5 minute read

the big give

Y Nadolig hwn, bydd Tyˆ Hafan yn cymryd rhan yn ymgyrch arian cyfatebol ar-lein mwyaf y DU – Her Nadolig the Big Give. Am saith diwrnod, mae’n cynnig cyfle i gefnogwyr yr elusennau sy’n cymryd rhan ddyblu eu rhodd. Eleni, bydd Her Nadolig 2021 yn cael ei chynnal o 12:00pm 30 Tachwedd tan 12:00pm 7 Rhagfyr.

Bydd yr ymgyrch codi arian hon yn uno dyfarnwyr grantiau, busnesau a chyhoedd Cymru mewn cefnogaeth i brosiect yn ein hosbis a fydd yn creu man chwarae a therapïau cynhwysol i blant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd. Bydd ein Prosiect Chwarae Hygyrch newydd yn creu man unigryw i blant a theuluoedd archwilio eu byd, deall eu teimladau a mynegi emosiynau mewn amgylchedd amlsynnwyr difyr.

Mae gan blant Tyˆ Hafan anableddau cymhleth yn aml, sy’n golygu y gall mannau chwarae safonol fod yn beryglus ac yn anhygyrch iddynt. Mae hyn yn gadael teuluoedd yn teimlo eu bod wedi’u heithrio ac mae’r plentyn yn colli allan ar hwyl a chyffro. Bydd ein prosiect Her Big Give 2021 yn helpu i ddatrys y broblem hon trwy ddarparu cymorth chwarae a therapi arbenigol a rhyngweithiol, wedi’i ddylunio ar sail anghenion plant o bob oed a gallu.

Bydd y man yn cael ei weddnewid i’w wneud yn fwy cynhwysol ac ystyriol o ddefnyddwyr. Bydd offer codi o’r nenfwd newydd yn cael ei ychwanegu drwyddi draw, gan ei gwneud yn haws i symud o gwmpas y man a rhyngweithio gydag offer chwarae a phlant eraill. Bydd yr offer codi yn cael eu hategu gan wregysau arbenigol y mae’n hawdd eu gosod ac sy’n gefnogol a chyfforddus. Gall cael eu codi fod yn frawychus i blant, felly bydd ein gweithiwr chwarae bob amser wrth ochr y plentyn i wneud y profiad yn hwy ac yn rhan o’n taith chwarae a therapi.

Mae Her Nadolig y Big Give yn cynnig cyfle unigryw yn y flwyddyn i ddyblu effaith eich rhodd i Tyˆ Hafan trwy roi arian cyfatebol ar gyfer pob punt a roddir. Rydym ni wir angen eich cymorth y Nadolig hwn i’n helpu i gyrraedd ein targed codi arian cyhoeddus o £10,000 drwy Her y Big Give. Os hoffech ddarganfod mwy am y prosiect hanfodol hwn neu i roi eich cefnogaeth heddiw, cysylltwch ar 02920 532199 neu anfonwch e-bost i supportercare@tyhafan.org

fan newydd diolch i euro commercials

Mae Tyˆ Hafan yn falch iawn o allu mynd ag un o’n gwasanaethau allweddol – y fenter diwrnodau Aros a Chwarae bythol-boblogaidd – allan i’r gymuned, diolch i haelioni Euro Commercials, ein Gwerthwr Faniau Mercedes-Benz lleol.

Mae’r fan, model L1 Vito 119 CDI Premium cryno, yn destun cytundeb nawdd newydd gydag Euro Commercials, a ddewisodd Tyˆ Hafan fel eu helusen i’w chefnogi eleni.

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Euro Commercials Jeff Carne: “O ystyried y gwaith anhygoel y mae’r tîm yn TyˆŷHafan yn ei wneud, roedd yn ddewis hawdd iawn cefnogi a bod yn bartner i’r elusen ardderchog hon. Rydym yn arbennig o falch y bydd y Vito yn mynd â Tyˆ Hafan i’r gymuned ac yn sicrhau bod y gwasanaeth Aros a Chwarae yn dod yn hygyrch i gynulleidfa lawer ehangach.”

cofio eich anwyliaid

Gall rhodd er cof am rywun fod yn ffordd arbennig ac ystyrlon iawn o gofio a dathlu bywyd rhywun agos atoch chi. Sut bynnag y byddwch yn penderfynu eu cofio gyda Tyˆ Hafan, gallwch fod yn siwˆr y byddwch chi a’ch anwylyd, gyda’ch gilydd, yn darparu gofal a chymorth i gannoedd o blant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd a’u teuluoedd yng Nghymru, am flynyddoedd lawer i ddod. Dyma rai o’r gwahanol ffyrdd y gallwch roi er cof am rywun neu gasglu rhoddion Tyˆ Hafan er cof am anwylyd:

• Creu cronfa deyrnged – crëwch gofeb ar-lein hirhoedlog i’ch anwylyd yn tyhafan.org/in-memory. Gallwch rannu’r dudalen hon gyda’ch ffrindiau a’ch teulu a’u gwahodd i rannu atgofion arbennig, lluniau ac ychwanegu rhoddion ystyriol i gofio eich anwylyd

• Casgliadau a rhoddion angladd yn hytrach na blodau – gofynnwch i deulu a ffrindiau wneud rhodd er cof am rywun yn ei angladd

• Digwyddiadau er cof – cymerwch ran mewn taith gerdded, rhedeg neu her bersonol er cof am eich anwylyd, neu plannwch flodyn neu goeden i’w gofio. Gallech hefyd ddathlu ei fywyd trwy gael te prynhawn i rannu atgofion parhaol gyda theulu a ffrindiau

dathlu adegau gwerthfawr bywyd

Dathlwch briodas, partneriaeth sifil, pen-blwydd, pen-blwydd priodas neu garreg filltir bwysig arall gan helpu i gynorthwyo plant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd a’u teuluoedd. Mae gofyn am roddion yn hytrach nag anrhegion yn ffordd llawn ysbrydoliaeth o ddathlu achlysur arbennig.

• Codi arian mewn priodas – mae cefnogi Tyˆ Hafan wrth ddathlu eich priodas neu bartneriaeth sifil yn ffordd anhygoel o wneud y diwrnod yn fwy arbennig fyth! Gallwch ddewis o’n hamrywiaeth hyfryd o ffafrau priodas, sefydlu tudalen ddathlu ar-lein, gwneud cais am amlenni rhodd neu fwynhau ein cardiau swîp areithiau – y mae pob un yn ffordd wych o godi arian heb gymryd unrhyw amser ychwanegol yn ystod y dydd.

• Codi arian ar ben-blwydd – dathlwch eich diwrnod arbennig trwy sefydlu tudalen ddathlu ar-lein neu godi arian ar Facebook a’u rhannu gyda ffrindiau a theulu fel y gallant roi i Tyˆ Hafan yn hytrach nag anrhegion pen-blwydd.

• Te i Tyˆ Hafan – beth am gynnal te parti i ddathlu eich pen-blwydd, eich diwrnod graddio, pen-blwydd priodas neu achlysur arbennig arall a gwahodd eich ffrindiau, eich teulu neu gydweithwyr!

O wahoddiadau i gemau parti, defnyddiwch ein hadnoddau y gellir eu lawrlwytho i helpu i gynllunio’r parti perffaith.

Bydd eich rhodd er cof am anwylyd neu i ddathlu achlysur arbennig yn helpu teuluoedd Tyˆ Hafan i greu a mwynhau eu hatgofion hapus eu hunain i ddal gafael arnynt am byth. Mae ein tîm ymroddedig yma i’ch helpu ar bob cam o’r daith. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch, cysylltwch ar 02920 532199 neu anfonwch e-bost i supportercare@tyhafan.org

Ewch i tyhafan.org/in-celebration am ragor o wybodaeth.

This article is from: