cwtsh
cylchlythyr gwanwyn/haf 2021
newyddion a straeon tŷ hafan
edrych ymlaen tu mewn 1 Celebrating
2
y
0
e a r s
stori harley p.5
y diweddaraf addas ar gyfer y dyfodol p.8
codi arian p.14
cwtch cwtsh
our news newyddion and stories a straeon from ttŷŷ hafan hafan 029 2053 2199
www.tyhafan.org
croeso Croeso i rifyn Gwanwyn/Haf Cwtsh! Efallai fod eleni wedi dechrau yn yr un modd â diwedd y llynedd, ond a allwn ni fentro dweud, gyda'r rhaglen frechu yn mynd rhagddi'n dda a'r ymdrech a wneir gan bawb yn helpu i ostwng y rhif R, bod llawer o resymau dros fod yn obeithiol yn ystod y misoedd nesaf. Yr hyn a ddangosodd y llynedd i ni yn fwy nag unrhyw beth arall, yw pa mor ymroddedig yw pobl Cymru i gefnogi Tŷ Hafan. Fel yr ydym ni wedi dweud mewn mannau eraill, fe wnaeth cau ein siopau (gan gynnwys chwech ohonyn nhw yn barhaol) a gohirio neu ganslo ein holl ddigwyddiadau codi arian arwain at golledion ariannol difrifol i'r elusen. Bu'n rhaid i ni newid ein cynlluniau ar gyfer cynhyrchu incwm yn dra sylweddol ac ar fyr rybudd mewn blwyddyn pan mai ein bwriad oedd canolbwyntio’n bennaf ar ein prosiect adnewyddu hanfodol. Rydym ni wedi gorfod gofyn mwy gennych chi nag erioed o'r blaen. Drwy roddion untro, rhoi yn rheolaidd, cefnogi ein loteri, ymgymryd â gweithgareddau codi arian rhithwir, cymryd rhan mewn partneriaethau corfforaethol a chymaint mwy, mae pobl Cymru wedi bod yn gefn i ni er gwaethaf yr heriau digynsail yr ydym ni i gyd wedi'u hwynebu ers dechrau'r pandemig. Y tu hwnt i ddigalondid a thristwch 2020, roedd llawer iawn o bethau da i ni edrych yn ôl arnynt. Ffyrdd newydd o wneud pethau, hosbis ar ei newydd wedd wir yn dod i fodolaeth, ac yn bennaf oll, cefnogaeth anhygoel gan bobl sy'n caru'r elusen a'r hyn yr ydym ni’n ei wneud. Gobeithiwn y byddwch chi’n mwynhau'r rhifyn hwn o Cwtsh. Mae'r tudalennau yn llawn straeon gwych o'r chwe mis diwethaf, felly treuliwch ychydig o amser yn gweld sut yr ydych chi wedi ein helpu ni yn ystod y flwyddyn anoddaf hon.
cynnwys croeso.....................................................................................................02 y flwyddyn ddiwethaf..........................................................................03 straeon o'r den.....................................................................................04 stori hayley.............................................................................................05 addas ar gyfer y dyfodol - yr wybodaeth ddiweddaraf............08 ein digwyddiadau mewn byd rhithwir...........................................10 à bientôt paris.........................................................................................11 ein blwyddyn mewn rhifau................................................................12 codi arian................................................................................................14 cofio siôn.................................................................................................15
2
Gan fod teuluoedd gartref, mae ein gwasanaethau cymunedol wedi cadw mewn cysylltiad drwy fideo
spring/summer gwanwyn/haf 2019 2021
y flwyddyn ddiwethaf Yr adeg hon y llynedd, ni allem fod wedi rhagweld yr heriau y byddem ni’n eu hwynebu yn ystod 2020. Nid oedd yr un ohonom na chafodd ei synnu gan y pandemig, a newidiodd, bron dros nos, sut yr oeddem ni i gyd yn byw ein bywydau o ddydd i ddydd. Yn Tŷ Hafan, bu'n rhaid i ni adolygu'n gyflym sut y byddem ni’n ni darparu ein gwasanaethau a dod o hyd i ffyrdd newydd o gefnogi plant a theuluoedd pan na allem ni fod ochr yn ochr â nhw. Er bod plant a theuluoedd yn gwarchod eu hunain am y rhan fwyaf o'r flwyddyn, rydym ni wedi parhau i ddarparu gofal brys yn yr hosbis yn ogystal â gofal diwedd oes. Mae hyn wedi dod â haen ychwanegol o gefnogaeth pan oedd fwyaf ei hangen, ac rydym ni mor falch o fod wedi gwneud gwahaniaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn. Ochr yn ochr â chynnal ein gwasanaethau, rydym ni wedi bod yn parhau â’n hadnewyddiad sy’n golygu y bydd yr hosbis yn barod i groesawu mwy o blant a theuluoedd pan fydd yn ddiogel i wneud hynny. Gan fod teuluoedd gartref, mae ein gwasanaethau cymunedol wedi cadw mewn cysylltiad drwy fideo, gan ddarparu cymorth i deuluoedd a gweithgareddau i’n plant yn ein ffordd Tŷ Hafan unigryw – rydym ni’n dod drwy hyn gyda'n gilydd ond yn gweld eisiau ein gilydd. Y llynedd fe wnaethom ni orffen darn hanfodol o waith gyda'n cymheiriaid yng ngogledd Cymru a changen Cymru o Hope House, Tŷ Gobaith - roedd wedi ei ganolbwyntio'n llwyr ar ddeall yr hyn y mae teuluoedd ei eisiau a'i angen gennym ni. 'Lleisiau’r Teulu’ oedd yr enw a roesom i’r adroddiad. Mae'r adroddiad, sydd wedi’i seilio ar arolwg o safbwyntiau teuluoedd sydd yn defnyddio neu wedi defnyddio gwasanaethau hosbis, yn darparu llais hanfodol o ran deall beth yw'r anghenion hyn. Teuluoedd yw'r rhain nad ydyn nhw ddim ond yn awyddus i'w lleisiau gael eu clywed, mae arnyn nhw angen i'w lleisiau gael eu clywed. Mae'r teuluoedd hyn yn gweld cymorth hosbis fel eu "hachubiaeth" – rhywle maen nhw'n troi ato pan fydd angen cymorth arnyn nhw. Cawsom ni ymateb anhygoel gan dros 133 o ymatebwyr. Fe wnaethon nhw ddweud wrthym ni pa mor hanfodol yw ein gwasanaethau, ond hefyd pa mor daer yw angen teuluoedd a phobl ifanc am fwy o'r hyn a wnawn ni. Mae gofal seibiant ar gyfer ymdopi a llesiant ond fe wnaethon nhw hefyd adroddiad ddweud bod angen mwy.
I ddarllen llawn Lleisiau’r Teulu, ewch i: tyhafan.org/ familyvoices
Gwyddom fod ein cefnogaeth yn bwysicach nag erioed, ac mae'r adroddiad hwn yn hanfodol i'n helpu ni i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Diolch i bawb a roddodd o'u hamser i rannu eu barn a'n helpu ni i lunio dyfodol y cymorth i hosbisau plant yng Nghymru.
3
cwtch cwtsh
our news newyddion and stories a straeon from ttŷŷ hafan hafan 029 2053 2199
www.tyhafan.org
straeon o'r den Byddai modd cynnwys pob ardal Tŷ Hafan yn yr adran "Straeon o...", ond gallai ardal ein harddegau (neu'r Den) lenwi rhifyn Cwtsh ar ei phen ei hun. Pe byddai'r waliau hyn ond yn gallu siarad! Mae annibyniaeth yn rhywbeth yr ydym ni i gyd yn ei gymryd yn ganiataol; er efallai fod 12 mis diwethaf y cyfyngiadau symud wedi gwneud i ni i gyd wir sylweddoli pa mor werthfawr yw ein hannibyniaeth. I'r oedolion ifanc a phobl ifanc yn eu harddegau sy'n defnyddio Tŷ Hafan, nid yw problemau yn ymwneud â'u gallu i fod yn annibynnol yn ddim byd newydd gan fod llawer o'r gwasanaethau a chyfleusterau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer eu grŵp oedran hwy yn aml yn anaddas ar gyfer pobl ifanc sydd ag anghenion mwy cymhleth. Roedd ein sylfaenydd Suzanne Goodall yn teimlo'n angerddol ynglŷn â hyn a gofynnodd am i’w rhodd olaf i Tŷ Hafan fynd at ddarparu cefnogaeth barhaus i wasanaethau wedi’u neilltuo i bobl ifanc yn eu harddegau. Mae'r Den yn rhan bwysig iawn o'r hosbis. Mae'n fan lle y gall pobl ifanc dreulio amser yn bod yn bobl yn eu harddegau, rhywle y gallan nhw fynd i ddianc oddi wrth rieni neu blant iau a bod yn hwy eu hunain. Cânt dreulio amser gydag eraill sydd yr un oedran â nhw mewn amgylchedd hamddenol wedi'i deilwra ar gyfer eu hanghenion. Mae'r Den yn caniatáu i ymwelwyr gymdeithasu, boed hynny gyda phobl ifanc eraill Tŷ Hafan, brodyr a chwiorydd, ffrindiau neu weithiau hyd yn oed, ambell wyneb enwog! Mae Tomas Martin yn cofio cystadlu â'r diweddar Peter Whittingham, a oedd yn chwaraewr canol cae dros glwb Dinas Caerdydd, ar FIFA ar y PlayStation wrth i aelodau ei dîm wylio. Yn anffodus, nid yw Tomas yn cofio pwy enillodd y gêm (rhy ddiymhongar efallai), ond roedd bob amser wrth ei fodd yn treulio amser yn y Den, gan ddweud: "Mae'n lle gwych i mi a’m ffrindiau gymdeithasu, ddoe a heddiw." Mae gan Amy Claire Davies, sy'n chwech ar hugain oed, atgofion melys o'r Den. Mae hi eisiau gwneud yn siŵr ei bod yn parhau i fod yn rhan bwysig o Tŷ Hafan ar gyfer y genhedlaeth nesaf. "Defnyddiais Tŷ Hafan yr holl adeg drwy fy arddegau ac roedden nhw’n gwbl
4
anhygoel. Yn hollol amhrisiadwy ac unigryw, nid yn unig i mi fel person ifanc lliniarol, ond i fy nheulu a’m ffrindiau hefyd. "Ar hyn o bryd, mae Tŷ Hafan yn cael ei adnewyddu'n sylweddol ac mae angen i ni wneud y Den yn lle arbennig iawn. Nawr, mae’n rhaid cyfaddef, y bydd peth anghytuno ynghylch addurno mae'n debyg. Pan oeddwn i yno, roedd llawer o bethau fel symud posteri o gwmpas gan nad oedd y bechgyn eisiau Twilight a doeddwn innau ddim eisiau Megan Fox, ond, wyddoch chi, fe wnaethon ni ddod i ddealltwriaeth yn y diwedd! "Mae'r Den yn rhan mor bwysig o Tŷ Hafan ac mae angen i ni wneud yn siŵr ei fod yn lle arbennig i'r holl bobl ifanc a phobl yn eu harddegau a fydd yn dod ar fy ôl i a’m ffrindiau." Dywedodd un unigolyn Tŷ Hafan anhysbys yn ei arddegau: "Rwy'n caru'r Den yn Tŷ Hafan, mae'n rhywle y gallaf i fynd i gymdeithasu, chwarae gemau consol ac esgus fy mod yn union fel unrhyw un arall yn ei arddegau heb unrhyw offer meddygol o’m hamgylch na gofalwyr (na mam!) sy'n llawn bwriadau da yn cadw llygad arnaf i drwy'r amser. Gallaf fod yn fi fy hun! Weithiau dyna'r teimlad mwyaf pwerus a dyna’r hyn mae'r Den yn ei roi i mi."
spring/summer gwanwyn/haf 2021
Mae Bailey, chwaer Harley, yn bedair oed erbyn hyn ac mae hi'n wych gydag ef. Nid yw'n cael digon o glod yn sicr am yr hyn y mae hi'n ei wneud drosto fe, a'r hyn y mae'n rhaid iddi ymdopi ag ef.
stori harley Rhywbeth sydd gan y plant sy'n dod i Tŷ Hafan yn gyffredin yw eu bod i gyd yn unigryw, mae pob un wir yn un mewn miliwn. Oes, mae ganddyn nhw gyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd neu sy'n bygwth bywyd, ond nid yw'r cyflyrau hyn, waeth pa mor anghyffredin, yn eu diffinio nhw, a'u personoliaethau unigol sy'n disgleirio. Mae Harley, sy'n "fachgen direidus" saith oed o Lanelli, yn bendant yn unigryw. Cafodd ei lawdriniaeth gyntaf ar ysgyfaint systig pan oedd yn dal i fod y tu mewn i fol ei fam Becca a phan oedd yn ddau ddiwrnod oed, cafodd lawdriniaeth agored i dynnu'r rhan fwyaf o'i ysgyfaint chwith. Wythnos yn ddiweddarach chwalodd ei ysgyfaint arall a chanfu meddygon dwll yn ei galon. Mae wedi byw ei holl fywyd gyda nifer o broblemau iechyd o orfod cael ei fwydo â thiwb i ffitiau difrifol ac oedi datblygiadol. Mae gan Harley nifer o annormaleddau genetig ac mae wedi cael diagnosis o ddiffyg Adenylosuccinase (ADSL), gyda symptomau'n cynnwys ymddygiad awtistig, epilepsi, anawsterau bwydo, symudedd hyper a hypotonia (ffyrfder cyhyrau isel). Mae ADSL yn anhwylder cynyddol ac mae cyflwr Harley wedi datblygu dros amser. Ond er ei fod mewn perygl mawr o farw’n sydyn oherwydd epilepsi, nid oedd Becca erioed yn siŵr eu bod yn gymwys i gael cymorth gan Tŷ Hafan gan nad yw hi erioed wedi
ystyried bod ei fywyd ef wedi’i gyfyngu. Fodd bynnag, awgrymodd rhiant arall Tŷ Hafan yr oedd hi'n ei adnabod eu bod yn dod i'n gweld ni, yn enwedig gan fod rheoli symptomau yn rhan o ddarpariaeth yr hosbis. Roedd yr amseru'n dda gan fod y teulu'n mynd drwy gyfnod anodd iawn gyda Harley, a oedd mewn llawer o boen oherwydd problemau'r stumog, chwydu ac adlifo. Nid oedd meddygon wedi dod o hyd i'r cydbwysedd cywir o ran meddyginiaethau eto ac roedd hyn yn golygu ei fod yn aml yn gysglyd iawn, ond eto’n cael anhawster mawr i gysgu. Roedd ei dueddiadau awtistig hefyd yn golygu y byddai'n ceisio bwrw mam, dad a’i chwaer Bailey, ac roedd hefyd wedi bod yn hunan-niweidio ers pan oedd yn ifanc iawn drwy grafangu a dyrnu ei hun.
Trowch drosodd i ddarllen mwy 5
cwtch cwtsh
our news newyddion and stories a straeon from ttŷŷ hafan hafan 029 2053 2199
Pan fydda i'n edrych arno fe, rwy’n meddwl am faint y bydd ef gyda ni, ond nid wyf i eisiau i'r ofn hwnnw ddwyn heddiw oddi arnym.
Felly daeth Becca a Harley am eu hymweliad cyntaf yn ystod haf 2020 yng nghanol holl anhrefn pandemig Covid-19. Roedden nhw wedi bod ar y rhestr aros am seibiant lleol ac roedden nhw ar groesffordd gyda gofalwyr gan fod angen iddyn nhw warchod eu hunain. Gan nad oedd neb yn cael gwarchod Harley, roedd yr holl deulu ar ben eu tennyn.
"Mae Bailey, chwaer Harley, yn bedair oed erbyn hyn ac mae hi'n wych gydag ef. Nid yw hi'n cael digon o glod yn sicr am yr hyn y mae hi’n ei wneud drosto fe a'r hyn y mae'n rhaid iddi hi ymdopi ag ef. Mae angen i Harley ddefnyddio tiwb bwydo ac roedd hi’n gallu mynd yn eithaf gofidus o’i weld yn cael trafferth, mae hi’n poeni ei fod yn cael ei frifo. Bu'n rhaid i ni eistedd i lawr gyda hi a thrafod y mater, er mwyn iddi hi wybod pa mor bwysig oedd hynny iddo fe. Ond mae hi hefyd yn ei ddeall ef, mae hi'n deall bod angen llawer o’n sylw a’n hamser arno fe, ac maen nhw'n cyd-dynnu mor dda. Mae hi’n anodd iawn treulio amser o ansawdd gyda hi ar ei phen ei hun gan fod angen cymaint o sylw ar Harley. Rydym ni’n ceisio sicrhau bod amser iddi hi ar ei phen ei hun, ond efallai mai dim ond wrth fynd i'r ysgol neu i’w grwpiau y mae hi’n cael ein sylw llawn."
Roedd ymweld â Tŷŷ Hafan yn golygu bod Becca yn cael aros gyda Harley (nid oedd hi’n barod i'w adael gydag eraill eto) ond byddai'n cael cymorth y nyrsys a'r timau gofal. Roedd hefyd yn golygu, am bum noson, bod Harley yn cael ei arsylwi, gan alluogi’r staff weld sut yn union yr oedd e’n ymdopi â’i feddyginiaethau a'i drefn ddyddiol.
"Siaradais â'i hathrawes am y peth gan fy mod i mor falch o sut mae hi'n ymdrin â phopeth ac nid oedden nhw’n sylweddoli, gan fod Harley yn mynd i ysgol wahanol ac nid yw hi’n gadael i bethau effeithio arni, ond mae'n haeddu cymaint o glod. Rwy'n credu y bydd y gefnogaeth i frodyr a chwiorydd yn Tŷŷ Hafan yn wych iddi hi."
Dywedodd Becca: "Feddyliais i erioed bod Tŷŷ Hafan yn iawn i ni, gan fy mod i’n meddwl ei fod ar gyfer diwedd oes yn unig, a doedd hynny ddim yn berthnasol i ni. Ond pan aethom ni i'r hosbis i aros, rhoddodd hynny gyfle i'r meddygon weld beth oedd yn digwydd. Nid oedd Harley wedi bwyta nac yfed am wythnos, ond roedd yn golygu eu bod yn gwybod beth yr oedden nhw'n ymdrin ag ef, ac fe wnaeth hynny ein helpu i gael yr atgyfeiriad yr oedd ei angen arnom ni.
Dim ond Harley a Becca sydd wedi bod yn Tŷŷ Hafan hyd yma, ond mae'r teulu cyfan yn edrych ymlaen at gael ymweld a gweld sut le sydd yno drostynt eu hunain. Yn y cyfamser, mae' Kirsty y gweithiwr cymorth i deuluoedd wrth law i’ch cyfarch a darparu cymorth pryd bynnag y bo ei angen:
"Mae e'n anhygoel o swil, ond mae Harley yn ddoniol iawn ac yn fachgen go iawn a dweud y gwir. Gall fod yn ddi-flewyn-ar-dafod â chi; bydd bob amser yn dweud yr hyn y mae wir yn ei feddwl. Mae wrth ei fodd yn chwarae Roblox ac ar ei X-Box, nhw yw ei ffefrynnau, ond ni fydd e’n mynd i'r gwely heb roi cusan i Elmo bob nos. Mae'n dwlu ar adeg y Nadolig, yn amlwg oherwydd Siôn Corn, ac mae'n cynhyrfu gymaint pan fydd e’n ei weld, ond yn bennaf oherwydd y goleuadau. Mae wrth ei fodd â goleuadau. Rydym ni'n ceisio mynd i Blackpool bob blwyddyn i weld y goleuadau yno, ond nid oedd yn bosibl i ni y tro hwn oherwydd Covid. Mae'n hoff iawn o dramiau a bysiau, ac arcedau gyda'r seiniau a'r lliwiau. "Pan fyddwn ni'n mynd am dro, mae'n rhoi sylwebaeth barhaus i ni ac mae wir yn mynd i ysbryd y darn. Mae mor sylwgar a bydd yn sylwi ar bob enfys y GIG ac yn pwyntio at bob un ohonynt. Mae’r un peth yn wir gyda chŵn ac anifeiliaid eraill, mae wrth ei fodd yn dweud wrthym ni am y pethau y mae'n eu gweld. "Rydym ni'n cael dyddiau da a gwael. Mae ef wrth ei fodd yn canu a dawnsio, roedd yn canu Mariah Carey drwy'r amser dros y Nadolig. Ond mae pethau wedi bod yn anodd iawn i ni i gyd. Mae e’n gallu bod yn eithaf treisgar tuag atom ni a gan ei fod e’n saith oed erbyn hyn ac yn tyfu’n fwy, mae’n gallu bod yn eithaf anodd, hyd yn oed i fy ngŵr. Mae'n effeithio arnom ni gan fy mod i’n cysgu gyda Harley, felly rwyf i a fy ngŵr yn cysgu ar wahân.
6
www.tyhafan.org
"Mae Kirsty bob amser ar gael ar y ffôn neu ar Zoom os oes ei hangen arnom ni, ac mae hi’n cysylltu efallai bob mis neu ddau i sicrhau ein bod ni’n ymdopi. Mae Covid yn garchar i ni mewn gwirionedd. Nid yw Harley hyd yn oed yn cael mynd allan fel yr oedd yn cael mynd o'r blaen, ond mae'n ein gwneud ninnau’n bryderus o ran gwneud hynny hefyd. Rydym ni wir wedi mwynhau dilyn yr hyn y maen nhw wedi bod yn ei roi ar-lein i ni. Pan wnaethom ni ymweld â'r hosbis, roeddem ni’n gwylio The Greatest Showman, un o ffefrynnau Harley. Daeth Heather â’i gitâr allan a dweud: 'Dwi'n gwybod y gân yna' a chanu serenâd iddo. Roedd wedi'i gyfareddu ac fe ganodd a chwarae ar y cyd â hi. Nawr pan fydd e’n ei gweld ar Facebook, mae'n cael ei swyno ganddi. Y lleill hefyd, ond Heather yw ei ffefryn. "Ond nid yw pobl yn cael cyfle i weld yr ochr hon ohono gan ei fod mor swil, hyd yn oed yn yr ysgol. Felly rwy'n ceisio cymryd cymaint o fideos ag y gallaf ohono i ddangos yr Harley go iawn i bobl. "Mae gennym ni ormod i'w bacio i fynd i ffwrdd am yn hir, felly mae gwyliau'n amhosibl. Mae mynd i Tŷŷ Hafan yn wahanol oherwydd eu bod nhw wedi arfer ag ef ac mae'n arferol iddyn nhw. Mae hynny'n ei gwneud hin hawdd i ffitio i mewn yno. Gallwch chi siarad â phobl am bethau, ond mae’n dda cwrdd â rhieni eraill yn yr un sefyllfa â chi gan eich bod chi’n teimlo'n llai hunanymwybodol gyda grŵp Tŷŷ Hafan.
spring/summer gwanwyn/haf 2021
"Roedd y staff i gyd yn anhygoel. Nid oeddwn i’n barod i adael Harley, rwy’n dal i deimlo felly, ac felly arhosais i gydag ef drwy'r amser, ond fe welais blant eraill ac roeddwn i’n rhyfeddu at y modd yr oedd y staff yn ymdrin â’r plant. Nid wyf i erioed wedi cwrdd â phobl mor garedig. Yr unig dro i mi ei adael oedd pan es i i gael cawod am awr. Nid wyf i erioed wedi gwneud hynny o'r blaen, ond roeddwn i'n teimlo y gallwn i gan fy mod i'n gwybod eu bod yn gofalu amdano. "Nid wyf i’n hoffi 'terfynol' oherwydd nid ydym ni yn y fan honno eto. Mae ein meddyg yn siarad yn blaen iawn, ac rwy'n hoffi hynny a dweud y gwir, ond nid wyf i’n siŵr a yw'n credu fy mod i’n deall yr hyn y mae'n ei ddweud wrthyf i weithiau o ran ei epilepsi. Rwyf i yn deall, ond dydym ni ddim yn y fan honno eto. "Pan fydda i'n edrych arno fe, rwy’n meddwl am faint y bydd ef gyda ni, ond nid wyf i eisiau i'r ofn hwnnw ddwyn heddiw oddi arnym." Mae Tŷŷ Hafan yn wahanol iawn i'r hyn y mae pobl yn aml yn meddwl amdano pan eu bod nhw’n clywed y gair 'hosbis'. Mae wedi cael ei ddisgrifio fel "clwb nad oes neb eisiau bod yn rhan ohono", ond mae'n glwb sydd yno i ddarparu'r gefnogaeth sydd ei hangen ar ei aelodau. Rydym ni’n dibynnu ar gefnogaeth pobl Cymru fel y gallwn ni barhau i fod y ffynhonnell o gysur a gofal yr ydym ni i'r teuluoedd sydd ein hangen ni.
I darllen mwy, ewch i: tyhafan.org/ family-stories
7
cwtch cwtsh
our news newyddion and stories a straeon from ttŷŷ hafan hafan 029 2053 2199
www.tyhafan.org
addas ar gyfer y dyfodol yr wybodaeth ddiweddaraf Roedd 2020 i fod yn flwyddyn adnewyddu i Tŷ Hafan. Ni allai hyd yn oed pandemig byd-eang atal hyn rhag digwydd, er nad yn y modd yr oeddem ni wedi ei ragweld yn wreiddiol. Mae ein hosbis wedi bod yn agos iawn at galonnau pobl yn ystod y ddau ddegawd diwethaf ac ni allwch chi garu rhywbeth heb ddangos hynny. Rydym ni wedi gweld mwy na 1,000 o blant a'u teuluoedd yn ymuno â theulu Tŷŷ Hafan ac, er na fydd pob un ohonyn nhw wedi ymweld â'r hosbis, mae eu presenoldeb i’w deimlo o fewn ei waliau bob dydd. Er gwaethaf y ffaith bod rhwystr Covid-19 wedi effeithio ar gynnydd y prosiect, rydym ni wedi gweithio'n eithriadol o galed gyda chontractwyr a chyflenwyr i gyrraedd y sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw. Mae ein cefnogwyr wedi bod yn hollbwysig wrth i ni barhau â'r momentwm hwn, felly mae arnom ni ddyled enfawr o ddiolchgarwch i bob un ohonoch chi. Felly sut mae ein hadnewyddu 'addas ar gyfer y dyfodol' yn dod yn ei flaen? Ers y tro diwethaf i ni gael golwg ar y cynnydd, mae ystafelloedd gwely'r plant wedi eu cwblhau. Bydd yr ystafelloedd newydd hyn yn galluogi’r plant i deimlo'n gyfforddus, yn ddiogel ac yn gartrefol pan eu bod yn aros yma. Rydym ni’n addurno'r ystafelloedd yn union fel eu hystafelloedd gwely gartref. Mae'r nodweddion i gyd o'r radd flaenaf i sicrhau bod yr ystafelloedd yr un mor addas i'w diben ag y maen nhw o ran bod yn gyfforddus.
8
I fyny’r grisiau, y nod ar gyfer yr ystafell fyw yw ein bod yn darparu awyrgylch hamddenol lle y gall teuluoedd dreulio amser tawel ar eu pennau eu hunain, ond gyda chymorth bob amser heb fod yn bell i ffwrdd. Gofal seibiant yw un o'r gwasanaethau pwysicaf y gallwn ni ei ddarparu i'n teuluoedd a'r lle hwn fydd eu cartref tra byddan nhw gyda ni. Dyma ble y caiff cyfeillgarwch ei feithrin rhwng teuluoedd, lle gallan nhw drafod profiadau ar y cyd a sylweddoli nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain. Ond os mai heddwch a thawelwch yw'r hyn sydd ei angen ar y teulu, mae hynny ar gael iddyn nhw yma hefyd. Bydd yr ystafell therapi newydd yn manteisio i'r eithaf ar therapïau cyflenwol i'n plant ni yn ogystal â'u mamau, eu tadau, eu brodyr a'u chwiorydd. Bydd effaith tawelu y therapïau hyn yn yr amgylchedd pwrpasol yn helpu i leihau straen a phryder a manteisio i'r eithaf ar yr arhosiad gofal seibiant. Rydym ni eisiau i'n teuluoedd deimlo'n gartrefol yn Tŷŷ Hafan fel y gallan nhw wneud y mwyaf o'r amser sydd ganddyn nhw gyda'i gilydd a bydd yr ystafelloedd gwely, y gegin a'r ystafell fyw newydd yn eu galluogi i fwynhau'r amser tawel hwn, gan wybod bod ein tîm gofal gwych yn gofalu am eu plentyn yn y modd gorau. Mae gwaith yn dal i fynd rhagddo yng nghalon yr hosbis, ein cegin a'n man bwyta. Mae’n fwrlwm prysur o weithgarwch drwy’r amser ac rydym ni’n awyddus iawn i weld y gwaith gorffenedig.
spring/summer gwanwyn/haf 2021
Roedd gan ein sylfaenydd, Suzanne Goodall, ddiddordeb arbennig yn llesiant ein plant yn eu harddegau a'n hoedolion ifanc, felly rydym ni eisiau sicrhau bod yr ardal ar gyfer plant yn eu harddegau, sydd wedi ei hadnewyddu, a adnabyddir fel y Den yn rhywbeth y byddai hi wedi bod yn falch ohoni. Pa oedran bynnag yw’r plentyn neu'r person ifanc, mae ei anghenion yn amrywio'n sylweddol, ond bydd y Den yn caniatáu i bobl ifanc yn eu harddegau fod yn hwy eu hunain, i ffwrdd oddi wrth y plant iau. Ni fyddem ni wedi dod mor bell â hyn heboch chi ac rydym ni bron wedi cyrraedd y nod.. Rydym ni’n hynod awyddus i gael rhannu'r hosbis yn ei holl ogoniant gorffenedig gyda chi cyn gynted ag y gallwn ni.
Rydym ni eisiau i'n teuluoedd deimlo'n gartrefol yn Tŷŷ Hafan fel y gallan nhw wneud y mwyaf o'r amser sydd ganddyn nhw gyda'i gilydd.
9
cwtch cwtsh
our news newyddion and stories a straeon from ttŷŷ hafan hafan 029 2053 2199
www.tyhafan.org
ein digwyddiadau mewn byd rhithwir Wnawn ni ddim yn dweud celwydd wrthych chi; rydym ni’n hiraethu am ddigwyddiadau. Digwyddiadau byw go iawn, wyneb yn wyneb. Rydym ni’n colli eich gweld chi ar stondinau ein Diwrnod Hwyl i Deuluoedd, rydym ni’n colli eich gweld chi’n cerdded y camau olaf i lawr Pen y Fan, y trydydd o dri mynydd yr ydych chi newydd eu dringo ar gyfer Tŷ Hafan. Rydym ni'n hiraethu am eich gweld chi.
Wedi dweud hynny, rydym ni wedi cael llawer iawn o hwyl yn ystod y misoedd diwethaf yn gweld eich ymdrechion codi arian rhithwir anhygoel, boed hynny gyda ni ar gyfer Marathon ym mis Mai, ein cwisiau neu'r lonc Siwmper Nadolig mwy diweddar, neu heriau yr ydych chi wedi'u cynnig i godi arian ar ein rhan. Maen nhw wedi bod yn wych o ran cadw ein cyrff i symud, dianc o'r un pedair wal ac ymlacio'r meddwl. Felly, cyhyd ag y bydd yn rhaid i ni, byddwn ni yno gyda gweithgareddau rhithwir hwyliog a chynhwysol i'n cynnal ni drwy’r cyfyngiadau symud.
gwneud defnydd o'ch siwmperi Nadolig Pa un a wnaethoch chi redeg 100 metr neu 100 milltir yn ystod mis Rhagfyr, diolch am gymryd rhan yn ein lonc Siwmper Nadolig. Roedd hi’n fis rhewllyd, ond dylech chi fod yn falch iawn ohonoch eich hunain, rydym ni’n sicr yn falch ohonoch chi. Roeddem ni eisiau sicrhau bod eich siwmper Nadolig yn cael digon o ymarfer corff eleni ac fe wnaethoch chi ein helpu ni i godi arian yn ystod cyfnod yr ŵyl ar ein her rithwir ddiweddaraf. Ac os ydych chi'n gofyn i ni, mae mins peis yn blasu'n well pan fyddwch chi wir wedi eu haeddu ac roeddech chi wir wedi eu haeddu!
10
I gael rhagor o wybodaeth am ein digwyddiadau, ewch i tyhafan.org/events
spring/summer gwanwyn/haf 2021
vir tua l
à bientôt paris Llwyddwyd i gynnal Beicio i'r Rygbi ychydig cyn y cyfyngiadau symud y llynedd ac fe wnaeth bron i 50 o feicwyr ddioddef amodau gaeafol i gyrraedd Dulyn mewn pryd i Gymru wynebu Iwerddon ynn nghystadleuaeth y Chwe Gwlad. Eleni, roeddem ni i fod i ailadrodd ein taith o 2019 a mynd yn ôl i Baris: 320 o filltiroedd drwy dair gwlad ym mis Mawrth. Rydym i gyd yn gwybod y stori erbyn hyn, ond yn hytrach nag eistedd gartref ac aros, roeddem ni’n meddwl y gallem ni wahodd ychydig mwy o bobl a gwneud fersiwn rhithwir yn hytrach. Mae'r cysyniad yn syml, yn yr wythnosau sy'n arwain at gêm Cymru a Ffrainc ym Mharis ar 20 Mawrth, bydd beicwyr yn beicio'r pellter cyfatebol rhwng Stadiwm Principality yng Nghaerdydd a Stade de France ym Mharis. Mae hynny'n 320 o filltiroedd! Nawr, nid oes rhaid i gyfranogwyr boeni gormod am ail-greu'r daith fferi o Portsmouth i Le Havre, a chânt wneud y daith mewn unrhyw fodd y maen nhw’n dymuno – ar ffyrdd a llwybrau beicio, ar eu hyfforddwr tyrbo neu ar eu beic ymarfer corff. Cânt hefyd ei gwneud yn rhan o ymdrech tîm. Dyma un o dadau Tŷŷ Hafan a hoelen wyth Beicio i’r Rygbi, James Meacham, yn dweud wrthym ni pam mae e’n mynd yn ôl ar ei feic am y drydedd flwyddyn yn olynol: "Clywais gyntaf am Feicio i’r Rygbi pan oeddem ni’n aros yn Tŷŷ Hafan gyda Thomas, rywbryd yn 2018. Roeddwn i'n meddwl y byddai'n her wych ac fe wnes i argyhoeddi fy ffrind a fy nghefnder ei fod yn syniad da. "Felly fe brynodd bob un ohonom ni feiciau a dechrau hyfforddi. Daeth yn amlwg yn fuan fod beicio ar y ffyrdd yn waith caled! Yn dilyn teithiau hyfforddi gyda'r tîm ehangach, llawer o filltiroedd gaeafol, roedd hi’n Ionawr 2019 cyn pen dim.. Roedd y cyffro wrth i mi a'r 39 beiciwr arall adael Caerdydd yn rhywbeth arbennig. Roedd y tywydd yn ein herbyn ni ar y diwrnod hwnnw, ond fe wnaethom ni fwrw ymlaen fel tîm a chyrraedd yno. Mae'r teithiau beicio wedi'u trefnu mor dda ar y ffordd ac oddi arni, sy’n golygu ei bod yn antur sydd wir yn codi calon!
"Roedd yr awyrgylch yn drydanol, cefnogwyr rygbi yn bloeddio eu cymeradwyaeth wrth i ni feicio ar hyd yr un strydoedd coblog â'r Tour de France – bydd y teimlad hwnnw'n aros gyda mi am amser maith. Fe wnaeth galwad fideo i fy ngwraig Sarah a fy mab Thomas yn yr hosbis achosi ychydig o ddagrau. "Felly, yn seiliedig ar y profiad gwych hwnnw, wnes i ddim petruso yn hir cyn cofrestru ar gyfer Caerdydd i Ddulyn - Beicio i'r Rygbi 2020. Y tro hwn roedd gennym ni "Tîm Thomas" answyddogol o oddeutu deg o gyfranogwyr, yn hytrach na thri yn y flwyddyn flaenorol. Fe wnaethom ni gychwyn yng Nghaerdydd a theithio tua’r gorllewin... pwy a wyddai fod cymaint o rywiau yng ngorllewin Cymru! Roedd cwrdd mewn tafarn y tu allan i Ddulyn, rhannu peint, ac yna beicio i'r Aviva gyda grŵp mawr o ffrindiau yn deimlad mor anhygoel, ac nid yw'n pylu. "Roedd y daith honno'n wahanol ar lefel emosiynol oherwydd saith mis ynghynt, bu farw Thomas yn dawel yn yr hosbis, felly roedd fy rhesymau dros ei gwneud ychydig yn wahanol - o fod yn ddefnyddiwr Tŷŷ Hafan, i fod eisiau sicrhau eu bod yn gallu parhau i gefnogi teuluoedd fel fy nheulu i. Uchafbwynt y daith honno oedd pan ofynnwyd i ni a fyddem ni’n fodlon i gapteiniaid y timau drefnu gwobr "Thomas Meacham" a gofyn i mi ei chyflwyno i "feiciwr y beicwyr" ar gyfer y daith. "Roedd hi’n daith arbennig iawn am lawer o resymau."
11
cwtch cwtsh
our news newyddion and stories a straeon from ttŷŷ hafan hafan 029 2053 2199
ein blw mewn
261
o blant wedi'u cynorthwyo
6 oed
9 oed
oed derbyn cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf
oed cyfartalog cael gofal
0-3 oed
17 oed 5% 11-16 oed
13% 12%
42%
4-5 oed
28% 6-10 oed
oed y plant sy'n cael gofal ar hyn o bryd 12
www.tyhafan.org
spring/summer gwanwyn/haf 2021
yddyn wyddyn nrhifau rhifau
1,016 1,016
o blant wedi'u o blant wedi'u cynorthwyo cynorthwyo
3,800 3,800 340 340 o aelodau teuluol o aelodau teuluol wedi'u cynorthwyo wedi'u cynorthwyo
o blant o blant wedi marw wedi marw
costau darparu gofal 2019/20 costau darparu gofal 2019/20 mae 80c o bob punt o incwm yn cyfrannumae tuag80c at ofal. Nidpunt yw'ro incwm yn 80c o bob costau sy'n cael eutuag hysgwyddo cyfrannu at ofal. Nid yw'r wrth reolicostau gweithgareddau sy'n cael eu hysgwyddo masnachol wedi'u cynnwys wrth reoli gweithgareddau masnachol wedi'u cynnwys
£4.6 £4.6 miliwn
miliwn cost dyddiol gofal
80c
20c
20c
£ 1£ 21 ,25, 55 45 4
cost dyddiol gofal
*Ystadegau yn gywir ym mis Hydref 2020 13 *Ystadegau yn gywir ym mis Hydref 2020
cwtch cwtsh
our news newyddion and stories a straeon from ttŷŷ hafan hafan 029 2053 2199
www.tyhafan.org
codi arian cadw'n heini gyda thîm ApêlElain Ar ôl clywed am apêl adnewyddu addas ar gyfer y dyfodol Tŷŷ Hafan a'r ymgyrch olaf i groesi’r llinell derfyn, penderfynodd Bridget herio ei hun a chefnogwyr 'Tîm ApêlElain' i gymryd rhan yn ei her 'Pum diwrnod o Ffitrwydd' yn ystod hanner tymor mis Chwefror. Mae un o famau Tŷŷ Hafan, Bridget, a'i merch ddeg oed Elain, wedi bod yn rhan o deulu Tŷŷ Hafan am y deng mlynedd diwethaf. Mae gan Elain gyflwr difrifol ar y galon a sefydlodd Bridget apêl codi arian o'r enw 'Team ApêlElain' yn 2011 i godi arian i elusennau a oedd wedi bod yno i gefnogi Elain ac sy’n parhau i wneud hynny heddiw. Hyd yn hyn, maen nhw wedi codi dros £40,000 i Tŷŷ Hafan! "Yn 2010, cafodd Elain ei geni gyda chyflwr difrifol ar y galon o'r enw Atresia Ysgyfeintiol, VSD a MAPCAs ynghyd â Syndrom Dilead 22q11.2. Treuliodd y rhan fwyaf o flwyddyn gyntaf ei bywyd yn yr ysbyty, yn cael llawdriniaeth a thri mis yn ymladd am ei bywyd yn yr Uned Gofal Dwys. "Yn dilyn hunangyfeirio i Tŷŷ Hafan, cafodd Elain ei gwyliau byr cyntaf yn yr hosbis ym mis Mai 2011. Dros y deng mlynedd diwethaf, mae'r hosbis wedi dod yn ail gartref i ni, ein dihangfa a'n teulu estynedig. Nid wnaethom ni erioed ganiatáu i’n hunain gredu y byddem ni mewn sefyllfa o allu edrych yn ôl dros ddeng mlynedd o fywyd Elain. Yn 2013, dywedodd tîm cardioleg Elain wrthym ni fod pob ymgais i 'drwsio' ei chalon wedi methu ac mai ychydig iawn o ddewisiadau oedd gennym ni ar ôl. Fe wnaethom baratoi ein hunain i wneud y gorau o'r amser oedd ar ôl ganddi. Flwyddyn yn ddiweddarach, er mawr syndod i bawb, yn hytrach na dirywio, roedd yn ymddangos ei bod hi’n ffynnu! "Ar ôl rhywfaint o ymchwilio, awgrymodd tîm cardioleg Elain wrthym fod rhydwelïau ei chalon wedi tyfu digon iddyn nhw geisio eu trwsio’n rhannol. Ni fyddai'n arwain at ei gwneud hi’n 'well' na rhoi cylchrediad y galon/ysgyfaint arferol iddi hi, ond gallai olygu mwy o amser iddi hi. Ym mis Ebrill 2015, cafodd Elain ei llawdriniaeth fawr olaf ar y galon. Roedd y nod yn syml, i ymestyn ei bywyd am gyhyd â phosibl, gan hefyd roi'r ansawdd bywyd gorau posibl iddi o ystyried cyfyngiadau ei hanatomi cymhleth. "Bron i chwe blynedd yn ddiweddarach, mae'r llawdriniaeth 'cyfle olaf' wedi mwy na chyflawni, gan ragori ar ein holl ddisgwyliadau. Mae Elain wedi blodeuo a ffynnu ar gymaint o lefelau. Ar ôl cael
14
gwyr herio ei hun a chefno Penderfynodd Bridget d o Ffitrwydd' rno diw m 'Pu her ei "Tîm ApêlElain" i wneud Chwefror dros hanner tymor mis
gwybod na fyddai hi byth yn bwyta'n annibynnol, mae hi bellach wedi bod yn gyfrifol am 100% o'r calorïau sy’n mynd i’w chorff ers dros ddwy flynedd. Mae hi’n dal i lwyddo i fynychu'r ysgol yn llawn amser ac yn 2019, diolch i atgyfeiriad gan gymorth teulu Tŷŷ Hafan, aeth ar ei thaith gyntaf dramor i Disneyland Paris gyda'r elusen Magic Moments!" "Nod yr her oedd cael pawb yn ffit ac yn egnïol gan hefyd helpu prosiect adnewyddu'r hosbis dros y llinell derfyn honno. Un o ardaloedd olaf y gwaith adnewyddu i'w gwblhau yw'r Den i bobl ifanc yn eu harddegau ymlacio a theimlo fel rhywun yn ei arddegau. Mae Elain yn prysur agosáu at fod yn ei harddegau, felly rydym ni’n teimlo y bydd yr ardaloedd a'r darpariaethau arbennig hyn sy'n briodol i oedran yn hynod bwysig i ni fel teulu yn y dyfodol agos iawn." Ychydig iawn o ddewisiadau sydd gan Elain ar ôl ar gyfer unrhyw ymyrraeth feddygol yn y dyfodol ac mae Bridget a'i theulu yn dal i fod ddim yn gwybod beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig, ond er hynny, mae Tŷŷ Hafan wedi bod yn ffynhonnell allweddol o gefnogaeth i Elain a'r teulu erioed a bydd yn parhau i fod yn hynny yn y dyfodol.
spring/summer gwanwyn/haf 2021
rhedeg ym mis Ionawr
mwy na'u targed o Cododd y bechgyn lawer gyfrwyd ddiwethaf, pan £100, gan godi £3,415 archiadau i bawb. felly diolch enfawr a llongyf
Mae tri ffrind, Lewis, 13 oed, a Ben ac Ollie, y ddau yn 14 oed, o Gaerffili, eisoes wedi codi dros £3,000 ar ran Tŷŷ Hafan drwy wisgo siorts i'r ysgol am flwyddyn gyfan. Eleni, fe wnaethon nhw ragori ar hynny drwy redeg 100 cilometr yn ystod mis Ionawr! Yn hytrach na chwarae gemau fideo drwy'r holl gyfyngiadau symud, roedden nhw eisiau dechrau rhedeg a chodi arian ar ran Tŷ Hafan. Roedden nhw eisiau gwella eu hunain fel unigolion a "helpu'r rhai sy'n llai ffodus". Fe wnaeth y bechgyn ragori y tu hwnt i bob disgwyl ar eu targed o £100, gan godi £3,415 yn ôl y ffigurau diwethaf.
cofio siôn Teulu yw Tŷ Hafan ac fel unrhyw deulu, mae'n ymestyn ymhell. Mae gan gynifer o bobl ledled Cymru a thu hwnt gysylltiad mor gryf â'r elusen a'r ymdeimlad hwn o gefnogaeth o fewn ein cymuned sy'n gwneud Tŷ Hafan yr hyn yr ydyw. Er nad oedd yn ddefnyddiwr y gwasanaeth ei hun, bydd Siôn Mullane yn rhan o deulu estynedig Tŷ Hafan am byth diolch i'w gyfeillgarwch agos â’n Tom Martin ni, ar ôl i’r ddau gwrdd yn y Cybiau. Efallai y bydd dilynwyr rheolaidd yn adnabod Tom oherwydd cymorth ei deulu gyda'n hymgyrch adnewyddu, neu ei lwyddiant fel chwaraewr rhyngwladol Boccia Cymru. Daeth un arall o'i ffrindiau gorau, Michael Rogers, i aros yn Tŷ Hafan dros flynyddoedd lawer hefyd, felly roedd gan yr elusen afael arbennig arno erioed. Yng ngeiriau mam Siôn, Delyth, roedd ganddo "afiaith gwych am fywyd" a gafodd ei gwtogi’n drist pan gymerodd ei fywyd ei hun y llynedd, oherwydd ei ddioddefaint gyda'i iechyd meddwl. Mae'n sicr bod ei gyfeillgarwch plentyndod â Tom a Michael wedi helpu i ddatblygu ei gysylltiad cryf â Tŷ Hafan ac roedd bob amser mor frwdfrydig am ein gwaith. Roedd yn gefnogwr brwd o'r hyn yr ydym ni’n ei wneud dros blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
Siôn (chwith) a Tomas (dde ) Mae cofio w rth galon Tŷ Hafan ac rydy pa mor bwys m ni’n gwyb ig yw gadael od eich ôl ar y by bod chi efalla d yma, er eich i dim ond ym a am gyfnod yn ymgnawdo byr. Roedd Siô li’r ysbryd hw n nnw a gada wodd ei ôl ar bawb yr oedd yn eu cwrdd.
Mae teulu a ffrindiau Siôn wedi cyfrannu er cof amdano a chafodd yr arian ei rannu rhwng Mind a Tŷ Hafan, a Tŷ Hafan yn derbyn mwy na £4,000. Dywedodd Delyth: "Byddai Siôn mor hapus o wybod bod y gwaith gwych yn parhau a bod ffrindiau a theulu wedi cyfrannu ar ei ran." Mae hi’n dweud y byddai'n hoffi diolch yn fawr iawn i bawb am eu cefnogaeth i'r elusennau a olygai cymaint i'w mab a'i deulu estynedig o ffrindiau.
Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am bopeth yn ymwneud â Tŷ Hafan i’w chael yn: tyhafan. org/our-blog
15
Mae rhoddion mewn ewyllysiau yn ariannu 25% o'n gofal bob blwyddyn ac yn caniatáu i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol I gael gwybodaeth am sut i gynnwys rhodd yn eich ewyllys a'n gwasanaethau ysgrifennu ewyllys a chael pecyn gwybodaeth am ddim, gofynnwch am becyn heddiw drwy: ymweld â tyhafan.org/gift-in-a-will ffonio ein tîm ar 029 2053 2265 neu anfon e-bost i phae.jones@tyhafan.org
Rhoddion ar gyfer teuluoedd Tŷ Hafan yn y dyfodol 16
the hospice for children in Wales yr hosbis i blant yng Nghymru
Cwmni Elusennol Cyfyngedig drwy Warant. Wedi’i gofrestru yng Nghymru: Rhif: 3077406 Rhif Elusen Gofrestredig: 1047912
rhodd i deuluoedd tŷ hafan yn y dyfodol