1 minute read

Gweithgaredd Ymarfer Cynllunio a Threfnu

Casglu gwybodaeth gynradd i gynhyrchu

Calendr

Senario

Mae gwybodaeth gynradd yn dod o lygad y ffynnon, sy'n golygu casglu gwybodaeth wreiddiol yn uniongyrchol o'r ffynhonnell yn hytrach na gwybodaeth sydd wedi'i chreu gan rywun arall.

Mae llun yn gywerth â mil o eiriau. Er bod amrywiaeth o fathau o wybodaeth gynradd yn bodoli, yn aml byddwn ni'n anghofio am ffotograffau wrth wneud gwaith ymchwil. Mae'r rhain yn cofnodi digwyddiadau byw, yn dystiolaeth hanesyddol, neu'n gallu dal ennyd syml mewn amser. Maen nhw'n rhoi gwybodaeth amhrisiadwy am unigolyn, cyfnod neu le. Maen nhw hefyd yn ffordd syml a chyflym o gasglu'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi.

Eich tasg chi yw creu calendr

12 mis, felly bydd angen 12 ffotograff gwahanol. Byddwch chi'n casglu eich gwybodaeth gynradd (ffotograffau) eich hunain gan sicrhau bod gennych chi ffotograff ar gyfer pob mis sy'n cynrychioli'r mis penodol hwnnw. Mae yna amrywiaeth eang o themâu y gallech chi eu defnyddio yn eich calendr.

Oherwydd GDPR, chewch chi ddim cynnwys pobl yn eich ffotograffau.

This article is from: