Theatre for Young People from Wales

Page 1

wales arts international celfyddydau rhyngwladol cymru

Theatr i Bobl Ifanc yng Nghymru Theatre for Young People in Wales

1 Theatre for Young People in Wales


Rhagair

Rydw i’n falch iawn o allu dweud fod gan Gymru sector theatr bywiog a dirgrynol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Gwir drysor y theatr yng Nghymru, neu hwyrach y perlau sydd ynddi, yw’r wyth cwmni theatr a gynhwysir yma. Mae’r cwmnïau’n gweithio ar draws pob rhanbarth o’n cenedl fechan gan gyflwyno amrywiaeth eang o agweddau a dynesfeydd tuag at y ffurf hon mewn ysgolion, cymunedau a sefydliadau theatr. Mae gan rhai o’r cwmnïau a gynhwysir raglenni sy’n cysylltu â chynulleidfaoedd ifanc trwy greu theatr gyda’r un safonau llym â’u brodyr proffesiynol cyfatebol, gan sicrhau y byddwn yn parhau i ailgyflenwi’r crochan o syniadau a thalentau. Mae rhai o’r cwmnïoedd yn y cyfeirlyfr yma yn gweithio’n rhyngwladol trwy berfformio dramor a chydweithio gyda partneriaid o bob cwr o’r byd. Mae Agor Drysau – Gwˆyl Theatr Rhyngwladol Cymru i Gynulleidfaoedd Ifanc – yn cael ei cynnal pob yn ail flwyddyn gan Arad Goch, gan ddod â cwmnïau o bob rhan o’r byd at ei gilydd. Mae’r w ˆ yl yn gyfle i gwmnïoedd theatr rhyngwladol ddod at ei gilydd i gysylltu gyda’r sector, i ddatblygu cyfleoedd a chydweithrediad ac i brofi gwaith newydd gan gwmnïoedd theatr rhyngwladol.

Foreword

I am very proud to say that Wales has a vibrant and active theatre sector for children and young people. The ‘jewels in the crown’ of theatre for young people in Wales, or perhaps its ‘string of pearls,’ are featured here in this directory. They are spread across every region of our small country and present a huge diversity of approaches and attitudes to performance for young audiences in schools, community settings and theatre venues. Some of the featured companies have programmes which engage young people in creating their own theatre productions with the same high standards as the professional performances they produce. Some of the companies in this booklet are also involved in working internationally, performing abroad and collaborating with international practitioners. Opening Doors, (Agor Drysau) – Wales International Festival of Theatre for Young Audiences – is a biennial festival organised by Arad Goch and brings together theatre companies from around the globe. It is an opportunity for the companies in Wales to engage with international theatre for young people, explore performance opportunities, potential collaborations and experience work by international theatre companies.

Mae’r cyfeirlyfr yma yn datguddio gwledd o theatr bywiog a phrofiadau addysgol ar gyfer cynulleidfaoedd ym mhob man; profiadau fydd yn herio ac yn difyrru cenedlaethau ifanc a hen, trwy agor y drws i fyd newydd.

This booklet aims to unlock a treasure of exhilarating theatre and educative experiences for young audiences everywhere; experiences which will both challenge and entertain young and old alike and open a door to other worlds and other times.

Iwan Brioc Jones Cyfarwyddwr, Theatr Cynefin www.cynefin.org

Iwan Brioc Jones Director, Theatr Cynefin www.cynefin.org

2 Theatr Theatri iBobl BoblIfanc Ifancyng yngNghymru Nghymru

3 Theatre Theatrefor forYoung YoungPeople Peoplein inWales Wales


Llun gan / Image by Andy Freeman

Cwmni Theatr Arad Goch

Llun gan / Image by Keith Morris

Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn cynhyrchu gwaith deinamig, dramatig ac addysgiadol i blant a phobl ifanc. Defnyddir dulliau gweledol, llawn delweddau gan dynnu ar dechnegau perfformio traddodiadol a chyfoes. Mae’r cwmni yn teithio i ysgolion, canolfannau cymunedol a theatrau gan gwneud eu gwaith yn hygyrch i bawb.

Arad Goch Stryd y Baddon / Bath St Aberystwyth Ceredigion SY23 2NN

Yn rhyngwladol mae Arad Goch wedi teithio i’r Iwerddon, yr UDA, Denmarc, Canada, Awstria, Gwlad Pwyl a Singapore.

post@aradgoch.org www.aradgoch.org

Yn y blynyddoedd diwethaf mae Arad Goch wedi cynnig rhaglenni ble mae cyfle i bobl ifanc gymryd rhan ym mhroses creadigol y cwmni – ysgrifennu, perfformio a sylwebu. Arad Goch sy’n cynhyrchu Agor Drysau – Gwˆyl Theatr Rhyngwladol Cymru i Gynulleidfaoedd Ifanc. Mae’r wˆyl yn gyfle i weld gwaith cwmnïoedd o Gymru mewn cyd-destun rhyngwladol: www.agordrysau-openingdoors.org

4 Theatr i Bobl Ifanc yng Nghymru

T +44 (0)1970 617998

Cwmni Theatr Arad Goch is a production company specialising in creating dynamic and contemporary theatre for young audiences. The company uses a visual style often drawing on both contemporary physical theatre and traditional performance techniques. The company tours to schools, community venues and theatres, making its work accessible to all audiences. Arad Goch’s international touring has included visits to Ireland, the USA, Denmark, Canada, Austria, Poland and Singapore. During recent years Arad Goch has operated programmes which have enabled young people to take part in the company’s creative processes – as writers, performers and advisers. Arad Goch produces the biennial Agor Drysau / Opening Doors – Wales International Festival of Theatre for Young Audiences. It is an opportunity to view theatre productions in an international context: www.agordrysau-openingdoors.org 5 Theatre for Young People in Wales


Llun gan / Image by Jenny Barnes

Theatr Gwent Theatre

Llun gan / Image by Jenny Barnes

Wedi ei sefydlu ym 1976, bu Theatr Gwent yn cyflwyno perfformiadau theatr o’r ansawdd uchaf i bobl ifanc mewn ysgolion a chanolfannau cymuned am fwy na 30 o flynyddoedd. Trwy gyfrwng ei rhaglen o theatr i bobl ifanc, maent yn cynig cyfleoedd i ymwneud â’r celfyddydau creadigol a hynny dan arweiniad ymarferwyr theatr proffesiynol. Trydedd rhan ei gweithgaredd yw ei rhaglen addysgol ac allanol, gan weithio gyda phob oedran, o’r blynyddoedd cynnar hyd at ddarparu hyfforddiant i athrawon ac ymgynghorwyr addysg. Mae ei gwaith yn ysbrydoli, tanio brwdfrydedd ac annog pobl ifanc i ymwneud â’r byd yr ydym yn byw ynddo.

Rachel Dominy Rheolwr Cyffredinol / General Manager

Mae Theatr Gwent yn rhan o rwydwaith ar draws Cymru gyfan o wyth cwmni theatr proffesiynol sy’n creu ac yn cynnal cynhyrchiadau a rhaglenni theatr o’r ansawdd gorau, yn benodol ar gyfer pobl ifanc.

www.gwenttheatre.com

6 Theatr i Bobl Ifanc yng Nghymru

Theatr Gwent / Gwent Theatre Y Ganolfan Ddrama / The Drama Centre Pen-y-Pound Y Fenni / Abergavenny NP7 5UD T +44 (0)1873 853167 F +44 (0)1873 853910

Founded in 1976, Gwent Theatre has been presenting the highest quality theatre performances for young people in schools and at community venues for over 30 years. Through its young people’s theatre programme, the company offers opportunities for involvement in the creative arts under the guidance of professional theatre practitioners. The third key strand of their activity is their education and outreach programme, working with all ages from early years through to providing training for teachers and education advisers. Through all their work they aim to inspire, enthuse and encourage engagement with the world in which we live. Gwent Theatre is part of a Wales-wide network of eight professional theatre companies creating and maintaining high quality theatre productions and programmes specifically for young people.

7 Theatre for Young People in Wales


Llun gan / Image by Cath Forrest

Theatr Iolo

Mae Theatr Iolo yn creu theatr ddeinamig, hynod weledol ac arbrofol ar gyfer plant a phobl ifanc, i ddeffro’r dychymyg, i ysbrydoli’r galon ac i herio’r meddwl. Mae yna sioeau hynod weledol gyda nemor ddim geiriau ar gael i fabanod (Out of the Blue gan Sarah Argent), a gydag ychydig mwy o eiriau i blant 3 i 4 oed, (Under the Carpet). Mae ei cynhyrchiad o Marcos, stori wir am fachgen a fagwyd gan anifeiliaid gwyllt i blant o 7 i 11 oed, wedi teithio’n helaeth. Hefyd, mae dehongliadau Theatr Iolo o weithiau Shakespeare yn rhoi bywyd mewn testunau cymhleth a hynny mewn perfformiadau uniongyrchol a hynod ddeinamig. Gall Theatr Iolo hefyd gynnig gweithdai i bobl ifanc ac i athrawon. Mae Theatr Iolo wedi perfformio mewn gwyliau ac mewn ysgolion yn y Weriniaeth Tsiec, Gwlad Belg, Awstria, y Ffindir, Corea a Rwsia yn ogystal â theithio’n helaeth yn y DU, gan gynnwys yr wˆyl ryngwladol Imaginate yn yr Alban.

8 Theatr i Bobl Ifanc yng Nghymru

Llun gan / Image by Dave Daggers

Theatr Iolo Adeilad yr Hen Ysgol / The Old School Building Cefn Road Mynachdy Caerdydd / Cardiff CF14 3HS T +44 (0)29 2061 3782 F +44 (0)29 2052 2225 info@theatriolo.com www.theatriolo.com

Theatr Iolo creates dynamic, highly visual and innovative theatre for children and young people to stir the imagination, inspire the heart and challenge the mind. Highly visual shows with minimal text are available for babies (Sarah Argent’s Out of the Blue), and with a few more words for children aged 3 - 4, (Under the Carpet). Their production of Marcos, the true story of a boy brought up by animals in the wild for 7 - 11 year-olds, has toured extensively. Theatr Iolo’s interpretations of Shakespeare also bring complex texts to life in direct and highly dynamic performances. Theatr Iolo can also offer workshops for young people as well as teachers. Theatr Iolo has performed at international festivals and schools in the Czech Republic, Belgium, Austria, Finland, Korea and Russia as well as touring extensively in the UK, including the international festival Imaginate in Scotland.

9 Theatre for Young People in Wales


Image by / Llun gan Lluniau Llwyfan

Cwmni’r Frân Wen

Mae Cwmni’r Frân Wen yn darparu theatr sy’n cyffroi, herio ac ysbrydoli plant a phobl ifanc gogledd orllewin Cymru a thu hwnt gan eu hysgogi i edrych ar y byd o’r newydd. Mae’n datblygu ysgrifennu newydd arloesol ac yn anelu at greu cynyrchiadau o’r safon uchaf posibl sy’n torri tir newydd o ran cynnwys a llwyfannu. Mae cynyrchiadau’r Cwmni yn adlewyrchu’r gynulleidfa a’r gymuned y mae’n rhan ohoni yn lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Darperir cynyrchiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg ac mae’r Cwmni yn cydnabod ac yn hyrwyddo cyfrwng y theatr fel adnodd addysgol gydol oes.

Image by / Llun gan Lluniau Llwyfan

Cwmni’r Frân Wen Yr Hen Ysgol Gynradd Ffordd Pentraeth Porthaethwy Ynys Môn LL59 5HS T +44 (0)1248 715048 F +44 (0)1248 715225 post@franwen.com www.franwen.com

Cwmni’r Frân Wen provides exciting, challenging and inspiring theatre for the children and young people of north west Wales and beyond which encourages them to look at the world anew. The company develops innovative new writing and aims to create productions of the highest quality which are ground breaking in both content and staging. The company’s productions reflect the audience and the wider community on a local, national and international level. Productions are offered through the medium of Welsh and English and the company recognises and promotes theatre as a life long learning tool.

Ers ei sefydlu nôl yn 1984 mae Cwmni’r Frân Wen wedi sicrhau mynediad i’w waith i’r gymuned ehangach trwy ddatblygu ei ddarpariaeth i gynnwys perfformiadau mewn ysbytai a chartrefi henoed, gweithdai cyfranogol gyda phlant a phobl ifanc, prosiectau theatr ieuenctid a chynyrchiadau cymunedol a phrif lwyfan ar gyfer y cyhoedd yn ogystal.

Since it was established in 1984 Cwmni’r Frân Wen has secured access to the wider community by developing its provision to include performances in hospitals and residential homes for the elderly, participatory workshops with children and young people, youth theatre projects and community and main stage productions for the general public.

10 Theatr i Bobl Ifanc yng Nghymru

11 Theatre for Young People in Wales


Llun gan / Image by Mark Johnson, mojoffoto

Theatr Spectacle THeatre

Mae Theatr Spectacle yn cynhyrchu ac yn teithio theatr sy’n feiddgar, yn wahanol ac yn gynhwysol, gyda phobl ifanc ac ar gyfer pobl ifanc a’r gymuned – yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae gan Spectacle brofiad helaeth o deithio ac o gyd-gynhyrchu gwaith gyda phartneriaid rhyngwladol. Maent yn gwmni dwyieithog sydd wedi ei leoli yng nghymoedd de Cymru. Maent yn credu y dylai theatr: gipio dychymyg cynulleidfaoedd; alluogi pobl i weld y byd y maent yn byw ynddo mewn modd sy’n llawn ystyr iddynt; fod yn brofiad gweithredol a thrawsnewidiol i’r gynulleidfa ac i’r artist fel ei gilydd; fod yn addysgol, yn adloniadol, yn anfeirniadol ac yn gynhwysol; galluogi unigolion a rhoi gwytnwch i gymunedau. Maent yn ceisio datblygu prosiectau newydd gyda phartneriaid rhyngwladol. Theatr Spectacle yw’r unig cwmni theatr o’r DU, ac un o’r cyntaf o Gymru, cafodd ei gwahodd i gymryd rhan yng Ngwˆyl Rhyngwladol Shanghai ar gyfer Theatr i Bobl Ifanc. Bu’r cwmni yn perfformio fersiwn newydd o The Lazy Ant, darn o waith cymeradwy ar gyfer plant 5 oed a throsodd. Cafodd ymweliad y cwmni ei gefnogi gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru. 12 Theatr i Bobl Ifanc yng Nghymru

Llun gan / Image by Mark Johnson, mojoffoto

Theatr Spectacle Theatre Coleg Morgannwg Rhondda Llwynypia Tonypandy Rhondda Cynon Tâf CF40 2TQ T +44 (0)1443 430700 F +44 (0)1443 439640 info@spectacletheatre.co.uk www.spectacletheatre.co.uk

Spectacle Theatre produces and tours theatre that is daring, distinctive and inclusive for and with young people and the community, locally, nationally and internationally. Spectacle has extensive experience of touring and co-producing work with international partners. They are a bilingual company based in the south Wales valleys. They believe theatre should: captivate the imaginations of our audiences; enable people to see the world in which they are living in a way which has more meaning for them; be an active and transformative experience for both audience and artist; be educational, entertaining, non judgemental and inclusive; empower individuals and build resilience in communities. Spectacle Theatre is the only company from the UK, and one of the first from Wales, invited to participate in the Shanghai International Children’s Theatre Festival. They performed a new version of their highly acclaimed production The Lazy Ant, especially created for ages 5 and over. The company’s visit was supported by Wales Arts International. 13 Theatre for Young People in Wales


Llun gan / Image by Simon Gough

Theatr Na n’Óg

Wedi ei leoli yng Nghastell-nedd, yn ne Cymru, bu cwmni Theatr na n’Og yn creu theatr wefreiddiol ers 25 mlynedd, gan gynhyrchu ystod eang o deithiau theatr, preswyliadau a theithiau ysgol drwy gydol y flwyddyn. Mae Theatr na n’Óg yn cynhyrchu cynyrchiadau theatr teithiol i blant o bob oed ac mae’r rhain ar gael i ysgolion ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae’r cwmni hefyd yn teithio ei gynyrchiadau i ysgolion a theatrau ledled Cymru a’r DU ac yn cynhyrchu prosiect preswyl pedwar mis yn Theatr Dylan Thomas, Abertawe – preswyliad sy’n galluogi’r cwmni i greu profiad theatraidd addysgol ardderchog ac o ansawdd uchel. Mae’r cwmni hefyd yn cynhyrchu cynyrchiadau theatr teithiol, mwy o ysgrifennu newydd ac addasiadau o weithiau clasurol i bob oed a chynulleidfa. Er yn fwy o ran maint, mae’r cynyrchiadau hyn yn cadw at y manylder, yr agosrwydd a’r cyfathrebu clir sydd mor effeithiol yn ein cynyrchiadau i ysgolion. Mae Theatr na n’Óg wedi datblygu rhaglen allgymorth helaeth sy’n cynnwys clybiau drama, gweithdai a hyfforddiant drama. 14 Theatr i Bobl Ifanc yng Nghymru

Llun gan / Image by Simon Gough

Ceri James Cynhyrchydd / Producer Theatr na n’Óg Uned 3 / Unit 3 Ystâd Ddiwidiannol Heol Millands / Millands Road Industrial Estate Castell Nedd / Neath SA11 1NJ T +44 (0)1639 641 771 ceri@theatr-nanog.co.uk www.theatr-nanog.co.uk

Based in Neath, south Wales, Theatr na n’Óg has been creating captivating theatre for 25 years, producing a wide range of theatre tours, residency and schools tours throughout the year. Theatr na n’Óg produces touring theatre productions for children of all ages, available to schools throughout Bridgend, Swansea and Neath & Port Talbot. The company also tours its productions for schools to theatres throughout Wales and the UK and produce a four month residency project based at the Dylan Thomas Theatre in Swansea, enabling the company to create an excellent educational and high quality theatrical experience. The company also produces larger touring theatre productions of new writing and adaptations of classic works for all ages and audiences. Although larger in scale these productions maintain the attention to detail, intimacy and clear communication, which are so effective in school productions. Theatr na n’Óg has developed an extensive outreach programme including drama clubs, workshops and drama training.

15 Theatre for Young People in Wales


Llun gan / Image by Keith Morris

Theatr Powys

Trwy gyfrwng ffurfiau celfyddyd y theatr a drama, mae Theatr Powys yn cynnig cyfle dwys i’r unigolyn ac i gymdeithas ymchwilio a mynegi ei hun; mae’n creu stori sy’n cyffroi meddyliau yr hen a’r ifanc fel ei gilydd a hynny mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau cymunedol ac addysgol. Mae’r cwmni wedi ymrwymo i greu gwaith newydd, i ddyfeisio’i raglen Theatr mewn Addysg ac i gomisiynu gwaith newydd ar gyfer cynulleidfaoedd yn y gymuned. Yn ei waith mae’r cwmni yn ceisio adlewyrchu ac ymateb i’r symudiadau a’r newidiadau sy’n digwydd yn y byd; dyma’r pethau sydd yn y pen draw yn penderfynu sut y byddwn yn byw ac yn ffurfio ein gwerthoedd. Mae rôl y dychymyg yn natblygiad pobl ifanc yn ganolog i ymdrechion artistig ac addysgol y cwmni.

Llun gan / Image by Keith Morris

Nikki Leopold Rheolwr Cyffredinol / General Manager Theatr Powys Y Ganolfan Ddrama / The Drama Centre Ffordd Tremont / Tremont Road Llandrindod Wells Powys LD1 5EB T +44 (0)1597 824444 F +44 (0)1597 824381 theatr.powys@powys.gov.uk www.theatrpowys.co.uk

Through the art forms of theatre and drama, Theatr Powys provides the opportunity for profound individual and social exploration and expression; creating a story that stirs the minds of young and old alike in a broad variety of community and educational contexts. The company is committed to producing new work, devising its Theatre in Education programmes and commissioning new writing for community audiences. The company works to be reflective of and responsive to the movements and changes taking place in the world; those that ultimately determine how we live and which shape our values. The role of the imagination in the human development of young people is central to the company’s artistic and educational endeavour.

Mae’r cwmni yn ceisio bod yn reddfol ac yn ddychmygus fyw i anghenion corfforol, gwybyddol, emosiynol ac ysbrydol y boblogaeth i gyd, ac yn arbennig y bobl ifanc.

Theatr Powys works to remain imaginatively and intuitively alive to the physical, cognitive, emotional and spiritual needs of all people and, in particular, of the young.

16 Theatr i Bobl Ifanc yng Nghymru

17 Theatre for Young People in Wales


Llun gan / Image by Kirsten McTernan

Clwyd Theatr Cymru Theatr ar gyfer Pobl IFanc / Theatre for young people

Mae Clwyd Theatr Cymru, Theatr ar gyfer Pobl Ifanc wedi ymrwymo i ysbrydoli a herio pobl ifanc trwy greu cynyrchiadau theatr a phrosiectau cyffrous a phroffesiynol. Mae dwy thema yn ganolog i’w gwaith: hawliau’r plentyn, a dinasyddiaeth trwy ddeall ein diwylliant ein hunain (diwylliant dwyieithog lleiafrifol yn y DU) a diwylliannau eraill ar draws y byd. Maent yn rhan o’r ganolfan theatr a chelfyddydau fwyaf yn Nghymru ac maent yn ymdrechu i gynyddu cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc i weld a chyfranogi mewn theatr o’r radd flaenaf – yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Dros y tair blynedd nesaf, dylanwadir ar ei gwaith gan ymchwiliadau y Cyfarwyddwr Artistig i arfer theatr mewn cenhedloedd bychain eraill ar draws y byd – ymchwil wnaed yn bosibl gyda dyfarniad Cymru Greadigol. Penllanw hyn fydd cynulliad rhyngwladol o artistiaid a phobl ifanc yma yng Nghymru. Mae’r cwmni yn aelod o Assitej Rhyngwladol a’r Asiantaeth Cenedlaethol Theatr ar gyfer Pobl Ifanc yng Nghymru. 18 Theatr i Bobl Ifanc yng Nghymru

Llun gan / Image by Kirsten McTernan

Nerys Edwards Gweinyddwr Addysg / Education Administrator Clwyd Theatr Cymru Yr Wyddgrug / Mold CH7 1YA T +44 (0)1352 701575 nerys.edwards@clwd-theatrcymru.co.uk www.ctctyp.co.uk

Clwyd Theatr Cymru, Theatre for Young People is dedicated to inspiring and challenging young people by creating exciting, professional theatre productions and projects. Two themes dominate their work: the rights of the child, and citizenship through understanding both our culture (bi-lingual minority culture in the UK) and other cultures worldwide. They are part of the largest producing theatre and arts complex in Wales where they strive to increase opportunities for young people to see and participate in truly great theatre locally, nationally and internationally. Over the next three years their work will be influenced by the Artistic Director’s explorations of theatre practice in other small nations worldwide – made possible through a major Creative Wales award. This will culminate in an international gathering of artists and young people here in Wales. The company is a member of Assitej International and the National Agency of Theatre for Young People in Wales.

19 Theatre for Young People in Wales


Llun gan / Image by Toby Farrow

Sherman Cymru

Sherman Cymru yw unig theatr gynhyrchu yng Nghaerdydd a thros flynyddoedd lawer bu’n creu ac yn teithio theatr gyffrous, gymhellgar a chofiadwy i gynulleidfaoedd iau ac i bobl ifanc. Mae’r cwmni yn awyddus i greu gwaith cyfoethog ei wead fydd yn berthnasol i fywydau pobl ifanc ac yn gallu cipio a boddhau dychymyg ei gynulleidfaoedd. Mae’r cynyrchiadau yn cael eu creu a’u cynllunio ar gyfer amrywiaeth o ganolfannau perfformio gan feddu ar yr hyblygrwydd technegol angenrheidiol i’w llwyfannu mewn teithiau byr neu hir. Mae gwaith diweddar y cwmni yn cynnwys Cinders a Plum (...and me Will!), y ddau wedi eu cyfansoddi a’u cyfarwyddo ar gyfer plant dan 7 oed gan Louise Osborn, ac addasiad Gary Owen o A Christmas Carol ar gyfer plant 7 oed i fyny. Yn ystod 2010 bydd y cwmni yn ymuno â Theatr Iolo i gynhyrchu Snow Child/Plentyn Eira, sioe fydd yn cael ei chreu gan Sarah Argent, Dafydd James a Kevin Lewis.

20 Theatr i Bobl Ifanc yng Nghymru

Llun gan / Image by Toby Farrow

Chris Ricketts Cyfarwyddwr / Director Sherman Cymru Ffordd Senghennydd / Senghennydd Road Caerdydd / Cardiff CF24 4YE T +44 (0)29 2064 6900 www.shermancymru.co.uk

Sherman Cymru is Cardiff’s only producing theatre and has for many years been creating and touring adventurous, compelling and memorable theatre for younger audiences and young people. The company seeks to produce richly textured work that engages with the lives of young people and has the ability to capture and delight its audiences’ imagination. Productions are created and designed for a variety of performance environments and with the technical flexibility for shorter or longer runs in tour venues. Recent work includes Cinders and Plum (…and me Will!), both written and directed for the under 7s by Louise Osborn, and Gary Owen’s adaptation of A Christmas Carol for ages 7 and above. During 2010 the company will be joining forces with Theatr Iolo to produce Snow Child/Plentyn Eira which will be created by Sarah Argent, Dafydd James and Kevin Lewis.

21 Theatre for Young People in Wales


Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Cyngor Celfyddydau Cymru

Wales Arts International

Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru’n cefnogi hyrwyddo a datblygu ymarfer cyfoes, proffesiynol ar draws yr holl ffurfiau ar gelfyddyd, trwy annog deialog ryngwladol trwy weithio’n gydweithredol ac mewn partneriaeth. Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru’n bartneriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Cyngor Prydeinig.

Arts Council of Wales

Plas Bute / Bute Place, Caerdydd / Cardiff, CF10 5AL

Am wybodaeth pellach ynglun a theatr yng Nghymru, ewch i: www.wai.org.uk/Cyfeiriadur

Plas Bute / Bute Place, Caerdydd / Cardiff, CF10 5AL

T +44 (0)29 2044 1367 F +44 (0)29 2044 1400 www.wai.org.uk info@wai.org.uk

Wales Arts International supports the promotion and development of contemporary professional practice across all art-forms, by encouraging international dialogue through collaboration and partnership working. Wales Arts International is a partnership between the Arts Council of Wales and the British Council. For further information on theatre in Wales, please visit: www.wai.org.uk/Cultural

T +44 (0)845 8734 900 F +44 (0)29 2044 1400 www.celfcymru.org.uk www.artswales.org.uk info@artswales.org.uk

Agor Drysau Opening Doors

Cyngor Prydeinig British Council 10 Spring Gardens, Llundain / London, SW1A 2BN T + 44(0) 20 7930 8466 F +44(0) 20 7389 6347 www.britishcouncil.org

Y Cyngor Prydeinig yw asiantaeth y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Maent yn creu ymrwymiad a ffydd ar ran y DU drwy gyfnewid syniadau a gwybodaeth rhwng pobl ledled y byd.

Cwmni Theatr Arad Goch / Arad Goch Theatre Company Stryd y Baddon, Aberystwyth, SY23 2NN T +44 (0)19 7061 7998 F +44 (0)19 7061 1223

The British Council is the United Kingdom’s organisation for cultural relations and educational opportunities. They build engagement and trust for the UK through the exchange of knowledge and ideas between people worldwide.

22 Theatr i Bobl Ifanc yng Nghymru

agor.drysau@aradgoch.org

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru’n gyfrifol am ariannu a datblygu’r celfyddydau yng Nghymru. Mae’r Cyngor yn derbyn ei gyllid gan ddwy ffynhonnell wahanol: Llywodraeth Cynulliad Cymru, fel Corff Cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad a chan Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU fel dosbarthwr y Loteri. The Arts Council of Wales is responsible for funding and developing the arts in Wales. The Council receives its funding from two different sources: the Welsh Assembly Government as an Assembly Sponsored Public Body and from the UK Government’s Department for Culture, Media and Sport as a Lottery distributor.

ˆ yl Theatr Rhyngwladol Mae Agor Drysau yn W Cymru i Gynulleidfaoedd Ifanc. Trefnir yr w ˆ yl gan Gwmni Theatr Arad Goch sy’n cael ei gynnal pob yn ail flwyddyn yn Aberystwyth. Mae’r wˆyl yn arddangos y gorau mewn cynyrchiadau theatr i bobl ifanc gan cwmnïau yng Nghymru a led y byd. Opening Doors is the Wales International Festival of Theatre for Young Audiences. The festival is organised by Cwmni Theatr Arad Goch and held biannually in Aberystwyth. The festival showcases the best in theatre productions for young people by companies from Wales and around the world.

www.agordrysau-openingdoors.org

23 Theatre for Young People in Wales


design / dylunio elfen.co.uk

24 Theatr i Bobl Ifanc yng Nghymru

www.wai.org.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.