1 minute read

Gweithgaredd Ymarfer Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau

Adroddiad sy’n mynd i’r afael â’r cwestiwn 'Ddylai Cymru godi'r oed cyfreithlon i brynu alcohol i 21?'

Senario

Yng Nghymru, yr oed cyfreithlon i brynu alcohol yw 18. Fodd bynnag, mae ymchwil gan Lywodraeth Cymru wedi datgelu mai Cymru sydd â'r nifer mwyaf o yfwyr dan oed yn y Deyrnas Unedig.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi canfod bod pobl yng Nghymru yn fwy tebygol o oryfed mewn pyliau na neb arall ym Mhrydain.

Gan ddefnyddio'r linc isod, astudiwch y ffeithlun sy'n dangos y 10 gwlad uchaf yn Ewrop o ran goryfed mewn pyliau (ymysg bechgyn a merched). Mae'n dangos sut mae Cymru'n cymharu â gwledydd eraill o ran goryfed mewn pyliau ymysg pobl ifanc.

https://www.dailymail.co.uk/news/article-6208243/British-girlsnamed-heaviest-binge-drinkers-Europe-study-finds.html

Mae canlyniadau camddefnyddio alcohol yn ddifrifol. Yn ôl Ymchwil y Senedd (2019) roedd 14,588 o achosion o bobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty yn benodol oherwydd alcohol a 540 o farwolaethau cysylltiedig ag alcohol, sy'n gynnydd o 7.1%. Mae'r Swyddfa

Ystadegau Gwladol yn dweud bod marwolaethau cysylltiedig ag alcohol wedi cynyddu 19% i'r lefel uchaf ers 20 mlynedd yn 2020, ac mai clefyd yr iau/afu sy'n achosi'r rhan fwyaf o'r marwolaethau hyn.

Er bod yr isafswm oed yfed yng Nghymru yn 18, yn UDA mae'r isafswm oed yfed yn 21. Fodd bynnag, mewn rhai gwledydd does dim oed cyfreithlon neu mae yfed alcohol wedi'i wahardd yn llwyr.

Mae angen i chi ysgrifennu adroddiad sy’n mynd i’r afael â’r cwestiwn 'Ddylai Cymru godi'r oed cyfreithlon i brynu alcohol i 21?', gan ddefnyddio'r pum ffynhonnell gwybodaeth eilaidd isod.

This article is from: