Cylchlythyr Ebrill 2015

Page 1

NEWYDDION

gan Gwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru

Rhifyn 3 Ebrill 2015

Gwasanethau prawf sy’n lleihau aildroseddu ac yn gwneud pobl Cymru yn saffach

Pawb yn gadael carchar i dderbyn cymorth ychwanegol Ar 1 Mai bydd newid pwysig yn y ffordd mae carcharorion yn cael eu cefnogi wrth iddynt adael y carchar a cheisio ailsefydlu’n llwyddiannus yn y gymuned. Am y tro cyntaf, bydd pob carcharor yn elwa o’r Gwasanaeth Ailsefydlu ‘Drwy’r Giât’ a fydd yn cychwyn pan maent yn y ddalfa ac yn parhau yn y gymuned. Y nod yw lleihau aildroseddu trwy ddarparu pob carcharor gyda phecyn cymorth wedi’i deilwra. Gallai’r pecyn hwnnw gynnwys help i ddod o hyd i lety ac ailgysylltu â theulu a ffrindiau, cyngor ariannol, addysg am gyffuriau ac alcohol, dosbarthiadau rheoli dicter a chyfleoedd hyfforddi a mentora. Nid yw carcharorion sydd wedi bod yn y carchar am gyfnod llai na 12 mis wedi derbyn unrhyw gymorth o’r fath hyd yn hyn. Mae ein rhiant-gwmni Working Links wedi comisiynu Ymddiriedolaeth St Giles i

@WalesCRC

hwyluso’r gwasanaethau ar ran CRC Cymru yn CEM Caerdydd, CEM Prescoed, CEM Stoke Heath a CEM Abertawe, bydd y cytundeb yn cael ei arwyddo cyn hir. Comisiynwyd Cymru Ddiogelach i ddarparu’r gwasanaeth hwn yng Ngharchar EM Eastwood Park tra bydd CRC Cymru yn darparu’r gwasanaeth yn CEM Parc. Bydd staff y carchar yn cynnal gwiriadau cyffredinol o bob carcharor i weld os oes arnynt angen cefnogaeth o fewn 72 awr ar ôl cyrraedd y carchar. Yna, bydd Cynghorwyr Ailsefydlu’r CRC yn llunio cynllun ailsefydlu unigol ar gyfer pob carcharor. Bydd y cynllun ailsefydlu yn cael ei rannu gyda’r Rheolwr Troseddwyr perthnasol o CRC Cymru ar gyfer troseddwyr risg isel a throseddwyr risg canolig, a gyda’r Rheolwr Troseddwyr perthnasol o’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol ar gyfer y rhai a ystyrir yn risg uchel.

Trowch i dudalen 2

www.walescrc.co.uk


Neges gan y Prif Weithredwr

Fe fyddwch wedi gweld ar dudalen flaen y cylchlythyr hwn, y bydd 1 Mai yn garreg filltir bwysig yn hanes y gwasanaeth prawf pan fydd gwasanaethau Drwy’r Giât yn cael eu cyflwyno i helpu troseddwyr ailsefydlu i’r gymuned a lleihau aildroseddu. Am y tro cyntaf bydd pecynnau cefnogi wedi’u teilwra i holl garcharorion, gan gynnwys y rhai hynny sydd â dedfrydau tymor byr o lai na 12 mis, i helpu i’w paratoi ar gyfer eu rhyddhau. Rydym yn edrych ymlaen at gael gweithio gyda’n partneriaid Ymddiriedolaeth St Giles, Cymru Ddiogelach, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a'n cydweithwyr yn y carchar i sicrhau bod y fenter newydd hon yn llwyddiant a sicrhau bod y troseddwyr yn cael y cyfle gorau bosibl i ddechrau bywyd di-drosedd. Hefyd, mae'n amser da i edrych yn ôl ar yr hyn yr ydym wedi ei gyflawni ers sefydlu Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru 10 mis yn ôl. Mae darparu rhaglenni achrededig yn rhan hanfodol o'n gwaith, sef amrywiaeth o ymyriadau wedi’u llunio i newid agwedd ac ymddygiad troseddwyr sydd wedi eu harwain at droseddu yn y gorffennol.

Mae’r rhaglenni hyn yn mynd i’r afael â throseddu cyffredinol, camdriniaeth sylweddau a thrais domestig, ac mae’n bleser gennyf gadarnhau ein bod ar y trywydd iawn i ragori ein targedau, gyda’r disgwyl y bydd 746 o raglenni yn cael eu cwblhau yn erbyn y targed o 651. Rhaglen sgiliau meddwl yw’r rhaglen sydd â’r mwyafrif o droseddwyr (360) wedi cymryd rhan ynddi, ac wedyn y rhaglen trais domestig (173). Hefyd, yn ystod y 10 mis diwethaf dyfarnwyd 480 o wobrau Sgiliau Hanfodol i unigolion oedd ar orchmynion cymunedol a thrwyddedau carchar. Mae’r gwobrau hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’w huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol, a dyma’r profiad cyntaf i’r rhan fwyaf ohonynt o gael llwyddiant mewn addysg. Mae adroddiad yn y cylchlythyr hwn sy’n rhoi rhagor o wybodaeth i chi am un o'n rhaglenni - ar gyfer Gyrwyr dan ddylanwad Alcohol - a fydd yn rhoi cipolwg i chi ar yr effaith y gallant ei gael. Yn olaf, gallaf ddweud bod 402,344 o oriau o waith di-dâl sydd werth mwy na £2.6 miliwn wedi ei gyflawni gan rheiny oedd ar orchymyn Gwneud Iawn â'r Gymuned ers 1 Mehefin, sydd wedi rhoi hwb sylweddol i'r elusennau a sefydliadau teilwng eraill sydd wedi elwa o ganlyniad, a gallwch ddarllen am y prosiectau hyn ar y tudalennau nesaf. Liz Rijnenberg Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru

Parhad o dudalen 1

Yn ystod eu cyfnod yn y ddalfa, bydd pob carcharor yn ymgymryd â chyflogaeth/tasgau fel arfer o fewn cyfundrefn y carchar, ond efallai caiff y cynllun ailsefydlu ei ddefnyddio i hysbysu’r carchardai beth yn union ddylai’r tasgau hyn fod. Bydd y CRC yn rhwymedig dan gontract i ddarparu gwasanaethau penodol i garcharorion o 12 wythnos cyn eu rhyddhau. Mae’r rhain yn cynnwys cyngor ar ddod o hyd i lety, cyflogaeth, cyllid a budddaliadau, atal trais domestig a chymorth arbennig ar gyfer merched sy’n weithwyr rhyw. Hefyd, mae’r cyfle i gynnig elfennau ychwanegol yn seiliedig ar yr angen, sy’n gallu cynnwys cael mynediad at ofal iechyd neu adeiladu perthnasoedd teuluol a rhwydweithiau cymorth eraill

2

@WalesCRC

yn y gymuned. Bydd y Swyddog Ailsefydlu yn cynnig yr elfennau hyn yn ôl yr angen, ond y troseddwr ei hunan sy’n gyfrifol am fynychu. Mae’r Ddeddf Tai wedi dileu’r angen i roi blaenoriaeth i garcharorion ond bydd Rheolwyr Troseddwyr yn chwarae rhan allweddol o ran trefniadau llety newydd. Wythnos cyn rhyddhau’r troseddwr bydd y Swyddog Ailsefydlu, Goruchwyliwr y Troseddwr os oes un, y troseddwr a’r Rheolwr Troseddwyr yn cael eu gwahodd i gyfarfod cyn rhyddhau, lle caiff y cynllun ei adolygu a bydd unrhyw anghenion pellach ar ôl eu rhyddhau yn cael eu nodi. Bydd y Rheolwr Troseddwyr yn parhau i gyfarfod â’r troseddwyr yn y gymuned a’u cefnogi drwy’r

cyfnod ailsefydlu, yn ystod eu cyfnod trwydded (fel arfer hanner eu dedfryd carchar y maent yn ei gwblhau yn y gymuned yn hytrach nag yn y ddalfa) a’r cyfnod goruchwylio. O dan y trefniadau newydd, bydd pob carcharor yn cael ei oruchwylio am gyfnod o 12 mis gan y Gwasanaeth Prawf a fydd yn digwydd ar yr un pryd â’r cyfnod trwydded. Mae’r newidiadau yn rhan allweddol o ddiwygiadau Gweddnewid Adsefydlu'r Llywodraeth.

Cysylltwch â ni Gobeithio y byddwch yn gweld y cylchlythyr yma yn ddefnyddiol. Os oes gennych unrhyw sylw am y cynnwys plîs cysylltwch â walescrc.info@wales. probation.gsi.gov.uk

www.walescrc.co.uk


Gwneud Iawn â’r Gymuned

Troseddwyr yn helpu arbed Ysgol Farchogaeth Caerdydd rhag cau

PIC OF DERI & LIZ CAPTION

y Edrychwch ar en al d u d fideo ar fydlu Cwmni Adse ymru C l o Cymuned e b ar You Tu

Roedd Ysgol Farchogaeth Caerdydd dan fygythiad o gau oherwydd toriadau’r cyngor, ond bellach gallant edrych ymlaen at ddyfodol mwy diogel - diolch i grŵp o droseddwyr. Mae’r timau’n cyflawni gwaith di-dâl fel rhan o’u dedfryd gymunedol gyda Chwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru, ac maent wedi cyflawni’r gwaith llafur i ail godi ffens milltir a hanner o hyd i gadw ceffylau’r ysgol farchogaeth yn ddiogel. Maent hefyd wedi adeiladu drysau mawr ar gyfer yr ysgol farchogaeth dan do, sydd wedi arbed cyfanswm o £42,000 i’r ysgol o’i gymharu â’r dyfynbris gwreiddiol o £50,000 a oedd yn bygwth cau’r ysgol sydd wedi’i lleoli ar Gaeau Pontcanna. Mae’r ysgol wedi dysgu cenedlaethau o blant ac oedolion sut i farchogaeth yn ystod y 45 mlynedd diwethaf, ac mae grŵp Marchogaeth i bobl anabl yn cael ei redeg yn yr ysgol. Ond cafodd y staff eu rhybuddio y byddai’r ysgol farchogaeth yn cau am fod Cyngor Caerdydd yn ceisio gwneud arbedion.Sbardunodd y

@WalesCRC

newyddion ymgyrch proffil uchel i achub yr ysgol farchogaeth, gan gynnwys sefydlu grŵp cefnogi Cyfeillion. Ond mae’r diolch i CRC Cymru am gamu i’r adwy i helpu fel y gall yr ysgol edrych ymlaen at ddyfodol mwy sefydlog. Dywedodd Gloria Garrington, rheolwr cynorthwyol yn y stablau: “Cynigiodd CRC Cymru i helpu pan ddaethant i wybod fod cynlluniau i gau’r ysgol. Cyn hyn, roedd gennym lawer o ddyfynbrisiau i drwsio'r ffens ac roeddem yn wynebu bil mawr o £50,000 gan gontractwyr allanol, ond yn awr dim ond y deunyddiau crai yr oedd yn rhaid i ni dalu amdanynt. “Mae’r gwaith a gyflawnwyd wedi gwneud yr ysgol yn llawer mwy diogel ac wedi ein galluogi i gadw arian yn ein cyllideb fel y gallwn ei ddefnyddio ar gyfer y ceffylau. Mae wedi bod yn waith ardderchog.” Dywedodd Adrian Cowley, goruchwyliwr Gwneud Iawn â’r Gymuned i CRCCymru bod troseddwyr wedi gosod pren newydd yn lle’r pren oedd wedi pydru ac wedi gosod ffens

newydd. Ychwanegodd “Mae hyn yn hanfodol oherwydd gallai’r ceffylau ddianc fel arall. Mae priffordd ac afon gerllaw a gallai’r ceffylau fod mewn perygl mawr. Hefyd mae’r troseddwyr wedi cael budd o ddysgu sgiliau gwaith coed newydd”.

Fe gafodd

402,344 awr o waith di-dâl hefo gwerth mwy na £2.6 miliwn ei gwblhau gan y rhai ar raglenni gwneud yn iawn a'r gymuned yn ystod y 12 mis diwethaf

www.walescrc.co.uk

3


Gweithio mewn Partneriaeth

Pathfinder

yn dangos y ffordd i Katy Mae menyw ifanc a oedd yn arfer dwyn o siopau er mwyn cael arian i brynu cyffuriau iddi’i hun wedi gweddnewid ei bywyd gyda chymorth cynllun peilot i leihau achosion o fenywod yn troseddu ac ail-droseddu yng Nghymru. Drwy gydol y rhan fwyaf o’i harddegau a’r blynyddoedd ar ôl hynny, bu Katy Benson, sy’n 27 oed, yn ceisio delio â materion iechyd meddwl, a throdd at gyffuriau fel ffordd o ddelio â’i theimladau o anobaith. A hithau’n colli pob rheolaeth ar ei bywyd, dechreuodd Katy ddwyn o siopau er mwyn cael arian ar gyfer ei phroblem camddefnyddio sylweddau. Ym mis Gorffennaf 2014, cynigiwyd cymorth gwerthfawr i Katy. Rhoddwyd Gorchymyn Cymunedol iddi a’i throsglwyddo i gynllun Pathfinder i Fenywod, sef cynllun peilot Rheoli Integredig

4

@WalesCRC

Bu i dros 150 o ferched bregus cael ei ailgyfeirio o droseddu gyda chymorth prosiect arloesol yng Nghaerdydd. Troseddwyr (IOM) Cymru sy’n canolbwyntio ar anghenion penodol menywod yn y system cyfiawnder troseddol. Mae hi’n un o blith 100 o fenywod sydd wedi cael cymorth i droi cefn ar droseddu ers i’r cynllun Pathfinder gael ei dreialu yng Nghaerdydd wyth mis yn ôl. Mae Pathfinder yn brosiect a ariannwyd ar y cychwyn gan Wasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr yng Nghymru a’i reoli gan Wendy Hyett, Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru. Mae’n dwyn ynghyd bedwar heddlu Cymru, y gwasanaethau prawf a’r asiantaethau partner i arloesi a chynnig ffordd gyfannol o weithio gyda menywod sydd wedi troseddu. Un o’r prif ddatblygiadau yw’r Cynllun Dargyfeirio. Nod y cynllun yw dargyfeirio menywod sy’n risg is oddi wrth y system cyfiawnder troseddol i system o ymyriadau a chymorth gwirfoddol yn y gymuned er mwyn mynd i’r afael â’r hyn sy’n gwneud iddynt droseddu yn y lle cyntaf. Mae’r menywod yn cael amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys cymorth tai, cyngor ynghylch dyledion, gwasanaethau iechyd meddwl, cefnogaeth ar gyfer achosion o gam-drin domestig ac ymyriadau mewn achosion o gamddefnyddio sylweddau ac mae hyn yn eu helpu i weddnewid eu bywyd. O ganlyniad i’r llwyddiant, mae Tîm Pathfinder mewn partneriaeth â’r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru wedi sicrhau bron i £500,000 o Gronfa Arloesi’r Heddlu gan y Swyddfa Gartref i ddatblygu pedwar safle peilot arall ar draws Cymru; yng Nghasnewydd (Gwent), ym Merthyr Tudful (de Cymru), yn Llanelwy (gogledd Cymru) ac yn Hwlffordd (Dyfed-Powys). Lansiwyd y cynllun yn swyddogol yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ddydd Llun 9 Mawrth. Ac yno, ymunodd Katy â’r Aelod Cynulliad Leighton Andrews, Ian Barrow, www.walescrc.co.uk


r

Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr yng Nghymru, Liz Rijnenberg, Prif Weithredwr Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru, Megan Jenkins, Cynghorydd Rhanddeiliaid Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru, Paul Harris, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Sophie Howe, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, gan siarad am ba mor bwysig ac arloesol yw’r cynllun o ran gweithio gyda menywod. Dywedodd Ian Barrow, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr (NOMS) yng Nghymru, wrth y gwesteion yn y lansiad: “Mae 19 y cant o’r cyfanswm sydd wedi cael eu harestio yng Nghymru yn fenywod, ac mae 26 y cant o’r rheini sy’n cael eu dedfrydu yn fenywod. Maen nhw’n fwy tebygol o ddioddef yn sgil camdrin corfforol a cham-drin domestig, o fod yn isel a niweidio eu hunain pan maen nhw dan glo, a hwy yw gofalwyr pennaf eu plant. Mae prosiect Pathfinder i Fenywod yn rhoi cyfle go iawn i gyfrannu at ddatblygu polisïau a strategaeth cyfiawnder cymdeithasol a throseddol yng Nghymru a gweithredu Strategaeth Lleihau Aildroseddu Cymru yng nghyswllt menywod sy’n troseddu.” Dywed Katy fod y prosiect Pathfinder i Fenywod wedi rhoi cyfle iddi fanteisio ar ymyriadau a gwasanaethau cymorth priodol a chyfannol i fynd i’r afael â’r materion a oedd wrth wraidd ei throseddu. “Wrth i mi golli rheolaeth ar y ffordd ro’n i’n defnyddio cyffuriau, fe gollais i reolaeth ar fy mywyd hefyd. Ro’n i’n teimlo’n isel dros ben ac yn casáu’r ffordd ro’n i’n ymddwyn. Fe wnes i geisio rhoi’r gorau i ddefnyddio cyffuriau sawl tro ond ro’n i bob tro yn mynd yn ôl i’w defnyddio. Ac roedd hyn ond yn gwneud i mi feddwl mwy a mwy fod dim gobaith i mi,” dywedodd Katy. “Pan oeddwn yn fy ugeiniau, O ganlyniad i gymorth gan y prosiect Pathfinder i Fenywod, mae Katy yn gweithio erbyn hyn gyda Recovery Cymru, sef elusen a fu’n gymorth iddi wrth iddi wella. @WalesCRC

Cynllun Braenaru wedi’i enwebu ar gyfer “Oscars” y gwasanaeth prawf Mae Wendy Hyett, Rheolwr Prosiect Braenaru i Fenywod yn un o'r pedwar aelod o staff o Gwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru sydd wedi cael ei henwebu yng Ngwobrau Gwasanaeth Prawf 2015, sef "Oscars" y gwasanaeth prawf. Maent wedi cyrraedd y rownd derfynol ym mhedwar o’r wyth categori, sydd yn fwy nag unrhyw ddarparwr gwasanaeth prawf arall yn y DU. Mae eu gwaith yn cynnwys peilota prosiectau arloesol partneriaeth i deuluoedd, sy’n cefnogi a diogelu teuluoedd mewn argyfwng, a gwaith yn rheoli cynlluniau arloesol i ddargyfeirio menywod i ffwrdd o'r system cyfiawnder troseddol, mae gwaith staff CRC Cymru yn cynrychioli'r arfer gorau yng ngwasanaethau Prawf y DU. Hon fydd y seithfed seremoni wobrwyo a threfnir gan y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr sydd yn goruchwylio’r carchardai a’r gwasanaethau prawf. Maent yn cydnabod rhagoriaeth yng ngwaith staff prawf a gwirfoddolwyr. Mae'r gwobrau yn agored i filoedd o staff sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a'r 21 Cwmni Adsefydlu Cymunedol yn y DU. Y pedwar unigolyn sydd yn y rownd derfynol yw: - Cydraddoldeb ac Amrywiaeth: Wendy Hyett, Rheolwr Prosiect IOM Cymru Prosiect Braenaru i Fenywod. - Ymyriadau: Sian Waters, Swyddog Gwasanaeth Prawf yn Llanelli sydd yn cyflawni gwaith ysgogol gyda throseddwyr, gan gynnwys eu cefnogi a’u helpu i greu DVD eu hunain, trefnu cystadleuaeth gemau It’s a Knock Out i staff a throseddwyr, a datblygu menter gymdeithasol Ail Gyfle lle gall troseddwyr dderbyn hyfforddiant wrth wneud eitemau crefft i'w gwerthu mewn siop elusen. - Rheoli Troseddwyr: Suzanne Edwards, Swyddog Gwasanaeth Prawf Abertawe am ei gwaith gyda throseddwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl a chorfforol cymhleth gan gynnwys troseddwr oedd wedi cael ei barlysu yn dilyn ymosodiad ac a oedd angen gofal arbennig mewn uned anaf y cefn. - Gweithio mewn Partneriaeth: Lindsey Pudge, Swyddog Prawf Gwent sydd wedi bod yn gweithio ar brosiect peilot Cymorth Cymunedol i Droseddwyr (CSOF) Barnardo’s Cymru, lle darparodd y cyswllt coll rhwng troseddwyr a theuluoedd drwy rannu gwybodaeth prawf bwysig i ddiogelu plant a chefnogi rhieni sydd yn y carchar. Mae ei gwaith yn helpu i ffurfio polisïau ar gyfer y dyfodol i Barnardo’s. Cyhoeddir yr enillwyr yn y seremoni wobrwyo flynyddol ddydd Mercher, 24 Mehefin 2015. Dywedodd Liz Rijnenberg, Prif Weithredwr CRC Cymru: “Mae hyn yn gyflawniad ardderchog. Mae’n adlewyrchu’r gwaith caled mae ein staff yn ei gyflawni i leihau aildroseddu a gwneud Cymru yn le diogelach.”

www.walescrc.co.uk

5


caption

Rhoi sgiliau ar Mae cyfleoedd dau droseddwr di-waith o Gaerdydd o gael swydd wedi cynyddu ar ôl ‘graddio’ o’r 'School of Hard Knocks'. Roedd Caine Herbert, 25 a Gareth Bridle, 37 ymysg 24 o ddynion di-waith sydd wedi cael y cyfle i gymryd rhan mewn rhaglen hyfforddiant wyth wythnos dan arweiniad elusen cynhwysiant cymdeithasol, a ffilmiwyd gan Sky TV ar gyfer cyfres deledu o’r enw “The School of Hard Knocks”. Rhoddodd Caine a Gareth, sydd dan orchmynion goruchwylio 12 mis gydag Uned Gyflawni Leol Caerdydd a'r Fro, CRC Cymru, eu henwau ymlaen i fynd ar y rhaglen ar ddechrau mis Chwefror. Nid oedd Caine wedi gweithio ers chwe mis ar ôl dioddef o broblemau iechyd meddwl, ac roedd Gareth wedi bod yn ddi-waith ers deunaw mis ac yn gofalu am ei gariad a oedd yn wael. Yn ystod yr hyfforddiant, rhoddodd Scott Quinnell, arwr rygbi Cymru a Will Greenwood, enillydd Cwpan y Byd, Caine a Gareth ar brawf o’u gallu. Drwy ddysgu sut i chwarae rygbi’r undeb a gweithio fel tîm, roeddynt yn gallu gwella eu lefelau ffitrwydd, datblygiad cymdeithasol a sgiliau bywyd gyda'r nod o gael swydd ar y diwedd. Cynhaliwyd ffair swyddi i ddod â’r cwrs i ben yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Llun, 23 Mawrth, ac roedd 17 cyflogwr posibl yn bresennol gan gynnwys Recriwtio i’r Fyddin, Cartrefi Rhondda Cynon 6

@WalesCRC

Taf, Office Angels, O2, Timpsons, Cymdeithas Adeiladu’r Principality a chyfreithwyr Watkins and Gunn. Dywedodd Caine, sydd yn y llun isod gyda Nigel Owens, y dyfarnwr: “Mae dysgu sut i chwarae rygbi wedi bod yn wych ac mae fy lefelau ffitrwydd wedi gwella’n syfrdanol. Mae pethau’n mynd yn dda ac rwyf am ymuno â fy nghlwb rygbi lleol.” Dywedodd Scott Quinnell, cyflwynydd a seren y byd rygbi: “Caine oedd un o’r dynion a oedd wedi gwneud y cynnydd orau ar y rhaglen. Aeth i ffwrdd ar gyfer hyfforddiant y Fyddin, a daeth yn ôl yn ddyn gwahanol. Y cam nesaf iddo yw cael swydd. Gall wneud beth bynnag y mae’n dymuno ei wneud yn y dyfodol." Dywedodd Gareth, a ddedfrydwyd i 70 awr o waith Gwneud Iawn â’r Gymuned a gorchymyn prawf am 12 mis ar ôl iddo werthu ffôn symudol a ddaeth o hyd iddo ar y stryd: “Mae wedi bod yn brofiad gwych. Rwyf wedi gwneud ffrindiau newydd. Rwy’n teimlo’n rhan o rywbeth arbennig ac mae’n braf peidio teimlo fel dieithryn neu fel jôc.” Ar ddiwrnod olaf y cwrs, cafodd yr hogiau gyfle i roi eu sgiliau rygbi ar brawf pan chwaraeasant gêm yn erbyn Harlequins Caerdydd ym Mharc yr Arfau yng Nghaerdydd. Enillon nhw o 27- 12. Bydd y gyfres yn cael ei dangos ar Sky 1 a Sky Sports ym mis Medi.

www.walescrc.co.uk


Staff yn dathlu pen-blwydd Working Links yn 15 oed drwy wirfoddoli yn y gymuned Mae Working Links, perchnogion newydd CRC Cymru, yn dathlu ei ben-blwydd yn 15 oed eleni. I ddathlu’r digwyddiad, mae staff o’r ddau gwmni wedi dod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth i elusennau yn eu cymunedau lleol. Hefyd, mae staff wedi cael diwrnod ychwanegol i ffwrdd i gael dathlu pen-blwydd eu hunain. Ledled Cymru, o Fae Colwyn i Gaerdydd, gadawodd gweithwyr eu desgiau a chael gafael ar wahanol offer megis brwsh paent, torwyr gwair a sgriwdreifars i roi help llaw i elusennau sy’n golygu rhywbeth iddynt. Ym Merthyr Tudful, bu i Liz Rijnenberg, Prif Weithredwr a Deri ap Hywel, Cyfarwyddwr Working Links yng Nghymru ynghyd â chwe chydweithiwr dreulio bore yn garddio, casglu sbwriel a pheintio gyda grŵp cymorth dyddiau cynnar cyn-ysgol TEDS yng Nghlwb Bechgyn a Merched Troedyrhiw. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, casglodd gwirfoddolwyr bron i £500 ar gyfer Ysgol y Bont drwy helpu pacio bagiau yn archfarchnad Sainsbury’s, ac ym Mae Colwyn bu iddynt helpu gyda garddio yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Tŷ Hapus. Ar ôl eu holl waith caled, ymunodd y gwirfoddolwyr â’u cydweithwyr yn eu swyddfeydd yn Wrecsam; Bae Colwyn; Caerdydd, Abertawe, Llanelli, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Pontypridd, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerffili, i gael parti pen-blwydd i ddathlu sefydlu Working Links ar 1 Ebrill 2000. Dyfarnwyd y cwmni â chytundeb i redeg tri chwmni adsefydlu cymunedol sef Cymru; Dorset, Dyfnaint, a Chernyw; a Bryste, Sir Gaerloyw, Gwlad yr Haf a Wiltshire ar 1 Chwefror fel rhan o raglen Trawsnewid Adsefydlu’r llywodraeth. Sefydlwyd y cwmni’n wreiddiol i ddarparu gwasanaethau arbenigol wedi'u teilwra i bobl sydd ag anghenion amrywiol a chymhleth. Mae’r cwmni’n brif gontractwr sy'n darparu cyflogaeth allweddol y llywodraeth a rhaglenni hyfforddi ledled y DU, ac mae ei waith yn galluogi i ddefnyddwyr y gwasanaeth greu dyfodol gwell iddynt eu hunain a’u cymunedau.

@WalesCRC

Gwirfoddoli ym Merthyr mae , o’r chwith, Kylie Thomas,Ryan Hill,Don Wilson,Sharon O'Connor o Working Links hefo ei Chyfarwyddwr Cymru Deri ap Hywel a Liz Rijnenberg, Prif Weithredwr Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru.

Mae Working Links yn gwmni cyhoeddus, preifat a gwirfoddol unigryw sy'n cynnwys Gweithrediaeth Cyfranddalwyr y llywodraeth, Manpower, Capgemini a Mission Australia. Mae hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ag Innovation Wessex – sef cwmni buddiannau cymunedol cydfuddiannol wedi’i ffurfio o gyn-weithwyr yr ymddiriedolaeth prawf – i gyflawni amcanion craidd CRC i amddiffyn cymunedau a lleihau aildroseddu. Dywedodd Liz Rijnenberg “Roedd gwirfoddoli yn gyfle gwych i gwrdd â’n holl gydweithwyr yn Working Links, ac i wneud gwahaniaeth i sefydliadau cymunedol ac elusennau eraill. Mae hi’n anodd rheoli prosiectau fel hyn oherwydd bod adnoddau lleol ac awdurdodau lleol mor brin o arian. Dywedodd Phil Andrew, Prif Weithredwr Working Links: “Yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, mae Working Links wedi bod yn newid bywydau drwy roi cefnogaeth i gael swyddi, hyfforddiant, adsefydlu a gweithio drwy bartneriaeth, ac mae'r profiad wedi rhoi sylfaen i’r busnes heddiw, gan ddarparu gwasanaethau prawf, gweithio gyda llywodraethau dramor a darparu nifer fawr o ymyriadau anghenion cymdeithasol i bobl sydd ag anghenion cymhleth gartref ym Mhrydain. “Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein busnes yn barod am beth bynnag sy'n ein hwynebu yn y dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i wneud Working Links hyd yn oed yn lle gwell i weithio.

www.walescrc.co.uk 7


Rhaglenni Arbennig “Ddylwn i ddim bod ar brawf. Dydw i ddim yn droseddwr.” Dyma rai o’r sylwadau y byddwn yn eu clywed pan fydd troseddwyr yn dod ar y rhaglen i Yrwyr dan Ddylanwad Alcohol. Mae meddygon, nyrsys, athrawon, cyfreithwyr, adeiladwyr, trydanwyr, gweithwyr siopau a phobl ddi-waith i gyd wedi bod ar y rhaglen sy’n cael ei rhedeg gan Gwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru. Ar gyfartaledd mae 100 o bobl yn cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus bob blwyddyn, ar ôl cael gorchymyn gan y llys gan eu bod wedi cyflawni eu hail drosedd yfed a gyrru. Mae’r rhaglen Gyrwyr dan Ddylanwad Alcohol, sy’n cael ei chyflwyno mewn sesiynau grŵp, yn un o nifer o ymyriadau sy’n cael eu trefnu gan Gwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru er mwyn mynd at wraidd patrymau ymddygiad troseddol. Mae’n gwneud i’r gyrwyr sy’n cymryd rhan ystyried effeithiau hirdymor gyrru pan maent dros yr uchafswm alcohol cyfreithlon, fel colli eu trwydded a hyd yn oed eu gwaith. Cynhelir y cyrsiau gyda’r nos fel arfer, ac maent yn rhoi gwybodaeth i rai sydd wedi cael eu dal yn gyrru dan ddylanwad alcohol er mwyn eu helpu i fynd i’r afael â’u harfer o yfed a gyrru. Dros gyfnod o 14 wythnos mae gyrwyr yn dysgu sut i gyfrifo unedau o alcohol mewn diodydd ac maent yn dechrau deall canlyniadau eu gweithredoedd, yr emosiynau sy’n effeithio ar eu penderfyniadau a’r ffactorau sy’n eu sbarduno. Drwy gyfres o arddangosiadau ymarferol maent yn dod i ddeall sut y gall alcohol amharu’n ddychrynllyd ar allu unigolyn i ymateb ar amrantiad er mwyn osgoi damwain. “Un o’r ffactorau mwyaf amlwg ymhlith pobl sy’n cael eu dyfarnu’n euog o droseddau yfed a gyrru yw diffyg gwybodaeth ynglŷn ag unedau o alcohol ac am faint o amser maen nhw’n aros yn y corff,” meddai Niki Rees, Hwylusydd y Rhaglen Achrededig, sy’n gyfrifol am gyflwyno’r cwrs yng Nghaerdydd a’r Fro. “Diffyg gwybodaeth sydd y tu ôl i’r ymddygiad i raddau helaeth. Mae yna hefyd lawer o syniadau cwbl ddi-sail, er enghraifft bod dal darn ceiniog

Profiad i so sydd yn yfe

neu ddwy geiniog yn erbyn taflod y geg yn rhoi darlleniad negyddol ar yr anadliedydd, neu bod gyrru ar hyd ffyrdd gwledig yn fwy diogel nag mewn trefi. Mae disgwyl i ni wybod sawl uned o alcohol sydd mewn gwahanol ddiodydd, ond os nad ydyn ni’n cael ein dysgu sut mae disgwyl i ni wybod? Mae’n rhywbeth ddylai gael ei ddysgu mewn ysgolion neu fel rhan o’r prawf gyrru.” Fel yr eglura Niki mae amrywiaeth eang iawn o bobl yn dod ar y cwrs Gyrwyr dan Ddylanwad Alcohol. “Ar un cwrs fe ddysgais i ddyn 74 oed oedd wedi bod yn gwneud hyn drwy gydol ei oes ac erioed wedi cael ei ddal. Mewn un arall mi oedd yna weithiwr proffesiynol wedi ymddeol a oedd yn gofalu am ei fam oedrannus ac oedd yn teimlo cymaint o gywilydd ei bod wedi cael ei dyfarnu’n euog o yfed a gyrru fel na wnaeth hi

'Fyddwn i byth wedi mynd i’r fan.'

Pan gafodd i ddweud bo llosgi’n ddrw ysbyty rhuth Mae Jonathan Roberts yn dad i dri o wedi gyrru y blant ac roedd wedi mynd i’r dafarn gyda’i faestrefi Ca gydweithwyr yn syth o’r gwaith. Ond ar gerbyd e arweiniodd yr ymweliad hwn at waharddiad Cafodd fân rhag gyrru am dair blynedd, a bu’n ffodus heddlu i leo iawn i beidio â chael anafiadau mawr. fod dros yr u “Ro’n i wedi mynd am ddiod gyda’m ffrindiau Yn Fai cafo yn syth o’r gwaith ac roedd y fan wedi’i am dair blyn pharcio y tu allan,’ meddai’r trydanwr 37 oed. gorchmynnw wythnos ar

8

@WalesCRC

www.walescrc.co.uk


obri'r rhai ed a gyrru

Roedd un gyrrwr dros yr uchafswm cyfreithlon yn braf ac yn mynd i nôl ei blant o’r ysgol pan gafodd ddamwain â’r car. Ei agwedd oedd, ‘dim ond lawr yr hewl ro’n i’n mynd Ffeithiau am alcoh

ol

Yn Lloegr a Chym ru'r ffin alcohol i yrwyr ydi 80mg o alcohol po b 100ml o waed, 35 mg pob 100ml o anadl neu 107 mg pob 100m l o wrin. Y ddedfryd fwyaf am yfed a gyrru yw 6 mis yn y carchar, dirwy an ghyfyngedig a gw aharddiad yrru o leiaf am 1 flw yddyn (tri os yn eu og dwywaith o fewn 10 blynedd).

ddweud wrth neb. “Mae agwedd pobl yn gallu’ch dychryn chi. Roedd un gyrrwr dros yr uchafswm cyfreithlon yn braf ac yn mynd i nôl ei blant o’r ysgol pan gafodd ddamwain â’r car. Ei agwedd oedd, ‘dim ond lawr yr hewl ro’n i’n mynd.’ Senario gyffredin arall yw pobl sy’n yfed gartref, yn cyrraedd gwaelod y botel, yna’n gyrru i’r garej i brynu potel arall. “Drwy gael y troseddwyr i edrych ar eu hemosiynau a gwneud bwrdd stori ag wyth golygfa yn arwain at eu harestiad, maen nhw’n dechrau meddwl o ddifrif am eu gweithredoedd ac yn cael cynllun wrth gefn at y dyfodol. “Yn y pen draw mae’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo cywilydd mawr oherwydd yr hyn maen nhw wedi’i wneud ac yn gadael â mwy o wybodaeth a sgiliau er mwyn peidio â throseddu yn y dyfodol.”

d alwad ffôn gan ei gyn gariad od ei fab blwydd oed wedi wg ac yn gorfod mynd i’r hrodd Jonathan i’w fan. Roedd ychydig o filltiroedd drwy aerdydd pan gollodd reolaeth ei gyflogwr a tharo coeden. anafiadau. Pan ddaeth yr oliad y ddamwain gwelwyd ei uchafswm gyrru cyfreithlon. odd ei wahardd rhag gyrru nedd gan yr ynadon a wyd y dylai fynd ar gwrs 12 gyfer Gyrwyr dan Ddylanwad

@WalesCRC

Ffeithiau am alcohol Yr uchafswm dyddiol sy’n cael ei argymell yw 3-4 uned o alcohol ar gyfer dynion a 2-3 uned ar gyfer merched. Pe baech yn yfed pedwar peint o gwrw cryfder cyfartalog o 4% un noson byddai’n cymryd 13 awr iddo adael eich system. Felly, os ydych yn cael eich diod olaf am 11pm ni ddylech yrru tan hanner dydd y diwrnod canlynol. Pe baech yn yfed tri gwydraid mawr o win (250ml) byddai’n cymryd 11 awr iddo adael y corff. Yr uchafswm alcohol ar gyfer gyrwyr yng Nghymru a Lloegr yw 80mg o alcohol ym mhob 100ml o waed, 35mg ym mhob 100ml o anadl neu 107mg ym mhob 100ml o ddŵr. Y gosb fwyaf am yfed a gyrru yw chwe mis o garchar, dirwy anghyfyngedig a gwaharddiad rhag gyrru am o leiaf flwyddyn (tair blynedd os cafwyd dwy gollfarn mewn 10 mlynedd).

Alcohol. “Fe wnaeth y cwrs fy helpu i ddeall beth roeddwn i wedi’i wneud a chymaint roeddwn i’n ei yfed. Fyddwn i ddim wedi dweud fy mod i’n yfwr mawr iawn, ond pan edrychais i o ddifri ar y ffigurau gwelais fy mod i’n yfed yr uchafswm sy’n cael ei argymell ar gyfer wythnos i gyd mewn un diwrnod. Mae’r cwrs wedi fy helpu i ddysgu sut i gynllunio’n effeithiol a beth yw’r dewisiadau eraill yn lle yfed a gyrru. “Ar adeg y ddamwain dim ond un peth oedd ar fy meddwl – mynd at fy mab.

Roeddwn i’n ffodus iawn na chefais i anaf ac na wnes i anafu gyrrwr arall. Bu bron iawn i mi golli fy ngwaith ac rydw i wedi gorfod talu’n ôl i’r bos am y difrod i’w fan. Rydw i hefyd yn gorfod gofyn i ffrindiau a theulu fynd â fi i wahanol leoedd, ac mae hynny’n dipyn o anhwylustod.” “Pe bawn i’n gallu troi’r cloc yn ôl, o wybod beth rydw i wedi’i ddysgu ar y cwrs ar gyfer Gyrwyr dan Ddylanwad Alcohol, byddwn i wedi mynd allan a ffonio am dacsi. Fyddwn i byth wedi mynd i’r fan. Roedd yn beth dwl iawn i’w wneud.”

www.walescrc.co.uk

9


Cyflwyno ein Swyddogion Prawf newydd dan hyfforddiant Mis Chwefror bu i Gwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru recriwtio 10 Swyddog Prawf newydd dan hyfforddiant ar draws Cymru. Mae rhai o'r recriwtiaid newydd yma yn dweud wrthym pam ei bod wedi ymuno Mae Tracey Betts yn fam i bedwar o blant. Mae wedi’i lleoli ym Mhonty-pŵl. “Rwyf eisiau cael effaith a dylanwad cadarnhaol ar fywydau pobl. Cyn imi ymuno â’r gwasanaeth prawf, roeddwn yn dysgu sgiliau sylfaenol llythrennedd i droseddwyr yng Ngharchar EM Brynbuga/Prescoed. Roeddwn yn gallu gweld faint o hyder yr oedd carcharorion yn ei fagu drwy ddysgu sut i ddarllen ac ysgrifennu. Drwy hyfforddi i fod yn swyddog prawf, rwy’n gobeithio cael mwy o ddylanwad ar fywydau pobl, ac mae fy ngwaith yn y carchardai wedi rhoi gwell dealltwriaeth o’u hanghenion i mi. Roedd mynd yn ôl i fyd addysg yn hwb i fy hyder a gobeithaf y bydd fy mhrofiad yn helpu eraill.”

Roedd David O’Driscoll yn wirfoddolwr gyda’r Gwasanaeth Troseddwyr Ifanc. Roedd yn gweithio fel Gweinyddwr gyda’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol. Ymunodd â CRC Cymru fel Swyddog Prawf dan Hyfforddiant wedi’i leoli yn Heol y Porth, Caerdydd yn 2015. “Fe wnes i’n dda yn yr ysgol ond yn fy arddegau hwyr dechreuais gymysgu â grŵp cyfoedion a gafodd ddylanwad negyddol arnaf. Drwy fynd i’r brifysgol i astudio troseddeg, llwyddais i dynnu fy hun allan o’r sefyllfa honno. “Pan adewais y brifysgol, dechreuais weithio i undeb llafur, ond ar yr un pryd roeddwn yn gwneud gwaith gwirfoddol fel mentor gyda’r Gwasanaeth Troseddwyr Ifanc, ond roeddwn yn torri fy mol eisiau bod yn Swyddog Prawf. “Rwy’n deall sut y gall sefyllfa rhywun ddirywio’n gyflym. Rwyf wedi gweld y gwahaniaeth y gall mentor da ei wneud i droseddwr ifanc. Rwyf eisiau’r cyfle i wneud yr un fath i eraill drwy ddefnyddio fy mhrofiad o osod esiampl dda.”

10

@WalesCRC

GOGLEDD CYMRU

Yr Ysgrifennydd Cartref yn gweld ycynllun Gwneud Iawn â’r Gymuned ar waith Roedd yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May yn dyst i fuddion cadarnhaol y cynllun Gwneud Iawn â'r Gymuned pan ymwelodd â throseddwyr yn helpu cymuned i dyfu cynnyrch eu hunain yn y Rhyl. Mae’r cynllun Gwneud Iawn â'r Gymuned yng Ngogledd Cymru yn gweithio gyda chyfarwyddwyr y Mentrau Gerddi Botaneg i greu gerddi cymunedol ar safle depo Cyngor Sir Ddinbych yn flaenorol yn y Rhyl. Treuliodd yr Ysgrifennydd Cartref awr yn arsylwi grŵp o chwe throseddwr wrth iddynt baratoi twnelau polythen a phalu gwlâu llysiau, dan reolaeth Martin Trigg, Goruchwyliwr y cynllun Gwneud Iawn â’r Gymuned. “Mae buddion cadarnhaol ar gyfer y gymuned leol, ac mae pobl yn gallu gweld bod y sawl sy'n rhan o gynllun Gwneud Iawn â'r Gymuned yn rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned leol” meddai’r Ysgrifennydd Cartref. “Ond ar yr un pryd maent yn dysgu sgiliau, fydd gobeithio, yn eu gweddu’n dda o ran eu datblygu fel nad ydynt yn aildroseddu,” ychwanegodd. Pam rwyf eisiau bod yn swyddog prawf Recriwtiaid newydd CRC Cymru yn rhannu eu profiad o helpu troseddwyr ar eu taith

GWENT

Ian Rogers, Goruchwyliwr Gwneud Iawn â’r Gymuned, Julie Morgan AC, cyn aelod o Bwyllgor Dethol y Llywodraeth ar Gyfiawnder a David Bidgood, Swyddog Gwneud Iawn â’r Gymuned yng Ngwent.

Ymddiriedolaeth K Mewn araith bwerus yn lansiad arddangosfa genedlaethol o waith celf a oedd yn cael ei llwyfannu gan Ymddiriedolaeth Koestler dywedodd mam fod y cyfle i wneud cerfluniau yn y carchar wedi helpu i achub bywyd ei mab. Mae’r arddangosfa sydd

www.walescrc.co.uk

i’w g Mile Cae yn c garc ar br mew elen gan beny yn c


Spotlight Newyddion o'r Gymru

CAMERA! ACTION! Efallai na fydd yn ennill Oscar, ond cafodd lansiad ffilm ysbrydoledig wedi’i chreu gan ddefnyddwyr gwasanaeth yn sicr effaith fawr ar y gynulleidfa yr wythnos hon. Cafodd ‘The Journey’ ei chreu, ei ffilmio a’i golygu gan ddefnyddwyr gwasanaeth â’r nod o ddweud eu stori, eu meddyliau a’u teimladau am brawf. Bydd copïau o’r DVD yn cael eu dosbarthu ledled Cymru i’w defnyddio mewn sesiynau hyfforddi staff a grwpiau defnyddwyr gwasanaeth. Arweinwyr y prosiect oedd Doris Adlam, dirprwy bennaeth Uned Gyflawni Leol y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yng Ngogledd Cymru, a Megan Jenkins, cydgysylltydd defnyddwyr gwasanaeth Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru. Dechreuwyd y gwaith gan

DE CYMRU DYFED POWYS Ymddiriedolaeth Prawf Cymru a datblygodd yn fenter ar y cyd rhwng Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru a’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol. Cwblhawyd y gwaith ffilmio yn Swyddfa Brawf Llanelli a’r ardal gyfagos â chymorth cwmni o’r gogledd, TAPE Community Music and Film. Cafodd creu’r ffilm argraff fawr ar ddefnyddwyr gwasanaeth fel Tara. Wrth siarad yn y lansiad yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Chapter yng Nghaerdydd, un o dri lansiad a gafwyd yng Nghymru, dywedodd: “Wnes i erioed ddychmygu y byddwn i’n gysylltiedig â gwneud ffilm ond mae wedi bod yn brofiad gwych. Fe wnaethon ni weithio fel tîm i’w gwneud hi mor real ag sy’n bosibl felly doedd yna ddim sgript. Roedd y bobl yn y ffilm yn siarad yn ddifyfyr.

Koestler

gweld yng Nghanolfan eniwm Cymru ym Mae erdydd tan 13 Ebrill cynnwys gwaith gan charorion, troseddwyr rawf a chleifion wn ysbytai diogel, ac ni dewiswyd y darnau grŵp o droseddwyr ywaidd, rhai ohonynt cael eu rheoli ar y

cynllun Gwneud Iawn â’r Gymuned gan Gwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru. “Pan aeth fy mab i’r carchar...doeddwn i ddim yn meddwl y byddai’n gallu dygymod ac roedd gen i ofn y byddai’n ceisio lladd ei hun,” meddai’r fam. “Wna i

@WalesCRC

byth anghofio’r diwrnod y gwnaeth e ffonio i ddweud bod ei waith wedi cael ei ddewis ar gyfer arddangosfa. Roedd e wedi gwirioni. Roedd hyn yn drobwynt. Nawr mae e eisiau bod yn gerflunydd,” meddai.

00

Cafodd plant ysgol ym Merthyr Tudful ddilyn anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud diolch i ymdrechion artistig troseddwyr lleol. Bu’r troseddwyr yn gweithio gydag elusen llythrennedd Ymddiriedolaeth Canmlwyddiant Stephens a George i wneud Diwrnod y Llyfr yn ddiwrnod hudolus i gannoedd o ddisgyblion lleol. Yng ngweithdai Gwneud Iawn â’r Gymuned Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru yn Lewis Street, Treganna, Caerdydd, defnyddiodd troseddwyr eu sgiliau peintio a gwaith coed i greu golygfeydd a chymeriadau lliwgar o nofel boblogaidd Lewis Carroll i blant. Maent wedi gwneud dwsinau o gardiau chwarae mawr a cherfluniau pren trawiadol o Alys, Cath Sir Gaer, Brenhines y Calonnau a’i gwarcheidwaid. Cariwyd eu gwaith i Stryd Fawr Merthyr a’i osod o amgylch Ffownten Lucy ar gyfer gŵyl gymunedol Lledaenu’r Gair ar Ddiwrnod y Llyfr, dydd Iau, 5 Mawrth. o oriau gwaith di-dâl dan oruchwyliaeth yn cael eu cyflawni bob mis mewn cymunedau yng Nghymru.

www.walescrc.co.uk 11


Clive yn hwylio i helpu cyn-filwyr Bydd Clive Thomas, sy’n weithiwr prawf, yn hwylio o amgylch Cymru ar ei gwch 32 troedfedd y mis mesaf er mwyn codi arian i elusen ar gyfer cyn-filwyr, Change Step, a chodi ymwybyddiaeth ohoni. Mae Clive yn gyn awyrfilwr a hyfforddwr rhyfela yn y jyngl, a chan ei fod wedi treulio dros 30 mlynedd yn y fyddin mae’n ymwybodol iawn o’r problemau sy’n wynebu cyn-filwyr pan fyddant yn gadael y lluoedd arfog. Erbyn hyn mae’n Swyddog Gwneud Iawn â’r Gymuned, ac yn gweithio gyda throseddwyr sy’n gwneud gwaith di-dâl yn y gymuned fel rhan o’u dedfryd. Mae hefyd yn un o arbenigwyr Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru sy’n gweithio gyda chyn-filwyr. Fel rhan o’i waith gyda chyn-filwyr mae Clive wedi cyflwyno nifer o gyn-filwyr i elusen Change Step sy’n cynnig cymorth ymarferol a chyfleoedd cymdeithasol i rai sy’n cael anhawster i ailgydio yn eu bywydau y tu allan i’r lluoedd arfog. Ddydd Sul, 10 Mai, bydd yn gadael Caerdydd gyda mentor Change Step, Sandy Shaw, ar daith bum niwrnod i Fae Colwyn yn y gogledd, gan godi criw newydd o bedwar ym mhob marina lle bydd yn stopio ar y ffordd, gan gynnwys nifer o gyn-filwyr. Bydd yn gorffwys dros y penwythnos ac yna’n cychwyn ar y daith yn ôl i Gaerdydd. Disgwylir y bydd y daith gyfan yn cymryd 12 niwrnod. Mae Clive yn hwyliwr profiadol. Mae wedi hwylio cyn belled â Môr y Canoldir a’r Ynysoedd Dedwydd ac awgrymwyd yr antur ddiweddaraf iddo gan Wayne Driscoll, sy’n rheolwr tîm yn Abertawe. Os hoffech gyfrannu at her Clive, ewch i wefan Change Step. www.changestepwales. co.uk

Clive Thomas sydd yn hwylio o amgylch Cymru i hyrwyddo gwaith yr elusen Change Step.

12

Cyflwyno ein staff Enw: Stephen O'Sullivan Swydd: Swyddog y Gwasanaeth Prawf Diddordeb arbenigol: Gweithio gyda chynfilwyr yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Ymunodd Stephen â’r gwasanaeth prawf ar ôl gwasanaethu am naw mlynedd gyda Gwarchodlu Dragŵn Cyntaf y Frenhines, felly mae’n deall sut y gall cyn-filwr fynd o fod yn arwr i fod yn neb. “Wrth i Anhwylder Straen ar ôl Trawma ddod yn fwy amlwg ymysg dynion a merched sy’n gadael y lluoedd arfog, credaf fod fy ffordd o feddwl a’r hyfforddiant rydw i wedi ei gael wedi rhoi gwell sgiliau i mi allu deall troseddwyr yn well,” eglura Stephen. Ymunodd â’r gwasanaeth prawf 24 mlynedd yn ôl fel Goruchwylydd Gwneud Iawn â’r Gymuned. Erbyn hyn mae’n gweithio fel Swyddog Gwasanaeth Prawf yn Heol Westgate, Caerdydd, lle mae’n delio â dros 60 o droseddwyr. “Ymunais â’r Dragwniaid yn 16 oed a phan adawais yn 1982, roeddwn wedi gwasanaethu am naw mlynedd ac wedi gwneud sawl cyfnod gwasanaethu yng Ngogledd Iwerddon, felly rydw i’n deall y meddylfryd milwrol. Fel Dragŵn, rydw i’n gwybod nad yw dinasyddion eraill wastad yn deall cyn-aelodau o’r lluoedd arfog. “Ystyriaf fy rôl fel un gyfeiriol – rwy’n gweithio gydag asiantaethau partner ac yn ymwybodol o’r bobl a’r asiantaethau sy’n gallu helpu troseddwyr a’u teuluoedd. Rwy’n gweithio’n agos gyda chydweithwyr sy’n rheoli troseddwyr, yn cynnig siarad â throseddwyr sydd wedi gadael y lluoedd arfog, ac yn dod o hyd i’r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.” Yn ei waith fel Pwynt Cyswllt at gyfer Cyn-filwyr, mae’n gweithio’n agos gyda Dr Neil Kitchener, y Prif Glinigydd ar gyfer Cyn-filwyr yn GIG Cymru sy’n gweithio gyda chyn-filwyr gyda phroblemau iechyd meddwl, a gyda Chymdeithas y Cyn-filwyr ym Marics y Maendy, Caerdydd. Bu’n gweithio hefyd gyda SSAFA, elusen ar gyfer teuluoedd y Lluoedd, y Lleng Frenhinol Brydeinig, Change Step a gydag elusennau ac asiantaethau cefnogi eraill. nd dydyn nhw ddim yn tueddu i ymgysylltu’n dda. “Erbyn i ni weld cyn-wasanaethwyr, maen nhw wedi suddo i’r gwaelod. Pan fyddwn yn llwyddo i wneud iddynt ddod allan o’u cragen, man nhw’n tueddu i wella’n eithaf cyflym.”

Crëwyd y Cwmni Adsefydlu Cymunedol ar 1 Mehefin 2014 fel rhan o raglen y llywodraeth ar gyfer diwygio gwasanaethau prawf. Yr un pryd, sefydlwyd y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol i fod yn gyfrifol am droseddwyr risg uchel, cynghori’r llysoedd ar ddedfrydu, cysylltu â dioddefwyr, ac eiddo cymeradwy. Rydym yn cydweithio’n agos â’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a @WalesCRC www.walescrc.co.uk gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar eu gwefan.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.