3 minute read

croeso

Next Article
eich cymorth

eich cymorth

Mae’n anhygoel meddwl bod cylchgrawn Cwtsh wedi bod yn mynd ers 2009. Mae wedi cael un neu ddau o weddnewidiadau ers hynny, ond mae wedi edrych yn weddol debyg ers mis Mawrth 2014. Felly yr haf hwn, fe wnaethom ni ofyn i grwˆp o ddarllenwyr am eich barn ar Cwtsh, eich cylchlythyr chwe-misol ar bopeth yn ymwneud â Tyˆŷ Hafan, oherwydd eich cylchgrawn chi yw hwn wedi'r cwbl.

Mae’n llawer o hwyl rhoi Cwtsh at ei gilydd ac mae’n cynnig darlun da o’r hyn sydd wedi digwydd drwy’r elusen gyfan dros y chwe mis diwethaf. Bob tro y byddwch yn rhoi i’r ymgyrch, yn cymryd rhan mewn digwyddiad, yn prynu o’n siopau neu’n rhoi iddynt, neu’n gwirfoddoli yn unrhyw ran o’r sefydliad, rydych yn gwneud gwahaniaeth i fywydau teuluoedd Tyˆ Hafan ledled Cymru a gallwch weld yma sut mae eich cymorth yn cael ei roi at ddefnydd da. Yn yr arolwg diweddar, gofynnwyd i chi hefyd sut y byddech yn newid Cwtsh pe gallech chi. Cafwyd rhai awgrymiadau diddorol, ac er na allwn ni wneud newidiadau eang y tro hwn, ein bwriad fydd ailwampio’r cylchgrawn dros y rhifyn neu ddau nesaf. Felly eisteddwch yn ôl, ymlaciwch a mwynhewch y rhifyn hwn o gylchgrawn Cwtsh. Diolch am bopeth yr ydych yn ei wneud i gynorthwyo Tyˆ Hafan. Mae’r straeon hyn yn dangos sut mae eich cymorth wedi gwneud gwahaniaeth mor enfawr i fwy na 1,000 o blant a theuluoedd ers i Tyˆ Hafan agor gyntaf ym 1999.

cynnwys

croeso....................................................................................................02

straeon o’r ardd goffa .......................................................................04 anrhydeddu ein nyrsys o ynysoedd philippines .......................05 hanes ollie.............................................................................................06

eich cymorth.........................................................................................09 the big give ............................................................................................10 pobl gyffredin, bywydau arbennig.................................................12

Mae eich cymorth wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fwy na 1,000 o blant a theuluoedd ers i Tyˆ Hafan agor gyntaf ym 1999

"Rwy’n falch o’r ffordd y mae ein timau gofal medrus wedi ymateb a pha mor benderfynol yr oeddent o fod yno i deuluoedd"

Mae’n anodd credu bod bron i ddwy flynedd wedi mynd heibio ers i mi wneud y penderfyniad i wneud cais i fod yn gyfarwyddwr gofal newydd Tyˆ Hafan. Cefais fy nghymell gan ei dreftadaeth gyfoethog o fod yno i blant a theuluoedd sy’n byw gyda’r ansicrwydd a’r heriau sy’n deillio o salwch sy’n cyfyngu ar fywyd, a’i ymrwymiad i gyrraedd ymhellach a gwneud gwahaniaeth mwy yn y dyfodol. Ni allwn wedi bod yn fwy balch bod yr Ymddiriedolaeth wedi rhoi eu hyder ynof i.

Erbyn i mi gyrraedd ddiwedd mis Mawrth 2020, roedd pandemig Covid-19 yn gosod cyfyngiadau ar ein bywydau ni i gyd. I’r plant a’r teuluoedd sy’n troi at Tyˆ Hafan am gymorth a chefnogaeth, roedd hyn yn arbennig o anodd, ac roeddem yn canolbwyntio’n llwyr o’r cychwyn cyntaf ar ddod o hyd i ffyrdd i helpu pob teulu i deimlo eu bod wedi’u cysylltu â ni, er bod hynny mewn ffyrdd newydd. Rwy’n falch o’r ffordd y mae ein timau gofal medrus wedi ymateb a pha mor benderfynol yr oeddent o fod yno i deuluoedd, gan gynnig cysur, gofal a hwyl mewn ffordd sy’n unigryw i Tyˆ Hafan. Heddiw, rydym yn wynebu gaeaf arall â Covid-19, ond y tro hwn rydym yn cynllunio yn fwy hyderus oherwydd yr amddiffyniad ychwanegol y mae’r brechlyn yn ei gynnig. Rydym yn cadw yn effro fel y gellir gwneud newidiadau yn gyflym os oes angen, ond rydym yn edrych ymlaen yn arw at weld mwy o blant a theuluoedd yn yr hosbis, mewn cartrefi teuluol a thrwy ein digwyddiadau ‘aros a chwarae’ a’n digwyddiadau i frodyr a chwiorydd ar draws ein cymunedau. Ychydig bach o normalrwydd, ac rydym yn gobeithio y bydd hyn nid yn unig yn para ond yn cynyddu. Yn yr hosbis, byddwn yn cwblhau ein prosiect ailwampio yn fuan, rhywbeth na allem fod wedi ei wneud heb eich cymorth chi. Mae hyn yn golygu y byddwn ni’n gallu croesawu mwy o deuluoedd - rydym yn edrych ymlaen yn arw at eu gweld a’u dangos o gwmpas. Ni fyddai dim o hyn yn bosibl heb eich cymorth chi, ac ni allem fod yn fwy diolchgar. Diolch oddi wrth yr holl blant, teuluoedd a phawb yn Tyˆ Hafan am y gwahaniaeth yr ydych yn ei wneud.

This article is from: