NEWYDDION
gan Gwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru
Hydref 2015
Gwasanethau prawf sy’n lleihau aildroseddu ac yn gwneud pobl Cymru yn saffach
Y siop sy’n newid bywydau
merched
Mae siop un stop ar gyfer dioddefwyr trais domestig yn helpu merched sydd ar brawf i drawsnewid eu bywydau Mae Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru yn defnyddio Siop Un Stop Trais Domestig Abertawe fel canolfan i ddarparu gwasanaethau prawf wedi eu hanelu'n benodol at ferched. Mae rhai o’r merched - sydd efallai wedi dioddef trais domestig eu hunain - wedi elwa gymaint o’r cwrs a fynychwyd fel rhan o’u dedfrydau cymunedol, maent yn parhau i ymweld er eu bod
wedi cwblhau eu dedfrydau. Maent wedi creu tudalen Facebook i gadw mewn cysylltiad a chefnogi ei gilydd, ac mae nifer ohonynt wedi gofyn i gael rhoi eu henwau ymlaen ar gyfer cyrsiau gwirfoddoli dan ofal Hafan Cymru, sef cymdeithas dai elusennol sydd wedi'i leoli y tu ôl i'r siop un stop a chyferbyn â Theatr y Grand Abertawe. Agorwyd yr adeilad yn swyddogol gan Leighton Andrews Gweinidog dros Faterion Cyhoeddus Llywodraeth Cymru, diwedd mis Medi. Mae Llywodraeth Cymru wedi helpu i ariannu’r ganolfan, ynghyd â’r Loteri Fawr a roddodd bron i £1miliwn. Mae’n adeilad golau a braf i Trowch i dudalen 2
Mae Isod mae tîm Siop Un Stop Trais Domestic Abertawe, Rachael Edwards Rheolwr Tîm; Kate Hooch, Swyddog Gwasanaeth Prawf, Hannah Lewis, Hwylusydd; Justine Schubert, Swyddog Prawf a Carly James Grey, Hwylusydd, ag uchod,Leighton Andrews, Gweinidog Materion Cyhoeddus Cynulliad Cymru a lansiodd y gwasanaeth
@WalesCRC
16.6
y cant o’r 9175 o bobol rydym yn ei rheoli ar draws Gymru yn fenywaidd
Awst 2015
www.walescrc.co.uk
Cylchlythyr Hydref 2015
Cydweithio i newid bywydau Wrth i chi edrych drwy’r cylchlythyr hwn gobeithio y byddwch chi’n gweld ein hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth, boed hynny gydag elusennau, awdurdodau lleol, carchardai neu bartneriaid cyfiawnder troseddol eraill. Mae cydweithio yn ein galluogi i ddarparu help sy’n fwy effeithiol i ddefnyddwyr gwasanaeth. Mae cael y cymorth iawn gan yr asiantaeth iawn ar yr adeg iawn ac yn lleoliad iawn yn gallu gweddnewid bywydau. Gyda phartneriaid rydyn ni wedi helpu i siapio rhai prosiectau arbennig o arloesol a dros y tudalennau nesaf cewch gyfle i ddarllen am rai ohonyn nhw. Maen nhw’n amrywio o undeb credyd i annog carcharorion i agor cyfrifon banc a chynilo ar gyfer y dyfodol i siop un stop lle gall dioddefwyr camdrin domestig gael yr holl gefnogaeth maen nhw ei hangen o dan un to. Rydyn ni hefyd wedi tynnu sylw at rôl gadarnhaol hybiau cymunedol, gan ein galluogi i fynd â gwasanaethau prawf yn agosach at lle mae pobl yn byw a rhoi mynediad haws iddynt nid yn unig at gefnogaeth ymarferol ond cefnogaeth gymdeithasol hefyd, gan eu helpu i ailintegreiddio a bod yn aelodau sy’n cael eu cynnwys yn eu cymunedau lleol. Wrth i ni symud ymlaen byddwn yn parhau i
gydweithio â chi i lunio gwasanaethau cynaliadwy sy’n gwneud gwahaniaeth ac sy’n newid bywydau. Rydyn ni’n gobeithio sefydlu byrddau comisiynu lleol er mwyn ein helpu i ddeall pa wasanaethau sydd eisoes yn cael eu cynnig ym mhob ardal a sut gallwn ni ddarparu gwerth ychwanegol. Fel cwmni Working Links ein hymrwymiad parhaus ydy cydweithio â phartneriaid i leihau eithrio cymdeithasol. Rydyn ni eisiau gweld rhagor o’r rheini rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn cyflawni eu potensial llawn ac yn yr un modd a welir gyda’r enghreifftiau yn y cylchlythyr hwn, sicrhau bod cynnydd yn cael ei gydnabod a’i wobrwyo. Liz Rijnenberg Cyfarwyddwr Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru
Parhad o dudalen 1
i ferched ddod i gael cymorth gyda phob math o bethau megis cymorth i ddioddefwyr a chyngor ar dai. Mae gan CAC Cymru ddau reolwr troseddwr llawn amser i ferched yno, ac maent yn cyflogi dau hwyluswr ar gyfer cyrsiau prawf i ferched yn unig a adnabyddir fel Gofyniad Gweithgaredd Adsefydlu. Dywedodd Hannah Lewis, un o'r hwyluswyr: “Mae’r Gofyniad Gweithgaredd Adsefydlu i Ferched yn ddull sy'n seiliedig ar eu cryfderau, i ddatblygu sgiliau presennol y merched a’u galluogi hwy i wneud newidiadau yn eu bywydau, fel eu bod yn llai tebygol o wneud penderfyniadau sy’n destun gofid ac aildroseddu. Rydym yn eu hannog i gael gwared â’u teimladau negyddol ac adnabod sut y gallant symud ymlaen. “Mae cwrdd yma yn eu helpu i ddatblygu grwpiau o ffrindiau sy’n ferched a gallwn deilwra
Cysylltwch â ni 2
sesiynau ar gyfer eu hanghenion unigol. Nid ydynt yn gweld gwaith prawf fel cosb ond fel ffordd o gael cymorth ac adeiladu ar fod yn fwy cadarnhaol. Pan fyddant wedi cwblhau eu Gofyniad Gweithgaredd Adsefydlu, gallant gymryd mantais o wasanaethau eraill.” Dywedodd Kate Hooch, Swyddog Gwasanaethau Prawf: “Nid yw merched yn cael eu beirniadu pan ddônt yma, ac mae’r dull amlasiantaethol yn golygu y gallwn roi’r cymorth y mae arnynt eu hangen. Rydym yn teimlo eu bod yn ymgysylltu o ddifrif gyda ni, yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu cefnogi, ac maen nhw eisiau dod yma.” Mae rhannu’r adeilad gydag asiantaethau eraill wedi caniatáu staff prawf i rannu syniadau a chanfod cyfleoedd newydd i gefnogi merched. Ochr yn ochr â sesiynau magu hyder a gwella sgiliau cyflogi, gall
y merched gymryd rhan mewn dosbarthiadau celf a chrefft, tai chi a choginio. Dywedodd Sharon* yr oedd gan ganddi “ofn” pan ddaeth i’r ganolfan ar ei diwrnod cyntaf, ond erbyn hyn nid yw eisiau gadael, er ei bod wedi cwblhau ei Gofyniad Gweithgaredd Adsefydlu. "Doeddwn erioed wedi bod mewn helynt tan eleni, ac ar fy niwrnod cyntaf yma mi wnes i lefain. Roeddwn eisiau cau fy hun mewn ystafell i ffwrdd o bawb. Roeddwn yn arfer cadw pethau i mi fy hun, ond erbyn hyn rwyf eisiau siarad am fy mhrofiadau ac rwyf ar fin dechrau sesiynau cwnsela. “Mae gennyf fwy o hyder ers dod yma, ac rwy'n parhau i ddod yma bob wythnos i sgwrsio dros baned. Gwirfoddolais yr wythnos diwethaf i siarad â merched sydd newydd ddechrau yma ynglŷn â’r ffordd y mae wedi fy helpu i.
Gobeithio y byddwch yn gweld y cylchlythyr yma yn ddefnyddiol. Os oes gennych unrhyw sylw am y cynnwys plîs cysylltwch â wls.communications@wales.probation.gsi.gov.uk
@WalesCRC
www.walescrc.co.uk
Cylchlythyr Hydref 2015
Cadw pethau’n lleol
Gweithio mewn Partneriaeth
awyrgylch braf iawn. Mae hynny ynddo’i hun yn cael effaith ar lwyddiant ein gwaith, fel yr esbonia Becky: “Mae posib ymlacio’n braf yma ac mae gen i ystafell ar gael i mi drwy’r dydd ac rydw i’n gallu treulio mwy o amser gyda’r troseddwyr sydd angen hynny. Maen nhw Mae’n hawdd cerdded heibio i ddrws Ty wedi bod yn fwy parod i fod yn agored am bethau a Hartshorn heb sylwi arno hyd yn oed, pheidio â bod mor warchodol. Os ydyn nhw’n ypsetio, ond ychydig oddi ar brif stryd Maesteg does dim ots, oherwydd dydyn nhw ddim yn mynd i mae canolfan gymunedol yn darparu llu o weld pobl maen nhw’n eu hadnabod yn yr ystafell aros. wasanaethau i bobl agored i niwed. “Rydyn ni’n gweithio gyda phrosiect Cymunedau yn Ac nid yw’r arwydd cynnil sy’n darllen Gyntaf a Phrosiect Cwm Llynfi 20, sydd wedi cael yr ‘Gwasanaeth Iechyd a Lles’ yn rhoi unrhyw enw yma am eu bod nhw’n dweud bod y bobl sy’n byw gliw am beth sydd y tu ôl iddo. Ond yma mae yma’n marw 20 mlynedd yn rhy gynnar. Mae cynlluniau posib cael cefnogaeth gyda chamddefnyddio alcohol a chyffuriau, i gyn-filwyr a’u teuluoedd, i gyfeirio pobl oddi wrth gyffuriau drwy roi iddyn nhw fwy o weithgareddau cymunedol i’w gwneud, fel i’r rhai sy’n dioddef trais domestig, pobl sydd garddio a therapi celf. Mae cynlluniau hefyd ar gyfer wedi colli anwyliaid, yr henoed ac eraill. gwersi coginio, cardiau ryseitiau a help gyda banciau Fis Mawrth eleni, daeth hefyd yn gartref bwyd. Y nod yn y tymor hir yw i’r rhain gael eu rhedeg am ddeuddydd yr wythnos i Becky Phillips, gan bobl yn y gymuned sydd wedi dod drwy broblemau Swyddog Gwasanaethau Prawf gyda CRC fel camddefnyddio cyffuriau eu hunain o bosib, ac Cymru, sy’n gallu cynnal apwyntiadau prawf sy’n gallu helpu i gefnogi eraill i wneud yr un peth,” yng nghalon y gymuned erbyn hyn. Mae’n dywedodd. golygu nad oes raid i droseddwyr dreulio dwy Bydd Stevie*, sydd ar brawf ar hyn o bryd am awr neu fwy yn teithio i’r swyddfeydd prawf ym droseddau lladrata o siopau, yn cael help gan Dîm Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn ôl ac mae hynny’n Cyffuriau ac Alcohol y Gymuned wrth iddo geisio rhoi’r golygu eu bod yn fwy tebygol o gadw at eu gorau i gymryd heroin. hapwyntiadau. “Mae’n llawer gwell dod yma. bob cam i Ben-y-bont Ond mae llawer mwy i’r ganolfan gymunedol ar Ogwr,lle roeddwn i’n taro ar bobl ac yn dechrau na chydymffurfio yn unig. Yn Nhŷ Hartshorn, defnyddio eto.Mae’n llawer brafiach yma ac fe fydda’ sy’n cael ei gyllido gan Lywodraeth Cynulliad i’n cael yr help rydw i ei angen.” Cymru a Chyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr a’i weithredu gan G4S, mae cefnogaeth ar gael i *Rydym wedi newid ei enw droseddwyr gan 37 o wahanol asiantaethau, i’w helpu i newid eu hymddygiad er gwell. Mae Becky, a’r Swyddog Prawf Sarah Hopkins, yn gweithio ochr yn ochr â Thîm Cyffuriau ac Alcohol y Gymuned, er enghraifft, drwy sicrhau bod y rhai sydd angen help arbenigol yn gallu ei gael. Mae merched agored i niwed yn gallu cael help gyda phopeth o drais domestig i ymdopi â cholli babi yn y groth. Mae’r cyfleoedd rhwydweithio’n golygu bod yr asiantaethau’n gallu cydweithio’n rhwydd a cheir cynlluniau i droseddwyr ymuno â chyrsiau fel cymorth cyntaf, iechyd rhywiol a hyd yn oed arbed ynni yn Nhŷ Hartshorn. Darperir yr holl gefnogaeth mewn ystafelloedd golau ac agored, sydd wedi’u hadnewyddu’n ddiweddar, gydag
Darparu gwasanaethau prawf mewn adeiladau cymunedol
Becky Phillips hefo un o ddefnyddwyr gwasanaeth Tŷ Hartshorn
@WalesCRC
www.walescrc.co.uk
3
Cylchlythyr Hydref 2015
Gweithio mewn Partneriaeth
Mae’r fenter newydd ‘Drwy’r Giât’ yn golygu bod carcharorion bellach yn cael cymorth ychwanegol i ailsefydlu yn y gymuned, gyda’r gobaith y byddant yn llai tebygol o droseddu yn y dyfodol. Mae tîm CAC Cymru yng Ngharchar y Parc wedi bod yn esbonio sut mae’n gweithio Un o’r newidiadau pwysicaf sydd wedi digwydd yn y gwasanaeth prawf yn y blynyddoedd diwethaf yw cyflwyno gwasanaethau ailsefydlu sy’n cynnig cefnogaeth i bob troseddwr sy’n gadael y carchar. Cyn 1 Mai eleni, nid oedd gan droseddwyr oedd wedi cael dedfryd o lai na 12 mis yr hawl i gefnogaeth statudol, ond erbyn hyn gallant ddisgwyl cael cyngor a chymorth ymarferol i ddod o hyd i le i aros, rheoli eu harian a gwella eu siawns o gael gwaith. Mae cyngor arbenigol un i un ar gael hefyd i ddioddefwyr trais domestig a gweithwyr y fasnach ryw. Yng Ngharchar y Parc ger Pen-ybont ar Ogwr mae tîm hynod
4
@WalesCRC
brofiadol o bedwar o bobl, dau o Gwmni Adsefydlu Cymru a dau oedd yn arfer gweithio i gangen cyflogadwyaeth ein perchnogion Working Links , yn cydweithio i ddarparu’r gwasanaethau ailsefydlu hynny. Mae cryfderau’r tîm yn amrywio o wybodaeth helaeth o’r system fudddaliadau a chyfleoedd gwaith i weithio gyda throseddwyr rhyw a gwaith ar ymyriadau trais domestig. Mae anghenion pob troseddwr yn cael eu hasesu ar gychwyn eu dedfryd yn y carchar, ond darperir y rhan fwyaf o’r gefnogaeth yn ystod 12 wythnos olaf eu dedfryd, Yn ystod unrhyw gyfnod o 12 wythnos, mae tîm y Parc yn gyfrifol am ailsefydlu tua 270 o droseddwyr. Cynhelir sesiynau mewn ystafell ddosbarth i grwpiau o rhwng pump a deg o garcharorion, a rhoddir cefnogaeth un i un i atgyfnerthu’r rhain. Rydym hefyd yn cydweithio â phartneriaid, megis Banc Barclays sy’n ein helpu i roi gwersi ar reoli arian, ac n-ergy – sef asiantaeth gyflogaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy’n arbenigo mewn helpu troseddwyr i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i ddod o hyd i waith. Datblygwyd y modiwl tai gyda mewnbwn gan Lywodraeth Cymru er mwyn rhoi ystyriaeth i newidiadau i’r Ddeddf Tai a statws blaenoriaeth. Mae’n cynnwys cyngor ar sut i fod yn denant da ac mae wedi’i gynllunio i’w wneud yn haws i droseddwyr ddod o hyd i landlord sy’n fodlon rhoi lle i fyw iddynt wedi iddynt gael eu rhyddhau. Mae CAC Cymru wedi rhoi contract i Ymddiredolaeth St Giles i ddarparu gwasanaethau ailsefydlu tebyg yng Ngharchardai EM Abertawe, Caerdydd, Stoke Heath a Phrescoed, ac mae Cymru Ddiogelach yn darparu’r un math o wasanaeth i’r merched yng Ngharchar EM
www.walescrc.co.uk
Cylchlythyr Hydref 2015
Cynllun newydd i dorri ail-droseddu yn gweithio’r tu-ol a thu hwnt i
giatiau’r carchar Eastwood Park. Dywedodd Wayne Driscoll, Rheolwr Tîm gyda CAC Cymru, sydd wedi chwarae rhan allweddol wrth sefydlu’r gwasanaethau ailsefydlu Drwy’r Giât yng Ngharchar y Parc: “Mae tua 80% o’n gwaith gyda charcharorion yn waith un i un, oherwydd bod eu hanghenion ailsefydlu’n amrywio cymaint. Bydd y tîm yn gwneud apwyntiadau yn y gymuned ar eu cyfer ac yn esbonio ble mae angen iddynt fynd wedi iddynt gael eu rhyddhau. Dywedodd Lisa Llewellyn, swyddog gwasanaethau prawf: “Os oes ganddynt lawer o anghenion byddwn yn treulio llawer o amser gyda nhw. Byddwn hefyd yn trefnu bod y swyddog ar eu hadain yn paratoi datganiad ar eu hymddygiad a’u hagwedd, ac mae hynny’n gallu bod yn ddefnyddiol iawn i’w rheolwr troseddwyr a fydd yn delio â’u hachos wedi iddynt gael eu rhyddhau.” Wedi iddynt gael eu rhyddhau, bydd troseddwyr
yn cael cefnogaeth barhaus yn y gymuned gan eu rheolwr troseddwyr. Yn achos pobl hynod fregus, megis merched, rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl, rhai sydd wedi cael eu bwlio yn y carchar neu wedi hunan-niweidio a rhai syd â hanes o ddiffyg cydymffurfio, efallai y byddant hefyd yn cael mentor i’w helpu i ail-integreiddio yn y gymuned yn ystod eu hamser mwyaf bregus. Mae’r mentoriaid hynny’n dod i’w cwrdd wrth giât y carchar, yn mynd â nhw i’w llety newydd, yn eu helpu i lenwi ffurflenni budd-daliadau ac yn dweud wrthynt ble i gael cymorth yn y gymuned. Drwy gysylltu’n fuan â Chanolfan Byd Gwaith, gellir eu cyfeirio i’r rhaglen waith yn ystod eu wythnos gyntaf allan o’r carchar. Mae Wayne Driscoll, sydd â nifer o flynyddoedd o brofiad o weithio mewn carchardai, yn gwybod faint o her yw ceisio lleihau aildroseddu. “Mae angen ysgogi troseddwyr ac mae angen rhoi cefnogaeth iddynt fel eu bod yn gallu newid. Ein her fwyaf yw gweithio gyda’r rhai sydd heb gymhelliant, y rhai sy’n meddwl bod eu troseddau’n golygu eu bod mewn sefyllfa barhaol o fethu gael eu cyflogi, ond gallwn ni gynnig y cyfle a’r broses i roi ail gyfle i rywun.”
Wayne Driscoll gyda Helen Brookes a Lisa Llewellyn.
@WalesCRC
www.walescrc.co.uk
5
Cylchlythyr Hydref 2015
Gweithio mewn Partneriaeth
Gweinidog y Cynulliad Lesley Griffiths yn cyfarfod un o garcharwyr sydd yn cynilo hefo Prosiect Carcharorion yr Undeb Credyd. Mewnosodiad : Y Gweinidog yn cyfarfod Nichola Evans o Ymddiriedolaeth St Giles.
Bancio Mae’r Gweinidog Cynulliad, Lesley Griffiths wedi canmol prosiect undeb credyd sy’n helpu carcharorion i reoli eu harian tra’u bod yn cyflawni dedfryd yng Ngharchar EM Abertawe. Cwmni Adsefydlu Cymunedol (CAC) Cymru a Working Links sy’n cyflwyno Prosiect Carcharorion yr Undeb Credyd fel rhan o’u gwasanaethau ailsefydlu drwy Ymddiriedolaeth St Giles. Mae’n annog carcharorion i gynilo gydag Undeb Credyd LASA (Benthyciadau a Chynilion Abertawe) fel eu bod mewn sefyllfa well yn ariannol pan maent yn gadael y carchar. Dan y cynllun, mae pob carcharor yn cael y cyfle i wneud cais am gyfrif gyda’r undeb credyd yn ystod eu hasesiad cychwynnol gydag Ymddiriedolaeth St Giles, sy’n darparu cefnogaeth Drwy’r Giât i’r holl droseddwyr sy’n gadael y carchar ar ran CAC Cymru. Trwy gydol eu dedfryd, mae carcharorion sy’n cymryd rhan yn y cynllun yn gallu cynilo arian yn eu cyfrif. Wedi iddynt gael eu 6
@WalesCRC
ar ddyfodol
disglair
rhyddhau, maent yn cael cerdyn debyd VISA, sydd wedi ei dalu ymlaen llaw, y gallant ei ddefnyddio ochr yn ochr â’u cyfrif cynilion Undeb Credyd. Mae mwy na £124,000 wedi bod ar gael drwy’r cardiau debyd i droseddwyr wrth gael eu rhyddhau o’r carchar. Mae llawer o gyn-garcharorion yn cael trafferth i agor cyfrif gyda banc ar y stryd fawr, ac felly mae cyfrifon undebau credyd yn ddewis arall gwych. Mae bron i 600 o garcharorion bellach yn rhan o’r cynllun poblogaidd ac wedi cofrestru gyda LASA. Ymwelodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi â Charchar EM Abertawe, i weld sut mae’r prosiect yn rhoi budd i garcharorion, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach. Fe’i cyflwynwyd i un troseddwr sy’n cynrychioli’r undeb credyd ymysg ei gyd-garcharorion ar yr adain. Esboniodd: “Mae’r undeb credyd yn beth da i garcharorion. Nid yw llawer ohonynt wedi cael cyfrif banc yn y gorffennol ac
mae’r syniad yn codi ofn arnynt. Ond, unwaith maent yn agor cyfrif gyda’r undeb credyd, maent yn sylweddoli pa mor hawdd a defnyddiol ydyw.” Dywedodd Lesley Griffiths: “ “Fel yr wyf wedi’i weld heddiw, gall undebau credyd fod o fudd arbennig i garcharorion. Mae’r bartneriaeth rhwng LASA a Charchar EM Abertawe yn caniatáu carcharorion i adael y ddalfa gyda chynilion a chyfrif cyfredol. Yn ei dro, mae’n helpu cyn-garcharorion i ddod yn rhan o gymdeithas unwaith eto, er enghraifft, ei wneud yn haws iddynt dalu eu rhent a chael cyflog am waith – sef ffactorau pwysig wrth leihau aildroseddu. “Rydym yn gwybod bod effaith y prosiect yn eang iawn, mae’n darparu sefydlogrwydd nid yn unig i garcharorion, ond i’w teuluoedd a’u cymunedau hefyd.” Dywedodd Liz Rijnenberg, Prif Weithredwr CAC Cymru: “Mae gennym gyfle gwych i ddefnyddio Undeb Credyd Carcharorion Abertawe fel arfer gorau mewn carchardai eraill yng Nghymru.
www.walescrc.co.uk
Cylchlythyr Hydref 2015
Gwasanaethau Mae'r fersiwn diweddaraf o'n cyfeirlyfr gwasanaethau wedi ei gyhoeddi ar ein gwefan. Gallwch weld yr ystod eang o ymyriadau sydd ar gael ar hyn o bryd i'w prynu, ynghyd â chanlyniadau bwriadedig, a’r ardaloedd lle cânt eu darparu a phwy a all fanteisio o'r ymyriadau
hyn. Ar dudalen 10 o’r cyfeirlyfr, ceir restr o'n rhaglenni ymddygiad sydd wedi eu hachredu gan y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr, ac maent yn cynnwys: • Creu Gwell Berthnasoedd, sydd yn unol â “Rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched: Cynllun Gweithredu 2011-2015’ • Rhaglen Gyrwyr dan ddylanwad Alcohol (DID) • Rheoli Trais ar gyfer Yfwyr Byrbwyll a Chas • Rhaglen Meithrin Sgiliau Adfer (BSR) • Rhaglen Sgiliau Meddwl (TSP), gallwch ddarllen amdanynt ar dudalen 10. Mae ein gwasanaethau dewisol yn delio ag amryw o bynciau sy’n helpu o ran: • llety • addysg, hyfforddiant a chyflogaeth • cyllid, budd-daliadau a dyled a • chamddefnyddio sylweddau Mae rhai o'r ymyriadau hyn yn cael eu darparu
gan bartneriaid ac unigolion cefnogi a ddewiswyd yn ofalus i gyflawni camau cadarnhaol newid bywyd. Fe gewch ragor o wybodaeth am ein prosiectau Gwneud Iawn yn y Gymuned, a gwasanaethau ailsefydlu a lansiwyd yn ddiweddar sydd i’w weld ar dudalen 11. Dywedodd Paul Hindson Rheolwr Gyfarwyddwr UK Justice: “Byddwn yn gweithio’n agos gyda’n defnyddwyr gwasanaethau i sicrhau bod y datrysiadau’n addas ar eu cyfer wrth iddynt symud During August 2015 some 61,734 ymlaen tuag at fanteisio i’r eithaf ar euhours potensial. of unpaid workhyn have beenwedi undertaken, I’n helpu i wneud rydym datblygu model of which 8549 wasgwasanaeth for Voluntary Sector personol o ddarparu sy’n caniatáu Organisations across Wales through llawer o ddisgresiwn i ymarferwyr a defnyddwyr Community Payback. The value this yn gwasanaethau wrth benderfynu bethoffydd work is £55,568* gweithio orau iddynt hwy, yn unol â’r adnoddau Organisations include, Scope, Red sydd ar gael. Bydd adborth ganBritish ddefnyddwyr Cross, Age Cymru, Ty Hafan, Barnados, y gwasanaethau a’r effaith mae ein ymyriadau yn Research, RSPCA andwrth YMCA. caelCancer ar fywydau pobl yn hanfodol inni symud *Value based onein National minimum Wage ymlaen â datblygu gwasanaethau. Fodd bynnag, rydym hefyd eisiau i’r cyfeirlyfr hwn gael amryw o ddefnyddiau sy'n addas i bob cynulleidfa. Gyda hyn mewn cof, ein huchelgais yw sicrhau bod ein gwasanaethau ar gael i bawb a fyddai’n eu gwerthfawrogi, nid yn unig y bobl a ddedfrydwyd gan lys. Rydym yn gweld hyn fel cam cyntaf ymlaen tuag at wireddu ein huchelgais. Gallwch lawr lwytho ein cyfeirlyfr gwasanaethau diweddar oddi ar ein gwefan yn http://walescrc.co.uk/service-directory.
Mae eich barn yn cyfrif Fel sefydliad, mae Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru yn awyddus i wybod beth mae ein partneriaid yn feddwl o’n gwaith a sut y gallwn wneud y gorau i ddatblygu ar gyfer y dyfodol. Felly, yn ystod y misoedd nesaf byddwn yn anfon gohebiaeth i rai o’n partneriaid yn eich gwahodd i gymryd rhan yn ein Harolwg Ymgysylltu â Rhanddeiliaid blynyddol. Y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr sydd wedi
@WalesCRC
i chi
llunio’r arolwg. Dyma eich cyfle chi i roi adborth ar y ffordd yr ydych yn credu ein bod yn perfformio wrth ddarparu gwasanaethau cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Bydd adborth gan eich sefydliad yn ein galluogi i asesu ein perfformiad ar y ffordd y credwch yr ydym yn perfformio ac yn ein helpu i lunio’r dyfodol a datblygu ein blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.
61,734
o oriau gwaith di-dâl gyfartal a £55,568* wedi ei gyflawni ar draws Gymru drwy waith Gwneud Yn Iawn a’r Gymuned Mae’r sefydliadau i elwau yn cynnwys Scope,Y Groes Goch Brydeinig,Age Cymru,Ty Hafan,Barnados,Ymchwil Canser,RSPCA a’r YMCA *Gwerth yn seiliedig ar y Cyflog Lleiafswm Cenedlaethol
August 2015 August 2015
www.walescrc.co.uk
7
Cylchlythyr Hydref 2015
Spotlight
DYFED POWYS
DE CYMRU
Newyddion o Gymru
Mae chwech o gyn-filwyr sydd wedi’u hanafu yn gwneud taith elusennol o 1,000 o filltiroedd ledled Prydain ac mae eu llwybr drwy ganolbarth Cymru wedi cael ei wneud yn fwy diogel, diolch i’r gwasanaethau prawf. Treuliodd tîm bychan o Gwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru ddiwrnod yn clirio mwy na 30 bag o wydr wedi torri, poteli, caniau, darnau o geir a sbwriel arall o ardal Epynt yn Aberhonddu - ddiwrnod cyn i’r grŵp Walking With The Wounded o gerddwyr gyrraedd Aberhonddu. Noddwr y cerddwyr yw’r Tywysog Harry ac fe’u gwelwyd yn cyrraedd Aberhonddu ddydd Gwener Medi 25ain fel rhan o’u taith gerdded elusennol o’r Alban i Balas Buckingham. Bydd y llwybr yn mynd â hwy o’r B4520 ar draws mynydd Epynt i Lanfair-ym-Muallt. Trefnwyd y diwrnod casglu sbwriel yn Aberhonddu gan Rachel Palmer, swyddog prosiect Cadwch Gymru’n Daclus ar gyfer De Powys, fel rhan o ymgyrch y sefydliad yn erbyn bwydo gwylanod, sy’n cael ei chynnal drwy gydol mis Medi. Dros gyfnod o bum awr, cliriodd y goruchwylydd Rod Evans a throseddwr, sydd wedi cael ei ddedfrydu gan y llysoedd i wneud gwaith digyflog, ddarnau o geir, metel, hen barasol a chonau traffig a oedd wedi cael eu gadael yn anghyfreithlon. Dywedodd Rachel Palmer: “Rydyn ni’n falch o gael gweithio mewn partneriaeth â CAC Cymru yn Aberhonddu. Fe weithiodd y tîm mor galed.”
GOGLEDD CYMRU Cyflwynwyd Gwobr Iaith Gymraeg i Llinos Williams sydd yn Swyddog Prawf ym Mae Colwyn yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Drefaldwyn ar Ddydd Mawrth y 4ydd o Awst. Roedd Llinos (yn y llun) wrth ei bodd yn derbyn y wobr. Bu i Llinos, enillydd Gwobr Gymraeg Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru gael ei dewis oherwydd ei brwdfrydedd ac am hyrwyddo’r Gymraeg yn y gweithle. Mae hi’n achub ar bob cyfle posibl i hyrwyddo’r Iaith yn y swyddfa, ac mae’n cynnig gweithio gyda’i holl ddefnyddwyr gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg pe byddai’n well ganddyn nhw hynny. Mae hi hefyd yn cefnogi dysgwyr Cymraeg ac yn rhoi brawddegau syml iddyn nhw eu hymarfer. Roedd Meri Huws,Comisiynydd y Gymraeg yn y gynulleidfa ar gyfer y gwobrwyo, rhan o ddigwyddiad ym Mhabell y Cymdeithasau a drefnwyd gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi.
8
@WalesCRC
GWENT
Enillion troseddau
Mae troseddwyr wedi helpu i weddnewid darn o dir i fod yn noddfa gymunedol le gall plant a phobl ifanc dan anfantais gael therapi drwy ddysgu sut i ofalu am geirw Llychlyn, alpacaod ac anifeiliaid eraill. Roedd y troseddwyr wedi cael dedfryd i wneud gwaith yn y gymuned gyda Chwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru, a gwnaethant ymuno â gwirfoddolwyr yng nghanolfan Lylac Ridge yn Rhisga i adeiladu llociau a ffensiau i gadw’r anifeiliaid yn ddiogel. Sefydlwyd canolfan Lylac Ridge yn 2008 ac mae’n darparu therapi drwy gymorth anifeiliaid a rhaglenni lles ac addysg amgen lle gall plant, pobl ifanc, oedolion sydd ag anghenion dysgu a rhai sydd wedi cael eu gwahardd o’r ysgol ddysgu i ofalu am yr anifeiliaid a rhyngweithio gyda nhw. Agorwyd prosiect newydd y ganolfan yn swyddogol gan Paul Harris, Dirprwy Gomisiynydd www.walescrc.co.uk
Cylchlythyr Hydref 2015
Troseddwyr yn Community helpu Pontardawe i Payback gyflawni ei nod
C.P.D Pontardawe yn ei cae cartref a,mewnsodiad,tîm Gwneud yn Iawn a’r Gymuned yn gweithio yn galed yn yr ystafell newid.
Mae chwaraewyr Pontardawe AFC wedi cychwyn y tymor pêl-droed gyda gêm ar eu cae eu hunain am y tro cyntaf yn eu hanes - gyda rhywfaint o help gan grŵp o droseddwyr. Ar ôl brwydro am 15 mlynedd i gael eu cae eu hunain yn lle gorfod rhannu cae hamdden y cyngor â thimau criced lleol, mae aelodau’r clwb wedi cyflawni eu nod. Mae tîm o droseddwyr wedi trawsnewid eu hystafelloedd newid a oedd wedi adfeilio, ac wedi sicrhau eu bod yn cyrraedd safonau Cymdeithas Bêl-droed Cymru er mwyn iddynt allu parhau i chwarae yn Adran 2 Cynghrair Cymru. Roedd Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru yn goruchwylio’r troseddwyr. Fe wnaethant lwyddo i drawsnewid yr ystafelloedd newid ac ystafelloedd y dyfarnwyr yng
Nghanolfan Hamdden Pontardawe. Gwnaed y gwaith hwn fel rhan o gynllun Gwneud Iawn â’r Gymuned, dedfryd a bennir gan y llysoedd lle mae troseddwyr yn gwneud gwaith di-dâl yn y gymuned. Dywedodd Gary Thomas, Ysgrifennydd Pontardawe AFC: “Pan welais y gwaith a oedd wedi cael ei wneud, cefais fy synnu. Roedd Nathan Stock, goruchwyliwr y troseddwyr, a’i dîm, wedi bod yn broffesiynol ac wedi dangos balchder yn eu gwaith. Mae’r canlyniad yn well nag unrhyw beth yr oeddem wedi gobeithio ei weld pan wnaethon ni ddechrau cynllunio ar gyfer y tymor. “Rydyn ni nawr mewn sefyllfa dda i fodloni’r meini prawf ar gyfer ein cae newydd, er mwyn i’r uwch dîm ddal ati i chwarae yn Adran 2. Mae cyflwr yr ystafelloedd newid yn elfen bwysig, ond ni fydden ni wedi gallu fforddio cyflogi cwmni i wneud y gwaith.” Mae’r gwaith trawsnewid wedi gwneud cryn argraff - mae CRC Cymru wedi cael ceisiadau i baentio mannau eraill yn y ganolfan hamdden i Celtic Leisure. Dywedodd Simon Morse-Jones, Swyddog Gwneud Iawn â’r Gymuned gyda CRC Cymru: “Mae nifer o dimau lleol, gan gynnwys timau ysgolion, yn defnyddio’r ystafelloedd newid. Rwy’n credu y byddan nhw’n synnu pan welan nhw’r gwahaniaeth. gwaith wedi’i chael.”
yn cyllido fferm gymunedol Heddlu a Throseddu (DPCC) Gwent ac mae’r prosiect wedi adnewyddu 16 acer o dir yn ymyl ei stablau yn Nhan y Graig yn Rhisga. Rhoddwyd £7,988 i’r sefydliad allan o Gronfa Bartneriaeth Ian Johnston, PCC Gwent, sy’n rhoi arian a atafaelwyd gan droseddwyr tuag at gefnogi prosiectau sy’n cael effaith gadarnhaol ar eu cymuned. Gyda chymorth CRC Cymru a thîm o wirfoddolwyr, mae’r tir bellach wedi cael ei weddnewid i fod yn ardal y gall y gymuned gyfan ei mwynhau. Mae yno flodau, coed a llwyni, a llociau anifeiliaid lle gall y cyhoedd fwynhau’r amrywiaeth o anifeiliaid egsotig y mae Lylac Ridge yn eu cadw, gan gynnwys eu ceirw Llychlyn ac alpacaod. @WalesCRC
O’r chwith i’r dde, aelod o staff o Fferm Gymunedol Lylac Ridge hefo Goruchwyliwr Gwaith Gwneud yn Iawn a’r Gymuned Mike Mogford,Paul Harris Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent a Ray Mogford Goruchwyliwr Gwaith Gwneud yn Iawn a’r Gymuned.
Treuliodd dau dîm o wyth o droseddwyr sawl mis ar y safle, yn gweithio dan oruchwyliaeth y Goruchwylwyr CP Ray Mogford a Doug Zagorski, yn clirio llwybrau troed, gosod 1km o ffensiau ac adeiladu llociau a chwrtiau ar gyfer yr anifeiliaid - sydd hefyd yn cynnwys moch, geifr, cwningod a chywion ieir.
www.walescrc.co.uk
9
Cylchlythyr Hydref 2015
Rhaglenni Arbennig
Meddyliwch
cyn gweithredu
Mae cannoedd o bobol wedi cwblhau yn llwyddiannus ein rhaglenni sydd yn dysgu ymwybyddiaeth emosiynol ,datrys problemau a sgiliau meddwl eraill Gall geiriau fod yn fwy pwerus na dyrnau, ond i rai pobl, trais yw’r unig ffordd maen nhw’n ymateb mewn sefyllfaoedd anodd a llawn straen. Mae Sgiliau Meddwl yn rhaglen troseddu gyffredinol sy’n cael ei defnyddio ar gyfer amrywiaeth o droseddau, ac mae hefyd o fudd i bobl sydd wedi’u cael yn euog o droseddau treisgar. Bob blwyddyn, mae cannoedd o droseddwyr yn cael gorchymyn i gymryd rhan yn y rhaglen, sy’n cael ei chyflwyno yn ein swyddfeydd prawf ar hyd a lled Cymru. Y llynedd, cwblhaodd dros 360 o bobl y rhaglen, gan ddysgu sgiliau i newid eu hymddygiad troseddol, fel ymwybyddiaeth emosiynol, datrys problemau, gweld pethau o safbwyntiau eraill, perthnasoedd heb droseddau a gweld y darlun llawn. Fel rheol, cyflwynir y rhaglen 19-sesiwn mewn sesiynau dwy awr a hanner, ddwywaith yr wythnos, a hynny yn ystod y dydd neu gyda’r nos, i grwpiau o hyd at 12 o bobl (dynion yn bennaf). Mae’n helpu’r unigolion i osod nodau a gwerthoedd ac yn eu dysgu i aros a meddwl am eu gweithredoedd. Mae Simon Evans yn Rheolwr Trin yn ardal Merthyr a Phontypridd. Mae wedi bod yn arwain cynllun peilot ym Mhontypridd, sy’n cyflwyno’r rhaglen bedair gwaith yr wythnos am bedair wythnos a hanner, yn hytrach na’r ddwy neu dair sesiwn am saith i ddeg wythnos fel sy’n arfer digwydd. Mae hyn wedi arwain at gynnydd yn nifer y rhai sy’n bresennol. “Hunanymwybyddiaeth yw llawer iawn o’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu,” meddai Simon. “Yn y grwpiau rydyn ni’n trafod y fflagiau coch a arweiniodd at eu hymddygiad
‘
Fe wnes i ddysgu ffyrdd o ddelio â sefyllfaoedd, er mwyn i mi beidio â gwylltio, ar y Rhaglen Sgiliau Meddwl
10
@WalesCRC
troseddol, sydd ddim bob amser yn glir i’r unigolyn. Rydyn ni hefyd yn chwarae rôl ac yn rhannu sefyllfaoedd go iawn er mwyn cael y troseddwyr i ddeall y gyfres o ddigwyddiadau sy’n arwain at ganlyniadau drwg, ac edrych ar ffyrdd y gallan nhw reoli eu hymddygiad er gwell.” “Rydyn ni’n eu dysgu i reoli eu hunain pan fydd eu hemosiynau’n eu trechu. Gall dicter a straen godi’n raddol a dydyn nhw ddim yn delio’n dda â hynny. Drwy wybod beth yw’r pwyntiau sbardun, gallan nhw sefydlu ffyrdd sy’n fwy cadarnhaol i ddelio â hynny. I rai pobl, efallai mai mynd â’r ci am dro yw hynny, neu fynd i’r gampfa. “Mae rhai pobl yn cael eu hunain mewn sefyllfaoedd o wrthdaro ac yn teimlo mai’r unig ateb yw taro’r person arall. Fydden nhw fyth yn ceisio siarad, felly rydyn ni’n eu helpu nhw i ddeall sut gall geiriau fod yn fwy effeithiol na gweithredu.” “Drwy bennu nodau unigol, maen nhw’n gallu gweithio tuag at ganlyniad sy’n fwy cadarnhaol. Mae cael swydd yn nod cyffredin, ond cael trwydded yrru, datblygu perthnasoedd mwy cadarnhaol gyda’u teulu neu osgoi criw drwg o ffrindiau yw dymuniad eraill.” “Bu’n rhaid i un dyn ifanc, a oedd wedi’i gael yn euog o ddifrod troseddol, ymuno â’r rhaglen. Ar y dechrau, roedd yn meddwl ei fod yn dipyn o foi, a doedd ganddo ddim gwaith. Ond o dan ei orchest, roedd yn ddyn deallus. Ei nod oedd dechrau eto a chael gwaith. Sylwais ar newid ynddo yn ystod y sesiynau. Dechreuodd ddod i’r sesiynau mewn siwt, a chyn pen diwedd y rhaglen, cafodd waith mewn canolfan alwadau. Dywedodd ei fod am gael y
Ar ôl anghydfod rhwng ei gyn gariad a gweithiwr siop, bu’n rhaid i David * fynd i’r llys. Fe’i cafwyd yn euog o drosedd trefn gyhoeddus, a chafodd ei ddedfrydu gan ynadon i gymryd rhan mewn Rhaglen Sgiliau Meddwl. Yn ystod y rhaglen 19-sesiwn, datblygodd y dyn 29 mlwydd oed sgiliau i reoli’r sbardunau. “Rwy’n berson positif yn
gyffredinol, ond rwy’n cymryd cyffuriau gwrthseicotig, ac os ydw i’n teimlo bod rhywun wedi croesi’r llinell a does dim posib trafod, rwy’n gwylltio,” esbonia David. “Fe wnes i ddysgu ffyrdd o ddelio â sefyllfaoedd, er mwyn i mi beidio â gwylltio, ar y Rhaglen Sgiliau Meddwl.” “Wrth feddwl yn ôl at noson y digwyddiad, ddylwn i erioed fod wedi mynd i’r siop. Ond roedd
www.walescrc.co.uk
Cylchlythyr Hydref 2015 Simon Evans Rheolwr Triniaeth yn darparu’r Rhaglen Sgiliau Meddwl.
gorau allan o’r rhaglen, ac roeddwn i’n falch o’r ffordd roedd wedi aeddfedu yn ystod yr wythnosau.” “Mae bob amser yn werth chweil pan fydd unigolyn yn cwblhau’r rhaglen ac yn cyflawni ei nod.” Dyma beth mae pobl sydd wedi cwblhau’r cwrs yn ei ddweu . “Roeddwn yn teimlo wedi dychryn braidd yn y sesiwn gyntaf, gan fy mod i mewn awyrgylch newydd. Ond drwy’r rhaglen, dysgais fod ffyrdd eraill o wneud pethau. Mae wedi gwneud i mi feddwl am sefyllfaoedd o safbwyntiau eraill, a nawr rwy’n gallu gwneud pethau’n wahanol ac yn gwneud dewisiadau gwahanol.” “Rydych chi’n dod i adnabod y bobl fwy a mwy ac yn bod yn fwy agored am bethau. Hefyd, wrth wneud hyn bedair gwaith yr wythnos, does gennych chi ddim amser i anghofio beth rydych chi’n ei ddysgu.” I ddechrau, roeddwn i’n meddwl bod pedair gwaith yr wythnos braidd yn ormod, ond wrth edrych yn ôl, roedd yn beth da gan ei fod yn dal i fod yn ffres yn eich meddwl. Rwy’n credu y byddaf i’n gallu dal ati fel rydw i nawr oherwydd y cwrs. Mae wedi bod yn help mawr i mi.”
y gweithiwr wedi dweud rhywbeth i ypsetio fy nghariad, ac roeddwn i eisiau cael gair ag ef. Rwy’n cerdded heibio’r siop bob diwrnod, ac fe ddylwn i fod wedi cerdded heibio ar y diwrnod hwnnw hefyd. Synnwyr cyffredin oedd llawer iawn o’r Rhaglen Sgiliau Meddwl, ond roedd yn
@WalesCRC
fy atgoffa i feddwl am bethau cyn gwneud rhywbeth. “Nawr rwy’n gwybod y gallaf i gymryd anadl ddofn ac ymlacio pan fyddaf i’n teimlo fy hun yn dechrau mynd dan straen ac yn boeth, yn hytrach na sgrechian a gweiddi.” *Newidiwyd yr enwau
Camau atatlwyddiant Camau lwyddiant Mae cyswllt cryf rhwng y swyddog prawf a thîm y rhaglen o’r adeg cyfeirio hyd at ddiwedd y cwrs yn helpu i wella lefelau presenoldeb. Dyma rai o’r dulliau y defnyddiodd CAC Cymru i wella presenoldeb ar raglenni achrededig fel Sgiliau Meddwl, a gwella’r broses adsefydlu i droseddwyr, er mwyn eu hatal rhag aildroseddu. • Cyn i’r rhaglen ddechrau, mae’r sawl sy’n ei chyflwyno’n cwrdd â’r troseddwr a’i swyddog prawf ym mhob un o’i apwyntiadau cyflwyno. Maen nhw’n gallu esbonio manteision y rhaglen, y broses a’r hyn a ddisgwylir, a datblygu perthynas gadarnhaol o’r dechrau. • Yn ystod y rhaglen, mae swyddog prawf y troseddwr yn cwrdd ag ef o leiaf unwaith yr wythnos. • Os oes gan hwyluswyr y rhaglen unrhyw bryderon ynghylch troseddwr yn ystod y rhaglen, byddan nhw’n rhoi gwybod i’w swyddog prawf. • Ar ddiwedd y rhaglen, bydd hwylusydd y rhaglen yn ysgrifennu adroddiad ynghylch cynnydd y troseddwr. Mae hyn yn cael ei drafod â’r troseddwr a’i swyddog prawf mewn cyfarfod ar ôl y rhaglen. Yn y cyfarfod hwn, maen nhw’n trafod beth maen nhw wedi’i ddysgu a pha ymyriadau pellach a fydd yn helpu i atal y troseddwr rhag aildroseddu. • Ar ôl cwblhau’r rhaglen, mae’r rheolwyr yn mynd i seremoni wobrwyo i longyfarch y troseddwyr hynny sydd wedi llwyddo i gwblhau’r rhaglen.
www.walescrc.co.uk
11
Cylchlythyr Hydref 2015
Cyflwyno ein staff Swydd: Noel Williams Goruchwyliwr Gwneud Iawn â’r Gymuned
Troseddwyr yn gwneud stori yn arbennig Gwaith gwneud yn iawn ar gymuned yn yn cyfrannu cadair storiwr o waith llaw tuag at Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru, Gaerdydd Bydd cleifion ifanc yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru yn cael sesiynau adrodd straeon yn fuan diolch i waith llaw troseddwyr lleol. Mae cadair adrodd straeon bren 6 troedfedd o uchder a wnaed â llaw wedi cael ei rhoi yn rhodd i ysbyty plant Caerdydd gan staff a throseddwyr Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru (CAC). Mae’n awr yn sefyll mewn lle amlwg yng nghyntedd yr ysbyty £64 miliwn a bydd yn ganolbwynt ar gyfer sesiynau adloniant ac adrodd straeon i’r plant. Gwnaed y gadair yng ngweithdai Gwneud Iawn â’r Gymuned CRC Cymru yn Heol Lewis, Treganna, Caerdydd gan droseddwyr sy’n gwneud gwaith digyflog gyda’r CAC fel rhan o’u dedfrydau cymunedol. Fe’i gwnaed o bren pîn wedi’i ailgylchu a achubwyd o gae chwarae antur ysgol a threuliodd dau droseddwr 150 o oriau yn ei chreu. Meddai rheolwr gweithdy CAC Cymru Steve Powell: “Dan arweiniad Goruchwylwyr Gwneud Iawn â’r Gymuned Nigel Jeffries a Mark Skyrme, fe wnaeth y troseddwyr ddysgu sgiliau gwaith coed ac ennill cymwysterau gan wneud cadair drawiadol wedi’i theilwra’n arbennig a fyddai wedi costio miloedd o bunnau i’w phrynu.” “Drwy roi’r gadair yn rhodd i Ysbyty Arch Noa i Blant, maent yn rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.” Y gadair yw’r prosiect diweddaraf mewn partneriaeth barhaus rhwng timau Gwneud Iawn â’r Gymuned CAC Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Meddai Jonathan McGarrigle, Pennaeth Perfformiad ac Ynni ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Rydym yn ddiolchgar dros ben i’r CRC am wneud y gadair hon i’r ysbyty. Bydd yn rhoi oriau lawer o hwyl i’r plant sy’n dod i’r ysbyty a’u teuluoedd.
12 12
Noel Williams yw goruchwylydd ein gweithdy Gwneud Iawn â’r Gymuned ym Mhort Talbot, a phan nad yw’n helpu troseddwyr i ddatblygu eu sgiliau gwaith coed, mae’n rhoi ei sgiliau ei hun i ddefnydd da o amgylch ei dŷ Mae Noel wedi defnyddio ei amser hamdden i osod lloriau cochwydd, gwneud canllawiau grisiau i gyfateb, a dylunio ac adeiladu ei gegin ei hun. Roedd yn dipyn o newid gyrfa iddo pan ymunodd â’r gwasanaeth prawf 16 mlynedd yn ôl, gan ei fod cyn hynny’n rheolwr cynorthwyol yng Ngwesty Pen Pyrod, Rhosili. Mae’r gweithdy hefyd yn gwneud llawer o waith ar gyfer ysgolion, ac un o’r prosiectau diweddar yw cylch chwarae ar gyfer y feithrinfa yng Nghanolfan Maerdy, sy’n ganolfan adnoddau cymunedol. Y mae hefyd wedi darparu eitemau ar gyfer Ysbyty Garngoch, Gorseinon, ar gyfer pobl â dementia, wedi creu blychau gaeafgwsg i ddraenogod ar gyfer Ysbyty Adar Gŵyr ac wedi adeiladu meinciau, stondinau adar a ffynhonnau gwneud dymuniad i gymdeithas pensiynwyr Pontlliw. Yn ddiweddar fe wnaeth Noel fwynhau un o uchafbwyntiau ei yrfa, pan enillodd y wobr unigol yng Ngwobrau Bywyd Gwyllt NOMS am ei gyfraniad at Ty Nicholaston, canolfan encil Gristnogol sy’n edrych dros arfordir ysblennydd Gŵyr lle mae’r gerddi wedi cael eu troi’n hafan i fywyd gwyllt. Mae’r gweithdy wedi darparu amrywiaeth eang o eitemau, gan gynnwys gwestai chwilod, blychau adar a meinciau, ond yr eitem fwyaf trawiadol oedd colomendy godidog. “Rydw i’n mwynhau fy amser yn y gweithdy. Mae’n eithaf heriol ac rydw i wedi cwrdd â llawer o bobl. Mae rhai ohonyn nhw wedi trawsnewid eu bywydau o ddifrif, ac mae hynny’n rhoi llawer o foddhad. Nid oedd gan un dyn syniad pan gyrhaeddodd, ond aeth yn ei flaen i sefydlu ei fusnes gwaith coed ei hun. “Mae llawer o bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw’n cael syndod pan fyddan nhw’n sylweddoli beth maen nhw’n gallu ei wneud,” meddai.
Perchennog Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru yw Working Links, sef cwmni cyhoeddus, preifat, gwirfoddol sy’n ymroi i helpu pobl i newid eu bywydau er gwell. Mae Working Links yn gweithio mewn partneriaeth ag Innovation Wessex, cwmni buddiannau cymunedol cydfuddiannol tebyg sy’n cynnwys cyn weithwyr yr ymddiriedolaeth prawf.www.walescrc.co.uk @WalesCRC