Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch - Project Cymuned Fyd-Eang - Meithrin Sgiliau

Page 1

Project Cymuned Fyd-Eang - Meithrin Sgiliau

Cynnwys

1. Cyflwyniad

2. Gweithgaredd Cynllunio a Threfnu

3. Gweithgaredd Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau

4. Gweithgaredd Creadigrwydd ac Arloesi

Cyflwyniad

Mae’r adnodd Meithrin Sgiliau hwn yn cynnig tri gweithgaredd, pob un yn canolbwyntio ar un o’r Sgiliau Cyfannol – Cynllunio a Threfnu; Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau; a Chreadigrwydd ac Arloesi.

Byddant yn cynnwys y Sgiliau Penodol, a ddangosir yn y tabl, y bydd angen i chi eu dangos yn Asesiad Project Cymuned Fyd-Eang. Gan ddefnyddio eich sgiliau Effeithiolrwydd Personol , byddwch yn gallu casglu adborth, myfyrio ar eich cynnydd a’i werthuso.

Sgìl Cyfannol Sgiliau Penodol

1.4 – Trefnu gweithgareddau a thasgau.

Cynllunio a Threfnu

1.5 – Dethol a defnyddio technegau a/neu

adnoddau rheoli project priodol.

1.7 – Monitro cynnydd yn erbyn cynllun y project.

1.8 – Rheoli adnoddau, amserlenni a risgiau posibl.

2.1 – Defnyddio cwestiynau ystyrlon i fynd i’r afael

â phroblemau cymhleth.

2.3 – Dewis gwybodaeth briodol drwy werthuso

Meddwl yn

Feirniadol a Datrys Problemau

hygrededd yn feirniadol ac adnabod tuedd a  thybiaethau.

2.4 – Dadansoddi gwybodaeth gymhleth a chynnig

pwyntiau allweddol.

2.6 – Gwneud defnydd cywir o ddull academaidd o  gyfeirnodi.

2.7 – Llunio ymatebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth,    yn berswadiol ac yn argyhoeddiadol.

2.8 – Cynnig datrysiadau priodol a’u cyfiawnhau.

Project Cymuned Fyd-eang – Meithrin Sgiliau 2

Sgìl Cyfannol Sgiliau Penodol

3.3 – Creu cysylltiadau rhwng gwahanol

wybodaeth i gefnogi deilliannau.

Creadigrwydd ac Arloesi

3.4 – Defnyddio meddwl creadigol i ddadansoddi  gwybodaeth a syniadau.

3.8 – Datblygu dulliau cyfathrebu arloesol sy’n  briodol i’r gynulleidfa.

4.2 – Rheoli a/neu addasu eu hymddygiadau a’u  perfformiad eu hunain.

4.3 – Dangos perfformiad wrth gwblhau tasgau  gweithgareddau wrth weithio’n annibynnol.

Effeithiolrwydd

Personol

4.5 – Ymateb i adborth a rhoi adborth i bobl eraill,  lle y bo’n briodol.

4.6 – Myfyrio ar eu hymddygiadau, eu perfformiad  a’u deilliannau eu hunain wrth weithio’n  annibynnol a/neu wrth gydweithio, a’u  gwerthuso.

4.7 – Adnabod meysydd i’w gwella wrth weithio’n    annibynnol a/neu wrth gydweithio.

3 Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch

Gweithgaredd Ymarfer Cynllunio a Threfnu

Cynllunio a chreu blog cydweithredol

Senario

Mae Cymru yn wynebu sawl her nawr ac yn y dyfodol. Er mwyn mynd i’r afael â’r rhain, mae angen i bob un ohonom gydweithio i ymdrin â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Un o’r nodau yw datblygu llesiant diwylliannol Cymru, gan sicrhau diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Mae’r nod hwn yn ceisio creu cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant a threftadaeth Cymru a’r Gymraeg. Gallai hyn gynnwys y celfyddydau, chwaraeon, a hamdden.

Project Cymuned Fyd-eang – Meithrin Sgiliau 4
lefel
diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Cymru lewyrchus Cymru gydnerth Cymru iachach Cymru sy’n fwy cyfartal Cymru sy’n gyfrifol ar
fyd-eang Cymru â
Cymru o gymunedau cydlynus

Yn y gweithgaredd hwn, byddwch yn cydweithio mewn grŵp â 3–6 aelod i gynllunio a chreu blog yn hyrwyddo llesiant diwylliannol

Cymru . Caiff blogiau eu defnyddio i ymchwilio i syniadau newydd

neu i ddangos pynciau y mae’r awdur yn frwd drostynt. Fel arfer bydd blog yn cynnwys elfennau ysgrifenedig a gweledol wedi’u

cyflwyno mewn fformat hawdd ei ddeall.

Rhaid i’ch blog:

• fod yn ddynamig ac yn ddiddorol

• cynnwys deunydd amrywiol gan gyfranwyr gwahanol

• cynnwys delweddau a/neu fideos.

Y nod yw sbarduno ymateb ac annog pobl i ryngweithio. Dilynwch y linc isod (yn Saesneg) ac edrychwch ar rai o’r blogiau.

BBC Media Action – Blog

I lwyddo yn y dasg hon, bydd angen i chi ddangos sgiliau cynllunio a threfnu effeithiol.

Profi Sgiliau Penodol

5 Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch
1.4 – Trefnu gweithgareddau a thasgau. Tasg 2 1.5 – Dethol a defnyddio technegau a/neu  adnoddau rheoli project priodol. Tasg 3 1.7 – Monitro cynnydd yn erbyn cynllun y  project. Tasg 4 1.8 – Rheoli adnoddau, amserlenni a risgiau   posibl. Tasg 4/5

Meini Prawf

Mae amodau i’ch blog a fydd yn ei wneud yn fwy deniadol yn weledol.

a. Rhowch enw i’ch blog sy’n glir ac yn syml.

b. Defnyddiwch is-benawdau i rannu eich cynnwys.

c. Defnyddiwch gynnwys addysgiadol sy’n ennyn diddordeb. ch. Cofiwch gynnwys delweddau er mwyn egluro eich pwyntiau.

Tasgau

1. Fel grŵp, ystyriwch themâu ar gyfer y blog a phenderfynwch beth fydd y pwnc.

2. Lluniwch gynllun project ar gyfer sut rydych chi’n mynd i greu’r blog. Dylai hwn gynnwys pa weithgareddau/tasgau sydd eu hangen. Pa adnoddau fydd eu hangen arnoch? Beth yw eich amserlenni? Pwy sy’n gyfrifol am ba dasgau?

3. Dewiswch a defnyddiwch dechnegau a/neu adnoddau rheoli project priodol i’ch helpu i reoli eich adnoddau, yr amserlenni, a’r risgiau posibl.

Beth am ystyried rhai adnoddau cynllunio a digidol a allai fod yn ddefnyddiol?

4. Dylech fonitro eich cynnydd yn erbyn y cerrig milltir a’r amserlenni yn eich cynllun wrth i chi greu eich blog.

5. Dylech reoli eich adnoddau a’ch amserlenni i greu eich blog. Rhannwch â dysgwyr eraill er mwyn cael adborth.

Project Cymuned Fyd-eang – Meithrin Sgiliau 6

Gweithgaredd Ymarfer Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau

Ysgrifennu erthygl berswadiol

Senario

Llongyfarchiadau! Rydych chi wedi cael swydd yn ysgrifennu i’ch hoff wefan newyddion.

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi amlinellu 17 o Nodau Datblygu

Cynaliadwy, sy’n cydnabod bod yn rhaid i ymdrechion i roi diwedd ar dlodi ac enghreifftiau eraill o amddifadedd fynd law yn llaw â strategaethau sy’n gwella iechyd ac addysg, yn lleihau cydraddoldeb, ac yn ysgogi twf economaidd – ochr yn ochr â mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a gweithio i warchod ein cefnforoedd a’n coedwigoedd.

Nod y gweithgaredd hwn yw tynnu sylw at un o nodau’r Cenhedloedd Unedig yn ogystal â bod yn berswadiol a chyflwyno erthygl sy’n ysgogi meddwl.

Rydych chi wedi cael y dasg o ysgrifennu erthygl yn seiliedig ar Nod 11: ‘Sicrhau bod dinasoedd ac aneddiadau pobl yn gynhwysol, yn ddiogel, yn gadarn ac yn gynaliadwy’.

Dewiswch ddinas y tu allan i Gymru ar gyfer eich erthygl.

Rhaid i’ch erthygl gynnwys y canlynol:

• pennawd ystyrlon

• dim mwy na 1000 o eiriau

• o leiaf bedair ffynhonnell

• cyfeiriadau priodol.

DINASOEDD A CHYMUNEDAU CYNALIADWY

7 Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch

Dylai eich erthygl drafod un o’r pynciau sy’n rhan o Nod 11 (er enghraifft, trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch a chynaliadwy, ansawdd aer, a rheoli gwastraff). Bydd angen i chi ymchwilio i amrywiaeth eang o wybodaeth eilaidd, gwerthuso ei hygrededd, a nodi unrhyw duedd a thybiaeth. Mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn cyfosod eich gwybodaeth a bod eich pwyntiau allweddol yn amlwg. Mater i chi yw canfod ble mae’r nod hwn yn cael ei gyflawni, ble nad yw’n cael ei gyflawni, a pha ateb y gellid ei ddefnyddio i gyflawni targed y nod.

Gwyliwch y fideo canlynol (yn Saesneg) i gael awgrymiadau ar sut i ysgrifennu stori newyddion.

How to write a news story

Mae hwn yn gyfle gwych i arddangos eich doniau newyddiadurol. Bydd angen i chi wneud defnydd o amrywiaeth o sgiliau i gwblhau’r dasg hon yn llwyddiannus.

Profi Sgiliau Penodol

2.1 – Defnyddio cwestiynau ystyrlon i fynd i’r    afael â phroblemau cymhleth.

2.3 – Dethol gwybodaeth briodol drwy    werthuso hygrededd yn feirniadol ac    adnabod tuedd a thybiaethau.

2.4 – Dadansoddi gwybodaeth gymhleth a  chynnig pwyntiau allweddol.

2.6 – Gwneud defnydd manwl gywir o ddull  academaidd o gyfeirnodi.

2.7 – Llunio ymatebion sy’n seiliedig ar  dystiolaeth, yn berswadiol ac yn  argyhoeddiadol.

2.8 – Cynnig datrysiadau priodol a’u  cyfiawnhau.

Tasg 1

Tasg 1

Tasg 2

Tasg 3

Tasg 3

Tasg 3

Project Cymuned Fyd-eang – Meithrin Sgiliau 8

Meini Prawf

Mae amodau ar gyfer eich erthygl:

a. Mae’n rhaid i’r pennawd ofyn cwestiwn ystyrlon; un y bydd yr erthygl yn ceisio ei ateb.

b. Ni ddylai eich erthygl fod yn hirach na 1000 o eiriau, a dylid ei hysgrifennu â brawddegau llawn.

c. Dylid defnyddio o leiaf bedair ffynhonnell. Gallai’r rhain fod yn ffynonellau o unrhyw fath (fideo, erthygl newyddion, cyfnodolyn).

Tasgau

1. Ymchwilio – Bydd angen i chi ymchwilio i ffynonellau posibl i’w defnyddio yn eich erthygl. Cofiwch, mae angen i’r erthygl hon fod yn berswadiol a bydd angen i chi ddefnyddio dadleuon sy’n dangos yr agweddau cadarnhaol a negyddol – ceisiwch beidio â bod yn unochrog.

• Meddyliwch am bennawd drwy ofyn cwestiwn ystyrlon.

• Dewiswch ffynonellau gwybodaeth priodol a chredadwy.

Pa mor briodol a dibynadwy yw’r ffynonellau rydych chi wedi eu dewis yn ystod eich ymchwil?

2. Dadansoddi – Dadansoddwch y wybodaeth a dewiswch y pwyntiau allweddol yr hoffech eu gwneud yn yr erthygl.

• Nodwch unrhyw duedd a thybiaethau.

Ydych chi wedi defnyddio unrhyw un o’r canlynol: RURU, CRAPP, PESTLE, STEEPLE a PRESTLE?

3. Llunio eich erthygl – Gan ddefnyddio’r dystiolaeth, lluniwch yr erthygl gan ysgrifennu hyd at 1000 o eiriau.

• Defnyddiwch ddadleuon perswadiol ac argyhoeddiadol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

• Defnyddiwch dechneg cyfeirio gywir.

• Cynigiwch ateb i’r cwestiwn a ofynnir yn eich pennawd a’i gyfiawnhau.

9 Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch

Gweithgaredd Ymarfer Creadigrwydd ac Arloesi

Creu cynrychiolaeth ddigidol o un o nodau’r Cenhedloedd Unedig

Senario

Ar gyfer y gweithgaredd hwn, bydd angen i chi greu collage digidol o’r hyn y mae un o Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yn ei olygu i’ch grŵp.

Mae’r 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy yn darparu cynllun o heddwch a ffyniant i bobl a’r blaned, heddiw ac ar gyfer y dyfodol. Maent yn cydnabod bod yn rhaid i ymdrechion i roi diwedd ar dlodi ac enghreifftiau eraill o amddifadedd fynd law yn llaw â strategaethau sy’n gwella iechyd ac addysg, yn lleihau cydraddoldeb, ac yn ysgogi twf economaidd – ochr yn ochr â mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a gweithio i warchod ein cefnforoedd a’n coedwigoedd.

Project Cymuned Fyd-eang – Meithrin Sgiliau 10
DIM TLODI DIM NEWYN IECHYD A LLESIANT DA ADDYSG O ANSAWDD CYDRADDOLDEB RHYWIOL YNNI FFORDDIADWY A GLÂN GWAITH BODDHAOL A THWF ECONOMAIDD DIWYDIANT, ARLOESI A SEILWAITH LLAI O ANGHYDRADDOLDEB DINASOEDD A CHYMUNEDAU CYNALIADWY DEFNYDDIO A CHYNHYRCHU’N GYFRIFOL GWEITHREDU AR Y NEWID YN YR HINSAWDD BYWYD BYWYD AR Y TIR HEDDWCH, CYFIAWNDER A SEFYDLIADAU CADARN GWEITHIO MEWN PARTNERIAETH I GYFLAWNI’R NODAU

Math o gelfyddyd gweledol yw collage lle caiff elfennau gweledol eu cyfuno i greu delwedd newydd sy’n cyfleu neges neu syniad. Gan ddefnyddio gwahanol fathau o gyfryngau, gallwch greu rhywbeth hollol wahanol i’r hyn a oedd gennych ar y dechrau.

Mae hwn yn gyfle gwych i ddefnyddio eich creadigrwydd a’ch arloesedd. Bydd angen i chi wneud defnydd o amrywiaeth o sgiliau i gwblhau’r dasg hon yn llwyddiannus.

Profi Sgiliau Penodol

Creadigrwydd ac Arloesi

3.3 – Creu cysylltiadau rhwng gwahanol    wybodaeth i gefnogi deilliannau.

3.4 – Defnyddio meddwl creadigol i ddadansoddi gwybodaeth a syniadau.

3.8 – Datblygu dulliau cyfathrebu arloesol sy’n  briodol i’r gynulleidfa.

Tasgau

Tasg 1

Tasg 2

Tasg 3

1. Cysyniad cychwynnol – Penderfynwch pa un o nodau’r Cenhedloedd Unedig yr hoffech ei gyflwyno mewn collage digidol ac ymchwiliwch i’r nod er mwyn meithrin dealltwriaeth. Sut y byddwch chi’n cyflwyno eich collage digidol?

Beth am ystyried sut i gynhyrchu eich collage gan ddefnyddio Prezzi, Canva, Sway, ac ati?

Ewch ati i ddwyn ynghyd y wybodaeth a’r syniadau rydych wedi’u casglu y gellid eu defnyddio yn y collage digidol a chrëwch gysylltiadau rhyngddynt.

11 Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch

A yw eich holl wybodaeth a’ch data yn gysylltiedig? Sut mae pob elfen yn cysylltu â’i gilydd?

2. Dadansoddi cynnwys – Drwy ddefnyddio sgiliau meddwl creadigol i ddadansoddi’r wybodaeth a’r syniadau, penderfynwch beth rydych chi am ei gynnwys yn y collage digidol. Mae’n rhaid i’r collage digidol greu delwedd newydd sy’n cyfleu neges neu syniad yn seiliedig ar nod y Cenhedloedd Unedig y gwnaethoch ei ddewis.

Pa dechnegau meddwl creadigol allai gefnogi hyn, e.e. SCAMPER, chwe het feddwl, mapiau meddwl, meddwl awyr las?

3. Creu collage digidol – Penderfynwch ar gynllun priodol a chreadigol ar gyfer eich collage, gan ddatblygu cynnwys a negeseuon arloesol. Rhannwch eich collage digidol â dysgwyr eraill er mwyn cael adborth.

Project Cymuned Fyd-eang – Meithrin Sgiliau 12

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.