cwtch cwtsh
our news newyddion and stories a straeon from t ŷ hafan
029 2053 2199
www.tyhafan.org
hanes ollie - i ni, mae tŷ hafan yn achubiaeth Dim ond 22 oed oedd Sophie a Sean pan gafodd eu mab bach Ollie ddiagnosis o’r Syndrom MOSAIC arbennig o brin. Yma, mae Sophie yn rhannu eu hanes ac yn esbonio sut mae Tŷ Hafan, yn gwbl lythrennol, yn achubiaeth i’r teulu cyfan. “Ollie yw ein hail blentyn, brawd bach i Summer. Bu’n rhaid iddo gael ei ddadebru ar ôl iddo gael ei eni, ond fe’i hanfonwyd i ward arferol wedi hynny. “Roedd ganddo grych sacrol ar waelod ei asgwrn cefn a phan ofynnais am hwn dywedodd un o’r meddygon iau bod gan Ollie ‘wyneb anarferol’ – llygaid ar wahân a chlustiau isel, ond fe wnaeth y meddygon eraill ei diystyru. “Cafodd drafferth yn bwyta o’r cychwyn. Yna methodd ei brawf clyw. Sylwodd meddyg iau arall nad oedd Ollie yn gwneud cyswllt llygad ac awgrymodd brofion pellach. “Roedd yn gyfanswm o bedwar mis rhwng ei eni ac Ollie yn cael ei dderbyn i’r ysbyty yn y Mynydd Bychan yng Nghaerdydd. Rhoddwyd tiwb gastrig trwynol iddo am y tro cyntaf a llwyddodd i gael bwyd. Druan ag ef, dyna oedd y tro cyntaf yr oeddwn i erioed wedi ei weld yn fodlon ar ôl cael bwyd y tro hwnnw. “Yna, cafodd ei dderbyn i’r ysbyty a chynhaliwyd llwyth o archwiliadau arno. Dywedodd y meddygon wrthym eu bod wedi gweld yr holl nodweddion hyn, ond yn unigol, nid gyda’i gilydd.” Yn y pen draw, cafodd Ollie ddiagnosis o Syndrom MOSAIC. “Dim ond 22 oed oedd fy ngŵr Sean a minnau. Cawsom ein hanfon i ffwrdd gyda deunydd wedi’i argraffu o Google am y cyflwr ar ôl apwyntiad deg munud. Ac nid oedd unrhyw argymhellion o ran ble i fynd i gael rhagor o gymorth.” Ni chafodd y teulu eu profiad cyntaf o Tŷ Hafan tan oedd Ollie yn 18 mis oed. “Roeddwn i wedi bod yn ofni sut brofiad y byddai, ond roedd yn hyfryd, ddim yn glinigol o gwbl. Mae pawb yn hapus ac yn rhedeg o gwmpas yn ceisio rhoi’r amser gorau i’r plant. Roedd Ollie yn fach iawn ar yr adeg honno, dim ond 18 mis oed.” “Cefais lawer iawn o gymorth gan y staff yn Tŷ Hafan pan fu farw fy chwaer, Emma, dair blynedd yn ôl o fethiant yr arennau,” meddai. “Dim ond 35 oed oedd hi ac roeddem ni’n agos iawn.” “Arhosodd Ollie yn Tŷ Hafan gyntaf ym mis Medi 2020 ar ôl iddo ddod allan o’r ysbyty ac mae wedi bod yno sawl gwaith ers hynny. Mae’n wych.
6
“Arhosais gydag ef yn Tŷ Hafan ychydig o weithiau, ond rwy’n byw mor agos, dydw i ddim eisiau defnyddio cyfleusterau os nad oes angen i mi wneud gan fod llawer o deuluoedd eraill allan yna sydd angen y math hwn o gymorth hefyd. “Ond nid yw’n fater o’r arosiadau seibiant yn unig. Os wyf i’n cael diwrnod ofnadwy o wael, rwy’n gwybod y bydd gan rywun yn Tŷ Hafan yr amser i eistedd a gwrando arnaf i. “Nid wyf i a Sean yn siarad am yr hyn rydym ni’n mynd drwyddo gan fod y ddau ohonom ni’n mynd drwyddo a dydyn ni ddim yn gorfeddwl am y peth, rydym ni’n ceisio bwrw ymlaen â phethau. Felly i ni, mae Tŷ Hafan yn wirioneddol ardderchog. “Ac mae Summer wedi cael cwnsela hefyd. Roedd hi mor anhapus pan fu farw fy chwaer. Dyna oedd ei phrofiad cyntaf o farwolaeth. Ar ôl hynny roedd hi’n deffro yng nghanol y nos yn crio, gan redeg i mewn i ystafell Ollie i wneud yn siŵr ei fod dal yn anadlu. “Nawr mae Summer newydd orffen cyfnod arall o gwnsela. Mae wedi bod yn y tŷ drwy gydol y pandemig. Ac mae’r cwnsela wedi bod mor arbennig o dda iddi oherwydd nawr mae’n gofyn cwestiynau ac yn siarad mwy am Ollie. Rwyf i wedi prynu Bwystfil Gofidion iddi – os bydd pethau yn achosi gofid iddi yna mae’n ysgrifennu pethau i lawr ac yn eu rhoi nhw yn y bwystfil gofidion. “Nawr, diolch i’r cwnsela y mae wedi ei gael gan Tŷ Hafan, mae Summer yn teimlo ei bod yn gallu siarad am yr hyn sy’n digwydd a mwy. Ac roeddwn i eisiau hyn – roeddwn i eisiau iddi allu cael popeth allan yn yr agored. Mae’n iawn crio, mae’n iawn bod yn anhapus. “Mae Ollie eisoes wedi cael ei drosglwyddo ar frys i Tŷ Hafan ddwywaith neu dair ar gyfer gofal diwedd oes. Mae cwnsela yn sicr wedi ei helpu i ymdopi â hyn, ac oherwydd y bu’n rhaid iddi fwy am y flwyddyn ddiwethaf o dan y cyfyngiadau mwyaf llym gan ei bod yn gwarchod. “Mae Summer yn ôl yn yr ysgol gynradd bellach ac mae pethau yn bendant yn well iddi. “Pe na bai gennym ni gymorth gan Tŷ Hafan - ni fyddem ni’n cael unrhyw seibiant o gwbl. Mae’r pwll hydrotherapi yn anhygoel, yn ogystal â’r cymdeithasu â phlant a theuluoedd eraill. Mae’r nyrsys