a pholisi ar waith drwy gyfleoedd i fynd ar leoliadau ac i wirfoddoli.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/israddedig/cyfiawndera-chynhwysiant-cymdeithasol
54
Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin
Iaith: Saesneg, Dwyieithog
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 80 o bwyntiau UCAS
Cymdeithaseg
90%
Cytunodd 90% o fyfyrwyr Cymdeithaseg, Polisi Cymdeithasol ac Anthropoleg YDDS bod staff yn dda am esbonio pethau - ACM 2018.
Cod UCAS: BA SOC1
Cod UCAS: DipHE SOC5
Cod UCAS: CertHE SLS1
55
Yr Athrofa
Eiriolaeth Mae’r rhaglen unigryw hon yn ymgorffori pwysigrwydd cynyddol eiriolaeth a ‘rhoi llais’ i’r rheiny nad ydynt yn awdurdodedig o fewn cymdeithas.
Gyda chyflwyniad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae yna ofyn statudol i wrando ar lais defnyddwyr gwasanaeth drwy ddefnyddio eiriolwyr, rhai hyfforddedig a rhai nad ydynt yn hyfforddedig. Mae eiriolaeth yn broses o gefnogi a galluogi pobl i: leisio eu barn a’u pryderon; cyrchu gwybodaeth a gwasanaethau; amddiffyn a hyrwyddo eu hawliau a’u cyfrifoldebau; ac, archwilio dewisiadau ac opsiynau.
Mae’r cwrs hwn yn gweddu’r rheiny sy’n gweld heriau systemau gofal a chymorth ac sy’n dymuno helpu’r rheiny nad ydynt yn gallu lleisio’u barn na chael gwell rheolaeth ar eu bywydau. Mae eiriolwyr proffesiynol annibynnol yn helpu pobl i ddatblygu eu llais, dewis a rheolaeth.
Gyrfaoedd
Mae’r ddadl ynghylch Polisi Cymdeithasol a darpariaeth gwasanaeth wedi amlygu’r angen am weithwyr proffesiynol sy’n gallu gwerthfawrogi sut y caiff polisïau cymdeithasol eu hail-lunio a’u newid yn gyson a’r cyfraniad at y prosesau hyn gan y rheiny sy’n dod o wahanol safleoedd gwerth a gwahanol gefndiroedd cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd.
56
Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin
Iaith: Saesneg, Dwyieithog
Lluniwyd y rhaglen hon i fod yn sylfaen gadarn i fyfyrwyr sy'n dymuno myned i alwedigaethau yn gweithio mewn amrywiaeth eang o feysydd yn y gymdeithas, er enghraifft: addysgu; iechyd a/neu ofal cymdeithasol; lleoliadau addysgol; gwasanaeth prawf; sefydliadau gwirfoddol; menter gymdeithasol; cymorth ieuenctid; addysg gymunedol; a gwasanaethau’r heddlu.
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • Cyfle i fynd ar leoliadau ym mlwyddyn 2 a 3. • Ystod o sgiliau trosglwyddadwy ac uchel eu parch sy’n ddefnyddiol ar gyfer gwaith ac astudiaethau pellach. • Cyfleoedd i astudio dramor. • Gellir astudio a chyflwyno gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg.
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 80 o bwyntiau UCAS
Eiriolaeth
40
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Mae'r cwrs yma yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18, neu www.colegcymraeg.ac.uk
Cod UCAS: BA 6X7S
Cod UCAS: DipHE ADV2
Cod UCAS: CertHE SLS1
57
Yr Athrofa
Gwaith Ieuenctid a Chymuned Mae’r rhaglen hon yn cynnig cymhwyster proffesiynol i weithio gyda phobl ifanc, sydd wedi’i danategu gan egwyddorion a gwerthoedd craidd gwaith ieuenctid. Hefyd, caiff ei hardystio gan ETS Cymru sy'n gymhwyster a gydnabyddir gan JNC, a gydnabyddir ar draws y byd.
120
Mae’r radd yn archwilio i sut i hwyluso a chefnogi twf pobl ifanc a’u datblygiad personol a phroffesiynol, mewn amrywiaeth o leoliadau ffurfiol ac anffurfiol. Fel rhaglen gymhwysol, mae lleoliadau’n rhan annatod o’r cwrs, a chânt eu cefnogi drwy asesu materion sy’n effeithio ar fywydau pobl ifanc yn feirniadol. Rhaid i fyfyrwyr gwblhau 800 awr o leoliadau gwaith maes asesedig yn ystod y rhaglen. Mae cymryd rhan yn y lleoliadau asesedig hyn yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr roi damcaniaeth a ddysgir mewn darlithoedd ar waith. Bydd myfyrwyr yn cofrestru ar Lefel 4, ac wrth gwblhau 120 credyd yn llwyddiannus ar bob lefel (Lefelau 4, 5 a 6) bydd myfyrwyr yn graddio gyda gradd BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid a Chymuned, a chymhwyster proffesiynol mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned sy’n cael ei ardystio gan ETS Cymru.
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Mae'r cwrs yma yn gymwys am Ysgoloriaethau y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18, neu www.colegcymraeg.ac.uk
58
Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin
Iaith: Cymraeg, Dwyieithog, Saesneg
Mae cwrs newydd cyffrous yn cael ei ddatblygu a bydd mwy o wybodaeth ar ein gwefan yn ystod 2019-2020.
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gwaith Ieuenctid a Chymuned
Gyrfaoedd:
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant?
Ymhlith y cyfleoedd gyrfa ac astudio a gaiff graddedigion y cwrs hwn, mae: • Gwaith ieuenctid a chymuned. • Swyddogion Lles Addysg, neu waith mewn canolfannau preswyl i blant a phobl ifanc. • Addysg gymunedol, cyfiawnder ieuenctid, asiantaethau gwirfoddol a Bwrdd Iechyd Lleol. • Astudiaethau/ymchwil ôl-radd • Gwaith Ymgysylltu â Theuluoedd, Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau, prosiectau ar gyfer pobl ifanc ddigartref.
100%
Teimla 100% o fyfyrwyr sy’n astudio’r cwrs hwn bod y cwrs wedi helpu eu datblygiad personol. ACM 2016
Gofynion Mynediad: 80 o bwyntiau UCAS
• Staff brwdfrydig, cefnogol a dwyieithog sy’n gymwys yn broffesiynol yn y maes sydd ag arbenigedd cydnabyddedig. • Y Drindod Dewi Sant yw’r unig le y gallwch astudio’r radd hon drwy gyfrwng y Gymraeg. • Mae gan y cwrs ffocws ymarferol a galwedigaethol, gyda llawer o gyfleoedd i ddysgu tu hwnt i'r ddarlithfa. Mae sesiynau ‘Gweithgareddau Dysgu drwy Brofiad’ yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr uwch sgilio. Wedi’i lleoli mewn canolfan ieuenctid leol, mae’r sesiynau hyn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd allweddol i gymryd rhan mewn cyfleoedd i gael achrediad pellach lle bo’n bosibl. • Pwyslais ar ddatblygiad personol a chymdeithasol unigol. Bydd myfyrwyr yn elwa o sesiynau addysgu mewn grwpiau bach mewn amgylcheddau dysgu cefnogol. • Cyfleoedd i astudio dramor. Am wybodaeth fanylach, ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/ba-gwaith-ieuenctid a-chymuned
Cod UCAS y BA: L592
59
Yr Athrofa
Gradd Sylfaen mewn
Addysg Gynhwysol Mae’r Radd Sylfaen yn rhaglen rhan amser tair blynedd lle cyflwynir sesiynau ar Sadyrnau a gyda’r nos, y cyfeirir ato fel cyfnos, lle defnyddir amrywiaeth o arddulliau dysgu.
Mae’r rhaglen yn cynnig ystod gynhwysfawr o fodylau generig sy’n addas ar gyfer y rheiny sy’n gweithio mewn ysgolion blynyddoedd cynnar, cynradd ac uwchradd. Mae’n cwmpasu modylau yn y gwaith a’r Brifysgol sy’n darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ystyried a dadansoddi materion addysgol cyfredol yn sgil eu hamgylchedd a phrofiadau yn yr ysgol. Mae ffocws y radd ar ddysgu seiliedig ar waith. Mae’n darparu cyfleoedd i gael yr wybodaeth pwnc ddiweddaraf ac archwilio ymchwil diweddar mewn meysydd pwnc. Enghreifftiau o'r mathau o themâu y gellir eu hastudio fyddai: goresgyn rhwystrau ac anawsterau dysgu penodol, archwilio ymddygiad ac ymyriadau mewn dysgu, anghenion ychwanegol mewn cyd-destun, egwyddorion dysgu ac addysgu, llythrennedd, cynhwysiant ar waith, dathlu iaith a diwylliant, iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc: a, cadw plant yn ddiogel.
Staff addysgu cefnogol iawn. Rwy’n falch bod gen i gefnogaeth ar y cwrs hwn ac rwy’n teimlo’n gyfforddus. Myfyriwr Lefel 6, Grŵp Caerfyrddin
60
Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin, Abertawe
Iaith: Cymraeg, Saesneg, Dwyieithog
Opsiynau Astudio: Rhan amser
Addysg Gynhwysol
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • Mae’r Radd Sylfaen mewn Addysg Gynhwysol yn gwrs rhan amser tair blynedd. Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gall rhaglen astudio hyblyg un flwyddyn arall arwain at BA (Addysg Gynhwysol). • Cyflwynir y rhaglen mewn ystod o gymunedau: e.e. Sir Benfro, Caerfyrddin, Abertawe ac Aberystwyth. • Cyflwynir sesiynau ar Sadyrnau a liw nos lle defnyddir amrywiaeth o arddulliau dysgu. Bydd y radd yn cynnwys modylau a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog, a chaiff myfyrwyr y cyfle i gyflwyno eu gwaith yn y Gymraeg neu Saesneg.
Gyrfaoedd: Cwrs dysgu seiliedig ar waith yw hwn. Ar ôl cael eu BA, mae rhai myfyrwyr yn mynd ymlaen i raglen TAR neu Feistr.
80
Gofynion Mynediad: Dysgu yn seiliedig ar waith
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Cod UCAS: IEFD
61
Yr Athrofa
Seicoleg Gymhwysol Ers cryn amser bellach, ystyrir bod Seicoleg ym mhob man o’n cwmpas ac y gellir ei gymhwyso i’n bywydau bob dydd.
Ar gyfer myfyrwyr seicoleg anrhydedd sengl mae’r dasg o gymhwyso seicoleg a throsglwyddo’r hyn rydych yn ei ddysgu yn ystod eich astudiaethau yn un anodd. Felly, nod sylfaenol y rhaglen gymhwysol hon yw ymgorffori modylau sy’n hyrwyddo dealltwriaeth wyddonol o’r rhyngweithio cymhleth rhwng y meddwl, yr ymennydd, ymddygiad a phrofiad, gyda phwyslais arbennig ar gymhwysiad ymarferol. Cafodd y modylau cymhwysol sy’n unigryw i’r cwrs hwn eu hysgrifennu'n dilyn trafodaethau gyda myfyrwyr presennol a blaenorol. Amlygodd y myfyrwyr y pynciau y bu iddynt eu mwynhau a’r rheiny roeddynt yn credu y byddent yn eu helpu i gael gwaith ar ôl cwblhau’r cwrs. Er enghraifft, un maes sydd wedi cael mwy o sylw'n ddiweddar yw troseddeg a seicoleg fforensig. Gyda nifer o bortreadau ohono yn y wasg, mewn llyfrau ac ar y teledu, mae myfyrwyr yn cael eu denu at y gangen hon o seicoleg.
Roedd y rhaglen yn hynod o ddiddorol ac amrywiol. Mae strwythur y cwrs yn dda ac amrywiol sy’n gallu eich arwain at lawer o wahanol yrfaoedd posibl.
Cassandra Dalton
BSc Seicoleg Gymhwysol
62
Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser
Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS
Seicoleg
Nod y BSc (Anrh) Seicoleg Gymhwysol, a achredir gan Gymdeithas Seicoleg Prydain, yw cynnig cyfle i fyfyrwyr astudio materion a phryderon sy’n berthnasol i Seicoleg yn yr 21ain ganrif drwy gymhwyso tystiolaeth a damcaniaeth seicolegol. Yn ystod eich tair blynedd, byddwch yn archwilio safbwyntiau niferus ar faterion seicolegol, gan gydnabod bod seicoleg yn cynnwys ystod o ddulliau ymchwil, damcaniaethau, tystiolaeth a chymwysiadau. Byddwch yn archwilio patrymau mewn ymddygiad, rhai normal ac annormal, swyddogaeth seicolegol a phrofiad trwy ymchwilio i rôl swyddogaeth yr ymennydd yn holl ymddygiad a phrofiad bodau dynol. Bydd cyfleoedd i ymgymryd ag astudiaethau empirig sy’n cynnwys amrywiaeth o ddulliau o gasglu data.
Gyrfaoedd Mae llawer o’n myfyrwyr wedi mynd ymlaen i astudiaethau ôl-radd mewn disgyblaeth sy’n gysylltiedig â seicoleg neu addysgu. Mae graddedigion yn mynd ymlaen i amrywiaeth o sectorau a rolau, gan gynnwys:
100%
Cytunodd 100% o fyfyrwyr Seicoleg Gymhwysol Y Drindod Dewi Sant eu bod wedi gallu cysylltu â staff pan fu angen. ACM 2018.
• AD • Gofal iechyd/GIG • Cyfryngau • Gweithiwr proffesiynol yn y diwydiant gofal • Gweithio gydag oedolion sydd ag anawsterau dysgu • Y Gwasanaeth Prawf • Gwasanaeth yr Heddlu Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/israddedig/seicoleg a-chwnsela/bsc-seicoleg-gymhwysol
Cod UCAS y BSc: L3C8
63
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
Busnes a Rheolaeth Ar gampws Caerfyrddin Y Drindod Dewi Sant, mae’r Gyfadran Busnes a Rheolaeth yn cynnwys yr Ysgol Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored ac Ysgol Fusnes Caerfyrddin.
64
Busnes a Rheolaeth
Mae cynaliadwyedd a chyflogadwyedd yn elfennau craidd o’r rhaglenni unigryw a gynigir gan yr Ysgol Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored ac Ysgol Fusnes Caerfyrddin. Mae mynediad at dirwedd wledig, arfordirol a mynyddig, yn ogystal â’i agosrwydd i dref Caerfyrddin, sy’n ganolfan fusnes a manwerthu fywiog, yn cynnig lleoliad delfrydol i astudio ynddo.
Antur Awyr Agored; BA Addysg Gorfforol; a, DIP AU Astudiaethau Nyrsio ac Iechyd.
Mae campws Caerfyrddin yn cynnig cyfleusterau chwaraeon gwych ac mae’n agos i fynyddoedd, afonydd, yr arfordir a chefn gwlad - lle perffaith i astudio chwaraeon, ffitrwydd, iechyd a’r awyr agored. Mae’n gartref i Ganolfan Iechyd a Heneiddio’r Brifysgol hefyd.
Mae lleoliadau gwaith a gwirfoddoli gyda gwahanol asiantaethau’n dechrau yn y tymor cyntaf ac yn cael eu datblygu ymhellach drwy’r gwahanol raglenni’n aml fel modwl dewisol neu orfodol. Hefyd, mae yna gyfle i ymgymryd â thaith gyfnewid ryngwladol am chwe mis yn yr Unol Daleithiau (Gogledd Carolina neu California) neu Norwy yn ystod yr ail flwyddyn.
Mae gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant dros 160 o flynyddoedd o brofiad yn cynnig rhaglenni chwaraeon, awyr agored a chysylltiedig ag iechyd. Ymhlith y cyrsiau sy’n cael eu cynnig drwy’r Ysgol Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored yng Nghaerfyrddin, mae: BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff; BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Maetheg Chwaraeon); BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Hyfforddiant Personol); BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Ffitrwydd Awyr Agored); BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Ffisioleg Ymarfer Corff Clinigol); BSc Therapi Chwaraeon; BSc Iechyd, Maetheg a Ffordd o Fyw; BA Addysg
Mae perthnasedd galwedigaethol yn thema gref sy’n tanategu’r holl raddau a chaiff myfyrwyr eu hannog yn gryf i gael profiad a chymwysterau ychwanegol i gefnogi eu huchelgeisiau gyrfaol.
Ymhlith y rhaglenni y gellir eu hastudio yn Ysgol Fusnes Caerfyrddin mae BA Busnes a Rheolaeth, BA Rheolaeth Menter Wledig, a BA Rheolaeth Diwydiannau Diwylliannol. Caiff y cyrsiau hyn eu tanategu gan ymagwedd foesol, cynaliadwy a phroffidiol at fusnes. Mae gan yr Ysgol ymagwedd flaengar a thrawsnewidiol at ddysgu a luniwyd i feithrin annibyniaeth a hunanbenderfyniad. Caiff myfyrwyr israddedig y cyfle i fynd i astudio dramor am semester yn America a Chanada.
65
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
Ysgol Fusnes Caerfyrddin Enillwyr gwobr Gŵn Gwyrdd yn y categori 'Gweithwyr Yfory' ar gyfer eu menter ‘Ailfeddwl Busnes ar gyfer Byd sy’n Newid’.
66
Busnes a Rheolaeth
Mae Ysgol Fusnes Caerfyrddin yn cynnig detholiad o gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig, mewn pynciau cysylltiedig â Busnes a Rheolaeth, sy’n cael eu tanategu gan ymagwedd foesegol, gynaliadwy a phroffidiol at fusnes. Yn y blynyddoedd diwethaf mae geiriau fel moeseg, cynaliadwyedd a chyfrifoldeb wedi trawsnewid o ddadlau damcaniaethol i ystyriaethau ymarferol iawn o fewn busnesau bach a mawr eu maint. Mae arfer busnes cynaliadwy wedi dod yn flaenoriaeth strategol allweddol ac mae sefydliadau wedi sylweddoli nid yn unig bod angen i arferion a modelau economaidd y dyfodol drawsnewid yn unol â deinameg newid cymdeithasol ac amgylcheddol, ond bod meddwl yn gynaliadwy, mewn gwirionedd, yn gwneud busnes yn fwy cystadleuol. Mae meddwl cynaliadwy wrth wraidd ein rhaglenni ac maent yn galluogi dysgwyr i herio patrymau presennol, cwestiynu patrymau newydd a dadlau ynghylch datrysiadau busnes a fydd yn eu paratoi at waith yn yr amgylchedd newidiol sydd ohoni yn yr 21ain ganrif.
100%
Cytunodd 100% o fyfyrwyr Ysgol Fusnes Caerfyrddin bod y cwrs wedi eu gwthio i gyflawni eu gwaith gorau. ACM 2018
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • Mae campws Caerfyrddin Y Drindod Dewi Sant yn darparu amgylchedd dysgu symbylus a chefnogol lle mae mannau dysgu o’r radd flaenaf ac adnoddau o ansawdd uchel yn cyfuno gyda lawntiau gwyrdd, mannau wedi’u tirlunio a lleoedd cymdeithasol hyblyg. • Mae gan yr Ysgol ymagwedd flaengar a thrawsffurfiol at ddysgu sy'n annog annibyniaeth a phenderfyniad yn ein dysgwyr. • Mae gan fyfyrwyr israddedig y cyfle i fynd am semester i astudio dramor, mewn prifysgolion yn UDA a Chanada. • Yng Nghaerfyrddin, rydym yn cynnig ymagwedd heriol mewn amgylchedd dysgu cefnogol a gyflwynir gan staff academaidd cymwys sy’n ymchwilio'n weithredol.
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
67
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
68
Busnes a Rheolaeth
PortffolioYsgol Fusnes Caerfyrddin Busnes a Rheolaeth Cod UCAS: BA 227W HND 231Y 40
Bydd myfyrwyr yn astudio meysydd busnes traddodiadol o safbwynt newydd gan gymryd i ystyriaeth heriau newid byd-eang yn ogystal ag archwilio cyd-destunau rhyngwladol ehangach.
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Rheolaeth Menter Wledig Cod UCAS: BA 238A HND 241L 40
Mae’r rhaglen BA Rheolaeth Menter Wledig yn darparu’r sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar raddedigion i helpu i siapio natur newidiol byd busnes o fewn cyd-destun gwledig. Bydd myfyrwyr yn astudio meysydd busnes traddodiadol o safbwynt newydd sy’n cymryd i ystyriaeth heriau menter wledig.
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Rheolaeth Diwydiannau Diwylliannol Cod UCAS: BA 235N HND 244Z
40
Mae’r rhaglen BA Busnes a Rheolaeth yn darparu’r sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar raddedigion i helpu i siapio natur newidiol byd busnes.
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Mae’r rhaglen BA Rheolaeth Diwydiannau Diwylliannol yn darparu’r sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar raddedigion i gyfrannu at dwf y sector diwydiannau creadigol a diwylliannol, sy'n datblygu'n sylweddol. Bydd myfyrwyr yn astudio busnes o safbwynt cynaliadwy a moesegol ar y cyd â modylau sy'n ffocysu ar ofynion penodol y sector diwydiannau creadigol a diwylliannol.
Mae'r cyrsiau hyn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18, neu www.colegcymraeg.ac.uk
Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin
Iaith: Saesneg, Dwyieithog
Opsiynau Astudio: Llawn amser
Gofynion Mynediad: 88 o bwyntiau UCAS
69
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
Chwaraeon,
Iechyd ac Addysg
Awyr Agored #DewisHer Mae’r Brifysgol yn cynnig portffolio cyffrous o gyrsiau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau chwaraeon, dulliau iach o fyw ac addysg antur awyr agored, gan ddarparu amrywiaeth eang o gyfleoedd a safbwyntiau.
70
...mae popeth rwy’n ei ddysgu yma yn fy helpu i yn bersonol a fy narpar yrfa, yn ogystal â'm helpu i ddeall faint sydd angen i hyfforddwr athletaidd ei wybod.
Ashley
Myfyriwr taith gyfnewid Y Drindod Dewi Sant ym Mhrifysgol Greensboro, Gogledd Carolina, UDA
Chwaraeon, Iechyd a’r Awyr Agored
Mae ein rhaglenni, sy’n seiliedig ar ymarfer ac yn cynnwys llawer o weithgareddau, wedi eu cynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn astudio Addysg Antur Awyr Agored, Therapi Chwaraeon, Addysg Gorfforol, Iechyd, Maeth a Dull o Fyw, Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Mae cyfuniad gofalus o ymarfer corfforol a danategir gan astudiaethau academaidd yn nodwedd sylfaenol o bob rhaglen astudio. Mae datblygiad cyrsiau'r Ysgol yn cael ei arwain gan bolisïau'r DU a Llywodraeth Cymru sy'n gysylltiedig â iechyd, cydlyniad cymdeithasol a phryder am lefelau isel o weithgarwch corfforol yn y boblogaeth. Mae'n amlygu ffocws cynhwysol a galwedigaethol yr holl gyrsiau. Mae rhaglenni Caerfyrddin yn defnyddio adnoddau naturiol gwych gorllewin Cymru. Mae yna gyfleoedd rhyngwladol cyffrous hefyd i astudio dramor yn Norwy, Canada a'r Unol Daleithiau (California a Gogledd Carolina). Gall myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Saesneg gyflwyno eu gwaith yn y Gymraeg ac mae rhai cyfleoedd ar draws y graddau eraill yn yr Ysgol i ddewis darpariaeth cyfrwng Cymraeg megis ar fodwl datblygu sgiliau proffesiynol. Mae sicrhau fod yr holl gyrsiau yn berthnasol ar gyfer cyflogadwyedd yn rhan annatod o'r ddarpariaeth ac yn cynnwys cyfleoedd ychwanegol i ddatblygu cymwysterau allanol a phroffesiynol (megis hyfforddi campfa, ymgynghori meddyg teulu, arweinydd mynydd, dyfarniad athro nofio) sy'n werthfawr i gyflogwyr a sefydliadau proffesiynol.
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • Mae perthnasedd galwedigaethol yn thema gref sy’n tanategu pob gradd ac anogir myfyrwyr yn gryf i gael profiad a chymwysterau ychwanegol i gefnogi eu huchelgeisiau gyrfaol. • Dechreua lleoliadau gwaith a gwirfoddoli gyda gwahanol asiantaethau yn y tymor cyntaf un ac fe’u datblygir ymhellach trwy gydol y gwahanol raglenni, yn aml fel modwl dewisol neu orfodol. • Ceir cyfle hefyd i ymgymryd â thaith gyfnewid ryngwladol am chwe mis yn UDA (Gogledd Carolina neu Galiffornia) neu Norwy yn ystod yr ail flwyddyn. • Mynediad am ddim i’r ystafell iechyd, neuadd chwaraeon a phwll nofio i gefnogi diddordebau gradd. • Mynediad at ganolfan gweithgareddau awyr agored a thrac beicio mynydd newydd o fewn taith fer ar droed o’r campws.
Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 10fed yn y DU am foddhad myfyrwyr mewn Gwyddor Chwaraeon. Complete University Guide 2018
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
71
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
Addysg Antur Awyr Agored Mae’r rhaglen Addysg Antur Awyr Agored yn gyfuniad o fodylau theori ac ymarferol a gynlluniwyd yn benodol i fodloni'r twf cynyddol mewn cyfleoedd gwaith yn y sector awyr agored.
40
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Mae'r cwrs yma yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18, neu www.colegcymraeg.ac.uk
72
Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin
Y mae'r campws wedi ei leoli o fewn 20 milltir yn unig i'r gorllewin o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac mae’n agos i lwybrau beiciau mynydd gwych Brechfa. Mae rhagor o gyfleoedd i feicio i lawr y ffordd yn Afan Argoed, Glyncorrwg a Pharc Beicio Cymru. Ar gyfer y rheiny sy’n caru’r dŵr, mae gennym bartneriaeth gyda chanolfan chwaraeon padlo lleol gyda mynediad rhagorol at offer a hyfforddiant hamdden a chystadleuol. Mae Penrhyn Gŵyr a Pharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro cyfagos yn cynnig cyfleoedd heb eu hail i wneud arforgampau, syrffio, ceufadu môr a dringo clogwyni. Ar y campws, mae myfyrwyr Addysg Antur Awyr Agored yn cael mynediad am ddim i'r pwll nofio, yr ystafell ffitrwydd a'r wal ddringo. Mae Undeb y Myfyrwyr yn darparu bob math o glybiau chwaraeon a gweithgareddau hamdden. Mae ein graddedigion Addysg Antur Awyr Agored yn dilyn amrywiaeth eang o yrfaoedd. Mae llawer yn mynd ymlaen i leoliadau i raddedigion gyda chanolfannau addysg awyr agored, yn dod yn hunangyflogedig neu’n cychwyn eu busnesau eu hunain, ac mae eraill yn ymuno â chynlluniau i raddedigion gyda sefydliadau neu wasanaethau fel y fyddin neu'r heddlu. Mae nifer o fyfyrwyr wedi cael swyddi yn dilyn lleoliadau gwaith llwyddiannus gyda’r gwasanaeth ieuenctid a chanolfannau awyr agored lleol. Mae eraill wedi cwblhau cyrsiau TAR a bellach yn gweithio mewn ysgolion cynradd neu uwchradd.
Iaith: Cymraeg, Saesneg, Dwyieithog
Opsiynau Astudio: Llawn amser
Cod UCAS y BA: 3L2N
Addysg Antur Awyr Agored
Cynefin
Canolfan Addysg Antur Awyr Agored Y Drindod Dewi Sant Mae Cynefin wedi’i lleoli ar safle werdd hyfryd ar gyrion Caerfyrddin, namyn 20 munud ar droed o’r campws. Mae’r safle’n gysgodlyd a diarffordd gydag ystod eang o gynefinoedd naturiol a mynediad at ddyfrffyrdd a llwybrau troed. Mae lleoliad y ganolfan yn berffaith ar gyfer dysgu am addysg antur awyr agored. Mae ganddi fynediad uniongyrchol i’r Afon Tywi; mae Llwybr Arfordir Cymru yn pasio trwy’r safle ac mae Ysgol Fforest ac ardal crefftau coedwriaeth wedi’u datblygu ynghyd â safle gwersylla. Hefyd, mae Cynefin yn gartref i ardal bywyd gwyllt enfawr sy’n rhan o safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SSSI). Gyda chymorth yr Ymddiriedolaeth Coetiroedd, rydym wedi plannu’n agos i 1000 o goed ar y safle, drysfa helyg ac ardaloedd o flodau gwyllt. Y datblygiad diweddaraf yw’r ardal sgiliau beiciau mynydd a adeiladwyd yn broffesiynol a thrac pwmp. Mae’r safle hwn yn datblygu o hyd i fodloni anghenion gyrwyr o bob oed a gallu. Cyn bo hir fe fydd yn bosibl seiclo oddi ar y ffordd o Gynefin i Fannau Brycheiniog. Nawr, rydym yn gweithio gyda chlybiau canŵio lleol i wella’r mynediad i’r afon ymhellach, a fyddai’n caniatáu i ni badlo o Gynefin i arfordiroedd Penrhyn Gŵyr a Sir Benfro. Mae Cynefin yn rhoi cyfle unigryw i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau a’u diddordebau eu hunain ac i weithio ochr yn ochr â’r gymuned leol. Mae’r safle’n cynnig lle am ystod o weithgareddau o gyflwyniad i seiclo i uwch feicio mynydd, o fordwyo sylfaenol i sgiliau rhaff technegol, o gyflwyniad i chwaraeon padlo i uwch ddiogelwch ac achub dŵr. Mae hyn oll yn caniatáu i ni wneud gwell defnydd o’n hamser yn y lleoliadau anhygoel yn y Parciau Cenedlaethol gerllaw a thu hwnt.
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • Lleoliad unigryw gyda mynediad gwych at fynyddoedd, clegyrau, arfordir, afonydd a llwybrau seiclo. • Sail adnoddau annibynnol gwych sydd â thrac beicio pwrpasol, mynediad at afon, ardal coedwriaeth a chyfleustra addysgu, o fewn taith fer ar droed o’r campws. • Cysylltiadau gwych gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol. • Cyfle i astudio dramor yn Norwy, Canada neu America. • Caiff nifer o ddyfarniadau gan gyrff llywodraethu eu hymgorffori yn y modylau a darperir dyfarniadau eraill am gyfraddau llawer yn llai. • Mae gan bob modwl gydran ymarferol a does dim arholiadau ysgrifenedig. • Rydym yn cynnig ystod eang o weithgareddau allgyrsiol gan gynnwys alldeithiau.
73
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
Addysg Gorfforol Mae’r radd hon wedi’i chynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd wedi adnabod addysgu Addysg Gorfforol (cynradd ac uwchradd), neu chwaraeon ieuenctid, fel gyrfa bosibl yn y dyfodol. 40
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Mae'r cwrs yma yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18, neu www.colegcymraeg.ac.uk
74
Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin
Mae’r holl feysydd ymarferol o arbenigedd a nodwyd yn y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gorfforol wedi’u cynnwys fel modylau craidd neu ddewisol. Mae gan y radd Addysg Gorfforol ffocws sylfaenol ar faterion dysgu ac addysgu gyda llawer o’r modylau’n cynnwys profiadau addysgu uniongyrchol gyda phlant. Caiff materion cynhwysiant, hawl a gwahaniaethu eu mewnosod mewn llawer o’r modylau, ac mae nifer o asesiadau’n gofyn i fyfyrwyr gynllunio a gwerthuso eu haddysgu nhw eu hunain ac eraill. Mae'r ffocws presennol sydd gan addysg gorfforol ar weithgareddau iechyd ac antur awyr agored yn cael ei gynrychioli’n gryf yng nghynnwys cyffredinol y radd. Y radd hon yw’r unig un o’i math yn yr ardal ac mae’n wahanol i raddau gwyddor chwaraeon neu astudiaethau chwaraeon eraill gan mai ei phrif ffocws yw cyflwyno i fyfyrwyr strategaethau dysgu ac addysgu cynhwysol er mwyn gallu darparu profiadau positif mewn addysg gorfforol i bobl ifanc.
Iaith: Cymraeg, Saesneg, Dwyieithog
Opsiynau Astudio: Llawn amser
Addysg Gorfforol
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • Cwrs unigryw yng Nghymru sydd â phrofiad addysgu ymarferol gyda phlant ym mhob un o dair blynedd yr astudiaethau. • Cyfleoedd i astudio dramor yn yr ail flwyddyn yng Nghaliffornia neu Ogledd Carolina. • Caiff nifer o ddyfarniadau gan gyrff llywodraethu eu hymgorffori mewn nifer o fodylau a ddarperir am gyfraddau llawer yn llai. • Gradd ragorol gyda hanes o ddilyniant i addysgu cynradd neu uwchradd. • Holl elfennau ymarferol y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gorfforol wedi’u cynnwys. • Mynediad rhad ac am ddim at yr holl gyfleusterau chwaraeon i gyfoethogi datblygiad personol a phroffesiynol. • Cyfle i fynd ymlaen i’r MA Addysg Gorfforol, Chwaraeon a Llythrennedd Corfforol.
100% Cytunodd 100% o fyfyrwyr bod staff wedi gwneud y pwnc yn ddiddorol. ACM 2018
94% Boddhad myfyrwyr. ACM 2018
Cod UCAS y BA: CX69
75
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
Astudiaethau Nyrsio ac Iechyd Mae Diploma AU Astudiaethau Nyrsio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn rhoi myfyrwyr ar y llwybr iawn at yrfa lwyddiannus.
76
Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin, Abertawe
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae e wedi fy helpu i gyflawni’r graddau roedd arna’i eu hangen i ddechrau fy ngradd nyrsio. Bu i mi fwynhau cwnsela, anatomeg a'r cyfle i wneud arfer yn y gweithle yn fawr iawn. Os oes wir arnoch chi eisiau cyrraedd eich goliau, fe fydd y cwrs hwn yn ateb y gofyn ac yn eich gwthio ymhellach.
Sharde Dovaston Un o’n graddedigion Astudiaethau Nyrsio ac Iechyd
Mae’r cymhwyster hwn yn ddelfrydol i fyfyrwyr na chawsant eu dewis lle gradd bwrsari GIG cyntaf naill ai o ganlyniad i’w graddau, eu perfformiad mewn cyfweliad neu brofiad gwaith perthnasol. Bydd staff Y Drindod Dewi Sant ar gael i weithio’n agos gyda phob myfyriwr, gan eich hyfforddi i lefel gradd yn y meysydd nyrsio perthnasol. Mae’r Llwybr Nyrsio’n rhoi i fyfyrwyr sgiliau mewn astudiaethau Nyrsio ac Iechyd. Mae’n cynnig y cyfle i fyfyrwyr ddeall a datblygu sgiliau sy’n gysylltiedig â nyrsio o fewn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r cwrs hwn yn darparu sylfaen werthfawr ar gyfer y rheiny sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn nyrsio neu faes cysylltiedig, ond nad oes ganddynt y sgiliau na'r cymwysterau angenrheidiol i gyrchu'r cwrs gradd perthnasol. Hefyd, mae gan y cwrs fannau gadael ar ddiwedd bob blwyddyn, gyda staff profiadol i helpu myfyrwyr wneud cais am radd eu dewis, gan gynyddu eu cyfle o gyrraedd y nod hwnnw.
Cod UCAS Dip AU: PS12 Gofynion Mynediad: 80 o bwyntiau UCAS
Rhoddir y cyfle i fyfyrwyr gael profiad yn y maes gyda Byrddau Iechyd lleol, yn y gymuned a gydag amrywiaeth o sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r sector Nyrsio/Iechyd. Er enghraifft, mae nifer o’n myfyrwyr yn gwirfoddoli gyda Phrosiect ‘Engage’ mewn ysbytai ar draws Abertawe. Mae’r myfyrwyr ar y cwrs yn cael y profiad proffesiynol a’r cymwysterau sydd eu hangen yn y sector. Caiff y modylau eu tanategu gan lefel uchel o drylwyredd academaidd. Mae darlithwyr cwrs yn parhau i ymgysylltu â diwydiant/busnesau fel y gallwn gynnig cyfleoedd gwirfoddoli/ lleoliad pwrpasol sy’n gysylltiedig â maes diddordeb y myfyriwr.
93%
Roedd 93% o fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant yn fodlon gyda’r addysgu ar eu cwrs nyrsio. ACM 2018
Cod UCAS Tyst AU: 852M Gofynion Mynediad: 32 o bwyntiau UCAS
77
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at y rheiny sy'n ymddiddori mewn chwaraeon, iechyd a gweithgarwch corfforol, ac yn dymuno dyfnhau eu dealltwriaeth o sut mae'r corff dynol yn gweithio.
78
Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin
Iaith: Saesneg, Dwyieithog
Opsiynau Astudio: Llawn amser
Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS
Chwaraeon, Iechyd a’r Awyr Agored
Mae ein portffolio o raddau Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn caniatáu i fyfyrwyr arbenigo mewn meysydd penodol, neu i barhau ar lwybr generig, yn unol â’u dyheadau. Ar ôl blwyddyn gyntaf gyffredin, gall myfyrwyr ddewis parhau ar y llwybr generig, neu ddewis un o’r llwybrau a ganlyn: Maetheg ar gyfer Chwaraeon; Ffisioleg Ymarfer Corff Clinigol; Hyfforddi Personol; neu, Ffitrwydd Awyr Agored.
Mae llwybrau arbenigol yn bodoli o fewn y portffolio gradd sy’n caniatáu i fyfyrwyr arbenigo mewn meysydd penodol.
Mae astudiaethau'r flwyddyn gyntaf yn generig ar draws y portffolio llwybrau gradd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, sy'n rhoi i fyfyrwyr sylfaen gref ym mhrif egwyddorion y pwnc, yn ogystal â'r amser i benderfynu a ydynt yn dymuno arbenigo mewn un llwybr penodol. Tri phwnc craidd ffisioleg, seicoleg a biomecaneg yw'r sylfeini, a chyflwynir y rhain drwy gyfuniad o ddarlithoedd ar theori wedi'u dilyn gan gyfle i gymhwyso'r wybodaeth honno'n ymarferol yn ein labordai gwyddor chwaraeon llawn offer. Bydd myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau ymarferol sy’n ofynnol i ddefnyddio offer fel: dadansoddwyr nwy; giatiau golau; platfformau grym; meddalwedd dadansoddi symudiad; a, dadansoddwyr cyfansoddiad y corff.
BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Maetheg ar gyfer Chwaraeon) Cod UCAS 129L
Ochr yn ochr â’r pynciau craidd, mae’r radd yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr astudio egwyddorion hyfforddi ac ymarfer corff, maeth, gweithio gyda phoblogaethau penodol, a phob agwedd ar weithgarwch corfforol, iechyd a lles. Mae nifer o gyfleoedd yn bodoli i fyfyrwyr nid yn unig gael dyfarniadau galwedigaethol fel hyfforddwr campfa a hyfforddwr personol, ond hefyd i roi’r rhain ar waith drwy weithio gydag ystod eang o gleientiaid. Mae llawer o’n myfyrwyr yn hyfforddwyr personol sefydledig ac arbenigwyr ymarfer corff erbyn iddynt raddio.
40
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Mae'r cyrsiau hyn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18, neu www.colegcymraeg.ac.uk
BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Cod UCAS 125L
BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Hyfforddi Personol) Cod UCAS 128L BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Ffitrwydd Awyr Agored) Cod UCAS 127L BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Ffisioleg Ymarfer Corff Clinigol) Cod UCAS 126L Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? Ymhlith y 10 cwrs Gwyddor Chwaraeon gorau yn y DU am foddhad myfyrwyr. Cyfle i fod ar y Gofrestr o Weithwyr Proffesiynol Ymarfer Corff (REPs). • Defnydd o gyfleusterau hyfforddi ffitrwydd pwrpasol a labordai gwyddor ymarfer corff. • Cyfleoedd i weithio gyda chleientiaid a sefyllfaoedd bywyd go iawn. • Ystod o opsiynau modylau ar draws amrywiaeth o feysydd pwnc. • •
79
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
Iechyd, Maeth a Ffordd o Fyw Mae maeth yn chwarae rhan bwysig wrth gynnal a gwella iechyd. Mae’r rhaglen BSc Iechyd, Maeth a Ffordd o Fyw wedi’i hanelu at y rheiny sy’n dymuno gweithio mewn lleoliad cymunedol, i wella iechyd a ffordd o fyw gyda phwyslais allweddol ar faeth. Mae’r radd yn archwilio iechyd o safbwynt maethol, fodd bynnag, mae hi hefyd yn cynnwys astudio ymarfer corff, ffactorau ffordd o fyw eraill a chlefydau cronig.
Heb y radd mewn Iechyd, Maeth a Ffordd o Fyw, ni fyddai’r swyddi hyn (Ymarferydd Cynorthwyol Dieteteg a Phrif Swyddog Iechyd Cymunedau yn Gyntaf) wedi bod yn gyraeddadwy. Magais hyder a’r gallu i gredu yn yr hyn roeddwn wedi’i ddysgu. Cefnogwyd hyn gan y cariad a’r brwdfrydedd oedd gan y darlithwyr at y pwnc.
Kate
Un o’n Graddedigion BSc (Anrh) Iechyd, Maeth a Ffordd o Fyw
Defnyddir meddalwedd arbenigol i ymgymryd â dadansoddiad dietegol a chynllunio prydau. Bydd myfyrwyr hefyd yn defnyddio’r labordy perfformio dynol i asesu lefelau iechyd a ffitrwydd unigolion. Ymhlith y meysydd a astudir mae maeth ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corff, seicoleg a pholisi cyhoeddus. Caiff y rhaglen ei threfnu dros dri diwrnod o’r wythnos.
80
Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin
Iaith: Saesneg, Dwyieithog*
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Chwaraeon, Iechyd a’r Awyr Agored
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • Mae modylau ymarferol yn eich caniatáu i gael profiad o weithio o fewn y gymuned. • Mae myfyrwyr yn gymwys i wneud cais i gofrestru gyda’r Gymdeithas Maeth ar ôl graddio. • Cyfleoedd i gael dyfarniadau galwedigaethol ychwanegol (e.e. cymorth cyntaf, hyfforddwr campfa, hyfforddwr personol). • Opsiwn i astudio semester dramor (America) trwy ein rhaglen gyfnewid (ar gael yn yr ail flwyddyn). • Modwl lleoliad gwaith ar gael yn yr ail flwyddyn.
Gyrfaoedd Mae ein graddedigion yn dilyn amrywiaeth o yrfaoedd ac astudiaethau pellach, gan gynnwys: • Ymarferydd Cynorthwyol Dieteteg (GIG) • Cynorthwyydd Dieteteg (GIG) • Athro ysgol uwchradd (Technoleg Dylunio) yn dilyn TAR • Ymgynghorydd Ffordd o Fyw Iechyd (Meddygfa Teulu) • Prif Swyddog Iechyd • Swyddog Lles Cymunedol • Swyddog Ymgysylltu 50+ • Astudiaethau ôl-raddedig (e.e. MSc mewn Maetheg ac Ymarfer Corff neu Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff) • TAR *Gellir astudio rhai modylau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cod UCAS y BSc: LB54
Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS neu’n amodol ar gyfweliad
81
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
Therapi Chwaraeon Hon yw’r unig radd Therapi Chwaraeon yng Nghymru a achredir gan y Gymdeithas Therapyddion Chwaraeon, ac fe’i cynlluniwyd gyda'r bwriad o addysgu ymarferwyr cymwys ym mhob agwedd ar Therapi Cyhyrysgerbydol. 40
Bydd myfyrwyr ar y rhaglen astudio hon yn dysgu mewn lleoliad ymarferol gyda digonedd o addysgu ymarferol mewn Ystafell Therapi Chwaraeon a Chanolfan Adsefydlu bwrpasol. Mae'r staff yn Therapyddion Chwaraeon Graddedig profiadol, sydd wedi gweithio ym maes chwaraeon proffesiynol, lledbroffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol dros nifer o flynyddoedd. Gall y Therapyddion Chwaraeon Graddedig asesu, gwneud diagnosis, trin ac adsefydlu anafiadau cyhyrysgerbydol a geir o fewn yr amgylchedd chwaraeon ac ymarfer corff.
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Mae'r cwrs yma yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18, neu www.colegcymraeg.ac.uk
82
Cwrs: Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin
Iaith: Saesneg, Dwyieithog
OpsiynauAstudio: Astudio: Gofynion Mynediad: Opsiynau Llawnamser, amserRhan amser 112 o bwyntiau Llawn
Chwaraeon, Iechyd a’r Awyr Agored
• • • • • • •
Gofynion Mynediad: 112 o bwyntiau UCAS
Cod UCAS y BSc: BC61
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant?
Caiff Therapi Chwaraeon ei astudio ar gampws Caerfyrddin sy’n cynnig profiad dysgu cyfeillgar a phersonol. Mae’r holl gyfleusterau cymdeithasol, adloniadol ac addysgol ar y campws hwn, er y bydd rhai profiadau dysgu ymarferol wedi’u lleoli ar draws Sir Gâr a De Orllewin Cymru. Mae staff darlithio hefyd wedi’u lleoli ar gampws Caerfyrddin ac mae’n hawdd cysylltu â nhw i’ch cefnogi gyda phob agwedd ar eich astudiaethau. Mae Undeb y Myfyrwyr yn darparu bob math o glybiau chwaraeon a gweithgareddau hamdden yn ogystal â chefnogi eich anghenion cymdeithasol. Yn ogystal â’r prif sgiliau sydd eu hangen ar Therapydd Chwaraeon bydd myfyrwyr hefyd yn cael y sgiliau sydd eu hangen i gynnal asesiadau ffitrwydd ac iechyd ac yn cael y cyfle i ymgymhwyso fel hyfforddwyr campfa a hyfforddwyr personol. Mae cynnal a deall ymchwil hefyd yn sgil allweddol a ddatblygir trwy gydol y radd a chaiff myfyrwyr eu herio’n gyson i adolygu’n feirniadol yr ymchwil diweddaraf a chynnal eu hastudiaethau eu hunain. Yn y flwyddyn olaf, bydd myfyrwyr yn cynllunio a chynnal eu prosiect ymchwil eu hunain mewn maes arbenigol o’u dewis. Ar ôl graddio, bydd gan fyfyrwyr y wybodaeth, sgiliau a hyder i weithio fel rhan o dîm neu’n annibynnol fel Therapydd Chwaraeon.
83
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Caerfyrddin Greadigol Bydd Canolfan S4C Yr Egin yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr weithio gyda nifer o gwmnïau sydd ag arbenigedd yn y diwydiannau creadigol a digidol.
84
Caerfyrddin Creadigol
Byddwch yn rhan o ganolfan greadigrwydd gyfoethog a bywiog yng Nghaerfyrddin, lle mae egni diwylliannol a harddwch naturiol ysbrydoledig yn cwrdd â dynamiaeth digidol a chydweithio creadigol.
Mae cymysgedd unigryw Caerfyrddin o bynciau, sy’n cyfuno celfyddydau creadigol a seiliedig ar berfformio a ffilm a chyfryngau digidol uwch-dechnoleg, wedi helpu i greu cymuned ddysgu sy’n ddynamig, arloesol a chyffrous. Canolbwynt y ddarpariaeth yw Canolfan S4C Yr Egin, pair creadigol ar gyfer ymarferwyr ac entrepreneuriaid sydd wedi’i leoli mewn adeilad trawiadol ac eiconig ar gampws Caerfyrddin. Bydd y ganolfan newydd gyffrous hon yn gartref i brif bencadlys S4C yn ogystal â nifer o gwmnïau a sefydliadau eraill sy’n gweithio o fewn y diwydiannau creadigol a digidol. Bydd Yr Egin yn gyfle i feithrin y dalent greadigol orau un yng Nghymru, gan gynnig profiadau a chyfleoedd gwaith gwerth chweil i unigolion dawnus sy’n bwriadu gweithio yn y diwydiannau creadigol. Mae myfyrwyr a meysydd pwnc yn cymysgu mewn ffordd ddiddorol ac arloesol yng Nghaerfyrddin i gynhyrchu gwaith cydweithredol sy’n wreiddiol, amlddisgyblaeth, trawsgyfrwng a ‘chydgysylltiedig’. P’un a ydych yn actor neu’n ddawnsiwr, yn artist neu’n ddylunydd llwyfan, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â, a gydag, ysgrifenwyr creadigol, gwneuthurwyr ffilmiau, cynhyrchwyr cyfryngau newydd, gwneuthurwyr pypedau a dylunwyr theatr. Cynhyrchir egni a dawn greadigol trwy doddi ffiniau a rhwystrau disgyblaeth traddodiadol. Caiff brwdfrydedd unigol ei annog a’i ddatblygu gan ymagwedd at ddysgu ac astudio sy’n eich paratoi at y diwydiant. Ymunwch â ni yng Nghaerfyrddin i archwilio i’ch creadigrwydd, ymestyn eich gwybodaeth a datblygu’ch sgiliau.
Bydd y Brifysgol yn lansio cyfres o raglenni creadigol newydd yn ystod 2019-2020.
85
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Ffilm a'r Cyfryngau Digidol Graddau unigryw a gyflwynir mewn cyfadran fodern, a gynlluniwyd yn bwrpasol ar gampws Caerfyrddin.
86
Ffilm
Mae ein lleoliad yng Ngorllewin Cymru yn unigryw. Mae ein myfyrwyr ffilm a chyfryngau wedi cael eu hysbrydoli gan harddwch y tirlun a’r arfordir, a’r cyfleoedd y mae’n eu rhoi i’r rheiny sy’n ymddiddori mewn ffilmio’r amgylchedd, bywyd gwyllt, chwaraeon a diwylliant. Mae ein dosbarthiadau wedi’u lleoli mewn ystafell bwrpasol yn Adeilad Addysgu a Dysgu newydd y Brifysgol, sy’n cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf a golygfeydd dros y cefn gwlad o’i gwmpas. Mae’r rhaglen Cynhyrchu Ffilmiau Antur yn unigryw yn y DU, ac mae’n defnyddio tirlun Gorllewin Cymru a’r ystod eang o weithgareddau awyr agored sy’n digwydd yn yr ardal. Mae yna gyfleoedd gwych i ffilmio chwaraeon eithafol, bywyd môr a bywyd gwyllt, tir arfordirol a mynyddig, gyda mewnbwn drwy gydol y radd gan weithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y meysydd hyn.
gyfleusterau a chyfleoedd rhwydweithio gwych i’n myfyrwyr gyda’r cwmnïau a fydd yn defnyddio’r ganolfan. Mae’r mewnbwn a gafwyd gan weithwyr proffesiynol sy’n gysylltiedig â’r ganolfan wedi bod yn bwysig iawn i ni, wrth sicrhau bod ein graddau yn cynnig yn union beth sydd ei angen ar y diwydiant modern gan raddedigion. Mae alldeithiau a theithiau maes yn rhan ganolog o’n graddau. Maent yn caniatáu i fyfyrwyr gael profiad o ffilmio mewn amrywiaeth o leoliadau ac amodau. Gall yr alldeithiau hyn fod yn rhan o’ch gwaith gradd asesedig, ond rydym yn annog myfyrwyr i fynychu’r teithiau ychwanegol niferus a drefnwn yn ystod y flwyddyn, sydd yn aml yng nghwmni gwneuthurwyr ffilmiau arbenigol. Rydym hefyd yn mynd ar deithiau rheolaidd i stiwdios cwmnïau cynhyrchu mawr, i roi gwir gipolwg i fyfyrwyr o sut beth yw gweithio yn y diwydiant.
Mae’r radd Cynhyrchu Ffilmiau yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen mewn diwydiant modern ac i ymgysylltu â chwmnïau cynhyrchu’r cyfryngau. Mae ymgysylltu â’r diwydiant yn rhan annatod o holl agweddau ar ein rhaglenni. Gall hyn fod ar ffurf lleoliadau gwaith, prosiectau ar gyfer cleientiaid allanol, gwaith ar brosiectau ffilm, neu ymgysylltu â’r gweithwyr proffesiynol niferus yn y diwydiant a fydd yn cynnig eu harbenigedd yn ystod y rhaglenni. Rydym yn ffodus iawn bod pencadlys newydd S4C drws nesaf i’n hadeilad ni. Mae Yr Egin yn cynnig ystod o
Am wybodaeth fanylach: www.ydds.ac.uk/cy/israddedig/ffilm-a-chyfryngau-digidol
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
87
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Cynhyrchu Ffilmiau Mae’r radd Cynhyrchu Ffilmiau yn cynnig i fyfyrwyr y cyfle i arbenigo yn y maes cynhyrchu o’u dewis, ac i gael y sgiliau cyflogadwyedd sydd eu hangen ar y diwydiant. Mae’r radd Cynhyrchu Ffilmiau yn cyfuno damcaniaeth ac arfer i ganiatáu i fyfyrwyr gynhyrchu cynnwys ffilm a chyfryngau creadigol a gwybodus. Hefyd, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ymgysylltu â chanolfan Yr Egin, sydd wedi’i lleoli drws nesaf i’n hadeilad. Mae’r radd yn rhoi i fyfyrwyr y sgiliau arbenigol a’r wybodaeth sydd eu hangen i greu cynnwys ar gyfer y diwydiant ffilm a chyfryngau cyfoes. Bydd myfyrwyr yn cael eu tywys
88
Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin
Iaith: Saesneg*
trwy brif agweddau technegol cyngynhyrchu, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu, cyn cymhwyso’r rhain i’w prosiectau eu hunain. Mae’r pwyslais ar sgiliau galwedigaethol a chyflogadwyedd yn galluogi myfyrwyr i lunio portffolio o waith yn eu maes arbenigol, gan eu galluogi i gystadlu am waith yn eu dewis faes. Hefyd, mae sgiliau entrepreneuriaeth wedi’u mewnosod i’r rhaglen, gan baratoi myfyrwyr ar gyfer gweithio’n hyderus ar eu liwt eu hunain yn niwydiant yr oes sydd ohoni. Mae yna gyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith, ac i gynhyrchu gwaith ar gyfer cleientiaid allanol mawr, sy’n galluogi i fyfyrwyr ddechrau adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau yn y diwydiant. Ni fydd yr addysgu’n cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd ffurfiol, ond drwy weithdai a seminarau, alldeithiau a phrosiectau, sy’n aml yn cynnwys gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant. Hefyd, mae cyfleodd ychwanegol yn cael eu cynnig drwy gydol y flwyddyn, i’r rheiny sy’n dymuno cael mwy o brofiad i feithrin eu portffolio a’u CV.
Opsiynau Astudio: Llawn amser
Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau UCAS
Gwneud Ffilmiau
Cynigodd y modwl Lleoliad Gwaith gyfle i mi weithio mewn stiwdio fawr ar gynhyrchiad rhyngwladol mawr, ac i wneud llawer o gysylltiadau defnyddiol.
Lowri Bevan
Un o raddedigion Ffilm a Chyfryngau Caerfyrddin
*Cyfleoedd dwyieithog ar gael.
Am wybodaeth fanylach: www.ydds.ac.uk/cy/israddedig/ffilm-a-chyfryngau-digidol
Cod UCAS y BA: FM01
89
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Cynhyrchu Ffilmiau Antur Mae’r radd Cynhyrchu Ffilmiau Antur yn unigryw yn y DU, gydag ystod eang o diroedd a phrofiadau gerllaw, yn cynnig amrywiaeth gwych o gyfleoedd ffilmio i fyfyrwyr. Cynlluniwyd y rhaglen hon i roi i fyfyrwyr y sgiliau arbenigol a galwedigaethol sydd eu hangen arnynt i weithio yn y maes deinamig a chymharol newydd hwn o’r diwydiannau ffilm a ffotograffiaeth. Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i’r sgiliau cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu craidd sydd eu hangen i gynhyrchu cynnwys ffilm a chyfryngau seiliedig ar antur. Bydd nifer o alldeithiau a phrosiectau, yn ogystal â dosbarthiadau ffurfiol, a fydd yn
90
Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin
Iaith: Saesneg*
caniatáu i fyfyrwyr gael profiad o weithio mewn amrywiaeth o amgylcheddau a meysydd. Gall y rhain ymestyn o chwaraeon eithafol a chwaraeon moduro, i ffilmio bywyd gwyllt, ffilmio tirlun ac arfordir, a ffilmio awyrol. Wrth i fyfyrwyr wneud cynnydd, gallent arbenigo mewn maes o’u dewis; erbyn y flwyddyn olaf, gall myfyrwyr weithio ar brosiect mawr unigol yn eu dewis faes, gyda mewnbwn arbenigol gan ymarferwyr o bwys. Mae sgiliau entrepreneuraidd a galwedigaethol yn elfen greiddiol o brofiad myfyrwyr, gan alluogi i raddedigion fynd i mewn i’r diwydiant yn hyderus fel gweithwyr llawrydd ac i hyrwyddo ac arddangos eu gwaith. Ni fydd yr addysgu’n cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd ffurfiol, ond drwy weithdai a seminarau, alldeithiau a phrosiectau, sy’n aml yn cynnwys gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant. Hefyd, mae cyfleodd ychwanegol yn cael eu cynnig drwy gydol y flwyddyn, i’r rheiny sy’n dymuno cael mwy o brofiad i feithrin eu portffolio a’u CV.
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau UCAS
Ffilm
Mae Steven Clarey yn un o brif ffigyrau cynhyrchu ffilmiau a ffotograffiaeth antur. Graddiodd Steven gyda ni yn 2013, ac ar hyn o bryd mae’n llysgennad Ewrop ar gyfer Panasonic. Bu’n arwain lansiad Panasonic o’r Lumix GH5 eleni – edrychwch ar yr hysbyseb (‘The One Making The Waves’) a wnaeth gyda’r cwmni ar-lein!
*Cyfleoedd dwyieithog ar gael.
Am wybodaeth fanylach: www.ydds.ac.uk/cy/israddedig/ffilm-a-chyfryngau-digidol
Cod UCAS y BA: AF01
91
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Astudiaethau Cyfathrebu Archwiliwch y rôl y mae cyfathrebu’n ei chwarae yn y byd gyda’r rhaglen radd ymarferol hon. Archwiliwch y cyfryngau yn ei ystyr ehangaf pan fyddwch yn astudio ein BA Astudiaethau Cyfathrebu. Bydd y cwrs hwn, sy’n cyfuno cynhyrchu’r cyfryngau, ysgrifennu a chyhoeddi, yn rhoi i chi ystod eang o sgiliau mewn creu cynnwys y cyfryngau ar gyfer yr 21ain ganrif. Byddwch yn rhan o gymuned greadigol ryngddisgyblaethol ac yn cael y cyfle i ymgysylltu â chanolfan y cyfryngau, Canolfan S4C Yr Egin, sydd wedi’i lleoli ar gampws Caerfyrddin.
92
Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin
Opsiynau Astudio: Llawn amser
Bydd staff arbenigol sydd â gwybodaeth o gynhyrchu ffilm, ysgrifennu cymhwysol a chreadigol, a’r diwydiant cyhoeddi’n eich tywys. Mae sgiliau entrepreneuraidd wedi’u mewnosod yn y rhaglen, gan eich paratoi i weithio’n hyderus yn nhirlun cyfathrebu'r oes sydd ohoni a’r oes i ddod. Mae yna gyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith, ac i gynhyrchu gwaith ar gyfer cleientiaid allanol, sy’n galluogi i fyfyrwyr ddechrau adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau yn y diwydiant. Bydd yr addysgu’n digwydd drwy weithdai ymarferol ac mewn seminarau grŵp bach.
Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS
Cod UCAS: CST1
Cyfathrebu a Newyddiaduraeth
Newyddiaduraeth Mewn byd ôlwirionedd, mae rôl y newyddiadurwr yn bwysicach nag erioed. Bydd ein gradd BA Newyddiaduraeth yn rhoi ichi brofiad ymarferol mewn ystod o sgiliau newyddiadurol sy’n ffocysu ar sut i fod yn newyddiadurwr a golygydd cyfrifol ar draws ystod o blatfformau traddodiadol a newydd. Byddwch yn rhan o gymuned greadigol ryngddisgyblaethol fywiog ac yn cael y cyfle i ymgysylltu â chanolfan y cyfryngau, Canolfan S4C Yr Egin, sydd wedi’i lleoli ar gampws Caerfyrddin.
Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin
Opsiynau Astudio: Llawn amser
Bydd staff arbenigol sydd â gwybodaeth o brint traddodiadol a phlatfformau aml-gyfrwng newydd ar gyfer cynnwys newyddiadurol yn eich tywys drwy eich astudiaethau. Byddwch yn datblygu ystod eang o sgiliau mewn creu a chynhyrchu cynnwys. Bydd sgiliau galwedigaethol a ddatblygir ar y radd yn eich paratoi at waith mewn diwydiant sy’n newid yn gyflym. Mae yna gyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith, ac i gynhyrchu gwaith ar gyfer cleientiaid allanol, sy’n eich galluogi i ddechrau adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau yn y diwydiant. Bydd yr addysgu’n digwydd drwy weithdai ymarferol ac mewn seminarau grŵp bach.
Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS
Cod UCAS: JLM1
93
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Celfyddydau Perfformio Caerfyrddin Hyfforddiant galwedigaethol ar gyfer eich dyfodol
Bydd ein myfyrwyr yn datblygu sgil a thechneg uwch mewn amgylchedd heriol sy’n ffocysu ar y diwydiant. Trwy eu hyfforddiant, byddant yn creu cysylltiadau amhrisiadwy gydag ymarferwyr proffesiynol a fydd yn darparu porth i mewn i’r diwydiant perfformio wedi iddynt raddio.
Mae Celfyddydau Perfformio (Caerfyrddin) yn cynnig hyfforddiant ymarferol mewn actio, dawnsio a dylunio a chynhyrchu theatr.
Rydym yn gwneud ein gorau i ddatblygu ein myfyrwyr fel unigolion a mowldio cynnwys y cwrs a dulliau asesu i gefnogi eu huchelgeisiau yn y dyfodol. Golyga’r lefel uchel o gyswllt gyda staff bod y myfyrwyr yn cael hyfforddiant dwys mewn amgylchedd cefnogol. Mae iechyd a lles ein myfyrwyr yn ffocws ar bob cwrs, gan sicrhau bod myfyrwyr yn barod i berfformio a chyrraedd rhagoriaeth yn eu dewis faes astudio.
93%
94
Roedd 93% o fyfyrwyr Celfyddydau Perfformio Caerfyrddin yn fodlon gyda'r addysgu ar eu cwrs. NSS 2016
Rydym yn ymrwymo i arddangos gwaith ein myfyrwyr ar ystod eang o blatfformau perfformio. Nid yw’n anghyffredin i’n gweld ni’n perfformio ar draws Cymru a’r DU mewn theatrau proffesiynol a lleoliadau safle benodol. Bydd cyfleoedd yn cael eu cynnig i fyfyrwyr i fynd ar leoliadau a fydd yn cyfoethogi eu profiad hyfforddi gydag ystod o ymarferwyr proffesiynol o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol. Mae ein rhaglenni proffesiynol a arweinir gan arfer yn rhoi i fyfyrwyr set sgiliau cryf ac yn eu paratoi i ddechrau gyrfa yn y celfyddydau.
Y Celfyddydau Perfformio
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • Mae’r cyfleusterau’n cynnwys gweithdy golygfeydd llawn offer, stiwdios gwisgoedd a dylunio, gweithdy mawr a mannau ymarfer, stiwdios dawns arbenigol a dau leoliad theatr ar y safle. • Staff ymrwymedig sy’n berfformwyr profiadol ac uchel eu parch, cyfarwyddwyr, dylunwyr theatr ac ymchwilwyr. • Rhyngweithio ac ymgysylltu ag ymarferwyr proffesiynol o ddiwrnod cyntaf eich hyfforddiant o fewn rhaglen ddarlithio gwadd. • Manteisio ar y cyfle i dreulio semester dramor mewn prifysgolion yn UDA. • Mae cyflogadwyedd ac entrepreneuriaeth ar reng flaen cynnwys y cwrs, lle bydd pob modwl yn rhoi i fyfyrwyr y sgiliau i ddatblygu.
Gallech weithio gyda’r ymarferwyr a chwmnïau a ganlyn: • • • • • • • • • • • • • • • • • • • • •
Am wybodaeth fanylach: www.ydds.ac.uk/cy/israddedig/celfyddydau-perfformio
2Faced Dance National Theatre Wales National Dance Company of Wales Leviathan Workshop Theatr Na N’Og Yvonne Murphy Carri Munn Kev McCurdy Welsh National Opera Chelsey Gillard Small World Theatre Ioan Hefin Mappa Mundi Media to Motion Kapow Dance Kiani Del Valle Keiron Self Daniel Lloyd Suzanne Phillips The Other Room Geinor Styles
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
95
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Actio Cwrs ymarferol sy’n hyfforddi actorion yfory. Lluniwyd y radd BA Actio i ddatblygu eich sgiliau fel eich bod yn graddio fel gweithwyr proffesiynol sy’n barod am y diwydiant.
I wneud hynny, byddwch yn cydweithio ag ymarferwyr theatr o wahanol ddisgyblaethau gan greu amgylchedd llawn anogaeth a chefnogaeth lle gall myfyrwyr archwilio ac arbrofi’n ddiogel. Mae archwilio sgiliau perfformio ymarferol, datblygu cysylltiadau gydag ymarferwyr y diwydiant a meithrin entrepreneuriaeth wrth galon yr hyfforddiant hwn.
Rwyf yn edrych ymlaen gymaint at weld i ble y bydd fy ngyrfa’n mynd nesaf, gan wybod fy mod wedi cael hyfforddiant sydd wedi fy mharatoi ar gyfer gyrfa gyffrous fel perfformiwr.
Josephine Wilson
Un o raddedigion BA Actio
96
Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin
Iaith: Saesneg (Cyfleoedd dwyieithog ar gael)
Opsiynau Astudio: Llawn amser
Y Celfyddydau Perfformio
95% Cytunodd 95% o fyfyrwyr Celfyddydau Perfformio Y Drindod Dewi Sant bod staff wedi gwneud y pwnc yn ddiddorol. ACM 2017
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • Dysgwch gan, a chydweithiwch gydag, ymarferwyr proffesiynol hyfforddedig, profiadol sydd wedi gweithio ar lwyfan, teledu a ffilm. • Gweithio gyda myfyrwyr eraill i greu darnau artistig. • Gweithio ar ystod o gyfryngau, o fonologau, dramâu cyfnod, yr absẃrd, Shakespeare a chynyrchiadau cyfoes. • Mae pob asesiad yn ymarferol, wedi’i seilio ar berfformiadau. • Gallwch astudio dramor yn yr Unol Daleithiau. • Mae cwmnïau theatr teithiol yn ymweld â’r Brifysgol yn rheolaidd. • Cyfleusterau rhagorol gan gynnwys Theatr yr Halliwell sydd â 375 sedd a stiwdios a gweithdai cysylltiedig.
Gofynion Mynediad: Rhaid mynychu clyweliad
Cod UCAS y BA: W410
97
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Dawns Creu Rhagoriaeth mewn Artistiaid ac Ymarferwyr Dawns y Dyfodol.
Mae BA Dawns yn rhaglen seiliedig ar arfer a gynlluniwyd i baratoi myfyrwyr at yrfaoedd fel artistiaid dawns y dyfodol ac fe’i cyflwynir gan rai o artistiaid ac ymarferwyr dawns mwyaf blaenllaw Cymru.
Mae BA Dawns yn rhaglen seiliedig ar arfer a gynlluniwyd i baratoi myfyrwyr fel unigolion at yrfa yn y diwydiant dawns.
Mae’r rhaglen yn ffocysu ar dair prif ffrwd: techneg a pherfformio, coreograffi ac iechyd a lles dawns. Bydd myfyrwyr yn caffael ystod o sgiliau arbenigol a phrofiad ymarferol ym mhob maes, yn ogystal â chael gwybodaeth gyfoes berthnasol o arfer dawns cynhwysol. Caiff yr holl sgiliau ymarferol eu tanategu gan yr ymagweddau damcaniaethau a chysyniadol perthnasol.
Ers cofrestru ar y cwrs BA Dawns, mae fy mywyd a’i gyfeiriad wedi newid yn llwyr mewn ffyrdd positif i gyd. Mae’r cwrs wedi fy ngalluogi i wireddu breuddwydion, chwalu ffiniau, a chyrraedd goliau nad oeddwn yn credu eu bod yn gyraeddadwy. Mae cael fy nghyflwyno i dechnegau unigryw, profi digwyddiadau dawns, ac archwilio’r wyddoniaeth y tu ôl i’r hyn sy’n gwneud dawnsiwr ffit ac iach yn enghraifft fach o’r hyn sydd gan y cwrs i’w gynnig. Cymerwch ran!
Hannah Elcock Myfyriwr BA Dance
98
Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin
Iaith: Saesneg (Cyfleoedd dwyieithog ar gael)
Opsiynau Astudio: Llawn amser
Y Celfyddydau Perfformio
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • • • • • • • •
Cyflwynir gan artistiaid ac ymarferwyr proffesiynol o bwys. Cewch hyfforddiant dawns cyfoes trylwyr ar y lefel uchaf. Dosbarthiadau bach. Ffocws ar ymagweddau rhyngwladol at berfformio, hyfforddi a choreograffi. Nifer o gyfleoedd i berfformio bob blwyddyn. Datblygu arfer coreograffig unigol trwy fentora a hyfforddi pwrpasol. Caffael dealltwriaeth a gwybodaeth waith o gyswllt y corff rhwng ffitrwydd, diet a lles. Gweithio ar y cyd â’r adran chwaraeon i wneud yn fawr o hyfforddiant a pherfformio, trwy gynlluniau hyfforddi pwrpasol a chyngor maeth. • Dewis ffocysu ar berfformio, coreograffi, iechyd a lles neu arfer gynhwysol yn y flwyddyn olaf. • Gweithio mewn amgylchedd dysgu heriol ond cefnogol sy’n dathlu llwyddiant myfyrwyr a’u hannog i fod yn rhagorol yn eu dewis faes dawns. • Cydweithio a datblygu cysylltiadau gwerthfawr gyda gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant. • Bod yn barod am yrfa am oes fel artist dawns.
Gofynion Mynediad: Rhaid mynychu clyweliad
Cod UCAS y BA: W502
99
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Dylunio a Chynhyrchu Theatr Creu dylunwyr ymarferol, technegwyr creadigol a gwneuthurwyr sythweledol
Ers graddio, rwyf wedi gweithio mewn llawer o fannau anarferol gan gynnwys siop pastai a thatws stwnsh hynaf Llundain, ysgol gelf adfeiliedig a Globe Shakepeare. Ni fuaswn wedi cael y cyfleoedd hyn heb y profiad angenrheidiol a gefais yn ystod fy amser yn Y Drindod. Mae’n gymaint o hwyl ac mae o wedi rhoi gyrfa anhygoel i mi, un lle nad ydw i byth yn gwybod beth sydd o gwmpas y gornel!
Sarah Phillips
Rheolwr Llwyfan ar ei Liwt ei Hun
100
Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin
Iaith: Saesneg (Cyfleoedd dwyieithog ar gael)
Opsiynau Astudio: Llawn amser
Y Celfyddydau Perfformio
Mae’r radd BA Dylunio a Chynhyrchu Theatr yn rhaglen ymarferol a gynlluniwyd i adeiladu ar sylfaen eang o sgiliau cynhyrchu'r holl ffordd i gynhyrchu perfformiadau. Mae’r cwrs yn galluogi myfyrwyr i archwilio, dylunio a chreu gwaith newydd cyffrous ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant. Nod y cwrs yw datblygu myfyrwyr a graddedigion sydd â sail wybodaeth eang a chadarn, sy’n fedrus mewn mwy nag un maes ac sy’n barod i ymgysylltu â’r sector perfformio ehangach. Trwy gydol y radd, mae yna hyblygrwydd i alluogi i bob myfyriwr arbenigo ac archwilio eu llwybr eu hunan. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i fynd ar leoliadau gwaith, astudio dramor a gwneud prosiectau i wneud yn siŵr bod pob myfyriwr yn cael y profiad y mae arnynt ei eisiau a’u cefnogi i mewn i swydd.
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • Addysgu ymarferol, uniongyrchol mewn amgylcheddau gweithdy/stiwdio. • Mae pob asesiad yn ymarferol – dim arholiadau na thraethawd hir. • Dysgwch gan, a chydweithiwch gyda, gweithwyr proffesiynol hyfforddedig, profiadol sydd wedi gweithio ar lwyfan, teledu a ffilm – gan ennill cysylltiadau ar y daith. • Erbyn y drydedd flwyddyn gallwch arbenigo yn eich dewis faes. • Astudio dramor a lleoliadau gwaith ar gael.
Members of & supported by
Gofynion Mynediad: Rhaid mynychu clyweliad
Cod UCAS y BA: W460
101
Campws Caerdydd
Llwyddwch yng
Nghaerdydd
102
Caerdydd yw prifddinas ieuengaf Ewrop a chanddi gyfoeth o hanes a diwylliant. Dros yr 20 mlynedd diwethaf mae wedi gweld buddsoddiad sylweddol yn y celfyddydau, byd chwaraeon a chanolfannau siopa gan ei wneud yn lle hyfryd i fyw ac astudio ynddo.
103
Caerdydd
Mae'r Drindod Dewi Sant yn cynnig graddau perfformio yng Nghaerdydd drwy Ganolfan Berfformio Cymru (CBC) ac Academi Llais Ryngwladol Cymru (WIAV). Mae WIAV (Academi Llais Ryngwladol Cymru) yn rhedeg cyrsiau hyfforddiant lleisiol ôl-radd a bellach mae’n cynnig gradd BA Astudiaethau Lleisiol israddedig. Mae ein gradd BA Theatr Gerdd newydd (cyfrwng Saesneg) bellach ar gael yng Nghanolfan Berfformio Cymru (CBC), cartref ein BA Perfformio cyfrwng Cymraeg a’r rhaglenni celfyddydau perfformio ôl-radd, MA Theatr Gerdd, MA Perfformio ac MA Cyfarwyddo. Mae holl weithgarwch wythnosol cyrsiau israddedig CBC yn cael ei gynnal yn adeilad "The Gate" yn y Rhath.
104
Yma, mae nifer o ofodau amlbwrpas gan gynnwys theatr wych, dwy stiwdio ddawns sydd â lloriau pwrpasol, a stiwdio ymarfer. Hefyd, mae yma gaffi/bar lle gallwch ymlacio a chymdeithasu. Mae lleoliad a pherthynas y Ganolfan gyda’r BBC yn galluogi myfyrwyr i gael profiad o weithio ar set broffesiynol yn ogystal â chyfnodau o brofiad gwaith. Yn ogystal, mae nifer o gwmnïau teledu eraill sydd wedi’u lleoli yn y ddinas yn chwilio’n gyson am gyfranogion ac maent bellach yn troi at Ganolfan Berfformio Cymru am actorion a chantorion ifanc.
Mae’n wych gallu cynnig cyfleoedd a phrofiadau o fewn y byd darlledu i rai o fyfyrwyr Canolfan Berfformio Cymru. Mae’n gyfle i ni allu meithrin perfformwyr hyderus a rhoi cyfle i’r myfyrwyr greu cysylltiadau gyda’r diwydiant.
Nia Dafydd Boom Plant
105
Caerdydd
Y 10 peth gorau i'w gwneud yng Nghaerdydd gan Lysgenhadon Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant 1. Canol y Ddinas
Mae lleoliad canolog y ddinas yn ei gwneud yn lle gwych i fyw. Mae modd teithio i brysurdeb Llundain mewn dwy awr ac i’r Gorllewin i ymlacio o fewn yr un amser.
2. Canolfan Siopa Dewi Sant
Mae digonedd o siopau ar gael yng nghanol y brifddinas.
3. Theatrau di-ri
Ceir amrywiaeth eang o theatrau sy'n dangos cynyrchiadau Cymraeg a Saesneg, yn rhai bach a rhai mawr, gan gynnwys Canolfan Gelfyddydol Y Gate, Canolfan Mileniwm Cymru, Theatr y Sherman, Theatr Newydd a Chapter.
106
4. Cyfleoedd gwaith
Mae digonedd o gyfleoedd ar gyfer gwaith rhan amser wrth ichi astudio.
5. Bywyd Cymdeithasol Rhwng gwyliau celfyddydol a cherddorol, tafarndai a bwytai, sioeau a chlybiau, mae digon o leoliadau cyffrous i ymweld â nhw gyda'r nos.
6. Chwaraeon
Mae Caerdydd yn ganolbwynt i gemau rhyngwladol Cymru ac mae’n wych byw ar stepen drws Stadiwm Genedlaethol.
7. Cathays
Dyma brif ardal y myfyrwyr. Mae'n lle arbennig i gwrdd â myfyrwyr o brifysgolion eraill ac mae digon o opsiynau llety ar gael.
8. Dinas Fawr
Mae Caerdydd yn ddinas sy'n ddigon mawr ond eto'n ddigon bach. Gallwch gerdded o gwmpas y ddinas ar droed yn hawdd neu fanteisio ar gludiant cyhoeddus.
9. Yr awyr agored yn y ddinas
Er gwaethaf y bywyd dinesig mae dal digon o ardaloedd gwyrdd a pharciau i'w mwynhau megis Parc Bute a'r Rhath.
10. Cymuned Gymraeg Manteisiwch ar wyliau Cymraeg ardderchog megis Tafwyl sy'n cael eu cynnal yn flynyddol yn y ddinas. Mae cymuned Gymraeg gyfeillgar yn y ddinas.
Lluniau: © Hawlfraint y Goron 2018 (Croeso Cymru)
Darganfyddwch Gyrsiau Caerdydd >
107
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Astudiaethau Lleisiol Creu cenhedlaeth newydd o gantorion i weddu gofynion newidiol diwydiant cyflym ei natur. Mae ein BA mewn Astudiaethau Lleisiol wedi’i gyddwyso’n rhaglen dwy flynedd ddwys sy’n alwedigaethol ac ymarferol. Mae holl fodylau’r cwrs wedi’u llunio’n benodol i fod yn gwbl berthnasol i’r canwr datblygol. Mae’r model hwn yn rhoi i fyfyrwyr amser cyswllt mwy rheolaidd bob wythnos sy’n eu paratoi’n lleisiol a cherddorol. Mae’r addysgu ar y rhaglen BA yn cynnwys gwersi grŵp, hyfforddiant un i un, dosbarthiadau meistr, gweithdai, darlithoedd a seminarau. Bydd myfyrwyr hefyd yn ymgymryd ag astudiaeth ac arfer personol.
108 108
Lleoliad y Cwrs: Caerdydd
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser
Perfformio / Astudiaethau Lleisiol
Canolfan ragoriaeth mewn addysg perfformio lleisiol, sy’n falch o’i chymysgedd o staff a hyfforddeion rhyngwladol, academaidd a diwylliannol.
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • Wedi’i sefydlu gan y tenor byd-enwog, Dennis O'Neill, mae WIAV yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Bydd myfyrwyr yn elwa o arbenigedd meistr yn ei faes a sefydliad addysgol blaengar i’w paratoi'n drylwyr at gyflymder newidiol y diwydiant perfformio. •
Mae’r Academi yn darparu amgylchedd arbenigol ac unigryw iawn ar gyfer nifer fach o gantorion a chyfeilyddion eithriadol.
• Bydd myfyrwyr yn gweithio gyda’r technegwyr lleisiol gorau, hyfforddwyr, arweinwyr gwadd enwog a sêr rhyngwladol o’r byd operatig er mwyn datblygu eu talent i’r safonau proffesiynol uchaf posibl.
Gweithdrefnau Clyweld a Chyfweld Gwahoddir pob ymgeisydd am glyweliad a fydd yn cynnwys perfformiad a chyfweliad byr.*
Diwrnod Agored WIAV Ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth: www.ydds.ac.uk/cy/ymweld/caerdydd *Gellir gofyn am ddiwrnodau clyweliad unigol
Cod y Cwrs: AV01
Cod Sefydliad: T80
Am ragor o wybodaeth, ewch i: uwtsd.ac.uk/cy/wiav
109
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Perfformio Mae’r cwrs arloesol, dwy flynedd hwn yn datblygu myfyrwyr yn berfformwyr amlddisgyblaethol, hyderus sydd â gwybodaeth gref o, a chysylltiadau gyda, diwydiannau creadigol Cymru a thu hwnt. Mae'n datblygu'r sgiliau triphlyg hanfodol - actio, canu a dawnsio. Mae BA Perfformio’n chwilio am fyfyrwyr sydd â’r potensial i berfformio mewn theatrau a neuaddau cyngerdd neu ar y radio ac mewn stiwdios teledu. Gan fod y cwrs yn ddwys – gyda sesiynau hyfforddi’n cael eu cynnal drwy gydol yr wythnos – bydd angen i fyfyrwyr allu bodloni gofynion y rhaglen. Fodd bynnag, parodrwydd i ddysgu gan arbenigwyr yn y maes ac ymateb i’r cyngor a roddir yn ystod eu gwaith beunyddiol yw’r rhinwedd pwysicaf rydym yn chwilio amdano yn ein hymgeiswyr. Dymuniad Y Drindod Dewi Sant yw bod y cwrs hwn yn darparu graddedigion talentog, hyblyg a thalentog i weithio ar lwyfannau ar draws Cymru a thu hwnt. Mae strwythur y cwrs yn uchelgeisiol, a bydd y profiadau a geir yn gyfoethog, amserol ac amrywiol, gan sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael eu paratoi’n drylwyr ar gyfer amrywiaeth o wahanol yrfaoedd cysylltiedig â pherfformio.
110
Lleoliad y Cwrs: Caerdydd
Iaith: Cymraeg
Opsiynau Astudio: Llawn amser dros ddwy flynedd
Perfformio
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • • • • •
Dim ond nifer cyfyngedig o leoedd rydym yn eu cynnig. Asesiadau ymarferol – dim arholiadau. Cyfle i gymryd rhan mewn. cynhyrchiad ar raddfa lawn gyda thîm technegol proffesiynol. Cysylltiadau cryf gyda’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt. Cyfleoedd perfformio rheolaidd .
Gofynion Mynediad: 90-120 o Bwyntiau UCAS Gall y brifysgol ystyried ymgeiswyr sydd heb gymwysterau ffurfiol os ydynt yn gallu dangos lefel eithriadol o allu a phrofiad ymarferol.
Canolfan Berfformio Cymru Cod y Cwrs: C68M
Roedd fy mhrofiad prifysgol – ar y cwrs dwys ac unigryw hwn – yn amhrisiadwy a buaswn yn annog unrhyw un sy’n ystyried dyfodol yn y celfyddydau perfformio i edrych ar y cwrs BA Perfformio yn Y Drindod Dewi Sant.
Heledd Roberts Un o raddedigion y cwrs BA Perfformio
Am wybodaeth fanylach: www.ydds.ac.uk/cy/ba-perfformio
111
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Theatr Gerddorol
Mae Theatr Gerddorol yn Y Drindod Dewi Sant wedi rhagori ar fy ngobeithion. Mae proffesiynoldeb a natur gyfeillgar pawb sydd yma’n ardderchog; rwyf wedi cael croeso mor gynnes. Rwy’n wir mwynhau’r hyfforddiant triphlyg a ddarperir ac ni allaf aros i barhau â’m taith gyda nhw, i’m cymryd yn agosach i’m breuddwyd.
Erin Summerhayes Myfyriwr BA Theatr Gerddorol
112 112
Lleoliad y Cwrs: Caerdydd
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser dros ddwy flynedd
Perfformio
Mae BA Theatr Gerddorol yn rhaglen unigryw, ddwys, dwy flynedd sy’n cynnig hyfforddiant ymarferol sy’n datblygu sgiliau trwy ddosbarthiadau ymarferol, gweithdai a pherfformiadau, ac a rennir yn hafal rhwng tri sgil hanfodol theatr gerddorol: actio, canu a dawns. Dymuniad Y Drindod Dewi Sant yw bod y cwrs hwn yn darparu graddedigion proffesiynol talentog sydd â ffocws i weithio ar lwyfannau ar draws Cymru a thu hwnt. Mae strwythur y cwrs yn uchelgeisiol, a bydd y profiadau a geir yn rhai cyfoethog, amserol ac amrywiol, a fydd yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael eu paratoi’n drylwyr at yrfa mewn Theatr Gerddorol.
Dyma’r unig raglen israddedig Theatr Gerddorol yng Nghymru. Mae ein holl staff addysgu’n ymarferwyr theatr proffesiynol sy’n gweithio ym maes addysg uwch yn ogystal ag yn y diwydiant. Drwy weithio gydag ymarferwyr proffesiynol y diwydiant, bydd y BA Theatr Gerddorol yn cynnig cwrs rhagorol, perthnasol i’r diwydiant ag iddo ffocws i berfformwyr ifanc. Mae athrawon y cwrs yn ymrwymo i ddatblygu artistiaid meddylgar, creadigol, annibynnol; artistiaid sy’n berthnasol i’r diwydiant.
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • • • • •
Gradd theatr gerddorol driphlyg. Dosbarthiadau bach. Addysgir gan ymarferwyr proffesiynol o'r diwydiant. Sioe arddangos ar ddiwedd y cwrs. Cynyrchiadau llawn gyda chyfarwyddwyr a chymorth technegol proffesiynol.
Gofynion Mynediad: 90-120 Gall y brifysgol ystyried ymgeiswyr nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol os ydynt yn gallu dangos bod ganddynt lefel eithriadol o allu a phrofiad ymarferol.
Cod y Cwrs: MTH2
Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/ba-theatr-gerddorol
113
Abertawe
Llwyddwch yn
Abertawe
114
Nid ydych fyth yn bell o draeth neu’r afon yng nghampysau Abertawe, ac mae siopau, chwaraeon, diwylliant a bywyd nos ar stepen y drws hefyd.
Gyda’i ymdeimlad cryf o dreftadaeth Cymreig wedi’i chymysgu â diwylliannau o bob cwr o’r byd, mae yna lawer i’w ddarganfod yn Abertawe. Mae Stryd y Gwynt, gyda’i bariau a chlybiau modern, yn enwog am ei bywyd nos. Mae yna dafarnau hanesyddol a digonedd o fwytai hefyd. Mae Stadiwm Liberty, ychydig filltiroedd y tu allan i ganol y ddinas, yn gartref i Dîm Pêl-droed Abertawe a’r Gweilch. Hefyd, cynhelir cyngherddau yno.
Llun: Golygon ar draws y Bae i leoliad datblygiad SA1 Glannau Abertawe newydd y Brifysgol
115
Abertawe Mae oriel eiconig Glynn Vivian gyferbyn â Chyfnewidfa Ddylunio Alex y Brifysgol. Yn ogystal â phaentiadau gan Claude Monet, Augustus John a Kyffin Williams, mae’r oriel, a gafodd ei hailwampio’n ddiweddar, yn cynnwys casgliad rhyngwladol o borslen a llestri Abertawe ac yn cynnal arddangosfeydd teithiol nodedig yn rheolaidd, gyda gwaith gan Leonardo Da Vinci wedi cael ei gynnwys yn rhan o’i digwyddiadau ailagor. Mae’r Stryd Fawr, ychydig funudau ar droed o adeiladau Coleg Celf Abertawe, yn mwynhau dadeni. Mae orielau a mannau stiwdio yn agor, fel The Elysium, sydd wedi’i lleoli yng nghyn glwb nos Barons a wnaed yn enwog gan y ffilm gomedi gwlt ‘Twin Town’. Bellach, mae o gwmpas 100 o artistiaid yn gweithio yn, ac o gwmpas, y Stryd Fawr, gan wneud Elysium yn ddarparwr stiwdios artistiaid mwyaf Cymru.
116
Llun: Tŵr y Meridian, Abertawe, adeilad talaf Cymru Delwedd: Greg Beynon Photography
Mae’r Uplands, y gallwch gerdded iddi mewn chwinc o ganol y dref, wedi’i henwi’n un o leoedd mwyaf cŵl y DU. (TravelSupermarket’s UK Hip Hang-out Neighbourhood Index). Mae ganddi farchnad awyr agored fisol boblogaidd ac amrywiaeth o farrau a bwytai trendi, pen ucha’r farchnad. Dilynwch bromenâd Abertawe tuag at y goleudy ac fe gyrhaeddwch ardal hardd y Mwmbwls, sy’n boblogaidd am nifer o resymau gan gynnwys ei bwytai cain a’i phier o oes Fictoria sydd wedi bod yn gyrchfan glan môr traddodiadol ers amser maith. Y Mwmbwls yw’r porth i hyfrydwch penrhyn Gŵyr, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y genedl. Cafodd Three Cliffs Bay ei bleidleisio’n un o bedair golygfa orau Prydain (Britain’s Favourite Views, ITV) a Rhosili yn un o 25 traeth gorau’r byd (The Sunday Times).
Bae Rhosili, Abertawe
Dyfarnwyd Bae Rhosili, Abertawe, yn 8fed traeth gorau'r DU, a'r un gorau oll yng Nghymru. Ffynhonnell: Gwobrau 'Travellers' Choice' TripAdvisor 2017
117
Abertawe
118
Y Drindod Dewi Sant wrth galon Abertawe Nid rhagoriaeth academaidd yn unig a gewch chi drwy astudio yn Abertawe, er bod hyn yn eithriadol o bwysig. Fe gewch brofiad cyflawn byw fel myfyriwr yn yr ardal - y bywyd nos rhagorol, siopau gwych, pobl leol gyfeillgar, lefelau trais isel, golygfeydd bendigedig, traethau anhygoel a chysylltiadau ffordd a rheilffordd gwych. Wedi’i lleoli’n gyfleus yng nghanol y ddinas, cewch rwydd hynt o'r Drindod Dewi Sant i siopau, adloniant, chwaraeon a diwylliant, yn ogystal â thraeth bendigedig ac arfordir hyfryd Gŵyr ychydig filltiroedd i ffwrdd.
Mae holl leoliadau dysgu’r Drindod Dewi Sant o fewn taith gerdded i lan y môr, o adeilad trawiadol Ysgol Fusnes Abertawe ac adeiladau hyfryd Coleg Celf Abertawe i gartref newydd ein Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg a'r Athrofa, yn Ardal Arloesi Glannau Abertawe. Mae’r môr wedi chwarae rhan fawr erioed ym mywyd Abertawe felly rydym yn gyffrous iawn i fod wedi creu canolfan newydd ger y traeth.
Darganfyddwch ragor am ein hychwanegiad newydd cyffrous – SA1 Glannau Abertawe.
119
Abertawe
SA1 Glannau Abertawe Llun: Greg Beynon Photography
Mae datblygiad £350m y Brifysgol, yn ardal forwrol y ddinas, ar Lwybr Arfordir Cymru, ger y marina gyda’i argae a’i bontydd hwyliau, cychod hwylio del a phensaernïaeth ddeniadol, hen a newydd. Mae’n wych ar gyfer seiclo hefyd.
Cwnsela a Seicoleg yn Abertawe wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Dinas a Sir Abertawe, busnes a diwydiant, i hybu cyflogaeth graddedigion a thrawsnewid yr amgylchedd dysgu ar gyfer ein myfyrwyr.
Mae’r Drindod Dewi Sant yn falch o’i nod i drawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau. Bellach, mae’r Brifysgol yn trawsnewid un o ardaloedd y ddinas, gan ychwanegu cymysgedd arloesol o addysg a menter i leoliad sydd eisoes wedi denu busnes, caffis, bwytai a barrau cŵl. Mae warysau a dociau’n rhan o’i hanes ac maent yn dod yn rhan o’i dyfodol, gan weddnewid yn swyddfeydd a chaffis modern, a darparu lleoedd ar gyfer chwaraeon dŵr a chyfrannu at apêl yr ardal.
Bydd y datblygiad newydd, cyffrous hwn yn darparu cyfleusterau pwrpasol ar gyfer dysgu, addysgu ac ymchwil cymhwysol yn ogystal â mannau cymdeithasu, hamdden ac adloniant mewn lleoliad gwych ar y glannau. Mae ymchwil byd-eang wedi cyfrannu at greu’r ardaloedd technegol ac addysgu. Bydd mannau dysgu arbenigol, a chanddynt offer a pheiriannau cyfredol, yn darparu amgylchedd gwych i fyfyrwyr ddysgu a datblygu eu gwybodaeth.
Mae cartref newydd ein cyrsiau Pensaernïaeth, Amgylchedd Adeiledig a Naturiol, Cyfrifiadura, Peirianneg, Addysg,
120
Llun: Greg Beynon Photography
Mae'r mannau technoleg yn cynnwys clystyrau o fannau addysgu arbenigol ar gyfer Peirianneg, Cyfryngau Digidol, Cyfrifiadura Cymhwysol a Phensaernïaeth.
Mae SA1 Glannau Abertawe yn ddatblygiad sylweddol gwerth £350m yng nghanol dinas Abertawe.
Mae’r rhain yn cynnwys y gweithdai Peirianneg, stiwdios fideo a sain a’r stiwdios Pensaernïaeth. Bwriedir creu “pentref blychau”, ymagwedd newydd at ddylunio adeiladau gan ddefnyddio amlwythi llongau, yn rhan o’r datblygiad newydd. Mae’r prosiect cyffrous wedi’i seilio ar y syniad o greu mannau fforddiadwy i gwmnïau newydd a dod â myfyrwyr, academyddion a busnesau at ei gilydd i rannu arbenigedd ac archwilio syniadau newydd ar gyfer twf. Ymhlith y manteision i fyfyrwyr fydd cysylltiadau uniongyrchol â diwydiant, cyfoethogi cyflogadwyedd a darparu sgiliau entrepreneuraidd a busnes. Bydd yr Hwb Arloesi yn fan hyblyg i gefnogi gweithdai a digwyddiadau eraill. Yn ogystal, gallai'r myfyrwyr ddefnyddio'r
fan yma i ddatblygu syniadau am fusnesau a chynhyrchion. Fe fydd yn darparu lle i fusnesau newydd gydweithio â gwasanaethau cymorth busnes ar gyfer cwmnïau deilliedig y Brifysgol a chwmnïau yn y gymuned yn ogystal â mannau deori mwy hir dymor. Caiff hefyd ei ddefnyddio i ddenu cyflogwyr i'r Brifysgol ar gyfer digwyddiadau, cyflwyniadau a ffeiriau gyrfaoedd gan gysylltu ein myfyrwyr gyda llwybrau gyrfaol a darpar gyflogwyr. Nod y datblygiad newydd hwn yw rhoi ichi leoliad heb ei ail i astudio ynddo, offer a chyfleusterau rhagorol a chyfleoedd eithriadol ar gyfer rhwydweithio, fel y byddwch yn barod i lwyddo wedi ichi raddio. Dewch i Ddiwrnod Agored i weld y cyfan â’ch llygaid eich hun.
121
Abertawe
Y 10 peth gorau i'w gwneud yn Abertawe gan Lysgenhadon Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant 1. Archwilio Penrhyn Gwyr
Taith fer mewn car neu fws o ganol dinas Abertawe, ac 'Ardal Harddwch Eithriadol Naturiol’ gyntaf y DU. Yn enwog am ei arfordir hardd a’i draethau bendigedig – mae’n hoff gyrchfan gan gerddwyr a syrffwyr fel ei gilydd.
2. Gwylio chwaraeon proffesiynol
4. Siopa yng nghanol y ddinas
Mae cymysgedd Abertawe o siopau stryd fawr enwog a siopau annibynnol yn cynnig amrywiaeth enfawr o gyfleoedd siopa. Mae canol y ddinas yn gartref i ganolfan fowlio, 'tag laser' a dwy sinema fawr.
5. Darganfod glan môr y Mwmbwls
Mae Abertawe yn gartref i bêl-droed y Gynghrair a rygbi proffesiynol yn Stadiwm Liberty. Hefyd, mae Clwb Criced Morgannwg yn chwarae gemau ar gae Rygbi a Chriced San Helen.
Ardal boblogaidd iawn o Abertawe a chanddi oleudy a Phier Fictoraidd ynghyd â siopau bach gwahanol. Hefyd, mae yno nifer o fwytai sy’n cynnig bwyd ffres, blasus. Cofiwch am yr hufen iâ!
3. Mwynhau noson allan yn Stryd y Gwynt
6. Gwylio sioe yn Theatr y Grand
Mae Stryd y Gwynt yn gartref i amrywiaeth o fariau, clybiau a bwytai i fyfyrwyr eu mwynhau - mae noson y myfyrwyr ar nos Fercher yn werth ei gweld!
122
Mae theatr hanesyddol y Grand yn adeilad llawn cymeriad sy’n darparu amrywiaeth eang o ddigwyddiadau diwylliannol, artistig ac adloniant cyffredinol.
7. Mynd am dro o gwmpas y Marina
Mae’r Ardal Forol wedi ennill gwobrau ac mae’n cynnal digwyddiadau gan gynnwys Gwledd y Gaeaf, y Sioe Awyr a Gŵyl Haf Bae Abertawe. Ymwelwch â’r bwyty sydd ar ben adeilad talaf Cymru!
8. Archwilio'r parciau a’r gerddi di-rif
Mae gennym dros 50 o fannau gwyrdd ar draws y ddinas sy’n llefydd hyfryd i ymlacio ynddynt, i adolygu ac i dreulio amser gyda ffrindiau.
9. Ymlacio yn LC2
Abertawe yw cartref parc dŵr mwyaf Cymru. Mae i'r LC2 beiriant syrffio, ardal chwarae ryngweithiol dros bedwar llawr, a wal ddringo dan do 30 troedfedd o uchder.
10. Chwaraeon ar draeth Bae Abertawe
Ychydig funudau o ganol y ddinas mae Bae Abertawe lle ceir digonedd o gyfleoedd i roi cynnig ar weithgareddau ar y tir ac ar y dŵr, neu fwynhau barbeciw gyda ffrindiau.
Darganfyddwch Gyrsiau Abertawe > 123
Yr Athrofa
Yr Athrofa Bydd myfyrwyr sy’n astudio gyda’r Athrofa yn Abertawe wedi’u lleoli yn natblygiad bendigedig a newydd y brifysgol - SA1 Glannau Abertawe.
Yn awyddus i rannu ein harbenigedd mewn dosbarthiadau lleol a byd-eang, mae’r Athrofa yn cael ei chymell gan rym newid addysgiadol a’r gwahaniaeth positif y gallwn ei wneud er lles cenedlaethau’r dyfodol.
Pobl sydd wrth wraidd Yr Athrofa sut rydym yn dysgu, sut rydym yn byw a sut rydym yn trefnu ein hunain mewn cymdeithas.
Mae campws Abertawe SA1 yn ddatblygiad newydd, o’r radd flaenaf sy’n adeiladu ar ei sefydliadau gwreiddiol a’i hanes balch o drawsnewid bywydau drwy addysg.
Rydym yn gyfadran sy’n symbylu ac ymholi sydd â gwerthoedd wedi’u seilio mewn cyfiawnder, tegwch, democratiaeth, hawliau dynol, dinasyddiaeth ac annog uchelgeisiau i bawb. Gyda’n gilydd, rydym yn gofyn cwestiynau, cynnig datrysiadau ac yn herio ein hunain ac eraill.
Bydd creu pentref dysgu ac arloesi newydd yn ardal SA1 Abertawe yn cefnogi nod y Brifysgol o ysbrydoli unigolion ac i ddatblygu graddedigion ac ymarferwyr adfyfyriol sy’n gallu gwneud gwir wahaniaeth i gymdeithas.
Mae’r Athrofa yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu’n raddedigion medrus, creadigol a chyflogadwy a fydd yn cyfrannu at gymdeithas a bod yn ddinasyddion cyfrifol o’r byd.
Mae ein rhaglenni wedi’u cynllunio i ddatblygu cariad at ddysgu a, gyda’n gilydd, gallwn ddefnyddio’r boddhad dwfn a ddaw yn sgil trawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau.
Mae’r cyfleusterau pwrpasol hyn yn cynnig y gorau mewn technoleg addysg ac mae eu lleoliad yng nghanol Glannau Abertawe yn sicrhau eu bod yn gofalu am bob angen.
Yn falch o’n treftadaeth a natur unigryw’r genedl rydym yn ei gwasanaethu, mae’r Athrofa’n falch o’i huchelgais, ac mae’n selio’i gwaith ar arfer gorau rhyngwladol yma yng Nghymru a thramor.
Yn Abertawe, mae rhaglenni israddedig Yr Athrofa yn amrywio o Raddau Sylfaen i BA a BSc mewn pynciau sy’n cynnwys Blynyddoedd Cynnar, Seicoleg, Astudiaethau Cwnsela a Seicoleg, Iechyd Meddwl, Cwnsela Dyngarol ac Astudiaethau Addysg. Mae ein graddau Seicoleg a achredir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain yn rhoi cymysgedd
124
Am ragor o wybodaeth, ewch i: athrofa.cymru/cy/cyrsiau
Yr Athrofa
cyffrous i fyfyrwyr o ddamcaniaeth, cymhwyso a sgiliau a addysgir i safon uchel. Mae staff Abertawe yn cynnig arbenigedd mewn seicoleg arbrofol a chymhwysol, ac mae gallu ein myfyrwyr i weithio’n ymarferol gyda’r ymchwilwyr hyn yn gryfder allweddol o’n cyrsiau.
@athrofa
Mae’r BSc Iechyd Meddwl yn addas ar gyfer ystod eang o fyfyrwyr, gan gynnwys y rheiny sy’n gwneud cais drwy lwybrau Safon Uwch a Mynediad. Byddai’r cymhwyster hwn o ddiddordeb i’r rheiny sydd eisoes yn gweithio yn y maes ac sy’n dymuno cyfoethogi eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth flaenorol, yn ogystal â’r rheiny sy’n newydd i’r sector. Mae’r Ysgol Blynyddoedd Cynnar wedi datblygu cyfres o raglenni gradd newydd ac arloesol a gynlluniwyd i roi i’n graddedigion y sgiliau a’r medrau sy’n hanfodol i weithio yn y sector addysg a gofal blynyddoedd cynnar. Mae darpariaeth dysgu yn ystod y dydd a hyblyg a gynhelir gyda’r nos ac ar Sadyrnau, sy’n galluogi i fyfyrwyr ddal ati i weithio wrth iddynt astudio. Mae’r Radd Sylfaen mewn Addysg Gynhwysol – IEFD a’r BA Addysg Gynhwysol – IESH ar gael drwy gampws Abertawe. Mae’r Radd Sylfaen yn rhaglen tair blynedd, ran amser sy’n cynnwys sesiynau ar ddyddiau Sadwrn a min nos. Mae ei ffocws ar ddysgu seiliedig ar waith, sy’n darparu cyfleoedd i gaffael gwybodaeth pwnc fanwl ac archwilio’r ymchwil diweddar mewn meysydd pwnc.
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
125
Yr Athrofa
Astudiaethau Addysg Mae ein cyrsiau Astudiaethau Addysg yn targedu'r rhai sydd â diddordeb mewn astudio addysg, gyda phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr, sydd oll ag un nod cyffredin, sef yr awydd i ddeall a gweithio mewn addysg.
126
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Cymraeg, Saesneg
Os nad ydych yn gwbl sicr ynghylch ba yrfa sydd o ddiddordeb i chi, yna fe all yr hyblygrwydd i archwilio ac ystyried yr ystod o gyfleoedd a gynigir gan un o’r llwybrau hyn fod o ddiddordeb i chi. Rydym yn credu’n gryf nad yw addysg yn digwydd yn yr ystafell ddosbarth yn unig. Trwy ein cyfleoedd dysgu ffurfiol ac anffurfiol helaeth fe gewch ystod eang o sgiliau a phrofiadau amhrisiadwy, sy’n hanfodol ar gyfer unrhyw raddedigion sy’n mynd ymlaen i’r gweithle modern.
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Astudiaethau Addysg
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? A hithau’n gyfnod o newidiadau sylweddol mewn addysg yng Nghymru, mae ein cwrs yn rhoi’r cyfle i chi drafod yn feirniadol y byd addysg newidiol hwn ac yn eich paratoi at ystod o yrfaoedd sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc. Mae’n gyfle estynedig i ymestyn eich astudiaethau academaidd o addysg ymhellach i lefel uwch. Hefyd, mae yna raglen MA Astudiaethau Addysg i fynd ymlaen iddi.
Gyrfaoedd: • Addysgu • Cymorth addysgol • Gwasanaethau cyhoeddus • Swyddog cymorth cymunedol • Cydlynydd prosiect • Swyddog addysg • Gweithiwr cymorth teulu • Gweithiwr cymorth elusen • Cynorthwyydd Seicoleg • Gwaith Cymdeithasol • Ymchwil Seicolegol
Un o’r cyrsiau gorau a ddarperir yn Y Drindod Dewi Sant, Abertawe. Darlithwyr cefnogol a gwybodus sy’n eich annog bob cam o’r daith. Mae meddu ar y radd hon wedi fy helpu i gael cymwysterau pellach a swyddi o fewn y system addysg.
100%
Cytunodd 100% o fyfyrwyr Astudiaethau Addysg Y Drindod Dewi Sant bod staff yn dda am esbonio pethau. ACM 2018
Sarah Mobbs
BA Astudiaethau Addysg
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
127
Yr Athrofa
Llwybrau Astudiaethau Addysg Astudiaethau Addysg
Wrth wraidd y rhaglen hon mae cerrig sylfaen Astudiaethau Addysg sy’n cynnwys seicoleg, hanes, cymdeithaseg ac athroniaeth. Bydd astudio’r pynciau hyn yn rhoi ichi ddealltwriaeth fanwl o’r prif faterion addysgol sy’n berthnasol i ystod eang o yrfaoedd posibl ac opsiynau astudio ôl-raddedig. Byddwch hefyd yn archwilio i themâu allweddol eraill o fewn y sector addysg fel cynhwysiant a chreadigrwydd yn ogystal â ffocws cryf ar eich datblygu chi fel dysgwr a gweithiwr addysg proffesiynol yn y dyfodol.
Cod UCAS: BA 14S2
Astudiaethau Addysg: Dysgwyr a Dysgu Cyfoes Cod UCAS: BA X303
40
Bydd y modylau penodol sy’n berthnasol i'r llwybr Dysgwyr a Dysgu Cyfoes yn rhoi ichi well syniad o sut y gellir cefnogi a datblygu dysgwyr o fewn ystod eang o amgylcheddau addysgol. Fe fydd yn rhoi ichi’r ddealltwriaeth ddamcaniaethol a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i’ch galluogi i gymhwyso’ch astudiaethau i ystod eang o yrfaoedd posibl fel addysgu a chymorth addysgol.
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Mae'r cyrsiau yma yn gymwys am Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18, neu www.colegcymraeg.ac.uk
128
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Cymraeg, Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 88 o bwyntiau UCAS
Addysg
Astudiaethau Addysg: Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant Cod UCAS: BA X364
Astudiaethau Addysg: Safbwyntiau Rhyngwladol Cod UCAS: BA X393
Bydd y modylau penodol sy’n berthnasol i’r Llwybr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant yn rhoi ichi fewnolwg manwl pellach i’r meysydd allweddol sy’n berthnasol i gefnogi a gweithio gyda dysgwyr ag anghenion ychwanegol gan gynnwys anableddau corfforol yn ogystal â dealltwriaeth o iechyd meddwl a chymorth perthnasol.
Bydd y modylau penodol sy’n berthnasol i’r llwybr Safbwyntiau Rhyngwladol yn caniatáu ichi archwilio materion addysgol byd-eang allweddol fel cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb a dinasyddiaeth. Bydd hefyd yn ystyried rôl asiantaethau rhyngwladol a rhanbarthol wrth gefnogi a datblygu addysg yn fyd-eang. Hefyd, mae’r cyfle i astudio Saesneg fel iaith dramor yn nodwedd allweddol o’r rhaglen hon.
129
Yr Athrofa
Gradd Sylfaen mewn
Addysg Gynhwysol Mae’r Radd Sylfaen yn rhaglen ran amser tair blynedd lle cyflwynir sesiynau ar Sadyrnau a gyda’r nos, y cyfeirir ato fel cyfnos, lle defnyddir amrywiaeth o arddulliau dysgu.
Mae’r rhaglen yn cynnig ystod gynhwysfawr o fodylau generig sy’n addas ar gyfer y rheiny sy’n gweithio mewn ysgolion blynyddoedd cynnar, cynradd ac uwchradd. Mae’n cwmpasu modylau yn y gwaith a’r Brifysgol sy’n darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ystyried a dadansoddi materion addysgol cyfredol yn sgil eu hamgylchedd a phrofiadau yn yr ysgol. Mae ffocws y radd ar ddysgu seiliedig ar waith. Mae’n darparu cyfleoedd i gael yr wybodaeth pwnc ddiweddaraf ac archwilio ymchwil diweddar mewn meysydd pwnc. Enghreifftiau o'r mathau o themâu y gellir eu hastudio fyddai: goresgyn rhwystrau ac anawsterau dysgu penodol, archwilio ymddygiad ac ymyriadau mewn dysgu, anghenion ychwanegol mewn cyddestun, egwyddorion dysgu ac addysgu, llythrennedd, cynhwysiant ar waith, dathlu iaith a diwylliant, iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc: a chadw plant yn ddiogel.
130
Lleoliad y Cwrs: Abertawe / Caerfyrddin
Iaith: Cymraeg, Saesneg, Dwyieithog
Opsiynau Astudio: Llawn amser
Addysg
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • Mae’r Radd Sylfaen mewn Addysg Gynhwysol yn gwrs rhan amser tair blynedd. Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn gall rhaglen astudio hyblyg un flwyddyn arall arwain at BA (Addysg Gynhwysol). • Cyflwynir y rhaglen mewn ystod o gymunedau: e.e. Sir Benfro, Caerfyrddin, Abertawe ac Aberystwyth. • Cyflwynir sesiynau ar Sadyrnau a liw nos lle defnyddir amrywiaeth o arddulliau dysgu. Bydd y radd yn cynnwys modylau a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog, a chaiff myfyrwyr y cyfle i gyflwyno eu gwaith yn y Gymraeg neu Saesneg.
Gyrfaoedd: Cwrs dysgu seiliedig ar waith yw hwn. Ar ôl cael eu BA bydd rhai myfyrwyr yn mynd ymlaen i astudio TAR neu raglen Meistr.
80
Gofynion Mynediad: Dysgu yn seiliedig ar waith
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Cod UCAS: IEFD
131
Yr Athrofa
Addysg a Gofal
Blynyddoedd Cynnar Mae sut mae plant yn datblygu a dysgu yn faes hynod o ddiddorol. Mae Blynyddoedd Cynnar yn Y Drindod Dewi Sant yn darparu ystod gyffrous o raglenni wedi’u teilwra i fodloni anghenion y sector.
120
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Mae'r cyrsiau hyn yn gymwys am Ysgoloriaethau y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18, neu www.colegcymraeg.ac.uk
132
Lleoliad y Cwrs: Abertawe, Caerfyrddin
Mae blynyddoedd cynnar yn Y Drindod Dewi Sant wedi datblygu casgliad o raglenni gradd arloesol a luniwyd i roi i’n graddedigion y sgiliau a’r gallu sy’n hanfodol i weithio yn y sector addysg a gofal blynyddoedd cynnar. Mae gennym ddarpariaeth astudio yn ystod y dydd ac rydym hefyd yn cynnig darpariaeth dysgu hyblyg a gyflwynir gyda’r nos ac ar Sadyrnau sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddal ati â’u hymrwymiadau gwaith yn ogystal â chael gradd. Hefyd, mae gennym raglenni a gynhelir yn y gymuned neu mewn ardaloedd lle mae galw am y ddarpariaeth. Mae ein holl raglenni’n meithrin ymagwedd gyfannol at ddatblygiad a dysgu plant ifanc. Bydd myfyrwyr yn astudio’r materion pwysig sy’n effeithio ar blant a theuluoedd. Mae rhaglenni Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar penodol wedi’u cynnwys ar restr Gofal Cymdeithasol Cymru o’r cymwysterau cymeradwy ar gyfer gweithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.
Iaith: Cymraeg, Dwyieithog, Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Hyblyg
Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar
Ymhlith prif themâu ein graddau mae: • • • • • • • •
datblygiad plant cynhwysiant a chyfiawnder cymdeithasol llythrennedd a rhifedd cynnar datblygiad iaith dysgu awyr agored cynaliadwyedd arweinyddiaeth gwaith tîm Caiff myfyrwyr gyfleoedd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o ymweliadau addysgol yn ystod eu gradd sy'n gallu cynnwys ymweliadau dewisol i wledydd tramor fel Sweden a Chanada. Bydd ein graddedigion, gyda’r wybodaeth, gwerthoedd a dealltwriaeth briodol, yn gwneud cyfraniad sylweddol at ragoriaeth broffesiynol ym maes blynyddoedd cynnar Cymru a thu hwnt.
Gofynion Mynediad: Mae mynediad i’n graddau dwy flynedd wedi’i seilio ar brofiad gwaith. Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/blynyddoedd-cynnar
97%
Dywedodd 97% o fyfyrwyr BA Plentyndod Cynnar Y Drindod Dewi Sant fod staff yn dda am esbonio pethau. ACM 2018
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
133
Yr Athrofa
Rhaglenni Blynyddoedd Cynnar Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar Cod UCAS: BSc YPS1
Rhaglen tair blynedd yw hon sydd wedi’i chynnwys ar restr gymeradwy Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer gweithio mewn lleoliadau gofal plant. Bydd myfyrwyr yn astudio amrywiaeth o faterion sy’n gysylltiedig â gweithio gyda phlant ifanc a theuluoedd yn ogystal ag archwilio i agweddau pwysig ar blentyndod fel datblygiad holistaidd, lles, addysg a gofal.
Gofynion Mynediad: 88 o bwyntiau UCAS
Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (2 Flynedd) Cod UCAS: BSc YPR2
Gellir astudio’r radd hon dros ddwy flynedd ac fe’i cyflwynir gyda’r nos ac ar rai Sadyrnau. Byddwch yn astudio amrywiaeth o faterion sy’n gysylltiedig â gweithio gyda phlant ifanc a theuluoedd yn ogystal ag archwilio i agweddau pwysig ar blentyndod fel datblygiad holistaidd a lles. Mae’r rhaglen hon wedi’i chynnwys ar restr gymeradwy Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer gweithio mewn lleoliadau gofal plant.
Gofynion Mynediad: Wedi’i seilio ar rinweddau’r unigolyn
Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar Cod UCAS: BSc 95X7 Gofynion Mynediad: 88 o bwyntiau UCAS
134
Lleoliad y Cwrs: Abertawe, Caerfyrddin
Rhaglen radd tair blynedd yw hon a ddatblygwyd i roi i fyfyrwyr ddealltwriaeth fanwl o addysg a gofal blynyddoedd cynnar. Bydd myfyrwyr yn archwilio agweddau pwysig ar blentyndod fel datblygiad holistaidd, lles, addysg a gofal. Mae’r rhaglen hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil mewn perthynas â gweithio gyda phlant a theuluoedd.
Iaith: Cymraeg, Dwyieithog, Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Hyblyg
Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar
Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (2 flynedd) Cod UCAS: BSc 87B2 Gofynion Mynediad: Wedi’i seilio ar rinweddau’r unigolyn
Rhaglen garlam dwy flynedd yw hon a luniwyd ar gyfer y rheiny sydd eisoes yn gweithio yn y sector gofal plant ac addysg. Gellir astudio'r radd hon mewn dwy flynedd ac fe'i cyflwynir gyda'r nos ac ar rai dyddiau Sadwrn. Mae’r rhaglen yn rhoi’r cyfle i ddatblygu sgiliau ymchwil mewn perthynas â gweithio gyda phlant a theuluoedd.
98% Roedd 98% o fyfyrwyr BA Plentyndod Cynnar Y Drindod Dewi Sant yn fodlon gyda’u cwrs. ACM 2017
Mae'r cyrsiau hyn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18.
135
Yr Athrofa
Cwnsela Mae damcaniaeth ac arfer cwnsela’n sylfaen i’n dealltwriaeth o natur ddynol a llawer o agweddau ar y gymdeithas fodern.
100%
Mae cwnsela’n tynnu ar nifer o ddisgyblaethau sy’n cyfuno i wneud y rhaglenni astudio’n rhai eang a manwl. Drwy hyn, gallwn sicrhau bod gan ein graddedigion yr wybodaeth a'r sgiliau sydd arnynt eu hangen i'w galluogi i gyrraedd y brig fel dinasyddion gweithredol mewn cymuned gynaliadwy. Mae’r tîm Cwnsela yn Y Drindod Dewi Sant yn cynnig rhaglenni arloesol wedi’u seilio ar egwyddorion a gwerthoedd clir sy’n cynnwys cyfiawnder cymdeithasol, cydweithio, cydraddoldeb, cynwysoldeb a pharch. Cyflwynir y rhaglenni gan staff brwdfrydig a chefnogol, sy’n cynnig i fyfyrwyr brofiad gwerthfawr o ran gwaith academaidd, datblygu sgiliau a gofal bugeiliol. Mae’r rhaglenni’n hyrwyddo gwybodaeth, dealltwriaeth ac ymgysylltu â themâu allweddol cymdeithasau cyfoes, gan gynnwys natur amrywiol y cymunedau rydym yn byw ynddynt, dealltwriaeth o iechyd meddwl a gofal cymdeithasol a datblygiad polisi ac arfer cymdeithasol.
Roedd 100% o fyfyrwyr Cwnsela’r Drindod Dewi Sant yn dweud eu bod yn gallu cysylltu â staff pan fo'r angen. ACM 2018 Gyrfaoedd: Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio mewn: • Gofal • Gofal plant • Gofal iechyd • Awdurdodau Lleol Ac ar gyfer cyflogwyr fel: • GIG • Gofal Iechyd Allied • Cyngor Sir Gâr
136
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Rwyf wedi cael cyfoeth o sgiliau bywyd, wedi gwella rhinweddau a gwybodaeth bersonol sydd wedi rhoi i mi well hunanymwybyddiaeth drwy ddatblygiad personol ac wedi rhoi hunanhyder i mi. Roedd cofrestru ar radd yn brofiad anhygoel a phositif sydd wedi newid fy mywyd. Rwy’n teimlo bod dewis y sefydliad iawn yn hollbwysig.
Carrie Griffiths
BA Astudiaethau Cwnsela a Seicoleg
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser
Cwnsela
Llwybrau Cwnsela BSc Seicoleg a Chwnsela
Mae’r rhaglen unigryw hon yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddilyn gradd a achredir gan y BPS drwy gyfuno dau faes pwnc poblogaidd, sef Cwnsela a Seicoleg.
Cod UCAS: BSc BC99
Ewch i dudalen 140 am ragor o wybodaeth.
Gofynion Mynediad: 88 o bwyntiau UCAS
Tystysgrif i Raddedigion mewn Sgiliau Cwnsela
Mae’r rhaglen Tystysgrif i Raddedigion mewn Sgiliau Cwnsela wedi’i hanelu at fyfyrwyr sydd naill ai’n dymuno datblygu eu sgiliau cwnsela er mwyn bod yn ymarferydd Cwnsela, neu unigolion sydd eisiau datblygu eu sgiliau helpu i gefnogi eu rôl yn eu swydd bresennol. Bydd y cwrs hwn yn eich gwahodd i ddatblygu’r sgiliau helpu a fydd yn hwyluso perthynas gefnogol wedi’i seilio ar egwyddorion ‘person-ganolog’. Mae’n gwrs ymarferol, seiliedig ar sgiliau, fodd bynnag byddwch hefyd yn cael eich annog i adfyfyrio ar eich hunanddatblygiad a hunaniaeth wrth i chi ddatblygu drwy’r rhaglen. Hefyd, mae yna fodwl dysgu ar-lein a fydd yn datblygu’ch gwybodaeth wrth i chi weithio’ch ffordd tuag at gymhwyster Tystysgrif i Raddedigion mewn Sgiliau Cwnsela. Ni fydd deall y sgiliau hyn yn eich galluogi i weithio fel cwnselydd cymwys, ond fe fydd yn eich galluogi i ddatblygu’r sgiliau gwrando a chyfathrebu uwch a allai eich cefnogi yn eich rôl bresennol neu eich galluogi i ddatblygu ymhellach yn eich gyrfa.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/israddedig/seicoleg-a-chwnsela/bsc-seicoleg-a-cwnsela
137
Yr Athrofa
Seicoleg Mae Seicoleg yn chwarae rhan enfawr wrth wella ein dealltwriaeth o’r byd modern. Mae seicoleg yn sail i’r rhan fwyaf o’n ffyrdd o feddwl a’n dealltwriaeth o’r byd rydym yn byw ynddo. P’un a ydy hynny’n deall natur terfysgaeth fodern, helpu’r rheiny mewn trallod meddwl neu gorfforol, neu annog pobl i ymgysylltu ag ymddygiad fwy sensitif yn amgylcheddol, mae’r cyfleoedd i gymhwyso seicoleg i faterion byd go iawn yn ddiddiwedd.
Trwy addysgu mewn grwpiau bach a seminarau rhyngweithiol a addysgir gan ymchwilwyr yn y maes, byddwch yn archwilio’r ddolen rhwng damcaniaeth seicolegol, ymchwil ac arfer, gan ddatblygu dealltwriaeth gref o’r cysylltiadau rhwng y meddwl dynol, emosiynau, yr ymennydd, ac ymddygiad mewn amrywiaeth o gyd-destunau.
Mae ein graddau seicoleg yn Abertawe, a achredir gan BPS yn rhoi i fyfyrwyr gymysgedd cyffrous o ddatblygu damcaniaeth, cymhwysedd a sgil ymarferol. Gan ddefnyddio safbwynt gwyddonol i ddeall ac ymdrin â’r materion a wynebir gan bobl yn y gymdeithas, rydym yn ymdrin â meysydd allweddol seicoleg sy’n helpu i fyfyrwyr gael dealltwriaeth o faint o ddylanwad sydd gan seicoleg ar y byd sydd ohoni.
Ar ôl cwblhau ein graddau seicoleg mae gan fyfyrwyr y potensial i fynd ymlaen i’n MSc mewn Seicoleg Gymdeithasol ac Iechyd neu ddilyn llwybrau hyfforddiant achrededig mewn Seicoleg.
138
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Seicoleg
100% Roedd 100% o fyfyrwyr a oedd yn astudio yn yr Ysgol Seicoleg yn fodlon ar eu Tiwtoriaid Personol. Global International Student Barometer and Student Barometer, Autumn Wave 2015.
Gyrfaoedd Ymhlith y rolau i raddedigion, mae: • Cynorthwyydd Seicoleg • Addysgu • Darlithio • Gwaith Iechyd Meddwl • Gwaith Cymdeithasol • Ymchwil Seicolegol • Adnoddau Dynol • Rheolaeth Data GIG
Mae staff yr Adran Seicoleg yn arbenigwyr yn eu maes ac yn hawdd iawn siarad gyda nhw. Maent am i fyfyrwyr lwyddo, ac maent bob tro'n barod i roi cymorth ychwanegol, ac yn eich annog i ymgysylltu â'r pwnc.
Paul Grey
BA Astudiaethau Cwnsela a Seicoleg
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
139
Yr Athrofa
Rhaglenni Seicoleg Seicoleg
Mae ein BSc (Anrh) mewn Seicoleg, a achredir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain, yn rhoi i fyfyrwyr gyfuniad o wybodaeth seicolegol, a datblygu sgiliau ymarferol a’r gallu i’w cymhwyso yn y byd go iawn trwy ein labordai seicoleg modern.
Cod UCAS: BSc 3UC3 Gofynion Mynediad: 112 o bwyntiau UCAS Am wybodaeth fanylach, ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/israddedig/ seicoleg-a-chwnsela/bsc-anrh-seicoleg
Mae themâu fel deall yr hunan, gwybyddiaeth ac emosiwn, a seicoleg glinigol yn seiliedig ar ddamcaniaethau seicolegol o’r hyn yw bod yn ddynol, tra bo ymchwil ar waith a seicoleg ar gyfer y gwaith yn paratoi myfyrwyr at y dyfodol drwy ddatblygu ystod o sgiliau a dealltwriaeth ymarferol a seiliedig ar waith, ochr yn ochr â chyfleoedd i fynd ar leoliadau gwaith ac i astudio dramor am semester yn yr ail flwyddyn.
BSc Seicoleg a Chwnsela
Mae’r rhaglen unigryw hon yn cynnig cyfle i fyfyrwyr wneud gradd a achredir gan y BPS drwy gyfuno dau faes pwnc poblogaidd, Cwnsela a Seicoleg.
Cod UCAS: BSc BC99
Ochr yn ochr â themâu seicoleg, fel seicoleg ddatblygol a chymdeithasol sy’n archwilio i natur ymddygiad dynol, bydd themâu cwnsela yn archwilio i wahanol ymagweddau therapiwtig ac yn datblygu dealltwriaeth o sgiliau cwnsela. Hefyd, mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i gael profiad mewn gweithleoedd.
Gofynion Mynediad: 88 o bwyntiau UCAS
140
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Seicoleg
Iechyd Meddwl Cod UCAS: BSc 7HL3 Gofynion Mynediad: 64 o bwyntiau UCAS
Mae’r radd BSc Iechyd Meddwl wedi’i llunio i roi gwybodaeth gynhwysfawr a dealltwriaeth seicolegol i fyfyrwyr o sut a pham y gall unigolion ddatblygu anawsterau iechyd meddwl. Cyflwynir trwy lwybr dysgu hyblyg, gan gynnwys darpariaeth ar benwythnosau, a bydd y rhaglen yn archwilio sut y gallwn helpu i atal a lleihau anawsterau iechyd meddwl a chefnogi pobl sy’n eu profi mewn amrywiaeth o leoliadau unigol a grŵp. Mae’r rhaglen wedi’i hadeiladu o gwmpas datblygiad cydlynol o ddealltwriaeth ddamcaniaethol, sgiliau ymarferol ac ymchwil, a’r materion moesegol a phroffesiynol sy’n ymwneud â maes iechyd meddwl a lles.
Tystysgrif Addysg Uwch mewn Deall Iechyd Meddwl Cod UCAS: BSc C7M8 Gofynion Mynediad: 64 o bwyntiau UCAS
Bydd y rhaglen hon yn cynnig profiad dysgu unigryw a fydd yn addas i amrywiaeth eang o fyfyrwyr, gan gynnwys y rheiny sy’n dymuno myned i faes gofal iechyd meddwl nad oes ganddynt brofiad blaenorol ohono a’r rheiny sydd eisoes yn gweithio yn y cyfryw faes ac sy’n dymuno datblygu ymhellach eu dealltwriaeth a’u sgiliau. Ar ôl cwblhau’r cwrs mae’r opsiwn ar gael i fyfyrwyr ddal ati i astudio i gael BSc mewn Iechyd Meddwl.
Diploma Addysg Uwch mewn Iechyd Meddwl
Mae’r rhaglen hon yn addas yn arbennig i’r sawl sy’n dymuno datblygu eu dealltwriaeth o faterion sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl ac i’r rheiny a allai fod â diddordeb mewn cael cymhwyster academaidd lefel uwch sy’n gysylltiedig yn benodol â’r maes hwn.
Cod UCAS: BSc L5T4
Ar ôl cwblhau’r cwrs mae’r opsiwn ar gael i fyfyrwyr ddal ati i astudio i gael BSc mewn Iechyd Meddwl.
Gofynion Mynediad: 64 o bwyntiau UCAS
Am wybodaeth fanylach, ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/seicoleg
141
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
Busnes a Rheolaeth Fe fyddwch mewn lleoliad cyfleus yng nghanol y ddinas ac eto o fewn tafliad carreg i’r traeth bendigedig pan ddewch i astudio busnes ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Abertawe.
142
Busnes a Rheolaeth
Mae campws eiconig Ysgol Fusnes Abertawe yn agos i’r orsaf drenau ac ychydig funudau i ffwrdd o Ardal y Celfyddydau a bywyd nos Stryd y Gwynt. Mae Ysgol Fusnes Abertawe yn cynnig graddau israddedig a HND mewn: Cyfrifeg; Busnes a Chyllid; Rheolaeth Busnes; Rheolaeth Adnoddau Dynol; Busnes Rhyngwladol; Rheolaeth ac Arweinyddiaeth; Rheolaeth Marchnata; Y Gyfraith a Busnes; DCU mewn Rheolaeth Busnes a Chyllid. Cynllunnir yr holl raglenni i roi i raddedigion y nodweddion y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt - arloesedd, creadigrwydd, ffordd o feddwl greadigol a’r gallu i ymateb i ddigwyddiadau neu dasgau annisgwyl. Rydym yn cynnig cymorth helaeth i’r rheiny sydd ei angen yn ogystal â gweithgareddau 'ymestyn' i'r rheiny sydd eisiau her ychwanegol. Bydd gan fyfyrwyr diwtor personol a chynigir ‘cyfaill’ iddynt, sef myfyriwr sydd wedi’i hyfforddi i roi cymorth ichi drwy gydol eich astudiaethau. Darperir ystod eang o ddigwyddiadau diwylliannol, busnes a rheolaeth gan gyflogwyr, cyrff proffesiynol, yr Ysgol a'r Brifysgol ichi gymryd rhan ynddynt. Mae gan yr Ysgol Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored nifer o raglenni cyffrous, blaengar a galwedigaethol ar gampws Abertawe ym meysydd chwaraeon, gwasanaethau cyhoeddus, nyrsio, iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r portffolio Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnwys: BA Gwasanaethau Cyhoeddus | HND Gwasanaethau Cyhoeddus; BSc Plismona; BA Y Gyfraith a Throseddeg; BA Y Gyfraith a Busnes; a BA Y Gyfraith a Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae’r portffolio Iechyd yn cynnwys: BSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol/HND Iechyd a Gofal Cymdeithasol; BSc Rheolaeth Iechyd/ HND Rheolaeth Iechyd; BSc Plant a Phobl Ifanc/ FdA Plant a Phobl Ifanc a DipAU Astudiaethau Nyrsio ac Iechyd. Mae’r portffolio Rheolaeth Chwaraeon yn cynnwys: BA Rheolaeth Chwaraeon Rhyngwladol; BA Rheolaeth Chwaraeon/ FDA Rheolaeth Chwaraeon/ HND Rheolaeth Chwaraeon; a BA Rheolaeth Cyfleusterau Stadiwm a Chwaraeon. Mae Ysgol Twristiaeth a Lletygarwch Abertawe yn cynnig graddau israddedig a HND mewn: Rheolaeth Digwyddiadau; Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol; Rheolaeth Hamdden; Rheolaeth Twristiaeth; a Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol. Cynllunnir yr holl raglenni drwy ymgynghoriaeth agos â rhai o brif sefydliadau twristiaeth, lletygarwch, digwyddiadau a chwaraeon y byd yn ogystal â chyflogwyr ac ymgynghorwyr lleol o'r sector. Mae hyn yn sicrhau bod ein cwricwlwm yn gyfredol er mwyn hybu eich cyflogadwyedd wedi ichi raddio.
143
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
Ysgol Fusnes Abertawe Cyflogadwyedd yw ein prif ffocws. Rydym yn mabwysiadu ymagwedd gymhwysol, seiliedig ar gyflogaeth at ein holl raglenni.
144
EIN HYSTAFELL FWRDD
Busnes a Rheolaeth
Byddwch yn profi ymagweddau arloesol a arweinir gan fyfyrwyr at ddysgu a gyflwynir gan weithwyr proffesiynol ac academyddion a chanddynt OLL brofiad o’r diwydiant. Rydym yn deall y byd go iawn. Bydd pob myfyriwr israddedig yn gweithio gyda chyflogwr i gael profiad ymarferol o fyd gwaith go iawn. Rydym yn teimlo bod hyn yn hanfodol er mwyn i chi ddeall sut mae rhoi damcaniaeth ar waith. Mae'r holl gyrsiau wedi eu cynllunio i ddatblygu'r sgiliau sy'n ddymunol i gyflogwyr - creadigrwydd, arloesedd meddwl entrepreneuraidd a'r gallu i ymateb yn sydyn i ddigwyddiadau neu dasgau annisgwyl. Rydym yn cynnig cymorth helaeth i’r rheiny sydd ei angen yn ogystal â gweithgareddau 'ymestyn' i'r rheiny sydd eisiau her ychwanegol.
Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 1af yn y DU am Foddhad Myfyrwyr gydag Ansawdd yr Addysgu yn Astudiaethau Busnes. The Times and The Sunday Times Good University Guide 2019
AGWEDD WAHANOL AT FUSNES
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • Mae’r dysgu a’r addysgu’n canolbwyntio ar astudiaethau achos go iawn. Byddwch yn cael cyfleoedd i brofi interniaethau, i astudio dramor ac i fynd ar leoliadau gwaith. • Mae ein holl ddarlithwyr yn ymarferwyr ac yn wybodus ynghylch ymchwil. • Mae ein campws busnes yng nghanol y ddinas a dim ond taith fer ar droed o draethau godidog Bae Abertawe. • Cewch y cyfle i ennill cymhwyster proffesiynol yn ogystal â’ch gradd. Caiff yr Ysgol Fusnes ei hachredu gan CIM, CIPD, ILM, ACCA a CILEx • Rydym yn darparu amgylchedd cefnogol. Cynigir ‘mentor’ ichi, sef myfyriwr sydd wedi’i hyfforddi i roi cymorth ichi drwy gydol eich astudiaethau. Cewch hefyd diwtor personol. • Darperir ystod eang o ddigwyddiadau diwylliannol, busnes a rheolaeth gan gyflogwyr, cyrff proffesiynol yr Ysgol a'r Brifysgol ichi gymryd rhan ynddynt. • Mae yma gyfle i astudio rhai modylau Busnes a Rheolaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. • Nid ydym yn Ysgol Fusnes arferol. Rydym yn gwneud pethau mewn ffordd wahanol - #agweddwahanolatfusnes.
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
145
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
Cyfrifeg Cod UCAS: BA N400
40
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Mae’r rhaglen hon yn gweddu i’r rheiny a chanddynt ddiddordeb mewn cael sgiliau cyfrifeg a chyllid arbenigol. Mae hyn yn cynnwys dysgu am gyfrifo craidd ac arfer ariannol mewn perthynas â, er enghraifft, rheoli cost, adrodd ariannol corfforaethol, trethu, cyfrifeg cwmwl, archwilio a rheolaeth ariannol. Bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag ystod o dasgau cysylltiedig ag amgylchedd cyfrifeg a chyllid ac yn mwynhau datblygu datrysiadau soffistigedig i broblemau a chyfleoedd cyfrifeg. Mae’r rhaglen wedi cael ei hachredu gan y Gymdeithas Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA).
M
146
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg, Dwyieithog
O T AN
C R ’ I L
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
YFRIFON
Gofynion Mynediad: 88 o bwyntiau UCAS
Cyfrifeg a Cyllid
Rheolaeth Busnes (Cyllid) Cod UCAS: BA BMF1
40
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Mae’r rhaglen Busnes a Chyllid hon yn darparu cymysgedd o sgiliau busnes eang a sgiliau cyfrifeg a chyllid arbenigol. Mae hyn yn cynnwys dysgu sgiliau busnes craidd sy’n gysylltiedig ag, er enghraifft, marchnata, adnoddau dynol, systemau gwybodaeth/cyfrifeg cwmwl, yn ogystal â sgiliau cyfrifeg rheoli cost, adrodd ariannol a rheolaeth ariannol. Gall myfyrwyr sy’n dymuno astudio’r rhaglen hon ddod o ystod eang o gefndiroedd pwnc, ac nid dim ond busnes.
Mae'r cyrsiau hyn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18.
147
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
Portffolio Ysgol Fusnes Abertawe Rheolaeth Busnes Codau UCAS: BA BMG1 HNC NN13 HND 022N
40
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Rheolaeth Busnes (Adnoddau Dynol) Cod UCAS: BA BMH1
40
Cod UCAS: BA BME1
148
Mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio i ddatblygu gallu i reoli pobl yn seiliedig ar ddealltwriaeth o sut i gasglu timau o bobl at ei gilydd sydd â’r sgiliau, agweddau a rhinweddau angenrheidiol i fodloni amcanion y sefydliad. Mae’n ffocysu ar ymagweddau strategol, beirniadol a chymhwysol at RhAD sydd yn ei dro’n cefnogi hyfywdra a chynaliadwyedd cyfundrefnol. Bydd pob myfyriwr sy’n astudio’r rhaglen hon ac yn pasio’r modylau perthnasol yn cael cymhwyster CIPD Lefel 5 ochr yn ochr â’u gradd.
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Rheolaeth Busnes (Digwyddiadau a Gwyliau)
40
Mae hon yn rhaglen rheolaeth busnes arloesol lle mae’r addysgu wedi’i seilio ar brosiectau busnes byw ac astudiaethau achos. Mae interniaethau a phrofiad gwaith gyda chyfle i astudio dramor yn nodweddion allweddol i’r rhaglen hon. Byddwch yn gweithio gyda, ac o fewn busnesau i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau mewn meysydd craidd fel marchnata, rheolaeth adnoddau dynol, busnes digidol, cyfrifeg a chyllid. O ganlyniad, byddwch yn cael y sgiliau angenrheidiol sydd eu hangen i wneud cynnydd mewn ystod o gyfleoedd gyrfaol.
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Mae diwydiant digwyddiadau’r DU werth £42.3bn. Os oes gennych ddiddordeb yn y diwydiant hwn sy’n tyfu’n gyflym, bydd y rhaglen yma yn gweddu i chi. Bydd myfyrwyr yn cael gwybodaeth hanfodol a dealltwriaeth o’r swyddogaethau busnes allweddol fel cyllid, marchnata, arweinyddiaeth a rheoli pobl, a fydd yn cefnogi’r diwydiant rheolaeth digwyddiadau a gwyliau. Hefyd, bydd myfyrwyr yn cael profiad gwerthfawr o weithio ar brosiectau byw ac interniaethau gyda threfnwyr digwyddiadau a gwyliau drwy gydol y rhaglen dair blynedd.
Iaith: Saesneg, Dwyieithog
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 88 o bwyntiau UCAS
Cyllid, Busnes a Rheolaeth
Y Gyfraith a Busnes Cod UCAS: BA K1V2 40
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Rheolaeth Busnes (Marchnata) Cod UCAS: BA BMM1
40
Dylai graddedigion y rhaglen allu dangos gwybodaeth o'r holl swyddogaethau busnes gyda gwybodaeth ddofn o'r swyddogaeth farchnata. Caiff gwybodaeth eang o strategaeth a dealltwriaeth o heriau amgylcheddol eu datblygu ynghyd â’r gallu i ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau cysylltiedig â marchnata.
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Marchnata Digidol Cod UCAS: BA DM01
Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Codau UCAS: BA FEM1 HND FEM3
40
Mae eich BA yn Y Gyfraith a Busnes yn agor y drws i ystod o gyfleoedd gwaith a hyfforddiant pellach cyffrous yng ngalwedigaeth y gyfraith. Bydd astudio'r Gyfraith gyda Busnes hefyd yn eich paratoi’n dda at rolau arweinyddiaeth mewn unrhyw sefydliad yn y dyfodol ac yn agor y drws i gyfleoedd gwaith ym maes busnes a rheolaeth adnoddau dynol.
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Caiff y rhaglen Marchnata Digidol ei thanategu gan elfennau craidd Rheolaeth a Marchnata Busnes ond fe’i cynlluniwyd i baratoi graddedigion ar gyfer gweithio mewn amgylchedd Marchnata Digidol. Mae hyn yn cynnwys dysgu agweddau allweddol ar ddatblygu’r profiad digidol, strategaeth, sianelau a chyfathrebu. O ganlyniad i’w strwythur, mae’r rhaglen hon yn cynnig i fyfyrwyr ystod eang o gyfleoedd gyrfaol. Yn ogystal, mae’r rhaglen wedi cael ei mapio yn erbyn Diploma Proffesiynol mewn Marchnata y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) gan roi’r cyfle i fyfyrwyr gael cymhwyster CIM ochr yn ochr â’u gradd.
Mae’r rhaglen gyffrous hon yn paratoi myfyrwyr at yrfa yn y diwydiant rheolaeth digwyddiadau, sy’n ehangu'n gyflym. Bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth fanwl o sectorau rheolaeth digwyddiadau arbenigol fel rheolaeth cynadleddau a rheolaeth gwyliau a digwyddiadau chwaraeon. Rhoddir i fyfyrwyr yr hyblygrwydd i ymgymryd â nifer o leoliadau gyda gwahanol drefnwyr digwyddiadau er mwyn cwblhau eu hinterniaethau. Mae hyn yn eich galluogi i gael ystod o brofiadau gwerthfawr mewn gwahanol fathau o ddigwyddiad ac mewn gwahanol rolau i wella eich sgiliau cyflogadwyedd ac i’ch helpu i wneud penderfyniadau anodd ynghylch eich gyrfa.
Mae'r cyrsiau hyn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18.
149
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
Busnes Cymhwysol gyda llwybrau Rheolaeth, Marchnata ac Entrepreneuriaeth (Graddau Baglor Ar-lein) Mae dau sefydliad o’r radd flaenaf, sef Y Drindod Dewi Sant ac Ysgol Fusnes Fyd-eang Dūcere, wedi llunio cynghrair unigryw i newid y ffordd y caiff graddau busnes a rhaglenni MBA eu cyflwyno ar-lein. Mae Dūcere yn arloeswr sydd wedi ennill gwobrau mewn addysg uwch, gan ddatblygu’r cwricwlwm mwyaf cadarn gydag arweinwyr a chwmnïau byd-eang o’r radd flaenaf a gynlluniwyd i ddarparu deilliannau cyflogadwyedd eithriadol i fyfyrwyr. Cwricwlwm busnes byd-eang, a arweiniwyd gan fewnwelediadau gan dros 250 o arweinwyr ac arloeswyr busnes byd-eang. Mewnosodwyd yr wybodaeth drwy holl gynnwys y cyrsiau, gan bontio’r bwlch rhwng astudiaethau academaidd a dysgu ymarferol, diwydiant-berthnasol. Mae cwblhau gradd gyda Dūcere a’r Drindod Dewi Sant yn brofiad unigryw, gwerthfawr na allwch ei gael yn unman arall. P’un ai a fyddwch yn dewis cychwyn eich busnes eich hun, creu menter gymdeithasol, neu weithio o fewn sefydliad, byddwch yn dysgu drwy gymhwyso sgiliau i heriau busnes go iawn. Dyma radd gymhwysol gyda’r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, a fydd yn sicrhau eich bod yn llwyddo ym mha bynnag faes y dewiswch. Mae’r holl ddeunyddiau dysgu yn hygyrch a hyblyg 24/7 trwy System Rheolaeth Dysgu o’r enw Canvas. Ymhlith yr adnoddau dysgu mae cyfnodolion, deciau llithro, cynnwys fideos, animeiddio, a dulliau eraill o gyflwyno i greu’r amgylchedd dysgu digidol mwyaf diddorol.
150
Lleoliad y Cwrs: Ar-lein
Iaith: Saesneg
Busnes a Rheolaeth
Busnes Cymhwysol (Entrepreneuriaeth) Cod UCAS: BA DAE1/DAE2
Busnes Cymhwysol (Rheolaeth) Cod UCAS: BA DAB1/DAB2
Busnes Cymhwysol (Marchnata) Cod UCAS: BA DAM1/DAM2
Gofynion Mynediad: 88 pwynt UCAS a 2 bas TGAU/Lefel O y DU gradd A – C mewn Mathemateg a Saesneg; neu brofiad gwaith sylweddol* *Bydd profiad gwaith yn cael ei ystyried fesul ymgeisydd.
Cynlluniwyd y cwrs yn benodol ar gyfer myfyrwyr sydd â’r uchelgais i ddechrau eu menter eu hunain, neu ddatblygu menter y maent yn gysylltiedig â hi y barod ymhellach. Mae’r rhaglen yn darparu sylfaen eang o sgiliau busnes wedi’u teilwra at anghenion entrepreneuriaid ac arweinwyr busnes sydd ag awydd i greu gwell dyfodol drwy arweinyddiaeth busnes eithriadol boed hynny fel entrepreneur, uwch swyddog gweithredol neu entrepreneur cymdeithasol.
Mae’r rhaglen yn rhoi i fyfyrwyr y sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i ragori fel rheolwyr strategol a gweithredol yn yr amgylchedd busnes modern. Bydd myfyrwyr yn dod i ddeall egwyddorion clasurol rheolaeth a’u perthnasedd i gyddestun yr oes sydd ohoni, ond hefyd yn gwerthuso’r heriau a’r cyfleoedd sydd wedi codi mewn amgylchedd busnes sydd wedi’i globaleiddio a’i ddigideiddio’n fawr.
Ceir sylfaen gadarn o’r sgiliau sydd eu hangen i ffynnu fel swyddog gweithredol marchnata yn y byd busnes modern ar y rhaglen hon. Yn ogystal â chysyniadau allweddol marchnata, bydd myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gynhyrchu a chyflwyno ymgyrchoedd marchnata modern eithriadol a gweithredu strategaethau marchnata i mewn i sefydliadau go iawn, a rhoi iddynt brofiad graddedigion unigryw i roi hwb i’w gyrfaoedd.
Gradd sy’n mynd i’r afael â phroblem bod yn effeithiol a diwyd yn y gweithle.
Sky News Live (Switzer Daily)
Opsiynau Astudio: Llawn amser, 3 blynedd, neu’n gynt dros 2 flynedd. Derbynnir myfyrwyr 3 gwaith y flwyddyn: Medi, Ionawr a Mai.
151
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
Twristiaeth, Digwyddiadau a Lletygarwch Y Byd yw Ein Darlithfa Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o raglenni cyffrous mewn Rheolaeth Twristiaeth a Hamdden a fydd yn rhoi’r sgiliau cyflogadwyedd a gwasanaeth gwesteion arloesol i chi sydd eu hangen yn y farchnad fyd-eang hon sy’n ehangu’n gyflym.
152
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg, Dwyieithog
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 88 o bwyntiau UCAS
Twristiaeth, Digwyddiadau a Lletygarwch
Mae gan ein rhaglenni ffocws cryf ar ddiwydiant, a chysylltiadau rhagorol gyda sefydliadau allweddol yn lleol ac yn rhyngwladol. Ynghyd â chynnig amrywiaeth o sgiliau iaith a diwylliannol yn ein llwybrau Twristiaeth, mae ein llwybrau Hamdden yn darparu sgiliau hyfforddi a rheoli digwyddiadau i fyfyrwyr. Mae’r tîm yn enwog am ei ymagwedd gyfeillgar, gefnogol sy’n ffocysu ar fyfyrwyr, addysgu a dysgu. Mae’r Brifysgol yn Bartner Addysg ABTA ac mae tiwtoriaid yn dal i fod yn cymryd rhan yn y diwydiant sy’n ein caniatáu i ddefnyddio astudiaethau achos ‘go iawn’ i ddod â dysgu’n fyw. Caiff hyn ei gefnogi ymhellach gan deithiau astudio maes ar bob lefel o’r rhaglen sy’n rhoi ichi brofiadau ‘tu ôl i’r llenni’ hanfodol yn lleol a thrwy ystod o deithiau rhyngwladol. Ein nod yw datblygu graddedigion arbennig sydd â’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo fel rheolwyr y dyfodol. Mae ein llwybrau twristiaeth yn cynnig ystod o sgiliau iaith a diwylliannol. Mae ein myfyrwyr
Digwyddiadau’n cael profiad ymarferol o reoli, cynllunio a threfnu digwyddiadau byw. Bydd pob myfyriwr hefyd yn datblygu sgiliau lletygarwch a gwasanaethau gwesteion sy’n hanfodol yn holl sectorau’r diwydiant. Rydym yn annog a chefnogi menter ac yn credu’n gryf mewn mewnosod datblygu cynaliadwy yn ein haddysgu a dysgu. Mae hyn yn sicrhau bod ein graddedigion yn ein gadael gydag ymagwedd hunandaniol a dealltwriaeth o’r angen am arferion busnes cynaliadwy o fewn Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau. Mae pob rhaglen yn cynnwys lleoliadau integredig ac asesedig, fodd bynnag gall myfyrwyr ddewis astudio am flwyddyn ychwanegol er mwyn cwblhau interniaeth rhyngosod â chredydau yn y DU neu’n rhyngwladol i gyfoethogi eu cyfleoedd gyrfaol ymhellach. Ar nifer o’n cyrsiau, bydd myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i astudio rhan o’u rhaglen drwy gyfrwng y Gymraeg a gall pob myfyriwr gyflwyno eu hasesiadau yn y Gymraeg.
Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 1af yng Nghymru am foddhad myfyrwyr mewn Twristiaeth, Cludiant a Theithio. ACM 2017
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
153
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
Graddau Twristiaeth, Digwyddiadau a Lletygarwch Rheolaeth Twristiaeth Codau UCAS: BA 46N9 HND 238N
40
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol Cod UCAS: BA N841
40
154
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Trwy gydol y cyrsiau hyn, bydd myfyrwyr yn ffocysu ar ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd a gwybodaeth ddiwydiannol wrth baratoi at yrfa mewn Rheolaeth Twristiaeth. Mae’r HND a Gradd BA yn cynnwys ystod o fodylau Twristiaeth a modylau rheolaeth tanategol i ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y diwydiant twristiaeth. Hefyd, mae’r rhaglenni’n cynnig ystod o deithiau astudio maes cyffrous o fewn y DU a thramor wedi’u cynllunio i fywiogi’r dysgu a chaniatáu i fyfyrwyr rwydweithio gydag arweinwyr o fewn sefydliadau twristiaeth. Mae interniaethau a lleoliadau twristiaeth arbenigol yn helpu i greu graddedigion nodedig sydd â’r gwasanaethau cwsmeriaid a sgiliau proffesiynol y mae’r diwydiant twristiaeth yn gofyn amdanynt.
Bydd y rhaglen hon yn paratoi myfyrwyr at yrfa rheoli yn y diwydiant Teithio a Thwristiaeth byd-eang. Mae gan y rhaglen naws ryngwladol gref ac fe’i cynlluniwyd trwy gyswllt cryf â sefydliadau teithio a thwristiaeth o bob cwr o’r byd i alluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd proffesiynol. Mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i ymgymryd ag interniaethau rhyngwladol sy’n darparu profiad ymarferol a galwedigaethol yn ogystal ag ystod o deithiau astudio maes cyffrous yn y DU a thramor i fyfyrwyr rwydweithio a gweld y tu ôl i’r llen mewn lleoliadau, atyniadau a gwestai. Bydd myfyrwyr yn astudio ystod o fodylau Teithio a Thwristiaeth Rhyngwladol penodol yn ogystal â modylau rheoli a marchnata, a chaiff strategaethau dysgu arloesol a ffocws rhyngddiwylliannol eu defnyddio i greu graddedigion byd-eang nodedig creadigol fydd â sgiliau gwasanaethau gwesteion o’r radd flaenaf.
Iaith: Saesneg, Dwyieithog
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 88 o bwyntiau UCAS
Twristiaeth, Digwyddiadau a Lletygarwch
Rheolaeth Hamdden Cod UCAS: BA N872
40
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Mae hwn yn gwrs delfrydol i’r rheiny ohonoch sy’n ymddiddori mewn amrywiaeth o sectorau hamdden ac yn dymuno datblygu amrywiaeth eang o sgiliau diwydiant-seiliedig yn hytrach nag arbenigo. Mae’r rhaglen yn cynnwys modylau hamdden-benodol yn ogystal â darparu blas cryf ar y diwydiannau twristiaeth, teithio, lletygarwch a digwyddiadau. Nod y rhaglen hon yw darparu llwybr astudio hyblyg sy'n eich galluogi i ddatblygu gwybodaeth helaeth o faterion a chysyniadau rheolaeth hamdden gan ennill y sgiliau y mae galw amdanynt gan y diwydiant. Mae ffocws cryf ar wasanaethau cwsmeriaid drwy gydol y rhaglen a chaiff myfyrwyr eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd rheolaeth yn y dyfodol trwy fodylau rheolaeth penodol yn ogystal â datblygu cyflogadwyedd proffesiynol a sgiliau diwydiannol trwy leoliadau ac interniaethau. Mae strategaethau dysgu ac addysgu arloesol yn galluogi myfyrwyr i archwilio i ddamcaniaethau allweddol a materion sy’n effeithio ar y sector hamdden ac mae teithiau astudio maes yn y DU a thramor yn bywiogi’r dysgu.
Mae'r cyrsiau hyn yn gymwys am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18.
155
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol Mae’r rhaglen gyffrous hon wedi codi drwy bartneriaeth agos rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Gwestai Marriott, sy'n un o frandiau gwesty enwoca'r byd.
156
Lleoliad y Cwrs: Abertawe, Birmingham, Llundain
Iaith: Saesneg, Dwyieithog
Opsiynau Astudio: Llawn amser
Twristiaeth, Digwyddiadau a Lletygarwch
Mae’r cynllun ar y cyd unigryw hwn yn cyfuno hyfforddiant galwedigaethol yng Ngwesty’r Marriott gydag astudiaethau academaidd ar gampws Y Drindod Dewi Sant. Mae’r rhaglen yn cynnwys dwy flynedd o astudiaethau llawn amser. Caiff pob blwyddyn ei rhannu’n dri bloc o bedwar mis, a threulir dau o'r rhain yn astudio ar Gampws Busnes Abertawe gyda'r bloc sy'n weddill ar leoliad yng Ngwesty'r Marriott. Felly, bydd myfyrwyr yn treulio cyfanswm o wyth mis (dau floc pedwar mis) yng Ngwesty’r Marriott, yn gweithio mewn amrywiaeth o adrannau. Bydd lleoliad blwyddyn gyntaf y radd yn canolbwyntio'n fwy ar yr ochr weithredol, a bydd yr ail flwyddyn yn cyfuno dyletswyddau gweithredol ar lefel uwch gyda rôl yng ngweinyddiaeth a rheolaeth y gwesty. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau gwasanaethau gwestai estynedig a dealltwriaeth feirniadol o’r gofynion gweithredol sy’n gysylltiedig â gwahanol adrannau yn y gwesty.
Mae mwy o alw am raddedigion sy’n meddu ar brofiad ymarferol, gwell sgiliau seiliedig ar waith, a sgiliau rheoli effeithiol. Mae’r rhaglen gydweithredol hon wedi’i chynllunio i gynhyrchu graddedigion sydd nid yn unig yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o'r ddamcaniaeth academaidd sy'n sail i'r diwydiant, ond sydd hefyd wedi cael y cyfle i gymhwyso'r ddamcaniaeth hon i'w harfer yn ystod lleoliadau yng Ngwesty'r Marriott. Mae grŵp y Marriott yn rhoi pwyslais ar hyfforddiant o’r radd flaenaf a lles staff, ac mae'n darparu amgylchedd dysgu rhagorol ar gyfer ein myfyrwyr. O ganlyniad i strwythurau adrannol y gwesty, caiff myfyrwyr brofiad o wahanol feysydd, gan gynnwys bwyd a diod, gweinyddiaeth gwesty a gweithrediadau gwasanaethau gwesteion. Bydd enwau myfyrwyr sy’n cyflawni’n uchel yn cael eu cynnig ar gyfer rhaglen fawreddog Hyfforddi Rheolwyr Graddedig "Voyager" y Marriott.
40
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Am fwy o wybodaeth am Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg gweler tudalen 18.
Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS
Cod UCAS y BA: R3H2
157
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
Chwaraeon, Iechyd
ac Addysg Awyr Agored Darganfyddwch raglenni cyffrous, blaengar, galwedigaethol mewn meysydd chwaraeon, gwasanaethau cyhoeddus, nyrsio, iechyd a gofal cymdeithasol ar ein campws yn Abertawe. Mae portffolio Gwasanaethau Cyhoeddus y Gyfadran Busnes a Rheolaeth yn cynnwys: BA Gwasanaethau Cyhoeddus; HND Gwasanaethau Cyhoeddus; BSc Plismona; BA Y Gyfraith a Throseddeg; BA Y Gyfraith a Busnes; a, BA Y Gyfraith a Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae’r portffolio Iechyd yn cynnwys: BSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol; HND Gofal Iechyd a Chymdeithasol; BSc Rheolaeth Iechyd; HND Rheolaeth Iechyd; BSc Plant a Phobl Ifanc; FdA Plant a Phobl Ifanc; a, DipHE Astudiaethau Nyrsio ac Iechyd.
158
Mae’r portffolio Rheolaeth Chwaraeon yn cynnwys: BA Rheolaeth Chwaraeon Rhyngwladol; BA Rheolaeth Chwaraeon; FdA Rheolaeth Chwaraeon; HND Rheolaeth Chwaraeon; a, BA Rheolaeth Stadia a Chyfleusterau Chwaraeon. Mae’r portffolio hwn yn ffocysu ar ddatblygu graddedigion sy’n ateb y galw ac sydd eisiau bod yn weithwyr proffesiynol yn y sector.
Busnes a Rheolaeth Chwaraeon
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • Yn Abertawe, mae integreiddio theori ac arfer yn nodweddion allweddol o’r tri phortffolio: Chwaraeon, Gwasanaethau Cyhoeddus, ac Iechyd. Mae pob portffolio’n gweithio’n agos gyda chyrff lleol, a chenedlaethol, sy’n arwain y sector i gynnig rolau gwaith a gwirfoddoli perthnasol i fyfyrwyr. • Mae lleoliad rhaglenni Abertawe yng Nghampws Busnes Abertawe yng nghanol y ddinas yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr astudio a thrafod syniadau cyffredin am fenter, rheolaeth a busnes yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Yn ogystal, lleolir ein portffolio o fewn pellter cerdded rhwydd i Orsaf Drenau Ganolog Abertawe sy’n darparu gwasanaethau prif llinell i Gaerfyrddin, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Casnewydd, Bryste, Llundain a thu hwnt. Mae’n amgylchedd unigryw, sy’n cynnig manteision byw yn y ddinas wrth ymyl arfordir gwych o draethau o’r radd flaenaf ac ardal adloniant ffyniannus gyda barau, bwytai, sinemâu, amgueddfeydd a theatrau gwych. • Mae’r radd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ennill llawer o wobrau cenedlaethol a lleol ar gyfer gweithgareddau, fel gwobr ‘Milltir Ychwanegol’ Heddlu De Cymru, gwobrau Uwch Siryf Gorllewin Morgannwg ac ail yng ngwobrau’r Arglwydd Ferrer ar gyfer gwirfoddoli. Mae’r Portffolio Chwaraeon wedi’i gydnabod gan y Timau Datblygu Chwaraeon yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, ochr yn ochr â nifer o Gyrff Llywodraethu, am integreiddio’n dda gyda’u rhaglenni a chynnig graddau pwrpasol a chysylltiedig â chyflogaeth.
• Mae’r portffolio Iechyd o raglenni’n paratoi myfyrwyr at weithio ym maes Nyrsio, Gofal Iechyd a Chymdeithasol, Rheolaeth Iechyd, a gyda phlant a phobl ifanc. Mae lleoliadau gwaith yn nodweddion annatod o’r holl raddau ac yn arwain myfyrwyr i waith. Mae’r lleoliad o fewn y portffolio chwaraeon yn orfodol ym Mlwyddyn 2 rhwng y Pasg a mis Medi lle mae llawer o fyfyrwyr yn gweithio’n lleol mewn ysgolion, timau chwaraeon proffesiynol, canolfannau hamdden, clybiau iechyd preifat neu bydd nifer yn dewis cael profiad dramor yn Ewrop, Asia neu Ogledd America gyda sefydliadau hamdden neu chwaraeon preifat. • Mae myfyrwyr Rheolaeth Chwaraeon yn gwneud defnydd o ganolfan LC2 Abertawe, sy’n llawn pob math o offer ac wedi ennill gwobrau, campfa Exercise4Less ac yn ymweld yn rheolaidd â Stadiwm Liberty (Cartref Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe a Rygbi’r Gweilch), lle maent yn datblygu sgiliau ymarferol mewn hyfforddiant chwaraeon ochr yn ochr ag astudio modylau busnes a rheolaeth allweddol i hwyluso cynnydd gyrfaol. At hyn, mae’r myfyrwyr yn ymgymryd â thaith addysgol ar ddiwedd semester 1 i gyfleusterau chwaraeon allweddol ar draws y DU, o Stadia Etihad ac Olympaidd, i’r O2 Arena a Chanolfan Sgïo Chill Factore. • Mae gan yr holl staff brofiad presennol neu ddiweddar yn sectorau’r portffolio, gyda chymysgedd o feddygon, nyrsys cymwys, heddweision rhengoedd uchel, cyfreithwyr, rheolwyr datblygu chwaraeon, hyfforddwyr personol a hyfforddwyr sydd wedi cymhwyso gyda UKCC ar y staff addysgu.
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
159
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
Portffolio
Rheolaeth Chwaraeon Mae’r portffolio Rheolaeth Chwaraeon yn ffocysu ar reolaeth a busnes chwaraeon o ddarparwyr hamdden a chanolfannau adloniant, i reolaeth stadiwm a thimau chwaraeon proffesiynol.
160
Chwaraeon, Iehyd ac Addysg Awyr Agored
Mae chwaraeon yn prysur ddod yn un o brif sectorau diwydiannol y byd a chanddo ddarpariaeth amrywiol mewn lleoliadau cymunedol drwy chwaraeon elît a phroffesiynol. Nod y rhaglenni rheolaeth chwaraeon yw paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd rheoli chwaraeon a hamdden y dyfodol yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol traddodiadol ynghyd â'r sectorau chwaraeon, iechyd a ffitrwydd preifat masnachol eu naws sy'n datblygu'n gyflym. Bydd myfyrwyr yn elwa o astudio mewn ardal sy’n llawn treftadaeth chwaraeon hynod lwyddiannus, gyda nifer o glybiau chwaraeon proffesiynol a masnachfraint yn chwarae ym mhrif gystadlaethau’r byd. O ganlyniad i fuddsoddi sylweddol mewn chwaraeon cymunedol a phreifat, mae isadeiledd chwaraeon modern yn ymestyn ac yn datblygu'n gyflym. Bellach, mae’r byd chwaraeon ac adloniant yn un o’r prif ddiwydiannau twf gyda masnachfreintiau, cwmnïau sector preifat a thimau chwaraeon proffesiynol yn gyrru’r
twf drwy gynnydd mewn nawdd, refeniw’r cyfryngau a sail cefnogwyr byd-eang. Mae’r twf hwn yn caniatáu i raddedigion newydd ddatblygu gyrfa o fewn y sefydliadau rhanddeiliaid cefnogol sy’n cefnogi’r twf parhaus hwn. Mae’r cyfleoedd cyflogaeth yn amrywio o weithio fel arweinwyr tîm, rheolwyr, cyfarwyddwyr, marchnatwyr chwaraeon, hyfforddwyr a rheolwyr academi yn ogystal â rolau profiad cwsmeriaid. Hefyd, bydd rhai graddedigion yn mynd ymlaen i astudio ar lefel ôl-raddedig neu i addysgu, mentora neu hyfforddi ar lwyfan rhyngwladol. Mae’r myfyrwyr yn gwneud defnydd llawn o’r ganolfan LC2 gyflawn o offer sydd yn Abertawe ac maent yn ymweld yn rheolaidd â Stadiwm Liberty, gan ddatblygu eu sgiliau ymarferol mewn hyfforddi chwaraeon ochr yn ochr â modylau busnes a rheolaeth allweddol i alluogi dilyniant gyrfaol. Mae gan yr holl staff brofiad cyfredol neu ddiweddar o reolaeth chwaraeon, datblygu chwaraeon a hyfforddi.
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
161
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
Portffolio Rheolaeth Chwaraeon Rheolaeth Chwaraeon Codau UCAS: BA N871 HND 178N FdA 5J1A
Mae’r rhaglen hon yn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiannau chwaraeon a hamdden. Mae darpariaeth chwaraeon a hamdden yn prysur ddod yn un o’r sectorau diwydiant byd-eang allweddol ac mae’n amlwg yn y rhan fwyaf o wledydd o lefelau cymunedol i chwaraeon elît a phroffesiynol. Ffocws cyffredinol y llwybr hwn yw darparu rhaglen hyblyg o astudiaeth sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu gwybodaeth helaeth o faterion a chysyniadau rheolaeth chwaraeon o fewn cyd-destun yr amgylchedd diwydiant chwaraeon ehangach. Y nod yw cynhyrchu graddedigion a chanddynt y sgiliau a’r galluoedd perthnasol i’w galluogi i gyfrannu’n effeithiol at sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol y diwydiant chwaraeon, iechyd a ffitrwydd.
#TracwisgiYstafellFwrdd
Rheolaeth Chwaraeon Rhyngwladol Cod UCAS: BA 139C
#Tracwisgi’rFarchnadFyd-eang
Rheolaeth Cyfleusterau Stadiwm a Chwaraeon Cod UCAS: BA 229A
Bydd y BA Rheolaeth Chwaraeon Rhyngwladol yn rhoi i raddedigion y cyfle i ddilyn gyrfa broffesiynol yn y diwydiant chwaraeon byd-eang. Bydd myfyrwyr yn cael dealltwriaeth o ddylanwadau byd-eang ar chwaraeon a fydd hefyd yn cynnwys heriau o ran diwylliant ac iaith i ddynion a merched chwaraeon a sefydliadau byd-eang. Hefyd, bydd Lleoliad Diwydiannol Rhyngwladol yn caniatáu i fyfyrwyr brofi manteision gweithio dramor neu i sefydliad byd-eang yn y diwydiant chwaraeon ac adloniant.
Bydd y BA Rheolaeth Cyfleusterau Stadiwm a Chwaraeon yn rhoi i raddedigion y cyfle i ddilyn gyrfa broffesiynol yn y diwydiant cyfleusterau chwaraeon ac adloniant bydeang. Mae’r diwydiant yn tyfu ar raddfa enfawr ac mae stadia a chyfleusterau chwaraeon newydd yn cael eu hadeiladu ar draws y byd i gefnogi disgwyliadau uwch defnyddwyr a safon darparu’r sector preifat.
#Tracwisgi’rFarchnadGyfleusterau
162
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser
Gofynion Mynediad: 80-96 o bwyntiau UCAS
Busnes a Rheolaeth Chwaraeon
Ymwelwch â gwefan Y Drindod Dewi Sant i weld y newyddion diweddaraf am ac ychwanegiadau at ein rhaglenni, fel opsiynau cwrs Rheolaeth Chwaraeon Dŵr newydd.
163
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
Portffolio Nyrsio, Iechyd a Gofal Cymdeithasol
164
Nyrsio, Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae’r portffolio o raglenni iechyd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gweithio ym meysydd Nyrsio ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac yn cymhwyso myfyrwyr i weithio gyda phlant ac oedolion ifanc. Mae lleoliadau gwaith yn rhan bwysig o bob rhaglen ac yn arwain ein myfyrwyr at gyflogaeth.
Mae’r rhaglen hon o gyrsiau yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr astudio meysydd pwnc sy'n berthnasol i'w dewis yrfaoedd. Mae’r gwahanol raglenni astudio yn rhoi i fyfyrwyr y wybodaeth a’r sgiliau priodol i fynd i weithio yn y sector iechyd a’r gweithlu perthynol. Mae’r rhaglenni’n cynnwys cysylltiadau cryf gyda’r sector iechyd a gofal cymdeithasol ac yn cynnwys ystod o leoliadau ac interniaethau yn y diwydiant iechyd gan roi profiad uniongyrchol i fyfyrwyr. Mae ystod o raglenni cysylltiedig yn archwilio gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae’r rhaglenni hyn yn rhoi’r cyfle ichi ddatblygu eich gwybodaeth broffesiynol, dealltwriaeth, gallu a sgiliau allweddol yn y
96%
sector gofal plant a’r sector perthynol. Ymhlith nodweddion eithriadol ein rhaglenni mae’r cyfathrebu rhagorol sy'n bodoli rhwng y myfyrwyr a'r darlithwyr a'r gallu i bontio cysylltiadau rhwng cysyniadau haniaethol ac arfer drwy brofiadau proffesiynol. Mae gennym enw da am ein hymagwedd myfyriwrganolog ac rydym yn sicrhau ein bod ar gael i gefnogi ein myfyrwyr. Ar ein HOLL gyrsiau, mae opsiynau rhan amser hyblyg ar gael sy’n gweithio o’ch cwmpas chi a’ch trefn dydd i ddydd. Hefyd caiff myfyrwyr y cyfle i astudio rhan o’u rhaglen drwy gyfrwng y Gymraeg a gall pob myfyriwr gyflwyno eu hasesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Roedd 96% o fyfyrwyr Gofal Iechyd a Chymdeithasol yn fodlon gyda’r asesiadau ac adborth. ACM 2018
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
165
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
Astudiaethau Nyrsio ac Iechyd Mae Diploma AU Astudiaethau Nyrsio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn rhoi myfyrwyr ar y llwybr iawn at yrfa lwyddiannus.
166
Lleoliad y Cwrs: Abertawe, Caerfyrddin
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae e wedi fy helpu i gyflawni’r graddau roedd arna’i eu hangen i ddechrau fy ngradd nyrsio. Bu i mi fwynhau cwnsela, anatomeg a'r cyfle i wneud arfer yn y gweithle yn fawr iawn. Os oes wir arnoch chi eisiau cyrraedd eich goliau, fe fydd y cwrs hwn yn ateb y gofyn ac yn eich gwthio ymhellach.
Sharde Dovaston Un o’n graddedigion Astudiaethau Nyrsio ac Iechyd
Mae’r cymhwyster hwn yn ddelfrydol i fyfyrwyr na chawsant eu dewis le gradd bwrsari GIG cyntaf naill ai o ganlyniad i’w graddau, eu perfformiad mewn cyfweliad neu brofiad gwaith perthnasol. Bydd staff Y Drindod Dewi Sant ar gael i weithio’n agos gyda phob myfyriwr, gan eich hyfforddi i lefel gradd yn y meysydd nyrsio perthnasol. Mae’r Llwybr Nyrsio’n rhoi i fyfyrwyr sgiliau mewn astudiaethau Nyrsio ac Iechyd. Mae’n cynnig y cyfle i fyfyrwyr ddeall a datblygu sgiliau sy’n gysylltiedig â nyrsio o fewn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r cwrs hwn yn darparu sylfaen werthfawr ar gyfer y rheiny sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn nyrsio neu faes cysylltiedig, ond nad oes ganddynt y sgiliau na'r cymwysterau angenrheidiol i gyrchu'r cwrs gradd perthnasol. Hefyd, mae gan y cwrs fannau gadael ar ddiwedd bob blwyddyn, gyda staff profiadol i helpu myfyrwyr wneud cais am radd o'u dewis, gan gynyddu eu cyfle o gyrraedd y nod hwnnw.
Cod UCAS Dip AU: PS12 Gofynion Mynediad: 80 o bwyntiau UCAS
Rhoddir y cyfle i fyfyrwyr gael profiad yn y maes gyda Byrddau Iechyd lleol, yn y gymuned a gydag amrywiaeth o sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r sector Nyrsio/Iechyd. Er enghraifft, mae nifer o’n myfyrwyr yn gwirfoddoli gyda Phrosiect ‘Engage’ mewn ysbytai ar draws Abertawe. Mae’r myfyrwyr ar y cwrs yn cael y profiad proffesiynol a’r cymwysterau sydd eu hangen yn y sector. Caiff y modylau eu tanategu gan lefel uchel o drylwyredd academaidd. Mae darlithwyr cwrs yn parhau i ymgysylltu â diwydiant/ busnesau fel y gallwn gynnig cyfleoedd gwirfoddoli/lleoliad pwrpasol sy’n gysylltiedig â maes diddordeb y myfyriwr.
93%
Roedd 93% o fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant yn fodlon gyda’r addysgu ar eu cwrs nyrsio. ACM 2018
Cod UCAS Tyst AU: 852M Gofynion Mynediad: 32 o bwyntiau UCAS
167
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
Portffolio Nyrsio, Iechyd a Gofal Cymdeithasol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae’r rhaglen hon yn rhoi i fyfyrwyr y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddilyn cyrsiau proffesiynol ychwanegol neu gael gwaith mewn lleoliadau gofal iechyd, llywodraeth, dielw, gwerthiannau neu ymchwil. Yn erbyn y cefndir hwn, un o’r prif nodau yw bodloni anghenion cyflogwyr drwy ddarparu graddedigion sy’n barod i weithio ar lefel ganolradd ac, mewn rhai achosion, rolau rheoli uwch yn y sector cyhoeddus. Nod y cwrs yw sicrhau bod graddedigion yn cael y lefel o ddatblygiad academaidd, personol a phroffesiynol sydd eu hangen arnynt i fod yn weithwyr yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.
Codau UCAS: BSc L510 HND 015L
Mae ein rhaglenni’n herio’r rheiny sy’n newydd i’r maes astudio hwn, gan beri i fyfyrwyr adfyfyrio ar eu rhinweddau personol ac ar beth sydd ganddyn nhw i’w gynnig i arferion iechyd a gofal iechyd. Mae gan ein cyrsiau bwyslais galwedigaethol cryf.
Rheolaeth Iechyd Codau UCAS: BSc 07B3 HND 3LN4
Cynlluniwyd y rhaglen i weddu i’r unigolion hynny a chanddynt brofiad blaenorol o reoli ac sy’n dymuno cwblhau gradd baglor tair blynedd mewn maes rheolaeth iechyd. Hefyd mae’r rhaglen hon ar gyfer unigolion sydd ar hyn o bryd yn gweithio o fewn amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol sy'n dymuno symud ymlaen yn eu gyrfa i rôl rheoli. Mae rheolaeth iechyd yn cynnig profiad galwedigaethol sy’n heriol yn academaidd ac yn ymgorffori dulliau addysgu ac asesu arloesol. Mae profiad gwaith yn y sector cyhoeddus neu wirfoddol yn rhoi boddhad deallusol ichi a hefyd yn darparu sail gadarn i ddatblygu eich gyrfa yn y dyfodol.
168
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg, Cymraeg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 80 o bwyntiau UCAS
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Iechyd a Gofal Plant a Phobl Ifanc Codau UCAS: BSc 3H6X FdSc 4T0H
Mae’r radd hon yn gymhwyster galwedigaethol a hyblyg tu hwnt. Fe’i chynlluniwyd i gynnig cyfuniad o ddysgu academaidd a seiliedig ar waith i fyfyrwyr. Mae’n rhaid i fyfyrwyr feddu ar naill ai swydd bresennol a/neu brofiad gwaith neu fod yn barod i ddod o hyd i leoliadau gwaith perthnasol (naill ai'n gyflogedig neu'n wirfoddol). Gall cwblhau’r radd arwain at: rolau rheoli o fewn gofal plant neu waith ieuenctid; statws ymarferydd dosbarth meithrin a blynyddoedd cynnar; rolau swyddog cyswllt cartref/ ysgol; a llwybrau i gymwysterau eraill. Rhaid i fyfyrwyr ymgymryd â 210 awr o brofiad gwaith y flwyddyn.
Tystysgrif Addysg Uwch mewn Gofal Cod UCAS: 156S
Os nad oes cymwysterau ffurfiol gennych ond mae gennych yr awydd a’r cariad at lwyddo yn y Brifysgol a gweithio tuag at eich goliau gyrfaol mewn iechyd, gofal cymdeithasol neu waith gyda phlant, gall y cwrs hwn fod yn llwybr i’r radd a fydd yn eich helpu i gyrraedd eich goliau. Mae’r rhaglen unigryw hon wedi ei dylunio i ‘fwydo’ unrhyw un o raglenni gradd y Portffolio Iechyd. Byddwn yn cefnogi a datblygu eich gwybodaeth a gallu yn y cysyniadau craidd, damcaniaethau a gwybodaeth sylfaenol iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â’r sgiliau a’r trylwyredd sydd eu hangen i gyflawni mewn addysg uwch. Cynigir y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Gofal ar ffurf cymhwyster llwybr hyblyg UN FLWYDDYN. Golyga hyn y gallwch basio’r cwrs hwn ac yna dechrau blwyddyn gyntaf y BSc neu Dip HE o’ch dewis chi (naill ai mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Rheoli Iechyd, Iechyd a Gofal Plant a Phobl Ifanc neu Nyrsio).
169
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
Portffolio Gwasanaethau Cyhoeddus Mae’r Portffolio rhaglenni Gwasanaethau Cyhoeddus yn paratoi myfyrwyr at weithio yn y sector cyhoeddus a chyfreithiol ac mewn galwedigaethau gyda’r heddlu a chyfiawnder troseddol. Mae gwirfoddoli mewn practis proffesiynol yn nodwedd annatod o’r holl raddau ac mae hyn yn arwain myfyrwyr i mewn i waith.
170
Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae graddedigion yn gadael gyda gwybodaeth sylweddol am y pwnc a sgiliau cyfredol sydd wedi’u cynllunio ar gyfer y gweithle modern. Gall y rhaglenni arwain at ystod o yrfaoedd, gan gynnwys gweithio yn yr alwedigaeth gyfreithiol, y gwasanaeth carchar a’r system gyfiawnder. Mae myfyrwyr y gorffennol wedi cael gwaith fel heddweision, Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a swyddogion tân neu wedi mynd ymlaen i gael hyfforddiant mewn rheoli yn sefydliadau’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus. Mae rhai wedi astudio ymhellach i weithio fel parafeddygon ac ym maes nyrsio, ac mae eraill wedi cael cymwysterau meistr.
Cysylltiadau Proffesiynol
Mae tîm y cwrs yn gweithio’n agos gyda sefydliadau’r sector cyhoeddus, cwmnïau cyfreithiol lleol, Gwasanaeth Erlyn y Goron, heddluoedd Cymru, y gwasanaeth tân a charchar yn ogystal â diwydiant preifat i ddatblygu’r holl raglenni. Mae cysylltiadau agos gyda’r diwydiant yn helpu i sicrhau bod cynnwys cyrsiau’n gyfredol, yn briodol a pherthnasol i’r alwedigaeth. Mae cynnwys cyflogwyr gwasanaethau cyhoeddus, heddweision arbenigol ac uwch heddweision ynghyd ag asiantaethau gwasanaethau cyhoeddus eraill wrth gyflwyno'r rhaglen yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ryngweithio gyda rhwydweithiau allanol a gweld perthnasedd eu hastudiaethau. Bydd myfyrwyr ar y llwybrau hyn yn elwa o’r ffaith bod cynnwys y cwrs wedi’i ddatblygu mewn ymgynghoriad â gweithwyr proffesiynol ac argaeledd cyfleoedd profiad gwaith unigryw.
Gwirfoddoli
Mae’r rhaglen yn cynnal cynlluniau gwaith gwirfoddol gyda’r heddlu, y gwasanaeth tân a charchar a sefydliadau gwirfoddol eraill. Mae ein cynlluniau gwirfoddoli’n caniatáu i fyfyrwyr gael mewnolwg gwerthfawr i wahanol sefydliadau yn y sector cyhoeddus, fel Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Carchar Abertawe, GIG, Tîm Ymateb Cyntaf GIG Cymru a St Ioan, gan ddatblygu eu rhwydweithiau a chysylltiadau eu hunain i wella’u cyfleoedd gwaith yn y dyfodol. Mae profiad a chyflogadwyedd yn rhan annatod o’n cyrsiau, ac rydym yn credu’n gryf mewn mewnosod hyn yn ein haddysgu a dysgu – gan sicrhau bod ein graddedigion yn ein gadael gydag ymagwedd hyderus a chrefftus a dealltwriaeth realistig o wasanaethau’r sector cyhoeddus. Y nod yw rhoi’r cyfle gorau posibl i’n myfyrwyr allu symud ymlaen i mewn i’w dewis alwedigaeth.
Trwy wirfoddoli i’r Heddlu a’r Gwasanaeth Tân yn ystod fy amser yn Y Drindod Dewi Sant llwyddais i wella’r sgiliau roedd arna’i eu hangen i weithio yn y gwasanaethau brys. Heb y cwrs hwn, neu’r darlithwyr, teimlaf na fuaswn i ble’r ydw i heddiw, yn gweithio fel heddwas i Heddlu De Cymru.
Dale Craven Un o’n graddedigion (2015)
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
171
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
172 172
Portffolio Gwasanaethau Cyhoeddus: Plismona a Throseddeg
Gwasanaethau Cyhoeddus Codau UCAS: BA L492 HND 064L
Plismona
Mae’r rhaglen radd Gwasanaethau Cyhoeddus yn bodloni anghenion myfyrwyr sydd am fod yn swyddogion gwasanaeth cyhoeddus mewn lifrai, gweithwyr proffesiynol cynorthwyol a gweinyddol ac yn rhoi i fyfyrwyr yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i gael gyrfa waith lwyddiannus yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae graddedigion yn gadael gyda gwybodaeth sylweddol o’r pwnc a sgiliau cyfredol a gynlluniwyd ar gyfer y gweithle modern, fel atebolrwydd, rheoli adnoddau, rheoli strategol a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol. Mae’r rhaglenni’n datblygu sgiliau gweithio mewn tîm ac arweinyddiaeth myfyrwyr, sy’n sgiliau hanfodol i allu gweithio mewn amgylchedd gwasanaethau cyhoeddus.
Trwy astudio BSc Plismona gall myfyrwyr gael lefel o wybodaeth a dealltwriaeth o blismona sydd i'w disgwyl gan ddarpar heddweision, gweithwyr cynorthwyol a gweinyddol y gwasanaeth heddlu sydd ohoni. Mae graddedigion yn ein gadael gyda gwybodaeth sylweddol o’r pwnc a'r sgiliau diweddaraf a gynlluniwyd ar gyfer plismona yn yr oes sydd ohoni, fel heddweision ac mewn rolau cynorthwyol. Yn ogystal â hyn, mae’r cwrs yn darparu sylfaen i’r rheiny sy’n dymuno arbenigo mewn gwahanol agweddau ar blismona, fel ymchwilio, gwyddor fforensig, dadansoddi trosedd ac ymatebion i derfysgaeth.
Cod UCAS: BSc 1K46
Plismona a Throseddeg
Bydd y rhaglen hon yn darparu gwybodaeth fanwl o ystod eang o agweddau ar Blismona ynghyd ag astudio Troseddeg lle bydd y myfyriwr yn edrych ar drosedd, pam bod pobl yn troseddu, beth sy’n atal pobl rhag troseddu, plismona trosedd a’r system gosbi gyfreithiol.
Cod UCAS: BSc 53C7
Cynlluniwyd y rhaglen astudio hon i roi’r sgiliau angenrheidiol i fyfyrwyr sy’n dymuno mynd i mewn i’r heddlu neu rannau eraill o’r system cyfiawnder troseddol.
Lleoliad Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser
Gofynion Mynediad: 90 o bwyntiau UCAS
173
Y Gyfraith Y Gyfraith a Phlismona Cod UCAS: BA 972H
Y Gyfraith a Throseddeg Cod UCAS: BA 861G
Bwriad y rhaglen hon yw rhoi i fyfyrwyr sydd efallai eisiau gyrfa yng ngwasanaeth yr heddlu, y sgiliau sydd eu hangen arnynt i wneud hynny. Ochr yn ochr â hyn, bydd y cwrs yn cwmpasu sylfeini’r Gyfraith sy’n cynnwys: Cyfraith Droseddol, Contract, Camwedd, Tir a’r UE. Bydd myfyrwyr sy’n dymuno mynd yn bellach gyda’u hastudiaethau cyfreithiol proffesiynol yn cael y cyfle naill ai i astudio ymhellach gyda Sefydliad Siartredig y Swyddogion Gweithredol Cyfreithiol (CILEx) i fod yn Gyfreithwyr CILEx neu i gael eithriadau ar gyfer y Diploma i Raddedigion yn y Gyfraith (GDL).
Mae’r cwrs yn cyfuno astudiaethau Troseddeg, lle bydd y myfyriwr yn edrych ar drosedd, pam bod pobl yn troseddu, beth sy’n atal pobl rhag troseddu, plismona trosedd a’r system gosbi gyfreithiol, gyda sylfaen mewn egwyddorion cyfreithiol fel Cyfraith Contract, Camweddu Cyhoeddus, Eiddo a Throseddol. Mae’r cwrs yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr fynd i amrywiaeth o alwedigaethau gwahanol yn y system cyfiawnder cyfreithiol. Fe fydd hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr sy’n dymuno mynd yn bellach gyda’u hastudiaethau proffesiynol cyfreithiol gael y cyfle i naill ai astudio ymhellach gyda Sefydliad Siartredig y Swyddogion Gweithredol Cyfreithiol CILEx i fod yn Gyfreithwyr CILEx neu i gael eithriadau ar gyfer y Diploma i Raddedigion yn y Gyfraith (GDL).
174
Portffolio Gwasanaethau Cyhoeddus: Plismona a Throseddeg
Y Gyfraith a Gwasanaethau Cyhoeddus Cod UCAS: BA L2J5
Y Gyfraith a Busnes
Mae’r rhaglen BA Y Gyfraith a Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr ystyried y strwythurau a’r goblygiadau cyfreithiol a wynebir gan sefydliadau cyfoes ac i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth a rheolaeth strategol yng nghyd-destun gwasanaethau cyhoeddus. Mae cyfuno'r Gyfraith a Gwasanaethau Cyhoeddus yn gyfle unigryw i astudio sylfeini'r Gyfraith a datblygu rhagor o wybodaeth am ddulliau gweithio a rheoli'r Sector Cyhoeddus. Mae’r radd Y Gyfraith a Gwasanaethau Cyhoeddus yn cwmpasu meysydd sy'n bwysig i'r sector cyhoeddus, yn arbennig rheoli adnoddau, sy'n hynod o bwysig yn oes y caledi a thoriadau sydd ohoni.
Mae’r BA yn Y Gyfraith a Busnes yn agor y drws i ystod o gyfleoedd gwaith a hyfforddiant pellach cyffrous yng ngalwedigaeth y gyfraith. Bydd astudio'r Gyfraith gyda Busnes hefyd yn eich paratoi’n dda at rolau arweinyddiaeth yn y dyfodol mewn unrhyw sefydliad ac yn agor y drws i gyfleoedd gwaith ym maes busnes a rheolaeth adnoddau dynol.
Cod UCAS: BA K1V2
Y Gyfraith ac Arfer CILEx
Mae’r Drindod Dewi Sant yn falch iawn ei bod wedi ei hachredu’n ddarparwr dysgu CILEx ac yn gallu cynnig nifer o gyrsiau arfer cyfreithiol; Lefel 3 a 6 yn Y Gyfraith ac Arfer a’r Diploma Cynllun Carlam yn Y Gyfraith ac Arfer i Raddedigion. Rydym yn cynnig y rhain yn rhan amser gyda’r nosweithiau. Rydym wedi gallu sicrhau eithriadau ar gyfer ein myfyrwyr ar gyfer y cyrsiau lefel 3 a lefel 6. Mae cyfreithwyr Gweithredol Cyfreithiol Siartredig yn gynyddol cael eu trin yn yr un ffordd â chyfreithwyr, a gallant nawr ddod yn farnwyr, crwneriaid, eiriolwyr a phartneriaid mewn cwmnïau cyfreithiol. Am ragor o wybodaeth am CILEx, ewch i: www.uwtsd.ac.uk/cilex
Lleoliad Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, rhan amser
Gofynion Mynediad: 80 o bwyntiau UCAS
175
Coleg Celf Abertawe
Celf a Dylunio Abertawe
Mae Abertawe yn lle gwych i fyw ac astudio: mae'n ddigon mawr i fod â rhywbeth i bawb; ond yn ddigon bach i fod yn gartrefol.
ColegCelfAbertawe SwanseaCollegeofArtUWTSD Celf a Dylunio PCYDDS
176
Nid oes addysg prifysgol arall yn debyg i addysg coleg celf. Mae'n unigryw yn y ffordd y mae’n meithrin, cyfarwyddo ac annog unigoliaeth, creadigrwydd ac arloesedd. Mae gan y DU ystod anhygoel o gyfoethog ac amrywiol o golegau celf sydd â threftadaeth nodedig o gynhyrchu artistiaid, dylunwyr, animeiddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau a pherfformwyr a gydnabyddir ar draws y byd. Mae Coleg Celf Abertawe, coleg celf hynaf ac uchaf ei barch Cymru, yn rhan o'r traddodiad gwych hwn. Ers iddo agor ei ddrysau am y tro cyntaf yn 1853 bu’r Coleg ar reng flaen datblygiadau mewn addysg gelf, dylunio a chyfryngau yn y DU. Am yn agos i 165 o flynyddoedd, mae Coleg Celf Abertawe wedi cymryd ysbrydoliaeth o ddau fyd, dinas fodern ar y naill ochr a harddwch garw Penrhyn Gŵyr ar y llall. Y gymysgedd lyfn a deinamig hon o’r ddau sydd wedi bywiogi Coleg Celf Abertawe i fod yn un o brif golegau celf y DU. Trwy gydol ein hanes rydym wedi cyfuno cysylltiadau â diwydiant gyda byd yr oriel. Mae ein cyrsiau yn mwynhau perthnasoedd gwaith cryf gyda brandiau mwyaf y DU a’r byd a chaiff prosiectau byw rheolaidd eu cefnogi gan gwmnïau fel Jaguar Land Rover, H&M a Hasbro. Mae ein cysylltiadau gyda’r diwydiant ffilm yn Ne Cymru yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael profiad gwaith gwerthfawr a lleoliadau ar gynyrchiadau teledu a ffilm mawr. Fel y byddech yn disgwyl, mae’r Coleg hefyd yn gweithio’n agos iawn gyda nifer o orielau sefydledig a newydd.
Celf a Dylunio
Safle: 16eg yn y DU am Gelf a Dylunio The Times & The Sunday Times Good University Guide 2019
11eg yn y DU am Ddylunio a Chrefftau 8fed yn y DU am Ffasiwn a Thecstilau Guardian League Table 2019
Mae ein myfyrwyr yn ennill gwobrau’n rheolaidd a rhoddir cyfle iddynt arddangos eu gwaith drwy gydol eu cyrsiau. Cynhelir sioeau graddedigion yn Abertawe a Llundain lle bydd myfyrwyr yn arddangos eu gwaith mewn arddangosfeydd mawreddog gan gynnwys New Designers a D&AD. Mae ein holl raglenni’n elwa o dîm o staff cymwys iawn sy’n ymchwilio’n weithredol, yn arddangos yn genedlaethol a thramor ac yn aml yn cymryd rhan mewn prosiectau gyda’r diwydiant. Mae lefelau’r amser a gaiff myfyrwyr gyda staff ymhlith yr uchaf yn y wlad. Rydym wedi llunio modylau a fydd yn eich helpu i gael sgiliau cyflogaeth a chysylltiadau gwych gyda’r diwydiannau creadigol a chwmnïau gweithgynhyrchu mawr felly pan fyddwch yn graddio, bydd gennych ‘droed yn y drws’ yn barod. Yn ystod eich amser gyda ni, cewch hefyd gyfle i astudio dramor gyda rhaglen gyfnewid Erasmus – a gynhelir ar hyn o bryd gyda phrifysgolion yn Norwy a Barcelona. Bydd hefyd cyfle i astudio semester yn UDA.
Am wybodaeth fanylach cysylltwch â: celfadylunio@pcydds.ac.uk
177
Coleg Celf Abertawe
Celf a Dylunio
Sylfaen
178
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg, Dwyieithog*
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 32 o bwyntiau UCAS
Celf a Dylunio Sylfaen
Mae Celf a Dylunio Sylfaen yn Abertawe yn gyflwyniad i astudio Celf a Dylunio ar lefel AU ac mae’n rhoi sylfaen i fyfyrwyr sy’n mynd i goleg celf ac yn profi addysgu a dysgu mewn stiwdio am y tro cyntaf. Addysgir y cwrs ar gampws Celf a Dylunio’r Brifysgol, sydd yng nghanol y ddinas, gan roi i fyfyrwyr fynediad at amrywiaeth eang o weithdai a chyfleusterau dysgu traddodiadol a thramodern yn adeiladau Dinefwr ac ALEX. Cynigir i fyfyrwyr lwybr dilyniant uniongyrchol i’r cyrsiau gradd neu feistr integredig yng Ngholeg Celf Abertawe ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus. Hefyd, mae’n cefnogi ceisiadau i gyrsiau mewn mannau eraill neu geisiadau am swyddi.
Mae’n sylfaen, yn sail, yn fricsen adeiladu, yn hedyn eich taith greadigol, yn ddechreuad... Rhyddid, cyfle, lle, cydweithio – nid yw’n gyfyngedig i un maes pwnc, mae’n gwbl agored. Gall droi’n unrhyw beth.
Y Flwyddyn Sylfaen oedd blwyddyn orau fy mywyd academaidd gan fy mod wedi datblygu'n bersonol ac wedi aeddfedu. Ni fyddwn i wedi gallu ymdopi â’r brifysgol heb gymorth ac ymroddiad bob un tiwtor ar y cwrs hwn.
Rachel Edwards
Un o Raddedigion y Cwrs Sylfaen
Cewch eich cyflwyno i feysydd astudio arbenigol, gan gynnwys: • • • • • • • • • • • • • • • • • • • • •
Celf Gain Dylunio Graffig Darlunio Hysbysebu a Dylunio Brand Ffasiwn Tecstilau Dylunio 3D Pensaernïaeth Cyfryngau Digidol a seiliedig ar Lens Ffotograffiaeth Animeiddio Gemwaith Celf Gymhwysol Dylunio Celfi Gwydr Dylunio Gemau Hanes Celf Pensaernïaeth/Dylunio Mewnol Dylunio Cynnyrch Celf Sain/Technoleg Cerddoriaeth Celfyddydau Perfformio
Kath Clewett Cyfarwyddwr y Rhaglen
*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.
Cod UCAS Tyst AU: F4W8
179
Coleg Celf Abertawe
Animeiddio Cyfrifiadurol
Llun: Cedric Valdeviezo
Mae Animeiddio Cyfrifiadurol yn Abertawe yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ddysgu crefft animeiddio a sut i roi bywyd i’ch dyluniadau, storïau a chymeriadau.
100%
180
Cytunodd 100% o fyfyrwyr BA (Anrh) Animeiddio Cyfrifiadurol 3D bod staff wedi gwneud y pwnc yn ddiddorol. ACM 2017
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg*
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau UCAS
Llun: Raj Joshi
Animeiddio Cyfrifiadurol
Mae’r cwrs yn annog y defnydd o ddulliau dylunio artistig a chysyniadol. Rydym yn eich helpu i fod yn gryf wrth ddylunio a darlunio, wrth wneud cerfluniau bychain a modelau, ac wrth ddatblygu byrddau stori a gwaith cynllunio sy’n syfrdanu. Rydym yn dangos sut i wneud setiau a chymeriadau mwyaf trawiadol, a lluniau a golygfeydd dychmygus, a bod yn artistanimeiddiwr cryf. Mae graddedigion wedi defnyddio’r radd hon fel sbringfwrdd i gael gwaith mewn amrywiaeth o rolau ffilm, dylunio a'r diwydiant creadigol.
Roeddwn yn hoffi’r gwaith ymarferol yn ystod darlithoedd ac mae yna amrywiaeth o esiamplau o hyd a rhyddid i roi cynnig ar bethau. Mae gwylio symudiadau go iawn yn beth da ac rwy’n hoffi’r dosbarthiadau animeiddio; mae creu cymeriadau a naratif straeon yn allweddol er mwy deall y ffyrdd y mae’r diwydiant animeiddio’n gweithio.
Charlotte Preston MArts (Anrh) Animeiddio Cyfrifiadurol 3D
BA UCAS Code: CAN1
MArts UCAS Code: CAN2
Mae myfyrwyr yn dechrau gyda chyflwyniad i amrywiaeth o dermau animeiddio, gan ddychmygu portffolio o gymeriadau a golygfeydd. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau allweddol mewn llunio eu ffilmiau byr a’u dyluniadau animeiddio eu hunain, mewn dulliau animeiddio a luniadir ac animeiddio ‘stopframe’, a dilyniannau 2D a 3D. O’r diwrnod cyntaf un rydym yn defnyddio technegau animeiddio clasurol a digidol i helpu myfyrwyr i ddysgu sylfeini ac egwyddorion animeiddio, i gynllunio/ dylunio lluniau a dilyniannau cyn-gynhyrchu, i adnabod cryfderau wrth animeiddio cymeriadau ac adrodd straeon. Mae’r cwrs yn darparu platfform i ystyried gyrfa ar draws nifer o rolau allweddol a swyddi seiliedig ar gynhyrchu. Yn y 15 blynedd diwethaf, mae’r graddedigion animeiddio wedi cael swyddi’n gweithio’n genedlaethol a rhyngwladol.
Gyrfaoedd
Mae graddedigion yn gweithio fel artistiaid, animeiddwyr, modelwyr a chyfarwyddwyr technegol, yn ogystal ag ar effeithiau gweledol a theitlau ffilm. Ymhlith y cyflogwyr mae stiwdios cynhyrchu mawr DNeg, Framestore, MPC ac ILM (Industrial Light & Magic), Sony Imageworks (Toronto), Disney a llawer iawn mwy.
*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.
181
Coleg Celf Abertawe
Celf Gain
Stiwdio, Safle a Chyd-destun Mae Celf Gain yn Abertawe yn annog myfyrwyr i ddatblygu iaith bersonol drwy archwilio i ystod eang o ymagweddau cysyniadol a materol. Mae’r rhain yn cynnwys paentio, darlunio, ffotograffiaeth, fideo, gosodwaith, gwaith safle-benodol, cerflunwaith a pherfformio. Caiff myfyrwyr eu cefnogi gan ein staff technegol profiadol a gweithdai llawn cyfarpar y Gyfadran ynghyd â gwybodaeth ac arbenigedd proffesiynol ein darlithwyr, sydd i gyd yn artistiaid wrth eu gwaith. Mae’r gweithdai 3D a cherflunwaith yn cynnwys ardaloedd ar gyfer metel, pren, carreg, resin, plastr, stiwdio cerameg llawn offer a thorrwr chwistrell dŵr trawiadol. Ymhlith y cyfleusterau eraill mae’r ystafell gwneud printiau, ystafell darlunio bywyd eang, mynediad at stiwdio ffilm a fideo ac ystafelloedd golygu. Rhoddir mannau unigol i bob myfyriwr yn ein stiwdios helaeth, yn ogystal â nifer o fannau gosodwaith y gellir eu cadw o wythnos i wythnos naill ai i greu gosodweithiau neu i roi cynnig ar bethau.
Llun: Scott Mackenzie
182
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg, Dwyieithog*
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau UCAS
Celf Gain
Mae’r cwrs yn annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn, a mwynhau trafodaethau a dadleuon am gelf gyfoes ac i ymgysylltu â diwylliant oriel a stiwdio bywiog y ddinas. Mae gennym gysylltiadau agos â sefydliadau dynamig a arweinir gan artistiaid fel Oriel Elysium a sefydliadau celf gyfoes eraill fel Oriel Mission ac Oriel Glyn Vivian.
Llun: Caitlin Littlejohns
Caiff y mannau stiwdio eu trawsnewid ar ddiwedd y flwyddyn academaidd yn fannau arddangos i fyfyrwyr gymryd rhan yn Arddangosfeydd Haf y gyfadran. Yna, defnyddir y mannau hyn i gynnal arddangosfeydd cenedlaethol a rhyngwladol fel y wobr paentio BEEP. Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i fod yn artistiaid, curaduron, gweinyddwyr celf, athrawon neu’n dod o hyd i swyddi eraill yn y cymunedau celf amrywiol sy’n ymestyn yn gyson o gwmpas y DU a thu hwnt. Mae eraill wedi parhau â’u datblygiad proffesiynol trwy astudiaethau ôl-radd a PhD mewn gwahanol brifysgolion, gan gynnwys y Royal College of Art, y Royal Academy Schools a The Slade School of Fine Art, Llundain. Os ydych chi'n dymuno dyfodol yn y celfyddydau, gallech ddechrau yma! Mae’r cwrs yn rhoi ichi gyfle euraid i feddwl a gweithio fel artist. Nid oes terfynau i’ch dychymyg. Mae hon yn daith dair blynedd heriol ond wirioneddol gyffrous.
Sheree Naqvi
Un o Raddedigion Celf Gain
80
Credyd Cyfrwng Cymraeg
Mae'r cwrs yma yn gymwys am Brif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen 18.
Cod UCAS y BA: 2T12
Cod UCAS yr MArt: M5A7
183
Coleg Celf Abertawe
Celfyddydau Perfformio Rydym yn chwilio am fyfyrwyr sydd â chariad at berfformio. Storïwyr, hwyluswyr, perfformwyr o bob math, a fydd yn archwilio i ffiniau theatr drwy ymarfer, perfformio a chymryd rhan. Rydym yn cynnig ymagwedd ddwys, seiliedig ar arfer at astudio, gyda chydbwysedd gofalus o hyfforddiant ymarferol a danategir gan astudiaethau academaidd. Er mwyn sicrhau bod ein cyrsiau’n parhau i fod yn berthnasol o fewn diwydiant sy’n newid o hyd, mae'r holl raglenni'n rhoi pwyslais mawr ar annog y myfyrwyr i weithio gydag ymarferwyr proffesiynol cyfredol sydd o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol. Nid yn unig y mae ein hymrwymiad i ddathlu gwaith ein myfyrwyr gyda gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant a’r cyhoedd yn cyfrannu at safon eithriadol o uchel o berfformiad arloesol, ond mae
184
e hefyd yn darparu cyfleoedd hollbwysig i gael gwaith yn y dyfodol. Yn ogystal â’r graddedigion hynny sydd wedi llunio gyrfaoedd fel ymarferwyr cymhwysol, dylunwyr, rheolwyr cynhyrchiad, cyfarwyddwyr a thechnegwyr, mae ystod eang iawn o gyn-fyfyrwyr yn gweithio ym meysydd addysgu, rheoli, cysylltiadau cyhoeddus, gwaith ieuenctid a chymdeithasol, marchnata a hysbysebu. Mae Coleg Celf Abertawe yn rhoi pwyslais cryf ar annog myfyrwyr i weithio gyda’i gilydd ar draws y gyfadran. Mae’r cydweithio creadigol hwn yn cynyddu’r amrywiaeth o gyfleoedd gwaith sydd ar gael i’n graddedigion unigryw.
Y Celfyddydau Perfformio
Mae ein graddedigion yn berfformwyr hyderus, croyw a rhagweithiol. Maent yn wych am weithio mewn timau, am ddatrys problemau ac am fodloni terfynau amser. Ar ôl dysgu drwy berfformio ymarferol - drwy wneud a rhannu, bydd eich cynulleidfa a’ch cymunedau yn eich gwaith creadigol - bydd gennych sgiliau myfyriwr graddedig gwerthfawr iawn. Mae’r sgiliau hyn, sy’n rhan annatod o hyfforddiant myfyrwyr yn y Diwydiannau Creadigol, yn rhinweddau allweddol y mae cyflogwyr o bob math yn gofyn amdanynt. Bydd eich arfer creadigol yn datblygu wrth i chi weithio mewn amrywiaeth o fformatau cyffrous ac arloesol sy’n archwilio ffiniau perfformio ac effaith theatr gyfranogol.
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? •
Byddwch yn rhan o gymuned greadigol gref sy’n datblygu perfformio, yn gwella technegau a pherfformio prosiectau cydweithredol a chyfranogol gwych.
• Mannau gweithdy ar gyfer ymarferion a chynyrchiadau llwyfan. • Staff ymroddedig sydd yno i gefnogi, annog ac ysbrydoli pob myfyriwr. • Rhyngweithio ac ymgysylltu ag ymarferwyr creadigol allanol drwy weithdai a chynyrchiadau. • Manteisio ar y cyfle i dreulio semester dramor mewn prifysgolion yn UDA. • Gweithio mewn ystod o leoliadau cymunedol gydag unigolion o amrywiaeth o gefndiroedd a ffyrdd o fyw.
Mae myfyrwyr wedi gweithio gyda’r ymarferwyr a chwmnïau a ganlyn:
• • • • • • • • • • • • • • •
Volcano Theatre Mess up the Mess Theatre Sparc: Valleys Kids Organised Kaos Youth Circus Valley and Vale Community Arts Cardboard Citizens Geese Theatre Re-Live Theatre Taking Flight Theatre Company Mr and Mrs Clark Frantic Assembly Daniel Irrizary Philip Zarilli Jo Fong Marc Rees
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
185
Coleg Celf Abertawe
186
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg, Dwyieithog*
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Y Celfyddydau Perfformio
Ein Gradd Perfformio
Drama Gymhwysol: Addysg, Lles, Cymuned Cod UCAS: BA DEW1
Llun: Camille Relet
Lluniwyd y cwrs hwn ar gyfer y rheiny sy’n caru perfformio ac yn cael eu cyffroi gan ei rôl mewn lleoliadau cymunedol, addysgol a therapiwtig. Mae Drama Gymhwysol yn addysgu myfyrwyr i greu a chyflwyno gweithgareddau perfformio cyfranogol y tu allan i leoliadau theatr traddodiadol gan ddefnyddio ymagweddau arloesol ac unigryw, mewn cydweithrediad ag ymarferwyr a chwmnïau proffesiynol. Cyfeirir ati’n aml fel Theatr er Newid (‘Theatre for Change’), ac mae Drama Gymhwysol yn cynnig llwybr amgen at yrfa gyffrous yn y Celfyddydau Perfformio.
Gofynion Mynediad: Bydd ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i weithdy ymarferol
*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.
187
Coleg Celf Abertawe
Cerddoriaeth
(Perfformio a Chynhyrchu) Lluniwyd y rhaglen hon ar gyfer myfyrwyr sy’n hyfedr wrth chwarae un neu fwy o offerynnau. Mae’n rhoi’r cyfle i ddatblygu eich sgiliau perfformio a chynhyrchu, yn bennaf sut i adeiladu gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth. Mae myfyrwyr yn dysgu ymgorffori technegau cerddoriaeth poblogaidd cyfoes yn ogystal â thraddodiadau cerddoriaeth y byd i mewn i’w harferion eu hunain. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau mewn perfformio’n unigol ac mewn ensemble, cyfansoddi, dadansoddi, recordio, cynhyrchu a rheoli digwyddiadau. Mae’r ymagwedd seiliedig ar brosiect yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu medrau artistig drwy gydol y rhaglen. Bydd gan fyfyrwyr fynediad at stiwdios recordio, mannau ymarfer, labordy Mac, man perfformio a’n tîm addysgu arbenigol.
188
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg, Dwyieithog*
Gyrfaoedd
Gall graddedigion geisio gyrfa fel: • Artist sy’n Recordio • Cerddor Sesiwn • Hyrwyddwr/Rheolwr Adloniant Cerddoriaeth • Peiriannwr Byw neu Stiwdio • Cyfansoddwr, Ysgrifennwr Caneuon a Threfnydd • Ymarferydd Addysg Cerddoriaeth • Rheolwr Digwyddiadau
Carais wneud y cwrs oherwydd nid yn unig ei fod wedi caniatáu i mi ddatblygu fy offeryn, sef y drymiau, ymhellach, ond hefyd fe agorodd fy llygaid i lwybrau eraill nad oeddwn hyd yn oed yn ymwybodol ohonynt, heb sôn am eu hystyried. O ganlyniad i help a chymorth holl staff y Brifysgol a gwaith caled ac ymroddiad o’m rhan i, cefais radd anrhydedd dosbarth 1af. Buaswn yn argymell y cwrs hwn a’r Brifysgol i unrhyw un!
Megan Jenkins
Un o raddedigion BA Cerddoriaeth (Perfformio a Chynhyrchu) 2018
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau UCAS
Cerddoriaeth
Graddiais ym mis Gorffennaf 2018. Llwyddais dros y tair blynedd o ganlyniad i waith caled, ymroddiad a chariad at gerddoriaeth. Bu cefnogaeth y darlithwyr yn anhygoel ar hyd y daith. Mae’r gefnogaeth a gefais wedi bod yn sylfaen i’m llwyddiant, oherwydd fy mod wedi cael y cyfle i fynegi, arbrofi ac archwilio fy nghreadigrwydd. Drwy astudio’r cwrs hwn, bu i mi ddarganfod fy nhalentau, ac yn bwysicaf oll, dechreuais yrfa feiddgar mewn cerddoriaeth a fydd yn helpu i mi barhau â’r daith hon drwy 2019 a thu hwnt. Nawr, rwy’n byw a bod cerddoriaeth a buaswn yn argymell y cwrs hwn i unrhyw ddarpar gerddor er mwyn iddynt feithrin eu gwybodaeth a gyrfa mewn cerddoriaeth.
Kierran Tomkins
Kierran Tomkins, Un o raddedigion BA Cerddoriaeth (Perfformio a Chynhyrchu) 2018
Cod UCAS: BA 165F / MArts MPP2
*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.
189
Coleg Celf Abertawe
Technoleg Cerddoriaeth Greadigol Mae Cerddoriaeth yn Abertawe yn caniatáu i fyfyrwyr feithrin ystod eang o sgiliau technegol ac esthetig a’u cymhwyso i gymaint o feysydd o’r diwydiant cerddoriaeth â phosibl.
190
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Mae ein gradd seiliedig ar arfer yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr ddatblygu'r sgiliau allweddol sydd eu hangen er mwyn gallu gweithio yn y diwydiannau cyfryngau clywedol. Gall myfyrwyr arbenigo mewn: Dylunio Sain, Sain Gemau, Peirianneg Stiwdio, Cyfansoddi, Cymysgu a Meistroli, Sain Byw, Dylunio Meddalwedd Cerddoriaeth, Cynhyrchu Fideos Cerddoriaeth, Rhaglennu a Pherfformio. Mae gennym gysylltiadau cryf gyda phartneriaid ac ymarferwyr yn y diwydiant, yn defnyddio’r meddalwedd safon diwydiant diweddaraf ac mae gennym gyfleusterau helaeth ar gyfer creu sain ofodol 3D, recordio mewn stiwdio, sain fyw, fideo, a chynnwys rhyngweithiol ar gyfer y we a dyfeisiau symudol.
Iaith: Saesneg, Dwyieithog*
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau UCAS
Cerddoriaeth
Mae’r cyrsiau Cerddoriaeth wedi’u lleoli’n bennaf yn adeilad hanesyddol y BBC lle mae yna dair stiwdio recordio o’r radd flaenaf, ystafell sain ofodol a neuadd berfformio fawr. Mae’r casgliad hwn o ystafelloedd pwrpasol sydd ag offer o’r radd flaenaf yn cefnogi ystod eang o feddalwedd a chaledwedd o safon ddiwydiannol. Yn ogystal â’r casgliad o ystafelloedd, mae gan fyfyrwyr fynediad lawn at labordy Mac, sydd â meddalwedd o safon ddiwydiannol, fel Pro Tools a Logic X. Cynigir hyfforddiant dwys mewn ystod eang o sgiliau a gweithgareddau cysylltiedig â thechnoleg cerddoriaeth.
Gellir cymhwyso Technoleg Cerddoriaeth i lawer o ddiwydiannau, er enghraifft Ffilm a Theledu, Sain Fyw, Peirianneg Stiwdio a Chyfansoddi Cerddoriaeth a Pherfformio.
Gyrfaoedd Gall graddedigion y rhaglen hon fynd ymlaen i ystod o yrfaoedd, gan gynnwys:
Mae stiwdios y Brifysgol wedi croesawu artistiaid amrywiol fel Dylan Thomas, Peter Sellers a Catatonia. Mae myfyrwyr yn defnyddio’r lleoedd hyn i recordio popeth o unawdau telyn, i fandiau metel a cherddorfa lawn. Ar hyn o bryd, mae Cerddorfa Gliniadur Abertawe ar gyfnod preswyl yno. Mae gan ein staff addysgu arbenigol brofiad a gwybodaeth helaeth o’r diwydiant, ac rydym yn awyddus i gwrdd â myfyrwyr sy’n rhannu ein cariad at gerddoriaeth.
• Peiriannwr recordio • Tonmeister • Ffilm, teledu, a sectorau cyfryngau newydd • Cwmnïau datblygu gemau, datblygu cymwysiadau symudol, a sectorau cyfryngau newydd • Sain fyw, gosodwaith a’r sector manwerthu
Rhoddodd Abertawe lawer o sgiliau i mi roedd arna’i eu hangen i redeg fy musnes fy hun. Cefais fy nghyflwyno i ystod eang o ddiddordebau yn fy maes a chafodd fy ngorwelion a’m meddwl eu hehangu. Rhoddodd y staff lwyth o hyder i mi yn fy ngallu fy hun i ddilyn fy llwybr gyrfa fy hun ond hefyd y gostyngeiddrwydd i wybod y gallaf ddysgu a datblygu unrhyw bryd.
Gareth Lumb
Un o raddedigion Technoleg Cerddoriaeth
Codau UCAS: BA J931 | MMus Tech 5P2Y
*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.
191
Coleg Celf Abertawe
Crefft Dylunio Dewch i ddarganfod eich llais creadigol a dysgu sgiliau crefft o ansawdd uchel drwy wneud. Meistrolwch eich crefft a chofleidiwch ymagweddau amrywiol at Wydr, Cerameg neu Emwaith ar gyfer arloesi a gyrfaoedd y dyfodol yn y Diwydiant Crefftau Dylunio. Bydd y BA Crefftau Dylunio yn rhoi ichi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio ar draws defnyddiau gan gynnwys Gwydr, Cerameg, Gemwaith yn ogystal â chyfryngau cymysg cyn dewis meysydd penodol i ganolbwyntio arnynt. Byddwch yn datblygu sgiliau gwneud â llaw traddodiadol yn ogystal â gwybodaeth a phrofiad o brosesau cyfoes fel torri ac ysgythru â laser, torri â chwistrell ddŵr ac argraffu 3D. Cewch eich cefnogi wrth i chi ddatblygu eich syniadau creadigol a dyluniadau drwy gydol y cwrs.
amrywiaeth o brosesau adeiladu a ffurfio ar gyfer pren, metel, plastig, gwydr ffibr a resin yn ogystal ag electro-ffurfio. Byddwch yn cael eich cyflwyno i ddylunio â chymorth cyfrifiadur (2D a 3D) fel y gallwch weithio gyda phrosesau gan gynnwys argraffu 3D, ysgythru a thorri â laser, torri â chwistrell ddŵr a melino CNC.
Bydd ein tîm o ymarferwyr crefft sefydledig a thechnegwyr profiadol yn eich cyflwyno i newyddbethau cyfredol mewn defnyddiau a phrosesau i sicrhau bod gennych sgiliau a gwybodaeth gyfredol.
Bydd cael profiad o ystod eang o ddefnyddiau a phrosesau yn eich caniatáu i ddatblygu ymagwedd bersonol iawn at greu arteffactau pwrpasol neu a gynhyrchir mewn sypiau o werth uchel a nwyddau moethus ar gyfer amrywiaeth o gymwysiadau gan gynnwys: pensaernïaeth, dylunio mewnol, gwrthrychau celf (i’w gwerthu trwy orielau neu drwy gomisiwn) a gemwaith, yn ogystal â chynnyrch.
Heb unrhyw brofiad blaenorol, byddwch yn astudio ystod eang o brosesau gan gynnwys: adeiladu cerameg; prosesau gwydr gan gynnwys castio, ffiwsio a slympio, technegau oer a pate fe verre; technegau gemwaith traddodiadol a chyfoes; castio aml-gyfrwng yn ogystal ag
Caiff y cwrs ei gyflwyno drwy gyfres o sesiynau a addysgir sy’n seiliedig ar weithdai, tiwtorialau, lleoliadau gwaith, prosiectau byw, briffiau a chystadlaethau dylunio, oll wedi’u tanategu gan astudiaethau gweledol ac astudiaethau hanesyddol a chyd-destunol.
192
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg, Dwyieithog*
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau UCAS
Crefft Dylunio
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • • • • • • •
Cod UCAS y BA: D100
Cod UCAS y MDes: D110
Bydd graddedigion ein cwrs Crefft Dylunio yn datblygu sgiliau creadigol, datrys problemau, dylunio a gwneud cryf y gellir eu cymhwyso i ystod eang o gyfleoedd gwaith. Mae entrepreneuriaeth wedi’i fewnosod yn y cwrs, gydag ystod eang o drafodaethau am yr ymagweddau amrywiol at ddatblygu a chynnal arfer creadigol yn ogystal â dod o hyd i lwybrau at gyflogaeth. Darlithoedd rheolaidd gan wneuthurwyr wrth eu gwaith gwadd a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig. Bydd ein tîm o ymarferwyr crefft sefydledig a thechnegwyr profiadol yn cefnogi datblygiad eich syniadau a dyluniadau creadigol trwy gydol y cwrs ac yn eich cyflwyno i newyddbethau cyfredol mewn defnyddiau a phrosesau i sicrhau bod gennych y sgiliau a’r wybodaeth ddiweddaraf. Yn ogystal â staff arbenigol parhaus, bydd myfyrwyr yn elwa o gyswllt parhaus gydag amrywiaeth o artistiaid gwadd, cyn- fyfyrwyr a darlithwyr. Mae gan y cwrs Crefftau Dylunio ystod eang o gyfleusterau gwneud arbenigol a gefnogir gan arae cynhwysfawr o weithdai cyffredinol. Cysylltiadau da gyda diwydiant yn y DU ac Ewrop, yn arbennig y Ffindir, Ffrainc a’r Almaen, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer ymweliadau, teithiau cyfnewid a lleoliad gwaith.
193
Coleg Celf Abertawe
Darlunio Mae Darlunio yn Abertawe yn gwrs bywiog a chreadigol sy’n archwilio i ddarlunio mewn dwy ffordd.
Cefais fy annog gan y cwrs i arbrofi yn gysyniadol a gweledol, gan fy nghaniatáu i ddod o hyd i’m llais creadigol fel darlunydd, a datblygu’r sgiliau roedd arna’i eu hangen i weithio yn y diwydiannau creadigol.
Lianne Harrison Darlunydd ar ei liwt ei hun
194
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg, Dwyieithog*
Yn gyntaf, ystyrir darlunio fel disgyblaeth fasnachol, grefftus sy’n paratoi myfyrwyr at fusnes darlunio, fel cyhoeddi a hysbysebu. Yr ail ffordd yw archwilio i ddarlunio fel iaith weledol ar draws y celfyddydau creadigol, gan gofleidio 3D a symudiad ochr yn ochr â chyfryngau traddodiadol a digidol, gan ehangu potensial cael swydd raddedig i gyrchfannau gyrfa ehangach fel marchnata gweledol a’r diwydiant ffilm. Wedi’i addysgu trwy weithdai, darlithoedd a seminarau a gefnogir gan diwtorialau a thrafodaethau grŵp rheolaidd, mae’r pwyslais ar waith ymarferol, stiwdio-seiliedig.
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • Mae’r rhaglen Ddarlunio yn aelod o’r corff proffesiynol cenedlaethol, sef y Gymdeithas Darlunwyr (AOI). • Tair Stiwdio Ddarlunio fywiog. • Ystafell ddarlunio digidol bwrpasol gydag iMacs, llechi Wacom a sgrin Cintiq gyda phecynnau meddalwedd fel Photoshop, Illustrator, InDesign ac After Effects. • Stiwdio gwneud printiau ar gyfer leino, printiau sgrîn, ysgythru a chollagraph. • Stiwdio llythrenwasg gyda phedwar peiriant llythrenwasg Adana ac offer gwneud llyfrau. • Torrwr laser ac argraffydd Risograph.
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau UCAS
Darlunio
Caiff yr addysgu yn y stiwdio ei gefnogi gan raglen o wahoddedigion clodfawr o'r diwydiant. Mae ymweliad astudio tramor â’r Ffair Llyfrau Plant ym Mologna yn ysbrydoli ac yn rhoi dealltwriaeth ehangach o ddarlunio mewn cyd-destun byd-eang. Mae briffiau a chystadlaethau allanol hefyd yn rhan annatod o’r cwricwlwm, ac mae llawer o'n myfyrwyr yn llwyddo yn y rhain. Mae myfyrwyr yn cael y cyfle i arddangos yn New Designers yn Llundain ar ddiwedd y cwrs.
Cod UCAS y BA: W220
Cod UCAS y MDes: H21Y
Mae graddedigion diweddar yn gweithio gyda’r canlynol: • Llyfrau Plant Usborne • Moonpig • Lego • Ymddiriedolaeth GIG • Allihopa Greeting Cards • Marks & Spencer • The Great British Card Company • Tigerprint • Bright Agency • Graffeg Publishers • Welsh Country Magazine • Bay Studios • The British Museum • Magic Leap Inc • Visible Art • Lush • The Print Haus • Astra Games • Tokyo Disney Theme Park
*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.
195
Coleg Celf Abertawe
Dylunio Cynnyrch Rydym yn falch o allu cynnig grwpiau addysgu dwys, bach a thiwtorialau ‘un i un’ rheolaidd, lle, fel myfyriwr, byddwch yn ffocysu ar ddatblygu eich dealltwriaeth a’ch twf proffesiynol unigol. Trwy gydol eich astudiaethau byddwch hefyd yn cael eich annog i ddysgu a meithrin y sgiliau a gwybodaeth i gynhyrchu cynnyrch digidol a chorfforol. Mae’r ddau gwrs yn ymdrin â chysyniadu dylunio a datblygiad cynnyrch a mas-gynhyrchir ar gyfer defnyddwyr, systemau a gwasanaethau.
Llun: Nic Thatcher
Mae’r portffolio Dylunio Cynnyrch i gyd yn ymwneud â chariad at greu cynnyrch cyffrous ac arloesol sy’n cael effaith bositif ar fywydau pobl. Y gwrthrychau bobdydd sydd o’n cwmpas sy’n aml yn cael yr effaith fwyaf!
196
Dylunio Cynnyrch
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • • • • • • •
Yr offer a’r cyfleusterau, fel argraffu 3D a CAD o safon y diwydiant, a gweithdai helaeth. Mae gan bob myfyriwr ei le stiwdio ei hun. Mae’r staff i gyd yn academyddion cymwys ac arbenigwyr diwydiannol yn eu maes. Mae myfyrwyr yn cael y cyfle i arddangos eu gwaith yn Arddangosfa New Designers, Llundain. Caiff darlithwyr gwadd ac arbenigwyr o’r diwydiant eu gwahodd yn rheolaidd i helpu a rhoi cyngor i fyfyrwyr gyda’u datblygiad proffesiynol. Mae prosiectau byw gyda chwmnïau rhyngwladol fel Hasbro, Recaro, Sony a busnesau bach a darparwyr gwasanaeth lleol fel Heddlu De Cymru yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael ystod o brofiad perthnasol. Mae cyfleoedd i astudio dramor hefyd ar gael drwy Erasmus a chynlluniau eraill.
O’r diwrnod cyntaf un, roedd y rhyngweithio un i un rhyngom ni’r myfyrwyr a’r darlithwyr yn amlwg, ac fe barhaodd y safon uchel o addysgu hwn drwy gydol y cwrs. Hefyd, roedd cyfleusterau’r Brifysgol yn ffantastig a alluogodd i mi ddatblygu fy sgiliau’n llawn mewn meysydd ffisegol a digidol. Mae strwythur y cwrs yn agor cymaint o ddrysau, gan alluogi i chi weithio ar brosiectau byw gyda chleientiaid bywyd go iawn. Mae’n brofiad na fyddaf byth yn ei anghofio!
Liam Mee
Un o raddedigion Dylunio Cynnyrch
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
197
Coleg Celf Abertawe
Llwybrau Dylunio Cynnyrch Dylunio Cynnyrch Codau UCAS: BA
W242
MDes
0P2M
Dylunio Cynnyrch a Thechnoleg Codau UCAS: BSc
W284
MDes
W200
Mae astudio Dylunio Cynnyrch yn Abertawe yn cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr ffocysu ar eu datblygiad creadigol. Bydd myfyrwyr yn ymwneud ag archwilio i agweddau sy’n canolbwyntio ar elfen ddynol dylunio cynnyrch. Fe’ch anogir i archwilio, arloesi ac yna ymgorffori eich dealltwriaeth eich hun o estheteg a chymhlethdodau eraill a ddeellir trwy wneud ffurf a chysyniadau a rhyngweithiau cynnyrch.
Nod y rhaglen yw cynhyrchu dylunwyr proffesiynol dylunio sy’n gallu cymhwyso technolegau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg mewn ffordd greadigol wrth arloesi cynnyrch newydd. Cewch eich annog i archwilio i ffyrdd newydd o wneud yn fawr o arfau digidol i ddarparu cynhyrchion effeithlon ac effeithiol ar gyfer y farchnad fasnachol. Mae yna bwyslais mawr ar optimeiddio dylunio cynigion cynnyrch o ran galluogi technolegau, y dewis o ddefnydd a meini prawf gweithgynhyrchu ynghyd ag ymwybyddiaeth o arferion dylunio a gwireddu cynaliadwy.
Wrth raddio, byddwch yn meddu ar y sgiliau a’r priodoleddau pwnc-benodol a throsglwyddadwy sydd eu hangen i gynhyrchu syniadau, cysyniadau, a chynigion dylunio manwl mewn ymateb i anghenion penodol a gallu gweithredu'n effeithiol mewn amgylchedd stiwdio ddylunio (amlddisgyblaeth).
*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.
198
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg, Dwyieithog*
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau UCAS
Dylunio Cynnyrch
199
Coleg Celf Abertawe
Dylunio Gemau Cyfrifiadurol Mae Dylunio Gemau Cyfrifiadurol yn Abertawe yn canolbwyntio ar archwiliad creadigol dylunio gemau cyfrifiadurol.
Byddwch yn cael yr holl wybodaeth angenrheidiol i ddatblygu gwaith newydd ac arloesol ym meysydd creu delwedd, Graffeg 3D, animeiddio, modelu amgylchedd, creu gwead, creu, dylunio a modelu cymeriad. Anogir myfyrwyr i archwilio a datblygu eu syniadau trwy ddefnyddio'r technolegau cyfrifiadurol a meddalwedd diweddaraf. Mae myfyrwyr yn gweithio o fewn grŵp cynhyrchu i ddatblygu cynnwys cysylltiedig â gemau drwy ddefnyddio ffug gylch datblygu. Byddwch yn cynhyrchu pob cysyniad, cymeriad, ased a dogfennaeth gêm ac yna’n gweithredu hyn i mewn i amgylchedd injan gêm ac yn y pendraw creu demo gêm sy’n gweithio. Datblygir y syniadau hyn ymhellach drwy gynhyrchu demo gêm/prawf o gysyniad, yn seiliedig ar eich manylebau eich hun, yn rhan o’ch prosiect mawr terfynol. Bydd y cwrs yn rhoi ichi’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen yn y Diwydiant Gemau ynghyd â’r gallu i ddadansoddi a gwerthuso’n academaidd eich syniadau a dyluniadau gêm eich hun.
200
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg, Dwyieithog*
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau UCAS
Dylunio Gemau Cyfrifiadurol
Mae gan y cwrs gysylltiadau gwych gyda chwmnïau cynhyrchu gemau’n lleol ac yn genedlaethol, mae’n aelod o fenter Playstation First Sony yn ogystal â Phartner Academaidd Unreal Engine. Trwy ddialog gyda’r diwydiant a chymhwyso’r datblygiadau diweddaraf mewn gemau, mae graddedigion y rhaglen hon yn barod i fynd i’w dewis ddiwydiant fel ymarferwyr. Mae myfyrwyr y cwrs wedi gweithio ar nifer o gemau sydd wedi derbyn cryn glod dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys: Grand Theft Auto 5; Alien: Isolation; a, Halo Wars 2.
Cwrs gwych a chanddo ddigonedd o gyfleoedd i greu gemau llawn hwyl, i wthio’ch sgiliau creadigol a chael blas ar weithio yn y diwydiant gemau.
James Penhallurick Un o raddedigion Dylunio Gemau
Cod UCAS BA: CGD1
Cod UCAS MArts: CGD2
*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.
201
Coleg Celf Abertawe
Dylunio Graffig Mae’r cwrs Dylunio Graffig yn Abertawe yn paratoi pobl at ddyfodol deinamig ac amrywiol mewn cyfathrebu gweledol.
Cewch eich annog i ystyried y byd trwy ryngweithiad gair a delwedd, a’r cyfoeth o amgylchiadau sy’n caniatáu i’ch syniadau chwarae rôl weithredol a defnyddiol. Rydym yn meithrin amgylchedd dysgu cefnogol, cyfeillgar, gyda etheg waith gref sy’n adfyfyrio ar y diwydiant. Mae cydbwysedd iach o brosesau sgrîn ac â llaw yn adlewyrchu ein hathroniaeth bod sgiliau a syniadau’n anwahanadwy wrth geisio creu portffolio cyflawn, diddorol. Mae’r tîm o staff brwdfrydig yn obsesiynol am y gweledol – yn parchu’r gorffennol, ond yn edrych i’r dyfodol o hyd, ac yn frwd dros dywys graddedigion hyderus, medrus tuag at eu huchelgeisiau personol. Boed yn ymateb i heriau emosiynol neu resymol, dylunwyr graffig yw adeiladwyr ein tirlun diwylliannol. Trochwch eich hunan mewn byd o bosteri, pecynnu, cylchgronau a dylunio golygyddol, graffeg ar gyfer y we a graffeg sy’n symud, dylunio gwybodaeth, hunaniaeth gorfforaethol, dylunio cynaliadwy a chyfrifol. Ymunwch â ni a siapiwch y dyfodol gweledol!
• • • •
202
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant?
Stiwdios llythrenwasg, Risograff, torri â laser pwrpasol ac ystafelloedd Mac o’r radd flaenaf. Cyfleoedd i fynd ar brofiad gwaith ym Mlwyddyn 3. Siaradwyr a berchir ar draws y byd a darparwyr gweithdai mewn digwyddiad Wythnos Ddylunio blynyddol. Cyfle i arddangos yn New Designers sydd wedi galluogi ein graddedigion i weithio ar draws y byd.
Iaith: Saesneg, Dwyieithog*
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau UCAS
Dylunio Graffig
Mae graddedigion bellach yn gweithio i’r cwmnïau a ganlyn: • • • • • • • • • • • • • • • • • • • • • • • • • • • • • • • •
Apple Aston Villa Barclays Bank Blue Stag Studio CDSM Interactive Solutions Conran Design Group Dirty Little Serifs Dr Organic Eden Hotel Design Enigma Creative Solutions Fitch Haymarket Media Group House of Fraser Icon Leekes Design Lego Manchester United Matter of Form Design Agency MoonPig.com Newmor Wallcoverings design Nike Oxford University Press Papyrus Marketing Solutions Saatchi & Saatchi Wellness SapientNitro Sky Creative Stag & Hare Tigerprint Tinopolis Group Universal Music Group W12 Studios Waters Creative
Mae arna’i fy ngyrfa gyfan i Goleg Celf AbertaweY Drindod Dewi Sant, maent yn cynnig yr amgylchedd creadigol perffaith i ffynnu ynddo.
Gareth Winter
British Sky Broadcasting & Sky News
Cod UCAS BA: W210
Cod UCAS MDes: 52J6
*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.
203
Coleg Celf Abertawe
Dylunio Modurol a Chludiant Ein gweledigaeth yw cynhyrchu gweithwyr dylunio proffesiynol sydd â lefelau uchel o sgil, creadigrwydd, ymwybyddiaeth ddiwylliannol ac estheteg a sensitifrwydd at ddyfodol cynaliadwy. Mae’r cwrs hwn yn archwilio i natur newidiol cludiant ar ei holl ffurfiau.
204
Anogir myfyrwyr i gynhyrchu cysyniadau cerbyd radical sy’n herio confensiynau sefydledig ond nid ar draul anghenion dynol sylfaenol. Mae’r rhaglen yn cyfuno arfer stiwdio traddodiadol gydag arfau digidol o’r radd flaenaf, a bydd myfyrwyr yn defnyddio’r fersiynau diweddaraf o feddalwedd dylunio a delweddu â chymorth cyfrifiadur o safon ddiwydiannol. Mae gan fyfyrwyr fynediad at gyfleusterau rhagorol gan gynnwys stiwdios dylunio pwrpasol sydd â mannau gwaith unigol a gweithdai traddodiadol ac arbenigol a gefnogir gan ystafelloedd cyfrifiadurol cynhwysfawr i gefnogi dylunio digidol. Mae’r cyrsiau’n cynnwys prosiectau dylunio byw sy’n galluogi myfyrwyr i ymgysylltu â chwmnïau modurol pwysig. Mae arfer staff, cyswllt diwydiannol a phrosiectau byw yn sicrhau bod myfyrwyr yn gwbl barod am ofynion cyflogaeth. Cydweithiwyd yn ddiweddar gyda: Elva Cars; Jaguar; Land Rover; Rolls Royce; McLaren Automotive; Lotus Cars; Westfield Sports Cars; Honda; Nissan; a, MCR Sports Cars.
Dylunio Modurol a Chludiant
Mae gweithdai pren, metal, plastig a chlai steilio modurol pwrpasol, a’r fersiynau diweddaraf o feddalwedd dylunio a delweddu 3D o safon ddiwydiannol, fel Autodesk Alias Surface, Speedform, Vred ac Adobe Creative Suite, yn caniatáu i fyfyrwyr weithio gydag ystod eang o gyfryngau a defnyddiau i gefnogi a chyfoethogi eu gwaith dylunio. Mae cael profiad o arwynebu clai yn bwysig iawn wrth ddatblygu dylunydd ceir y dyfodol gan ei fod hefyd yn gwella’ch darlunio a diffinio modelu CAD 3D. Mae graddedigion diweddar yn gweithio gyda’r canlynol: • Jaguar • Land Rover • McLaren Automotive • BMW • Audi • Peugeot • Citroen • Opel • Subaru • Daimler Trucks • Native • NOVA Design • Pininfarina • Potenza Technologies • Pro-Drive • Recaro Aircraft Seat • Rolls Royce
• SAIC • MG • Semcom Research • Sunseeker Yachts • Swift Caravans • TATA Motors • Westfield • Nissan • Adidas • Triumph • Futura Design • JCB • Envisage • Renault • Concept Group International
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
205
Coleg Celf Abertawe
Llwybrau Dylunio Dylunio Modurol Codau UCAS: BA W240 MDes 7F3T
Dylunio Cludiant Codau UCAS: BA 9R37 MDes 04G6
Mae’r cwrs Dylunio Modurol yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu’r sgiliau, gwybodaeth a medrau sydd eu hangen i ddylunio a datblygu ceir a beiciau modur newydd.
Mae’r cwrs Dylunio Cludiant yn archwilio cludiant ar ei holl ffurfiau o ymagwedd dylunio cysyniadau, gan gynnwys cychod, carafanau, ceir cysyniad a beiciau modur, cerbydau amaethyddol, loris, cerbydau 2/3 olwyn modurol, systemau cludiant, cerbydau cysyniad ‘awyr las’ i gerbydau set ffilm ac ati.
Y peth gorau i mi am y rhaglen oedd y nifer llai o fyfyrwyr sydd yno o gymharu â phrifysgolion eraill. Cewch gyfle i wella’n gyflym iawn. Roedd tiwtor ar gael o hyd am gyngor a barn. Ni fu’n rhaid ichi gael apwyntiad i gael adborth nac i drafod prosiect. Cefais hefyd fy rhyfeddu gan y cyfleusterau ar y rhaglen. Rhaid i mi gyfaddef fy mod i fod i fynd i raglen arall mewn prifysgol arall ond newidiais fy meddwl pan ymwelais ag Abertawe a gweld popeth yno.
Gareth Rees
Un o raddedigion Dylunio Modurol
206
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg, Dwyieithog*
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau UCAS
Dylunio Modurol a Chludiant
*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.
207
Coleg Celf Abertawe
Dylunio Patrwm Arwyneb Mae’r portffolio DPA yn ymwneud â thecstilau, arwynebau ac adeileddau cyffrous ac arloesol yng nghyd-destunau pellgyrhaeddol ffasiwn, addurn mewnol a dylunio.
Mae Patrwm Arwyneb yn rhaglen amlddisgyblaeth greadigol tu hwnt, sydd â thecstilau wrth ei gwraidd. Mae prosiectau byw yn rhan annatod o’r cwrs cyfan ac ymhlith y rhai diweddar mae Hallmark, Eley Kishimoto, H&M ac i-dott. Mae darlunio, gweithdai defnydd ac ymchwiliad trylwyr o’r broses ddylunio yn tanategu’r rhaglen gan gynnwys printio a lliwio sgrin, gwneud printiau, pwytho, addurno a thrin a thrafod ystod eang o ddefnyddiau, gan gynnwys papur, gwifr, metel, gwydr, defnyddiau gwneud, pren ac wrth gwrs tecstilau. Mae'r cyfleusterau yn cynnwys ystafelloedd cyfrifiadur, torrwyr laser, argraffwyr tecstilau digidol, peiriannau gwnïo digidol, torrwyr plot a thorrwr chwistrellydd dŵr. Mae gan bob myfyriwr ei le stiwdio ei hun.
208
Patrwm Arwyneb a Thecstilau
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • Mae gan bob myfyriwr ei ddesg ei hun yn ein stiwdio eang a bywiog ar y llawr uchaf. • Mae’r rhaglen yn llawn briffiau byw – ymhlith y prosiectau diweddar mae gweithio gyda Hallmark a H&M Stockholm. Mae’r ddau frand yn cyflogi graddedigion ein rhaglen ac yn cynnig cyfleoedd interniaeth gwych i enillwyr y prosiectau. • Caiff myfyrwyr y cyfle i fynd i New Designers yn Llundain. • Offer o safon ddiwydiannol fel AVA. • Mark Eley, o Eley Kishimoto, yw Athro Arfer Dylunio Patrwm Arwyneb. • Mae llawer o raddedigion yn mynd ymlaen i redeg eu mentrau llwyddiannus eu hunain.
Mae Patrwm Arwyneb yn gwrs cyffrous, heriol ac amrywiol. Mae dysgu cymaint o dechnegau’n rhoi’r cyfle i chi ddod o hyd i’ch arbenigedd a mynd amdani. Mae’r Tiwtoriaid yn anhygoel o gefnogol wrth eich helpu i gyrraedd eich potensial llawn ac maent yn mwynhau gwneud hynny a daw’r stiwdio’n ail gartref – yn llawn lliw, patrwm a chwerthin. Bu’r holl beth yn ysbrydoliaeth i mi.
Mae graddedigion nawr yn gweithio i’r cwmnïau a ganlyn: • • • • • • • • •
John Lewis Emma Bridgewater Jayne Pierson Cubus Debenhams International Greetings Humbug Moonpig Monsoon/Accessorize
Harriet Popham Un o raddedigion y cwrs
209
Coleg Celf Abertawe
Llwybrau Patrwm Arwyneb a Thecstilau Tecstilau ar gyfer Addurno Mewnol Codau UCAS: BA W235 MDes 5RC2
Gwrthrych Ffasiwn Codau UCAS: BA W230 MDes Y28U
210
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Lluniwyd y llwybr hwn ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno arbenigo fel dylunwyr a gwneuthurwyr ac sydd â chariad at gyfoethogi mannau mewnol gyda phatrwm a thecstilau arloesol. Rhoddir pwyslais cryf ar ddatblygu cysyniadol, adeiladu casgliadau ac ymholi am ddefnyddiau.
Mae’r llwybr hwn yn gyfuniad o ddylunio ffasiwn, talu sylw i fanylder a steilio i greu darnau tri-dimensiwn y gellir eu gwisgo neu ‘wrthrychau’ ffasiwn. Nod y llwybr Gwrthrych Ffasiwn yw cynhyrchu dylunwyr a gwneuthurwyr sy’n gallu creu gwaith o’r radd flaenaf i ddylanwadu ar y ffordd rydym yn edrych a theimlo, ac a fydd yn cael effaith deinamig ar y byd ffasiwn.
Iaith: Saesneg, Dwyieithog*
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau UCAS
Patrwm Arwyneb a Thecstilau
Tecstilau ar gyfer Ffasiwn Codau UCAS: BA W234 MDes 8V7C
Gwneuthurwr Codau UCAS: BA W790 MDes T5F3
*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.
Mae’r llwybr hwn ar gyfer y myfyrwyr hynny sy’n dymuno arbenigo mewn tecstilau ar gyfer ffasiwn. Rhoddir pwyslais ar ddylunio patrwm, ac arloesi gyda defnyddiau a thechnegau. Byddwch yn dysgu sut i adnabod tueddiadau, gofynion marchnata a phroffiliau cleientiaid, a chreu casgliadau dylunio ffasiwn a thecstilau sy’n edrych i’r dyfodol.
Mae’r llwybr hwn ar gyfer y myfyrwyr hynny sy’n dymuno arbenigo fel gwneuthurwyr dylunwyr, yn gwneud darnau arloesol a fyddai’n addas ar gyfer deilliant sengl neu niferus. Mae astudiaethau pwysig mewn tecstilau ond fe allech arbenigo mewn defnyddiau eraill fel metel, pren, papur, gwydr neu gerameg.
211
Coleg Celf Abertawe
Dylunio Set Meddyliwch am funud am eich hoff ffilmiau a rhaglenni teledu. Meddyliwch am ba mor anhygoel yw’r setiau a sut y maent yn rhoi cartref i gymeriadau a syniadau. Dychmygwch fod yn rhan o ddiwydiant sy’n arbennig o greadigol a chael gyrfa yn gwneud hyn.
Entry Requirements: 120 Points
212
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg, Dwyieithog*
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau UCAS
Dylunio Set
Gall BA Dylunio Set ddatblygu a ffrwyno eich meddwl creadigol a dychmygol, gan hybu eich brwdfrydedd am ddelweddu, creu ac adeiladu amgylcheddau a setiau syfrdanol. Mae’r rhaglen hon ar gyfer pobl sydd am ddefnyddio eu cariad a’u creadigrwydd at ddylunio i wneud yr amgylcheddau hynny. Mae’r cwrs hwn yn trawsnewid cyffredinolwyr yn arbenigwyr. Ychydig iawn o gyrsiau tebyg sydd ar gael yn genedlaethol neu’n rhyngwladol ac nid oes gan yr un ohonynt yr un uchelgais dros eu myfyrwyr na’r cyfryw ystod o ymagweddau. Os hoffech ymchwilio i gyfnodau hanesyddol, datblygu delweddau, adeiladu golygfeydd bendigedig, ail-greu tirweddau presennol neu drawsnewid naratif a syniadau am sgriptiau ffilmiau yn setiau ffilm, yna mae ar y cwrs Dylunio Setiau eich angen. Rydym yn bwriadu llunio cwrs o unigolion angerddol sydd â diddordeb mewn hanes, dylunio, y celfyddydau, graffeg a diwylliant cyfoes; pobl sydd eisiau dod yn ddylunwyr set talentog a gweithio mewn diwydiant ffyniannus a bywiog. Fel darpar fyfyriwr ar y rhaglen, bydd gennych gymwysterau lefel mynediad addas neu’n bodloni gofynion mynediad myfyrwyr aeddfed. Rydym yn disgwyl i bobl ddod o ystod eang o gefndiroedd technoleg, dylunio, dyniaethau, seiliedig ar y celfyddydau a phrentisiaeth ac rydym wedi llunio’r cwrs i ystyried myfyrwyr o Gelf a Dylunio Sylfaen, pynciau academaidd fel Hanes a Llenyddiaeth Saesneg a’r rheini sydd wedi cwblhau cymwysterau uwch yn llwyddiannus (e.e. Safon Uwch neu Ddiploma Cenedlaethol) mewn celfyddydau neu bynciau seiliedig ar ddylunio. Yn ogystal â disgyblion o oedran gadael ysgol, bydd ymgeiswyr â phrofiad perthnasol mewn diwydiannau cysylltiedig â’r cyfryngau yn cael eu hystyried, yn amodol ar bortffolio/fideo arddangos a chyfweliad.
*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • Wedi ein lleoli yn Abertawe, mae gennym gysylltiadau uniongyrchol ag ystod o gyfleusterau a stiwdios cynhyrchu. •
Rydym yn unigryw am fod gennym ein gorsaf deledu ein hunain Bay TV - ac yn ei defnyddio i arddangos gwaith myfyrwyr a rhoi amser go iawn ar y teledu i rith-ddyluniadau set.
•
Rydym yn gwahodd arbenigwyr i’r rhaglen o stiwdios Bad Wolf, Three Cliffs Production, Pinewood Wales, Dragon Studios, Bay Studios Bay yn Abertawe a’n datblygiad gwerth nifer o filiynau, sef pencadlys corfforaethol newydd S4C. Mae’r stiwdios hyn yn galw’n daer am ein myfyrwyr ac yn cynnig swyddi i raddedigion yn gyson.
•
Lle stiwdio, cyfleusterau gwych ac offer rhagorol gan Canon, Red, Sony, Dedo, Kino Flo, Manfrotto, Rode, Sennhei ser a Lite panels.
Cod UCAS y BA: 64D8
Cod UCAS yr MArts: 64D9
213
Coleg Celf Abertawe
Ffilm a Theledu Mae’r cwrs yn cofleidio gofynion y diwydiannau ffilm a theledu cyfoes, gan edrych ymlaen at ddatblygiadau’r dyfodol ond eto’n llawn technegau gwneud ffilmiau traddodiadol.
Gan adeiladu ar gysylltiadau agos â’r diwydiant, nod y rhaglen yw datblygu’r sgiliau technegol, creadigol a phroffesiynol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i lunio gyrfaoedd mewn ffilm a theledu. Wedi’i danategu gan sylfaen ddamcaniaethol gadarn, mae’r cwrs hwn yn meithrin ymagwedd ymarferol gryf at ddelweddau symudol ac yn archwilio agweddau creadigol a thechnegol at wneud ffilmiau. Gan gyfuno prif agweddau cynhyrchu ac ysgrifennu sgriptiau, mae’r cwrs hwn yn creu graddedigion sydd â’r sgiliau creadigol, technegol, beirniadol ac entepreneuraidd i ddechrau gyrfa yn y diwydiant ffilm a theledu. Hefyd, caiff myfyrwyr gyfle i ymgymryd â lleoliadau ar gynyrchiadau proffesiynol. Er enghraifft, cafodd rhai myfyrwyr brofiad gwaith ar ddrama deledu mawr yr UD, Da Vinci’s Demons. Mae gan y cwrs gyfleusterau ac offer rhagorol ar gyfer cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu, gan gynnwys ystafelloedd golygu a stiwdio deledu llawn offer gydag ystafell rheoli cynhyrchu a chyfleuster sgrîn werdd.
214
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg, Dwyieithog*
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau UCAS
Ffilm a Theledu
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • Cysylltiadau cryf gyda’r sector cynhyrchu, yn arbennig stiwdios Bad Wolf yng Nghaerdydd. • Mae llawer o’n graddedigion bellach yn gweithio ar draws amrywiaeth o feysydd yn y sector ffilm a theledu ar draws y byd. • Mae myfyrwyr wedi cael profiad gwaith ar gynyrchiadau drama a dogfennol gyda’r BBC, ITV, Sky, BBC Worldwide/ FX, S4C yn ogystal â llu o gynyrchiadau ffilm annibynnol yn y DU. • Cyfleusterau ac offer o safon ddiwydiannol gan gynnwys stiwdios sgrîn werdd, cipio symudiad, camerâu recordio 4K, ystafelloedd golygu ac ôl-gynhyrchu.
*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.
Cod UCAS y BA: W610
Cod UCAS yr MArts: 4S8X
215
Coleg Celf Abertawe
Ffotograffiaeth Mae’r rhaglenni ffotograffiaeth yn Abertawe yn darparu platfform cyffrous i allu archwilio safle unigryw a beirniadol y ddelwedd Ffotograffig o fewn diwylliant cyfoes.
O arfer celf ffotograffig arbrofol i bosibiliadau naratif celf ddogfennol, anogir myfyrwyr i ystyried traddodiadau sefydledig eu cyfrwng ac yna i herio’r confensiynau hyn trwy ddatblygu eu llais unigryw eu hunain. Gall myfyrwyr gyrchu cyfleusterau o safon ddiwydiannol yn ogystal â chyfleusterau ffotograffiaeth traddodiadol ac ystafelloedd tywyll. Mae ein darpariaeth ddigidol yn cynnwys ystafelloedd Mac sy’n defnyddio’r meddalwedd Adobe diweddaraf, wedi’u cysylltu ag argraffwyr gwirio proflen a chwistrell proffesiynol, ystafell dywyll ddigidol lliw-reoledig arbenigol gyda sganwyr Hasselblad Flextight ac argraffu fformat mawr a chyfleuster storio sy’n rhoi ichi fynediad at gamerâu ffilm fformat canolig a mawr, SLR digidol proffesiynol, camerâu digidol Hasselblad fformat canolig ac offer goleuo lleoliad. Yn ogystal, mae’r cwrs yn cynnig amser cyswllt rhagorol rhwng myfyrwyr a staff. Mae gan yr adran gysylltiadau rhagorol gyda’r diwydiant ffotograffig a byd celf gain, o’r rhwydwaith orielau i asiantaethau dogfen a hysbysebu. Mae hyn yn sicrhau y caiff myfyrwyr gyfleoedd gwaith a marchnad ryngwladol sy’n tyfu ar gyfer gwaith myfyrwyr. Bydd myfyrwyr hefyd yn elwa o raglen Darlithwyr Gwadd ardderchog, teithiau astudio rhyngwladol blynyddol ac arddangosfeydd diwedd blwyddyn yn Llundain ac Abertawe.
Gyrfaoedd
Caiff graddedigion eu cyflogi mewn ystod eang o weithgareddau ffotograffig gan gynnwys: cyhoeddi; ffasiwn; ffotograffiaeth olygyddol a masnachol; golygu lluniau; ymchwil lluniau; ac, addysgu.
216
Llun: Dan Shaw
Ffotograffiaeth
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
217
Coleg Celf Abertawe
Cyrsiau Ffotograffiaeth Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau Codau UCAS: BA W643 MArts 123L
Diben pwyslais athronyddol y cwrs Ffotograffiaeth yn y celfyddydau yw annog myfyrwyr i archwilio a herio confensiynau arfer celf ffotograffig cyfoes. Wedi’i danategu gan ymchwil hanesyddol a beirniadol, disgwylir i fyfyrwyr ymgymryd ag ymholiad helaeth sy’n cymryd risgiau i bosibiliadau ffotograffiaeth, gyda chreadigrwydd unigol ac uchelgais personol wrth graidd athroniaeth y cwrs. Rhyngweithio a chyfathrebu rhagorol rhwng y myfyriwr a’r staff sy’n sail i’r cyrsiau ffotograffiaeth. Rydym yn cydnabod mai’r ffordd fwyaf effeithiol o ddatblygu eich arfer personol yw cychwyn trafodaeth am syniadau a delweddau gyda’ch darlithwyr a’ch cyfoedion. Cynhelir y dialog parhaus hwn ar ffurf trafodaethau beirniadol, seminarau a thiwtorialau.
wyieithog* 218
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg, Dwyieithog*
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau UCAS
Ffotograffiaeth
Ffotonewyddiaduraeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol Codau UCAS: BA J316 MArts 295G
Mae’r cwrs yn cynnig y rhyddid i roi cynnig ar bopeth, a bu arbrofi’n ddefnyddiol iawn i mi. Mae cael beirniadaeth adeiladol yn ystod grwpiau seminar yn hanfodol wrth ddiffinio eich diddordeb a’ch arddull mewn ffotograffiaeth.
Ossi Piispinen
O ganlyniad i faint bach a natur gyfeillgar ein dosbarthiadau, ceir llawer o ryngweithio a chymorth trwy drafodaethau beirniadol, seminarau a thiwtorialau rheolaidd. Mae gennym raglen reolaidd o darlithwyr gwadd ac rydym yn gweithio’n agos gyda grwpiau cymuned lleol i ddatblygu prosiectau cydweithredol. Mae ein graddedigion arloesol yn datblygu’r sgiliau i ymgysylltu â chleientiaid a chynulleidfaoedd ar draws llawer o feysydd ffotograffiaeth.
Llun: Jasmine Färling
Un o raddedigion y cwrs Ffotograffiaeth
Mae’r cwrs Ffotonewyddiaduraeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol yn ffocysu ar ddatblygu gwell dealltwriaeth o rym adrodd straeon gweledol a chanlyniadau sosio-wleidyddol ei wahanol ffurfiau a defnyddiau. Mae’r cwrs yn archwilio i’n diwylliant gweledol hynod ddiddorol ac esblygol gan ystyried ein hawydd parhaus i gofnodi bywyd bob dydd – o’r hunlun, i’r stryd, i’r stiwdio.
*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.
219
Coleg Celf Abertawe
Gwydr:
Celfyddydau Pensaernïol Mae Gwydr yn Abertawe yn cynnig y cyfle i chi fod yn arbenigwr mewn gweithio gyda'r defnydd rhyfeddol hwn a deall ei rinweddau.
Rwy’n caru’r hyn rwy’n ei wneud. Ni allaf ddychmygu unrhyw beth arall y byddai’n well gennyf ei wneud na chyfuno gweithio gydag adfer gwydr lliw ochr yn ochr â gwneud fy mhaneli fy hun ar gyfer comisiynau ac arddangosfeydd.
Elisabeth Voss Sinnerud
Gyda hanes o dros 80 mlynedd, mae Gwydr yng Ngholeg Celf Abertawe yn tynnu ar enw da rhyngwladol am ragoriaeth ac arloesi. Mae ein cwrs yn ffocysu ar wydr pensaernïol gyda chymwysiadau ar draws cyd-destunau cyfoes, cadwraeth ac adfer. Mae’r cwrs hwn sydd â ffocws galwedigaethol cryf iawn, yn dod â thraddodiadau gorau gweithio â llaw a'r technnolegau digidol diweddaraf at ei gilydd. Mae ein gweithdy pwrpasol yn eich caniatáu i astudio technegau traddodiadol fel paentio gwydr, gildio, ysgythru ag asid a sgwrio â thywod ynghyd ag ymagweddau cyfoes fel gwydr cynnes, printio sgrin, printio digidol a thorri â chwistrell ddŵr, a hynny oll wedi’i danategu gan sgiliau crefft cadarn, gan gynnwys darlunio, dylunio a gwneud. Mae gan y cwrs gysylltiadau da gyda diwydiant ym Mhrydain a thramor, yn arbennig Y Ffindir, Ffrainc a’r Almaen, ac yn rhoi cyfle i fynd ar ymweliadau, teithiau cyfnewid a lleoliadau gwaith.
Un o raddedigion Gwydr
220
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg, Dwyieithog*
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau UCAS
Gwydr
Gwydr (Celfyddydau Pensaernïol) Mae’r cwrs yn darparu sgiliau a gwybodaeth mewn gwydr lliw traddodiadol a phaentio gwydr gyda ffocws ar wydr pensaernïol sydd wedyn yn gallu cael ei gymhwyso i gyd-destun cyfoes a/neu gadwraeth ac adfer. Mae gan yr Adran Wydr hanes hir a llwyddiannus o gynhyrchu graddedigion o’r safon broffesiynol uchaf ym maes gwydr pensaernïol a lliw.
*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.
Ymhlith y llwybrau
gwaith, mae:
• Dylunio ar gyfer diwydiant neu weithio yn y diwydiant gwydr. • Gweithio ar gomisiynau preifat a chyhoeddus a bod yn artist, dylunydd neu wneuthurwr sefydledig. • Gwaith mewn stiwdios gwydr arbenigol ar gyfer prosiectau cyfoes ac adfer. • Cyfleoedd gwaith o fewn gweinyddiaeth celfyddydau, curadu, addysgu a mentora, gwaith cymunedol a gwaith golygyddol celfyddydau. • Parhau ag astudiaethau i lefel ôl-radd a thu hwnt. Mae rhaglenni MA, MPhil a PhD ar gael.
Codau UCAS: BA W770 / MDes 5H3M
221
Coleg Celf Abertawe
Hysbysebu a Dylunio Brand Mae ein cwrs Hysbysebu a Dylunio Brand yn ffocysu ar roi i’n myfyrwyr y cyfle gorau posibl i gael swydd eu breuddwydion yn y diwydiannau creadigol.
Mae ein myfyrwyr yn astudio i fod yn ymarferwyr creadigol y dyfodol. Golyga hyn ddysgu sut i gyfathrebu trwy nifer o sianeli digidol, cyfryngau cymdeithasol, traddodiadol ac annhraddodiadol. Mae’r her yn gyffrous ac yn galw am arloesi ac egni di-ddiwedd, felly rydym yn annog gwreiddioldeb a chymryd risgiau. Byddwch yn synio a chynhyrchu ymgyrchoedd integredig, hunaniaethau brand, ffilmiau i’r we, hysbysebion teledu, ymgyrchoedd printiedig, dulliau cyfathrebu drwy brofiad, ymgyrchoedd cyfrwng cymdeithasol, hysbysebu ar-lein, hysbysebu guerrilla ac amgylchol, post uniongyrchol, dylunio gwefannau, blogiau, hysbysebu radio a bron â bod unrhyw beth y gallwch ei ddychmygu! Rydym yn pwysleisio ymagwedd gynaliadwy, foesol ac sy’n wynebu’r dyfodol at hysbysebu a brandio lle cewch elwa o ddysgu mewn dosbarthiadau bach a thrwy amser cyswllt helaeth gyda darlithwyr y cwrs. Mae gennym hefyd gyfleusterau traddodiadol ac o’r radd flaenaf.
222
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg, Dwyieithog*
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau UCAS
Hysbysebu a Dylunio Brand
Gyrfaoedd: • Cyfarwyddwr Celf • Ysgrifennwr Copi • Dylunydd Brand • Dylunydd Graffig • Gweithiwr Creadigol Digidol • Cyfryngau Cymdeithasol • Rheolwr Cyfrifon • Cydlynydd Prosiect • Marchnata • Cysylltiadau Cyhoeddus a Digwyddiadau
Llun: Amber Howie
Mae’r cwrs hwn yn wahanol iawn. Mae’n ymwneud â chreu problemau a’u datrys nhw, dysgu sgiliau newydd sy’n datgloi cyfleoedd newydd ac adeiladu llwybr i yrfa sy’n gweddu i chi. Roedd y tiwtoriaid yn hanfodol wrth fy nhywys i’r cyfeiriad iawn gyda’u gwybodaeth helaeth.
Ross Weaver
Cyfarwyddwr Celf, 180 Kingsday
Llun: Emily Donovan
Aelod o D&AD Mae myfyrwyr ar y cwrs BA(Anrh) Hysbysebu a Dylunio Brand wedi ennill 4 Gwobr D&AD New Blood byd-eang yn y pum mlynedd diwethaf.
Cod UCAS y BA: W221
Cod UCAS y MDes: S2J5
*Gall rhai modylau fod ar gael yn Gymraeg, cysylltwch â ni am fanylion.
223
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Pensaernïaeth,
Cyfrifiadura a Pheirianneg Mae’n amser cyffrous i ymuno â'r Gyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg. Mae’r Gyfadran, gyda’i hanes o addysgu cymhwysol ac arloesi, wedi’i lleoli ar safle pwrpasol ger y môr, yng nghalon ardal Glannau SA1 y ddinas.
224
Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Yn ein datblygiad newydd yn SA1 mae ardaloedd technegol, gweithai a labordai, ardaloedd addysgu hyblyg, llyfrgell fodern, oll wedi eu creu i roi'r profiad addysgu gorau i'n myfyrwyr. Ar hyn o bryd, mae’r Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yn cynnig ystod eang o gyrsiau mewn technoleg gwybodaeth busnes, cyfrifiadura cymhwysol, cyfrifiadura a systemau gwybodaeth a pheirianneg drydanol ac electronig. Mae hefyd yn cynnig rhaglenni arbenigol mewn meysydd fel peirianneg meddalwedd, datblygu gemau cyfrifiadurol, systemau cyfrifiadurol ac electroneg ynghyd â graddau sy’n gysylltiedig â diwydiannau penodol fel datblygu’r we a rhwydweithiau cyfrifiadurol. Mae ein holl raddau BSc cyfrifiadura yn cael eu hachredu gan Gymdeithas Gyfrifiadurol Prydain (BCS) - golyga'r statws "achrededig” hwn eich bod yn astudio gradd sy’n cyfrannu at y gofynion academaidd sydd eu hangen i gofrestru ar gyfer statws “Siartredig”. Hefyd, gan yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol mae’r unig Academi CISCO yng Nghymru ac mae’n cynnig i fyfyrwyr Rhwydweithio Cyfrifiadurol y cyfle i astudio ar gyfer cymwysterau seiliedig ar ddiwydiant CISCO fel rhan o’u hastudiaethau israddedig. Mae'r Ysgol Pensaernïaeth ac Amgylcheddau Adeiledig a Naturiol yn cwmpasu dwy wahanol ddisgyblaeth, sef yr amgylchedd adeiledig a’r amgylchedd naturiol. Ymhlith y cyrsiau mae pensaernïaeth, technoleg bensaernïol, tirfesur adeiladau, peirianneg sifil a rheolaeth amgylcheddol, cadwraeth amgylcheddol, mesur meintiau a rheoli prosiectau ac adeiladu.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/ysgolion/cyfadrandylunio-cymhwysol-a-pheirianneg-
Mae Pensaernïaeth a’r Amgylchedd Adeiledig yn cynnwys disgyblaethau o safbwyntiau dylunio, adeiladu, cynaliadwyedd ac effaith amgylcheddol. Mae'r addysgu’n arbenigo mewn dylunio adeiladau a datblygu manylebau, gyda ffocws cryf ar gynaliadwyedd. Mae’r radd newydd BSc mewn Pensaernïaeth wedi galluogi myfyrwyr i astudio mewn lleoliad newydd yng Nghymru. Mae'r Ysgol Peirianneg wedi’i rhannu’n dair prif ddisgyblaeth. Y rhain yw Peirianneg Fodurol a Chwaraeon Moduro, Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu, a Logisteg a Chludiant. Caiff arbenigedd y gyfadran mewn peirianneg chwaraeon moduro ei gydnabod yn rhyngwladol a lansiwyd y rhaglen radd Chwaraeon Moduro gyntaf yn y byd gyda BEng mewn Peirianneg Chwaraeon Modurol yn 1998. Mae'r cyrsiau logisteg yn cynnwys cyrsiau sy'n canolbwyntio ar reoli'r gadwyn gyflenwi, cludiant a rheolaeth chwaraeon moduro. Mae cyrsiau peirianneg yn cynnwys Peirianneg Cyfansoddion, Ynni a Pheirianneg Amgylcheddol, Peirianneg Chwaraeon Eithafol a Pheirianneg Fecanyddol. Er bod yna amrywiaeth eang o gyrsiau i ddewis ohonynt, mae cyflogadwyedd wrth wraidd pob un.
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
225
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Blwyddyn Sylfaen mewn
STEM
Mae’r flwyddyn sylfaen hon, a gynigir hefyd fel Tystysgrif Addysg Uwch mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (TystAU) annibynnol wedi’i chynllunio i ganiatáu i fyfyrwyr gael y sgiliau sydd eu hangen i gael lle ar ein Rhaglenni BSc/ BEng yn y Gyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg (FACE).
226
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Mae gan y Gyfadran hanes hir o “Ehangu Mynediad” ac rydym yn gwerthfawrogi’r heriau y gall myfyrwyr eu hwynebu, yn aml heb unrhyw fai arnyn nhw. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi’r heriau a wynebir gan unigolion sy’n dymuno newid eu gyrfa. Bwriad y rhaglen hon yw ymdrin ag, a datrys, unrhyw fylchau sydd mewn sgiliau myfyrwyr er mwyn bodloni gofynion mynediad ein graddau. Mae gennym dîm cyfeillgar o academyddion sy’n ymroi i les a chynnydd academaidd ein myfyrwyr a chynnig cymorth rhagorol i fyfyrwyr y Flwyddyn Sylfaen hon. Nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd, rydym yn ystyried eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd hefyd. Mae gan bob ffrwd fodylau craidd cyffredin sy’n cynnig hyfforddiant ar sgiliau fel mathemateg, gwyddoniaeth ac ysgrifennu academaidd. Mae gan bob ffrwd fodylau arbenigol hefyd sy’n gysylltiedig â’r maes astudio.
Opsiynau Astudio: Llawn amser
Gofynion Mynediad: 32 o bwyntiau UCAS
Sylfaen STEM
Blwyddyn Sylfaen mewn STEM* Cyffredin i bob ffrwd
• Ysgrifennu academaidd • Prosiect Integreiddio • Mathemateg • Gwyddoniaeth
Sylfaen mewn Peirianneg Fodurol Cod UCAS HR3U • Gwyddoniaeth Bellach ar gyfer Peirianneg • Cyflwyniad i Beirianneg Fodurol
Sylfaen yn yr Amgylchedd Adeiledig Cod UCAS SBS1 • Gwyddoniaeth Bellach ar gyfer Adeiladu • Cyflwyniad i Dechnoleg Adeiladu
Sylfaen mewn Cyfrifiadura Cod UCAS SCT1
• Systemau Cyfrifiadurol • Cyflwyniad i Raglennu Cyfrifiadurol • Dadansoddi a Datrys Problemau neu Fathemateg Bellach
BEng/BSc pedair blynedd gyda Mynediad Sylfaen Peirianneg
Cod UCAS
Peirianneg Fodurol
HH33
Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol
48C3
Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu HH3R
Peirianneg Fecanyddol
H300
Peirianneg Beiciau Modur
H390
Peirianneg Chwaraeon Moduro
H341
Cyfrifiadura, Electroneg a Thrydanol Cyfrifiadura Systemau Gwybodaeth Busnes Datblygu Gemau
COM1 BIS1 DGV2
Rhwydweithiau Cyfrifiadurol Seiberddiogelwch CNS1
Systemau Data a Gwybodaeth
CD11
Peirianneg Drydanol ac Electronig
53R2
Peirianneg Meddalwedd
SEC1
Datblygu’r We
CWD1
Sylfaen mewn Electroneg Cod UCAS SES1 • Systemau Cyfrifiadurol • Cyflwyniad i Electroneg
Sylfaen yn yr Amgylchedd Cod UCAS STE1
• Gwyddor Amgylcheddol • Astudiaethau Gwaith Maes
Sylfaen mewn Mecanyddol a Gweithgynhyrchu: Cod UCAS MES1 • Gwyddoniaeth Bellach ar gyfer Peirianneg • Gweithgynhyrchu a Defnyddiau
Diolch yn fawr iawn i bawb yn Y Drindod Dewi Sant am yr holl help a chymorth a gefais ar fy nhaith o fynediad Sylfaen i Radd MEng (Anrh) Dosbarth Cyntaf.
Gavin Griffiths
MEng Peirianneg Chwaraeon Moduro
*Teitl UCAS y cwrs - CertHE: Gwyddoniaeth Technoleg Peirianneg a Mathemateg gydag enw'r ffrwd (gweler uchod).
227
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Arolygu Adeiladau Mae’r rhaglen Arolygu Adeiladau yn arbenigo mewn darparu cyngor ar opsiynau eiddo ac adeiladu, adnabod gwallau a thrwsio a chynnal a chadw.
Os ydych yn mwynhau datrys problemau ac yn ymddiddori’n arbennig mewn dylunio ac adeiladu adeiladau, bydd y cwrs yma’n tanio’ch diddordeb. Bydd y rhaglen yn ystyried pa fesurau ataliol a chynaliadwy sydd eu hangen i gadw adeiladau mewn cyflwr da. O brosiectau ar raddfa fawr gwerth nifer o filiynau o bunnoedd i aneddiadau domestig bach ac adeiladau hanesyddol neu o bwys pensaernïol, mae amrediad yr alwedigaeth hon yn eang ac amrywiol. Bydd y rhaglen yn cwmpasu nifer o feysydd, gan gynnwys technoleg adeiladu, gwyddor defnyddiau a gwasanaethau adeiladau ac arolygu eiddo a rheoli iechyd, diogelwch, lles a risg ym maes adeiladu.
Bydd myfyrwyr sy’n astudio rhaglenni Amgylchedd Adeiledig yn Y Drindd Dewi Sant, yn gweld asesiadau’r byd go iawn yn uniongyrchol ac, fel rhan o fodwl BREEAM, byddant yn gweithio gyda chontractwyr, peirianwyr ayb. Mae’n eu tynnu allan o ddamcaniaeth academaidd fel y gallant ofyn cwestiynau go iawn ac ymdrin â materion go iawn.
Jamie Best
Melin Consultants BREEAM Module Assessor
228
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Byddwch yn defnyddio technolegau digidol ac yn deall Modelu Gwybodaeth Adeiladu (BIM). Yn ogystal, byddwch yn dysgu am gyfraith eiddo a phrisio, economeg a systemau amgylcheddol. Byddwn yn eich paratoi at weithio fel arolygydd proffesiynol a gwneud cais am aelodaeth o brif gyrff proffesiynol yr amgylchedd adeiledig gan gynnwys: Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS), y Sefydliad Adeiladu Siartredig, a’r Gymdeithas Peirianwyr Adeiladu. Yn ogystal â sgiliau proffesiynol a thechnegol sy’n gysylltiedig ag arolygu adeiladau, byddwch hefyd yn dysgu sgiliau sy’n hanfodol i fusnes bob dydd, fel cyflwyno, cyfathrebu a gwaith tîm.
Opsiynau Astudio: Llawn amser, rhan amser
Arolygu Adeiladau
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? •
Darparu profiad dysgu llwyddiannus a llawn mwynhad sydd wrth wraidd ein gweledigaeth i gynhyrchu gweithwyr proffesiynol o’r radd flaenaf.
•
Cyfleoedd i weithio gyda chwmnïau adeiladu. Mae myfyrwyr wedi bod yn rhan o Ddatblygiad Glannau SA1 Abertawe mewn partneriaeth â Kier Construction.
•
Mae ein haddysgu wedi’i seilio ar ymchwil mewn pynciau sy’n ymestyn ar draws ein portffolio, wedi’i gefnogi gan arbenigwyr allanol o’r ddinas, rhanbarth a phob cwr o’r byd.
•
Rydym yn credu mewn gweithio gyda chyflogwyr i ddatblygu, cyflwyno ac adolygu cyrsiau sy’n cyfoethogi cyfleoedd ein graddedigion i gael gwaith a datblygu eu gyrfaoedd.
94% Cytunodd 94% o fyfyrwyr Adeiladu’r Drindod Dewi Sant bod y staff yn dda am esbonio pethau. ACM 2018
BSc: Cod UCAS: 8K32 Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS
HND: Cod UCAS: 125S Gofynion Mynediad: 48 o bwyntiau UCAS
Sylfaen: Cod UCAS: SBS1 Gofynion Mynediad: 32 o bwyntiau UCAS
229
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Cynllunio Trefol Mae cynllunio’n alwedigaeth gyffrous ac amrywiol sy’n rhoi i fyfyrwyr botensial uchel i gael gwaith (Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch DU, 2016) yn ogystal â chyflogaeth dechrau da. Caiff cynllunwyr trefol eu cyflogi yn y sectorau preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector gyda swyddi mewn adeiladu, cludiant, yr amgylchedd, cynllunio lleol, adfywio, iechyd a rheolaeth prosiectau.
Mae angen penseiri ar gynllunwyr trefol a chynllunwyr ar benseiri; y synergedd hwn yw dyfodol ein hamgylchedd trefol.
Alastair Hume Uwch Gynllunydd
230
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Cynllunio Trefol
Cynllunio Trefol Cod UCAS: HND KD21 BSc KP21 Pwyntiau UCAS: HND 48 BSc 120
Cynllunio Trefol a Phensaernïaeth Cod UCAS: HND LD22 BSc LP22 Pwyntiau UCAS: HND 48 BSc 120
Cynllunio Trefol ac Amgylcheddol Cod UCAS: HND MD23 BA MP23 Pwyntiau UCAS: HND 48 BSc 120
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i ymdrin ag anghenion cyfoes ‘cenhedlaeth newydd o gynllunwyr’ gyda hyfedredd TG, sgiliau trafod, sgiliau ymgysylltu â’r cyhoedd, ysgrifennu adroddiadau arbenigol, cynaliadwyedd, dealltwriaeth genedlaethol/leol a’r agenda lles. Mae sylwebwyr cymeradwy fel Roisin Willmott (Cyfarwyddwr Sefydliad Cynllunio Tref Brenhinol, Cymru) wedi amlygu’r angen am ‘Agenda Trefol Newydd’ a’r newidiadau pwysig iawn sy’n digwydd ym maes cynllunio sy’n darparu gwir gyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Mae cynllunwyr yn gweithio’n agos gydag adeiladwyr, penseiri a chadwraethwyr i siapio’r byd er gwell (Sefydliad Cynllunio Tref Brenhinol, 2017). O ganlyniad, mae’r Ysgol Pensaernïaeth, Amgylchedd Adeiledig a Naturiol mewn safle chwenychadwy i ddarparu portffolio cynllunio a phensaernïaeth sy’n cydgysylltu anghenion y galwedigaethau hyn a rhagolygon ei graddedigion. Mae’r rhaglen hon yn adeiladu ar raglen yr Ysgol Bensaernïol ac yn hyrwyddo dealltwriaeth glir o egwyddorion sefydlol dylunio pensaernïol ac arfer cynllunio trefol.
Mae cynllunio’n alwedigaeth sylfaenol o fewn ein hamgylchedd trefol a gwledig sy’n golygu bod angen darparu cyfleodd addysgol cynllunio ar gyfer agendau cynllunio cynaliadwy. Bydd ein graddedigion yn helpu i siapio’r amgylchedd trefol a gwledig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Caiff yr wybodaeth a ddysgir ei rhoi mewn cyd-destun rhyngwladol ac mae’n ymdrin ag anghenion amgylchedd ôl-BREXIT. Mae lleoliad delfrydol y cwrs rhwng Penrhyn Gŵyr, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Bargen Dinas Bae Abertawe yn golygu bod yna lawer o gyfleoedd am brosiectau ‘byw’, gwaith maes a meddwl rhanbarthol strategol. Golyga natur holistaidd cynllunio trefol ac amgylcheddol y gellir cyflogi myfyrwyr mewn ystod o sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector. Cynlluniwyd y cwrs i gael ei integreiddio i mewn i alwedigaethau’r amgylchedd adeiledig a naturiol fel y gall graddedigion gyfathrebu’n effeithiol gyda galwedigaethau cysylltiedig.
231
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Mesur Meintiau Mae Mesurydd Meintiau yn weithiwr proffesiynol o fewn y diwydiant adeiladu sy’n rheoli costau a chontractau prosiectau adeiladu neu beirianneg.
Byddant yn ceisio lleihau’r costau hynny a darparu gwerth am arian gan sicrhau bod yr holl safonau a materion ansawdd wedi’u bodloni. Os oes angerdd gennych ynghylch y diwydiant adeiladu, yn mwynhau datrys problemau, ac rydych yn rhifog ac yn gyfathrebwr gwych, yna bydd y cwrs yma’n gweddu i'r dim i chi. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i roi cyfle ichi astudio agweddau ariannol a masnachol ar adeiladu, ynghyd â pharatoi’r ddogfennaeth sydd ei hangen ar gyfer prosiectau adeiladu. Bydd y rhaglen yn cwmpasu meysydd fel gwyddor defnyddiau, cynllunio prosiectau ar gyfer adeiladu a gweinyddu contract.
94%
232
Roedd 94% o fyfyrwyr Adeiladu Y Drindod Dewi Sant yn cytuno ei bod wedi gallu cael mynediad at adnoddau cwrs-benodol pan fo'r angen. ACM 2018
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Yn ogystal, mae’n ffocysu ar gaffael a rheoli prosiect adeiladu, arfer a gweithdrefnau contract, gwasanaethau’r amgylchedd adeiledig, tirfesur a’r gyfraith ar gyfer yr amgylchedd adeiledig. Byddwch yn defnyddio technolegau digidol ac yn dysgu i ddeall Modelu Gwybodaeth Adeiladu (BIM). Hefyd, mae yna ffocws ar y materion amgylcheddol sydd ynghlwm wrth adeiladu.
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Mesur Meintiau
Gyrfaoedd Bydd graddedigion y Rhaglen Mesur Meintiau’n dod o hyd i waith naill ai ar ochr ymgynghorol y diwydiant fel Mesurwyr Meintiau, yn rhoi cyngor i gleientiaid ar economeg eu prosiectau datblygu neu mewn rolau fel Rheolwyr Masnachol o fewn ochr contractio’r
diwydiant. Ar ddiwedd y cwrs, rhagwelir y bydd graddedigion wedi caffael sgiliau digonol i allu ymgymryd â rôl mesurydd meintiau graddedig yn y naill neu'r llall o’r sectorau hyn. Bydd y cymhwyster yn darparu llwybr at aelodaeth o sefydliad proffesiynol.
BSc: Cod UCAS: K241 Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS
HND: Cod UCAS: 042K Gofynion Mynediad: 48 o bwyntiau UCAS
233
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Peirianneg Sifil Mae Peirianneg Sifil yn alwedigaeth gyffrous sy’n paratoi ein myfyrwyr ar gyfer ystod eang o sectorau o adeiladu i gludiant a’r diwydiant cyfathrebu.
234
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Mae ein cwrs yn wahanol i raglen peirianneg sifil draddodiadol am ei bod yn ffocysu ar reolaeth gwaith peirianneg sifil, yn hytrach na’r arbenigeddau dylunio traddodiadol. Yn ogystal, caiff myfyrwyr eu haddysgu am themâu amgylcheddol penodol fel monitro, technoleg ac asesu. At ei gilydd, mae’r cwrs yn rhoi i fyfyrwyr yr wybodaeth hanfodol ac ystod eang o sgiliau sydd eu hangen i gael gyrfa lwyddiannus mewn rheolaeth peirianneg sifil.
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Peirianneg Sifil
Bydd y rhaglen yn ymdrin â llawer o feysydd gwyddonol fel technoleg peirianneg sifil, peirianneg defnyddiau, mathemateg a strwythurau peirianneg, technoleg geodechnegol a sylfaen. Byddwch yn defnyddio dylunio â chymorth cyfrifiadur (CAD) ac yn deall Modelu Gwybodaeth Adeiladu (BIM). Yn ogystal, byddwch yn dysgu am dirfesur, cynhyrchu safle a rheoli prosiect a chynllunio a rheoli, arfer a gweithdrefnau contract, a GIS. Mae’r rhaglen hon yn bodloni gofynion y diwydiant ac yn hynny o beth, mae’n darparu profiad dysgu galwedigaethol cadarn sy’n gofyn llawer yn academaidd,
sy’n gysylltiedig â chyrff diwydiannol a phroffesiynol, gofyniad sy’n bodloni anghenion myfyrwyr a chyflogwyr fel ei gilydd. At hyn, mae tîm y rhaglen wedi datblygu nodau’r rhaglen i gyfoethogi datblygiad gallu a hyfforddiant technegol i lefel sy’n medru bodloni gofynion presennol y diwydiant ar gyfer rheolwyr canol. Mae’r llwybr Peirianneg Sifil wedi’i lunio i roi i raddedigion ystod o sgiliau a fydd yn eu galluogi i gael swyddi gyda sefydliadau cleient a chontractio. Mae natur amrywiol y llwybr, sy’n ffocysu ar faterion amgylcheddol a materion peirianneg, yn cynnig ystod o gyfleoedd gyrfaol posibl i fyfyrwyr yn y meysydd hyn.
94%
BSc: Cod UCAS: CEN1 Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS
HND: Cod UCAS: CEN8 Gofynion Mynediad: 48 o bwyntiau UCAS
Cytunodd 94% o fyfyrwyr Adeiladu Y Drindod Dewi Sant bod yr amserlen yn gweithio’n effeithlon iddyn nhw. ACM 2018
Sylfaen: UCAS Cod: SBS1 Gofynion Mynediad: 32 o bwyntiau UCAS
235
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Pensaernïaeth Mae penseiri’n arbenigwyr ym maes dylunio adeiladau a lleoedd, gan greu’r lleoliad ar gyfer bywyd dynol.
Eu prif sgil yw dylunio – y gallu i ddychmygu mannau tri dimensiwn a gwrthrychau a chymhwyso gwybodaeth o ddefnyddiau, strwythur ac egni i droi cysyniad yn realiti. Mae penseiri’n gweithio gyda pheirianwyr, contractwyr a llawer o weithwyr proffesiynol eraill. Mae’r rhaglen astudio yn canolbwyntio ar gyfres o brosiectau stiwdio dylunio sy’n dechrau yn yr wythnosau cyntaf drwy archwilio i le, ffurf, lliw a defnyddiau. Erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf mae myfyrwyr yn dylunio adeiladau a lleoedd bach ond cymhleth yn fanwl. Mae’r ail flwyddyn y ffocysu ar syniadau cartref a chymuned trwy ddylunio tai, fflatiau a chymdogaethau, a’r adeiladau cyhoeddus sy’n cefnogi bywyd cymdeithasol. Mae’r flwyddyn olaf yn cyflwyno myfyrwyr i adeiladau mwy ac mae’r cwrs yn cyrraedd ei anterth mewn dylunio cynhwysfawr ar gyfer adeilad diwylliannol mewn lleoliad go iawn.
236
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 129 o bwyntiau UCAS
Pensaernïaeth
* Y term ‘cynorthwyydd pensaernïol’ yw teitl swydd y rheiny sydd ar y llwybr i gymwysterau proffesiynol fel pensaer nes iddynt gwblhau Rhan Tri.
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? •
Mae gan y cwrs hwn ymagwedd ffres at addysg bensaernïol sydd wedi’i gwreiddio yn ei chymdogaeth ond sydd â safbwyntiau byd-eang.
• Mae ein gweithdai mawr yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr wneud elfennau adeilad maint llawn yn ogystal â modelau o bob graddfa a maint. •
Caiff ein haddysgu ei seilio ar ymchwil mewn pynciau sy’n ymestyn ar draws ein portffolio, wedi’i gefnogi gan arbenigwyr allanol o’r ddinas, rhanbarth ac o bob cwr o'r byd.
•
Rydym yn credu mewn ymgysylltu â chyflogwyr i ddatblygu, cyflwyno ac adolygu cyrsiau sy’n cyfoethogi cyfleoedd ein graddedigion i gael gwaith a datblygu gyrfa.
•
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i fod yn gam cyntaf (Rhan Un) proses tri cham cymhwyster proffesiynol fel pensaer. Mae’r Brifysgol yn y broses o geisio cydnabyddiaeth ar gyfer y cwrs gan y Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB) a Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA).
Cod UCAS BSc: K100
•
Mae’r cwrs wedi’i lunio ar gyfer y rheiny sydd â’r uchelgais i fod yn bensaer cymwys, ond mae e hefyd yn ddewis da ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn pensaernïaeth a dylunio, ac yn ceisio rhaglen radd eang sy’n gallu arwain at ystod eang o gyfleoedd gwaith.
•
Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i gael ei phennu/dilysu gan y Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB) a Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) fel cymhwyster Rhan Un mewn pensaernïaeth felly cyrchfan cyntaf mwyaf tebygol ein graddedigion yw gweithio fel cynorthwyydd pensaernïol* mewn arfer pensaernïol.
•
Mae yna lawer o gyfleoedd gwaith posibl eraill gan gynnwys rhannau o’r diwydiant adeiladu (contractwyr ac is- gontractwyr adeiladu), y diwydiannau creadigol (cymhwyso sgiliau darlunio a delweddu cyfrifiadurol) a chynllunio neu ddylunio trefol.
237
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Rheolaeth Adeiladu Mae Rheolaeth Adeiladu yn sgil hanfodol ar gyfer unrhyw weithiwr adeiladu proffesiynol. Mae ein rhaglenni’n rhoi i’r dysgwr yr wybodaeth a’r arbenigedd i gynllunio, trefnu a rheoli adnoddau er mwyn cwblhau prosiect cleient yn llwyddiannus.
Caiff elfennau o gyllidebu, gofynion perfformiad adeiladau, caffael, dewis defnyddiau, contractio a chyfathrebu i gyd eu hystyried yn y rhaglen amrywiol hon. Bydd y rhaglen yn cwmpasu meysydd fel gwyddor defnyddiau, cynllunio prosiectau ar gyfer adeiladu a gweinyddu contract. Yn ogystal, mae’n ffocysu ar reolaeth cynhyrchu safle a rheolaeth prosiect, cynllunio a rheoli, arfer a gweithdrefnau contract, gwasanaethau’r amgylchedd adeiledig, tirfesur a’r gyfraith ar gyfer yr amgylchedd adeiledig. Byddwch yn defnyddio technolegau digidol ac yn dysgu i ddeall Modelu Gwybodaeth Adeiladu (BIM). Mae'r rhaglen yn ymdrin â phryderon fel cynaliadwyedd, effeithiolrwydd ynni, rheolaeth cyfleusterau, ynghyd â damcaniaethau rheoli, llythrennedd, datrys problemau ac anghenion cleientiaid. Yn cefnogi’r rhain mae ystod o sgiliau lefel uwch sydd wedi’u llunio i integreiddio â chynnwys modylau a deilliannau dysgu.
238
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Rheolaeth Adeiladu
95% Roedd 95% o fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant mewn gwaith a/neu astudiaeth bellach ar ôl graddio. DLHE 15/16
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • Cyfleoedd i weithio gyda chwmnïau adeiladu. Mae myfyrwyr wedi bod yn rhan o Ddatblygiad Glannau SA1 Abertawe mewn partneriaeth â Kier Construction. • Mae’r rhaglen hon yn bodloni gofynion y diwydiant ac wrth wneud hynny’n darparu profiad dysgu galwedigaethol cadarn sy’n gofyn llawer yn ddeallusol, sy’n gysylltiedig â chyrff diwydiannol a phroffesiynol, gofyniad sy’n bodloni anghenion myfyrwyr a chyflogwyr fel ei gilydd.
Bu fy mlwyddyn gyntaf yn Y Drindod Dewi Sant yn wych, Rwyf wedi cael help ac arweiniad gwych gan yr holl ddarlithwyr. Mae’r rhaglen ei hun wedi’i chynllunio’n dda ac yn trafod pynciau perthnasol a rhoi i mi wybodaeth fanwl iawn am y rheini.
• At hyn, mae tîm y rhaglen wedi datblygu nodau’r rhaglen i gyfoethogi datblygiad gallu a hyfforddiant technegol ar lefel sy’n gallu bodloni gofynion presennol y diwydiant ar gyfer rheolwyr canol.
Karl Jones
BSc (Hons) - Rheolaeth Prosiectau ac Adeiladu
BSc: Cod UCAS: CSM1 Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS
HND: Cod UCAS: CSM8 Gofynion Mynediad: 48 o bwyntiau UCAS
Sylfaen: Cod UCAS: SBS1 Gofynion Mynediad: 32 o bwyntiau UCAS
239
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Technoleg Bensaernïol Mae’r rhaglen Technoleg Bensaernïol yn arbenigo mewn gwyddor pensaernïaeth, dylunio adeiladau ac adeiladu.
Mae’r rhaglen yn ffocysu ar ochr dechnegol dylunio. Byddwch yn dysgu sut i weithio’n agos gyda chysyniadau penseiri a’u troi’n adeiladau cymhleth. Mae’r rhaglen yn cwmpasu llawer o feysydd fel technoleg adeiladu a manylu pensaernïol, gwyddoniaeth, gwerthfawrogiad o adeiledd a chyfnewid defnyddiau, ac addasu ac arolygu adeiladau. Byddwch yn defnyddio CAD ac yn deall delweddu a gwneud modelau pensaernïol. Yn ogystal, byddwch yn dysgu sut i fonitro sicrwydd ansawdd, costau a chynnal asesiadau amgylcheddol.
95%
240
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Cytunodd 95% o fyfyrwyr Adeiladu Y Drindod Dewi Sant bod y cwrs wedi eu herio i gyflawni eu gwaith gorau. ACM 2018
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Technoleg Bensaernïol
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • Mae’r cwrs yn cynnwys amser stiwdio pwrpasol i ddatblygu sgiliau dylunio yn ogystal â dealltwriaeth dechnegol.
Rydym wedi cael y cyfle i weithio ar brosiectau byw fel datblygu syniadau ar gyfer lle o fewn eglwys gymunedol leol, edrych ar gydymffurfiaeth â rheoliadau adeiladu a chynnal arolygiadau i wirio cyflyrau. Pan fyddwch yn ymweld â lle mae’n haws deall y ddamcaniaeth a ddysgwyd mewn darlithoedd.
Shane Elderfield
BSc (Anrh) Technoleg Bensaernïol
BSc: Cod UCAS: 38VW Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS
•
Darparu profiad dysgu llwyddiannus a llawn mwynhad sydd wrth wraidd ein gweledigaeth i gynhyrchu gweithwyr proffesiynol o’r radd flaenaf.
•
Cyfleoedd gyda chwmnïau adeiladu. Mae myfyrwyr wedi bod yn rhan o Ddatblygiad Glannau SA1 Abertawe mewn partneriaeth â Kier Construction.
•
Caiff ein haddysgu ei seilio ar ymchwil mewn pynciau sy’n ymestyn ar draws ein portffolio, wedi’i gefnogi gan arbenigwyr allanol o’r ddinas, rhanbarth ac o bob cwr o'r byd.
•
Rydym yn credu mewn ymgysylltu â chyflogwyr i ddatblygu, cyflwyno ac adolygu cyrsiau sy’n cyfoethogi cyfleoedd graddedigion i gael gwaith a datblygu gyrfaoedd.
HND: Cod UCAS: 3L1V Gofynion Mynediad: 48 o bwyntiau UCAS
Sylfaen: Cod UCAS: SBS1 Gofynion Mynediad: 32 o bwyntiau UCAS
241
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Astudio Cyfrifiadura, Electroneg neu Drydanol Yn Y Drindod Dewi Sant rydym yn credu y dylai cysyniadau cyfrifiadureg ddamcaniaethol gael eu cefnogi gan brofiadau lle byddwch yn dysgu sut i godio.
Mae gennym ddarlithwyr cyfeillgar, hawdd siarad â nhw, ac rydym yn darparu amgylcheddau cyfeillgar, gyda chefnogaeth tiwtor personol. I ni, mae’n bwysig bod ein haddysgu a’n dysgu yn ffocysu ar gymwysiadau real, agos i’r farchnad, gyda sgiliau rheoli prosiect ac ymchwilio’n rhan annatod o’r cwrs. Mae ein myfyrwyr yn gadael gyda sgiliau defnyddiadwy sy’n ymateb i anghenion y diwydiant ac yn cael cymwysterau a gydnabyddir gan lawer o brifysgolion a sefydliadau fel arwydd o ymrwymiad i’r diwydiant TG. Mae ein holl raddau BSc yn cael eu hachredu gan Gymdeithas Gyfrifiadurol Prydain (BCS) - golyga'r statws "achrededig” hwn eich bod yn astudio cymhwyster sy’n cyfrannu at y gofynion academaidd sydd eu hangen i gofrestru ar gyfer statws “Siartredig”. Yn ôl y BCS, mae cyflogwyr, pobl sy’n recriwtio a chleientiaid yn chwilio’n weithredol am statws Siartredig yn brawf eich bod yn un o’r goreuon yn y busnes. Ni yw’r unig Academi CISCO yng Nghymru ac rydym yn cynnig y cyfle i bob myfyriwr cyfrifiadura astudio ar gyfer cymwysterau CISCO fel rhan o’u hastudiaethau israddedig. Mae cydweithio gyda sefydliadau fel TechHub, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, CISCO a Sony, yn sicrhau bod yr addysgu ac ymchwil wedi’u seilio ar broblemau diwydiannol cyfoes ac arfer gorau. Cewch hefyd gyfleoedd i fynd ar interniaethau ac i wneud cais i fynd am flwyddyn i weithio yn y diwydiant.
242
Cyfrifiadura
Adnoddau Cyfrifiadurol Cyfredol • • • • •
Dosbarthiadau bach eu maint, tua 20-30 sedd: 8 labordy cyfrifiaduron 1 labordy rhwydweithio arbenigol 2 labordy Trydanol ac Electroneg Labordy datblygu Rhith-wirionedd Mynediad 24 awr at gyfrifiaduron
• • • • • • • •
Casgliad Adobe MATLAB a Simulink CISCO Packet Tracer LINUX Microsoft Office MS Visual Studio Netbeans Java IDE Gweinydd SQL
Meddalwedd
Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 2il yn y DU am foddhad myfyrwyr gydag ansawdd yr addysgu mewn Cyfrifiadureg. The Times & The Sunday Times Good University Guide 2019
100%
Cytunodd 100% o fyfyrwyr yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol fod y staff yn dda am esbonio pethau, gyda boddhad cyffredinol o 93%. NSS 2017.
243
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Cyfrifiadura Cyfrifiadura yw ein rhaglen fwyaf hyblyg ac mae’n cwmpasu ystod eang o bynciau cyfrifiadura gan ddarparu’r holl fodylau cyfrifiadura hanfodol o hyd.
Ymhlith y pynciau hanfodol a drafodir yn y portffolio hwn mae meddwl cyfrifiadol, delweddu data, peirianneg gwybodaeth, datblygu meddalwedd, dylunio a datblygu cymwysiadau (Apiau), rheoli cronfeydd data a rheolaeth prosiectau. Mae llawer o lwybrau dewisol sy’n rhoi gwell cyfleoedd i chi ddatblygu’r sgiliau sy’n fwy perthnasol i’ch profiadau ac anghenion diwydiannol chi eich hunan. Caiff y llwybrau dewisol hyn eu dosbarthu’n ôl gwahanol themâu fel systemau gwybodaeth busnes, datblygu gemau, rhwydweithiau cyfrifiadurol a seiberddiogelwch, datblygu’r we, a redir drwy raglenni eraill yn y portffolio. Sylwch y gallai cyfyngiadau o ran amser ddylanwadu ar argaeledd; rhaid i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio modylau sicrhau nad oes gwrthdrawiadau â’u hamserlen. Datblygir y modylau hyn ochr yn ochr â’r diwydiant i roi i fyfyrwyr y sgiliau diweddaraf a gwerthfawrogiad o ofynion y diwydiant. Mae’r arbenigedd a’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu drwy ddatrysiadau meddalwedd peirianneg fel rhan o dîm yn cael eu hedmygu’n fawr gan gyflogwyr.
244
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Sylfaen: Cod UCAS: COM1 Gofynion Mynediad: 32 o bwyntiau UCAS
Cyfrifiadura
Mae hyblygrwydd a modylau dewisol yn eich caniatáu i deilwra’ch rhaglen. Mae gan ein graddedigion ragolygon gwaith rhagorol yn y diwydiant cyfrifiadura, addysgu, darlithio a TGCh, yn ogystal â meysydd eraill o’r economi.
Gyrfaoedd Byddai graddedigion yn chwilio am swyddi mewn datblygu cymwysiadau, dadansoddi systemau busnes, datblygu a gweinyddu cronfeydd data, gwaith ymgynghori a rheoli systemau gwybodaeth a meysydd cysylltiedig eraill.
Bu i mi fwynhau popeth am y cwrs ac mae gen i swydd ym maes hedfan yn barod.
Paul Roderick
Un o’n graddedigion Cyfrifiadura Cymhwysol
HNC: Cod UCAS: 208C Gofynion Mynediad: 40 o bwyntiau UCAS
HND: Cod UCAS: 858T Gofynion Mynediad: 48 o bwyntiau UCAS
BSc: Cod UCAS: 588S Gofynion Mynediad: 104 o bwyntiau UCAS
MComp: Cod UCAS: 123R Gofynion Mynediad: 112 o bwyntiau UCAS
245
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Cyfrifiadura Datblygu’r We
Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 2il yn y DU am foddhad myfyrwyr gyda’r profiad myfyriwr mewn Cyfrifiadureg. The Times & The Sunday Times Good University Guide 2019
246
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Sylfaen: Cod UCAS: CWD1 Gofynion Mynediad: 32 o bwyntiau UCAS
Cyfrifiadura
Mae’r sawl sy’n gwneud gwaith datblygu’r we’n defnyddio eu harbenigedd i ddylunio a gweithredu cymwysiadau meddalwedd arloesol i gyfoethogi’r ffordd rydym yn byw heddiw ac yn yr oes i ddod. Bydd myfyrwyr yn dysgu o raglennu, sut i ddylunio a datblygu gwefannau newydd, cymwysiadau symudol ac ar gyfer y we, a systemau gwybodaeth ar y we. Cynlluniwyd y rhaglen yn benodol i roi ichi’r sgiliau sydd eu hangen i weithio gyda’r technolegau diweddaraf a chymhwyso cysyniadau cyfredol i feysydd amrywiol fel cyfryngau cymdeithasol, datblygu’r rhyngrwyd ac e-fasnach. Byddwch yn dysgu, yn fanwl, ystod o gysyniadau: dylunio’r we, rhaglennu ar ochr y gweinyddwr, sgriptio ar ochr y cleient a datblygu cronfa ddata, ynghyd â gwerthfawrogiad o gysyniadau pwysig dylunio meddalwedd, defnyddioldeb a gweinyddiaeth cronfeydd data. Mae’r arbenigedd a’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu wrth greu cymwysiadau gwe fel rhan o dîm yn cael eu hedmygu’n fawr gan gyflogwyr.
Mae’r cwrs yn ymarferol iawn ac yn eich cyflwyno’n raddol i godio, yna’n symud ymlaen i addysgu rhagor o ieithoedd a phroblemau i chi sy’n fwyfwy cymhleth fel y gallwch ddatrys problemau yn y byd go iawn.
Daniel Tucker Datblygu’r We
Gyrfaoedd
Mae graddedigion y cwrs hwn wedi cael swyddi ym meysydd dylunio’r we, datblygu’r we a disgyblaethau cyfrifiadura tebyg. Mae’r cwrs hwn yn cyfrannu’n llawn at y gofynion academaidd sydd eu hangen ar raddedigion er mwyn cofrestru ar gyfer statws Gweithiwr Proffesiynol Siartredig TG (CITP).
MComp: Cod UCAS: 258R Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau UCAS
BSc: Cod UCAS: 979S Gofynion Mynediad: 104 o bwyntiau UCAS
HND: Cod UCAS: 923T Gofynion Mynediad: 48 o bwyntiau UCAS
247
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Cyfrifiadura
Peirianneg Meddalwedd Mae peirianwyr meddalwedd yn defnyddio’u harbenigedd i ddylunio a gweithredu cynhyrchion cyfrifiadurol arloesol i gyfoethogi’r ffordd rydym yn byw heddiw ac yfory.
Byddwch yn dysgu sut i raglennu, a sut i ddylunio a datblygu datrysiadau a chymwysiadau cyfrifiadurol newydd. Mae’r rhaglen yn ffocysu ar ddylunio, gweithredu, profi a chynnal datrysiadau meddalwedd o ansawdd uchel. Byddwch yn dysgu egwyddorion peirianneg meddalwedd fel algorithmau a strwythurau data, rhaglennu cymwysiadau critigol ac amser real, graffeg rhyngweithiol, cyfrifiadura gwasgaredig a chlwstwr, meddalwedd systemau a pheirianneg cymwysiadau amlddefnyddiwr a mathemateg ar gyfer datblygu meddalwedd ochr yn ochr â sgiliau systemau rheoli cronfeydd data a datblygu’r we. Mae’r arbenigedd a’r sgiliau rydych yn eu datblygu drwy ddatrysiadau meddalwedd peirianneg fel rhan o dîm yn cael eu hedmygu’n fawr gan gyflogwyr. Byddwch yn dysgu, mewn manylder, ystod o gysyniadau rhaglennu, ieithoedd a thechnegau datblygu meddalwedd i ddatblygu rhaglenni soffistigedig a chymhleth.
Y peth gorau am y BSc Peirianneg Meddalwedd oedd y codio.
Amgad Abu Kwider Un o raddedigion Peirianneg Meddalwedd
248
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Gyrfaoedd
Byddai graddedigion yn chwilio am swyddi fel datblygwyr meddalwedd, peirianwyr systemau, profwyr a rhaglenwyr systemau.
Opsiynau Astudio: Llawn amser
Sylfaen: Cod UCAS: SEC1 Gofynion Mynediad: 32 o bwyntiau UCAS
Cyfrifiadura
Drwy egwyddorion Peirianneg Meddalwedd, cefais wybodaeth rwy’n ei defnyddio bob dydd i gynnal llif datblygiad. Dysgais sut i gyfathrebu’n effeithiol a chefais ddealltwriaeth dda o egwyddorion hanfodol peirianneg meddalwedd. Y rhan rwy’n ei mwynhau fwyaf yw datrys problem gymhleth a gweld hynny’n gweithio yn y byd go iawn y tu allan i’r amgylchedd datblygu. Mae hyn yn cynnwys holl gyfnodau datblygu.
Mae’r rhaglen hon yn cyfrannu’n llawn at y gofynion academaidd sydd eu hangen ar raddedigion i gofrestru ar gyfer statws Gweithiwr Proffesiynol TG Siartredig (CITP) ac yn eu rhoi ar y blaen ar y daith i statws Peiriannwr Siartredig gan fod y BCS hefyd yn achredu’r cwrs fel bod myfyrwyr yn rhannol fodloni gofynion academaidd statws Peiriannwr Siartredig (CEng). Mae gan yr MComp achrediad CEng llawn.
Grant Armstrong
BSc Peirianneg Meddalwedd, Rieo Communications
MComp: Cod UCAS: 789R Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau UCAS
BSc: Cod UCAS: 145S Gofynion Mynediad: 104 o bwyntiau UCAS
HND: Cod UCASe: 878T Gofynion Mynediad: 48 o bwyntiau UCAS
249
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Cyfrifiadura
Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch Mae Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch yn eich addysgu i ddylunio, gweithredu a chywiro diffygion Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a seiberddiogelwch o fewn seilwaith menter.
Mae'r Drindod Dewi Sant yn academi TG ar gyfer Cisco, prif wneuthurwr dyfeisiau rhwydweithiau’r byd, ac mae’r CCNA yn gymhwyster proffesiynol blaengar yn y diwydiant rhwydweithio. Mae’r rhaglen yn cynnwys y deunydd sydd ei angen ar gyfer cymwysterau Cydymaith Rhwydwaith Ardystiedig Cisco (CCNA) a Gweithiwr Proffesiynol Rhwydwaith Ardystiedig Cisco (CCNP). Gall myfyrwyr weithio tuag at y cymwysterau hyn a gydnabyddir ar draws y byd, ochr yn ochr â’u gradd. Byddwch yn dysgu cysyniadau ac egwyddorion sylfaenol rhwydweithiau, rhyngrwydweithio ED, LAN, WAN a rhwydweithiau diwifr, efelychiadau, uwch switsio llwybro a Seiberddiogelwch, fforensig cyfrifiadurol a’r technolegau canolfan data diweddaraf. Mae’r arbenigedd a’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu mewn ystod o dechnolegau llwybro, switsio, seiberddiogelwch a WAN i ddatblygu seilwaith rhwydwaith soffistigedig a chymhleth, fel rhan o dîm, yn cael eu hedmygu’n fawr gan gyflogwyr.
250
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Sylfaen: Cod UCAS: CNS1 Gofynion Mynediad: 32 o bwyntiau UCAS
Cyfrifiadura
Dechreuais swydd wych fel Peiriannwr Wintel Iau gyda CGI un mis ar ôl graddio. Oni bai am fy mhrosiect blwyddyn olaf, dwi ddim yn credu y bydden i wedi llwyddo i gael y swydd.
Gyrfaoedd
Byddai graddedigion yn chwilio am swyddi fel gweinyddwyr systemau, gweinyddwyr rhwydwaith, cymdeithion rhwydwaith a pheirianwyr rhwydwaith, Peirianwyr Seiberddiogelwch, penseiri rhwydwaith, peirianwyr VoIP, peirianwyr CISCO, peirianwyr cymorth systemau.
Robert Leyshon
Un o raddedigion Rhwydweithiau Cyfrifiadurol
Mae’r Ysgol wedi bod yn Academi Cisco ers 1999. Ym mis Mehefin 2012, dyfarnwyd i’n Hacademi Rhwydweithio Cisco statws Canolfan Cymorth Academi (ASC) a Chanolfan Hyfforddi Hyfforddwyr (ITC) – yr unig ganolfan o’i math yng Nghymru i gynnig cefnogaeth a hyfforddiant i academïau ar draws y DU ac ar draws y byd. Mae cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus yn golygu eich bod yn gymwys i wneud cais i gofrestru am statws lawn gyda Chymdeithas Gyfrifiadurol Prydain (BCS) Gweithwyr Proffesiynol TG Siartredig (CITP).
Cynnydd mewn Gweithgaredd a Gallu Hacwyr! Dysgu Sgiliau mewn Seiberddiogelwch.
MComp: Cod UCAS: 515R Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau UCAS
BSc: Cod UCAS: 233S Gofynion Mynediad: 104 o bwyntiau UCAS
HND: Cod UCAS: 121T Gofynion Mynediad: 48 o bwyntiau UCAS
251
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Cyfrifiadura
Systemau Data a Gwybodaeth Bydd Systemau Data a Gwybodaeth yn eich addysgu sut i ddylunio, creu, gweithredu, gweinyddu, profi a chynnal cronfeydd data a chymwysiadau a yrrir gan ddata.
Systemau cronfeydd data sydd wrth wraidd systemau gwybodaeth modern. Byddwch yn datblygu gwybodaeth mewn dylunio a datblygu apiau rhyngweithiol, systemau rheoli cronfeydd data, datblygu’r we, data mawr a Systemau Gwybodaeth Daearyddol. Mae galw mawr am weithwyr proffesiynol sy’n gallu cynllunio, adeiladu a phrofi cronfeydd data i gadw, adfer, delweddu ac addasu data mawr. Bydd deall data, arferion a threfnau cwsmeriaid yn cyfrannu at y gallu i wneud penderfyniadau busnes, felly mae’n sgil allweddol wrth lunio strategaethau a chynlluniau busnes. Mae’r arbenigedd a’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu drwy ddatblygu datrysiadau meddalwedd fel rhan o dîm yn cael eu hedmygu’n fawr gan gyflogwyr.
Gyrfaoedd
Mae graddedigion yn debygol o geisio gyrfaoedd mewn datblygu cymwysiadau, dadansoddi systemau busnes, datblygu a gweinyddu cronfeydd data, gwaith ymgynghorol ar systemau gwybodaeth a rheolaeth.
252
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Sylfaen: Cod UCAS: CD11 Gofynion Mynediad: 32 o bwyntiau UCAS
Cyfrifiadura
Mae cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus yn golygu eich bod yn gymwys i wneud cais i gofrestru am statws lawn gyda Chymdeithas Cyfrifiadurol Prydain (BCS) Gweithwyr Proffesiynol TG Siartredig (CITP).
Cwblhau’r BSc Systemau Gwybodaeth Gyfrifiadurol oedd y penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed. Gwnaeth y Brifysgol, y cymorth, ffrindiau a’r darlithwyr i mi deimlo’n gyfforddus o fewn wythnosau. Galluogodd fy mhrosiect blwyddyn olaf i mi ddeall yr angen am ddefnyddioldeb o fewn rhaglenni meddalwedd a’m helpodd wrth ddatblygu pecyn meddalwedd Rheolaeth Eiddo ar gyfer Dezrez Services Ltd.
Thomas John
BSc Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol Dezrez Services Ltd
MComp: Cod UCAS: 909R Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau UCAS
BSc: Cod UCAS: 318S Gofynion Mynediad: 104 o bwyntiau UCAS
HND: Cod UCAS: 345T Gofynion Mynediad: 48 o bwyntiau UCAS
253
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Cyfrifiadura
Systemau Gwybodaeth Busnes Mae Systemau Gwybodaeth Busnes yn eich addysgu sut i reoli pobl, prosiectau a newid ar yr un pryd â gweithredu technolegau cyfrifiadurol modern.
Byddwch yn dysgu i ddeall cysyniadau busnes a chyfrifiadurol i ddatblygu strategaeth TG a busnes fel bod sefydliadau’n dod yn fwyfwy effeithiol a chystadleuol. Mae’r rhaglen yn datblygu gwybodaeth o gymwysiadau TG ac adnoddau dynol er lles sefydliadau. Byddwch yn dysgu am y datblygiadau diweddaraf mewn meysydd fel eFusnes, technolegau’r we, eFasnach ac mFasnach, cyfryngau cymdeithasol, Entrepreneuriaeth ynghyd ag ymddygiad dynol a chyfundrefnol, cyllid, marchnata a rheolaeth. Mae’r arbenigedd a’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu drwy ddylunio a rheoli datrysiadau meddalwedd fel rhan o dîm yn cael eu hedmygu’n fawr gan gyflogwyr.
Gyrfaoedd
Mae graddedigion y cwrs hwn wedi cael gwaith mewn ystod eang o fusnesau a disgyblaethau TG, er enghraifft: rheolwr cyfryngau cymdeithasol, rheolaeth busnes, rheoli prosiectau, addysgu TGCh, dylunio a datblygu’r we, dadansoddi systemau a gwaith ymgynghorol TG. Mae eraill wedi mynd ymlaen i astudiaethau ôl-radd.
254
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser
Sylfaen: Cod UCAS: BIS1 Gofynion Mynediad: 32 o bwyntiau UCAS
Cyfrifiadura
Fe wnes i fwynhau popeth yn Y Drindod Dewi Sant! Defnyddiol iawn at ddibenion y dyfodol – yn ffocysu ar gyflogaeth. Rwy’n caru’r ffaith fod y cwrs yn cysylltu busnes a chyfrifiadura. Galluogodd i ni ddeall anghenion busnes a datrysiadau TG a chyfathrebu rhwng y ddwy adran – fel datgodiwr, bron, yn cyfieithu rhwng dwy iaith.
Reham Ismail Saeed Al-Shaibani Un o raddedigion yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol
MComp: Cod UCAS: 876R Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau UCAS
Dysgwch sgiliau i gyfieithu rhwng y peiriannydd meddalwedd a rheolaeth i ddeall, dylunio a chyfleu datrysiadau meddalwedd ar gyfer sefydliadau. Wedi’i achredu gan Gymdeithas Cyfrifiadura Prydain (BCS) gyda statws Gweithiwr Proffesiynol TG siartredig.
BSc: Cod UCAS: 276S Gofynion Mynediad: 104 o bwyntiau UCAS
HND: Cod UCAS: 989T Gofynion Mynediad: 48 o bwyntiau UCAS
255
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Datblygu Gemau Cyfrifiadurol Roeddwn yn rhaglennu’n barod cyn dechrau’r cwrs ac felly mathemateg yw’r sgil mwyaf hanfodol a ddysgwyd. Roedd yn eithaf brawychus ar y cychwyn ond defnyddia’r darlithydd agwedd ‘ni chaiff unrhyw un ei adael ar ôl’ ac fe aethom dros bethau gan ddefnyddio gwahanol agweddau nes i bawb eu ddeall.
William Perkins
Datblygu Gemau Cyfrifiadurol
256
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Sylfaen: Cod UCAS: DGV2 Gofynion Mynediad: 32 o bwyntiau UCAS
Cyfrifiadura
Mae’r rhaglen Cyfrifiadura (Datblygu Gemau) yn addysgu sgiliau rhaglennu o’r radd flaenaf, graffeg cyfrifiadurol rhyngweithiol ac efelychiad amser go iawn arloesol a ddefnyddir ar draws y rhan fwyaf o ddiwydiannau heddiw. Byddwch yn dylunio, gweithredu, profi a chynnal a chadw gemau cyfrifiadurol o ansawdd uchel, dysgu sgiliau fel modelu, rendro a goleuo, deallusrwydd artiffisial uwch, graffeg uwch, rhaglennu meddalwedd a gemau. Byddwch hefyd yn cael profiad drwy ddefnyddio pecynnau meddalwedd o safon ddiwydiannol fel Maya 3D Photoshop, DirectX, OpenGL, C++, C#, ac Unity. Mae’r arbenigedd a’r sgiliau rydych yn eu datblygu drwy beiriannu gemau cyfrifiadurol fel rhan o dîm yn cael eu hedmygu’n fawr gan gyflogwyr. Mae’r cwrs hwn yn cyfrannu’n llawn at y gofynion sydd eu hangen ar raddedigion i gofrestru ar gyfer Statws Gweithiwr Proffesiynol TG Siartredig (CITP) ac yn rhoi myfyrwyr ar y blaen ar y daith i statws Peiriannwr Siartredig gan fod y BCS hefyd yn achredu’r cwrs ar gyfer boddhau'n rhannol ofynion academaidd statws Peiriannydd Siartredig (CEng). Mae gan yr MComp achrediad CEng llawn.
MComp: Cod UCAS: 555R Gofynion Mynediad: 120 o bwyntiau UCAS
BSc: Cod UCAS: 126S Gofynion Mynediad: 104 o bwyntiau UCAS
Roedd dod o hyd i waith ar ôl y radd Datblygu Gemau Cyfrifiadurol yn haws gan fod y rhaglen yn rhoi ichi’r sgiliau y mae’r rhan fwyaf o ddiwydiannau’n chwilio amdanynt. Addysgodd y cwrs egwyddorion rhaglennu a pheiriannu meddalwedd, rhwydweithio a mathemateg gymhwysol, adeiladu a datblygu gwefannau ac apiau, rhaglennu gweinydd, delweddu data a chloddio data.
James Simonson
Un o’n graddedigion Datblygu Gemau Cyfrifiadurol
HND: Cod UCAS: 478T Gofynion Mynediad: 48 o bwyntiau UCAS
257
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Peirianneg Drydanol ac Electronig Bydd y rhaglenni hyn yn datblygu gwybodaeth am beirianneg drydanol ac electronig sy'n angenrheidiol ar gyfer diwydiannau modern.
Andrew Stanford
Un o raddedigion Peirianneg Trydanol ac Electronig
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Mae’r rhaglen hefyd yn cwmpasu cysyniadau electronig fel damcaniaeth egwyddorion trydanol, a pheiriannau a gyrwyr trydanol. Mae is-set o’r thema electroneg sef datblygu systemau wedi’i fewnblannu a chaiff hyn ei gefnogi gan gyflwyniad i raglennu cyfrifiadurol, peirianneg gyfrifiadurol a microbroseswyr. Mae’r rhaglen hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr astudio offeryniaeth a rheolaeth offer trydanol. Rhoddir pwyslais ar ymarferion ymarferol i atgyfnerthu’r cysyniadau damcaniaethol a gwmpesir yn y darlithoedd a’r defnydd o becynnau meddalwedd o safon ddiwydiannol, fel Matlab, Xilinx a Stiwdio Datblygu Gweledol Microsoft.
Byddaf yn gweld eisiau'r myfyrwyr, y darlithwyr a’r hwyl yn fwy na dim. Mae gen i swydd yn Perkin Elmer yn barod.
258
Bydd myfyrwyr yn astudio egwyddorion trydanol ac electronig sylfaenol, microbrosesyddion a mathemateg, dylunio cylched, prosesu signalau digidol, electroneg pŵer a dylunio system electronig.
Iaith: Saesneg
Lluniwyd y rhaglen hon i gyfoethogi perthnasedd diwydiannol drwy ffocysu ar gymhwysiad ymarferol damcaniaeth gan gynnal trylwyredd academaidd.
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Sylfaen: Cod UCAS: S3R2 Gofynion Mynediad: 32 o bwyntiau UCAS
Trydanol
Gyrfaoedd
Byddai disgwyl i raddedigion y rhaglen hon geisio gwaith fel peirianwyr trydanol, peirianwyr electronig, peirianwyr cynnal a chadw trydanol, ac ati. Yn y rolau hyn, gallant ddisgwyl cael eu cyflogi mewn nifer o sectorau’r diwydiant gan gynnwys awyrofod, modurol, dosbarthu a gweithgynhyrchu. Mae gan yr Ysgol offer o’r radd flaenaf fel Xilinx a meddalwedd gan Mathworks (Matlab a Simulink) ac mae hyn yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr gael profiad uniongyrchol o’r dechnoleg orau sy’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd yn y diwydiant. Caiff pob myfyriwr fynediad am ddim, gartref ac yn y Brifysgol, at gasgliad o feddalwedd Mathworks.
100%
HND: Cod UCAS: 3TYH Gofynion Mynediad: 48 o bwyntiau UCAS
Roedd 100% o fyfyrwyr Peirianneg Drydanol ac Electronig Y Drindod Dewi Sant yn fodlon ar eu cwrs. NSS 2018
BEng: Cod UCAS: 3TY8 Gofynion Mynediad: 104 o bwyntiau UCAS
259
Cyfadran PensaernĂŻaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Peirianneg Electronig
260
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Peirianneg
Bydd ein cyrsiau Peirianneg Electronig yn datblygu gwybodaeth o’r systemau caledwedd a meddalwedd sydd eu hangen ar gyfer cyfrifiaduron modern. Mae'r meysydd astudio yn cynnwys: • • •
Electroneg analog a digidol Datblygiad meddalwedd, rhwydweithiau a phensaernïaeth gyfrifiadurol Microbrosesyddion Prosesu, cyfathrebu signal digidol a DSP Mae’r llwybrau Peirianneg Electronig hefyd yn astudio’r byd IoT (Rhyngrwyd Pethau) sy’n ehangu’n gyflym, ac mae’r llwybrau Trydanol ac Electronig yn cynnwys agweddau ar ddylunio electronig grym. Hefyd, mae myfyrwyr y flwyddyn olaf yn cael profiad o ddefnyddio systemau rheoli o safon ddiwydiannol drwy ddefnyddio PLC (Rheolwyr Rhesymeg Rhaglenadwy).
BEng: Cod UCAS: ING1 Gofynion Mynediad: 104 o bwyntiau UCAS
Y peth gorau am y cwrs oedd ansawdd y dysgu.
Rhys Brown
Un o raddedigion Peirianneg Drydanol
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • Addysgir gan staff sydd â blynyddoedd o brofiad diwydiannol perthnasol. • Cynnwys ymarferol uchel, sy’n ffocysu ar gymwysiadau bywyd go iawn drwy ddefnyddio meddalwedd o safon ddiwydiannol. • Dosbarthiadau bach, felly cyswllt gwych gyda’r staff mentora. • Prosiect blwyddyn olaf sy’n cael ei yrru gan fyfyrwyr; gweithio ar bynciau o ddiddordeb i chi yn hytrach na chael cyfeiriad ymchwil penodedig. • Cyfradd boddhad myfyrwyr uchel. (5ed yn y DU - ACM 2018)
HND: Cod UCAS: ING8 Gofynion Mynediad: 48 o bwyntiau UCAS
261
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Astudiwch
Beirianneg gyda ni Yn Y Drindod Dewi Sant rydym yn credu y dylai sgiliau peirianneg dadansoddol da a phrofiad ymarferol weithio law yn llaw.
1st
Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 1af yng Nghymru am ‘Brofiad Myfyrwyr’ mewn Peirianneg Fecanyddol. The Times and The Sunday Times Good University Guide 2018
262
Byddwch yn dysgu mewn ystod o amgylcheddau, o ddarlithfeydd ac ystafelloedd dosbarth traddodiadol, i weithdai, labordai a thraciau rasio. Gallwch ddysgu am beirianneg o gwmpas eich maes diddordeb, a chanolbwyntio eich prosiectau ar y maes hwnnw. Mae gwaith cydweithredol gyda sefydliadau fel Ford Motor Company, Visteon, Perkin Elmer, Calsonic Kansei, Belron, MCR ac yn ddiweddarach, Tata Technologies, yn sicrhau bod yr addysgu a’r ymchwil yn seiliedig ar broblemau diwydiannol cyfredol ac arfer gorau. Caiff ein rhaglenni eu cyfoethogi ymhellach gan ddarlithwyr gwadd o’r diwydiant, sy’n darparu safbwyntiau diwydiannol. Rydym yn cynnal nifer o weithgareddau allgyrsiol, fel Tîm MCR, sy’n darparu profiad rhagorol ar gyfer pob math o yrfaoedd peirianneg fodurol y gellir eu cysylltu â’ch prosiect a gwaith aseiniad.
Peirianneg
Cyfleusterau Peirianneg Mecanyddol • Labordai CAE sydd â meddalwedd fel dadansoddi crogiant, Ymchwil Pi a chaffaeliad \ data 2-D, Solidworks ar gyfer modelu 3D a Dadansoddi Elfen Meidraidd, Fluent ar gyfer Dynameg Hylif Cyfrifiadurol, Matlab ar gyfer efelychu systemau, Minitab ar gyfer dadansoddi Systemau Gweithgynhyrchu a Ricardo WAVE a GT Power ar gyfer efelychu a dadansoddi injans. • Gallu i gynnal Profion a Gwerthuso Anninistriol. • CNC 5 Echel Cyfaint Mawr gyda Gallu CADCAM llawn. • Gallu i Brofi a Dadansoddi Cyrydiad. • Profi Cryfder Defnyddiau a Thrawiad Balisteg. • Dylunio Cydrannau a Chyfansoddiau Adeileddau • Modelu Elfen Feidraidd. • Gweithdy cynhyrchu cyfansoddiau o fanyleb awyrofod gan gynnwys awtoclaf a chaledu presio poeth. • Profi Dynameg Crogiant a Thelemetreg. • Labordy defnyddiau gydag ystod o offer profi modern. • Canolfan peiriannu buanedd uchel CMS pum echel ar gyfer defnyddiau cyfansawdd ac alwminiwm. • Labordy roboteg ac awtomatiaeth gyda’r dechnoleg roboteg gydweithredol ddiweddaraf a meddalwedd efelychu llinell cynhyrchu rhith-wirionedd.
Cyfleusterau Peirianneg Modurol Arbenigol: • Efelychydd ‘driver-in-the-loop’ perfformiad sylfaenol. • Labordy injans gyda chell profi Dynamomedr Injan DSG. • Pedwar bae paratoi / prosiect modurol gyda chyfleusterau cynhyrchu, caffael data a gosod cyfagos. • Ffyrdd Rholio (‘Rolling Roads’) beiciau modur a cherbydau gyriant 4 olwyn Maha. • Offer profi a gwasanaethu beiciau modur pwrpasol. • Gweithdy diagnostig modurol gydag offer soffistigedig ar gyfer profi injans a systemau cerbydau.
263
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Peirianneg
Beiciau Modur MEng, BEng Mae peirianneg beiciau modur Y Drindod Dewi Sant yn arweinydd byd-eang yn y maes, gyda staff y brifysgol yn gweithio’n uniongyrchol yn nosbarth ‘premier’ (MotoGP) cystadlaethau beiciau modur.
264
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser
Peirianneg Beiciau Modur
Cariad at Beirianneg Mae bod ar binacl peirianneg beiciau modur yn rhoi mewnwelediad unigryw iawn i mi i’r hyn y mae’r diwydiant yn chwilio amdano mewn peirianwyr a datblygiad peirianneg. Mae’r mewnwelediadau hyn yn ein helpu i deilwra’r cwrs a’r hyn a addysgwn i roi i fyfyrwyr y dechrau gorau posibl yn y diwydiannau beiciau modur a pheirianneg modurol ill dau.
Andrew Griffith
MarcVDS Honda MotoGP
Dechreuodd y graddau Peirianneg Beiciau Modur ym mis Hydref 2003 ac maent wedi datblygu i gefnogi’r twf mewn diddordeb yn y sector rasio beiciau modur. Bydd ein graddau’n galluogi myfyrwyr i ddatblygu’r arbenigedd penodol sydd ei angen wrth ddylunio a datblygu beiciau modur modern a’u gwneud yn fwyfwy soffistigedig. Mae gan y cwrs gymysgedd dda o elfennau damcaniaethol ac ymarferol eu natur yn ogystal â phrosiectau unigol a grŵp, gwaith aseiniad penodol ar feiciau modur a modylau opsiynol sy’n galluogi i’r myfyriwr deilwra’r rhaglen i weddu i'w anghenion a’u uchelgeisiau gyrfaol. Yn Y Drindod Dewi Sant, rydym yn arbenigo mewn darparu profiad o’r byd go iawn gyda thechnoleg beiciau modur o’r radd flaenaf a’i chymhwysiad i’r meysydd beicio modur ffordd rasio a phrif ffrwd.
100%
Cytunodd 100% o fyfyrwyr Peirianneg Beiciau Modur Y Drindoad Dewi Sant bod y staff yn dda am esbonio pethau. ACM 2018
Ar hyn o bryd caiff y rhaglen hon ei hachredu gydag IMechE ac anogir myfyrwyr i weithio tuag at gofrestru’n broffesiynol.
MEng: Cod UCAS: 6D4B Gofynion Mynediad: 130 o bwyntiau UCAS
BEng: Cod UCAS: H331 Gofynion Mynediad: 112 o bwyntiau UCAS
Sylfaen: Cod UCAS: H390 Gofynion Mynediad: 32 o bwyntiau UCAS
265
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Peirianneg Chwaraeon Moduro MEng, BEng Dechreuodd YDDS radd Peirianneg Chwaraeon Moduro gyntaf y byd yn 1998 ac mae’n arbenigo mewn darparu gradd beirianneg gymhwysol wedi’i gosod yng nghyd-destun technoleg Chwaraeon Moduro’r byd real.
266
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser
Peirianneg
Y peth gorau am fy swydd yw’r rhyddid dylunio a chymhwyso ystod eang o sgiliau a ddysgwyd drwy gydol fy addysg. Mae gan y cwrs ymagwedd ymarferol a roddodd y rhyddid i mi gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon moduro allgyrsiol. Am ddwy flynedd fi oedd Prif Beiriannydd tîm Fformiwla 4 y Brifysgol, a defnyddiais injan y car hwn ar gyfer fy nhraethawd hir gan ffocysu ar berfformiad y pen silindrau a dynameg ‘valvetrain’.
Harley Gasson
BEng Peirianneg Chwaraeon Moduro McLaren
Peirianneg Perfformio Gymhwysol Bwriad y rhaglenni Peirianneg Chwaraeon Moduro yw rhoi i chi sylfaen gadarn mewn peirianneg fecanyddol, gwyddoniaeth a thechnolegau o’r radd flaenaf a’u cymhwyso i ddatrys ystod o broblemau peirianneg yng nghyd-destun peirianneg chwaraeon moduro. Ymhlith y meysydd astudio arbenigol mae dylunio injans uwch a dynameg cerbydau a fydd yn eich galluogi i ffocysu ar feysydd sydd o ddiddordeb arbennig y gellir eu datblygu yn ystod prosiectau grŵp a phrosiectau mawr. O fewn llawer o’r modylau, mae’r cwrs yn ystyried agweddau amgylcheddol ar ddylunio a thechnoleg, sy’n drosglwyddadwy i ystod eang o gyfleoedd gwaith. Caiff y cwrs hefyd ei gefnogi gan y cyfleoedd allgyrsiol i gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol a ddysgwyd yn y modylau i gymwysiadau chwaraeon moduro bywyd real.
Ar hyn o bryd caiff y rhaglen hon ei hachredu gydag IMechE ac anogir myfyrwyr i weithio tuag at gofrestru’n broffesiynol.
MEng: Cod UCAS: 6W1M Gofynion Mynediad: 130 o bwyntiau UCAS
BEng: Cod UCAS: H336 Gofynion Mynediad: 112 o bwyntiau UCAS
Sylfaen: Cod UCAS: H341 Gofynion Mynediad: 32 o bwyntiau UCAS
267
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Peirianneg Fodurol MEng, BEng
Mae’r diwydiant modurol yn debygol o dyfu’n gyson. Mae’r heriau technolegol y mae’n eu hwynebu wrth gyflawni cynnydd o ran effeithlonrwydd wedi arwain at gynnydd yn y galw am Beirianwyr Modurol medrus tu hwnt.
268
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Mae ein graddedigion yn dangos y gallu i ymateb i anghenion cyflogwyr a chydnabyddir eu bod yn gallu bwrw iddi’n syth a dod i ben â’r gwaith. Caiff y rhaglenni Peirianneg Fodurol eu tanategu gan wyddoniaeth beirianneg fecanyddol graidd a’i chymhwysiad i ddylunio a datrys ystod o heriau peirianneg. Maent wedi’u datblygu i roi i fyfyrwyr anghenion penodol y diwydiant modurol, gan gynnwys peirianneg dylunio, gweithgynhyrchu, ansawdd a systemau – sydd i gyd yn feysydd hanfodol i weithrediadau peirianneg cerbydau modern.
Opsiynau Astudio: Llawn amser
Peirianneg
1af
Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 1af yng Nghymru am ‘Ansawdd Addysgu’ mewn Peirianneg Fecanyddol. The Times and The Sunday Times Good University Guide 2018
Bydd meysydd astudio arbenigol gan gynnwys dylunio injans uwch a dynameg cerbydau yn eich galluogi i ffocysu ar feysydd o ddiddordeb arbennig y gellir eu datblygu yn y modylau prosiect grŵp a phrosiect mawr. O fewn llawer o’r modylau, mae’r cwrs yn ystyried agweddau amgylcheddol ar ddylunio a thechnoleg sy’n drosglwyddadwy i ystod eang o gyfleoedd gwaith. Rydym yn cynnal nifer o weithgareddau allgyrsiol sy’n darparu profiad rhagorol ar gyfer pob math o yrfa peirianneg fodurol y gellir eu cysylltu â’ch gwaith prosiect ac aseiniadau.
Nodweddion Allweddol Yn y flwyddyn gyntaf archwilir themâu megis peirianneg graidd gyda phynciau fel Mathemateg, Gwyddor Peirianneg ynghyd â gweithdai a sgiliau astudio. Mae blwyddyn 2 yn cyfoethogi'r astudiaethau peirianneg graidd. Nodwedd bwysig o flwyddyn 2 yw'r prosiect grŵp a gefnogir gan reolaeth, arloesi a chynaliadwyedd. Caiff pynciau uwch yr uchod eu cyflwyno yn ystod blwyddyn 3. Mae'r prosiect terfynol yn galluogi'r myfyrwyr i arddangos yr wybodaeth a'r sgiliau y maent wedi'u mireinio yn ystod eu hamser yn Y Drindod Dewi Sant.
MEng: Cod UCAS: 0PD5 Gofynion Mynediad: 130 o bwyntiau UCAS
BEng: Cod UCAS: H330 Gofynion Mynediad: 112 o bwyntiau UCAS
Drwy fy mhrofiad yn Y Drindod Dewi Sant, help y staff a’r gweithgareddau allgyrsiol y bues yn rhan ohonynt, llwyddais i gael swydd llawn amser cyn graddio. Wrth edrych nôl, mae’r sgiliau sylfaenol rwy’n eu defnyddio yn fy nhasgau beunyddiol i gyd wedi’u seilio ar yr hyn a ddysgais yn y brifysgol.
Karl Smith
BEng Peirianneg Fodurol HORIBA MIRA
Sylfaen: CodUCAS: HH33 Gofynion Mynediad: 32 o bwyntiau UCAS
269
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Peirianneg Fodurol / Chwaraeon Moduro BSc a HND Mae’r BSc a’r HND yn rhaglenni mwy galwedigaethol a fydd yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth ar gyfer cymhwysiad technegol ac arloesol o fewn sefydliadau busnes y diwydiannau modurol/ chwaraeon moduro.
Caiff ein holl fodylau eu cymhwyso’n uniongyrchol i’r dewis ddisgyblaeth, gydag enghreifftiau a phrosiectau penodol ar gyfer meysydd chwaraeon moduro a modurol. Bydd defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf yn llwyddiannus yn datblygu dealltwriaeth eang o faterion sy’n gysylltiedig â’r diwydiant cystadleuol sydd ohono, gan roi ein graddedigion ar y blaen wrth ddod o hyd i waith. Mae’r llwybrau BSc a HND Peirianneg Fodurol a Chwaraeon Moduro yn rhaglenni mwy galwedigaethol sy’n dilyn fformat sy’n cyfuno’r themâu dadansoddol a damcaniaethol gyda’r disgyblaethau ymarferol a chymhwysol. Mae hyfforddiant i dechnegwyr a pheirianwyr wedi cael ei newid yn sylweddol ers cyflwyno systemau rheoli electronig cymhleth mewn cerbydau i fodloni gofynion economi tanwydd a deddfwriaeth allyriadau. O ganlyniad i’r dechnoleg hon, mae technegwyr a pheirianwyr wedi mynd o fod naill ai’n fecanyddol neu’n electronig eu naws i fod ag angen dealltwriaeth dda o integreiddiad pob system cerbyd.
270
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan Amser
Gofynion Mynediad: BSc: 96 / HND: 80 o bwyntiau UCAS
Peirianneg Peirianneg Fodurol
Ymhlith y meysydd astudio arbenigol mae Systemau Cerbydau, Systemau Rheoli Injans, Caffael Data a Dynameg, Technoleg Pwerwaith Amgen, Rheoli Allyriadau a Diagnosis, Dylunio Peirianneg a Deunyddiau. Mae’r llwybr Peirianneg Modurol yn ffocysu ar Beirianneg fodurol tra bo’r llwybr Chwaraeon Moduro’n arbenigo mewn Peirianneg Rasio. Mae modylau prosiect grŵp a phrosiect mawr yn eich galluogi i ganolbwyntio eich astudiaethau ar eich meysydd diddordeb eich hunain. Tra bues yn astudio yn Y Drindod Dewi Sant cynigodd y cwrs gymysgedd da i mi o sesiynau theori ac ymarferol. Bellach, rwy’n gweithio i wneuthurwr tyrbochwythwyr byd-eang mewn R&D aerodynamics (dylunio cyfnodau cywasgydd), ac rwy’n defnyddio’r sgiliau a ddysgais yn Y Drindod Dewi Sant yn ddyddiol.
James Seabright
BSc Peirianneg Chwaraeon Moduro
Mae traethodau hir Myfyrwyr BSc Peirianneg Chwaraeon Moduro wedi cynnwys: • Defnyddio dosbarthiad llwyth olwyn i ragamcanu cydbwysedd handlo wrth i gerbyd fynd rownd corneli. • Sut y mae tymheredd yn effeithio ar damperau hongiad o dan amodau dynamig. • Ymchwiliad i amnewidiad ffibr carbon ar gyfer dylunio asgwrn tynnu blaen. • Gwerthusiad o osod system KERs ar gar GP2. • Hanfodion aeroffoiliau a’r berthynas gyda thrin handlo.
Mae traethodau hir myfyrwyr BSc Peirianneg Foduro wedi cynnwys: • Astudiaeth ymchwiliol i reoli allyriadau NOx rhwng tyrbo GDI ac injan ddi-dyrbo. • Ymchwiliad i effeithlonrwydd injan ar injan llai o faint. • Cymhwysiad a manteision defnyddio Systemau Adfer Cinetig. • Gweithredu system adfer ynni mewn cerbyd modern. • All cerbydau a yrrir gan drydan fod yn gynaliadwy?
Chwaraeon Modurol: Cod UCAS: BSc: H334 HND: 034H
Peirianneg Fodurol: Cod UCAS: BSc: H332 HND: 043H
271
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
TIMAU RASIO Rydym yn rasio yn Y Drindod Dewi Sant. Mae’r Ysgol Peirianneg yn cefnogi timau rasio a arweinir gan fyfyrwyr yn y gred bod gweithgareddau ymarferol yn hyrwyddo cyflogadwyedd.
Mae’r cyfleuster Peirianneg newydd yn SA1 yn rhagolwg cyffrous i fyfyrwyr a staff. Bydd yr amgylchedd newydd yn cyfoethogi addysgu a dysgu ac yn cefnogi’r timau rasio allgyrsiol. Bydd y lab peirianneg rasio a adeiladwyd yn bwrpasol, a gefnogir gan y ffordd rholio a pheiriant dynamomedr newydd, yn ffantastig ac yn caniatáu datblygiad pwerweithiau presennol a rhai’r dyfodol. Hefyd, bydd y ddynamomedr damper a gyrrwr yn y cyfleusterau efelychydd lŵp yn help mawr i’r timau ddatblygu’r ceir a’u gweithrediadau tîm, gyda’r canolfannau cyfansoddion a gweithgynhyrchu’n helpu i ddod â dyluniadau i gynhyrchion terfynol. Allwn ni ddim aros!
Tim Tudor
Cyfarwyddwr Rhaglen BEng/MEng Peirianneg Chwaraeon Moduro
Mae symud i’r cyfleuster newydd ar gyfer y rhaglenni peirianneg beiciau modur yn gyfle enfawr i ni. Mae gennym ddynamomedr siasi newydd a gwely profi injan pwrpasol, yn ogystal â chyfleusterau gweithdy newydd a chyfleusterau addysgu o’r radd flaenaf. Mae’n amser cyffrous iawn i beirianneg beiciau modur oherwydd gall cyflwyniad rheoliadau allyriadau newydd ar gyfer 2020 newid pwerwaith llwyr pob beic modur newydd, gan arwain at gyflwyno ystod o dechnolegau newydd a chyffrous. Bydd y cyfleoedd a ddarperir gan y cyfleusterau newydd hyn yn caniatáu i ni gadw ein hunain ar reng flaen datblygu pwerwaith beiciau modur a dynameg cerbydau. Rydym yn parhau i gymryd rhan mewn cystadlaethau ar y lefel uchaf, gyda mwy o’n graddedigion yn cael swyddi yn y padogau Moto2 a MotoGP, yn ogystal ag ystod o rolau yn y pencampwriaethau domestig.
Owen Williams
Cyfarwyddwr Rhaglen BEng/MEng Peirianneg Chwaraeon Moduro
272
Peirianneg Peirianneg Fodurol
Chwaraeon Moduro Y Drindod Dewi Sant Rasio Orthrus YDDS orthrusracing@uwtsd.ac.uk motorcycle@uwtsd.ac.uk OrthrusRacing
MSportEng YDDS (Tîm MCR) motorsport@uwtsd.ac.uk MSportEng
team.mcr
273
Cyfadran PensaernĂŻaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Peirianneg Fecanyddol
a Gweithgynhyrchu
274
Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu
Mae’r rhaglenni hyn wedi’u datblygu i roi ichi’r sgiliau, gwybodaeth a medrau sydd eu hangen i ddefnyddio awtomatiaeth uwch, roboteg a thechnegau arolygu cyfrifiadurol i fodloni anghenion cynyddol y sector.
Mae dealltwriaeth drwyadl o ‘systemau gweithgynhyrchu’ hefyd yn bwysig os yw peiriannydd yn mynd i allu defnyddio’r technolegau uwch hyn i’w potensial llawn. Byddwch yn astudio pynciau Peirianneg fel Gwyddor Peirianneg, Mathemateg, Dylunio Peirianneg, a Thechnoleg Gweithgynhyrchu ynghyd ag ystod o fodylau arbenigol.
Byddwch mewn safle da i fodloni anghenion a heriau’r sector cynyddol dechnolegol hwn. Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i wneud cyfraniad gwerthfawr fel peirianwyr a rheolwyr o fewn ystod eang o gwmnïau. Mae’r rhain yn cynnwys: Ford Motor Company, Tata Steel, Perkin Elmer, Caterpillar, Mono Equipment, Y Weinyddiaeth Amddiffyn a British Rototherm.
Fel unigolyn graddedig byddwch yn meddu ar y cyfleoedd dysgu, y wybodaeth a'r setiau sgiliau sydd eu hangen i ymuno â chymuned fyd-eang o beirianwyr mecanyddol a gweithgynhyrchu.
100%
Cytunodd 100% o fyfyrwyr Peirianneg Fecanyddol Y Drindod Dewi Sant bod y staff yn dda am esbonio pethau. ACM 2018
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
275
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Llwybrau Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu
Codau UCAS: MEng BEng Sylfaen
Er mwyn bodloni heriau sector gweithgynhyrchu byd-eang cystadleuol, mae peirianwyr yn defnyddio dulliau gweithgynhyrchu a thechnolegau uwch yn fwy a mwy aml.
Mae myfyrwyr Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu wedi ymgymryd â phrosiectau mewn ystod o ddiwydiannau. Mae’r rhain yn cynnwys:
Bydd graddedigion o’r rhaglen peirianneg gweithgynhyrchu wedi cael profiad o awtomatiaeth, roboteg, efelychu cyfrifiadurol a phrototeipio cyflym/ technegau gweithgynhyrchu ychwanegion. Gan fanteisio’n llawn ar brofiad diwydiannol y tîm addysgu, bydd myfyrwyr yn cael profiad ymarferol o ystod o brosesau gweithgynhyrchu uwch a thechnegau dylunio.
276
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
3D7B HH37 HH3R
• Gweithredu Roboteg ac Awtomatiaeth. • Optimeiddio Llinell Cynhyrchu Gweithgynhyrchu. • Ymchwilio i Achosion Namau yn y Broses Gynhyrchu. • Materion cynaliadwyedd - Lleihau Faint o Ddefnydd Sgrap sydd wrth Gynhyrchu Gwŷdd Weirio. • Astudio Methiannau Blychau Gêr mewn Gweithgynhyrchu Dur Byd-eang. • Gwerthuso Electroplatio Pres Amgen. • Gwneud yn fawr o Ddulliau Uno mewn Cydrannau â Wal Denau.
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan Amser
Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu
Buaswn yn argymell y cwrs hwn yn gryf i ddarpar fyfyrwyr. Edrychwch ar beth mae e wedi’i wneud i mi - fy helpu i weithio gyda chwmni rhyngwladol am dri diwrnod yr wythnos wrth i mi astudio.
Sarah Chappell-Smith BEng Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu Perkin Elmer
Peirianneg Fecanyddol
Codau UCAS: MEng BEng Sylfaen
Nod Peirianneg Fecanyddol yn Y Drindod Dewi Sant yw rhoi i fyfyrwyr y sgiliau, gwybodaeth a medrau sydd eu hangen i fodloni heriau peirianneg, o fewn ystod amrywiol o ddiwydiannau.
Mae myfyrwyr Peirianneg Fecanyddol mewn sefyllfa dda i ymgymryd â phrosiectau ar ystod eang o bynciau. Ymhlith teitlau prosiectau blaenorol, mae:
Er mwyn datblygu datrysiadau dylunio dyfeisgar ac arloesol, mae angen i fyfyrwyr fod yn hyddysg mewn ystod o dechnegau dadansoddol a meddu ar ddealltwriaeth dda o gysyniadau gwyddonol, ymddygiad deunyddiau, egwyddorion technolegol a dulliau cyfrifiadurol. Ar bob cam o’r rhaglen bydd gan Beirianwyr Mecanyddol y cyfle i gymhwyso eu dealltwriaeth gynyddol o’r pwnc i ddatrys heriau’r ‘byd real’.
Gofynion Mynediad MEng: 130 o bwyntiau UCAS
H302 H301 H300
• Effaith Amodau Amgylcheddol ar Briodweddau Plastigau a Atgyfnerthir gan Ffibr Carbon. • Dylunio a Datblygu System Sganio Profion Anninistriol. • Datblygu Tyrbin Gwynt Symudol. • Dylunio System ar gyfer Casglu, Storio a Glanhau Dŵr. • Ymchwiliad i’r Defnydd o Ddefnyddiau Cyfansawdd mewn Adeileddau Cerbyd Trydan/Hybrid. • Modelu Digwyddiadau Pwysedd Darfodedig mewn Piblinellau. • Lleihau Pwysau ac Optimeiddio Cerbydau Llwytho Awyrennau.
Gofynion Mynediad BEng: 112 o bwyntiau UCAS
Gofynion Mynediad Sylfaen: 32 o bwyntiau UCAS
277
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Cadwraeth Amgylcheddol Mae gan weithwyr Cadwraeth Amgylcheddol yr wybodaeth sydd ei hangen i fodloni heriau niferus ein hamgylchedd, fel adfer coetiroedd, cadwraeth cynefinoedd, gwarchod arfordiroedd a rheoli gwastraff fel adnodd.
278
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Mae’r meysydd gwyddonol niferus a gwmpesir gan y rhaglen hon yn cynnwys Gwyddorau’r Ddaear, Bioleg Amgylcheddol, Gwyddor Cynefin, Gwyddor Arfordirol a Morol, Cadwraeth Dŵr Ffres a Thirluniau Ffisegol. Yn ogystal, byddwch yn gwerthfawrogi rôl llywodraethu a manteision cymdeithasol gwneud penderfyniadau trwy ein modylau Llywodraethu’r Amgylchedd a Chyfraith Amgylcheddol ac Economeg. Mae’r lleoliad delfrydol rhwng Penrhyn Gŵyr a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn darparu llawer o gyfleoedd am waith maes ymarferol, gan roi i fyfyrwyr wybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol fel adnabod pethau sy’n rhoi straen ar yr amgylchedd, GIS a dadansoddi data, asesu amgylcheddol a thechnolegau carbon isel, y mae cyflogwyr yn eu hedmygu’n fawr.
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan Amser
Amgylchedd
Ben Ashley BSc (Anrh) Cadwraeth Amgylcheddol "Mae Cadwraeth Amgylcheddol yn hwyl. Mae’n agor eich meddwl i sut y mae’r byd yn gweithio. Rydych yn dysgu am yr hyn sy’n wir a beth sydd ddim yn digwydd yn y byd heddiw.”
Elanor Alun BSc (Anrh) Cadwraeth Amgylcheddol “Rydych yn dysgu sgiliau ymarferol, monitro’r amgylchedd ac effeithiau amgylcheddol gweithgareddau, a sut i gynnal arolwg i ddarganfod beth yn union mae eich safle’n ei wneud, fel bod gennych waelodlin i weithio ohono.”
Abi Lewis BSc ac MSc Cadwraeth Amgylcheddol “Roedd dysgu am wyddor bywyd a’r amgylchedd yn wirioneddol ddiddorol. Dysgais bopeth o ochr gemeg a bioleg pethau i’r elfennau arfordirol a dŵr.”
Natalie Jordan BSc Gwyddor Amgylcheddol “Golyga’r dosbarthiadau bach y cewch chi fwy o ryngweithiad un i un. Mae gan yr athrawon gymaint o gariad at yr hyn y maent yn ei wneud. Mae’n heintus, ac rwy’n meddwl mai dyna oedd y peth gorau am y cwrs."
Kate Denner BSc Cadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol “Bu inni dreulio llawer o amser yn gwneud gweithgareddau ymarferol ar Benrhyn Gŵyr. Mae’n lleoliad hollol wych. Rydych yn manteisio ar gael y math yma o amgylchedd ar stepen y drws.”
BSc: Cod UCAS: F901 Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS
HND: Cod UCAS: 3S54 Gofynion Mynediad: 48 o bwyntiau UCAS
Sylfaen: Cod UCAS: STE1 Gofynion Mynediad: 32 o bwyntiau UCAS
279
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Peirianneg Ynni
ac Amgylcheddol Mae’r rhaglen hon wedi’i datblygu i roi ichi’r sgiliau, gwybodaeth a medrau i ddefnyddio gwyddor peirianneg fecanyddol a chymhwyso hyn i’r amgylchedd.
280
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan Amser
Peirianneg Amgylcheddol
92%
Mae’r rhaglen hon yn cynnig ystod eang o beirianneg fecanyddol gyda ffocws ar yr amgylchedd a darparu ynni glân ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Cytunodd 92% o fyfyrwyr Peirianneg a Thechnoleg Y Drindod Dewi Sant fod y staff yn dda am esbonio pethau. ACM 2018
Harjot Ubhi
BEng Ynni a Pheirianneg Amgylcheddol
Mae angen i Beirianwyr Ynni ac Amgylcheddol (E&E) ddatblygu datrysiadau newydd ac arloesol i helpu datrys problemau E&E presennol, yn ogystal â rhai’r dyfodol. Mae Peirianneg Ynni’n cynnwys astudio mathau presennol o gynhyrchu ynni yn ogystal â datblygu technolegau cynhyrchu ynni newydd. Mae angen i’r mathau yma o ynni gael eu defnyddio’n effeithlon fel ein bod yn defnyddio llai o ynni yn y dyfodol gan barhau i fodloni anghenion cymdeithas. Diben Peirianneg Amgylcheddol yw parhau i ostwng a dileu’r effeithiau niweidiol a gaiff dyn ar yr amgylchedd. Gall hyn gynnwys edrych ar ddulliau y gellir eu defnyddio i reoli llygredd aer, dŵr a sŵn wrth ddeall yr egwyddorion tu ôl i sut y mae’r technolegau rheoli llygredd yn gweithio. Bydd y rhaglen yn cwmpasu meysydd o beirianneg fel Gwyddor Peirianneg, Mathemateg, Dylunio Peirianneg, a Thechnoleg Gweithgynhyrchu, ynghyd â nifer o fodylau arbenigol. Yn ogystal, mae’r rhaglen yn ymchwilio Technolegau Amgylcheddol Arloesol ac Arloesi Rheolaeth a Chynaliadwyedd.
MEng: Cod UCAS: 0HRS Gofynion Mynediad: 130 o bwyntiau UCAS
BEng: Cod UCAS: 42U0 Gofynion Mynediad: 112 o bwyntiau UCAS
Sylfaen: Cod UCAS: 48C3 Gofynion Mynediad: 32 o bwyntiau UCAS
281
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Logisteg a
Rheolaeth y Gadwyn Gyflenwi Mae Logisteg a Rheolaeth y Gadwyn Gyflenwi’n ymwneud â rheolaeth busnes gyda phwrpas. Y pwrpas yw symud y nwyddau iawn o A i B yn y symiau iawn, i’r lle iawn, ar yr amser iawn, mewn ffordd sy’n ateb y gofyn.
Yn ddiwydiant byd-eang sydd â chyfleoedd helaeth i weithio ar hyd a lled y byd, mae arno angen pobl a fydd yn ffynnu wrth weithio mewn amgylchedd heriol sy’n newid y gyflym. Mae un peth yn sicr, nid oes dau ddiwrnod yr un fath yn y diwydiant Logisteg. Byddwch yn astudio pynciau busnes craidd fel, rheolaeth ac eFusnes, marchnata, tueddiadau cymdeithasol ac ymddygiad defnyddwyr, rheolaeth ariannol, economeg ac ystadegau, adnoddau dynol a chyfraith contract, gyda ffocws ar logisteg ryngwladol, rheolaeth warysau, strategaethau cadwyn gyflenwi, modelu logisteg a chynllunio trafnidiaeth a gallu proffesiynol. Yn ogystal, mae’r rhaglen yn archwilio i logisteg gynaliadwy. Mae Rheolaeth y Gadwyn Gyflenwi’n cynnig gyrfa a fydd yn datblygu potensial unigolyn yn barhaus ac yn gwobrwyo uchelgais mewn amgylchedd byd-eang heriol. Gan fod y galw am weithwyr proffesiynol logisteg yn fwy na’r cyflenwad, mae cyfleoedd rhagorol i ddatblygu eu gyrfa’n bodoli i’r rheiny sydd â’r bersonoliaeth i lwyddo. Mae gyrfaoedd mewn logisteg a rheolaeth y gadwyn gyflenwi’n cynnig cyfrifoldeb yn fuan, a heriau cyffrous ac mae’n talu’n dda ac yn cynnig cyfleoedd i deithio.
282
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan Amser
Logisteg a Thrafnidiaeth
Gyrfaoedd Mae ein rhaglenni Logisteg yn cwmpasu ystod eang o bynciau sy’n gallu arwain at nifer enfawr o yrfaoedd. Dyma rai o rolau newydd graddedigion diweddar:
91% Cytunodd 91% o fyfyrwyr Peirianneg a Thechnoleg Y Drindod Dewi Sant bod y cwrs yn symbylol yn ddeallusol. ACM 2018
BSc: Cod UCAS: N900 Gofynion Mynediad: 80 o bwyntiau UCAS
• Rheolwr Datblygu Busnes yn Old Hall Performance • Prif Swyddog Gweithredol, Sylfaenydd a Pherchennog ESL Teacher Recruitment • Cynllunydd Galw yn Actavis UK Ltd. • Swyddog Gweithredol Graddedig Caffael Logisteg yn Tesco Plc. • Swyddog Cysylltiadau Rhyngwladol yn Round Table Norway
HND: Cod UCAS: N901 Gofynion Mynediad: 72 o bwyntiau UCAS
283
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Logisteg a Thrafnidiaeth Logisteg a Thrafnidiaeth yw rheolaeth symud nwyddau. Ei ddiben yw symud pobl a nwyddau o A i B yn ddiogel ac yn brydlon.
Mewn amgylchedd heriol sy’n symud yn gyflym, mae Rheolaeth Trafnidiaeth yn hanfodol bwysig i’r economi. Yn ddiwydiant byd-eang sydd â chyfleoedd helaeth i weithio ar hyd a lled y byd, mae arno angen pobl a fydd yn ffynnu wrth weithio mewn amgylchedd heriol sy’n symud yn gyflym. Mae un peth yn sicr, nid oes dau ddiwrnod yr un fath yn y Diwydiant Logisteg. Byddwch yn astudio pynciau busnes craidd fel, rheolaeth ac eFusnes, marchnata, tueddiadau cymdeithasol ac ymddygiad defnyddwyr, rheolaeth ariannol, economeg ac ystadegau, adnoddau dynol a chyfraith contract, gyda ffocws ar logisteg ryngwladol, rheolaeth warysau, trafnidiaeth a chymdeithas, modelu logisteg a chynllunio trafnidiaeth a gallu proffesiynol. Yn ogystal, mae’r rhaglen yn archwilio i logisteg gynaliadwy.
284
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Logisteg a Thrafnidiaeth
Gyrfaoedd Graddedigion Mae ein rhaglenni Logisteg yn cwmpasu ystod eang o bynciau sy’n gallu arwain at nifer enfawr o yrfaoedd. Dyma rai o swyddi newydd graddedigion diweddar:
93% Cytunodd 93% o fyfyrwyr Peirianneg a Thechnoleg Y Drindod Dewi Sant eu bod wedi gallu cysylltu â staff pan fu angen. ACM 2018
BSc: Cod UCAS: 53R4 Gofynion Mynediad: 80 o bwyntiau UCAS
• Ymgynghorydd yn SNC-Lavalin Rail & Transit – Interfleet cynt. • Uwch Ymgynghorydd, Trawsnewid Busnes yn Babcock International • Aelod SLD /Trefnydd CVD/ Dylunydd Graffig yn Gloucestershire Warwickshire Railway. • Cynorthwyydd Trafnidiaeth yn NFT Distribution. • Goruchwylydd Trafnidiaeth yn Norbert Dentressangle.
HND: Cod UCAS: 53R3 Gofynion Mynediad: 72 o bwyntiau UCAS
285
Cyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Rheolaeth Chwaraeon Moduro Rhaglen radd reolwrol yw Rheolaeth Chwaraeon Moduro a chanddi ffocws arbennig ar y diwydiant chwaraeon moduro. Caiff y modylau eu cymhwyso’n uniongyrchol i’r diwydiant chwaraeon moduro gydag esiamplau penodol a phrosiectau. Byddwch hefyd yn astudio pynciau busnes craidd fel rheolaeth ac eFusnes, marchnata, tueddiadau cymdeithasol a diwylliant prynu, rheolaeth ariannol ac economeg, rheolaeth adnoddau dynol a chaffael a chyfraith contract. Mae’r agosrwydd i’r Portffolio Logisteg yn cyfoethogi’r ffocws ar reolaeth cadwyn gyflenwi o gynhyrchu cerbyd rasio i rwysg lleoliad rasio. Byddwch yn astudio logisteg, ystadegau ar gyfer logisteg, cynllunio trafnidiaeth, logisteg cynaliadwy a modelu logisteg.
286
Lleoliad y Cwrs: Abertawe
Iaith: Saesneg
Mae ein rhaglenni Rheolaeth Chwaraeon Moduro yn cwmpasu ystod eang o bynciau sy’n medru arwain at nifer enfawr o yrfaoedd. Dyma rai o rolau newydd ein graddedigion diweddar: • Peiriannydd pensaernïaeth yn Jaguar Land Rover • Wedi’i lleoli yng Nghanolfan Arloesi Silverstone, yn gweithio i CMA Marketing • Swyddog Gweithredol Datblygu Busnes Lleol yn Trainer BMW • Perchennog Undercover Imports: busnes ategion a rhannau car a chynhyrchion Japaneaidd e-Fasnach • Peiriannydd Systemau Pŵer yn Jaguar Land Rover • Swyddog Gweithredol Prosiect yng Nghymdeithas y Diwydiant Chwaraeon Moduro • Cydlynydd Gwerthiannau yn McLaren GT • Uwch Reolwr Partneriaeth yn PRISM – Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata Chwaraeon Rhyngwladol
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan Amser
Logisteg a Thrafnidiaeth
BSc: Cod UCAS: 101R Gofynion Mynediad: 80 o bwyntiau UCAS
HND: Cod UCAS: 2N3H Gofynion Mynediad: 72 o bwyntiau UCAS
287
Campws Llambed
Llambed
Trawsnewid bywydau ers 1822 288
289
Llambed Pan welwch chi adeiladau gwreiddiol y campws, fe allech feddwl eich bod wedi taro ar un o golegau Rhydychen neu Gaergrawnt yng nghanol De Orllewin Cymru. Nid yw’n syndod gan mai'r campws hwn, a sefydlwyd yn 1822 ac a ddyluniwyd gan C R Cockerell, wedi’i seilio ar betryal Rhydychen a Siarter Frenhinol Llambed, sy’n dyddio'n ôl i 1828, yw’r hynaf yng Nghymru. Mae’n gampws ysblennydd a gellir defnyddio’r un ansoddair i ddisgrifio’r wlad o’i gwmpas. Fe'i lleolwyd ef mewn ardal fendigedig sy’n llawn coetiroedd cain, mynyddoedd mawreddog a thraethau teg. Mae’n lle perffaith i astudio ynddo. Mae Llambed yn cyfuno treftadaeth gyfoethog a hanes gyda chyfleusterau a thechnoleg sydd eu hangen i ddysgu yn yr 21ain ganrif. Caiff myfyrwyr eu hannog i gymryd rhan weithredol yn eu dysg. Cewch ryddid yma i fod yn unigryw a bod yn rhagweithiol y tu allan i’r dosbarth hefyd. Cewch ryddid i fod yn chi eich hunan.
ar gyfer pêl-fasged, badminton, pêl-rwyd a ffensio. Tîm rygbi'r brifysgol oedd y cyntaf yng Nghymru, wedi'i ffurfio gan hen IsGanghellor Llambed, Rowland Williams, wedi iddo ddod â’r gêm o Gaergrawnt. Mae yna glybiau hoci a phêl-droed hefyd. Mae bywyd yma’n cynnig ichi’r rhyddid i roi cynnig ar syniadau newydd, boed hynny trwy ddechrau cymdeithas o’r newydd neu ddatblygu rhai sy’n bodoli eisoes. Os ydych yn chwilio am fwyd ac adloniant ar y campws, mae ffreutur ar gyfer prydau poeth ac 1822, caffi poblogaidd, cysurus gyda theras braf lle gall myfyrwyr fwynhau coffi neu ginio ar ddiwrnodau braf. Mae gan Undeb y Myfyrwyr soffas i ymlacio arnynt a sgwrsio yn ogystal â theledu ac Xbox ac mae pêl-droed bwrdd a gemau ar gael yn The Hive.
Gallwch ddylanwadu ar fywyd cymdeithasol campws bywiog Llambed. Mae yno lawer o gymdeithasau a chlybiau sy’n darparu ar gyfer amrywiaeth o ddiddordebau o saethyddiaeth i Gymdeithas Llychlynwyr. Os oes yna rywbeth yr hoffech chi ei wneud nad yw ar y rhestr yn barod, bydd Undeb y Myfyrwyr yn fwy na pharod i’ch helpu i sefydlu un eich hun.
Gan fod Llambed yn gymharol fach, mae myfyrwyr yn elwa o awyrgylch cymuned glos. Gall y rhan fwyaf o fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf fyw ar y campws ac mae ystafelloedd hefyd ar gael i fyfyrwyr yr ail a’r drydedd flwyddyn a myfyrwyr ôlraddedig. Mae llety’r Brifysgol yn cynnwys wyth gwahanol lety sy’n amrywio mewn maint o neuaddau 4/8 ystafell. Mae’r holl ystafelloedd yn rhai hunanarlwyo ac mae gan nifer ohonynt gyfleusterau en-suite a mynediad i bobl anabl.
Bydd y rheiny sy'n ymddiddori mewn iechyd a ffitrwydd wrth eu bodd gyda'r ganolfan chwaraeon sy'n llawn offer campfa cyfredol, a chanddi amrywiaeth o ddosbarthiadau, gan gynnwys yoga a chylchedau, a chyfleusterau
Pan fydd arnoch awydd ymlacio tu allan a mwynhau’r llecyn gwledig godidog hwn, mae’r man perffaith ar gael. Mae afon yn rhedeg drwy’r campws, gan gynnig lleoliad hyfryd i astudio a sgwrsio gyda ffrindiau.
290
291
Llambed Dydy bywyd prysur y ddinas ddim yn bodoli yma. Yr hyn y byddwch yn ei ddarganfod yw tref fechan fywiog sy’n cynnig llawer mwy nag y byddech yn ei ddisgwyl. Cymerwch gam y tu allan i’r giatiau ac rydych yn y dref. Mae yna amrywiaeth eang o siopau a gwasanaethau o fewn cyrraedd rhwydd i’r campws, o fanciau i bobyddion, archfarchnadoedd i siopau bwtîc, siopau elusen a siopau cadwyn ac o fferyllfeydd i siopau blodau.
Mae Llambed yng nghanol rhwydwaith o deithiau cerdded gwledig godidog. Os hoffech fynd ymhellach na’r campws, gallwch fynd i grwydro Coetir Cymunedol Long Wood neu ymweld â’r llyn yng Ngwesty’r Falcondale.
Mae yna dafarndai, caffis, bwytai a siopau prydau parod gan gynnwys siop bwyd cyflawn a chanddi gaffi, a Conti's gyda'i hufen iâ traddodiadol sydd wedi ennill gwobrau di-ri.
Mae llawer o leoedd diddorol i ymweld â nhw o fewn taith car o Lambed, o Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro i Fannau Brycheiniog. Gallwch fwynhau harddwch yr arfordir law yn llaw â hanes diddorol yr ardal gan gynnwys claddgelloedd cynhanesyddol, gwaith aur Rhufeinig ac Abaty Ystrad Fflur, sy’n dyddio'n ôl i’r Canol Oesoedd. Mae llawer o drefi glan môr hardd i’w harchwilio, fel Aberaeron a’i chlytwaith o dai lliwgar.
Os ydych yn chwilio am fywyd nos gallwch fwynhau'r hyn sydd gan y dref i’w gynnig a chyfrannu ato. Mae myfyrwyr yn rhan bwysig o gymuned Llambed ac mae croeso iddynt yn y dref, i fwynhau’r tafarndai lleol niferus, ac elwa o fywyd cymunedol yn ogystal â chyfrannu ato. Gallwch floeddio canu mewn noson karaoke, gwrando ar gerddoriaeth fyw mewn digwyddiad yn Neuadd Fictoria a mynd i barti ar nos Wener.
Mae’r tirlun yn gweddu i amrywiaeth o weithgareddau awyr agored; o syrffio yng Nghei Newydd i feicio mynydd a marchogaeth. Gall cerddwyr archwilio llwybr yr arfordir a Mynyddoedd Cambria. Pan fyddwch yn teimlo fel archwilio'r ardal leol, mae digonedd o siopau, bwytai, mannau o ddiddordeb ac adloniant yng Nghaerfyrddin a chewch rwydd hynt i Abertawe, Caerdydd a Llundain ar y trên.
Anogir myfyrwyr i fod yn gyfranogion bywiog ym mywyd y dref, i gymryd rhan mewn prosiect gwirfoddol, i weithio'n rhan amser ac i fod yn rhan o ddigwyddiadau blynyddol gan gynnwys Gŵyl Fwyd Llambed, y Ffair Nadolig a gweithgareddau yn Neuadd Fictoria.
292
293
Llambed
Y 10 peth gorau i'w gwneud yn Llambed gan Lysgenhadon Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant 1. Cadw’n heini
Nid yn unig mae gan y campws ei neuadd chwaraeon ei hun, ond mae Canolfan Hamdden Llambed yn cynnig ystod o gyfleusterau, gan gynnwys pwll nofio, neuadd chwaraeon, campfa a chae ‘astroturf’.
2. Mynd am dro drwy'r goedwig
Mae gan Goetir Cymunedol Long Wood 4km o lwybrau troed a 10km o lwybrau meirch sydd ar agor i’r cyhoedd o hyd.
3. Ymwelwch â’r siopau
Mae canolfan brysur y dref yn cynnig nifer o siopau annibynnol sy’n arbenigo mewn addurniadau i’r cartref, llyfrau, recordiau, celfyddyd, crefftau, dillad, bwyd a diod.
4. Mwynhewch damaid blasus
Mae siop sglodion Lloyds yn un adnabyddus yn yr ardal. Mae caffi llysieuol Mulberry Bush yn boblogaidd ac rydych yn siwr o gael noson llawn sbort yn yr Ivy Bush ac Undeb y Myfyrwyr ar nos wener.
294
5. Byddwch yn rhan o hanes
Mae Amgueddfa Llambed, yn hen Borthdy'r Brifysgol ac mae'n dathlu hanes tref Llambed. Mae cyfle i wirfoddoli yma.
6. Rhowch gynnig ar y llwybr
Caiff hanes Llambed ei esbonio ar lwybr treftadaeth y dref. Mae’n eich cymryd i Glwb Rygbi Llambed, un o aelodau cyntaf Undeb Rygbi Cymru, a’r gofgolofn, a ddyluniwyd gan W. Goscombe John a’r Brifysgol.
7.Ewch amdani
Ymwelwch â Mwynglawdd Aur Dolaucothi ym Mhumsaint, a ddefnyddiwyd o oes y Rhufeiniad hyd yr 20fed ganrif. Cewch fynd ar daith dywysedig drwy'r twneli ac ar hyd llwybrau gwych yn harddwch Dyffryn Cothi, prin 15 munud yn y car o Lambed.
8. Darganfod Bae Ceredigion
Dim ond ychydig filltiroedd o Lambed mae arfordir godidog Bae Ceredigion gyda’i draethau glân a diarffordd. Mae gan Aberaeron ddau draeth poblogaidd.
9. Darganfyddwch lwybr i’r môr
Mae Llambed yng nghanol rhwydwaith o deithiau cerdded gwledig sy’n arwain at lynnoedd, glannau afonydd hardd, hen fryngaerau a meini hir. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ffynhonnell dda o wybodaeth am lwybr troed Llambed - Aberaeron.
10. Ewch am antur ar feic
Mae Llambed yn lle gwych i feicio, am fod ganddi filltiroedd o ffyrdd tawel. Dim ond taith fer yw hi o lwybrau beicio mynydd Coedwig Brechfa a Llwybr Beicio Ystwyth.
Darganfyddwch Gyrsiau Llambed > 295
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Y Dyniaethau Mae astudio yn Llambed yn rhoi’r rhyddid ichi fynegi eich hun, gallu meddwl yn annibynnol a datblygu'r set sgiliau sydd eu hangen i gamu i mewn i yrfa a gwneud gwahaniaeth i'r byd o'ch cwmpas.
Mae ein holl gynlluniau gradd yn y dyniaethau wedi eu cynllunio i sicrhau bod myfyrwyr yn cael y profiad dysgu mwyaf cynhwysfawr, arloesol ac atyniadol posibl. Yn rhy aml, mae pobl yn dal i feddwl am ddarlithfa fwll pan fyddant yn meddwl am addysgu mewn prifysgolion. Nid dyna’r achos i'n myfyrwyr ni. Diolch i ddulliau addysgu deinamig sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, mae myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant yn datblygu a gwella ystod o sgiliau a gwybodaeth yn barod at fyd gwaith. Yn gampws o tua 1,000 o fyfyrwyr llawn amser, gall Llambed gynnig profiad dysgu sy’n wahanol iawn i sefydliadau mawr eraill sy’n fwy amhersonol. Yn unigryw, bron, i Lambed, cewch eich addysgu gan ddarlithwyr mewn seminarau addysgu bach, mewn grwpiau o rhwng 15 a 25 o fyfyrwyr. Mae’r amgylchedd hwn yn rhoi cyfle ichi leisio’ch syniadau, cymryd rhan mewn dadleuon a chydweithio gyda staff a myfyrwyr. Bydd gweithio mewn grwpiau bach sy’n cynnwys academyddion a myfyrwyr yn ymestyn eich gwybodaeth ac yn eich helpu i fagu hyder. Yma gallwch gyfrannu at, a chydnabod, dadleuon a thrafodaethau ar faterion hollbwysig. Mae gan Lyfrgell ac Archif Roderic Bowen yn Llambed un o’r casgliadau gorau o lawysgrifau goliwiedig canoloesol ac argraffiadau cyntaf printiedig modern cynnar yn y wlad. Ymhlith y casgliadau arbennig mae dros 30,000 o olygiadau, a argraffwyd rhwng 1470 ac 1850, y mae ein myfyrwyr yn helpu i guradu.
296
Y Dyniaethau
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • Mae ein hymagwedd at addysgu yn bersonol, ymatebol ac yn talu sylw i’ch diddordebau. • Diolch i’n darlithwyr arbenigol, ymrwymedig byddwn yn eich cefnogi a'ch annog i ddatblygu yn bersonol ac yn academaidd. • Cewch y rhyddid i archwilio adnoddau archif gwych Llambed yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen. •
Gallwch lunio a siapio eich dysgu i ddilyn eich diddordebau a’ch uchelgeisiau eich hun, gan arbenigo mewn pwnc arbennig, neu ehangu eich gwybodaeth ac opsiynau drwy ystod o fodylau.
• Byddwch yn rhan o gymuned glos sy’n eich annog i gymryd ymagwedd ragweithiol at eich dysgu ac i ddatblygu sgiliau a fydd yn eich galluogi i ffynnu’n broffesiynol ac yn bersonol wedi ichi raddio.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: uwtsd.ac.uk/cy/ysgolion/cyfadran-y-dyniaethau
Gofynion Mynediad yn y Dyniaethau Mae graddau’n bwysig, ond nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn unigolion sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyriwr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch cymwysterau.
297
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Anthropoleg Cewch eich annog i arfer, nid dim ond dysgu am, anthropoleg. Rhan o astudio anthropoleg yw mynd allan i’r byd i weld beth mae pobl wir yn ei wneud.
100%
Roedd 100% o fyfyrwyr Anthropoleg Y Drindod Dewi Sant yn fodlon ar eu cwrs – Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2018.
Mae Anthropoleg yma’n unigryw. Yma, cewch fe gewch chi ddarlithoedd, ond rydych chi hefyd yn cymryd mwy o ran. Mae elfennau ymarferol cryf yn perthyn i ddysgu yma, rydych yn dysgu drwy gerdded, adeiladu, archwilio’r byd o’n cwmpas.
Deanna Inkson
Myfyriwr anthropoleg
298 298
Anthropoleg
Rydym ni’n credu, trwy brofi sefyllfaoedd newydd ac arferion diwylliannol, cynigir amrywiaeth eang o ddealltwriaeth i fyfyrwyr na all profiad darlithfa ei roi. Dyma pam rydym yn annog ein myfyrwyr i geisio cael cymaint o ddysgu drwy brofiad â phosibl yn ystod eu hamser gyda ni.
Caiff ein modylau eu dylunio’n ofalus i adeiladu ar ei gilydd i lunio pecyn cydlynol sy’n rhoi i chi’r sgiliau i fod yn weithiwr maes cymwys ac yn ymchwilydd effeithiol – unigolyn sy’n gallu cyfrannu’n bendant at wneud gwahaniaeth yn ein byd sy’n newid mor gyflym.
Mae ein graddau’n defnyddio syniadau damcaniaethol o’r radd flaenaf i archwilio i brofiadau byw a cheisio datrysiadau sy’n sensitif yn foesol a diwylliannol i faterion o bwys byd-eang, fel: trafod nodweddion cynaliadwy; newid yn yr hinsawdd; cyfiawnder cymdeithasol; angyhydraddoldeb rhyw; dynameg grym; globaleiddio; grymoedd marchnad; ymgysylltu â’r amgylchedd; cynhyrchu bwyd; ac, effaith technolegau digidol ar nodweddion dynol.
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • • •
Bob blwyddyn, caiff darlithwyr anthropoleg eu cydnabod yn rhyngwladol am eu dulliau addysgu arloesol, cynnwys cwrs gwreiddiol a dulliau asesu sy’n torri tir newydd. Cewch eich annog i’ch ystyried chi eich hun fel ymchwilydd wedi eich mewnosod o fewn cymuned ymchwil ochr yn ochr â’r darlithwyr. Gweithio gyda sefydliadau gwirfoddol, dramor ac yn y DU.
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
299
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Cynlluniau Gradd Anthropoleg
Anthropoleg yw un o’r disgyblaethau mwyaf dynamig, sy’n newid bywydau a pheri i rywun feddwl yn y Dyniaethau.
Cod UCAS: BA 5YC6
Anogir ein myfyrwyr i fynd allan o’r ddarlithfa ac archwilio i bynciau sy’n tanio eu dychymyg drwy ‘fynd a gwneud’. Yn wir, Y Drindod Dewi Sant yw un o’r ychydig sefydliadau lle rhoddir i fyfyrwyr israddedig hyfforddiant ymarferol mewn dulliau ymchwil anthropolegol yn ogystal â’r ddamcaniaeth sy’n rhan hanfodol o unrhyw gymhwyster academaidd anthropoleg. Golyga’r pwyslais hwn ar arfer bod graddedigion Y Drindod Dewi Sant yn gadael fel ymchwilwyr annibynnol, hyderus sydd â set gynhwysfawr o sgiliau a fydd yn eu rhoi mewn sefyllfa dda i ymdopi ag amgylchedd gwaith heriol.
300
Lleoliad y Cwrs: Llambed
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS Gweler tudalen 297 am fanylion
Anthropoleg
Archaeoleg ac Anthropoleg Cod UCAS: BA LVQ4
Mae’r radd hon yn cynnig cyfuniad symbylol o ddwy ddisgyblaeth heriol a chyffrous mewn un llwybr. Gydag archaeoleg yn edrych yn ôl i’r gorffennol pell a diweddar, ac anthropoleg yn archwilio i’r presennol a rhoi sylwadau ar y dyfodol, mae’r ddau’n uno i roi safbwynt holistaidd ar y profiad dynol. Mae dewis astudio’r cynllun hwn yn cyfeirio’r myfyriwr at sail wybodaeth ehangach ac archwiliad rhyngddisgyblaethol o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn ddynol. Byddwch yn ystyried y prif ddatblygiadau hanesyddol sydd wedi trawsnewid mynegiant dynol; archwilio i arwyddocâd ffactorau amgylcheddol ar fywydau cymdeithasol dynol ar draws yr oesoedd; ymchwilio i dwf a chynnydd strwythurau cymdeithasol dynol fel: y teulu, gwleidyddiaeth, masnach a chrefydd; a dysgu am sut mae’r ‘pethau’ y mae bodau dynol yn eu hadeiladu’n ymgorffori gwerthoedd cymdeithasol ac unigol a chredoau’r gwneuthurwyr am yr hyn mae’n ei olygu i fod yn fyw.
Rydym hefyd yn cynnig graddau cyfun eraill yn y pwnc hwn. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalennau 344-349.
301
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Archaeoleg Addysgwyd archaeoleg am y tro cyntaf ar gampws Llambed yn 1968. Ers hynny, rydym wedi bod yn adeiladu ar enw da rhyngwladol sydd wedi mynd o nerth i nerth, fel a gydnabuwyd gan fframwaith asesu ymchwil cyfnodol y Llywodraeth.
Mae’r adnoddau dysgu rhagorol sydd ar gampws Llambed yn rhan annatod o'r safon uchel o addysgu. Yn fyfyriwr archaeoleg, byddwch yn cyrchu ystod o offer arolwg a gwaith maes, a meddalwedd arbenigol. Fe gewch brofiad o dechnegau labordy, gan roi’r hyn y byddwch yn ei ffeindio mewn cloddiadau drwy lens ddadansoddol arfer ac ymchwil. Yn ein labordai gwych, gallwch ddadansoddi esgyrn a phaill, ddysgu am dechnegau dendrocronoleg, a gweithio gyda samplau ac arteffactau.
Rydym yn cael y cyfle i fynd ar deithiau maes anhygoel ar draws y DU i helpu ehangu ein gwybodaeth o’r pwnc.
Victoria
Un o raddedigion y cwrs
302
Lleoliad y Cwrs: Llambed
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS Gweler tudalen 297 am fanylion
Archaeoleg
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • Cyfleusterau labordy rhagorol gyda thechnolegau ac offer o’r radd flaenaf. •
Cydweithio a gweithio ar brosiectau cloddio ochr yn ochr ag archaeolegwyr Y Drindod Dewi Sant sydd â blynyddoedd o brofiad yn y maes ac yn y dosbarth.
•
Mae campws Llambed yn gartref i Wasanaethau Archaeolegol Prifysgol Cymru (UWLAS), cyfleuster unigryw yng Nghymru, lle mae llawer o’r darlithwyr yn ymarferwyr proffesiynol sefydledig.
•
Byddwch yn gallu rhyngweithio a gweithio gyda deunyddiau o gloddiadau a chasgliadau amgueddfa trwy gydol eich gradd.
• Gallwch ymgymryd â modwl lleoliad gwaith yn eich ail flwyddyn i ehangu eich rhagolygon cyflogadwyedd. •
Bydd ein profiad gradd yn eich helpu i greu cysylltiad gyda’r CIfA (Sefydliad Archaeolegwyr Maes Siartredig), i’r rheiny sy’n dymuno ymgymryd â llwybrau mwy ymarferol cyflogaeth.
Gyrfaoedd • Archaeolegydd ar ei Liwt ei Hun • Swyddog GIS i’r Comisiwn Brenhinol ar Gofebau Hanesyddol ac Hynafol Cymru • Technegydd Archaeolegol • Dadansoddwr Data • Prif Ymchwilydd
98%
Cytunodd 98% o fyfyrwyr Hanes ac Archaeoleg Y Drindod Dewi Sant bod y staff yn dda am esbonio pethau – Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2018.
• Cynorthwyydd Amgueddfa
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
303
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Cynlluniau Gradd Archaeoleg
Byddwch yn ymgysylltu â materion damcaniaethol a moesol, fel treftadaeth a thwristiaeth, gwleidyddiaeth ddiwylliannol a newid amgylcheddol, yn ogystal â chymryd rhan mewn teithiau maes a chloddiadau drwy gydol eich gradd. Mae’r rhaglen yn cynnig i fyfyrwyr ystod eang o bynciau a materion i’w harchwilio, o Aifft yr Henfyd i faterion cadwraeth, cynrychiolaeth ac arddangos, o archaeoleg Paleoamgylcheddol i Farwolaeth a Chladdedigaeth.
Cod UCAS: BA 58YV
Archaeoleg Yr Aifft, Egeaidd a’r Dwyrain Agos
Yn fyfyriwr ar y radd hon, cewch gyfle i arbenigo yn archaeoleg Aifft yr Henfyd a Dwyrain Agos yr Henfyd, gyda ffocws arbennig ar y cyfnod o’r Oes Efydd i Oes y Rhufeiniaid, a gan gyfeirio at ystod o wahanol weddillion, safleoedd a thystiolaeth archaeolegol.
Cod UCAS: BA AE01
Mae yna bwyslais arbennig ar archwiliad ymarferol o ddiwylliant materol yr ardal, sy’n bosibl o ganlyniad i’r Casgliad Diwylliant Materol a’r Casgliad Aifft yr Henfyd, sy’n rhan o gytundeb gyda’r casgliad a gedwir gan Gastell Cyfarthfa, Merthyr Tudful.
304
Lleoliad y Cwrs: Llambed
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS Gweler tudalen 297 am fanylion
Archaeoleg
Rydym hefyd yn cynnig graddau cyfun eraill yn y pwnc hwn. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalennau 344-349.
305
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Astudiaethau Celtaidd Mae’r rhaglen dysgu o bell unigryw hon yn eich caniatáu i astudio amrywiaeth eang o fodylau ar agweddau ar hanes, llenyddiaeth a threftadaeth ddiwylliannol ryfeddol y rhanbarthau Celtaidd heb orfod gadael eich cartref.
306
Lleoliad y Cwrs: Llambed
Iaith: Cymraeg, Saesneg
Mae rhai o brif arweinwyr y byd ym maes Astudiaethau Celtaidd wedi dod at ei gilydd i gynhyrchu rhaglen arloesol newydd sy’n hyfforddi myfyrwyr mewn pynciau fel y Celtiaid cynnar, y derwyddon a chrefyddau Celtaidd, hanes cymdeithasol yr ieithoedd Celtaidd, bucheddau'r seintiau Celtaidd a chyltiau’r seintiau, llenyddiaeth a chwedlau clasurol Celtaidd, rhyddiaith a llenyddiaeth Cymraeg canol, cynrychiolaeth Llydaw a Chernyw, enwau lleoedd Cymraeg a Cheltaidd a dylanwad mytholeg Celtaidd ar ysgrifennu cyfoes. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol o’r ieithoedd Celtaidd ar gyfer y rhaglen hon, gan fod myfyrwyr yn astudio testunau wedi’u cyfieithu ac addysgir y rhaglen drwy gyfrwng y Saesneg. Fodd bynnag, gall myfyrwyr ddewis dysgu’r Gymraeg yn rhan o’r rhaglen ac mae’n bosibl i fyfyrwyr sy’n rhugl yn y Gymraeg astudio eu modylau’n llwyr drwy gyfrwng y Gymraeg.
Opsiynau Astudio: Llawn Amser, Rhan Amser – Dysgu o Bell yn Unig
Astudiaethau Celtaidd
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? •
Dal ati i weithio ac ymgymryd â’ch ymrwymiadau teuluol gan fod y radd hon yn cael ei haddysgu drwy ein platform dysgu o bell unigryw.
• Mae modylau'n cael eu haddysgu gan ysgolheigion cydnabyddus a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, sydd wedi cyhoeddi'n helaeth yn eu meysydd arbenigol.
99%
Cytunodd 99% o fyfyrwyr Astudiaethau Hanesyddol ac Athronyddol Y Drindod Dewi Sant bod staff yn dda am esbonio pethau – Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2018.
•
Byddwn yn eich tywys trwy rai o’r testunau pwysicaf a ysgrifenwyd erioed yn y Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd (mewn cyfieithiad) a’ch helpu i ddarllen yn feirniadol.
•
Dysgu ymhle i ddod o hyd i’r ffynonellau pwysicaf am y bobl Geltaidd a sut i gwestiynu’r fersiynau gwahanol o’r gorffennol sydd wedi’u cynnig gan hanesyddion, ieithyddion, arbenigwyr llên gwerin ac archaeolegwyr.
•
Bod yn greadigol a chael dealltwriaeth o fesurau caeth hen Gymraeg, mewn damcaniaeth ac ar waith, gydag un o brif awduron y Gymraeg.
•
Manteisio ar y gallu i ddysgu Cymraeg fodern o bell a mynychu ein cwrs preswyl Cymraeg dwys dewisol yng nghalon y Geredigion Gymraeg. Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/baastudiaethau-celtaidd/
Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS Gweler tudalen 297 am fanylion
Cod UCAS: CS01
307
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Astudiaethau Tsieineaidd Mewn byd sy’n globaleiddio mwy a mwy, mae bod yn sensitif yn ddiwylliannol a meddu ar ymwybyddiaeth o gymdeithasau eraill yn hanfodol yn y lleoliad proffesiynol.
Fe gewch y sgiliau hyn trwy astudio diwylliant a chymdeithas Tsieina ac fe gewch yr opsiwn o dreulio amser yn Tsieina a phrofi bywyd mewn gwlad wahanol. Ar wahân i hyn, mae rhaglenni Astudiaethau Tsieineaidd yn ceisio rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth gynhwysfawr o ddiwylliant Tsieineaidd o ystod eang o safbwyntiau a disgyblaethau. Gan adeiladu ar sylfaen ieithyddol cadarn mewn Tsieinëeg fodern a chlasurol, mae Astudiaethau Tsieineaidd yn ffocysu ar astudio hanes, Athroniaeth, crefyddau, ffilm a llenyddiaeth Tsieina, gan archwilio i sut mae Tsieina wedi esblygu i fod y wlad y mae hi heddiw. Fe gewch hyfforddiant ieithyddol, yn ogystal â sgiliau dadansoddol a rhyngddiwylliannol, sydd eu hagen i weithredu’n effeithiol mewn amgylchedd Tsieinëeg ei iaith neu i ymgysylltu ag addysgu ac ymchwil sy’n gysylltiedig â Tsieina. Gallwch astudio’r BA Astudiaethau Tsieineaidd fel rhaglen radd tair neu bedair blynedd. Fel rhan o’r rhaglen radd pedair blynedd cewch gyfle i dreulio eich ail flwyddyn mewn prifysgol yn Tsieina, gan ddatblygu eich sgiliau ieithyddol ymhellach yn ogystal ag ehangu eich ymwybyddiaeth ddiwylliannol a’ch dealltwriaeth o ddiwylliant a chymdeithas Tsieineaidd.
308
Lleoliad y Cwrs: Llambed
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS Gweler tudalen 297 am fanylion
Astudiaethau Tsieineaidd
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • Diolch i faint bach dosbarthiadau, fe gewch addysg a chymorth un i un rhagorol. •
Trochwch eich hunan mewn ystod eang o fodylau rhyngddisgyblaethol, o hanes Tsieina, i grefyddau ac athroniaethau Tsieineeg.
• Cynigir cymorth llawn wrth drefnu ac ymweld â Tsieina fel rhan o’r rhaglen radd. •
Rydym hefyd yn cynnig graddau cyfun eraill yn y pwnc hwn. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalennau 344-349.
Mae gwaith gwirfoddol ar gael mewn ysgolion lleol i gynorthwyo gydag Athrofa Confucius, wedi’i gydlynu gan Y Drindod Dewi Sant, lle gall bobl ifanc mewn ysgolion ddysgu am ddiwylliant Tsieinëeg.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr a chanddynt, ac nac oes ganddynt, wybodaeth flaenorol o'r iaith Fandarin.
Cod UCAS: 5DN2
309
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Athroniaeth Os yw eich diddordebau’n ymestyn i fywyd, y brifysgol a phopeth, os oes arnoch eisiau datblygu cyfres gyfoethog o sgiliau sy’n cyfoethogi bywyd a’r grym i ddylanwadu ar newid positif, yna bydd ein gradd Athroniaeth yn gweddu i chi i’r dim.
Mae yna gymarebau myfyriwr i staff anhygoel ac ystod o ddarlithwyr arbenigol, sy’n gweithio gyda chi i ddatblygu eich diddordebau personol.
Tom
Un o raddedigion BA Athroniaeth
310
Lleoliad y Cwrs: Llambed
Iaith: Saesneg
Byddwch yn chwilfrydig, creadigol ac yn gofyn y cwestiynau ‘mawr’: Pwy ydym ni? Beth yw ein lle yn y byd? Sut y dylem ni fyw? Beth yw realiti? Byddwch yn archwilio i’r cwestiynau hyn drwy drafod o fewn seminarau bach lle caiff cydweithio a syniadau eu rhannu gan academyddion a myfyrwyr. Mae’r tîm Athroniaeth presennol yn darparu cydbwysedd cyfoethog rhwng y gwahanol draddodiadau, arddulliau a phynciau Athroniaeth. Byddwch yn archwilio arddulliau dadansoddol a thramor athroniaeth, yn ogystal ag astudio moeseg, athroniaeth wleidyddol, ac athroniaeth y Dwyrain. Mae’r tîm Athroniaeth yn enwog am ddarparu amgylchedd croesawgar, symbylol a chyfoethog yn gymdeithasol ar gyfer ei fyfyrwyr. Mae maint y dosbarthiadau’n sicrhau bod pob myfyriwr yn elwa o lawer o sylw personol, a’u hannog i gymryd rhan weithredol yn eu dysg. Golyga’r cydweithredu hwn bod yna awyrgylch cyfeillgar, agored a hamddenol, lle caiff syniadau eu rhannu’n agored rhwng myfyrwyr a darlithwyr, sy’n gwbl amhosibl mewn prifysgolion mwy. Diolch i ymrwymiad y darlithwyr a thiwtoriaid athroniaeth, cewch brofiad addysgu a dysgu rhagorol a fydd yn eich paratoi at fyd gwaith.
100%
Cytunodd 100% o fyfyrwyr Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol Y Drindod Dewi Sant bod staff yn dda yn esbonio pethau. Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2018.
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS Gweler tudalen 297 am fanylion
Athroniaeth
Mae Y Drindod Dewi Sant yn yr 20 orau yn y DU am foddhad myfyrwyr mewn Athroniaeth. Complete University Guide 2017
100% Cytunodd 100% o fyfyrwyr Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol Y Drindod Dewi Sant bod staff wedi gwneud y pwnc yn ddiddorol - Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2018.
Rydym hefyd yn cynnig graddau cyfun yn y pwnc hwn. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalennau 344-349.
Cod UCAS: V502
311
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Celfyddydau Breiniol a Rhaglenni Gradd Hyblyg Mae ein BA Celfyddydau Breiniol arloesol yn rhoi’r dewis a'r annibyniaeth ichi astudio pynciau’r Dyniaethau sy’n gweddu orau i'ch diddordebau a’ch uchelgeisiau.
Rydym yn ymfalchïo yn hyblygrwydd ein rhaglen ni, lle mae gan bob myfyriwr y rhyddid i siapio eu rhaglen radd o gwmpas eu diddordebau unigol. Mae gennym ystod o opsiynau prif bwnc, anrhydedd cyfun ac is-bwnc, ond os ydych yn dal i fod yn ansicr gallwch gofrestru ar ein gradd BA Celfyddydau Breiniol arloesol sy’n eich caniatáu i gymryd modylau o ystod o ddisgyblaethau cyn arbenigo. Efallai fod gennych ddiddordeb mewn dau bwnc, cyfuniad o bynciau, neu efallai fod yn well gennych ymagwedd fwy thematig at eich astudiaethau. BA Celfyddydau Breiniol yw’r radd berffaith i archwilio i ystod o bynciau'r Dyniaethau a fydd yn ymestyn eich gorwelion wrth hefyd ffocysu eich astudiaethau ar faes sydd wir o ddiddordeb i chi. Mae’r cyfle i astudio ystod o bynciau’r Dyniaethau o dan un rhaglen radd yn brin yn y DU, ond eto mae’n gyfle eithriadol i fyfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o gymdeithasau a chymunedau, yn y gorffennol a’r presennol. Yn ei dro, bydd y mewnwelediad hwn yn datblygu eich sgiliau dadansoddi a gwerthuso, lle byddwch yn ystyried ac yn ymdrin â ffyrdd y gallwn gael effaith bositif ar ein dyfodol, boed hynny drwy lens athronyddol, gwleidyddol, anthropolegol, archaeolegol neu hanesyddol.
312
Lleoliad y Cwrs: Llambed
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS Gweler tudalen 297 am fanylion
Celfyddydau Breiniol
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? Ar wahân i ehangu eich astudiaethau, gallwch hefyd arbenigo mewn un maes penodol, sy’n gallu bod yn werthfawr iawn os ydych yn ystyried gyrfa mewn sector penodol. Er enghraifft, os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda phlant yn y sector addysg, gallwch ddewis gwneud modylau mewn Astudiaethau Addysg, ochr yn ochr â modylau mewn nifer o wahanol bynciau eraill y Dyniaethau. Neu, efallai bod gennych ddiddordeb ym materion y byd ac yn ystyried gyrfa yn y sector elusennol, ond mae gennych hefyd gariad at y clasuron; drwy astudio BA Y Dyniaethau gallwch astudio nifer o fodylau yn y Clasuron, gan hefyd ennill gwybodaeth a sgiliau perthnasol am y sector elusengar drwy fodylau Datblygiad Rhyngwladol, Moeseg a Dyngarwch a’r Gyfraith. Yn y pen draw, eich gradd chi yw BA Celfyddydau Breiniol y gallwch ei mowldio fel ei bod yn gweddu i chi.
Cod UCAS: HU01
Tystysgrif Addysg Uwch Tyst AU Porth i'r Dyniaethau
313
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Y Clasuron Byddwch yn rhan o gymuned gref yn adran y Clasuron a rhannu eich cariad at y pwnc gyda myfyrwyr ac academyddion o’r un meddylfryd.
Fel myfyriwr Y Clasuron neu Wareiddiadau Clasurol, byddwch yn archwilio mytholeg Roegaidd a Rhufeinig, llenyddiaeth a diwylliant yr hen fyd, o arwyr epig mawrion Homer i fywyd bob dydd pobl gyffredin. Gyda chyfres eang o fodylau o blith y ffefrynnau ym myd llenyddiaeth dros dri mileniwm; o Homer, Vergil, Aristophanes ac Euripides, i drysorau llai adnabyddus fel Statius, Ovid, Martial ac Apollonius, mae ein graddau Astudiaethau Clasurol yn rhoi cyfle i chi ddarganfod rhyfeddodau hen lenyddiaeth a dysgu sut mae wedi llywio ein dealltwriaeth o’r hen fyd. Byddwch yn elwa o ddosbarthiadau bach eu maint, lle gallwch gyfrannu at ac ymgysylltu’n llawn gyda’ch cyd-fyfyrwyr ac academyddion, gan gyfoethogi eich profiad academaidd ac fel myfyriwr. Bydd ein gradd Clasuron yn rhoi’r cyfle i chi astudio ieithoedd Groeg a Lladin, naill ai o lefel dechreuwr neu o’ch lefel wybodaeth bresennol, ochr yn ochr â’ch astudiaeth o gymdeithas a diwylliant.
314
Y Clasuron
Pam dewis Y Drindad Dewi Sant? •
Dysgu gan arbenigwyr ym maes Astudiaethau Gwareiddiad Clasurol o fewn amgylchedd cyfeillgar.
•
Polisi drws agored lle mae staff ar gael i ddarparu adborth ar aseiniadau, cynorthwyo gyda strwythur traethodau, a’ch cefnogi gyda’ch anghenion ymchwil.
• Cyfle i arbenigo mewn maes o’ch dewis mewn mytholeg neu lenyddiaeth hynafol. • Cymryd rhan mewn teithiau maes lleol a rhyngwladol. • Elwa o ddosbarthiadau bach eu maint lle gallwch gydweithio gyda darlithwyr a chyd-fyfyrwyr. • Dechrau, neu barhau, gyda’ch astudiaeth o Roeg neu Ladin hynafol.
100%
Mae 100% o fyfyrwyr Astudiaethau Clasurol yn cytuno bod staff yn dda wrth esbonio pethau - Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2018.
Mae’r dosbarthiadau bach yn caniatáu mwy o ryngweithio gyda darlithwyr a myfyrwyr eraill. Mae’r darlithwyr i gyd yn gyfeillgar a hawdd siarad gyda nhw. Mae faint o amser un i un a gewch chi gyda nhw gymaint yn fwy na mewn sefydliadau eraill.
Lewis
Un o raddedigion y cwrs
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
315
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Cynlluniau Gradd Gwareiddiadau Clasurol
Gan ddechrau yn y flwyddyn gyntaf gyda mytholeg hynafol a’i dylanwad ar y byd hynafol a’r byd modern, mae gradd Gwareiddiadau Hynafol yn cwmpasu pynciau o grefydd a hud i ferched a’r teulu yn y byd Groegaidd-Rufeinig. Mewn darlithoedd, gweithdai a seminarau, cewch eich addysgu gan arbenigwyr yn y maes, gan archwilio i amrywiaeth o bynciau fel sut roedd y Rhufeiniaid yn mynegi cariad a chwant i hoff ryseitiau pobl hynafol.
Cod UCAS: BA Q820
Y Clasuron
Mae’r BA Clasuron yn radd iaith yn ei hanfod ac mae’n berffaith i’r rheiny sy’n dymuno dysgu Lladin a Groeg, neu barhau â’u hastudiaethau o ieithoedd y byd hynafol. Drwy gael sylfaen ieithyddol mewn Lladin neu Roeg fe gewch gyfle i weithio i lefel uwch gyda thestunau hynafol.
Cod UCAS: BA U378
316
Lleoliad y Cwrs: Llambed
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS Gweler tudalen 297 am fanylion
Astudiaethau Clasurol
Rydym hefyd yn cynnig graddau cyfun eraill yn y pwnc hwn. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalennau 344-349.
317
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Crefydd a Diwinyddiaeth Mae Crefydd a Diwinyddiaeth wedi bod yn rhan annatod o hanes y Brifysgol ers 1822. Er ei bod wedi’i gwreiddio mewn ardal sy’n gyfoeth o dreftadaeth grefyddol, rydym yn darparu rhaglenni sydd yn trafod pob math o grefyddau yn ogystal ag amrywiaeth crefyddol yr 21ain ganrif.
100% Cytunodd 100% o fyfyrwyr Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol YDDS bod staff wedi gwneud y pwnc yn ddiddorol Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2018.
318
Mae'r cyrsiau Crefydd a Diwinyddiaeth yn edrych ar bob math o draddodiadau crefyddol, y dylanwadau dynamig sy’n siapio credo ac arfer crefyddol cyfoes, effaith safbwyntiau penodol o’r byd ar fywyd y byd, a’r cwestiynau sylfaenol iawn sydd wedi trwblu bodau dynol ers dechrau amser: O ble ydym yn dod? Pam ydym ni yma? I ble ydym ni’n mynd? Rydym yn cyflwyno myfyrwyr i wahanol ddulliau beirniadol a dadansoddol wrth drafod ystod eang o gredoau crefyddol, arferion a safbwyntiau o’r byd mewn ffordd deg, cywir, cynhwysol ac yn barod i gael ei gywiro. Rydym yn pwysleisio pwysigrwydd deall yr hanes tu ôl i ddatblygiadau’r oes sydd ohoni, gan archwilio eu cefndiroedd testunol, hanesyddol a sosio-wleidyddol er mwyn gallu rhoi datblygiadau cyfoes mewn cyd-destun priodol. Gyda hyn mewn golwg, rydym yn ceisio galluogi i fyfyrwyr i feddwl am y materion a dadleuon hyn mewn ffordd wybodus a rhesymegol, a llunio safbwyntiau ar y pynciau hyn mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu eu hymrwymiad at ysgolheictod ar grefydd.
Crefydd a Diwinyddiaeth
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant?
Rwy’n caru fy nghwrs oherwydd ei fod yr union beth roeddwn yn chwilio amdano ac mae’r darlithwyr yn bodloni anghenion academaidd unigol.
Georgie
Myfyriwr Astudiaethau Crefyddol
•
Byddwch yn cydweithio gyda ac yn cael eich dysgu gan arbenigwyr sydd ar reng flaen ymchwil a dadleuon o’r radd flaenaf. Mae diddordebau ymchwil yn cynnwys y berthynas rhwng Iddewiaeth a Christnogaeth, a’r berthynas rhwng Islam, Mwslimiaid a’r rhyngrwyd.
•
Cymryd rhan yn y daith astudio flynyddol dramor. Ymhlith y cyrchfannau blaenorol mae Jerwsalem, Cairo, Efrog Newydd a Berlin.
•
Mae ein modylau’n cyffwrdd ar lawer o’r ‘pynciau llosg’ sydd wrth galon dadlau ac ymryson gwleidyddol a chrefyddol yr oes sydd ohoni.
•
Rhoddir pwyslais ar empathi, parch, meddwl agored a sensitifrwydd ac fe’u hanogir yn weithredol gan hefyd sicrhau eich bod yn dadansoddi, beirniadu ac adfyfyrio trwy gydol eich astudiaethau.
•
Bod yn rhan o gymuned gref o fyfyrwyr a darlithwyr, lle caiff syniadau a barnau eu rhannu a’u lleisio, i helpu ei gilydd i ddatblygu’n academaidd ac yn bersonol.
•
Mae yna draddodiad hir o ragoriaeth mewn addysgu yn ogystal ag enw da mewn ysgolheictod, ymchwil a chyhoeddi.
• Cyfle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Am wybodaeth fanylach, ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/ba-astudiaethau-crefyddol
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
319
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Rhaglenni gradd Astudiaethau Crefyddol
(Cyfrwng Cymraeg) Cod UCAS: BA L351
Mae’r cwrs yn rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio arferion a chredoau crefyddau’r byd yn ogystal â thraddodiadau crefyddol eraill. Cyflwynir gwahanol ddulliau o astudio crefydd, gan gynnwys cymdeithaseg, anthropoleg a seicoleg, a rhoddir sylw penodol i le crefydd yn y byd cyfoes. Cewch y cyfle i ymweld ag addoldai lleol a chenedlaethol, i ymgymryd â theithiau tramor i ganolfannau o bwys crefyddol, ac i feithrin adnabyddiaeth ymarferol, bersonol o ddiwylliannau a chrefyddau eraill.
Mae'r cwrs yma yn gymwys am Brif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Astudiaethau Crefyddol
(Cyfrwng Saesneg) Cod UCAS: BA 9F4R
320
Lleoliad y Cwrs: Llambed
Mae’r radd yn ffocysu’n bennaf ar grefydd yn y byd cyfoes, gan gydnabod arwyddocâd crefydd wrth siapio hanes. Mae’r rhaglen yn edrych ar grefyddau penodol, gan amlygu gwahanol themâu y mae crefydd yn dylanwadu arnynt neu’n chwarae rhan ynddynt. Caiff crefyddau’r byd eu harchwilio ar ffurf crefyddau Abrahamaidd a thraddodiadau Asiaidd yn ogystal â chrefyddau brodorol, gyda ffocws arbennig ar Dde America, yn ogystal â’r mudiadau crefyddol ac ysbrydolrwydd amgen a ddaeth yn arwyddocaol yn y Gorllewin o ganol yr 20fed ganrif ymlaen.
Iaith: Cymraeg, Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Crefydd a Diwinyddiaeth
Diwinyddiaeth Cod UCAS: BA THE1
100%
Wrth astudio Diwinyddiaeth, bydd myfyrwyr yn gallu archwilio prif gwestiynau bywyd o safbwynt traddodiadau Iddewig-Gristnogol. Mae’r rhaglen hon yn galluogi i fyfyrwyr archwilio ysgrifau sanctaidd Iddewiaeth a Christnogaeth, yn ogystal â dysgeidiaethau, arferion ac effaith gymdeithasol Cristnogaeth o safbwyntiau hanesyddol a chyfoes. Bydd myfyrwyr yn elwa o arbenigedd staff mewn astudiaethau Beiblaidd, hanes eglwysig, diwinyddiaeth systematig, a chrefydd yn y byd modern.
Cytunodd 100% o fyfyrwyr Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol Y Drindod Dewi Sant bod staff wedi gwneud y pwnc yn ddiddorol - Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2018.
Rydym hefyd yn cynnig graddau cyfun yn y pwnc hwn. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalennau 344-349.
Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS Gweler tudalen 297 am fanylion
Am wybodaeth fanylach, ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/ba-astudiaethau-crefyddol
321
s Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Datblygiad Rhyngwladol
Dyngarwch a’r Gyfraith Rydym yn chwilio am fyfyrwyr rhagweithiol a chanddynt ddiddordeb brwd ym materion y byd ac sydd eisiau gwneud gwahaniaeth positif i'r byd ar raddfa leol, genedlaethol a rhyngwladol. Mae’r rhaglen radd hon yn rhoi i bob myfyriwr ddealltwriaeth, gwybodaeth ac, yn hanfodol, sgiliau cynhwysfawr sydd eu hangen i wynebu heriau bydeang yr 21ain ganrif. Drwy ddysgu a chydweithio gydag arbenigwyr ar ddatblygiad rhyngwladol, dyngarwch a'r gyfraith,
322
Lleoliad y Cwrs: Llambed
Iaith: Saesneg
nod y rhaglen hon yw darparu gwybodaeth a sgiliau cynhwysfawr sy'n berthnasol i heriau mor amrywiol â thlodi, dyled y Trydydd Byd, globaleiddio, gwrthdaro, trychineb naturiol ac ansefydlogrwydd gwleidyddol. Gan ddefnyddio gwybodaeth, profiad a sgiliau o weithrediadau maes yn y sector, bydd y rhaglen hon yn rhoi i’r rheiny sy’n dymuno gweithio mewn cyrff anllywodraethol, amgylcheddau diplomataidd, llywodraethol ac amlgyfrwng, yn ogystal â’r sector datblygiad rhyngwladol ehangach, y sgiliau y bydd arnynt eu hangen. Caiff cyflogadwyedd a sgiliau myfyrwyr eu cyfoethogi ymhellach gan y cyfle i ymgymryd â phrofiad gwaith ‘yn y maes’ gydag asiantaethau perthnasol dramor ac yn y DU. Diolch i’r foeseg gymunedol gref sydd ar gampws Llambed, cewch hefyd gyfle i gyfrannu at, a chreu, digwyddiadau a gweithgareddau yng nghymuned Llambed, gan gyfoethogi’r gymuned myfyrwyr lleol a’ch dysgu eich hun.
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Datblygiad Rhyngwladol
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • Byddwch yn dysgu a chydweithio gyda gweithwyr proffesiynol sydd i gyd wedi gweithio yn y sector datblygiad rhyngwladol ac yn gallu darparu toreth o wybodaeth. • Cyfle unigryw i ymgymryd â lleoliad gwaith o fewn asiantaethau perthnasol. Er enghraifft, gall myfyrwyr ddewis gweithio gyda’r elusen ‘Streets Ahead’ sy’n rhedeg canolfannau ar gyfer plant y stryd yn Rwanda.
Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS Gweler tudalen 297 am fanylion
Cod UCAS y BA: IDG1
323
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Gwareiddiadau Hynafol O’r Aifft i Tsieina, o’r Dwyrain Agos Hynafol i Mesoamerica, o Roeg a Rhufain i’r gwareiddiadau Celtaidd, mae’r BA Gwareiddiadau Hynafol cymharol yn eich galluogi i adeiladu sylfaen gadarn mewn gwareiddiadau o bob cwr o’r byd ar draws nifer o filenia.
324
Lleoliad y Cwrs: Llambed
Iaith: Saesneg
Cymerir y cwestiwn “Beth sy’n ein gwneud ni’n ddynol?” y tu hwnt i wareiddiadau modern yr edrychir arnynt fel arfer mewn anthropoleg, ac mae’n rhoi ichi’r wybodaeth gefndir sydd ei hangen ar wareiddiadau hynafol yn ogystal â chyseiniant parhaol a deall pwysigrwydd hyn ar gyfer cymdeithas gyfoes. Mae natur ryngddisgyblaethol a chymharol y cwrs hwn yn rhoi i chi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ddilyn gyrfa eich dewis, boed yn amgueddfeydd, sefydliadau treftadaeth eraill, addysgu neu weithgaredd ymgynghorol yn niwydiannau’r trydydd sector a sefydliad dielw. Yn ogystal ag archwilio i’r hyn sy’n ein gwneud/wedi ein gwneud ni’n ddynol o’r oes gynhanes i heddiw, byddwch yn dewis gwareiddiad i astudio ffenomen ddynol benodol yn fanylach. Yn ystod y cwrs, byddwch yn gallu gweithio’n ymarferol, rhoi damcaniaeth ar waith, cymryd rhan mewn nifer o brosiectau ymchwil israddedig a phrosiectau allgymorth gydag amgueddfeydd ac ysgolion lleol, yn allgyrsiol a rhyngyrsiol.
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gwareiddiadau Hynafol
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? Dewis y cwrs yma yw’r peth gorau a wnes i erioed. Mae e wedi fy ngalluogi i ymestyn ffiniau fy ngwybodaeth a darganfod pethau newydd a gwych. Nid wyf erioed wedi cael fy nghyfyngu o ran beth y cefais ei archwilio ac yn aml caf fy annog i feddwl y tu allan i’r bocs.
Megan
Un o raddedigion y cwrs
• Fel arfer, cynhelir yr addysgu mewn grwpiau bach sy’n caniatáu rhyngweithio, trafod a chymorth agos gan diwtoriaid. • Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn darganfod yr amrywiaeth o gymdeithasau hynafol trwy eu harchaeoleg, testunau, hanesion a mytholeg mewn cyfres o fodylau rhagarweiniol. Bydd teithiau amgueddfa, gweithdai ymarferol a phrosiectau ymchwil yn eich caniatáu i ymchwilio i’r diwylliannau hyn yn uniongyrchol. • Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, byddwch yn dyfnhau eich gwybodaeth o’r gwareiddiadau hyn. • Byddwch yn ymchwilio i sut y caiff y gorffennol ei gipio, dehongli a chyfleu trwy ymweld ag amgueddfeydd ac archwilio gwahanol astudiaethau achos a grwpiau gwrthrych, neu ddadansoddi ffilm, arddangosfeydd a chyfryngau eraill. • Daw’r radd i’w hanterth gyda thraethawd hir prosiect annibynnol, lle mae myfyrwyr yn rhydd i ddilyn pwnc o’u dewis, a’r pwnc arbennig yn seiliedig ar arbenigedd ymchwil a chyhoeddi’r tiwtor ei hun. Gyrfaoedd: Sector Treftadaeth, Amgueddfeydd, Allgyrraedd, Addysgu, Addysg Athrawon, Ymchwilydd, Sector Cyhoeddi.
Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS Gweler tudalen 297 am fanylion
Cod UCAS BA: V901
325
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Gwleidyddiaeth ac Economeg Bydd ein llwybrau gradd yn rhoi i fyfyrwyr y wybodaeth, dealltwriaeth, mewnwelediadau a sgiliau priodol sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r heriau hyn, pa bynnag lwybrau gyrfa y bydd graddedigion yn dymuno eu dilyn.
Mae ein rhaglenni Gwleidyddiaeth ac Economeg yn cynnig astudiaeth gynhwysfawr o wleidyddiaeth byd go iawn ac economeg drwy lygaid gwyddonwyr cymdeithasol. Mae’r tîm Gwleidyddiaeth ac Economeg yn cydbwyso damcaniaeth ac arfer i ddarparu modylau diddorol a chymhwysol iawn, ond sydd hefyd yn eich symbylu’n ddeallusol. Mae maint y dosbarthiadau, a’r sylw personol a gewch, yn sicrhau bod pob myfyriwr yn cael ei annog i gymryd rhan weithredol yn eu dysgu. Hefyd, mae’r modylau’n pwysleisio ac annog meddwl rhyngddisgyblaethol er mwyn amlygu sut y gall cwestiynau cysylltiedig â gwleidyddiaeth, economeg, athroniaeth, ac ecoleg orgyffwrdd yn aml yn y byd go iawn. Gyrfaoedd Mae’r sgiliau a addysgir gan ein darlithwyr yn helpu graddedigion i ddilyn gyrfaoedd mewn gwleidyddiaeth, busnes, gwasanaeth sifil, swyddfa dramor, cyfryngau, a sefydliadau anllywodraethol.
326
Lleoliad y Cwrs: Llambed
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gwleidyddiaeth ac Economeg
Cynlluniau Gradd
Astudiaethau Moesol a Gwleidyddol Cod UCAS: BA D429
Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg Cod UCAS: BA 124S
Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS Gweler tudalen 297 am fanylion
Mae’r rhaglen radd hon yn tynnu ar fethodolegau anthropolegol, athroniaethol, hanesyddol a gwleidyddol i archwilio ystod eang o ystyriaethau moesegol a gwleidyddol. Mae’r rhain yn cynnwys newid yn yr hinsawdd, moeseg rhyfel, natur a moeseg protest wleidyddol, tlodi, hawliau anifeiliaid, moeseg feddygol, natur perthnasoedd cymdeithasol a natur a maint ein goblygiadau i eraill.
Bydd y radd hon yn rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth sylfaenol o’r ffordd y mae cymdeithasau a’r byd yn gweithio, drwy dair disgyblaeth athroniaeth, gwleidyddiaeth ac economeg. Bydd strwythurau gwleidyddol y DU ac Ewrop yn cael eu harchwilio, ochr yn ochr â fframweithiau cymdeithasol ac athronyddol cysylltiedig.
327
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Hanes Diben y rhaglenni gradd Hanes yw rhannu cariad at hanes a’i berthnasedd mewn cymdeithasau a diwylliannau’r oes sydd ohoni.
Nes i mi ddod i Lambed, nid oeddwn erioed wedi cael cymaint o gymorth gyda fy addysg. Mae’r darlithwyr wedi fy nghefnogi mewn amrywiaeth o ffyrdd ac rwyf wedi dysgu sut i fynd ati i weithio pan fyddaf dan bwysau.
Sean
Un o Raddedigion y Cwrs
328
Mae myfyrwyr yn cydweithio â’u darlithwyr sy’n arbenigwyr yn eu maes astudio mewn meysydd sy’n cynnwys hanes mynachaidd canoloesol, Hanes Ymerodraeth Prydain, a hanes trefol modern. Mae’r dulliau addysgu wedi’u cynllunio i symbylu diddordeb, darparu amrywiaeth, a hybu chwilfrydedd academaidd. Cewch eich addysgu mewn grwpiau bach trwy amrywiaeth o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai a theithiau maes. Mae maint y dosbarthiadau yn sicrhau bod pob myfyriwr yn elwa o lawer iawn o sylw personol, ac fe’u hanogir i gymryd rhan weithredol yn eu dysgu. Golyga’r cydweithio hwn bod yna awyrgylch cyfeillgar, agored a hamddenol, lle gellir rhannu syniadau’n agored rhwng y myfyriwr a’r darlithydd nad yw’n bosibl mewn prifysgolion mwy. Gallwn ddarparu’r cymorth, yr amser a’r sylw sydd eu hangen arnoch a mireinio eich sgiliau academaidd, p’un a hoffech drafod strwythuro traethodau, datblygu dadleuon, neu dechnegau ysgrifennu. Byddwch hefyd yn cael adborth personol ar eich aseiniadau.
100%
Cytunodd 100% o fyfyrwyr Hanes Y Drindod Dewi Sant eu bod yn fodlon gyda’u cwrs Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2018.
Hanes
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? •
Cewch y cyfle i gymryd rhan mewn, a rhedeg, cynhadledd a arweinir gan fyfyrwyr bob blwyddyn yng Ngregynog ar y cyd ag adrannau hanes prifysgolion eraill yng Nghymru.
•
Mae yna opsiwn i astudio dramor i fyfyrwyr hanes am flwyddyn neu semester. Gallwch ddewis o blith nifer o brifysgolion yn y DU, Canada, Tsieina, ac ar draws Ewrop.
•
Ymgymryd â lleoliad gwaith yn eich ail flwyddyn. Gall opsiynau gynnwys gweithio yn yr amgueddfa leol, Llyfrgell ac Archif Roderic Bowen, Llyfrgell Genedlaethol Cymru neu mewn ysgol leol.
•
Byddwch yn elwa o’r cyfle unigryw i weithio yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen ar gampws Llambed. Gan gynnwys casgliadau arbennig o ryw 30,000 o gyfrolau a argraffwyd rhwng 1470 a 1850, mae’r archifau’n adnodd eithriadol i fyfyrwyr eu defnyddio yn ystod eu hastudiaethau.
Rydym hefyd yn cynnig graddau cyfun yn y pwnc hwn. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalennau 344-349.
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
329
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Rhaglenni gradd Hanes
Mae Hanes yn cynnig i fyfyrwyr ystod helaeth o fodylau. Byddwch yn ystyried sut y mae cymdeithasau’n altro ac yn newid yn yr hir dymor, yn ogystal â ffocysu ar ddigwyddiadau ac enydau o newid arloesol. Mae archifau, astudiaethau achos hanesyddol a theithiau maes yn agweddau hanfodol ar yr addysgu a’r dysgu ar y rhaglen BA Hanes.
Cod UCAS: BA N2B1
Astudiaethau Canoloesol
Ni yw un o ddau sefydliad yn unig sy'n cynnig y radd hon ar lefel israddedig. Mae’n radd ryngddisgyblaethol sy’n tynnu ar Hanes, Saesneg, Astudiaethau Crefyddol ac Archaeoleg ac felly’n caniatáu ichi archwilio holl agweddau ar y byd canoloesol. Mae Astudiaethau Canoloesol yn parhau i fod yn un o raglenni astudio mwyaf mawreddog ac uchel ei phroffil y brifysgol, ac fe’i haddysgir gan staff academaidd sy’n cynnal ymchwil yn weithredol. Arweinir y tîm gan Yr Athro Janet Burton, hanesydd canoloesol o safon fyd-eang.
Cod UCAS: BA V130
330
Lleoliad y Cwrs: Llambed
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS Gweler tudalen 297 am fanylion
Hanes
Hanes Modern Cod UCAS: BA HU02
Gwrthdaro a Rhyfel Cod UCAS: BA 9C3R
100%
Byddwch yn archwilio i amrywiaeth o agweddau gwleidyddol, cymdeithasol, milwrol a diwylliannol ar y cyfnod modern. Mae’n cyfuno astudiaethau eang sy’n cwmpasu nifer o ganrifoedd ac ar draws gwahanol gyfandiroedd yn dyddio o’r 18fed ganrif i’r presennol. Rydym yn gwreiddio ein haddysgu mewn deunyddiau ffynhonnell dogfennol, teithiau maes, ymweliadau ag archifau a swyddfeydd cofnodion, yn ogystal â phrofiadau ymchwil y tiwtor ei hun. Mae hyn oll yn darparu rhaglen gyflawn sy’n rhoi sylfaen i fyfyrwyr ym methodoleg ac arferion gofynnol disgyblaeth hanes.
Mae’r cwrs arbenigol hwn yn cyfuno hanes, athroniaeth a moeseg rhyfel. Mae cynnwys y radd yn eang ac fe fydd yn cynnwys astudiaethau o’r byd hynafol, y canoloesol, modern cynnar a chyfnodau modern ac ar draws ystod eang o bynciau. Nid yn unig y byddwch yn astudio tacteg a strategaeth fanwl ar draws amseroedd a diwylliannau, ond hefyd effeithiau diwylliannol a chymdeithasol llesiant a sut y maent yn effeithio ar y ffordd rydym yn ystyried rhyfel yn yr oes sydd ohoni.
Cytunodd 100% o fyfyrwyr Hanes Y Drindod Dewi Sant bod y staff yn dda am esbonio pethau – Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2018.
331
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Hanes yr Henfyd Mae ein llwybr Hanes yr Henfyd yn rhoi’r cyfle i archwilio hanes gwleidyddol, milwrol a chymdeithasol y byd Groegaidd-Rufeinig ynghyd â phrif ddiwylliannau Canoldir yr henfyd.
Mae ein darlithwyr yn ymrwymo i gefnogi a chydweithio gyda’r myfyrwyr. Diolch i’r dosbarthiadau bach, byddwch yn dod i adnabod eich darlithwyr yn ôl eu henwau cyntaf ac yn elwa o’u harbenigedd a gwybodaeth yn uniongyrchol. Gyda chefnogaeth a chyngor gan eich tiwtor personol, cewch eich annog i ddilyn eich diddordebau eich hunain yn annibynnol, gan ddefnyddio’r adnoddau rhagorol sydd ar y campws i ymchwilio a datblygu eich syniadau a phrosiectau.
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? • • • •
332
Lleoliad y Cwrs: Llambed
Iaith: Saesneg
Cewch eich addysgu gan arbenigwyr yn y maes sy’n aml yn ysgrifennu erthyglau cyfnodolion a llyfrau ar wahanol bynciau. Dysgu sgiliau newydd a gwella rhai presennol trwy ystod eang o ddulliau asesu. Ymweld â safleoedd hynafol dramor ac yn y DU. Mae teithiau’r gorffennol wedi cynnwys Rhufain, Athen a Sisili. Bod yn rhan o’r gymuned gyfeillgar ac anffurfiol o fyfyrwyr ac academyddion ar gampws Llambed.
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS Gweler tudalen 297 am fanylion
Hanes yr Henfyd
Rwy'n ddyledus i'r Adran am fy natblygiad ac am ddarparu profiadau academaidd arbennig iawn.
Chantelle
Un o raddedigion y cwrs
100% Cytunodd 100% o fyfyrwyr Hanes yr Henfyd Y Drindod Dewi Sant bod y staff yn dda am esbonio pethau. Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2018
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
333
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Cynlluniau Gradd Hanes yr Henfyd
Cynlluniwyd y radd hon ar gyfer y rheiny sydd â chariad at ddiwylliannau a chymdeithasau Groeg a Rhufain yr henfyd ac a fyddai’n hoffi ymestyn eu gwybodaeth o’r henfyd ar draws hanes gwleidyddol, milwrol a chymdeithasol.
Cod UCAS: BA V110
Diolch i asesiadau amrywiol a’r gallu i gymryd rhan weithredol mewn seminarau a gweithdai, byddwch hefyd yn datblygu ac yn ymestyn eich sgiliau gwerthuso, dadansoddi, cyfathrebu ac ymchwil, gan eich paratoi at fyd gwaith.
Hanes yr Henfyd a Chanoloesol
Mae hon yn radd arbenigol sy’n rhoi ichi gipolwg i’r bydoedd hynafol a chanoloesol. Byddwch yn archwilio lleiniau eang o amser, gan ystyried sut y datblygodd cymdeithasau, yn arbennig Gorllewin Ewrop, yn y cyfnod o newid o’r byd hynafol i’r un canoloesol.
Cod UCAS: BA V115
Gwareiddiad Clasurol Cod UCAS: BA Q820
334
Lleoliad y Cwrs: Llambed
Iaith: Saesneg
Mae’r radd hon yn darparu modylau sy’n cwmpasu hanes, llenyddiaeth, mytholeg a chymdeithasau Groeg a Rhufain yr Henfyd. Mae’r modylau’n amrywio o astudio ffigyrau hanesyddol diddorol i ddramâu epig Homer ac agweddau sylfaenol ar fywyd beunyddiol.
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS Gweler tudalen 297 am fanylion
Hanes yr Henfyd
100%
100%
Roedd 100% o fyfyrwyr Gwareiddiad Clasurol Y Drindod Dewi Sant yn fodlon gyda’r addysgu ar eu cwrs – Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2018.
Cytunodd 100% o fyfyrwyr Hanes yr Henfyd Y Drindod Dewi Sant eu bod wedi gallu cysylltu â staff pan fu angen – Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2018.
Rydym hefyd yn cynnig graddau cyfun eraill yn y pwnc hwn. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalennau 344-349.
335
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Treftadaeth Gyda’ch rhagolygon cyflogadwyedd mewn golwg, mae’r rhaglenni wedi’u cynllunio ar gyfer y rheiny a chanddynt ddiddordeb yn y sector treftadaeth ac sy’n ystyried gyrfa mewn cadwraeth a threftadaeth.
Consyrn am y gorffennol yw treftadaeth, wedi’i ddychmygu a’i adeiladu gan y presennol, ond wedi'i osod o fewn gwerthfawrogiad ehangach am y dyfodol. Gall y gorffennol gynnwys amgylchoedd diriaethol tirlun, celf, adeiladu a phensaernïaeth, olion ysgrifenedig, llawysgrifau ac archifau ochr yn ochr ag agweddau mwy anniriaethol treftadaeth fel ymdeimlad o le, hunaniaeth, lle diwylliannol a chyseiniant, neu locws defod, gwyliau a chof cymdeithasol. Mae’r gorffennol fel treftadaeth yn bwnc ac arfer dadleuol, sy’n ymwneud â materion dehongli a chynrychiolaeth. Eto mae Treftadaeth hefyd yn adnodd a chynnyrch, yn ‘ddiwydiant’ sydd wedi’i ymblethu i fywyd economaidd cymuned, a’i siapio gan benderfyniadau sy’n gysylltiedig â chadwraeth. Caiff yr agweddau damcaniaethol hyn ar dreftadaeth eu hastudio ochr yn ochr â modylau ymarferol. Byddwch yn gallu manteisio ar yr amgylchedd lleol, diwylliannol a hanesyddol eithriadol o gyfoethog, gyda chestyll, cofebion, safleoedd ymwelwyr, canolfannau treftadaeth a mannau o ddiddordeb hanesyddol arbennig ym mhobman, a chael profiad o weithio gyda’r sefydliadau treftadaeth hyn yn uniongyrchol. Gwir gryfder y rhaglen yw ei ffocws ar gyflogadwyedd y myfyriwr yn y dyfodol boed hynny mewn amgueddfa, archif, safle treftadaeth, ysgol neu fel swyddog addysg.
336
Lleoliad y Cwrs: Llambed
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS Gweler tudalen 297 am fanylion
Treftadaeth
Pam Dewis Y Drindod Dewi Sant? Mae myfyrwyr yn cael profiad ymarferol o ddeunydd archif a deunydd argraffedig. Os byddwch yn dewis modylau penodol byddwch yn dysgu am gadwraeth ataliol a digideiddio deunydd.
Sarah Roberts
Archifydd yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen, Campws Llambed
• Mae’r rhaglen radd hon yn ddelfrydol ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb yn y sector treftadaeth ac sy’n ystyried gyrfa yn y maes hwn. • Mae yna elfen ymarferol i’r radd lle gallwch gymryd rhan mewn lleoliadau gwaith mewn amgueddfeydd, llyfrgelloedd a sefydliadau treftadaeth eraill. • Caiff y lleoliadau hyn i gyd eu tanategu gan ymagweddau damcaniaethol at astudiaethau treftadaeth.
Rydym hefyd yn cynnig graddau cyfun yn y pwnc hwn. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalennau 344-349.
Cod UCAS: HER1
337
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Ysgrifennu Creadigol, Saesneg, Cyhoeddi a TEFL Mae’r Adran Ysgrifennu Creadigol yn defnyddio arbenigedd a phrofiad ei hacademyddion a beirdd ac awduron cyhoeddedig.
Gyda’u cefnogaeth ac arweiniad, fe gewch ystod eang o wybodaeth sy’n cwmpasu oesau a genres, gan arddangos natur deinamig ac amrywiol llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol Saesneg. Ar reng flaen ein haddysgu mae ein hymrwymiad i sicrhau eich bod chi’n gwbl barod a chymwys i ffynnu a llwyddo yn y byd gwaith ar ôl i chi raddio, gyda modylau ymarferol eu naws sydd ar gael mewn meysydd fel archifo a threfnu cynhadledd. Byddwch yn elwa o ddosbarthiadau bach, lle gallwch gyfrannu a chymryd rhan lawn gyda chyd-fyfyrwyr ac academyddion, gan gyfoethogi eich profiad myfyriwr ac academaidd.
338
Ysgrifennu Creadigol, Saesneg, Cyhoeddi a TEFL
Ymhlith y gyrfaoedd mae graddedigion wedi mynd ymlaen iddynt y mae: • Bardd cyhoeddedig • Awdur cyhoeddedig • Swyddog gweinyddol prifysgol • Newyddiadurwr ar ei liwt ei hun • Cynhyrchydd theatr • Cartwnydd • Athro Saesneg • Athro Ysgol Uwchradd
100% Cytunodd 100% o fyfyrwyr Ysgrifennu Creadigol Y Drindod Dewi Sant bod y cwrs wedi’u herio nhw i gyflawni eu gwaith gorau – ACM 2018.
Mae dosbarthiadau’n fach ac yn teimlo’n fwy personol.
Lynne
Un o Raddedigion y Cwrs
Ar gyfer opsiynau cyrsiau gweler drosodd
339
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Cynlluniau Gradd Ysgrifennu Creadigol Cod UCAS: BA J2G5
Byddwch yn gweithio gydag awduron, beirdd ac academyddion profiadol ac enwog a fydd yn annog a meithrin eich talent, gyda’r nod o gynhyrchu gwaith cyhoeddadwy erbyn diwedd eich tair blynedd o astudiaethau. Bydd y radd Ysgrifennu Creadigol yn rhoi i chi brofiad ar draws ystod o wahanol arddulliau a genres, gan gynnwys straeon byr, sgriptiau ffilm, barddoniaeth, drama a nofelau. Gyda chyflogadwyedd mewn meddwl, byddwch yn archwilio themâu megis ysgrifennu ar gyfer y gweithle, ymchwil ac archifo, yn ogystal ag ysgrifennu darn mawr o waith.
Ysgrifennu Creadigol a Chyhoeddi Cod UCAS: BA 5RW2
Bydd cyfuno astudio Ysgrifennu Creadigol gyda Chyhoeddi yn rhoi i chi’r wybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad ymarferol o fyd cyhoeddi sy’n esblygu’n gyson. Byddwch yn astudio agweddau diwylliannol a masnachol cyhoeddi, yn ogystal â phwysigrwydd technolegau newydd. Ar wahân i hyn, fe gewch brofiad drwy fodylau ymarferol lle byddwch yn gweithio fel rhan o dîm i gynhyrchu deunydd i safon ddiwydiannol.
Rydym hefyd yn cynnig graddau cyfun yn y pwnc hwn. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalennau 344-349.
340
Lleoliad y Cwrs: Llambed
Iaith: Saesneg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS Gweler tudalen 297 am fanylion
Ysgrifennu Creadigol, Saesneg, Cyhoeddi a TEFL
Saesneg Cod UCAS: BA Q300
Saesneg a Chyhoeddi Cod UCAS: BA 329B
Mae astudio Saesneg yn Y Drindod Dewi Sant yn cyfuno traddodiad gydag arloesi. Gan fanteisio ar ein cynnwys llyfrgell unigryw, astudio llenyddiaeth y Dadeni, gan gynnwys Shakespeare, i’r presennol sydd wrth wraidd ein gradd. Byddwch yn ystyried sut y mae gwaith ysgrifenedig ac ysgrifenwyr yn dod o ac yn siapio eu cyd-destunau diwylliannol a gwleidyddol ehangach. Mewn grwpiau seminar bach cewch eich annog i leisio eich barn eich hun mewn perthynas ag amrywiaeth o ymagweddau llenyddol, beirniadol a damcaniaethol, gan gydweithio gyda myfyrwyr eraill a’r darlithwyr.
Bydd cyfuno astudiaethau Saesneg a Chyhoeddi yn rhoi i chi’r wybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad ymarferol o’r byd cyhoeddi sy’n newid yn gyson. Byddwch yn astudio agweddau diwylliannol a masnachol cyhoeddi, yn ogystal ag effaith technolegau newydd. Ar wahân i hyn, cewch brofiad drwy fodylau ymarferol lle byddwch yn gweithio fel rhan o dîm i gynhyrchu deunydd i safon ddiwydiannol.
341
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Sinoleg Mae sylwebwyr wedi hen wybod bod Tsieina yn parhau’n un o wareiddiadau hynaf y byd, a chaiff diwylliant hynafol Tsieina ei siapio a’i lywodraethu gan bwyslais ar werthoedd traddodiadol, duwioldeb mabol a choffâd cyndadol.
342
Lleoliad y Cwrs: Llambed
Iaith: Saesneg, Tsieineeg
Opsiynau Astudio: Llawn amser
Gofynion Mynediad: 96 o bwyntiau UCAS Gweler tudalen 297 am fanylion
Sinoleg
Mae’r BA newydd mewn Sinoleg yn cynnig rhaglen o astudiaethau sy’n archwilio i dreftadaeth, diwylliant, iaith a chrefyddau Tsieina hynafol, ac yn ceisio rhoi i fyfyrwyr wybodaeth gadarn a helaeth o werthoedd, syniadau a mewnwelediadau Tsieineaidd. Cyflwynir y rhaglen BA unigryw hon gan staff arbenigol yn yr Academi Sinoleg newydd. Wedi’i leoli’n bennaf ar gampws hyfryd Llambed, mae hwn yn sefydliad ar y cyd a lansiwyd drwy bartneriaeth rhwng Sefydliad Addysg Amlddiwylliannol Chin Kung a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Gan weithio drwy destunau, delweddau, gwaith dwfn a lluniau hynafol, bydd yr Academi yn tywys myfyrwyr tuag at ddealltwriaeth fwy dwfn o rai o glasuron Tsieina hynafol (Egwyddorion Llywodraethol Tsieina Hynafol, Pedair Cainc Llenyddiaeth a’r ‘Sutras’) ac ymwybyddiaeth o rai o’r syniadau a dysgeidiaethau dwfn a ddarperir gan etifeddiaethau a adawyd ar ôl y Bwda, Confucius a Laozi.
Gyrfaoedd • • • • • •
Athrawon ac addysgwyr Gwaith cyfieithu Mentrau busnes a masnachol moesegol Gwaith a phrosiectau cymunedol Ymchwilwyr academaidd Gwaith teithio a threftadaeth
Cyrsiau Tystysgrif Sylfaen mewn Sinoleg Tystysgrif Cyn-Feistr mewn Sinoleg Cyflwynir y ddau ddyfarniad yma drwy ddulliau ar-lein a chyfunol.
Cod UCAS y BA: SI01
343
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Cyrsiau Sylfaen y Dyniaethau Mae’r Flwyddyn Sylfaen Integredig a gynigir gan Gyfadran y Dyniaethau wedi’i chynllunio i’ch helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth bwncbenodol sydd eu hangen i ymgymryd â chwrs gradd ac arbenigo mewn maes penodol.
344
Lleoliad y Cwrs: Llambed
Mae’n cynnig llwybr amgen ichi i mewn i astudio gyda ni ar ein campws bendigedig yn Llambed ac mae’n addas ar eich cyfer chi os nad oedd eich graddau’n addas, neu bu i chi astudio cyfuniad o bynciau yn yr ysgol sy’n golygu nad ydych yn bodloni gofynion mynediad eich dewis gwrs. Maent hefyd yn addas ar gyfer y rheiny sy’n dychwelyd i addysg ar ôl treulio peth amser i ffwrdd. Golyga ei ystod o sgiliau astudio generig gyda modylau pwnc-benodol y gallwch fynd ymlaen yn hyderus i’ch dysgu ar Lefel 4 . Mae’n gwrs un flwyddyn, llawn amser a gymerir fel rhan o’ch gradd pedair blynedd. Byddwch yn dal i gael eich trin fel myfyriwr israddedig llawn amser sy’n golygu y byddwch yn dal i allu hawlio cymorth ariannol myfyrwyr, yn dal i fod â’r un hawl i lety a chael mynediad at ein hystod eang o gymorth myfyrwyr sy’n arbennig o ddefnyddiol i’r rheiny ag anableddau, neu anghenion cymorth emosiynol neu ymarferol. Rydych yn dal i wneud cais trwy UCAS ar gyfer rhaglen gyda’r flwyddyn sylfaen integredig.
Iaith: Cymraeg, Saesneg, Tsieineeg
Opsiynau Astudio: Llawn amser, Rhan amser
Cyrsiau Sylfaen y Dyniaethau
Y cyrsiau sydd ar gael gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig yw: BA Anthropoleg gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig BA Archaeoleg gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig BA Astudiaethau Crefyddol gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig BA Astudiaethau Tsieineaidd gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig BA Athroniaeth gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig BA Celfyddydau Breiniol gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig BA Datblygu Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth Fyd-eang gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig BA Diwinyddiaeth gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig BA Gwareiddiad Clasurol gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig BA Gwareiddiadau Hynafol gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig BA Gwrthdaro a Rhyfel gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig BA Hanes gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig BA Saesneg gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig BA Treftadaeth gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig BA Ysgrifennu Creadigol gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig
ANF0 ARF0 RST0 CHF1 PHL0 LAR0 IGF1 THE1 CLF1 ACF1 CAW0 HIF1 F1EN 3B5D CWR0
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant? Amgylchedd cefnogol i ailgysylltu ag addysg Llwybr gwych i addysg bellach i bawb Cewch eich addysgu gan academyddion o’r radd flaenaf Amgylchedd dysgu i ymgolli’ch hun ynddo Campws bendigedig Cyfleusterau rhagorol
345
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Mynegai Cyrsiau’r Dyniaethau Mae’r hyn sydd gan Y Drindod Dewi Sant i’w gynnig ym maes Y Dyniaethau yn hyblyg. Mae amrywiaeth o raglenni gradd y Dyniaethau ar gael, boed hynny ar ffurf gradd anrhydedd sengl prif bwnc/isbwnc, cydanrhydedd neu gyfun. Gallwch deilwra eich astudiaethau fel eu bod yn gweddu orau i'ch diddordebau chi o fewn y pynciau a gynigwn. Anthropoleg BA Anthropoleg BA Anthropoleg ac Astudiaethau Addysg BA Anthropoleg gyda Blwyddyn Sylfaen BA Anthropoleg a Gwareiddiadau Clasurol BA Anthropoleg a Threftadaeth BA Anthropoleg Cymhwysol BA Archaeoleg ac Anthropoleg BA Astudiaethau Tsieineaidd ac Anthropoleg BA Astudiaethau Canoloesol ac Anthropoleg BA Astudiaethau Crefyddol ac Anthropoleg BA Athroniaeth ac Anthropoleg BA Hanes ac Anthropoleg BA Saesneg ac Anthropoleg
Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddiaeth 5YC6 LX63 ANFO LQ63 ANH1 AAN1 LVQ4 TL16 MAN1 RSA1 VL56 HAN1 ANE1
58YV LVQ4 09C3 V401 ARF0 CCA1 HAR1
Astudiaethau Celtaidd BA Astudiaethau Celtaidd
346
CS01
TV16
BA Astudiaethau Crefyddol (Cymraeg)
L351
BA Astudiaethau Crefyddol (Saesneg)
9F4R
BA Astudiaethau Crefyddol ac Anthropoleg
RSA1
BA Astudiaethau Crefyddol a Threftadaeth
9C2M
BA Astudiaethau Crefyddol gydag Astudiaethau Addysg
VL64
BA Astudiaethau Crefyddol gydag Astudiaethau Islamaidd
TV66
BA Astudiaethau Crefyddol gyda Blwyddyn Sylfaen
RST0
BA Astudiaethau Crefyddol gyda Seicoleg Gymhwysol BA Astudiaethau Crefyddol gydag Athroniaeth
Archaeoleg BA Archaeoleg BA Archaeoleg ac Anthropoleg BA Archaeoleg gyda Diwylliant Aifft yr Henfyd BA Archaeoleg gydag Astudiaethau Addysg BA Archaeoleg gyda Blwyddyn Sylfaen BA Gwareiddiad Clasurol ac Archaeoleg BA Hanes ac Archaeoleg
BA Astudiaethau Tsieineaidd ac Astudiaethau Crefyddol
7C29 VV6M
BA Crefydd, Moeseg a Seicoleg Gymhwysol
BSA1
BA Crefydd, Athroniaeth a Moeseg
D2N4
BA Crefydd, Diwinyddiaeth a Moeseg
JKS2
BA Crefydd, Diwinyddiaeth ac Athroniaeth
K219
BA Diwinyddiaeth
THE1
BA Diwinyddiaeth a Gwareiddiad Clasurol
QV86
BA Diwinyddiaeth a Hanes
THH1
BA Diwinyddiaeth a Threftadaeth
3X29
BA Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol
TRS1
BA Diwinyddiaeth ac Athroniaeth
VVP5
BA Diwinyddiaeth gyda Blwyddyn Sylfaen
THE0
BA Diwinyddiaeth gydag Astudiaethau Addysg
1QR4
BA Diwinyddiaeth, Athroniaeth a Moeseg
C32B
Astudiaethau Tsieineaidd BA Astudiaethau Tsieineaidd BA Astudiaethau Tsieineaidd a Hanes BA Astudiaethau Tsieineaidd a Saesneg BA Astudiaethau Tsieineaidd a Threftadaeth BA Astudiaethau Tsieineaidd ac Anthropoleg BA Astudiaethau Tsieineaidd ac Astudiaethau Canoloesol BA Astudiaethau Tsieineaidd ac Astudiaethau Crefyddol BA Astudiaethau Tsieineaidd ac Athroniaeth BA Astudiaethau Tsieineaidd gydag Astudiaethau Addysg BA Astudiaethau Tsieineaidd gyda Blwyddyn Sylfaen
Celfyddydau Breiniol 5DN2 46N3 TQ13 CSH1 TL16 TV11 TV16 TV1M 836R CHF1
Athroniaeth BA Astudiaethau Tsieineaidd ac Athroniaeth BA Astudiaethau Crefyddol gydag Athroniaeth BA Athroniaeth BA Anthropoleg a Gwareiddiad Clasurol BA Athroniaeth a Hanes BA Athroniaeth a Saesneg BA Athroniaeth a Threftadaeth BA Athroniaeth ac Astudiaethau Canoloesol BA Athroniaeth ac Anthropoleg BA Athroniaeth gydag Astudiaethau Addysg BA Athroniaeth gyda Blwyddyn Sylfaen BA Athroniaeth gyda Seicoleg Gymhwysol BA Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg BA Crefydd, Athroniaeth a Moeseg BA Crefydd, Moeseg a Seicoleg Gymhwysol BA Crefydd, Diwinyddiaeth a Moeseg BA Crefydd, Diwinyddiaeth ac Athroniaeth BA Diwinyddiaeth ac Athroniaeth BA Diwinyddiaeth ac Athroniaeth a Moeseg BA Ysgrifennu Creadigol ac Athroniaeth
TV1M VV6M V502 VQ58 VV5C VQ53 73D7 VV5D VL56 VL54 PHL0 4H62 124S D2N4 BSA1 JKS2 K219 VVP5 C325 WV85
BA Celfyddydau Breiniol BA Celfyddydau Breiniol gyda Blwyddyn Sylfaen
HU01 LAR0
Gwareiddiadau Clasurol BA Athroniaeth a Gwareiddiad Clasurol BA Anthropoleg a Gwareiddiad Clasurol BA Astudiaethau Canoloesol a Gwareiddiad Clasurol BA Clasuron BA Diwinyddiaeth a Gwareiddiad Clasurol BA Gwareiddiad Clasurol BA Gwareiddiad Clasurol a Groeg BA Gwareiddiad Clasurol a Lladin BA Gwareiddiad Clasurol a Threftadaeth BA Gwareiddiad Clasurol ac Archaeoleg BA Gwareiddiad Clasurol ac Ysgrifennu Creadigol BA Gwareiddiad Clasurol gydag Astudiaethau Addysg BA Gwareiddiad Clasurol gyda Blwyddyn Sylfaen BA Gwareiddiad Clasurol gyda Diwylliant Aifft yr Henfyd BA Hanes yr Henfyd BA Hanes yr Henfyd a Chanoloesol BA Saesneg a Gwareiddiad Clasurol
VQ58 LQ63 MCL1 U378 QV86 Q820 K3B2 2SS8 CCH1 CCA1 CCW1 CED1 CLF1 CAC1 V110 V115 CCE1
347
Cyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio
Gwareiddiad Hynafol BA Archaeoleg gyda Diwylliant Aifft yr Henfyd BA Archaeoleg yr Aifft, Aegeaidd a’r Dwyrain Agos BA Gwareiddiad Hynafol BA Gwareiddiad Hynafol gyda Blwyddyn Sylfaen BA Gwareiddiad Clasurol gyda Diwylliant Aifft yr Henfyd
Hanes 09C3 AE01 V901 ACF1 CAC1
Gwleidyddiaeth ac Economeg BA Astudiaethau Moesegol a Gwleidyddol BA Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg BA Datblygu Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth Byd-Eang BA Datblygu Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth Byd-Eang gyda Blwyddyn Sylfaen BA Gwrthdaro a Rhyfel BA Gwrthdaro a Rhyfel gyda Blwyddyn Sylfaen BA Hanes gydag Economeg BA Hanes gyda Gwleidyddiaeth BA Hanes, Economeg a Gwleidyddiaeth
D429 124S IDG1 IGF1 9C3R CAW0 HEC1 HSP1 HEP1
Hanes BA Astudiaethau Canoloesol BA Astudiaethau Canoloesol a Gwareiddiad Clasurol BA Astudiaethau Canoloesol a Lladin BA Astudiaethau Canoloesol a Saesneg BA Astudiaethau Canoloesol a Threftadaeth BA Astudiaethau Canoloesol ac Anthropoleg BA Astudiaethau Canoloesol ac Archaeoleg BA Astudiaethau Tsieineaidd a Hanes BA Astudiaethau Tsieineaidd ac Astudiaethau Canoloesol BA Athroniaeth a Hanes BA Athroniaeth ac Astudiaethau Canoloesol BA Diwinyddiaeth a Hanes BA Hanes BA Hanes a Saesneg
348
V130 MCL1 5KA9 VQ13 MHG1 MAN1 MAC1 46N3 TV11 VV5C VV5D THH1 N2B1 QV31
BA Hanes a Threftadaeth BA Hanes ac Anthropoleg BA Hanes ac Archaeoleg BA Hanes ac Ysgrifennu Creadigol BA Hanes gydag Economeg BA Hanes gydag Astudiaethau Addysg BA Hanes gyda Blwyddyn Sylfaen BA Hanes gyda Gwleidyddiaeth BA Hanes Modern BA Hanes yr Henfyd a Chanoloesol BA Hanes yr Henfyd BA Hanes, Economeg a Gwleidyddiaeth
HHG1 HAN1 HAR1 HCW1 HEC1 HED1 HIF1 HSP1 HU02 V115 V110 HEP1
Saesneg BA Astudiaethau Canoloesol a Saesneg BA Astudiaethau Tsieineaidd a Saesneg BA Athroniaeth a Saesneg BA Hanes a Saesneg BA Saesneg BA Saesneg a Gwareiddiad Clasurol BA Saesneg a Threftadaeth BA Saesneg ac Anthropoleg BA Saesneg gyda Chyhoeddi BA Saesneg gyda Blwyddyn Sylfaen BA Saesneg gyda TEFL BA Saesneg gydag Astudiaethau Addysg BA Ysgrifennu Creadigol a Saesneg
VQ13 TQ13 VQ53 QV31 Q300 CCE1 QQ38 ANE1 329B F1EN 94YD SED1 QW38
Cwrs gyda Seicoleg Gymhwysol BA Astudiaethau Crefyddol gyda Seicoleg Gymhwysol BA Athroniaeth gyda Seicoleg Gymhwysol BA Crefydd, Moeseg a Seicoleg Gymhwysol
7C29 4H62 7C29
Sinoleg BA Sinoleg
Am ragor o fanylion am ein rhaglenni Dyniaethau, ewch i’n gwefan, cysylltwch â ni a dewch i Ddiwrnod Agored.
SI01
Treftadaeth BA Anthropoleg a Threftadaeth BA Astudiaethau Crefyddol a Threftadaeth BA Astudiaethau Tsieineaidd a Threftadaeth BA Astudiaethau Canoloesol a Threftadaeth BA Athroniaeth a Threftadaeth BA Diwinyddiaeth a Threftadaeth BA Gwareiddiad Clasurol a Threftadaeth BA Hanes a Threftadaeth BA Saesneg a Threftadaeth BA Treftadaeth BA Treftadaeth gyda Blwyddyn Sylfaen BA Ysgrifennu Creadigol a Threftadaeth
ANH1 9C2M CSH1 MHG1 73D7 3X29 CCH1 HHG1 QQ38 HER1 3B5D 96C3
Ysgrifennu Creadigol BA Gwareiddiad Clasurol acYsgrifennu Creadigol CW11 BA Hanes ac Ysgrifennu Creadigol HCW1 BA Ysgrifennu Creadigol J2G5 BA Ysgrifennu Creadigol a Saesneg QW38 BA Ysgrifennu Creadigol a Threftadaeth 96C3 BA Ysgrifennu Creadigol ac Athroniaeth WV85 BA Ysgrifennu Creadigol gydag Astudiaethau Addysg 385V BA Ysgrifennu Creadigol gyda Blwyddyn Sylfaen CAW0 BA Ysgrifennu Creadigol gyda Chyhoeddi 5RW2
Isbynciau Astudiaethau Addysg: BA Anthropoleg gydag Astudiaethau Addysg BA Archaeoleg gydag Astudiaethau Addysg BA Astudiaethau Crefyddol gydag Astudiaethau Addysg BA Astudiaethau Tsieineaidd gydag Astudiaethau Addysg BA Athroniaeth gydag Astudiaethau Addysg BA Diwinyddiaeth gydag Astudiaethau Addysg BA Gwareiddiad Clasurol gydag Astudiaethau Addysg BA Hanes gydag Astudiaethau Addysg BA Saesneg gydag Astudiaethau Addysg BA Ysgrifennu Creadigol gydag Astudiaethau Addysg
LX63 V401 VL64 836R VL54 1QR4 CED1 HED1 SED1 385V
349
350
Ein Haddysgu Mae ein cyrsiau sydd wedi’u seilio ar y Dyniaethau yng Nghyfadran y Dyniaethau a Chelfyddydau Perfformio yn cynnig i fyfyrwyr ffordd hyblyg a chyffrous i astudio trwy ein system addysgu arloesol, trochol, o’r enw Addysgu Bloc. Beth yw Addysgu Bloc? •
Addysgir pob cwrs fel ‘bloc’ sengl. Mae’r blociau hyn yn bum wythnos gyda phedair wythnos o amser cyswllt ac wythnos baratoi gychwynnol.
• Bydd saith bloc yn rhedeg ar draws y calendr academaidd, gan ddechrau yng nghanol mis Medi a gorffen ym mis Mehefin. • Ar bob lefel, rhaid i fyfyrwyr ddewis 120 credyd o’r modylau sydd ar gael. Mae pob bloc werth 20 credyd. • Mae amser cyswllt yn cynnwys tair awr y diwrnod am bedwar diwrnod yr wythnos. Mae gan bob cyfnod addysgu pedair wythnos, wythnos baratoi.
Sut y bydd y bloc yn cael ei addysgu? Ni fydd yr addysgu’n cael ei wneud drwy ddarlithio yn y ffordd hen ffasiwn, gyda darlithydd yn sefyll o flaen y dosbarth yn siarad am ddwy neu dair awr.
Er nad yw’n cael gwared ar ddarlithoedd yn llwyr, mae’r system bloc o addysgu’n annog y dysgu a’r addysgu i fod yn llawer mwy gweithredol, cyfranogol ac i ddefnyddio amrywiaeth o arddulliau ac ymagweddau sy’n ffres, diddorol a chynhwysol: trafod; ffilm; ymchwil yn y dosbarth neu ymchwil mewn pâr yn y llyfrgell; gwaith grŵp; dadleuon; posteri; gwneud darnau byr o fideo; efelychiadau; cwisiau; mwy o ddefnydd o dechnoleg weledol a chlywedol a chyfryngau cymdeithasol; a gwaith awyr agored.
Eich dewis: Un o brif atyniadau’r system addysgu bloc newydd hwn yw ei bod yn eich caniatáu i ddewis o ystod eang o fodylau, waeth beth fo’ch dewis faes pwnc. Er y bydd eich cwrs yn cynnwys modylau craidd, bydd gennych fwy o ryddid ac amrywiaeth yn eich dewis o fodylau dewisol. O’ch modylau dewisol, gallech gael y cyfle i astudio rhywbeth sy’n gysylltiedig yn benodol ymhellach â’ch rhaglen neu rywbeth arall yn llwyr, fel iaith. Gallwch siapio eich gradd i adlewyrchu eich diddordebau a chyfoethogi eich cyflogadwyedd.
351
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
Fframwaith Arfer Proffesiynol Mae’r Dyfarniad Arfer Proffesiynol yn cynnig llwybr pwrpasol, hyblyg at gymhwyster sy’n gallu cyd-fynd â'r galwadau arnoch fel ymarferydd yn y gweithle, boed hynny fel arbenigwr technegol neu reolwr ac arweinydd. Mae ffocws y ddarpariaeth ddwyieithog, datblygu proffesiynol hon ar ddatblygu unigolion o fewn eu gweithleoedd eu hunain. Mae pob dysgwr yn ymgymryd â rhaglen astudio a drafodwyd yn unigol ac sy’n briodol i’w maes proffesiynol nhw. Gwneir y trafod hyn gyda chefnogaeth tiwtor unigol sy’n arbenigwr mewn dysgu proffesiynol. Mae’r rhaglen a gyfyd o’r trafodaethau hyn wedi’i chynllunio i baratoi’r dysgwr ar gyfer cam nesaf ei yrfa. Gall dysgwyr hawlio am yr arbenigedd sydd ganddynt yn barod yn ogystal ag ymgymryd ag ystod eang o fodylau sgiliau proffesiynol. Yn olaf, rhaid ymgymryd â phrosiect seiliedig ar waith gorfodol mewn maes o bwys strategol ym maes arfer y dysgwr ei hun.
352
Lleoliad y Cwrs: Caerfyrddin neu weithle’r Cyflogwr
Cynhelir diwrnod ymsefydlu ar gyfer pob modwl ar y campws a threfnir diwrnodau adolygu a thiwtorialau ychwanegol. Mae llawer o’r rhaglen drwy ddysgu o bell ac yn y gwaith gydag adnoddau ar-lein. Caiff pob modwl ei asesu’n unigol ac mae’n cynnwys amrywiaeth o asesiadau ffurfiannol a chrynodol.
Gofynion Mynediad:
Un o ofynion penodol y rhaglen hon yw bod disgwyl i ddysgwyr gymryd rhan mewn amgylchedd gwaith ffurfiol neu anffurfiol lle gallant ddysgu, er y gall hyn fod yn wirfoddol. Mae’n debygol y bydd y rhaglen yn denu dysgwyr o ystod eang o gefndiroedd. Cydnabyddir y gall llawer o ymgeiswyr fod yn dychwelyd i astudio ar ôl nifer o flynyddoedd yn y gweithle. Bydd rhaid i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol ddangos eu gallu i gymryd rhan yn llwyddiannus yn y rhaglen Arfer Proffesiynol. Hyd: Fel arfer 2-3 blynedd yn rhan amser (yn amodol ar yr achrediad o ddysgu blaenorol). Dyddiadau dechrau: Tair gwaith y flwyddyn. Cyflwyniad: Dysgu cyfunol: Dysgu o bell a seiliedig ar waith gydag adnoddau ar-lein. Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.uwtsd.ac.uk/wiwbl wbl@uwtsd.ac.uk / 01267 676882
Iaith: Saesneg gyda chyfleoedd yn y Gymraeg
Gweithle: Arfer Proffesiynol
• • • •
Mae'r astudiaethau craidd yn cynnwys: Cynllun Dysgu Cydnabod ac Achredu Dysgu Dulliau Ymchwil Prosiect Dysgu seiliedig ar Waith Mae ystod o fodylau dewisol hefyd ar gael.
Opsiynau Astudio: Rhan Amser
353
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
Sgiliau ar gyfer y Gweithle Cyrsiau amser llawn, a gyflwynir yn hyblyg o fewn y gymuned Datblygwch y sgiliau i symud ymlaen yn eich gyrfa gyda’r rhaglenni Sgiliau ar gyfer y Gweithle. Cynlluniwyd y cynnwys a’r cyflwyniad hyblyg i roi ichi’r arfau sydd eu hangen arnoch i gymhwyso’ch sgiliau trosglwyddadwy personol i wella’ch perfformiad a hybu’ch rhagolygon cyflogadwyedd. Byddwch yn datblygu’r hyder i ragweld problemau a dod o hyd i ddatrysiadau, i weithio’n annibynnol a gyda phobl eraill ar bob lefel yn y gweithle, i gynllunio pethau cyn i chi ddechrau a chwblhau’r pethau rydych wedi’u dechrau. Mae’r BA Sgiliau Arwain a Rheoli ar gyfer y Gweithle yn cynnig llwybr dilyniant ar ôl cwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch Sgiliau ar gyfer y Gweithle’n llwyddiannus. Drwy ddefnyddio’r un ymagwedd dysgu hyblyg at leoliad a chyflwyniad y rhaglen, mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddamcaniaeth ac arfer rheoli yng nghyd-destun y gweithle.
354
Iaith: Saesneg
Addysgir y rhaglenni hyn drwy gymysgedd o gyflwyniadau seminar, trafodaethau grŵp rhyngweithiol a gweithgareddau unigol a grŵp. Ym mhob modwl mae’r dasg dysgu, addysgu ac asesu yn adlewyrchu athroniaeth sylfaenol y rhaglen yn ei chyfanrwydd, gan ffocysu ar y berthynas rhwng damcaniaeth ac arfer, datblygu hunanymwybyddiaeth feirniadol a phontio’r bwlch rhwng 'gwybod' a 'gwneud'. Gofynion Mynediad: Tystysgrif Addysg Uwch Sgiliau ar gyfer y Gweithle Derbynnir myfyrwyr i’r rhaglen yn seiliedig ar eu rhinwedd a’u profiad unigol, yn ogystal ag ymrwymiad a chymhelliant i astudio. BA Sgiliau Arwain a Rheoli ar gyfer y Gweithle Derbynnir myfyrwyr wedi iddynt gwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch Sgiliau ar gyfer y Gweithle yn llwyddiannus. Lleoliad: Cyflwyno gyda’r nos ac ar benwythnosau: Caerfyrddin, Abertawe, Caerdydd, Pen-y-Bont ar Ogwr, Pontypridd, Llanelli a Chaerffili Neu yn ystod y dydd: Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd.
Opsiynau Astudio: Astudiaethau hyblyg un flwyddyn, llawn amser
Cod UCAS: Tyst AU: 611W
Sgiliau ar gyfer y Gweithle
Tystysgrif a BA Sgiliau Arwain a Rheoli ar gyfer y Gweithle 355
Gwasanaethau Myfyrwyr
Cymorth i bob
Myfyriwr Nod Y Drindod Dewi Sant yw eich cefnogi i gyrraedd eich llwyr botensial trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ymarferol ac emosiynol i chi. Llety
Pobl sy’n Gadael Gofal
Bydd ein Swyddfa Llety yn hapus iawn i’ch helpu neu gynnig cyngor i chi.
Yn ogystal â darparu bwrsariaeth ar gyfer pobl sy’n gadael gofal, mae’r brifysgol hefyd yn darparu prif berson cyswllt ar eu cyfer ar bob campws. Fel rhan o’r cymorth ymarferol a roddir, ceir mynediad i lety drwy gydol y flwyddyn.
Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog Yn llofnodwyr i Gyfamodau Cymunedol Lluoedd Arfog Sir Gâr ac Abertawe, mae gan Y Drindod Dewi Sant berson cyswllt i ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar ddewis y cwrs iawn, hawliau ariannol a’r broses gwneud cais a gall hefyd gyfeirio pobl at asiantaethau partner y cyfamod ynglŷn â chael help mewn meysydd eraill yn ogystal.
356
Gyrfaoedd Mae ymgynghorwyr gyrfaoedd proffesiynol wrth law i helpu. Mae adnoddau ar-lein, canllawiau hunan-helpu ac e-ganllawiau a swyddi gwag yn cael eu hysbysebu ar Twitter a Facebook.
Y Drindod Dewi Sant a Chi
Mae'r Drindod Dewi Sant yn cynnig dros ÂŁ1m mewn ystod o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i gefnogi myfyrwyr talentog o bob cefndir.
357
Gwasanaethau Myfyrwyr
Gofalwyr – myfyrwyr gyda chyfrifoldebau gofal Gall ein heiriolwr gofalwyr roi cyngor ar yr help ariannol ac ymarferol sydd ar gael yn y brifysgol, elfennau ymarferol astudio a sut i reoli amser a llwyth gwaith.
Caplaniaeth, Capeli ac Ystafelloedd Gweddi Mae'r Drindod Dewi Sant yn croesawu’r rheiny a chanddynt grefydd a’r rheiny sy’n ddigrefydd. Mae caplaniaid y brifysgol yn darparu cymorth i fyfyrwyr allu archwilio eu crefydd ynghyd â gofal bugeiliol i bob aelod o’r brifysgol. Ar gampws Caerfyrddin mae gennym gapel, yn Llambed mae yna gapel, mosg a chylch paganaidd ac yn Abertawe mae gennym ystafelloedd gweddïo.
Gofal plant Yn ogystal â darparu cyngor a chymorth cyffredinol, mae cymorth ariannol ar gael i fyfyrwyr israddedig llawn-amser a rhan-amser nad ydynt yn derbyn Grant Gofal Plant neu Gredydau Treth Gofal Plant.
Cymorth i Fyfyrwyr Rhyngwladol Mae gennym Uwch Swyddog Cymorth Myfyrwyr Rhyngwladol sy’n darparu cymorth bugeiliol i fyfyrwyr rhyngwladol.
Cwnsela a Iechyd Meddwl Mae gennym gwnselwyr proffesiynol ar bob prif gampws – gan gynnwys cwnselydd Cymraeg ei hiaith ar Gampysau Caerfyrddin a Llambed, cysylltiadau gydag asiantaethau arbenigol a gwybodaeth ar gyrchu cymorth yn ogystal ag ymgynghorwyr iechyd meddwl proffesiynol a mentoriaid arbenigol.
Cymorth a chyngor ariannol Mae swyddog cyllid myfyrwyr pwrpasol ar bob prif gampws. Mae yna ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chronfa caledi prifysgol yn ogystal â chyngor ymarferol ar reoli eich arian.
Cymorth dysgu Rydym yn cynnig cymorth i unrhyw fyfyriwr anabl. Mae sgrinio ac asesu ar gael ar gyfer gwahaniaethau dysgu penodol, help i hawlio Lwfansau Myfyrwyr Anabl, tîm o staff arbenigol gan gynnwys Cydlynydd Cymorth Dysgu ac Ymgynghorydd Anabledd ar bob prif gampws.
Meddygol Rydym yn eich annog i gofrestru gyda meddygfa leol pan fyddwch yn cyrraedd y Brifysgol. Mae’r Brifysgol yn gweithio ar y cyd â Meddygfa San Pedr yng Nghaerfyrddin, Canolfan Feddygol Llambed a Meddygfa Kingsway a Chanolfan Feddygol SA1 yn Abertawe wrth ddarparu darpariaeth gofal iechyd ar gyfer ein myfyrwyr.
Dychwelyd i astudio ac astudiaethau rhan amser Mae help a chyngor ar ddewis y cwrs iawn, a’r broses gwneud cais, ar gael gan staff profiadol. Am ragor o wybodaeth ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/gwasanaethau-myfyrwyr
358
Y Drindod Dewi Sant a Chi
Adeiladu eich
dyfodol
Astudiwch yn Y Drindod Dewi Sant ac fe allech raddio gyda mwy na gradd. Caiff eich angerdd at eich pwnc ei feithrin trwy eich astudiaethau academaidd a byddwch hefyd yn cael cyfleoedd i dyfu, meithrin eich sgiliau a pharatoi at y dyfodol. Codwch ar eich traed ac ewch amdani
Dywedwch wrthym beth ‘ych chi eisiau
Rhowch hwb i’ch sgiliau entrepreneuraidd trwy ddigwyddiadau fel ‘Pizza with a Pro’ a’r Ras i'r Farchnad.
Fel myfyriwr yn Y Drindod Dewi Sant, byddwch wrth wraidd popeth a wnawn felly mae ein tîm profiad myfyrwyr yn sicrhau bod cyfleoedd rheolaidd i chi fynegi eich barn. Cymerwch ran a gwnewch wahaniaeth i chi a’ch cyd-fyfyrwyr.
Paratowch am ddyfodol cynaliadwy Datblygwch eich gwybodaeth am gynaliadwyedd drwy ystod o ddigwyddiadau, gwnewch gais am interniaeth Inspire a chymerwch ran yn ein rhaglen dystysgrif.
Cyfathrebwch mewn mwy nag un iaith Mae gennym gyrsiau, ysgoloriaethau a bwrsariaethau cyfrwng Cymraeg a chyfleoedd i ddysgu’r iaith yn ogystal â chymdeithasau a digwyddiadau cymdeithasol Cymraeg.
Dyluniwch eich Bywyd Dyluniwch a chrëwch yrfa a ffordd o fyw sy’n gweithio i chi trwy ein rhaglen Dylunio Bywyd.
Astudiwch Dramor Mae llawer o’n cyrsiau yn cynnig cyfle i fyfyrwyr y DU astudio dramor a chael y gorau o’r ddau fyd, gartref a thramor.
#OAstudiaethiGyflogaeth Caiff sgiliau cyflogadwyedd eu mewnosod yn ein cyrsiau i helpu myfyrwyr i baratoi at fywyd ar ôl y brifysgol. Mae cyflogwyr ac arbenigwyr menter yn ymweld â’r brifysgol a chynigir cyfleoedd interniaeth a phrofiad gwaith a chymorth i fyfyrwyr. Am ragor o wybodaeth ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/bywyd-myfyrwyr
359
Llyfrgelloedd
Llyfrgelloedd ac Adnoddau Dysgu Nod y gwasanaeth Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LlAD) yw cefnogi a chyfoethogi gweithgareddau dysgu, addysgu ac ymchwil staff a myfyrwyr y Brifysgol. Mae ein llyfrgelloedd yng Nghaerfyrddin, Llambed, Llundain ac Abertawe, gan gynnwys y Fforwm a agorodd ym mis Awst 2018, yn darparu mynediad at amrywiaeth o ofodau dysgu hyblyg a chroesawgar. Mae’r LlAD yn darparu mynediad ar ac oddi ar y campws at filoedd o gyfnodolion ac e-lyfrau, yn ogystal â chymorth llythrennedd digidol a gwybodaeth arbenigol, cymorth ymchwil a chasgliadau ac archifau arbennig.
360
Y Drindod Dewi Sant a Chi
Llyfrgell Ar-lein
Mae’r LlAD yn cynnig casgliad helaeth o e-gyfnodolion ac e-lyfrau y gellir eu cyrchu drwy’r dydd a’r nos, 365 diwrnod y flwyddyn, o unrhyw le yn y byd. Gall defnyddwyr gyrchu amrywiaeth o e-adnoddau, sy’n cynnwys cyfnodolion ysgolheigaidd, papurau newydd, adroddiadau cwmnïau a deunydd atgyfeirio.
Datblygu Sgiliau
Mae gan bob Cyfadran Lyfrgellydd Cyswllt Academaidd, sy’n brif bwynt cyswllt i staff a myfyrwyr. Mae Llyfrgellwyr Cyswllt Academaidd yn cyfrannu at yr addysgu a’r dysgu drwy helpu myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddod o hyd i, defnyddio a gwerthuso ffynonellau gwybodaeth. Mae pob myfyriwr newydd yn cael sesiwn Sgiliau Sylfaenol yn ystod y tymor cyntaf, wedi’i dilyn gan sesiynau manylach drwy gydol eu hastudiaethau. Hefyd, mae Llyfrgellwyr Cyswllt Academaidd yn darparu rhaglen o Sgiliau Gwybodaeth ehangach sy’n ffocysu ar sgiliau cyflogadwyedd a sgiliau academaidd trosglwyddadwy. Mae hyn yn cynnwys sgiliau chwilio uwch, defnydd moesegol o wybodaeth, cyfeirnodi a rheoli eich hunaniaeth ar-lein. Gellir darparu cymorth wyneb yn wyneb neu o bell; drwy e-bost, dros y ffôn neu dros Skype.
Mae Canolfan Ymchwil Profiad Crefyddol Alister Hardy hefyd yn cael ei chadw yn y llyfrgell ac yn cynnwys archif sydd â mwy na 6,000 adroddiad o brofiadau uniongyrchol pobl o bob cwr o’r byd sydd wedi cael profiad ysbrydol neu grefyddol. Wedi’i sefydlu gan Syr Alister Hardy ym 1969 yng Ngholeg Manceinion, Rhydychen, symudodd y ganolfan ymchwil i Lambed ym mis Gorffennaf 2000. Nod y ganolfan yw astudio adroddiadau cyfoes o brofiadau crefyddol neu ysbrydol. Yn ogystal â’i harchif adroddiadau, mae’r ganolfan ymchwil yn cadw casgliad arbenigol o lyfrau a chyfnodolion.
Mannau Dysgu
Mae'r llyfrgelloedd wedi’u lleoli’n gyfleus ar bob un o’n prif safleoedd. Mae pob llyfrgell yn darparu’n bennaf ar gyfer gofynion yr ysgol neu gyfadran sydd wedi’i lleoli yno, fodd bynnag, mae croeso i fyfyrwyr ddefnyddio unrhyw un o lyfrgelloedd Y Drindod Dewi Sant, waeth pa bwnc y maent yn ei astudio. Yn ogystal â chasgliadau, mae’r llyfrgelloedd yn darparu amrywiaeth o leoedd modern a hyblyg, sy’n adlewyrchu’r ffordd y mae myfyrwyr yn gweithio, fel mannau astudio mewn grŵp ac ardaloedd tawel, yn ogystal â chyfleusterau TG, rhyngrwyd diwifr, cyfleusterau llungopïo ac argraffu a gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
Casgliadau ac Archifau Arbennig
Mae’r LlAD yn gartref i Gasgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gan gynnwys llyfrau, llawysgrifau ac archifau printiedig hynaf y Brifysgol. Mae’r Casgliadau Arbennig yn cynnwys dros 35,000 darn o waith printiedig, wyth llawysgrif ganoloesol, tua 100 llawysgrif ôl-ganoloesol, a 69 incwnabwla. Mae’r deunydd yn yr Archifau’n cynnwys archif sefydliadol Coleg Dewi Sant, neu Brifysgol Cymru, Llambed yn ddiweddarach, a Choleg Y Drindod Caerfyrddin, sydd ill dau’n aelodau cyfansoddol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Agorodd llyfrgell Y Fforwm ym mis Awst 2018 ac mae’n rhan o ddatblygiad newydd SA1 Glannau Abertawe gan ddarparu cyfleusterau pwrpasol ar gyfer dysgu, addysgu ac ymchwil yn ogystal â gofod cymdeithasol, hamdden ac adloniant.
361
Rhyngwladol
Profiad Myfyrwyr
Gwirioneddol Fyd-Eang Er bod Y Drindod Dewi Sant wedi ei gwreiddio’n ddwfn ym mhridd a daear Cymru, y mae’n sefydliad sydd hefyd wedi ei gysylltu’n agos â nifer o bartneriaid rhyngwladol. 362
Daeth Y Drindod Dewi Sant yn =8fed yn y DU am gefnogaeth/ llesiant da. Times Higher Education Student Experience Survey 2018.
Y Drindod Dewi Sant a Chi
Cyfoethogir yr addysg a ddarperir ar ei champysau gan bresenoldeb nifer cynyddol o fyfyrwyr o dramor. Gwna’r rhain gyfraniad allweddol i’r broses o ddatblygu ei myfyrwyr cartref yn ddinasyddion byd-eang. Mae gan y Brifysgol gysylltiadau agos â nifer o bartneriaid dylanwadol ar draws y byd a daw myfyrwyr o 70 o wledydd i astudio gyda ni o bob cwr o’r byd. Mae’r Brifysgol yn gartref i Sefydliad Confucius cyntaf Cymru ac i Academi Cymru- America, i ddathlu dylanwad Cymru yn yr Unol Daleithiau. Mae nifer o wledydd yn y Dwyrain Canol yn elwa’n sylweddol ar arbenigedd y Brifysgol trwy waith ymchwil rhai o’i staff a chwricwlwm arbenigol nifer o’i Hysgolion. Mae’r rhagolwg rhyngwladol hwn a’r cysylltiadau byd-eang hyn yn ffurfio sylfeini newydd ar gyfer dyfodol ein cymuned addysgu a dysgu unigryw.
Gwasanaethau i Fyfyrwyr Rhyngwladol: • Cymorth gyda'r broses o wneud cais am visa. • Ystod eang o raglenni a fydd yn rhoi ichi brofiad gwych o addysg yng Nghymru. • Darparwn wasanaeth croesawu ym maes awyr Heathrow Llundain. Mae'r Brifysgol yn ffantastig gyda darlithwyr gwych a staff sydd wedi fy helpu drwy gydol fy mlwyddyn olaf.
Shaun Liew
• Cefnogaeth gyda'r Saesneg a Sgiliau Astudio. • Rhaglenni Diwylliannol: cyfres o deithiau penwythnos o gwmpas Cymru a lleoedd enwog eraill yn y DU.
BA Chwaraeon a Iechyd, Canada
363
Rhyngwladol
Astudio Dramor
gyda'r Drindod Dewi Sant Mae teithio’n ehangu’r meddwl. Mae manteision astudio dramor gyda'r Drindod Dewi Sant hefyd yn cynnwys rhoi hwb i’ch hyder a’ch gwneud yn fwy deniadol i gyflogwyr.
364
Y Drindod Dewi Sant a Chi
Mae llawer o’n cyrsiau yn Y Drindod Dewi Sant yn cynnig cyfle i fyfyrwyr y DU astudio dramor mewn rhaglenni sefydledig. Mae hyn yn rhoi ichi gyfle gwych i ymestyn eich sgiliau a chyfoethogi eich rhinweddau, fel datrys problemau, pendantrwydd, dawn ymgyfaddasu a gwybodaeth o ieithoedd. Yn Y Drindod Dewi Sant, gallwn eich arwain a'ch cefnogi, fel y cewch y gorau o'r ddau fyd, gartref a thramor, pan fyddwch yn manteisio ar y cyfleoedd Astudio Dramor sydd ar gael ichi. Gallwch ddewis gwneud cais i astudio yn Ewrop trwy gynllun Erasmus neu’n bellach i ffwrdd trwy'r cynllun Astudio Dramor, sy’n cael ei gynnig i fyfyrwyr sy’n astudio naill ai BA neu BSc mewn llawer o’r rhaglenni gradd yn Y Drindod Dewi Sant. Mae gennym gysylltiadau â’r UD, Canada, Tsieina, Malaysia ac ar draws Ewrop. Mae lleoedd ar gyfer astudio dramor yn gyfyngedig, felly fe’ch cynghorwn i ddatgan eich diddordeb cyn gynted â phosibl. Hefyd, gallai fod cefnogaeth ariannol ar gael i’ch cynorthwyo. Mae'r broses o gymeradwyo cyfnodau o astudio dramor yn amodol ar weithdrefnau derbyn Ysgolion. Gall astudio dramor newid eich bywyd, felly mae’n werth dysgu rhagor amdano.
I ble fedraf i fynd? Dyma rai o'r gwledydd sy'n rhan o'r cynllun Erasmus neu Astudio Dramor. Ewch i'n gwefan am yr holl gyfleoedd.
Canada UDA Sbaen Ffrainc Y Ffindir Norwy Sweden Malaysia Tseina
Rwyf wrth fy modd yn teithio, felly pan welais fy mod yn gallu astudio dramor fel rhan o’m gradd roeddwn wedi cyffroi’n lân. Gwelais fy nghwrs o safbwynt newydd a chefais gymaint o brofiadau sydd wedi newid fy mywyd. Ni fyddwn wedi gallu ei wneud heb gymorth anhygoel y Swyddfa Ryngwladol! Byddwn yn argymell i bawb fynd amdani; mae'r broses mor rhwydd.
Gwyneth Sweatman
BSc Seicoleg, Y Coleg Presbyteraidd, De Carolina, UDA (Llywydd UMC Cymru 2018-19)
365
INSPIRE
Paratowch at
ddyfodol cynaliadwy Mae gwneud gwahaniaeth yn y byd yn golygu mwy nag ennill gradd dda a bod yn barod ar gyfer eich gyrfa.
ymrwymiad i Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF).
Yn Y Drindod Dewi Sant, rydym yn cydnabod y bydd angen cael addysg gynhwysfawr arnoch sy’n eich galluogi i wneud penderfyniadau hirdymor gwell drwy ystyried effaith gweithredoedd heddiw ar genhedlaeth y dyfodol ac i ddysgu byw o fewn y terfynau amgylcheddol. Mae datblygu eich ymwybyddiaeth o’r ystyriaethau hyn yn mynd i sicrhau eich bod mewn safle cryf o fewn y farchnad swyddi ryngwladol.
Rydym yn sicrhau bod Datblygiad Cynaliadwy wedi’i fewnosod yn holl ddysgu, addysgu, cyrsiau, campysau, cymuned a diwylliant Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i sicrhau bod graddedigion y dyfodol yn ymwybodol o’r byd y maent yn byw ynddo ac yn ddinasyddion cyfrifol yn yr 21ain ganrif. Nid dim ond cynnwys y modylau y byddwch yn eu cymryd a fydd yn ymgorffori’r ethos hwn, ond hefyd y ffordd yr ydym yn addysgu.
Mae dyfodiad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, y gyntaf o’i bath yn y byd, yn golygu bod lles cenedlaethau’r dyfodol yn mynd i fod yn greiddiol i holl benderfyniadau’r llywodraeth. Mae’n bwysicach nag erioed felly bod ein graddedigion yn deall gwerth gwneud penderfyniadau cynaliadwy. Mae’r Brifysgol, drwy waith arobryn ein Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi ac Effeithiolrwydd Adnoddau (INSPIRE), wedi gwneud
Ers ei ddechrau yn 2012, mae INSPIRE wedi ennill gwobr y Guardian am Gynaliadwyedd mewn Addysg Uwch yn 2013, Nod Arlwyo Aur gan Gymdeithas y Pridd yn 2014 am ein cefnogaeth i gynnyrch lleol. Yn 2015, cododd Y Drindod Dewi Sant o 113eg yn y DU a gradd 3ydd dosbarth, i radd dosbarth 1af ac 8fed yn y DU a 1af yng Nghymru yn y Gynghrair Prifysgolion People and Planet, gan gadw ei gradd dosbarth 1af yn 2016 a 2017.
366
Y Drindod Dewi Sant a Chi
Gwobrau’r Green Gown
Yn 2015, cafodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant dair Gwobr Green Gown, ac un clod uchel, am ei gwaith ar gynaliadwyedd ym maes Addysg Uwch, gan gynnwys gwobr Newydd-ddyfodiaid Gorau a gwobr arweinyddiaeth ac mae wedi parhau i weld ei cheisiadau’n cael eu cynnwys yn y rowndiau terfynol.
People and Planet Byd sy’n Newid:
Y Drindod Dewi Sant oedd y sefydliad cyntaf yng Nghymru i gynnal yr arddangosfa ffotograffiaeth awyr agored arwyddocaol a ddathlwyd yn fyd-eang, ‘WHOLE EARTH?’ sy'n ceisio cynnwys y cenedlaethau iau yn y ddadl am gynaliadwyedd. Rydym yn rheoli ein hadeiladau a'n campysau i safon Lefel 5 Y Ddraig Werdd - y safon uchaf yng Nhymru. Yn 2015, enillodd y Brifysgol 3 gwobr Green Gown, ac un clod uchel, am ei gwaith ar gynaliadwyedd yn y sector Addysg Uwch, gan gynnwys gwobr y Newydd-ddyfodiaid Gorau a hefyd gwobr arweinyddiaeth i gyfarwyddwraig INSPIRE, Dr Jane Davidson. O fwyd i gyfarfodydd, addysgu i arweinyddiaeth, mae’r Brifysgol yn chwilio am ffyrdd o archwilio a gosod arfer cynaliadwy ym mhopeth a wna. Y mae’r Brifysgol yn cydnabod bod y Gymraeg a chynnal cymunedau Cymraeg i’r dyfodol yn rhan greiddiol o ddatblygu cynaliadwy yng Nghymru. Y mae hyn yn un o’r prif resymau ei bod yn ceisio darparu addysg Gymreig a Chymraeg bob amser lle bo hynny’n ymarferol bosibl. Gallwch gymryd rhan yng ngwaith INSPIRE drwy’r interniaethau cyflogedig sydd ar gael i israddedigion yn flynyddol ar draws ein campysau. Er enghraifft, mae interniaethau 2018, yn dod o dan bedwar categori: Ynni a Gwastraff; Bwyd Masnach
Daeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn 1af yn y People and Planet University League am safonau amgylcheddol a moesegol.
Gwobr y Guardian
Enillodd prosiect INSPIRE wobr y Guardian am y prosiect cynaliadwyedd gorau yng Ngwobrau Prifysgolion y Guardian 2013. Deg a Chynaliadwy; Cymorth Blog a Dylunio; a Digwyddiadau ac Ymgyrchoedd. Caiff pob myfyriwr y cyfle i gymryd rhan yn nhystysgrif ddwyieithog ar-lein annibynnol y Brifysgol ar Ddatblygu Cynaliadwy a Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae Green Impact yn gynllun achredu a gwobrwyo, sydd wedi cael ei ddatblygu gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, ac mae’n tynnu at ei gilydd dimau o staff ar draws y Brifysgol sy’n chwarae rôl allweddol o leihau effeithiau amgylcheddol negyddol y gweithle a hybu rhai cadarnhaol. Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan drwy weithio fel archwilwyr a thrwy ryngweithio gyda’r timau i adnabod eu cyflawniadau gydol y flwyddyn. Hefyd, mae cynllun Traethodau Hir er Lles UCM sy’n cynnig y cyfle i gwblhau prosiect traethawd hir mewn cydweithrediad â sefydliad anacademaidd, yn golygu y gall eich prosiect gyfrannu at faes ymchwil o’r radd flaenaf.
367
Undeb y Myfyrwyr
Yma i chi P’un ai a oes angen cyngor, cefnogaeth neu noson allan dda arnoch, mae Undeb y Myfyrwyr yma i’ch helpu. Elusen yw Undeb y Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant sy’n cael ei rhedeg gan gynrychiolwyr etholedig sy’n gweithio’n galed i sicrhau eich bod chi’n cael y profiad prifysgol gorau posibl yma yn Y Drindod Dewi Sant. Rydych yn aelod yn awtomatig unwaith i chi gofrestru. Golyga ein system gynrychiolaeth, dan arweiniad ein swyddogion sabothol ar draws ein holl gampysau, bod gennych, gyda'n cymorth ni, lais cryf iawn i fynegi’ch barn wrth y Brifysgol ar ba bynnag faterion sy’n mynd â’ch bryd.
Gallwn eich helpu... wrth ichi astudio
Gyda’n gilydd, rydym yn eich helpu i newid pethau sy’n effeithio arnoch – rydym yn mynd i’r afael â rheolau a pholisïau lle nad ydynt yn gweithio. Rydym yn gwneud yn siwr bod cyllid yn cael ei fuddsoddi lle mae
368
arnoch chi ei eisiau a’i angen. Hefyd, mae Undeb y Myfyrwyr yn cefnogi myfyrwyr i fod yn gynrychiolwyr cwrs, ac i geisio gwella pethau ar eu cyfer nhw eu hunain a’u cyd-fyfyrwyr.
... tu hwnt i’r llyfrau
Mae Y Drindod Dewi Sant yn rhoi’r lle ichi wneud ffrindiau. Ein gweithgareddau myfyrwyr, ar draws y tri champws, yw canolbwynt bywyd myfyrwyr - adloniant, chwaraeon, clybiau, cymdeithasau, prosiectau gwirfoddoli. Mae’n debyg y gwnewch chi ddysgu gwell sgiliau bywyd yn y brifysgol y tu allan i’r ystafell seminar neu lyfrgell, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio ar y cyfleoedd tra eich bod yn fyfyriwr.
Y Drindod Dewi Sant a Chi
... os eith pethau o'i le
Yn gymdeithasol, corfforol, meddyliol neu'n academaidd, mae angen ychydig o gymorth neu gyngor annibynnol ar bawb o bryd i’w gilydd. Mae Undeb Y Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant yn gwneud yn siŵr bod cymorth ar gael ac yn hygyrch i’n holl fyfyrwyr.
... yn yr hir dymor
Unwaith y flwyddyn, caiff myfyrwyr eu hethol i weithio’n llawn amser i Undeb y Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant. Mae’r swyddogion a etholir yn arwain cyfeiriad hir dymor Undeb y Myfyrwyr, gan wneud yn siŵr ein bod yn mynd i’r afael â'r materion pwysicaf i'n myfyrwyr - ariannu, costau byw, ansawdd yr addysgu ac ati.
Gallwch leisio’ch barn am y gwaith y mae Undeb y Myfyrwyr yn ei wneud drwy ethol eich cynrychiolwyr a chyfrannu at gyngor myfyrwyr Undeb y Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant. union@tsd.ac.uk www.tsdsu.co.uk/cymraeg www.facebook.com/tsdsu www.twitter.com/tsdsu
Ar hyn o bryd, mae gennym 55 o glybiau a chymdeithasau chwaraeon Team TSD ac mae mwy'n cael eu hychwanegu bob mis. Pam na wnewch chi ddechrau un eich hun?
369
Ymchwil
Mae ein hymchwil
yn arwain at ganlyniadau Mae ymchwil yn tanategu gweledigaeth y Brifysgol i drawsnewid, datblygu a rhoi siâp ar ddyfodol pobl. Yn fyfyriwr yn Y Drindod Dewi Sant, byddwch yn elwa ar fewnolwg ymchwil y byd go iawn sy’n bwydo ein haddysgu, ac o fod yn rhan o gymuned ddysgu fydeang sy’n ymroi i gael effaith bositif ar y byd ehangach. Nid yn unig y mae’n ymestyn y gronfa wybodaeth, ond mae’r Brifysgol yn gwrando ar ac yn gweithio gyda diwydiant a chyflogwyr hefyd. Mae’r Brifysgol yn ymrwymo i ymchwil sy’n cyfrannu at fywiogrwydd ac adfywio economaidd yr ardal ac mae’n datblygu enw da am weithio ar y cyd â busnes, diwydiant, y llywodraeth a phartneriaid eraill. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, sef yr asesiad mwyaf yn y byd o ymchwil a adolygir gan gymheiriaid, dyfarnwyd bod 47% o’n hymchwil ar flaen y gad yn fyd-
370
eang neu’n rhyngwladol, gyda 39% arall yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei arwyddocâd a’i drylwyredd. Yn rhan o’i waith, mae Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi ac Effeithiolrwydd Adnoddau (INSPIRE) y Brifysgol yn ceisio datblygu gallu ymchwil ac arloesi sy’n canolbwyntio ar ei chryfderau craidd.
Elusen yw Cerebra sy’n gweithio i helpu plant a chanddynt gyflyrau niwrolegol. Menter ar y cyd yw Canolfan Arloesi Cerebra (CIC) rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Cerebra.
Y Drindod Dewi Sant a Chi Wrth ddatblygu prosiectau ymchwil, anogir ein cymuned academaidd i ddangos manteision eu gwaith i’r economi, cymdeithas, polisi cyhoeddus, diwylliant ac ansawdd bywyd. Mae rhagoriaeth ymchwil ym meysydd Archaeoleg, Hanes, Anthropoleg, Celf, Dylunio Cymhwysol, Clasuron, Astudiaethau Celtaidd, Astudiaethau Crefyddol, Gwyddorau Amgylcheddol, Addysg, Seicoleg, Peirianneg a Chyfrifiadura Cymhwysol yn sail i’n gweithgarwch ymchwil ac arloesi amlddisgyblaeth mewnol. Yn yr asesiad cyntaf o effaith ymchwil ar draws y DU, dyfarnwyd bod 60% o waith ymchwil Y Drindod Dewi Sant naill ai’n eithriadol (23%) neu’n sylweddol iawn (37%) o ran ei gyrhaeddiad a’i arwyddocâd. Dengys hyn gryfder gwaith ymchwil y Brifysgol a’i gyfraniad at chwilio am ddatrysiadau i heriau’r byd go iawn.
sy’n gwneud gwir wahaniaeth i gymdeithas, o’r Grŵp Ymchwil Arfordirol a Morol yn yr Ysgol Pensaernïaeth, Amgylchedd Naturiol ac Adeiledig y mae eu gwaith yn ymdrin ag effeithiau newid yn yr hinsawdd ar ein hamgylcheddau arfordirol, i brosiect Llongau Casnewydd, sy’n perthyn i rwydwaith Ewropeaidd gwerth €4m o ymchwilwyr sy’n datblygu dulliau newydd ym maes archaeoleg morol a thechnegau cadwraeth treftadaeth ddigidol.
Mae ein canolfannau rhagoriaeth cynaliadwy wedi’u hadeiladu i gael effaith ar, ac i wella cyfalaf cymdeithasol, diwylliannol a ffisegol Cymru a thu hwnt.
Mae Canolfan Swp-Weithgynhyrchu Uwch y Brifysgol ar reng flaen y dechnoleg ddigidol ddiwydiannol sy’n gyrru’r ‘Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol’ ac mae hi wedi sicrhau nifer o grantiau sylweddol i weithio gyda diwydiant Cymru ar ymchwil a datblygu cydweithredol yn y maes hwn. Mae gan Y Drindod Dewi Sant bortffolio o fentrau iechyd a lles a gynlluniwyd i fodloni nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i greu ‘Cymru Iachach’ ac mae’n gweithio gyda phartneriaid i edrych ar ymatebion iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant amlddisgyblaeth, gan gynnwys creu Canolfan Iechyd Gwledig Cymru.
O ganlyniad i themâu trawsbynciol fel addysg, dylunio, yr amgylchedd, busnes, cynaliadwyedd, treftadaeth, iechyd a lles, mae ein hymchwil yn gydweithredol ac yn gweithio ar draws cyfadrannau a meysydd astudio.
Am ragor o wybodaeth am ymchwil yn Y Drindod Dewi Sant ac am gyfleoedd i chi, ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/ymchwil
Golyga ein cenhadaeth drefol a gwledig gyfun ein bod yn ymroi i ddatblygu gwybodaeth leol newydd i’w defnyddio’n sail i ddadleuon ehangach, yn arbennig ar gydraddoldeb, cynhwysiant a chyfiawnder cymdeithasol. Mae staff academaidd y Brifysgol yn cymryd rhan mewn prosiectau
Bwrdd Syrffio Tandem a Cherbyd Mynediad Syrffio (SAV) a ddatblygwyd gan Ganolfan Arloesi Cerebra, yn cael ei brofi gan y tîm gyda help Kai Lewis, sy’n frwd am syrffio, a chanddo barlys yr ymennydd.
371
Ar Ôl Graddio
Eich llwybr i Gyflogaeth Meithrin eich angerdd at eich pwnc sy'n bwysig i’n staff brwdfrydig a chefnogol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Maent hefyd yn gwybod y bydd angen y sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt wedi ichi raddio arnoch er mwyn cael gyrfa lwyddiannus. Mae’r un peth yn wir am ddechrau eich busnes eich hun neu weithio’n llawrydd. Dyma pam fod Y Drindod Dewi Sant yn mewnosod cyflogadwyedd i’r cyrsiau a gynigir, yn dod â chyflogwyr i mewn ac yn anfon myfyrwyr ar interniaethau. Rydym yn mwynhau clywed am fywydau ein graddedigion. Mae’n ffaith fod arolwg DLHE 2016/17, sy’n casglu gwybodaeth am fyfyrwyr addysg uwch, yn dangos bod 97% o raddedigion Y Drindod Dewi Sant mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis wedi iddynt raddio. Mae'r Brifysgol eisiau ichi fod yn barod am bopeth, nid dim ond beth sy’n digwydd nawr. Mae'r Drindod Dewi Sant yn meithrin ymagwedd ddeinamig ac arloesol ynoch
372
wrth eich paratoi at y dyfodol. Er enghraifft, mae Dylunio Bywyd yn rhaglen sydd ar gael i holl fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant y gellir ei chyrchu drwy weithdai, digwyddiadau, ac adnoddau ar-lein ac all-lein. Fe’i cynlluniwyd i’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch amser yn y brifysgol a bod yn barod at fywyd mewn byd sy'n newid yn gyflym. Caiff Y Drindod Dewi Sant ei chydnabod yn eang fel un o sefydliadau mwyaf blaenllaw'r byd mewn addysg entrepreneuriaeth seiliedig ar greadigrwydd. O ganlyniad i’w gwaith yn y maes hwn, mae'r Drindod Dewi Sant nawr yn un o'r sefydliadau addysg uwch gorau yn y wlad am gynhyrchu busnesau newydd llwyddiannus a sefydlir gan raddedigion. Mae Y Drindod Dewi Sant yn cynnig ystod o gyfleoedd cyfoethogi entrepreneuriaeth a chyflogadwyedd i fyfyrwyr drwy weithio gyda chyflogwyr a sefydliadau cymunedol i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer hunangyflogaeth neu i weithio mewn busnes.
Y Drindod Dewi Sant a Chi
BETH MAE EIN MYFYRWYR YN EI WNEUD NAWR?
Mae...
97% o israddedigion Y Drindod Dewi Sant mewn gwaith a/ neu astudiaethau pellach chwe mis ar Ôl graddio.
MAE CYFLOGWYR YN CYNNWYS:
99% o ôl-raddedigion Y Drindod Dewi Sant mewn gwaith a/ neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl graddio.
Ffynhonnell: DLHE 2016/17
Yn ogystal â hyn, mae llawer o’n cyrsiau academaidd yn cynnwys elfennau o ddysgu seiliedig ar waith neu brosiectau byw lle mae gofyn i fyfyrwyr weithio gyda sefydliadau allanol fel rhan o'u hastudiaethau ac mae llawer o raglenni'n cynnig cyfleoedd ar gyfer 'Blwyddyn mewn Diwydiant'. Rydym yn rhannu straeon ein graddedigion o dan #OAstudiaethiGyflogaeth yn Y Drindod Dewi Sant. Os penderfynwch ddod i astudio gyda ni, byddwn yn awyddus i glywed eich straeon chithau maes o law.
• Jaguar Land Rover • Fujitsu • Hewlett Packard • Clwb Pêl-Droed Dinas Abertawe • Sky News • Amgueddfa Genedlaethol Cymru
• Morganstone • QinetiQ • Virgin Media • Dŵr Cymru • Admiral Insurance • Clwb Pêl-Droed Dinas Caerdydd
“Y peth mwyaf gwerthfawr a gefais ar y cwrs oedd yr hyfforddiant un i un... rhoddodd gyfle i mi achub y blaen pan raddiais. Yn wir, ni fuaswn i ble rydw i heddiw heb yr arbenigedd, amser ac ymdrech a roddodd staff y cwrs i mi.” Patrick Carton, un o’n graddedigion BA Dylunio Modurol, a gafodd ei enwi yn rhestr Forbes 30 under 30 2017.
Derbyniodd Patrick Carton wobr y 'Pilkington Vehicle Design Award' am gar hunan-gynaliadwy sy'n gallu cynhyrchu trydan o law, gwynt a golau'r haul. Bellach yn McLaren, mae e'n helpu i greu cynnyrch modurol arloesol. “Mae gweithio gyda chwmni rhyngwladol wedi bod yn brofiad anhygoel. Ni freuddwydiais fyth y buaswn i’n cael cyfle mor wych wrth astudio fy ngradd.” Sarah Chappell-Smith, BEng Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu, a weithiodd i Perkin Elmer yn ei blwyddyn olaf.
373
Sut i wneud Cais
Eich llwybr i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant drwy UCAS Mae gwneud cais am le mewn prifysgol yn benderfyniad mawr a gall dewis ymhle i dreulio’r tair blynedd nesaf fod yn hynod anodd. Rydym yn darparu proses gwneud cais clir a hyblyg sy’n amlinellu’r dyddiadau a therfynau amser allweddol, cynnig cyfleoedd i ymweld â’n campysau, cwrdd â thiwtoriaid a chael profiad o sut beth yw astudio yma. Fe’ch cefnogwn ni chi bob cam o’r ffordd.
Y Flwyddyn Newydd Cyflwynwch eich cais trwy UCAS erbyn Ionawr 15fed. Peidiwch â phoeni, gallwch wneud cais o hyd ar ôl y dyddiad hwn ond byddwch yn cael eich ystyried yn ‘ymgeisydd hwyr’.
Dros yr haf Treuliwch amser yn ystyried eich opsiynau, lle a beth yr hoffech chi ei astudio.
Gallwch wneud cais am gyllid myfyrwyr o fis Chwefror.
Pethau i’w hystyried:
Hydref
• • • •
Cewch yr opsiwn i ychwanegu pum cwrs at UCAS Track, oni bai eich bod yn gwneud cais i Rydychen, Caergrawnt neu gyrsiau Milfeddygol neu Feddygol, lle cewch wneud cais am bedwar yn unig. Ymchwiliwch i’ch rhestr fer o brifysgolion a chyrsiau, ewch i Ddiwrnodau Agored, Diwrnodau Blasu a gofynnwch y cwestiynau sy’n bwysig i chi. Gweithiwch ar eich cais er mwyn ei gyflwyno cyn mis Ionawr.
Pellter o’ch cartref Maint dosbarthiadau Costau byw Campws – beth sydd ar gael yno • Arolygon profiad myfyrwyr Os ydych chi’n barod, gallwch ddechrau eich cais ar wefan UCAS.
374
Eich cam nesaf
Awst Pob lwc! Mae’n amser canlyniadau lefel A. Rydym yn gobeithio eich bod wedi cael eich graddau ac yn dechrau yn y brifysgol gyda ni yn Y Drindod Dewi Sant.
Croeso!
Os ydych yn chwilio am le trwy Clirio, cysylltwch â ni. Gall ein staff cyfeillgar eich helpu i ddod o hyd i’r cwrs iawn i chi a’ch tywys trwy’r broses gwneud cais, felly os yw’n estron i chi, peidiwch â phoeni.
Mae ein myfyrwyr newydd yn cyrraedd tua diwedd mis Medi ac fe gânt groeso gwresog. Rydym yn ymfalchïo yn yr ystod o gymorth sydd ar gael yma ac yn yr amgylchedd cyfeillgar, sy’n cynnig profiad addysgu a dysgu clos.
Mehefin Dylech fod wedi cyflwyno eich cais cyn 30ain Mehefin, neu byddwch yn mynd drwy’r broses Glirio’n awtomatig ym mis Awst.
Gorffennaf Ionawr - Mehefin Dylai cynigion ddechrau eich cyrraedd erbyn hyn. Byddwch yn barod i ateb erbyn y dyddiadau perthnasol ym mis Mai a Mehefin. Gall fod yn bosibl i chi wneud cais o hyd trwy UCAS Extra. Ewch i wefan UCAS am ddyddiadau cau ar gyfer eich dewis flwyddyn dechrau.
Os nad ydych wedi gwneud cais eto ac fe hoffech ddechrau ym mis Medi, gallwch wneud cais trwy Glirio o wythnos gyntaf mis Gorffennaf.
Rydym yn croesawu myfyrwyr o bob oed ac sy’n dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd. Os nad ydych wedi astudio ers peth amser, peidiwch â gadael i hynny eich rhwystro. Rydym yn ymfalchïo yn yr amgylchedd addysgu a dysgu cefnogol unigryw a ddarparwn. Os hoffech drafod gwneud cais neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses, ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/cysylltu-a-ni
Gwneir pob cais i astudio rhaglen radd israddedig llawn amser, Dip AU, Tyst AU neu HND yn Y Drindod Dewi Sant drwy UCAS (oni nodir fel arall) gan ddefnyddio ‘Apply’ – system gwneud cais ar-lein sydd ar gael yn: www.ucas.com/apply
375
Eich Cam Nesaf
Gwybodaeth i Ymgeiswyr Gofynion Mynediad Sylfaenol
Isod, ceir rhai gofynion sylfaenol nodweddiadol i ymgeiswyr. Fodd bynnag, am ofynion mynediad penodol pob cwrs, ewch i’n gwefan www.ydds.ac.uk neu i wefan UCAS.
Rhaglenni Gradd Anrhydedd
Fel arfer, gofynnir am o leiaf ddau gymhwyster Lefel A a chymwysterau lefel 3 ategol, neu gyfwerth. Efallai y bydd rhaid ystyried rhai gofynion cwrs penodol.
Diplomâu Cenedlaethol Uwch
Fel arfer, gofynnir am o leiaf un cymhwyster Lefel A a chymwysterau lefel 3 ategol, neu gyfwerth.
Sgiliau Allweddol
Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau oddi wrth fyfyrwyr sy’n astudio cymwysterau Sgiliau Allweddol, ond fel arfer, ni fydd cynigion yn cynnwys mwy na 6 phwynt tariff UCAS ar gyfer Sgiliau Allweddol Lefel 3. Ceir rhagor o wybodaeth yn: www.ydds.ac.uk
Beth yw Tariff UCAS?
System bwyntiau ydyw sy’n dangos cyrhaeddiad ar gyfer mynediad i addysg uwch. Mae’n rhoi gwerthoedd rhifiadol i gymwysterau. Mae’n gosod cywerthedd cytûn rhwng gwahanol fathau o gymwysterau. Mae’n caniatáu cymhariaeth rhwng ymgeiswyr a chanddynt wahanol fathau o gyrhaeddiad.
376
Sut mae’r system bwyntiau’n gweithio?
Gellir cydgasglu pwyntiau o wahanol gymwysterau e.e. Lefel A/Uwch Gyfrannol (UG). Nid oes uchafswm o bwyntiau y gellir eu hennill, felly rhoddir cydnabyddiaeth lawn i hyd a lled eich llwyddiannau. Nid oes cyfrif dwbl - ni all myfyrwyr gyfrif yr un cymwysterau neu rai tebyg ddwywaith. Bydd pwyntiau Uwch Gyfrannol yn cael eu cynnwys yn y pwyntiau lefel A yn yr un pwnc. Bydd pwyntiau Gradd Uwch yr Alban yn cael eu cynnwys yn y pwyntiau Gradd Uwch Estynedig yn yr un pwnc.
Cyrsiau Mynediad
Mae nifer cynyddol o fyfyrwyr yn gwneud cais ar ôl cwblhau cyrsiau Mynediad, ac rydym yn croesawu’r cyfryw geisiadau’n gynnes. Cynhelir cyrsiau Mynediad mewn partneriaeth â cholegau Addysg Bellach lleol. Cynlluniwyd y cyfryw gyrsiau’n benodol ar gyfer myfyrwyr a chanddynt ond ychydig gymwysterau neu ddim cymhwyster ffurfiol o gwbl, a fyddai’n elwa o brofiad astudio cyn mynd ymlaen i wneud cais am le mewn sefydliad Addysg Uwch.
Eich cam nesaf
Dychwelyd at Astudio? Cymwysterau Eraill? Rydym yn croesawu ceisiadau gan ddysgwyr sy’n oedolion nad ydynt efallai’n meddu ar gymwysterau ffurfiol ond y mae ganddynt y cymhelliant a’r ymrwymiad i astudio at gymhwyster Addysg Uwch. Rydym yn awyddus i annog myfyrwyr sy’n dychwelyd at astudio i wneud cais am le ar ein rhaglenni a gallwn ystyried ceisiadau’n seiliedig ar deilyngdod unigol. Os gallwch chi ddangos bod gennych brofiad, gwybodaeth neu dystiolaeth o astudiaethau diweddar priodol, efallai y gallwn ystyried y rhain yn lle cymwysterau academaidd ffurfiol. Byddwn yn eich gwahodd am gyfweliad i drafod cwrs priodol ac i’ch paratoi at astudio tuag at gymhwyster. Mae cymorth a chyngor ar ddewis y cwrs iawn, a'r broses ymgeisio, ar gael gan staff profiadol.
Telerau ac Amodau cynnig lle
Mae lle ar raglen astudio yn amodol ar p’un ai a fydd yr ymgeisydd yn cwblhau’r broses derbyn a chofrestru’n llwyddiannus. Bydd cynnig lle’n amodol ar y telerau a’r amodau a restrir yn y llythyr cynnig, y wybodaeth ar wefan y Brifysgol, yn ei phrosbectws ac yn y ‘Siarter Myfyrwyr’. Hefyd, mae’n amodol ar reoliadau, polisïau a gweithdrefnau’r Brifysgol, gan gynnwys y rheiny sydd yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd, y ddogfen ‘Rheoliadau’r Brifysgol – Canllaw Myfyrwyr’, y Llawlyfr Rhaglen Astudio priodol a Pholisi Derbyn y Brifysgol (sydd ar gael yn www.ydds.ac.uk). Pan fydd ymgeisydd yn derbyn cynnig ar gyfer lle ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, caiff gontract sy’n rhwymo.
Am ragor o wybodaeth ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/gwasanaethau-myfyrwyr
Cydnabod Dysgu Blaenorol
Mae’r Brifysgol yn hapus i ystyried ceisiadau gan unigolion a chanddynt gymwysterau ardystiedig perthnasol, neu dystiolaeth o ddysgu drwy brofiad, a allai eu galluogi i ymuno â rhaglen ar lefel uwch. Bydd gofyn i ymgeiswyr gwblhau Ffurflen Cydnabod Dysgu Ardystiedig Blaenorol wrth wneud cais.
377
Eich Cam Nesaf
Ffioedd a Chyllid
Ffioedd dysgu, benthyciadau a grantiau Myfyrwyr Israddedig llawn amser Cymru neu’r UE (ac eithrio gweddill y DU)
Myfyrwyr o Gymru
Gall myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (GDLlC) ar sail prawf modd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru: cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Benthyciadau cynhaliaeth
Gallwch wneud cais am fenthyciad cynhaliaeth myfyriwr tuag at eich costau byw.
378
Benthyciadau ffioedd dysgu
Gallwch wneud cais am fenthyciad ffioedd dysgu i dalu eich ffioedd dysgu. Caiff ei dalu yn uniongyrchol i’r Brifysgol.
Grant cymorth arbennig
Mae’r Grant Cymorth Arbennig yn cymryd lle Grant Dysgu Llywodraeth Cymru mewn rhai amgylchiadau. Gall helpu gyda chostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r cwrs megis llyfrau, offer, teithio neu ofal plant.
Am wybodaeth ynghylch ffioedd, ewch i’n gwefan: www.ydds.ac.uk/cy/israddedig/ffioedd-dysgu-israddedig
Eich cam nesaf
Myfyrwyr Israddedig llawn amser o Loegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon
Benthyciadau Cynhaliaeth Gallwch wneud cais am fenthyciad cynhaliaeth myfyriwr tuag at eich costau byw.
Benthyciadau Ffioedd Dysgu
Gallwch wneud cais am fenthyciad ffioedd dysgu i dalu am eich ffioedd dysgu. Caiff ei dalu yn uniongyrchol i’r Brifysgol.
Benthyciad Ychwanegol
Mae’r Benthyciad Ychwanegol yn cymryd lle’r Benthyciad Cynhaliaeth mewn rhai amgylchiadau penodol. Gall helpu gyda chostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r cwrs megis llyfrau, offer, teithio neu ofal plant.
379
Eich Cam Nesaf
Ffioedd Dysgu Myfyrwyr Israddedig Rhan Amser
Mae strwythur ffioedd israddedigion rhan amser yn wahanol iawn i ffioedd israddedigion llawn amser. Bydd gofyn i chi dalu fesul modwl rydych yn ei astudio. Ewch i’n gwefan neu cysylltwch â’r Brifysgol i gael gwybodaeth am ffioedd a’r cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr rhan amser.
Help ychwanegol Lwfansau Atodol
Mae cyllid ychwanegol ar gael i fyfyrwyr mewn amgylchiadau arbennig, gan gynnwys os ydych yn anabl neu os oes dibynyddion gennych e.e. Grant Gofal Plant, Lwfans Dysgu i Rieni. Mae’r Brifysgol yn rhoi help gyda cheisiadau ar gyfer y Lwfans Myfyrwyr Anabl, Lwfans Cynorthwywyr Anfeddygol a’r Lwfans Cyfarpar lle bo’n briodol.
Gwasanaeth Cyngor ar Arian
Mae’r Brifysgol yn rhedeg gwasanaeth cyngor ar arian i’ch helpu i reoli’ch arian gan gynnwys cyngor ar osod a chadw at gyllideb er mwyn osgoi anawsterau ariannol.
Cysylltwch â'r Uned Gwasanaethau Myfyrwyr am ragor o fanylion: Caerfyrddin: +44 (0)1267 676830 Llambed: +44 (0)1570 424722 Abertawe: +44 (0)1792 481123
Sut i Wneud Cais am Gymorth Ariannol (Ymgeiswyr y DU/UE)
Mae’n wirioneddol bwysig eich bod chi’n gwneud cais am gymorth ariannol ar gyfer eich astudiaethau cyn gynted â phosibl, gan y bydd hyn yn helpu i sicrhau eich bod chi’n cael unrhyw gymorth sy’n ddyledus i chi mewn da bryd. I ddysgu rhagor am sut a phryd i wneud cais, cysylltwch â’r asiantaeth ar gyfer yr ardal rydych yn byw ynddi nawr am fanylion llawn.
Dyma’r rhestr o gysylltiadau ar gyfer pob rhan o’r DU a’r Undeb Ewropeaidd: Cymru
Cyllid Myfyrwyr Cymru Ffôn: 0300 200 4050 www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Lloegr
Student Finance Direct Ffôn: 0300 100 0607 www.gov.uk/student-finance
Yr Alban
Student Awards Agency for Scotland (SAAS) www.saas.gov.uk SAAS Ffôn: 0300 555 0505
Gogledd Iwerddon
Student Finance NI Ffôn: 0300 100 0077 www.studentfinanceni.co.uk
UE
Student Finance England www.gov.uk/apply-for-studentfinance Tel: 0141 243 3570
380
*Mae’r wybodaeth a roddwyd yma’n gywir adeg ei hysgrifennu ond fe ddylech wirio’r gwefannau perthnasol uchod neu siarad gydag ymgynghorydd cyllid myfyrwyr. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhoi ar ein gwefan pan fydd hi ar gael. Mae ffioedd yn daladwy ar ddechrau’r cwrs, neu gallwch drefnu i dalu mewn dau randal. Cysylltwch â Swyddfa Gyllid y Brifysgol ar 01267 676704 i drefnu’r opsiwn hwn.
Eich cam nesaf
381
Eich Cam Nesaf
Gwlad arall yn yr UE
Mae’n bosibl y cewch gymorth ar gyfer ffioedd dysgu ar sail debyg i fyfyrwyr y DU ond ni fyddwch yn gymwys i wneud cais am Fenthyciad Myfyriwr na Grantiau Atodol. Am ffurflen gais i gael help gyda ffioedd dysgu, cysylltwch â: Student Finance Services non-UK Team Student Loans Company PO Box 89 Darlington County Durham England DL1 9AZ Ffôn: +44 (0)141 243 3570 Cysylltwch â'r Gwasanaethau Myfyrwyr: Caerfyrddin: +44 (0)1267 676830 Llambed: +44 (0)1570 424722 Abertawe: +44 (0)1792 481123
Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Mae nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael gan y Brifysgol i roi cymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr. Dosberthir pob ysgoloriaeth a bwrsariaeth i geisiadau llwyddiannus trwy’r Gwasanaethau Myfyrwyr ar bob campws. Ymhlith yr enghreifftiau o ysgoloriaethau a bwrsariaethau sydd ar gael mae:
Ysgoloriaethau Cyfadrannol
Ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg/Dwyieithog
Mae gan y Brifysgol ysgoloriaethau sylweddol am gredydau a gwblhawyd yn llwyddiannus drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae'n rhaid i’r modylau fod o leiaf 50% dwyieithog. Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig ysgoloriaethau i bobl sy’n astudio rhai rhaglenni gradd drwy gyfrwng y Gymraeg. Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.colegcymraeg.ac.uk
Interniaethau
Ar ôl ichi ddechrau eich cwrs israddedig, mae'n bosibl y gallwch wneud cais am fwrsariaeth i’ch cynorthwyo i gael profiad gwaith gwirfoddol, sy'n berthnasol i'ch cwrs, yn ystod gwyliau'r haf.
Bwrsariaethau Gofal Plant
Mae’n bosibl bod cymorth ariannol ar gael i’r myfyrwyr hynny sydd ddim yn gymwys ar gyfer Grant Gofal Plant.
Bwrsariaethau Preswyl
Mae nifer o fwrsariaethau preswyl sy’n dibynnu ar brawf modd ar gael i fyfyrwyr israddedig sy’n talu ffioedd llawn.
Myfyrwyr Rhyngwladol
Mae'r Brifysgol yn cynnig ystod o opsiynau ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol gan gynnwys ysgoloriaethau ac interniaethau.
Mae pob Cyfadran yn cynnig ystod o ysgoloriaethau i gefnogi myfyrwyr mewn meysydd o flaenoriaeth. Mae manylion llawn ar ein gwefan.
Ysgoloriaethau Adrannol
Mae nifer o ysgoloriaethau ar gael i fyfyrwyr israddedig ym mhob maes academaidd.
382
Ewch i'n gwefan am ragor o wybodaeth am ein hysgoloriaethau a bwrsariaethau gan fod yr wybodaeth uchod yn gallu newid: www.ydds.ac.uk/cy/bwrsariaethau
Cyswllt Ysgolion a Cholegau Mae'r Brifysgol yn cynnig ystod eang o wasanaethau i ysgolion a cholegau, yn lleol ac yn genedlaethol. Bwriad gweithgareddau Cyswllt Ysgolion a Cholegau yw darparu gwybodaeth am gyrsiau Y Drindod Dewi Sant, ynghyd â chefnogi ac arwain myfyrwyr drwy eu cais prifysgol. Mae ein tîm yn mynychu ffug gyfweliadau a digwyddiadau gyrfaoedd a drefnir gan ysgolion a cholegau’n rheolaidd, yn ogystal â llawer o ddigwyddiadau UCAS. Rydym yn darparu gwasanaeth cymorth cynhwysfawr i ysgolion a cholegau sy’n cynnwys trefnu Diwrnodau Astudio cwrs-benodol i fyfyrwyr Blynyddoedd 12 ac 13, darlithoedd pwnc-benodol gan staff academaidd, yn ogystal â sgyrsiau cyffredinol ar faterion eraill sy’n effeithio ar y dewis o gyrsiau AU, er enghraifft: • Pam Addysg Uwch • Y broses ymgeisio drwy UCAS ac ysgrifennu datganiad personol • Cyllid Myfyrwyr • Bywyd Myfyrwyr • Astudio yn Y Drindod Dewi Sant Rydym yn cynnig ein holl weithdai, cyflwyniadau ac ymweliadau trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ddwyieithog neu yn Saesneg. Er mwyn annog myfyrwyr i ddewis ac i barhau i astudio yn y Gymraeg, mae gennym gyflwyniad ‘Astudio yn y Gymraeg’ sy’n amlygu manteision astudio ar lefel addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cyflwyniad yn cynnwys gwybodaeth am y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, cymorth ariannol a chyfleoedd gwaith; ynghyd â gwybodaeth am ein holl gyrsiau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, y Gymdeithas Gymraeg helaeth a bywiog sydd gennym yn Y Drindod Dewi Sant, a phrofiadau ein myfyrwyr. Mae’r Brifysgol yn aelod o HELOA – Cymdeithas Swyddogion Cyswllt Addysg Uwch – ac felly rydym yn darparu gwasanaeth cynghori sy’n ystyried eich anghenion a’ch dyheadau gyrfaol yn ddiduedd a phroffesiynol. I drafod eich gofynion, cysylltwch â:
ysgolionacholegau@pcydds.ac.uk
383
Eich Cam Nesaf
Edrychwn ymlaen at
Gwrdd â Chi Cadwch le ar un o’n Diwrnodau Agored neu Ddiwrnodau Ymweld. Manteisiwch ar un o’n Diwrnodau Agored neu Ddiwrnodau Ymweld fel y cewch gip go iawn ar fywyd yn Y Drindod Dewi Sant. Cewch ragor o wybodaeth a diweddariadau am yr hyn sydd ar gael drwy ein gwefan ac ar ein cyfryngau cymdeithasol. Diwrnodau Agored a Diwrnodau Ymweld Mae ein diwrnodau Agored a Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr yn rhoi cyfle i chi gwrdd â staff a myfyrwyr er mwyn i chi gael cyfle i ddysgu mwy am y Brifysgol. Byddwch yn gallu: • Cwrdd â’r staff academaidd i drafod gwahanol gyrsiau a gofynion mynediad ac i ddysgu beth fydd cynnwys eich cwrs. • Siarad gyda’n swyddogion cyllid a dysgu am gostau Addysg Uwch a’r cymorth ariannol sydd ar gael. Hefyd, cewch drafod eich sefyllfa unigol. • Cwrdd â’n tîm Cymorth Dysgu i drafod unrhyw gymorth dysgu arbennig allai fod ei angen arnoch. • Edrych o gwmpas ein campysau, ein cyfleusterau gwych ac ymweld â llety.
384
• Cwrdd â myfyrwyr presennol a siarad gyda nhw am eu profiad o fywyd yn y Brifysgol. Os ydych chi’n byw y tu allan i’r ardal, cewch hefyd gyfle i ddod i adnabod y dref a’r ardal y mae eich campws wedi’i leoli ynddynt. Er ein bod yn annog darpar fyfyrwyr i ymweld â ni yn ystod Diwrnodau Agored, bydd ein swyddogion derbyn hefyd yn gwneud eu gorau i drefnu ymweliadau â champysau ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn.
Diwrnodau Ymweld â Champws Llambed Cynhelir Diwrnodau Ymweld ar ddydd Mercher, yn achlysurol, yn ystod y tymor ar gampws Llambed ac maent yn rhoi gwir syniad i chi o fywyd ar y campws cyn i chi gyflwyno cais.
Eich cam nesaf
Diwrnodau Agored Mae dyddiadau ein Diwrnodau Agored ar gael ar ein gwefan:
www.ydds.ac.uk/cy/ymweld
Cadwch le ymlaen llaw i ymweld ag un (neu fwy!) o’n campysau.
385
Faint o
Bwyntiau
UCAS sydd gen i? Os ydych chi am wybod faint o bwyntiau sydd gennych, defnyddiwch y tablau i weld gwerth eich graddau mewn pwyntiau ac yna adiwch y cyfan i greu cyfanswm. Os oes gennych Ddyfarniadau Dwbl Lefel A, cymerwch werth y pwyntiau ar gyfer y radd lefel A gyfatebol ac, wel, dyblwch e! Mae manylion ein gofynion mynediad ar dudalennau'r cyrsiau. Mae hefyd modd ichi ymweld â'n gwefan a chysylltu â ni am ragor o wybodaeth.
386
Cymhwyster
Lefel A
Cymhwyster Uwch Yr Alban
Cymhwyster Yr Alban
Bagloriaeth Cymru Uwch
Gradd
Pwyntiau UCAS
A*
56
A
48
B
40
C
32
D
24
E
16
A
56
B
48
C
40
D
32
A
33
B
27
C
21
D
15
A*
56
A
48
B
40
C
32
D
24
E
16
Diploma Cenedlaethol Lefel 3 BTEC
Pwyntiau UCAS
D*D*
112
D*D
104
DD
96
DM
80
MM
64
MP
48
PP
32
Eich cam nesaf
Lefelau Cymwysterau Tystysgrif Addysg Uwch
(Tyst AU) - Lefel 4 Mae Tystysgrif Addysg Uwch yn gymhwyster Lefel 4 ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf rhaglen radd anrhydedd llawn amser. I gyflawni’r cymhwyster, mae’n rhaid i fyfyrwyr gael o leiaf 120 credyd.
Diploma Addysg Uwch
(Dip AU) - Lefelau 4 a 5 Mae Diploma Addysg Uwch yn gymhwyster Lefel 5 ac mae’n gyfwerth â dwy flynedd gyntaf rhaglen radd anrhydedd llawn amser. I gyflawni’r cymhwyster, mae’n rhaid i fyfyrwyr gael o leiaf 240 credyd.
Gradd Sylfaen
(FdA/FdSc) - Lefelau 4 a 5 Mae Gradd Sylfaen yn gymhwyster cysylltiedig â chyflogaeth ar lefel addysg uwch. Fe’i cynlluniwyd i roi i unigolion y sgiliau a’r wybodaeth lefel uwch sy’n bodloni anghenion y cyflogwr yn ogystal â rhoi’r cyfle i’r unigolyn ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol. Mae’n rhannol seiliedig ar waith ac mae prosiectau ac aseiniadau’n berthnasol i rôl yr unigolyn yn y gweithle. I gyflawni’r cymhwyster, mae’n rhaid i fyfyrwyr gael o leiaf 240 credyd. Gall cwblhau Gradd Sylfaen yn llwyddiannus arwain myfyriwr i drydedd flwyddyn rhaglen radd anrhydedd briodol.
Tystysgrif a Diploma Cenedlaethol Uwch
(HNC/HND) Lefelau 4 a 5 Cynllunnir Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch a Diplomâu Cenedlaethol Uwch i fod yn seiliedig ar waith ac yn alwedigaethol eu natur. Gellir cwblhau’r cymwysterau hyn o fewn dwy flynedd yn llawn amser. Mae yna opsiwn i fyfyrwyr ag ymrwymiadau personol neu broffesiynol gwblhau’r ddau gymhwyster yn rhan amser.
Gradd Baglor
(BA/BSc/BEng) - Lefelau 4, 5, 6 Mae gradd anrhydedd Baglor yn gymhwyster Lefel 6 ac fel arfer mae’n galw am dair blynedd o astudiaethau llawn amser. Mae’r rhan fwyaf o raglenni’n fodylaidd, ac felly maent ar gael yn rhan amser, naill ai’n ystod y dydd, neu gyda’r nos ac weithiau ar ddydd Sadwrn. I gyflawni’r cymhwyster, mae’n rhaid i fyfyrwyr gael o leiaf 360 credyd.
Gradd Meistr Integredig
(MArts/MBus/MComp/MDes/MEaCh/ MEdStud/MEng/MEYEC/MMusTech/MSci/ MSocStud/MTour) – Lefelau 4, 5, 6, 7 Mae Gradd Meistr Integredig yn gymhwyster Lefel 7 ac fel arfer mae'n galw am bedair blynedd o astudiaethau llawn amser, a bydd o leiaf un o’r rhain ar lefel ôl-raddedig (Lefel 7). I gyflawni’r cymhwyster hwn, rhaid i fyfyrwyr gael o leiaf 480 credyd.
Mae’r Brifysgol yn datblygu ei darpariaeth o hyd. Am fanylion diweddaraf ein hystod lawn o gyrsiau israddedig a phroffesiynol, ynghyd â’n rhaglenni ôl-radd, ewch i’n gwefan.
387
Eich Cam Nesaf
Ein Hymrwymiad
i Chi
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ceisio rhoi cyfle i fyfyrwyr brofi ystod eang o ddylanwadau academaidd, cymdeithasol a diwylliannol a fydd yn hyrwyddo eu datblygiad personol ac yn ysbrydoli eu hastudiaethau.
388
Yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor Y Brifysgol
Eich cam nesaf
Gwnawn bob ymdrech i roi anghenion ein myfyrwyr yn gyntaf wrth gynllunio a pharatoi ein cyrsiau. Anelwn at ddarparu addysgu awdurdodol, adnoddau dysgu addas a chymorth astudio effeithiol. Ceisiwn gyflwyno rhaglen o welliant parhaus ym mhob agwedd ar amgylchedd y Brifysgol, y gall pawb ei mwynhau. Byddwn yn ceisio’n ddiwahân i ddelio â’n myfyrwyr yn gwrtais a chan roi dyledus barch i breifatrwydd a chyfrinachedd. Yn bennaf oll, hoffem wneud y Brifysgol hon yn lle sy’n trin pob unigolyn mewn ffordd gyfeillgar a gofalgar ac yn gwneud iddynt deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu parchu. Mae’r Brifysgol yn cefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob agwedd ar ei gwaith.
Cymdeithas y Cyn Fyfyrwyr Drwy astudio gyda'r Drindod Dewi Sant byddwn yno i chi pan fyddwch yn graddio. Ymunwch â Chymdeithas y Cyn Fyfyrwyr a bydd y Brifysgol yn cadw mewn cysylltiad â chi gan gynnig cefnogaeth ym maes mentergarwch, cyngor gyrfa, a chyfleoedd datblygiad proffesiynol. Cysylltwch â: alumni@ydds.ac.uk
Cyfleoedd Cyfartal Mae’r Brifysgol yn ymrwymo i sicrhau cyfle cyfartal i bob myfyriwr ac aelod o staff ac mae wedi adnabod cynwysoldeb yn un o’r saith o werthoedd craidd sy’n ganolog i’w Chynllun Strategol. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, waeth beth fo’u rhyw, statws priodasol, cenedligrwydd, hil, anabledd neu oed. Gwneir penderfyniadau i dderbyn myfyrwyr yn seiliedig ar deilyngdod academaidd a/neu botensial unigolion. Mae gan y Brifysgol Bolisi Cyfle Cyfartal cynhwysfawr yn ogystal â gweithgorau i staff a myfyrwyr a chanddynt y nod o wneud y polisïau hyn yn gwbl effeithiol.
Yr Iaith Gymraeg
Mae gan y Gymraeg a’r Saesneg statws cyfartal fel ieithoedd swyddogol y Brifysgol ac mae’r sefydliad yn ymrwymo i fodloni ei goblygiadau o dan unrhyw ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg trwy ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel drwy gyfrwng y Gymraeg. Ewch i’n gwefan Gymraeg yn www.ydds.ac.uk/cy am ragor o wybodaeth.
Sicrhau Ansawdd
Mae gan y Brifysgol system Sicrhau Ansawdd ar waith sy’n ceisio sicrhau proses drylwyr o baratoi ac addysgu cyrsiau. Mae gan y Brifysgol gyfrifoldeb llawn am gymeradwyo, dilysu a monitro pob cwrs a gynigir ganddi. Caiff pob cwrs ei fonitro, ei adolygu a’i werthuso’n feirniadol yn rheolaidd. Mae’r Brifysgol wedi ei hymrwymo i’r egwyddor y dylid rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr gyfrannu at brosesau sicrhau ansawdd trwy: � cael eu cynrychioli ar bwyllgorau sy’n delio ag adolygu cyrsiau’n flynyddol � cael eu cynrychioli ar amrywiaeth o brosesau monitro ac adolygu eraill � cael eu hannog i drafod materion yn uniongyrchol gyda phob aelod o staff, yn enwedig gyda’u tiwtoriaid personol. Cynrychiolir myfyrwyr ar y rhan fwyaf o bwyllgorau’r Brifysgol, gan gynnwys y Corff Llywodraethu.
Statws Elusengar
Rhif Elusen Gofrestredig: 1149535
389
Eich Cam Nesaf
Polisi Hawliau Eiddo Deallusol
Mae gan y Brifysgol bolisi blaengar a chefnogol ar hawliau eiddo deallusol. Rydym yn gweithio gyda’n myfyrwyr i wireddu gwerth masnachol llawn syniadau, dyfeisiau newydd a darganfyddiadau. Mae hyn yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y wobr ariannol uchaf o dan y cynllun rhannu refeniw. Am ragor o fanylion ewch i'n gwefan.
Yn Amodol ar Ddilysu
(Deddf) Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015
Gyda chyflwyniad diweddar Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, y gyntaf o’i math yn y byd, lle caiff llesiant cenedlaethau’r dyfodol ei ystyried wrth wraidd proses gwneud penderfyniadau’r llywodraeth, mae’n bwysicach nag erioed bod ein graddedigion yn deall gwerth gwneud penderfyniadau cynaliadwy.
Mae’n rhaid i bob cwrs ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fynd trwy broses o ‘ddilysu’ cyn cymeradwyo iddynt gael eu cyflwyno. Mae dilysu’n broses lle mae’r corff dyfarnu (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant neu gorff dyfarnu arall, yn amodol ar y cymhwyster) yn barnu ansawdd y rhaglen arfaethedig i warantu ei bod yn bodloni’r safonau gofynnol.
Rydym ni’n credu bod yr ymagwedd hon at fewnosod Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF) yn rhoi i raddedigion y dyfodol yr offer angenrheidiol i gael effaith bositif ar eu dewis o yrfa. Os byddwch yn ymuno â ni yn Y Drindod Dewi Sant, rydym yn gobeithio y byddwch yn cofleidio’r cyfle hwn i ddatblygu sgiliau, galluoedd a thalentau mewn ADCDF.
Efallai fod rhai o‘r rhaglenni a restrwyd yn y prosbectws hwn yn y broses o gael eu dilysu adeg argraffu’r ddogfen ym mis Ionawr 2019. Golyga hyn fod y Brifysgol yn aros am gymeradwyaeth y corff dyfarnu cyn cyflwyno rhai cyrsiau gan fod hyn yn amodol ar ganlyniad y broses hon. Edrychwch ar ein gwefan am y wybodaeth ddiweddaraf.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.ydds. ac.uk/cy/amdano/sefydliad-arfer-cynaliadwyarloesi-ac-effeithiolrwydd-adnoddau/
Y Siarter Myfyrwyr
Mae ein Siarter Myfyrwyr yn amlinellu'r cyfrifoldebau y gwnaiff y Brifysgol eu cyflawni i’w myfyrwyr. Mae hefyd yn esbonio’r cyfrifoldebau y bydd yn rhaid i’n myfyrwyr eu cyflawni wrth astudio yn y Brifysgol. Yn ogystal â hyn, mae’n amlinellu cyfrifoldebau Undeb y Myfyrwyr i’r Brifysgol a’i myfyrwyr. Trwy gael Siarter Myfyrwyr yn ei lle mae’r Brifysgol yn dangos ei hymroddiad llawn i wella ansawdd ei gwasanaeth i’w myfyrwyr yn barhaus ac mae’n cydnabod bod myfyrwyr yn ganolog i’r sefydliad. Y mae copi o’r Siarter Myfyrwyr ar gael ar ein gwefan.
390
Eich cam nesaf
Darllenwch yn Ofalus – Gwybodaeth Gyfreithiol Bwysig
Mae cynnwys y prosbectws hwn yn ymwneud â chylch derbyn Mynediad 2020 ac yn gywir adeg mynd i’r wasg ym mis Ionawr 2019. Fodd bynnag, mae yna gyfnod hir rhwng argraffu’r prosbectws hwn a’r cyfnod y bydd ceisiadau’n cael eu derbyn a’u prosesu gennym, felly gwiriwch ein gwefan – www.ydds.ac.uk/cy - cyn gwneud cais, rhag ofn bod unrhyw newidiadau wedi bod i’r cwrs sydd o ddiddordeb i chi neu i gyfleusterau a gwasanaethau eraill a ddisgrifir yma. Lle bo gwahaniaeth rhwng cynnwys y prosbectws hwn a’n gwefan, mae cynnwys y wefan yn cael blaenoriaeth ac yn sail i’r ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau i chi. Mae unrhyw gynnig a wneir i astudio yn Y Drindod Dewi Sant yn amodol ar delerau ac amodau’r Brifysgol, sydd ar gael ar ein gwefan: www.ydds.ac.uk/cy/cais/amodau Mae’r telerau ac amodau, er enghraifft, yn amlinellu pryd y gallwn wneud newidiadau i’ch dewis gwrs neu i reoliadau myfyrwyr. Felly, mae’n bwysig eich bod yn eu darllen, a’u deall, cyn gwneud cais i astudio yn Y Drindod Dewi Sant. Os nad ydych yn gallu gweld yr wybodaeth ar-lein, cysylltwch â ni: E-bost: gwybodaeth@ydds.ac.uk Ffôn: 0300 500 5054
391
Ein Cyrsiau Actio 96
Crefft Dylunio
Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar
Cwnsela 136 50-53, 132-135
Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar
50, 134
Addysg Antur Awyr Agored
72
Addysg Gynradd gyda SAC
46
Addysg Gorfforol
74
Addysg Gynhwysol
60, 130
Amgylchedd Adeiledig
224-241
Animeiddio Cyfrifiadurol 3D
180
Anthropoleg
298-301, 344-349
Archaeoleg
302-305, 344-349
Astudiaethau Addysg
48, 126-131
Astudiaethau Addysg: Cynradd
48
Astudiaethau Addysg: Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant
129
192
Cyfathrebu 92 Cyfrifiadura
226, 242-257
Cyfrifeg 146 Cynhyrchu Ffilmiau
88
Cynhyrchu Ffilmiau Antur
90
Cynllunio Trefol
230
Cymdeithaseg 54 Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored
70-83
Darlunio 194 Datblygiad Rhyngwladol, Dyngarwch a’r Gyfraith
322, 344-349
Dawns 98 Drama Gymhwysol: Addysg, Lles, Cymuned
187
Astudiaethau Addysg: Dysgwyr a Dysgu Cyfoes
128
Astudiaethau Addysg: Safbwyntiau Rhyngwladol
129
Dylunio Graffig
202
Astudiaethau Celtaidd
306
Dylunio Gemau Cyfrifiadurol
200
Astudiaethau Clasurol
314-317, 344-349
Dylunio Modurol a Chludiant
204-207
Astudiaethau Crefyddol
318-321, 344-349
Dylunio Patrymau Arwyneb
208-211
Astudiaethau Lleisiol
108
Astudiaethau Nyrsio ac Iechyd
76, 164-167
Astudiaethau Tsieineaidd
308, 344-349
Athroniaeth
310, 344-349
Blwyddyn Sylfaen mewn STEM
226
Dylunio a Chynhyrchu Theatr
100
Dylunio Cynnyrch
196-199
Dylunio Patrymau Arwyneb (Gwneuthurwyr)
211
Dylunio Patrymau Arwyneb (Gwrthrych Ffasiwn)
210
Dylunio Patrymau Arwyneb (Tecstilau ar gyfer Addurno Mewnol)
210
Dylunio Patrymau Arwyneb (Tecstilau ar gyfer Ffasiwn)
211 212
Busnes a Rheolaeth
64-69, 142-151
Busnes Cymhwysol
151
Dylunio Set
Celf a Dylunio
176
Eiriolaeth 56
Celf a Dylunio Sylfaen
178
Electroneg
Celf Gain
182
Ffilm
Celfyddydau Breiniol
312
Ffotograffiaeth 216-219
Celfyddydau Perfformio
94-101, 108-113, 184-191
Cerddoriaeth (Perfformio a Chynhyrchu) Crefydd a Diwinyddiaeth
392
188
318-321, 344-349
226, 242, 258-261 86-91, 214
Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau
218
Ffotonewyddiaduraeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol
219
Fframwaith Arfer Proffesiynol Gradd Sylfaen Celf a Dylunio
352 178
Gwaith Ieuenctid a Chymuned
58
Gwasanaethau Cyhoeddus
170-175
Gwleidyddiaeth
326, 344-349
Rheolaeth Adnoddau Dynol
148
Rheolaeth Busnes a Chyllid
147
Rheolaeth Chwaraeon
160-163
Rheolaeth Chwaraeon Rhyngwladol
162
Rheolaeth Cyfleusterau Stadiwm a Chwaraeon 162
Gwleidyddiaeth ac Economeg
326
Rheolaeth Digwyddiadau
Gwrthdaro a Rhyfel
331
Rheolaeth Diwydiannau Diwylliannol
148-149 66-69
Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol
156
78
Rheolaeth Hamdden
155
Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
78
Rheolaeth Iechyd
168
Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Ffisioleg Ymarfer Corff Clinigol)
78
Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Ffitrwydd Awyr Agored)
78
Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Hyfforddi Personol)
78
Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Maetheg ar gyfer Chwaraeon)
Gwydr 220 Gwydr: Celfyddydau Pensaernïol 221 Hanes
328-331, 344-349
Hanes Yr Henfyd
332-335, 344-349
Hysbysebu a Dylunio Brandiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol
222 164-169
Iechyd a Gofal Plant a Phobl Ifanc Iechyd, Maeth a Ffordd o Fyw
169 80
Logisteg 282-285 Marchnata Digidol
149
Modurol
204-207, 226, 262-273
Newyddiaduraeth 93 Nyrsio
76, 164-167
Patrwm Arwyneb a Thecstilau Pensaernïaeth
208-211 236, 240
Perfformio 110 Peirianneg
234, 248, 258-277, 280
Plismona 170-175 Plismona a Throseddeg
Rheolaeth Marchnata
149-151
Rheolaeth Menter Wledig 69 Rheolaeth Twristiaeth
152-155
Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Rhyngwladol
154
Saesneg
338-341, 344-349
Seicoleg
62, 137-141
Sgiliau ar gyfer Y Gweithle
354
Sinoleg 342 STEM (Sylfaen)
226
Technoleg Cerddoriaeth Creadigol
188-191
Teledu 214 Treftadaeth
336, 344-349
Twristiaeth 152-155 Theatr Gerddorol
112
Therapi Chwaraeon
82
Y Dyniaethau
296, 344-349
Y Gyfraith a Busnes
149, 174-175
Y Gyfraith a Phlismona
174
Y Gyfraith a Throseddeg
174
Y Gyfraith ac Arfer CILEx
175
Y Gyfraith a Gwasanaethau Cyhoeddus Yr Athrofa
175 44, 124
Yr Amgylchedd
226, 230, 278-281
Ysgrifennu Creadigol
338-340, 344-349
173, 174
Rheolaeth a Busnes
66-69, 144-151, 354, 356
Rheolaeth Adeiladu
238
393
Ein Prifysgol Cynnwys
1
Llwyddwch yn Llambed
288
Eich Prifysgol
2
Fframwaith Arfer Proffesiynol
352
Dyma Ddechre ar y Dyddie Da
6
Sgiliau ar gyfer y Gwethle
354
10 Rheswm gwych i siaradwyr Cymraeg ddewis Y Drindod Dewi Sant
8
Gwasanaethau Myfyrwyr
356
Llyfrgelloedd ac Adnoddau Dysgu
360
Cyrsiau Cyfrwng Cymraeg
10
Y Gymraeg
12
Profiad Myfyrwyr Byd–Eang
362
16
Astudio Dramor
364
Cangen Y Drindod Dewi Sant
Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol 18
INSPIRE 366
Rhagoriaith 20
Undeb y Myfyrwyr
Canolfan Peniarth
22
Ymchwil 370
Canolfan S4C Yr Egin
24
Eich Llwybr i Gyflogaeth
372
Yr Atom
26
Pam dewis Y Drindod Dewi Sant
28
Sut i wneud Cais
374
Prifysgol Newydd
30
Ffioedd a Chyllid
378
Tri Lleoliad
32
Diwrnodau Agored a Diwrnodau Ymweld
384
Eich Campws
34
Pwyntiau UCAS
386
Llwyddwch yng Nghaerfyrddin
36
Ein Hymrwymiad i Chi
388
368
Llwyddwch yng Nghaerdydd
102
Ein Cyrsiau
392
Llwyddwch yn Abertawe
114
Cysylltwch â Ni
397
394
395
396
Cysylltwch â ni Campws Caerfyrddin
Caerdydd
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Campws Caerfyrddin Sir Gâr SA31 3EP +44 (0)1267 676767
Canolfan Berfformio Cymru Canolfan Celfyddydau 'The Gate' Stryd Keppoch Y Rhath Caerdydd CF24 3JW 0300 323 1250
Campws Llambed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Campws Llambed Ceredigion SA48 7ED +44 (0)1570 422351
Wales International Academy of Voice (WIAV) 42 The Parade Y Rhath Caerdydd CF24 3AD +44 (0)29 2049 3139
Mapiau lleoliad a chyfarwyddiadau Am gyfarwyddiadau manwl a gwybodaeth ar deithio i’n campysau, ewch i: www.ydds.ac.uk/cy/lleoliad
Llambed Caerfyrddin Abertawe Caerdydd
Campysau Abertawe Cyfeiriad ar gyfer gohebiaeth: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Tecniwm 1 Heol Y Brenin Abertawe SA1 8PH Adeilad Dinefwr: SA1 3EU Ysgol Fusnes Abertawe: SA1 1NE Glannau Abertawe SA1: SA1 8AL +44 (0)1792 481000 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
AstudioYDDS
Pan fyddwch yn cadw lle ar Ddiwrnod Agored, byddwn yn anfon gwybodaeth atoch i’ch helpu i gynllunio’ch ymweliad a bydd hyn yn cynnwys manylion teithio.
Rhif ffôn derbyniadau/cofrestrfa Abertawe, Caerfyrddin a Llambed:
0300 500 5054 Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch:
gwybodaeth@ydds.ac.uk
y_drindod_dewi_sant
SNAPUWTSD
397
ad i t l l y s y c ch mewn
Cadw
n a f e w g ’n i h ewc cy / k u . c a . s d www.yd h ddiweddaraf aet am y wybod ein cyrsiau am
Cadwch le ar ein Diwrnod Agored nesaf: ewch at www.ydds.ac.uk/cy/ymweld ffoniwch 0300 500 5054 e-bost gwybodaeth@ydds.ac.uk
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant AstudioYDDS
SNAPUWTSD
y_drindod_dewi_sant