Gareth Bonello (additional a Zining Wang info needed here)
Blwyddyn Gyntaf (Gorffennaf 2016-Gorffennaf 2017) Cyfnewid Diwylliannol Tsieina-Cymru Adroddiad Gweithredu Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth Ddiwylliannol Haili Ma
Eluned Hâf
798 Ardal Gelfyddydol, Beising
Cynnwys
Cyflwyniad
2
Yr Economi Greadigol yn Fynedfa Cymru i Dsieina
4
Datganiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru a Diweddariadau Polisi
6
Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol: Y cyd-destun
9
Nodweddion Marchnad Tsiena a Swyddogaeth Llywodraeth Cymru
11
Seilwaith i Artistiaid Entrepreneuraidd drwy Interniaethau Prifysgol
13
Casgliad a Chynllunio Ymlaen
14
Manylion am yr Awduron
15
Cydnabyddiaeth
15
Cyfeiriadau
15
Cyflwyniad
tri adroddiad trosolwg o’r ymweliad a gynhyrchwyd gan Eluned Haf (Celfyddydau Rhyngwladol Cymru), Peter Owen (Llywodraeth Cymru) a Maggie James (Open Books).
Ym Medi 2015, lluniodd llywodraethau Cymru a Thsieina y Memorandwm cyntaf o Gydddealltwriaeth i Hyrwyddo Cydweithio a Chyfnewid Diwylliannol. Dyma’r cytundeb cyntaf i Lywodraeth Cymru ei wneud ac mae’n adlewyrchu’r gwerth y gwêl y Llywodraeth mewn datblygu cysylltiadau diwylliannol a masnachu â Thsieina.
Ym mis Ebrill 2017, gwahoddwyd Dr Haili Ma, Uwch Darlithydd mewn Astudiaethau Tsieineaidd a Deon Coleg Tsieineaidd Prifysgol Caerdydd i fod yn aelod o’r Pwyllgor Llywio gan Eluned Haf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yng Nghyngor Celfyddydau Cymru. Wedyn comisiynwyd Dr Haili Ma i lunio adroddiad dadansoddol a manwl i nodi blwyddyn gyntaf gweithredu’r memorandwm cydddealltwriaeth.
Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, yr adran ryngwladol o Gyngor Celfyddydau Cymru, o dan gytundeb gyda Llywodraeth Cymru i hwyluso gweithredu’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth. O ganlyniad, sefydlodd Celfyddydau Rhyngwladol ^ Cymru Grwp Rhanddeiliaid Tsieina-Cymru sy’n ^ cwrdd yn flynyddol a Grwp Llywio sy’n cwrdd yn chwarterol a sy’n llywio gwaith y memorandwm. Arweiniodd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ddwy ddirprwyaeth gelfyddydol i ymweld â Thsieina yn Rhagfyr 2016 a Chwefror 2017. Hefyd comisiynodd ymchwil desg gychwynnol drwy Brifysgol Bangor i fapio gweithgareddau diwylliannol Tsieina-Cymru. Nododd hon ystod o dueddiadau ieithyddol a diwylliannol yn ogystal â rhwystrau. Ar ôl ymweliad cyflwyniadol yn Rhagfyr 2016, ymwelodd y ddirprwyaeth Masnach a Diwylliant traws-sectorol dan arweiniad y llywodraeth â Thsieina yn Chwefror 2017. Arweiniwyd hon ar lefel uwch gan Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. Yn ystod yr ymweliad hwn cafodd y ddirprwyaeth groeso twymgalon a gallai nodi o’i weld y llu o gyfleoedd i feithrin perthynas gydag ystod eang o fusnesau celfyddydol a diwylliannol o Dsieina. Serch hynny, nododd y ddirprwyaeth hefyd sawl her a oedd yn debygol o fodoli i fusnesau creadigol Cymru. Yr her fwyaf sylweddol oedd diffyg dealltwriaeth o fanylion ymarferol y farchnad gelfyddydol yn Nhsieina a sawl un arall am fagu ymgysylltiad gwybodus a chynhyrchiol. Mae’r her yn ieithyddol ond hefyd yn wleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol. Tynnir sylw atynt yn y
Ar y brig: Cenhadaeth Fasnachol a Diwylliannol Llywodraeth Cymru, Sianghai, Chwefror 2017 dan arweiniad Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith Uchod: Ken Skates yn edrych drwy galeidosgôp yng Nghanolfan y Celfyddydau Torfol, Ardal Xuhui, Sianghai
2
Ystyria’r adroddiad faterion am hyrwyddo Cydweithio Cyfnewid Diwylliannol gan roi naw argymhelliad strategol i borthi gweithgareddau’r ail flwyddyn:
1
2
5
Er mwyn cynyddu cystadleurwydd bydeang, byddai Cymru ar ei helw o ffordd integredig o fynd ati o ran y celfyddydau a’r diwydiannau diwylliannol a chreadigol sy’n sicrhau ffocws a màs critigol. Darpara hyn inni bwynt mynediad strategol a rhesymegol i economi Tsieina a’r hyn a ddisgwylir gan y sector yn Tsieina - h.y. y daw’r Economi Greadigol yn biler o’r economi erbyn 2020
6
Mesuro datblygiad celfyddydol a diwylliannol Cymru-Tsieina gan ddefnyddio meincnod masnach a chyfnewid diwylliannol yn y byd - Confensiwn 2005 UNESCO (Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig) a’i Adroddiad Byd-eang diweddaraf, Aillunio Polisïau Diwylliannol (2015) - drwy ei integreiddio’n llawn drwy Ddeddf Cenedlaethau Dyfodol Llywodraeth Cymru. Hyrwyddo cefnogaeth barhaus Cymru ac annog ymgyfranogiad gan bawb ym Mhrydain o’r Confensiwn ar ôl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
3
Gosod wrth wraidd masnach a chyfnewid diwylliannol Cymru-Tsieina fodel diweddaraf artistiaid entrepreneuraidd gydag arian a chefnogaeth i’r seilwaith.
4
Datblygu sgiliau ieithyddol (creadigrwydd diwylliannol ar draws ffiniau ieithyddol) drwy weithdai ieithyddol a diwylliannol i gefnogi perthnasau ac uchelgais diwylliannol ac economaidd ehangach sydd gan Gymru-Tsieina-Prydain.
^ Atgyfnerthu ac ehangu Grwp Llywio a Rhanddeiliaid Tsieina-Cymru gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, e-gylchlythyrau a digwyddiadau rheolaidd.
7
Ymgysylltu â myfyrwyr sy’n gwneud Astudiaethau Tsieineaidd hyd at radd a myfyrwyr o Dsieina o ran celfyddydau a diwylliant Cymru wrth eu bod yn astudio a byw yng Nghymru. Hyrwydda hyn safon bywyd cymdeithasol a diwylliannol y myfyrwyr o Dsieina yma a chynyddu atyniad Cymru i fyfyrwyr y dyfodol. Gallai hyn weithio law yn llaw â sectorau eraill Llywodraeth Cymru yn enwedig twristiaeth ond hefyd y celfyddydau a’r economi greadigol.
8
Ystyried comisiynu a/neu ymgysylltu o ran ymchwil bellach i gael dealltwriaeth gliriach o sectorau creadigol a chelfyddydol Cymru-Tsieina. Craffai’r ymchwil ar ba gamau pellach a allai fod yn angenrheidiol i wella cystadleurwydd Cymru yn y byd.
9
3
I adeiladu rhaglen o interniaethau rhwng prifysgolion Cymru a Thsieina i hwyluso datblygu artistiaid entrepreneuraidd yn y ddwy wlad.
Dylid datblygu rhaglen bartner rhwng Cymru a Thsieina sy’n cefnogi datblygu cysylltiadau chwaraeon sydd, yn hanesyddol, yn sector allweddol o Ddiwydiannau Diwylliannol. Gellid cefnogi’r rhaglen drwy’r ^ Grwp Llywio.
Yr Economi Greadigol yn Fynedfa Cymru i Dsieina
adfywiad trefol a chymunedol. Datblygir cynhyrchiad a datblygiad celfyddydol a diwylliannol yn brif sbardun economaidd yn yr 21ain ganrif.
Mae Cymru yn fach ond mae ganddi dreftadaeth gelfyddydol nodweddiadol a diwydiannau creadigol a diwylliannol cyfoes sydd wedi’u datblygu’n dda. Mae Cymru hefyd yn arweinydd byd wrth gydnabod y cyfraniad a wna gweithgareddau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol at dwf cynaliadwy yn y tymor hir. Disgrifir yr egwyddorion yn neddf Llywodraeth Cymru, Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Mae model Datblygiad Cynaliadwy Cymru yn arbennig o ddiddorol o safbwynt polisi datblygu diwylliant. Cymru yw’r genedl gyntaf i roi diwylliant yn bedwerydd piler o’i strategaeth datblygu cynaliadwy gyda’r tri philer traddodiadol sef y rhai economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol.
Mewn ymateb i’r newidiadau economaidd newydd ar draws y byd, lluniodd Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig ddeddfwriaeth gyntaf y byd, sef Confensiwn Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig, 2005. Hyrwydda fasnach a chyfnewid teg mewn nwyddau diwylliannol a rhyddid symudedd artistiaid ac amddiffyn rhyddid mynegiant. Cefnoga’r Cenhedloedd Unedig ddeddf Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig i’r carn. Yn 2008, cyhoeddodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yr Adroddiad cyntaf am yr Economi Greadigol: Yr her o asesu’r economi greadigol o ran llunio polisïau’n wybodus. Yn y ddogfen hon, cydnabyddir yr economi greadigol yn drafodaeth fyd-eang newydd o ran masnachu a chyfnewid ystod o nwyddau celfyddydol a diwylliannol. Tynna’r Cenhedloedd Unedig sylw at y gwerth amrywiol sydd yn y celfyddydau a diwylliant; a’u cyfraniad at ddatblygiad cynaliadwy yn gymdeithasol, economaidd a gwleidyddol.
Adeiladu ar gryfder presennol Cymru, argymell yr adroddiad defnyddio’r Economi Greadigol yn fynedfa strategol Cymru i Dsieina. Rhoes yr economi ôl-ddiwydiannol y 21ain ganrif bwyslais digynsail ar gynhyrchu a defnyddio diwylliannol yn fyd-eang. Yn 1997 ymgorfforodd Cyn-brif Weinidog Prydain, Tony Blair, y cysyniad o Ddiwydiannau Diwylliannol ym maes llunio polisi ar gyfer adfywio trefi a chyflogaeth. Cyfrannodd The Creative Economy (Howkins 2001), The Rise of the Creative Class (Florida 2002) a nifer cynyddol o gyhoeddiadau at y drafodaeth a’r ymarfer newydd ym maes yr Economi Greadigol.
Llofnododd Prydain a Thsieina’r Confensiwn. Tsieina oedd un o’r gwledydd cyntaf i gefnogi’n llwyr reoleiddiadau’r Sefydliad ac argymhelliad y Cenhedloedd Unedig mai’r economi greadigol oedd y ffordd ymlaen a chydymffurfio’n llawn â hwy. Yn 1999, sefydlodd Tsieina ei Sefydliad Ymchwil gyntaf i’r Diwydiannau Diwylliannol ym Mhrifysgol Beijing a ariennir yn uniongyrchol gan y llywodraeth ganolog. Yn 2004 cyrhaeddodd y drafodaeth am yr Economi Greadigol Dsieina drwy Academi Theatraidd Shanghai, lle sefydlwyd canolfan gyntaf y wlad ar gyfer yr Economi Greadigol a chafodd y ganolfan ei hagor gan John Howkins. Uchelgais diweddaraf Tsieina yw adeiladu’r Diwydiannau Diwylliannol a Chreadigol a’r Economi Greadigol yn economi biler genedlaethol erbyn 2020.
Mae’n berthnasol i ystod eang o sectorau creadigol a gwasanaeth, o’r celfyddydau, crefftau, awdioweledol, llyfrau, ffilmiau, cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio i ffasiwn, dylunio, pensaernïaeth a’r cyfryngau newydd. Nid busnes yn unig i’r sefydliadau yw cynhyrchu ond yn fwyfwy mae’n digwydd dan arweiniad Mentrau Bychain a Chanolig. Wrth wraidd yr economi newydd yw’r artistiaid entrepreneuraidd, unigolion creadigol sy’n dod â dychymyg i greu’n ddiwylliannol ac sydd â chyfalaf diwylliannol uchel ac ymwybyddiaeth o dueddiadau’r farchnad. Ystyrir yr haenen hon o rym creadigol a ddaw o’r gwaelod yn ffactor allweddol wrth atynnu gweithwyr medrus a gwybodus i ranbarthau’n gatalydd a all sbarduno datblygiad ac 4
Ymweliad yr artist gweledol, Mary Lloyd Jones, â Thsieina
Cydymffurfia Tsieina a Phrydain â datblygiadau polisi diweddaraf gan Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig a’r Cenhedloedd Unedig ym maes yr Economi Greadigol ac arwain y drafodaeth newydd. Gwna Cymru gyfraniad nodweddiadol drwy ei threftadaeth gelfyddydol gyforiog a’i diwydiannau cyfryngol datblygedig. Felly argymhelliad yr adroddiad hwn yw y dylai’r Economi Greadigol fod yn fynedfa Cymru i Dsieina.
Prydain oedd y wladwriaeth gyntaf i nodi datblygu’r Diwydiannau Diwylliannol a’r Economi Greadigol yn nod cenedlaethol iddi yn y 21ain ganrif, felly ystyria Tsieina Brydain yn arweinydd yn y sector. Mae cydweithio agos ynghylch masnachu a chyfnewid nwyddau diwylliannol rhwng Tsieina a Phrydain yn datblygu a chynyddu ers canol y 2010au: yn 2014, llofnododd Cyngor Ymchwil Celfyddydau a Dyniaethau Prydain y memorandwm cyntaf o gydddealltwriaeth â Thsieina, â’r Academi Theatraidd Shanghai’n bartner. Ym mis Chwefror 2017, rhestrwyd y drafodaeth am Dsieina a’r Economi Greadigol yn thema o flaenoriaeth ar y cais am arian parthed yr Her Fyd-eang gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Ym mis Hydref 2017, bydd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn lletya gweithdy cyntaf economi greadigol TsieinaPrydain wrth ymbaratoi at gydfuddsoddiad a chydymchwil ynglyn ag Economi Greadigol TsieinaPrydain. Cydweithiad ydyw rhwng prifysgolion a sefydliadau celfyddydau allweddol rhwng y ddwy wlad. 5
Datganiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru a Diweddariadau Polisi
Wedi dweud mai’r Economi Greadigol yw mynedfa Cymru i Dsieina, erys sawl her yng Nghymru i’w hystyried a mynd i’r afael â hwy rhag blaen. Cynnwys yr Economi Greadigol ymarfer creadigol, artistig eang - o’r gweledol, crefftau, llyfrau, ffilmiau a cherddoriaeth, i berfformiad, ffasiwn, dylunio a’r cyfryngau newydd. Dan bolisi diwylliannol cyfredol Cymru, serch hynny, mae cyfrifoldeb am hyrwyddo’r celfyddydau ar wahân i’r un am hyrwyddo’r diwydiannau creadigol. Mae hyn yn wahanol i’r rhan fwyaf o lywodraethau Ewrop ac mae angen cymryd camau ychwanegol i sicrhau ffordd gydlynus o fynd ati.
Yn draddodiadol mae arian (neu gymhorthdal) y cyhoedd ar gyfer y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru wedi’i adeiladu ar y pum piler hyn: 1. Cynyddu dewis ac argaeledd 2. Annog a hyrwyddo gweithgarwch creadigol drwy gyfrwng y Gymraeg 3. Lleihau costau i wneud gwaith yn fwy fforddiadwy
Ym 1997, soniodd Tony Blair a oedd yn Brif Weinidog ar y pryd, am y syniad o hyrwyddo’r diwydiannau creadigol a diwylliannol er mwyn adfywio’r economi a’r gymdeithas yn ôlddiwydiannol. Yn yr un flwyddyn, o ganlyniad i’r refferendwm am ddatganoli i Gymru a dyfodiad y Cynulliad, datganolwyd grymoedd diwylliannol a masnachol i Gymru. Ers hynny, dosbarthodd Llywodraeth Cymru sectorau’r diwydiannau celfyddydol a’r rhai creadigol ar wahân. Mae’r diwydiannau celfyddydol yn ymwneud â’r celfyddydau a ariennir yn gyhoeddus a’r rhai creadigol yn ymwneud â gweithgarwch digidol, cyfryngol a chreadigol-fasnachol gyda’r posibiliad o gynhyrchu incwm. Hyrwyddir pob un ar wahân, drwy bolisïau nodweddiadol ac asiantaethau ar wahân.
4. Galluogi arloesi, arbrofi a mentro 5. Lleddfu ar fethiant y farchnad (h.y. anallu, neu amharodrwydd, ‘y farchnad’ i dalu gwir gost rhai gweithgareddau diwylliannol).
Mewn geiriau eraill, sicrha arian y cyhoedd fod rhaglenni fforddiadwy ac amrywiol o weithgarwch o safon ar gael yn ehangach i ragor o bobl. Ni ddylid cymryd yn ganiataol fod gweithgaredd â chymhorthdal cyhoeddus o werth llai neu’n elitaidd mewn rhyw ffordd. Gall gweithgarwch celfyddydol addysgiadol neu gymunedol feddu ar bwys diwylliannol a chymdeithasol mawr ond heb fawr o siawns o fod yn gynaliadwy ar sail fasnachol.
Adlewyrcha hyn y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn ariannu Cyngor Celfyddydau Cymru i hyrwyddo’r celfyddydau tra, am y tro o leiaf, hyrwydda’r Llywodraeth ei hun y diwydiannau creadigol yn rhan o’i gweithgareddau cefnogi busnes. Serch hynny, yn ymarferol nid oes ffiniau clir rhwng y sector â chymhorthdal a’r un mwy masnachol, felly mae cydlynu gweithgarwch yn fwy heriol.
Nid yw methiant y farchnad yn golygu’n unig fethiant y celfyddydau yn y farchnad ond mae hefyd am fethiannau’r farchnad ei hun – y ffyrdd y gall grymoedd economaidd danseilio a mynd yn erbyn arloesedd, dewis a bod yn fforddiadwy. Bydd llawer o enghreifftiau lle na wêl y farchnad rinwedd, neu elw ariannol, wrth gefnogi rhai gweithgareddau. Yn sicr na ddylai llywodraethau wario arian y cyhoedd lle nad oes ei angen lle gall y farchnad gynnal gweithgarwch heb iddo gyfaddawdu ei egwyddorion artistig. Serch hynny, 6
Cymru am Fasnach a Diwylliant Cymru-Tsieina dan arweiniad Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith.
os ydym i gynnig gwir amrywiaeth yn y cynnyrch a chadw talent a chyfalaf deallusol yng Nghymru, rhaid i lywodraethau feddu ar strategaeth buddsoddi ac ariannu cynnil sy’n cydnabod y ffaith i economi ddiwylliannol fywiog ddibynnu ar y cymysgedd cywir o ariannu cyhoeddus/anghyhoeddus.
Hefyd tynnir sylw at werth amrywiol a nodweddiadol y celfyddydau yn ddiwylliannol, cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol yn nhrafodaeth yr Economi Greadigol ac ystyrir hwy’n gyfraniadau allweddol at ddatblygiad cynaliadwy yn Adroddiad Byd-eang y Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig, Ail-lunio Polisïau Diwylliannol (2015), sef y diweddariad mwyaf newydd o’r polisi o Gonfensiwn 2005, tynnodd y Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig sylw at y cyfryngau digidol yn rhywbeth hanfodol i’r creadigrwydd artistig diweddaraf a phwysleisiodd swyddogaeth yr artistiaid wrth arwain y tueddiad newydd hwn.
Mewn gwirionedd felly mae pob celfyddyd, pob cynnyrch diwylliannol a phob gwasanaeth yn gysylltiedig â’i gilydd; tarddiad y diwydiannau creadigol yw creadigrwydd, sgìl a thalent unigolion a all arwain at greu cyfoeth a swyddi drwy gynhyrchu Eiddo Deallusol a manteisio arno. Meithrin y celfyddydau y dychymyg a’r weledigaeth sy’n darparu’r llif cyson o syniadau a chynnyrch newydd sy’n galluogi’r manteisio economaidd drwy’r diwydiannau creadigol. Drwy’r drafodaeth hon tynnir sylw at gysylltiadau aml y celfyddydau a busnes ac amlygir hyn yn y tri adroddiad yn sgil y ddirprwyaeth gyntaf Llywodraeth
Yn y mileniwm newydd y gwelwn asiad cynyddol y celfyddydau a’r cyfryngau digidol yn niwylliant newydd a datblygiad economaidd y byd. I sicrhau y gall artistiaid a chwmnïau creadigol gael budd o gyfleoedd ffafriol i gyfnewid diwylliannol yn Nhsieina, a rhannu’r dysgu am weithio yn Nhsieina lle mae’r celfyddydau â chymhorthdal a’r rhai masnachol yn rhan o’r yr un sector, argymhellir yn gryf fwrw ymlaen gan gymryd camau cychwynnol i beri dod ynghyd â chwmnïau ac artistiaid yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru drwy Is-grwp y Celfyddydau Grwp Llywio Tsieina-Cymru. Gellid datblygu rhagor o gyfleoedd i artistiaid masnachol a’r rhai â chymhorthdal i ddysgu a chefnogi buddiannau ei gilydd yn Nhsieina. ^
^
I sicrhau y manteisir yn llawn ar gyfleoedd diwylliannol a chyfnewid Cymru, byddai’n syniad i’r genhadaeth nesaf gynnwys cwmnïau creadigol a chelfyddydol. Rhaid wrth hyrwyddo gweithredol y cyfleoedd i gymryd rhan yn y genhadaeth fasnach yn ogystal â chael gwell trosolwg o farchnad Tsieina a’r cysylltiadau sydd ar gael i gwmnïau Cymru. Ym Mlwyddyn 2 bydd cyfle i ddod â’r ddau sector at ei gilydd mewn cydweithdy am y cyfleoedd iddynt yn Nhsieina a all hefyd hyrwyddo’r genhadaeth fasnach.
Meet Fred, Theatr Hijinx (llun: Tom Beardshaw)
7
Yng Nghynhadledd 2017 y Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig, ‘Ar Flaen y Gad: Monitro Polisi Ymgyfranogi i Hyrwyddo Amrywiaeth o Fynegiadau Diwylliannol’, rhoddwyd pwyslais ar y brys sydd ynghlwm wrth ddiweddaru polisi yn enwedig o ystyried ansicrwydd Brecsit. Yn natganiad Llywodraeth Cymru, mae cyfle gwirioneddol i annog cadwyn o werthoedd creadigol newydd rhwng Cymru a Thsieina sy’n cysylltu’n rhyngwladol ar gownt y dysgu o’r ymweliadau dirprwyaeth a’r cymunedau celfyddydol a busnes yng Nghymru.
Yn natganiad diwylliant diweddaraf Llywodraeth Cymru, Golau yn y Gwyll: gweledigaeth ar gyfer diwylliant yng Nghymru (2016), a ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet Ken Skates AC, dywed: ‘y celfyddydau, cerddoriaeth, llenyddiaeth a threftadaeth, neu mewn geiriau eraill, yr holl weithgareddau creadigol sy’n rhoi pwrpas ac ymdeimlad o berthyn a hunaniaeth i bobl.’ Adlewyrcha’r datganiad hwn gam tyngedfennol wrth aleinio sectorau’r diwydiannau celfyddydol a chreadigol a chysylltu’r celfyddydau â datblygu economaidd. Cyfieithwyd Datganiad Diwylliant Ysgrifennydd y Cabinet i’r Fandarineg gan yr adran Astudiaethau Cyfieithu ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd yn ddogfen allweddol i Gymru allu disgrifio ei safbwynt gwleidyddol, economaidd a diwylliannol yn y drafodaeth fyd-eang ddiweddaraf am yr Economi Greadigol i Dsieina a daw â phosibiliadau datblygu cyfnewid a masnach ddiwylliannol Tsieina-Cymru yn nes.
8
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol: y cyd-destun
Gweledigaeth Llywodraeth yw cael Cymru deg, ffyniannus a hyderus sy’n gwella ansawdd bywyd pobl Cymru ym mhob un o’i chymunedau. Ymgorffora Deddf newydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gan Lywodraeth Cymru yr egwyddorion hyn a chynaliadwyedd diwylliannol a mynna fod cyrff cyhoeddus, megis Cyngor Celfyddydau Cymru, yn gweithio yn y fframwaith a ddiffinnir gan y Ddeddf. Mae gweledigaeth hollgynhwysfawr y Ddeddf yn cefnogi lle a swyddogaeth diwylliant a chreadigrwydd yn y gymdeithas gyfoes yng Nghymru. Yn amlwg y cyfranna gweithgareddau diwylliannol at ein llesiant. Mae’r celfyddydau yn goleuo ac yn bywiogi’r ystod eang o strategaethau sy’n cynnal bywyd cyhoeddus. O iechyd i addysg, ac o dwristiaeth ddiwylliannol i adfywio dinasoedd, daw diwylliant ag ystyr, dilysrwydd a mwynhad i’n bywyd beunyddiol. Daw â chymunedau at ei gilydd; crea a chynnail swyddi; a datblyga ein heconomi.
Ar y brig: Xian Zhang yn perfformio yn ei chyngerdd agoriadol yn Brif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (llun: y BBC/Ealovega) Uchod: Pelléas et Mélisande gan Débussy, Opera Genedlaethol Cymru, ^ rhan o Wyl Gelfyddydol Ryngwladol Hong Cong 2018 (llun: Clive Barda/Opera Genedlaethol Cymru)
9
Helpa’r diwydiannau celfyddydol, creadigol a diwylliannol i greu:
1
Cymru Ffyniannus – mae diwylliant a chreadigrwydd yn bwysig yn eu rhinwedd eu hunain oherwydd y mwynhad a’r ysbrydoliaeth y maent yn eu cynnig. Ond maent hefyd yn injan sy’n hanfodol i economi Cymru. Maent yn gwneud cyfraniad uniongyrchol i greu swyddi a chyfoeth, drwy greu, dosbarthu ac adwerthu nwyddau a gwasanaethau.
2
Cymru Wydn – maent yn meithrin arloesedd a chreadigrwydd. Mae creadigrwydd yn mynd yn bellach na’r celfyddydau a diwylliant yn unig, er mai dyna ei noddfa naturiol. Mae creadigrwydd yn fedr y mae modd ei ddefnyddio i gael atebion arloesol i broblemau cyfarwydd gan annog ffyrdd newydd o feddwl a byw.
3
Cymru Iachach - gall cymryd rhan yn y celfyddydau hyrwyddo arddull byw iachach, lleihau straen, atal afiechyd a meithrin rhagor o lesiant. Mae’r celfyddydau, creadigrwydd a dylunio o safon yn gwella amgylcheddau gofal iechyd a rhoi cyfleusterau o safon well i gleifion a staff yno.
4
Cymru Fwy Cyfartal – mae’r celfyddydau a diwylliant wrth eu natur yn ymestyn i gyffwrdd ac ymgysylltu â phobl. Ar eu gorau cyrhaeddant y tu hwnt i’r hawdd a’r amlwg gan ddymchwel rhwystrau diwylliannol, economaidd, cymdeithasol a daearyddol a all atal ymgysylltiad. Mae buddion diwylliant yn bwysig ac yn gwella bywyd mewn cymdeithas deg a goddefgar, felly, dylai’r buddion hyn fod ar gael i bawb.
5
Cymru o Gymunedau Cydlynus – mae ymgysylltu â gweithgarwch creadigol yn cynyddu hyder unigolion a chymunedau a’u hunanwerth gan adeiladu cydlyniant cymdeithasol drwy greu cyfeillgarwch ac ymdeimlad o berthyn. Gall beri bod pobl yn teimlo’n ddiogelach yn eu cymunedau a mwy cadarnhaol amdanynt gan ymfalchïo yn eu diwylliant a’u hethnigrwydd eu hunain.
6
Cymru lle mae Diwylliant yn Fywiog a’r Gymraeg yn Ffynnu – diwylliant ac ieithoedd Cymru yn anad dim sy’n ei gwneud yn nodweddiadol. Mae’r Gymraeg yn caniatáu inni ddeall a mwynhau llenyddiaeth a diwylliant sy’n eithriadol o gyforiog. Ffynnu y mae’r celfyddydau ar hyn ac mae’n elfen allweddol wrth gynnal swyddogaeth hollbwysig y Gymraeg ym mywyd Cymru..
7
Cymru â Chyfrifoldeb Byd-eang – mae’r celfyddydau, diwylliant a chreadigrwydd yn fodd inni werthfawrogi a deall y byd yr ydym yn byw ynddo. Maent yn ysbrydoli a chyffroi. Maent yn fodd i gwestiynu ac archwilio gan ddod â mewnwelediadau newydd i sawl her gyfarwydd. Datglo’r celfyddydau ein creadigrwydd a’n dychymyg gan ein helpu i fynd yn ddinasyddion mwy ymroddgar, gweithredol a chyflawn.
Mae gan Gymru lawer i gynnig a dysgu’n rhyngwladol o ran yr arweiniad a gymerodd i nodi mai cynaliadwyedd diwylliannol yw pedwerydd piler ei strategaeth datblygu cynaliadwy, Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Gyda’r tri philer gwreiddiol (cynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol) mae cynaliadwyedd diwylliannol erbyn hyn yn fesur a ddefnyddir gan bob corff cyhoeddus yng Nghymru.
10
Nodweddion Marchnad Tsieina a swyddogaeth Llywodraeth Cymru
Gallai’r Economi Greadigol fod yn fynedfa Cymru i Dsieina, ond mae amodau nodweddiadol marchnad Tsieina y bydd yn rhaid i gymuned diwydiannau celfyddydol a chreadigol Cymru wybod amdanynt i lwyddo o ran gwneud busnes. Mae’r her o weithio gyda Thsieina y tu hwnt i iaith, ond mae’n ymwneud â deall ei gwleidyddiaeth, ei diwylliant a’i heconomi.
heddiw. Ynddi dywedodd nad oes y fath beth â chelfyddyd er mwyn celfyddyd - nod celfyddyd yw gwasanaethu’r bobl a Phlaid Gomiwnyddol Tsieina. Yn syth ar ôl sefydlu Gweriniaeth Pobl Tsieina ym mis Hydref 1949, dechreuodd Plaid Gomiwnyddol Tsieina sefydliadau celfyddydol ar draws y wlad gyda phrosesau cynhyrchu a defnyddio canolog.
Prif nodwedd marchnad gelfyddydol Tsieina yn awr yw bod artistiaid a sefydliadau celfyddydol yn perfformio dan y pwysau deuol o lwyddiant economaidd a chydymffurfedd gwleidyddol â Phlaid Gomiwnyddol Tsieina. Rhaid i Lywodraeth Cymru arwain wrth fagu perthynas ddiplomataidd gyda’r llywodraeth ganolog a rhanbarthol cyn y gall marchnadoedd rhanbarthol ymagor i Gymru. Dim ond wedyn y gallwn greu cyfleoedd busnes dilys.
Yn yr adeg ar ôl Maw ynghanol yr 80au, dechreuodd llywodraeth ganolog Tsieina annog sefydliadau celfyddydol i greu elw a gallai’r artistiaid weithio y tu allan i’r sefydliadau. Yn y 90au hwyr dechreuodd Tsieina drefoli a datganoli i raddau na welwyd o’r blaen. Yn y broses, dilynodd Tsieina strwythur rheoli rhanbarthol wedi’i ddatganoli a oedd yn unigryw: yn lle datganoli adnoddau rhanbarthol i ddwylo artistiaid unigol ac entrepreneuriaid, rhoddwyd hwy dan reolaeth y llywodraeth drefol gydag ychydig o lunio polisi annibynnol ac elw mawr yn gymhellion. Pan ddechreuodd y ‘rheolwyr’ gamfihafio’n ormod yn wleidyddol a/neu’n economaidd, disodlwyd hwy gan reolwyr y wladwriaeth/y blaid yn ganolog. Y diwygiad economaidd dan ddylanwad y farchnad a gwleidyddiaeth Tsieina yw’r enw ar hyn.
Yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif, bu cefnogaeth wladwriaethol am sefydlu ac ehangu ystod o sefydliadau ym Mhrydain, o’r BBC, i Gyngor Celfyddydau Prydain i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Yn Nhsieina, digwyddodd yr un peth. Serch hynny, defnyddiwyd y celfyddydau a diwylliant yn offer syniadaethol hanfodol i Blaid Gomiwnyddol Tsieina ymddangos yn rym gwleidyddol cyfiawn a theg. Er gwaethaf byddin a oedd yn bennaf yn dod o gefn gwlad, ymladdai’r Blaid Gomiwnyddol Tsieina ryfel yn erbyn Siapan gan drechu’r Blaid Genedlaethol drwy sbarduno poblogaeth y wlad gyda’r celfyddydau a diwylliant. Erys Araith Maw Sedong ym 1942 yn Yanan am Lenyddiaeth a’r Celfyddydau yn sail o hyd i bolisi diwylliannol Tsieina
Canolfan Genedlaethol i’r Celfyddydau Perfformio ym Meising
11
Dan y system ganolog hon, mae’r sefydliadau celfyddydol wedi bod dan bwysau cynyddol i gefnogi ideoleg Plaid Gomiwnyddol Tsieina yn ogystal ag ennill llwyddiant yn y farchnad i’r llywodraeth ranbarthol. Cafwyd y pwysau deuol hyn yn gyntaf yng ngham cenedlaethol marchnateiddio yn y 1990au a chynyddodd hyn o ganlyniad i uchelgais newydd Tsieina i adeiladu’r diwydiannau diwylliannol a chreadigol yn biler economaidd cenedlaethol erbyn 2020. Er mwyn cydweithio â gwlad ag ideoleg gref a than arweiniad un blaid megis Tsieina, rhaid i Lywodraeth Cymru ymroi i arwain wrth adeiladu cysylltiadau diplomataidd dwyochrog a chreu cytgord ideolegol gyda llywodraethau cenedlaethol a rhanbarthol. Er mai Llywodraeth Cymru a arweiniodd y Genhadaeth Fasnachol a Diwylliannol i Dsieina, mae angen llawer o waith dilyn i fyny i fanteisio ar y cyfleoedd y mae wedi creu. Argymhellir bod eisiau cefnogaeth ar lefel y llywodraeth yn aml ar gyfer cyfnewid diwylliannol, megis drwy arddangosfeydd, perfformiadau theatr ac ymgyfranogi o wyliau. Mae sylw cyson ar y cyfryngau i’r fath weithgareddau diwylliannol yn hanfodol i godi proffil diplomataidd TsieinaCymru. Dim ond ar ôl i Lywodraeth Cymru adeiladu perthynas ddiplomataidd gadarn gyda llywodraethau rhanbarthol Tsieina y bydd y marchnadoedd rhanbarthol yno’n ymagor i Gymru gyda’u cyfleoedd busnes.
Rhan o arddangosfa gelfyddydol gymunedol, Canolfan y Celfyddydau Torfol, Ardal Xuhui, Sianghai
12
Seilwaith i Artistiaid Entrepreneuraidd drwy Interniaethau Prifysgol
Mae ar Gymru angen diplomatiaeth o du’r llywodraeth i agor y farchnad i’r gymuned, ond mae angen cefnogaeth isadeiledd o’r gwaelod i helpu artistiaid entrepreneuraidd i arwain wrth ddatblygu masnach a chyfnewid diwylliannol Tsieina-Cymru.
Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru / Cyngor Celfyddydau Cymru gyda ffocws ar ddatblygu interniaethau penodol ar draws busnesau artistig ac entrepreneuraidd Cymru i hwyluso atgyfnerthiad eu cysylltiadau â Thsieina.
Yn y cyd-destun hwn, cyfeiria “artistiaid entrepreneuraidd” at artistiaid sy’n gweithio naill yn y sefydliadau celfyddydol neu’r tu allan iddynt. Maent yn ymwybodol o’r farchnad ac yn aml yn fentrau bychain a chanolig. Yng nghynllun gweithredu 2015 y Cenhedloedd Unedig ar yr Economi Greadigol, Trawsnewid ein byd: agenda 2030 ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy ac Adroddiad Byd-eang 2015 Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig, Ail-lunio Polisïau Diwylliannol, ystyrir yr artistiaid entrepreneuraidd yn rym arweiniol i drawsnewid y byd a darparu datblygu cynaliadwy i economi’r 21ain ganrif.
Rhagwelir y gellir ailadrodd y fath batrwm o gefnogaeth ar draws prifysgolion Cymru, gyda’r weledigaeth i adeiladu rhwydwaith diwylliannoladdysg-busnes yng Nghymru a rhwng Cymru a Thsieina.
Wrth fod artistiaid entrepreneuraidd yn ceisio ffurfio cysylltiadau ar lawr gwlad yno a datblygu cydweithio ym musnes y celfyddydau, dônt o hyd ar unwaith i sawl her - diffyg adnoddau, rhwystrau ieithyddol ac ymddieithro diwylliannol. Gydag adnoddau cyfyngedig, argymell yr adroddiad hwn ddefnyddio interniaeth Tsieina-Cymru i adeiladu’r datblygiad cychwynnol rhwng Tsieina a Chymru. Adeiladwyd interniaeth gychwynnol o ran TsieinaCymru rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac yr adran Astudiaethau Tsieineaidd, Prifysgol Caerdydd, gyda ffocws ar thema’r economi greadigol. Sefydlwyd Astudiaethau Tsieineaidd ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2016 gyda thema ymchwil ac addysgu nodweddiadol â ffocws ar yr Economi Greadigol. Crewyd yr interniaeth gyntaf ym mis Mehefin 2017 a hwylusai Celfyddydau Rhyngwladol Cymru gydgysylltu â Thsieina ar brosiectau diwylliannol penodol, yn ogystal â chasglu data uniongyrchol am ddatblygiadau Tsieina-Cymru. Datblygir interniaethau ail gam yn ystod ail flwyddyn y cydweithio rhwng Prifysgol Caerdydd a
13
Rhydd yr interniaid gefnogaeth ieithyddol a diwylliannol a hefyd casglant ddata mesurol (seiliedig ar holiaduron) ac ansoddol (llyfrau, cyfweliadau, sylwadau). Prosesir y data gan dîm ymchwil ddiwylliannol Tsieina-Cymru, i fapio artistiaid entrepreneuraidd Cymru a gweithgareddau ac anghenion Tsieina cyn ei ddefnyddio mewn adroddiadau, erthyglau, dogfennau academaidd, dysgu gweithredol, ymweld a chyfnewid. Bydd y canlyniadau’n hanfodol o ran porthi diweddariadau diwylliannol yng Nghymru a Thsieina ac o ran cydymgeisio am grantiau ymchwil i ddeall anghenion cymuned artistiaid entrepreneuraidd Tsieina-Cymru, a datblygu’r ddealltwriaeth ar draws cymunedau celfyddydol Prydain a Mentrau Bychain a Chanolig i gynyddu cystadleurwydd byd-eang Cymru a Phrydain.
Casgliad a Chynllunio Ymlaen
Mae ffordd ddiwylliannol-gydweithiol a thymor hir wedi’i seilio ar ymchwil a dysgu sy’n cydnabod pwysigrwydd polisi ehangach yn sylfaenol i ddarparu gweithgareddau Blwyddyn 2 y memorandwm cydddealltwriaeth a gynigiwn. Gallai hynny gefnogi rhaglen gynyddol Tsieina–Cymru. Mae’n sylfaen i lawer o berthnasau i dyfu y tu hwnt i ddiwylliant yn unig. O fyfyrwyr sy’n dod i astudio yng Nghymru i gwmnïau sydd am fasnachu yn Nhsieina, mae’n rhaid i’r rhaglen eu helpu ar eu taith. Gellir rhoi’r sylfeini at ei gilydd ym Mlwyddyn 2 drwy’r gwaith a wna Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, ond mae’n hanfodol bod y Llywodraeth ei hun yn sicrhau bod defnydd yn digwydd ar draws asiantaethau a llywodraeth os yw’r gwaith i gael eu gwreiddio yn yr economi greadigol a diwylliannol y ddwy ^ wlad. Yn benodol argymhellir bod y Grwp Llywio yn creu cyfleoedd newydd i’r sectorau diwylliannol a chreadigol ehangach i weithio’n agosach ar ddatblygu perthnasau ystyrlon i Gymru a chwmnïau Cymru ac ymarferwyr creadigol yn Nhsieina.
Mae’r argymhellion ar ddechrau’r adroddiad hwn yn fan cychwyn. Mae camau gweithredu eraill i’w ddatblygu drwy Gynllun Gweithredol Blwyddyn 2 i fynd i’r afael â rhwystrau a hyrwyddo cyfleoedd. Er mwyn i’r Cynllun Gweithredol fod yn effeithiol, rhaid datblygu’n bellach weithio mewn partneriaeth rhwng y llywodraeth, yr asiantaethau allweddol, addysg uwch, ymarferwyr diwylliannol a rhanddeiliaid. Mae eisiau defnyddio’n effeithiol ^ Grwp Llywio Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ddiwylliannol Llywodraeth Cymru i nodi sefydliadau arweiniol a swyddogaethau cefnogi gan eraill yn ogystal â darparu sail adnoddau.
NoFit State yn Hong Cong
14
Manylion am yr Awduron
Cydnabyddiaeth
Mae Dr Haili Ma yn Uwch Ddarlithydd Tsieinëeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Cafodd ei hyfforddi mewn opera Dsieinëaidd traddodiadol o’i harddegau cynnar. Canolbwyntia ei hymchwil ar ddatblygiad opera Dsieinëaidd traddodiadol a’r economi ddiwylliannol a chreadigol. Mae hi’n awdur Urban Politics and Cultural Capital: The Case of Chinese opera (Routledge, 2015).
Hoffem ddiolch i’r canlynol: Peter Owen, Pennaeth y Celfyddydau, a Shade Ajayi, Diwydiannau Creadigol Llywodraeth Cymru, Nick Capaldi a David Alston Cyngor Celfyddydau Cymru am hygyrchedd at ystod o ddata. Cyfrifoldeb yr awduron yw pob gwall.
Eluned Hâf yw Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, cangen ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae Eluned yn eistedd ar fwrdd rheoli ^ Cyngor y Celfyddydau a Grwp Ymgynghorol Cyngor ^ Prydeinig Cymru. Yn ogystal â chadeirio Grwp Llywio Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Tsieina-Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, mae Eluned yn aelod o ^ Grwp Ymgynghori Diwylliannol DCMS y DU– Tsieina. Mae uchafbwyntiau ei gyrfa yn cynnwys ysgrifennu’r cais buddugol ac arwain WOMEX yng Nghaerdydd yn 2013, ac arwain rhaglen ddiwylliant taith fasnach llywodraeth Cymru i Tsieina ym mis Chwefror 2017.
Ar gael ar gais.
Cyfeiriadau:
Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth Ddiwylliannol rhwng Llywodraeth Cymru a Gweinyddiaeth Ddiwylliant Llywodraeth Tsieina 2015. Cynllun Gweithredol Blwyddyn 2 a’r Canlyniadau sydd eu Heisiau Adroddiadau gan Peter Owen, Eluned Haf a Maggie James am genhadaeth Masnach a Diwylliant dan arweiniad Llywodraeth Cymru i Dsieina yn Chwefror 2017 dan arweiniad Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates Confensiwn Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig 2005 a’r Adroddiad Byd-eang 2015, Ail-lunio Polisïau Diwylliannol. http://en.unesco.org/creativity/global-report-2015 Datganiad Diwylliant Ysgrifennydd y Cabinet i’r Fandarineg, Golau yn y Gwyll: gweledigaeth ar gyfer diwylliant yng Nghymru (2016). Cyfieithiwyd y ddogfen hon gan yr adran Astudiaethau Tsieineaidd ym Mhrifysgol Caerdydd.
15
www.wai.org.uk