Cylchlythyr Ty Hafan Gwanwyn/Haf 2014

Page 1

cwtsh

cylchlythyr gwanwyn/haf 2014

ein newyddion a straeon o dyˆ hafan

15 mlynedd o fod yno y tu mewn 15 mlynedd o fod yno

dathlwch ein 15fed pen-blwydd gyda the pharti t.6

leigh halfpenny goleuo bywyd yn agor y pwll therapi yn ein noson neon dwr ˆ t.14 t.20


cwtsh

newyddion a straeon o dyˆ hafan 029 2053 2199

croeso Croeso i rifyn gwanwyn/haf o Cwtsh. A ninnau’n dathlu ein 15fed pen-blwydd penderfynwyd y byddai’n amser da i ailwampio’r cylchlythyr. Gobeithio y byddwch yn mwynhau’r cylchlythyr ar ei newydd wedd cymaint ag yr ydym ni. Mae gennym lawer i’w ddathlu wrth i ni feddwl am y cannoedd o deuluoedd rydym wedi’u cefnogi a’u cynorthwyo ers ein sefydlu ym 1999. Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys straeon gan deuluoedd a staff sydd wedi bod gyda ni ers y dechrau, crynodeb o’n digwyddiadau diweddaraf, gwybodaeth am ein hapêl te parti a llawer mwy. Mae Tˆy Hafan wedi newid tipyn dros y 15 mlynedd diwethaf. Rydym yn hynod o falch o fod yn arwain ym maes gofal lliniarol i blant ac rydym yn esblygu’n barhaus er mwyn bodloni anghenion y teuluoedd rydym yn eu cefnogi. Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli bod llawer o’r gwaith rydym ni’n ei wneud yn cael ei ddarparu yn y gymuned bellach. Yn wir, mae 70% o’n teuluoedd yn derbyn cymorth gartref, yn yr ysgol neu’r ysbyty. Mae ein tîm o 14 o weithwyr allgymorth yn darparu ystod o wasanaethau gan gynnwys therapi chwarae a cherddoriaeth yng nghartref y teulu. Ar dudalennau wyth a naw fe welwch sut y mae therapi chwarae wedi helpu un ferch fach i ddatblygu y tu hwnt i’r holl ddisgwyliadau. Gallwn gyrraedd mwy o blant a’u teuluoedd trwy ehangu ein gwasanaethau, ond mae hyn yn golygu bod ein costau’n cynyddu hefyd. Mae angen i ni godi tua £3.7 miliwn bob blwyddyn i gynnal ein gwasanaethau erbyn hyn, o’i gymharu â dim ond £1 miliwn ym 1999. Yn anhygoel, mae’r cyhoedd yng Nghymru yn parhau i ariannu 90% o’n gwasanaethau gofal. Diolch am ganiatáu i Dˆy Hafan barhau i fod yno ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n byw bywydau byr a’u teuluoedd ledled Cymru. Wrth i ni edrych i’r dyfodol, byddwn yn parhau ar ein taith gyda’n teuluoedd trwy adegau anodd gan roi atgofion gwerthfawr iddynt y byddant yn eu cofio am byth. Ray Hurcombe Prif Weithredwr

cynnwys

2 2

15 mlynedd o fod yno...................................................... 02 ein llinell amser............................................................... 04 te parti t yˆ hafan............................................................... 06 stori willow....................................................................... 08 mae pob plentyn yn gadael ei ôl.................................... 10 diolch................................................................................. 11 stori rhydian...................................................................... 12 leigh halfpenny yn agor y pwll therapi .......................... 14 abseil elusen i dˆy hafan................................................... 16 diawled ar yr iâ gyda thˆy hafan...................................... 17 pantomeim nadolig......................................................... 17 gwaith yn dechrau ar y lle chwarae newydd................ 17 her bridget..........................................................................18 ras enfys.............................................................................19 taith gerdded ganol nos..................................................20 tri chopa cymru..................................................................21 wythnos hosbisau plant..................................................22 helpwch ni i fod yno am 15 mlynedd arall.....................23

www.tyhafan.org

15 mly Mae angen codi £3.7 miliwn bob blwyddyn i gynnal ein gwasanaethau erbyn hyn o’i gymharu â dim ond £1 miliwn ym 1999

Mae 70% o deuluoedd yn derbyn cymorth yn y gymuned


cylchlythyr gwanwyn/haf 2014

nedd o fod yno ein taith

Agwedd benderfynol un fenyw o Feddau, a charedigrwydd pobl Cymru, a arweiniodd at sefydlu Tˆy Hafan - hosbis gyntaf Cymru i blant. Roedd ymchwil i’r angen am hosbis plant wedi nodi y gallai’r gwasanaeth fod o fudd i gymaint â 300 o blant yng Nghymru. Gan gydnabod y diffyg darpariaeth ar gyfer plant sy’n byw bywydau byr a’u teuluoedd, ysbrydolwyd Suzanne Goodall i gynnal ymgyrch 11 mlynedd i godi arian er mwyn adeiladu ein hosbis drawiadol gyda golygfeydd dros Fôr Hafren yn Sili, Bro Morgannwg.

Roedd y South Wales Echo yn rhan fawr o’r ymgyrch, a lansiwyd Ymgyrch Tyˆ Hafan ym 1994. Yn y flwyddyn honno hefyd, daeth Tywysoges Cymru yn Noddwr i Dˆy Hafan a threfnodd gyngerdd codi arian gyda Luciano Pavarotti flwyddyn yn ddiweddarach. Codwyd mwy na £2.3 miliwn tuag at yr adeilad a’r offer ar gyfer yr hosbis, a agorodd ar 25 Ionawr 1999. Croesawyd y tri phlentyn cyntaf i Dˆy Hafan ac mae’r hosbis wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.

33


cwtsh

newyddion a straeon o dyˆ hafan 029 2053 2199

www.tyhafan.org

1990

Tyˆ Hafan yn cofrestru fel elusen.

1993

Cael safle yn Sili ar gyfer adeiladu’r hosbis.

1994

ein

South Wales Echo yn lansio Apêl Tyˆ Hafan.

1994

Tywysoges Cymru yn dod yn noddwr Tyˆŷ Hafan.

1995

Pavarotti’n cynnal cyngerdd yng Nghaerdydd i godi arian ar gyfer Tyˆŷ Hafan.

1996

Dechrau adeiladu’r hosbis.

2001

Tywysog Cymru’n dod yn noddwr ac yn dod i ymweld â’r hosbis am y tro cyntaf.

1997

Adeilad yr hosbis yn cael ei drosglwyddo i Dyˆ Hafan er mwyn gosod yr offer a’r cyfarpar.

4

2003

Tyˆ Hafan yn cynyddu i wasanaeth saith niwrnod.

2004

Sylfaenydd Tyˆ Hafan, Suzanne Goodall, yn derbyn MBE yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines.


cylchlythyr gwanwyn/haf 2014

llinell amser 2014

Tyˆŷ Hafan yn dathlu ei bymthegfed pen-blwydd.

2013

Tyˆŷ Hafan yn derbyn gwobrau gan y Coleg Nyrsio Brenhinol.

2012

Tyˆŷ Hafan yn creu adran Addysg ac Ymchwil.

2011

BBC Cymru yn darlledu cyfres pedair rhan, Beautiful Lives.

2009

Tyˆŷ Hafan yn ailfrandio ac yn dathlu ei ddegfed pen-blwydd.

2008

Tyˆŷ Hafan yn lansio’r gr wp ˆ sgowtiaid cyntaf ar gyfer hosbis yng Nghymru.

2005

Ehangu’r tîm cymorth i deuluoedd.

Mae Cath Thompson, Pennaeth Gwasanaethau Gofal Tyˆ Hafan, yn un o ddeg aelod o staff sydd wedi gweithio i’r elusen ers y dechrau. Yma, mae hi’n rhannu ei phrofiadau ac yn esbonio pam fod gweithio i Dyˆ Hafan yn gymaint o “fraint”. “Mae’n anodd dychmygu y byddwn yn treulio bron i hanner fy ngyrfa nyrsio yn Nhˆy Hafan o ganlyniad i sgwrs ar hap gyda Chyfarwyddwr Gofal cyntaf Tˆy Hafan. Roeddwn i’n gwybod y byddai’r sgiliau a’r profiad roeddwn i wedi’u datblygu yn fy arwain at fy swydd ddelfrydol, ac rwyf wedi dod o hyd iddi yn Nhyˆ Hafan. “Dechreuwyd darparu ein gwasanaethau fore Llun 25 Ionawr 1999 a’n nod, fel gwasanaeth newydd a oedd yn esblygu, oedd gweithio gyda’r plant a’u teuluoedd i ddatblygu gwasanaeth gofal lliniarol o ansawdd uchel a oedd yn llwyr fodloni anghenion. “ I ddechrau, roedd y gwasanaeth roeddem ni’n ei gynnig wedi’i leoli yn yr hosbis, ond wrth i ni ddod i ddeall anghenion ein plant a’u teuluoedd, datblygwyd gwasanaeth therapi cyflenwol a gwasanaeth chwarae allgymorth ac ehangwyd ein darpariaeth cymorth i deuluoedd a’n sesiynau therapi cerddoriaeth. “Mae’r hosbis ei hun wedi newid tipyn er mwyn darparu ar gyfer y plant a’u teuluoedd. Mae’r pwll therapi dwr ˆ wedi ei wella ac mae’r lle chwarae yn yr awyr agored yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd. “Er bod y ffordd rydym ni’n darparu gwasanaethau wedi newid a datblygu dros y 15 mlynedd, nid yw ein nod wedi newid. Mae’r plant a’u teuluoedd wrth wraidd yr hyn a wnawn a pham rydym ni’n gwneud hynny. “Gallaf ddweud yn onest iddi fod yn fraint ac yn anrhydedd i fod yn rhan o rywbeth mor unigryw a gwerth chweil ac rwyf am ddiolch i’r plant a’r teuluoedd am rannu eu bywydau â mi.”

Jeff Griffiths Mae Jeff yn aelod brwd o gr wp ˆ y tadau ac mae’n gwirfoddoli i Dyˆ Hafan yn ei amser hamdden. Roedd ei lysferch, Melanie, ymhlith y cyntaf i ymweld â’r hosbis pan agorodd ym 1999. Roedd Melanie yn dioddef o Syndrom Sanfilippo, cyflwr sy’n achosi niwed cynyddol i’r celloedd, a bu farw ychydig ar ôl ei phenblwydd yn 16. Meddai Jeff: “Roedd y staff yn wych gyda Melanie ac rwy’n teimlo’n rhan o’r tîm bellach gan fy mod wedi adnabod pawb mor hir.”

Jacob Ferriday Roedd Jacob yn un o’r tri phlentyn cyntaf i dderbyn gofal seibiant byr yn yr hosbis ar 25 Ionawr 1999. Siaradodd ei fam, Sally, am gefnogaeth Tˆy Hafan mewn cynhadledd yn ddiweddar. Dywedodd “Allwn i ddim bod wedi ymdopi heb Dyˆ Hafan. Maen nhw wedi bod yn achubiaeth ac rwy’n ddiolchgar dros ben.” Dyma Jacob, sydd bellach yn 17 oed, yn cael amser gwych gyda Chapten Diawled Caerdydd, Mac Faulkner...

5


cwtsh

newyddion a straeon o dyˆ hafan 029 2053 2199

dathlwch ein

www.tyhafan.org

15 pen-b fed

gyda the parti

Fel ffordd o nodi ein 15fed pen-blwydd, rydym yn gofyn i bawb, yn unigolion ac yn grwpiau cymunedol, busnesau ac ysgolion, godi arian i D yˆ Hafan trwy gynnal eu te parti eu hunain. Gallwch drefnu i gael te a chacen gyda ffrindiau neu gynnal te parti â thema ‘hetiwr hurt’ i’ch cydweithwyr. Pa well ffordd i godi arian na thrwy fwynhau paned? A allwch chi gredu ein bod yn yfed 165 miliwn o baneidiau o de bob dydd? Felly fel cenedl sydd wrth ei bodd â the, rydym yn dymuno i gymaint o bobl â phosibl droi’r tegell ymlaen a’n helpu i gyrraedd ein targed o £100,000. Trwy gynnal te parti, byddwch yn cynorthwyo i gefnogi ein gwasanaethau hanfodol yn y gymuned.

Meddai Lynne Carter, Rheolwr Cyffredinol Codi Arian Tˆy Hafan “Rydym yn llawn cyffro ynglˆyn â lansio’r Apêl Te Parti. Mae cynnal eich te parti eich hun yn ffordd dda o gael hwyl wrth godi arian hanfodol i helpu plant sy’n byw bywydau byr a’u teuluoedd yng Nghymru.” I gael mwy o wybodaeth ynglˆyn â chynnal eich Te Parti Tˆy Hafan eich hun, gallwch fynd i’n gwefan i gael awgrymiadau ynglˆyn â chynnal a hybu eich te parti elusen eich hun. www.tyhafan.org/teaparty

Rhestr siopa

3 Gallai £2.50 dalu

am ddiwrnod

o allgymorth

am wythnos o therapi cerddoriaeth allgymorth Gallai £60 dalu am awr o

3 Gallai £1,500 dalu 3

gymorth i deulu awr o

3 Gallai £75 dalu am fam flinedig 6

therapi cyflenwol i yn ei chartref ei hun


Defnyddiwch ein poster ar y dudalen gefn i hyrwyddo eich te parti eich hun

blwydd

cylchlythyr gwanwyn/haf 2014

cornel

“Rydym wrth ein cwtsh bodd yn mynd i Dˆy Hafan. Mae pawb mor hapus a chadarnhaol yno. Mae croeso mawr i Casey bob amser, yn ogystal â’i fam a’i dad a’i chwaer Reagan. Pob hwyl ar gyfer y 15 mlynedd nesaf a thu hwnt xxxx.” Achos Casey

“Diolch i Dˆy Hafan am y gefnogaeth a’r cymorth a roddwyd i Connor. Rydych wedi rhoi gobaith ar gyfer y dyfodol iddo ef a’i deulu. Roedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 21 oed ddydd Mawrth diwethaf! Diolch yn fawr am eich rhan yn y wyrth fod bywyd Connor wedi ei ymestyn. Bendith arnoch chi i gyd.” Steve Knapton

“Mae 15 mlynedd wedi gwibio heibio! Diolch i bawb yn Nhˆy Hafan am eu cefnogaeth wych i Lowri Mai a’r teulu cyfan. Diolch yn fawr iawn i Hayley Mason sydd yn angel xx DA IAWN PAWB, mae gennych ein cefnogaeth am byth.” Angela Jones

“Diolch yn fawr iawn am eich cymorth i fy merch a fu farw. Gwnaeth wahaniaeth mawr i’n bywydau x.” Victoria Walsh

7


cwtsh

newyddion a straeon o dyˆ hafan 029 2053 2199

stori willow

Roedd bron yn drech na Kelly a Damien Matthews pan ddywedwyd wrthynt na fyddai eu merch o bosibl yn byw mwy nag ychydig ddyddiau, oherwydd bod ganddi’r cyflwr Hypoanadlu Canolog. Mae’r cyflwr yn golygu nad yw Willow yn gallu anadlu ar ei phen ei hun, a phan oedd yn bedair wythnos oed, rhoddwyd y dewis i Kelly a Damien ddiffodd ei pheiriant anadlu. Nid oeddynt am roi’r gorau i’r frwydr dros Willow a bellach mae hi’n ddwy oed ac yn parhau i wella bob dydd yn groes i bob disgwyl. “Mae hi’n ein synnu o hyd ac mae hi’n barod iawn i frwydro,” meddai Kelly. Mae Willow wedi’i chysylltu â pheiriant anadlu 24 awr y dydd ac mae ei chyflwr yn gallu gwaethygu yn ystod y nos. “Mae’n gyfrifoldeb enfawr i wybod ein bod yn cadw ein merch yn fyw bob dydd, ac mae’n gallu bod yn anodd ar adegau,“ meddai Kelly. Treuliodd Willow ei naw mis cyntaf yn yr ysbyty a phan oedd yn bedwar mis oed, cafodd ei chyfeirio at Dyˆ Hafan, yr hosbis deuluol ar gyfer bywydau ifanc. “Roeddwn i’n ansicr i ddechrau. ‘Doeddwn i ddim am iddi fynd i hosbis,” meddai Damien. “Roeddwn i’n meddwl y byddai’n lle clinigol a thrist, ond roeddwn i’n gwbl anghywir. Mae’n lle gwych; mor hapus, croesawgar a chyfeillgar.” Mae Willow yn derbyn gofal seibiant byr yn Nhˆy Hafan, sy’n galluogi Kelly a Damien i gael seibiant gwerthfawr. “Mae hi wrth ei bodd yn aros yno,“ meddai Damien. “Mae ganddi ei phatio ei hun

8

gyda golygfa o’r môr. Mae ei hystafell yn binc i gyd ac mae hi wrth ei bodd â’r lampau seren yn ystod y nos.” “Mae Tyˆ Hafan wedi helpu i leihau’r straen arnom ni,” meddai Kelly. “Mae cael seibiant yn ein helpu i ymdopi er mwyn gallu parhau â’r ychydig fisoedd nesaf. ‘Dydym ni ddim yn sylweddoli cymaint dan straen rydym ni nes inni gael seibiant.” Mae cymorth Tyˆ Hafan wedi galluogi Willow i gyflawni mwy nag y disgwyliwyd ganddi. Mae hi’n chwarae, yn lleisio a hyd yn oed yn dechrau sefyll ar ei phen ei hun bellach. “Rydym yn gwybod na fyddai hi’n cyflawni ei photensial llawn heb Dyˆ Hafan,” meddai Kelly. “Gallwn ei gweld yn datblygu bob tro mae’n aros yn Nhyˆ Hafan.” “Pan glywsom ei bod wedi gafael mewn ratl am y tro cyntaf, ‘doeddem ni ddim yn gallu credu’r peth! Maen nhw’n treulio oriau yn rhoi gwahanol therapïau yn yr ystafell gerddoriaeth, yr ystafell synhwyrau a’r ystafell chwarae – mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth i’w bywyd.” Mae un o arbenigwyr chwarae Tyˆ Hafan yn ymweld â Willow yng nghartref y teulu yn Ystrad hefyd. Mae’r sesiynau’n datblygu sgiliau cyfathrebu Willow a hefyd yn dangos i Kelly a Damien sut i chwarae gyda’u merch er mwyn parhau â’i datblygiad.

Mae gweithiwr cymorth i deuluoedd ar alwad ar gyfer y teulu 24 awr y dydd, i gynnig cyngor a chymorth emosiynol gwerthfawr. Er iddynt wynebu adegau anodd, ni fyddai Kelly a Damien yn newid dim am Willow ac maent yn teimlo’n ffodus bod ganddynt ferch fach mor hardd. “Rydym ni’n hynod o falch o Willow. Mae’n dod â chymaint o foddhad i’n bywydau ni ac mae’n hyfryd gwybod bod pawb yn Nhˆy Hafan yn ei charu cymaint ag rydym ni,” meddai Kelly. “Ac er nad ydym eisiau meddwl am y peth, os bydd hi farw yn y mis neu’r flwyddyn nesaf, i Dyˆ Hafan byddwn ni’n dymuno mynd.” Mae’r cwpl yn ddiolchgar iawn i Dyˆ Hafan ac mae Kelly yn cymryd rhan yn Nhaith Gerdded Ganol Nos yr elusen i ddangos ei gwerthfawrogiad: “Maen nhw fel sêr yn yr awyr,” meddai Kelly. “mae pob un yn arbennig iawn i ni ac rydym am wneud popeth posibl i ddangos ein cefnogaeth.”

“Rydym yn gwybod na fyddai’n cyflawni ei photensial llawn heb Dˆy Hafan”

www.tyhafan.org


cylchlythyr gwanwyn/haf 2014

straeon byr

“Mae cael seibiant yn ein helpu i ymdopi er mwyn gallu parhau â’r ychydig fisoedd nesaf”

cydnabod ymroddiad Rhoddwyd cydnabyddiaeth i ddwy o’n gwirfoddolwyr mwyaf ymroddgar gyda thusw yr wythnos gan y South Wales Echo. Roedd Lyn Hull a Rhona Jones wrth eu bodd i dderbyn tusw hardd o flodau. Mae Lyn yn gwirfoddoli yn ein siopau ac mae hi’r Gennad i Dˆy Hafan, ac mae Rhona yn wirfoddolwr sy’n cynorthwyo gyda’n loteri a’n cystadlaethau raffl.

in support of

Mae Crackerjackpot yn ffordd wych o gefnogi T yˆ Hafan a chael cyfle i ennill gwobrau mawr bob wythnos. Mae prif wobr yr wythnos yn £2,000 ac mae 80 o wobrau eraill o 60 x £5 ac 20 x £10. Hefyd mae ein gwobr dreigl yn cynyddu £500 yr wythnos ac mae’n gallu cyrraedd £12,000! Gallwch ymuno heddiw trwy fynd i www.lottery.tyhafan.org neu trwy ein ffonio ar 029 2053 2300.

raffl hwyl y Nadolig Eleni roedd raffl Nadolig T yˆ Hafan yn llwyddiant ysgubol, gan godi £75,000! Roedd Janet Griffiths, mam-gu o Gaerffili, wrth ei bodd i gael galwad ffôn i ddweud wrthi ei bod wedi ennill prif wobr y raffl, sef £3,000. “Ges i syndod mawr i glywed fy mod i wedi ennill ond rwy’n hynod o falch,” meddai. Rydym am ddweud diolch yn fawr i bawb a gymerodd ran yn y raffl. Byddwn yn cynnal Raffl Haf cyn bo hir a dylai’r tocynnau fod yn cyrraedd eich drysau ym mis Mai.

9


cwtsh

newyddion a straeon o dyˆ hafan 029 2053 2199

mae pob plentyn yn gadael ei ôl

dyddiad i’w gofio ymgyrch ysgrifennu ewyllys 12-23 Mai 2014 Bydd cyfreithwyr ledled Cymru yn cynnig cyfle i gefnogwyr Tyˆ Hafan ysgrifennu Ewyllys am ddim ond £50.

Ers 1999, mae bron i 600 o blant wedi gadael eu hôl ar Dyˆ Hafan. Un o’r plant hynny oedd Archie Watson.

Cafodd Archie ddiagnosis o glefyd Tay-Sachs pan oedd ond yn chwe mis oed a chafodd ei atgyfeirio i Dyˆ Hafan yn fuan wedi hynny. Gwahoddwyd Archie i adael ôl ei law ar ein wal yn ystod ei ymweliad cyntaf.

Fe wnaethom ffarwelio ag Archie gyda’i deulu ddydd Llun 25 Mawrth. Treuliodd Brad, Lauren a Jack y dydd gydag ef yn ei ystafell, yn rhoi cwtsh iddo ac yn adrodd storïau.

Yn anffodus, roedd Archie yn fachgen bach sâl iawn, ac erbyn mis Chwefror 2013 roedd mam a thad Archie yn gwybod nad oedd ganddynt lawer o amser ar ôl yn ei gwmni. Daethant i Dyˆ Hafan i weld bod ei ystafell wedi ei addurno â’r hoff bethau – roedd y Cookie Monster a Kermit ymhob man.

Mae Archie wedi gadael ei ôl ar bob un ohonom yn Nhˆy Hafan mewn cymaint o wahanol ffyrdd. I nodi ein 15fed penblwydd, rydym yn gofyn i’n cefnogwyr ystyried gadael eu hôl hwythau ar Dyˆ Hafan hefyd – trwy roi rhodd yn eu Hewyllys.

Arhosodd Archie a’i deulu gyda ni am ychydig llai na mis a gwnaed popeth bosibl i wneud yn siwr ˆ bod yr wythnosau olaf hynny’n llawn adegau hapus.

Byddai hyn yn golygu y gall Tyˆ Hafan barhau i ofalu am deuluoedd yng Nghymru sydd â phlentyn sy’n byw bywyd byr, ymhell i’r dyfodol. I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch ni ar 029 2053 2265 neu anfonwch e-bost at legacy@tyhafan.org. Gallwch hefyd fynd i www.tyhafan.org/gift-in-a-will

10

www.tyhafan.org

a wyddoch chi? Mae un o bob pum plentyn sy’n cael ei atgyfeirio i Dyˆ Hafan yn derbyn gofal trwy rodd mewn Ewyllys? beth yw clefyd Tay-Sachs?

Mae clefyd Tay-Sachs yn brin iawn ac fel arfer yn achosi marwolaeth. Mae’n anhwylder genetig sy’n achosi niwed cynyddol i’r system nerfau


cylchlythyr gwanwyn/haf 2014

diolch Rydym am ddweud diolch yn fawr am yr ymateb gwych a gafwyd i apêl y Nadolig. Diolch i’ch caredigrwydd chi, codwyd £23,000 a fydd yn helpu i gynorthwyo plant sy’n byw bywydau byr, fel Casey Hard, a’u teuluoedd ledled Cymru. Ganwyd Casey â niwed mawr i’w ymennydd a phan oedd ond yn chwe wythnos oed, cafodd ddiagnosis o barlys yr ymennydd ac epilepsi. Mae Casey’n cael trawiadau poenus, a dywedwyd wrth y teulu mai ychydig flynyddoedd yn unig sydd ganddo, o bosibl. Pan oedd y teulu’n meddwl na allai pethau fod lawer gwaeth, cafodd ei dad Anthony wybod bod ganddo diwmor yn ei ymennydd ac na fyddai modd rhoi llawdriniaeth iddo. Mae’n bosibl eich bod wedi darllen am Casey a’i deulu yn ein hapêl Nadolig, ac efallai eich bod yn cofio chwaer Casey, Reagan, a’i dymuniad Nadolig i weld ei brawd bach yn gwenu. Ychydig cyn y Nadolig cafodd y teulu newyddion da o’r diwedd gan roi rheswm iddynt wenu – cafodd Anthony wybod bod y tiwmor yn ei ymennydd wedi mynd. Dywedodd Anthony wrthym ei fod yn edrych ymlaen at dreulio amser gyda’i wraig Nahella, Reagan a Casey yn eu cartref yng Nghasnewydd. Dywedodd: “Rwyf wedi cael gwybod bod y tiwmor wedi mynd, ac mae hynny’n gymaint o ryddhad i ni. Cefais wybod y llynedd fod fy nhiwmor wedi dod yn ôl a’r flwyddyn cyn hynny y cefais y diagnosis felly rydym wedi cael newyddion drwg dro ar ôl tro cyn y Nadolig. Gallwn bellach edrych ymlaen at y dyfodol a mwynhau treulio amser gyda’n gilydd fel teulu.” Felly gwireddwyd dymuniad Reagan dros y Nadolig a gwelodd ei brawd, yn ogystal â’i theulu i gyd, yn gwenu.

11


cwtsh

www.tyhafan.org

Llun © Christoph Soeder

newyddion a straeon o dyˆ hafan 029 2053 2199

stori rhydian Atgyfeiriwyd Rhydian fach a’i deulu i Dˆy Hafan yn 2009. Mae Rhydian, sy’n saith oed, yn fachgen bach hyderus, hapus a hoffus. Mae Rhydian bob amser yn gwenu ac mae wrth ei fodd yn canu ac yn dawnsio i’w hoff ganeuon. Yr hyn sy’n gwneud Rhydian yn wahanol i fechgyn eraill ei oedran ef yw ei fod yn brwydro yn erbyn tiwmor ar ei ymennydd. Roedd yn chwe mis oed pan gafodd ddiagnosis ac er gwaethaf sawl llawdriniaeth, tyfodd y tiwmor yn ôl ac mae wedi effeithio ar ei ddatblygiad yn ddifrifol. Ni all Rhydian gynnal ei bwysau heb ffrâm gerdded, ychydig iawn o symudiad sydd ganddo ar ei ochr dde, mae’n rhannol ddall yn ei lygad chwith ac mae wedi’i gofrestru’n ddall. Roedd yn dorcalonnus i’w deulu o 12

Lanbedr Pont Steffan glywed gan y meddygon na fyddai’n gallu cael mwy o lawdriniaeth ac y byddai arno angen 30 sesiwn radiotherapi. Nid oedd y teulu’n gwybod lle i droi tan iddynt gael gwybod am Dˆy Hafan. “Roedd angen cymorth arnom yn druenus,” meddai ei fam Carys. “Roedd ein bywydau wyneb i waered ac roeddem yn meddwl y byddai raid i ni wynebu ein taith ar ein pennau ein hunain. Roedd yn rhyddhad mawr i wybod bod gennym gefnogaeth Tyˆ

Hafan. Am y tro cyntaf mewn amser maith, roeddem yn gallu rhannu ein pryderon gyda thîm o bobl yr oedd ein hanghenion wir o bwys iddynt, ac roedd hynny’n faich oddi ar fy meddwl,” meddai Carys. Rhoddodd Tyˆ Hafan amgylchedd diogel a chyfforddus i’r teulu pan oeddynt yn mynd ar dripiau diddiwedd i’r ysbyty ar gyfer triniaeth radiotherapi Rhydian. “Roeddem yn mynd i’r ysbyty bob bore, bum niwrnod yr wythnos. Arhosodd Rhydian a minnau yn yr hosbis o fis

Ionawr i fis Ebrill a byddai Les a’r plant yn dod i’n gweld bob penwythnos. Heb Dyˆ Hafan, byddem yn gorfod gyrru am ddwy awr a hanner bob dydd i gael ei driniaeth. Un ai hynny, neu orfod aros yn yr ysbyty, ac nid oeddem am i Rhydian gael y profiad hwnnw.” Mae Catrin ac Owain, chwaer a brawd Rhydian, yn aelodau o gr wp ˆ ‘super sibs’ Tyˆ Hafan yn y gorllewin. Maent wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd ac yn mwynhau treulio amser gyda phlant eraill sydd mewn sefyllfaoedd


cylchlythyr gwanwyn/haf 2014

straeon byr

mamau ar daith Cafodd mamau Tˆy Hafan amser gwych pan aethant ar drip siopa Nadolig i Gaerfaddon. Dyma lun ohonynt yn mwynhau trip haeddiannol iawn!

gr wp ˆ y tadau! Mae gr wp ˆ y tadau’n parhau i fynd o nerth i nerth. Pa un ai’n cystadlu mewn pêl-droed pump bob ochr neu yn yr X factor – mae eu perthynas mor gryf ag erioed.

Hoff jôc Rhyd Beth mae gwartheg yn fwyta i frecwast? Mwwsli! tebyg. Mae Catrin yn dioddef o Sglerosis Ymledol ac mae hithau hefyd yn yr ysbyty byth a hefyd. Mae cymorth Tyˆ Hafan yn hanfodol gan y gall Rhydian dderbyn gofal yn yr hosbis pan fydd ei chwaer fawr yn cael triniaeth yn yr ysbyty. “Heb Dyˆ Hafan, mae’n debygol y byddai Les wedi gorfod rhoi’r gorau i’w waith. Rydym yn ceisio cadw bywyd teuluol mor arferol â phosibl ac mae Tyˆ Hafan yn ein galluogi i wneud hynny,” meddai Carys. Mae’r teulu

yn cael llawer o fudd hefyd o wasanaethau allgymorth Tyˆ Hafan. Mae gweithiwr cymorth i deuluoedd ar alwad 24 awr y dydd ac yn ymweld â nhw yn eu cartref yn rheolaidd, gan gynnig cyngor ariannol a’u helpu i dderbyn gwasanaethau yn y gymuned. Mae hefyd yn glust i wrando pan fydd pethau’n anodd.

siapiau, felly mae’n bwysig ei ysgogi yn weledol.” Ychwanegodd: “ Mae’r rhestr yn un hir ac nid yw’r cymorth fyth yn dod i ben. Mae Tyˆ Hafan wedi golygu popeth i ni. Gobeithio y bydd mwy o bobl yn dangos eu cefnogaeth rhag i deuluoedd eraill fel ni orfod wynebu eu taith ar eu pennau eu hunain.”

“Mae Tyˆ Hafan yn ymweld â ni gartref i ddangos i ni sut i chwarae gyda Rhydian. Nid yw’n gallu gweld lliwiau ond mae’n gallu gweld

Mae angen eich cymorth arnom i barhau i ddarparu cymorth i deuluoedd fel un Rhydian. I roi rhodd ewch i www.tyhafan.org

super sibs! Roedd ein parti Nadolig blynyddol i frodyr a chwiorydd, a gynhaliwyd gan ein cefnogwyr caredig Tiger Tiger yng Nghaerdydd, yn llwyddiant ysgubol ac mae ein digwyddiadau dan y thema ‘Great British Bake Off’ yn parhau i fod yn atyniad i’n brodyr a chwiorydd!

13


cwtsh

newyddion a straeon o dyˆ hafan 029 2053 2199

www.tyhafan.org

leigh halfpenny yn agor y pwll therapi dwr ˆ Roedd pawb yn hapus pan ddaeth ein Cennad Leigh Halfpenny i agor ein pwll therapi dwr ˆ newydd ar 26 Mawrth. Roedd y seren rygbi wrth ei fodd i dorri’r rhuban o flaen y teuluoedd a’r aelodau staff a oedd yn ysu am gael defnyddio’r cyfleuster. Mae’r pwll therapi d wr ˆ o’r radd flaenaf yn darparu amgylchedd gwych ar gyfer therapi, cyfathrebu, cymdeithasu a chwarae. Mae ganddo offer disgo a goleuadau ar gyfer y synhwyrau yn ogystal ag uchelseinyddion ar gyfer cerddoriaeth, a hefyd mae’n cynnwys teclyn codi i helpu plant i fynd i mewn ac allan o’r pwll.

Meddai Jayne Saunders, Cyfarwyddwr Gofal Tyˆ Hafan: “Dyma’r tro cyntaf i lawer o deuluoedd allu mwynhau bod mewn pwll gyda’i gilydd gan fod y cyfleuster yn darparu amgylchedd diogel a chyfforddus i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion meddygol cymhleth.” Meddai Leigh: “Roedd yn fraint i agor y pwll therapi dwr ˆ yn swyddogol ac roedd yn wych gweld y plant yn mwynhau’r cyfleuster newydd. Fel chwaraewr rygbi proffesiynol, rwy’n gwybod pa mor effeithiol yw triniaeth therapi dwr ˆ o ran buddion ffisiolegol a seicolegol. Mae’r pwll yn ychwanegiad ardderchog i Dyˆ Hafan ac rwy’n falch iawn o gefnogi elusen sy’n gwneud gwaith gwych wrth ofalu am blant a’u teuluoedd sy’n ysbrydoliaeth inni i gyd.” Mae Tyˆ Hafan yn hynod o ddiolchgar i’r grwpiau, busnesau a chefnogwyr lawer a gyfrannodd at y gost o £400,000 i adeiladu’r pwll therapi dwr. ˆ

Mae’r pwll therapi dwr ˆ o’r radd flaenaf yn darparu amgylchedd gwych ar gyfer therapi, cyfathrebu, cymdeithasu a chwarae

ra 14


cylchlythyr gwanwyn/haf 2014

straeon byr

emporium Rydym wrth ein bodd â llwyddiant ein siop Emporium newydd yn y Bont-faen. Emporium yw ein cyfres newydd o siopau bwtîc ac mae cynlluniau ar y gweill i agor mwy yn y dyfodol. Os nad ydych wedi ymweld ag Emporium eto, beth am fynd i gael golwg? Cofiwch hefyd gyfrannu unrhyw nwyddau nad ydych eu heisiau er mwyn i ni allu parhau i gefnogi plant sy’n byw bywydau byr a’u teuluoedd yng Nghymru.

porthcawl Dechreuodd y dorf gasglu yn gynnar yn 54 John Street ym Mhorthcawl ar gyfer agoriad swyddogol ein 25ain siop. Daeth Jimmy Elvis, sy’n dynwared Elvis, i ddiddanu’r cyhoedd trwy ganu ambell i gân ond seren y sioe oedd Luca Pucella, sy’n saith oed, a ddaeth gyda’i rieni Beth ac Angelo i dorri’r rhuban.

gwefan newydd Efallai eich bod wedi sylwi ar ein gwefan newydd sbon a lansiwyd ym mis Ebrill. Mae’r wefan newydd yn darparu mwy o wybodaeth nag erioed o’r blaen gan gynnwys calendr digwyddiadau newydd, fideos, straeon teuluoedd a llawer mwy.

Ewch yno heddiw www.tyhafan.org

15


cwtch cwtsh

newyddion a straeon our news od and yˆ hafan stories029 at 2053 t yˆ hafan 2199

www.tyhafan.org

Codwyd £4,000 i nodi partneriaeth y gwesty â’r sefydliad

abseil elusen i dyˆ hafan Abseiliodd 17 o reolwyr cwmnïau ledled Caerdydd i lawr yr 16 o loriau yng Ngwesty a Sba Mercure Holland House - seithfed adeilad talaf y ddinas – i godi arian i Dyˆ Hafan.

16

Trefnwyd y digwyddiad, a gododd bron i £4,000 i Dyˆ Hafan, i nodi partneriaeth y gwesty â’r sefydliad.

a oedd ymhlith y bobl a wirfoddolodd i ddefnyddio’r llwybr fertigol i’r maes parcio.

“Roeddem am wneud rhywbeth anghyffredin i annog cymaint o roddion â phosibl, felly penderfynwyd cynnal digwyddiad abseilio,” meddai Marisa Morteo, rheolwr cyffredinol y gwesty,

“Wedi’r cyfan, nid pob dydd y mae staff yn cael cyfle i wthio eu rheolwr oddi ar y to!”


cylchlythyr newsletter gwanwyn/haf spring 2014

diawled ar yr iâ gyda thˆy hafan Aeth Diawled Caerdydd ar yr iâ gyda grwp ˆ o blant llawn cyffro a’u teuluoedd ar 26 Chwefror. Cafodd naw teulu, sy’n derbyn cymorth gan Dyˆ Hafan, gyfle i fwynhau sesiwn sglefrio am awr yn Arena Caerdydd, yng nghwmni tîm 2013-14 Diawled Caerdydd. Teimlai’r capten Mac Faulkner y byddai’n brofiad da i sglefrio gyda’r chwaraewyr er mwyn dathlu’r bartneriaeth rhwng Diawled Caerdydd a Thˆy Hafan. “Rydym wedi gwneud llawer gyda Thˆy Hafan eleni ac mae’n anhygoel beth maen nhw’n ei wneud i’r plant a’r teuluoedd sydd yn eu gofal. Roeddyn nhw’n croesawu’r syniad o gynnig cyfle i sglefrio ac roedd y tîm i gyd yn barod iawn i dreulio’u hamser personol yn cynnig eu cefnogaeth. Roedd yn llwyddiant mawr a’r peth mwyaf pwysig oedd bod y plant yn cael hwyl,” meddai Mac.

panto nadolig Unwaith eto, roedd pantomeim Tyˆ Hafan yn llwyddiant mawr a daeth llawer o gwmnïau i gymryd rhan. Cymerodd staff Ty’r ˆ Cwmnïau ran mewn tri pherfformiad a chymerodd staff Canolfan Siopa Dewi Sant ran ddwywaith, roeddynt yn mwynhau gymaint ar y perfformio! Roedd ein teuluoedd i gyd wrth eu bodd, gan ganu a chymeradwyo drwy’r amser. Rhan orau’r noson oedd pan ddaeth Siôn Corn ar y diwedd i roi anrhegion i’r plant i gyd.

gwaith yn dechrau ar y lle chwarae newydd Cynhaliwyd seremoni swyddogol i dorri’r dywarchen gyntaf ar 14 Mawrth, i nodi dechrau’r gwaith o adeiladu ein lle chwarae newydd, gwerth £230,000. Mae’r safle newydd wedi’i seilio ar thema ynys anghysbell oherwydd ein lleoliad yn ymyl Môr Hafren. Mae’r lle cyfan yn addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn a dewiswyd pob darn o’r offer gan roi ystyriaeth i integreiddio. Mae goleudy pwrpasol, trampolîn, trac rasio a si-so ar gyfer cadeiriau olwyn yn rhai o’r nodweddion sydd wedi eu cynllunio ar gyfer y cyfleuster newydd. Y bwriad yw cwblhau’r lle chwarae erbyn yr haf. Jacob Ferriday, 17, a’i fam Sally o’r Barri oedd y gwesteion arbennig a ddaeth i dorri’r dywarchen ar y diwrnod.

17


cwtsh

newyddion a straeon o dyˆ hafan 029 2053 2199

www.tyhafan.org

her bridget Os oes angen unrhyw ysgogiad arnoch i gymryd rhan yn un o’n digwyddiadau neu unrhyw her codi arian arall er budd Tyˆ Hafan, bydd Bridget James yn eich ysbrydoli, a hithau wedi cwblhau 13 hanner marathon mewn 13 diwrnod! Ysbrydoliaeth Bridget i’w gwthio’i hun i’r eithafion oedd ei merch pedair oed, Elain. Cyfeiriwyd Elain fach at Dyˆ Hafan ym mis Ionawr 2011 ar ôl derbyn diagnosis bod ganddi gyflwr cymhleth ar y galon ac anhwylder genetig. Cafodd Elain lawdriniaeth ar ei chalon pan oedd ond yn dri mis oed a threuliodd bum mis yn yr ysbyty. Mae ansawdd bywyd Elain bellach yn dda ond, yn drist, bydd ei chyflwr yn sicr o waethygu. Mae Tyˆ Hafan yn darparu cymorth hanfodol ar gyfer y teulu cyfan, gan gynnig gofal seibiant byr yn yr hosbis a chefnogaeth emosiynol ac ymarferol i Bridget, 29, a Gareth, 33 yn eu cartref yn Aberystwyth. Meddai Bridget: “Mae Tyˆ Hafan yn elusen wych ac mae codi arian yn ffordd o ddangos ein gwerthfawrogiad am bopeth y maent wedi ei wneud i’n teulu ni.” Cafodd Bridget y syniad o redeg 13 hanner marathon mewn 13 diwrnod y llynedd. Mae hi wedi bod yn rhedwr brwd erioed, ac wedi cwblhau tri marathon a deg hanner

18

marathon yn y gorffennol, ond roedd eisiau her newydd arni ac roedd am gyflawni rhywbeth a fyddai’n anodd iddi. Meddai Bridget: “Roeddwn i’n hapus ac wedi fy synnu mod i wedi gallu rhedeg yr holl beth bron. ‘Doeddwn i erioed wedi meddwl y byddai’r her yn creu cymaint o sylw ac y byddem ni’n cael cymaint o gefnogaeth. Ysbrydolodd Elain fi i gadw i fynd ac roeddwn i mor falch mod i wedi cwblhau’r her.” Dros 13 diwrnod yr her, roedd yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf yn ei blog poblogaidd, a ddechreuodd yn 2011. Ymunodd pobl eraill â Bridget ar hyd y daith, gan gynnwys enillydd medal aur y gemau paralympaidd, Mark Colbourne a’r cyflwynydd teledu a’r rhedwr marathon eithafol, Lowri Morgan. Mae Apêl Elain, a sefydlwyd gan Bridget a Gareth, wedi codi bron i £80,000 i nifer o elusennau gan gynnwys Tˆy Hafan. I gael mwy o wybodaeth am stori Bridget, ewch i’w blog yn www.apelelain.com

Mae Bridget a Gareth wedi codi bron i £80,000 i nifer o elusennau gan gynnwys Tyˆ Hafan


cylchlythyr gwanwyn/haf 2014

rhaid i’r rhedwyr wisgo dillad gwyn ar y dechrau a chael eu gorchuddio â lliw bob cilomedr

mae’n ddathliad, ac yn gyfle i gael hwyl wallgof gyda ffrindiau

ras enfys

Bydd môr o wyrdd a phinc, wedi’i gymysgu â fflachiadau o borffor, glas a melyn, yn dod i dde Cymru yn ein ras enfys gyntaf erioed. Caiff y rhai sy’n cymryd rhan eu gorchuddio â phowdr o bob lliw’r enfys yn y ras hwyl 5km ar draeth Coney, Porthcawl ddydd Sul 27 Ebrill. Mae’r digwyddiad, y cyntaf o’i fath yng Nghymru, wedi’i seilio ar wyl ˆ lliw Holi o’r India, a disgwylir y bydd yn codi mwy na £40,000 i Dyˆ Hafan. Nid oes enillwyr, nac amserau swyddogol a dim ond dwy reol sydd i’w dilyn: rhaid i’r rhedwyr wisgo dillad gwyn ar y dechrau a chael eu gorchuddio â lliw bob cilomedr.

Meddai Mair Jeffreys, trefnydd digwyddiadau T yˆ Hafan: “Nid cystadleuaeth yw’r Ras Enfys, ac nid yw cyflymder na ffitrwydd yn bwysig; mae’n ddathliad, yn gyfle i gael hwyl wallgof gyda ffrindiau a chodi gwên i Dyˆ Hafan.” £10 y pen yw’r tâl mynediad neu £30 am gr wp ˆ neu deulu o bump (rhaid i grwpiau teulu gynnwys o leiaf ddau oedolyn a rhaid i’r plant fod yn wyth oed neu’n h yn). ˆ Gofynnir i bob un sy’n cymryd rhan godi o leiaf £50 o nawdd.

Ras Enfys Gorllewin Cymru yn dod yn fuan...

I gofrestru neu i gael mwy o wybodaeth ynglyn ˆ â’r Ras Enfys, ewch i www.tyhafan.org/rainbow-run neu ffoniwch 029 2053 2276 19


cwtsh

newyddion a straeon o dyˆ hafan 029 2053 2199

16 Mai 2014 Goleuwch fywyd yn noson neon Tyˆ Hafan

taith gerdded ganol nos Rydym yn gofyn i ferched wisgo neon ar gyfer ein digwyddiad blynyddol poblogaidd, y Daith Gerdded Ganol Nos, yng Nghaerdydd. Bydd y daith gerdded chwe milltir ganol nos yn dechrau o’r adeilad eiconig, Stadiwm y Mileniwm, a bydd y digwyddiad yn cynnwys adloniant cyffrous ymlaen llaw a the a chacennau

bach am ddim i’r cerddwyr ar y diwedd. Bydd digwyddiad eleni’n helpu i oleuo wynebau teuluoedd cariadus Tˆy Hafan yn ogystal â goleuo awyr y nos fel teyrnged iddynt. Felly dewch ferched, gwisgwch eich pyjamas a’ch neon a cherddwch ein Taith Gerdded Ganol Nos wych.

Cofrestrwch heddiw yn www.midnightsleepwalk.co.uk 20

Dychmygwch beidio byth â chael noson dda o gwsg! Dyma fywyd go iawn i lawer o rieni Tyˆ Hafan sy’n gofalu 24 awr y dydd am blant sy’n byw bywydau byr. O ymdopi â thrawiad yng nghanol y nos, i roi meddyginiaeth ar yr awr, bob awr – mae gofalu am blentyn sy’n byw bywyd byr yn gallu bod yn her enfawr. Dyna pam rydym am i chi aberthu un noson o gwsg fel teyrnged i’r mamau a’r tadau arbennig hyn.

www.tyhafan.org


cylchlythyr gwanwyn/haf 2014

tri chopa cymru Bydd seren rygbi Cymru Colin Charvis yn gapten ar Dîm Arwyr Cymru ar gyfer her 3 Chopa Cymru GE Aviation Wales, i godi arian i Dˆy Hafan. Am yr 16fed flwyddyn, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn dringo’r Wyddfa, copa uchaf Cymru, cyn mynd ymlaen i Gadair Idris a Phen-y-Fan, y cyfan mewn 15 awr. Bydd cyn-gapten Cymru Colin Charvis yn ymuno â channoedd o bobl eraill i ymgymryd â’r her 20.35 milltir ddydd Sadwrn 14 Mehefin.

gr wp ˆ y tadau Bydd gr wp ˆ o dadau rhai o’r plant a’r bobl ifanc sy’n cael cymorth gan Dyˆ Hafan yn cofrestru timau eto eleni. Mae Lewis, mab pedair oed Matthew Smith, yn dioddef o Sglerosis Twberus a chafodd ei atgyfeirio i Dyˆ Hafan dros dair blynedd yn ôl. Meddai Matthew, ar ôl cwblhau’r digwyddiad y llynedd: “Roedd yn her enfawr ond rwyf mor falch ein bod wedi llwyddo. Mae’n ffordd wych o ddangos ein gwerthfawrogiad i’r tîm yn Nhˆy Hafan a byddwn yn parhau â’n hymdrechion i godi arian i’r elusen anhygoel hon.”

Meddai: “Mae’n gyffrous i fod yn rhan o her 3 Chopa Cymru GE Aviation Wales i D yˆ Hafan. Bydd yn ddiwrnod anodd, ond nid o’i gymharu â’r heriau dyddiol y mae’r plant hyn a’u teuluoedd yn eu hwynebu.” Hyd yn hyn, mae mwy na 5,000 o bobl wedi teithio o bob cwr o’r byd ar gyfer yr her, gan godi cyfanswm o £1.32 miliwn i D yˆ Hafan, yr hosbis deuluol i fywydau ifanc.

GE Aviation Wales Mae GE Aviation Wales wedi cefnogi digwyddiad 3 Chopa Cymru dros yr 16 mlynedd diwethaf. Gr wp ˆ o weithwyr GE Aviation Wales a gwblhaodd yr her am y tro cyntaf ac mae rhai aelodau o’r tîm gwreiddiol yn dal i fod yn rhan o’r digwyddiad. Meddai Mike Patton, Rheolwr Gyfarwyddwr GE Aviation Wales, ynglyn ˆ â chefnogi her 3 Chopa Cymru: “Rydym yn falch o gefnogi her 3 Chopa Cymru. Mae Tyˆ Hafan yn darparu gwasanaeth hynod o bwysig i’r gymuned leol ac mae’r hosbis yn cefnogi cannoedd o blant a’u teuluoedd trwy gydol y flwyddyn. “Mae’r her yn denu pobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Mae’r awyrgylch ar y dydd yn anhygoel, ac mae’n wych gweld cymaint o bobl yn dod at ei gilydd i godi arian i achos mor bwysig a gwerth chweil.”

mwy o ddigwyddiadau

29 Mehefin

Diwrnod o Hwyl i’r Teulu yn Nhˆy Hafan

7 Medi

Her Beicio Taith Taf Tˆy Hafan

7 Medi

Ras 10 km Caerdydd

21 Medi

Ras 10 km Admiral Bae Abertawe

28 Medi

Ras Men’s Health: Survival of the Fittest (Bae Caerdydd)

5 Hydref

Hanner Marathon Caerdydd 2014

25 Hydref

Marathon Eryri

mae mwy na 5,000 o bobl wedi teithio o bob cwr o’r byd i gwblhau’r her

21


cwtsh

newyddion a straeon o dyˆ hafan 029 2053 2199

www.tyhafan.org

wythnos hosbisau plant Wythnos hosbisau plant yw’r unig wythnos yn y DU i godi ymwybyddiaeth a chodi arian ar gyfer plant sy’n byw bywydau byr a’r gwasanaethau, fel hosbisau plant, sy’n eu cefnogi. Bydd Wythnos Hosbisau Plant eleni (13-20 Mehefin) yn canolbwyntio ar y gofal anhygoel a ddarperir bob awr o’r dydd i blant sy’n byw bywydau byr gan deuluoedd, gweithwyr proffesiynol, hosbisau plant a gwasanaethau cymorth eraill ledled y DU.

dydd gwener arwyr Uchafbwynt Wythnos Hosbisau Plant 2014 fydd Dydd Gwener Arwyr. Byddwn yn dathlu’r holl arwyr sy’n cynorthwyo i ddarparu gofal 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos i blant a phobl ifanc sy’n byw bywydau byr ac sydd â chyflyrau sy’n peryglu eu bywydau.

mae ar bawb angen arwyr Gwisgwch fel eich arwr i helpu i godi arian i ddarparu gofal 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos i blant sy’n ddifrifol wael. Gallai fod yn seren bop, yn bersonoliaeth chwaraeon neu’n uwch-arwr. Neu efallai bod eich arwr yn aelod o’r teulu neu’n ffrind sydd wedi gwneud byd o wahaniaeth i chi. Ymunwch â ni yn ystod Wythnos Hosbisau Plant trwy godi arian i Dyˆ Hafan a dathlwch yr holl arwyr sy’n helpu i ofalu am blant sy’n byw bywydau byr. Ewch i www.tyhafan.org i gael mwy o wybodaeth.

22


helpwch ni fod yno am 15 mlynedd arall... H offwn roi un rhodd o:

1. Eich rhodd i deuluoedd yng Nghymru

neu

£25

£15

£50 Arall

2. Eich Taliad

£5

y 5ed o bob mis

wyf wedi cynnwys arian parod / siec / taleb R CAF (dilëwch fel sy’n briodol) yn daladwy i Dyˆŷ Hafan. offwn dalu gyda cherdyn credyd / debyd – H Tynnwch arian o’m cerdyn Mastercard / Visa / Debyd

£10

£15

Arall £

Hoffwn roi fy rhodd ar:

£

Defnydd swyddfa yn unig: CWTS14

Hoffwn roi cyfraniad rheolaidd o:

y 23ain o bob mis

Cyfarwyddyd i’ch banc neu eich cymdeithas adeiladu dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol Enw a chyfeiriad post llawn eich banc neu eich cymdeithas adeiladu Rhif Defnyddiwr Gwasanaeth

Enw ar y cerdyn

2

Cyfeiriad deiliad y cerdyn (os yw’n wahanol i’r isod)

I’r Rheolwr

4

9

5

0

0

Banc/cymdeithas adeiladu

Cyfeiriad

Rhif y Cerdyn

Cod Post

Dyddiad terfyn Rhif Diogelwch (3 rhif olaf ar gefn y cerdyn).

/

Enw(au) deiliad y cyfrif Rhif cyfrif Banc/Cymdeithas Adeiladu

Cod Didoli’r Gangen

Dyddiad cyflwyno Cardiau debyd yn unig – Rhif cyflwyno

/

Cyfarwyddyd i’ch banc neu gymdeithas adeiladu

Llofnod(ion)

A fyddech cystal â thalu i Dyˆŷŷ Hafan o’r cyfrif a nodir ar y cyfarwyddyd hwn yn amodol ar y mesurau a sicrheir gan y Gwarant Debyd Uniongyrchol. Deallaf y gall y cyfarwyddyd hwn aros gyda Th yŷ ˆ Hafan ac, os felly, anfonir manylion yn electronig i’m Banc/Cymdeithas Adeiladu.

Dyddiad

Llofnod(ion)

Dyddiad

Efallai na fydd Banciau/Cymdeithasau Adeiladu yn derbyn cyfarwyddiadau i dalu Debydau Uniongyrchol o rai mathau o gyfrifon.

3. Eich manylion

Eich manylion Teitl

Enw cyntaf

Cyfenw

Cyfeiriad Rhif ffôn

4. C ynyddwch eich cyfraniad

Cyfeiriad e-bost

Cod Post Dyddiad geni

Rwyf yn cadarnhau fy mod wedi talu neu y byddaf yn talu swm o Dreth Incwm a/neu Dreth ar Enillion Cyfalaf ar gyfer pob blwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill) sydd o leiaf yn gyfartal i’r swm sy’n cael ei hawlio’n ôl gan yr holl elusennau neu Glybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol yr wyf yn cyfrannu iddynt yn y flwyddyn dreth honno. Rwyf yn deall nad yw trethi eraill fel TAW a Threth Gyngor yn gymwys. Rwyf yn deall y bydd Tyˆŷ Hafan yn hawlio 25c ar bob £1 yr wyf yn ei rhoi. Mae’r datganiad hwn yn berthnasol hefyd i bob rhodd a wnaed gennyf i Dyˆ Hafan yn ystod y pedair blynedd diwethaf a’r holl roddion y byddaf yn eu gwneud o hyn ymlaen nes y byddaf yn eich hysbysu’n wahanol.

Dychwelwch y ffurflen hon i D yŷ ˆ Hafan, Hayes Road, Sili, CF64 5XX Gallwch hefyd roi rhodd yn www.tyhafan.org neu drwy ffonio 029 2053 2255 Gwarant Debyd Uniongyrchol Cynigir y warant gan bob banc a chymdeithas adeiladu sy’n derbyn cyfarwyddyd i dalu Debydau Uniongyrchol. Os oes unrhyw newidiadau i swm neu ddyddiad eich Debyd Uniongyrchol, neu i ba mor aml y caiff ei dalu, bydd Tyˆ Hafan yn rhoi gwybod i chi (fel arfer 10 diwrnod gwaith) cyn i’r arian adael eich cyfrif neu fel a gytunwyd. Os ydych yn gofyn i Dyˆ Hafan gasglu taliad, byddwch yn cael cadarnhad o’r swm a’r dyddiad ar yr adeg y cais. Os gwneir camgymeriad yn eich taliad drwy Ddebyd Uniongyrchol, gan Dyˆ Hafan neu’r banc neu gymdeithas adeiladu, mae gennych hawl i gael ad-daliad llawn ar unwaith o’r swm a dalwyd o’ch banc neu gymdeithas adeiladu. Os ydych yn cael ad-daliad nad oes gennych hawl iddo, rhaid i chi ei ad-dalu pan fydd Tyˆ Hafan yn gofyn i chi wneud hynny. Gallwch ganslo Debyd Uniongyrchol ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’ch banc neu gymdeithas adeiladu. Efallai y bydd angen cadarnhad ysgrifenedig. Rhowch wybod i ni hefyd os gwelwch yn dda.


Beth am gynnal te parti i dyˆŷhafan?

Helpwch ni godi arian ar gyfer ein 15fed pen-blwydd www.tyhafan.org/teaparty

15 mlynedd o fod yno

Use our poster to promote your own tea party

paned unrhyw un?


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.