Haf 2015 Newyddion gan Gwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru

Page 1

NEWYDDION

gan Gwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru

Haf 2015

Gwasanethau Probation services prawf sy’n which lleihau reduce aildroseddu reoffending acand yn gwneud make the pobl people Cymru of Wales yn saffach safer

Arwain y Ffordd

Mae llawer o wobrau cenedlaethol yn nodi llwyddiant yn ein blwyddyn gyntaf Mae Wendy Hyett o Gwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru wedi cael ei henwi’n Hyrwyddwr Prawf y Flwyddyn am ei gwaith “arloesol” wrth helpu merched i droi eu cefnau ar droseddu. Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr (NOMS) yn anrhydeddu staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio yn y gwasanaeth prawf a chydnabod rhagoriaeth yng ngwaith y gwasanaeth prawf. Mae hwn yn un wobr mawr allan o bum rydym wedi ei ennill yn yr wythnosau diwethaf, ac rydym ar y rhestr fer i gael naw gwobr arall Wendy, wedi graddio yn y gyfraith yn Ysgol Economeg Llundain, ydy Rheolwr Prosiect Pathfinder Menywod IOM Cymru. Mae hwn yn gynllun ar gyfer menywod a sefydlwyd yng Nghaerdydd i weithio gyda menywod yn y System Cyfiawnder Troseddol. Un o brif lwyddiannau’r prosiect yw’r Cynllun Dargyfeirio. Mae’r cynllun hwn wedi llwyddo i arwain dros 150 o fenywod oddi wrth rybudd neu erlyniad troseddol am droseddau risg isel ac i gefnogaeth cymunedol gwirfoddol i’w helpu gyda’r materion sy’n gwneud iddyn nhw droseddu. Cymaint fu llwyddiant y prosiect ei fod nawr yn cael ei ymestyn ar draws Cymru. Roedd Wendy yn un o bedwar a gyrhaeddodd rownd derfynol y gwobrau cenedlaethol o CRC Cymru. Mae’r gwobrau’n cydnabod rhagoriaeth yng

@WalesCRC

Wendy Hyett yn derbyn gwobr Hyrwyddwr Prawf gan Andrew Selous, Gweinidog dros Garchardai, Prawf ac Adsefydlu.

ngwaith staff a gwirfoddolwyr prawf. Wendy Hyett, Probation Champion of the Year Roedd Michael Spurr, Prif Swyddog Gweithredol y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr (NOMS) sy’n trefnu’r gwobrau, wedi dewis Wendy am ei gwaith ysbrydoledig gyda phartneriaid yng Nghymru i fynd i’r afael â throseddu menywod. Dywedodd: “Mae ei gwaith hi wedi bod yn wirioneddol arloesol, gan roi model i bobl eraill. Mae wedi dangos effaith bosibl prawf ar asiantaethau eraill er mwyn gallu gwireddu newid cadarnhaol yn y bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw.” Dywedodd Wendy, a oedd hefyd wedi ennill y categori ar gyfer Amrywiaeth a Chydraddoldeb: “Dwi wedi cael fy synnu’n llwyr ac ar ben fy nigon, a dwi mor falch dros y prosiect a Mae Cwmni Adsefydlu Cymunedol phawb sy’n rhan ohono Cymru’n rheoli – mae’n bartneriaeth aml-asiantaeth go iawn, y ffordd orau Edrychwch ymlaen are y fideo o droseddwyr risg isel a ar yma chanolig. Mai 2015 gyfer

Trowch i dudalen 2

8,430

www.walescrc.co.uk


Cylchlythyr

Stori tu ôl i bob ystadegyn Rydym wedi coroni ein blwyddyn gyntaf fel Cwmni Adsefydlu Cymunedol (CRC) drwy ennill llond llaw o wobrau prawf clodfawr, fel y gwelwch yn y tudalennau hyn. Rydym yn falch iawn o’r gydnabyddiaeth, ond y peth pwysicaf am ennill yw ei fod yn dangos bod ein ffordd arloesol o weithio a’n perthynas rhagorol gyda phartneriaid yn gwella ansawdd yn yr hyn yr ydym yn ei gyflawni. Mae defnyddwyr ein gwasanaeth yn elwa o hyn tra byddwn yn ymdrechu i ragori a cheisio datblygu’r dulliau mwyaf effeithiol i leihau aildroseddu. Mae gweld unigolyn yn newid eu bywyd er gwell yn golygu bod y gymuned yn ddiogelach a bod llai o ddioddefwyr. Mae hi’n chwe mis ers gwerthu’r cyfranddaliadau ac rydym yn gweithio’n agos gyda Working Links, sef perchnogion CRC, i greu dull trawsffurfiol o gefnogi unigolion sydd ag anghenion cymhleth ar draws ein gwaith Cyfiawnder a chyflogadwyedd. Mae hyn yn cael ei arwain gan Paul Hindson, Cyfarwyddwr newydd Cyfiawnder y DU, sydd hefyd yn gyfrifol am y ddau Gwmni Adsefydlu Cymunedol arall, ac mae’n arwain prosiectau yn y DU ar gyfer Working Links yn gyffredinol. Mae ganddo wybodaeth eang ynghylch cyfiawnder troseddol a materion cyfiawnder cymdeithasol ehangach, mae’n gyn Gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Prawf Swydd Gaerlŷr a Rutland, ac yn gyn Bennaeth Rheoli

ac Asesu Troseddwyr yn NOMS. Ei swydd flaenorol cyn ymuno â Working Links oedd Cyfarwyddwr Datrysiadau Cymunedol gydag Interserve. Mae’n awyddus i ddatblygu gwasanaethau sydd yn fwy integredig ac yn y gymuned, sy’n cyd-fynd yn dda â’n dull o Reoli Troseddwyr yn Integredig. Mae wedi gwirioni gyda’r brwdfrydedd sydd yng Nghymru, y berthynas rhagorol ledled y maes cyfiawnder troseddol a chymdeithasol, a’n parodrwydd i weithio gyda’n gilydd i wella yn barhaus yr hyn yr ydym yn ei wneud ac i geisio dulliau newydd. Rydym wedi bod yn canolbwyntio yn y misoedd cynnar ar geisio cael y rhyngwyneb rhyngom ni â’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn iawn, er mwyn fanteisio ar gefnogaeth NOMS Cymru i sicrhau bod gennym ddull integredig o gyflawni gwaith ar draws y carchardai a’r gwasanaeth prawf wrth sefydlu ein gwasanaethau newydd. Rydym yn falch iawn o fod wedi dechrau ar y matrics perfformiad yn gadarnhaol, ond rydym eisiau dangos sut mae gwaith prawf yn cyfrannu at les y gymuned a lleihau aildroseddu – mae stori tu cefn i bob ystadegyn a gallwch ddarllen rhai ohonynt yn y tudalennau nesaf. Liz Rijnenberg, Cyfarwyddwr CRC Cymru a Paul Hinson, Cyfarwyddwr Rheoli Cyfiawnder y DU

Liz Rijnenberg Cyfarwyddwr Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru

gofal arbennig arno mewn uned ar gyfer anafiadau i’r cefn. Dywedodd y beirniaid bod ei gwaith yn “neilltuol” ac “yn gwneud gwahaniaeth go iawn.” “Suzanne ydy’r meincnod ar gyfer mesur pawb arall,” yn ôl y beirniaid. Roedd Sian Waters, Swyddog Gwasanaeth Prawf yn Llanelli wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori Arloesi ar gyfer ei gwaith cymell gyda throseddwyr gan gynnwys datblygu’r fenter gymdeithasol Ail Gyfle lle mae troseddwyr yn cael eu hyfforddi wrth iddyn nhw greu eitemau crefft i’w gwerthu Suzanne Edwards yn derbyn ei gwobr am mewn siop elusen. Reolwr Troseddwyr y Flwyddyn gan Andrew Yn y categori Gweithio mewn Selous AS. Partneriaeth roedd Lindsey Pudge, Swyddog Prawf yng Ngwent, wedi y math hwn o waith. Dwi wrth fy modd ein cyrraedd y rownd derfynol am ei gwaith bod ni wedi ennill.” gyda phrosiect peilot Barnardo’s Cymru Roedd Swyddog Prawf o Abertawe, - Cefnogaeth Gymunedol i Droseddwyr, Suzanne Edwards, wedi ennill y wobr sy’n diogelu plant ac yn cefnogi rhieni Rheoli Troseddwyr am “hyrwyddo achosionsydd yn y carchar. cymhleth.” Roedd ei gwaith wedi cynnwys Y fuddugoliaeth hon yw’r ail wobr i achos troseddwr a oedd wedi cael ei Wendy ei derbyn yn ddiweddar, gan barlysu mewn ymosodiad ac roedd angen iddi gipio teitl Arweinyddiaeth ar gyfer y Dyfodol yng Ngwobrau Arwain Cymru ar Parhad o dudalen 1

Cysylltwch â ni 2

ddechrau’r mis. Dywedodd Liz Rijnenberg, Cyfarwyddwr Cwmni Adsefydlu Cymunedol Prawf Cymru: “Rwyf mor falch o bob un o’n pedwar swyddog a gyrhaeddodd y rownd derfynol. Maen nhw’n dangos ymrwymiad ac ymroddiad rhagorol i hyrwyddo arfer gorau yn y gwasanaeth prawf, ac maen nhw i gyd yn enillwyr. “Cefais weithio gyda Wendy am y tro cyntaf yn 2008. Roedd yn amlwg ei bod yn rheolwr prosiect dawnus yn llawn symbyliad ac ysbrydoliaeth, ac nid yw hynny wedi newid dros amser. Mae’r gwobrau hyn yn golygu y bydd gan Wendy rôl barhaus drwy gydol y flwyddyn fel llysgennad ar gyfer arweinyddiaeth yng Nghymru ac ar draws y teulu Prawf ehangach.” Dywedodd Paul Hindson, Rheolwr Gyfarwyddwr Cyfiawnder y Deyrnas Unedig: “Mae llwyddiant Cwmni Adsefydlu Cymunedol Prawf Cymru yng Ngwobrau Prawf 2015 yn amlygu ymroddiad ac ymrwymiad ein staff yng Nghymru.”

Gobeithio y byddwch yn gweld y cylchlythyr yma yn ddefnyddiol. Os oes gennych unrhyw sylw am y cynnwys plîs cysylltwch â wls.communications@wales.probation.gsi.gov.uk

@WalesCRC

www.walescrc.co.uk


Cylchlythyr

Ein

gwobrwyedig gwaith

Yn nhermau gwobrwyon, mae CRC Cymru wedi dangos mai ein staff yw’r rhai gorau yn y maes prawf a chyfiawnder troseddol ond yn ogystal â hyn maent yn arwain y ffordd ym meysydd busnes a’r amgylchedd. Rydym wedi dathlu nifer o wobrwyon eleni, gan gynnwys: Gwobrau Arwain Cymru

Enillodd Wendy Hyett Wobr Arweinyddiaeth at y Dyfodol yng ngwobrau Cymru gyfan a oedd yn cydnabod a dathlu arweinyddiaeth yn y gymdeithas yng Nghymru. Cafodd Ella Rabaiotti, Pennaeth Uned Gyflawni Leol Dyfed Powys yn Llanelli, yr ail safle yn y categori Arweinydd y Genhedlaeth Nesaf am y ffordd y mae hi’n arwain 60 aelod o staff prawf a 1,000 o droseddwyr yn ardal Dyfed Powys, ac yn annog staff a throseddwyr i ddatblygu a newid er gwell. Gwobrau Bywyd Gwyllt NOMS

Enillydd categori Cymunedol ac Allgymorth oedd Nicholaston House, sef canolfan encilio Gristnogol sy’n edrych dros arfordir gwych Bro Gŵyr. Mae’r gerddi yno wedi cael eu gweddnewid gan dimau Gwneud Iawn â’r Gymuned

i ddarparu cynefinoedd ar gyfer sawl rhywogaeth o fywyd gwyllt. Mae timau o droseddwyr wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â gweithdy Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru ym Mhort Talbot. O dan arweiniad y goruchwyliwr Noel Williams, mae’r troseddwyr wedi adeiladu colomendy gwych, blwch i dylluan, gwestai chwilod wedi’u gwneud o gansenni bambŵ gwag, blychau plannu blodau, byrddau adar, cartrefi i ddraenogod a mwy. Mae’r troseddwyr hefyd wedi bod yn gyfrifol am adeiladu deildy, patio, ardal ailgylchu a llwybr gweddi. Mae’r gwobrau, y mae Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr yn eu cynnal, yn agored i wasanaethau prawf a charchardai sy’n gweithio mewn partneriaeth i ddiogelu a gwella cynefinoedd bywyd gwyllt. Yn y categori prosiect Allgymorth cafodd Parc Cwm Darran Ganmoliaeth Uchel. Dyma barc gwledig 1,000 erw yng Nghwm Rhymni sydd wedi cael Gwobr y Faner Werdd. Mae’r goruchwyliwr, Maria Harrington, a’i thimau wedi bod yn

gwneud 4,200 o oriau gwaith di-dâl ar gyfartaledd bob blwyddyn dros y 17 flynedd diwethaf. Mae troseddwyr wedi gosod blychau adar a blychau ystlumod, wedi creu cynefinoedd ar gyfer nadroedd y gwair a madfallod cribog, wedi adeiladu gwaliau dyfrgwn ar hyd glannau Afon Rhymni ac wedi creu cartrefi i wencïod a mamaliaid bychain eraill. Cynghrair Howard

Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod unigolion sydd yn gwneud gwahaniaeth mawr yn y maes cyfiawnder troseddol. Roedd Megan Jenkins, sy’n gweithio fel cynghorydd rhanddeiliaid a chydlynydd defnyddwyr gwasanaeth yn ein swyddfa yn Llanelli, ar restr fer y wobr Pencampwr Cyfiawnder Troseddol am ei gwaith yn siarad gyda grwpiau dylanwadol ynglŷn â chanlyniadau cadarnhaol i bobl sydd

Gwobrau

wedi bod ar brawf, ac am weithredu fel cyswllt rhwng troseddwyr a rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Cafodd Natalie Poole, swyddog prawf yng Nghaerdydd ei rhoi ar y rhestr fer hefyd ar gyfer Pencampwr Cyfiawnder Troseddol am ei gwaith eithriadol ar y prosiect Braenaru i Fenywod. Cafodd y Prosiect Braenaru, sy’n cael ei reoli gan Wendy Hyett, ein Pencampwr Prawf, ei roi ar y rhestr fer yn y categori Oedolion a Phlismona. No Offence

Mae Katy Benson, Defnyddiwr gwasanaeth sydd wedi newid ei bywyd er gwell ei bywyd gyda chefnogaeth swyddog prawf a phrosiect Braenaru i Fenywod IOM Cymru, ar y rhestr fer yn y swyddogaeth mentora. Mae Katy yn gweithio i Recovery Cymru bellach, sef yr elusen a oedd o gymorth iddi hi ac mae hi’n rhoi cymorth i eraill. Bydd y gwobrau yn cael eu cyflwyno yng Nghadeirlan Manceinion ar 9 Hydref.

Pennawd: Suzanne Edwards yn derbyn ei gwobr am Reolwr Troseddwyr y Flwyddyn gan Andrew Selous AS; Noel Williams, Rheolwr Gweithdy Port Talbot yn derbyn Gwobr Bywyd Gwyllt NOMS gan Colin Alars; Wendy Hyett ac Ella Rabaoitti gyda’u Gwobrau Arwain Cymru yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd.

@WalesCRC

www.walescrc.co.uk

3


Cylchlythyr

Gweithio mewn Partneriaeth

Ail Gyfle

Gweithdy ail gyfle yn Llanelli yn rhoi cyfleoedd newydd i droseddwyr. Ar ôl iddo droi dalen lân gyda help y gwasanaethau prawf, mae cyndroseddwr bellach yn rhoi “ail gyfle” i droseddwyr eraill. Mae’n ddysgu sgiliau iddynt fel rhan o brosiect ailgylchu elusennol flaengar, a hynny yn y gobaith y gallant eu defnyddio mewn swydd yn y dyfodol. Profiad cyntaf Dai Rees o’r gwasanaeth prawf oedd 12 mlynedd yn ôl pan fu’n rhaid iddo gydymffurfio â gofyniad adsefydlu cyffuriau. Erbyn hyn, mae’n gweithio fel rhan o brosiect peilot newydd Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru, Ail Gyfle. Partneriaeth rhwng Uned Cyflawni Leol Cwmni Adsefydlu Cymunedol Dyfed Powys a Chanolfan Antioch, yn Ffordd y Gwaith Copr, Llanelli, yw Ail Gyfle ac mae’n rhoi cyfle i droseddwyr ddysgu sgiliau newydd ar gyfer gwaith mewn gweithdy ar gyrion Llanelli. Rhoddir hyfforddiant iddynt wneud gwaith saer a gwaith coed drwy ailgylchu hen baledi pren, dodrefn a riliau cebl sydd heb eu defnyddio er mwyn creu cynnyrch arloesol i’r cartref a’r ardd er enghraifft cadeiriau, byrddau, meinciau, cafnau plannu a ffynhonnau gofuned. Mae Dai’n cael ei gyflogi gan Ganolfan Antioch i gynnal y gweithdy i droseddwyr

4

@WalesCRC

sydd wedi’u dedfrydu gan y llysoedd i wneud gwaith di-dâl drwy’r Cynllun Gwneud Iawn i’r Gymuned. Esboniodd Dai: “Pan o’n i ar brawf, fe wnaethon nhw lot o les imi. Fe roeson nhw help imi ddatrys fy mhroblemau a ‘ngwneud i’n well person. “Achos ‘mod i wedi bod drwy’r system brawf, rwy’n gallu cydymdeimlo â’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Rwy’n deall bod rhai o’r bobl sy’n dod yma wedi cael problemau gyda chyffuriau yn y gorffennol. Rwy wedi cerdded y llwybr yna ac wedi cael trefn arna’i fy hun, ac rwy’n gallu cyfathrebu â nhw. Pan fyddwch chi’n cydweithio’n agos â rhywun, bydd eu problemau nhw’n dod i’r wyneb ac os galla’i helpu mewn unrhyw ffordd neu eu cyfeirio at bobl eraill sy’n gallu helpu, fe wna’i hynny. Mae hyn rhoi llawer o foddhad imi.” Yng ngweithdy Dai, bydd dynion sydd wedi troseddu’n cael eu rhoi mewn lleoliadau grŵp a lleoliadau i unigolion lle byddant yn dysgu am iechyd a diogelwch, codi a symud llwythau a sgiliau gwaith coed sylfaenol. Mae ‘na ystafell grefftau yn y prosiect hefyd ac yma, bob dydd Mercher, bydd grŵp o fenywod sydd dan Orchmynion Cymunedol yn uwchgylchu dodrefn a

nwyddau eraill i’r cartref i greu cyfres o nwyddau ac eitemau “ffasiynol dreuliedig” i’r cartref. Mae’r menywod yn dysgu sgiliau ym maes lletygarwch ac ailgylchu. Mae cymwysterau Rhwydwaith y Coleg Agored y bydd troseddwyr yn eu hennill yn cael eu cymeradwyo gan Goleg YMCA Cymru ac yn cael eu cydnabod gan gyflogwyr. Dywedodd Nigel Hickey, Swyddog Gwneud Iawn i’r Gymuned: “Ein gobaith ni yw bod troseddwyr, wrth ennill y cymwysterau hyn, yn ennill sgiliau ar gyfer gwaith yn y dyfodol.” “Rydyn ni’n cyfrannu’r coed ac yn rhoi ail gyfle i’r bobl hyn,” meddai. Ers dechrau’r prosiect peilot menter gymdeithasol ym mis Medi 2014, mae mwy na 300 o baledi a hen riliau ceblau pren, sydd wedi’u rhoi gan fusnesau lleol, a dodrefn nad oes ar neb eu heisiau, wedi cael eu hailgylchu. Caiff yr eitemau eu gwerthu gan Ganolfan Antioch i gynnal y gweithdy ac i gefnogi ei gwaith i helpu teuluoedd sydd mewn angen neu dan bwysau ariannol, drwy gyfrwng ei banciau bwyd, dodrefn a dillad, clybiau cinio a chynlluniau chwarae. Yn ogystal â Gwneud Iawn i’r Gymuned,

www.walescrc.co.uk


Cylchlythyr

Sut y dechreuodd hyn i gyd?

Dai Rees, Rheolwr Gweithdy a Nigel Hickey, Swyddog Gwneud Iawn â’r Gymuned yn y gweithdy Ail Gyfle.

Edrychwch ar y fideo yma mae grwpiau eraill o droseddwyr a gwirfoddolwyr yn elwa o feithrin eu sgiliau yn y prosiect. Er enghraifft, mae’r rheini sy’n dod o dan y cynllun Rheoli Integredig Troseddwyr, prosiect sy’n gweithio gyda throseddwyr mynych, wedi dechrau dod yno, diolch i gefnogaeth Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Gaerfyrddin. Mae’r prosiect hefyd yn cyfrannu at gynllun carbon sero Antioch gan obeithio y bydd hyn yn cryfhau cais y prosiect am arian dan Raglenni Cymunedol Llywodraeth Cymru. Dywedodd Deborah Chapman, rheolwr cyllid a datblygu cymunedol Canolfan Antioch: “Mae nifer o fanteision yn deillio o weithio gyda Chwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru. Mae’n cydweddu’n dda iawn â’n gwaith partneriaeth a’n hethos o weithio gyda phobl ar gyrion cymdeithas a’u gweld yn cymryd camau i wneud dewisiadau gwahanol, gwella’u bywydau, dysgu sgiliau newydd ac yn y pen draw, i gael gwaith.”

@WalesCRC

Swyddog Gwasanaethau Prawf Llanelli, Siân Waters, yw’r sbardun y tu ôl i brosiect Ail Gyfle. Cafodd y syniad y llynedd ar ôl gweld cymaint o goed oedd yn cael ei daflu yn yr ardal. Daeth at Ganolfan Antioch yn y lle cyntaf a ffurfiwyd partneriaeth. Yna, aeth at y timau Gwneud Iawn i’r Gymuned, ac fe aethon nhw ati i gasglu hen baledi pren ac offer i wneud meinciau gwaith a hel cyfarpar i’r gweithdy a’r ystafelloedd crefftau. Siân sy’n rhedeg yr ystafell grefftau erbyn hyn, lle bydd menywod yn dysgu peintio ac addurno’r dodrefn sy’n cael ei wneud yn y gweithdy. Mae hi bob tro’n cael syniadau am eitemau crefft i’w dysgu i’r menywod, boed hynny’n beintio hangers dillad, ailgylchu hen ganiau diod i’w troi’n dagiau anrhegion a gwneud canhwyllau. Mae’r steil “ffasiynol dreuliedig” yn boblogaidd iawn, felly bydd y menywod yn dysgu sgiliau sy’n magu hyder ac

yn gwneud iddyn nhw feddwl y tu allan i’r bocs. Mae a wnelo hyn ag adeiladu tîm a gwneud iddynt deimlo’n well amdanynt eu hunain. “Bydd llawer o’r menywod yn cael y crefftau’n therapiwtig ac yn mynd â’r technegau y maen nhw wedi’u dysgu adref gyda nhw i’w defnyddio pan fyddan nhw’n teimlo dan straen. Mae’r rhan fwyaf o’r menywod ar fudd-daliadau, ac mae rhai hyd yn oed wedi bod gwneud pethau i’w teuluoedd gartref.” Ym mis Mehefin, cafodd Siân gydnabyddiaeth am ei gwaith arloesol yn rowndiau terfynol Gwobrau Prawf Cenedlaethol 2015, sy’n cydnabod rhagoriaeth yng ngwasanaethau prawf y Deyrnas Unedig. Dywedodd, “Rwy’n gredwr mewn cefnogi pobl i dyfu a datblygu ac rwy’n falch iawn pan fyddai’n gweld defnyddwyr ein gwasanaethau’n newid eu bywydau er gwell.”

Deborah Chapman o Brosiect Antioch gyda Sian Waters, Swyddog Gwasanaeth Prawf

Pan o’n i ar brawf, fe wnaethon nhw lot o les imi. Fe roeson nhw help imi ddatrys fy mhroblemau a ‘ngwneud i’n well person. Dai Rees, Rheolwr Gweithdy

www.walescrc.co.uk

5


Cylchlythyr

Gwers mewn rheoli ymddygiad

Rhaglenni Arbennig

ymosodol

Gall dysgu sut mae troi cefn ar sefyllfa a allai fod yn un ffrwydrol fod yn sialens, yn enwedig os ydych chi’n ddyn ifanc sydd wedi cael ambell ddiod. Gwaith Donna Bullock, swyddog prawf a Louise Gibbon, swyddog gwasanaeth prawf, yw ceisio dysgu troseddwyr sut mae adnabod yr arwyddion rhybudd ac atal eu hunain rhag ymateb mewn ffordd ymosodol neu dreisgar. Tan nawr, maent wedi bod yn cyflwyno cyrsiau Rheoli Ymddygiad Ymosodol i droseddwyr sydd wedi’u cael yn euog o droseddau treisgar, ar sail un i un. Ond arweiniodd arbrawf diweddar gyda grŵp bychan o droseddwyr yng Nghasnewydd at fanteision annisgwyl. Dywedodd Donna: “Roedd deinameg grŵp yn cael cymaint mwy o effaith. Roedd yn eu hannog i herio ymddygiad y naill a’r llall a rhannu eu profiadau. “Cafodd un aelod o’r grŵp ei arestio ar noson allan yn gwylio’r rygbi yng Nghaerdydd. Wrth gwrs, roedd yn dal i fod ar y cwrs ar y pryd, ac roedd cael aelodau eraill y grŵp yn ei herio ar ôl iddo ddweud beth ddigwyddodd yn llawer mwy grymus nag unrhyw beth y gallem ni fod wedi’i wneud. “Pan fu’n rhaid i ni ganslo’r sesiwn un wythnos, roedd y dynion i weld wir yn siomedig. Mae’r pedwar sydd wedi

cwblhau’r cwrs wedi cael rhywbeth allan ohono. Maen nhw wedi dysgu sut mae sylweddoli pa sefyllfaoedd sy’n peri risg uchel ac wedi dysgu am ffyrdd o ddelio â nhw.” Un o’r rheini sydd wedi elwa o’r cwrs yw Alan*. Dywedodd: “Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl, ond mae’r cwrs yn sicr wedi fy helpu i. Ar ôl ychydig, roedd popeth yn gwneud synnwyr. Roeddwn i’n gallu cydnabod pan oeddwn i’n meddwl mewn ffordd ymosodol a rheoli fy hun. Nawr, rwy’n aros am ddeg eiliad, ac mae’r teimladau’n diflannu. “Cyn y cwrs, doedd gen i ddim y sgiliau angenrheidiol i ddelio â sefyllfaoedd. Doeddwn i ddim eisiau mynd i drwbl, ond allwn i ddim peidio. Nawr, rwyf wedi dysgu nad ydy pethau’n ‘digwydd ohonyn nhw’u hunain’ ac mae yna bob amser ffyrdd o roi stop arnyn nhw.” Dywedodd Joe* “Roedd yn anodd i mi ddod i’r grŵp, ond ar ôl cwpwl o wythnosau, roedd yn haws. Roedd gwrando ar safbwyntiau pobl eraill yn help i mi. Mae wedi gwneud gwahaniaeth i ‘mywyd i, a phan fydd rhywbeth yn digwydd nawr, rwy’n mynd am dro ac yn pwyllo.”

Technegau er mwyn peidio â gwylltio Caiff troseddwyr eu hannog i roi cynnig ar nifer o wahanol dechnegau i’w helpu i adnabod y pethau sy’n achosi iddynt wylltio, a dysgu sut i reoli eu dicter. Byddant yn cadw dyddiadur teimladau negyddol ac yn dysgu am siarad yn gadarnhaol â nhw’u hunain, y sgil o atal meddyliau a sut i gamu’n ôl o sefyllfa i geisio cadw’u pen. Maent yn ystyried yr effaith y mae profiadau yn ystod plentyndod wedi’u

6

@WalesCRC

cael arnynt ac yn edrych ar eu bywyd nawr a sut y gall methiant i reoli eu dicter effeithio ar bopeth, o berthnasau i gyllid a phrynu/ rhentu tŷ. Ystyrir anfanteision a manteision defnyddio ymddygiad ymosodol â’u cymharu â chadw rheolaeth. Arweinydd y rhaglen Donna Bullock

www.walescrc.co.uk


Cylchlythyr

Gweithio mewn Partneriaeth

Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn ymweld â’r Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaeth newydd ar gyfer Cwm Taf. Isod, Judith Williams, Swyddog Gwasanaeth Prawf ym Mhontypridd ac Emma Richards, Pennaeth Uned Gyflawni Leol De Cymru 2 gyda Zoe ac Eirian Evans o’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol

Y Prif Weinidog yn lansio uned newydd i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed yn y Cymoedd Mae uned arbenigol gyntaf Cymru i Ddwy flynedd yn ddiweddarach mae wella systemau i amddiffyn oedolion, tîm o 50 o weithwyr proffesiynol plant a phobl ifanc agored i niwed yn delio â’r ymyriadau hynny, ac rhag niwed wedi cael ei lansio yng yn gweithio gyda’i gilydd mewn Nghymoedd y De. amgylchedd agored cydlynol lle Mae Canolfan Ddiogelu gallant rannu gwybodaeth am bob Amlasiantaeth Cwm Taf (MASH) achos. wedi’i lleoli yng Ngorsaf yr Heddlu Ddydd Iau 21 Mai ymwelodd y ym Mhontypridd, a dim ond Prif Weinidog, Carwyn Jones, â llond llaw o unedau o’r fath sy’n Gorsaf yr Heddlu ym Mhontypridd, bodoli yn y DU. Mae’n dod â’r gan ddadorchuddio plac i agor y holl asiantaethau sy’n gyfrifol am cyfleuster newydd yn swyddogol. ddiogelu oedolion a phlant agored i Cafodd daith o amgylch yr uned niwed ym Mwrdeistrefi Sirol Merthyr a chyfle i sgwrsio â’r staff, cyn Tudful a Rhondda Cynon Taf at ei siarad gerbron cynulleidfa o uwch gilydd, er mwyn cynnig gwasanaeth gynrychiolwyr ym maes diogelu o di-dor i amddiffyn y cyhoedd. bob rhan o’r rhanbarth. Bydd tîm o swyddogion prawf, Fel un o’r asiantaethau partner, swyddogion yr heddlu, nyrsys a mae gan Gwmni Adsefydlu gweithwyr cymdeithasol profiadol yn Cymunedol Cymru ddau Swyddog cydweithio mewn swyddfa agored Gwasanaeth Prawf sy’n gweithio yn gydlynol. Dyma fydd y pwynt cyswllt swyddfa integredig MASH gyda’u per cent of cyntaf, a bydd y tîm yn derbyn cydweithwyr yn y Gwasanaeth miloedd o atgyfeiriadau diogelu ynthe people Prawf Cenedlaethol ac asiantaethau uniongyrchol gan eu cydweithwyr we work partner eraill fel Heddlu De Cymru, rheng flaen sy’n rhoi gwybod am with Cyngor have a Bwrdeistref Sirol Merthyr alwadau brys neu sy’n gweithio disability Tudful, Cyngor Bwrdeistref Sirol mewn ysbytai neu ysgolion. Rhondda Cynon Taf a Bwrdd Iechyd Sefydlwyd y ganolfan yn dilyn Prifysgol Cwm Taf. gweledigaeth Byrddau Diogelu Roedd Emma Richards, Pennaeth Oedolion a Phlant Cwm Taf yn 2013 dwy Uned Gyflenwi Leol Cwmni i wella prosesau diogelu ar draws Adsefydlu Cymunedol De Cymru y rhanbarth drwy gydweithio’n well. sy’n gyfrifol am y Cymoedd, yn

18

@WalesCRC

rhan o’r gwaith o greu’r Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaeth newydd. Dywedodd: “Mae’n gyfle gwych i gydweithio i amddiffyn pobl sy’n dioddef yn sgil trais domestig, plant ac oedolion agored i niwed. Rydym wedi bod yn gweithio i ddatblygu’r ganolfan hon ers dwy flynedd ac rwy’n falch bod gan staff Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru, a’n cydweithwyr yn y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, ran bwysig i’w chwarae yn yr amgylchedd rhannu gwybodaeth.” Mae gan y ganolfan ddiogelu system TG bwrpasol sydd wedi’i hintegreiddio’n llawn sy’n golygu bod modd gwneud penderfyniadau mwy cytbwys a dynamig ynghylch y camau i’w cymryd mewn achosion, a thargedu cefnogaeth ar gyfer yr achosion mwyaf brys.

£259,562 gwerth gwaith yn y gymuned a wneir gan y troseddwyr yr ydym yn eu rheoli, mewn un mis (Mai 2015, yn seiliedig ar isafswm cyflog)

www.walescrc.co.uk

7


Cylchlythyr

Spotlight Newyddion o'r Gymru

DYFED POWYS

MASH Adrodd straeon a Gwneud Iawn â’r Gymuned yn llwyddiannus yn Sioe Frenhinol Cymru Roedd stori Ralfy the bunny book thief yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr ifanc i Sioe Frenhinol Cymru ble cafodd staff CRC Cymru’r cyfle i gwrdd â’r cyhoedd ac esbonio’r manteision o waith Gwneud Iawn â’r Gymuned. Drwy garedigrwydd Heddlu Dyfed Powys cawsom rannu eu stondin gyda hwy, er mwyn gwneud lle i gadair adrodd straeon mawr a thrawiadol a wnaed yn ein Gweithdy Stryd Lewis yng Nghaerdydd. Roedd y gadair, a gymrodd 150 awr i’w gwneud gan ddau droseddwr o bren wedi’i adfer, yn brop perffaith er mwyn cynnal sesiynau adrodd straeon a oedd yn cynnwys anturiaethau Ralfy a Supertato. Rhannodd staff CRC Cymru’r dyletswyddau adrodd straeon drwy gydol yr wythnos, gan esbonio i rieni fod y gadair wedi’i chynhyrchu gan droseddwyr ar gyfer Ysbyty Plant Cymru, Caerdydd, lle bydd ganddi gartref barhaol. Dosbarthodd staff Gwneud Iawn â’r Gymuned daflenni gwybodaeth gan annog aelodau o’r cyhoedd i gynnig prosiectau yn y dyfodol yn ystod y digwyddiad pedwar diwrnod. Cafodd miloedd o ymwelwyr eu denu at stondin yr heddlu, nid yn unig gan y sesiynau adrodd straeon ond gan gŵn yr heddlu, car heddlu henffasiwn, copi o flwch ffôn heddlu glas gan gynnwys cyfle i blant roi eu holion bysedd. Ymhlith yr ymwelwyr oedd Carwyn Jones, y Prif Weinidog a Christopher Salmon, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys. Meddai Graham Thomas, Rheolwr Datblygu Gwneud Iawn â’r Gymuned: “Roedd y sioe yn gyfle gwych inni esbonio i bobl ledled Cymru am y gwaith di-dâl gwerthfawr a heriol y mae troseddwyr yn ei wneud yn eu cymunedau a pha mor amrywiol y gall y gwaith hwnnw fod. “Hefyd croesawom syniadau gan y cyhoedd ar gyfer prosiectau yn y dyfodol, fel gallant nodi pa waith sy’n bwysig iddynt hwy a gallant weld troseddwyr yn gwneud iawn am eu troseddau. Rydym yn gobeithio y bydd hyd yn oed mwy o gymunedau yn gallu elwa o wasanaeth Gwneud Iawn â’r Gymuned yn y dyfodol.” Llun-bennawd: Ella Rabaiotti, Pennaeth Uned Cyflawni Lleol Dyfed Powys,

8

@WalesCRC

Troseddwyr yn h yn y Rhondda rh DE CYMRU

Mae troseddwyr yn y Rhondda yn helpu i gadw cartrefi a phreswylwyr yn ddiogel rhag ymosodiadau tân bwriadol drwy greu rhwystrau i atal tanau glaswellt gwyllt rhag lledaenu. Mae’r timau, sy’n gwneud gwaith di-dâl gyda Chwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru fel rhan o’u dedfrydau cymunedol, yn torri coed, yn clirio mieri, rhedyn a sbwriel wedi’i dipio’n anghyfreithlon o dir mynyddig i greu rhwystr ara naturiol i atal tân rhag lledaenu i gartrefi ar cliri Ffordd Buckley a Ffordd Harcombe, Trealaw. Ma Mae tanau glaswellt bwriadol yn y Rhondda Ym yn broblem fawr i Wasanaeth Tân ac Achub fis d De Cymru. Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, Wa cyhuddwyd unigolion o gynnau 623 o danau Cym glaswellt yn fwriadol yn ne Cymru rhwng y 1af a g a’r 19eg o Ebrill, ac roedd y mwyafrif ohonynt ymw yn Rhondda Cynon Taf lle cychwynnwyd 258 rhw o danau. ago Mae timau o droseddwyr o Gwmni Adsefydlu gyn Cymunedol Cymru, dan arweinyddiaeth y D goruchwylwyr Steve Cox, Doug James a Rob gor Baker, eisoes wedi treulio pum wythnos yn Gym clirio’r ardal ac mae ganddynt bum wythnos ma

GOGLEDD CYMRU Cafwyd perfformiad gwerth chweil gan ein tîm Gwneud Iawn â’r Gymuned o ogledd Cymru, wrth i’r aelodau helpu i glirio’r llwyfan ar gyfer y sêr rhyngwladol yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eleni. Roedd y goruchwylwyr, Mohammed Rafique, Stuart Edwards a’u timau ar y safle yn ystod y pythefnos cyn seremoni agoriadol yr Eisteddfod, yn sicrhau bod 4,000 o seddau plastig yn lân ac yn eu lle yn y

www.walescrc.co.uk


Cylchlythyr

helpu i ddiogelu cartrefi hag tanau gwyllt Community Payback

all o waith i’w wneud er mwyn io ardal 15m o led a 650m o hyd. ae eu gwaith yn dilyn y Diwrnod mwybyddiaeth o Rwystrau Tân diwethaf, a drefnwyd gan asanaeth Tân ac Achub De mru, pan ddaeth partneriaid gwirfoddolwyr ynghyd i wella wybyddiaeth y cyhoedd a chreu wystrau i ddiogelu ardaloedd ored i danau yn y cymoedd, gan nnwys Clwb Golff Penrhys. Dywedodd Steve Cox, ruchwyliwr Gwneud Iawn â’r muned: “Mae’n dasg anferth ac ae’n waith caled iawn, ond bydd

yn helpu i ddiogelu’r gymuned. Wedi inni greu’r rhwystrau, byddwn yn ailymweld ym mis Mai a mis Medi ac yn cadw’r rhedyn i lawr i sicrhau bod y rhwystr yn dal yn ei le.” Offenders on Community Payback work with South Wales Fire Service making fire breaks to protect homes “Mae’r gwaith hefyd yn rhoi cyfle i’r dynion ennill cymhwyster Rhwydwaith y Coleg Agored mewn defnyddio offer”. Dywedodd Mark Williams, Rheolwr Gorsaf yn Uned Trosedd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Mae’r timau o CAC Cymru wedi bod yn help mawr i atal tanau ar y mynyddoedd rhag lledaenu i’r tai yn Nhrealaw. Heb eu help ni fyddai gennym y gweithlu i gynnal y gwaith gwerthfawr hwn o ddiogelu’r gymuned.”

pafiliwn a miloedd mwy’n cael eu gosod o amgylch llwyfannau eraill yn barod ar gyfer y diwrnod cyntaf ar 7 Gorffennaf. Daethant yn ôl ar 12 Gorffennaf i lanhau’r seddau, glanhau’r llwyfan a chasglu sbwriel o’r pafiliwn, yn barod ar gyfer y cyngerdd clo gydag UB40. Dyma’r drydedd flwyddyn i’n timau helpu’r trefnwyr i sicrhau bod llwyfan y pafiliwn a’r seddau’n lân ac yn barod ar gyfer y cerddorion o safon

@WalesCRC

GWENT

Mae Grŵp Sgowtiaid yng Nghaerllion wedi cael hwb diolch i waith troseddwyr Mae Grŵp Sgowtiaid yng Nghaerllion wedi cael hwb diolch i waith troseddwyr yng Ngwent. Ond diolch i ymdrechion y troseddwyr a oedd wedi cael eu dedfrydu i wneud gwaith Gwneud Iawn â’r Gymuned am eu troseddau, mae’r cwt wedi cael ei adfer i fod yn ganolbwynt cymunedol ac mae nifer yr aelodau wedi cynyddu o 30 i 40 mewn wythnos yn unig. O dan oruchwyliaeth Craig Phillips, treuliodd y tîm o saith troseddwr dri diwrnod ar y safle yn clirio’r tir, yn paentio y tu allan i’r cwt, yn sgwrio’r esgyll tywydd ac yn gosod tunelli o gerrig i wella’r llwybr sy’n arwain i’r cwt. Fe wnaeth un o’r troseddwyr, a oedd yn deilsiwr medrus, gynnig helpu i deilsio’r ystafell ymolchi hyd yn oed. Cafwyd Diwrnod Agored Cyhoeddus ar 23 Mai 2015 ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau er mwyn i’r grŵp ddangos ei bencadlys newydd. Dywedodd yr Ysgrifennydd, Helen Bishop: ““Mae gwaith y tîm Gwneud Iawn â’r Gymuned wedi cael effaith mor bositif ar y cwt. Mae aelodau’r cyhoedd wedi dechrau sylwi ein bod ni’n llawn brwdfrydedd ac ein bod ni’n malio am yr adeilad. “Mae pobl hefyd yn gofyn i ni am gael llogi’r adeilad i gynnal partïon pen-blwydd oherwydd bod y lle’n edrych cymaint yn well. Rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn parhau i ddatblygu nawr yn ystod y misoedd nesaf.”

fyd-eang yn yr Eisteddfod. Roedd y sêr a oedd yn perfformio eleni’n cynnwys Burt Bacharach, Rufus Wainwright, cystadleuaeth Côr y Byd ac UB40 gyda’u diweddglo penigamp i’r Eisteddfod ar 13 Gorffennaf. Ar ôl i’r Eisteddfod ddod i ben, dychwelodd Raf a’i dîm i bentyrru’r seddau a chasglu’r sbwriel er mwyn i’r safle edrych fel yr oedd cyn y digwyddiad.

Dywedodd trefnwr yr Eisteddfod, Ros Davies: “Heb waith caled y timau Gwneud Iawn â’r Gymuned, ni fyddai wedi bod yn bosib gosod y seddau yn yr arena. “Rydyn ni’n dathlu 70 mlynedd o’r Eisteddfod y flwyddyn nesaf, ac yn gobeithio y bydd Gwneud Iawn â’r Gymuned yn ein helpu ni unwaith eto.”

www.walescrc.co.uk

9


Cylchlythyr

Gweithio mewn Partneriaeth

TACLUS!

O’r brig i’r gwaelod Troseddwyr yn casglu sbwriel ar Draeth Cefn Sidan yn Sir Gaerfyrddin, Clirio cymunedol ar dir comin Merthyr, troseddwyr yn torri gwrychoedd yn y Drenewydd.

10

@WalesCRC

Ac mae ein timau Gwneud Iawn i’r Gymuned wedi bod yn falch gydweithio dan faner cynllun Trefi Taclus Cadw Cymru’n Daclus a lansiwyd yn lle cyntaf i fynd i’r afael â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy annog a chefnogi pobl i ysgwyddo’r cyfrifoldeb am eu cymunedau lleol. Yn y saith mlynedd diwethaf, mae ein timau o droseddwyr sydd wedi cael eu dedfrydu i wneud gwaith di-dâl dan oruchwyliaeth yn y gymuned wedi casglu cannoedd o fagiau o sbwriel o rai o draethau ac atyniadau twristiaeth harddaf Cymru. Maent wedi agor llwybrau i blant ysgol, rhieni a cherddwyr lleol, wedi clirio afonydd ar gyfer dyfrgwn a mathau eraill o fywyd gwyllt ac wedi gwarchod pobl leol rhag peryglon nodwyddau sydd wedi’u taflu ar eu rhiniog. Yn y Gogledd, bydd timau Gwneud Iawn i’r Gymuned yn gweithio gyda swyddog Trefi Taclus Wrecsam, Shane Hughes, hyd at dair gwaith y mis yn glanhau ardaloedd sy’n berygl i ddiogelwch y cyhoedd. Pan oedd Cyngor Cymuned Pen-y-cae yn poeni y gallai cerddwyr gael niwed oherwydd bod draen a mieri wedi tyfu’n wyllt dros lwybrau cyhoeddus, camodd Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru i’r adwy a thocio’r tyfiant er mwyn gwneud y lle’n ddiogel eto. Mewn mannau eraill, cliriwyd llwybrau yng Nghefn Mawr, Wrecsam, a chasglwyd sbwriel o ardaloedd problemus drwy Wynedd ac Ynys Môn ac ar hyd y glannau yn Sir y Fflint. Mae timau Dyfed Powys wedi gwneud job daclus hefyd wrth glirio’r sbwriel o rai o draethau mwyaf poblogaidd Sir Gaerfyrddin a lleoliadau i dwristiaid gan gynnwys Traeth Cefn Sidan, lle y casglwyd dros 100 bag o sbwriel yn ystod yr Wythnos Glannau Glân. Yn Harbwr Porth Tywyn, ’sgubwyd llond 40 bag arall o sbwriel, llenwi 60 o fagiau oddi ar y Llwybr Beicio Cenedlaethol rhwng Llanelli a Felin-foel, 50 oddi ar Lwybr Arfordir y Mileniwm yn Llanelli a 50 bag arall o fannau eraill lle mae sbwriel yn broblem yn yr ardal. Mewn un prosiect allweddol ym Mhowys, mae gwaith wedi’i wneud ar y cyd â Thref Llanfyllin ar ardal Gwlypdir Llanfyllin, ac yn sgil hyn, mae dyfrgwn wedi dychwelyd i Afon Cain, diolch i system amgylcheddol ddyfeisgar sy’n defnyddio brwyn i hidlo’r dŵr. Mae’r pyllau yn y gwlypdir a’r brwyn yn creu system hidlo i atal dŵr sydd wedi’i lygru o faes parcio’r dref rhag llifo i’r afon. Fel rhan o’r prosiect Trefi Taclus, mae Gwneud Iawn i’r Gymuned wedi gweithio gyda chyngor y dref i glirio sbwriel a rwbel o byllau dŵr. Maent hefyd wedi codi sbwriel ar stadau tai yn y Drenewydd a Llansantffraid ac wedi clirio gerddi i’r henoed sy’n byw yno, lle’r oedd perthi’n tyfu’n wyllt ac yn creu

www.walescrc.co.uk


!

Cylchlythyr

Casglwyd dros 9,000 tunnell o sbwriel mewn cymunedau drwy Gymru, crëwyd miloedd o gynefinoedd newydd i fywyd gwyllt ac agorwyd byd mawr yr awyr agored i ddegau o filoedd o bobl

rhwystr ar lwybrau cyhoeddus. Yn y cyfamser, yng Ngwent, drwy bartneriaeth rhwng yr heddlu, y gwasanaeth tân a Threfi Taclus, llwyddwyd i lanhau’r coetir o gwmpas Cwmbrân. Mae dwy o’r partneriaethau Trefi Taclus diweddaraf yn y De wedi bod gydag Ymddiriedolaeth Datblygu 3G yn y Gurnos, Galon Uchaf a Phen-y-darren ym Merthyr Tudful. Mewn pedwar diwrnod, llwyddodd y timau Gwneud Iawn i’r Gymuned i gasglu 77 o fagiau o sbwriel a chael gwared yn ddiogel â 140 o nodwyddau chwistrellu oddi ar lwybr cerdded poblogaidd ar gyrion y dref. Ar Gomin Merthyr, ymunodd ein timau â Gwasanaeth Tân ac Achub y de, y cyngor lleol a chwmnïau rheoli gwastraff ar ddiwrnod gweithredu i fynd i’r afael â phroblem gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon ar Gomin Merthyr. Dywed Graham Thomas, Rheolwr Datblygu Gwneud Iawn i’r Gymuned Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru, “Mae gennym hanes ers tro o weithio gyda swyddogion prosiect Cadw Cymru’n Daclus ar amrywiaeth o brosiectau drwy Gymru. Mae’n ein galluogi ni hefyd i gydweithio’n glos ag amrywiaeth o gyrff partner a phobl leol i fynd i’r afael â materion sy’n bwysig i gymunedau ac i’r amgylchedd ehangach. “Bydd troseddwyr yn dysgu gwerthfawrogi eu hamgylchedd lleol yn well, yn dysgu sgiliau newydd ac yn gwneud gwahaniaeth amlwg i’r ardaloedd lle maen nhw’n byw.” Dywedodd Louise Tambini, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cadw Cymru’n Daclus: “Mae ein partneriaeth â’r gwasanaethau prawf, tân a’r heddlu wedi helpu i wneud y prosiect yn gymaint o lwyddiant.” “Rydyn ni wedi gweld y gwaith yn datblygu o weithgareddau codi sbwriel, gwella mynediad a chreu ardaloedd tyfu bwyd i hyfforddi gwirfoddolwyr a chreu grwpiau cymunedol

@WalesCRC

cynaliadwy a chynhwysol. “Rydym yn llawn cyffro wrth aros i weld sut y gall y gwaith hwn ddatblygu eto er mwyn helpu i wireddu’r agenda trechu tlodi a’r economi werdd, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau â’n partneriaeth lwyddiannus â Chwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru. “

Ailgynhyrchwyd y graffigyn gyda chaniatâd Cadwch Gymru’n Daclus.

www.walescrc.co.uk

11


Cylchlythyr

Cyflwyno ein staff Enw: Sarah Williams Swydd: Programme Facilitator and Treatment Manager

Diddordeb arbenigol:Hyfforddwr

Mae’n Amser i Newid

Mae CAC Cymru wedi ymuno yn yr ymgyrch genedlaethol i roi diwedd ar y stigma a’r gwahaniaethu y bydd pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn eu hwynebu. Llofnododd Liz Rijnenberg, cyfarwyddwr yr addewid Amser i Newid, Cymru ar ran CAC Cymru yn dilyn cyflwyniad gan reolwr rhaglen yr ymgyrch, sef Anthony Metcalfe. Mae salwch meddwl yn fwy cyffredin nag y mae’r mwyafrif o bobl yn ei feddwl. Bob blwyddyn, mae un allan o bob pedwar o bobl yn cael profiad o broblem iechyd meddwl. Y problemau iechyd meddwl mwyaf cyffredin yw iselder a gorbryder. Mae mwy o ddiwrnodau gwaith yn cael eu colli oherwydd straen, iselder a gorbryder o gymharu ag unrhyw salwch arall sy’n gysylltiedig â gwaith. Mae cost hyn i economi Cymru yn gyfwerth ag £860 ar gyfer pob aelod o’r gweithlu. Dywedodd Liz Rijnenberg, y Prif Weithredwr: “Mae’n bleser cael llofnodi’r adduned. Mae llawer o bobl yn adnabod rhywun sydd wedi cael problemau iechyd meddwl neu'n gweithio gyda rhywun sydd wedi cael problemau iechyd meddwl. Drwy lofnodi’r adduned, rydym yn falch o fod yn cefnogi’r ymgyrch bwysig hon i gael gwared ar y boen a’r gofid ychwanegol sy’n cael eu hachosi gan y stigma sy’n gysylltiedig â iechyd meddwl. Fel rhan o ymrwymiad y cwmni, penodwyd Rhian Lovell, Dirprwy Bennaeth Uned Gyflawni Leol CAC Cymru yn Nyfed Powys, yn hyrwyddwr Amser i Newid, Cymru. Am nifer o flynyddoedd, bu Rhian yn dioddef oherwydd anorecsia ac erbyn hyn, ar ôl gwella, mae’n defnyddio ei phrofiad i helpu eraill a hyrwyddo ymgyrchoedd iechyd meddwl. Mae hefyd yn arwain grŵp ffrwd gwaith Iechyd Troseddwyr CAC Cymru. Esboniodd Rhian: “Roedd gwaith ymchwil a wnaed gyda defnyddwyr ein gwasanaethau’n dangos yn glir fod cyfran fawr ohonynt yn dioddef oherwydd cyflyrau iechyd meddwl wedi'u diagnosio a heb eu diagnosio. O ganlyniad, roeddwn yn teimlo ei bod yn bwysig ein bod ni fel sefydliad yn llofnodi’r adduned gydag Amser i Newid, Cymru er mwyn i staff, defnyddwyr gwasanaeth a phartneriaid fod yn ymwybodol na fyddwn yn stigmateiddio iechyd meddwl yn CAC Cymru.” Dywedodd Anthony: “Rydym yn falch fod CAC Cymru wedi gwneud adduned i roi eu cefnogaeth. Mae gan bob un ohonom iechyd meddwl i ofalu amdano, yn union fel y mae angen gofalu am ein iechyd corfforol. Rydym yn ymgyrchu i gael newid tymor hir mewn cymdeithas.” Llofnododd Liz Rijnenberg, Cyfarwyddwr CRC Cymru, yr addewid Amser i Newid - Cymru ar ran CRC Cymru yn dilyn cyflwyniad gan reolwr rhaglen yr ymgyrch, sef Antony Metcalfe.

12

a Hwyluswr Cyfiawnder Adferol

caption

Mae Sarah Williams yn credu’n gryf ym manteision Cyfiawnder Adferol. Fel Hyfforddwr a Hwyluswr Cyfiawnder Adferol yng Nghwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru, wedi’i lleoli yn swyddfa Heol y Porth yng Nghaerdydd, mae’n ddolen gyswllt rhwng dioddefwyr troseddau a’r troseddwyr sydd eisiau gwneud iawn am eu hymddygiad troseddol. Yn ôl Sarah: “Mae Cyfiawnder Adferol yn rhoi llais i’r dioddefwyr ac yn rhoi ymdeimlad o reolaeth yn ôl iddynt, ac ar yr un pryd yn rhoi cyfrifoldeb ar y troseddwr i wynebu effeithiau ei ymddygiad.” “Fel plant disgwylir i ni ymddiheuro os byddwn yn brifo rhywun, ond fel oedolion does neb yn disgwyl cael ei alw i gyfrif am ei ymddygiad. Rwy’n hoffi ethos cyfiawnder adferol; y ffordd y mae’n grymuso pobl. Mae’n rhywbeth rydw i’n credu’n gryf ynddo. Rwy’n cael boddhad mawr o wybod ein bod yn rhoi cyfle i ddioddefwyr gael dweud eu dweud.” Ar unrhyw adeg benodol gall Sarah fod yn gweithio ar nifer o achosion gwahanol. Gall rhai achosion cymhleth gymryd misoedd i gyrraedd y pwynt lle mae’r ddwy ochr yn barod i allu cyfarfod wyneb yn wyneb. Achos cyntaf Sarah oedd y cyfarfod pwerus rhwng Elli, merch ysgol 12 oed a ddaeth wyneb yn wyneb â’r dyn a dorrodd i mewn i dŷ ei mam-gu, Pam. Yn ôl Sarah: “Roedd Elli yn ofidus ac yn flin ar ôl y lladrad, a oedd wedi peri iddi hi a’i mam-gu deimlo nad oeddent yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain. Roedd hi’n awyddus i gyfarfod y troseddwr yn bersonol a dweud wrtho sut roedd hi’n teimlo. Ar ôl llawer o waith paratoi, fe es i gydag Elli a’i mam-gu i’r Carchar i gwrdd â’r troseddwr. Gofynnodd iddo pam roedd e wedi gwneud yr hyn wnaeth e, ac fe atebodd yntau ei chwestiynau. Yn ddiweddarach rhoddodd gerdyn â’r geiriau hyn arno iddo - ‘Batman neu Joker. Dy ddewis di.’ Roedd hi’n ferch ddewr ac aeddfed a chafodd y digwyddiad gryn effaith arno..”

00

Crëwyd y Cwmni Adsefydlu Cymunedol ar 1 Mehefin 2014 fel rhan o raglen y llywodraeth ar gyfer diwygio gwasanaethau prawf. Yr un pryd, sefydlwyd y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol i fod yn gyfrifol am droseddwyr risg uchel, cynghori’r llysoedd ar ddedfrydu,@WalesCRC cysylltu â dioddefwyr, ac eiddo cymeradwy. Rydym yn cydweithio’n agos â’r Gwasanaethwww.walescrc.co.uk Prawf Cenedlaethol a gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar eu gwefan.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.