7 minute read
hanes ollie
- i ni, mae tyˆ hafan yn achubiaeth
Dim ond 22 oed oedd Sophie a Sean pan gafodd eu mab bach Ollie ddiagnosis o’r Syndrom MOSAIC arbennig o brin. Yma, mae Sophie yn rhannu eu hanes ac yn esbonio sut mae Tyˆ Hafan, yn gwbl lythrennol, yn achubiaeth i’r teulu cyfan.
“Ollie yw ein hail blentyn, brawd bach i Summer. Bu’n rhaid iddo gael ei ddadebru ar ôl iddo gael ei eni, ond fe’i hanfonwyd i ward arferol wedi hynny.
“Roedd ganddo grych sacrol ar waelod ei asgwrn cefn a phan ofynnais am hwn dywedodd un o’r meddygon iau bod gan Ollie ‘wyneb anarferol’ – llygaid ar wahân a chlustiau isel, ond fe wnaeth y meddygon eraill ei diystyru. “Cafodd drafferth yn bwyta o’r cychwyn. Yna methodd ei brawf clyw. Sylwodd meddyg iau arall nad oedd Ollie yn gwneud cyswllt llygad ac awgrymodd brofion pellach. “Roedd yn gyfanswm o bedwar mis rhwng ei eni ac Ollie yn cael ei dderbyn i’r ysbyty yn y Mynydd Bychan yng Nghaerdydd. Rhoddwyd tiwb gastrig trwynol iddo am y tro cyntaf a llwyddodd i gael bwyd. Druan ag ef, dyna oedd y tro cyntaf yr oeddwn i erioed wedi ei weld yn fodlon ar ôl cael bwyd y tro hwnnw. “Yna, cafodd ei dderbyn i’r ysbyty a chynhaliwyd llwyth o archwiliadau arno. Dywedodd y meddygon wrthym eu bod wedi gweld yr holl nodweddion hyn, ond yn unigol, nid gyda’i gilydd.” Yn y pen draw, cafodd Ollie ddiagnosis o Syndrom MOSAIC. “Dim ond 22 oed oedd fy ngwˆr Sean a minnau. Cawsom ein hanfon i ffwrdd gyda deunydd wedi’i argraffu o Google am y cyflwr ar ôl apwyntiad deg munud. Ac nid oedd unrhyw argymhellion o ran ble i fynd i gael rhagor o gymorth.”
Ni chafodd y teulu eu profiad cyntaf o Tyˆ Hafan tan oedd Ollie yn 18 mis oed.
“Roeddwn i wedi bod yn ofni sut brofiad y byddai, ond roedd yn hyfryd, ddim yn glinigol o gwbl. Mae pawb yn hapus ac yn rhedeg o gwmpas yn ceisio rhoi’r amser gorau i’r plant. Roedd Ollie yn fach iawn ar yr adeg honno, dim ond 18 mis oed.” “Cefais lawer iawn o gymorth gan y staff yn Tyˆ Hafan pan fu farw fy chwaer, Emma, dair blynedd yn ôl o fethiant yr arennau,” meddai. “Dim ond 35 oed oedd hi ac roeddem ni’n agos iawn.” “Arhosodd Ollie yn Tyˆ Hafan gyntaf ym mis Medi 2020 ar ôl iddo ddod allan o’r ysbyty ac mae wedi bod yno sawl gwaith ers hynny. Mae’n wych. “Arhosais gydag ef yn Tyˆ Hafan ychydig o weithiau, ond rwy’n byw mor agos, dydw i ddim eisiau defnyddio cyfleusterau os nad oes angen i mi wneud gan fod llawer o deuluoedd eraill allan yna sydd angen y math hwn o gymorth hefyd. “Ond nid yw’n fater o’r arosiadau seibiant yn unig. Os wyf i’n cael diwrnod ofnadwy o wael, rwy’n gwybod y bydd gan rywun yn Tyˆ Hafan yr amser i eistedd a gwrando arnaf i. “Nid wyf i a Sean yn siarad am yr hyn rydym ni’n mynd drwyddo gan fod y ddau ohonom ni’n mynd drwyddo a dydyn ni ddim yn gorfeddwl am y peth, rydym ni’n ceisio bwrw ymlaen â phethau. Felly i ni, mae Tyˆ Hafan yn wirioneddol ardderchog. “Ac mae Summer wedi cael cwnsela hefyd. Roedd hi mor anhapus pan fu farw fy chwaer. Dyna oedd ei phrofiad cyntaf o farwolaeth. Ar ôl hynny roedd hi’n deffro yng nghanol y nos yn crio, gan redeg i mewn i ystafell Ollie i wneud yn siwˆr ei fod dal yn anadlu.
“Nawr mae Summer newydd orffen cyfnod arall o gwnsela. Mae wedi bod yn y tyˆ drwy gydol y pandemig. Ac mae’r cwnsela wedi bod mor arbennig o dda iddi oherwydd nawr mae’n gofyn cwestiynau ac yn siarad mwy am Ollie. Rwyf i wedi prynu Bwystfil Gofidion iddi – os bydd pethau yn achosi gofid iddi yna mae’n ysgrifennu pethau i lawr ac yn eu rhoi nhw yn y bwystfil gofidion. “Nawr, diolch i’r cwnsela y mae wedi ei gael gan Tyˆ Hafan, mae Summer yn teimlo ei bod yn gallu siarad am yr hyn sy’n digwydd a mwy. Ac roeddwn i eisiau hyn – roeddwn i eisiau iddi allu cael popeth allan yn yr agored. Mae’n iawn crio, mae’n iawn bod yn anhapus. “Mae Ollie eisoes wedi cael ei drosglwyddo ar frys i Tyˆ Hafan ddwywaith neu dair ar gyfer gofal diwedd oes. Mae cwnsela yn sicr wedi ei helpu i ymdopi â hyn, ac oherwydd y bu’n rhaid iddi fwy am y flwyddyn ddiwethaf o dan y cyfyngiadau mwyaf llym gan ei bod yn gwarchod. “Mae Summer yn ôl yn yr ysgol gynradd bellach ac mae pethau yn bendant yn well iddi. “Pe na bai gennym ni gymorth gan Tyˆ Hafan - ni fyddem ni’n cael unrhyw seibiant o gwbl. Mae’r pwll hydrotherapi yn anhygoel, yn ogystal â’r cymdeithasu â phlant a theuluoedd eraill. Mae’r nyrsys
wedi adnabod Ollie drwy gydol ei oes ac maen nhw’n anhygoel gydag ef. Hefyd, drwy’r grwˆp Super Sibs, mae Summer yn cael cyfle i siarad â phlant yn yr un sefyllfa â hi ac mae hi wrth ei bodd gyda hynny. Mae Kelly Jo, yn arbennig, yn anhygoel. Roedd hi’n gwneud galwadau fideo unwaith neu ddwywaith yr wythnos yn ystod y cyfyngiadau symud, ac roedd Summer yn edrych ymlaen yn arw at sgwrsio â hi.
“Mae Tyˆ Hafan wedi bod yno i ni yr holl ffordd. Maen nhw hyd yn oed wedi anfon parseli bwyd i ni ar ddechrau’r cyfyngiadau symud cyntaf [pan roeddem ni’n gwarchod] ac yn ein ffonio yn rheolaidd i weld sut ydym ni.
“Un tro, aeth pethau’n drech na fi ac fe es i Tyˆ Hafan. Roedd un o’r nyrsys, Adrian, newydd orffen gweithio ond doedd dim ots. Eisteddodd gyda fi a gwrando. Rhoddodd hynny ddigon i mi godi a dal ati.” Kelly Jo yw Gweithiwr Cymorth Brodyr a Chwiorydd Tyˆ Hafan ac mae wedi treulio llawer o amser gyda Summer, ar-lein ac, yn fwy diweddar, yn bersonol. Meddai: “Roeddwn i’n cynorthwyo Summer yn wythnosol yn ystod y cyfyngiadau symud. Roedd Summer a minnau yn cael sgwrs ar alwadau fideo i gychwyn, roeddem ni’n chwarae gemau ac yn cyflawni gweithgareddau gyda’n gilydd, fel creu sleim, coginio a hyd yn oed gwneud lamp lafa. Cyn gynted ag yr oeddwn i’n gallu mynd â Summer allan, fe aethom ni am dro i Ynys y Barri ac i Barc Porthceri. “Un tro, penderfynodd arllwys y glaw, felly fe aethom ni i’r coed i gael lloches gan lwyddo i osgoi cael ein socian. Mwynhaodd Summer y diwrnod hwnnw gan iddi gael y siocled poeth mwyaf yr wyf i erioed wedi ei weld, yn llawn dop â malws melys – roedd yn enfawr!! “Pan ddychwelodd Summer i’r ysgol, fe’i gwelais yn ein rhith-sesiynau Super Sibs. Nawr ein bod ni’n cael sesiynau wyneb yn wyneb o’r diwedd, mae Summer yn dod i bob un ohonyn nhw, yn ogystal â’n grwˆp Roblox.”
Darganfyddwch sut i fod yn achubiaeth i deuluoedd fel un Ollie dros y dudalen.
Mae Tyˆ Hafan wedi bod yno i ni yr holl ffordd
gallwch chi fod yn achubiaeth
i deuluoedd fel un Ollie trwy gynnwys rhodd yn eich ewyllys i Tyˆ Hafan
Ariennir bron i chwarter ein gwasanaethau gofalu gan roddion syn cael eu cynnwys yn ewyllysiau pobl bob blwyddyn. Rydym ni wedi ffurfio partneriaeth â’r Rhwydwaith Ewyllysiau Am Ddim Cenedlaethol i roi’r cyfle i’n cefnogwyr ysgrifennu ewyllys syml (neu bâr o ewyllysiau adlewyrchu) gyda chyfreithiwr lleol am ddim. Nid oes unrhyw rwymedigaeth i gynnwys rhodd i Tyˆ Hafan yn eich ewyllys wrth ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, ond rydym yn gobeithio y gwnewch chi ystyried cofio Tyˆ Hafan ar ôl darparu ar gyfer eich anwyliaid. Mae croeso i chi gysylltu i glywed mwy am ein cynigion ysgrifennu ewyllys am ddim. Ewch i tyhafan.org/be-a-lifeline am ragor o wybodaeth. Fel arall, ffoniwch 02920 532 255 neu anfonwch e-bost at ein Cynghorydd Rhoddion mewn Ewyllysiau, Abbie, yn
abbie.barton@tyhafan.org
Bydd rhodd, ni waeth pa mor fawr neu fach, yn cael effaith sylweddol ar ein gwasanaethau gofal. Gyda’ch cymorth chi, gallwn barhau i fod yn achubiaeth, gan ddarparu gofal a chymorth hanfodol i’r holl deuluoedd sydd ein hangen ni, nawr ac yn y dyfodol.