3 minute read
Gweithgaredd Ymarfer Creadigrwydd ac Arloesi
Ymateb creadigol i fater amgylcheddol
Senario
Mae moroedd, traethau ac afonydd nawr yn ffynhonnell gyson o lygredd plastig, lle mae eitemau o fwyd tecawê, diodydd a bwyd cyffredinol yn chwarae mwy a mwy o ran yn y ffrwd o sbwriel sy'n effeithio ar ein dyfrffyrdd.
Casgliad ymchwil gafodd ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn
Nature Sustainability oedd: ‘O ran tarddiad sbwriel, eitemau traul i fynd â nhw allan – yn bennaf bagiau plastig a phapur lapio, cynwysyddion bwyd a chyllyll a ffyrc, poteli plastig a gwydr, a thuniau – oedd y gyfran fwyaf.’
(Carrington, 2021)
Eitemau Plastig yn Dominyddu
Sbwriel y Cefnforoedd
Y 10 eitem wastraff fwyaf cyffredin sy'n llygru cefnforoedd y byd*
Bagiau plastig
Poteli plastig
Cynwysyddion bwyd/ cyllyll a ffyrc
Papur lapio
Rhaffau synthetig
Eitemau pysgota
Caeadau plastig
Defnydd pecynnu diwydiannol
Poteli gwydr
Tuniau diodydd
*Yn seiliedig ar eitemau gwastraff gafodd eu canfod mewn saith ecosystem ddyfrol yn fyd-eang.
Ffynhonnell: Carmen Morales-Caselles et al. (2021)
Gan fod dim ond 10 cynnyrch plastig yn cyfrannu 75% o'r holl eitemau rydyn ni'n eu canfod yn llygru ein prif ffynonellau dŵr, caiff defnyddwyr eu hannog yn fwy nag erioed i gefnu ar blastig untro ac ailddefnyddio, ailgylchu a chwilio am ddewisiadau amgen lle bynnag mae hynny'n bosibl.
‘Mae tua 11m tunnell fetrig o blastig yn mynd i'r moroedd bob blwyddyn, a heb gymryd camau drastig, gallai'r swm hwn bron dreblu erbyn 2040. Dim ond unwaith mae'r rhan fwyaf o ddefnydd pecynnu plastig yn cael ei ddefnyddio, a dim ond 14% sy'n cael ei gasglu i'w ailgylchu bob blwyddyn , sy'n golygu bod gwerth degau o biliynau o ddoleri o ddefnydd pecynnu plastig yn cael ei golli i'r economi.’ (ocean.economist.com)
Fodd bynnag, mae gan unigolion y grym nid yn unig i gyfrannu, ond i reoli newid! Drwy ddewis defnyddio llai, dewis pa ddefnyddiau i'w defnyddio a chymryd y cyfle i ailgylchu lle bynnag mae'n bosibl, mae gan entrepreneuriaid a dylunwyr y gallu i newid y broses ddylunio yn y tarddle.
Gan fod llygredd plastig yn fater byd-eang lle mae angen cyfraniad creadigol ar y cyd, mae gan ddylunwyr nawr, yn fwy nag erioed o'r blaen, gyfle digynsail i newid eu dyluniadau a'u cynhyrchion er gwell. Mae bod yn ddylunydd yn gyfle cyffrous – mae'n gyfle i ailfeddwl y berthynas ddylunio rhwng gwastraff a datblygu datrysiadau newydd i broblem plastig. Gallwch chi ddefnyddio gwastraff fel adnodd – nid yn unig y byddwch chi'n cael gwared ar elfennau gwastraff plastig o'r amgylchedd, ond byddwch chi hefyd yn darparu adnoddau newydd sbon i ddylunwyr. Mae uwchgylchu gwastraff plastig ar ffurf defnydd newydd yn gyfle cyffrous a chreadigol i unrhyw ddylunydd i gyfrannu at leihau gwastraff plastig a lleihau eu heffaith eu hunain ar yr amgylchedd.
Wrth i bartneriaethau brandiau megis Adidas x Parley ddylunio a chynhyrchu esgidiau wedi'u gwneud o blastig o'r cefnfor ac wrth i eco ddylunwyr fel Sarah Turner wneud gwaith celf, cerfluniau a goleuadau o ddefnyddiau wedi'u hailgylchu, mae'r diwydiant sy'n gysylltiedig ag ailddefnyddio ac ailbwrpasu ein plastig gwastraff yn tyfu. Mae'r diwydiant ‘dylunio er gwell’ yn bwysicach nag erioed, o safbwyntiau ecoleg, cynaliadwyedd, moesoldeb a'r economi.
Wrth i Gymru ehangu ar ei llwyddiant o gyfyngu ar blastig untro, gallai ehangu'r farchnad ddylunio hon fod yn gymorth pellach i Gymru i daro'r targed o fod yn economi ddi-garbon. Fel dylunwyr, gwneuthurwyr ac arbenigwyr creadigol, mae dyfodol dylunio cynaliadwy yn eich dwylo chi!
Rydych chi wedi cael y cyfle i ddylunio a chynhyrchu eitem o'ch dewis chi o ddefnyddiau ailgylchadwy neu ddefnyddiau rydych chi wedi dod o hyd iddyn nhw.
Profi Sgiliau Penodol
3.1 – Cynhyrchu syniadau yn annibynnol.
3.3 – Creu cysylltiadau rhwng gwahanol wybodaeth i gefnogi deilliannau.
3.4 – Defnyddio meddwl creadigol i ddadansoddi gwybodaeth a syniadau.
3.5 – Ystyried ymarferoldeb rhoi syniadau a chanlyniadau ar waith.
3.7 – Archwilio, mireinio, addasu a datblygu syniadau a deilliannau priodol.
3.8 – Datblygu dulliau cyfathrebu arloesol sy'n briodol i'r gynulleidfa.
Tasg 1
Tasg 2
Tasg 3
Tasg 3
Tasg 3–4
Tasg 2–4
Tasgau
1. Disgrifiwch o leiaf tri syniad cychwynnol ar gyfer eitemau gallech chi eu cynhyrchu. Dewiswch a chyfiawnhewch eich hoff syniad drwy ystyried dichonoldeb, creadigrwydd a diogelwch.
Sut gallech chi lunio ac arddangos eich syniadau? Er enghraifft, SCAMPER, meddwl awyr las, creu map meddwl.
Dyma ddechrau eich cofnod datblygu arteffact. Cofnodwch bob cam wrth i chi ddylunio a datblygu'r canlyniad terfynol, gan gofio dadansoddi a gwerthuso'r broses wrth i chi fynd yn eich blaen. Dylai hyn gynnwys lluniau a thestun i ddangos cyfathrebu arloesol.
2. Crëwch gysylltiadau rhwng gwahanol wybodaeth a syniadau i gynhyrchu dyluniadau cychwynnol i'ch eitem. Cydweithiwch ag eraill i gasglu adborth am eich syniadau cyn symud ymlaen ag un dyluniad.
Sut gallech chi gasglu adborth sy'n rhoi sail i'ch dewisiadau dylunio? Sut gallech chi gyflwyno a chofnodi eich dewisiadau dylunio?
3. Meddyliwch yn greadigol i ddadansoddi eich holl wybodaeth a syniadau i ddatblygu dyluniad terfynol eich eitem. Bydd angen i chi ystyried dewisiadau defnyddiau, ffactorau amgylcheddol, yr arferion gwaith diogel a pha mor ddichonadwy yw eich syniad. Dylech chi fireinio, addasu a datblygu eich syniadau wrth i chi weithio.
Sut gallech chi wneud mwy i gofnodi eich bwriadau dylunio a'ch cymhwysiad ymarferol, gan ystyried defnyddiau a phrosesau?