canllaw i rai sy’n gweithio’n llawrydd am y tro cyntaf gan Y Drindod Dewi Sant
Cynnwys
06.
Ai gwaith llawrydd yw’r peth i chi?
Gofyn am arian
08.
14.
Sefydlu eich brand
10. Cael gwaith
2
12.
Cysylltu â gweithwyr llawrydd eraill
16.
24.
Rheoli eich arian
Rhagor o ffyrdd o wella eich sgiliau
18.
26.
Beth i’w wneud os bydd pethau’n mynd o chwith
Pethau a gwasanaethau defnyddiol
22.
Ehangu eich sgiliau
3
4
Cyflwyniad Mae marchnad swyddi’r DU wedi newid llawer yn ystod y degawdau diwethaf. Er y byddai gan rieni ein rhieni ‘swydd am oes’ yn aml yn union ar ôl gadael y brifysgol, nid felly y mae hi i raddedigion newydd yn y 2020au - ac efallai nad dyna’r dyfodol y byddech yn ei ddymuno o reidrwydd, beth bynnag. Mae gan weithwyr llawrydd amserlen waith fwy hyblyg, mwy o ddewis dros y prosiectau y maen nhw’n eu cyflawni, ac maen nhw’n gweithio o ble maen nhw am wneud hynny (sef weithiau o’r soffa – i mi dyna yw byw’r freuddwyd!). Adlewyrchwyd y newid hwn mewn ffigurau o farchnad lafur y DU. Adroddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Mai 2020 fod nifer amcangyfrifedig y menywod mewn hunangyflogaeth wedi cynyddu 45.3% rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2020, a chynyddodd nifer amcangyfrifedig y dynion mewn hunangyflogaeth 18.4%. Nid yw hynny’n golygu bod gweithio’n llawrydd yn hawdd - mae angen talent, penderfyniad a hunan gymhelliant arnoch i’w wireddu (darllenwch fwy am hyn yn yr adran nesaf ). Er mwyn llwyddo yn y farchnad brysur hon, mae bod yn wahanol i’r gweddill er mwyn dal sylw darpar gleientiaid yn hollbwysig. Fodd bynnag, os ydych chi’n fodlon gwneud y gwaith i sicrhau llwyddiant eich busnes bach, gall hon fod yn ffordd o fyw newydd sydd nid yn unig yn bosibl – gall hefyd fod yn un fuddiol dros ben. Gyda’r adnoddau a’r cymorth cywir, gallwch gyrraedd eich nodd, a – am lwc dda! - rydych chi wedi cydio yn yr union ganllaw i’ch rhoi chi ar ben ffordd. Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant rrydym wedi ymrwymo i ymchwilio a datblygu addysg menter ac entrepreneuriaeth, ac rydym yn falch o fod yn gartref i’r Sefydliad Athrofa Ryngwladol ar gyfer Ddatblygiad Entrepreneuraidd Creadigol (ARDEC). Mae tîm ARDEC yn datblygu arfer gorau rhyngwladol ym maes menter, entrepreneuriaeth ac addysgu, dysgu a gwerthuso entrepreneuraidd. Rydym yn helpu graddedigion i ddatblygu’r craffter busnes y mae ei angen arnyn nhw i greu’r yrfa sy’n gweddu orau iddyn nhw. Dyna pam rydyn ni wedi llunio’r canllaw hwn, sy’n cynnwys yr holl hanfodion llawrydd y bydd eu hangen arnoch chi i roi cychwyn arbennig ar eich taith hunangyflogedig. O reoli eich arian i fynd i mewn i’r meddylfryd cywir, bydd y canllaw hwn yn eich helpu i gynllunio eich llwybr gyrfa llawrydd eich hun. Felly, hyd yn oed os nad ydych chi erioed wedi meddwl am weithio’n llawrydd o’r blaen, neu eich bod eisoes yn cymryd eich camau cyntaf - gadewch i ni ddechrau gweithio pethau allan, gyda’n gilydd.
5
Ai gwaith llawrydd yw’r peth i chi? Mae dechrau eich busnes eich hun - hyd yn oed os mai dim ond chi, eich gliniadur a chwpanaid o de yw i ddechrau - yn syniad cyffrous i rai graddedigion newydd, ond yn sicr nid felly y mae hi i bawb. Ac mae’n wir bod angen i chi wybod nad yw’r llwybr gyrfa hwn heb ei beryglon yn ogystal â buddion enfawr. Felly sut ydych chi’n gweithio allan ai hwn yw’r llwybr cywir i chi? I’ch helpu, dyma’r hyn rydyn ni yn Y Drindod Dewi Sant yn ei feddwl yw rhai o’r nodweddion hanfodol ar gyfer gweithwyr llawrydd ym maes adeiladu.
6
Talent
Diben
Yn bennaf oll, mae angen bod gennych chi ddawn ddisglair y gallwch chi ei gwerthu. Beth bynnag fo’ch arbenigedd, mae llu o gyfleoedd llawrydd i ddechrau a chychwyn busnesau i’w hadeiladu - ac mae’n debygol y byddwch chi eisoes yn gwybod beth yw eich cryfderau unigryw. Os nad ydych chi, archwilio’r hyn rydych am ei wneud yw’r cam cyntaf, felly rhowch eich meddwl ar waith er mwyn i chi allu symud ymlaen i yrfa sy’n gweithio i chi.
Beth sydd wedi eich denu chi i waith llawrydd? Pa un ai’r rhyddid i drefnu eich amser eich hun, y cyfle i weithio ar amrywiaeth o brosiectau gwahanol, neu os ydych am wneud rhywbeth nad oes neb arall wedi meddwl amdano eto, mae angen eich pwrpas arnoch i yrru popeth a wnewch. Mae gan rai ohonom alwad foesol uwch, ac mae rhai ohonom yn meddwl y gallwn wneud llawer mwy o arian os awn ar ein pen ein hunain - does dim atebion anghywir yma, ond mae sicrhau bod eich blaenoriaethau’n cael eu gwirio yn bwysig iawn cyn i chi symud ymlaen heb bwrpas a digalonni. thoughtcatalog
Penderfyniad
Hunanhyder
Cymhelliant
Gall bod yn hunangyflogedig fod y peth gorau erioed - ond gall hefyd fod yn boen enfawr. Weithiau byddwch chi ar ben eich digon a bydd llawer o waith yn dod i mewn - gwych! - ond, yn anochel, bydd adegau y byddwch yn syllu ar flwch post gwag (llai gwych). Y gamp yw cofio, os ydych chi’n benderfynol, gallwch godi yn ôl ar eich traed a dal ati beth bynnag a ddaw i’ch rhan, hyd yn oed pan fydd popeth yn teimlo’n hollol, hollol ofnadwy.
Efallai y bydd rhai’n meddwl ei fod yn gyfle i frolio a bydd yn brofiad dirdynnol i eraill, ond un o heriau anochel bod yn hunangyflogedig yw gweiddi am eich gwaith i bobl nad ydyn nhw’n gwybod amdano (eto). Gall hyrwyddo’ch hun deimlo’n hynod o chwithig, yn enwedig pan fyddwch yn dechrau am y tro cyntaf, ond mae’n ddrwg angenrheidiol sy’n talu ar ei ganfed. A pheidiwch â drysu hunanhyder â haerllugrwydd – rydyn ni’n sôn am eich hyrwyddo eich hun a’ch gwaith yn y ffordd rydych chi’n ei haeddu, nid am fod yn werthwr snobyddlyd.
Does dim angen cyflenwad ynni cyson arnoch i lwyddo’n weithiwr llawrydd gan y byddai hynny’n afrealistig - ond mae angen eich bod yn gallu dod o hyd i ychydig o ynni mewnol pan fydd ei angen fwyaf. Os ydych chi’n entrepreneur ar eich pen eich hun, bydd hyn yn anos byth gan mai’r unig beth sydd gennych i dynnu arno yw eich adnoddau personol eich hun. Er nad oes modd osgoi’r poendod hwn, mae’n bosibl dod i ben yn llwyddiannus – a chewch chi deimlad enfawr o foddhad ar ôl cyrraedd y nod ar eich pen eich hun.
7
Sefydlu eich brand
Mae dod o hyd i’ch brand personol yn golygu penderfynu pwy ydych chi a’r math o waith rydych chi am ei wneud, ac wedyn gan feddwl am yr holl ddulliau y gallech chi eu defnyddio i gyfleu hyn i ddarpar gleientiaid yn y ffyrdd mwyaf effeithiol posibl. Gallai hyn gynnwys eich cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol, eich gwefan, a’ch deunyddiau marchnata ffisegol. Mewn unrhyw fath o waith llawrydd, bydd yn rhaid i chi ddatblygu brand personol er mwyn eich gwahaniaethu eich hun oddi wrth y dorf a chael pobl i ddeall y math o waith rydych chi’n ei wneud a pham. Dyma sut i ddechrau. 8
Fas Khan
Dechrau o’r dechrau I ddechrau eich taith at greu brand, mae angen i chi fanteisio ar yr hyn sy’n ganolog i’ch busnes a chi eich hun. Mae dilysrwydd yn allweddol yma, felly byddwch yn driw i chi eich hun a’r ffordd rydych chi’n gweithio. Beth sydd wrth wraidd eich angerdd dros eich busnes? A yw’n gwneud gwahaniaeth yn y byd? Oes gennych chi gariad at y gair ysgrifenedig? Eisiau helpu pobl i gyrraedd eu potensial? Neu ddim ond yn mwynhau’r hyn rydych chi’n ei wneud? Gall unrhyw un o’r rhesymau hyn, a llawer mwy, fod yn sylfaen i’ch datganiad cenhadaeth. Gall hyn wedyn ddod yn greiddiol i’ch brand. Chi sy’n gwybod am beth rydych chi’n angerddol yn ei gylch a’r hyn y gallwch ei gynnig nad yw eraill yn ei gynnig, felly gallwch droi hynny’n syniadau ar gyfer delweddau, enw cwmni a mwy. Yr hyn sy’n bwysig yw eich bod chi’n sicrhau bod eich gweledigaeth wrth galon popeth.
Arbenigwch, peidiwch â chyffredinoli Er y gallai ymddangos yn syniad da gallu gwneud ‘popeth,’ mewn gwirionedd, gall y gwrthwyneb fod yn wir. Mae sgiliau mewn golygu delweddau, ysgrifennu copi, a threfnu eich gwaith yn bethau gwerthfawr ac mae’n debyg y byddwch chi’n cael llawer o waith y cewch chi eich comisiynu i’w gwblhau, ond, oni bai mai nhw yw eich arbenigedd, nid y rhain a ddylai fod yn brif gynnig eich busnes. Bydd gweithwyr llawrydd sy’n cynnig pob gwasanaeth dan haul, hyd yn oed os ydych chi’n meddwl bod hynny’n ddeniadol i eraill, yn rhoi’r argraff eu bod nhw’n llai medrus na’r busnesau hynny sy’n gwybod beth maen nhw’n rhagori ynddo a beth maen nhw’n ymddiddori ynddo. Maen nhw wedi cymryd ychydig o amser i benderfynu ar eu maes dethol nhw ac o’r herwydd, mae eu portffolio nhw’n fwy pwerus . Felly, cymerwch hoe, a phenderfynu beth y gall eich busnes ei gynnig orau.
Sut ydych chi’n swnio? Mae’r ffordd yr ydych yn ysgrifennu ac yn siarad am yr hyn rydych chi’n ei wneud yn adrodd cyfrolau am eich dull o gynnal eich busnes a’r canlyniadau y gall cwsmeriaid eu disgwyl. Bydd cyfathrebu’n glir heb jargon yn denu llawer mwy o gwsmeriaid nag ysgrifennu llawer mewn iaith sy’n benodol i’r diwydiant y bydd hi’n anodd iddyn nhw ei deall (hyd yn oed os yw’r geiriau hynny’n rhan o’ch geirfa bob dydd chi). Ffordd dda o brofi hyn yw defnyddio eich teulu a’ch ffrindiau. ‘Ydyn nhw’n gallu dweud beth rydych chi’n ei wneud a pham ar sail beth rydych chi wedi’i ysgrifennu? Yn ogystal â defnyddio iaith ddealladwy, meddyliwch am y traw fydd yn taro deuddeg gyda’ch cynulleidfa darged. Os ydych chi’n frand ffasiwn i bobl ifanc yn eu harddegau, er enghraifft, bydd tôn eich llais yn swnio’n wahanol iawn i frocerydd yswiriant (oni bai eich bod yn frocer yswiriant ffasiynol iawn, hynny yw). Meddyliwch am fratiaith, gramadeg, a hyd eich brawddegau wrth i chi ysgrifennu.
Photo by hello im nik
Gwnewch yn siŵr bod popeth yn cyd-fynd Er mwyn i ddarpar gleientiaid gael argraff gywir a pharhaol ohonoch, dylech sicrhau bod eich gwefan, cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a chardiau busnes yn cyd-fynd. Mae hynny’n golygu y dylai eich disgrifiadau ar y cyfryngau cymdeithasol gyfateb i’r rhai sydd ar eich gwefan, ac os ydych chi’n defnyddio graffeg, dylech ddefnyddio’r un graffeg ar draws y gwahanol ddulliau hysbysebu sydd gennych. Unwaith y byddwch wedi setlo ar sut bydd eich brand yn edrych, gwnewch yn siŵr bod hynny’n cael ei drosglwyddo i bopeth y byddwch chi’n ei ddefnyddio.
Arddangoswch eich gwybodaeth arbenigol Er nad ydych chi am ddatgelu popeth - gall cleientiaid brynu eich gwasanaethau ar gyfer unrhyw arbenigeddau sydd gennych, wedi’r cyfan - does dim niwed mewn dangos rhai o’ch sgiliau fel y gall eich cynulleidfa weld beth y gallwch chi ei wneud. Gall LinkedIn fod yn llwyfan gwych yn hyn o beth. Pan fydd rhywbeth amserol yn digwydd yn eich diwydiant, beth am ysgrifennu blog byr sy’n ei drafod? Os byddwch chi’n dal i ymddangos yn llinell amser cyfryngau cymdeithasol eich cleient gyda barn arbenigol fanwl, bydd yn cadarnhau yn eu meddwl eich bod chi’n awdurdod yn eich maes. Syniad arall fyddai eich ffilmio eich hun gan ddefnyddio eich safbwynt proffesiynol unigryw i ateb cwestiynau neu ddatrys problemau a anfonir i mewn gan y rhai sydd y tu allan i’ch diwydiant.
Logo ai peidio? Efallai ei bod hi’n ymddangos yn amhroffesiynol os na fydd gennych chi logo o’r cychwyn cyntaf gan ein bod ni’n gweld y cwmnïau mawr yn eu placardio ym mhobman, ond does dim angen logo arnoch o reidrwydd i wneud eich brandio’n gyson, yn hawdd i’w ddeall ac yn effeithiol pan fyddwch chi’n dechrau sefydlu eich busnes. Yr hyn sy’n bwysicach yw cael brand syml sy’n ei gwneud yn glir pwy ydych chi a beth rydych chi’n ei wneud. Unwaith y bydd gennych well dealltwriaeth o’ch busnes, dyna’r amser i fuddsoddi mewn logo sy’n gweithio’n dda, sydd wedi’i gynllunio’n dda ac sy’n eich cynrychioli chi a’ch cwsmeriaid.
Mynnwch gardiau busnes Mae rhai pobl yn dal i wneud pethau all-lein - rhyfedd, ynte? Ond mae cardiau busnes yn cyfleu awdurdod o hyd, ac maen nhw’n gaffaeliad mawr pan fyddwch chi’n gwneud rhywfaint o rwydweithio wyneb yn wyneb a bod angen i chi wneud argraff. A does dim rhaid i chi gario cardiau busnes diflas, anghofiadwy mwyach - gallwch chi wneud eich rhai chi yn llawer mwy cofiadwy eich hun ar wefannau sy’n gadael i chi ddylunio eich cardiau eich hun am bris fforddiadwy. Gallai hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol os ydych chi’n gweithio yn y celfyddydau gweledol a’ch bod chi am i bobl gofio eich arddull penodol.
9
Cael gwaith Felly ble mae’r holl waith llawrydd hwn yn cuddio? Er mwyn llwyddo, y gwir amdani yw y bydd yn rhaid i chi chwilio amdano. Oni bai eich bod chi’n weithiwr llawrydd o fri sydd wedi ennill eich plwyf, mae’n annhebygol y bydd gwaith yn disgyn i’ch arffed. Weithiau hanner y frwydr yw dod o hyd i waith, a bydd rhaid i chi baratoi ar gyfer cyfnodau heb waith yn ogystal ag adegau pan fydd llawer o waith yn llifo i mewn pan fyddwch yn cynllunio eich blwyddyn ariannol. Serch hynny, gweithiwch yn ddigon caled, byddwch chi ar eich ffordd i fod yn giamstar ar y gwaith o’ch hyrwyddo eich hun. Dyma rai ffyrdd profedig o sicrhau bod gwaith yn dod i mewn, hyd yn oed pan fyddwch chi’n gyw bach sy’n dechrau eich busnes eich hun.
Holwch o gwmpas Unwaith y byddwch chi wedi bod yn gweithio’n llawrydd am ychydig, bydd eich cymuned fach eich hun o weithwyr llawrydd eraill yn ffurfio o’ch cwmpas, yn enwedig os gwnewch chi’r ymdrech i ddod i adnabod eraill mewn grwpiau ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn cyfarfodydd. Gall cadw mewn cysylltiad â chydweithwyr llawrydd fod yn ddefnyddiol iawn gan y gallwch chi gyfeirio eich gilydd ar gyfer gwaith sy’n codi - mae dylunwyr graffig yn aml yn clywed am waith i ysgrifenwyr copi, er enghraifft, a gallwch chi hyd yn oed greu tîm a gwerthu eich sgiliau fel pecyn os byddwch yn gweithio’n dda iawn gyda’ch gilydd yn y pen draw. Peidiwch â bod yn farus â’ch gwybodaeth - os ydych chi’n helpu eich cydweithwyr llawrydd, byddan nhw’n eich helpu chithau hefyd. Does dim rhaid i chi ofyn i ymarferwyr eraill chwaith. Weithiau bydd teulu a ffrindiau sy’n gweithio mewn mannau hollol wahanol yn gwybod am bethau lle gallwch chi fwrw iddi. Peidiwch â bod yn swil am hyn - mae’n ymddygiad llawrydd hollol arferol.
10
Mynnwch le ar y byrddau gwaith Gallai hyn fod braidd yn amlwg ar gyfer dod o hyd i waith tymor hwy a chontractau parhaol, ond os ydych chi’n weithiwr llawrydd sy’n ffynnu ar brosiectau tymor byrrach, gallai’r cyngor bach hwn fynd heibio i chi. Mae gan wefannau megis Indeed a Monster hysbysebion ar gyfer prosiectau bach hefyd, a swyddi sydd â thelerau sefydlog. Gwnewch yn siŵr nad ydych chi ar eich colled oherwydd nad ydych chi wedi pori drwyddynt.
Siz Islam
Cysylltwch â chyflogwyr yn uniongyrchol
Cadwch eich gwefan yn sgleiniog ac yn chwiliadwy
Cydweithiwch â gweithwyr creadigol eraill
Felly rydych chi wedi gweld sefydliad ac rydych chi eisiau gweithio iddyn nhw - ond rydych chi’n llawrydd ac wrth eich bodd. Mae ffordd o gwmpas hyn. Os ydych chi’n edmygu un sefydliad yn fawr a’ch bod chi’n meddwl y gallech chi wneud gwaith gwych iddyn nhw (neu gyda nhw), does dim sy’n dweud na chewch chi fynd atyn nhw yn gyntaf. Anfonwch e-bost atyn nhw gyda’ch syniadau ac mae’n ddigon posibl y byddwch chi’n eu syfrdanu ac yn bachu comisiwn, neu, yn gwahodd rhywun sy’n gweithio yno am goffi ac yn cael gwybod mwy am yr hyn maen nhw’n ei wneud a beth maen nhw’n chwilio amdano. Mae’n ffordd wych o gael cipolwg ar y cwmni a gweld beth y bydden nhw’n hoffi cydweithio arno.
Byddwch chi’n synnu faint o weithwyr llawrydd sy’n dibrisio grym y rhyngrwyd, hyd yn oed pan fyddan nhw’n ei defnyddio drwy’r amser. Bob tro y byddwch chi’n cwblhau darn newydd o waith, dylech chi dynnu sylw ato ar eich cyfrifon cymdeithasol ac yn ei ychwanegu yn syth at eich portffolio ar-lein - dydych chi byth yn gwybod pwy allai fod yn edrych arno’n iawn ar yr union eiliad honno. Pwy a ŵyr nad yw cleient posibl yn eich llygadu ar gyfer rhyw waith gwych.
Dyblwch eich cronfa o gysylltiadau drwy gydweithio ag ymarferwyr eraill. Does dim rhaid iddyn nhw wneud yr un peth â chi hyd yn oed - meddyliwch am wneuthurwr gwisgoedd sy’n cydweithio ag artist i wneud print unigryw sy’n cael ei werthu drwy siopau ar-lein y naill a’r llall. Braf, ynte? Hefyd, drwy rannu eich adnoddau, gallwch gael mwy o effaith. Pe baech chi’n lansio prosiect cydweithredol gyda dau weithiwr llawrydd arall, nid yn unig y gallech chi ei hyrwyddo i dair gwaith cymaint o bobl drwy eich cwmpas a’ch cysylltiadau personol a’r rhai ar y cyfryngau cymdeithasol, gallech hefyd ddefnyddio eich adnoddau unedig i gynnal digwyddiad lansio enfawr.
Defnyddiwch wefannau ar gyfer gweithwyr llawrydd yn unig i chwilio (a rhoi cyfle i eraill eich darganfod)
Os ydych chi am gadw eich bywyd personol a phreifat ar wahân ar-lein - sy’n gallu bod yn wych i rai, ac yn anfantais i eraill - crëwch gyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar gyfer busnes yn unig. Postiwch eich memynau mwyaf gwirion ar eich cyfrifon personol preifat, wedi’u cloi na all neb eu gweld ond y rhai rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw, a chael eich cyfrif proffesiynol gorau yn barod ar gyfer pryd byddwch yn barod i anfon dolenni at arweinwyr posibl. Mae hefyd yn werth paratoi eich tudalennau rhwydwaith proffesiynol yn iawn - gall safle cyfryngau cymdeithasol proffesiynol LinkedIn ddarparu cysylltiadau amhrisiadwy heb i chi adael eich ystafell fyw hyd yn oed, ac mae The Dots yyn rhwydwaith ar-lein yn enwedig ar gyfer gweithwyr llawrydd sy’n chwilio am eu prosiect dymunol nesaf. Y gamp yw postio pethau sy’n digwydd yn eich diwydiant ar y tudalennau hynny i sbarduno sgyrsiau diddorol sy’n rhoi’r argraff eich bod chi’n rhan o dirwedd eich gwaith, ac yn rhannu eich prosiectau anhygoel eich hunain.
Ar wefannau swyddi penodol i weithwyr llawrydd megis UpWork, Fiverr, a The Dots, gallwch lanlwytho proffil bach sy’n adlewyrchu eich sgiliau unigol a’ch personoliaeth unigryw. Wedyn gall cyflogwyr syrffio’r safleoedd hyn gan chwilio am y doniau gorau ar gyfer prosiect sydd ar y gweill ganddyn nhw. Fel arall, gallwch chwilio am swyddi ar y safleoedd hyn a’ch hyrwyddo eich hun fel y rhai sy’n gweddu orau. Y fantais yw’r rhwyddineb o fynd yn syth i lygaid y cyflogwr - yr anfantais, yn anffodus, yw y bydd rhai o’r gwefannau hyn yn mynd â chyfran o’r enillion a gewch chi drwy’r safle.
Gwnewch eich presenoldeb ar-lein yn broffesiynol
Gwnewch waith da a byddan nhw’n dod nôl am ragor Peidiwch byth â dibrisio gwerth argymhelliad llafar ar gyfer cael gwaith – efallai’n wir y cewch chi eich comisiynu gan yr un cwmni nifer o weithiau yn olynol, yn enwedig os bydd ganddyn nhw nifer o adrannau. Bydd bod yn uniongyrchol, yn hyderus ac yn fedrus yn eich gwaith yn sicrhau mai chi fydd y person i fynd ato cyn bo hir ato pan fydd angen y doniau sydd gennych chi. Cadwch eich cleientiaid yn agos gan mai adeiladu perthynas gref a pharhaol yw un o’r sgiliau pwysicaf y gallwch chi ei dysgu yn weithiwr llawrydd newydd.
11
Gofyn am arian:
Cyngor Jamie Panton ar yr hyn sy’n gweithio iddo e Mae Jamie yn un o gyn-fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant sy’n wneuthurwr ffilmiau ac sy’n adnabyddus am ei waith bywiog, diddorol. Dyma air i gall ganddo i’ch helpu i godi’r hyn rydych chi’n ei werth yn weithiwr llawrydd. Pan fydd pobl yn gofyn i mi am gyngor am fod yn hunangyflogedig a rhedeg busnes yn y celfyddydau, mae un ymholiad yn codi’n aml: faint dylwn i ei godi am fy ngwaith? Mae’n ymddangos bod y cwestiwn hwn yn achosi mwy o bryder nag unrhyw un arall. Yn anffodus, does dim ateb hawdd i’r cwestiwn hwn. Wrth gwrs, gallech chi weithio allan gyfradd fesul awr. Ond i mi, un o’r manteision o weithio ar eich liwt eich hun a chynnig eich celfyddyd i bobl yw dianc rhag y fagl o ennill swm penodol yr awr. Mae’n well gen i gael cyfraddau dyddiol gwahanol, yn dibynnu ar y swydd. Ar ôl gweithio’n llawrydd am bum mlynedd erbyn hyn, rwy’n lwcus oherwydd gallaf ddewis a dethol fy ngwaith yn llawer mwy rhydd nag yr oeddwn i’n gallu i ddechrau. Felly, fel arfer rwy’n codi mwy am waith corfforaethol nad yw at fy nant, na phe bai band gwych yn gofyn i mi gynhyrchu fideo cerddoriaeth arbennig. Mae hwn yn lle braf i gyrraedd, ond wrth ddechrau, efallai y bydd angen i chi fod ychydig yn llai hy. Cyn i mi ddod at fy awgrymiadau gorau mae un peth arall sy’n werth ei grybwyll: eich portffolio, eich brand ar-lein a’r enghreifftiau o’ch gwaith fydd yn cynnal eich busnes. Wrth ddechrau, penderfynais i roi tro ar fideograffeg ar gyfradd rad iawn, yn unig er mwyn adeiladu fy nghorff o waith, dod o hyd i’m harddull a chreu rhestr fawr o adolygiadau a chyfeiriadau hapus. Er nad fy lle i yw dweud wrthych am wneud yr un peth, galla i ddweud bod hyn wedi gweithio allan i mi gan olygu fy mod i wedi adeiladu’r busnes yr oeddwn am ei wneud yn gymharol gyflym.
12
Wedi dweud hynny, dyma fy awgrymiadau ariannol gorau Byddwch yn ddidaro
Codi mwy
Cyn i mi fynd i’r brifysgol, roeddwn i’n gweithio mewn telewerthu. Oeddwn, roeddwn i’n un o’r rheini oedd yn eich ffonio am ad-daliadau PPI – bydda i’n gwneud penyd i dalu am hyn rywbryd maes o law mewn bywyd. Er y gallwn i deimlo’n chwerw am y rhan hon o’m bywyd, dysgodd ychydig o wersi amhrisiadwy i mi, un o’r rhain yw peidio â gadael i’ch cleient feddwl am bris rhywbeth - gwnewch iddyn nhw feddwl am werth yr hyn maen nhw’n ei brynu. Yn rhy aml mae gweithwyr llawrydd yn mynd yn nerfus am ddweud pris rhywbeth ac yn ei adael tan ddiwedd sgwrs â chleient posibl. Peidiwch â gwneud hyn. Cyflwynwch y peth yn ddidaro yn y sgwrs (byddwch chi’n gwella wrth wneud hyn gydag ymarfer) ac unwaith y bydd y cleient yn deall, symudwch ymlaen i gynllunio’r gwaith, trafod mwy o fanylion, a rhoi pethau ar waith.
Daeth adeg wrth ddechrau gweithio’n llawrydd pan oeddwn i’n gwneud yn iawn, ac mae adeg bendant iawn rwy’n edrych yn ôl arni ac yn meddwl, ‘a, dyna’r eiliad y collais i fy holl fywyd cymdeithasol ac roeddwn i’n mynd amdani o fore gwyn tan nos.’ Yn rhyfedd iawn, dyna’r adeg y gwnes i godi fy mhrisiau. Llawer. Rwy’n dal i feddwl tybed ai amseru lwcus oedd hyn, ond rwy’n credu mai’r rheswm am hynny oedd oherwydd gyda phrisiau uwch dechreuodd darpar gleientiaid fy nghymryd i’n fwy o ddifri. Felly, unwaith y bydd gennych chi bortffolio cadarn ac adolygiadau i gefnogi’r hyn rydych chi’n ei wneud, byddwch yn ddewr a dechrau gofyn am lawer mwy o arian. Gwelwch beth sy’n digwydd.
Tric arall, yn hyn o beth, yw cloi’r sgwrs mewn ffordd arall. Er enghraifft, ar ôl dweud wrth gwsmer am bris car, gofynnwch iddo/i a fyddai’n ei hoffi mewn coch neu las. Mae hyn yn eu symud nhw i ffwrdd o’r agwedd ariannol ac yn ôl i gyffro’r cynnyrch.
Prisio gwahanol Gan adeiladu ar y syniad diwethaf, rwy’n cynnig gwahanol brisiau amrywiol ar gyfer gwahanol wasanaethau - nid yw’r un o’r rhain yn ffigurau crwn. Am ran o saethu fideo gallwn i godi £175 am ddiwrnod o ymchwil neu waith cyn-gynhyrchu. Ar gyfer y ffilmio unrhyw le rhwng £195-245 y diwrnod. Ac wedyn pris arall am ddyddiau ôl-gynhyrchu. Oni bai fod eich cleient yn dda iawn am jyglo rhifau dydyn nhw ddim yn mynd i ddilyn hyn. Nid yw hyn yn eu camarwain na’u twyllo, gan y bydda i’n dilyn y sgwrs gydag e-bost a fydd yn rhoi manylion y dadansoddiad prisiau. Ond yn y foment honno pan fyddwch chi’n gwerthu eich gwasanaeth, mae’n golygu na fydd eu meddyliau’n cael eu llethu gan y pris, er mwyn i chi allu eu hargyhoeddi nhw o werth yr hyn rydych yn ei wneud a’r gwasanaeth rydych chi’n ei gynnig. Mae prisio amrywiol hefyd yn gwneud i chi edrych yn broffesiynol. Wn i ddim pam... Am wn i, am ei bod hi’n edrych fel eich bod chi wedi rhoi meddwl rhywfaint amdanyn nhw?
Codi llai Wrth ddweud hyn, weithiau mae’n bwysig gwybod pryd i dynnu’n ôl a gweithio am ychydig yn llai. Mae bandiau wedi cysylltu â mi heb lawer o arian, ond gyda cherddoriaeth wych roeddwn i eisiau gweithio arni. Felly, yn hytrach na gwrthod, rwy wedi gofyn iddyn nhw gael mwy o reolaeth greadigol neu hyd yn oed reolaeth greadigol gyflawn dros y fideo - felly galla i arbrofi gydag edrychiad neu dechnegau newydd y gwn i y galla i eu defnyddio wedyn i ddenu cleientiaid eraill. Mae prisio’n weithred jyglo. Weithiau mae’n talu’n fwy yn y tymor hir i weithio am lai. Peidiwch â gadael i hyn ddod yn norm – byddwch yn ddoeth yn hyn o beth.
Dysgwch fwy am waith Jamie ar ei wefan, jpvs.info
13
Rheolau aur Rachael Wheatley
am wneud cysylltiadau (a’u cadw) Rachael Wheatley yw cyfarwyddwr a sylfaenydd Waters, asiantaeth greadigol yn Abertawe. Yma mae’n rhannu ei chanfyddiadau i fanteision rhwydweithio yn llawrydd, a sut i’w wneud orau. Wrth weithio ar eich liwt eich hun, mae’n hanfodol bwysig gwneud cysylltiadau a sicrhau bod eich rhwydweithiau’n dal i dyfu. Os na fyddwch chi’n cysylltu â phobl, y perygl yw y cewch chi eich ynysu. Gall fod yn anodd iawn ymdopi â bod heb gydweithwyr sy’n eistedd wrth ddesg yn eich ymyl i’w defnyddio i danio syniadau, dirprwyo gwaith, neu i’ch ysgogi a’ch ysbrydoli i ddechrau. Ni ddylai gweithwyr llawrydd newydd fyth ddibrisio gwerth eu cysylltiadau. Gall unigolion o’r un anian y gellir ymddiried ynddyn nhw ac sy’n estyn allan fod yn gaffaeliad enfawr. Mae hyn yn berthnasol i’ch dysgu parhaus a datblygu sgiliau, cynnal ffrwd o ymholiadau, cynhyrchu arweinwyr, sicrhau gwaith, a’ch lles personol eich hun. Y cyngor gorau a gawsom ni erioed wrth ddechrau oedd ‘helpwch eich gilydd,’ hyd yn oed os na allwch chi weld y budd uniongyrchol. Un diwrnod pan fydd ei angen arnoch fwyaf, byddwch yn sylweddoli mai gwneud y cysylltiadau hynny oedd y peth gorau a wnaethoch erioed. Cofiwch bob amser fod ‘cryfder mewn niferoedd’ - mae cydweithio’n bosibl, mae’n rhoi boddhad ac yn bleserus i bawb dan sylw. Os byddwch chi’n cwrdd ac yn cysylltu â mwy a mwy o bobl mae’n fwy tebygol na fydd y cyflenwad gwaith yn sychu. Wedi dweud hynny, dyma fy rheolau aur ynghylch cysylltu.
14
Paratoi • • • • • • •
Pan fyddwch chi’n mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio, byddwn i’n argymell eich bod yn cynllunio eich cyflwyniad. Cadwch hi’n fyr ac yn glir. Cofiwch gynnwys pam eich bod chi yno a beth ydych chi’n gobeithio ei gael o fod yn bresennol. Mae’n debyg y bydd y person rydych chi’n siarad ag ef yno am resymau tebyg, neu’n chwilio am y gwasanaeth rydych chi’n ei ddarparu. Buddsoddwch yn ddoeth mewn set dda o gardiau busnes sy’n cyfleu pwy ydych chi. Bydd y rhain gennych am gyfnod hir a gall eich cysylltiadau eu cadw hyd yn oed yn hwy! Rhowch gynnig ar amrywiaeth o ddigwyddiadau sy’n digwydd ar wahanol adegau o’r dydd – efallai y byddwch chi’n dod o hyd i ddigwyddiadau gyda’r nos neu gyfarfodydd anffurfiol sy’n cyd-fynd yn well â’ch amserlen waith, ac sy’n rhoi gwell cyfle i chi ymwneud ag unigolion o’r un anian. Nid yw’r ffaith eich bod chi’n berson creadigol yn golygu y gallwch chi neu y dylech chi fynd i ddigwyddiadau creadigol yn unig. Cofrestrwch ar restrau postio perthnasol i gael gwybod am gyfleoedd rhwydweithio a digwyddiadau o flaen eraill, a chofrestrwch cyn i’r lleoedd fynd. Ymarferwch eich mân siarad, naill ai gyda’ch ffrindiau neu’ch teulu, neu recordiwch eich hun ar eich ffôn. Chwaraewch ef yn ôl a byddwch yn feirniadol o’ch hun. Dylai fod gennych lyfr nodiadau wrth law bob amser i wneud nodiadau neu ddwdlan ynddo. Neu teipiwch nodiadau yn eich ffôn a’u he-bostio atoch chi eich hun wedyn. Cynlluniwch ymlaen llaw ynghylch pryd y byddwch yn neilltuo amser yn eich amserlen i fynychu digwyddiadau a gweithgareddau rhwydweithio, a chadw at yr amserlen hon.
•
Peidiwch byth â hepgor digwyddiad oherwydd dydych chi ddim yn teimlo fel mynd. Efallai y byddwch chi’n colli cyfarfod â rhywun pwysig y diwrnod hwnnw, neu’n colli cyfle i ddysgu rhywbeth newydd.
Agwedd • • • • • • • • •
Byddwch yn gyfeillgar, a gwenu. Byddwch yn dryloyw ac yn ddidwyll – byddwch ‘chi’ eich hun ond chi ar eich gorau. Byddwch yn ddiolchgar am unrhyw gysylltiadau a wnewch chi ac unrhyw gyfleoedd sy’n codi. Mwynhewch eich hun a rhoi o’ch gorau, nid yn unig yn ystod y digwyddiad neu’r sgwrs, ond gyda’r bobl a roddodd o’u hamser i gysylltu â chi. Byddwch yn gymwynasgar a chynnig helpu trefnwyr digwyddiadau – boed hynny drwy ddosbarthu taflenni neu glirio ar ddiwedd y digwyddiad. Weithiau mae’r sgyrsiau mwyaf ffrwythlon yn digwydd ar ôl y digwyddiad, ac nid yn ystod y digwyddiad. Byddwch yn barod iawn i helpu eraill a rhoi eich cyngor gorau os gofynnir i chi. Bydd pobl yn ymateb yn dda i hyn. Byddwch yn angerddol am yr hyn rydych chi’n ei wneud a rhoi gwybod bod gennych ddiddordeb mewn digwyddiadau yn y dyfodol. Dangoswch eich bod chi’n awyddus i ddysgu rhagor. Ymfalchïwch yn eich cyflawniadau diweddar a byddwch yn barod i sôn amdanyn nhw – gwnewch hynny mewn ffordd ddiddorol, a chofiadwy! Cofiwch fod pob digwyddiad a fynychwch yn ddrws posibl i gyfle arall.
Disgwyliadau
Ymdrech
• • • • •
• • • • • •
Peidiwch â disgwyl gormod yn rhy gynnar. Byddwch yn magu mwy o hyder wrth fynd i fwy a mwy o gyfarfodydd. Bydd rhywun yno’n meddwl neu’n profi’r un peth â chi. Gofynnwch i un o’r trefnwyr eich cyflwyno i rywun y teimla y gallai fod yn ddefnyddiol i chi ei adnabod. Dysgwch addasu eich arddull gyfathrebu yn dibynnu ar bwy rydych chi’n siarad â nhw.
Presenoldeb • Byddwch yn bresennol. Os nad ydych yn siŵr beth mae hyn yn ei olygu,darllenwch The Present gan Spencer Johnson. • Canolbwyntiwch. • Gofynnwch gwestiynau, ond peidiwch â gofyn gormod ar unwaith. • Dysgwch pryd i wrando a phryd i siarad. • Rhannwch brofiadau go iawn â’r bobl rydych chi’n siarad â nhw – byddwch yn onest am y gwych a’r gwachul. Mae hyn yn eich gwneud yn fwy dynol. • Dwedwch wrth bobl y digwyddiadau eraill rydych chi wedi bod iddyn nhw a’r darnau gorau am y rhain. • Byddwch yn ymwybodol o bwy sydd yn yr ystafell (cleient posibl, cyflogwr blaenorol, neu gystadleuydd). • Peidiwch â chwyno am unrhyw beth na neb - does dim byd gwaeth. • Pobl yw pobl, hyd yn oed y bobl fwyaf medrus, talentog neu enwog – pobl. Peidiwch â gadael i nerfau na ‘chyfaredd’’ eich atal rhag gwneud cysylltiad pwysig.
Dyw hi BYTH yn hawdd gwneud unrhyw beth da na gwerth chweil! Dim ond am ychydig o oriau ar y mwyaf y mae sesiynau a digwyddiadau rhwydweithio yn para – gwnewch yn fawr o’r amser hwn. Mae angen i chi weithio’n galed iawn pan fyddwch chi’n mynychu – cewch chi ymlacio maes o law. Gwnewch ymdrech i’ch cyflwyno eich hun i rywun newydd, rhywun nad ydych chi, o bosibl, wedi siarad ag ef o’r blaen, rhywun sy’n amlwg yno ar ei ben ei hun, neu rywun sy’n edrych yn ddiddorol i chi. Cysylltwch bobl eraill, byddwch yn gynhwysol a gwneud cyflwyniadau ar ran eraill. Nid dim ond chi sy’n cyfri – gallech chi helpu eraill i gysylltu. Gall bod yn gysylltydd helpu i adeiladu eich enw da. Dilynwch unrhyw beth y byddwch chi wedi addo ei wneud â’r cysylltiadau a wnewch mewn modd amserol. Cymerwch yr amser i ddod o hyd i’r bobl rydych
• •
chi wedi cyfarfod â nhw ar sianelau cymdeithasol a’u dilyn. Mynnwch air â’ch cysylltiadau o bryd i’w gilydd. Ewch i amrywiaeth o ddigwyddiadau a sgyrsiau i ddarganfod beth sy’n gweithio orau i chi. Gallai hyn gynnwys digwyddiadau rhwydweithio busnes, a sesiynau creadigol.
Y digwyddiadau y mae Rachael yn eu hargymell: • Boreau Creadigol Caerdydd: creativemornings.com • Design Swansea: designswansea.co • Ignite Cymru: ignite.wales • Sgyrsiau TEDx: ted.com/tedx • Cymuned Datblygu Meddalwedd Abertawe: @SwanseaSDC
Dysgwch fwy am waith Rachael ar wefan Waters Creative: waters-creative.co.uk
15
Rheoli eich arian Yn ystod y cyffro cychwynnol o ddechrau busnes ar eich pen eich hun, efallai y bydd eich ymennydd yn ysu am serotonin ac yn ceisio anwybyddu’r holl rannau mwy diflas. Pan fyddwch chi’n gweithio i gwmni sydd â’i adran gyllid ei hun, gallwch gymryd pethau’n hawdd - ond nawr, y mae angen i chi fod yn ymwybodol eich bod yn ymdrin ag arbenigwyr treth gorau’r llywodraeth yn CThEM. Er eich bod chi’n gyw bach ifanc, ni fyddan nhw’n petruso cyn eich dirwyo neu’n waeth os nad yw eich trethi’n cyrraedd y safon bob blwyddyn ariannol. Y ffaith arswydus yw, yn achos eich busnes bach eich hun, chi yw’r adran gyllid yn ogystal ag Adnoddau Dynol, TG a rhagor. Wedi dweud hynny, gall gwybod faint yn union rydych chi wedi’i ennill a faint y gallwch chi ddal gafael arno ar ôl talu i’r llywodraeth fod yn deimlad hynod o werthfawr. Dyma ein pecyn i ddechreuwyr am y pethau i fod yn ymwybodol ohonyn nhw pan fyddwch chi’n ymbalfalu ym myd cyllid llawrydd am y tro cyntaf. 16
Matthew Lancaster
Dod i’w ddeall Cyn gynted ag y byddwch chi’n hunangyflogedig ac yn ennill dros £1,000 mewn blwyddyn dreth, mae angen i chi gofrestru’n ‘unig fasnachwr’ gyda CThEM. Mae hyn yn golygu eich bod chi’n eich cyflwyno eich hun i gael eich cydnabod gan y llywodraeth yn fusnes hunangyflogedig. Mae hon yn broses gymharol hawdd. Gallwch chi ei chwblhau ar-lein ac ni fydd yn mynd â gormod o’ch amser - dim ond sicrhau bod eich pasbort neu fath arall o ID wrth law, yn ogystal â’ch Rhif Yswiriant Gwladol a rhestr o gyfeiriadau rydych chi wedi byw ynddyn nhw dros y blynyddoedd diwethaf. Ar ôl derbyn eich manylion unigryw drwy’r post, byddwch yn gallu mewngofnodi i’ch cyfrif i gwblhau eich cyfrifoldebau ariannol, gan gynnwys talu eich trethi eich hun. Dyma ble mae’n bwysig iawn cadw cofnodion cywir a chynhwysfawr o’ch incwm a’ch treuliau - felly cydiwch mewn cyfrifiannell, taenlen a diwrnod sbâr ac ewch ati i lenwi’r blychau bach hynny â’r rhifau hollbwysig hynny. Mae hyn yn mynd yn fwy cymhleth pan fyddwch chi’n barod i fynd yn gwmni cyfyngedig neu gyflogi eraill - felly gwnewch eich gwaith darllen. Mae adnoddau ar draws y we a all helpu.
Ystyriwch gael cyfrif busnes Nid yw’n orfodol, ond gall cyfrif banc busnes sydd ar wahân i’ch un personol wneud rhyfeddodau am ddidoli eich incwm a’ch gwariant, yn ogystal â chynilo arian ar gyfer y bil treth sy’n dod bob blwyddyn. Byddwch chi’n gallu gweld ar amrant beth sy’n digwydd i’ch arian, yn ogystal â gallu rhannu popeth sy’n dod i mewn yn hawdd yn incwm, yn daliadau treth, a gwariant arall. Os bydd gennych gerdyn banc ar wahân, wedyn bydd llai o berygl y byddwch chi’n mynd dros ben llestri ar nos Wener yn y dafarn a gwario’r arian rydych chi i fod i’w gynilo ar gyfer pethau sy’n gysylltiedig â gwaith hefyd.
Peidiwch ag anghofio hawlio eich treuliau Mae rhestr hir o bethau y gallwch chi hawlio treuliau yn ôl amdanyn nhw pan fyddwch chi’n llanw eich ffurflen dreth flynyddol, ac mae’n werth cadw’n drefnus gydol y flwyddyn ariannol er mwyn elwa ar y buddion hyn. Mae’r hyn y gallwch chi ei hawlio yn dibynnu ar eich swydd - os ydych chi’n ddiddanwr plant, er enghraifft, gallwch chi hawlio ar y gwisgoedd rydych chi’n eu defnyddio ar gyfer perfformiadau. Porwch y we am yr eitemau sy’n benodol i’r swydd y gallwch chi eu hawlio, neu holwch gyfrifydd. Yn fwy cyffredinol, dylai pob gweithiwr llawrydd gadw derbyniadau ar gyfer pethau megis deunydd ysgrifennu, tocynnau trên a rhagor drwy gydol y flwyddyn dreth. Pan fydd yr holl gostau hyn yn dechrau pentyrru, gallwch chi eu hawlio’n ôl o gyfanswm eich bil treth, a bydd hynny’n gwneud i fantolen banc eich busnes edrych yn llai bygythiol. Os ydych chi’n gweithio gartref, gallwch chi hawlio cyfran o’ch rhent, taliadau trydan, y dreth gyngor a rhagor hyd yn oed. Efallai y byddai casglu eich biliau cyfleustodau drwy gydol y flwyddyn, er mor ddiflas yw hynny, yn werth yr ymdrech.
Mae angen i chi greu eich pensiwn eich hun, a rhagor Pan fyddwch chi’n gweithio i gwmni ac yn talu eich treth drwy gynllun Talu Wrth Ennill, caiff cyfraniad i’ch pensiwn ei gyfrif a’i ychwanegu at gronfa eich pensiwn gan y wladwriaeth. Mae croeso i chi gael pensiwn personol yn ychwanegol at hwn, os hoffwch chi, ond byddwch chi’n parhau i gynilo rhywbeth yn eich pensiwn bob mis hyd yn oed os na fydd gennych bensiwn personol. Fodd bynnag, pan fyddwch chi’n hunangyflogedig, bydd angen i chi ddechrau eich pensiwn preifat eich hun. Gall hyn swnio braidd yn sych a chymhleth, ond peidiwch ag ofni - does dim rhaid i’r broses fod yn un erchyll. Yn wir, y cam anoddaf yw dechrau arni. Peidiwch â gadael i holl elfennau mwy cyffrous y busnes fynd â’ch sylw i gyd - cofiwch gwblhau’r cam hanfodol hwn. Mae ychydig o ddewisiadau: o bensiynau personol cyffredin mwy traddodiadol i opsiynau digidol yn unig, felly chwiliwch am yr un sy’n gweddu orau i chi a dechrau hel ceiniogau nawr. Fyddwch chi ddim yn edifar. Cam call arall fyddai ymchwilio i yswiriant llawrydd. Bydd hwn yn eich yswirio os na allwch chi weithio oherwydd salwch neu reswm arall, neu dan amgylchiadau eithafol, os bydd cleient yn penderfynu eich erlyn - felly dyna rywbeth arall y mae angen i chi ei ystyried yn ofalus.
Gall fod yn fwy heriol cael morgais Pan fyddwch chi’n prynu cartref, os nad ydych chi’n gallu talu amdano’n llawn (dim ond breuddwydio am hyn y gall awdur y geiriau hyn ei wneud), bydd angen morgais arnoch. Mae cael un pan fyddwch chi’n gweithio i gwmni ac yn talu eich treth drwy Dalu Wrth Ennill yn eithaf hawdd – does dim ond angen i’ch cyflogwr gadarnhau’r swm rydych chi’n ei wneud bob blwyddyn drwy’r cwmni. Yn anffodus, mae’n mynd yn anoddach pan fyddwch chi’n camu allan am y tro cyntaf oherwydd nad oes gennych lawer o brawf y gallwch chi sicrhau’r arian mawr a all dalu am dŷ bob mis. Fel arfer, bydd benthycwyr morgeisi am weld tair blynedd o ffurflenni treth er mwyn sicrhau y gallwch fforddio eich cartref eich hun. Digon teg, ond mae hefyd yn boen pan fyddwch chi’n aros am gyfle i symud i’ch lle eich hun - yn enwedig os ydych chi’n brynwr am y tro cyntaf. Er hynny, nid yw’n gwbl amhosibl, chwaith - gallai cynghorydd ariannol annibynnol da neu frocerydd morgais eich helpu i osgoi canlyniad siomedig os byddwch chi wedi syrthio mewn cariad â chartref eich breuddwydion.
Os nad ydych chi’n siŵr, defnyddiwch wasanaethau ariannol allanol Os ydych chi’n hollol ddi-glem am rifau, neu os hoffech chi fod rhywun arall yn bwrw golwg ar eich symiau, weithiau mae’n well troi at bobl broffesiynol. Gall rhif ffôn cyfrifydd cydymdeimlol, effeithlon sy’n arbenigo mewn cyllid llawrydd fod yn ychwanegiad amhrisiadwy at eich storfa o bethau defnyddiol golygu bod eich pen yn rhydd i feddwl am eich ymarfer creadigol. Weithiau, amser yw’r peth mwyaf gwerthfawr y gallwn ni ei brynu - ond wrth gwrs, mae’n rhaid talu am gyfrifydd. Wedi dweud hynny, efallai y gwelwch chi fod y cyfrifydd yn costio llai i’w logi na’r arian a enillwch chi yn ôl yn y treuliau hynny y buom ni’n sôn amdanyn nhw uchod.
17
Beth i’w wneud os bydd pethau’n mynd o chwith Dyw hi ddim yn mynd fel tic wats bob tro i fusnesau newydd - ond dyw hynny ddim yn golygu na allwch chi ddringo’n ôl i’r brig eto. Mae Jay Smith a Jo Ashburner yn ddau entrepreneur hynod lwyddiannus sydd wedi goresgyn rhwystrau i redeg busnesau eu breuddwydion. Dyma eu straeon.
18
19
Dechreuais i mewn busnes yn gwta 19 oed, ac erbyn i chi ddarllen y geiriau hyn, rwy’n 30. Roeddwn i’n astudio yn Y Drindod Dewi Sant ar y pryd ar gyfer fy ngradd yn y celfyddydau perfformio. Ers ychydig flynyddoedd roeddwn i wedi gweithio i wahanol gwmnïau theatr, ond roeddwn i’n teimlo’n rhwystredig oherwydd y ffordd roedden nhw’n cael eu rhedeg a’u diffyg ideoleg busnes sylfaenol. Roeddwn i’n gwybod y gallwn ni wneud yn well fy hun.
Jay Smith yw sylfaenydd buddugol The Stage 8 Group a The Stage Y Llwyfan. Fel perchennog busnes ifanc ond profiadol, mae’n gwybod weithiau fod rhaid i chi gymryd rhai camau gwag am gyfnod cyn i chi gael pethau’n iawn. Yma, mae’n rhoi ei hanes hyd yn hyn. Fy enw i yw Jay Smith, ac rwy’n rhedeg The Stage 8 Group Limited a The Stage Y Llwyfan Limited. Rydyn ni’n arbenigo mewn hyfforddiant theatr gerddorol i bobl ifanc a gwaith cynhyrchu theatr. Rydyn ni hefyd yn gweithredu theatr fach a stiwdios ymarfer. Sefydlais i fusnes oherwydd yr oeddwn i am deimlo’n llwyddiannus, ac mewn gwirionedd, roedd yr awydd i lwyddo’n deillio o flynyddoedd lawer o fethiant. Erbyn hyn rwy’n falch dros ben o allu sefyll a dweud fy mod i wedi methu droeon, ac os rhywbeth, dyna sy’n cyfri fy mod i’r math o berchennog busnes rydw i heddiw. Byddwn i’n dweud fy mod i’n beg sgwâr a bod y ‘gweithle traddodiadol’ yn dwll crwn. Dydyn ni ddim yn cyd-fynd – ac nid yw hynny’n golygu nad ydw i wedi gweithio. Dechreuais i ar fy swydd gyntaf yn 15 oed, gan orffen y coleg a gweithio tan hanner awr wedi deg bob nos, felly go brin fod ofn gwaith arna i. I’r gwrthwyneb! Ond rwy bob amser wedi cicio yn erbyn y tresi. Mae gen i broblem gyda chamddefnyddio awdurdod neu statws yn y gweithle ac yn y bôn, rwy’n gwybod nad wy’n gweddu i swydd ‘9 tan 5’ neu ‘swydd arferol’. Mae gen i gariad dwfn at entrepreneuriaeth, ac rwy bob amser wedi bod dymuno cael cyfrifoldeb 100% am fy ffawd fy hun, ni waeth pa mor galed yw’r broses.
20
Felly - dechreuais i redeg ysgol theatr gyda fy nghariad ar y pryd. Cam gwael! Fe wnaethom ni wahanu’n fuan wedyn, ond roedd y busnes hwn gyda’n gilydd gennym ni o hyd... camgymeriad dechreuwr. Roedd hi’n lletchwith ymbalfalu trwy fyd busnes a methu a wnaethom ni yn y pen draw. Pan orffennais i’r busnes gyda hi, penderfynais i fy mod i eisiau mentro ar fy mhen fy hun. Yn gyffredinol, pan fyddwch chi’n gwneud rhywbeth tebyg iawn i’r hyn a wnaethoch o’r blaen, rydych chi’n tueddu i gael yr un canlyniad - ond gyda phenderfyniad, sefydlais i fy ysgol ail gam, a baglu drwyddi. Yn y pen draw daeth i ben ryw flwyddyn yn ddiweddarach. Gwnes i addunedu ar y pryd hynny nad oeddwn i’n mynd i redeg fy musnes fy hun byth eto, ac er bod hynny’n loes i mi, roedd angen i mi gael swydd arferol. Yn ôl pob tebyg, oherwydd fy natur greadigol, rwy’n gwneud yn dda ar bapur ac mewn cyfweliad, ac yn eithaf cyflym, dyma fi’n bachu swydd gyda TechHub Swansea. Y canlyniad oedd mai hwn oedd un o’r lleoedd gorau i mi weithio ynddo erioed. Roeddwn i’n teimlo fy mod i’n perthyn. Roedd gen i entrepreneuriaid anhygoel o’m cwmpas, cynhaliwyd digwyddiadau gwych a ches i ryddid i roi fy stamp fy hun ar y gwaith. Ychydig fisoedd wedyn, ces i alwad gan Y Drindod Dewi Sant yn cynnig rôl weinyddol i mi yn adran y Celfyddydau Perfformio. Roedd yn gynnig gwych na allwn ei wrthod, felly gadawais i fy swydd yn TechHub i weithio i’r brifysgol dim ond i gael fy niswyddo chwe mis yn ddiweddarach. Wedyn ces i fy hun yn gwneud cais ac wedyn yn gweithio mewn canolfan alwadau. Y gwir amdani oedd bod angen swydd arna i, gan fod fy ngwraig i’n astudio ar gyfer ei gradd nyrsio ac roedd angen arian arnom ni. Ond roeddwn i’n casáu’r swydd. Byddwn i’n mynd mor bell â dweud fy mod i wedi diflasu’n llwyr. Roedd fy natur hwyliog wedi diflannu, ac un diwrnod cyn sifft eisteddais ar y gwely a chrio. Allwn i ddim wynebu mynd i mewn. Gofynnodd fy ngwraig imi beth yr oeddwn am ei wneud, ac atebais i nad oedd gen i ddewis, bod
rhaid imi fynd i mewn. Meddai, ‘Mae gen ti ddewis - beth wyt ti am ei wneud mewn bywyd?’ Eglurais i fy mod am deimlo’n llwyddiannus, a gwnaeth y peth nesaf a ddywedodd hi newid fy mywyd. Wel, cer amdani, gwna hynny,’ meddai wrthyf. ‘Gwna beth bynnag y mae angen i ti ei wneud i deimlo felly.’ Gyda’i chefnogaeth a’i chariad di-sigl hi es i mewn i’r gwaith ac ymddiswyddo yn y fan a’r lle. Penderfynais i fy mod i am fynd yn ôl at yr hyn yr oeddwn i’n ei wybod. Roeddwn i eisiau rhedeg ysgol theatr lwyddiannus, ond roeddwn i wedi methu gymaint o weithiau o’r blaen - beth oeddwn i’n mynd i’w wneud yn wahanol y tro hwn i wneud yn siŵr nad oedd yn digwydd eto? Roedd angen i mi fynd yn ôl a darganfod lle’r aeth pethau o chwith. Holais i bobl a oedd yn ymwneud â’m busnesau blaenorol i gael eu barn am y cyfan, a wel, dyma nhw’n ei dweud hi yn blwmp ac yn blaen! Roedd e’n brofiad ofnadwy - does neb yn hoffi cael gwybod ble maen nhw wedi methu, ond pe na bawn i wedi mynd yn ôl yn ostyngedig fyddech chi ddim yn darllen y geiriau hyn heddiw. Gan ddefnyddio’r adborth hwnnw treuliais bedwar mis yn creu brand cyn agor fy ysgol theatr gyntaf ym mis Medi 2015. Rwy’n falch dros ben o ddweud ein bod ni’n dathlu ein pum mlwyddiant eleni ac rydyn ni wedi tyfu o un ysgol gyda thri deg o fyfyrwyr i bedair ysgol gyda bron 500 o fyfyrwyr. Rydyn ni hefyd wedi agor cwmni cynhyrchu ac wedi difyrru cynulleidfaoedd gyda sioeau sydd wedi gwerthu allan. Y peth mwyaf i mi ei gyflawni oedd cymryd drosodd neuadd ddawns adfeiliedig nad oedd wedi gweld golau dydd ers dros 40 mlynedd a’i throi’n theatr 140 sedd a stiwdio ymarfer. Rwy hefyd wrth fy modd yn cynrychioli Llywodraeth Cymru drwy Syniadau Mawr Cymru, gan siarad â phobl ifanc ledled Cymru am entrepreneuriaeth a menter ac rwy wedi datblygu perthynas gref â thîm Y Menter ac Entrepreneuriaeth Y Drindod Dewi Sant ers dros bron 10 mlynedd erbyn hyn. Os cofiwch un peth am y stori beth am hyn: nid yw methiant yn eich diffinio. Weithiau, dim ond ar ôl i chi fethu y byddwch chi’n gallu gweld y llwybr ymlaen at lwyddiant, felly ewch amdani, byddwch yn aflonyddgar ac ysgwyd pethau! Dysgwch ragor am waith Jay yn stage8group.com
Jo Ashburner yw Rheolwr Gyfarwyddwr Gwneuthurwyr Baneri Red Dragon Flagmakers. Aeth ei hysbryd entrepreneuraidd â hi o drychineb bersonol i ddod yn Fenyw Fusnes Genedlaethol y Flwyddyn yn y DU. Rhannodd Jo ei stori â ni. Des i’r brifysgol mewn oedran teg. Yn 34 oed, yn fam sengl i blentyn 10-mis oed gyda llawer o brofiad ac anturiaethau y tu ôl i mi ond yn sydyn ac yn annisgwyl, - yn ystadegyn rhiant sengl. Doedd gen i’r un ddimai goch ac roeddwn i’n chwilio am ffordd allan o’m sefyllfa. Dair blynedd yn ddiweddarach, roeddwn i wedi ennill gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf, Ysgoloriaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop i wneud Gradd Meistr ac roedd gen i gysyniad parod ar gyfer cynnyrch a busnes yr oeddwn i wedi gweithio arnyn nhw ers ail flwyddyn fy ngradd. Ar ôl graddio ces i hyd yn oed fy newis i arddangos yn arddangosfa’r Dylunwyr Newydd yn Llundain - ond doedd hi ddim yn hawdd cyrraedd yno. Ar ôl cwblhau fy mlwyddyn Sylfaen mewn Celf a Dylunio yn Y Drindod Dewi Sant (sef Athrofa Abertawe ar y pryd), roeddwn i’n disgwyl cael yr un hapusrwydd creadigol yn ystod fy ngham nesaf - y radd Dylunio Patrymau Wyneb. Ond roedd hi’n amlwg nad oedd syniadau yn gweddu. Nid oedd gen i ddiddordeb o gwbl yn y ffasiwn – cyfeiriad cyfeiriadol yr oedd pawb arall yn canolbwyntio arno ac roedd pob un ohonynt yn ymddangos braidd yn gymylog a diddim. Daeth teimlad rhy gyfarwydd o fod yn agored i niwed a dychryn yn ôl i’r golwg.
Ond, roeddwn i am fanteisio’n llawn ar yr holl gyfleusterau a chyfleoedd oedd ar gael i mi. Mynnodd fy narlithwyr mai dim ond tri modwl y byddwn i’n cael eu gwneud felly gwnes i bump – dau heb ddweud wrthyn nhw. Erbyn yr ail flwyddyn, roeddwn i wedi cweryla’n llwyr gyda’r un darlithwyr ac roedd hi’n ymddangos bod penderfyniad unfrydol i’m gadael i yn fy nghawl fy hun. Doedden nhw ddim yn gwybod fy mod i wedi bod yn ddigartref am gyfnod, fy mod i’n byw ar 12c y diwrnod, na bod fy holl fenthyciad myfyrwyr yn mynd ar ofal plant. Pan oedd angen deunyddiau neu betrol neu gewynnau arna i roedd hi’n frwydr enfawr i ddod o hyd i’r arian. Roeddwn i’n byw ar y parseli bwyd y byddai fy Nhad arbennig yn eu cludo bob dydd Llun ac enillais i arian drwy deipio gwaith myfyrwyr eraill a gwneud clustogau a llenni drwy hysbysebion a osodais i yn y papur lleol. Pan gafodd fy nghar ei losgi ar yr ystâd cyngor lle’r oeddwn i’n byw, dyma’r brifysgol yn codi’r arian o’i chronfa galedi i brynu car newydd i mi oherwydd bod Deon y Gyfadran ar y pryd yn deall pa mor benderfynol roeddwn i lwyddo. Doedd fy mab Zac ddim yn poeni lle’r oedd cyn belled â’i fod gyda Mam, felly byddai’n dod i’r Brifysgol gyda mi bob dydd nad oedd mewn gofal cyn-ysgol. Treuliodd dair blynedd gyda grŵp gwych o israddedigion yn eu hugeiniau, ac iddyn nhw mae’r diolch am eu sgiliau cymdeithasol anhygoel. Byddai’n cysgu ar bileri o ffabrig o dan fy nesg stiwdio, yn adeiladu pebyll, yn casglu pinnau ac yn eistedd mewn darlithoedd yn llenwi llyfrau braslunio gyda’i luniau ffantastig. Drwy gydol y radd canolbwyntiais i ar y syniad o ddylunio i blant gan blant. Astudiais i bob un o’r tair lefel o wneud printiau a defnyddiais i waith celf fy mab yn ysbrydoliaeth. Byddwn i’n casglu pren haenog sgrap ac wedyn yn rhoi marciwr parhaol i’r mab. Byddai’n gorwedd ar ei fola ac yn tynnu lluniau o’i ddychymyg – byddwn i’n mynd â gwn glud poeth dros ei farciau, yn paratoi ac yn inc y byrddau ac yn trosglwyddo’r delweddau, rhai ohonyn nhw’n bedair troedfedd o uchder, i bapur. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd fy ngraddau interim yn erchyll, a bod yn onest, ac ar ddiwedd yr ail flwyddyn roeddwn i’n dechrau credu fy mod i wedi gwneud camgymeriad enfawr. Doedd neb wedi ei syfrdanu’n fwy na mi pan gafodd fy ngraddau blwyddyn olaf eu gosod ar wal y stiwdio. Roedd fy narlithwyr ar ben eu digon. Anrhydedd dosbarth cyntaf, 87% a’r canlyniad gorau yn y flwyddyn hefyd, a phob un wedi’i
farcio a’i raddio’n allanol. Dair blynedd yn ddiweddarach enillais i wobr Menyw Fusnes Genedlaethol y Flwyddyn. Roeddwn i wedi adeiladu eco-frand fforddiadwy o’r enw Noonoo o ddim mewn ffatri foesegol yn Fietnam gyda gwerthoedd cymdeithasol cryf, cyflogau teg ac amgylchedd diogel i fenywod unig a’u plant. Rhedais i’r gwaith cynhyrchu o bell o’r DU, gan dalu rhent a chyflogau i’r wyth ar hugain o bobl a gyflogwyd yno ac ymweld am wythnos bob wyth i gadw ar ben y cyfan. Yn ei anterth, roedd Noonoo yn gwerthu’n fyd-eang drwy wyth dosbarthwr yn Awstralia, Japan, Sgandinafia, Ffrainc, dau yn yr UD, Taiwan a Seland Newydd, ac roeddwn i’n cyflogi saith aelod o staff yn y DU ar werthu a gweinyddu. Roeddwn i’n arddangos mewn ffeiriau masnach yn fydeang, yn teithio ac yn cael anturiaethau. Roeddwn i yn y cyfryngau ac yn y wasg yn rheolaidd - a hyn i gyd ar gefn y cynnyrch roeddwn i wedi ei ddylunio i yn ystod fy ail flwyddyn yn y brifysgol a hynny oherwydd greddf, diffyg amynedd a gwrthryfel entrepreneuraidd. Yn 2014, cofrestrais i’n ffurfiol fel yr unig wneuthurwr baneri mentrau cymdeithasol yn y byd ac un o’r ychydig iawn o fentrau cymdeithasol cofrestredig sy’n gweithgynhyrchu yng Nghymru yn unig. Rydyn ni’n gwneud baneri, baneri a gosodiadau personol o’r radd flaenaf yma yng Nghymru ac wrth i ni weithio i fodel ‘dim ond mewn pryd’, nid oes system llinell gynhyrchu sy’n ein galluogi i addasu i newidiadau yn y farchnad ar hap. Rhoddais i’r rhan fwyaf o stoc Noonoo i elusen yn y DU, In Kind Direct, yn 2016 sydd ers hynny wedi mynd ymlaen i fod o fudd i dros 200 o elusennau plant ac yn ddiweddar datblygais i gynnyrch newydd o’r enw bag cotiau ROOF i helpu i dorri cylch digartrefedd. Yn bersonol, pe bai’n rhaid i mi newid cyfeiriad gyrfa arall yn hytrach na rhedeg fy musnes fy hun, y dewis delfrydol i mi fyddai gallu rhannu fy mhrofiadau a galluogi ac addysgu cenedlaethau o entrepreneuriaid rebel yn y dyfodol. Mae’r Brifysgol wedi rhoi clod diolch i mi am orfodi newid sylweddol yn amcanion masnacheiddio’r radd Dylunio Patrwm Arwyneb ac weithiau rwy’n teimlo y byddai’n braf gallu gwneud y cyfan eto gyda manteision y polisi drws agored sydd ar gael i fyfyrwyr yn awr. Ond mae gen i’r un cyffro yn fy musnes fy hun – brawdgarwch y stiwdio, amrywiaeth yr heriau a chyffro llawn y broses greadigol gyfan, y ddadl, y rhwystredigaeth, cymryd risgiau – ac wrth gwrs y bobl anhygoel. Dysgwch ragor am waith Jo yn reddragonflagmakers.co.uk
21
Ehangu eich sgiliau Astudiais i Hysbysebu a Dylunio Brand yn Y Drindod Dewi Sant. Ar ôl graddio yn 2016, neidiais i’n syth i mewn i interniaeth a aeth â mi i asiantaeth ryngwladol yn Amsterdam - 180 Kingsday. Rwy’n dal yno heddiw, yn gweithio’n Gyfarwyddwr Celf i gleientiaid megis Dan Armin, PepsiCo, DHL a Qatar Airways. Ers gadael y brifysgol, nid yw’r dysgu wedi dod i ben. Hoffwn i feddwl fy mod i wedi gwella yn fy ngwaith, a’r holl bethau oedolion eraill sy’n dod ar ôl graddio (ac eithrio smwddio!). Dyma rai pethau sydd wedi fy helpu i wella.
Adeiladu eich brand Er fy mod i ym musnes adeiladu brandiau bob dydd, yn weithiwr proffesiynol creadigol, mae’n bwysig nad wy’n anghofio am fy mrand fy hun. Nid wy’n dweud bod angen cyllidebau marchnata mawr arnoch chi na bod rhaid pori trwy lyfr brand swmpus, ond dylech chi fod yn ymwybodol bod popeth a gyflwynwn ni yn y byd yn ychwanegu at ein brand personol a sut mae pobl yn ein gweld ni. Postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, mynychu digwyddiadau, ffasiwn, ysgrifennu erthyglau – mae pob un yn helpu cyflogwyr posibl neu gyflogwyr presennol i gael gwell dealltwriaeth ohonoch chi.
Ffocws Bydd cadw cymhelliant ar gyfer gwaith yn haws i mi pan fydda i’n yn canolbwyntio ar y budd rwy am ei gael ohono. Bob hyn a hyn o fisoedd rwy’n gofyn ychydig o gwestiynau i mi fy hun, megis, ydw i’n hapus gyda’r gwaith rwy’n ei wneud ar yr adeg hon? Pa waith rwy am ei wneud yn y dyfodol agos? Ble ydw i eisiau bod yn ystod y misoedd nesaf? Sut ydw i’n tyfu? Ar ôl i’m toes ofyn i mi a ydw i’n siarad â mi fy hun, galla i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n digwydd nawr, yn hytrach na meddwl yn rhy bell ymlaen.
22
Gwneud, gwneud, gwneud Hyfrydwch bod yn weithiwr creadigol yw ein bod ni’n cael gwneud beth bynnag a freuddwydiwn - ond weithiau gall gwaith fod yn araf iawn! Felly, pan nad yw’r gwaith rwy’n ei greu yn rhoi boddhad, rwy’n chwilio amdano mewn mannau eraill drwy ddilyn fy mhrosiectau ategol fy hun ym maes ysgrifennu a dylunio. Ac nid yw hynny’n wastraff amser - rhowch eich prosiectau bach ar-lein neu yn eich portffolio i ddangos ochr wahanol i’ch sgiliau. Yn ystod cyfnod cwarantin oherwydd COVID-19, creais i far symudol allan o gardbord a bwrdd smwddio. Dyna pryd y gwelodd y Quarantina olau dydd, ac erbyn hyn mae pawb yn fy asiantaeth yn awyddus i ymuno!
Mae mentoriaid yn hanfodol Er eich bod chi’n credu eich bod chi’n barod ar gyfer unrhyw beth, y gwir amdani yw nad ydych chi’n barod ar gyfer popeth, debyg iawn. Ac ni chymerodd lawer o amser i mi sylweddoli hynny. Mae’r gweithle yn bell iawn o gysuron y brifysgol. Mae pethau’n gyflym, mae prosiectau’n real, mae prosesau’n newydd ac mae terfynau amser yn hollbwysig. Roedd angen i mi ddysgu’n gyflym, felly es i ati i chwilio am ychydig o fentoriaid i’w cysgodi, gan ofyn cwestiynau twp a gwylio pab cam roedden nhw’n ei
gymryd. Yn hytrach na chredu mai ystelciwr oeddwn i, roedd y bobl hynny’n allweddol i’m sefydlu yn yr asiantaeth a sicrhau fy swydd gyntaf. Wrth ddewis mentor drosoch, chwiliwch am bobl sy’n well na chi a gofyn iddyn nhw fod yn fentor arnoch chi.
Amsugnwch bopeth Fel gweithwyr creadigol, mae’n rhaid inni fanteisio ar ein holl wybodaeth a’n profiad i greu gwaith gwych. Wrth gasglu mwy a mwy o wybodaeth, bydd mwy a mwy o ddeunyddiau i weithio arnyn nhw yn ein pen. Wedyn bydd gwell posibilrwydd i ni feddwl am syniadau gwych. Yn aml iawn rwy’n llunio hysbysebion ar gyfer cynulleidfa darged nad yw’n perthyn iddi, felly er mwyn gwneud gwaith effeithiol mae’n rhaid i mi fod yn agored i ddeall a dysgu am yr hyn y mae pobl eraill yn ei fwynhau neu’n ei wneud. Mae chwilfrydedd parhaus yn gwneud fy swydd i’n haws, ac yn fwy o hwyl. A does dim rhaid iddo fod yn ‘waith’: mae chwarae gemau fideo, llyncu gwydraid o chwisgi a gwylio pobl yn waith ymchwil sydd wedi fy helpu i wneud fy swydd yn well.
Hyd yn oed pan fyddwch chi wedi sefydlu eich busnes, nid yw hynny’n golygu y dylech chi roi’r gorau i ddysgu a thyfu’n ymarferydd. Mae un o raddedigion Y Drindod Dewi Sant Ross Weaver yn gwybod hynny – aeth mor bell â symud i Amsterdam i ddilyn ei freuddwyd o gyfarwyddo celf. Yma mae’n rhannu’r pethau sydd wedi sicrhau ei fod yn parhau ar ei orau yn greadigol.
Dysgwch ragor am waith Ross ar ei wefan rossweaver.com
23
Rhagor o ffyrdd o wella eich sgiliau Wrth i fyd gwaith ddatblygu o’ch cwmpas, dylech chithau fod yn datblygu ar yr un pryd er mwyn bod y gweithiwr llawrydd gorau posibl. Mae sawl ffordd o gyflawni hyn. Dyma rai syniadau yn unig.
24
Nodwch ble rydych chi’n ddiffygiol Beth bynnag yw eich prif faes gwaith, mae dyrnaid o sgiliau ategol y mae’n gwneud synnwyr i chi eu dysgu wrth wneud y gwaith hwn. Os ydych chi’n ddewin geiriau, gallech chi fod ar eich colled oherwydd nad ydych chi’n gwella eich gwybodaeth SEO, ac os ydych chi’n hen law ar ddylunio gwefannau, gallai datblygu eich technegau darlunio ynghyd â hyn ychwanegu gwedd newydd at eich gwaith. Gallai arbenigwyr ar y cyfryngau cymdeithasol hyd yn oed edrych ar sut i wneud GIFs a memynau personol... ac yn y blaen. Drwy ddarganfod gwahanol ffyrdd o sicrhau bod eich ymennydd yn parhau ar waith, gallwch gadw eich gwaith yn berthnasol, gan gadw pethau’n ffres i chi’ch hun. Gallech hyd yn oed wneud ychydig o arian ychwanegol drwy gynnig gwasanaethau ychwanegol.
Gwnewch yn fawr o’ch mentor Yn gynharach yn y canllaw, dywedodd y dylunydd Ross Weaver wrthym am bwysigrwydd cael mentor. Peidiwch â dibrisio’r wybodaeth sydd gan eich mentor - os ydych chi wedi dewis yn ddoeth, bydd y cyd-ymarferydd hwn wedi bod wrthi ers tro a bydd yn gallu eich llywio i bob math o gyfeiriadau nad ydych wedi breuddwydio amdanyn nhw hyd yn oed. Byddem ni’n argymell eich bod chi’n cael sgwrs â nhw’n rheolaidd os oes modd. Os dwedwch chi wrthyn nhw’n aml beth rydych chi’n ei wneud, bydd y naill a’r llall yn elwa llawer o’ch perthynas broffesiynol. Mae’n debyg y byddan nhw’n dysgu llawer gennych chithau hefyd - mae’n braf cael dau feddwl ar un her, a gall gwaith llawrydd fod yn unig iawn.
Edrych, gwrando, dysgu Mae trysor o fideos, podlediadau ac erthyglau llawn gwybodaeth ar y we sy’n gallu ateb llawer o’ch cwestiynau wrth ddechrau arni cyn i chi greu arferion rhy haearnaidd. Mae tiwtorialau YouTube yn wych am loywi pob math o arbenigedd, yn enwedig gwaith gweledol, tra gall podlediadau gan enwau blaenllaw ym myd busnes wneud i chi edrych ar bethau â llygaid newydd. Mae hefyd yn hawdd neidio i mewn ac allan o’r deunydd byr, bachog hwn yn ystod eich gorchwylion pob dydd. Torri llysiau i ginio wrth wrando ar bodlediad sy’n dysgu am ffyrdd newydd o wneud eich bywyd gwaith yn well? Mae’n swnio’n flasus i ni.
Byddwch yn hael gyda’ch sgiliau eich hun Pan fyddwch chi’n gweithio gydag eraill, yn naturiol byddwch yn dysgu rhai sgiliau gan y rhai rydych chi’n gweithio ochr yn ochr â nhw. Daw hynny ychydig yn fwy o her pan fyddwch chi’n gweithio ar eich pen eich hun. Rydym yn argymell yn gryf y dylech fentro ychydig a chynnig rhywfaint o’ch amser eich hun i weithwyr llawrydd eraill, fel y gallwch ddysgu oddi wrth eich gilydd. Un ffordd o wneud hyn yw trefnu cyfnewid sgiliau. Estynnwch allan at gyd-weithiwr llawrydd a gofyn iddyn nhw beth yr hoffen nhw i chi ei ddysgu iddyn nhw – rydyn ni’n siŵr y byddan nhw’n talu’r gymwynas yn ôl i chi. Byddwch chi’n gadel sgwrs dros goffi gyda sgil newydd sbon, yn ogystal â chwlwm proffesiynol agosach. Mae rhannu’n ffordd o ofalu, wedi’r cyfan.
Defnyddiwch adnoddau ar-lein rhad ac am ddim Os oes gennych chi ddiddordeb mewn rhaglennu, golygu delweddau, neu unrhyw sgiliau eraill sy’n gysylltiedig â’r gwaith, mae digonedd o adnoddau ar-lein am ddim ar gael i’ch helpu i ehangu eich sgiliau. Mae Codecademy yn cynnig gwersi codio rhyngweithiol am ddim sy’n ddefnyddiol iawn wrth weithio ar y we, beth bynnag yw eich rôl. Maen nhw mor hawdd i’w defnyddio, gall hyd yn oed dechreuwyr cyfan fynd ati. Yn dechrau ar ddylunio graffig? Mae GIMP yn rhaglen trin delweddau y gallwch chi ei defnyddio yn rhad ac am ddim ac sy’n gallu ymdopi’n dda â phrosiectau golygu llai trwm. Mae llawer mwy o’r rhain wedi eu gwasgaru ar draws y we.
Ymchwiliwch i astudiaethau ôl-raddedig Mae llawer o fanteision i barhau â’ch astudiaethau prifysgol ar ôl graddio am y tro cyntaf. Drwy ymrwymo i astudiaethau ôlraddedig, cewch gyfle i arbenigo yn eich maes, creu rhwydwaith academaidd o gyrsiau ac athrawon, dyfnhau eich gwybodaeth am eich pwnc, a chael y prawf a gydnabyddir yn rhyngwladol eich bod chi’n ymarferydd medrus iawn. Gall hyn eich helpu i gael prosiectau sy’n talu’n well, denu llygaid mwy o gleientiaid, a theimlo’n fwy hyderus yn eich gwaith. Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig ystod eang o Raddau Meistr, Diplomâu a Thystysgrifau syn cynnwys popeth o Hysbysebu i Waith Ieuenctid. Mae’n werth bwrw golwg arnyn nhw i weld a allai un o’u cyrsiau niferus wella eich CV a chryfhau eich sgiliau.
Nid gwaith yw popeth Gall bod yn weithiwr llawrydd fod yn drwm ar eich iechyd meddwl. Drwy gadw golwg ar sut ydych chi’n teimlo yn y gwaith a thu allan, gallwch chi osgoi llosgi allan, sef y teimlad o flinder ofnadwy, penodol, dieithrwch ac anweithgarwch. Pan fyddwch chi’n gweithio ar eich pen eich hun, byddwch chi’n fwy ymwybodol o’ch egni, eich rhythmau a’ch ffiniau. Mae’n amser gwych i ddeall sut rydych chi’n creu eich gwaith gorau, a pham rydych chi’n teimlo’n dda am ei wneud. Mae dysgu pryd i gymryd seibiant yn sgil hynod werthfawr, felly peidiwch byth â rhoi’r gorau i archwilio eich ymennydd eich hun.
25
Pethau a gwasanaethau defnyddiol Mae llawer o adnoddau ar gael i gefnogi datblygiad eich syniad mawr nesaf. Dyma ychydig o adnoddau defnyddiol ar gyfer rhai sydd â’u bryd ar fod yn entrepreneuriaid, gweithwyr llawrydd, a phawb yn y canol – ac mae’n bosibl gweld a defnyddio llawer o’r rhain yn rhad ac am ddim.
Syniadau Mawr Cymru ae’r wefan hon, sy’n canolbwyntio ar lansio eich busnes yng Nghymru, yn cynnig pob math o gymorth - felly chwiliwch yn fanwl drwy eu hystod eang o offer, canllawiau ac ysbrydoliaeth. Ein hoff ddarnau yw’r Map Llwybrau Busnes, sy’n rhoi eich syniad mewn cyd-destun realistig ac yn eich helpu i gynllunio eich taith llawrydd, a’r Canllaw Cychwyn Busnes, sy’n PDF defnyddiol iawn ac sy’n tynnu sylw at rywfaint o’r cymorth y gallwch ei gael hyd at 25 oed.
Busnes Cymru Hyd yn oed mwy o astudiaethau achos, gwybodaeth, syniadau a chyfleoedd sy’n canolbwyntio ar fusnesau Cymru, ond wedi’u hanelu at gynulleidfa hŷn.
Ymddiriedolaeth y Tywysog Dan 30 oed? Gall y rhaglen hon eich cefnogi i ddechrau eich busnes eich hun. Er 1976,mae wedi gweithio gyda thros 825,000 o bobl ifanc, gan gynnig cymorth ymarferol ac ariannol i ddatblygu eu sgiliau ar gyfer symud i fyd gwaith, addysg a hyfforddiant. Gweler yr adnoddau ar gyfer Cymru yma.
Entrepreneurial Spark Mae’r tîm hwn yn angerddol am sicrhau eich bod chi a’ch syniadau’n tyfu mor gyflym ac effeithiol â phosibl. Maent yn cynnig cyrsiau rhithwir, yn meithrin cymunedau entrepreneuraidd, ac yn darparu offer sy’n ‘gwneud i fusnesau wneud synnwyr’. Gwnewch gais am un o’u cyrsiau yma.
26
Hwb Entrepreneuriaeth y Celfyddydau a’r Dyniaethau Gyda straeon fideo, adnoddau, a hyd yn oed canllaw hyfforddi, nod y wefan hon yw gwneud i fyfyrwyr y Celfyddydau a’r Dyniaethau feddwl mewn ffordd entrepreneuraidd.
Start Up Donut Mae’r safle hwn yn gyforiog o adnoddau defnyddiol, o restrau o gynghorion gorau ar gyfer dod o hyd i gyllid, i gynnal sesiynau holi ac ateb am fentrau cymdeithasol. Mae’r bobl y tu ôl i Donut wedi bod yn rhedeg y safle hwn ers 25 mlynedd, felly rydych chi’n gwybod eu bod nhw’n dîm dibynadwy.
gov.uk Mae mwy ar gael yma na’r porth treth hunanasesu brawychus, diolch byth. Maen nhw’n cynnig tudalennau Dechrau Busnes a Thyfu Busnes, yn dibynnu ar ba mor bell rydych chi wedi datblygu eich syniadau.
Dechrau’n Deg Mae hwn yn ganllaw rhad ac am ddim i’w lawrlwytho ar sut i ddechrau busnes, a hynny mewn iaith glir - dim jargon yma! Mae’n ymdrin â chyllid, cyfreithiau a llawer mwy.
Entrepreneuriaeth Ieuenctid i Gymru Mae’r fideo hwn yn tynnu sylw at boblogrwydd cynyddol gyrfaoedd portffolio a thebygolrwydd gwaith hunangyflogedig i bobl iau yng Nghymru.
27
Mae ein tîm cyfeillgar a phrofiadol yn yr Athrofa Ryngwladol er Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol yn Y Drindod Dewi Sant wrth law i’ch helpu gyda’ch gyrfa hunangyflogedig. Mae gan nifer ohonom brofiad uniongyrchol o redeg ein busnesau ein hunain ac rydym bob amser yn dilyn y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwil a’r mentrau diweddaraf er mwyn eich cefnogi orau. Cysylltwch â ni a bod yn rhan o’n cymuned – o fflach syniad i fusnes sydd eisoes yn datblygu, gallwn eich helpu i ddod â’ch syniadau’n fyw.
enterprise@uwtsd.ac.uk @KatPen
Ysbrydolwyd Gweithio Pethau Allan gan gyn-fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant ac fe’i gwnaed yn fyw gan yr awdur a’r golygydd llawrydd Sammy Jones.
@sammyxjones