Cymorth i Oroesi Campws Caerfyrddin
Staff Gwasanaethau Myfyrwyr Campws Caerfyrddin - Canolfan Myddfai Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr Dai Rogers 01267 676677 d.rogers@ydds.ac.uk
Cynorthwydd Gweinyddol GO Wales Huw Thomas 01267 676768 d.h.thomas@ydds.ac.uk
Cynorthwydd Gweinyddol
Swyddog Gweinyddu LMA a Swyddog Lleoli GO Wales
Meriel Davies 01267 676659 m.davies@ydds.ac.uk
Helen Davies 01267 676822 h.e.davies@ydds.ac.uk
Derbynnydd / Cynorthwydd Gweinyddol
Uwch Gyd-lynydd Cymorth Dysgu
Rosemarie James 01267 676830 gwasanaethaumyfyrwyr@ydds.ac.uk
Clare Scott 01267 676735 c.scott@ydds.ac.uk
Ymgynghorydd Iechyd Meddwl Swyddogion Llety David Doyle 01267 676714 d.doyle@ydds.ac.uk Naomi Hale 01267 676819 n.hale@ydds.ac.uk
Gillian Edwards 01267 676830 g.edwards@ydds.ac.uk
Uwch-Gynghorwr Myfyrwyr Jean Harris 01267 676732 j.harris@ydds.ac.uk
Uwch-Ymgynghorydd Gyrfaoedd Nesta James 01267 676829 n.james@ydds.ac.uk
Cynghorwr Myfyrwyr Myfanwy Williams 01267 676917 m.e.williams@ydds.ac.uk
Swyddog Lleoli GO Wales Elin Morgan 01267 676820 e.morgan@ydds.ac.uk
Swyddog Cyllid Myfyrwyr Delyth Lewis 01267 676947 d.lewis@ydds.ac.uk
Swyddog Hyffordiant a Datblygu Graddedigion Liane Davies 01267 676919 liane.davies@ydds.ac.uk
Swyddog Hyfforddi a Datblygu Graddedigion Steven Evans 01267 676769 s.evans@ydds.ac.uk
Oriau Agor: Llun - Iau 9.00yb - 5.00yh Gwener 9.00yb - 4.30yh Oriau eraill ar gael trwy drefniant
2
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
Cynnwys Gwasanaethau Cymorth Arlwyo . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .5
polisiau a Gweithdrefnau’r Brifysgol . . . . . . . . . . . . . . . .37
Canolfan Adnoddau Dysgu . . . . . . . . . . . . . .6
Credoau Crefyddol . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .37
Canolfan Chwaraeon . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .7
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth . . . . . . . . . . .37
Caplaniaeth . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .8
Cyfrinachedd . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 37
Cofrestrfa . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .9
Cyffuriau a Sylweddau Anghyfreithlon
Cyllid . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .14
eraill . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .37
Gwasanaethau Gwybodaeth . . . . . . . . . . . .15
Gweithdrefnau Cwyno . . . . . . . . . . . . . . . . . .38
- Y Ddesg Gymorth . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .15
Polisi Ysmygu . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .38
- Llungopïo . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .18
Polisi Dwyieithog . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .39
Gwasanaethau Myfyrwyr . . . . . . . . . . . . . . .19
Tiwtoriaid Personol . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .39
- Llety . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .19
Ymddygiad a Chynnydd Myfyrwyr . . . . . .40
- Cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr . . . . . . . .22
Siarter y Myfyrwyr . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .41
- Cymorth Dysgu . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .24
Myfyrwyr ac Ansawdd . . . . . . . . . . . . . . . . . .41
- Cymorth Astudio . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .25
Rheoliadau’r Brifysgol: Canllaw i fyfyrwyr
- Cymorth i fyfyrwyr sydd wedi gadael
2012/13 . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .46
gofal . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .25 - Cymorth i fyfyrwyr anabl . . . . . . . . . . . . .26
Undeb y Myfyrwyr . . . . . .47
- Gwasanaeth Cwnsela . . . . . . . . . . . . . . . . .29
Undeb y Myfyrwyr
- Gwasanaeth Gyrfaoedd a GO Wales . . .30
Nawdd Nos
- Cynlluniau Datblygu Proffesiynol (CDP) 30 Llysgenhadon Myfyrwyr . . . . . . . . . . . . . . . .31
Gwasanawthau Lleol . . . .49
Meithrinfa – Y Gamfa Wen . . . . . . . . . . . . . .32
Banciau a Thyllau Arian
Siop . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .32
Gwasanaethau Meddygol
Swyddfa Ryngwladol . . . . . . . . . . . . . . . . . . .33
Trafnidiaeth gyhoeddus
Swyddfa Ymchwil a Datblygu . . . . . . . . . . .34 Ystadau a Chyfleusterau . . . . . . . . . . . . . . . .35
Cysylltiadau Defnyddiol .51
- Y Ddesg Gymorth . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .36 - Porthorion a Diogelwch . . . . . . . . . . . . . .36
Map o’r Campws . . . . . . . .52
- Post . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .36 Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gwneud pob ymdrech i ddarparu’r cyfleusterau a’r gwasanaethau a amlinellir yn y Llyfryn yma. Mae’r wybodaeth yn gywir ar adeg argraffu. Ewch ar wefan y Brifysgol am wybodaeth diweddaraf.
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
3
Croeso’r Is-Ganghellor Croeso i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, campws Caerfyrddin. Os ydych yn fyfyriwr am y tro cyntaf, neu’n newydd i’r Brifysgol o sefydliad arall, diben y llawlyfr hwn yw rhoi gwybod i chi am y gwasanaethau fydd ar gael yn ystod eich cyfnod yn astudio yma. Rydym ni ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ymfalchïo yn ein traddodiad o ddarparu cefnogaeth anffurfiol gyfeillgar, ond yn ogystal mae gennym amrywiaeth o wasanaethau ffurfiol ar gael i’r holl fyfyrwyr. Mae’r llawlyfr hwn yn darparu gwybodaeth am y nifer o wasanaethau sydd ar gael. Ar ran pawb yn y Brifysgol, hoffwn ddymuno cyfnod llwyddiannus a hapus i chi yma.
Yr Athro Medwin Hughes DL DPhil DPS FRSA Is-Ganghellor
4
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
Arlwyo - Canolfan Halliwell Mae gan Y Brifysgol dri safle arlwyo ar gampws Caerfyrddin: Bwyty’r Merlin, Y Cwad a Bar Byrbrydau’r Undeb sy’n darparu amrywiaeth o fwydydd ffres, maethlon am bris resymol. Merlin
Y Cwad
Union Snack Bar
yn gweini prif brydau wedi‘u paratoi’n ffres
yn gweini coffi Starbucks, a bwydydd ysgafn ffres
yn gweini byrbrydau bwydydd ‘cyflym’ wedi’u paratoi’n ffres
Ar agor
Ar agor
Ar agor
Llun-Gwe 8.30am-2pm & 4.30pm-6pm Sadwrn 11am-2pm Sul 12pm-2pm
Llun-Gwe 9am-4.30pm
Llun-Gwe 11am-2pm
Bydd oriau agor estynedig yn cael ei hysbysu ar Moodle/hysbysfyrddau hysbys ar hyd y campws.
Cytundebau Arlwyo Dylai myfyrwyr ar Gytundebau Arlwyo fod wedi derbyn llythyr yn esbonio’r trefniadau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Janine Lewis-Screen, Rheolwraig Arlwyo ar 07767 842 737, cysylltwch drwy ebost: halliwell@ydds.ac.uk neu mae croeso i chi alw i mewn i Swyddfa’r Halliwell!
Cyfleoedd Swyddi Canolfan Halliwell -angen staff rhan amser. Mae’r Halliwell yn chwilio am unigolion i gynorthwyo’r staff arlwyo. Cysylltwch drwy neges destun neu alwad ffôn i Janine ar 07767 842 737 neu j.lewis.screen@tsd.ac.uk
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
5
Canolfan Adnoddau Dysgu (CAD) Mae’r GAD yn cynnig digonedd o wybodaeth i’ch helpu gyda’ch astudiaethau. Ar gampws Caerfyrddin, mae’r Cwad a’r Llyfrgell yn darparu yn darparu adnoddau dysgu, ardaloedd astudio tawel a chymdeithasol, benthyciadau gliniaduron ac adnoddau printio a llungopïo. Yn ogystal, mae’r Cwad yn cynnwys caffi, siop y Brifysgol a man pwrpasol ar gyfer cyflwyno aseiniadau brintiedig a thrwy’r Rhyngrwyd. Mae yna hefyd fan astudio tawel yn adeilad Carwyn James. • casgliad cynhwysfawr o gronfeydd data a llyfrau electronig (e-lyfrau) • adnoddau aml-gyfrwng • llyfrau gwe, cyfrifiaduron glin, camerâu digidol, chwaraewyr DVD cludadwy a chyfarpar arall • casgliad o arteffactau a llyfrau plant i gefnogi cyrsiau ymarfer dysgu a chyffelyb • llungopïo, argraffu a sganio • adnoddau TG • cysylltiad a’r we • Offer Smartview, DAISY, chwyddwydrau darllen ac offer arall ar gyfer myfyrwyr ag anghenion ychwanegol. • peiriannau hunan-wasanaeth ar gyfer benthyg, adnewyddu a dychwelyd adnoddau.
Llythrennedd Gwybodaeth Mae pob myfyriwr newydd yn cael cyflwyniad i’r Ganolfan Adnoddau Dysgu, sy’n cynnwys sut i ddod o hyd i eitemau ar y catalog a defnyddio ein cyfleusterau benthyca hunanwasanaeth. Mae ein sesiynau cyflwyno hefyd yn ymwneud â defnyddio adnoddau ar y We yn effeithiol. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau ymgynghori un i un neu grŵp i’ch helpu i wneud y defnydd gorau o adnoddau’r GAD, sy’n amrywio o chwiliadau am lyfrau, cronfeydd data a chyfnodolion electronig, i ddefnyddio’r Rhyngrwyd a darganfod gwefannau o safon yn ymwneud â’ch pwnc. I drefnu ymgynghoriad, e-bostiwch cad@ydds.ac.uk, ffoniwch 01267 676780 neu dewch i’r Llyfrgell neu’r Cwad.
Staff Mae tîm staff y Ganolfan wedi’u hyfforddi yn y defnydd o dechnoleg gwybodaeth a gofal cwsmeriaid. Mae’r staff i gyd bob amser yn barod i’ch helpu i ddod o hyd i wybodaeth a fydd yn eich cynorthwyo i lwyddo yn eich astudiaethau. Am gymorth wrth ddefnyddio ein adnoddau neu’n gwasanaethau, cysylltwch â ni: cad@ydds.ac.uk neu cysylltwch â’r CAD ar gampws Caerfyrddin drwy ffonio 01267 676780
Oriau agor adeg tymor Mae’r Llyfrgell a’r CAD ar agor am oriau estynedig yn ystod y tymor, gan gynnwys nosweithiau a phenwythnosau i gefnogi dysgu hyblyg. Yr ydym yn adolygu’r oriau agor ar hyn o bryd ond mi gewch hyd i’r wybodaeth diweddara ar ein gwefan: http://cad.ydds.ac.uk/cy/cad/oriauagor. Yn ystod gwyliau’r Brifysgol mae’r GAD fel arfer ar agor yn ystod oriau’r swyddfa, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
6
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
Canolfan Chwaraeon Oriau Agor: Llun – Gwe 07.00yb – 9.00yh Sad & Sul 10.00yb – 1.00yh rhif ffôn: 01267 676942 e-bost: sportscentre@ydds.ac.uk Mae’r cyfleusterau’n cynnwys ystafell ffitrwydd o’r radd flaenaf, gydag offer cardiofasgwlaidd a pheiriannau ardderchog i gynyddu nerth, a neuadd chwaraeon amlbwrpas sy’n eich galluogi i ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys tenis, badminton, tenis bwrdd, pêldroed 5-bob-ochr, pêl-fasged, hoci, pêl-rwyd a phêl foli. Mae cyfleusterau newid ardderchog ar gael at ddefnydd yr holl aelodau ac mae’r Ganolfan Chwaraeon hefyd yn gallu darparu mynediad ar gyfer pobl ag anableddau. Ychwanegwyd Wal Ddringo Dan Do i’r Ganolfan yn ddiweddar. Mae nifer o opsiynau Aelodaeth yn cael eu cynnig gan Ganolfan Chwaraeon campws Caerfyrddin, gan gynnwys opsiynau blynyddol, misol neu ‘talu wrth fynd’, yn ogystal ag Aelodaeth Ragarweiniol (ar gael yn ystod eich mis cyntaf yn y Brifysgol yn unig). Penodir amserau arbennig yn ystod y dydd i fyfyrwyr ddod i ‘chwarae’ a chael tro ar amrywiaeth o weithgareddau, yn ogystal â chyfle i dimau chwaraeon a chymdeithasau’r Brifysgol elwa ar y cyfleusterau. At hyn, mae gan y Brifysgol bwll nofio a maes chwarae bob tywydd.
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
7
Caplaniaeth Mae’r Caplan ar gampws Caerfyrddin, y Parchg Ainsley Griffiths yn offeiriad Anglicanaidd ac mae ef ar gael ar gyfer holl aelodau’r Brifysgol, beth bynnag yw eu ffydd, gan gynnig arweiniad cyfrinachol, bugeiliol ac ysbrydol dwyieithog. Fe welwch chi fe yn yr Halliwell neu’r Undeb amser cinio, neu â’i wynt yn ei ddwrn yn yr ystafell ffitrwydd! Mae croeso i chi alw draw i’w swyddfa am sgwrs a phaned, neu i gysylltu ag ef drwy unrhyw un o’r dulliau isod.
Caplan: parchg Ainsley Griffiths Lleoliad: Adeilad Carwyn James rhif ffôn: 01267 676707 ffôn symudol: 07946 036936 e-bost: ainsley.griffiths@ydds.ac.uk
Lleoliad y Capel Mae’r Capel yng nghanol y campws, gyda’r brif fynedfa gyferbyn â’r Cwad yn yr Hen Goleg.
Addoliad O fewn sefydliad Cristnogol fel y Brifysgol, mae addoliad rheolaidd ar y campws yn elfen bwysig o’n bywyd cyffredin. Dyma’r patrwm mewn wythnos arferol: Dydd Sul Dydd Llun Dydd Iau Dydd Gwener
11.00yb 3.15yp 12.15yp 12.15yp
Cymun Bendigaid (gyda choffi a chacennau i ddilyn) Lectio Divina: Gweddi fyfyriol ar yr Ysgrythur Cymun Bendigaid Gweddi Canol Dydd
Bydd yr amseroedd addoli yn ystod yr Wythnos Gofrestru ychydig yn wahanol. Gweler y ddogfennaeth a anfonwyd gan y Gofrestra, hysbysfwrdd y Gaplaniaeth a gwefan y Brifysgol am y manylion llawn. Cynhelir gweithgareddau arbennig eraill yn ystod yr wythnos yn ogystal. Mae croeso cynnes i chi ymuno â ni ar gyfer unrhyw rai o’r gwasanaethau hyn neu weithgareddau eraill y Capel. Cynhelir gwasanaethau arbennig i ddathlu’r tymhorau gwahanol (ee, Adfent, Nadolig, Grawys, Pasg, Pentecost) ac achlysuron eraill (e.e. Dydd Gŵyl Dewi, Graddio). Fel arfer mae’r Capel ar agor yn ystod y dydd ac yn cynnig lle llonydd a hardd i weddïo, myfyrio neu ymdawelu.
Cyfarfodydd eraill O dro i dro rydym yn dangos ac yn trafod ffilmiau cyfoes sydd â neges bwerus a hefyd yn rhedeg sesiynau sy’n cynnig cyfle i ddysgu mwy am hanfodion y Ffydd Gristnogol. Cewch weld rhaglen digwyddiadau’r wythnos ar www.ydds.ac.uk/cy/caplaniaeth. Ceir nifer o eglwysi o enwadau gwahanol yn y dref, yn ogystal ag amryw fannau addoli eraill. Gellir cael taflen wybodaeth yn cynnwys manylion y rhain o swyddfa Gwasanaethau Myfyrwyr.
8
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
Cofrestrfa Lleoliad: Llawr cyntaf Adeilad Dewi (2 ar y map) Oriau Agor: Llun - Gwe 9.30yb - 12.30yh & 2.00yh - 4.30yh rhif ffôn: 01267 676716 e-bost: cofrestrfa@ydds.ac.uk Uwch Aelod Staff - Mrs elin M Bishop - Dirprwy Cofrestrydd Y mae’r Gofrestrfa yn gyfrifol am ddelio â materion academaidd myfyrwyr o’r cyfnod pan wneir cais hyd nes daw’n amser graddio. Mae’n ymwneud â materion megis cofrestru myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, trefniadau ar gyfer arholiadau a Byrddau Arholi, prosesu llythyron canlyniadau a thrawsgrifiadau a threfniadau’r Seremonîau Graddio. Os penderfynwch newid eich Rhaglen Astudio neu fodwl, gohirio eich astudiaethau neu ymadael â’r Brifysgol , dylech gasglu’r ffurflen briodol o’r Gofrestrfa neu ei lawr lwytho oddi ar Fewnrwyd y Brifysgol a’i dychwelyd i’r Gofrestrfa wedi ichi ei chwblhau. Mae hefyd yn hanfodol bod myfyrwyr yn hysbysu’r Gofrestrfa o unrhyw newidiadau i’w hamgylchiadau personol megis statws priodasol, enw, cyfeiriad tymor/cartref neu rifau ffôn.
Cofrestru Mae’n angenrheidiol i bob myfyriwr yn y Brifysgol gofrestru. Dyma fan cychwyn pob blwyddyn academaidd lle mae staff y Gofrestrfa’n cwrdd â phob myfyriwr unigol i sicrhau bod y wybodaeth berthnasol am yr unigolyn hwnnw wedi’i derbyn a’i chofnodi yn y brif swyddfa. Yn ystod y drefn gofrestru, mae’n rhaid i’r holl las fyfyrwyr ddangos rhai tystysgrifau penodol er mwyn gallu bod yn fyfyrwyr swyddogol yn y Brifysgol. Mae rhestr o’r ddogfennaeth sydd ei hangen wedi ei chynnwys gyda’r trefniadau dechrau tymor. Yn achos dogfennau megis tystysgrifau geni, disgwylir i’r myfyrwyr ddangos y copi gwreiddiol ynghyd â llungopi. Archwilir y copîau gwreiddiol yn fanwl i sicrhau eu bod yn ddilys a bydd y Brifysgol yn cadw’r llungopîau ac yn eu rhoi yng nghofnod y myfyriwr. Os na lwydda myfyriwr i ddangos unrhyw rai o’r dogfennau a nodir, bydd hynny’n golygu oedi yn y drefn gofrestru yn ogystal ag oedi o ran materion eraill, megis trosglwyddo benthyciadau o’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Ni ellir rhoi Tystysgrif Cofrestru i unrhyw un sydd heb gwblhau’r drefn gofrestru. Ni chaniateir i’r myfyrwyr hynny gasglu Grantiau Myfyrwyr na defnyddio’r cyfleusterau Llyfrgell na TG heb Dystysgrif Gofrestru ddilys.
tystysgrifau Coll Rhaid i unrhyw fyfyriwr sydd wedi colli ei Dystysgrif Geni wreiddiol, neu Dystysgrif Priodas, gael copi newydd trwy gysylltu â’r Office of National Statistics, PO Box 2, Southport, Merseyside, PR8 2JD. Rhif ffôn: 0151 471 4200. Rhaid i’r rheiny sy’n methu â dod o hyd i’w tystysgrifau arholiad gwreiddiol neu eu slip canlyniadau gysylltu â’r Bwrdd Arholi perthnasol er mwyn cael copi dyblyg neu lythyr i gadarnhau’r canlyniadau. Gellir cael rhifau ffôn y Byrddau Arholi trwy gysylltu â’r Gofrestrfa.
rhoi Gwybod i’r Gofrestrfa Mae’n hanfodol bwysig bod gan y Gofrestrfa Brifysgol gofnod cywir o’ch manylion personol bob amser. Mae hefyd yr un mor bwysig sicrhau eich bod wedi cofrestru ar y Rhaglen Astudio gywir ac ar y modylau cywir. Os na fyddwch yn rhoi gwybodaeth i’r Gofrestrfa am newidiadau o’r fath
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
9
yna bydd hynny’n debygol o achosi rhai os nad pob un o’r problemau canlynol: • oedi o ran cael eich benthyciad myfyriwr; • methu â sicrhau eich bod yn derbyn gwybodaeth gyffredinol; • methu â chysylltu â chi mewn argyfwng; • gwrthdaro ar eich amserlen arholiadau ac oedi o ran paratoi’r amserlen; • methu symud ymlaen i’r lefel astudio nesaf gan nad ydych wedi cwblhau digon o gredydau ar y lefel gywir; • oedi o ran graddio gan nad ydych wedi cwblhau digon o gredydau ar y lefel gywir; • y drefn weinyddu’n gweithredu’n aneffeithiol gan arwain at oedi yn y gwasanaeth a roddir i fyfyrwyr eraill. Mae blwyddyn academaidd y Brifysgol yn rhannu’n ddau semestr ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau. Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i godi tâl gweinyddol o £10 arnoch os methwch â rhoi’r wybodaeth hon, heb reswm da, erbyn diwedd ail wythnos yr addysgu ymhob semestr. Yn achos y semestr cyntaf, mae hyn yn golygu sicrhau bod eich manylion personol yn gywir, gan gynnwys eich cyfeiriad adeg tymor, a’ch bod wedi cofrestru ar y rhaglen a’r modylau cywir. Yn achos yr ail semestr, mae hyn yn golygu cadarnhau eich dewis o fodylau. • newid enw - Os penderfynwch newid eich enw trwy weithred newid enw neu drwy briodas yn ystod eich amser yn y Brifysgol, rhaid i chi gyflwyno prawf o hyn i’r Gofrestrfa. Anfonir enwau llawn myfyrwyr i Gofrestrfa’r Brifysgol yng Nghaerdydd, a nhw sy’n dosbarthu’r Dystysgrif Gradd a dderbyniwch ar ôl graddio. Os nad ydych yn ein hysbysu ni am unrhyw newid, ni allwn hysbysu’r Gofrestrfa. • newid Cyfeiriad - Cymerir y cyfeiriadau cartref o ffurflenni cais gwreiddiol y myfyrwyr. Os newidiwch eich cyfeiriad yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol, rhaid i chi hysbysu’r Gofrestrfa ar unwaith. Bydd angen ichi ddarparu eich cyfeiriad tymor ar ddechrau pob blwyddyn academaidd. Mae’n eithriadol bwysig ein bod yn cael gwybod am unrhyw newidiadau i’ch cyfeiriad tymor rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu â chi ar frys. • newid Cwrs, pwnc neu fodwl - Mae aelod penodol o staff - Cydlynydd Rhaglen - yn gyfrifol am reoli pob cwrs neu Raglen Astudio. Os penderfynwch y byddech yn hoffi newid eich rhaglen radd neu unrhyw fodwl dewisol yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol, rhaid i chi yn gyntaf gael y ffurflen briodol o’r Gofrestrfa neu oddi ar Fewnrwyd y Brifysgol. Bydd rhaid i’ch Cydlynydd Rhaglen cyfredol a’ch Cydlynydd Rhaglen newydd nodi eu caniatâd drwy arwyddo’r ffurflen. Wedyn rhaid dychwelyd y ffurflen i’r Gofrestrfa. Rhaid i chi hefyd hysbysu eich AALI o unrhyw newidiadau gan ddefnyddio’r ffurflen briodol sydd ar gael o’r Gofrestrfa. • newid Modd Astudio - Pe baech, ar ôl cofrestru, yn penderfynu newid eich modd o astudio hy, newid o astudio’n llawn-amser i ran-amser, rhaid i chi’n gyntaf gael caniatâd eich Cydlynydd Rhaglen, ac wedyn cwblhau’r ffurflen briodol sydd ar gael o’r Gofrestra neu oddi ar Fewnrwyd y Brifysgol. Yna hysbysir yr adrannau perthnasol yn y Brifysgol am y newid. Rhaid i chi hefyd hysbysu eich AALI o unrhyw newidiadau gan ddefnyddio’r ffurflen briodol a ddarperir gan y Gofrestrfa.
Dyddiadau tymhorau Os hoffech wybod dyddiadau tymhorau’r flwyddyn academaidd, gallwch gael manylion o wefan y Brifysgol neu’r Gofrestrfa. Bydd hyn yn ddefnyddiol pan fyddwch yn cwblhau ffurflenni cais am Ddyfarniadau Myfyrwyr ac ati.
10
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
Cerdyn rheilffordd Myfyrwyr Os ydych yn gwneud cais am Gerdyn Rheilffordd Myfyrwyr, rhaid i chi gael llofnod y Dirprwy Cofrestrydd a stamp swyddogol y Brifysgol.
Absenoldeb oherwydd Afiechyd Pe baech yn absennol o’r Brifysgol am dri diwrnod, rhaid i chi hysbysu eich Cydlynydd Rhaglen. Rhaid i fyfyrwyr sy’n absennol am bum diwrnod neu fwy anfon Tystysgrif Feddygol wreiddiol, yn nodi dyddiadau’r cyfnod o absenoldeb, a chedwir y dystysgrif yng nghofnod y myfyriwr. Mae’r holl fanylion am y drefn hon ar gyfer hysbysu’r Brifysgol ar gael yn ‘Rheoliadau’r Brifysgol Canllaw i Fyfyrwyr.’ Pe baech yn absennol o’r Brifysgol am unrhyw reswm arall, rhaid i chi hysbysu eich Cydlynydd Rhaglen.
Gohirio neu Adael eich rhaglen Dylai’r rheiny sy’n dymuno gadael y Brifysgol, neu ohirio eu hastudiaethau am gyfnod byr, drefnu cyfarfod â’u Cydlynydd Rhaglen a’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr. Bydd hefyd angen ichi lenwi ffurflen ‘Hysbysiad ynghylch Gadael’ neu ffurflen ‘Gohirio Astudiaeth’ yn cadarnhau eich rheswm am adael ac yn nodi eich diwrnod olaf yn y Brifysgol. Gellir cael y ffurflen briodol o’r Gofrestrfa neu oddi ar Fewnrwyd y Brifysgol. Rhaid i’r ffurflen gael ei llofnodi gan eich Cydlynydd Rhaglen a’ch Deon Cyfadran cyn i chi ei dychwelyd i’r Gofrestrfa. Unwaith y derbynnir y ffurflen hon, bydd y Gofrestrfa yn hysbysu eich Awdurdod Addysg Lleol, os yn briodol, ynghyd â’r holl adrannau perthnasol yn y Brifysgol. Rhaid i chi hefyd hysbysu eich AALI o’ch penderfyniad i ohirio eich astudiaethau neu adael eich rhaglen. Os am ymadael â’r Brifysgol, dylai myfyrwyr nodi ei fod yn hanfodol bwysig iddynt lenwi ffurflen ‘Hysbysiad ynghylch Gadael’ yn y Gofrestrfa cyn gadael y campws. Gweler eich copi o ‘Rheoliadau’r Brifysgol - Canllaw i Fyfyrwyr’ am wybodaeth a chyngor pellach.
Adroddiadau terfynol a Chyfrinachol Paratoir Adroddiad Terfynol a Chyfrinachol ar bob myfyriwr blwyddyn olaf ar ôl derbyn adroddiadau gan aelodau o staff sy’n ymwneud â’r rhaglen. Cedwir yr adroddiadau hyn yn ganolog yn y Gofrestrfa a’u hanfon allan yn enw’r Is-Ganghellor.
Ymgeisio am Swyddi Wedi i chi orffen eich rhaglen yn y Brifysgol, a gwneud cais am swyddi llawn-amser neu ranamser, rhaid i chi bob amser nodi enw’r Is-Ganghellor fel eich prif ganolwr. Mae’n bosibl y gofynnir i fyfyrwyr sy’n gwneud cais am Raglenni Gradd Uwch nodi dau ganolwr (neu fwy). Mewn achos o’r fath, gallwch enwi eich Deon Cyfadran yn ychwanegol at enw’r Is-Ganghellor. Pe baech yn ymgeisio am swydd ar gyfer y gwyliau, gallwch ddefnyddio enw tiwtor, ond dyma’r unig bryd y gallwch wneud hynny. Cofiwch ofyn am ganiatâd y tiwtor o flaen llaw.
Ymgeisio am Gwrs Hyfforddi Athrawon Cynghorir myfyrwyr sy’n dymuno ymgeisio am le ar gwrs blwyddyn Tystysgrif Addysg i Raddedigion wneud hynny cyn gynted â phosibl yn eu blwyddyn olaf. Mae’r cyrsiau arbennig hyn yn eithriadol o boblogaidd ac mae’r nifer o lefydd sydd ar gael yn gyfyngedig iawn. Mae ffurflenni cais y Graduate Teacher Training Registry (GTTR) ar gael ar wefan y GTTR, www.gttr.ac.uk
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
11
COfreStrU - CWeStIYnAU CYffreDIn
Bwriedir i’r adran hon ateb nifer o’r cwestiynau sy’n codi’n aml yn ystod y broses gofrestru.
12
Beth petai’r Manylion rhaglen yn Adran 1 y ffurflen Cofrestru Myfyriwr yn anghywir? Os ydych wedi cofrestru ar y rhaglen anghywir, yna bydd manylion y modylau a ddewiswyd ar y Ffurflen Cofrestru Modylau yn anghywir. Os yw hynny’n wir, bydd angen i chi ddychwelyd i’r Gofrestrfa er mwyn cywiro eich Rhaglen Astudio. Bydd y Gofrestrfa yn rhoi Ffurflen Cofrestru Modylau newydd i chi.
Beth petai fy manylion personol yn anghywir neu heb eu nodi’n llawn? Bydd angen i chi lenwi’r bylchau neu gywiro’r gwallau trwy groesi allan yr hyn sydd wedi’i argraffu ac yna ysgrifennu’r manylion cywir uwchben y gwall mewn llythrennau BRAS ac mewn inc du.
Beth os nad ydw i’n gwybod beth fydd fy nghyfeiriad tymor? Dylech adael y cyfeiriad tymor yn wag ac yna hysbysu’r Gofrestrfa unwaith y byddwch yn gwybod beth ydyw.
Beth arall fydd angen i mi gyflwyno ym mis Medi? Gan ddibynnu ar eich Rhaglen Astudio, bydd angen i chi gyflwyno nifer o ddogfennau statudol, ac mae rhestr ohonynt ar y daflen ‘Dogfennau Cofrestru’ yn eich pecyn cofrestru. Os na fyddwch yn gallu cyflwyno unrhyw rai o’r dogfennau am ryw reswm, rhowch wybod i staff y Gofrestrfa.
A fydd angen i mi gofrestru ym mis Medi? Bydd angen i chi gofrestru fel myfyriwr ar gyfer blwyddyn academaidd 2012-13 ym mis Medi. Yn ystod yr wythnos Gofrestru, trefnir cyfnod penodol i chi gasglu eich Tystysgrif Cofrestru. Bydd cyfle i chi hefyd gywiro/newid y manylion ar eich Ffurflen Cofrestru Myfyriwr, er enghraifft, trwy roi eich cyfeiriad tymor newydd.
pa bryd y derbyniaf fy Menthyciad Myfyriwr? Bydd eich benthyciad myfyriwr yn cael ei anfon yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, unwaith y bydd y Brifysgol wedi eu hysbysu eich bod wedi cofrestru. Fel rhan o’r broses gofrestru, disgwylir i chi ddangos amryw o ddogfennau statudol ac eitemau eraill, ac mae manylion am y rhain ar y daflen ‘Dogfennau Cofrestru’. Hefyd yn ystod y broses gofrestru, disgwylir i chi wneud y trefniadau angenrheidiol i dalu eich ffioedd dysgu a’ch ffioedd llety, os yw hynny’n berthnasol. Os na lwyddwch i ddangos y dogfennau priodol neu drefnu talu’r ffioedd, yna bydd hynny’n golygu oedi yn y broses gofrestru, ac oedi hefyd o ran trosglwyddo eich benthyciad gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Bydd y Brifysgol yn anfon rhestr electronig wedi’i diweddaru o’r myfyrwyr sydd wedi cwblhau’r broses gofrestru at y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn rheolaidd. Mae rhai myfyrwyr heb gyflwyno dogfennau statudol, megis tystysgrifau cymwysterau a thystysgrif geni, ac ati, o hyd, er gwaethaf ceisiadau’r Gofrestrfa iddynt wneud hynny. Ni chaniateir i chi gofrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf heb gyflwyno’r dogfennau hyn.
pwy ddylwn i gysylltu ag e/hi os oes gen i broblem? Bydd hyn yn dibynnu ar natur y broblem. Mae’r ddogfen hon yn cynnwys manylion y sawl y dylech gysylltu ag e/hi mewn sefyllfaoedd gwahanol.
Beth pe bawn yn dewis peidio â dod i’r Brifysgol? Pe baech yn penderfynu gohirio cychwyn eich cwrs, neu dynnu’n ôl yn llwyr, fe fydd angen i chi roi gwybod i’r Dirprwy Cofrestrydd yn ysgrifenedig.
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
COfreStrU - CWeStIYnAU CYffreDIn
Os byddaf yn gorfod cwblhau’r asesiad ar gyfer unrhyw fodylau yn ystod yr haf, er enghraifft, o ganlyniad i broblem feddygol, neu os byddaf yn gorfod ail-wneud yr asesiad ar gyfer unrhyw fodylau a fethwyd, pryd y caf i wybod a oes gennyf hawl i barhau â’m hastudiaethau? Bydd y cyfnod arholi’n cychwyn tua diwedd mis Awst. Bydd y Bwrdd Arholi’n ymgynnull yn gynnar ym mis Medi. Fe gewch wybod eich canlyniadau trwy lythyr yn dilyn Bwrdd Arholi mis Medi.
Beth os na allaf fod yn bresennol ar y dyddiad cofrestru? Os na allwch fod yn bresennol ar y dyddiad cofrestru, bydd angen i chi hysbysu’r Gofrestrfa.
Beth petai gwrthdaro ar yr amserlen? Ni fydd unrhyw wrthdaro o ran y modylau gorfodol. Yn achos modylau dewisol, gwneir pob ymdrech i sicrhau dewis mor eang â phosibl o fewn Rhaglen Astudio. Er hynny, efallai na fydd hi’n bosibl ym mhob achos i sicrhau na fydd yna wrthdaro, a bydd hynny o ganlyniad yn cyfyngu rhywfaint ar y dewis.
Beth pe bawn i am newid fy rhaglen Astudio? Bydd angen i chi: - gael caniatâd y Cydlynydd/Cydlynwyr Rhaglen - cwblhau Ffurflen Newid Rhaglen/Modwl sydd ar gael o’r Gofrestrfa - dychwelyd y ffurflenni i’r Gofrestrfa.
Beth pe bawn i am newid fy null Mynychu? Bydd angen i chi: - gael caniatâd y Cydlynydd Rhaglen - cwblhau Ffurflen Newid Dull Mynychu sydd ar gael o’r Gofrestrfa - dychwelyd y ffurflenni i’r Gofrestrfa
Beth pe bawn i am ohirio neu dynnu’n ôl o’m rhaglen Astudio? Bydd angen i chi: - gael caniatâd y Cydlynydd Rhaglen - cwblhau’r Ffurflen Hysbysu berthnasol sydd ar gael o’r Gofrestrfa neu ar Fewnrwyd y Brifysgol - dychwelyd y ffurflenni i’r Gofrestrfa
Beth os nad ydw i’n gallu penderfynu pa un o ddau opsiwn i astudio? Rhaid i chi gofrestru i ddechrau ar gyfer un o’r ddau fodwl. Os nad yw amserlen y ddau fodwl yn gwrthdaro, dylech fynychu dosbarthiadau’r ddau fodwl am wythnos neu ddwy cyn penderfynu. Bydd angen i chi: - gael caniatâd y Cydlynydd Rhaglen; - hysbysu tiwtoriaid y ddau fodwl o’ch bwriad i fynychu’r darlithoedd hyd nes eich bod wedi penderfynu - pe baech yn penderfynu newid i’r modwl nad ydych wedi cofrestru arno, dylech gwblhau Ffurflen Newid Modwl sydd ar gael o’r Gofrestrfa - dychwelyd y ffurflenni i’r Gofrestrfa - hysbysu’r tiwtor priodol na fyddwch yn parhau gyda’r modwl gan eich bod wedi dewis y modwl arall
Beth pe bawn yn dymuno newid fy newis o fodylau? Noder na chaniateir i fyfyrwyr fel arfer newid eu modylau ar ôl i bythefnos o’r semestr fynd heibio. Bydd angen i chi: - gael caniatâd y Cydlynydd Rhaglen - cwblhau Ffurflen Newid Modwl sydd ar gael o’r Gofrestrfa - dychwelyd y ffurflenni i’r Gofrestrfa
Beth pe bawn yn dymuno astudio modylau ychwanegol, fel mater o ddiddordeb, y tu allan i’m rhaglen Astudio? Bydd angen i chi geisio caniatâd y tiwtor priodol ac yna casglu a cchwblhau Ffurflen Cofrestru Astudiaeth Ran Amser. Gellir cael y ffurflen o’r Gofrestrfa.
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
13
Cyllid Lleoliad: Llawr cyntaf, Adeilad Dewi, ger y Gofrestrfa Oriau Agor: Llun-Gwe 10.00yb-12.00yp & 2.30yp-4.30yp Cyswllt: Swyddog Cyllid - Meinir Jones 01267 676928 Swyddog rheoli Credyd - Suliman Mansaray 01267 676704 Bydd y swyddfa ar agor yn ystod y cyfnodau uchod ar gyfer casglu sieciau AALl a sieciau’r Gronfa Ariannol wrth Gefn, talu ffioedd myfyrwyr / anfonebau ac ymholiadau cyffredinol.
ffioedd Dysgu a Grantiau AALlau Mae’r Swyddfa Gyllid, sydd wedi’i lleoli ar lawr 1af adeilad Dewi, yn ymdrin â: • Talu ffioedd dysgu a llety israddedigion ac ôlraddedigion • Dosbarthu sieciau grantiau Awdurdodau Addysg Lleol Os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu os rhagwelwch unrhyw oedi neu broblem yn ymwneud â thalu Ffioedd Dysgu neu lety dylech gysylltu â’r Swyddfa Gyllid cyn gynted ag y bo modd. Gellir gwneud taliadau i’r Brifysgol drwy siec yn daladwy i Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Gellir talu’n bersonol â chardiau credyd/debyd yn y Swyddfa Gyllid neu drwy ffonio un o’r rhifau ffôn a roddir uchod. Os ydych wedi derbyn anfoneb, mae modd i chi dalu ar-lein hefyd: www.ydds.ac.uk/cy/cyllid/e-daliadau
14
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
Gwasanaethau Gwybodaeth Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys y diweddaraf, ymwelwch â gwefan Gwasanaethau Gwybodaeth www.tsd.ac.uk/en/informationservices
Myfyrwyr newydd - Creu’ch cyfrif i gael mynediad tG Unwaith eich bod wedi cwblhau cofrestru* gofynnir i fyfyrwyr gwblhau proses ar-lein a fydd yn creu cyfrif unigol i chi gael mynediad i wasanaethau TG ac e-bost. I wneud hyn rhaid i chi fynd at https://login.tsd.ac.uk a chwblhau’r broses ar-lein**. I gael help wrth gwblhau Creu Cyfrif yn Awtomatig edrychwch ar y canllaw cam wrth gam ar ein tudalennau Cymorth a Chefnogaeth. Mae’r system hon ar gael ar y campws – drwy fewngofnodi ar unrhyw gyfrifiadur i fyfyrwyr gyda’r enw defnyddiwr ‘register’ a’r cyfrinair ‘register’ a hefyd yn allanol drwy’r wefan https://login.tsd.ac.uk Angen mynediad diwifr i gwblhau creu’ch cyfrif ar-lein? Drwy gydol y Cofrestru ar y Sul, bydd y system ddiwifr ar y campws wedi ei gosod i ofyn am gôd rhanedig yn unig i gael mynediad. Mae mwy o fanylion isod. * Sylwch y bydd rhaid i chi gwblhau cofrestru er mwyn cwblhau'r broses ar-lein. Gwnawn ein gorau i sicrhau bod y data i gyd wedi ei lwytho i’n systemau erbyn 6pm ar ddiwrnod eich cofrestru, ond efallai y bydd oedi cyn i chi allu cwblhau’r broses. **Sylwch fod rhaid i’r cyfrinair gynnwys o leiaf 8 llythyren/rhif a dim mwy na 12.
e-bost Yma yn PCYDDS mae myfyrwyr yn derbyn cyfrif e-bost Microsoft Live@edu. Bydd eich cyfeiriad e-bost yn cynnwys eich enw defnyddiwr ac wedyn @student.tsd.ac.uk ee, 0908145@student.tsd.ac.uk Cewch fynediad i’ch e-bost drwy ymweld â www.student.tsd.ac.uk neu drwy glicio ar lwybr brys Live@edu ar y bwrdd gwaith ar gyfrifiaduron myfyrwyr neu drwy glicio ar unrhyw un o'r dolenni i e-byst Myfyrwyr ar wefan PCYDDS. Fel rhan o’r cyfrif Live@edu cewch fynediad i storfa o 25GB yn y rhwydwaith cwmwl, meddalwedd Office365, yn ogystal â chyfrif e-bost 2GB. Am fwy o wybodaeth ar Live@edu ymwelwch â gwefan Gwasanaethau Gwybodaeth gan fynd i dudalennau’r canllawiau ar-lein lle mae canllawiau amrywiol gan gynnwys rhai ar greu cyfrif e-bost ar eich ffonau deallus.
Canllaw ar fewngofnodi i e-bost Live@edu Unwaith eich bod wedi cwblhau’r cyfrif awtomataidd, bellach cewch fynediad i’ch cyfrif e-bost Live@edu 1. I fewngofnodi i’ch cyfrif ewch i www.student.tsd.ac.uk 2. Rhowch eich cyfeiriad e-bost neilltuol (rhifmyfyriwr@student.tsd.ac.uk) i mewn i’r Windows Live ID 3. Rhowch eich cyfrinair yn y blwch cyfrinair 4. Ar y dudalen nesaf gofynnir i chi ddewis eich iaith a’ch cylchfa amser, dewiswch yr iaith briodol a (GMT-0:00) GMT fel eich cylchfa amser a chliciwch OK.
U n I v e r S I t Y O f WA L e S t r I n I t Y S A I n t D Av I D • S U r v I vA L G U I D e
15
16
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
Mae gwybodaeth bellach, gan gynnwys canllawiau cynhwysfawr ar Live@edu, ar gael ar dudalennau gwe Gwasanaethau Gwybodaeth www.tsd.ac.uk/en/informationservices
Mynediad Diwifr Rydym yn y broses o ddiweddaru’n rhwydwaith diwifr i gyd ac amcangyfrifir y bydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn diwedd 2012. Wrth i’r gwaith barhau ar y rhwydwaith diwifr, efallai y bydd newidiadau yn y ffordd y bydd Myfyrwyr yn cysylltu â’r rhwydwaith. Am y wybodaeth ddiweddaraf: www.tsd.ac.uk/en/informationservices
Campusnet - Dyma’r rhwydwaith diwifr presennol i Fyfyrwyr ei ddefnyddio ar draws y campysau i gyd. I gael mynediad i’r rhwydwaith diwifr dewiswch ‘CampusNet’ ac fe gewch eich annog i roi Allwedd i mewn. Y côd rhanedig yw: redwhitegreen Unwaith bod hyn wedi ei roi i mewn yn gywir, gofynnir i chi roi’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair* i mewn wrth i chi agor porwr gwe i gwblhau mynediad. * Sylwch mai dim ond y côd rhanedig y bydd ei angen i gael mynediad i’r rhwydwaith diwifr CampusNet yn ystod Sul y Cofrestru. Bydd hyn yn caniatáu i fyfyrwyr newydd ddefnyddio'r rhwydwaith diwifr er mwyn creu eu cyfrifon i gael mynediad TG. O 24 Medi bydd angen y côd rhanedig a’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair yn y Brifysgol i gael mynediad i'r rhwydwaith diwifr.
Mynediad mewn neuaddau Gwifrog I gael mynediad i’r we ar eich gliniadur neu gyfrifiadur personol yn eich neuadd breswyl, plygiwch i mewn y cebl rhwydwaith a oedd yn eich ystafell pan gyrhaeddoch chi. Agorwch borwr gwe a gofynnir i chi roi'ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair i mewn i fynd ymlaen. Mewn ystafelloedd sy'n cael eu rhannu lle mae un pwynt rhwydwaith gwifrog yn unig – defnyddiwch y rhwydwaith diwifr a ddisgrifir uchod os gwelwch yn dda. Os hoffech gysylltu’ch consol gemau â’r rhwydwaith gwifrog bydd rhaid i chi gysylltu â’r Ddesg Gymorth (itsd@tsd.ac.uk) gan roi’ch Enw, Rhif Myfyriwr a chyfeiriad Mac eich consol gemau i gael mynediad. Unwaith bod hyn wedi’i gadarnhau, plygiwch eich cebl Ethernet i’r man data sefydlog yn yr ystafell.
Cardiau Myfyrwyr Sylwch y bydd Cardiau Myfyrwyr i fyfyrwyr newydd yn cael eu gwneud yn ystod yr wythnos gynefino ar ddyddiau ac mewn lleoliadau penodedig. Edrychwch ar eich amserlen gynefino am fanylion sy’n nodi pryd a ble y bydd hyn yn digwydd. Yn achos myfyrwyr sydd wedi colli eu Cerdyn Adnabod Myfyriwr, ewch i un o’r lleoliadau isod ar hyd y flwyddyn academaidd i gael cerdyn arall wedi ei wneud os gwelwch yn dda. Caerfyrddin – prif Lyfrgell, Llambed – prif Lyfrgell
U n I v e r S I t Y O f WA L e S t r I n I t Y S A I n t D Av I D • S U r v I vA L G U I D e
17
Argraffu/Copïo/Sganio
Costau
Ar draws y campysau i gyd cewch Argraffu, Copïo a Sganio (i e-bost a chof bach) drwy’r gwahanol Ddyfeisiau Amlswyddogaeth (MFDs). Rydym yn defnyddio Papercut fel system reoli argraffu ac mae’r MFDs wedi eu gosod fel y gallwch ddefnyddio’ch Cerdyn Myfyriwr i gael mynediad i gyfleusterau argraffu. Mae canllawiau llawn ar sut i ddefnyddio’r MFDs ar www.tsd.ac.uk/en/currentstudents/ itservices/printingscanningcopying ond ceir crynodeb byr isod:
Maint
Un ochr
Dwy ochr
A4
5c
8c
A3
10c
16c
A4
30c
48c
A3
60c
96c
Du a Gwyn
Lliw
Sylwer: Cewch gofrestru fel gwestai, gwirio faint sy’n weddill, gwirio gwaith diweddar a gwneud tasgau gweinyddol eraill drwy https://papercut.tsd.ac.uk:9192
Argraffu Wrth fewngofnodi, fe gysylltir Myfyrwyr yn awtomatig â’r ddau gwt argraffu i fyfyrwyr. Y rhain yw: • Konica_DG_BW – Yr argraffydd rhagosodedig sydd wedi’i osod ar gyfer argraffu dwplecs a D/G. Wrth argraffu mewn D/G, dylid anfon gwaith i’w argraffu i’r cwt hwn. • Konica_lliw_Colour – Yr argraffydd eilaidd sydd hefyd wedi’i osod ar gyfer argraffu dwplecs a gallwch ddewis argraffu mewn lliw. Wrth argraffu mewn lliw, dylid anfon gwaith i’w argraffu i’r cwt hwn a dylid eu rhyddhau drwy MFD Lliw. Sylwer: Mae’r argraffyddion i Fyfyrwyr wedi eu gosod i argraffu dwplecs – bydd rhaid i chi newid hyn i un ochrog ar ‘properties’ yr argraffydd i argraffu un ochr ar bob tudalen.
Ychwanegu Credyd Gellir gwneud hyn fel a ganlyn: • Caerfyrddin – Prynu credyd o’r Siop neu o fan gwybodaeth y Llyfrgell
Lleoliadau Mae’r peiriannau MFD i fyfyrwyr yn y lleoliadau isod: • Llyfrgell Caerfyrddin (1 x Lliw & 1 x D/G) • Llawr gwaelod Adeilad Dewi, Caerfyrddin (1x Lliw) • Cwad Caerfyrddin (1 x Lliw)
Labordai tG Mae gennym nifer o Labordai TG i Fyfyrwyr ar draws ein tri champws sy’n rhedeg Windows 7 gydag Office 2010. - D003 Adeilad Dewi 20 cyfrifiadur (mynediad 24awr, drwy’r porthorion ar ôl hanner nos) - D004 Adeilad Dewi 20 cyfrifiadur (mynediad 24awr, drwy’r porthorion ar ôl hanner nos)
18
Cymorth Os bydd gennych unrhyw faterion sy’n ymwneud â TG cewch gysylltu â Desg Gymorth TG : itservicedesk@tsd.ac.uk 0300 500 5055 Mae’n gwefan hefyd yn cynnwys nifer o gwestiynau a ofynnir yn aml, canllawiau a gwybodaeth i'ch helpu www.tsd.ac.uk/en/informationservices Fel arall, cewch ymweld â ni: Caerfyrddin - L009 - O’r Cwad, allanfa’r Llyfrgell, i lawr y ramp Oriau agor Llun-Iau 08:45-17:00 Gwener 08:45-16:30
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
Gwasanaethau Myfyrwyr Lleoliad: Canolfan Myddfai Oriau Agor: Llun – Iau 9.00b – 5.00yh Gwener 9.00yb – 4.30yh ffôn: 01267 676830 ffacs: 01267 676825 Mae Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnig ‘siop un stop’ gyda gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i bob myfyriwr. Os oes gennych ymholiad cyffredinol, problem benodol neu os hoffech sgwrs am rywbeth, mae Derbynfa Gwasanaethau Myfyrwyr yn lle da i ddechrau. Cewch gyfarchiad cyfeillgar a chlust i wrando yn ogystal â’r wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnoch. Darperir taflenni gwybodaeth ar amrywiaeth eang o destunau, yn ogystal â chyngor cyffredinol. Os na ellir trafod eich ymholiad ar unwaith, gwneir apwyntiad i chi weld un o’n tîm o gynghorwyr arbenigol sy’n cynnig gwasanaeth proffesiynol a chyfrinachol. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth cyfeirio; felly os na allwn ni roi’r cymorth sydd ei angen arnoch, fe ddown ni o hyd i rywun fydd yn gallu.
Llety Lleoliad: Gwasanaethau Myfyrwyr, Canolfan Myddfai David Doyle ffôn: 01267 676714 e-bost: d.doyle@ydds.ac.uk naomi Hale ffôn: 01267 676819 e-bost: n.hale@tsd.ac.uk Y Swyddfa Lety sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol am bob neuadd breswyl yn y Brifysgol, ac eto, os byddwch yn byw mewn llety o eiddo’r Brifysgol, staff yr Adran Ystadau fydd yn delio â mwyafrif eich ymholiadau a’ch problemau o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, bydd angen i chi ymweld â’r Swyddfa Lety os byddwch am:
• newid ystafell o fewn y neuaddau preswyl - Dylai myfyrwyr sy’n aros i newid ystafell neu drosglwyddo i neuadd breswyl arall ddeall, yn enwedig yn ystod y tymor cyntaf, y gallai hyn gymryd cryn amser. Mae pob neuadd breswyl yn llawn ar ddechrau sesiwn ac ni ellir ailddyrannu ystafelloedd nes bod rhywun yn gadael. Gellir codi ffi trosglwyddo, gan ddibynnu ar y neuadd breswyl/neuaddau preswyl dan sylw, y rheswm dros drosglwyddo a’r amseru.
• Gadael y Brifysgol - Disgwylir i fyfyrwyr sy’n penderfynu gadael y Brifysgol neu ohirio eu hastudiaethau symud allan o’u neuadd breswyl o fewn cyfnod derbyniol o amser, gan amlaf 3 wythnos. Mae’n rhaid i fyfyrwyr o’r fath hysbysu’r Swyddfa Lety ar unwaith fel y gellir cytuno ar y trefniadau priodol i roi terfyn ar y denantiaeth. Bydd myfyrwyr sy’n methu â gwneud trefniadau priodol yn canfod bod rhent yn ddyledus ar ôl y dyddiad gadael a gytunwyd yn wreiddiol.
• Gadael neuadd Breswyl - Mae’n rhaid i fyfyrwyr dalu am eu llety dros gyfnod llawn eu contract yn y Neuadd Breswyl, fel arfer 38 wythnos. Ni ellir rhyddhau myfyrwyr o’u contract ac eithrio mewn amgylchiadau neilltuol iawn. Os caniateir i fyfyriwr gael ei ryddhau o’r contract, disgwylir iddo fel arfer ddynodi myfyriwr arall i gymryd ei le. Ceidw’r Brifysgol yr hawl i benderfynu a yw’r myfyriwr arall yn dderbyniol. Dylid trafod unrhyw faterion yn ymwneud â chytundebau preswyl gyda’r Swyddog Llety yn gyntaf. Dylech gysylltu â’r Swyddog Llety hefyd os bydd gennych unrhyw broblemau sy’n gysylltiedig â’ch neuadd breswyl nad ydych wedi llwyddo i’w datrys yn rhywle arall. Hysbysiad Cyfreithiol: Noder NA chaniateir i unrhyw un YSMYGU o fewn Neuadd Breswyl neu unrhyw adeilad arall yn y Brifysgol, nac o fewn 10 metr i bob adeilad.
U n I v e r S I t Y O f WA L e S t r I n I t Y S A I n t D Av I D • S U r v I vA L G U I D e
19
talu ffioedd neuaddau preswyl Bydd y Swyddfa Gyllid yn anfon anfonebau ar gyfer ffioedd neuaddau preswyl at fyfyrwyr fesul tymor. Bydd y mwyafrif o fyfyrwyr yn talu ffioedd eu neuaddau preswyl drwy siec, er bod y Brifysgol hefyd yn derbyn cardiau Credyd / Debyd, ac anfonir anfoneb fel cadarnhad o’r swm sy’n ddyledus. Dylai myfyrwyr dalu’r anfoneb yn y Swyddfa Gyllid (Llawr 1af, Adeilad Dewi) erbyn y dyddiad a nodir ar yr anfoneb. Codir ffi o £25 am dalu’n hwyr os telir ar ôl y dyddiad hwnnw. Yn ystod 2012/13 fe fydd y Brifysgol yn cyflwyno cyfleuster a fydd yn caniatau i fyfyrwyr dalu ar-lein. Os byddwch yn cael trafferth i dalu ffioedd eich neuadd breswyl dylech gysylltu â’r Swyddfa Gyllid cyn y dyddiad y mae’r taliad yn ddyledus. Mae’n well i chi fynd yn bersonol, a dod â’ch anfoneb gyda chi, ond os nad yw hyn yn bosibl ffoniwch 01267 676704.
rheoliadau preswylio’r Brifysgol 2012/13 Bydd pob myfyriwr sy’n preswylio yn llety’r Brifysgol wedi arwyddo Contract rhwymol gyda’r Brifysgol. Sicrhewch eich bod yn darllen yr adran Rheoliadau o fewn y Contract hwnnw. Er mwyn sicrhau bod byw yn y Neuaddau Preswyl yn brofiad pleserus, mae’n rhaid i bob Preswylydd ystyried lles eu cymdogion a’u cyd breswylwyr. Yn anochel golyga hyn rai cyfyngiadau ar ryddid personol fel sy’n angenrheidiol ymhlith unrhyw gr.p o bobl yn byw gyda’i gilydd ac yn rhannu cyfleusterau cyffredin. Bydd pob Preswylydd yn gyfrifol am ad-dalu i’r Brifysgol y gost resymol o atgyweirio unrhyw ddifrod a achosir i’r Llety neu’r Adeiladau yn ystod Cyfnod y Drwydded (ac eithrio yn sgil traul arferol), ar yr amod bod y fath ddifrod wedi cael ei achosi ganddynt hwy neu o ganlyniad i’w hesgeulustod. Y Swyddog Llety sy’n gyfrifol am hysbysu’r Adran Ystadau a Chyfleusterau o unrhyw ddifrod a achosir, a hysbysir y preswylydd o unrhyw gost neu ddirwy a dynnir o’u Bond Llety. Os bydd y gost yn fwy na chyfanswm y bond neu’r balans sy’n weddill, disgwylir i’r myfyriwr dalu’r swm sy’n ddyledus. Mae gan y Swyddog Llety hefyd yr awdurdod a’r cyfrifoldeb i godi dirwy am unrhyw achosion o dorri amrywiol elfennau’r Cytundeb Llety.
Wardeniaid neuaddau Mae gan y Brifysgol dîm o Wardeniaid Neuadd sy’n byw ar y campws. Myfyrwyr ydyn nhw fel chithau, wedi’u dewis a’u hyfforddi gan y Brifysgol i wasanaethu fel Wardeniaid, ac maent yn cydweithio’n agos â’r Swyddog Llety, Ystadau a Chyfleusterau a Gwasanaethau Myfyrwyr. Gallwch gysylltu â’r Warden ar Ddylestwydd drwy alw eu ffôn symudol, neu trwy alw yn eu hystafelloedd/fflatiau. Mae’r manylion cysylltu ar gael ger eich ystafell.
Universities UK a Llety Myfyrwyr Mae’r Brifysgol wedi arwyddo i gydymffurfio â Chôd Ymarfer Universities UK ar gyfer Rheoli Llety Myfyrwyr.
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
21
Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr Lleoliad: Canolfan Myddfai Swyddog Cyllid Myfyrwyr: Delyth Lewis rhif ffôn: 01267 676947 e-bost: d.lewis@tsd.ac.uk Mae cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr cymwys yn cael ei reoli gan Wasanaethau Myfyrwyr. Mae modd i ni hefyd gynnig cyngor ac arweiniad cyffredinol i bob myfyriwr ar faterion cyllid.
Ysgoloriaethau a Bwrsarïau Mae’r Brifysgol yn cynnig nifer o Ysgoloriaethau a Bwrsarïau i ddarparu cymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr. Mae modd i chi wneud cais am gymorth ar gyfer gwibdeithiau maes, cynadleddau, teithio dramor fel rhan o’ch astudiaethau, deunyddiau, llety ar y campws, darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, adnoddau’r feithrinfa ayyb. Gweler gwefan y Brifysgol am wybodaeth bellach. Mae’r ffurflenni cais i’w canfod ar wefan y Brifysgol neu drwy e-bost: ysgoloriaethau@ydds.ac.uk
Y Gronfa Ariannol wrth Gefn Mae’r gronfa hon yn rhoi cymorth ariannol (ar ffurf grantiau) i fyfyrwyr o’r Deyrnas Unedig sydd mewn trafferthion ariannol. Nid yw’n ofynnol ad-dalu’r grantiau fel arfer ac fe’u dyfernir gan ystyried pob achos yn unigol. Rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr o deuluoedd/cefndiroedd isel eu hincwm, myfyrwyr â chyfrifoldebau teuluol, rhieni sengl, myfyrwyr aeddfed a myfyrwyr ar eu blwyddyn olaf. Mae pob cais yn cael ei ystyried gan bwyllgor y Gronfa Ariannol wrth Gefn sy’n cynnwys y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr, cynrychiolydd o Adran Gyllid y Brifysgol, cynrychiolydd Undeb y Myfyrwyr a gweinyddwr y Gronfa. Gellir cael ffurflenni cais o’r uned Gwasanaethau Myfyrwyr, Undeb y Myfyrwyr neu’r Swyddfa Gyllid neu o safle Gwasanaethau Myfyrwyr ar y wefan.
Meddygon Arian Nod y gwasanaeth hwn yw rhoi cyngor diduedd i fyfyrwyr ar sut i ddelio â dyled a chynnig arweiniad ar sut i reoli’u harian. Ein prif amcan yw siarad â myfyrwyr newydd sy’n gwneud penderfyniadau a threfniadau ariannol personol am y tro cyntaf. Bydd y Meddygon Arian ar gael bob wythnos yn ystod y tymor gan ddarparu gwybodaeth ynglŷn â grantiau, benthyciadau myfyrwyr a chymorth ariannol arall y gallwch ymgeisio amdano. Gellir gwneud trefniadau hefyd i gwrdd â myfyrwyr unigol sydd angen cymorth personol gyda’u cyllidebu misol. Yn ogystal mae modd i ni drafod â banciau a chwmnïau cardiau credyd ar eich rhan, a dehongli termau sy’n anghyfarwydd i chi! E-bostiwch: moneydoctors@ydds.ac.uk
22
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
Benthyciadau Myfyrwyr a Grantiau Mae Benthyciadau Myfyrwyr ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio’n llawn-amser neu’n rhan-amser. Mae swm y benthyciad a gewch yn dibynnu ar incwm y cartref. Mae’r llog a godir ar y benthyciad yn gysylltiedig â chyfradd chwyddiant. Ni fyddwch yn dechrau ad-dalu’r benthyciad tan ar ôl i chi adael y brifysgol a bydd hynny ar raddfa resymol. Fel arfer bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) www.slc.co.uk yn talu’r benthyciad mewn tri rhandaliad. Os fyddwch yn cael unrhyw anawsterau gyda’ch Cyllid Myfyrwyr neu grantiau, mae modd i’r Swyddog Cyllid Myfyrwyr gynnig cefnogaeth ac arweiniad.
Cynllun CCAUC i Hepgor ffioedd Israddedigion rhan-amser Mae’r cynllun i hepgor ffioedd israddedigion rhan-amser yn cynnig dileu ffioedd myfyrwyr sy’n ddi-waith ac yn chwilio am waith, neu sy’n derbyn budd-daliadau penodol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Fe’i cynlluniwyd fel modd o wrthsefyll eithrio cymdeithasol a rhoi cymorth i ragor o bobl ennill cymwysterau Addysg Uwch. O ganlyniad, bwriad y cynllun yw cyfrannu at ehangu cyfranogiad, gwella mynediad, a chynyddu cyfraddau cadw a chyrhaeddiad.
Meini prawf Cymhwyster Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer hepgor ffioedd, rhaid i fyfyrwyr gwrdd â meini prawf cymhwyster dan ddau bennawd: • Cwrs • Personol Rhaid i’r myfyriwr: (i) fod yn astudio’n rhan-amser (ii) fod wedi ei gofrestru ar raglen, naill ai fel myfyriwr newydd neu un sy’n parhau, gyda’r bwriad o ennill cymhwyster addysg uwch israddedig cydnabyddedig; neu ar gwrs, modwl neu uned sy’n ei alluogi i ennill credydau tuag at gymhwyster addysg uwch israddedig cydnabyddedig. Ni fydd cyrsiau heb gredydau na chyrsiau ôl-raddedig yn gymwys ar gyfer y cynllun. Ni fydd myfyrwyr sydd eisoes â gradd gyntaf yn gymwys ar gyfer dileu ffioedd. (iii) fod yn astudio ar gwrs, modwl neu uned sy’n cyfateb i ddeg credyd neu ragor yn ôl diffiniad Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru. Os ydych yn credu y gellwch fod yn gymwys i wneud cais, cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr am Ffurflen Gais os gwelwch yn dda. Mae’r ffurflen gais hefyd ar gael ar wefan gwasanaethau myfyrwyr. Am wybodaeth pellach cysylltwch â Meriel Davies – 01267 676659 m.davies@tsd.ac.uk
U n I v e r S I t Y O f WA L e S t r I n I t Y S A I n t D Av I D • S U r v I vA L G U I D e
23
Cymorth Dysgu Dyslecsia neu Gwahaniaethau Dysgu Penodol eraill Lleoliad: Gwasanaethau Myfyrwyr, Canolfan Myddfai Cyswllt: Clare Scott Uwch Gyd-lynydd Cymorth Dysgu rhif ffôn: 01267 676830 Mae cymorth ar gael ar gyfer myfyrwyr â Gwahaniaethau Dysgu Penodol (Dyslecsia, Dyspracsia, ac ati). Mae hyn yn cynnwys sgrinio, asesiadau cychwynnol, gwersi personol, newidiadau i drefniadau arholi, a hyfforddiant TG. Lle bo’n bosibl, gallwn eich helpu i wneud cais am arian addas er mwyn darparu offer a chymorth arall sy’n berthnasol i’ch anghenion chi. Cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr i drefnu apwyntiad gyda’r aelod priodol o staff.
24
U n I v e r S I t Y O f WA L e S t r I n I t Y S A I n t D Av I D • S U r v I vA L G U I D e
Cymorth Astudio Mae cymorth sgiliau astudio ar gael i holl fyfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sydd angen cymorth â’u hastudiaethau. Gall hyn gynnwys cymorth ag ysgrifennu traethodau, cymryd nodiadau, cymorth TG, sgiliau llyfrgell ac ymchwil ynghyd ag ystod o strategaethau ym maes sgiliau astudio. Mae sesiynau galw heibio ar gyfer sgiliau astudio ar gael ar gampws Caerfyrddin a champws Llambed yn ystod y tymor – does dim angen gwneud apwyntiad. Gall myfyrwyr dysgu o bell hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth Sgiliau Astudio o Bell. Ewch at wefan Gwasanaethau Myfyrwyr am fanylion y sesiynau a gynigir.
Cymorth i fyfyrwyr sydd wedi gadael gofal Mae’r Brifysgol yn ymrwymedig i ddarparu gofal o’r safon uchaf i’w myfyrwyr. Os ydych chi yn fyfyriwr sydd yn mynd i Addysg Uwch o ofal yna fe fydd darpariaeth a chefnogaeth ar eich cyfer. Fe fydd y gefnogaeth yma ar gael tra eich bod yn gwneud eich penderfyniadau ynglŷn â pha sefydliad i fynd iddo, yn parhau drwy’r broses ymgeisio ac yna ymlaen i gychwyn eich cwrs. Fel myfyriwr sydd yn dod o ofal, neu fel person sydd yn cynghori pobol sydd yn dod o ofal, eich person ar gampws Caerfyrddin cyswllt fydd Delyth Lewis 01267 676947 neu ebost d.lewis@ydds.ac.uk. Mae Delyth yn gweithio fel rhan o’r tîm Gwasanaethau Myfyrwyr ac fe fydd ganddi wybodaeth a chyngor am pob elfen o ‘r ddarpariaeth sydd gan y Brifysgol i chi.
Mae’r Brifysgol wedi ennill marc ansawdd Buttle UK am ei waith yn cefnogi myfyrwyr o gefndir gofal.
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
25
Cymorth i Fyfyrwyr Anabl Lleoliad: Gwasanaethau Myfyrwyr, Canolfan Myddfai Gweinyddwraig LMA, Helen Davies ffôn: 01267 676822 e-bost: h.e.davies@ydds.ac.uk Mae’r Swyddfa Anghenion Ychwanegol yn darparu ac yn cydlynu cefnogaeth ar gyfer myfyrwyr ag anghenion ychwanegol. Mae ‘Anghenion Ychwanegol’ yn golygu unrhyw un ag anabledd / angen arbennig / cyflwr meddygol – gweledig neu anweledig – sydd angen cefnogaeth.
Cymorth i fyfyrwyr ag Anghenion Ychwanegol Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn croesawu myfyrwyr sydd ag angen cefnogaeth gyda’u hastudiaethau, boed yn deillio o anabledd corfforol, nam synhwyraidd, dyslecsia neu unrhyw achos arall. Mae myfyrwyr ag anghenion ychwanegol ac anawsterau dysgu yn cael yr un ystyriaeth â phob myfyriwr arall. Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae’r holl fyfyrwyr yn cael eu gwerthfawrogi cymaint â’i gilydd, ac mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i sicrhau bod myfyrwyr ag anghenion ychwanegol yn cael eu trin yn gyfartal â myfyrwyr eraill. Sylweddola’r Brifysgol fod myfyrwyr mewn gwirionedd yn anabl mewn rhai sefyllfaoedd yn unig; sefyllfaoedd a grêir gan ffactorau cymdeithasol ac amgylcheddol, a’i nod yw lleihau’r sefyllfaoedd hyn. Bydd pob myfyriwr newydd sy’n datgan fod ganddo/ganddi anghenion ychwanegol, yn cael eu gwahodd am gyfweliad gan y swyddfa Anghenion Ychwanegol o fewn yr uned Gwasanaethau Myfyrwyr i asesu eu hanghenion. Caiff pob datganiad ei drin yn gwbl gyfrinachol, oni bai fod y person dan sylw yn dymuno fel arall. Mae staff y swyddfa Anghenion Ychwanegol yn cysylltu ag asiantaethau arbenigol megis BDA, RNIB, RNID, i ddarparu cyfleusterau ar gyfer y myfyrwyr sy’n gweddu i’w hanghenion. Cynigir prawf sgrinio am anhawster dysgu penodol ar gyfer holl fyfyrwyr is-raddedig, a gellir trefnu profion pellach os tybir bod hynny’n briodol. Rhoddir cymorth i fyfyrwyr yn ogystal i lenwi ffurflenni cais am arian ychwanegol, megis Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA). Gellir gwneud trefniadau arbennig i fyfyrwyr unigol ar gyfer asesiadau ac arholiadau, lle bo angen, yn unol â’r canllawiau a nodwyd gan y cyrff dilysu perthnasol a/neu adroddiad Asesu Anghenion y myfyriwr. Gall hyn olygu amser ychwanegol mewn arholiadau/asesiadau, darparu papurau arholiad mewn print mawr/Braille, ac - mewn rhai achosion - y defnydd o ddarllenwyr neu ysgrifenyddion (amanuenses). Rhaid gwneud ceisiadau o’r fath mewn da bryd a rhaid cael cadarnhad a chymeradwyaeth y Dirprwy Cofrestrydd.
26
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
Lleoliad Adeiladau a Mynediad Iddynt I fyfyrwyr sy’n cael anhawster symud o gwmpas, gall natur y campws greu problemau os nad oes gennych gadair olwyn bŵeredig. Mae nifer o’r adeiladau’n hen ac yn anffodus nid yw’n bosibl i gadair olwyn fynd i mewn iddynt. Fodd bynnag, codwyd yr holl adeiladau newydd, yn cynnwys y Ganolfan Adnoddau Dysgu , gan roi ystyriaeth i bobl ag anableddau. Mae gan y ddwy neuadd breswyl fwyaf newydd - Archesgob Noakes 1, 2, 3 a 4 - ystafelloedd a gynlluniwyd yn arbennig ar gyfer myfyrwyr ag anableddau. Lle bo modd, mae’r hen adeiladau wedi cael eu haddasu i’w gwneud yn haws cael mynediad iddynt. Mae’r sefyllfa wedi gwella ar y campws, ond os bydd myfyrwyr yn ei chael yn anodd o hyd i gyrraedd a chael mynediad i adeiladau, bydd y Brifysgol yn gwneud ei orau i leddfu’r problemau hynny drwy wneud addasiadau rhesymol.
nam Gweledol Os ydych yn dioddef o nam gweledol o unrhyw fath, mae gan y Brifysgol fynediad at wasanaethau Canolfan Trawsgrifio Prifysgol Abertawe. Nod y Ganolfan yw darparu testunau ar gyfer myfyrwyr â nam gweledol yn y ffurf sy’n fwyaf addas ar eu cyfer - tâp sain, Braille, print mawr, ffurf gyffyrddol neu electronig - cyn gynted â phosib. Yn ogystal â recordio llyfrau yn eu cyfanrwydd, mae’r Ganolfan yn trawsgrifio taflenni, detholiadau o lyfrau ac erthyglau cyfnodolion i ba bynnag ffurf a ddymunir. Mae’r darllen yn cael ei wneud gan tua 100 o wirfoddolwyr sy’n gweithio hyd at awr yr wythnos i recordio testunau academaidd yn ôl ceisiadau’r myfyrwyr. Mae’r Ganolfan yn recriwtio gwirfoddolwyr gydag arbenigedd ym mhynciau dewisedig y myfyrwyr ac yn defnyddio siaradwyr brodorol i recordio mewn iaith dramor. Gan fod y Ganolfan yn archifo’i recordiadau DAISY gyda llyfrgell yr RNIB yn Peterborough, gall myfyrwyr â nam gweledol ddod yn aelodau o Wasanaeth Llyfrau Llafar Digidol yr RNIB yn rhad ac am ddim. Mae gan yr uned Gwasanaethau Myfyrwyr amrywiaeth o offer i gynnig cefnogaeth i fyfyrwyr â nam gweledol, gan gynnwys dau ddarllenydd SmartView (un Du a Gwyn ac un Lliw), dau ddarllenydd DAISY yn ogystal â chwyddwydr fideo poced ‘Optelec Compact’. Mae’r offer yn cael ei gadw yn y CAD ac mae ar gael ar fenthyciad tymor byr ar gyfer myfyrwyr â nam gweledol. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â’r Gweinyddwraig LMA o fewn yr uned Gwasanaethau Myfyrwyr.
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
27
Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) Beth yw Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA)? Os oes gennych anabledd neu anhawster dysgu penodol tra’n fyfyriwr yn y Brifysgol, efallai y byddwch yn gallu ymgeisio am arian ychwanegol gan y Lwfansau Myfyrwyr Anabl (DSA). Pwrpas y lwfansau hyn yw eich helpu i dalu’r costau ychwanegol allai godi wrth i chi astudio, o ganlyniad uniongyrchol i’ch anabledd. Nid yw’r lwfansau hyn ar gyfer talu: • costau’n ymwneud â’ch anabledd y byddai’n rhaid i chi eu talu petaech yn fyfyriwr ai peidio • costau astudio y gallai pob myfyriwr ddisgwyl eu talu Mae pedwar lwfans ar gael sy’n berthnasol i wahanol anghenion: • Lwfans offer arbenigol • Lwfans cynorthwyydd anfeddygol • Lwfans cyffredinol/gwariant arall • Costau teithio Bydd swm y Lwfans Myfyrwyr Anabl yn dibynnu ar yr hyn rydych ei angen. Byddwch yn derbyn grant i dalu cost yr offer neu’r cymorth penodol rydych eu hangen oherwydd eich anabledd. Ond mae terfyn ar faint yr help y gallwch ei gael gan bob lwfans. Ni fydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm nac ar incwm eich teulu. Ni fydd astudiaeth flaenorol na’ch oedran yn effeithio ar eich cymhwyster i gael y Lwfans. Os hoffech wneud cais neu archwilio a ydych yn gymwys ar gyfer Lwfans Myfyrwyr Anabl, cysylltwch â Gweinyddwraig LMA ar 01267 676822.
28
• Lwfans offer arbenigol Diben y lwfans hwn yw eich helpu i brynu offer arbenigol sydd ei angen arnoch er mwyn dilyn eich cwrs a manteisio’n llawn arno, ee: - asesiad o’r offer sydd ei angen arnoch - cyfrifiadur neu brosesydd geiriau, efallai gyda thechnoleg addasol - hyfforddiant ar gyfer defnyddio offer arbenigol - recordydd tapiau
• Lwfans cynorthwyydd anfeddygol Mae’r lwfans hwn ar gyfer unrhyw gynorthwywyr personol y byddwch eu hangen er mwyn manteisio’n llawn ar eich cwrs. Ni allwch hawlio costau i dalu am gymorth y byddai’n rhaid i chi ei gael hyd yn oed pe na baech yn fyfyriwr. Dyma enghreifftiau o’r cymorth: - lladmeryddion iaith arwyddion - pobl i gymryd nodiadau - pobl i’ch helpu chi i symud o gwmpas
• Hyfforddiant arbenigol Os oes angen cymorth tiwtorial arbenigol arnoch sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch anabledd (e.e. dyslecsia), efallai y gallwch hawlio’r costau o’r lwfans hwn. Efallai y bydd yr awdurdod sy’n dyfarnu’r lwfans yn gofyn am sicrwydd nad yw’r cymorth a gewch yn hyfforddiant ychwanegol yn eich pwnc academaidd neu’n gymorth astudio y gallai fod ei angen ar unrhyw fyfyriwr petaent yn fyfyrwyr anabl ai peidio.
• Lwfans cyffredinol/gwariant arall Mae’r lwfans hwn ar gyfer talu unrhyw gostau sy’n ymwneud â’r anabledd a’r astudiaeth nad ydynt yn cael eu talu gan y lwfansau penodol eraill. Gellir ei ddefnyddio hefyd fel ychwanegiad at un o’r lwfansau eraill. Dyma rai o’r costau mae myfyrwyr yn eu hawlio o’r lwfans hwn: - llyfrau neu lungopïau ychwanegol os na allwch astudio am gyfnodau hir yn y llyfrgell neu os ydych angen llyfrau am gyfnodau hwy na chyfnodau benthyg arferol y llyfrgell - tapiau a disgiau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich gwaith.
• Costau teithio Costau teithio ychwanegol y mae’n rhaid i chi eu talu oherwydd eich anabledd ac nid fel arfer y costau teithio pob dydd y byddai unrhyw fyfyriwr yn disgwyl eu talu. Nid oes unrhyw uchafswm i’r costau hyn ar hyn o bryd.
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
Gwasanaeth Cwnsela Lleoliad: Llawr Isaf, Y tŵr Mae campws Caerfyrddin yn cyflogi dau Gwnselwr Myfyrwyr proffesiynol rhan-amser i gynnig gwasanaeth rhad ac am ddim i chi, os hoffech siarad â rhywun yn gyfrinachol. Gellir gwneud apwyntiad wrth y Ddesg Wybodaeth yn yr uned Gwasanaethau Myfyrwyr drwy alw i mewn neu drwy ffonio 01267 676830.
Jean Harris Ar gael: Llun-Mer ffôn: 01267 676732 e-bost: j.harris@ydds.ac.uk Myfanwy Williams (Cwnselydd dwyieithog) Ar gael: Mercher (prynhawn ) Iau a Gwener ffôn: 01267 676917 e-bost: m.e.williams@ydds.ac.uk Lle bo hynny’n bosibl, mae’r Cwnselwyr hefyd yn cynnig ‘apwyntiadau brys’ os oes argyfwng yn codi. Isod, ceir atebion i rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnir gan fyfyrwyr cyn iddynt benderfynu gweld un o’r Cwnselwyr:
Ydy’r gwasanaeth yn gyfrinachol? Mae’r Gwasanaeth Cwnsela Myfyrwyr yn cymryd pob cam posibl i sicrhau cyfrinachedd ac anhysbysrwydd y defnyddwyr. Nid oes angen i unrhyw un arall wybod eich bod yn defnyddio’r Gwasanaeth oni bai eich bod chi’n dewis dweud wrthynt.
Sut mae cwnsela yn helpu? Mae cwnsela’n rhoi cyfle i chi fyfyrio ar unrhyw beth sy’n eich poeni. Os ydych yn teimlo’n hiraethus, yn bryderus, yn anhapus neu’n cael eich effeithio gan ddigwyddiadau yn eich bywyd, yna mae’n bosibl y byddwch yn ei chael hi’n ddefnyddiol siarad â Chwnselwr. Beth bynnag yw’r broblem, cewch eich annog i drafod y mater cyn gynted â phosib. Mae un sesiwn gyda Chwnselwr yn ddigon i rai myfyrwyr, ond mae nifer yn dewis cael cyfres fer o sesiynau.
Gyda pha fath o faterion y byddwch yn helpu myfyrwyr? Gellir trafod unrhyw fater gyda’r Cwnselwyr, yn eu plith profiadau poenus megis profedigaeth, perthynas yn dod i ben, achos o fwlio, neu ddigwyddiad annymunol. Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys iselder ysbryd, anhwylder bwyta, neu ddiffyg canolbwyntio ar wneud gwaith cwrs. Os oes unrhyw beth yn eich pryderu, dewch i siarad amdano ag un o’r Cwnselwyr.
Beth yw rôl Cwnselydd Myfyrwyr? Bydd y Cwnselwyr yn defnyddio amrywiaeth o sgiliau a fydd yn eich helpu i deimlo bod rhywun yn gwrando arnoch ac yn eich deall a hynny mewn amgylchedd diogel. Ni fyddant yn eich cynghori nac yn dweud wrthych beth i’w wneud ond yn ceisio eich helpu i ddeall eich hunan yn well, gan gynnwys dylanwadau, patrymau a digwyddiadau yn eich bywyd; ac yn eich galluogi i wneud dewisiadau a chreu strategaethau sy’n addas i chi.
pa mor hir bydd y cwnsela’n para? Mae’r rhan fwyaf o gyfnodau cwnsela myfyrwyr yn fyr, h.y. hyd at chwe sesiwn. Mae pob sesiwn cwnsela’n para tua 50 munud.
Llyfrau hunangymorth Mae casgliad bach o lyfrau ‘hunangymorth’ ar gael i chi eu benthyg o’r Ganolfan Adnoddau Dysgu. Maent yn delio â phynciau megis Hiraeth, Anhwylder Bwyta, Hunan niwed ac ati.
Llinellau cymorth y tu allan i oriau swyddfa CALL – Llinell Gyngor a Gwrando Gymunedol Rhadffôn 0800 132737 Y Samariaid - 08457 909090
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
29
Gwasanaeth Gyrfaoedd Lleoliad: Gwasanaethau Myfyrwyr, Canolfan Myddfai Uwch Ymgynghorydd Gyrfaoedd: nesta James, ffôn: 01267 676830 e-bost: n.james@ydds.ac.uk Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd ar gael i holl fyfyrwyr y Brifysgol. Prif ddiben y Gwasanaeth yw cynorthwyo myfyrwyr unigol i ddynodi eu hamcanion gyrfaol erbyn iddynt adael y Brifysgol. Gall yr Ymgynghorydd Gyrfaoedd ddarparu cymorth, arweiniad a chefnogaeth briodol i alluogi’r myfyrwyr i gyflawni’r amcanion hyn.
Cyngor Gyrfaoedd Mae’r Uwch-Ymgynghorydd Gyrfaoedd ar gael i gwrdd â myfyrwyr (israddedigion a graddedigion) i drafod: • diddordebau a sgiliau o ran yr amrywiaeth o ddewisiadau sy’n agored i chi fel gyrfa • strategaethau chwilio am swyddi • trefniadau ymgeisio a CVs • technegau cyfweld • cyngor gyrfaol cyffredinol o ran newid cyrsiau ac opsiynau astudio
GO Wales - Lleoliadau Gwaith a Blas ar Waith Mae’r tîm yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar: • Swyddi yn ystod y tymor a’r gwyliau • Swyddi ar y campws • Lleoliadau Gwaith • Blas ar waith a gwaith gwirfoddol • Hyfforddi a Datblygu Graddedigion • Academi Graddedigion
Cynlluniau Datblygu proffesiynol (CDp) Dylid ystyried eich gyrfa yn y Brifysgol fel cyfnod pwysig a rydd gyfle i chi baratoi ar gyfer byd gwaith, byd sy’n dibynnu mwy a mwy ar hyblygrwydd yr unigolyn a’i allu i addasu i sefyllfaoedd sy’n newid. Yn y cyd-destun hwn mae sgiliau trosglwyddadwy personol wedi dod yn flaenllaw iawn ac maent o ddiddordeb cynyddol i gyflogwyr. Mae’r Brifysgol yn cydnabod bod yr Ysgolion Academaidd yn trefnu eu rhaglenni Cynlluniau Datblygu Proffesiynol (CDP) mewn amryw ffyrdd, gan gynnwys Proffiliau Dechrau Gyrfa, Dyddlyfrau Cwrs ayyb. Y peth pwysig yw eich bod yn casglu tystiolaeth adfyfyriol yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol y gellir ei gyflwyno i ddarpar gyflogwr. Mae’n rhaid i’r rhaglen CDP gael ei hysgogi gennych chi’n bersonol. Trwy dynnu ar eich profiadau yn y Brifysgol, o’ch cyfnodau profiad gwaith ac o’ch gweithgareddau yn eich amser hamdden, byddwch yn gallu tystio yn eich llythyron cais fod gennych y sgiliau a’r nodweddion angenrheidiol. Cewch gyfle i ddarganfod mwy am y cyfleoedd a gynigir gan Gynllun Datblygu Proffesiynol fel bod modd i chi ddatblygu sgiliau drwy gydol eich gradd. Os hoffech gymorth pellach gyda’r meysydd hyn, bydd eich Tiwtor Personol neu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn falch o gynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad. Dechreuwch eich CDP cyn gynted ag y dewch i’r Brifysgol -bydd ceisio llunio un yn eich blwyddyn olaf yn rhy hwyr!
Gall y Gwasanaeth Lleoliadau Gwaith GO Wales eich helpu i ddod o hyd i waith, a chyfrannu’n ogystal at eich datblygiad personol a gyrfaol. Gallwch ddod o hyd i’r Swyddogion Lleoliad yn yr uned Gwasanaethau Myfyrwyr, Canolfan Myddfai, ac mae modd iddynt gynorthwyo israddedigion a graddedigion i chwilio am brofiad gwaith â thâl neu ddidâl. Defnyddiwch yr adran Swyddi a Lleoliadau ar ein gwefan www.ydds.ac.uk am fanylion swyddi neu gyfleoedd eraill neu cysylltwch â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd.
30
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
Llysgenhadon Myfyrwyr Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cyflogi Llysgenhadon Myfyrwyr fel rhan o strategaeth ehangu mynediad y Brifysgol a’i gwaith ym Mhartneriaethau Ymgyrraedd yn Ehangach De Orllewin Cymru. Rhan arall o’r gwaith yw gweithio yn yr Uned Farchnata a Chyfathrebu. Amcan gweithgareddau Ehangu Mynediad yw annog pobl i ystyried Addysg Uwch, trwy godi eu hymwybyddiaeth, eu dyheadau a’u lefelau cyrhaeddiad. Bwriadant hefyd gefnogi’r iaith a’r diwylliant Cymraeg a dwyieithrwydd ym maes Addysg Uwch. Mae Llysgenhadon Myfyrwyr yn helpu i redeg gweithgareddau ehangu mynediad gyda phobl ifanc sy’n astudio mewn ysgolion uwchradd a Cholegau Addysg Bellach yn ogystal ag yn y gymuned ehangach. Anelir y gweithgareddau hyn yn arbennig at bobl nad ydynt yn ystyried Addysg Uwch er bod ganddynt y potensial i elwa arni. Gallai’r digwyddiadau gael eu cynnal ar gampysau’r Brifysgol, neu mewn ysgol neu goleg neu allan yn y gymuned. Gall digwyddiadau fod yn rhai cyffredinol neu yn benodol i bwnc. Gall fod digwyddiadau hefyd i rieni neu ofalwyr y bobl ifainc. Gall digwyddiadau mewn ysgolion neu golegau gynnwys mentora a chynnal clybiau a gweithgareddau ar ôl ysgol. Ar gyfer y rhan fwyaf o’r gweithgareddau bydd angen i Lysgenhadon Myfyrwyr, ar ôl hyfforddiant, weithio gyda grwpiau bychain o fyfyrwyr ysgol neu goleg er mwyn: • eu hannog i ystyried Addysg Uwch fel dewis ar gyfer y dyfodol; • hwyluso gweithgareddau mewn grwpiau bychain; • arwain trafodaethau grŵp; • arwain teithiau o gwmpas y campws; • rhoi gwybodaeth ac ateb cwestiynau ynglŷn â bywyd fel myfyriwr. Bydd hyfforddiant a sesiynau briffio cyn pob digwyddiad, y bydd yn hanfodol i bawb fod yn bresennol ynddynt. Bydd nifer o brosiectau yn y gymuned yn cael eu rhedeg yn ystod y flwyddyn a bydd angen i Lysgenhadon Myfyrwyr gael gwybodaeth benodol am sgiliau cynhyrchu i’r cyfryngau ar gyfer y gweithgaredd y bydd angen mentora aelodau o’r gymuned a phobl ifanc wrth iddynt wneud ffilmiau byr, gwe-lediadau ac ati. Rydym felly wrthi’n chwilio am geisiadau gan fyfyrwyr yn y disgyblaethau perthnasol ar gyfer y rolau hyn. Mae’n bosibl hefyd y caiff Llysgenhadon Myfyrwyr eu cyflogi er mwyn hyrwyddo’r Brifysgol mewn gweithgareddau megis Ffeiri Addysg Uwch, Diwrnodau Agored, digwyddiadau UCAS ac ati. Yr Uned Farchnata a Chyfathrebu fydd yn cyflawni’r gwaith hwn. Fe fydd pob un o’r Llysgenhadon Myfyrwyr yn cael ei gyfweld. Y cyflog presennol yw £6.41 yr awr. I gael rhagor o fanylion a/neu drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â: Trystan Rees, Swyddog Cyswllt Ehangu Mynediad 01267 676792 neu 07875 974920 t.rees@ydds.ac.uk
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
31
Meithrinfa Dydd – Y Gamfa Wen Lleoliad: Gwaelod maes parcio noakes Ar agor: Dydd Llun – Dydd Gwener: 8.00yb - 6.00yh ffôn: 01267 676645 Mae’r Brifysgol yn cynnig gwasanaeth meithrinfa ddwyieithog ar gampws Caerfyrddin drwy gydol y flwyddyn ac eithrio Gwyliau Banc. Mae’r Gamfa Wen yn gyfleuster a adeiladwyd i’r pwrpas ac sydd â chysylltiad agos â’r Ysgol Plentyndod Cynnar. Darperir gwasanaeth dwyieithog. Ar hyn o bryd, mae’r Gamfa Wen yn derbyn plant o enedigaeth hyd 5 oed. Mae’r staff i gyd yn ddwyieithog ac wedi’u hyfforddi’n broffesiynol. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ac fe’u cynigir i fyfyrwyr yn ôl yr egwyddor ‘y cyntaf i’r felin’ .
Siop Lleoliad: Y Cwad, Hen Goleg Oriau Agor: Llun – Iau 8.45yb – 5.00yh Gwe 8.45yb – 4.30yh rhif ffôn: 01267 676756 Cyswllt: Helen Jones Mae oriau agor estynedig yn ystod cyfnodau Ymarfer Dysgu -ar ddydd Llun, Mercher ac Iau tan 5.30yh a 6.30yh ar nos Fawrth. Yn cynnig offer ysgrifennu a deunyddiau eraill am brisiau rhesymol: • Deunyddiau ar gyfer prosiectau, aseiniadau ac ymarfer dysgu • Ffyn USB, CD-R, disgiau, batris ayyb • Cyfleusterau lamineiddio a rhwymo • Amlenni a stampiau
32
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
Swyddfa Rhyngwladol Lleoliad: Swyddfa ryngwladol Oriau agor: Llun – Iau 9.00yb – 5.00yh Gwe 9.00yb-4.30yh ffôn: 01267 676601 / 676656 Swyddog rhyngwladol: Kath Adnum e-bost: international@ydds.ac.uk Mae’r Swyddfa Ryngwladol yn cynnig gwasanaethau i fyfyrwyr Rhyngwladol ac i fyfyrwyr y Brifysgol sy’n dymuno astudio dramor.
Gofal Bugeiliol Mae’r gofal bugeiliol myfyrwyr yn rhan annatod o waith y Swyddfa Ryngwladol. Mae’r tîm o staff yn gyfrifol am ddarparu cymorth ac arweiniad ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys cyngor ymarferol ar ddewisiadau cwrs, cyllid a materion visa. Ceir gwybodaeth bellach yn y Llawlyfr Myfyrwyr Rhyngwladol.
Myfyrwyr o Brydain ac Astudio Dramor Dylai myfyrwyr wneud y gorau o’u hamser trwy ystyried y posibilrwydd o astudio dramor fel rhan o’u cwrs. Mae gan amryw o raglenni gradd y Brifysgol gysylltiadau gyda phrifysgolion ledled y byd. Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio dramor yn eich ail flwyddyn, yna cysylltwch â’r Swyddog Rhyngwladol am fanylion pellach ynglŷn â’r cyfleoedd: k.adnum@ydds.ac.uk. Mae’n bosib y byddwch yn gymwys ar gyfer bwrsari teithio i ariannu peth o’ch costau.
Cymorth Iaith Saesneg i fyfyrwyr rhyngwladol Lleoliad: Swyddfa rhyngwladol, Ar agor, apwyntiadau yn unig ffôn: 01267 676656 Mae myfyrwyr rhyngwladol israddedig ac ôl-raddedig llawn amser y mae angen help arnynt gyda’u Saesneg yn medru cael cymorth ieithyddol drwy’r Swyddfa Rhyngwladol. Y pynciau a gynhwysir fydd: Ysgrifennu a Gramadeg, Ysgrifennu Academaidd, Gwrando a Deall, Darllen a Deall, Siarad, ac Ynganu. Am fanylion pellach, cysylltwch â’r Swyddfa Ryngwladol.
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
33
Swyddfa Ymchwil a Datblygu Lleoliad: Campws Caerfyrddin a Llambed rhif ffôn: 01267 676864 / 01570 424730 e-bost: researchanddevelopment@ydds.ac.uk Mae’r Swyddfa Ymchwil a Datblygu (Y&D) yn gyfrifol am ddatblygu gwaith y Brifysgol y tu hwnt i’w swyddogaeth arferol o ddysgu ac addysgu. Gall cysylltiadau busnes eang y Swyddfa Y&D gael eu defnyddio gan fyfyrwyr pan fo’u angen ar gyfer eu hastudiaethau.
Myfyrwyr a Graddedigion entrepreneuraidd Mae staff y swyddfa Y&D yn gweithio gyda myfyrwyr, staff a graddedigion i annog agwedd entrepreneuraidd ac i gefnogi busnesau cychwynnol. Mae’r Uned yn rhoi cyfle i fyfyrwyr, graddedigion, staff academaidd, busnesau a’r sector cyhoeddus ddod ynghyd i ddatblygu a lansio busnesau, mentrau a rhaglenni ymchwil. Os ydych yn fyfyriwr neu wedi graddio ac mae gennych syniad busnes, mae modd i’r Swyddfa Y&D eich helpu mewn nifer o ffyrdd ymarferol. Mae’r rhain yn cynnwys mentora, gweithdai sgiliau, ysgoloriaethau, ymweliadau â busnesau ac arsylwi modelau rôl ym myd busnes.
Dyfeisgarwch ac Ymrwymiad Mae’r Swyddfa Ymchwil a Datblygu yn rheoli gweithgaredd Dyfeisgarwch ac Ymrwymiad y Brifysgol, gan gynnwys datblygu prosiectau gydag ystod eang o bartneriaid allanol, darparu gwasanaethau ar gyfer busnesau a chyfrannu at fywyd cymdeithasol a diwylliannol yr ardal.
34
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
Ystadau a Chyfleusterau Mae’r Adran Ystadau a Chyfleusterau yn gyfrifol am bob prosiect adeiladu newydd, cynnal a chadw, atgyweirio ac adnewyddu adeiladau sydd eisoes yn bodoli, y tir a’r gerddi, Iechyd, Diogelwch a’r post. Mae’r Adran Ystadau hefyd yn sicrhau bod cyflenwad digonol o wres, dŵr poeth, gwasanaethau trydanol a golau ar draws y campws a bod y larymau tân a diogelwch yn gweithio.
rhifau pwysig: • Derbynfa Caerfyrddin – 01267 676767 • Derbynfa Llambed – 01570 422 351 • Ffôn Symudol y Porthor: Campws Caerfyrddin – 07767 842738 Campws Llambed – 07976 528354 • Desg Gymorth Ystadau a Chyfleusterau 01570 424789 • Gwasanaethau Brys (Ambiwlans/Heddlu/Tân) 999
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
35
Y Ddesg Gymorth (Quantarc) Os oes angen rhoi gwybod am broblem neu nam, defnyddiwch system Desg Gymorth yr adran Ystadau a Chylfeusterau (Quantarc) sydd i’w gael ar fewnrwyd y Brifysgol. Mae’r cyfleuster yma ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mewn argyfwng cysylltwch a’r porthor ar ddyletswydd ar y campws briodol:
Campws Caerfyrddin – 07767 842738, Campws Llambed – 07976 528354
parcio Yr Adran Ystadau a Chyfleusterau sy’n gyfrifol hefyd am reoli’r trefniadau ar gyfer cerbydau a pharcio. Mae’n rhaid i chi gael trwydded parcio neu docyn ‘talu a dangos’. Gellir cael trwydded oddi wrth yr Adran Ystadau a Chyfleusterau wrth gyflwyno ffurflen gais sy’n cael ei ddosbarthu yn ystod y cofrestru ond sydd hefyd ar gael ar dudalennau mewnrwyd Ystadau. Nodir mae myfyrwyr preswyl yn unig sy’n medru ymgeisio am drwydded parcio. Disgwylir i fyfyrwyr nad ydynt yn preswylio ddefnyddio’r periannau talu ac arddangos yn y meysydd parcio. Os nad oes trwydded/tocyn dydd yn cael ei arddangos yn eich cerbyd, neu os ydych yn torri’r rheoliadau rheoli traffig mewn rhyw ffordd arall, mae’n bosib y bydd dirwy yn cael ei godi.
Diogelwch Mae The Complete University Guide wedi enwi Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn un o'r prifysgolion mwyaf diogel i fyfyrwyr yng Nghymru a Lloegr. Mae holl gymuned y Brifysgol - y staff a’r myfyrwyr - yn gyfrifol am ddiogelwch ar y campws. Os oes unrhyw sylwadau gennych ynglyn â hyn neu os byddwch yn gweld unrhyw beth sy’n torri ar y gofynion diogelwch - hyd yn oed os ydynt yn ymddangos yn ddibwys - cysylltwch â’r Porthor ar Ddyletswydd (24awr) Campws Caerfyrddin - 07767 842738 neu Campws Llambed – 07976 528354. Yn benodol, mae’n bwysig eich bod yn diogelu’ch eiddo personol. Ni ddylai unrhyw fyfyriwr sy’n byw ar y campws adael ei ystafell heb gloi’r drws, a chau’r ffenestri ar y llawr gwaelod. Mae gan y Brifysgol a’r gymuned leol Swyddog Heddlu Cymunedol a Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu a benodwyd i gadw gwyliadwriaeth dros y campws a’r ardal leol. Mewn argyfwng, ffoniwch rhif y Porthor neu cysylltwch â warden eich neuadd neu ffoniwch y Gwasanaethau Brys ar 999.
post Gellir casglu’r post o Dderbynfa’r Brifysgol wrth gyflwyno prawf o bwy ydych yn ystod y cyfnodau isod:
12.00yh–1.00yh, 4.30yh–5.30yh, 9.00yh-10.00yh bob dydd Mi fydd urhyw bost na’i gasgwlyd gan fyfyrwyr preswyl yn cael ei ddanfon at eich cyfeiriadau cartref ar ddiwedd y flwyddyn academaidd. Bydd post unrhyw fyfyrwyr nad ydynt yn preswylio yn cael ei ddanfon at eich cyfeiriad parhaol ar ddiwedd bob tymor. Mae blwch post y Post Brenhinol ger neuadd preswyl Non ar gyfer post allanol.
36
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol Credoau Crefyddol Mae’r Brifysgol yn croesawu unigolion o bob cred grefyddol a’r rheini sydd heb gred. Rydym ar hyn o bryd yn datblygu ystafell weddïo sy’n addas ar gyfer gofynion y gwahanol gredoau. Gweler fanylion pellach o dan Y Gaplaniaeth.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Lleoliad: Adran Adnoddau Dynol, Llawr Uchaf, Adeilad Dewi Cyswllt: eleri page, Swyddog AD ffôn: 01267 676619 e-bost: e.page@ydds.ac.uk Mae’r Brifysgol wedi ei hymrwymo i bolisi o gyfleoedd cyfartal ac i anelu at ddarparu amgylchedd gweithio a dysgu sy’n rhydd o anffafriaeth anheg. Mae’r Brifysgol yn ceisio sefydlu amgylchedd lle mae staff a myfyrwyr yn cael eu trin ag urddas a pharch tra’n gweithio neu’n astudio, a lle mae pob unigolun yn cydnabod eu cyfrifoldeb i ddatblygu a chynnal amgylchedd lle gwerthfawrogir a pherchir pob myfyriwr, aelod o staff neu ymwelydd. Mae’r Brifysgol wedi ei hymrwymo’n gadarn i ddileu pob math o anffafriaeth ac i hyrwyddo cydraddoldeb ym mhob agwedd o’i gweithgareddau fel cyflogwr, darparwr addysg uwch ac wrth rhyngweithio a’r gymuned eangach. Adwaenir y Brifysgol ei chyfrifoldebau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010, a darparwyd Cynllun Cydraddoldeb Strategol a Chynllun Gweithredu Cydraddoldeb cysylltiol. Mae’r cynlluniau yma yn berthnasol i oll myfyrwyr a staff, a gellir eu hygyrchu ar dudalennau’r adran Adnoddau Dynol o wefan y Brifysgol. Trefnir cyfarfodydd grwp ffocws cydraddoldeb ac amrywiaeth yn rheolaidd. Gwahoddir myfyrwyr a staff i gymryd rhan yn y grwpiau ffocws yma.
Cyfrinachedd Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn parchu hawl yr unigolyn i gyfrinachedd. Mae’n cynnal ei weithdrefnau ar gyfer ymdrin â gwybodaeth bersonol ac academaidd yn unol â deddfwriaeth yn ymwneud â phrosesu data, yn enwedig Deddf Diogelu Data 1998. Mae gan fyfyrwyr yr hawl i weld yr holl wybodaeth a gedwir amdanynt. Gellir trefnu bod y wybodaeth academaidd a phersonol a gedwir ar system ganolog cofnodion myfyrwyr y Brifysgol ar gael i bob myfyriwr yn unigol. Gellir cael manylion ynghylch sut i weld y wybodaeth hon o Gofrestrfa’r Brifysgol.
Cyffuriau a Sylweddau Anghyfreithlon eraill Mae defnyddio cyffuriau anghyfreithlon a sylweddau anghyfreithlon eraill ar y campws yn drosedd ddisgyblaethol. Hysbysir yr Is-Ganghellor ar unwaith ynghylch unrhyw un a welir yn cymryd cyffuriau neu sylweddau anghyfreithlon ar y campws. Yna bydd yn ofynnol i’r myfyrwyr ymddangos o flaen Panel Disgyblu’r Brifysgol. Os ceir y myfyriwr yn euog, mae’n bosibl (i) y gofynnir iddo adael llety’r Brifysgol neu (ii) y caiff ei ddiarddel o’r Brifysgol. Fel rhan o’r drefn, hysbysir yr heddlu ynglŷn â’r myfyriwr.
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
37
Gweithdrefn Cwyno Er bod y Brifysgol wedi ymrwymo i sicrhau ei fod yn darparu profiad addysgol o safon uchel i’w fyfyrwyr, efallai y bydd adegau pan fydd myfyrwyr yn teimlo bod ganddynt bryderon neu reswm dros gwyno. Mae gan fyfyrwyr bob hawl i ddisgwyl cael eu trin yn deg ac mae’r Brifysgol yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i’r cyfrifoldeb yma. Ceir manylion llawn polisi’r Brifysgol ar gyfer ymdrin â materion o’r math yma yn y ddogfen ‘Gweithdrefnau ar Gyfer Apeliadau Academaidd a Chwynion, sydd ar gael o Swyddfa’r Gyfadran, neu o fewnrwyd a gwefan y Brifysgol.
polisi Ysmygu Datblygwyd y polisi hwn i amddiffyn pob gweithiwr, myfyriwr, cleient ac ymwelydd rhag dod i gyswllt â mwg ail-law, ac i gynorthwyo i gydymffurfio â darpariaethau difwg Deddf Iechyd 2006 a’r rheoliadau cysylltiedig ar gyfer Cymru. Mae dod i gysylltiad â mwg ail-law, a elwir hefyd yn ysmygu goddefol, yn cynyddu risgiau canser yr ysgyfaint, clefyd y galon a chlefydau eraill. Nid yw awyru neu wahanu ysmygwyr oddi wrth y rhai nad ydynt yn ysmygu yn yr un ystafell yn atal pobl rhag wynebu perygl posibl. Polisi’r Brifysgol yw bod y gweithleoedd i gyd yn ddi-fwg a bod gan yr holl weithwyr a’r myfyrwyr hawl i weithio ac astudio mewn awyrgylch di-fwg. Daeth y polisi yma i rym ar 2 Ebrill 2007. Mae ysmygu wedi’i wahardd ym mhob rhan o’r gweithle heb unrhyw eithriadau. Mae’r polisi hwn yn berthnasol i’r holl weithwyr, myfyrwyr, contractwyr, Llywodraethwyr, cleientiaid ac ymwelwyr. Mae ysmygu wedi’i wahardd hefyd o fewn 10 metr i fynedfeydd neu ffenestri’r Brifysgol.
Gweithredu Mae cyfrifoldeb cyffredinol dros weithredu ac adolygu’r polisi yn gorwedd yn nwylo’r Dirprwy IsGanghellor Adnoddau a Chyllid. Mae’n rhaid i’r holl staff a myfyrwyr lynu at, a hwyluso, gweithredu’r polisi. Mae arwyddion ‘Dim Ysmygu’ priodol yn cael eu harddangos wrth, neu yn agos at, fynedfeydd yr adeiladau.
Diffyg Cydymffurfio Os na fydd aelod o staff neu fyfyriwr yn cydymffurfio â’r polisi, dilynir gweithdrefnau disgyblu lleol a chymerir y camau canlynol: • Tynnir sylw’r unigolion at yr arwyddion a’r polisi ‘Dim Ysmygu’ a’u hatgoffa eu bod yn troseddu. Gofynnir yn gwrtais iddynt beidio ag ysmygu ar unwaith neu symud 10m oddi wrth unrhyw fynedfa. • Cynghorir yr ysmygwyr ei bod hefyd yn drosedd i adael i rywun arall ysmygu. • Esbonnir bod gan y Brifysgol bolisi di-fwg i sicrhau awyrgylch gwaith diogel i’r holl fyfyrwyr, staff a chwsmeriaid. • Os anwybyddir y rhybudd, gofynnir i’r ysmygwyr adael yr adeilad ar unwaith (a, lle bo’n berthnasol, rhoddir gwybod iddynt ble y cânt ysmygu). • Os byddant yn gwrthod, gweithredir y weithdrefn ddisgyblu arferol o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol/anghyfreithlon yn y gweithle. Cedwir cofnod o bob digwyddiad o’r fath a’r canlyniad.
38
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
Help i roi’r gorau i ysmygu Mae’r ffynonellau canlynol ar gael i roi cymorth i ysmygwyr sydd eisiau rhoi’r gorau iddi: Llinell Gymorth i Ysmygwyr yng Nghymru 0800 169 0169. Yn darparu cyngor a deunyddiau hunangymorth. Gwasanaeth Rhoi’r Gorau i Ysmygu Cymru Gyfan: 0800 085 2219 Gwasanaeth lleol rhad ac am ddim yn darparu cefnogaeth a chwnsela ar gyfer rhoi’r gorau iddi. Am fanylion pellach:
www.gwaharddsmygucymru.co.uk/cymraeg www.smokingbanwales.co.uk/english
polisi Dwyieithog Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnal yr iaith Gymraeg ac mae’n chwarae rhan flaenllaw wrth ddarparu addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg. Gweithreda bolisi dwyieithog cryf gan annog ei fyfyrwyr i ddysgu ac i wella eu defnydd o’r iaith Gymraeg. Mae Cynllun Iaith y Brifysgol yn cadarnhau bod y Brifysgol yn rhoi statws cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg yn ei holl weithgareddau. Mae’r polisi hwn yn rhoi’r hawl i bob un sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol i ohebu ac i dderbyn gwybodaeth yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Gwêl y Brifysgol ei gyddestun naturiol ddwyieithog yn gryfder wrth ddatblygu ac ymestyn ei ddarpariaeth ddwyieithog o fewn y gymuned. Mae hawl gan fyfyrwyr sy’n cofrestru ar raglen astudio yn y Brifysgol i gyflwyno eu gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, ac anogir Cymry Cymraeg i astudio o leiaf ran o’u hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg lle bo hynny’n bosibl. I’r perwyl hyn, mae’r Brifysgol yn cynnig gwasanaeth i fyfyrwyr a staff sy’n dymuno dysgu neu loywi’r iaith at y naill law neu sy’n dymuno cefnogaeth wrth asudio trwy gyfrwng y Gymraeg ar y llaw arall.
tiwtoriaid personol Neilltuir Tiwtor Personol i bob myfyriwr israddedig a phob myfyriwr ôl-raddedig a addysgir. Fel arfer bydd y Tiwtor Personol yn aelod o staff academaidd o’r Ysgol y mae’r myfyriwr wedi cofrestru ynddi. Mae Tiwtoriaid Personol yn darparu cymorth ac arweiniad ar faterion a all effeithio ar eich lles, eich presenoldeb a’ch cynnydd yn y Brifysgol. Gallant eich cyfeirio hefyd at unrhyw wasanaethau cymorth eraill perthnasol. Mae’r Brifysgol yn teimlo y dylech gael y cyfle i godi materion sy’n peri pryder personol gyda rhywun sy’n gweithredu fel eich Tiwtor Personol. Os yw’n bosibl, byddwch yn cadw’r un Tiwtor Personol drwy gydol eich cyfnod yn y Brifysgol. Efallai na fydd hyn yn bosibl, wrth gwrs, os byddwch yn newid eich cynllun gradd (efallai y bydd y cynllun wedi’i leoli mewn Ysgol wahanol) neu os bydd newidiadau staffio o fewn yr Ysgol. Os byddwch chi - neu eich tiwtor - yn anfodlon ar y trefniant hwn, bydd gan eich Ysgol weithdrefn yn ei lle i’ch galluogi i newid tiwtoriaid. Caiff y trefniadau penodol o ran y cynllun Tiwtor Personol o fewn eich Ysgol chi eu hesbonio i chi yn ystod y cyfnod cynefino yn eich Ysgol. Mae Tiwtoriaid Personol yno i’ch helpu i addasu i fywyd yn y Brifysgol a meithrin annibyniaeth bellach drwy gydol eich astudiaethau. Bydd o fudd i chi fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd hyn.
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
39
Wrth i chi ddatblygu’ch Cynllun Datblygu Proffesiynol dros y blynyddoedd nesaf, bydd eich Tiwtor Personol yn berson allweddol i’ch cynghori ar y cynnwys.
Ymddygiad a Chynnydd Myfyrwyr Bydd pob myfyriwr, pan fydd yn cofrestru gyda Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn cytuno i gadw at ei reoliadau academaidd a chyffredinol. Yn ei dro, mae’r Brifysgol yn cytuno i ddarparu’r gwasanaethau y gellid eu disgwyl ganddo er mwyn cynorthwyo profiad dysgu’r myfyriwr. Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr sy’n torri rheoliadau academaidd neu gyffredinol y Brifysgol, roi cyfrif am eu gweithredoedd, ac mae’n bosibl y cymerir camau disgyblu yn eu herbyn. Byddai enghreifftiau o dorri rheoliadau academaidd/cyffredinol yn cynnwys: • cofnod presenoldeb gwael • peidio â chydymffurfio â rheoliadau asesu cynllun astudio • ymddwyn yn annheg (twyllo) • ymddwyn mewn modd ‘amhroffesiynol’ neu’n hiliol ac ymddwyn mewn ffordd a allai olygu nad ystyrir eich bod yn addas i weithio mewn gyrfa broffesiynol • ymddygiad cyffredinol sy’n annerbyniol o fewn rheolau’r Brifysgol ac yn mynd yn erbyn polisïau Amrywiaeth a Chydraddoldeb y Brifysgol • troseddau • camddefnyddio offer, adnoddau neu eiddo’r Brifysgol Hysbysir myfyrwyr bod gan y Brifysgol reoliadau sy’n ymwneud ag ymddygiad a chynnydd myfyrwyr, ymddygiad annheg, addasrwydd i ymarfer a chamau disgyblu. Mae’r gweithdrefnau hyn i’w cael yn ‘Rheoliadau’r Brifysgol - Canllaw i Fyfyrwyr’ a’r ‘Llawlyfr Ansawdd Academaidd’. Cynghorir myfyrwyr y cymerir camau disgyblu yn eu herbyn i gysylltu ag Undeb y Myfyrwyr am gefnogaeth, ac fe’u cynghorir hefyd i gysylltu â’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr.
40
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
Siarter y Myfyrwyr Creuwyd Siarter y Myfyrwyr trwy weithio mewn partneriaeth â’r Brifysgol, y myfyrwyr ac Undeb y Drindod Dewi Sant.Mae’n esbonio’n eglur disgwyliadau y Brifysgol a’i myfyrwyr, ac y adnabod bod darparu profiad ardderchog i’r myfyrwyr yn flaenoriaeth strategol allweddol i’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Mae Siarter y Myfyrwyr yn gwarchod oll myfyrwyr a staff y Brifysgol. Mae’n amlinellu cyfrifoldebau’r y bydd y Brifysgol yn eu cyflawni ar gyfer myfyrwyr. Yn ychwanegol, mae’n esbonio pa gyfrifoldebau sydd angen i’r myfyrwyr eu cyflawni tra’n astudio yn y Brifysgol. Hefyd, mae’n amlinellu cyfrioldebau Undeb y Myfyrwyr i’r Brifysgol a’i myfyrwyr. Trwy gael Siarter y Myfyrwyr mewn lle, mae’r Brifysgol yn dangos ei hymrwymiad llawn i wella ansawdd ei gwasanaethau’n barhaol, ac i adnabod taw’r myfyrwyr yw calon y sefydliad. Gellir hygyrchu Siarter y Myfywyr ar wefan y brifysgol ar: www.ydds.ac.uk/cy/bywydmyfyrwyr/siartermyfyrwyr
Myfyrwyr ac Ansawdd rhagarweiniad Mae’r Brifysgol yn croesawu cyfraniadau oddi wrth fyfyrwyr. Yn wir mae gan fyfyrwyr a staff ran bwysig i’w chwarae er mwyn sicrhau bod rhaglenni yn y Brifysgol yn parhau’n berthnasol ac o safon uchel. Fel myfyriwr, rydych yn cael profiad uniongyrchol o’ch rhaglen ac felly mae eich sylwadau chi yn hollbwysig. Yn y Brifysgol caiff myfyrwyr eu cynrychioli a chânt gyfle i gyfranogi ar amrywiol lefelau ac mewn amrywiol ffyrdd trwy sianeli ffurfiol ac anffurfiol. Pwrpas y rhan hon yw amlygu, yn gryno ac yn syml, sut mae eich rhaglen yn cysylltu â strwythurau cyffredinol y Brifysgol a pha mor bwysig ydyw i chi gymryd rhan yn y broses o werthuso’r rhaglen honno drwy gydol eich cyfnod yn y Brifysgol. Trwy gymryd rhan a chynrychioli gallwch gyfrannu at gynnal a gwella ansawdd y profiad dysgu. Cynhyrchwyd y rhan hon gan yr Uned Sicrhau Ansawdd ac Undeb y Myfyrwyr.
Sut mae’r Brifysgol yn ceisio sicrhau ansawdd rhaglenni? Mae gan y Brifysgol system ffurfiol ar gyfer arolygu ei waith academaidd. Y pwyllgor pwysicaf yw’r Senedd, sy’n gyfrifol am safonau. Mae gan y Brifysgol drefniadau dilysu a chymeradwyo manwl. Caiff pob rhaglen ei monitro’n barhaus, ei hadolygu’n flynyddol a’i harfarnu mewn adolygiad mwy cynhwysfawr bob pum mlynedd. Ym marn y Brifysgol mae’n bwysig gwrando ar fyfyrwyr a holi eu safbwyntiau. Cynhelir Adolygiad Blynyddol ar gyfer pob rhaglen sy’n cofnodi adborth a safbwyntiau myfyrwyr, ynghyd â’r camau gweithredu a gymerwyd gan staff. Caiff hwn ei ystyried a’i drafod mewn cyfarfod Bwrdd Astudiaeth.
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
41
pa gyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr gyfranogi a rhoi adborth ar faterion ansawdd? • Cynrychiolaeth o blith y myfyrwyr ar Gyngor y Brifysgol, Senedd, Byrddau’r Cyfadrannau, y Pwyllgor Sicrhau Ansawdd ac Adolygiadau Blynyddol/Byrddau Astudiaeth. • Aelodaeth o baneli adolygiadau pum mlynedd ac archwiliadau Ysgolion sy’n archwilio rhaglenni cyfredol a gweithgareddau ar lefel Ysgol. • Fforwm Myfyrwyr. • Cyfle i lenwi holiadur ar o leiaf dri achlysur yn ystod eich cwrs. • Pwyllgor cyswllt staff/myfyrwyr y Gyfadran • Amrywiaeth o gyfleoedd anffurfiol. • Cyfle i helpu llunio a rhoi sylwadau ar y cyhoeddiad hwn • Cwblhau holiadur rhaglen ar ddiwedd pob rhaglen.
Ble y cynrychiolir myfyrwyr o fewn strwythur academaidd a phwyllgorau’r Brifysgol? Cynrychiolir myfyrwyr ar Gyngor y Brifysgol, y Senedd, y Pwyllgor Sicrhau Ansawdd a Byrddau’r Cyfadrannau. Yn ogystal cynrychiolir myfyrwyr ar y pwyllgorau sy’n monitro, gwerthuso ac adolygu rhaglenni. Y pwyllgorau hyn yw’r fforwm swyddogol ar gyfer trafodaeth agored a pharhaus rhwng pawb sy’n ymwneud ag ansawdd a datblygiad cyrsiau. Cyngor y Brifysgol yw prif corff rheoli’r Brifysgol, sy’n cynnwys aelodau allanol o fyd busnes, diwydiant a bywyd academaidd, ynghyd ag aelodau etholedig o staff a chynrychiolydd y myfyrwyr. Y Senedd - Mae’r Senedd yn gyfrifol am gynghori’r Is-Ganghellor, fel Prif Weithredwr y Brifysgol, ar yr holl faterion academaidd yn ymwneud â gwaith a chenhadaeth y Brifysgol. pwyllgor Sicrhau Ansawdd (pSA) - Cyfrifoldeb y Pwyllgor yw sicrhau safon uchel o ddysgu ac addysgu ar draws y sefydliad. Byrddau Cyfadran - Mae’r pwyllgorau hyn yn gyfrifol am gynghori’r Is-Ganghellor a’r Senedd ar faterion o fewn y Gyfadran. Adolygiadau Blynyddol / Byrddau Astudiaeth - Mae’r rhain yn monitro effeithiolrwydd eich rhaglen o ran gweithrediad a safonau academaidd; etholir aelod o bob blwyddyn i gynrychioli myfyrwyr y rhaglen. Gellir cyfeirio unrhyw faterion sydd heb eu datrys yn uniongyrchol at y pwyllgor cyswllt staff/myfyrwyr. Ar ddechrau eich rhaglen astudio, mae myfyrwyr pob grŵp blwyddyn ar y rhaglen yn ethol cynrychiolydd i fynychu Adolygiad Blynyddol / Bwrdd Astudiaeth rhaglenni’r Ysgol o fewn y Gyfadran. Lle bo hynny’n berthnasol, bydd y cynrychiolwyr yn adlewyrchu diddordebau myfyrwyr Prydeinig a thramor, llawn a rhan-amser. Mae’r aelodaeth yn cynnwys staff sy’n dysgu ar y rhaglen, cynrychiolydd allanol, megis cyflogwr a chynrychiolydd myfyrwyr. Deon y Gyfadran sy’n cadeirio’r pwyllgor ac mae’n gweithredu fel fforwm ar gyfer trafod materion yn ymwneud â staff/myfyrwyr a hefyd materion yn gysylltiedig â’r rhaglen. Mae cynrychiolwyr y myfyrwyr yn nodi ac yn cynrychioli safbwyntiau eu cyd fyfyrwyr ac yn adrodd nôl ar y drafodaeth ac ar y camau a weithredwyd neu a fwriedir.
42
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
Ydy cynrychiolwyr y Myfyrwyr yn cymryd rhan mewn ffyrdd eraill? • Maent yn aelodau o baneli adolygiadau pum mlynedd rhaglenni ac archwiliadau Ysgolion. • Maent yn aelodau o Fforwm Myfyrwyr sydd yn cyfarfod pob tymor i drafod materion gydag uwch swyddogion y Brifysgol. • Cânt gyfle i roi sylwadau ar ansawdd gweithdrefnau’r Brifysgol
A roddir rhaglen anwytho, hyfforddiant a chyngor i Gynrychiolwyr y Myfyrwyr? Mae pob cynrychiolydd yn derbyn rhaglen anwytho a hyfforddiant a fydd yn eu helpu i ymgymeryd â’r rôl. Yn ogystal, mae gan Undeb y Myfyrwyr Gydlynydd Cynrhychiolaeth Myfyrwyr sydd yn darparu cymorth i bob Cynrhychiolydd Myfyrwyr. Mae eich Pennaeth Ysgol neu Gydlynydd Rhaglen hefyd ar gael o ddydd i ddydd i helpu egluro gweithdrefnau’r Brifysgol. Gallwch hefyd gysylltu ag aelodau eraill o staff, gan gynnwys eich Tiwtor Personol, sy’n ymwneud â’r cwrs.
Ar beth mae holiaduron y myfyrwyr yn canolbwyntio? Mae gofyn i’r holl dimau rhaglen holi eich barn ar amrywiol gyfnodau yn ystod eich rhaglen. Gan amlaf, dosberthir holiaduron ar ddiwedd pob modiwl ac maent yn canolbwyntio ar gynnwys y modiwl/cynnwys cyffredinol y rhaglen, y cyflwyniad, asesiad, adnoddau, cymorth ac arweiniad bugeiliol, gan holi eich barn am y rhaglen yn gyffredinol. Yn ogystal ceir cyfle i godi materion eraill.
Beth sy’n digwydd o ganlyniad i’r adborth? Mae’n ofynnol wrth reswm i Gydlynwyr Rhaglenni, Deoniaid Cyfadrannau ac Uwch Reolwyr gofnodi a gweithredu ar yr adborth. Trafodir y materion a godwyd a’r camau a gymerwyd yn y Senedd, y Pwyllgor Sicrhau Ansawdd, Byrddau’r Cyfadrannau neu’r Adolygiadau Blynyddol/Byrddau Astudiaeth. Mae Fforwm y Myfyrwyr hefyd yn yn darparu cyfle ardderchog i gynrhychiolwyr myfyrwyr i godi materion a'u trafod gydag uwch swyddogion y Brifysgol. O ganlyniad, gobeithiwn wella ansawdd y rhaglenni ac ansawdd profiad y myfyrwyr yn gyffredinol. Ymdrechwn yn barhaus i wella’r dulliau o gael adborth a chyflymder ein hymateb iddo. Gallwch ein cynorthwyo i wneud hyn trwy ddarganfod pwy yw eich Cynrychiolwyr Myfyrwyr a bwydo gwybodaeth iddynt neu sianelu syniadau trwy Undeb y Myfyrwyr, fel y gallant adlewyrchu safbwyntiau’r holl fyfyrwyr.
Sut y gallwch chi ddylanwadu ar eich rhaglen? Mae gan y Brifysgol gyfundrefn Sicrhau Ansawdd sy’n gweithredu ar lefel Cyfadran. Dyma eich prif bwyntiau cyswllt: Cynrychiolwyr y Myfyrwyr ar yr Adolygiadau Blynyddol/ Byrddau Astudiaeth; Deoniaid y Cyfadrannau, a staff o fewn yr Uned Sicrhau Ansawdd sydd wedi’i lleoli mewn swyddfeydd yn Adeilad Dewi. Y Dirprwy Is-Ganghellor (Academaidd) sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau ansawdd yn y Brifysgol. Rydym yn gyson yn adolygu materion yn ymwneud ag ansawdd academaidd, ac anfonir adroddiadau a chofnodion rheolaidd at y pwyllgorau perthnasol. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, efallai y carech ymgynghori naill ai â Deon y Gyfadran neu Undeb y Myfyrwyr. Dymunwn annog cymaint o fewnbwn a chyfranogiad ag sy’n bosibl gan fyfyrwyr yn ein gweithdrefnau a’n systemau ar gyfer sicrhau ansawdd academaidd.
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
43
Arholwyr a Byrddau Arholi Mae Bwrdd Arholi gan bob rhaglen yn y Brifysgol, sy’n cynnwys o leiaf un Arholwr Allanol sydd yn ysgolhaig o sefydliad addysg uwch arall. Dyma’r Byrddau sydd, ar ôl cryn drafod, yn penderfynu’n derfynol ar eich graddau ac, yn y pen draw, eich dosbarth gradd terfynol. Penodir yr Arholwr Allanol er mwyn gwneud yn sicr bod y Bwrdd yn dod i benderfyniad teg sydd yn unol â safonau cenedlaethol.
Apelio Os teimlwch fod y Bwrdd wedi gwneud camgymeriad, ceir trefn ar gyfer apelio. Mae manylion y drefn ar gael yn Rheoliadau’r Brifysgol - Canllaw i Fyfyrwyr. Gellir cael hyd i fanylion pellach yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd neu gan y Dirprwy Is-Ganghellor (Academaidd). Mae’r dogfennau hyn hefyd ar gael ar fewnrwyd y Brifysgol a’r wefan.
Sut y gallwch chi werthuso eich rhaglen? Pan fyddwch yn gwerthuso eich rhaglen gyda myfyrwyr eraill neu gynrychiolydd y myfyrwyr, dylech ystyried y canlynol: • Y cyfarwyddyd a’r wybodaeth a roddir cyn y rhaglen • Pa mor briodol yw cynnwys y rhaglen • Y dulliau addysgu a dysgu a ddefnyddir • Y llwyth gwaith a pha mor briodol yw’r asesiad • Yr amgylchfyd ffisegol • Y berthynas rhwng myfyrwyr a staff • Morâl y myfyrwyr • Y defnydd a ganiateir o adnoddau a’u hansawdd e.e. llyfrgell, cyfrifiaduron • Cyngor ar Yrfaoedd • Fyddech chi’n argymell y rhaglen i ffrind? Nodyn i fyfyrwyr rhan amser, dysgu o bell, myfyrwyr yn y gymuned a myfyrwyr yn y gweithle Mae eich safbwyntiau yn bwysig. Er eich bod efallai’n treulio llai o amser ar y campws yn cymryd rhan yn y prosesau a amlinellwyd, mae’n hanfodol eich bod yn mynegi eich safbwyntiau. Os cewch broblemau neu anawsterau gyda’ch rhaglen, yna da chi dywedwch wrth eich tiwtor. Mae’r Brifysgol yn croesawu ac yn annog cyfranogiad llawn gennych.
nodyn i holl fyfyrwyr y Brifysgol Rydym yn ceisio creu ac annog cyfleoedd i fyfyrwyr gyfranogi a rhoi mewnbwn i gyfundrefn sicrhau ansawdd y Brifysgol. Mae eich syniadau a’ch safbwyntiau’n bwysig ac rydym yn eu croesawu.
44
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
Canllawiau ar gyfer Cynrychiolwyr Myfyrwyr ar Adolygiadau Blynyddol / Byrddau Astudiaeth rhaglenni Beth mae’r Adolygiadau Blynyddol/Byrddau Astudiaeth yn ei wneud? Maen nhw’n: • canolbwyntio ar ansawdd ac iechyd academaidd y rhaglen; • trafod polisi a chynlluniau i’r dyfodol; • ystyried sylwadau arholwyr allanol; • ystyried unrhyw newidiadau neu welliannau a gynigir; • adolygu’r rhaglen a gweithredu ar y darganfyddiadau.
Beth ydych chi’n ei wneud os ydych chi’n gynrychiolydd myfyrwyr? Os ydych wedi cael eich ethol ar bwyllgor, anfonir agenda atoch a chofnodion y cyfarfod blaenorol o leiaf wythnos cyn y cyfarfod. Efallai y bydd yr awgrymiadau canlynol o gymorth i chi: • Ymgymryd â hyfforddiant ar gyfer cynrychiolwyr myfyrwyr a drefnir gan Ddeoniaid y Cyfadrannau ac Undeb y Myfyrwyr. • Ychydig cyn i gyfarfod gael ei gynnal, gofynnwch i’r tiwtoriaid am gyfnod ar ddiwedd rhai Cysylltiadau Defnyddiol darlith neu ddosbarth priodol fel y gallwch Dirprwy Cofrestrydd gasglu barn a safbwyntiau’r myfyrwyr eraill. 01267 676666 e.bishop@ydds.ac.uk • Gofynnwch am hyn eto ar ôl yr Adolygiad Blynyddol/Bwrdd Astudiaeth fel y gallwch Deon y Gyfadran Addysg a Hyfforddiant* fynegi’r prif bwyntiau a drafodwyd a’r canlyniad Profost (Campws Caerfyrddin) i’r rheiny yr ydych yn eu cynrychioli. 01267 676675 g.d.jones@ydds.ac.uk • Meddyliwch am osod blwch awgrymiadau Deon Cyfadran y Celfyddydau ac mewn man amlwg fel y gall myfyrwyr gyflwyno Astudiaethau Cymdeithasol* eitemau sy’n peri pryder iddynt. Anogwch y 01267 676606 r.maidment@ydds.ac.uk myfyrwyr i gydnabod mai nhw wnaeth yr awgrymiadau. Mae awgrymiadau dienw yn llai Deon Cyfadran y Dyniaethau effeithiol ac ni ellir gweithredu arnynt. 01570 424 911 m.plantinga@ydds.ac.uk • Cofiwch nad ydych ar y pwyllgor fel unigolyn ond yn hytrach fel cynrychiolydd myfyrwyr eraill. Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr • Byddwch yn adeiladol ond yn gadarn mewn 01267 676677 d.rogers@ydds.ac.uk cyfarfodydd; nid yw sylwadau negyddol o gymorth. Llywydd Undeb y Myfyrwyr • Os na fedrwch fynychu cyfarfod eich hunan, 01267 237794 supresident@ydds.ac.uk ceisiwch anfon myfyriwr arall yn eich lle. 01570 422619 • Ceisiwch osgoi trafod myfyrwyr a staff unigol. Cynghorwch y myfyrwyr sydd â phroblemau Undeb y Myfyrwyr unigol i fynd trwy’r sianeli cywir megis Rhif Ffôn: 01267 237794 info@tsdsu.co.uk tiwtoriaid personol, Penaethiaid Ysgol ac ati. *Ar adeg yr ysgrifennu, disgwylir cadarnhad terfynol Cadwch at faterion cyffredinol yn ymwneud â ar strwythurau newydd ar gyfer y Cyfadrannau a'r dysgu ac addysgu. Ysgolion wrth i'r Brifysgol uno gyda Phrifysgol • Trafodwch eitemau a gynigir gan fyfyrwyr i’w Fetropolitan Abertawe. Fe fydd diweddariadau yn trafod mewn Adolygiadau Blynyddol / Byrddau cael eu cyhoeddi o fewn fersiwn ar-lein Cymorth i Astudio gyda’r Penaethiaid Ysgol cyn eu Oroesi ar wefan y Brifysgol. cyflwyno ar gyfer yr agenda.
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
45
Rheoliadau’r Brifysgol: Canllaw i Fyfyrwyr 2012/13 Mae’r ddogfen yma’n un bwysig a bydd angen i chi gyfeirio ati’n rheolaidd yn ystod y flwyddyn academaidd. Mae’n cynnig arweiniad ar faterion yn ymwneud a’ch astudiaethau, asesiadau, llênladrad, cynnydd academaidd, arholiadau, ymddygiad personol ac academaidd, cysylltu â’ch Tiwtor Personol ynghyd â gwybodaeth gyffredinol arall. Dosberthir copïau yn ystod cofrestru a gellir gweld y ddogfen hefyd ar fewnrwyd y Brifysgol a’r wefan.
46
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
Undeb y Myfyrwyr rhif ffôn: 01267 237794 Gwefan: www.tsdsu.co.uk Mae Undeb y Myfyrwyr yn ganolbwynt gweithgarwch y myfyrwyr ac wedi’i leoli mewn man delfrydol yng nghanol y ddau campws. Ei nod yw sicrhau eich bod yn cael amser i’w gofio yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol. Mae’r Undeb yn darparu bron popeth sydd ei angen arnoch y tu allan i’ch darlithoedd ac mae’n ganolog i brofiadau myfyrwyr yn y Brifysgol. Yr ydym yn darparu cyngor, cefnogaeth a chynrychiolaeth yn ogystal â chwaraeon, clybiau, adloniant a gwasanaethau yn cael eu cynnal trwy’r Undeb. Mae’r Undeb yn cael ei redeg fel elusen, sy’n golygu bod unrhyw elw a wnawn yn cael ei fuddsoddi yn yr Undeb i wella’r cyfleusterau a chadw costau’n isel.
Cynrychiolaeth, Democratiaeth, Cyngor a Chefnogaeth Llywydd: Mattias eken rhif ffôn: 01267 237794 / 01570 422619 e-bost: supresident@ydds.ac.uk Eleni, mi fydd y Llywydd yn goruchwylio’r ddau gampws ac yn gweithio’n agos â thîm o Islywyddion a staff yr Undeb er mwyn eich cynrychioli a’ch cefnogi chi, y myfyrwyr. Fy ngwaith i fydd sicrhau bod eich barn chi yn cael ei gynrychioli yn y Brifysgol, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a’r wasg, boed ar lefel leol neu’n genedlaethol. Yr unig ffordd y gall yr Undeb gyflawni hyn yw drwy ymrwymiad y myfyrwyr - a’r gobaith yw y byddwch chi am fod yn rhan o’r cyfan! Mi fyddaf i’n cynnig hyfforddiant, cefnogaeth a chyngor i gynrychiolwyr etholedig y cyrsiau yn ogystal â throsglwyddo eich pryderon academaidd, yn annibynnol, ar lefelau uchaf y Brifysgol. Drwy hyn mi fyddaf yn cefnogi unigolion a grwpiau o fyfyrwyr. Mae rôl y Llywydd yn cynnwys sicrhau bod Swyddogion Gweithredol Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant, megis Swyddog Myfyrwyr ag Anableddau a’r Swyddog Merched, yn derbyn yr hyfforddiant ac adnoddau angenrheidiol i ymgeisio a chynrychioli. Rydw i’n cadeirio Bwrdd Ymddiriedolwyr y Brifysgol corff penderfynu uwch yr Undeb yn ogystal ag eistedd ar Fwrdd Llywodraethwyr y Brifysgol.
Addysg a Lles Addysg a Lles (Campws Caerfyrddin): emma Baldry ffôn: 01267 676877 e-bost: suwelfarecarms@ydds.ac.uk Ar gyfer eleni, y Dirprwy Lywydd: Addysg a Lles ar gyfer campws Caerfyrddin yw Emma Baldry. Yr ydym yma i gynnig cyngor annibynnol yn rhad ac am ddim i unrhyw fyfyriwr. Os na fydd modd i ni eich helpu, mi ddown o hyd i rhywun sy’n medru! Ein prif bwrpas yw cynrychioli diddordebau myfyrwyr a’r myfyrwyr yn unig. Gallwn fod o gymorth gyda phroblemau megis apeliadau arholiadau, llenwi ffurflenni, dilyn gweithdrefnau’r Brifysgol ac ymholiadau cyffredinol arall. O safbwynt lles, mae modd i ni gynnig cyngor ar faterion cyllid, llety, iechyd rhywiol, iechyd meddwl, byw’n iach, anableddau a chamddefnyddio cyffuriau/alcohol. Cawn ddosbarthu condomiau a phrofion beichiogrwydd yn rhad ac am ddim. Mae’n bosib taw gwaith pwysicaf y Swyddog Lles fydd ymgyrchu, drwy gydol y flwyddyn, gan ymwneud â’r materion uchod. Cysylltwch â ni os fydd unrhyw broblem yn codi.
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
47
Gweithgareddau Myfyrwyr Dirprwy Lywydd Gweithgareddau Myfyrwyr: Jo fisher rhif ffôn: 01570 425301 e-bost: j.fisher@ydds.ac.uk Prif waith y tîm Cydlynu Gweithgareddau Myfyrwyr fydd annog mwy o fyfyrwyr i gymryd rhan ym mywyd Undeb y Myfyrwyr er mwyn gwella’u phrofiad myfyrwyr. Gall hyn olygu unrhyw beth o ymuno â thîm chwaraeon neu gymdeithas, annog myfyrwyr i wirfoddoli ar brosiectau amrywiol yr Undeb a’r gymuned. Mae yna amrywiaeth o dimoedd chwaraeon a chymdeithasau i ddewis. Mae gennym dimoedd pêldroed, rygbi a hoci, yn ogystal â chleddyfaeth a nifer arall. Mae’r cymdeithasau’n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau megis cerddoriaeth roc, dawns, anime a ffilm, cymdeithas paganaidd ac chymdeithas archaeoleg a anthropoleg. Mae yno lawer ormod i’w rhestru yma. Os na fyddwch yn canfod rhywbeth i’ch diddori, dyma gyfle i chi gychwyn cymdeithas eich hun. Mynnwch air a’r Cydlynydd Gweithgareddau Myfyrwyr am wybodaeth ar sut i fynd ati.
Gwasanaethau Masnachol Adloniant Mae’r Undeb Myfyrwyr yn cynnig amrywiaeth o adloniant o safon uchel am bris rhesymol. Yr ydym yn ceisio arlwyo ar gyfer pawb gan gynnig bandiau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, DJs, comediwyr ac adlonwyr. Mae’r cyfan yn dechrau yn ystod Pythefnos y Glas -mae pythefnos gynta’r flwyddyn yn frith ag amrywiaeth o adloniant ac yn gyfle gwych i gwrdd â ffrindiau newydd -ac yn parhau drwy gydol y flwyddyn cyn diweddu gyda’r Ddawns Haf rhyfeddol. Rydym yn croesawi syniadau a pherfformwyr newydd felly os oes rhywun mewn golwg cofiwch alw i mewn i ddweud wrthym!
Bar Yr Atig Mae bar yr Atig sydd ar agor drwy’r dydd, bob dydd ac yn ganolbwynt yr Undeb. Cewch fwynhau brechdanau, bagêts, te neu coffi yn ogystal â’r bar. Gyda’r nos, mae bar Yr Atig yn cael ei drawsnewid yn leoliad bywiog gydag amrywiaeth o adnoddau gan gynnwys byrddau Pŵl, bocs TG, cerddoriaeth, teledu Sky a Sub ar gyfer yr holl ddigwyddiadau chwaraeon.
Undod Undod yw’r prif fan cyfarfod ar gyfer myfyrwyr yn ystod egwyl wrth ddarlithiau yn ystod y dydd. Cewch fwynhau cyfleustra’r Bar Byrbrydau sy’n cynnig bwyd poeth a byrbrydau neu eistedd ac ymlacio. Gyda’r nos, mae Undod yn glwb nos bywiog, dirgrynol sy’n cael ei adnabod fel un o’r lleoliadau adloniant gorau yng Ngorllewin Cymru.
nawdd nos rhif ffôn: 01570 423 143 Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnig gwasanaeth wrando nos cyfrinachol, wedi’i leoli ar gampws Llambed, sy’n gweithredu yn ystod y tymor. Cynigir y wasanaeth i unrhyw fyfyriwr sy’n dymuno siarad ag un o’n gwirfoddolwyr hyfforddedig. Mae’r wasanaeth yn gweithredu rhwng 11.00yh – 3.00yb, 7 diwrnod yr wythnos.
48
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
Gwasanaethau Lleol Banciau a thyllau Arian Mae canghennau’r rhan fwyaf o’r banciau a’r cymdeithasau adeiladu i’w cael yn nhref Caerfyrddin, rhyw ddeng munud i ffwrdd o’r Brifysgol: • • • • • • • • • • •
Alliance & Leicester, Hall St Barclays Plc, Clôs Mawr Brittania, Maes Nott Cheltenham & Gloucester Plc, 9 Porth Tywyll Halifax, Heol Awst HSBC, Heol Awst Lloyds TSB, Heol Las a Stryd y Brenin Nationwide, Clôs Mawr NatWest, Stryd y Brenin Principality, Clôs Mawr Santander, Porth Tywyll
Yn ogystal, mae peiriant arian ‘Link’ yn adeilad Undeb y Myfyrwyr.
Gwasanaethau Meddygol Mae’r Brifysgol ar gampws Caerfyrddin yn cydweithio â Meddygfa San Pedr, Caerfyrddin i ddarparu gofal iechyd ar gyfer ein myfyrwyr. Mae San Pedr yn cynnig apwyntiadau penodol ar gyfer myfyrwyr yn y brif feddygfa. Gellid trefnu apwyntiad drwy ffonio’r brif feddygfa 01267 236241.
Cofrestru â Meddygfa Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, mae’n hollbwysig eich bod yn cofrestru gyda meddyg cyn gynted â phosibl er mwyn cael gofal dan y GIG. Mae hyn yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr. Nodwch fod y Brifysgol yn ei gwneud yn ofynnol i bob myfyriwr sy’n byw ar y campws i gofrestru gyda Meddyg Teulu lleol o fewn pythefnos i gofrestru. Mae’r Brifysgol hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i bob myfyriwr/wraig sy’n byw mewn llety yn y dref neu adref i hysbysu’r Brifysgol o fanylion eu meddyg teulu. OS NA FYDDWCH YN RHOI’RWYBODAETH BWYSIG YMA I NI MAE’N BOSIB Y BYDD OEDI WRTH DREFNU TRINIAETH FEDDYGOL AR EICH CYFER MEWN ARGYFWNG. Meddygfa San Pedr - Heol San Pedr, Caerfyrddin Ffôn: 01267 236241 Meddygfeydd eraill: • Meddygfa Furnace House - Furnace House, Heol San Andreas, Caerfyrddin Ffôn: 01267 236616 • Meddygfa Lôn Morfa - Lôn Morfa, Caerfyrddin Ffôn: 01267 234774 Mae nifer o fyfyrwyr eisoes wedi cael eu brechu rhag Llid yr Ymennydd cyn iddynt ddod i’r Brifysgol. Fodd bynnag, os nad ydych wedi cael y brechiad pwysig hwn ond yn dymuno cymryd mantais o’r cyfle, gallwch gysylltu â’r Ganolfan Feddygol, Meddygfa San Pedr yn uniongyrchol ar 01267 236241. Yn ddelfrydol, sicrhewch eich bod yn cael eich brechu cyn dod i’r Brifysgol.
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
49
presgripsiynau Mae’r rhain ar gael am ddim yng Nghymru ar hyn o bryd gan i Lywodraeth Cynulliad Cymru ddiddymu costau presgripsiwn yn Ebrill 2007.
Atal Cenhedlu Gellir cael cyngor ar ddulliau atal cenhedlu oddi wrth eich meddyg neu yn y clinig yn Pond Street. Cynhelir Clinig Atalgenhedlu yn Pond Street bob prynhawn Mercher rhwng 2.00yh a 4.30yh. Mae’r clinig yn gweithredu system ‘galw i mewn’ felly does dim angen gwneud apwyntiad o flaen llaw.
Atal cenhedlu brys Mae’r ‘Bilsen Bore Wedyn’ ar gael am ddim oddi wrth eich meddyg, yn Adran Ddamweiniau Ysbyty De-Orllewin Cymru, o Glinig Pond Street neu’r fferyllfeydd canlynol: Boots, Archfarchnad Tesco, King Morgan/Nigel Wlliams. Gellir ei gael o fferyllfeydd eraill hefyd.
Iechyd rhywiol Mae haint Chlamydia yn gyffredin ymysg grŵp oedran myfyrwyr. Mewn sawl achos, ni fydd unrhyw symptomau, ac os caiff ei anwybyddu, dyma’r achos mwyaf cyffredin o anffrwythlondeb triniadwy yn y wlad hon. Ymhlith y symptomau cyffredin mae teimlad o losgi wrth basio dŵr, gwaedu rhwng misglwyfau ac, yn achlysurol, poen yn yr abdomen. Gall effeithio ar ddynion yn ogystal â merched, ond mae’n hawdd ei drin gyda meddyginiaethau gwrthfiotig. GALL UNRHYW UN SY’N CAEL RHYW FOD MEWN PERYGL. Gellir cael profion a thriniaethau ar gyfer yr haint hwn, a heintiau eraill a gaiff eu trosglwyddo drwy ryw yn y Clinig yn Pond Street.
HIv/ AIDS Mae gwasanaeth cwnsela, profion a thriniaeth ar gael o’r clinig GUM (Genito-Urinary Medicine) yn Pond Street. Bydd unrhyw un sydd am gael apwyntiad ar gyfer y clinig GUM yn Pond Street yn cael cynnig apwyntiad o fewn 48 awr. Mae clinig Pond Street yn cynnig ystod eang o wasanaethau cyfrinachol yn rhad ac am ddim sy’n cynnwys dulliau atalgenhedlu, iechyd rhywiol, sgrinio serfigol, meddyginaeth genito-urinary a chwnsela seicorhywiol. Clinig Pond Street, Pond Street, Caerfyrddin Ffôn: 01267 227475, Oriau agor: Llun-Gwe 9yb-4.30yh
fferyllfeydd lleol • Boots Plc, 12 Heol Goch, Caerfyrddin Ffôn: 01267 236368 • Walter Lloyd a’i Fab, 12 Heol Awst, Caerfyrddin Ffôn: 01267 236947 • King Morgan / Nigel Williams, 25 Heol y Brenin, Caerfyrddin Ffôn: 01267 236541 • Fferyllfa’r Dderwen, 1A Waundew, Caerfyrddin Ffôn: 01267 234550 Hefyd mae fferyllfa ar agor yn hwyr yn siop Tesco yn y dref tan 8yh (ar wahân i ddydd Sul 10yb-4yh)
Deintyddion lleol • Water Street Dental Practice, 13 Heol Dŵr, Caerfyrddin Ffôn: 01267 234941 • Old Oak Dental Practice, 78 Heol Dŵr, Caerfyrddin Ffôn: 01267 236548 • Rosser & Freeman, Heol y Gwyddau, Caerfyrddin Ffôn: 01267 234656
50
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
Trafnidiaeth Gyhoeddus Bysiau Mae bysiau’n teithio’n rheolaidd rhwng y Brifysgol a chanol tref Caerfyrddin a’r tu hwnt. Mae dwy linell wybodaeth ar gael i holi am fanylion pellach am y gwasanaeth, gan gynnwys amserau a llwybrau’r bysiau: Swyddfa Cludiant Cyhoeddus Cyngor Sir Cymorth a Chyngor (lleol yn bennaf) Caerfyrddin (Llun - Gwener, yn ystod Ymddiriedolaeth AIDS Cymru, oriau swyddfa) 01267 231817 Abertawe . . . . . . . . . . . . . . . . . .01792 461848 Gwybodaeth a Chefnogaeth Llinell Wybodaeth Cymru Gyfan (saith Canser . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .01792 655025 diwrnod yr wythnos, 7yb-10yh) 0870 608 CALL (Llinell Gyngor a 2608 Gwrando Gymunedol) . . . . .0800 132737 Canolfan Gynghori (CAB), trenau 113 Heol Awst . . . . . . . . . . . . .01267 234488 Ymholiadau National Rail 08457 484950 Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Gorllewin Cymru 01267 244442 Mae’r trenau’n mynd yn rheolaidd o orsaf Gofal Galar Cruse . . . . . . . . . . . . .01267 235130 Caerfyrddin i ddwyrain a gorllewin Cymru. Cyngor ar Ddyled - Debtcall Abertawe yw’r orsaf fawr agosaf ar y brif Debt Counselling . . . . . . . . . .0800 204 728 linell a gallwch deithio i unrhyw le bron Gwasanaeth Cynghori Cymorth oddi yno, er weithiau bydd angen i chi i Fenywod Caerfyrddin . . . .01267 234725 newid trên yng Nghaerdydd. Prism – Gwasanaeth Ymgynghorol ar Alcohol . . . . . . . . . . . . . . . . .01267 231634 Mae’r trenau i Abertawe’n tueddu mynd Cyngor Priodas Relate . . . . . . . .01267 236737 yn amlach na’r rhai i’r gorllewin tuag at Aberdaugleddau. Mae’r trenau i’r dwyrain yn gadael ar amserau afreolaidd, ond cyn Llinellau Cymorth Cenedlaethol 6 o’r gloch yr hwyr fe ddylech fedru cael Alcoholics Anonymous . . . . . . .0845 7697555 trên bob awr, tua’r hanner awr wedi. Rape and Sexual Abuse Support Centre . . . . . . . . . . . .01483 546400 Mae trên yn gadael bob dwy awr i’r BPAS (British Pregnancy Advice gorllewin tuag at Aberdaugleddau adeg Service) Action line . . . . . . . .08457 304030 oriau brig o ddydd Llun i ddydd Gwener. One Parent Families helpline . .0800 0185026 Refuge National Domestic Violence Cwmnïau tacsi Helpline (24 awr y dydd) . . .0808 2000247 Adrian Taxis . . . .01267 234861 National Drugs Line – 24 awr y dydd Chris Cars . . . . . .01267 234438 Rhadffôn . . . . . . . . . . . . . . . . . .0800 776 600 Imperial Taxis . . .01267 233311 National AIDS Helpline – 24 awr y dydd Martin’s Taxis . . .01267 223223 Rhadffôn . . . . . . . . . . . . . . . . . .0800 567123 Paul’s Taxis . . . . .01267 237006 Gay and Lesbian Legal Advice Shamby’s Taxis 01267 232888 Line (GLAD) Llundain . . . . . .0300 3300630 Spike’s Taxis . . . .01267 236405 Mind Cymru . . . . . . . . . . . . . . . . . .02920 395123 Steve’s Taxis . . . .01267 233846 Y Samariaid . . . . . . . . . . . . . . . . . .0845 7909090 Meningitis Trust . . . . . . . . . . . . . .0800 0281828 NHS Direct Helpline . . . . . . . . . . .0845 4647
p r I f YS G O L C YM r U Y D r I n D O D D e W I S A n t • C YM O r t H I O r O e S I
51