Yr Heriwr - Rhifyn y Gwanwyn

Page 1

YR HERIWR

Papur Cymraeg Myfyrwyr Aberystwyth

Rhifyn y Gwanwyn 2013 Athro yn ymadael

Rhad ac am ddim Starbucks - we proudly serve?

Pennaeth yr Adran Gymraeg yn gadael am y Llyfrgell Genedlaethol Tudalen 3

Un rheol i Starbucks, rheol arall i’r gweddill? Tudalen 6

Pantycelyn newydd Cynlluniau Balfour Beatty ar gyfer neuadd i 1000 o fyfyrwyr.

Llwyddiant i Aberystwyth Cwpan Varsity yn dychwelyd i Brifysgol Aberystwyth

Tudalen 2

Tudalen 15

Y CYMRY’N ADDUNEDU: “DWI EISIAU BYW YN GYMRAEG!” Llun: Robin Williams

Yn dilyn syndod a siom canlyniadau Cyfrifiad 2011, lle gwelwyd canran y nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yn gostwng o 20.8% i 19%, daeth miloedd o bobl o bob cwr o Gymru ynghyd yn ystod yr wythnosau diwethaf i fynnu’r hawl i gael byw yn Gymraeg. Cafwyd cyfres o Ralïau’r Cyfrif wedi’u trefnu gan Gymdeithas yr Iaith ar draws Cymru - yng Nghaernarfon, Merthyr Tudful, Caerfyrddin, Y Bala, a’r un olaf yma yn Aberystwyth. Mi fûm i’n ddigon ffodus i

fynychu un Caerfyrddin ac un Aberystwyth. Ar fore Sadwrn, yr 19eg o Ionawr, cynhaliwyd rali y tu allan i Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin er mwyn rhoi pwysau ar gynghorwyr Sir Gâr a Llywodraeth Cymru i ystyried y dirywiad o ddifrif. Er yr eira a’r oerfel, daeth dros 400 o bobl Sir Gâr a thu hwnt i ddangos eu bod am fyw yn Gymraeg. Llofnodwyd adduned “Dwi eisiau byw yn Gymraeg!” gan y dorf a hefyd gan nifer o wynebau cyfarwydd sy’n byw yn yr ardal gan gynnwys Jonathan Edwards AS, y Cynghorydd Alun Lenny, y Cynghorydd Peter Hughes-Grif-

fiths, Fflur Dafydd, Tudur Dylan, Aneirin Karadog, Heledd Cynwal, Julian Lewis Jones a llawer mwy. Cafodd yr enwogion funud ar y meic i egluro pam eu bod yn llofnodi’r adduned ac i annog pobl eraill i wneud hefyd. Dywedodd Maer Caerfyrddin, Phil Grice, sy’n wreiddiol o Efrog:

“Os galla’ i ddysgu’r iaith, dwi’n siŵr y gall unrhyw un... Mae’r iaith yn bwysig i mi a ni i gyd yma yng Nghaerfyrddin.” Trowch at dudalen 3 i ddarllen gweddill yr erthygl.


YR HERIWR

YR HERWYR

Elin Haf Gruffydd Golygydd golygyddol@yrheriwr.org Gruffudd Antur Golygydd golygyddol@yrheriwr.org

Jacob Dafydd Ellis Swyddog Cyhoeddusrwydd golygyddol@yrheriwr.org

Ffraid Gwenllian Gohebydd Bywyd Cymdeithasol cymdeithasol@yrheriwr.org

Aled Morgan Hughes Gohebydd Newyddion Cyffredinol newyddion@yrheriwr.org Elliw Hâf Gohebydd Materion Addysg addysg@yrheriwr.org Adam Jones Swyddog Gweinyddol golygyddol@yrheriwr.org Sion Eilir Pryse Trysorydd golygyddol@yrheriwr.org

Eiri Angharad Sion Swyddog Dylunio a Ffotograffiaeth dylunio@yrheriwr.org Miriam Williams Ysgrifennydd golygyddol@yrheriwr.org

Bethan Walkling Gohebydd Cymdeithasau cymdeithasau@yrheriwr.org Aled Wyn Williams Swyddog Hysbysebu hysbysebu@yrheriwr.org

Llywelyn Williams Gohebydd Chwaraeon chwaraeon@yrheriwr.org 2

Rhifyn y Gw

GAIR GAN Y GOLYGYDDION Croeso i drydydd rhifyn Yr Heriwr. Mae bellach yn wanwyn, gyda’r flwyddyn academaidd bron ar ben, ond bu’n dymor eithriadol o brysur, fel y gwelwch oddi wrth gynnwys y rhifyn hwn. Profodd Aelwyd Pantycelyn lwyddiant ar ôl misoedd lawer o waith caled, a chafwyd cyfnod etholiadol cyffrous a thanllyd.

uchaf ond Jessop a’r Sgweiri o ardal y Bala a gipiodd y wobr gyda’u cân ‘Mynd i Gorwen Hefo Alys.’ Yn y band roedd Rhys Gwynfor, yr efeilliaid Tomos a Gruffydd Edwards, Branwen Williams a’i brawd Osian. Llongyfarchiadau mawr iddynt!

Cofiwch fod modd darllen y rhifyn hwn, ynghyd ag ôlrifynnau, ar www.issuu.com. Cofiwch hefyd am ein gwefan, www.yrheriwr.org, lle gellir gweld yr holl erthyglau ynghyd â nifer o erthyglau nad oedd lle ar eu cyfer yn y papur. Yn olaf, cofiwch ein bod fel Gydag ansicrwydd mawr yn papur yn llwyr ddibynnol ar deillio o ymadawiad yr Athro nawdd gan unigolion a busAled Gruffydd Jones, symud yr nesau, felly os hoffech hysYn ddiweddar, gwelwyd myfyr- Adran Gymraeg a chau Neuadd bysebu neu gyfrannu tuag at wyr cyfredol a chyn-fyfyrwyr Pantycelyn, mae ‘na deimlad o ddyfodol y papur, cysylltwch yn cymryd rhan flaenllaw yng newid yn yr awyr, a’r her i ni fel â ni ar yrheriwr@gmail.com. nghystadleuaeth Cân i Gymru. Cymry’r Brifysgol yw sicrhau Llwyddodd cân hwyliog Catrin nad yw’r newidiadau hyn yn GA & EHG Herbert i gyrraedd y chwech gwanhau ein sefyllfa a’n llais. Mawrth 2012

CYWILYDD PANTYCELYN gan Gruffudd Antur Ar y 7fed o Chwefror eleni, ymddangosodd hysbysiad yn y Cambrian News yn nodi y byddai ‘Diwrnod Agored Gwybodaeth i’r Cyhoedd’ yn cael ei gynnal y diwrnod canlynol ynghylch cynlluniau Prifysgol Aberystwyth i adeiladu llety newydd i fyfyrwyr yn y Waun Fawr. Cwmni Balfour Beatty sydd wedi ennill y cytundeb i adeiladu’r llety hwn ar gyfer 1000 o fyfyrwyr, a bydd yn golygu cau neuadd breswyl enwog Pantycelyn ymhen blwyddyn.

Ond nid oedd modd i gyfran fawr o Gymry’r Brifysgol fynychu’r diwrnod agored gan eu bod ym Mharis ar drip y Geltaidd. Cyd-ddigwyddiad? Ie, efallai. Ond cyd-ddigwyddiad sy’n gwneud dim lles o gwbl i’r berthynas rhwng y Brifysgol a’i myfyrwyr Cymraeg, yn enwedig ar bwnc mor sensitif â chau Neuadd Pantycelyn, a chyd-ddigwyddiad sy’n nodweddiadol o’r diffyg tryloywder sydd wedi cael ei ddangos dro ar ôl tro yn ystod y broses ymgynghori.

cael gwared ar y staff yn ddisymwth ymhen ychydig fisoedd. Gwelsom ddiffyg buddsoddiad enbyd yn y neuadd, a gwelsom fuddsoddiad mewn mannau yn erbyn dymuniad y preswylwyr.

Mae’n wir ein bod yn derbyn e-bost yn wythnosol bron gan y swyddfa lety yn cwyno am ddifrod neu ymddygiad gwael. Y cwestiwn y dymunaf ei ofyn yw hyn: os nad ydyw’r Brifysgol yn barod i ofalu am y neuadd a’i pharchu, yna pam disgwyl i’r myfyrwyr wneud yn wahanol? Rhaid i barch gael ei ennyn gan y ddwy ochr, a hyd y gwelaf fi, nid yw’r Brifysgol yn dangos rhithyn o barch tuag at y neuadd na’r sawl sy’n poeni am ei dyfodol.

Bydd cerrig sylfaen y ‘Pantycelyn newydd’ bondigrybwyll yn cael eu gosod yn fuan iawn, a rhaid inni benderfynu dros beth y dylem fod yn ymladd. Yn bersonol, credaf y dylem fod yn ymladd dros adnewyddu Pantycelyn, a symud y myfyrwyr Cymraeg yn ôl i mewn iddi gynted â phosib. Gyda neuadd ar ben y Gwyddom fod y cynlluniau i gau Neuadd Pan- bryn, bydd y cysylltiad hollbwysig hwnnw rhtycelyn ar y gweill ers blynyddoedd lawer. Ond wng Neuadd Pantycelyn a’r dref yn gwanhau. mae wedi dod yn fwyfwy amlwg yn ddiweddar Â’r neuadd ar drothwy ei phen-blwydd yn 40 mai proses, nid digwyddiad, yw cau’r neuadd. oed, ni fedrwn fforddio gadael i’r hyn sy’n ei Eisoes gwelsom dorri oriau’r staff derbynfa, cyn gwneud yn arbennig lithro trwy ein dwylo.


SEFYDLWYD 2012

wanwyn 2013

O’R BRIFYSGOL I’R LLYFRGELL gan Gruffudd Antur Ddiwedd mis Chwefror eleni, cyhoeddwyd mai’r Athro Aled Gruffydd Jones fyddai’n olynu Andrew Green fel Llyfrgellydd a Phrif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn wreiddiol o Lanfrothen, Sir Feirionnydd, addysgwyd yr Athro Jones yn Ysgol Ardudwy, Harlech, cyn derbyn ei addysg Brifysgol ym Mhrifysgol Efrog a gradd MA a doethuriaeth o Brifysgol Warwick. Bu’r Athro Aled Gruffydd Jones yn rhan o staff Prifysgol Aberystwyth er 1979, gan gael ei benodi’n Athro Hanes Cymru Syr John Williams ym 1995 cyn cael ei benodi’n Ddirprwy Is-Ganghellor yn 2005. Yn fwyaf diweddar, fe’i penodwyd yn bennaeth Adran y Gymraeg yn Aberystwyth fis Mehefin 2012; penodiad a ysgogodd gryn drafodaeth. Dywedodd yr Athro Jones ar y pryd: “Rwy’n falch iawn o gael y cyfle hwn i arwain Adran y Gymraeg yn ystod cyfnod cyffrous yn natblygiad darpariaeth Addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Bûm yn ymwneud â sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac rwyf yn awyddus i weld

Adran y Gymraeg yn cyfrannu’n llawn at y gwaith o gryfhau’r Gymraeg ledled y Brifysgol ac at adeiladu ar y ddarpariaeth academaidd, yn arbennig ymhlith ôl-raddedigion.”

Trafodwyd y penodiad hwn yn rhifyn blasu Yr Heriwr, a ryddhawyd ar faes Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg y llynedd. Mynegwyd pryder yn yr erthygl ynghylch natur y penodiad, gyda rhai’n dadlau mai natur wleidyddol oedd i’r penodiad, yn enwedig o ystyried yr ailstrwythuro eang a oedd ar y gweill ar y pryd. Bellach, pryder gwahanol sydd gan y gymuned Gymraeg, sef y bydd ymadawiad yr Athro Jones oli uwch reit drwy’r sefydliad.” yn creu gwactod yn rhengoedd uchaf y Brifysgol o ran dealltSerch hyn, mae Adran y Gymraeg wriaeth a chydymdeimlad tuag yn colli ei phennaeth ar adeg o anat fyfyrwyr Cymraeg y Brifysgol. sicrwydd enbyd, gyda bygythiad byw iawn o ail-leoli’r adran o’r Mewn ymateb i’r pryder hwn, Hen Goleg eiconig i adeilad didywedodd yr Athro Jones: gymeriad Hugh Owen ar y campws. Sylwer fel y bu i’r Brifysgol, “Yr unig beth dw i’n wybod yw mewn ymateb i’r erthygl yn Yr bod Aberystwyth fel prifysgol Heriwr fis Awst, gysylltu â Golwg yn gwbl ymroddedig i’r Gymar Awst y 9fed, 2012, i gadarnhau raeg, ac i ddatblygu’r Gymraeg nad oes unrhyw fwriad i ddileu a hynny ar bob lefel, o’r tîm rhe

Adran y Gymraeg. Dyna honiad na wnaethpwyd o gwbl yn yr erthygl. Yr euog a ffy heb neb yn ei erlid?

Mae’n ddyletswydd arnom ni fel myfyrwyr i sicrhau nad yw ymadawiad yr Athro Aled Gruffydd Jones i’r Llyfrgell Genedlaethol yn galluogi’r Brifysgol i wthio Adran y Gymraeg i’r neilltu a sathru arni fel y mynno. Yn yr adeg hon o newid mawr o fewn y Brifysgol, mae arnom angen cymaint o gadernid ag sy’n bosibl.

“DWI EISIAU BYW YN GYMRAEG!” gan Mared Ifan

(parhad o’r dudalen gyntaf)

Wedi’r llofnodi y tu allan i Neuadd y Sir, gorymdeithiodd y dorf ar hyd un o strydoedd prysuraf y dref gan ennyn sylw sylweddol gan y bobl a oedd yn treulio’r bore’n siopa. Roedd yr ymateb gan drigolion y dref yn un cadarnhaol gyda llawer o bobl yn dod allan o’u tai i gefnogi.

wedi cyfrannu at ddirywiad yr iaith yn Sir Gâr.”

Yr oedd 500 o bobl yn y rali brotest yn Aberystwyth ar yr 2il o Chwefror, 50 mlynedd yn union ers protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith ar Bont Trefechan. Cynhaliwyd y rali tu allan i Siop y Pethe lle cafwyd areithDaeth yr orymdaith i ben y tu allan i swydd- iau pwrpasol gan Robin Farrar, Cadeirydd feydd Llywodraeth Cymru a chafodd mwy o Cymdeithas yr Iaith, Elin Jones AC a Cen Llwynebau cyfarwydd gyfle i leisio eu barn am wyd. Yna, gorymdeithiodd y dyrfa i Bont sefyllfa’r Gymraeg. Datganodd Llio Silyn ei Trefechan er mwyn nodi pen-blwydd y Gymphryder am ddarpariaeth addysg trwy gy- deithas. Fel yng Nghaerfyrddin, roedd ymateb frwng y Gymraeg yn Sir Gâr. Siaradodd am pobl y dref yn gadarnhaol i’r digwyddiad. ei phrofiad hi fel athrawes gyflenwi yn y Sir: Ar y bont, cafwyd ail hanner y rali a thro Ga“Mi ges i siom, a’r sioc fwyaf o weld y categorei- reth Miles a Siriol Dafis oedd hi i annerch ddio iaith oedd yn digwydd yn yr ysgolion a hwn- y dyrfa. Yr oedd neges Gareth Miles, un o na dwi’n meddwl ydy un o’r pethau mwyaf sydd sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith, yn glir:

“Mae ymgyrchwyr iaith yn well pobl na gwleidyddion presennol y Cynulliad, ac fe ddylen nhw sefyll etholiad ar unwaith er mwyn cael eu dwylo ar rym.” Roedd Siriol Dafis, disgybl 16 oed yn Ysgol Penweddig, yn siarad ar ran ei chenhedlaeth hi o siaradwyr Cymraeg. Ei neges oedd bod pobl ifanc heddiw eisiau siarad Cymraeg. I gloi’r rali, fe eisteddasom ar y bont a chanu’r anthem genedlaethol i gofio’r digwyddiad chwedlonol hwnnw 50 mlynedd yn ôl. Yr oedd y rali yn un o’r digwyddiadau amrywiol dros y penwythnos i ddathlu hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith, ond hefyd i bwysleisio bod yr iaith Gymraeg mewn argyfwng ac i bwyso ar wleidyddion i weithredu er mwyn ei hachub.

3


YR HERIWR

CUDDIO’R GYMRAEG YM MHRIFYSGOL ABERYSTWYTH? gan Elliw Hâf

Yn rhifyn blasu Yr Heriwr y llynedd, roedd un erthygl yn lleisio pryderon y myfyrwyr am y sibrydion ynglŷn ag ailstrwythuro adrannau academaidd o fewn Prifysgol Aberystwyth. O dan y drefn newydd, lleisiwyd y bwriad i benodi un Pennaeth Adran i fod yn gyfrifol am reoli cyllid Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu; Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol; yr Ysgol Gelf; Adran y Gymraeg; a Chanolfan y Celfyddydau. Disgrifiwyd y cyfnod hwn gan y Brifysgol fel “cyfnod cyffrous” ond bellach mae’r ailstrwythuro yn peri cryn bryder i’r myfyrwyr.

“brofi awyrgylch arbennig adeilad atmosfferig yr Hen Goleg a’i leoliad bendigedig ger y lli”, ac mae’r myfyrwyr yn mwynhau astudio mewn adeilad sydd, fel Neuadd Pantycelyn, bellach yn rhan o hanes Cymru. Mae llawer yn ei hystyried yn fraint cael astudio o fewn waliau adeilad lle bu cewri llenyddiaeth Gymraeg yn crwydro ar un cyfnod. Mae'r Athro Aled Gruffydd Jones wedi addo y bydd yn rhyddhau gwybodaeth yn syth pan fydd ganddo fwy o fanylion am gynlluniau’r Brifysgol. Ond gyda’r pennaeth newydd eisoes yn gadael yr adran i fod yn Llyfrgellydd a Phrif Weithredwr newydd y Llyfrgell Genedlaethol, tybed faint o’r wybodaeth hon fydd yn cael ei chyfleu i’r myfyrwyr?

Llwyddodd llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth i leddfu rhai o bryderon y myfyrwyr wrth iddynt ofni y byddai’r ailstrwythuro hwn yn gwasgu’r Adran Gymraeg, drwy gyfaddef fod cynnwys dogfen ‘Ail-gyflunio Adrannau Academaidd’ yn Annhegwch mawr yw bod y cynllu“cael ei drafod ar hyn o bryd ond nid oes niau hyn yn cyrraedd y myfyrwyr ar ôl ynddi gynnig i ddileu Adran y Gymraeg.” i’r penderfyniadau gael eu gwneud, gan fod hyn yn effeithio ar allu’r myEr bod y Brifysgol yn dechnegol yn ll- fyrwyr i anghytuno, i leisio eu barn ac i wyddo i gadw at eu gair, tipyn o siom a addasu syniadau os oes angen. Mae syndod a ddaeth i’r myfyrwyr wrth id- llais y myfyrwyr yn cael ei golli ymysg dynt ddeall mai bwriad y Brifysgol yw sy- cynlluniau, a lles pawb sy’n rhan o’r adran mud Adran y Gymraeg o’i safle presennol hefyd dan fygythiad. Mae trafodaethau i Adeilad Hugh Owen gyda’r Coleg Cym- yn parhau ymysg y Brifysgol a'r myfyrraeg Cenedlaethol erbyn mis Medi 2013. wyr fel ei gilydd. Os ydych am fynegi eich barn ynghylch symud Adran y Gymraeg, Ar wefan Prifysgol Aberystwyth, mae ymunwch â’r grŵp Facebook ‘Symud yr Adran y Gymraeg yn ymfalchïo yn ei Adran Gymraeg’ a dewch i gyfarfodydd lleoliad gan geisio hudo’r myfyrwyr draw i y myfyrwyr ym Mhantycelyn er mwyn ceisio sicrhau tegwch i Adran y Gymraeg.

4

Rhifyn y Gw


SEFYDLWYD 2012

wanwyn 2013

Y COLEG CYMRAEG: “WEDI LLWYDDO TU HWNT I UNRHYW FREUDDWYD”

gan Aled Morgan Hughes Llun: Keith Morris

“Wedi llwyddo y tu hwnt i unrhyw freuddwyd” - dyna’r hyn a nododd yr Athro Robin Williams am y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, wrth gael ei urddo fel Cymrodor Er Anrhydedd yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar 6 Chwefror 2013. Mynychwyd y Cynulliad, a nodai flwyddyn gyntaf gyfan gron y Coleg, gan amrywiaeth eang o bobl - o fyfyrwyr a darlithwyr i Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, April McMahon. Yn ei anerchiad, nododd Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg, Yr Athro R. Merfyn Jones, ei bod yn syfrdanol ystyried holl weithgaredd y Coleg yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys cyllido dros hanner cant o swyddi darlithio a 37 o brosiectau

“cyffrous” o fewn 15 maes academaidd, ynghyd â chyllido dros 120 o ysgoloriaethau israddedig. Aeth Yr Athro Jones yn ei flaen i amlygu pwysigrwydd “sicrhau bod y

Gymraeg ar gael i drafod pynciau deallusol ... nid yn unig cymunedol, ond hefyd pynciau astrus”. Cynigiodd

y

Cynulliad

hefyd

gyfle i anrhydeddu a chydnabod myfyrwyr a oedd wedi ennill doethuriaeth dan nawdd Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg, gyda 19 ohonynt yn derbyn tystysgrif mewn pynciau yn amrywio o Ddaearyddiaeth Ffisegol i Astudiaethau Ffilm a Theledu.

Daeth y noson i ben drwy urddo tri Chymrodor Er Anrhydedd i blith y Coleg, sef yr hanesydd a chynwarden Neuadd Pantycelyn, Dr John Davies, cyn-bennaeth drama Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro Ioan Williams a’r ffisegydd a chyn Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, Yr Athro Robin Williams. Nododd y Dr John Davies yn ei araith o ddiolch mai'r ysbrydoliaeth fwyaf iddo gael erioed oedd myfyrwyr y neuadd breswyl honno.

GWNEWCH Y PETHAU BYCHAIN gan Aled Morgan Hughes

Roedd Mawrth y 1af eleni yn ddiwrnod hanesy- Sefydlwyd Cyngor y Parêd ym mis Medi llynedd, ddol i dref Aberystwyth wrth iddi gynnal parêd ac o dan gadeiryddiaeth Siôn Jobbins, aethpwyd Dydd Gwŷl Ddewi am y tro cyntaf yn ei hanes. ati i sicrhau cefnogaeth gan nifer o wahanol seLlun: Richard a Tegwen Morris fydliadau a mudiadau Cymraeg yn yr ardal, gan gynnwys Cyngor Llyfrau Cymru, UMCA, Mudiad Merched y Wawr ac Ysgol Uwchradd Penweddig.

Daeth tua mil o bobl o bob cefndir ac oed ynghyd i gymryd rhan yn y dathlu, wrth i’r parêd ddirwyn o dŵr cloc y dref hyd at sgwâr Llys y Brenin. Tywyswyd yr orymdaith gan yr ymgyrchydd iaith a’r arbenigwr cerddoriaeth, Dr Meredydd Evans, fel cydnabyddiaeth a diolch iddo am ei holl gyfraniad i ddiwylliant Cymru drwy gydol ei fywyd. Cafwyd hefyd gyfraniadau amrywiol gan Lyn Ebenezer, y pibydd Ceri Rhys Matthews a Chôr Meibion Aberystwyth i enwi ond ychydig.

Llun: Iestyn Hughes

Mewn cyfweliad gyda’r Heriwr, dywedodd Siôn Jobbins fod trefnu gorymdaith o’r fath yn Aberystwyth ar Ddydd Gŵyl Ddewi yn rhywbeth yr oedd wedi bod yn awyddus i’w gyflawni ers amser bellach, gan synnu nad oedd digwyddiad o’r fath wedi cael ei gynnal o’r blaen. Dywedodd: beth syml ond clir i ddangos eu bod am i’r Gymraeg ffynnu a bod gennym ni nid yn unig iaith, “Fy ysgogiad oedd ’mod i’n gwylltio wrth weld ond hefyd ein diwylliant unigryw ein hunain.”

holl Union Jacks - baner y Welsh Not - yn chwifio yn Aberystwyth dros haf Jiwbilî ac Olympics Cadarnhaodd hefyd y bydd parêd o’r fath yn cael 2012, ac felly roeddwn am adfeddiannu’r dref ei gynnal eto yn 2014, yn enwedig gan fod yr i Gymreictod a dangos ein bod ni ‘yma o hyd!’” Wŷl yn syrthio ar Ddydd Sadwrn, gan ddweud: Wrth drafod rhai o’r ffactorau y tu ôl i lwyddi- “Fy mwriad yw bod mwy o ddigwyddiadau’n ant ysgubol y parêd, awgrymodd Mr Jobbins: cael eu cynnal yn y dre wedi’r orymdaith a min nos - dwi am glywed miwsig Cymraeg o “Dwi’n meddwl fod pobl wedi cael sioc a siom bob math yng nghaffis a thafarndai’r dref.” ar ôl canlyniadau’r cyfrifiad ac am wneud rhyw-

5


YR HERIWR

Rhifyn y Gw

STARBUCKS - ‘we proudly serve?’ gan Osian Elias Mae’r faner werdd ac arogl coffi wedi cyrraedd yr Undeb, ac yn y broses wedi achub ein Hundeb ni. Mae’n debyg fod Starbucks yn gwneud cryn dipyn o arian i’r Undeb yn ddyddiol, ac yn graddol dynnu’r Undeb allan o’r twll ariannol y mae wedi bod ynddo ers rhyw ddegawd. Ond mae nifer o fyfyrwyr yn wrthwynebus i bresenoldeb Starbucks yn yr Undeb, ac yn gweld hyn fel symbol o’r problemau eraill sy’n wynebu’r Undeb.

distewi. Gyda nifer yn dewis ymatal eu pleidlais yn yr ail bleidlais, trechwyd yr ymgais i rwystro Starbucks rhag dod i’r Undeb. I mi, siomedig oedd bod yn bresennol yn y Cynulliad Myfyrwyr i brofi digwyddiadau’r noson honno.

Ond pam fod y Starbucks yn creu cymaint o ddadleuon? Yn ddiweddar, mae Starbucks wedi ennyn sylw anffafriol ynghylch treth. Roedd y stori nad oedd Starbucks yn talu dim treth corfforaethol wedi corddi nifer. Ond, mewn ymarferiad amheus arall, mae Starbucks wedi cytuno i dalu treth o £20 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf. Mi hoffwn yn fawr petawn i’n cael llythyr gan HMRC yn gofyn faint o dreth yr ydw i am ei dalu’r flwyddyn nesaf...!

Fel nifer o gwmnïau rhyngwladol eraill, mae nifer o gwestiynau yn codi am eu hymarferion busnes. Mae cwmnïau eraill wedi cyhuddo Starbucks o ehangu’n ymosodol ac yn annheg. Mae gwefan yr Dechreuodd saga Starbucks yn ‘Ethical Consumer’ yn datgan bod 2011 gydag ymgais gan fyfyrwyr Starbucks dan foicot am y ffordd i rwystro Starbucks rhag dod i’r mae’r cwmni yn trin ei staff ac am Undeb. Daeth yr ymdrech i atal y ffordd mae’r cwmni wedi trin Starbucks i’w hanterth cyn y Nado- ffermwyr coffi o Ethiopia. Os ydych lig gyda chyfarfod Cynulliad y My- am ddarllen mwy, ceir rhestr hir fyrwyr diwethaf y tymor. Cafwyd ar wefan ‘Ethical Consumer’ am pleidlais glòs ar y mater ac wedi’r eu pryderon ynghylch Starbucks. pleidleisio, dewis y mwyafrif oedd gohirio’r penderfyniad - dewis Bellach, mae Starbucks yn defnyoedd yn golygu y byddai reffer- ddio coffi Masnach Deg yn unig endwm yn cael ei gynnal ar gael Starbucks yn yr Undeb. Ar ôl sylweddoli goblygiadau’r canlyniad, cyhoeddwyd bod cynlluniau ar y gweill i ddod â Starbucks i’r Undeb ym mis Ionawr ac y byddai gohirio’r penderfyniad a chynnal refferendwm yn gostus ac yn digwydd yn rhy hwyr i atal Starbucks. Felly, mewn ymarferiad democrataidd amheus, cafwyd pleidlais arall. Gyda’r cyhoeddiad na fyddai gohirio’r penderfyniad yn gwneud dim gwahaniaeth, a bod bwriad i agor Starbucks yn mis Ionawr, roedd y ddadl wedi’i

6

©keith morris 2013 www.artswebwales.com keith@artx.co.uk

honni ei fod yn mynd ymhel- Problem fawr arall yw nad yw deulach na’r cynllun Masnach Deg. nydd hysbysebu Starbucks ar gael yn y Gymraeg. Er nad yw cwmnïau Wrth ystyried Starbucks o safbw- allanol yn cael eu gorfodi i gynynt Aberystwyth, mae’n drueni yn nig darpariaeth yn y Gymraeg gan fy marn i fod cymeriad unigryw bolisi dwyieithog yr Undeb, onid Aber yn cael ei danseilio gan ddy- ydyw’n deg disgwyl bod Starbucks fodiad brand rhyngwladol arall. yn cynnig deunydd yn y Gymraeg Mae gan Aber ryw ymdeimlad yn yr Undeb? Mae arwyddion Starhollol unigryw sy’n golygu bod bucks yn rhai parhaol ac felly dylid pobl yn cwympo mewn cariad â’r mynnu eu bod yn cael eu cyfieithu. dref. Mae’r holl gaffis annibynnol yn rhan fawr o hyn, ac yn ber- Yn anffodus, mae enghreifftiau sonol mae’n rhinwedd fod diffyg eraill o gwmnïau allanol yn ambrandiau mawr yn Aberystwyth. harchu polisi dwyieithog yr UnMae’r golwg ar wynebau ymwel- deb, ond mae’n braf gweld bod wyr wrth esbonio iddynt nad oes bwydlenni Stone Willy’s bellach Nando’s neu Burger King yn y dref ar gael yn y Gymraeg. Ar y llaw yn bleser, ac mae’r syndod wrth arall, mae darpariaeth ddwyieitddatgan bod Domino’s ond yma hog Stone Willy’s yn tynnu sylw at ers rhai blynyddoedd yn well byth! ddiffyg y Gymraeg yn narpariaeth Starbucks. Mae’n anhygoel bod Mae stryd fawr Aberystwyth yn polisi dwyieithog yr Undeb yn llawn hen enwau annibynnol, teu- mynnu bod deunydd megis posteri luol sy’n gwneud Aberystwyth yn cymdeithasau yn ddwyieithog cyn unigryw, ac mae hyn yn rhywbeth cael eu dangos yn yr Undeb, ond bod i’w drysori. Mae dyfodiad Star- cwmni fel Starbucks gyda deunydd bucks i’r Undeb yn agor cil y drws parhaol yn yr Undeb yn cael rhdamed yn fwy, ac yn cyfrannu at wydd hynt i amharchu’r Gymraeg. yn y Deyrnas Unedig, ac mae hyn y broses o droi Aberystwyth yn i’w glodfori. Yn ychwanegol i hyn, dref ystrydebol arall. Proses sydd, ‘We proudly serve...?’ Dim diolch. mae Starbucks yn gweithredu yn araf bach, yn erydu’r profiad ei gynllun masnachu ei hun, gan y mae Aberystwyth yn ei gynnig.


SEFYDLWYD 2012

wanwyn 2013

ADOLYGIAD O ‘HEULFAN’ - LLWYD OWEN gan Elliw Hâf

“Wrth gael fy hudo gan yr arddull gain a chynnil, cefais fy hun yn troi’r dalennau’n awchus wrth ffroeni’r trosedd a’r trais a’r tywyllwch yn mudferwi yng ngwres yr heulfan.” - Dewi Prysor. Ffrwydrodd Llwyd Owen i’n byd llenyddol ’nôl yn 2006. Ers hynny, gyda diolch i’w brofiadau bywyd helaeth yn ogystal â’i ddychymyg diderfyn, mae Llwyd bellach wedi cyhoeddi ei chweched nofel. Yn ei nofel ddiweddaraf cawn ddychwelyd yn ôl i faestref ddychmygol Gerddi Hwyan, sef lleoliad ei nofel Mr Blaidd. Bydd y rhai sydd wedi darllen Mr Blaidd yn ymwybodol nad oes llawer o dda yn digwydd yng Ngerddi Hwyan - tref ddychmygol ar gyrion Bro Morgannwg - wrth i’r cyfoeth, y tai drud a’r gerddi taclus guddio’r trais a’r lladrata.

heb ei ail, wrth iddynt fynd ar drywydd lladron sy’n dwyn o dan drwynau'r crach. Ceri a Catrin yw’r ‘ddwy ffrind’, ffrindiau gorau a phartneriaid busnes llwyddiannus. Mae’r naill wedi ei dal mewn priodas dreisgar, a’r llall yn ymddangos yn hapus mewn perthynas sefydlog. Slafio am y nesa’ peth i ddim y mae’r ddau frawd, Morgan a Prys Caradog, ar ran busnes adeiladu eu hewythr ond heb fawr o ddiolch am eu gwaith. Mae un yn briod â Catrin a’r llall yn gyn-gariad i Ceri. Mr C yw’r dihiryn perffaith - ewythr y ddau frawd a gŵr Ceri; creadigaeth yn nychymyg yr awdur sy’n datblygu yn gyflym iawn i Mae Heulfan wedi ei lleoli yn 2016 a’r fod yn gymeriad o gig a gwaed. Cawn y discrach yw canolbwynt y nofel hon, gyda’r grifiad perffaith ohono gan Lyn Ebenezer dihirod a’r dioddefwyr yn deillio o’r un fel ‘angel pen ffordd ond diawl pen pentan.’ dosbarth cymdeithasol. 'Dau dditectif. Dwy ffrind. Dau frawd. Un dyn drwg.' Mae yma unwaith eto blot cadarn gan Yn syml, fel y crynhoa’r broliant ar gefn yr awdur - meistr y genre trosedd a y nofel, saith prif gymeriad sydd yma, a thrais yn y Gymraeg, ac mae’r nofel yn dawn Llwyd Owen yw ei allu i greu cymeri- cydio drwyddi hyd y diwedd. Gyda’i hiadau crwn, credadwy, a darlunio cymde- aith liwgar sy’n gymysgedd o dafodiithas heb fynd dros ben llestri. Er bod ffin aith (y Gymraeg a’r Saesneg) yn ogystal â’r cymeriadu gofalus, mae’r nofel yn symud yn ei blaen yn ddidrafferth gan adael y darllenwr mewn mymryn o bicil wrth iddynt ysu am droi’r dudalen nesaf.

Mae’r themâu teyrngarwch, brad, cariad a thwyll yn rhedeg yn gyson drwy weithiau Llwyd Owen, ac nid yw’r nofel hon yn eithriad. Mae dioddefaint hefyd yn thema amlwg iawn yn y nofel hon gyda phob cymeriad - hyd yn oed Mr C - yn dioddef yn ei ffordd ei hun, a phawb wedi ei gaethiwo i’w hamgylchiadau personol. Cyrhaedda’r nofel uchafbwynt yn ucheldiroedd Eryri wrth i’r cymeriadau canolog gymhlethu tu hwnt i bob rheolaeth a chyda’r ddau dditectif dryslyd yn llywio’r helfa, tybed a gaiff y dihiryn go iawn ei haeddiant ar y diwedd?

bendant ar yr olwg gyntaf rhwng y da a’r drwg, gwelwn wrth i’r nofel ddatblygu mor frau yw’r ffin fel nad ydyw’n bodoli bron.

Cawn ddilyn hynt a helynt y ddau dditectif; DC Aled Colwyn - dyn teulu parchus, a’i gydweithiwr, DC Richard King - merchetwr

Dyma nofel gyffrous, afaelgar sydd yn bendant yn werth ei darllen - dim ond gobeithio na fydd yn rhy hir cyn i nofel nesaf Llwyd Owen gyrraedd ein silffoedd!

Heulfan £8.95 Y Lolfa

7


YR HERIWR

Rhifyn y Gw

ETHOLIADAU’R UNDEB gan Elin Gruffydd

Cynhaliwyd etholiadau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ddechrau mis Mawrth, a ysgogodd ysbryd gwleidyddol ymysg myfyrwyr y Brifysgol. Wedi wythnosau o ymgyrchu brwd ar draws y campws, cyhoeddwyd y canlyniadau mewn cyfarfod hwyliog, dros beint neu ddau, yn yr Undeb. Bu cryn ddathlu o ganlyniad i lwyddiant sawl ymgeisydd ac yr oedd yn braf gweld mai aelodau UMCA a oedd

yn llenwi bron i draean y gynulleidfa. Cyffrous hefyd yw gweld mai merched sydd wedi cael eu hethol ar gyfer pob swydd llawn amser hyd yn hyn, ond yn anffodus bu peth chwerwder yn yr etholiadau ar gyfer rhai swyddi. Yn wir, bu’n rhaid gohirio ethol Llywydd yr Undeb oherwydd cyhuddiadau o fwlio difrifol yn erbyn un o’r ymgeiswyr. Datgelwyd y canlyniad, ddydd Llun y deunawfed o Fawrth.

Dyma’r ymgeiswyr a ddaeth i’r brig: Swyddogion Llawn-Amser Llywydd yr Undeb: Ioan Rhys Evans Swyddog Addysg: Grace Burton

Swyddog Cymorth Myfyrwyr: Laura Dickens

Swyddog Materion Cymreig a Llywydd UMCA: Mared Ifan Swyddog Gweithgareddau: Liv Prewett Swyddogion Rhan-Amser

Cadeirydd yr Undeb: Thomas Keane

Dirprwy Cymorth Myfyrwyr a Swyddog Ymgyrchoedd: Josh James Swyddog Cyfleoedd Cyfartal: Robert Sean Davies Swyddog Cymdeithasau: Mohammed Sa'ad Swyddog Chwaraeon: Adam Curtis

Swyddog heb Bortffolio: Jamie Evans

Ymddiriedolwr sy’n Fyfyriwr Ôl-Raddedig: Christopher Lloyd-Jones

Dirpiwyon Cynhadledd UCM y DU: Will Atkinson, Grace Burton, Laura Dickens

Dirprwyon Cynhadledd UCM Cymru: Will Atkinson, Grace Burton, Laura Dickens

LLYWYDD YN LLYWIO’R BLEIDLAIS? gan Adam Jones

Mae wedi bod yn gyfnod digon cythryblus ymysg myfyrwyr Aberystwyth yn ddiweddar wrth i unigolion frwydro yn etholiadau’r Undeb. Eleni gwelwyd rhai o’r ymgyrchoedd ffyrnicaf a mwyaf bywiog ers peth amser, gan wneud y cyfan yn ddifyr i’w ddilyn. Ond er mor barod ydym ni fel myfyrwyr i ddangos ein cefnogaeth i’r naill ymgeisydd neu’r llall yn yr etholiadau, beth am y swyddogion Sabothol a etholwyd llynedd? A ddylent hwy gael yr hawl i ddangos eu barn?

Gyda dyfodiad newydd Cynulliad y Myfyrwyr yn Aberystwyth, daeth rheolau newydd ynghylch yr etholiadau. Bellach, mae gan bob swyddog sabothol yr hawl i ddatgan eu cefnogaeth i unrhyw ymgeisydd y dymunant, oni bai eu bod yn dwyn anfri ar ymgeisydd. Gwelwyd yn ystod yr etholiadau diweddar nifer o’n cynrychiolwyr yn datgan eu cefnogaeth; rhai ohonynt yn hollti blew drwy

8

fynd ati i ddangos rhinweddau ymgeisydd dros y llall. Yr hyn yr hoffwn ei gwestiynu serch hynny yw a ydyw’n foesol gywir i swyddogion sabothol ddangos ei hochr yn yr etholiadau a hwythau’n cael eu cyflogi i’n cynrychioli? Ein pleidlais ni y llynedd yw eu mandad democrataidd nhw eleni, ond pa fandad sydd ganddynt i gefnogi un ymgeisydd dros y llall wrth ystyried y dylent fod yn cynrychioli ein safbwyntiau ni i gyd?

Wrth gefnogi un unigolyn dros y llall, mae’r swyddogion yn creu rhwygiadau anorfod ac yn sathru ar draed proses ddemocrataidd yr Undeb. Gall geirda gan un o’r swyddogion wyro’r bleidlais o blaid un ymgeisydd dros y llall, a chan ystyried eu bod wedi’u hethol i leisio barn y myfyrwyr oddi fewn y sefydliad, onid ydynt trwy gefnogi’r un unigolyn dros y llall yn gwanhau eu llais ar lefel yr ndeb? Byddai

cynrychioli un ymgeisydd yn ynysu un garfan o fyfyrwyr yn syth - rhywbeth rydym eisoes wedi ei weld yn yr etholiadau diweddaraf.

Yn fy nhyb i, nid yw’n deg datgan cefnogaeth yn gyhoeddus, a thrwy wneud hyn, maent yn ymyrryd â’r broses ddemocrataidd, yn enwedig os gwneir hyn yn ystod oriau gwaith. Mae’r swyddogion sy’n gwneud hyn yn saethu eu hunain yn eu traed - sut allant bellach barhau i’n cynrychioli ni i’w gorau o’u gallu? Nid ydynt wedi aros yn ddiduedd a niwtral yn y broses ac am hynny mae’r hyder sydd gennyf i yn bersonol yn nifer ohonynt wedi edwino’n ddirfawr. Roedd yn ddrwg eu bod wedi penderfynu dangos eu hochr yn y lle cyntaf, ond bydd pethau’n waeth yn awr yn dilyn yr etholiadau. Credaf fod hwn yn fater y dylid ei gywiro ar frys cyn i ragor o bobl golli ffydd yn y sefydliad sydd i fod i’n cynrychioli.


SEFYDLWYD 2012

wanwyn 2013

CZEŚĆ O WLAD PWYL! gan Bethan Ruth

Cześć o Wlad Pwyl! Bethan ydw i o’r ail flwyddyn, ond dwi’n bresennol ar raglen gyfnewid Erasmus yn Wrocław, Gwlad Pwyl. Hyd yn hyn, mae Erasmus wedi rhoi sawl profiad i mi, gan gynnwys yfed te o’r Ariannin gyda ffrind o Bolivia, dysgu dawns Mistar Urdd i Americanwyr, partïo gyda ffrind o’r Iseldiroedd tan y wawr, gwylio opera gydag Eidalwyr a dawnsio/cwffio’r Capoeira gyda ffrind o Groeg.

Roedd pacio i fynd yn cymryd tipyn o sgil (er i Bantycelyn fy mharatoi i’n eitha da) - roeddwn yn gorfod pacio am dymor cyfan sy’n cychwyn yn -15°C gydag eira mawr, ac yn gorffen gyda haul chwilboeth a thymheredd o tua 25°C! Roedd gen i ’chydig o ofn yn y dechrau, gyda chwestiynau fel “pwy fydda i’n rhannu llofft hefo nhw?”, “sut le fydd fy neuadd breswyl?” a “pha mor anodd fydd y cwrs?” yn mynd rownd a rownd yn fy mhen. Ond wrth gwrs, roedd pawb yn yr un cwch, ac ymhen dim ro’n i wedi gwneud hanner cant o ffrindiau newydd o bob cwr o’r byd! Dwi’n rhannu fflat gyda merched o’r Almaen, Kazakhstan a Hwngari – mae pawb yn tynnu ymlaen yn grêt, a’r lle yn llenwi gydag ieithoedd a synau gwahanol pan ’dan ni gyd ar Sgeip! Roedd yr wythnosau cynta’ yma yn debyg

i wythnos y glas - parti bob nos mewn fflatiau ac yna pawb yn mentro allan i’r ddinas fawr ar y tram tan berfeddion y bore. Erbyn hyn mae pethau wedi setlo i lawr ’chydig; pawb wedi cychwyn ar eu haseiniadau ac ati. Er hyn, mae pawb yn ceisio gwneud y mwya’ o’r ddinas, a theithio o gwmpas Gwlad Pwyl ar y penwythnosau.

Mae Wrocław yn ddinas hardd gyda llawer iawn o hanes iddi. Mae poblogaeth o tua 650,000 yma sy’n ei gwneud y ddinas fwya’ yn Ne Silesia. Roedd hi’n rhan o’r Almaen am 700 mlynedd cyn yr Ail Ryfel Byd, ac yn perthyn i linach Hapsbwrg. Mae llawer o adeiladau gyda dylanwad yr Hapsbwrg crand yma, gan gynnwys adeilad y Brifysgol. Mae canol y ddinas ar ynys ac yn cael ei hamgylchynu gan afon Oder, ac mae sawl pont yn cysylltu’r ynys â gweddill y ddinas. Mae hefyd ynys o’r enw Ostrów Tumski ble mae sawl eglwys a golygfa enwog o’r ddinas. Yno, mae pont haearn werdd arddull ‘art nouveau’, ble mae’n draddodiad i gariadon ’sgwennu eu llyth-

ystod symudiad myfyrwyr gwrth-gomiwnyddol y ‘Chwyldro Oren’ pan oedd y wlad o dan arweinyddiaeth yr Undeb Sofietaidd yn yr 80au.

Teimlaf ei bod hi’n ddigon hawdd ymdopi â’r ffordd o fyw yma. Dwi’n hiraethu am gaws yn arw iawn - does dim llawer o ddewis yma os nad ydech chi’n caru caws edam neu mozarella! Mi ddes i â phot o farmeit efo fi felly dwi’n goroesi, a dwi ’di dod o hyd i le sy’n gwerthu ffa pob Heinz yma hefyd! Mae ’na gyfreithiau go od yma, gan gynnwys dirwy o 100zl (tua £40) os ydech chi’n croesi y ffordd heb ddefnyddio croesfan sebra, a hefyd, carchar am flwyddyn os ydech chi’n cael eich dal yn seiclo yn feddw – dwi heb fentro’r un ohonyn nhw ... eto! Er fy mod wrth fy modd yma, does nunlle’n yn debyg i adre, a dwi’n edrych ymlaen at gael agor fy llenni a chael edrych allan ar y môr yn Aber. Ond tan hynny, mae fy nyth fan hyn yng Ngwlad Pwyl.

rennau cyntaf ar glo, gosod y clo ar y bont ac yna taflu’r goriad i’r afon. Dros y ddinas hefyd mae cerfluniau bychain o gorachod efydd. Roedd y corachod yma yn symbolau pwysig iawn yn

FY NHAITH I COSTA RICA

I glywed mwy o hanesion Bethan Ruth, ewch draw i’w blog www.bethanruth.tumblr.com

gan Elliw Hâf

Yn ystod haf 2013 byddaf yn treulio 5 wythnos yn gwirfoddoli yn Costa Rica mewn ymgais i godi a gwella safon byw nid yn unig y bobl leol ond hefyd yr amgylchedd a’r anifeiliaid sydd mewn perygl. Rwyf yn codi arian drwy gefnogi Raleigh International – elusen sydd yn ei gwneud yn bosib i mi ac i nifer o unigolion ffodus eraill allu mentro i’r gwledydd hyn. Mae Raleigh wedi bod yn cydweithio’n agos gyda chymunedau a llywodraethau yn Costa Rica er 2001 ac maent yn parhau i ddarparu cymorth i’r gwledydd llai economaidd ddatblygiedig hyn yn flynyddol. Rwyf yn falch iawn o'r cyfle yr wyf yn ei gael i

geisio gwneud ychydig o wahaniaeth, a gallwch chithau wneud gwahaniaeth hefyd. Bydd cyfrannu dim ond £3 (pris peint) yn mynd yn bell! Rwyf yn talu am y tocyn awyren, am yr holl offer ac am yr holl bigiadau y bydd eu hangen arnaf ar wahân, ac felly bydd yr holl arian sydd yn cael ei gasglu yma yn mynd yn syth i’r elusen. Os ydych yn awyddus i gael y cyfle i ennill £50 a chefnogi fy ymdrech i godi arian ar gyfer yr alltaith, gallwch ddewis unrhyw ddyddiad o galendr 2013 am £1, cyn gyrru’r dyddiad ynghyd ag enw a rhif ffôn i mi cyn gynted ag sy’n bosib. Bydd yr enillydd lw-

cus yn cael ei ddewis ar ôl gwyliau’r Pasg!

Mae gennyf dudalen wedi ei chreu ar gyfer derbyn cyfraniadau ar-lein. Gallwch ymweld â'r dudalen a dilyn fy hanes nid yn unig yn codi'r arian ond hefyd holl hynt a helynt y daith drwy fynd ar y wefan www.justgiving.com/Elliw-HafPritchard. Mae cyfrannu drwy ddefnyddio Just Giving yn hawdd, yn gyflym ac yn gwbl ddiogel. Unwaith y byddwch yn cyfrannu bydd yr arian yn cael ei drosglwyddo yn syth i’r elusen, ac os ydych yn talu trethi gwnewch yn siwr eich bod yn rhoi tic yn y bwlch GiftAid er mwyn sicrhau fod eich arian yn cael ei ddefnyddio i’w lawn botensial.

9


YR HERIWR

MYFYRWYR YN DAL Y #BYG gan Bethan Walkling Ers cyhoeddi canlyniadau’r cyfrifiad eleni mae sefyllfa’r iaith wedi bod yn bwnc llosg i nifer o bobl ac mae’r iaith, neu ddiffyg yr iaith, mewn mannau cyhoeddus yn denu mwy o sylw nag erioed o’r blaen. Mae’r sefyllfa wedi ysgogi criw o fyfyrwyr UMCA i sefydlu cymdeithas newydd o’r enw BYG (Byw Yn Gymraeg), sydd am gefnogi busnesau lleol dwyieithog ac am annog y rheiny nad ydynt yn ddwyieithog i ymdrechu mwy trwy gynnig cyfieithu am ddim iddynt. Maent hefyd am edrych ar sefyllfa’r iaith Gymraeg ar y we ac am annog pobl i ddefnyddio gwefannau Cymraeg a chyfieithu erthyglau Wikipedia. Mae cerddoriaeth Gymraeg yn rhywbeth yr hoffent ei hybu hefyd, felly maent yn bwriadu cynnal gigs yn gyson a hysbysebu gigs Cymraeg eraill. Yn ychwanegol i hynny, maent eisiau annog cymdeithasu drwy’r Gymraeg a bwriadant gynnal gweithgareddau misol er mwyn gwneud hynny. Felly byddwch yn barod i ddal y #BYG!

Rhifyn y Gw

Llun: Robin Williams

Llywydd UMCA, y Swyddog Gweithgareddau a Swyddog yr Iaith Gymraeg at ei gilydd i weld sut allai’r Undeb wella sefyllfa’r iaith. Maent wedi cynllunio Gwobr Safonau Dwyieithog i glybiau a chymdeithasau ble y bydd gwobr ariannol i’r clybiau sy’n gwneud yr ymdrech fwyaf i fod yn ddwyieithog. Mae tair haen i’r wobr: efydd, arian ac aur, a bydd clybiau a chymdeithasau yn gorfod cyrraedd targedau Mae swyddogion yr Undeb hefyd wedi bod arbennig er mwyn ennill gwobr. Bydd y targewrthi’n ceisio gwella dwyieithrwydd cym- dau hyn yn cynnwys pethau megis bod holl wisg deithasau eraill y Brifysgol. Ar ôl sylweddoli ffurfiol y clwb neu’r gymdeithas yn ddwyieitmai dim ond cyfryngau’r myfyrwyr, Cymde- hog, bod gohebiaeth y clwb neu’r gymdeithas ithas y Gyfraith a thîm rygbi dynion y Brifys- yn ddwyieithog yn ogystal â chael Swyddog gol oedd â swyddog yr iaith Gymraeg, daeth yr Iaith Gymraeg neu Swyddog Cyfieithu.

Mae Swyddog yr Iaith Gymraeg a Llywydd UMCA wedi creu pamffled yn llawn brawddegau a geiriau defnyddiol yn y Gymraeg i’r clybiau a chymdeithasau eu defnyddio er mwyn bod yn ddwyieithog. Felly os hoffech fwy o wybodaeth am y pecyn neu’r wobr ei hun, cysylltwch â Carys, Llywydd UMCA, ar umca@aber.ac.uk.

Da yw gweld bod yr Undeb yn pryderu am sefyllfa’r iaith ac yn annog eraill i boeni hefyd. Ond a fydd clybiau a chymdeithasau yn ymdrechu i newid? Cawn weld wrth iddynt bleidleisio am eu pwyllgorau newydd ar ôl y Pasg faint fydd â swydd newydd a sawl un o’r rheiny fydd yn siaradwyr Cymraeg neu’n gallu cyfieithu.

YR AELWYD AR LWYFAN CÔR CYMRU

gan Elin Gruffydd Y mae eleni wedi bod yn flwyddyn brysur a llwyddiannus tu hwnt i Gôr Aelwyd Pantycelyn. Ynghyd â chymryd rhan mewn sawl cyngerdd Nadolig ac yn nathliadau Gŵyl Ddewi’r Brifysgol, penderfynodd y côr gystadlu yn y rhaglen ‘Côr Cymru’ am y tro cyntaf.

Arweinydd y côr eleni, a’r un a ymgymerodd â her ‘Côr Cymru’, yw Eilir Pryse - myfyriwr mathemateg yn yr ail flwyddyn, sy’n wreiddiol o ardal Aberystwyth. Mae Eilir wedi gweithio’n ddi-baid gyda’r côr drwy gydol y flwyddyn, a hynny ar ben yr holl waith ar gyfer ei radd. Bydd yn cynnal ymarferion wythnosol, a mwy nag unwaith yr wythnos weithiau, er mwyn sicrhau fod y côr yn llwyddo. Serch hyn oll, bydd ganddo wastad wên ar ei wyneb ac mae’n llwyddo i wneud pob ymarfer

10

yn hwyliog ac yn ddi-ffwdan. Mae ein diolch hefyd yn enfawr i Heledd Eleri Evans am ei holl waith caled yn cyfeilio - gwaith di-ddiolch yn aml ond gwaith cwbl hanfodol i lwyddiant y côr. Yn ddiau, ni fyddai’r côr wedi llwyddo nac wedi bod hanner cystal heb eu gwaith caled. Ar ôl cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth, cafodd y côr glyweliad yn yr Ysgol Gymraeg yn Aberystwyth fis Tachwedd, ac ar sail y recordiad hwnnw, aethant ymlaen i’r rowndiau cynderfynol (er eu bod wedi gorfod canu un gân nad oedd hanner y côr yn ei gwybod ac nad oedd gweddill y côr wedi ei chanu ers blwyddyn, gan nad oedd y recordiad yn ddigon hir!)

Wedi misoedd o ymarferion pellach, cynhaliwyd y rowndiau cynderfynol yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, dafliad carreg o Bantycelyn. Roedd corau profiadol dros ben yn cystadlu yn erbyn yr Aelwyd – Côr Ysgol Glanaethwy, Aelwyd y Waun Ddyfal a Chôr Ysgolion Uwchradd Sir Gaerfyrddin. Darlledwyd y rhaglen ar S4C, a roddodd Aelwyd Pantycelyn ar lwyfan cenedlaethol ac er na ddaeth y côr yn fuddugol, bu’n sicr yn brofiad cofiadwy sydd wedi codi ymwybyddiaeth am y côr. Wedi’r holl gyffro, nid oes cyfle i gael seibiant - mae’r Aelwyd yn awr yn paratoi’n ddygn ar gyfer Eisteddfod yr Urdd. Maent yn cystadlu mewn sawl maes gwahanol eleni ac yn cyflwyno côr SATB, côr merched, côr meibion a pharti llefaru. Maent hefyd yn camu i faes sy’n ddieithr iddynt ers rhai blynyddoedd bellach, ac yn rhoi ymgais ar y parti cerdd dant. Pob lwc iddynt!


SEFYDLWYD 2012

wanwyn 2013

Posau!

Hawdd

Canolig

Anodd

Ar draws:

1. Un o’r brwydrau yn rhyfeloedd annibyniaeth yr Alban. (11) 5. ... y gynnen. (6) 7. Anwadal. (5) 10. “... targed y creigiau” (B.M.D) (7) 12. Tŷ ffasiwn. (6) 13. Ty’n. (5) 14. “Mae’r esgid fach yn ... mewn man nas gwyddoch chi.” (6) 15. Trychineb ddiwydiannol. (6) 16. Cysgod dros dro. (4) 19. Anifail teilwng. (3) 21. Offeryn gwaith coed. (4) 22. Naddu’r tŷ ar gyfer y Nadolig? (5) I lawr:

1. Warburton neu Tipuric. (12) 2. “Gyr fab, ti a gei ...” (3) 3. Enw Saesneg Craig Glais. (12) 4. Un o ysgolion Cymraeg y de. (9) 6. Ofoid. (2) 8. “Druan rhwth, uwch dyrnau’r wig yn ... dirmygedig” (G.Ll.O) (6) 9. Dymuniad ennyd. (6) 11. Ailgyflenwi. (8) 17. Dyheu. (3) 18. Lluosog 19 ar draws. (3) 20. Ateb negyddol. (2)

CYFLE I ENNILL LLYFR!

Bydd yr ymgais gywir gyntaf a dynnir o’r het yn ennill copi o ‘The Phenomenon of Welshness’, Siôn Jobbins (gweler ein hadolygiad ar dudalen 14). Anfonwch eich atebion i’r croesair ynghyd â’ch cyfeiriad at yrheriwr@gmail.com. Cyhoeddir yr atebion ar ein gwefan, www.yrheriwr.org, adeg cyhoeddi’r papur nesaf.

11


YR HERIWR

Rhifyn y Gw

“MAE ’NA DAFARN YN Y NEFOEDD, MEDDAN NHW...”

gan Ffraid Gwenllian

Mae tymor arall wedi hedfan heibio ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae wedi bod yn un prysur tu hwnt hefyd. Rhwng trip y Geltaidd i Baris i weld y rygbi a phenwythnos yr Eisteddfod Ryng-golegol yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, synnwn i daten nad oes neb wedi cael cyfle i fynychu darlithoedd!

Yr oedd y Sŵn diweddaraf ddiwedd mis Chwefror yn noson gofiadwy unwaith eto, er ei bod hi’n biti i lawer beidio â dod oherwydd bod y bws i’r Eisteddfod Ryng-golegol yn gadael am hanner awr wedi deg y bore canlynol. Y thema, wrth gwrs, oedd Dydd Gŵyl Ddewi, ac roedd digon o ddychymyg wedi mynd i mewn i’r gwisgoedd, chwarae teg! Yn eu plith, ’roedd rhai wedi gwisgo fel yr Wyddfa, rhai fel archdderwyddon, rhai fel graffiti ‘Cofiwch Dryweryn’ a rhai eraill fel hen fenywod bach Cydweli, (mae ’mag i’n dal i ddrewi o losin du ’fyd!) I’r rhai wrthododd wisgo i fyny a chredu ei fod o’n ddigon i sticio Cennin Pedr ar eich crysau – ’da chi ’di cymryd ‘gwnewch y pethau bychain’ yn llawer rhy lythrennol.

raedd, cafodd pawb gyfle i ymweld â golygfeydd godidog Paris, ond er mwyn gwneud hynny, roedd angen prynu ticed i fynd ar y Metro. Wna i fyth ddeall brys rhai o drigolion Paris i ddal y peth ’na! Yr oedd hi’n berffaith amlwg fod un arall am gyrraedd yr orsaf mewn llai na phum munud, felly pam rhedeg fel ffŵl gwirion i’w ddal o?

ych! Llwyddodd Prifysgol Aberystwyth i ennill y chwaraeon yn ogystal â’r Eisteddfod ei hun – dyna un gamp lawn wedi ei chyflawni’r flwyddyn hon o leiaf! Aeth rhai ohonom i Gaerfyrddin ar fore dydd Gwener i weld y chwaraeon yn ystod y dydd, ac wrth gwrs, er mwyn cael esgus i fynd am beint neu ddau yn ystod y nos! Er ein bod ni’n dioddef fore SadCafodd y prifysgolion a oedd yno gasglu mewn wrn, y cyfan oedd ei angen arnom oedd blewyn un ardal o dafarndai i gymdeithasu â’i gilydd. y ci ym mar yr undeb, cyn curo’r prifysgolion Yn anffodus, ni lwyddwyd i wneud hynny ar eraill yn rhacs! Cyflwynwyr yr Eisteddfod eleni y nos Sadwrn gan fod y tafarndai’n gwrthod oedd Trystan o raglen Stwnsh a Lois Cernyw, mynediad i’r Cymry am mai ni enillodd y ryg- a ’dw i’n siŵr fod rhai o berfformiadau’r pribi! Roedd y myfyrwyr i gyd ar wasgar mewn fysgolion wedi rhoi mymryn o sioc iddynt. tafarndai gwahanol ym Mharis wrth wylio’r gêm hefyd, ond ble bynnag yr oedd pawb, Chwarae teg i Aber, cafodd ein myfyrwyr ni dwi’n siŵr eu bod wedi mwynhau eu hunain! dro ar bopeth bron, o ddawnsio i ganu, ac o Gobeithio nad oeddem ni wedi codi gormod o feimio i actio. Er ei bod hi’n benwythnos Gŵyl ofn ar drigolion Paris, druan â nhw. ’Dw i’m yn Ddewi, mae’n saff dweud nad oedd neb o fysiŵr sut oedd pawb arall yn teimlo wrth gyr- fyrwyr Aberystwyth yn sobor fel sant wrth raedd Aberystwyth yn ystod oriau mân ar y iddynt droi eu llaw at y cystadlaethau. Wrth bore Sul, ond teimlo fel cadach llawr oeddwn i. lwc, roedd pawb yn ôl yn eu gwlâu erbyn oriau mân bore Sul, yn barod ar gyfer diwrnod Ymlaen at yr Eisteddfod Ryng-golegol ar llawn o ddarlithoedd ar y dydd Llun. Mae ‘A gychwyn mis Mawrth – am benwythnos gw- aeth pawb iddyn nhw?’ yn gwestiwn arall!

Ddechrau mis Chwefror, cafodd pawb gyfle i ymlacio wedi adolygu mor galed ym mis Ionawr, pan aeth pawb ar drip blynyddol y Geltaidd i weld un o gemau’r chwe gwlad ym Mharis. Wedi teithio am oriau maith ar y bws o Aberystwyth i Dover, llwyddodd bechgyn y Geltaidd i gadw eu dillad ymlaen ar ddec uchaf y fferi eleni, yn wahanol i llynedd ar y ffordd i Iwerddon! Wedi cyr-

TRYDEDD CADAIR I GRUFF gan Aled Wyn Williams

Dymuna’r Heriwr estyn llongyfarchiadau gwresog i Gruffudd Antur ar ennill y gadair yn yr Eisteddfod Ryng-golegol eleni. Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol iddo ennill y gadair ac ef hefyd a enillodd y gadair yn Eisteddfod yr Urdd Eryri yn 2012. Cynhaliwyd yr Eisteddfod eleni ar yr ail o Fawrth ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant yng

12

Nghaerfyrddin. Y testun ar gyfer y gadair y tro hwn oedd ‘Drysau’ a phenderfynodd Gruffudd ymdrin â’r testun drwy sôn am ddrysau Pantycelyn yn cau - pwnc llosg ymysg myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth ar hyn o bryd. Beirniad y gystadleuaeth oedd Mererid Hopwood, a daeth i’r casgliad mai awdl “Madog” a oedd yn fuddugol. Mae hon wir yn gamp i fardd ifanc a dymunwn bob llwyddiant iddo gyda’i farddoni yn y dyfodol.


SEFYDLWYD 2012

wanwyn 2013

ADOLYGIAD O ‘PANED A CHACEN’ - ELLIW GWAWR gan Miriam Williams

Paned a Chacen £14.95 Y Lolfa

cri! Un o’r pethau sy’n amlwg wrth ddarllen y llyfr ryseitiau hwn ydi’r cariad sydd gan Elliw tuag at bobi, ac fel un sy’n dilyn ei blog ‘Paned a Chacen’ ers tipyn, mae’r llyfr hwn yn cynnig ryseitiau newydd yn ogystal â’r hen ffefrynnau megis Hyni Byns enwog Dolgellau.

rhy felys. Roedd hyd yn oed Dad yn cymeradwyo, ac mae hynny’n well canmoliaeth nac unrhyw beth yn ein tŷ ni! Roedd hi’n hawdd iawn i’w gwneud hefyd, a’r cynhwysion i gyd ar gael yn eich siopau lleol.

Yn ail, dewis Dad, oedd y gacen Guinness. Dim un i’r plant yw hon Mi wnes i benderfynu gwneud un gan fod 200ml o’r ddiod du ynddi, pwdin ac un gacen, a rhai gwaha- ond yn sicr yn flasus iawn i’r oedonol i’r rhai y byddwn i yn eu pobi lion. Mi wnes i’r camgymeriad o fel arfer. Roedd y gacen gaws gyda beidio ag iro un tun yn ddigon da ac siocled gwyn, mascarpone a ma- felly roedd hi’n hanner cacen Guinness yn hytrach nac un â dwy haen iddi, ond yn dal yn flasus dros ben. Yr hyn oedd yn fy synnu cyn Roedd tipyn o waith pobi arni - 40 darllen a choginio’r ryseitiau munud - ond yn llawn werth yr aros! yma gan Elliw Gwawr, oedd mai dyma’r llyfr pobi cyntaf yn y GymDoes dim llawer o bwyntiau negyraeg. Ond roedd hi’n werth aros ddol am y llyfr, dim ond efallai bod am y llyfr hwn. Dyma chwip o angen i chi fod â gradd yn y Gymlyfr ryseitiau gyda rhywbeth i raeg i ddeall enwau’r cynhwysion bawb, o’r dant melys i’r rhai sy’n ac enwau’r offer yn y Gymraeg! Mi hoff o bethau sawrus ac o’r cogyfon yn swnio’n drwm iawn, ond gymerodd hi sbel i mi arfer hefo’r ddion mentrus i’r rhai sy’n hoffi roedd hi mor ysgafn, heb fod yn gwahaniaeth rhwng extract ac chwarae’n saff gyda chacennau

essence, ac roedd hi’n anodd cofio pa un oedd pa un wrth chwilota drwy silffoedd yr archfarchnad! Serch hynny, mae’n llyfr arbennig, ac yn anrheg gwych i berthynas neu ffrind sy’n meddwl eu bod nhw’n gogyddion o fri!

Er mwyn dilyn mwy o hynt a helynt Elliw Gwawr yn pobi, ewch draw i’w blog: panedachacen.wordpress.com

‘Y BONT’ - GWEDD NEWYDD AR HEN HANES Adolygiad gan Marged Tudur Teimla Arwel Gruffydd, cyfarwyddwr artistig Theatr Genedlaethol Cymru, ei bod yn bwysig nodi a dathlu digwyddiadau allweddol yn hanes ein diwylliant sydd wedi ein ffurfio fel pobl. Ac fe lwyddodd ‘Y Bont’, a oedd yn dynodi hanner can mlynedd ers protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar bont Trefechan, i wneud hynny. Mater o farn yw a lwyddodd yn theatrig, ond fel cynhyrchiad aml blatfform ac arbrofol, fe lwyddodd. Yr oedd Canolfan y Celfyddydau dan ei sang, gyda 500 o bobl yn aros yn eiddgar am y perfformiad. Ochr yn ochr â hanes y brotest cafwyd stori garu rhwng Kye a Dwynwen.

Arweiniwyd pawb i fysiau o’r chwedegau a oedd yn teithio i lawr Allt Penglais. Wrth weld

y cast yn cerdded ar y pafin yn nillad y cyfnod a gweld protestwyr wrth Swyddfa’r Heddlu, yn fy nghlustiau roedd Saunders Lewis yn mynnu mai ‘trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo’. Llwyddwyd i gyfuno’r gweledol a’r clywedol yn effeithiol iawn.

ar yr un bws â mi yn gynharach.

Llwyddodd uchafbwynt y perfformiad i yrru ias i lawr y cefn, wrth i 500 o bobl gerdded tua phont Trefechan yn gwbl fud. Ar y bont roedd pawb yn gwrando ar sŵn traed y chwedegau ar y pafin, ac yn cyd-gerdded gyda nhw. Ddoe Yna dyma gerdded lawr y Stryd yn croesawu heddiw, a heddiw, yn Fawr i gyfeiriad y Swyddfa Bost arwyddocaol, yn gwneud dim ond wrth i’r cast ail-greu’r brotest edrych. Ac wrth i’r cyrn ganu, yn unwreiddiol. Yr oedd yr ail-greu ion fel y gwnaethant yn 1963, roedd hwn yn brofiad cwbl ddirdynnol, y cast yn gwau drwy’r gynulleidfa a ninnau fel cynulleidfa ond yn ac yn eu plith Kye a Dwynwen. Siogallu gwylio a gwneud dim – fel medig oedd eu cyfarfyddiad - roedd yr ydym ni hyd heddiw o bosib? y sgwrsio’n wan a diafael. Byddai Arweiniwyd pawb i wahanol gaff- dyfnhau’r ddeialog wedi creu diis wedyn, ac yno yr oedd rhai o’r weddglo cymaint mwy pwerus. bobl fu ar y bont yn 1963 yn hel atgofion ar sgriniau teledu. Pro- Dyma un o berfformiadau mwyaf fiad rhyfeddol o ystyried fod rhai mentrus y Theatr Genedlaethol ohonynt newydd fod yn eistedd hyd yn hyn, ac fel cenedl sy’n or-

hoff o gadw o fewn ffiniau a dilyn rheolau, mae’r mentro hwn i’w ganmol - boed hynny o fewn byd y theatr Gymraeg neu’n wleidyddol.

13


YR HERIWR

Rhifyn y Gw

“BEIBL Y CYMRO CYMRAEG CENEDLAETHOLGAR” gan Adam Jones

The Phenomenon of Welshness £7.50 Gwasg Carreg Gwalch

Daw ffraethineb ac arddull grafog Siôn Jobbins i’r amlwg o’r cychwyn cyntaf wrth ddarllen teitl y llyfr hwn: ‘The Phenonmenon of Welshness, or how many aircraft carriers would an independent Wales have.’ Mae’r ffin yn denau iawn rhwng pryfocio a chythruddo, ond nid yw’r awdur yn ofni troedio a chroesi’r ffin honno. Cyfres o erthyglau a ymddangosodd yng nghylchgrawn Cambria yw cynnwys y llyfr hwn; erthyglau sy’n gosod hanes y Cymry o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at y presennol yn ei gyd-destun gwleidyddol a chymdeithasol.

etholgar, ein tywys trwy’r holl ddigwyddiadau sydd wedi ffurfio’r deffroad cenedlaethol yng Nghymru; o radicaliaeth yr ugeiniau i brotestiadau torfol y chwedegau - dyma yn fy nhyb i yw Beibl y Cymro Cymraeg cenedlaetholgar.

Mae Siôn Jobbins bellach wedi cyhoeddi llyfr arall, sef ‘The Welsh National Anthem - the story and the meaning’. A hithau’n gyfnod pencampwriaeth y Chwe Gwlad nid yw’n anghyffredin clywed ein hanthem yn atseinio rhwng waliau tafarnau Aberystwyth ond dywed yr awdur wrth wleidyddion, chwaraewyr rygbi a chefnogwyr i Llawlyfr ydyw hwn yn y bôn i’r sawl nad ydynt beidio â chanu ‘Hen Wlad fy Nhadau’ oni bai eu yn deall hanes a chymeriad gwleidyddol y Cym- bod nhw’n deall y geiriau ac yn cytuno â hwy. ry; llawlyfr i’r Cymro Cymraeg a’r di-Gymraeg Dywedodd y byddai’n well ganddo gael stadiwm fel ei gilydd. Mae’n llyfr sy’n portreadu inni ddistaw ond gonest adeg canu’r anthem genedangerdd cenedlaetholwr rhwystredig mewn laethol cyn gêm gyntaf Cymru yn erbyn Iwerdgwlad heb iddi lais na chynrychiolaeth deil- don, na chlywed gwladgarwyr 80 munud yn wng. Mae ei fynegiant ar brydiau’n danllyd ac canu’r gân a hwythau ddim yn credu yn y geiriau. mae dicter yn ei eiriau wrth gondemnio agwedd y sefydliad Prydeinig a meddylfryd taeo- Mawr yw fy niolch i Siôn Jobbins am gynnig copi gaidd y Cymry. Sonia am Frad y Llyfrau Glei- o’i lyfr i ddarllenwyr Yr Heriwr. Bydd yr ymgais sion a Thryweryn, am yr ymgyrch dros sianel gywir gyntaf ar y croesair a dynnir allan o’r het deledu Cymraeg a senedd go iawn i Gymru; yn yn ennill copi o ‘The Phenomenon of Welshness’, wir, nid oes llawer y mae’r awdur wedi angho- felly ewch ati da chi. Mae’n llyfr arbennig, ac yn fio ei grybwyll a’i drafod yn ei erthyglau. Cawn llyfr y dylai pob Cymro gwerth ei halen ei ddarllen. ein trwytho ym meddylfryd y Cymro cenedla-

Y GELTAIDD ALLAN O’R CWPAN gan Llywelyn Williams

Bayern Diamonds 4-1 Y Geltaidd Ar brynhawn Sul fis Chwefror, chwaraeodd Y Geltaidd eu gêm gystadleuol gyntaf ar wair ers rhai misoedd bellach, gan i nifer o gemau gael eu gohirio ym Mlaendolau ynghynt. Gyda’r gynghrair dal heb ddechrau a chyda’r gemau paratoadol i gyd wedi eu chwarae ar y cae astro, roedd y gêm hon yn gyfle da i’r Geltaidd wneud eu marc eleni, gan fod peth amser ers iddynt gyrraedd rowndiau terfynol y gystadleuaeth. Sgoriodd y Bayern Diamonds gôl yn y 10 munud cyntaf a danseiliodd gobaith Y Geltaidd i gymryd rheolaeth o’r gêm. Cafodd y naill ochr gyfleoedd da i sgorio, ac aeth y bêl heibio i’r postyn gwpl o weithiau gan Bayern. Methodd capten Y Geltaidd, Elgan Jones, â sgorio ar ôl i groesiad gan asgellwr chwith Y Geltaidd, Lewis Tomlins, gyrraedd Elgan yn y cwrt cosbi.

14

Heb os, gyda pherfformiadau cadarn yn yr amddiffyn gan Y Geltaidd a chwarae taclus yng nghanol y cae ar adegau, roedd y gêm yn dal yn nwylo’r gwyrddion gyda lwc. Nid oedd Y Geltaidd yn edrych fel eu bod am dorri trwodd am beth amser oni bai am waedd am gic o’r smotyn cyn hanner amser wedi i’r asgellwr chwith, Dafydd Morgan, ddisgyn yn y cwrt cosbi. Ni welodd y dyfarnwr unrhyw falais yn y dacl, felly roedd Y Geltaidd ar ei hôl hi o 1-0.

Aeth pethau o chwith i’r Geltaidd pan loriwyd ymosodwr Bayern Diamonds yn y cwrt gan Ryan Murphy, a’r dyfarnwr yn pwyntio tuag at y smotyn. Fe ddyblwyd y sgôr gan achosi sialens aruthrol i ennill y gêm, er roedd dal amser i daro’n ôl. Daeth y glas-fyfyriwr, Rhodri Thomas, ar y cae er mwyn ychwanegu at yr agwedd ymosodol oedd Y Geltaidd yn ceisio’i greu. Ond ni ataliwyd Bayern rhag sgorio unwaith eto gan grebachu unrhyw lygedyn o obaith i’r Geltaidd. Achosodd Y Geltaidd fwy o drwbl i amddiffyn Bayern, ond yn anffoFe newidiwyd rhai o’r chwaraewyr Ni ddaru’r drydedd gôl stopio’r dus, fe sgoriodd y gleision y bedar gyfer yr ail hanner, gyda chyn- Geltaidd rhag roi cynnig arall arni. waredd gôl yn y munudau olaf i chwaraewr Average Anne, Ryan Arbedodd gôl-geidwad Bayern gloi'r gêm unwaith ac am byth. Murphy, yn cymryd lle Steffan Wil- yn wych yn erbyn cynnig Rho- Y sgôr terfynol oedd 4 i 1. Bydd liams yng nghefn yr amddiffyn. dri Thomas yn y bocs wedi croe- tîm Elgan Jones yn gallu canolbwsiad o’r dde gan Steffan Davies. yntio ymhellach ar ennill y gynBu bron i’r Geltaidd daro nôl wedi Yn y diwedd, fe wnaeth ymdrech ghrair a thwrnamaint 7 bob ochr i gynnig arbennig Steffan Davies o y Geltaidd ddwyn ffrwyth a sgo- chwaraeon rhyng-golegol unwaith bell fynd dros y traws a chreu pan- riodd Elgan Jones gôl adlam o gic eto'r tymor hwn, heb gystadleuaig i amddiffyn Bayern Diamonds. rydd Celt Iwan i’w gwneud yn 3-1. eth y Cwpan i amharu arnynt.


SEFYDLWYD 2012

wanwyn 2013

ABERYSTWYTH YN AD-ENNILL TLWS VARSITY

gan Llywelyn Williams

Aberystwyth 18-14 Bangor dus yng nghystadleuaeth y nofio o 129 pwynt i 98. Roedd y canlyniad yn dangos pa mor lwcus yw Prifysgol Aberystwyth o gael pwll nofio yn benodedig i ganolfan chwaraeon y Brifysgol o gymharu a’r pwll Aberystwyth a ddaeth i’r brig nofio cyhoeddus sydd ym Mangor. eleni gan guro’u gelynion pennaf, Llwyddodd y tîm criced dynion hePrifysgol Bangor, yng ngornest fyd i sicrhau buddugoliaeth swmVarsity (digwyddiad chwaraeon pus o 100-6 o rediadau mewn 10 blynyddol ar draws prifysgolion pelawd, gan ddal Bangor yn rhwysa cholegau Prydain). Sicrhaodd tredig gyda bowlio gwych gan Josh Aberystwyth fuddugoliaethau yn Tobin o Brifysgol Aber fore Sadwrn. y criced, y nofio, y saethyddiaeth a’r rygbi, yn ogystal â rhai gemau Nid oedd perfformiadau Aberystpêl-droed, pêl-fasged a lacrós er wyth yn fêl i gyd, fel y gwelwch mwyn dod â’r tlws yn ôl i’r Co- oddi wrth y canlyniadau agos. leg ger y Lli tan y flwyddyn nesaf. Ni lwyddodd tîm pêl-droed y dynEnillodd Aberystwyth yn gyfford- ion i roi eu tîm cryfaf yn erbyn

Bangor oherwydd bod gêm Gwpan Canolbarth Cymru yr un diwrnod. Yn sgil hynny, fe gollodd Aberystwyth o 2-0. Colli fu hanes tîm pêlfasged y dynion hefyd, o drwch blewyn gyda 3 phwynt yn unig rhyngddynt a Bangor. Ond profodd y merched i fod yn dipyn gwell na’r bechgyn yn y bêl-fasged gyda buddugoliaeth agos o 42-39 i Aber, a he buddugoliaeth swmpus o 3-0 yn y pêl-droed ym Mlaendolau. Y gemau eraill fu ar gaeau Blaendolau oedd Rygbi’r Gynghrair a Rygbi Undeb. Llwyddodd y timau rygbi i gyd, y dynion a’r merched, i sicrhau buddugoliaethau allweddol gyda thîm Rygbi’r Gyn-

ghrair y dynion yn hawlio buddugoliaeth o 52-4. Canlyniad rhagorol yn wir. Enillodd y merched yn gyfforddus o 20-7 gyda’r dynion yn ennill buddugoliaeth haeddiannol ar ôl sgôr agos a chystadleuol yn erbyn Bangor o 12-0. Profodd myfyrwyr Aberystwyth fod ganddynt gywirdeb miniocach na Bangor yn y saethyddiaeth. Enillodd Aber o 5-4. Bullseye yn wir! Roedd ysbryd ‘Tîm Aber’ yn fyw ac yn iach drwy’r dydd gan sicrhau’r fuddugoliaeth allweddol. Llongyfarchiadau Aberystwyth!

ABER YN CADW LLECHEN LÂN YN Y RYGBI gan Llywelyn Williams

Prifysgol Aberystwyth 12-0 Prifysgol Bangor Timau o Dde Cymru yw gwrthwynebwyr tîm rygbi dynion Aberystwyth fel arfer, ond cawsant gyfle i herio’r gogleddwyr o Fangor ar benwythnos Varsity ym Mlaendolau. Mae gelyniaeth y prifysgolion hyn yn dal i fod yr un mor gryf â gelyniaeth Prifysgol Abertawe a Chaerdydd a bu’n rhaid i Aber wneud eu marc gan i nifer o gemau Varsity y llynedd gael eu gohirio, ac yn enwedig gan mai Bangor gipiodd y fuddugoliaeth gyfangwbl.

Yr hyn a wnaeth y gêm yn gystadleuol a chyffrous oedd bod y ddau dîm cystal â’i gilydd o ran safon a chynghrair. Ond ar ddiwedd y dydd, roedd amddiffyn Aber yn rhagorol drwy gydol y gêm a dyna oedd yn gwahanu’r ddau dîm. Yn yr hanner cyntaf, roedd Aber yn cymryd eu cyfleodd yn well na Bangor ac roedd eu dull chwarae’n llawer mwy hyderus a phwerus na Bangor. Braf oedd gweld torf barchus yn ystod y gêm, a chafwyd digon o gefnogaeth gan weddill y chwaraewyr o ochr y cae. Roedd hyn yn rhoi hwb i hyder chwaraewyr Aber ac yn adlewyrchu bod rygbi yn un o brif ddigwyddiadau’r Varsity. Bu’r pac yn pwyso’n drwm ar amddiffyn Bangor ym munudau cyntaf y gêm. Gwelwyd talentau dis-

Llun: James Anderson

glair o fewn y garfan megis y capten, Matt Spicer, fel canolwr pwerus a chyflym, yr asgellwr, Will Lowe, yn achosi bylchau o fewn amddiffyn Bangor yn ogystal â’r blaenasgellwr, Colin Overend, yn cael gêm arbennig unwaith eto. Roedd 4 o chwaraewyr Y Geltaidd yn y garfan, yn cynnwys capten rygbi’r Geltaidd ac wythwr Clwb Rygbi Aberystwyth, Gwion Williams, a gafodd gêm lawn. O ganlyniad i bwyso cyson gan Aber, fe sgoriwyd y cais cyntaf gan ail reng Aberystwyth, Josh Delf a roddodd Aber yn haeddiannol ar y blaen. Methwyd y trosgais ond roedd Aber yn gyfforddus o ran meddiant ac amddiffyn.

Wrth gwrs, nid oedd 5 pwynt yn ddigon i Aber cyn yr hanner cyntaf, ac roedd ganddynt yr awch i sgorio mwy. Bu’r asgellwyr Will Lowe ac Andrew Kingswell yn rhedeg trwy’r bylchau er mwyn creu’r cyfleoedd, gydag Illtud Dafydd yn ychwanegu mwy o bwysau ar Fangor gyda’i giciau hir am yr ystlys. Er yr holl ymdrech cyn yr ail hanner, ni lwyddodd Aber i dorri trwodd ac roedd amddiffyn Bangor yn gwrthwynebu’n gadarn yn eu herbyn a’i gwnaeth yn hanner rhwystredig i’r cochion. Ond, wedi rhediadau bygythiol y canolwr

Matt Spicer, croesodd y blaenasgellwr, Colin Overend, y llinell gais heb unrhyw chwaraewr o Fangor yn agos ato. Roedd Aber yn haeddiannol ar y blaen o12-0 ond achosodd y garden felen a dderbyniodd Gwion Jones ym munudau olaf yr hanner cyntaf gryn boendod. Llwyddodd Aberystwyth i gadw pac cadarn yn erbyn Bangor, serch hyn, ac nid amharodd hyn yn orodol ar y gêm. Roedd yr ail hanner yn fwy tyn o ran y chwarae ac roedd Bangor fel petaent wedi gwella’u hamddiffyn. Er bod pac Aber wedi blino, ni chrewyd

unrhyw fylchau i Fangor gan i Aber amddiffyn yn wych ar adegau hanfodol y gêm. Roedd y munudau olaf yn eithaf cyffrous gyda Bangor ar bigau drain eisiau cael ambell bwynt. Bygythiad pennaf Bangor oedd y canolwr, Ben Stelmastek, sydd hefyd yn chwarae i dîm cyntaf RGC. Ond llwyddodd Aberystwyth i atal Bangor rhag sgorio gan sicrhau buddugoliaeth o 12-0. Cafwyd perfformiad calonogol gan y naill ochr, ond roedd cyfleoedd ac amddiffyn Aberystwyth yn drech yn y diwedd.

15


AR NOSON OER YN ABERAERON... gan Llywelyn Williams

Clwb Rygbi Aberaeron 0-14 Rygbi’r Geltaidd Cafwyd buddugoliaeth gyntaf Y Geltaidd o’r diwedd ar noson oer iawn yn Aberaeron ar yr 21ain o Chwefror. Llwyddwyd hefyd i gadw llechen lân oddi cartref yn erbyn y tîm 1af sydd yng nghynghrair Adran 4 Gorllewin SWALEC. Camp a hanner i feddwl mai megis dechrau asio fel tîm y mae’r Geltaidd ers eu gêm ddiwethaf fis Tachwedd. Ym munudau cyntaf y gêm, yn anffodus, bu’n rhaid i’r prop, Ianto Phillips, ddod oddi ar y cae ar ôl dioddef ergyd i’w ben. Daethpwyd â’r blaenasgellwr o’r flwyddyn gyntaf, Guto Jones, ar y cae a chafodd gêm ardderchog y noson honno, gyda’i daclo cadarn yn atal momentwm pac cryf Aberaeron. Roedd taclo o gwmpas y sgarmes yn hynod o bwysig i’r Geltaidd gan mai dyna ble’r oedd cryfder Aberaeron, a bu dyfalbarhad blaenasgellwyr megis Guto Jones, Iestyn Jones a Llŷr Morris i wrthrycio a rhyng-gipio’r bêl o’r dacl yn allweddol. Roedd yr hanner awr cyntaf yn her i’r Geltaidd. Bu cyfnodau eithaf hir o amddiffyn, ond gyda waith

caled y taclwyr, ni achosodd Aberaeron unrhyw fylchau na bygythiad yn yr hanner cyntaf. Y Geltaidd fu’n dominyddu’r llinell, gyda Gwion Jones a Ben Davies yn rhyng-gipio peli Aberaeron o’r llinell, ond roedd Aberaeron yn gryfach yn y sgarmes.

Rhyng-gipiodd Ian Ellis y bêl gan Aberaeron ac edrychai fel ei fod am sgorio cais yn hawdd, ond chwythodd y dyfarnwr ei chwiban oherwydd camsefyll gan Y Geltaidd. Wrth i’r hanner cyntaf ddod i derfyn, cafwyd lwc o’r diwedd gan i Ian Ellis rynggipio’r bêl unwaith eto, heb unrhyw gamsefyll y tro hwn, a chroesi’r llinell gais. Trosodd Ian Ellis y trosgais gan roi’r Geltaidd ar y blaen o 7 pwynt i 0. Yn yr ail hanner, profodd y gêm i fod yn un gorfforol unwaith eto, gyda blaenwyr Aberaeron yn ceisio torri trwy’r amddiffyn dro ar ôl tro. Bu bron i Aberaeron sgorio ar ôl cwpl o rediadau pwerus gan y blaenwyr. Tarodd un o flaenwyr Aberaeron y bêl ymlaen o drwch blewyn i’r llinell

gais a byddai wedi cael y cais oni bai am amddiffyn rhagorol yr asgellwr o Gaerfyrddin, Gareth Spiers. Buan y cafodd Y Geltaidd gais arall o’u plaid. Daliodd Ben Davies y bêl a charlamu’n igam ogam o gwmpas chwaraewyr Aberaeron yn ddigyffwrdd i groesi’r llinell gais. Golygodd trosgais arall gan Ian Ellis fod Y Geltaidd yn dyblu’r sgôr i 14-0. Byddai’r gêm wedi bod dipyn agosach pe na bai amddiffyn gwych gan yr asgellwyr, Gwion Emlyn a Gareth Spiers, yn y gornel bellaf wedi atal unrhyw bwyntiau i Aberaeron.

Y sgôr terfynol felly oedd Aberaeron 0-14 Y Geltaidd. Bydd y capten, Gwion Dafydd Jones yn falch iawn o’i dîm am yr ymdrech o dan amodau rhewllyd iawn.

GWANWYN I DÎM CYMRU?

gan Iolo Cheung

Diolch unwaith eto i ddoniau Gareth Bale, cafwyd buddugoliaeth arall i Gymru yn eu gêm gyfeillgar ddiweddar yn erbyn Awstria. Ar ôl ei gampwaith yn erbyn yr Alban ym mis Hydref, pan sgoriodd ddwy gan gynnwys y gôl wych honno i ennill y gêm yn y munudau olaf, roedd y gobeithion yn uchel ymysg cefnogwyr Cymru y gallai ailadrodd y perfformiad hwnnw. Ac ni wnaeth ein siomi, gyda pherfformiad disglair arall, gan gynnwys sgorio'r gôl agoriadol mewn buddugoliaeth o ddwy gôl i un yn Stadiwm y Liberty.

ymosodol Cymru ostwng yn sylweddol unwaith i Bale a Bellamy adael y cae, ond erbyn hynny roedd y canlyniad yn saff, a hynny'n erbyn tîm yn cynnwys digonedd o chwaraewyr dawnus, gyda nifer gan gynnwys David Alaba yn chwarae i glybiau mawr y Bundesliga.

Braidd yn siomedig unwaith eto, fodd bynnag, oedd maint y dyrfa yn Abertawe. Dim ond rhyw 8000 o gefnogwyr oedd yno, yn llenwi llai na hanner y stadiwm. Roedd hynny’n effeithio ar yr awyrgylch, gyda'r dyrfa'n llawer llai Braf hefyd oedd clywed cyn y gêm parod i ymuno yn y canu o gymy byddai Craig Bellamy yn chwarae, haru â'r gefnogaeth swnllyd a geir ar ôl amheuon ynglŷn â'i ddyfodol yn y Canton End yng Nghaerdyrhyngwladol yn yr hydref yn di- dd. Gallwn ond gobeithio y bydd lyn anafiadau. Ond cafodd yntau hi'n stori wahanol yng ngêm gysberfformiad da, gan achosi prob- tadleuol nesaf Cymru yn y Liblemau i amddiffyn Awstria gyda'i erty, sef yn erbyn Croatia fis yma. symudiadau deallus. Yn ogystal â hyn, cafwyd cyfraniad gwerthfawr Cynhelir dwy gêm rhagbrofol ddigan Sam Vokes a sgoriodd ail gôl wedd y mis. Yn gyntaf, bydd y Cymru gyda pheniad campus. Does crysau cochion yn teithio fyny i dim dwywaith y bu i fygythiad Glasgow, i herio'r Alban unwaith

yn rhagor. Os bydd Cymru’n ddigon ffodus i osgoi unrhyw anafiadau i'r chwaraewyr mwyaf pwysig, yna bydd siawns dda o fuddugoliaeth, yn enwedig o ystyried llwyddiant Cymru yn erbyn y gwrthwynebwyr yn ddiweddar. Yn dilyn y gêm yn erbyn yr Alban, bydd Cymru’n herio Croatia yn Abertawe, ac er i

Gymru golli yn eu herbyn y tro diwethaf, gyda chwaraewyr disglair fel Joe Allen, Aaron Ramsey ac Ashley Williams, a’r fantais o chwarae adref, bydd y disgwyliadau’n uchel er mwyn cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd Brasil, 2014.

CYFRANNWCH AT YR HERIWR TŶ AR OSOD Er mwyn i’r fenter hon fod yn llwyddiant, rydym yn ddibynnol ar noddwyr a chyfraniadau gan ein darllenwyr.

16

I gyfrannu at ddyfodol Yr Heriwr, e-bostiwch:

yrheriwr@gmail.com

Ystafelloedd mewn tŷ ar gyrion Bangor. Delfrydol i fyfyrwyr Ymarfer Dysgu. Hyblygrwydd - tenantiaeth wythnosol neu fisol ar gael yn ôl yr angen. Telerau cystadleuol tu hwnt. Rhannu gyda dau berson proffesiynol. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Llyr ar 07948848015 neu ebostiwch taicymry@hotmail.co.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.