cwtsh
cylchlythyr hydref 2019
newyddion a straeon o tŷ hafan
Hosbis sy’n addas ar gyfer y dyfodol y tu mewn Celebrating
2
y
0
e a r s
rhoi bywyd i’r gorffennol t.6
cadw atgofion elis yn fyw t.10
tynged unedig t.14
cwtsh cwtch
newyddion a straeon o t ŷ hafan
029 2053 2199
www.tyhafan.org
croeso Croeso i rifyn Hydref/Gaeaf Cwtsh. Ac mor syml â hynny, mae 20 mlynedd o Tŷ Hafan yn y llyfrau hanes. Bu’n flwyddyn syfrdanol eleni hefyd. Rydym ni wedi treulio amser yn edrych yn ôl yn ogystal ag ymlaen a bu’n llawer o hwyl i weld cymaint yr ydym wedi datblygu ers 1999. Gobeithio y byddwch chi wedi gweld rhai o’n negeseuon Teithio’n Ôl Tŷ Hafan ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda deunydd fideo o Emily Weaver y plentyn cyntaf a ddaeth trwy ddrysau Tŷ Hafan, esblygiad ein logo a golwg yn ôl ar ddeunydd ar y cyfryngau o’r gorffennol. Mae creu atgofion yn rhan mor enfawr o Tŷ Hafan a bu’n bleser pur edrych eto ar yr adegau sydd wedi helpu i ffurfio’r elusen yr ydym yn ei hadnabod heddiw. Nawr, mae’n bryd i ni edrych ymlaen ac rydym yn gyffro i gyd i ddatgelu ein cynlluniau i sicrhau bod Tŷ Hafan yn parhau i fod ar flaen y gad o ran gofal lliniarol i blant. Mae gwaith ar brosiect yr ardd yn datblygu’n dda, wrth i’r cam cyntaf gael ei gwblhau yn gynharach eleni. Mae’r pwyslais bellach yn troi at yr angen i ddiweddaru’r ystafelloedd a’r mannau cymunedol yn yr hosbis sy’n dangos ôl dau ddegawd o greu atgofion. Diolch unwaith eto am eich cefnogaeth sydd wedi caniatáu i Tŷ Hafan ffynnu dros y blynyddoedd. Rydym yn gobeithio eich bod yn teimlo’r un cyffro ag yr ydym ni ynglŷn â’r datblygiadau. Yn union fel ein cefnogwyr a oedd yn hollbwysig wrth sefydlu Tŷ Hafan yn y 1990au, rydych chi mor bwysig i’n galluogi i barhau i wneud yr hyn yr ydym yn ei wneud.
cynnwys straeon o’r grwp sgowtiaid .........................................................................4-5 rhoi bywyd i’r gorffennol ................................................................................6-7 cwrdd â Glennys ............................................................................................8-9 cadw atgofion Elis yn fyw ..........................................................................10-11 hwyl a sbri .....................................................................................................12-13 tynged unedig .............................................................................................14-15 ei gadw yn y teulu ....................................................................................... 16-17 hysbysfwrdd codi arian .............................................................................18-19
Y tair prif ardal y byddwn yn canolbwyntio arnynt yw:
2 Deg ystafell wely i blant yn yr adain ofal
2
1 Y fflat teulu hunangynhwysol a ddefnyddir gan deuluoedd sy’n derbyn gofal diwedd oes
3
Ystafell fwyta gymunedol a lolfa
a a
hydref 2019
mlynedd o brofiad
Ar ôl 20 mlynedd o weithredu a helpu dros 800 o blant yn yr hosbis, nid oes unrhyw syndod bod golwg blinedig ar rai o’r cyfleusterau. Felly i sicrhau hirhoedledd yr hosbis, rydym yn cychwyn ar brosiect adnewyddu a fydd yn helpu hosbis Tŷ Hafan i fod yn addas ar gyfer y dyfodol.
Y tair prif ardal y byddwn yn canolbwyntio arnynt yw’r llety teulu hunangynhwysol at ddefnydd teuluoedd sy’n derbyn gofal diwedd oes, deg o ystafelloedd gwely’r plant yn yr Adain Ofal, a’r ystafell fwyta a lolfa gymunedol. Mae’r Adain Ofal yn ffurfio rhan ganolog o’n hosbis ac mae’r ystafelloedd gwely yn hollbwysig i’r ddarpariaeth gofal arbenigol a gofal seibiant y mae Tŷ Hafan yn ei chynnig i deuluoedd. Mae plant a theuluoedd wedi bod yn rhan ganolog o gynllunio gwaith adnewyddu’r hosbis a bydd yr adeilad yn cynnig amgylchedd anghlinigol cynnes a chroesawgar. Defnyddir yr ystafelloedd gwely hyn bob dydd i ddarparu llety preifat i’r plant sy’n derbyn gofal. Gellir rhoi marc personol y plentyn unigol sy’n aros ar bob ystafell, fel ei hoff gwrlid gwely, lluniau o’r teulu ac ychwanegiadau eraill, sy’n ei wneud yn un o’r lleoedd mwyaf unigryw yn yr hosbis i deuluoedd. Mae’n bwysig ein bod yn llwyddo i ddarparu ymdeimlad o gartref oddi cartref i’r plant a’u teuluoedd pan fyddant yn aros yma, a gallu cynnig gofal meddygol bob awr o bob dydd ar yr un pryd, sy’n caniatáu iddynt gael saib o’u cyfrifoldebau beunyddiol. Wrth i nifer y plant sy’n byw â chyflyrau sy’n byrhau bywyd barhau i gynyddu, parhau wnaiff ein gweledigaeth o Gymru lle gall pob plentyn a all farw yn ystod plentyndod fyw bywyd cyflawn gyda’i deulu. Mae nifer y bobl sy’n defnyddio’r hosbis yn cynyddu, felly mae’n hanfodol ein bod yn buddsoddi ac yn paratoi’r cyfleusterau ar gyfer y dyfodol i sicrhau y gall Tŷ Hafan barhau i gefnogi plant a theuluoedd ledled Cymru am 20 mlynedd arall.
Rydym wedi dewis y traeth i fod yn thema gyffredinol, oherwydd ein lleoliad gwych ar lannau Môr Hafren, ac i gydnabod heddwch traethau yn gyffredinol. Lloches ac ymlacio fydd pwyslais pob man, yn arbennig yr ystafelloedd gwely a’r llety, heb amharu ar eu haddasrwydd i ddiwallu anghenion meddygol a chorfforol pob plentyn. Mae Tŷ Hafan, yn ei hanfod, yn lle i greu atgofion, ac yn aml rhai na ellir eu creu yn unman arall. Efallai bydd hyn trwy roi cyfle i blentyn anwesu anifail yr oedd dim ond wedi’i weld mewn lluniau cyn hynny, neu gael profiad o gelf a chrefft am y tro cyntaf. Efallai caiff plentyn chwarae gyda’i frawd neu chwaer yn y parc am y tro cyntaf erioed, neu fynd ar daith fel teulu i’r traeth am y tro cyntaf. Bydd ein prosiect adnewyddu yn galluogi ein teuluoedd i barhau i greu’r atgofion hyn yn y lle mwyaf cysurus a chartrefol posibl. Lle sy’n gwbl addas i’w hanghenion cymhleth, heb amharu ar ei ymarferoldeb a’i weithrediad sy’n hanfodol i’r cysur hwnnw. Mae prosiect ar y raddfa hon bob amser yn cyflwyno heriau, ond gallwn oresgyn y rhain, ac mae’r buddion yn gwbl drech na’r problemau hyn. Y nod yw cwblhau’r gwaith erbyn mis Mehefin 2020 ac rydym yn gyffro i gyd i weld y datblygiadau’n parhau. Os hoffech ragor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â ni yn info@tyhafan.org.
3
cwtsh cwtch
newyddion a straeon o t ŷ hafan
029 2053 2199
www.tyhafan.org
straeon o’r grŵp sgowtiaid Mae Tŷ Hafan yn gofalu am blant o bob oedran a gallu, felly mae cynhwysiant wedi bod yn rhan annatod o’r hyn yr ydym yn ei wneud erioed. Mae rhoi cyfle i blant gymryd rhan mewn gweithgareddau y mae plant eraill yn eu cymryd yn ganiataol mor bwysig iddyn nhw a’u teuluoedd. Gan gofio hyn, sefydlodd Tŷ Hafan y Grŵp Sgowtiaid cyntaf yn y DU yn 2008. Mae’r Grŵp yn cwrdd teirgwaith y mis a chaiff ei redeg gan wirfoddolwyr sy’n cyflwyno llawenydd sgowtio i blant Tŷ Hafan, gyda gweithgareddau mor amrywiol â chrefft y maes, saethyddiaeth a choginio. Roeddem wrth ein boddau i allu tywys chwe Sgowt a’u teuluoedd i Bentref Sgowtio Miskin Mill ar gyfer eu gwersyll penwythnos teulu cyntaf erioed ym mis Awst. Aeth Seth Burke sy’n ddeg mlwydd oed ac sydd â nychdod cyhyrol Duchenne gyda’i ddau frawd, Reggie ac Elyah, ac aeth Christopher Jones sy’n wyth mlwydd oed ac sydd â Syndrom Calon Chwith Hypoplastig gyda’i chwaer Bethan. Aeth Matilda Philpott sy’n ddwy flwydd oed ac sydd â Syndrom Stickler gyda’i dau frawd, Oliva ac Alfie, gwersyllodd Alice Haswell sy’n bedair blwydd ac sydd â Syndrom Goldenhar gyda’i chwaer Scarlet, ac aeth Daisy Stacey sy’n 13 mlwydd oed ac sydd â Chysylltiad Vacterl gyda’i chwaer Molly. Dros y penwythnos, cymerodd y teuluoedd ran mewn amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys saethyddiaeth, crefftau a rocedi pop a saethu laser, cynnau tân, coedwriaeth a gwneud rafftiau.
Roedd y gwersyll yn wirioneddol yn destun hanes i Sgowtio – y tro cyntaf i blant o’r hosbis fynd i Wersyll Sgowtio, rhywbeth yr oedd arweinwyr wedi bod yn ceisio’i gyflawni ers dechrau’r Grŵp. Dywedodd Ruth Weltch, Arweinydd Grŵp Sgowtiaid Tŷ Hafan: “Y cyfle i sefydlu gwersyll yn rheolaidd yn yr awyr agored yw un o’r prif resymau y mae pobl ifanc yn mwynhau Sgowtio gymaint ac roeddem ni eisiau i’n plant ni, na fyddan nhw fel arfer yn cael cyfle i gymryd rhan mewn penwythnos o weithgareddau awyr agored, gysgu dan gynfas gyda’u teuluoedd.
“Rydym ni wedi gallu rhoi cyfle i’r plant hyn gymryd rhan mewn gweithgareddau na fyddai ar gael iddyn nhw fel arfer a rhai yr ydym ni’n eu cymryd yn ganiataol. Roedd yn bleser pur cael eu gweld nhw a’u teuluoedd yn cymryd rhan yng ngweithgareddau’r penwythnos ac roedd eu gweld yn gwenu ac yn anghofio am eu pryderon am ychydig yn galonogol.”
Dywedodd arweinydd chwarae a therapïau Tŷ Hafan, Lynne Phelps: “Mae’r gwaith caled, amser ac ymdrech a ddangoswyd gan y Grŵp Sgowtio ers ei sefydlu wedi bod yn wirioneddol anhygoel. Mae’r Grŵp wedi rhoi gymaint o lawenydd i’r hosbis ac wedi rhoi cyfle i’r plant y cyfeirir iddo i gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda’u teuluoedd na fyddai ar gael iddyn nhw heblaw am y Sgowtiaid.
“Mae’r Grŵp wedi cael effaith hynod bositif ar y plant yr ydym yn gofalu amdanyn nhw ac ar eu teuluoedd a’n staff ... ”
4
hydref 2019
“ ... Rydym yn ddiolchgar iawn i Grŵp Sgowtiaid Tŷ Hafan.”
5
cwtsh cwtch
newyddion a straeon o t ŷ hafan
rhoi bywyd i’r gorffennol Yn yr un modd ag y mae gan bob plentyn yr hawl i chwarae, mae’r cyfle i ddysgu a darganfod y byd yr ydym yn byw ynddo mor bwysig i ddatblygu creadigrwydd a dychymyg, yn ogystal â chryfder corfforol, gwybyddol ac emosiynol, ni waeth a yw’r plentyn yn iach neu â chyflwr sy’n rhoi bywyd yn y fantol. Mae’r agweddau hyn ar ddatblygiad yn chwarae rhan fawr wrth ganiatáu i blant gyrraedd eu potensial, ac yn creu atgofion gydol oes i’w teuluoedd trwy rannu’r adegau bendigedig hyn â’u plentyn, brawd neu chwaer. Bu Tŷ Hafan yn ddigon ffodus i fod yn bartner ag Amgueddfa Cymru sydd, trwy gyllid Plant a’r Celfyddydau, wedi bod yn cynnal y Rhaglen Dechrau Hosbisau ers dwy flynedd. Y nod oedd sicrhau bod amgueddfeydd yn addas i’r hosbis a’n teuluoedd er mwyn iddyn nhw allu defnyddio ffyrdd newydd o’u cynnwys yn y celfyddydau a diwylliant. Bu pwyslais mawr ar gynhwysiant a chreu atgofion i’w trysori am byth. Cafwyd ein diwrnod teulu cyntaf ym mis Mai 2018 yng Nghaerdydd. Aeth teuluoedd ar daith gerdded antur, fe wnaethon nhw wrando ar storïau am fywyd o dan y môr, cymeron nhw ran mewn sesiwn gerdd synhwyraidd, ac roedd llawer iawn o baent! Daeth yr amgueddfa i’r hosbis hefyd i gyflwyno sesiynau yma, a chafodd ein teuluoedd a’n staff lawer o fudd ohonyn nhw.
6
Dyfarnwyd rhagor o gyllid i’r amgueddfa i ddarparu dau ddiwrnod teulu arall, dau ddiwrnod allgymorth yn yr hosbis a rhaglen brodyr a chwiorydd drwy gydol 2019. Roedd ein hail ddiwrnod “O waelod y môr i’r seren bellaf” a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym mis Ionawr yn llwyddiant ysgubol arall. Un o’n hymweliadau diweddaraf oedd â Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru a daeth y Diwrnod Hwyl i’r Teulu “Fy Nghymru/My Wales” â Chymru yn fyw i’r 17 o’n teuluoedd. Roedd yn ddiwrnod llawn hwyl o wisgoedd Cymreig, dreigiau, llwyau caru a gŵyl Y Ddraig anhygoel! Cawsom ymweliadau arbennig gan Nessa, draig, glöwr, a menyw Gymreig, chwaraewyr rygbi a Dewi Sant ei hun! Roedd y diwrnod yn rhyngweithiol, yn gynhwysol ac wrth gwrs yn hwyl – gan gynnwys ein teuluoedd yn yr amgueddfa a’i holl ryfeddodau! Cerddodd y teuluoedd o amgylch yr amgueddfa yn canu eu cân gŵyl a gyfansoddwyd ganddyn nhw a dywedodd un o’r rhai a oedd yn bresennol: “Mwynheais i’r diwrnod mas draw, roeddwn i’n canu yn yr haul, yn gwneud sioe o flaen pawb heb ofal yn y byd. Diolch!” Hwn oedd yr ail ddiwrnod teulu yn 2019 i gael ei gynnal trwy’r Rhaglen Dechrau Hosbisau y sicrhaodd Amgueddfa Cymru ragor o gyllid ar ei chyfer yn y dyfodol. Hwn oedd y profiad cyntaf yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ac fe wnaeth pawb ei fwynhau.
029 2053 2199
www.tyhafan.org
hydref 2019
Cafodd y Rhaglen Haf i Frodyr a Chwiorydd ei chynnal yn Sain Ffagan hefyd yn ystod gwyliau’r haf, ac roedd yn llwyddiant ysgubol!! Bob wythnos yn ystod yr haf, cyfarfu brodyr a chwiorydd i gymryd rhan mewn “Goroesi drwy’r oesau!” Buon nhw’n pobi bara ar y tân yn gwneud gobenyddion, chwilota pryfed, ymdrochi yn y dŵr a hyd yn oed creu eu draig eu hunain o’r mwd a fydd yn byw yn yr amgueddfa. Dringodd y plant y rhaffau uchel a chreu eu lloches eu hunain. Daeth y digwyddiad i ben â pharti ac aros dros nos, ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn parhau yn ddigwyddiad blynyddol sy’n cynnwys ein holl deuluoedd.
Cawsom y pleser hefyd o groesawu ein cydweithwyr o’r amgueddfa i’r hosbis eleni i gymryd rhan yn ein diwrnod Nadolig arbennig a gynhaliwyd ar gyfer plentyn a oedd yn dymuno profi un Nadolig arall, ac roedden nhw i gyd yn gallu ymuno yn ein Panto Nadolig enwog!! Trwy hyn roedd staff yr amgueddfa yn gallu gweld y gwaith yr ydym ni’n ei wneud yn yr hosbis.
gwneud i ennyd gyfrif Fe wnaethom yn sicr mai’r enydau sy’n bwysig yn ystod Wythnos Hosbis Blant, yr unig wythnos bwrpasol yn y flwyddyn i godi ymwybyddiaeth ac arian i hosbisau plant a gwasanaethau gofal lliniarol ledled y DU. Fe wnaethom ni gynllunio wythnos lawn o weithgareddau yn canolbwyntio ar greu atgofion arbennig i’r plant a’u teuluoedd trwy ddarparu cyfleoedd i rannu profiadau newydd a phwysig yn yr hosbis. Cafwyd blychau ffotograffiaeth, sesiynau cerddoriaeth fyw, Makaton, dawnsio, creu jariau atgofion, cystadleuaeth teisennau mwd ac addurno bisgedi gyda chystadleuydd o’r Great British Bake Off ymysg llwyth o bethau eraill i greu atgofion oes i’r plant a’u teuluoedd. Uchafbwynt yr wythnos oedd parti gwisg ffansi ar thema ‘Bake Off’ lle cafodd pawb eu hannog i wisgo gan ddilyn y thema ‘adegau pwysig mewn hanes’ — a chawsom ni bopeth o Albert Einstein i Pat Butcher, deinosoriaid a chogyddion enwog, a chwaraewyr rygbi Cymru i swffragetiaid! Roedd y plant wrth eu boddau yn creu llanast lliwgar blasus ac addurno bisgedi gyda’n hymwelydd arbennig, Jon Jenkins, cystadleuydd o Gymru ar ‘The Great British Bake Off’, a fe hefyd oedd beirniad y deisen fwd.
7
cwtsh cwtch
newyddion a straeon o t ŷ hafan
029 2053 2199
www.tyhafan.org
cwrdd â Glennys, un o’n gwirfoddolwr codi arian hiraf ei gwasanaeth Mae Glennys yn wirfoddolwr ysbrydoledig 88 mlwydd oed sydd wedi ymrwymo’i hamser i T ŷ Hafan ers 1999 — trwy godi arian yn ei gardd flaen a chodi bocsys casglu yn ei chymuned. Nawr, 20 mlynedd yn ddiweddarach, ar ôl codi bron i £30,000, mae Glennys wedi penderfynu “ymddeol” o’i dyletswyddau, ond bydd hi’n parhau i fod yn rhan o deulu T ŷ Hafan. “Mae pawb yn dweud wrtha i, “Ai chi yw’r ddynes o Tŷ Hafan? Ai chi yw Glennys Old?” ac rwy’n ateb “ie, dyna fi!
“Roedd rhai o fy hoff ddiwrnodau codi arian yn 2000 pan godais i £800 mewn un dydd, ac yna yn 2005 pan gyfrifais i 60 o bobl a ddaeth i’r tŷ! “Rydw i wastad wedi helpu elusennau – mae’n rhan o fy natur. Ac rwy’n dwlu ar gwmni a phobl yn mynd a dod. Ond y rheswm dros ddewis Tŷ Hafan oedd oherwydd mai i blant yw hi. Rwy’n teimlo dros y teuluoedd ac mae angen y cymorth arnyn nhw. “Ar ôl cyfnod du pan fu farw fy ngŵr, roeddwn i’n gwybod bod angen pwyslais newydd yn fy mywyd. Ges i gyngor gan fy ffrind bryd hynny, i beidio â dweud na i ddim byd, a meddyliais, dyna fe! Cod dy hun i fyny a mwynha. “Byddwn i’n dweud wrth unrhyw un sy’n ystyried gwirfoddoli am fynd ati a gwneud – cewch chi’r gorau o wneud!”
“Rwyf i wedi bod yn helpu Tŷ Hafan ers cyhyd erbyn hyn mai dyna pwy ydw i – y ddynes Tŷ Hafan. Mae’n eithaf doniol mewn gwirionedd! “Rwyf i wedi gwneud bach o bopeth fel gwirfoddolwr codi arian, gan gynnwys casglu bocsys casglu Tŷ Hafan yn fy nghymuned, ond rwy’n credu fy mod i’n cael fy adnabod yn fwy am y diwrnodau codi arian rwy’n eu cynnal yn fy nhŷ. “Mae pob ceiniog yr wyf wedi’i chodi wedi dod o fy ngardd flaen. Rwy’n gosod stondin fach y tu allan i’r drws ac mae pobl yn pasio i gael gweld a dyna pryd y bydd llawer yn dweud nad ydyn nhw eisiau dim byd, ond maen nhw’n gadael punt ar y bwrdd beth bynnag. “Rwy’n rhoi balwnau, baneri, posteri ac arwydd croeso y tu allan i fy nhŷ i ddenu pobl. Rwy’n mwynhau’r dydd o 8:00am yn y bore oherwydd mod i’n cael fy nghymdogion i roi byrddau a chadeiriau allan ac mae pawb yn cymryd rhan. Hyd yn oed ar ôl clirio’r pethau, rydym ni i gyd yn bwyta ac yn yfed yn y tŷ a dyw’r bobl olaf ddim yn gadael tan 11:00pm! Ond maen nhw’n golchi’r llestri cyn mynd. “Un o fy hoff atgofion oedd pan gwrddais i â’r Tywysog Siarl. Daeth i’r hosbis y llynedd a chefais wahoddiad i gwrdd ag e. Roedd e mor arbennig a chawsom ni sgwrs fach braf. “Roedd yn fraint i mi hefyd gael cwrdd â Suzanne Goodall, sylfaenydd Tŷ Hafan, a fu farw yn 2017.
8
1 – 7 Mehefin yw Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr bob blwyddyn sy’n gyfle i ni ddweud diolch a rhoi sylw i’r gwaith y mae ein gwirfoddolwyr rhagorol yn ei wneud ym mhob rhan o’r sefydliad. Ond mae’r hyn y maen nhw’n ei wneud mor hanfodol er mwyn gweithredu’r elusen yn ddidrafferth felly roeddem ni eisiau gwneud rhywbeth ychydig yn fwy arbennig a throi mis Mehefin yn Fis y Gwirfoddolwyr.
Cymerodd pob adran ran, cynhaliodd siopau eu prynhawniau galw heibio am deisen a phaned a daeth y cy i uchafbwynt mewn parti te a safle’r hosbis pan ddaeth 120 o wirfoddolwyr a gwesteion i ddathlu gyda ni. Roeddem ni wrth ein bodd yn cyflwyno sa bach mewn gwesty i Mandy Beecham, Lyn Thomas, Krysty Gdula, Jilly Bebbington, Linda Greenberg ac Andrea a David Lalande trwy’r cynllun Ystafell Wobrwyo.
hydref 2019
“Ges i gyngor gan fy ffrind bryd hynny, i beidio â dweud na i ddim byd, a meddyliais, dyna fe! Cod dy hun i fyny a mwynha.”
m yfan ar 0
aib
yna a d li
codwyd £30,000! 9
cwtsh cwtch
newyddion a straeon o t ŷ hafan
029 2053 2199
www.tyhafan.org
cadw atgofion Elis yn fyw Mae ein hapeliadau tymhorol yn caniatáu i ni dynnu sylw at agweddau penodol ar T ŷ Hafan a helpu i ddwyn i sylw y pethau nad ydyn nhw o reidrwydd yn amlwg wrth feddwl am hosbis blant. Y llynedd, fe wnaethom ni rannu sut mai gofal seibiant yn yr hosbis yw’r unig wyliau y mae llawer o’n teuluoedd yn ei gael yn aml ac rydym ni wedi dangos sut y mae ein nyrsys yn dod â’r feddyginiaeth a’r hud. “Wrth eistedd yn swyddfa’r meddyg gyda fy ngwraig a chlywed hyn, roedd yn teimlo fel mod i’n boddi,” meddai Alun. “Roedd fy meddwl yn rhuthro, yn ceisio gweithio allan sut i ymdopi â hyn a pheidio â gwallgofi ar yr un pryd. Roeddwn i’n cwestiynu popeth ac roeddwn i’n teimlo’n unig iawn, doeddwn i ddim yn gallu siarad da neb oherwydd taswn i’n gwneud hynny byddai pawb arall yn chwalu. Roeddwn i’n trio bod yn gryf i’r teulu ac wedyn yn mynd i ffwrdd i suddo ar fy mhen fy hun, i ffwrdd o bawb arall. “Wrth feddwl am y peth, dyna pryd y dechreuom ni alaru dros Elis. Hwn yw hunllef waethaf rhiant, a hwn oedd ein hunllef ni: y syniad y byddem ni’n byw yn hirach na’n plentyn. Roedd hi gyda ni nawr ond byddai hi ddim ac roedd y syniad yna yn fy chwalu.” Dechreuodd y teulu Williams ddod i Tŷ Hafan am wyliau seibiant. Roedd Elis yn dwlu ar ei hymweliadau, yn enwedig y goleuadau a’r swigod yn yr ystafell synhwyro, byddai hynny’n goleuo’i llygaid yn ddi-ffael. Aeth Alun yn ei flaen: “Bu farw Elis [yn 2010] yn 16 mis oed. Bu farw yn dilyn llawdriniaeth pan gafodd firws. Penderfynodd y meddygon ei symud i anadlydd yn yr uned ofal dwys ac oherwydd na fyddem ni’n gallu ei gweld hi wrth ei symud hi, penderfynom ni alw adre i weld ein plant eraill. Pan gyrhaeddom ni adre cawsom ni alwad ffôn i ddweud bod Elis wedi marw. Dyna oedd y peth gwaethaf erioed i ddigwydd i mi. “A dyna pryd aeth popeth yn dawel. Yr holl sŵn a’r holl ymwelwyr, aethon nhw a’n gadael ni. “Fe wnaethon nhw ein cefnogi trwy’r cyfan, y galar a’r tristwch, a rhannu eu hatgofion eu hunain o Elis â ni. Roedd y gefnogaeth a oedd ar gael i ni yn ystod ei bywyd a’i marwolaeth, yn anhygoel. Byddan nhw’n cadw golwg arnom ni ac yn cynnig cefnogaeth pan oedd ei hangen arnom ni ...
10
Byddan nhw’n gwahodd brodyr a chwiorydd Elis i grwpiau a theithiau lle byddan nhw’n siarad ac yn chwarae gyda brodyr a chwiorydd eraill. Fe wnaethon nhw ein cysylltu â theuluoedd eraill, a thrwy gyfarfodydd byddem ni’n rhannu ein profiadau.
Dros yr haf, disgrifiodd Alun Williams y realiti erchyll sy’n wynebu cannoedd o deuluoedd yng Nghymru – gwybod y gall eich plentyn farw cyn chi. Ganwyd merch Alun, Elis, â pharlys yr wyneb, problemau’r galon, problemau bwyta ac yn fyddar. Yn naw diwrnod oed dywedodd y meddygon wrth Alun a’i wraig Vikki nad oedd ymennydd Elis wedi datblygu erbyn iddi gael ei geni ac nid oedd disgwyl iddi adael yr uned gofal babanod arbennig.
Byddem ni’n gallu dod i Tŷ Hafan a siarad heb unrhyw un yn beirniadu, ac roedden nhw’n deall y pethau roeddem ni’n mynd trwyddyn nhw. Helpon nhw ni i sylweddoli y byddai Elis yn rhan o’n teulu ni bob amser, hyd yn oed ar ôl iddi farw. Rydym ni’n gallu dweud ei henw a siarad amdani, dathlu ei phen-blwydd a phrynu anrhegion iddi. Mae’n iawn i wneud y pethau hynny oherwydd ei bod hi’n rhan o’r teulu o hyd ac ni yw ei mam a’i thad o hyd. “Fodd bynnag, ar ôl marwolaeth Elis, fe wnaethom ni sylwi bod ffrindiau yn ymbellhau. Roedd y bobl oedd yn ei nabod hi yn peidio â siarad amdani a dweud ei henw rhag i ni ypsetio, ond doedden nhw ddim yn deall ein bod ni eisiau clywed ei henw. Rydym ni eisiau siarad amdani, rydym ni eisiau iddyn nhw ofyn cwestiynau am ei chyflwr a’r gofal a gafodd oherwydd ei bod hi’n dal i fod yn rhan ohonom ni. Cyrhaeddodd bwynt doedd neb y tu hwnt i’n teulu ni yn sôn am Elis a chododd hynny ofn arna i oherwydd roedd hi’n teimlo fel bod ei hatgof yn diflannu. Roedd Tŷ Hafan yn deall hyn; roedden nhw’n gwybod mor bwysig oedd hi i ni fod enw Elis am byth rywsut. “Fe wnaethon nhw ein helpu ni i gadw atgof Elis yn fyw. “Deng mlynedd yn ddiweddarach, mae Tŷ Hafan yn dal i’n helpu i gadw Elis gyda ni. Atyn nhw rydym ni’n troi pan fo angen cymorth neu arweiniad neu hyd yn oed dim ond i glywed enw Elis. Nid yw eu gofal yn dod i ben, a nawr gyda’r prosiect Cân yr Adar, bydd Elis yn bresennol yn Nhŷ Hafan am byth. Mae Cân yr Adar yn rhoi cyfle i ni gofio a dathlu Elis a’r plant Tŷ Hafan eraill sydd wedi marw trwy gyfieithu eu henwau yn gân yr adar trwy ddefnyddio cod Morse a chwarae eu cân yng ngardd goffa’r hosbis. Mae’n atgof o’u bywydau. “Pan es i i’r hosbis ddiwethaf, es i i’r gerddi. Es i i eistedd ac aros i glywed enw Elis. Wrth glywed holl ganeuon unigryw yr adar a’r bywydau y maent yn eu cynrychioli, teimlais lonyddwch wrth sylweddoli nad yw Elis ar ei phen ei hun yma, mae hi’n rhan o harmoni anhygoel â’r holl blant eraill. Ni fydd hi’n diflannu ymhen dipyn, bydd hi gyda ni o hyd a bydd hi yma o hyd yn canu ei henw gyda’i ffrindiau.”
hydref 2019
“Fe wnaethon nhw ein helpu ni i gadw’r atgofion am Elis yn fyw.”
i wr iawn a f n y h Diolc annodd r f y g a af. bawb l yn yr h ê p a h at ein nogaeth i f e c h ic od Trwy e om ni g h t e a n chi fe w ac roedd y 15 i £11,716. nych ch n e g n o negeseu ar papur yn d ar eich a ol. galonog
n y h c l o i D fawr
11
cwtsh cwtch
newyddion a straeon o t ŷ hafan
029 2053 2199
www.tyhafan.org
hwyl a sbri! mymryn o liw Cafodd plant ysgol gawod o liwiau’r enfys wrth i ni groesawu’r Ras Enfys gyntaf erioed i ysgolion yng Nghaerfyrddin. Roedd hi’n wych gweld ein ras enfys enwog yn dychwelyd wrth i staff a gwirfoddolwyr o Tŷ Hafan ac athrawon a rhieni hynod frwd o’r ysgolion luchio 600kg o baent powdwr at 700 o blant ysgol! Rhoesom ni enw newydd sbon i’r digwyddiad hefyd! Mewn cydweithrediad â thîm ‘Pobl Ifanc Actif’ Cyngor Sir Caerfyrddin, fe wnaethom ni gynnal Ras Enfys, i godi arian ar gyfer Tŷ Hafan ac i annog disgyblion i fod yn fwy actif a’u hysbrydoli i ymuno â grwpiau rhedeg yr ysgol a’r gymuned. Digwyddodd y Ras Enfys ddydd Mercher 26 Mehefin ar gaeau a thrac Canolfan Hamdden Sir Gâr yn Nhre Ioan a gwelwyd disgyblion o Ysgol Uwchradd Queen Elizabeth, Ysgol Dyffryn Taf ac Ysgol Gyfun Emlyn yn rhedeg, loncian a cherdded y llwybr 3km lliwgar.
12
Gyda chymorth gwirfoddolwyr anhygoel, fe wnaethom ni luchio paent powdwr glas, gwyrdd, melyn, oren, coch a phinc at y myfyrwyr ar bwyntiau amrywiol ar hyd y ffordd ac mae’n saff dweud na wnaeth lawer o bobl lwyddo i beidio â chael eu taro! (Da iawn chi wirfoddolwyr yn y gorsafoedd paent!) Roedd hi hefyd yn wych gweld cymaint o bartneriaid yn cymryd rhan yn y digwyddiad, gan gynnwys URC a ddaeth ag ymwelydd sgleiniog arbennig iawn… tlws y Gamp Lawn! Roeddem wrth ein bodd i fod yn rhan o bartneriaeth mor rhagorol ag Actif, a, pwy a ŵyr, efallai gallai’r Ras Enfys fod yn ddigwyddiad blynyddol!
hydref 2019
reidio i’r rygbi Yn uchafbwynt cyffro Cwpan Rygbi’r Byd, mae tri thad Tŷ Hafan wedi cofrestru i wneud taith feicio epig o 280 milltir o Gaerdydd i Ddulyn i wylio Iwerddon yn chwarae Cymru ym Mhencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad 2020.
Yn rhan o’r fenter codi arian ‘Reidio i’r Rygbi’ bydd dros 40 o feicwyr yn mynd ar daith feicio heriol a fydd yn para pedwar diwrnod, o Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ar 4 Chwefror i Stadiwm Aviva yn Nulyn, mewn pryd i wylio cic gyntaf Iwerddon yn erbyn Cymru ar 9 Chwefror. Y tri thad yw James Meacham, Patrick Lord a Matthew Smith ac mae eu plant wedi’u cefnogi gan Tŷ Hafan. Mae James Meacham, o’r Coed Duon, yn dad mewn profedigaeth a fydd yn beicio er cof am ei fab, Thomas, a fu farw ychydig o fisoedd yn ôl o gyflwr genetig sy’n byrhau bywyd hynod brin o’r enw Adrenoleukodystrophy (ALD) sy’n effeithio ar un ym mhob 18,000 o bobl. Esboniodd: “Nid oedd dim cwestiwn ynglŷn â chofrestru ar gyfer her hon. Roedd Tŷ Hafan yna i Thomas bob cam o’r ffordd. Mae’r gofal a’r cymorth a gawsom ni fel teulu, hyd yn oed pan nad oeddem ni yna, yn anhygoel. “Cyflwynodd yr hosbis fi i rwydweithiau cefnogi a grwpiau cymdeithasol lle gallai tadau a oedd yn mynd trwy brofiadau anodd tebyg ddod at ei gilydd a siarad; roedd hi fel petai rywun yn rhoi blanced cysur i mi. Rhoddodd gyfle i mi hefyd gwrdd â theuluoedd eraill a oedd yn dymuno cymryd rhan mewn heriau i gefnogi’r hosbis gyda’i gilydd.”
Cymerodd James Meacham ran yn her ‘Reidio i’r Rygbi’ ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019 o Gaerdydd i Baris ym mis Chwefror a chododd dros £6,000 ei hun. Y tro hwn bydd dau dad arall o Tŷ Hafan yn cymryd rhan gydag e, yn ogystal â ffrindiau ac aelodau’r teulu. Ychwanegodd James: “Roedd yr her ‘Reidio i’r Rygbi’ ym Mharis ym mis Chwefror yn brofiad mor wych — roedd hi’n anodd ond rhoddodd gymaint o foddhad. Fe wnes i ffrindiau oes a beicio wrth ochr Wynne Evans a Rupert Moon a’u tebyg sydd, fel y gallwch ddychmygu, yn gymaint o hwyl. Doedd dim dwywaith a fyddwn i’n gwneud eto pan lansiodd Tŷ Hafan her Dulyn, a nes i ddwyn perswâd ar dri arall i wneud gyda fi hefyd! “Hyd yn oed nawr, wn i ddim le byddwn i heb Tŷ Hafan. Mae’n teimlo fel rhan o glwb dydych chi ddim eisiau bod ynddo. Byddaf i wastad yn parhau i gefnogi a chodi arian iddyn nhw oherwydd fy mod i eisiau sicrhau bod plant a theuluoedd tebyg i ni yn gallu parhau i gael y cymorth amhrisiadwy a gawsom ni.”
gennym ni bobl yn cymryd rhan a oedd yn feicwyr profiadol ac eraill a oedd erioed wedi reidio beic ffordd cyn hynny, a dyna sy’n wych am y peth – gall unrhyw un gymryd rhan. “Os ydych yn cofrestru ar gyfer y digwyddiad, bydd Tŷ Hafan yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd trwy roi cyngor ar godi arian yn ogystal ag awgrymiadau hyfforddi. Y targed codi arian unigol yw £1,200 sydd hefyd yn talu costau llety am bum noson, yr holl brydau ar y daith, taith â chymorth llawn, crysau hyfforddi a digwyddiad wedi’u brandio, y llong dros y dŵr a’r drafnidiaeth adref, a’r tocyn hollbwysig i’r gêm.” I gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer ‘Reidio i’r Rygbi’ Dulyn 2020, cysylltwch â Sali Thomas yn sali.thomas@tyhafan.org or 02920 532 279. Ewch hefyd i: www. tyhafan.org/ride-to-the-rugby.
Rydym ni’n gobeithio y bydd Reidio i’r Rygbi yn codi dros £40,000 tuag at ddarparu gwasanaethau bywyd hanfodol i’r plant a’r teuluoedd â’r angen mwyaf, gan eu galluogi i rannu profiadau newydd a chreu atgofion wrth iddyn nhw ymateb i her anoddaf eu bywydau. Esboniodd Pennaeth Digwyddiadau Tŷ Hafan, Sali Thomas: “Roedd yr her ‘Reidio i’r Rygbi’ i Baris ym mis Chwefror mor llwyddiannus roedd yn rhaid i ni wneud eto yn 2020. Roedd
crynodeb o’r digwyddiadau Dechreuodd ein rhaglen ddigwyddiadau eleni ym mis Ebrill ym Marathon Llundain Virgin Money, y cyntaf o nifer o ddigwyddiadau rhedeg y cynrychiolwyd Tŷ Hafan ynddyn nhw, ac yn fuan wedi hynny cafwyd Marathon a ras 10k Cymru Casnewydd APB. Croesawodd her welsh3peaks GE Aviation dros 270 o fynyddwyr arwrol a aeth i ogledd Cymru cyn dringo’r Wyddfa, y mynydd uchaf yng Nghymru am 4:00am. Y copa nesaf i’w gyrraedd oedd Cadair Idris mawreddog, cyn dringo Pen y Fan a chwblhau 20.35 o filltiroedd a dringo 9,397 o droedfeddi mewn llai na 15 awr — her anhygoel, ac nid i’r gwangalon! Mae rhedeg yn ffordd hynod boblogaidd erbyn hyn i gefnogwyr godi arian felly rydym wrth ein bodd i fod yn gysylltiedig â Ras 10k Healthspan gyntaf Porthcawl a Ras 10k Ynys y Barri fel partneriaid elusennol. Roedd y ddau ddigwyddiad yn wych, syrthiodd y bobl a gymerodd ran mewn cariad â lleoliad y ddwy ras hyn ger y traeth. PT Barnum oedd thema Diwrnod Hwyl i’r Teulu Tŷ Hafan eleni. Rhoddwyd bywyd i’r safle trwy thema’r syrcas ac er y bu
cawod o law, yn anffodus, ar ddiwrnod y Diwrnod Hwyl – ni phylwyd ysbryd yr ymwelwyr. Cawsom hyd yn oed ymweliad gan Leigh Halfpenny, Jess Tumelty a Lily! Mae’r Diwrnod Hwyl yn achlysur hynod boblogaidd sy’n caniatáu i gefnogwyr gael cipolwg ar agwedd ar ein byd, gan ddangos y gwasanaeth hanfodol yr ydym yn ei ddarparu wrth ganolbwyntio hefyd ar yr hwyl a gawn wrth wneud hynny. Rydym yn troi ein sylw at ddigwyddiad newydd sbon ar gyfer 2019, Beicio a Heicio, pan fydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael eu herio mewn taith feiciau 15 neu 30 milltir ar ffyrdd bryniog y Bannau Brycheiniog, a dringo Pen-y-fan eiconig yn eu canol. Ar adeg ysgrifennu, mae’r digwyddiad yn fuan iawn ac rydym ar bigau’r drain!
13
cwtsh cwtch
newyddion a straeon o t ŷ hafan
029 2053 2199
www.tyhafan.org
tynged unedig Yn ystod y 18 mis diwethaf, rydym wedi bod yn ddigon ffodus i ddod i adnabod dwy ferch fach arbennig iawn, efeilliaid unedig, Marieme a Ndeye. Fe’u ganwyd yn Dakar, Senegal, ac mae’r plant wedi dioddef taith hynod anodd ar eu ffordd i Gaerdydd gyda’u tad, Ibrahima. Mae hanes yr efeilliaid wedi’i adrodd mewn lleoedd eraill, yn fwyaf nodedig mewn rhaglen ddogfen dorcalonnus gan BBC2 sy’n trafod y penderfyniad amhosibl y bu’n rhaid i Ibrahima ei wneud ynghylch eu gwahanu. Mae’n obeithiol a chalonogol, enbyd ac ingol. Ond er gwaethaf y caledi y mae’r teulu wedi’i oddef wrth chwilio am y cymorth sydd ei angen arnynt mor enbyd, mae gennym ni ddwy ferch â phresenoldeb mor ddymunol a chariad at fywyd. Mae gan y merched eu calon a’u hysgyfaint eu hunain, ac yn rhannu afu, bledren a system dreulio. Ond er gwaethaf y cyfan y mae’r merched yn ei rannu, maen nhw mor wahanol. Marieme yw’r un dawel, penstiff a hy. Mae Ndeye yn chwareus a direidus. Mae’r teulu wedi bod yng Nghaerdydd ers 18 mis erbyn hyn ac maen nhw’n mwynhau cyfnod o sefydlogrwydd yn eu bywyd sydd wedi rhoi’r cyfle iddyn nhw fod yn blant, i chwarae a datblygu. Maen nhw’n synnu staff meddygol dro ar ôl tro gyda’u cynnydd er boddhad pawb sy’n eu hadnabod. Y cwestiwn mawr ynghylch yr efeilliaid erioed fu’r foeseg o ran eu gwahanu. Credwyd bod Marieme yn dibynnu’n fawr ar Ndeye, oherwydd ei chalon hi yw’r wannaf o’r ddwy, sy’n peri straen ar galon
14
Ndeye. Arweiniodd hyn at y benbleth ynghylch pa un a ddylid ac a ellid gwahanu’r merched. Ond mae sganiau CT diweddar yn dangos bod y ddwy yn dibynnu ar ei gilydd i aros yn fyw, felly nid yw gwahanu yn opsiwn mwyach, sy’n caniatáu i’r merched dyfu a datblygu’n naturiol. “Mae fy merched yn parhau i dyfu a rhoi gymaint o lawenydd i mi. Mae eu siarad yn datblygu ac maen nhw’n gallu symud yn fwy annibynnol,” meddai Ibrahima. “Pan fo Ndeye yn fy ngweld i’n gwneud y llestri mae’n dweud ‘druan â dadi’, sy’n gwneud imi chwerthin gymaint. A phan fydd Ndeye yn crio bydd Marieme yn troi ati a dweud, ‘Aisht y sŵn!’” Mae Marieme a Ndeye yn mynd i gylchoedd chwarae ac mae eu symudedd yn gwella. Ni allan nhw gerdded eto, ond nid yw’n amhosibl chwaith. Maen nhw’n dwlu ar ymweld â Tŷ Hafan ac maen nhw wedi treulio oriau lawer yn yr ystafell chwarae yn profi eu sgiliau celf a chrefft. Maen nhw’n ymddiddori mewn popeth ac yn ymchwilio i beth bynnag sydd wrth law, gorau po fwyaf sgleiniog, cyn taflu beth bynnag ydyw yn ddi-ffael ar draws yr ystafell gan ruo chwerthin. Nhw hefyd efallai yw’r prif reswm pam mai Baby Shark oedd y gân a chwaraewyd mwyaf yn 2018. Maen nhw’n sicr yn dwlu ar ei chanu.
hydref 2019
Mae eu gwylio nhw’n gwneud gweithgaredd fel addurno bisgedi ac i un diflasu cyn y llall a’u gwthio nhw ill dau o’r bwrdd, unwaith eto gan chwerthin, yn ychwanegu at yr adloniant. Ond efallai mai un o’u nodweddion anwylaf yw’r ffordd y mae eu hwynebau’n goleuo yn ddi-ffael pan fydd eu tad yn cerdded i’r ystafell. I ddyn sydd wedi aberthu’r bywyd yr oedd yn ei adnabod, nid oes gwobr mwy.
“Trwy eu bywydau nhw rwyf i wedi dysgu beth yw bywyd. Mae fy merched i’n brwydro ac mae angen i’r byd wybod hyn. “I fi, rwyf i angen gwybod, yn fy nghalon, fy mod i wedi gwneud pob dim drostyn nhw, wedi rhoi diogelwch iddyn nhw a’r gofal iechyd gorau posibl. Mae angen i mi deimlo heddwch wrth edrych yn y drych. Y tu hwnt i hyn, nid oes gen i ddim rheolaeth. “Mae’r dyfodol yn ansicr, ond mae fy merched yn brwydro pob dydd am fywyd ac rwyf i wedi fy mendithio’n fawr.” Mae Ibrahima wedi dechrau sefydliad hefyd i helpu plant eraill mewn angen. Dywedodd: “Yn sgil popeth rydym ni wedi bod trwyddi, alla i ddim bod yn ddall i blant eraill ag anableddau ac anghenion cymhleth. Felly rwy’n dechrau sefydliad i’r merched, ar y cyd â hosbis blant Tŷ Hafan, o’r enw Conjoined Destiny.
"Os bydd y sefyllfa’n gwaethygu a’u bod yn marw, rwyf i eisiau sicrhau bod rhywbeth ar waith fel eu bod yn gadael ôl troed ar y byd er gwaethaf ein dechrau gwylaidd ac anodd ...” " ... Ac os bydda’n nhw’n tyfu i’w weld, byddan nhw’n gwybod pa mor ysbrydoledig fu eu bywydau."
15
cwtsh cwtch
newyddion a straeon o t ŷ hafan
029 2053 2199
ei gadw yn y teulu Dywedir mai eich lap buddugoliaeth yw rhedeg marathon yn dilyn misoedd o hyfforddiant, a gellir dweud yr un peth am T ŷ Hafan. Roedd agor yr hosbis yn ffrwyth gymaint o waith caled gan nifer o gefnogwyr ymroddgar, dan arweiniad ein sylfaenydd Suzanne Goodall. Un o’r cefnogwyr hyn a fu gyda ni ers y cychwyn cyntaf yw Rheolwr ein Siop yn Aberteifi, Diane Lloyd, ac mae wedi troi’r cyfan yn fater teuluol. Dechreuodd ein stori gyda Tŷ Hafan pan ddaeth Julian, fy ngŵr adre â bathodyn o fricsen o siop ym Mhen-y-bont ar Ogwr y bu’n danfon nwyddau iddi. Tŷ Hafan oedd yn gwerthu’r bathodyn i helpu i godi arian pan oedd yr hosbis yn cael ei hadeiladu yn gyntaf. Ar y pryd, roedd fy rhieni yng nghyfraith, Heather a Bernard, yn rhedeg clwb ceir clasur yn ein hardal leol. Am y ddwy flynedd ddiwethaf buon nhw’n codi arian i brynu car batri bach i’w roi i ddau ysbyty lleol i’r plant yrru eu hunain i’r theatr llawdriniaeth. Roedd y bathodyn y rhoddodd fy ngŵr i mi yn teimlo fel arwydd da y dylai Tŷ Hafan fod yr elusen y byddwn yn codi arian ar ei chyfer yn y flwyddyn nesaf, a dyna a wnaethom ni. Drwy gydol y broses fe wnaethom ni ddysgu mwy am yr hosbis, a oedd yn safle adeiladu ar y pryd, a chwrdd â Suzanne a’r holl bobl hynod ymroddedig a oedd yn rhan o sicrhau bod Tŷ Hafan yn cael ei adeiladu. Trefnodd Preseli Old Vehicle Enthusiasts, clwb ceir fy rhieni yng nghyfraith, ddigwyddiadau codi arian niferus mewn carnifalau’r pentref ac mewn sioeau hen geir ledled gorllewin Cymru. Roedd gennym ni stondin ym Marchnad Aberteifi a phob blwyddyn byddem ni’n cynnal cinio Nadolig â rafflau ac arwerthiannau. Fe wnaethom ni gyflwyno’r arian a godwyd yn ystod y flwyddyn i Suzanne Goodall a wnaeth ein cefnogi ni drwy gydol y daith codi arian.
Ar ôl ychydig o flynyddoedd, daeth y tîm manwerthu yn Tŷ Hafan i edrych ar siop yn y dref a gofyn a fyddwn i’n hoffi bod yn rheolwr arni. Ar y pryd tair blwydd oed oedd fy merch felly penderfynais ymgeisio am swydd y dirprwy reolwr. Caewyd stondin y farchnad ac ymunodd y merched a fu’n ei redeg â’r tîm gwirfoddoli yn siop Aberteifi, fy mam yng nghyfraith Heather a fy mam Pat yn eu plith. 15 mlynedd yn ddiweddarach, bu llawer o newidiadau staff. Es i’n rheolwr ar siop Llanbed yn 2008 ar ôl bod yn ddirprwy yn Aberteifi ers pedair blynedd. Roeddwn i hefyd yn rheolwr y ddwy siop o 2011 hyd 2016. Rydym ni hefyd wedi gweld llawer o newidiadau ym maint y siop. Fodd bynnag, mae Heather, a ddechreuodd y cwbl, a fy mam wedi bod yno’n gyson trwy’r cyfan. Mae teulu yn sicr yn bwysig i ni yn siop Aberteifi. Cyn gynted ag y trodd fy merch, Emily, yn 16 oed dechreuodd wirfoddoli ac mae fy mab James yn helpu pan fo’n gallu. Mae Julian yn gweithio’n galed iawn hefyd yn helpu i wneud unrhyw waith cynnal a chadw y mae angen ei wneud ac roedd yn rhan hanfodol o’r ad-drefnu diweddar. Dwy flynedd yn ôl, ymunodd Amy â thîm Aberteifi yn Ddirprwy Rheolwr ac ar ôl gweithio i ni am 18 mis, gofynnodd fy mab iddi fynd am dro gydag e ar y traeth. Maen nhw’n priodi ym mis Mai 2020!
Rydym yn sicr yn siop deuluol, mae’r gwirfoddolwyr nad ydyn nhw’n perthyn yn teimlo fel teulu. Mae gennym ni i gyd un peth yn gyffredin, rydym yn malio ac yn gweithio’n galed i godi arian ac ymwybyddiaeth “Rydym ni o T ŷ Hafan.
wrth ein boddau ac mae Ffynnon Taf yn glwb cyfeillgar, hyfryd.” - Neil Warnock, Cyn-Rheolwr Clwb Pel-droed Dinas Caerdydd
16
www.tyhafan.org
hydref 2019
pwysla
is pêl-d
roed
Roedd teu chwara luoedd wrth e ew u ar ymw yr o Glwb Pêl- boddau pan d d eliad tu d a diwed roed Dinas C aeth rheolwr aerd dy N agor ei eil Warnock. Y tymor, ynghyd ydd n sicr fe galon i â’u Tŷ w llaw at ein wal Hafan, trwy yc naeth Warnoc hwane k ac add g o i godi arian i n u ei ôl Ac ar e i. i lw, tre fnodd i’ Adar G rg leision a Ffynn êm gyfeillgar fod at e on Taf c rh lw Tŷ H yn dech wng yr afan. D rau’r tym ywedod or d:
“Aetho m tymor a ni i T ŷ Hafan c y d ni fod y ywedodd pob n diwedd y n rhaid u n ohon in i godi a rian. Ry i wneud rhyw om dym ni beth boddau wr a cyfeillg c mae Ffynno th ein ar, hyfr n Taf yn yd.” glwb
good omens fres deledu
mens yn gy Roedd Good O yn yr haf ac Amazon Prime boblogaidd ar el clepiwr igon ffodus i ga roeddem yn dd yn rhodd iw n y cast a’r cr wedi’i lofnodi ga ichael M t, an David Tenn i ni. Serennodd wn sêr lla t as ch a hitehall Sheen a Jack W inoedd o nofel gan frenh yn yr addasiad an a Terry ntasi Neil Gaim llenyddiaeth ffa Pratchet. er gan seuon ar Twitt Helpodd nege wn hyn i’w 2.7 mili Neil Gaiman am yn n Michael Shee o ddilynwyr a crhau sylw geseuon ni i si ne rhannu ein clepiwr ngwladol yn y gwirioneddol ry tem mewn ni gyflwyno’r ei pan wnaethom cais y eBay, a daeth arwerthiant ar yn UDA! an ff o th £3,400 er gw ol ug dd bu
17
cwtsh cwtch
newyddion a straeon o t ŷ hafan
029 2053 2199
www.tyhafan.org
hysbysfwrdd codi arian Mae’n ymddangos bod ein cefnogwyr anhygoel yn barod i gyflawni pa bynnag her codi arian y gallwch feddwl amdani! Diolch yn fawr iawn am bopeth yr ydych yn ei wneud i helpu i godi arian i deuluoedd Tŷ Hafan. Mae pob ceiniog yn gwneud byd o wahaniaeth.
Taith anhygoel y Welsh
Cyfeillion T ŷ Hafan sili yn dath
lu 25 mlynedd
Clywodd Cyfeillion Tŷ Hafan Sili
am Tŷ Hafan yn
gyntaf 25 mlynedd yn ôl pan ddae th Suzanne Goodall i siarad â grŵp menywod lleol yn y pentref. Cawsant eu rhyfeddu gan ei gwel edigaeth. Eleni fe wnaethon nhw ddathlu eu penblwydd yn 25 oed drwy gynnal Dawns, gan godi £9,2 10 anhygoel.
Wolfpack
ru, â dros hoci rhyngwladol Cym Beiciodd chwaraewyr asha, Nat t, dyn ngd rhy ladol 250 o gapiau Rhyngw n s 400 milltir o Ganolfa dro , Lisa and hie Sop Carys, ru yng Nghaerdydd i Cym eon ara Chw hol Genedlaet aethon 511.34 i Tŷ Hafan. Fe wn Antwerp, gan godi £2, Forbes yw eu cyn Dan dd rwy ohe ni is nhw ein dew Chyflyru, sef tad Felix. Hyfforddwr Cryfder a
Brwydr athreu
liol Ke
ith Roedd angen her newydd ar Keith James yn of Attrition, Uw lle’r Arc ch Farathon 10 0 milltir yn y ga rhaid iddo’i fet eaf, y bu’n hu oherwydd salwch. Yr hyn yn ei le? Peda ddewisodd ir gwaith o am Casnewydd yn gylch Maratho n dd chwalodd ei da i-stop! Yn sgil ei ymdrech ar wrol, rged codi arian gan godi £1,52 3.31 i Tŷ Hafan.
TBC Ymdrech Allstar
arall
yn nhwrnamaint rs Tŷ Hafan i’r iâ Dychwelodd Allsta Nghaerdydd, yng rs y DU Allsta hoci iâ Elusennau brwydro dros yn u dimau elusenna drechion lle’r oedd wyth o hym eu (a thlws). Roedd hawliau enw da rfformiad ar yr iâ, pe â’u l sta gy rol fan. codi arian rhago 0 anhygoel Tŷ Ha trwy godi £17,00
18
Hedfan fry heibio’r targed codi arian Aeth Steve Harris, rheolwr gyfarwyddwr Nuvias UC, i fyny i’r awyr i godi arian i Tŷ Hafan. Yn sgil ei ddewrder cododd dros £6,000 sy’n golygu bod y cwmni wedi noddi dros £40,000 hyd yn hyn. Diolch Nuvias am eich cymorth parhaus, rydym yn ei werthfawrogi’n fawr iawn.
Dathliad dwbl
Ar ôl tyngu llw i godi £10,000 mewn deg mis i Tŷ Hafan, roedd myfyrw yr yn Ysgol y Castell yn Sir Benfro wrth eu bod dau i ddatgelu mai’r swm terfynol a godwyd oed d £13,011.86 rhagorol! 2019 hefyd yw eu 10fed pen -blwydd ac aeth my fyrwyr ac athrawon ati i gyfl awni’r ‘Her Deg Mis’.
hydref 2019
Am fwy gan Tŷŷ Hafan, cofrestrwch i dderbyn ein e-gylchlythyr, Cwtsh Bach
Mae rhywbeth arbennig yn digwydd yn TŷŷHafan bob amser ac mae hynny ond yn bosibl diolch i’r gefnogaeth anhygoel yr ydym yn ei chael gan bobl fel chi. Os hoffech chi glywed y straeon nad oeddem yn gallu eu ffitio i mewn i Cwtsh bob mis, cofrestrwch i dderbyn Cwtsh Bach, ein e-gylchlythyr, drwy fynd i www.tyhafan.org/stay-in-touch neu drwy lenwi eich manylion isod a thicio’r blwch, yna dychwelyd y ffurflen hon gan ddefnyddio ein cyfeiriad rhadbost: Rhadbost RTBS-YCZU-JZSJ, Codi Arian, Tŷ Hafan, Heol Hayes, Sili CF64 5XX. Byddwn yn cadw eich manylion yn ddiogel a dim ond ni fydd yn eu defnyddio. Cewch newid eich meddwl ar unrhyw adeg drwy ffonio 029 2053 2255 neu drwy anfon neges e-bost i supportersservices@tyhafan.org teitl
enw cyntaf
enw neu rif y tŷŷ
cyfenw cod post
Rhowch wybod i ni os hoffech chi dderbyn ein e-gylchlythyr misol, Cwtsh Bach: Hoffwn i dderbyn Cwtsh Bach drwy e-bost cyfeiriad e-bost Rydym ni’n gwerthfawrogi ac yn parchu eich preifatrwydd. Ni fyddwn byth yn gwerthu nac yn rhannu eich manylion ac rydym yn addo eu cadw’n ddiogel. I gael rhagor o fanlynion ynghylch sut y caiff eich data ei ddefnyddio a’i gadw, ewch i www.tyhafan.org.uk/data-protection Tŷ Hafan - yr hosbis i blant yng Nghymru. Heol Hayes, Sili, CF64 5XX Mae Tŷ Hafan® yn nod masnach cofrestredig.
Yn chwilio am her a fydd yn newid eich bywyd yn llwyr?
Celebrating
2
y
0
e a
r s
21 - 29 Mawrth 2020
Ymunwch â ni yng Nghambodia ar daith fythgofiadwy a helpwch ni i wneud yn siŵr bod bywyd byr yn fywyd llawn i blant yng Nghymru Oes gennych chi ddiddordeb? I gael rhagor o wybodaeth, ewch i tyhafan.org/cambodia neu anfonwch neges e-bost i james.dhale@tyhafan.org