![](https://static.isu.pub/fe/default-story-images/news.jpg?width=720&quality=85%2C50)
1 minute read
Project Unigol –Meithrin Sgiliau
Cynnwys
1. Cyflwyniad
2. Gweithgaredd Cynllunio a Threfnu
3. Gweithgaredd Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau
4. Gweithgaredd Creadigrwydd ac Arloesi
Cyflwyniad
Mae'r adnodd Meithrin Sgiliau hwn yn cynnig tri gweithgaredd, pob un yn canolbwyntio ar un o'r Sgiliau Cyfannol – Cynllunio a Threfnu; Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau; a Chreadigrwydd ac Arloesi. Byddant yn cynnwys y Sgiliau Penodol, a ddangosir yn y tabl, y bydd angen i chi eu dangos yn Asesiad Project Cyrchfannau'r Dyfodol. Gan ddefnyddio eich sgiliau Effeithiolrwydd Personol , byddwch yn gallu casglu adborth, myfyrio ar eich cynnydd a'i werthuso.
Sgìl Cyfannol Sgiliau Penodol
1.1 – Adnabod rhesymeg y project.
1.2 – Pennu nodau ac amcanion priodol a realistig.
1.3 – Cynllunio ymchwil priodol a pherthnasol.
Cynllunio a Threfnu
1.6 – Diffinio blaenoriaethau a meini prawf llwyddiant.
1.8 – Rheoli adnoddau, amserlenni a risgiau posibl.
1.9 – Rheoli a blaenoriaethu gwaith.
2.2 – Cymhwyso dulliau i ddatrys problemau cymhleth, gan gynnwys technegau ymchwil wedi'u canolbwyntio i gasglu gwybodaeth gynradd ac eilaidd.
2.3 – Dewis gwybodaeth briodol drwy werthuso hygrededd yn feirniadol ac adnabod tuedd a thybiaethau.
Meddwl yn
Feirniadol a Datrys Problemau
2.4 – Dadansoddi gwybodaeth gymhleth a chynnig pwyntiau allweddol.
2.5 – Cyfosod gwybodaeth gynradd ac eilaidd sy'n cynnwys barnau, safbwyntiau a dadleuon eraill.
2.6 – Gwneud defnydd manwl gywir o ddull academaidd o gyfeirnodi.
2.9 – Llunio barnau dilys a chasgliadau wedi'u rhesymu.
Sgìl Cyfannol Sgiliau Penodol
3.1 – Cynhyrchu syniadau yn annibynnol.
3.3 – Creu cysylltiadau rhwng gwahanol wybodaeth i gefnogi deilliannau.
3.4 – Defnyddio meddwl creadigol i ddadansoddi gwybodaeth a syniadau.
3.5 – Ystyried ymarferoldeb rhoi syniadau a chanlyniadau ar waith.
3.7 – Archwilio, mireinio, addasu a datblygu syniadau a deilliannau priodol.
3.8 – Datblygu dulliau cyfathrebu arloesol sy'n briodol i'r gynulleidfa.
4.3 – Dangos perfformiad wrth gwblhau tasgau gweithgareddau wrth weithio'n annibynnol.
4.4 – Dangos cyfraniad wrth gydweithio.
4.5 – Ymateb i adborth a rhoi adborth i bobl eraill, lle y bo'n briodol.
4.6 – Myfyrio ar eu hymddygiadau, eu perfformiad a'u
Effeithiolrwydd deilliannau eu hunain wrth weithio'n annibynnol a/ neu wrth gydweithio.
4.7 – Adnabod meysydd i'w gwella wrth weithio'n annibynnol a/neu wrth gydweithio.
4.8 – Gwerthuso'r deilliannau a gyflawnir mewn perthynas â nodau, amcanion a meini prawf llwyddiant.