4 minute read
pobl gyffredin, bywydau arbennig
Wythnos Hosbisau Plant (dydd Llun 21 i ddydd Sul 27 Mehefin) yw’r unig wythnos codi ymwybyddiaeth ac arian sydd wedi’i neilltuo i blant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd a’r gwasanaethau sy’n eu cynorthwyo. Mae bob amser yn wythnos i’w nodi yn y calendr, â digonedd o weithgareddau wedi’u trefnu ar gyfer ein teuluoedd.
Eleni, fe wnaethom ymuno â Tyˆ Gobaith, yr hosbis plant yng ngogledd Cymru, i ddefnyddio Wythnos Hosbisau Plant i gydnabod cadernid a dewrder aruthrol y 430 o blant â chyflwr sy’n cyfyngu ar fywyd a’u teuluoedd ledled Cymru yr ydym yn eu cynorthwyo – pobl y mae byw beunyddiol yn aml yn cyflwyno heriau lluosog a chymhleth, heriau sydd wedi cael eu gwneud yn fwy anodd fyth gan y pandemig. Yn siarad yn ystod Wythnos Hosbisau Plant, dywedodd Maria Timon Samra, Prif Weithredwr Tyˆ Hafan: “Mae teuluoedd plentyn â chyflwr sy’n cyfyngu ar fywyd eisoes yn ei chael yn anodd o ran sut maen nhw’n byw eu bywydau beunyddiol. Maen nhw’n bobl gyffredin sy’n byw bywydau arbennig. Mae pandemig y coronafeirws wedi lluosi’r heriau hynny yn esbonyddol. “Tra bu’n rhaid i gynifer ohonom ni gydbwyso gweithio gartref ac addysgu gartref yng nghanol pryderon am effaith Covid ar ein teuluoedd a’n hanwyliaid, mae hyn yn cael ei roi yn ei wir oleuni pan fyddwn yn meddwl am rieni ein plant hosbis. “Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu’n rhaid iddyn nhw hefyd fod yn ddarparwyr gofal sylfaenol i’w plentyn â chyfyngiad ar ei fywyd bob awr o bob dydd, heb y mynediad arferol at rwydweithiau cymorth. Mae eu cyfleoedd arferol i gael seibiant wedi cael eu hatal oherwydd y cyfyngiadau amrywiol a gofynion gwarchod. “Mae ein hosbisau, y mae ein teuluoedd wedi eu disgrifio fel eu ‘hachubiaeth’, wedi aros ar agor i ddarparu gofal argyfwng a chymorth diwedd oes trwy gydol y pandemig ac yn croesawu mwy o deuluoedd yn ôl yn ofalus ac yn ddiogel. Ychwanegodd Andy Goldsmith, Prif Weithredwr Tyˆ Gobaith: “Fe wnaethom ni benderfynu defnyddio achlysur Wythnos Hosbisau Plant i dynnu sylw at y plant rhyfeddol hyn a’u teuluoedd, i gydnabod yn union pa mor arbennig ydyn nhw, drwy’r dydd, bob dydd yn aml gydag ychydig iawn o gymorth, a sut rydym ni, yr hosbisau plant yng Nghymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu i deuluoedd y cymorth y maen nhw’n ei haeddu a’i angen yn ddybryd yn aml iawn, ac yn fwy fyth ers mis Mawrth 2020 pan drowyd byd pob un ohonom ni wyneb i waered. “Rydym ni hefyd eisiau defnyddio’r achlysur hwn i ddiolch i’r miloedd o unigolion, clybiau a chymdeithasau, busnesau a sefydliadau sydd wedi cynorthwyo Tyˆ Hafan a Tyˆ Gobaith mor hael drwy rai o’n cyfnodau anoddaf – rydym ni’n diolch iddyn nhw o waelod ein calonnau. Rydym ni bob amser wrth ein boddau pan hoffai rywun ein helpu mewn rhyw ffordd ac rydym ni bob amser yn agored i gynigion a syniadau newydd,” meddai Andy Goldsmith.
“Mae galw am wasanaethau gofal lliniarol i blant yng Nghymru yn parhau i gynyddu ac rydym ni’n esblygu gwasanaethau ein hosbisau yn gyson i geisio bodloni’r galw hwn. Er ein bod ni wrth ein boddau o glywed y bydd ein ffrindiau yn y sector hosbisau plant yn yr Alban yn parhau i elwa o 50% o gyllid llywodraeth,” meddai Maria Timon Samra, “mae ein helusennau ni yn derbyn llai na 10% o gyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd iawn i gynllunio ymlaen llaw, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni.” Ychwanegodd Andy Goldsmith: “Mae angen i ni gynyddu ein cais am gyllid teg a chynaliadwy i hosbisau plant yng Nghymru nawr, fel nad yw plant Cymru a’u teuluoedd o dan anfantais annheg. Rydym ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Cronfa Achubiaeth”.
Os hoffech ddarganfod mwy am waith Tyˆ Hafan a Tyˆ Gobaith, ewch i tyhafan.org/lifeline-fund.
grwˆp sgowtiaid tyˆ hafan yn ennill gwobr y frenhines ar gyfer gwasanaeth gwirfoddol
Llongyfarchiadau i Grwˆp Sgowtiaid Tyˆ Hafan, y Grwˆp Sgowtiaid cyntaf i gael ei leoli mewn hosbis plant yn y DU, am gael ei anrhydeddu â Gwobr y Frenhines ar gyfer Gwasanaeth Gwirfoddol, y wobr uchaf y gall grwˆp gwirfoddol ei hennill yn y DU.
Sefydlwyd Grwˆp Sgowtiaid Tyˆ Hafan 13 mlynedd yn ôl ac mae wedi cynnig cyfleoedd i ddysgu a thyfu mewn amgylchedd difyr a chynhwysol i fwy na 100 o blant ers ei gychwyn, a chredir mai dyma’r unig grwˆp Sgowtiaid o hyd sydd wedi’i leoli mewn hosbis plant yn y DU.
Nawr, mae’r grwˆp, sy’n cynnwys yr arweinwyr gwirfoddol Ruth Weltch a Steve Barkley, wedi cael ei gydnabod am ei gyfraniad eithriadol at y gymuned. Meddai’r rhiant Kyle Jones: “Mae ein mab Christopher wedi bod yn mynychu Grwˆp Sgowtiaid Tyˆ Hafan ers dros flwyddyn. Mae’n gallu bod yn ef ei hun ac mae gweithgareddau yn cael eu haddasu i sicrhau cynwysoldeb. Mae’r grwˆp yn mynd gam ymhellach i gynnwys yr holl blant er gwaethaf eu galluoedd ac mae’n helpu ein mab i dyfu o ran hyder a sgiliau newydd.
Ewch i tyhafan.org/latest-news i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yn Tyˆ Hafan.